Neidio i'r prif gynnwy

Daw'r data o wybodaeth reoli ac mae’n bosibl y gallent newid. Nid ydynt wedi bod yn destun yr un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Rydym yn cyhoeddi’r data hyn i ddarparu crynodeb wythnosol o’r gweithgarwch profi yng Nghymru, gan gynnwys profion ar weithwyr hanfodol, preswylwyr ac amseroldeb y profion. Mae’r ddogfen ystadegol hon yn datblygu’n barhaus ac rydym yn gwerthfawrogi cael adborth er mwyn gwella ei gynnwys .

Mae tablau cysylltiedig â’r ddogfen hon i’w cael ar wahân, gan gynnwys yr holl ddata a ddangosir yn y ddogfen hon a data hanesyddol.

1. Ffigurau penawdau cenedlaethol

Prif ganlyniadau

  • Roedd y gallu i brofi yn labordai GIG Cymru yn 15,157 ar 2 Awst 2020. Nid yw hyn yn cynnwys y gallu i brofi yn labordai’r DU lle mae samplau rhai preswylwyr o Gymru’n cael eu prosesu.
  • Am 1yp ar 2 Awst 2020, roedd 405,449 o brofion wedi’u hawdurdodi ar gyfer preswylwyr Cymru.
  • Cynhaliwyd cyfanswm o 250,304 o brofion ar weithwyr hanfodol a phreswylwyr yng Nghymru.
  • Ar gyfer samplau a broseswyd yn labordai GIG Cymru yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, dychwelwyd 51.3% o'r profion a awdurdodwyd mewn unedau profi cymunedol mewn dau ddiwrnod o gymharu ag 86.3% mewn canolfannau profi rhanbarthol a 96.7% mewn ysbytai/ lleoliadau anhysbys.
  • Ar gyfer samplau a broseswyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, dychwelwyd 84.4% o brofion a archebwyd gan gartrefi gofal trwy'r porth cartref gofal o fewn dau ddiwrnod o'i gymharu ag 88.6% o'r profion cartref a awdurdodwyd o fewn dau ddiwrnod a 99.1% mewn canolfannau profi rhanbarthol.
  • Erbyn diwedd 2 Awst 2020, mae 63,440 o brofion gwrthgyrff wedi'u hawdurdodi ar gyfer trigolion Cymru a’u prosesu drwy labordai GIG Cymru gyda 6,601 o ganlyniadau positif.

Ar hyn o bryd, grwpiau â blaenoriaeth yn unig sy’n medru cael profion gwrthgyrff gydag esboniad pellach ar ein tudalennau polisi: profion gwrthgyrff: coronafeirws (COVID-19)

Image
Siart cyfanswm y profion a awdurdodwyd ar ddiwedd 2 Awst 2020. Mae nifer y profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru wedi bod ar gynnydd ers canol mis Mai tan ddechrau mis Mehefin lle bu cynnydd bach.

Cyfanswm y profion a awdurdodwyd ar ddiwedd 2 Awst 2020 (MS Excel)

Mae'r data ar gyfer 2 Awst yn cynnwys canlyniadau a awdurdodwyd hyd at 1yp yn unig.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cwblhau eu gwaith i ddwyn ynghyd y profion sydd wedi'u hawdurdodi mewn labordai y tu allan i GIG Cymru (Labordai Goleudy) a’r profion sydd wedi’u prosesu yn labordai GIG Cymru. Mae Siart 1 yn dangos nifer y profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru ac mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru.

