Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r cyngor ar gyfer teithwyr sy'n dychwelyd o wledydd eraill wedi'i ddiweddaru yn sgil y cynnydd yn nifer yr achosion o coronafeirws newydd mewn sawl gwlad, gan gynnwys yr Eidal. Ni ddylai unrhyw un y mae’r newid hwn yn effeithio arno fynd i’w meddygfa nac i adrannau brys mewn ysbytai. Yn hytrach, dylent ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47, neu 111 Cymru os yw ar gael yn eu hardal. Mae ein gwasanaethau yn barod i ddelio â’r cynnydd a ddisgwylir mewn galwadau ac mae’r timau sy’n cynnal profion yn y gymuned ar gael i ymateb os oes angen.

Cymedrol yw’r risg yn y DU o hyd, a hyd yma ni welwyd unrhyw achos o’r coronafeirws newydd yn cael ei gludo i Gymru. Rydym eisoes wedi darparu gwasanaeth asesu a phrofi i fwy na 200 o unigolion, ac roedd canlyniad pob un yn negyddol. Erbyn hyn mae’r ffigurau profi ar gyfer Cymru yn cael eu cyhoeddi bob wythnos gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn y cyfnod darganfod yr ydym o hyd ac mae’n debygol iawn y cawn achosion yng Nghymru. Rydym yn cydweithio’n agos â’r GIG a Gofal Gymdeithasol i sicrhau, os bydd y sefyllfa'n newid ac y gwelwn bod y coronafeirws yn lledaenu yn y gymuned, bod ein gwasanaethau yn barod i ymateb yn gyflym.

Gall pobl helpu i leihau’r siawns o ledaenu unrhyw feirws anadlol. Y cyngor yw ei ddal, ei roi yn y bin, ei ladd a golchi’ch dwylo.

Byddaf yn parhau i roi diweddariad ysgrifenedig i Aelodau’r Cynulliad bob dydd Mawrth, ac yn amlach os oes angen.