Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y Cadeirydd

Image
Kathryn Bishop, Chair of the Welsh Revenue Authority


Rwy'n falch o gyflwyno Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019-20. Dyma'r flwyddyn gyntaf lle byddwn yn adrodd ar ein perfformiad trwy ei gymharu â’r mesurau a nodwyd yn ein Cynllun Corfforaethol 2019 i 2022. Roedd y flwyddyn (2019-20) yn flwyddyn o arloesi, o ddysgu, ac o wir brofi gwydnwch ein sefydliad ifanc.

Dechreuwyd y flwyddyn gydag ailddatganiad o’n hymrwymiad i chwarae ein rhan yn y gwaith o ddarparu system dreth deg i Gymru, a hynny drwy ein datganiad o ddiben newydd, ein 6 amcan strategol, a'r blaenoriaethau a roddwyd i ni gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd.

Wrth ymateb i'r her hon, un o'n datblygiadau arloesol allweddol eleni fu datblygu ein dull partneriaeth o reoli'r trethi datganoledig, a'r hyn a alwn yn 'reoli risg treth'. Rydym bellach yn dechrau gweld canlyniadau cadarnhaol y gwaith hwnnw, a chewch ddysgu mwy am yr agwedd bwysig hon yn Adroddiad ar Berfformiad y Prif Weithredwr. 

Daeth blwyddyn o gynnydd rhagorol tuag at gyflawni ein hamcanion strategol i ben mewn ffordd hynod annisgwyl. Ym mis Chwefror bu llifogydd yn ein prif swyddfa yn Nhrefforest yn ystod Storm Dennis, ac ym mis Mawrth dechreuom gefnogi ein pobl a'n cwsmeriaid drwy’r cyfnod clo coronafeirws (COVID-19) ar hyd a lled y DU. 

Mae’r digwyddiadau trasig hyn wedi bod yn anodd i bawb. I ni, mae'r misoedd diwethaf wedi tynnu sylw at bwysigrwydd 2 agwedd ar ein sefydliad: arloesi a gwydnwch. Mae llawer yn yr adroddiad hwn sy’n brawf o’n gallu i arloesi, ond mae hefyd yn bwysig nodi ansawdd ein hymateb i argyfwng.

Mae ein sefydliad bychan ifanc wedi dangos gwydnwch mawr - rwyf mor falch o'r ffordd yr ymatebodd pawb i'r 2 argyfwng rydym wedi'u profi. Mae ein pobl, ein systemau digidol, ein cydberthnasau, ein prosesau llywodraethu, a'n perfformiad oll wedi gwrthsefyll yr her hon. 

Gobeithio bydd yr adroddiad hwn o ddiddordeb i chi fel cofnod o flwyddyn ddiddorol iawn yn natblygiad Awdurdod Cyllid Cymru.

Kathryn Bishop
Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru

Adroddiad ar Berfformiad

Trosolwg y Prif Weithredwr

Image
Dyfed Alsop


Croeso i Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ACC ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019 hyd 2020. Hon oedd ein hail flwyddyn o reoli'r 2 dreth ddatganoledig yng Nghymru, ac roedd yn flwyddyn wirioneddol eithriadol.

Bu’r llifogydd ein prif swyddfa yn Nhrefforest ym mis Chwefror, ac yna heriau digynsail coronafeirws, yn dipyn o brawf ar ein gwydnwch. Hoffwn anfon fy nghydymdeimlad at bawb a effeithiwyd gan y llifogydd yn ein cymuned leol.

Er gwaethaf yr heriau hyn, rwy’n falch iawn bod ein gwaith wedi helpu i godi bron i £300 miliwn mewn refeniw treth. Rwy'n ddiolchgar i bawb a'n cefnogodd ni a'n huchelgais i helpu i ddarparu system dreth deg i Gymru. Yn yr adroddiad hwn gallwch weld tystiolaeth gynnar o sut rydym wedi datblygu ein dull newydd o reoli'r trethi a chanlyniadau cynnar y gwaith hwn.

Yn ystod 2019-20, dechreuom wneud mwy o ddefnydd o'r wybodaeth rydym wedi bod yn ei chronni fel sefydliad - yn seiliedig ar y data a gesglir gennym a sgiliau a phrofiad ein pobl. Gwnaethom newidiadau i'r system er mwyn hwyluso’r defnydd o’n gwasanaethau, ac fe wnaethom dargedu ein gweithgareddau cymorth ar yr achosion hynny pan fo’r risg o bobl yn gwneud camgymeriadau â’u trethi yn uwch - dull o weithio rydym yn ei alw’n 'reoli risg treth'.

Mae'r gwaith hwn o 'reoli risg treth' wedi’n galluogi i ddechrau ailddychmygu’n rôl fel awdurdod treth. Mae'r rhain yn ddyddiau cynnar ond mae'r dull hwn eisoes wedi ein harwain at ddiogelu rhwng £1.2 miliwn ac £1.6 miliwn o dreth dros y 3 blynedd nesaf. Ynghyd â hyn, casglwyd £1.9 miliwn gennym lle'r oedd pobl wedi tandalu eu treth, yn ogystal â nodi ac ad-dalu £190,000 o dreth a ordalwyd drwy gamgymeriad.

Rwy'n arbennig o falch o'r diwylliant cadarnhaol rydym yn ei ddatblygu yn ACC, a gallwch weld tystiolaeth ohono yn yr Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil diweddaraf (2019), lle'r oeddem yn ail ymhlith mwy na 100 o sefydliadau'r gwasanaeth sifil ledled y DU, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol.

Hoffwn ddiolch i'n pobl am eu hymrwymiad, ac i’r rhai yr ydym yn gweithio â nhw am eu cefnogaeth. Mae'r adroddiad hwn yn dangos arwyddion cynnar cadarnhaol o ran ein dull newydd, ond bydd angen i ni barhau i fuddsoddi yn ein gwybodaeth, ein gallu, a'n cydberthnasau er mwyn adeiladu ar y llwyddiannau cynnar hyn mewn cyfnod o wynebu heriau na welwyd eu tebyg o'r blaen.

Yr hyn a ddysgais i eleni am ACC yw ein bod ar ein gorau pan fyddwn yn cydweithredu, yn arloesi, ac yn garedig.

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr Awdurdod Cyllid Cymru

Rhan 1: ynglŷn ag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC)

Ers 1 Ebrill 2018 rydym wedi casglu a rheoli'r trethi datganoledig canlynol, a gynlluniwyd ac a grëwyd gan Lywodraeth Cymru:

  • Treth Trafodiadau Tir (TTT) – treth tir y dreth stamp yng Nghymru
  • Treth Gwarediadau Tirlenwi (TGT)

Ein diben cyffredinol yw cynllunio a darparu gwasanaethau refeniw cenedlaethol i Gymru ac arwain y gwell defnydd o ddata trethdalwyr Cymru ar gyfer Cymru.

Rydym yn falch o'n gwaith o gasglu’r arian sy’n hanfodol ar gyfer cefnogi gwasanaethau fel y GIG ac ysgolion mewn cymunedau ledled Cymru, ac o wneud hynny mewn ffordd sy'n gefnogol ac yn deg.

Amcanion strategol

Er mwyn ein helpu i gyflawni ein diben rydym wedi mabwysiadu’r amcanion canlynol, sy'n sail i'n Cynllun Corfforaethol 2019 i 2022:

  • ei gwneud hi’n haws i bobl dalu'r dreth gywir
  • sicrhau ein bod yn deg
  • bod yn fwy effeithlon
  • gwella ein gallu

Mae gennym hefyd 2 amcan pellach sydd â’r nod o sicrhau manteision tymor hwy i bobl Cymru o'u buddsoddiad ynom. Gan ddefnyddio ein gwybodaeth a’n profiad gweithredol, rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru i gynllunio gwasanaethau refeniw ar gyfer y dyfodol ac yn arwain y gwaith o ddefnyddio data trethdalwyr Cymru yn well ar gyfer Cymru.

Ein pobl a'n gwerthoedd

Rydym yn sefydliad bychan aml-sgil o dros 70 o bobl, gyda sgiliau, a phrofiad sy’n cwmpasu 16 o wahanol broffesiynau.

Mae’r gwerthoedd yn ‘Ein Siarter’ yn adlewyrchu sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd yn ogystal â chyda'n trethdalwyr, eu cynrychiolwyr, a rhanddeiliaid eraill.

Ein Dull: gweithio gyda’n gilydd

Gan ein bod yn sefydliad bychan, rydym yn gwerthfawrogi'r rôl hanfodol y mae partneriaethau'n ei chwarae yn ein gweithrediadau. Rydym yn fwy effeithiol pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd. Ac rydym yn credu mai’r ffordd orau o ddysgu a thyfu'n gynaliadwy fel sefydliad yw seilio pob ymgysylltiad ar barch tuag at ein gilydd.

Mae mabwysiadu dull a arweinir gan bartneriaethau yn hanfodol i'r ffordd rydym yn casglu ac yn rheoli'r trethi datganoledig yng Nghymru. Rydym yn cyfeirio at hyn fel 'Ein Dull'. Mae'r ffordd Gymreig hon o wneud treth yn llywio popeth a wneir gennym.

Felly, wrth gyflawni ein hamcanion, ein nod yw cydweithio’n agored gyda'n holl randdeiliaid – gan gynnwys trethdalwyr, eu cynrychiolwyr, cyrff proffesiynol a'r cyhoedd yn ehangach, yn ogystal â chydweithwyr yn y llywodraeth a’n sefydliadau partner – er mwyn sicrhau bod trethi'n cael eu casglu a'u rheoli mewn ffordd sy'n gefnogol ac yn deg, ac sy'n rhoi'r gwerth gorau am arian i'r cyhoedd yng Nghymru.

Mae ein hamcanion a'n Dull yn ymgorffori ysbryd ac ymdeimlad 'Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)'.

Ein Dull: rheoli risg treth

Mae'r ddwy dreth ddatganoledig yn rhai a hunanasesir. Trethdalwyr sy'n gyfrifol am gyfrifo’r trethi sy’n ddyledus ganddynt a chyflwyno eu ffurflenni treth. Gallant, ac fe wnânt yn aml, ddefnyddio cynrychiolydd fel cyfreithiwr, asiant treth, trawsgludydd, neu gynrychiolydd personol i'w helpu gyda hyn.

Rydym yn cydnabod bod rhai elfennau o'r system dreth yn fwy cymhleth neu'n anoddach eu dehongli nag eraill ac efallai y bydd angen mwy o help ar rai trethdalwyr nag eraill. Felly, i ni, rhan sylfaenol o'n rôl yw cefnogi pobl i ddeall y rheolau treth a darparu cymorth pan fyddant ei angen.

Yn ein blwyddyn lawn gyntaf (2018-19), gwnaethom fuddsoddi mewn gwasanaethau cymorth o ansawdd uchel er mwyn helpu cynifer o bobl â phosibl i gael pethau'n iawn ar y cynnig cyntaf. Buom yn gweithio ochr yn ochr â threthdalwyr a'u cynrychiolwyr i'w helpu i ddod i arfer â'r trethi a'r prosesau newydd, gan wneud gwelliannau ar sail eu hadborth.

Yn ystod ein blwyddyn gyntaf, cynyddodd ein gwybodaeth o ganlyniad i’r data a gyflwynwyd i ni gan ein trethdalwyr yn eu ffurflenni treth, ynghyd â gwybodaeth a gafwyd o'u hymholiadau a thrwy wrando ar eu hadborth. Dechreuom chwilio am fwy o gyfleoedd i rannu ein gwybodaeth yn rhagweithiol, a hynny drwy amrywiaeth o wasanaethau a gweithgareddau, er mwyn rhoi rhagor o gefnogaeth i bobl gyda'u trethi.

Tua diwedd ein blwyddyn gyntaf dechreuom nodi meysydd lle'r oedd pobl yn gofyn am gymorth ychwanegol yn rheolaidd. Ochr yn ochr â hyn gwelsom rai meysydd lle gwnaed camgymeriadau’n aml. Yn aml roedd hyn yn ymwneud â phobl yn gwneud camgymeriadau am eu bod wedi camddeall y rheolau.

