Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ar draws pob agwedd o fywyd cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal unigolion rhag cymryd rhan weithredol mewn democratiaeth leol.

Ym mis Gorffennaf, rhoddais ddiweddariad i aelodau am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â cham dau ein rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth. Fel rhan o’r diweddariad hwnnw, fe wnes i gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal rhaglen ymchwil i ganfod mwy am swyddogaeth a phrofiadau cynghorwyr yng Nghymru ar lefel prif gynghorau, a chynghorau cymuned a thref. Bydd y canfyddiadau o’r astudiaethau hyn yn hysbysu camau nesaf ein gwaith parhaus i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag cymryd rhan weithredol mewn democratiaeth leol.

Yn 2019, fe wnaeth y Rhaglen Gwerthusiad o Amrywiaeth mewn Democratiaeth dynnu sylw at y diffyg dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd am swyddogaeth cynghorwyr a’r cyfraniad pwysig y maent yn ei wneud ar ran cymunedau. Gan adeiladu ar y gwerthusiad hwnnw, rydyn ni wedi cynnal adolygiad tystiolaeth o sut y mae tâl cynghorwyr yng Nghymru yn cymharu â gwledydd eraill, yn ogystal ag arolwg o agweddau cyhoeddus.

Mae elfen derfynol yr ymchwil hon wedi cynnwys cynnal arolwg ar-lein o gynghorwyr yng Nghymru. Cafwyd mwy na 1,600 o ymatebion gan gynghorwyr o brif gynghorau a chynghorau cymuned a thref, ac mae llu o wybodaeth wedi’i chasglu ar destunau fel dylanwad cynghorwyr, llwyth gwaith, cydnabyddiaeth tâl, ac ymddygiad ac agweddau tuag at gynghorwyr. Cyhoeddwyd canfyddiadau’r arolwg heddiw.

Yn ystod mis Rhagfyr byddaf yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau a fydd yn dod â chanlyniadau’r ymchwil hon ynghyd drwy nifer o drafodaethau gweithdy. Bydd yr unigolion sy'n bresennol, gan gynnwys cynghorwyr a phartneriaid allweddol yn cael cyfle i edrych ar yr ystod lawn o destunau sydd wedi’u cynnwys yn yr ymchwil, trafod meysydd pryder allweddol, a chanfod camau gweithredu i fynd i’r afael â’r materion ymhellach, gan ystyried materion allweddol sy’n deillio o’r ymchwil a nodi ffyrdd o fynd i’r afael â’r materion hynny.

Rwy’n gwybod bod y meysydd sy’n cael eu harchwilio yn yr ymchwil hon o ddiddordeb ehangach a hoffwn wneud yn siŵr y gall aelodau helpu i siapio’r blaenraglen waith yn y maes hwn. Rwy’n bwriadu cynnal sesiwn ‘alw heibio’ i aelodau drafod canlyniadau’r arolwg mewn rhagor o fanylder gyda swyddogion sy’n gweithio ar y rhaglen amrywiaeth mewn democratiaeth. Bydd y sesiwn hefyd yn rhoi cyfle i aelodau rannu gwybodaeth am yr heriau sy’n eu hwynebu fel aelodau etholedig a barn ynghylch sut y gellir mynd i’r afael â’r materion sy’n deillio o’r ymchwil.  

Bydd rhagor o wybodaeth am y sesiwn ‘alw heibio’ ar gael pan fydd dyddiad wedi’i bennu.