Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Cyhoeddodd Awdurdod Cyllid Cymru ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2019-20 ar 20 Hydref 2020, gan gynnwys adran sy'n ymdrin â pherfformiad y sefydliad dros y flwyddyn (yr "adroddiad ar berfformiad"). Bwriad yr adroddiad hwn yw darparu darlun ystadegol o'r data a ddefnyddir yn y ddogfen honno, a sicrhau bod y setiau data sylfaenol yn gwbl hygyrch ar gyfer cyfeirio neu ddadansoddi pellach.

Defnyddir sawl siart yn yr adroddiad hwn, sy'n cyflwyno pob un o'r gwahanol ddangosyddion perfformiad ar gyfer ACC ar gyfer y cyfnod 2019-20. Mae pob un wedi'i gynnwys rywle yn yr adroddiad ar berfformiad, a chyfeirir ato’n unol â hynny, er nad yn yr un drefn o reidrwydd.

Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys dadansoddiad byr o bob mesur, ac efallai y bydd y darllenydd am ei ystyried ar y cyd â'r naratif manylach yn yr adroddiad ar berfformiad, sydd wedi’i osod yng nghyd-destun dull ac amcanion y sefydliad. Lle bo'n berthnasol, ychwanegir llyfrnodau i rannau perthnasol yr adroddiad blynyddol o dan bob siart.

Sylwer bod y rhan fwyaf o'r dadansoddiad isod yn berthnasol i'r Dreth Trafodiadau Tir (TTT), er pan fo hefyd yn berthnasol cynnwys data'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT), mae’r data hynny hefyd wedi'u cynnwys yn y mesur. Er enghraifft, nid yw'n bosibl cyflwyno ffurflen TGT ar bapur, ac felly nid yw ffurflenni TGT wedi'u cynnwys yn siart 1. Fodd bynnag, gellir gwneud taliadau TGT drwy siec, felly cynhwysir taliadau TGT yn siart 2.

Data

Siart 1: Canran y ffurflenni TTT a dderbyniwyd yn papur, yn ôl y mis derbyn

Image
Mae Siart 1 yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfres fisol y canran o ffurflenni Treth Trafodiadau Tir a dderbyniwyd ar bapur ar gyfer 2018-19 a 2019-20, ochr yn ochr â 2 linell wastad sy'n cynrychioli ystod darged o 0 i 2 bwynt canran.


Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad

Mae gan ACC ystod targed perfformiad o 98-100% o ran derbyn ffurflenni TTT yn electronig. At ddibenion astudio’r data, mae'n haws dychmygu’r mesur hwnnw wedi’i wrthdroi, sef ystod darged o 0-2% ar gyfer canran y ffurflenni treth a dderbynnir ar bapur. Mae'r data ar gyfer y ddau fesur ar gael yn y daenlen ategol.

Mae'r siart hwn yn dangos bod canran y ffurflenni treth a dderbyniwyd ar bapur yn gyson o fewn yr ystod darged yn ystod 2019-20, ac yn gyson is na'r ganran yn 2018-19.

Siart 2: Y canran o daliadau a dderbyniwyd drwy siec, yn ôl y mis y'u derbyniwyd

Image
Mae Siart 2 yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfres fisol y canran o daliadau Treth Trafodiadau Tir a dderbyniwyd drwy siec ar gyfer 2018-19 a 2019-20, ochr yn ochr â 2 linell wastad sy'n cynrychioli ystod darged o 5 i 10 bwynt canran.


Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad

Mae gan ACC ystod targed perfformiad o 90-95% o ran derbyn taliadau'n electronig, ac mae hyn yn cynnwys TTT a Threth Gwarediadau Tirlenwi (TGT). At ddibenion astudio’r data, mae'n haws dychmygu’r mesur hwnnw wedi’i wrthdroi, sef ystod darged o 5-10% ar gyfer canran y taliadau a dderbynnir drwy siec. Mae'r data ar gyfer y ddau fesur ar gael yn y daenlen ategol.

Mae'r siart hwn yn dangos bod canran y taliadau a dderbyniwyd drwy siec wedi gostwng i'r ystod darged erbyn diwedd 2019-20, gan barhau â'r duedd ar i lawr a oedd hefyd i’w weld yn 2018-19.

