Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, rwy’n cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar gyfer 2020-21.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y gwyliau er mwyn rhoi gwybod i’r Aelodau am gasgliadau’r ymchwil. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.
Ers 2013-14, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i amddiffyn aelwydydd incwm isel ac agored i niwed ledled Cymru, drwy gynnal eu hawliau llawn i gael cymorth gyda’u biliau treth gyngor o dan ein Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.
Fe wnaethom barhau i gefnogi’r cynllun drwy ddarparu £244m yn y setliad llywodraeth leol blynyddol. Mae’r ffaith bod ein cynllun cenedlaethol yn teilwra cymorth yn golygu bod y cymorth hwnnw’n canolbwyntio ar y rheini sydd â’r angen mwyaf.
Yn 2020-21, roedd hynny wedi golygu bod dros 283,000 o aelwydydd incwm isel ac agored i niwed – oddeutu un ym mhob pump – wedi elwa o gael gostyngiad yn eu biliau treth gyngor. O’r rhain, nid oedd angen i oddeutu 226,000 dalu unrhyw dreth gyngor o gwbl.
Yn ystod y flwyddyn ariannol o fis Ebrill i fis Mawrth 2021, fe wnaethom roi £11 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol i gefnogi Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Roedd hyn yn cynnwys cynnydd yn y dyraniadau yn sgil y ceisiadau i’r cynllun o ganlyniad i’r pandemig COVID-19. Rydym yn parhau i fonitro’r heriau sy’n codi yn sgil effeithiau tymor hirach y pandemig ar aelwydydd incwm isel ac agored i niwed ac ar awdurdodau lleol.
Fel bob amser, ac yn enwedig yn yr amgylchiadau ansicr a heriol presennol, byddwn yn annog pawb i edrych ar ein gwefan i weld a oes ganddynt hawl i gael help gyda'u bil treth gyngor o dan ein cynllun lleihau, neu un o'r gostyngiadau eraill sydd ar gael.
Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn disgrifio ein hymrwymiad i ddiwygio’r dreth gyngor er mwyn ei gwneud yn decach i bawb. Rydym wedi dechrau ystyried yr opsiynau o ran sut y gallwn gyflawni hyn, gan adeiladu ar ein gwaith yn ystod pumed tymor y Senedd. Ym mis Chwefror, fe wnaethom gyhoeddi Crynodeb o’r Canfyddiadau sy’n tynnu ynghyd y gwaith manwl a wnaed i archwilio’r newidiadau y gellid eu gwneud i’r dreth gyngor ac ardrethi annomestig, a’r system cyllid llywodraeth leol yn ehangach.
Rwy’n ddiolchgar am gymorth parhaus yr awdurdodau lleol i weithredu Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, gan helpu i sicrhau bod y gefnogaeth ariannol bwysig hon yn cyrraedd cartrefi cymwys. Rwy’n parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod camau pellach yn cael eu cymryd i liniaru’r effeithiau ar bobl sy’n codi oherwydd diwygiadau lles Llywodraeth y DU.