Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, byddaf yn cyhoeddi fersiwn ddiweddaraf ein diweddariadau ar raglen frechu COVID-19.
Mae’n bleser gennyf weld bod cynifer o bobl yn cymryd ein cyngor ac yn dod ymlaen i gael eu dosau cyntaf a’u hail ddosau; mae’r rhain yn ddosau hanfodol ac yn eich galluogi i gael pigiad atgyfnerthu. Ym mis Ionawr, cafodd mwy na 20,000 o bobl eu dos cyntaf a chafodd mwy na 65,000 o bobl eu hail ddos. Os ydych chi wedi aros i gael eich brechlyn, dyma’r amser i’w gael. Mae byrddau iechyd yn barod amdanoch ac yn cynnig sesiynau galw i mewn ar draws Cymru ar gyfer pob dos o’r brechlyn COVID-19. Mae manylion cyswllt ar gyfer byrddau iechyd yma a gwybodaeth ar eu cyfryngau cymdeithasol. Gall ein timau brechu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y brechlyn a’ch cefnogi i gael eich brechu.
Mae plant 5 i 11 oed sy’n byw ar yr un aelwyd â rhywun â system imiwnedd gwan yn gymwys i gael y brechlyn, a bydd angen llenwi ffurflen i roi gwybod i fyrddau iechyd bod angen apwyntiad arnynt. Mae’r ffurflen ar gael yma. Bydd plant 5-11 oed sydd mewn grŵp y mae mwy o berygl iddynt o ganlyniad i COVID yn cael apwyntiad yn awtomatig.
Mae gwaith caled pawb yng Nghymru a llwyddiant y rhaglen frechu wedi golygu ei bod yn bosibl inni lacio’r cyfyngiadau a symud i lefel rhybudd 0. Mae’r brechlyn yn parhau i fod yn amddiffyniad pwysig iawn yn ein hymdrech i reoli’r coronafeirws a Diogelu Cymru.