Siart 3: Canran y trafodiadau a broseswyd yn awtomatig hyd at y taliad cychwynnol, heb unrhyw ymyrraeth â llaw, yn ôl y mis y'u derbyniwydd

Image
Mae Siart 3 yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfres fisol y ganran o drafodiadau sy'n symud ymlaen yn awtomatig hyd eu cau'n gychwynnol heb unrhyw gamau gan ACC ar gyfer 2018-19 a 2019-20, ochr yn ochr â 2 linell wastad sy'n cynrychioli ystod darged o 90 i 95 pwynt canran.


Mae hyn yn cynnwys cyflwyniad a thaliad cychwynnol (os yn berthnasol) yn unig ac nid unrhyw weithred y gallai’r Awdurdod ymgymryd â hi yn y dyfodol er mwyn rheoli risg treth.

Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad

Mae gan ACC ystod targed perfformiad o 90-95% o ran prosesu ei drafodiadau’n awtomatig. Mae hyn yn cynnwys derbyn trafodiadau digidol a pharu’n awtomatig daliadau a dderbynnir ar gyfer unrhyw drafodiadau lle mae atebolrwydd ariannol ac mae’n cynnwys TTT a TGT.

Mae'r siart hwn yn dangos bod canran y trafodiadau a broseswyd yn awtomatig wedi cynyddu ac wedi cyrraedd pen isaf yr ystod darged erbyn diwedd 2019-20, gan barhau â'r duedd ar i fyny a oedd hefyd i’w weld yn 2018-19.  Mae'r eithriad i'r duedd ar i fyny ar ddechrau 2019-20 yn amlygu’r ffaith y deliwyd â rhai taliadau â llaw tra bod problem gyda system gyllid ACC yn cael ei chanfod a'i datrys.

Siart 4: Canran y ffurflenni TTT a dderbyniwyd ar ôl 30 diwrnod, yn ôl y mis y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae Siart 4 yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfres fisol y ganran o ffurflenni Treth Trafodiadau Tir a dderbyniwyd ar ôl 30 diwrnod ar gyfer 2018-19 a 2019-20, ochr yn ochr â 2 linell wastad sy'n cynrychioli ystod darged o 0 i 2 bwynt canran.


Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad

Mae gan ACC ystod targed perfformiad o 98-100% o ran derbyn ffurflenni TTT yn brydlon, hynny yw o fewn 30 diwrnod i'r dyddiad dod i rym fel y nodir yn y ddeddfwriaeth.

At ddibenion astudio’r data, mae'n haws dychmygu’r mesur hwnnw wedi’i wrthdroi, sef ystod darged o 0-2% ar gyfer canran y ffurflenni a dderbynnir y tu hwnt i 30 diwrnod o’r dyddiad dod i rym. Mae'r data ar gyfer y ddau fesur ar gael yn y daenlen ategol.

Mae'r siart hwn yn dangos bod canran y ffurflenni treth a dderbyniwyd y tu hwnt i 30 diwrnod o'r dyddiad dod i rym wedi aros yn isel ac o fewn yr ystod darged yn ystod 2019-20. Er gwaethaf cynnydd bychan ar ddechrau 2019-20, o'i gymharu â diwedd 2018-19, roedd y data ar gyfer pob mis yn 2019-20 yn is na'r data ar gyfer y misoedd cyfatebol yn 2018-19.

Siart 5: Canran y dyledion TTT y gellir eu rheoli a gasglwyd o fewn 30 diwrnod, yn ôl y mis y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae Siart 5 yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfres fisol y ganran o ddyledion Treth Trafodiadau Tir y gellir eu rheol, a gasglwyd o fewn 30 diwrnod, yn ôl y mis y daeth y trafoiadau i rym, ar gyfer 2018-19 a 2019-20, ochr yn ochr â 2 linell wastad sy'n cynrychioli ystod darged o 90 i 95 pwynt canran.


Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad

Ar gyfer pob trafodiad TTT sydd â rhwymedigaeth ariannol nad yw'n cael ei gyflwyno a'i dalu o fewn 30 diwrnod, caiff dyled ei chreu. Nod ACC yw casglu trafodiadau sy'n dod yn ddyled o fewn 30 diwrnod arall ac mae ganddo’r un ystod darged o gasglu 90-95% o'r dyledion hynny o fewn yr amserlen honno. Mae trafodiadau a gyflwynir yn hwyrach na’r 60 diwrnod hyn ar ôl y dyddiad dod i rym yn creu tuedd yn y mesur hwn ac fe'u heithrir o'r cyfrifiad. Yn hytrach, mae ACC yn cadw golwg cyson ar nifer yr achosion hyn gyda'r bwriad o'u cadw'n isel, ac mae'r rhifau sydd ar gael yn y daenlen ategol yn amlygu hyn, yn enwedig yn ystod 2019-20.