  • Roedd nifer y profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru wedi bod ar gynnydd tan ddechrau mis Mehefin. Gwelwyd cwymp bach ac yna fe wnaeth y lefelau wastatáu yn gyffredinol.
  • Y nifer mwyaf o brofion a awdurdodwyd mewn un diwrnod calendr oedd ar 25 Gorffennaf, pan awdurdodwyd 7,609 o brofion yn labordai GIG Cymru a labordai heblaw am rai GIG Cymru.
  • Mae’r ffigurau hyn yn cynnwys profion a broseswyd mewn labordai y tu allan i GIG Cymru, sy’n cynnwys samplau preswylwyr o Gymru a gymerwyd mewn canolfannau profi yn Lloegr, rhai canolfannau profi yng Nghymru, profion a archebir trwy'r porth cartref gofal a phecynnau profi gartref.
  • Proseswyd y sampl cyntaf mewn labordy nad yw’n labordy GIG Cymru ar gyfer preswylydd o Gymru ar 24 Ebrill. Cynyddodd nifer y profion ar ôl cyflwyno profion cartref ar 18 Mai.
  • Dechreuodd y profion a broseswyd trwy labordai heblaw rhai GIG Cymru gynyddu tua diwedd mis Mehefin. Mae hyn yn bennaf oherwydd i drigolion Cymru ddechrau archebu profion trwy'r porth cartref gofal sydd newydd ddod ar gael.

2. Amseroedd dychwelyd

Mae’r ffigurau a ddangosir yn mesur o ddyddiad cofnodi casglu’r sampl i’r amser y bydd y canlyniad yn cael ei awdurdodi. Nid yw’n dangos pa mor hir y mae’n ei gymryd i unigolyn gael y canlyniad ar ôl cymryd y prawf.

Rhennir data ar yr amser a gymerir i dderbyn canlyniad prawf COVID-19 yn ôl y gwahanol ddulliau profi, gan y bydd hyn yn cael effaith ar yr amser a gymerir i brosesu’r prawf. Mae angen i brofion cartref gael eu postio a’u cludo i’r labordy. Efallai y bydd cartrefi gofal yn cwblhau nifer o brofion ar draws gwahanol shifftiau cyn dychwelyd y profion drwy wasanaeth cludwr. Gall y dulliau hyn effeithio ar amser dychwelyd y prawf. Mae profion cartrefi gofal a broseswyd gan labordai GIG Cymru wedi’u cynnwys yn y ffigurau ar gyfer y ganolfan profi torfol a’r uned profi cymunedol.

Ein bwriad yn awr yw adrodd ar yr holl brofion a gynhaliwyd mewn cartrefi gofal, a hynny ar wahân i’r ffigurau ar gyfer y ganolfan profi torfol a’r uned profi cymunedol, yn natganiad yr wythnos nesaf (12 Awst).

Yn flaenorol, byddai’r rhan fwyaf o’r samplau a gasglwyd mewn canolfannau profi rhanbarthol yn cael eu prosesu yn  labordai GIG Cymru, fodd bynnag, mae nifer o’r canolfannau hyn bellach yn defnyddio labordai heblaw rhai GIG Cymru (sy’n cael eu galw’n labordai goleudy). 

Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach yn ein hesboniad data: Deall data ar brofion coronafeirws (COVID-19).

Image
Siart cyfran o’r profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru o fewn un, dau a thri diwrnod erbyn diwedd 2 Awst 2020. O'r holl brofion a awdurdodwyd o labordai GIG Cymru dychwelodd 67% o fewn dau ddiwrnod mewn unedau profi cymunedol o gymharu â 97% mewn ysbytai.

Cyfran o’r profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru o fewn un, dau a thri diwrnod erbyn diwedd 2 Awst 2020 (MS Excel)

Ers dechrau profi hyd at ddiwedd y dydd ar 2 Awst 2020:

  • Awdurdodwyd 127,509 o brofion mewn unedau brofi gymunedol, gyda 39% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod ac  67% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod.
  • Awdurdodwyd 78,743 o brofion mewn ysbytai, gyda 73% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod ac 94% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod.
  • Awdurdodwyd 72,420 o brofion mewn unedau profi rhanbarthol, gyda 42% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod ac 85 % o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod.

