Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddwyd gwybodaeth gynllunio Operation Yellowhammer Llywodraeth y DU yn ddiweddar wedi i’r Senedd weithredu i orfodi'r Llywodraeth i rannu'r wybodaeth honno gyda'r cyhoedd. Mae'n anffodus y bu’n rhaid gorfodi Llywodraeth y DU i rannu'r wybodaeth hon. Mae'r rhagdybiaethau yn pwysleisio ac yn cadarnhau'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddweud ers misoedd am enbydrwydd yr heriau y byddai Brexit heb gytundeb - sy'n rhywbeth y mae’r DU wedi’i dynnu ar ei phen ei hun - yn eu cyflwyno i Gymru.

Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i wrthod ymadawiad â'r UE heb gytundeb, er gwaethaf y ffaith ei bod yn ymddangos bod y Prif Weinidog yn benderfynol o gadw hynny'n bosibilrwydd gwirioneddol ar hyn o bryd. Mae hynny'n rhannol oherwydd nad wedi cael unrhyw sicrwydd bod y Prif Weinidog yn bwriadu cadw at y gyfraith o ran gofyn am estyniad, a'n rhannol oherwydd pe bai yn mynd ati i wneud hynny, ni allwn fod yn sicr y bydd 27 gwlad yr Undeb Ewropeaidd yn cytuno'n unfrydol i gais o'r fath. 

Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid, gan gynnwys llywodraeth leol a'r GIG, ar ein paratoadau ein hunain ar gyfer Brexit, ac rydym wedi buddsoddi symiau sylweddol drwy ein Cronfa Bontio'r UE. Fodd bynnag, ni fydd unrhyw lefel o gynllunio a pharatoi, gennym ni na Llywodraeth y DU, yn medru rhoi sylw digonol i'r tarfu ar y raddfa y byddai ymadael heb gytundeb yn ei olygu i bobl Cymru.

Cyhyd ag y bo'r bygythiad o ymadael â'r UE heb gytundeb yn ein hwynebu, mae'n bwysig ein bod yn ystyried ar frys yr hyn y byddai ymadael â'r UE heb gytundeb yn ei olygu i ni ac i gymryd unrhyw gamau priodol yn ôl yr angen.

Mae cyngor ynghylch amrywiol faterion yn ymwneud â Brexit wedi'i gyhoeddi ac ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru https://llyw.cymru/paratoi-cymru. Byddwn yn rhyddhau rhagor o wybodaeth dros yr wythnosau nesaf i helpu pobl i baratoi ar gyfer yr hyn y mae'n rhagdybiaethau cynllunio ni, a rhai Llywodraeth y DU ei hun, yn awgrymu allai fod yn gyfnod anodd iawn o'n blaenau.