Mae'r siart hwn yn dangos bod trafodiadau wedi bod o fewn yr ardal darged neu ychydig yn is na hynny am y rhan fwyaf o 2018-19 a 2019-20, gydag eithriadau nodedig yn rhan olaf pob blwyddyn, yn enwedig 2019-20. Gellir priodoli'r rhan fwyaf o'r gostyngiadau ym mis Chwefror a mis Mawrth 2020 i’r ffaith fod prosesau casglu dyledion wedi’u hatal dros dro yn ACC. Roedd hyn yn angenrheidiol yn dilyn atal casglu post dros dro, yn gyntaf oherwydd llifogydd yn swyddfa ACC ddechrau mis Chwefror ac yna wedyn oherwydd cyfnod clo coronafeirws (COVID-19) o fis Mawrth.

Siart 6: Nifer a chyfartaledd y diwrnodau a gymerwyd i ad-dalu cyfradd uwch TTT, yn ôl y mis y cymeradwywyd

Image
Mae Siart 6 yn defnyddio bariau ar yr echelin chwith i arddangos nifer yr ad-daliadau cyfradd uwch Treth Trafodiadau Tir a llinell ar yr echelin dde i arddangos nifer cyfartalog y dyddiau rhwng cymeradwyo a thalu’r ad-daliadau hynny, gyda phob cyfres yn cael ei dangos yn ôl y mis y cymeradwywyd yr ad-daliad rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2020.


Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad

Yn gyffredinol, pan fydd trethdalwyr yn prynu prif breswylfa newydd heb iddynt werthu eu prif breswylfa flaenorol ar yr un pryd, mae’n ofynnol iddynt dalu’r gyfradd uwch o TTT preswyl. Mae'r rhai sy'n gwerthu eu prif breswylfa flaenorol o fewn tair blynedd fel arfer yn gymwys i gael ad-daliad o'r gwahaniaeth rhwng y cyfraddau uwch a'r prif gyfraddau TTT ar y trafodiad gwreiddiol.

Nod ACC yw talu'r ad-daliadau hyn, a elwir yn ad-daliadau cyfradd uwch mor brydlon â phosibl. Ar hyn o bryd, dim ond yr amser a gymerir i wneud y taliad o'r adeg y cymeradwyir yr ad-daliad y mae'n bosibl ei fesur, er bod gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd er mwyn mesur hyn o'r adeg y daw’r cais i law.

Mae'r llinell ar y siart (yr echelin dde) yn dangos bod nifer cyfartalog y diwrnodau a gymerwyd i dalu o'r adeg cymeradwyo rhwng 5 a 10 diwrnod ar gyfartaledd yn ystod 2019-20. Roedd llwybr cyffredinol ychydig ar i fyny, gan fod nifer yr ad-daliadau a gymeradwywyd (a ddangosir fel y bariau ar echelin chwith) hefyd wedi cynyddu'n gyffredinol gydag ychydig o eithriadau misol. Roedd hyn yn dilyn y gostyngiad cyson a welwyd dros hanner olaf 2018-19, ei hun yn dilyn yr uchafbwynt o tua 13 diwrnod ym mis Awst 2018.

Siart 7: Nifer y trafodiadau a chyfanswm y dreth yn risgiau TTT 1, 2 a 3

Image
Mae Siart 7 yn defnyddio llinell ar yr echelin chwith i arddangos cyfanswm nifer y trafodiadau sydd mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i arddangos cyfanswm gwerth y dreth sydd mewn perygl ar draws risgiau treth 1, 2 a 3 (a nodir yn unigol yn siartiau 8 i 10), yn ôl chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2020.


Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad

Gall ACC wneud dadansoddiad manwl o'r data a gynhwysir ym mhob trafodiad a dderbynnir er mwyn gwirio a yw’n cynnwys amrywiol nodweddion a allai awgrymu bod gwallau cyffredin neu risgiau yn y wybodaeth a ddarperir. Yna caiff pob un o'r 'risgiau treth' hynny eu dadansoddi ar wahân er mwyn nodi nifer y trafodiadau a’r risgiau treth, fel y gellir olrhain hyn dros amser. Mae'r adroddiad ar berfformiad  yn egluro mwy am ddull ACC o reoli risgiau treth.