Yn ystod yr wythnos ddiweddaraf (yr wythnos yn dechrau 27 Gorffennaf 2020):

  • Awdurdodwyd 10,607 o brofion mewn unedau brofi gymunedol, gyda 32% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod ac 46% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod.
  • Awdurdodwyd 4,853 o brofion mewn ysbytai, gyda 83% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod ac 97% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod.
  • Awdurdodwyd 4,603 o brofion mewn unedau profi rhanbarthol, gyda 32% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod ac 85% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod.

Mae profion a gynhaliwyd mewn cartrefi gofal, a awdurdodwyd gan labordai GIG Cymru wedi'u cynnwys yn y ffigurau ar gyfer canolfannau profi torfol ac unedau profi cymunedol. Gelwir y mathau hyn o brofion yn brofion o bell, gan fod y sampl yn cael ei gymryd mewn man heblaw canolfan brofi. Ar ôl i’r sampl gael ei gymryd, caiff ei ddanfon gan gludwr i labordy i'w brosesu. Gall cartrefi gofal gwblhau sypiau o brofion ar gyfer gwahanol sifftiau staff cyn i'r cludwr ddychwelyd y profion. Gall y dulliau hyn gael effaith ar amser dychwelyd y prawf ac mae nifer mawr o brofion sydd yn y categorïau hyn yn rhai o gartrefi gofal.

Mae amseroedd dychwelyd wythnosau blaenorol wedi’u cynnwys yn y tablau data cysylltiedig.

Image
Siart cyfran o’r profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru o fewn un, dau a thri diwrnod erbyn diwedd 2 Awst 2020. Dychwelwyd 88% o brofion cartrefi gofal o fewn dau ddiwrnod, dychwelwyd 78% o brofion cartref mewn dau ddiwrnod a dychwelwyd 98% o brofion o ganolfannau profi rhanbarthol mewn dau ddiwrnod.

Cyfran o’r profion a awdurdodwyd yn labordai heblaw am rai GIG Cymru o fewn un, dau a thri diwrnod erbyn diwedd 2 Awst 2020 (MS Excel)

Ers dechrau profi hyd at ddiwedd y dydd ar 2 Awst 2020:

  • Awdurdodwyd 80,820 o brofion cartref gofal, gyda 55% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod ac 88% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod.
  • Awdurdodwyd 34,225 brofion cartref, gyda 33% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod ac 78% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod.
  • Awdurdodwyd 20,567 o brofion mewn unedau profi rhanbarthol a broseswyd mewn labordai heblaw am rai GIG Cymru, gyda 95% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod ac 98% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod.

Yn ystod yr wythnos ddiweddaraf (yr wythnos yn dechrau 27 Gorffennaf 2020):

  • Awdurdodwyd 13,806 o brofion cartref gofal, gyda 53% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod ac 77% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod.
  • Awdurdodwyd 3,033 o brofion cartref, gyda 50% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod ac 88% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod.
  • Awdurdodwyd 4,549 o brofion mewn unedau profi rhanbarthol a broseswyd mewn labordai heblaw am rai GIG Cymru, gyda 98% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod ac 100% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod.

3. Gweithwyr hanfodol a phreswylwyr

Tabl 1: Cyfanswm y profion swab a’r canlyniadau ar gyfer gweithwyr hanfodol a phreswylwyr erbyn diwedd y dydd ar 2 Awst 2020
Categori Cyfanswm y profion positif Cyfanswm y profion negatif Cyfan-swm y profion
Gweithiwr allweddol: mewn cartref gofal 1,352 86,050 87,402
Gweithiwr allweddol: mewn sefydliad addysgol 23 836 859
Gweithiwr allweddol: gwasanaethau brys 149 1,001 1,150
Gweithiwr allweddol: gofal iechyd 6,384 24,341 30,725
Gweithiwr allweddol: mewn hostel neu dŷ â chymorth 16 829 845
Gweithiwr allweddol: arall neu anhysbys 500 5,273 5,773
Gweithiwr allweddol: mewn carchar neu ganolfan gadw 25 129 154
Preswylydd: mewn cartref gofal 1,333 37,160 38,493
Preswylydd: mewn sefydliad addysgol 1 250 251
Preswylydd: mewn hostel neu dŷ â chymorth 67 2,464 2,531
Preswylydd: arall neu anhysbys 102 574 676
Preswylydd: mewn carchar neu ganolfan gadw 2 29 31
Preswylydd neu weithiwr allweddol: mewn cartref gofal 110 80,710 80,820
Preswylydd neu weithiwr allweddol: mewn sefydliad addysgol 2 10 12
Preswylydd neu weithiwr allweddol: mewn hostel neu dŷ â cymorth 11 25 36
Preswylydd neu weithiwr allweddol: mewn carchar neu ganolfan gadw 109 437 546