Roeddem yn cyfeirio at y meysydd hyn fel 'risgiau treth' oherwydd ein bod yn gweld, o'n dadansoddiadau o'r achosion o fewn y meysydd penodol hynny, fod perygl y byddai mwy o bobl yn gwneud pethau'n anghywir yn y dyfodol pe na baem yn cymryd camau i leihau'r risg honno.

Er enghraifft, gallai 'risg treth' fod yn grŵp o drethdalwyr yn defnyddio’r gyfradd dreth anghywir ar gyfer eu trafodiad am eu bod wedi camddeall i bwy y dylai'r gyfradd fod yn berthnasol. Mae hyn yn golygu eu bod yn talu'r dreth anghywir am nad oeddent yn deall y rheolau. Os nad awn i'r afael â'r risg dreth hon, gallai arwain at ragor o achosion o bobl yn gwneud hyn yn anghywir ac yn talu’r dreth anghywir.

Er bod y trethi datganoledig yn cael eu hunanasesu, yn hytrach nag aros i bobl gysylltu â ni am gymorth, neu ganfod camgymeriadau ar ôl iddynt ffeilio eu ffurflen dreth, gallwn gael effaith mwy cadarnhaol trwy fod yn rhagweithiol wrth fynd i'r afael â risg treth. Rydym yn targedu ein gweithgareddau er mwyn gwella ymwybyddiaeth ac addysgu pobl. Ac rydym yn gwneud newidiadau i'n canllawiau a'n system dreth er mwyn lleihau'r posibilrwydd o gamgymeriadau cyn i'r ffurflenni treth gael eu ffeilio gyda ni. Drwy'r dull hwn rydym yn rhoi cymorth rhagweithiol er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn cael eu trethi'n gywir ar y cynnig cyntaf.

Fel rhan o hyn, rydym hefyd wedi datblygu ffyrdd o gefnogi pobl i gywiro eu ffurflenni treth os ydynt yn gwneud camgymeriad. Ac yn yr achosion prin hynny lle'r oedd pobl yn ceisio osgoi talu'r swm llawn, rydym hefyd wedi sefydlu mecanweithiau i'w hadnabod yn gyflym ac i ddefnyddio ein pwerau i sicrhau bod y dreth gywir yn cael ei thalu.

I’r dyfodol, os gallwn helpu mwy o bobl i gael eu trethi'n gywir y tro cyntaf, a'i gwneud yn anos i'r ychydig bobl hynny sy'n ceisio efadu talu'r hyn sy’n ddyledus ganddynt, bydd angen gwirio llai o achosion a chywiro llai o wallau.

Rydym yn rhoi crynodeb o’n dulliau o reoli risgiau treth a mesur effaith ein gweithgareddau yn y crynodeb o berfformiad isod ac mae gwybodaeth fanylach wedi'i chynnwys yn y dadansoddiad o berfformiad: sicrhau ein bod yn deg.

Rhan 2: crynodeb o berfformiad

Mae'r adran hon yn rhoi crynodeb o'n perfformiad yn erbyn ein hamcanion a'n mesurau perfformiad ar gyfer y flwyddyn ariannol rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020 (2019-20). Ceir dadansoddiad manylach o'n perfformiad a'n gweithgareddau yn Rhan 4 o'r adroddiad hwn.

I ddechrau, mae'r tabl isod yn dangos y cynnydd yn erbyn pob un o'n mesurau perfformiad ar gyfer y flwyddyn.

MP

Dangosydd

Amcan

Targed/Nod 2022

Cynnydd 2019-20

1

Pa mor dda yw’r defnydd o’n gwasanaethau digidol:

1.1 Ffeilio
1.2 Talu

Haws
Effeithlon

1.1 98%




1.2 90%

1.1 Cyfartaledd o 98.4%, yn gyson drwy gydol y flwyddyn yn gyffredinol



1.2 Cyfartaledd o 90%, gan gynyddu i dros 90% tua diwedd y flwyddyn

2

Barn pobl am y profiad o ddelio gyda ni

Haws
Teg
Medrus

Mae mwy o bobl yn ei chael hi'n hawdd defnyddio ein gwasanaethau, a’n gwasanaethau Cymraeg sydd wedi gwella

Rydym wedi sefydlu gwaelodlin bod 88% o'n hymatebion adborth yn ei chael yn hawdd defnyddio ein gwasanaethau

3

Cefnogi pobl i gael eu trethi'n gywir

Haws
Teg
Effeithlon

Mwy o bobl yn cael eu trethi'n gywir

Rydym wedi sefydlu gwaelodlin fod o leiaf 98.3% o drafodiadau’n gywir y tro cyntaf

4

Lleihau'r posibilrwydd o risgiau treth

Haws
Teg
Effeithlon

Lleihau pob risg treth yn unigol

Gostyngiad ym mhob un o'r 3 risg TTT

Diogelwyd dros £300,000 o dreth eleni, a rhwng £1.2 miliwn ac £1.6 miliwn o dreth wedi’i diogelu dros y 3 blynedd nesaf

5

Prydlondeb:

5.1 Ffeilio
5.2 Talu



5.3 Ad-daliadau

Effeithlon
Haws
Teg

5.1 98%
5.2 90%





5.3 Llai na 30 diwrnod

5.1 Cyfartaledd o 98.6%, yn gyson drwy gydol y flwyddyn ar y cyfan

5.2 Cyfartaledd o 87%, yn gyson ar y cyfan ond yn gostwng tua diwedd y flwyddyn

5.3 Llai na 10 diwrnod – gweler y dadansoddiad o berfformiad

6

Graddau'r awtomeiddio

Effeithlon

90%

Cyfartaledd o 87%, yn gyson drwy gydol y flwyddyn ar y cyfan, ond gyda chynnydd bach tuag at ddiwedd y flwyddyn

7

Sut mae ein pobl yn teimlo

Medrus

Yn y 25% uchaf o ran sefydliadau'r Gwasanaeth Sifil

Yn ail o blith dros 100 o gyflogwyr GS

8

Ein cymysgedd o sgiliau

Medrus

Cynnal ehangder y proffesiynau, a datblygu ein sgiliau Cymraeg

16 proffesiwn

78% yn gallu ychydig o Gymraeg

19% yn rhugl neu'n agos at fod yn rhugl

9

Amrywiaeth

Medrus

Bod yn sefydliad cynhwysol sy'n gwerthfawrogi ac yn cynnwys pobl waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau. Sicrhau triniaeth deg a chyfartal i bawb

Rydym wedi gwneud cynnydd cadarnhaol. Cyhoeddir data amrywiaeth yn ein Hadroddiad Cydraddoldeb ym mis Mawrth 2021

Amcan 1: ei gwneud yn haws

Eleni gwnaethom sawl newid i'w gwneud yn haws i bobl dalu'r dreth gywir ac i ddefnyddio ein systemau digidol.

Yn gyntaf, aethom ati i barhau i fuddsoddi yn ein gwasanaethau digidol er mwyn eu gwneud yn haws i'w defnyddio. Mae mwy o bobl yn defnyddio ein system ddigidol o'i gymharu â'r llynedd ac mae mwy o bobl yn ffeilio eu trethi'n gywir oherwydd rhai o'r gwelliannau hyn. Er enghraifft, gwnaethom wella'r system TTT mewn rhai meysydd pwysig lle'r oedd pobl yn aml yn gwneud camgymeriadau a arweiniai at golli treth.

Rydym yn ddiolchgar i'r rhai hynny sydd wedi newid o ddogfennau papur i ddefnyddio’n gwasanaethau digidol. Drwy gydol 2019-20, cafodd dros 98% o'n holl ffurflenni treth eu ffeilio drwy ein system dreth ar-lein.

Yn ail, aethom ati i fuddsoddi mewn datblygu ffordd newydd o gyfathrebu, rhywbeth sydd wedi ein helpu i sicrhau bod y rhai sy'n ymgysylltu â ni yn cael ymatebion eglur. Hefyd, dechreuon ni ddatblygu ein strategaeth iaith Gymraeg ein hunain er mwyn hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ar draws ein gwasanaethau.

Yn olaf, buom yn canolbwyntio ar wella a hyrwyddo cyfleoedd i drethdalwyr a'u cynrychiolwyr i roi adborth am ein gwasanaethau. Mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn adborth, o dderbyn ychydig dros 10 darn y mis i dderbyn dros 100 y mis. Mae'r adborth hwn wedi ein galluogi i barhau i ddysgu a gwella ein prosesau a'n gweithgareddau ymgysylltu er mwyn diwallu anghenion ein trethdalwyr a'u cynrychiolwyr.

At ei gilydd, o’r holl adborth a gawsom, roedd 88% o'n defnyddwyr yn credu fod ein gwasanaethau yn hawdd i’w defnyddio. Er bod y ffigur hwn yn gadarnhaol, rydym yn awyddus i’w wella. Ac i ni, gwir werth yr adborth yw'r sylwadau a'r awgrymiadau a dderbynnir gennym ac fe ddown ynghyd i’w trafod a’u deall, a’u defnyddio i sbarduno newid cadarnhaol ar draws ein sefydliad.

Rydym wedi cynnwys rhagor o wybodaeth, gan gynnwys enghreifftiau o sut mae'r adborth hwn wedi ein helpu i'w gwneud yn haws i'n trethdalwyr a'u cynrychiolwyr, o dan y pennawd Dadansoddiad o berfformiad: ei gwneud yn haws.

Amcan 2: sicrhau ein bod yn deg – rheoli risg treth

Y flwyddyn hon oedd y tro cyntaf i ni weithredu ein ffordd newydd o reoli a mesur 'risg treth' am flwyddyn gron – mae'r dull hwn yn ein helpu i ddarparu system dreth deg i Gymru. Mae hyn nid yn unig yn helpu mwy o bobl i dalu'r dreth gywir ar yr adeg gywir, mae'n lleihau'r tebygolrwydd o gamgymeriadau ac osgoi trethi, ac yn ein galluogi i gymryd camau cymesur os bydd pobl yn gwneud camgymeriadau. Ceir esboniad manylach o sut rydym yn 'rheoli risgiau treth' ac yn mesur ein cynnydd yn ddiweddarach yn yr Adroddiad ar Berfformiad dan y pennawd Dadansoddiad o berfformiad: sicrhau ein bod yn deg.

O ddefnyddio’r dull newydd hwn, rydym wedi datblygu ein gallu i ddadansoddi data a chael gwell dealltwriaeth o’r wybodaeth a gawn o’n gwahanol ffynonellau, gan gynnwys y 60,000 o ffurflenni treth a gyflwynir gan drethdalwyr a'u cynrychiolwyr bob blwyddyn. Buom hefyd yn cydweithio'n agos gyda sefydliadau partner eraill, megis Cofrestrfa Tir EM, er mwyn cynnwys y data y maent yn ei gasglu yn ein dadansoddiad ni.

Mae'r wybodaeth gyfunol rydym wedi'i chasglu wedi ein galluogi i ddechrau nodi tueddiadau a phatrymau a all awgrymu risg dreth benodol.

Drwy annog arloesi a chydweithredu o fewn ein sefydliad, datblygwyd gweithgareddau a arweiniodd at ganfod y datrysiadau gorau ar gyfer pob un o'r risgiau treth cychwynnol. Wrth wneud hyn, gwnaethom y defnydd gorau o'r sgiliau a'r arbenigedd sydd i’w cael ar draws y sefydliad.

Gan ddefnyddio'r un data a ddadansoddwyd gennym i nodi risgiau treth, gallwn fesur ac adrodd ar effaith dros amser ein gweithgareddau ar gyfer mynd i'r afael â risg treth. Mae'r gweithgareddau hyn yn cynnwys gwelliannau i'n canllawiau, newid y system dreth, a bod yn fwy rhagweithiol wrth addysgu ac ymgysylltu.

Er mai dyddiau cynnar yw'r rhain, rydym yn falch o allu adrodd ar rai llwyddiannau cychwynnol o ddefnyddio’r dull newydd hwn. Mae'r siart isod yn dangos ein bod eisoes wedi gweld gostyngiad ym mhob un o’r risgiau treth TTT a fu’n darged i’n gweithgareddau yn ystod y flwyddyn. Yn y meysydd hynny bu llai o drafodiadau anghywir, ac felly, llwyddodd mwy o drethdalwyr i gael eu trethi'n gywir y tro cyntaf.

Siart 1: Nifer y trafodiadau a chyfanswm y dreth o fewn risgiau TTT 1, 2 a 3

Image
Mae Siart 1 yn defnyddio llinell ar yr echelin chwith i arddangos cyfanswm nifer y trafodiadau sydd mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i arddangos cyfanswm gwerth y dreth sydd mewn perygl ar draws risgiau treth 1, 2 a 3 (a nodir yn unigol yn siartiau 8 i 10 ), yn ôl chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2020.


Mae'r siart uchod yn dangos y newid mewn risg treth ar draws y 3 risg treth TTT a nodwyd gennym ar ddechrau'r flwyddyn:

  1. cwmni sy'n prynu eiddo preswyl
  2. ffurflen dreth sy'n ddyledus
  3. anghytuno â’r gyfrifiannell TTT

Cynhaliwyd amrywiaeth o weithgareddau drwy gydol y flwyddyn i leihau'r risgiau treth hyn.

Wrth ddadansoddi'r siart uchod gallwn weld, yn chwarter 1 2019-20, ein bod wedi derbyn dros 70 o ffurflenni sy'n debygol o gynnwys camgymeriad ar draws y 3 risg treth TTT, a gyda'i gilydd roedd ganddynt risg dreth gyfunol o tua £260,000. Pe bai hynny wedi parhau trwy bob chwarter, byddai'n gyfystyr â thros 280 o achosion a thros £1 filiwn o dreth heb gael ei thalu’n gywir yn flynyddol.

Drwy fynd i'r afael â'r risgiau hyn, rydym wedi gallu lleihau lefel y trafodiadau chwarterol i ychydig dros 30 o achosion ac ond £120,000 o dreth mewn perygl o fewn dim ond 1 flwyddyn, sy'n golygu bod ein cyfradd gwallau posibl a cholli trethi wedi mwy na haneru.

Drwy leihau swm y dreth y gellid ei cholli yn y dyfodol yn sgil camgymeriadau tebyg gan bobl, rydym wedi helpu i ddiogelu treth o dros £300,000 eleni. Amcangyfrifwn fod hyn wedi diogelu rhwng £400,000 a £550,000 o dreth yn flynyddol ar gyfer y dyfodol. Mae'r ystod yn dibynnu ar y gwahanol ddulliau y gellid eu defnyddio i gyfrifo'r golled dreth yn y dyfodol yn seiliedig ar flwyddyn o ddata. Serch hynny, gan dybio nad yw'r risgiau treth yn cynyddu yn y dyfodol, a gallwn olrhain hynny drwy ein data, amcangyfrifwn fod gwerth y dreth a ddiogelwyd ar gyfer y 3 blynedd nesaf rhwng £1.2 miliwn ac £1.6 miliwn.

Yn y cyfnod cynnar hwn o fesur ein dull o reoli risg treth, rydym wedi defnyddio sawl dull i amcangyfrif y dreth a ddiogelir o fewn unrhyw ystod. Credwn y bydd angen o leiaf 2 flynedd o ddata arnom i fod yn hyderus yn ein rhagolygon fod ein gweithgareddau yn arwain at ostyngiad cynaliadwy mewn achosion a cholli trethi. Er mai hon yw ein blwyddyn gyntaf o ddefnyddio'r dull hwn, a bod mwy o waith i'w wneud, rydym yn hyderus bod hyn yn dystiolaeth bod ein dull o reoli treth yn gweithio.

Yn y dyfodol, byddwn yn gallu darparu'r dadansoddiad hwn ar draws sawl blwyddyn, gan ymgorffori mwy o risgiau treth wrth iddynt gael eu hamlygu. Po fwyaf o ddata a gynhyrchwn, y mwyaf hyderus y byddwn ein bod wedi llwyddo i leihau risg treth ac wedi diogelu rhag colli treth yn y dyfodol. Er ein bod yn disgwyl gweld amrywiadau blynyddol wrth i ni nodi a gweithio ar risgiau treth newydd, gobeithiwn weld lleihad cyffredinol yn nifer y trafodiadau a threth sydd mewn perygl dros yr hir dymor.

Y tu hwnt i'r 3 phrif faes risg treth, dechreuwyd rhywfaint o weithgarwch tua diwedd 2019-20 ar risgiau TTT newydd eraill sy'n dod i’r amlwg. Byddwn yn adrodd ar effaith y gweithgareddau hynny y flwyddyn nesaf.

Rydym yn darparu mwy o fanylion, ynghyd â dadansoddiad o bob risg treth yn adran Dadansoddiad o berfformiad: sicrhau ein bod yn deg yr adroddiad isod. 

Amcan 2: sicrhau ein bod yn deg – bod treth yn cael ei chasglu a'i had-dalu

Yn ogystal â diogelu treth rhag cael ei cholli yn y dyfodol drwy fynd i'r afael â gwahanol risgiau treth eleni, rydym hefyd wedi casglu swm ychwanegol o £1.9 miliwn trwy nodi gwallau a arweiniodd at dandalu treth. Ac rydym wedi ad-dalu tua £190,000 i drethdalwyr trwy ganfod gwallau a arweiniodd at ordalu treth.

Mae llawer o'r gwallau sy'n arwain at dandalu treth yn deillio o achosion o fewn y prif risgiau treth TTT (1 i 3). Gan ein bod wedi lleihau'r risgiau treth hyn drwy gydol y flwyddyn, dylai fod llai o wallau yn y meysydd hyn yn y dyfodol. Disgwyliwn weld llai o ffurflenni treth sydd angen cywiriadau yn y meysydd hyn yn y dyfodol, wrth i fwy o bobl gael pethau'n iawn ar y cynnig cyntaf.

Bydd yn cymryd amser i leihau risgiau treth. Disgwyliwn nodi unrhyw risgiau treth newydd a rhai a ddaw i'r amlwg, yn enwedig wrth i amgylchiadau newid. Drwy nodi a gweithredu er mwyn lleihau unrhyw risgiau treth eraill bydd llai o wallau'n cael eu gwneud ar draws y system dreth gyfan, a bydd llai o dreth i’w chasglu neu ei had-dalu er mwyn cywiro gwallau – felly bydd mwy o bobl yn talu'r dreth gywir ar y cynnig cyntaf o ganlyniad i’n dull o weithredu.

Trafodir hyn ymhellach yn yr adran Dadansoddiad o berfformiad: sicrhau ein bod yn deg.

Amcan 3: bod yn fwy effeithlon

Rydym wedi gwneud sawl gwelliant eleni sydd wedi arwain at leihad yn y prosesau a wneir â llaw, gan ryddhau adnoddau a’n caniatáu i ganolbwyntio ar weithgareddau sy'n gwneud gwahaniaeth i'n trethdalwyr a'u cynrychiolwyr, megis gwasanaethau cymorth a gweithgareddau addysgol ac ymgysylltu.

Rydym wedi sicrhau ein bod, o wneud y newidiadau hynny, wedi creu gwerth am arian drwy fuddsoddi mewn gwelliannau sy'n sicrhau manteision tymor hwy i'n pobl, ein trethdalwyr, a'u cynrychiolwyr, a'n bod yn parhau i feithrin ein gwydnwch.

Rydym yn parhau i weld tuedd gynyddol yn nifer y trafodiadau awtomataidd wrth i ni symud ymlaen tuag at ein lefel darged o awtomeiddio. Cyflawnwyd hyn yn bennaf drwy gynyddu’r nifer sy'n ffeilio ac yn talu trwy ddulliau electronig.

Ddiwedd mis Tachwedd 2019, gwnaethom weithredu system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) newydd. Mae hyn wedi gwella ein heffeithlonrwydd drwy ganiatáu i ni awtomeiddio mwy ar sawl un o’r prosesau a wneir â llaw. Roedd hefyd yn rhoi gwell profiad i drethdalwyr a'u cynrychiolwyr wrth iddynt gysylltu â ni – drwy ein galluogi ni i ddod â gwybodaeth pob trethdalwr ynghyd mewn un lle er mwyn caniatau i ni ymdrin â phob math o ymholiadau mewn un sgwrs.

Mae'r system hefyd wedi gosod sylfaen ar gyfer gwelliannau digidol pellach ar gyfer ein pobl ni trwy greu arbedion effeithlonrwydd yn y dyfodol; tybiwn y bydd hyn yn golygu y caiff ein trethdalwyr a'u cynrychiolwyr brofiadau gwell yn gyffredinol.

Rydym hefyd wedi gwella'r ffordd y gwnaethom reoli dyled eleni. Sefydlwyd system rheoli dyledion newydd gennym sy'n awtomeiddio rhannau o'r broses atgoffa a chysylltu, gan alluogi ein timau cyllid a dyled i ganolbwyntio eu hadnoddau ar y rhai sydd angen cymorth ariannol (y rhai na all fforddio talu mwyach), yn ogystal â bod yn rhagweithiol wrth fynd ar ôl dyledion a gorfodi taliadau gan y rhai a allai dalu'n brydlon ond sy’n dewis peidio â gwneud hynny.

Gweler rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran Dadansoddiad o berfformiad: bod yn fwy effeithlon.

Amcan 4: adeiladu gallu

Er mwyn sicrhau bod ein pobl wedi ymgysylltu, canolbwyntiwyd ar:

  • roi blaenoriaeth a chefnogaeth barhaus iddyn nhw a’u llesiant
  • cynnig rolau diddorol gyda lefelau uchel o ymreolaeth
  • talu cyflogau Cyflog Byw a darparu buddion teg

Dyma rai o'n dangosyddion o'n cynnydd:

  • mae’r ACC wedi dod yn ail o blith dros 100 o gyflogwyr y Gwasanaeth Sifil yn yr Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2019
  • gwelwyd sgorau uchel yn enwedig ym meysydd 'fy ngwaith', 'amcanion a phwrpas sefydliadol', 'fy nhîm', 'cynhwysiant a thriniaeth deg', a 'thâl a buddion'
  • mae 100% o'n pobl yn ennill mwy na Chyflog Byw'r Sefydliad Cyflog Byw

Y gwir brawf o’n hymgysylltiad a’n diwylliant oedd gallu ymateb mor gyflym a chadarnhaol i'r her sylweddol o orfod symud y gweithlu cyfan i weithio gartref ddwywaith mewn 2 fis (ym mis Chwefror ac yna o fis Mawrth 2020).

Eleni, dechreuom weithio ar ein strategaeth Cymraeg er mwyn hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yn fewnol. Byddwn yn gweithredu hyn yn ystod 2020-21.

Eleni dechreuom Bartneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru, gyda Chwaraeon Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i ddechrau, ac rydym yn falch ei fod wedi tyfu ers hynny i gynnwys 10 corff cyhoeddus. Ein gobaith yw y cawn, drwy gydweithio, effaith gadarnhaol gryfach ar y ddarpariaeth deg a chyfartal o wasanaethau cyhoeddus, gan gyfrannu'n sylweddol at fynd i'r afael ag anghydraddoldebau fel y nodir yn adroddiad 'A yw Cymru'n Decach, 2018'.

Mae’r Bartneriaeth wedi cyfuno ei hadnoddau, ei mewnwelediad, a'i harbenigedd i greu 5 amcan cydraddoldeb strategol ar y cyd, ac maent wedi datblygu cyfres o gamau gweithredu a mesurau ar gyfer y 4 blynedd nesaf. Cyhoeddwyd y rhain yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 i 2024. Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ein cynnydd yn 2019-20.

Rydym wedi parhau i greu a chynnal diwylliant cynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu cyflawni eu potensial. Rydym yn cyhoeddi ein Hadroddiad Cydraddoldeb yn flynyddol er mwyn rhannu ein cynnydd yn erbyn ein hamcanion cydraddoldeb a hefyd ein hystadegau amrywiaeth fel cyflogwr. Gan ein bod ni’n sefydliad bach, yn aml nid yw’n briodol i ni gyhoeddi ein hystadegau gan ein bod yn ymdrechu i ddiogelu preifatrwydd unigolion. Nid ydym yn cyhoeddi ystadegau sy'n ymwneud â grwpiau o lai na 5 o bobl. Mewn achos o'r fath, byddwn yn darparu naratif.

Mae ein Hadroddiadau a'n Hamcanion blaenorol ar gael ar ein gwefan, a bydd ein Hadroddiad Cydraddoldeb ar gyfer 2019 i 2020 yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2021.

Gweler rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran Dadansoddiad o berfformiad: adeiladu gallu.

Gwneud y gorau o’n rôl er budd Cymru

Rydym wedi gwneud cynnydd da o ran ein hamcanion Data a Dylunio:

Data

Rydym wedi dod â'r prif randdeiliaid ynghyd, drwy gyfres o weithdai, er mwyn adnabod meysydd sydd o ddiddordeb cyffredin, i rannu gwersi ac arfer gorau, ac i ddechrau trafod cynllun peilot rhannu data ar gyfer y dyfodol.

Cyhoeddwyd data estynedig a manwl gennym ar TTT a TGT ac rydym wedi gweithio gyda defnyddwyr i sicrhau bod y data a gyhoeddwn yn ateb eu cwestiynau.

Dylunio

Rydym wedi sefydlu gweithgor dylunio i ddwyn ynghyd yr ystod o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer dylunio gwasanaethau o'r dechrau i'r diwedd. Mae'r grŵp yn rhychwantu ACC a Llywodraeth Cymru yn ehangach. Rydym wedi cefnogi dyluniad cynnar trethi newydd posibl ac wedi datblygu fframwaith dylunio y gellir ei ddefnyddio yn y dyfodol.

Gweler rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran Dadansoddiad o berfformiad: adran 5 – dylunio, ac adran 6 - data.

Ein Siarter

Mae’r gwerthoedd a'r ymddygiadau yn 'Ein Siarter' yn adlewyrchu sut rydym yn gweithio. Mae ein pobl yn gweithio mewn ffordd gydweithredol gyda'i gilydd yn ogystal â gyda threthdalwyr, eu cynrychiolwyr, a rhanddeiliaid eraill, er mwyn gwella'r gwasanaeth a gynigiwn. Deall sut i gyflawni'r gwerthoedd yn ein Siarter yn effeithiol oedd y sylfaen wrth ddatblygu 'Ein Dull' sy’n pennu ffordd Gymreig o wneud treth.

Gan fyfyrio ar ein hail flwyddyn, rydym yn falch bod gwerthoedd ac ymddygiadau 'Ein Siarter' ac 'Ein Dull' eisoes wedi'u hymgorffori yn ein dulliau gwaith a’n dewisiadau. Ceir tystiolaeth o hyn drwy gydol yr Adroddiad Blynyddol hwn ac rydym wedi darparu crynodeb ar ddiwedd yr Adroddiad ar Berfformiad.

Rhan 3: effaith coronafeirws (COVID-19)

Trwy gydol y pandemig coronafeirws, ein blaenoriaeth yw cefnogi ein pobl i ofalu am eu hunain a'u hanwyliaid, tra’n gwneud pob ymdrech i barhau i ddarparu ein gwasanaethau treth.

Mae arweinyddiaeth ein tîm gweithredol, Tîm Arwain, ynghyd â goruchwyliaeth strategol ein Bwrdd wedi bod yn allweddol yn ystod y cyfnod. Mae llywodraethiant y sefydliad wedi cael ei adolygu'n llwyr drwy gydol y cyfnod hwn, ac wedi'i addasu pan fo angen er mwyn sicrhau ei fod yn gadarn. Ceir rhagor o fanylion am hyn yn y datganiad Llywodraethiant.

Mae cau marchnad dai Cymru am ran helaeth o chwarter 1 yn 2020-21 wedi lleihau'r refeniw treth rydym yn ei gasglu a'i reoli. Mae hefyd wedi gohirio gweithgareddau rheoli risg treth a gynlluniwyd ar gyfer y cyfnod hwn. Cafodd rhai o'n hymholiadau treth presennol eu gohirio dros dro nes ei bod yn briodol parhau â'r gwaith hwnnw. Rydym hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer y trethdalwyr sydd angen cymorth ariannol.

Ym mis Mawrth 2020, gohiriwyd yr holl waith recriwtio arfaethedig, gan effeithio ar ein capasiti mewn rhai meysydd o'n busnes. Fodd bynnag, mae hyn wedi cyd-fynd â gostyngiad cyffredinol yn y galw mewn meysydd eraill. Rydym oll wedi cydweithio i leihau effaith hyn. Serch hynny, wrth i'r galw am ein gwasanaethau ddechrau cynyddu, efallai y daw’n anoddach ei reoli. Gobeithiwn y bydd ein cynllun uchelgeisiol i ail-ddechrau recriwtio yn lleddfu rhywfaint ar hyn.

Penderfynwyd gohirio rhai prosiectau arfaethedig ym mis Chwefror a Mawrth oherwydd effaith coronafeirws a’r llifogydd ar ein pencadlys. Bydd gohirio'r gwaith hwn yn 2020-21 yn arwain at bwysau cyflawni a chyllidebol y flwyddyn nesaf, ond mae gennym gynlluniau ar waith i reoli hyn.

Rydym yn ymwybodol y bydd coronafeirws yn effeithio ar ein sefydliad, ein pobl, a'r rhai rydym yn gweithio gyda hwy trwy weddill 2020-21 hefyd. Byddwn yn parhau â'n dull cefnogol o ymdrin â'n pobl ein hunain a'n trethdalwyr o ran y ffordd yr ydym yn casglu ac yn rheoli treth, fel y gallwn barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gasglu refeniw hanfodol i Gymru.

Rhan 4: dadansoddiad o berfformiad

Mae'r data a geir yn yr adran hon wedi'i gyhoeddi mewn cyd-destun ystadegol er mwyn tryloywder a dadansoddi pellach. Gweler yr atodiad hwn i ddatganiad ystadegol blynyddol ACC ar gyfer 2019-20.

Adran 1: ei gwneud yn haws i bobl dalu'r dreth gywir

Rydym eisiau cefnogi pobl trwy ei gwneud yn hawdd iddynt:

  • dalu'r swm cywir o dreth
  • defnyddio ein gwasanaethau digidol

Sut oedd ein perfformiad eleni?

Rydym wedi canolbwyntio ar wella a hyrwyddo cyfleoedd i drethdalwyr a'u cynrychiolwyr roi adborth am ein gwasanaethau ac awgrymu ffyrdd y gallwn ni wella.

Rydym wedi defnyddio'r adborth a'r hyn a ddysgwyd o'n blwyddyn gyntaf i nodi a datblygu gwahanol ddulliau o gyflawni'r amcan Haws, gan gynnwys gwella ein gwasanaethau digidol a datblygu digwyddiadau a gweminarau treth.

Adborth a mewnwelediad cwsmeriaid

Ychwanegwyd arolygon ymadael newydd at ein ffurflenni ar-lein, ein canllawiau technegol, a'n cyfrifiannell dreth er mwyn derbyn mwy o adborth ar ein gwasanaethau. Roeddem hefyd yn annog pobl i roi adborth yn ein gweminarau a’n fforymau treth.

O ganlyniad, gwelwyd cynnydd yn yr adborth a dderbyniwyd, o ychydig dros 10 darn y mis i rhwng 100 a 130 darn y mis.

Rydym wedi safoni ein cwestiynau er mwyn gwella ansawdd ein hadborth. Wrth adolygu adborth, roeddem hefyd yn cysylltu pob darn o adborth gyda'n gwasanaeth. Roedd hyn yn gwneud ein proses newid yn fwy effeithiol ac effeithlon.

Un o'n mesurau perfformiad yw pa mor hawdd yw hi i bobl ddefnyddio’n gwasanaethau. Ar draws yr holl adborth:

  • roedd 88% o ymatebwyr o'r farn bod ein gwasanaethau'n hawdd i'w defnyddio
  • roedd 71% yn canmol
  • cawsom 4 cwyn. Cafodd pob un ei datrys yn ystod y cam cyntaf, ac nid oedd angen cyfeirio'r un ohonynt at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Aethom ati i gyfuno’r gweithgaredd hwn gyda gwybodaeth am ein gwasanaethau o ystod eang o ffynonellau, e.e. dadansoddi ein hadolygiadau statudol a chael defnyddwyr i brofi ein system dreth.

Datblygu ein mewnwelediad cwsmeriaid

Defnyddiwyd yr ystod eang o ffynonellau adborth wrth ddatblygu ein mewnwelediad cwsmeriaid. Roedd hyn yn ein galluogi i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o'n trethdalwyr a'u cynrychiolwyr, gan gynnwys eu hymddygiad, eu dewisiadau, a'u hanghenion.

Mae hyn wedi rhoi gwell dealltwriaeth i ni o bwy sy'n defnyddio ein gwasanaethau a sut y cânt eu defnyddio, gan ein galluogi i deilwra ein hymgysylltiadau, ein hyfforddiant, a'n dyluniad o wasanaethau er mwyn diwallu gwahanol anghenion.

Mae defnyddio mewnwelediad cwsmeriaid i wneud gwelliannau wedi bod yn broses barhaus i ni. Rydym wedi sicrhau bod pob rhan o'r sefydliad fynediad i’r adborth a’r hyn a ddysgwyd o'r gwaith hwn, a’u bod yn ei ddeall, fel y gallem ddod â’n sgiliau cyfunol ynghyd er mwyn gwneud gwelliannau. 

Mae datblygu ein mewnwelediad cwsmeriaid hefyd wedi ein galluogi i helpu mwy o bobl i gael pethau'n iawn ar y cynnig cyntaf ac i leihau nifer o risgiau treth. Rydym yn egluro mwy am hyn yn adran nesaf yr adroddiad (sicrhau ein bod yn deg).

Mae gweddill yr adran hon yn esbonio'r gwahanol ffyrdd rydym wedi datblygu ein gwasanaethau er mwyn ei gwneud yn haws i bobl dalu'r dreth gywir a defnyddio ein gwasanaethau digidol.

Astudiaeth achos: ad-daliad cyfradd uwch TTT

Sefyllfa

Pan gynlluniwyd ein gwasanaethau TTT yn wreiddiol, roeddem yn meddwl y byddai'r rhan fwyaf o'n trethdalwyr yn defnyddio cynrychiolydd, megis cyfreithiwr neu drawsgludydd cyfreithiol, a oedd eisoes â phrofiad o dreth dir y dreth stamp a fodolai yng Nghymru nes iddi gael ei disodli gan y TTT ym mis Ebrill 2018.

O edrych ar yr adborth, cawsom wybod bod nifer gynyddol o drethdalwyr yn defnyddio rhai o'n gwasanaethau heb gymorth cynrychiolydd, wrth ymwneud ag ad-daliad cyfraddau uwch y TTT pan werthir prif breswylfa er enghraifft. Gwelsom fod mwy na hanner yr ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu hawlio'n uniongyrchol gan y trethdalwr. 

Rydym wedi defnyddio adborth, ynghyd â dadansoddiadau o'n gwefan ac ymchwil defnyddwyr, i nodi sawl anhawster yr oedd pobl yn ei gael gyda'r ffurflen a'r broses, a defnyddiwyd y wybodaeth honno i ddatblygu amrywiaeth o ddatrysiadau.

Dull

Er mwyn ei gwneud yn haws i drethdalwyr hawlio ad-daliadau heb gynrychiolaeth rydym wedi:

  • cyhoeddi Canllaw cyflym cyfraddau uwch TTT sydd wedi’i greu ar gyfer trethdalwyr yn benodol
  • ei gwneud yn haws dod o hyd i'r ffurflen ar ein gwefan, gan ddefnyddio’r arfer gorau wrth ddylunio’r cynnwys
  • ychwanegu canllawiau ar ddechrau'r broses ffurflen TTT i egluro pa wybodaeth sydd ei hangen, fel bo modd i’r rhai amhrofiadol sicrhau fod y cyfan wrth law wrth iddynt ddechrau llenwi'r ffurflen ad-daliad
  • gwella'r ffurflen ad-daliad cyfraddau uwch TTT drwy leihau nifer y cwestiynau, symleiddio'r iaith a ddefnyddir, ac ychwanegu testun cymorth er mwyn egluro meysydd cymhleth
  • lansio arolwg ymadael newydd ar y ffurflen ar-lein i roi cyfle i bobl roi adborth cyn gynted ag y bônt wedi defnyddio'r gwasanaeth 
Canlyniad

O wneud ein gwaith mewnwelediad cwsmeriaid, rydym wedi dysgu sut mae pobl yn defnyddio ein gwasanaethau. Rydym wedi gwrando ar adborth ac wedi gwneud gwelliannau, gan ei gwneud yn haws i drethdalwyr ddefnyddio'r ffurflen.

Cyn gwneud y gwelliannau hyn, roeddem yn derbyn adborth yn rheolaidd gan ddefnyddwyr a oedd yn ei chael yn anodd deall y rheolau a chwblhau'r ffurflen ad-daliad cyfraddau uwch. Ers gwneud y newidiadau, rydym wedi derbyn llawer llai o adborth gan bobl sy'n cael anhawster, sy'n dweud wrthym fod pobl yn ei chael hi'n haws i'w defnyddio.

Gwella ein system a’n hoffer treth

Gall cynrychiolwyr trethdalwyr TTT a gweithredwyr safleoedd tirlenwi ('defnyddwyr') gofrestru ar gyfer cyfrif ar-lein a ffeilio ffurflenni treth gan ddefnyddio’n system dreth. Erbyn diwedd y flwyddyn hon roedd gennym tua 7,500 o ddefnyddwyr cofrestredig.

Mae ein system dreth wedi'i chynllunio er mwyn ei gwneud yn hawdd i ddefnyddwyr cofrestredig ffeilio ffurflen dreth a thalu'r dreth gywir. Mae'n eu tywys drwy bob cam o'r ffurflen, gan eu helpu i lywio i'r adrannau sy'n berthnasol i'w hamgylchiadau nhw. Mae'n cynnwys awgrymiadau ac arweiniad, er mwyn sicrhau eu bod gwybod pa wybodaeth i'w rhoi i ni. Ac mae opsiwn 'toggle' sy'n galluogi pobl i symud rhwng y Gymraeg a'r Saesneg yn ddi-dor – rhywbeth sy’n arbennig o ddefnyddiol i'r rhai sy'n dysgu Cymraeg.

Gan ddefnyddio rhywfaint o'r buddsoddiad o £500,000 a dderbyniwyd yn yr hydref (2019) ar gyfer newid digidol, aethom ati i wneud sawl gwelliant i'n system dreth. Rydym wedi:

  • ailgynllunio 2 adran o'r system dreth ar gyfer TTT er mwyn lleihau gwallau cyffredin fel bod mwy o bobl yn talu'r dreth gywir y tro cyntaf
  • cyflwyno sawl adran newydd i'r system dreth ar gyfer TGT er mwyn lleihau'r posibilrwydd o gamgymeriadau
  • ychwanegu canllawiau gwell, rhai swyddogaethau cyn-boblogi, a chyfrifiannell dreth newydd i wneud y system TGT newydd yn haws i'w defnyddio
  • gwella ymarferoldeb y rhan dreth o'r system dreth ar gyfer TTT er mwyn ei gwneud yn haws i bobl reoli eu cyfrifon eu hunain. Mae hyn hefyd wedi creu arbedion effeithlonrwydd drwy leihau faint o brosesu â llaw sydd angen ei wneud

Cynhaliwyd adolygiad hefyd o hygyrchedd ein gwefan a'n gwasanaethau digidol, gan gynnwys ein system dreth. Roedd hyn yn ein galluogi i greu map ffordd i gwrdd â'r Safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.1 erbyn mis Medi 2021. Rydym yn bwriadu defnyddio ein gallu digidol mewnol i gyflwyno rhai o'r newidiadau hyn y flwyddyn nesaf. Gallwch weld rhagor o wybodaeth yn ein datganiad hygyrchedd.

Mae ein dadansoddiadau'n dangos bod un o'n dulliau digidol mwyaf poblogaidd, y gyfrifiannell TTT, wedi'i defnyddio tua 152,000 o weithiau yn 2019-20. Gan sylweddoli poblogrwydd offer o'r fath, rydym wedi datblygu offeryn digidol newydd i helpu pobl i wybod os yw’r gyfradd uwch o TTT yn berthnasol iddynt hwy neu beidio. Seiliwyd y dyluniad ar ein mewnwelediad cwsmeriaid. Fe’i profwyd yn llwyddiannus gan sawl defnyddiwr a gwnaed sawl gwelliant yn seiliedig ar eu hadborth a'u hymatebion. Ein nod yw rhyddhau'r offeryn hwn eleni (2020-21).

Newid i ddigidol

Un o'n mesurau perfformiad yw’r nifer o bobl sy'n ffeilio ffurflenni treth drwy ein system dreth ar-lein o'i gymharu â defnyddio ffurflenni treth papur. Yn ogystal â'r manteision a amlinellir uchod, mae ffurflenni ffeilio drwy ein system dreth yn fwy effeithlon gan ei fod yn golygu llai o brosesu â llaw.

Siart 2: Canran y ffurflenni TTT a dderbyniwyd ar bapur, yn ôl y mis y’u derbyniwyd
Image
Mae Siart 2 yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfres fisol y canran o ffurflenni Treth Trafodiadau Tir a dderbyniwyd ar bapur ar gyfer 2018-19 a 2019-20, ochr yn ochr â 2 linell wastad sy'n cynrychioli ystod darged o 0 i 2 bwynt canran.


Mae'r siart uchod yn dangos canran y ffurflenni treth papur a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn, ffeiliwyd gweddill y ffurflenni treth gan ddefnyddio ein system dreth ar-lein. Arhosodd cyfran y ffurflenni papur yn is na 2% drwy gydol y flwyddyn, sy'n golygu bod cyfran y ffurflenni treth a gafodd eu ffeilio drwy ein system dreth yn cyrraedd ein targed o 98%.

Cyflawnwyd hyn drwy wneud gwelliannau i'n system dreth a thrwy ymgysylltu â chynrychiolwyr trethdalwyr a darparwyr meddalwedd er mwyn helpu pobl i symud oddi wrth bapur tuag at ffeilio digidol.

Taliadau digidol

Cynyddwyd nifer y taliadau a wnaed drwy ddulliau digidol hefyd. Erbyn diwedd 2019-20, roedd wedi cyrraedd 93%, ffigwr uwch na'n targed 3 blynedd (90%). Mae hyn wedi gwella ein heffeithlonrwydd a'n lefelau awtomeiddio. Rydym wedi cynnwys dadansoddiad pellach, gan gynnwys astudiaeth achos, yn yr adran bod yn fwy effeithlon isod. 

Helpu trethdalwyr a'u cynrychiolwyr (TTT)

Yn ogystal â'n system dreth, rydym wedi parhau i wella'r ystod o wasanaethau cymorth a gynigiwn er mwyn ei gwneud yn haws i drethdalwyr a'u cynrychiolwyr dalu'r dreth gywir ar yr adeg iawn.

Defnyddiom y wybodaeth a gawsom o'n data, ynghyd ag adborth ar ein gwasanaethau cymorth, i adnabod cyfleoedd i fod yn rhagweithiol wrth helpu ein trethdalwyr a'u cynrychiolwyr. Gwnaethom hyn drwy amrywiaeth o weithgareddau addysgol ac ymgysylltu, megis fforymau treth a gweminarau. Gwelsom fod y rhain yn ffyrdd effeithiol o wella ymwybyddiaeth, sefydlu ymddiriedaeth, ac adeiladu partneriaethau gyda rhanddeiliaid allweddol fel cynrychiolwyr trethdalwyr.

Gwella ein gwefan a'n canllawiau

Mae ein gwefan yn rhan o blatfform ehangach LLYW.CYMRU Llywodraeth Cymru, sy'n canolbwyntio ar gynnwys a arweinir gan ddefnyddwyr. Defnyddiwyd dulliau dylunio cynnwys – dan arweiniad Gwasanaethau Digidol y Llywodraeth – i wella ein cynnwys a thaith y defnyddiwr.

Gwnaethom welliannau sylweddol i'n gwefan, sy'n cynnal ein system dreth a gwasanaethau a chynnwys pwysig eraill, gan gynnwys gwelliannau i'n canllawiau gweithredol a’n canllawiau treth. Gwnaethom fapio mwy na 300 tudalen o gynnwys er mwyn ei adolygu a'i wella. Roedd hyn yn cynnwys ein canllawiau a brofwyd gyda chyrff proffesiynol cyn eu cyflwyno.

Cyhoeddwyd y newidiadau a wnaed i'n canllawiau technegol TTT a’r newidiadau i'n canllawiau TGT er mwyn helpu gweithwyr proffesiynol i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Gyda’i gilydd, darllenwyd ein canllawiau technegol dros 31,000 o weithiau.

Yn seiliedig ar adborth, cyhoeddwyd nifer o ganllawiau newydd a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer trethdalwyr nad oeddent yn defnyddio cynrychiolydd. Darllenwyd Canllaw cyflym cyfraddau uwch TTT dros 5,800 o weithiau rhwng mis Mehefin 2019 a diwedd mis Mawrth 2020.

Y ddesg gymorth a chefnogaeth arbenigwyr treth

Rydym yn angerddol dros wasanaeth cwsmeriaid. Mae ein desg gymorth ddwyieithog a’n harbenigwyr treth yn darparu gwasanaeth cyfeillgar, cefnogol, cywir, ac addysgiadol.

Rydym wedi treulio amser gyda phobl yn ceisio deall a diwallu eu hanghenion a rhoi hyder iddynt wrth ddefnyddio'r wybodaeth rydym yn ei darparu iddynt. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn dod â’n proffesiynau a'n harbenigedd ynghyd i ddatrys ymholiadau mewn modd effeithlon a chywir.

Rydym wedi buddsoddi yn y dull hwn gan ei fod yn helpu pobl i gael pethau'n iawn ar y cynnig cyntaf. Credwn fod y dull hwn yn gwella’r ymddiriedaeth rhyngom ni a threthdalwyr yn ogystal â'u cynrychiolwyr.

Derbyniom dros 8,300 o alwadau drwy ein desg gymorth ddwyieithog, cynnydd o tua 6% o'i gymharu â'r llynedd.

Mae ein desg gymorth treth a chyllid, ynghyd â'r timau treth arbenigol ehangach, yn cefnogi trethdalwyr a'u cynrychiolwyr ar amrywiaeth o faterion treth. Mae ein harbenigwyr treth yn arbenigwyr mewn TTT a TGT a byddant yn cefnogi pobl sydd ag ymholiadau treth mwy cymhleth. Yn ystod 2019-20:

  • ymdriniodd ein harbenigwyr TTT â thros 1,200 o ymholiadau technegol TTT. O'r cyfanswm a dderbyniwyd, darparwyd opiniwn treth ar gyfer 5 o'r ymholiadau mwyaf cymhleth
  • ymdriniodd ein harbenigwyr TGT â 210 o ymholiadau a cheisiadau TGT. O'r cyfanswm a dderbyniwyd, darparwyd opiniwn treth ar gyfer 2 o'r ymholiadau mwyaf cymhleth

Gall trethdalwyr a'u cynrychiolwyr gael mynediad at yr ystod lawn o wasanaethau cymorth yn y Gymraeg neu’r Saesneg gan ddefnyddio ein desg gymorth ddwyieithog, gan gynnwys ein system dreth a'n canllawiau ar-lein. Rydym wedi dechrau datblygu ein strategaeth Gymraeg ein hunain er mwyn hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ar draws ein gwasanaethau. Disgwyliwn ddechrau gweithredu'r strategaeth yn 2020-21.

Datblygu ein ffordd o gyfathrebu

Roeddem am foderneiddio a symleiddio ein ffordd o gyfathrebu er mwyn helpu pobl i dalu'r dreth gywir y tro cyntaf. Buom yn archwilio ffyrdd o ddefnyddio iaith i wella effeithlonrwydd wrth gyfathrebu â gwahanol gynulleidfaoedd. Cyflwynwyd ein ffordd newydd o gyfathrebu yn yr hydref (2019).

Rhoddwyd blaenoriaeth i adolygu ein cyfathrebu gweithredol, gan gynnwys llythyrau, gan gydnabod yr effaith bwysig y gallai hyn ei chael ar bobl sy'n talu treth. Gwnaethom ddiwygio tua thraean o'n rhagor na 140 o lythyrau. Ni osodwyd mesurau penodol ar gyfer y gweithgaredd hwn. Fodd bynnag, mae'n rhan o weithgarwch ehangach sy'n cefnogi pobl i dalu'r dreth gywir.

Addysg, ymgysylltu, a chyfathrebu

Cysylltwyd â thros 500 o'n defnyddwyr yn ystod 14 o ddigwyddiadau ymgysylltu ledled Cymru ac ar-lein. Er mwyn hirhoedledd, datblygwyd fideos byrrach o’r gweminarau i’w huwchlwytho i'n sianel YouTube.

Gwnaethom ymestyn cyrhaeddiad ein sianelau cyfathrebu hefyd, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol, fideos, animeiddiadau, a'n e-gylchlythyr corfforaethol. Er enghraifft, cynyddwyd ein rhestr bostio e-gylchlythyr o 592 o danysgrifwyr i 1,393.

Lansiwyd sianeli newydd gennym, megis LinkedIn, i gyrraedd cynulleidfaoedd mwy proffesiynol ac i gefnogi ein gwaith recriwtio. 

Astudiaeth achos: cyfraddau uwch TTT – addysg ac ymgysylltu

Sefyllfa

Yn ein Cynllun Corfforaethol 2019 i 2022, gwnaethom gynnwys astudiaeth achos ar gyfraddau uwch y TTT. Yr hyn a amlygwyd oedd ein bod wedi dechrau archwilio'r dull o dargedu ymgysylltiad ac o wneud gwelliannau digidol er mwyn helpu cynrychiolwyr trethdalwyr i ffeilio a thalu trafodiadau cyfradd uwch yn gywir. Dangosodd ein hymchwil mai'r gyfradd uwch oedd y pwnc mwyaf poblogaidd ar gyfer ymholiadau technegol TTT unwaith eto.

Dull

Gwnaethom fireinio ein gweminarau a'n fforymau treth, gan gynnal ein ffocws ar y gyfradd uwch, a’u dadelfennu i'w wneud yn fwy hygyrch, ac ychwanegwyd rhai pynciau newydd. Fe'u datblygwyd hefyd i ganolbwyntio'n benodol ar anghenion y rhai sy'n ffeilio ffurflenni TTT.

Cyflwynwyd nifer o weithdai gennym a oedd yn canolbwyntio ar feysydd mwyaf cymhleth TTT. Roedd ein hymchwil yn nodi’r meysydd lle’r oedd pobl eisiau gwybodaeth amlaf. Gwnaethom hefyd ddarparu taflenni, ychwanegu enghreifftiau, a pharhau i fireinio'r deunydd drwy gydol y flwyddyn yn seiliedig ar yr adborth a gafwyd o’n digwyddiadau.

Er mwyn adeiladu ar y digwyddiadau hyn, cynhaliwyd ymgyrch gyfathrebu gan ddefnyddio fideo a chyfryngau cymdeithasol. Aethom hefyd i ddigwyddiadau Cymdeithas y Cyfreithwyr mewn gwahanol rannau o Gymru er mwyn cyflwyno hyfforddiant ar y cyfraddau uwch.

Ym mhob un o'r digwyddiadau hyn, anogwyd cynrychiolwyr trethdalwyr i siarad â'n harbenigwyr treth yn uniongyrchol. Cynigiodd ein harbenigwyr ganllawiau technegol a thrafodwyd meysydd lle’r oedd anawsterau cyffredinol. Defnyddiom y digwyddiadau i hyrwyddo ein gwasanaethau cymorth ac i annog pobl i gysylltu â ni gydag ymholiadau yn y dyfodol.

Canlyniad

Rydym wedi derbyn adborth cadarnhaol gan y rhai a fynychodd yn y fforymau treth a’r gweminarau, gan gynnwys:

... mae’r 3 gweminar ... wedi gwneud fy nealltwriaeth o gyfradd uwch TTT yn fwy eglur o lawer i mi

Roedd yn ddigwyddiad ardderchog, a chafwyd cyflwyniadau difyr a llawn gwybodaeth gan y ddau siaradwr – rhywbeth annisgwyl wrth drafod treth

... gwneud i bwnc anodd ymddangos yn hawdd

Mae rhai cynrychiolwyr trethdalwyr wedi gweithio gyda ni yn sgil hyn er mwyn cywiro camgymeriadau ar ffurflenni TTT blaenorol, camgymeriadau a nodwyd ganddynt oherwydd eu bod wedi mynychu ein digwyddiadau.

Mae'r fformat newydd ar gyfer y digwyddiadau wedi annog deialog mwy agored a thryloyw rhyngom ni a’r mynychwyr. Mae hyn wedi galluogi pobl i rannu adborth ar feysydd mwy heriol o TTT lle croesewir rhagor o gymorth.

Yn gyffredinol, rydym wedi gallu cefnogi mwy o bobl i gael pethau'n iawn yn y dyfodol drwy'r gwaith hwn ac, yn y broses, wedi dod i adnabod rhai o'r bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau'n well.

Adran 2: sicrhau ein bod yn deg

Yn ogystal â chefnogi pobl i dalu'r dreth gywir ar yr adeg iawn (rhan o ei gwneud yn haws), byddwn yn:

  • deg, yn gyson, ac yn gyfiawn yn y ffordd rydym yn casglu ac yn rheoli treth
  • lleihau gwallau ac yn atal cyfleoedd i bobl efadu talu treth
  • cymryd camau cymesur pan fydd pobl yn gwneud camgymeriadau damweiniol neu fwriadol

Rheoli risg treth

Er mwyn cyflawni'r amcan hwn, rydym wedi datblygu ein ffordd ein hunain o gasglu a rheoli treth, dull sy'n canolbwyntio ar reoli 'risgiau treth'. Gwnaethom weithredu'r dull hwn yn 2019-20, a byddwn yn cyflwyno mwy o fanylion nag arfer yn yr adroddiad hwn o ran y dull gweithredu a’n dulliau o fesur perfformiad o ran y gweithgareddau hyn.

Beth yw 'risg treth'?

Rydym yn cydnabod bod rhai elfennau o'r system dreth yn fwy cymhleth neu'n anoddach eu dehongli nag eraill. Mae’r ddwy dreth ddatganoledig yn rhai a hunanasesir, felly’r trethdalwr sy'n gyfrifol am gyfrifo eu trethi dyledus a chyflwyno eu ffurflenni treth. Efallai na fydd pobl yn talu'r swm cywir o dreth ar yr adeg gywir os nad ydym yn eu helpu i ddeall sut i gymhwyso'r rheolau'n gywir.

Er enghraifft, gallai risg treth fod yn grŵp o drethdalwyr sy'n defnyddio’r gyfradd dreth anghywir ar gyfer eu trafodiad am eu bod wedi camddeall i bwy y dylai'r gyfradd fod yn berthnasol. Mae hyn yn golygu eu bod yn talu'r dreth anghywir am nad ydynt wedi deall y rheolau. Os na awn i'r afael â'r risg dreth, gallai arwain at ragor o achosion o bobl yn gwneud hyn yn anghywir ac yn cyfrifo’r dreth yn anghywir.

Sut mae'n gweithio?

Y safbwynt cychwynnol yw’r gred y dylai’r system dreth fod yn deg ac yn gyson, gyda threthdalwyr yn talu'r un swm o dan yr un amgylchiadau.

Rydym wedi datblygu ein gallu i ddadansoddi data a chael gwell dealltwriaeth o’r wybodaeth a gawn o’r 60,000 o ffurflenni treth a gyflwynir gan drethdalwyr a'u cynrychiolwyr bob blwyddyn. Rydym hefyd yn defnyddio data sydd ar gael i'r cyhoedd yn ogystal â data a gesglir yn ddiogel gan bartneriaid, megis Cofrestrfa Tir EM.

Rydym yn cyfuno’n dadansoddiad o ddata gyda’r hyn a ddysgwn o ymholiadau, o ddata gweithredol, ac o waith mewnwelediad cwsmeriaid. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth gyfunol hon ochr yn ochr ag arbenigedd cynyddol ein sefydliad er mwyn nodi tueddiadau, risgiau treth sy'n dod i'r amlwg, a risgiau treth posibl yn gynnar.

Rydym yn ymgymryd â gweithgarwch ymgysylltu ac ymchwil er mwyn datblygu dealltwriaeth gyflawn o'r risgiau treth. Rydym yn ymgysylltu â'n sefydliadau partner, megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyllid a Thollau EM, a Revenue Scotland, i drafod y risgiau treth a'r tueddiadau sy'n dod i'r amlwg, ac rydym yn ymgysylltu â chyrff proffesiynol, trethdalwyr, a'u cynrychiolwyr er mwyn deall yr amgylchiadau sy'n gysylltiedig â risg treth.

Gwyddom fod rhai achosion o fewn risgiau treth yn gallu arwain at wahaniaeth barn rhyngom ni a'r trethdalwr. Rydym yn cydweithio â'r trethdalwr i ddatrys y materion hyn.

Mae'r gweithgaredd ymgysylltu hwn yn hanfodol er mwyn deall pam y gallai gwallau ddigwydd yn y meysydd hyn, fel y gallwn ddatblygu datrysiadau effeithiol, wedi'u targedu.

Drwy annog arloesedd a chydweithredu o fewn ein sefydliad, rydym wedi gallu dod â'n pobl i gyd at ei gilydd er mwyn cyflawni'r strategaeth hon mewn ffordd sy'n arwain at ganfod y datrysiadau gorau ar gyfer pob risg treth. O wneud hyn, rydym yn gwneud y defnydd gorau o'r sgiliau a'r arbenigedd sydd i’w cael ar draws y sefydliad.

Yn bwysicaf oll, mae'r dull hwn o fudd i'n trethdalwyr sy’n cael pethau'n iawn ar y cynnig cyntaf, yn ogystal â phobl Cymru, gan ei fod yn rhoi gwell gwerth am arian. O wneud hyn, rydym yn gwneud y defnydd gorau o'r sgiliau a'r arbenigedd sydd i’w cael ar draws y sefydliad.

Er bod llawer o anghywirdebau’n deillio o gamgymeriad neu gamddealltwriaeth, rydym yn cydnabod y gall rhai pobl fod yn mynd ati’n fwriadol i dalu llai nag sy’n ddyledus. Ein dull gweithredu’r adegau hynny yw annog newid mewn ymddygiad a'i gwneud mor anodd â phosibl i bobl beidio â thalu'r hyn sy’n ddyledus. Gallwn nodi achosion o efadu mewn amser real gan ddefnyddio’r un mecanwaith a sefydlwyd i nodi risg treth. Rydym yn defnyddio'r ystod lawn o bwerau cyfreithiol i adennill treth goll yn yr achosion hynny, gan gynnwys defnyddio cosbau.

Sut rydym yn mesur effaith?

Rydym wedi datblygu amcanion strategol newydd ar gyfer 2019-22 ynghyd â mesurau perfformiad arloesol er mwyn pennu effaith ein gweithgareddau rheoli risg treth.

Gan ddefnyddio'r un data ag a ddefnyddiwyd gennym i nodi risgiau treth, gallwn fesur effaith ein gweithgareddau rheoli risg treth dros amser. Rydym yn ategu hyn gyda mewnwelediad cwsmeriaid a geir o weithgareddau ymgysylltu sy'n ymwneud â'r risg treth, yn ogystal ag unrhyw waith adennill treth.

Rydym yn cydnabod bod y dull hwn yn ei fabandod. Os nad yw ein hymateb i'r risg treth yn gweithio, gallwn weld hynny mewn amser real trwy edrych ar ein data, a gallwn wneud gwaith ymgysylltu pellach a datblygu datrysiadau gwahanol. Mae'r dull ailadroddol hwn o ddatrys risgiau treth yn ein helpu ni a'n trethdalwyr i ddysgu, gan gynyddu ein heffeithiolrwydd a'n heffeithlonrwydd cyffredinol wrth reoli risgiau treth yn y dyfodol.

Dros amser, bydd lleihau'r risg treth yn llwyddiannus yn arwain at lai o drafodiadau anghywir ac, o ganlyniad, bydd mwy o drethdalwyr yn cael eu trethi'n gywir y tro cyntaf.

Rydym hefyd am weld bod rheoli risg treth yn llwyddiannus yn lleihau'r baich ar drethdalwyr a'u cynrychiolwyr drwy roi mwy o sicrwydd iddynt ar ddechrau’r broses.

Dylai dull llwyddiannus hefyd leihau'r amser a'r adnoddau a wariwn ar weithgareddau adennill trethi, gan gynnwys ymholiadau ffurfiol yn sgil camgymeriadau, fel y gallwn ganolbwyntio mwy o amser ar y rhai sy'n ceisio efadu treth. Yn gyffredinol, dylai hyn helpu i ddarparu system dreth deg a mwy effeithiol ac effeithlon yng Nghymru.

Pan fyddwn yn adrodd ar yr effaith yr ydym wedi'i chael ar risgiau treth unigol dros amser, ni fyddwn yn datgelu'r holl wybodaeth am natur pob un o'r risgiau treth unigol, nac ychwaith sut y gwnaethom ei adnabod. At hynny, byddwn yn adrodd ar risgiau treth unigol pan fyddwn wedi dechrau gweld gostyngiad gwirioneddol yn y risg treth. Mae hyn er mwyn cynnal uniondeb ein dull o asesu risg a rheoli trethi. Rydym yn gweithio ar lawer o wahanol risgiau treth ar draws pob cyfnod a gall rhai gymryd sawl blwyddyn i’w datrys.

Sut oedd ein perfformiad eleni?

Yr hyn a wnaethom i leihau ein risgiau treth

Yn y crynodeb o berfformiad, gwnaethom gynnwys trosolwg o'n cynnydd ar draws y 3 risg TTT a nodwyd gennym ar ddechrau’r flwyddyn. Yn yr adran hon, rydym yn darparu dadansoddiad o bob un o'r risgiau treth hynny a sut yr ydym wedi'u lleihau.

Risg TTT 1 – cwmnïau'n prynu eiddo preswyl

Mae'r risg hon yn ymwneud â chwmnïau'n prynu eiddo preswyl ac yn defnyddio’r cyfraddau treth anghywir. Yn y rhan fwyaf o achosion, camddealltwriaeth o ran sut y cymwysir y rheolau i gwmnïau o gymharu ag unigolion yw hyn.

Siart 3: Risg TTT 1 – cwmnïau'n prynu eiddo preswyl
Image
Mae Siart 3 yn defnyddio llinell ar yr echelin chwith i arddangos cyfanswm nifer y trafodiadau sydd mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i arddangos cyfanswm gwerth y dreth sydd mewn perygl ar gyfer risg treth 1 (cwmnïau’n prynu eiddo preswyl), yn ôl chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2020.


Dyma un o'r risgiau treth cyntaf a nodwyd gennym felly roeddem yn gallu mynd yn ôl a dadansoddi data o 2018-19 ymlaen. Mae'r siart yn dangos sut mae'r risg treth wedi datblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn gyffredinol, amcangyfrifwn fod angen o leiaf 2 flynedd o ddata i ddangos effaith gyffredinol ein gweithgareddau risg treth.

Er i ni ddechrau rhai gweithgareddau lliniaru tua diwedd 2018-19, roedd ein prif weithgareddau lliniaru’n cynnwys:

  • chwarter 1 (Ebrill i Fehefin 2019): cynnal digwyddiadau; diweddaru ein canllawiau a chyhoeddi cyfres o lythyrau cymell i drethdalwyr a'u cynrychiolwyr
  • chwarter 2 (Gorffennaf i Fedi 2019): cynnwys gwybodaeth am y risg hon mewn cyfres o weminarau ar-lein i godi ymwybyddiaeth ac addysgu defnyddwyr
  • chwarter 4 (Ionawr 2020): gwneud newidiadau i'n system dreth ddigidol, ynghyd ag anfon diweddariad gweithredol at bob defnyddiwr

Gallwn weld bod y newid digidol yn chwarter 4 eisoes wedi cael effaith gadarnhaol ar y risg dreth hon, ond bydd angen i ni aros am ddata'r flwyddyn nesaf i weld mantais y newid hwn naill ai o ran parhau i leihau'r risg, neu o leiaf ei gynnal ar lefel isel yn y dyfodol rhagweladwy.

Defnyddiwyd y gwaith ar y risg dreth hon hefyd i helpu i weithredu'r dull newydd ar draws y sefydliad cyfan. Fe'n galluogodd i brofi a dysgu pa weithgareddau oedd yn gweithio orau er mwyn lleihau'r risg dreth mewn gwahanol amgylchiadau. Rydym wedi canfod y gall rhai gweithgareddau gael effaith gadarnhaol am gyfnod byr, ond eu bod yn ddwys o ran adnoddau, tra bo eraill angen mwy o fuddsoddiad ymlaen llaw ond yn cael effaith fwy parhaol.

Mae dysgu hyn wedi ein galluogi i wella ein dull a bydd yn ein galluogi i fod yn fwy effeithlon ac effeithiol yn y dyfodol o ran lleihau risgiau tebyg.

Risg TTT 2 – ffurflen dreth goll

Mae'r risg hon yn ymwneud â phobl yn methu â ffeilio ffurflen dreth gydag ACC oherwydd diffyg ymwybyddiaeth neu gamddealltwriaeth cyffredinol ynghylch y rheolau treth newydd sy'n berthnasol yng Nghymru.

Siart 4: Risg TTT 2 - ffurflen dreth goll
Image
Mae Siart 4 yn defnyddio llinell ar yr echelin chwith i arddangos cyfanswm nifer y trafodiadau sydd mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i arddangos cyfanswm gwerth y dreth sydd mewn perygl ar gyfer risg treth 2 (ffurflenni treth coll), yn ôl chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2020.


Fel gyda risg TTT 1, mae natur y risg hon yn golygu ein bod wedi gallu dadansoddi'r data sy'n ymwneud â'r risg hon o 2018-19 ymlaen.

Yn ogystal â gwella ymwybyddiaeth yn gyffredinol drwy ein gweithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae ein prif weithgareddau ar gyfer lleihau'r risg hon yn cynnwys:

  • chwarter 2 (Gorffennaf i Fedi 2019): anfon diweddariad gweithredol at bob defnyddiwr
  • chwarter 4 (Ionawr i Fawrth 2020): anfon llythyrau cymell i drethdalwyr a'u cynrychiolwyr lle'r oedd treth yn ddyledus; rhyddhau offeryn digidol newydd ar ddiwedd y cyfnod hwn; ac anfon diweddariad gweithredol pellach at bob defnyddiwr

Yn y siart, gallwn weld gostyngiad graddol yn nifer yr achosion o fewn y risg hon dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Gwelwyd gostyngiad o’r uchafbwynt o dros 40 o achosion yn chwarter 1 2018-19, i lai na hanner y nifer yn chwarter 4 2019-20.

Mae natur y risg hon yn golygu bod y dreth sydd mewn perygl yn llai cyson a rhagweladwy o'i chymharu â rhai risgiau treth eraill. Mae hyn yn golygu, er gwaethaf gostyngiad cyffredinol mewn trafodiadau, fod y dreth sydd mewn perygl ar gyfer rhai chwarteri yn uwch o lawer nag a ddangoswyd ar gyfer cyfnodau cynharach.

Mae'r gostyngiad yn y dreth sydd mewn perygl, fesul chwarter, yn llai amlwg oherwydd cynnydd sydyn yn chwarter 3 2019-20. Fodd bynnag, gallwn weld gostyngiad cyffredinol yng nghyfanswm y dreth sydd mewn perygl ar gyfer 2019-20 yn ei chyfanrwydd o'i gymharu â 2018-19. Gobeithiwn weld y dreth mewn perygl (fesul chwarter) yn gostwng ymhellach y flwyddyn nesaf os byddwn yn parhau i leihau nifer yr achosion perthnasol. Fodd bynnag, mae niferoedd is o achosion o fewn y risg yn golygu ei bod yn haws mynd ar drywydd y ffurflenni coll.

Risg TTT 3 – anghytuno â’r gyfrifiannell TTT

Mae'r risg hon yn ymwneud â phobl yn anghytuno â'r gyfrifiannell TTT ac yn diystyru’r ffigur treth a roddir. Mae'r gyfrifiannell wedi'i chynllunio er mwyn darparu cyfrifiad treth cywir yn seiliedig ar y wybodaeth a gofnodwyd yn y system. Mae amryw o resymau pam y gallai pobl anghytuno â'r gyfrifiannell. Mae rhai'n ddilys, ond roedd nifer ohonynt oherwydd bod pobl yn camddeall y rheolau ynghylch y cyfraddau treth a oedd yn berthnasol i'w hamgylchiadau.

Siart 5: Risg TTT 3 - anghytuno â’r gyfrifiannell TTT
Image
Mae Siart 5 yn defnyddio llinell ar yr echelin chwith i arddangos cyfanswm nifer y trafodiadau sydd mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i arddangos cyfanswm gwerth y dreth sydd mewn perygl ar gyfer risg treth 3 (anghytuno â’r gyfrifiannell TTT) yn ôl chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2020.


Dechreuom ddadansoddi'r risg dreth hon mewn manylder yn 2019-20. Rydym wedi cynnwys y siart hwn gan ei fod yn dechrau dangos yr effaith gadarnhaol a ddaeth yn sgil newid y system dreth ddigidol yn chwarter 4.

Y prif weithgareddau a gafodd effaith sylweddol ar leihau risg oedd:

  • chwarter 1 (Ebrill i Fehefin 2019): llythyrau cymell a gweithgarwch ymgysylltu cynnar
  • chwarter 3 (Hydref i Ragfyr 2019): datblygu a threialu proses newydd a oedd yn ymwneud â’n desg gymorth er mwyn nodi'r gwallau hyn mewn amser real a chysylltu â threthdalwyr a'u cynrychiolwyr i'w trafod yn fuan ar ôl ffeilio
  • chwarter 4 (Ionawr i Fawrth 2020): newid a wnaed i'n system dreth ddigidol gyda diweddariad gweithredol yn cael ei anfon at bob defnyddiwr. Rhagor o lythyrau a galwadau cymell i drethdalwyr a'u cynrychiolwyr

O ystyried mai dim ond 1 flwyddyn o ddata sydd gennym ar gyfer y risg dreth hon, mae'n rhy gynnar i amcangyfrif arbedion treth posibl o'n gweithgareddau. Fodd bynnag, gallwn weld gostyngiad mewn trafodiadau, gyda chyfanswm o ychydig o dan 20 trafodiad yn ystod chwarter 3 o’i gymharu â llai na 10 trafodiad yn chwarter 4. Gallwn weld, er bod niferoedd y trafodiadau wedi aros yn gyson dros 3 chwarter, fod y dreth mewn perygl yn newid yn sylweddol, a hynny oherwydd rhai trafodiadau mawr unigol yn y data, yn enwedig yn chwarter 1.

Cafodd y rhan fwyaf o drafodiadau chwarter 4 eu trin cyn ein newidiadau digidol. Felly, rydym yn falch o'r cynnydd rydym yn ei wneud ar y risg hon. Fel gyda risg TTT 1 – cwmnïau'n prynu eiddo preswyl – dylai'r newidiadau digidol a wnaethom helpu i gadw’r risg hon ar lefel isel, gan ryddhau amser i ganolbwyntio ein hadnoddau ar risgiau eraill yn y dyfodol.

Dadansoddiad o'n gwaith risg treth – Risgiau TGT

Mabwysiadwyd dull tebyg gennym er mwyn rheoli risgiau treth TGT. Rydym wedi canolbwyntio ar gefnogi pobl i dalu'r dreth gywir y tro cyntaf, ac wedi nodi risgiau treth posibl fel bo modd i ni gynnal gweithgareddau lliniaru er mwyn lleihau'r posibilrwydd o gamgymeriadau. Gan fod gennym lawer llai o drethdalwyr ar gyfer TGT, gwnaethom deilwra ein dull gweithredu.

Yn ystod y flwyddyn, parhawyd i ddatblygu ein perthynas â gweithredwyr safleoedd tirlenwi trwy Gymru drwy ein harbenigwyr TGT penodedig.

Rydym yn cyfuno ein gwybodaeth ni â gwybodaeth ac arbenigedd ein sefydliad partner, Cyfoeth Naturiol Cymru, er mwyn darparu cymorth wedi'i deilwra ar gyfer ein trethdalwyr yn ogystal â dull mwy teilwredig o reoli risgiau treth.

