Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ymddangosiad yr amrywiad newydd hwn yn ddatblygiad difrifol yn y pandemig parhaus. Rydym eisoes wedi cymryd camau cyflym ar deithio rhyngwladol, ochr yn ochr â llywodraethau eraill y DU.

Rydym nawr yn cyflwyno mesur ychwanegol, tra ein bod ni yn dod i ddeall mwy am y straen newydd hwn. Dylai holl staff a dysgwyr yn ein hysgolion uwchradd, colegau a phrifysgolion nawr wisgo gorchuddion wyneb dan do lle nad oes modd cynnal pellter corfforol. Mae nifer o leoliadau eisoes yn gweithredu ar y sail hwn, wedi llywio gan eu hasesiadau risg, ond bydd hwn nawr drefniant cenedlaethol. Mesur rhagofalus dros dro yw hwn a fydd ar waith ar gyfer yr wythnosau o’r tymor sy'n weddill ac ar yr adeg honno bydd y sefyllfa'n cael ei hadolygu. Dylai hyn ddod i rym ym mhob lleoliad cyn gynted â phosibl.

Ochr yn ochr â'r dull cenedlaethol hwn o ddefnydd o orchuddion wyneb, bydd pob lleoliad addysg yn parhau i weithredu gyda'r Fframwaith Penderfyniadau Rheoli Heintiau Lleol a'r pecyn cymorth sy'n caniatáu iddynt gymryd mesurau sy'n gweddu orau i'w hamgylchiadau lleol.

Blaenoriaeth Llywodraeth Cymru trwy gydol y pandemig yw cynyddu dysgu i'r eithaf a lleihau'r tarfu i'n pobl ifanc. Gyda thair wythnos ar ôl o'r tymor, mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau y gall dysgu barhau i gynifer o ddysgwyr â phosibl.

Mae dal i fod llawer nad ydym yn ei wybod am yr amrywiolyn hwn. Gyda'r lefel uchel hon o ansicrwydd, mae'n iawn ein bod yn parhau i fod yn wyliadwrus wrth flaenoriaethu parhad addysg. Mae'n atgyfnerthu'r angen i bawb yng Nghymru gael eu brechlyn neu hwblyn pan gânt eu cynnig, gwisgo gorchuddion wyneb pan fo angen, a threfnu prawf os ydyn nhw'n datblygu symptomau.

Fel sydd wedi digwydd yn aml yn ystod y pandemig, bu rhaid gwneud penderfyniadau Gweinidog ar gyflymder. Byddaf yn ysgrifennu at ysgolion, colegau a phrifysgolion yfory i egluro’r canllawiau newydd.

Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa ac annog unrhyw un sy'n gymwys i dderbyn y cynnig o frechu i wneud hynny. Heddiw, cyhoeddodd y JCVI eu cyngor diweddaraf ac, yn unol â chenhedloedd eraill y DU, byddwn yn dechrau rhoi’r cyngor hwn ar waith mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl. Dylai staff a dysgwyr uwchradd hefyd wneud defnydd llawn o'r cynnig o brofion LFT a dilyn y cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf.