Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Rwyf heddiw wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar Brexit a'n Moroedd. Dyma ddechrau'r sgwrs rwyf am ei chael am ddyfodol ein moroedd wrth i'r DU baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwyf am glywed eich barn, eich syniadau a'ch dyheadau ar gyfer ein moroedd, er mwyn ein helpu i lunio'n polisi pysgodfeydd at y dyfodol.

https://llyw.cymru/polisiau-morol-physgodfeydd-ar-gyfer-cymru-ar-ol-brexit

Mae pobl yn teimlo'n gryf am ein moroedd. Mae tros 60% ohonon ni'n byw ger ein harfordir a llawer mwy ohonon ni'n teimlo bod gennym berthynas agos â'r môr. Mae'n harfordir a'n moroedd yn asedau naturiol anhygoel sy'n cyfrannu at ein llesiant. Maent hefyd yn dod â miliynau o bunnoedd i economi Cymru, yn cynnal miloedd o swyddi ac yn rhoi inni dreftadaeth a diwylliant cyfoethog.

Bydd heriau a chyfleoedd yn dod yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd a rhaid inni fod yn ymwybodol ohonyn nhw. Mae'r cyfle hwn i bennu'n polisïau ein hunain yn eiliad bwysig yn hanes yr amgylchedd morol a'r diwydiant pysgota yng Nghymru. Nawr yw'r amser i bwyso a mesur ac ystyried beth rydyn ni'n ei wneud yn dda a beth sydd angen ei wella a'i arloesi. Rwyf am ddefnyddio'r cyfle i ddatblygu polisi pysgodfeydd fydd yn ateb y diben gan ddiwallu anghenion cenedlaethau heddiw ac yfory yng Nghymru ar ôl Brexit.

Mae'n amlwg, o'r holl sgyrsiau rwyf wedi'u cael am Brexit, fod llawer iawn o bobl yn poeni am ei effaith ar ein hamgylchedd morol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i:

  • egwyddorion a ffyrdd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'u hymgorffori yng Nghynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru. 
  • parhau i weithredu Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 a'r Cyfarwyddebau Natur er mwyn gwella bioamrywiaeth a  gweithio i gryfhau ecosystemau.   
  • parhau i sicrhau, pan fo hynny'n briodol, bod safonau amgylcheddol yn cael eu cynnal a'u gorfodi yn nyfroedd Cymru a bod y fframwaith cyffredinol yn y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (PPC) yn parhau am y tro.
  • buddsoddi mewn systemau newydd, staff newydd a chychod newydd er mwyn gorfodi safonau ac erlyn y rheini nad ydynt yn cydymffurfio â'r gofynion.

Caiff yr ymrwymiadau hyn a deddfwriaeth yr UE eu cadw yn Neddf Gadael yr UE gan sicrhau sefydlogrwydd a dilyniant yn y ffordd rydyn ni'n gofalu am ein hamgylchedd morol.

Fodd bynnag, bydd gadael yr UE yn cael effaith arwyddocaol ar y diwydiant pysgota. 

Mae'r rhan fwyaf o'r diwydiant yng Nghymru'n glanio pysgod cregyn ac mae dros 90% o'r rheini'n mynd i Ewrop neu i farchnadoedd eraill trwy gytundebau masnachu Ewropeaidd. Os byddwn yn gadael yr UE heb fynediad dirwystr at farchnadoedd Ewrop neu â rhwystrau di-dariff, bydd hynny'n broblem fawr i'r diwydiant yng Nghymru. Er ein bod wedi gwneud popeth yn ein gallu i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, rydyn ni'n falch o'r estyniad i Erthygl 50 - mae'n hanfodol osgoi'r effeithiau negyddol ar y diwydiant pysgota a ddaw yn sgil gadael heb gytundeb.

Mae pysgodfeydd Ewrop yn cael eu rheoli gan y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (PPC). Mae gadael yr UE, ac felly'r PPC, yn gyfle inni deilwra'n polisïau fel eu bod yn diwallu anghenion Cymru. Mae diwydiant pysgota yng Nghymru yn wahanol i'r diwydiant yn rhannau eraill y DU. Er y bydd llawer o'r un heriau’n ein hwynebu, bydd rhai ohonynt yn wahanol. Mae datganoli ac ymadael â'r UE yn gyfle inni ddatblygu a chreu system a fydd yn gweithio i Gymru.

Yr ymgynghoriad hwn yw cam cyntaf y broses o greu polisi newydd a chyfundrefn reoli addas i’r diben a fydd yn cael eu hategu gan sylfaen ddeddfwriaethol briodol er mwyn sicrhau bod amgylchedd morol Cymru a fflydoedd pysgota yn gallu ffynnu mewn byd ar ôl yr UE. Mae'n trafodaethau helaeth â'n rhanddeiliaid dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi dylanwadu ar drywydd y sgwrs ac rwy'n disgwyl i'r ddeialog honno ddwysau wrth i natur Brexit ddod yn gliriach ac inni ddatblygu'n polisïau.

Mae'n dda gennyf fedru gofyn eich barn am faterion sy'n rhai pwysig iawn i bobl Cymru ac i'n cymunedau arfordirol, yn benodol, wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Rwy'n disgwyl ymlaen at weld eich ymatebion.