Yn ystod 2019-20, canolbwyntiwyd ar sawl maes risg treth. Rydym wedi adrodd ar y 3 phrif risg treth a nodwyd ar ddechrau 2019-20. Dangosir y setiau data unigol ar gyfer pob un ohonynt yn siartiau 8-10 isod, tra bod y siart hon yn dangos y data cyfanredol ar gyfer y 3 maes risg treth hwnnw ar gyfer 2019-20.

Gostyngodd nifer y trafodiadau o fewn y 3 risg treth hon a ddangosir gan y llinell (echelin chwith) o tua 70 yn chwarter 1 i tua 30 yn chwarter 4. Gostyngodd y dreth mewn perygl yn y trafodiadau hynny a ddangosir gan y bariau (echelin dde) yn gymesur â hynny.

Rhoddir mwy o resymu dros y duedd yn y data hwn yng nghyd-destun dull ac amcanion ACC yn yr adroddiad blynyddol.

Siart 8: Risg TTT 1 - cwmnïau'n prynu eiddo preswyl

Image
Mae Siart 8 yn defnyddio llinell ar yr echelin chwith i arddangos cyfanswm nifer y trafodiadau sydd mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i arddangos cyfanswm gwerth y dreth sydd mewn perygl ar gyfer risg treth 1 (cwmnïau’n prynu eiddo preswyl), yn ôl chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2020.


Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad

Gweler y sylwebaeth o dan siart 7.

Mae data 2 flynedd ar gael ar gyfer y risg dreth hon ac ar gyfer nifer y trafodiadau (a ddangosir gan y llinell, echelin chwith) a threth mewn perygl (a ddangosir gan y bariau, echelin dde). Bu gostyngiad cyson yn 2019-20, ers y gwerthoedd uchaf a welwyd yn hanner olaf 2018-19.

Rhoddir mwy o resymu dros y duedd yn y data hwn yng nghyd-destun dull ac amcanion ACC yn yr adroddiad blynyddol.

Siart 9: Risg TTT 2 - ffurflen dreth goll

Image
Mae Siart 9 yn defnyddio llinell ar yr echelin chwith i arddangos cyfanswm nifer y trafodiadau sydd mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i arddangos cyfanswm gwerth y dreth sydd mewn perygl ar gyfer risg treth 2 (ffurflenni treth coll), yn ôl chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2020.


Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad

Gweler y sylwebaeth o dan siart 7.

Mae data 2 flynedd ar gael ar gyfer y risg hon ac ar gyfer nifer y trafodiadau (a ddangosir gan y llinell, echelin chwith). Bu gostyngiad cyffredinol yn ystod y ddwy flynedd, ac eithrio uchafbwynt bach yn chwarter 3 2019-20. Effeithiwyd ar y dreth mewn perygl gan ychydig o drafodiadau mwy, anghynrychioliadol ond roedd y cyfartaledd ar gyfer 2019-20 yn llai na'r cyfartaledd ar gyfer 2018-19 (gan anwybyddu'r allanolyn arbennig o fawr y cyfeiriwyd ato yn chwarter 1 2019-20).

Rhoddir mwy o resymu dros y duedd yn y data hwn yng nghyd-destun dull ac amcanion ACC yn yr adroddiad blynyddol.

Siart 10: Risg TTT 3 - anghytuno â'r gyfrifiannell TTT

Image
Mae Siart 10 yn defnyddio llinell ar yr echelin chwith i arddangos cyfanswm nifer y trafodiadau sydd mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i arddangos cyfanswm gwerth y dreth sydd mewn perygl ar gyfer risg treth 3 (anghytuno â’r gyfrifiannell TTT) yn ôl chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2020.


Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad

Gweler y sylwebaeth o dan siart 7.

Dim ond o ddechrau 2019-20 y cafodd y risg hon ei monitro'n llawn ac felly dim ond yr un flwyddyn honno o ddata sydd ar gael. Arhosodd y nifer o drafodiadau (a ddangosir gan y llinell, echelin chwith) yn wastad tan y gostyngiad yn chwarter 4. Gostyngodd y dreth mewn perygl (a ddangosir gan y bariau, echelin dde) yn sydyn yn ystod 2019-20, er y dylid dehongli hyn yng nghyd-destun nifer ychydig yn is o drafodiadau o gymharu â'r ddwy risg arall, fel y nodwyd yn siartiau 8 a 9.

Rhoddir mwy o resymu dros y duedd yn y data hwn yng nghyd-destun dull ac amcanion ACC yn yr adroddiad blynyddol.