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Tabl 1 yn dangos nifer y profion a awdurdodwyd ar gyfer gweithwyr hanfodol a phreswylwyr yng Nghymru sydd wedi'u hawdurdodi yn labordai GIG Cymru a labordai heblaw rhai GIG Cymru.

Ar hyn o bryd mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwneud gwelliannau i'r categori gweithwyr hanfodol a phreswylwyr yn eu data. Mae hyn wedi arwain at ddefnyddio diwygiadau yn y data a gwahanol gategorïau o gymharu â chyhoeddiadau blaenorol.

  • Cynhaliwyd tua 83% o’r holl brofion ar weithwyr hanfodol ar breswylwyr cartrefi gofal neu weithwyr cartrefi gofal.
  • Cafwyd canlyniad positif i 21% o’r profion a gynhaliwyd ar weithwyr gofal iechyd.

Mae nifer y profion a gofnodir ar gyfer gweithwyr hanfodol yn dibynnu ar y categori gweithwyr hanfodol sy'n cael ei gofnodi yn y system pan gymerwyd y sampl. Ar hyn o bryd nid yw'n bosibl gwahaniaethu rhwng gweithwyr allweddol a phreswylwyr ar gyfer samplau a broseswyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru ac maent wedi'u cynnwys gyda'i gilydd yn y tabl.

Mae modd gwahaniaethu rhwng gweithwyr allweddol a phreswylwyr ar gyfer profion a awdurdodwyd mewn labordai GIG Cymru; fodd bynnag, nid yw’n bosibl gwneud hyn ar gyfer profion a awdurdodwyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru. O ran profion a awdurdodwyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru, defnyddiwyd y lleoliad i nodi gweithwyr allweddol a phreswylwyr. Er enghraifft, mae profion a awdurdodwyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru ar samplau a gasglwyd mewn cartref gofal wedi’u cynnwys yn y categori ‘preswylydd neu weithiwr allweddol: mewn cartref gofal’ yn Nhabl 1.

Tabl 2: Cyfanswm y profion gwrthgyrff a’r canlyniadau ar gyfer gweithwyr hanfodol a phreswylwyr erbyn diwedd y dydd ar 2 Awst 2020
Categori Profion positif Profion negyddol Profion amhendant Nifer y profion
Gweithiwr allweddol neu breswylydd: mewn cartref gofal 38 122 9 169
Gweithiwr allweddol neu breswylydd: mewn sefydliad addysgol 1,035 17,989 685 19,709
Gweithiwr allweddol: gwasanaethau brys 58 321 6 385
Gweithiwr allweddol: gofal iechyd 4,512 30,960 444 35,916
Gweithiwr allweddol neu breswylydd: arall neu anhysbys 14 247 6 267
Gweithiwr allweddol neu breswylydd: mewn carchar neu ganolfan gadw * * * 14
Preswylydd: mewn hostel neu dŷ â chymorth * * * *
Aelod o aelwyd gweithiwr allweddol * * * 6
Heb ei nodi 942 5,960 71 6,973

* Mae'r eitem ddata yn cael ei hatal er mwyn osgoi datgelu.

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

Mae Tabl 2 yn dangos nifer y profion gwrthgyrff a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru a phrofion llif unffordd.

Ers i'r profion ddechrau hyd at ddiwedd 2 Awst Gorffennaf 2020, mae 19,709 o brofion gwrthgyrff wedi’u cynnal ar weithwyr allweddol neu breswylwyr mewn sefydliad addysgol a 35,916 o brofion gwrthgyrff wedi’u cynnal ar weithwyr allweddol gofal iechyd. Mae hyn yn adlewyrchu'r strategaeth samplu presennol o flaenoriaethu profion gwrthgyrff ar gyfer y gweithwyr allweddol a'r preswylwyr hyn. Mae'r data hyn yn cynnwys 9,772 o brofion llif unffordd.

Mae nifer y profion a'r canlyniadau yn adlewyrchu cipolwg mewn amser a bydd y strategaeth samplu yn dylanwadu'n fawr arno ar yr eiliad honno. Ar hyn o bryd dim ond i grwpiau blaenoriaeth y mae profion gwrthgyrff ar gael, mae mwy o wybodaeth ar gael yn nhudalennau profi gwrthgyrff: coronafirws (COVID-19) ar ein gwefan.

Os yw canlyniad prawf gwrthgyrff yn amwys, mae'n golygu bod y canlyniad yn amhendant.

4. Cefndir

Rydym yn cyhoeddi’r data i ddarparu crynodeb wythnosol o’r gweithgarwch profi yng Nghymru, gan gynnwys profion ar weithwyr hanfodol, preswylwyr ac amseroldeb y profion.

O 13 Gorffennaf, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyfuno profion a chanlyniadau a broseswyd yn labordai GIG Cymru a labordai heblaw GIG Cymru, a adroddwyd yn flaenorol ar wahân. Mae Siart 1 a Thabl 1 yn cynnwys profion a broseswyd ar gyfer preswylwyr Cymru trwy labordai GIG Cymru a labordai nad ydynt yn GIG Cymru (Lighthouse Labs). Siart 2 yn dangos dim ond profion mewn labordai awdurdodedig GIG Cymru a Siart 3 profion yn dangos dim ond awdurdodi drwy labordai nad ydynt yn GIG Cymru. Mae Tabl 2 yn dangos profion gwrthgyrff a awdurdodwyd trwy labordai GIG Cymru a phrofion llif ochrol.

Mae’r data yn y ddogfen hon yn seiliedig ar gymysgedd o ddyddiadau ar wahanol gyfnodau yn y broses brofi, fel dyddiad y sampl, y dyddiad prosesu a’r dyddiad awdurdodi. Mae pob tabl yn y daenlen Data Agored yn manylu ar yr amserlen adrodd.

Mae ein hesboniad data o dan y teitl Deall data ar brofion coronafeirws (COVID-19) yn rhoi esboniad pellach ar y data a ddefnyddiwyd gan gynnwys y gwahaniaeth mewn dyddiadau a ffynonellau data.

Defnyddir profion gwrthgyrff COVID-19 i weld os yw person eisoes wedi cael y feirws. Mae’r prawf gwrthgyrff yn gweithio drwy gymryd sampl o waed a’i brofi i weld os oes gwrthgyrff yn bresennol. Caiff gwrthgyrff eu cynhyrchu gan y corff mewn ymateb i haint, ac maent fel rheol i’w gweld yn y gwaed tua phythefnos ar ôl i berson gael ei heintio.

Dim ond i grwpiau blaenoriaeth y mae profion gwrthgyrff ar gael ar hyn o bryd gyda phrofion wedi'u blaenoriaethu ar gyfer sampl o staff ysgolion sydd wedi gweithio o'r blaen mewn hybiau addysg a gweithwyr gofal iechyd. Gellir gweld esboniad pellach o brofion gwrthgyrff yng Nghymru ar ein tudalennau polisi: Deall data ar brofion coronafeirws (COVID-19).

Mae’r data yn y ddogfen hon yn gywir am 23:59 ar 2 Awst.

5. Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Cyd-destun

Mae’r data yn wybodaeth reoli sydd wedi’i chasglu i gefnogi gweithgarwch profi. Rydym yn cyhoeddi’r data i ddarparu crynodeb amserol o weithgarwch profi ond nid yw wedi bod yn destun yr un lefel o sicrwydd ansawdd â’r ystadegau swyddogol, gyda’r data yn destun diwygiadau yn y dyfodol. Daw’r crynodeb wythnosol hwn o wybodaeth am brofion COVID-19 o ddangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ogystal â manylion ychwanegol ar nifer y profion ar weithwyr hanfodol a lleoliad casglu’r sampl i’w brofi.

Mae’r wybodaeth hon yn helpu i fonitro effaith COVID-19 a chyfrannu at fonitro a gwneud penderfyniadau yng Nghymru.

Perthnasedd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dadansoddi data profion cleifion gan System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru fel rhan o’u cyfrifoldebau cadw gwyliadwriaeth ar glefydau. Yn ogystal, defnyddir yr ystadegau hyn at sawl diben arall:

  • deall effaith pandemig COVID-19
  • cefnogi’r cyngor seiliedig ar dystiolaeth am adolygiadau o drefniadau’r cyfyngiadau symud
  • cyfrannu at waith monitro a gwneud penderfyniadau yng Nghymru a’r DU

Cywirdeb

Mae Canolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am wneud gwaith gwyliadwriaeth ar heintiau anadlol yng Nghymru, gan gynnwys y coronafeirws (COVID-19).

Mae data clinigol yn cael eu cadw yn System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru, gan gynnwys data am brofion COVID-19. Bydd y data yn cael eu defnyddio a’u trin gan ddadansoddwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys dileu achosion positif sydd wedi’u dyblygu ar y dangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol. Mae’r data yn cael eu hadolygu yn ddyddiol a’u hystyried fel data dros dro yn amodol ar eu diwygio yn y dyfodol.

Mae gwahanol ddyddiadau profi wedi’u defnyddio wrth roi gwybod am ddata profion yn dibynnu ar natur y data a’u defnydd. Ar gyfer data gwyliadwriaeth cyflym defnyddiwyd y dyddiad prawf a awdurdodwyd ac mae wedi’i gynnwys yn y ffigurau pennawd a gyflwynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond ar gyfer gwyliadwriaeth fanwl dros amser defnyddiwyd dyddiad y sampl.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein hesboniad data: Deall data ar brofion coronafeirws (COVID-19).

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae’r data yn y datganiad hwn yn darparu data o 18 Mawrth 2020 ymlaen.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae’r datganiad ystadegol hwn wedi’i gyhoeddi ac yna ei gynnwys yn adran Ystadegau ac Ymchwil ein gwefan. Mae’n cynnwys Taenlen Dogfen Agored fel y gall defnyddwyr gael mynediad uniongyrchol i’r data sy’n sail i’r siartiau yn y datganiad hwn.

Cymaroldeb

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynhyrchu dangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol lle gall defnyddwyr weld yr wybodaeth ddiweddaraf ar y nifer o brofion a awdurdodwyd, yr unigolion a brofwyd (profion a gynhaliwyd) ac achosion positif.

Mae’r data ar gyfer Lloegr yn cael eu cyhoeddi ar dudalennau Coronafeirws (COVID-19) yn y DU ar wefan GOV.UK.

Mae’r data ar gyfer yr Alban yn cael eu cyhoeddi ar dudalennau Coronafeirws (COVID-19): data dyddiol yr Alban ar wefan GOV.SCOT.

Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth ddyddiol am brofion ac achosion positif.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Diben y nodau yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, lewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus, a diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ('dangosyddion cenedlaethol') y mae’n rhaid eu defnyddio at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Datganiad ystadegol wythnosol yw hwn ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei gyhoeddi am 12.30yp bob dydd Mawrth. Byddwn yn adolygu hyn yn unol ag anghenion newidiol y defnyddwyr.

Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher 12 Awst.

Rydym eisiau eich adborth

Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd o’r ystadegau hyn. Gallwch anfon adborth dros e-bost i kas.covid19@llyw.cymru.

6. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Matthew Curds
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 104/2020