Ni allwn adrodd ar effaith ein gweithgarwch risg treth ar gyfer TGT yn yr un modd ag a wnawn ar gyfer TTT gan ein bod ond yn gweithio â 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi. Fel awdurdod treth, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ddiogelu cyfrinachedd trethdalwyr ac felly ni allwn ddarparu data ar gyfer achosion risg treth ar gronfa mor fach o ddefnyddwyr.

Felly, yn hytrach na darparu data ar ein perfformiad, rydym yn darparu naratif o'n gweithgareddau a'n heffaith risg treth.

Risg TGT 1 – disgowntio cynnwys dŵr mewn gwastraff

Mae deddfwriaeth TGT yn mynnu bod trethdalwyr yn gwneud cais am rai disgowntiau a rhyddhadau treth penodol cyn y cânt eu defnyddio yn eu ffurflenni treth. Un maes cymhleth yw lleihau pwysau trethadwy gwastraff er mwyn disgowntio unrhyw gynnwys dŵr sydd o fewn ffrydiau gwastraff penodol. Mae nifer o amodau deddfwriaethol y mae'n rhaid eu bodloni cyn bod yn gymwys ar gyfer hyn. Cynhaliwyd adolygiad gennym o'r holl 'ddisgowntiau dŵr' a sefydlwyd proses adolygu ac ail-ymgeisio ar gyfer y trethdalwyr a oedd â chytundebau eisoes, er mwyn gwirio bod y cytundebau'n cael eu rheoli'n briodol ac er mwyn lleihau'r posibilrwydd o gamgymeriadau yn y dyfodol.

Buom yn gweithio'n agos gyda threthdalwyr, gan adolygu tystiolaeth a data er mwyn gwirio bod pob disgownt yn parhau'n briodol a bod amodau'n cael eu cymhwyso'n gywir. Nodwyd rhai gwallau a wnaed gan rai trethdalwyr yn ogystal â gwendidau yn eu prosesau. Drwy ymgymryd â hyn fel prosiect risg treth penodol, roeddem yn gallu gweld y dull a ddefnyddiwyd gan bob trethdalwr a sicrhau tegwch a chysondeb. Rhoddwyd cyngor i'r rhai a oedd yn gwneud pethau'n anghywir neu pan nodwyd gwendidau posibl, a hynny er mwyn atal gwallau yn y dyfodol a allai arwain at golli treth.

Mewn rhai achosion, drwy weithio gyda ni, nododd y trethdalwyr fod angen diwygio'r disgownt. Rydym hefyd wedi nodi gwelliannau y gallem eu gwneud i amodau’r cytundebau er mwyn helpu i leihau'r risgiau yn y dyfodol. Darparwyd canllawiau pellach gennym a diweddarwyd yr amodau hyn. 

Risg TGT 2 – triniaeth dreth deunydd gronynnau mân

Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi casglu a dadansoddi amrywiaeth o ddata ac wedi gweithio'n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn nodi risgiau treth posibl ar draws y diwydiant mewn perthynas â mathau penodol o wastraff. Gwelsom fod anghysondeb o ran triniaeth dreth yn ymwneud â threthu deunydd gronynnau mân. Oherwydd natur y deunydd, mae'n ofynnol i'r trethdalwr gynnal profion penodol er mwyn sefydlu'r gyfradd dreth gywir ar gyfer y deunydd hwnnw. Gwelsom nad oedd pobl yn cymhwyso'r rheolau hyn yn gywir ym mhob achos ac roedd ymwybyddiaeth o'r rheolau yn amrywio rhwng trethdalwyr.

Buom yn gweithio'n agos gyda'n holl drethdalwyr a oedd yn prosesu'r math hwn o wastraff. Pan nodwyd bod y tebygolrwydd o gamgymeriadau mewn perthynas â'r risg benodol hon yn uwch, cynhaliwyd ymchwiliadau pellach gennym er mwyn nodi gweithgareddau a chwilio am ffyrdd o leihau'r risg o gamgymeriad.

Drwy'r ymgysylltiad dwyffordd yma, mae rhai trethdalwyr wedi mabwysiadu prosesau newydd ac wedi gwneud newidiadau i'r ffordd y maent yn rheoli TGT, gan leihau'r risg. Rydym yn parhau i weithio gydag eraill i wella eu hymwybyddiaeth a'u haddysg. Rydym hefyd yn gweithio gyda threthdalwyr sydd wedi gwneud camgymeriadau er mwyn eu cywiro ynghyd ag unrhyw wallau yn y dreth a dalwyd.

Buom hefyd yn gweithio gyda threthdalwyr i wneud nifer o welliannau i'n system dreth ar gyfer TGT er mwyn lleihau'r risgiau treth yr ydym wedi’u nodi. Mae'r system yn casglu mwy o ddata nag o'r blaen, a dylai sicrhau tegwch a chysondeb ar draws y dreth.

Wrth ddatblygu'r system, rydym wedi gwella ei gweithrediad fel y bo hi’n haws i’w defnyddio tra’n dal i reoli'r risgiau treth hyn. Rydym yn parhau i ddatblygu'r system dreth TGT gyda'r bwriad o gyflwyno'r newidiadau erbyn diwedd 2020-21.

Atal a mynd i'r afael ag osgoi neu efadu trethi

Er bod y rhan fwyaf o bobl yn bwriadu talu'r dreth gywir ar yr adeg gywir, rydym yn cydnabod bod rhai'n ceisio talu llai drwy osgoi neu efadu trethi. Fel rhan o'r ffordd yr ydym yn rheoli risg treth, rydym wedi lleihau cyfleoedd i efadu neu osgoi talu treth, gan ei gwneud yn anos gwneud hynny.

Rydym wedi:

  • sefydlu partneriaethau gydag asiantaethau gorfodi’r gyfraith eraill
  • defnyddio ein data a'n cudd-wybodaeth ein hunain, yn ogystal â data a chudd-wybodaeth gan ein partneriaid, i nodi achosion posibl
  • defnyddio ein pwerau, gan gynnwys ymholiadau treth, i ymchwilio i achosion posibl; ac wedi gweithio gydag asiantaethau gorfodi'r gyfraith eraill i rannu gwybodaeth am yr achosion hynny
  • lleihau'r cyfle i efadu talu drwy weithredu ein cynlluniau rheoli risg treth, gan gynnwys gwneud diweddariadau i'n systemau a'n prosesau
  • gwella ymwybyddiaeth o risgiau treth posibl drwy gyfathrebu ac ymgysylltu cynnar

Treth ychwanegol a gasglwyd

Casglwyd £1.9 miliwn o dreth ychwanegol oherwydd ein hachosion risg treth, drwy wneud diwygiadau i ffurflenni treth ac mewn perthynas â ffurflenni treth coll. Mae hyn yn cynnwys 2 gategori cyffredinol:

Treth a adenillwyd o risgiau treth

Gwnaethom adennill £1.6 miliwn o achosion a oedd o fewn naill ai un o'n risgiau treth neu yn sgil ymyriadau uniongyrchol eraill. Casglwyd y rhan fwyaf o'r dreth hon o achosion a oedd o fewn y 3 phrif risg treth a nodwyd gennym uchod.

Datgeliadau gwirfoddol

Casglwyd £300,000 arall o dreth gennym o ddiwygiadau eraill i ffurflenni treth. Nid oedd y gwelliannau hyn yn ymwneud â'n risgiau treth, nac unrhyw ymyriad uniongyrchol gennym ni, megis llythyr cymell neu ymholiad ffurfiol. Fodd bynnag, dylanwadwyd ar rai o'r gwelliannau hyn gan weithgareddau addysgol ac ymgysylltu eraill, a eglurwn yn yr adran ei gwneud yn haws.

Treth a ad-dalwyd oherwydd gwallau

Gwnaethom ad-dalu tua £190,000 i drethdalwyr oherwydd gwallau a nodwyd gennym yn eu ffurflenni treth a achosodd iddynt ordalu treth. Nodwyd y gwallau hyn yn ystod ein gweithgareddau dadansoddi data ac asesu risg, ac aethom ati i’w helpu i gywiro'r gwallau fel eu bod yn talu'r dreth gywir.

Mesur faint o bobl a dalodd y dreth gywir y tro cyntaf

Dyma'r flwyddyn gyntaf i ni geisio mesur faint o bobl a dalodd y dreth gywir y tro cyntaf. Er mwyn creu gwaelodlin gychwynnol, rydym wedi edrych ar yr holl drafodiadau a oedd o fewn un o'r risgiau treth a nodwyd gennym yn ystod y flwyddyn. Ychwanegwyd at y ffigur hwn unrhyw drafodiadau lle cywirwyd y ffurflen dreth yn ddiweddarach.

Mewn rhai achosion, arweiniodd y cywiriad at dalu neu ad-dalu treth ychwanegol. Mewn achosion eraill, dim ond camgymeriad gweinyddol oedd, ac roedd y ffurflen yn dal i fod yn anghywir yn dechnegol. O'r holl drafodiadau a dderbyniwyd, roedd hyn yn cyfrif am 1.7%. Felly, sefydlwyd gwaelodlin gychwynnol fod o leiaf 98.3% o drafodiadau, yn ein tyb ni, yn gywir y tro cyntaf yn ystod 2019-20.

Credwn ei bod yn rhy gynnar i ddod i unrhyw gasgliadau neu roi sylwadau ar y ffigur hwn. Y rheswm am hyn yw mai dim ond 1 flwyddyn o ddata sydd gennym ar gyfer yr holl risgiau treth hyn a dyma ein blwyddyn gyntaf yn gweithredu'r dull hwn. Yn y dyfodol, gobeithiwn allu mireinio'r ffordd yr ydym yn adrodd ar hyn. Bydd hyn yn digwydd wrth i ni wella ein dealltwriaeth o'r rhesymau pam fod rhai trethdalwyr a'u cynrychiolwyr yn gorfod cywiro ffurflenni treth.

At hynny, ar y cychwyn roeddem yn disgwyl i'r ffigurau o dan y mesur hwn amrywio wrth i ni nodi risgiau treth newydd a lleihau'r risgiau treth presennol. Fodd bynnag, byddwn yn olrhain y ffigwr dros amser er mwyn edrych ar ba mor effeithiol yr ydym o ran nodi risgiau treth ac yna eu lleihau. Gobeithiwn, gydag amser, y gwelwn gynnydd yn nifer y bobl sy'n cael pethau'n iawn ar y cynnig cyntaf oherwydd ein dull o reoli risg treth.

Trethu gwarediadau anawdurdodedig

Buom yn gweithio gyda'n partner, Cyfoeth Naturiol Cymru, i sefydlu dull partneriaeth o godi TGT ar warediadau anawdurdodedig. Roedd hyn yn adeiladu ar sylfeini’r dull partneriaeth llwyddiannus a gyflwynwyd gennym ar gyfer TGT ar safleoedd tirlenwi awdurdodedig.

Fel rhan o'r gwaith hwn, gwnaethom ymestyn ein trefniant dirprwyo gyda Cyfoeth Naturiol Cymru am 3 blynedd arall tan fis Mawrth 2023. Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd sylweddol i ni barhau i adeiladu ar ein gwaith partneriaeth wrth reoli TGT a helpu i leihau troseddu gwastraff.

Sefydlwyd sylfeini'r maes newydd hwn o TGT yn ystod y flwyddyn, gan sicrhau bod gennym yr adnoddau a'r gallu angenrheidiol i weithredu prosesau a dulliau gweithio newydd. Sefydlwyd proses adnabod ac atgyfeirio achosion gennym hefyd, a dechreuwyd dadansoddi sawl achos a gawsom gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cyn y pandemig coronafeirws, roeddem yn bwriadu cwmpasu a phrofi ein pwerau yn ystod 2020-21. Roeddem hefyd yn bwriadu defnyddio cam cwmpasu a phrofi 2020-21 i greu darlun clir o gyfleoedd a manteision tymor hwy'r dreth o ran gwarediadau anawdurdodedig. Fodd bynnag, mae ein cynnydd yn y maes newydd hwn wedi’i arafu i raddau oherwydd yr effaith gafodd y coronafeirws ar ein prosesau a'n hadnoddau gweithredol.

Cosbau

Pan fo trethdalwyr naill ai wedi ffeilio eu ffurflenni treth yn hwyr, wedi talu'n hwyr, neu wedi gwneud camgymeriad yn eu ffurflenni treth, rydym wedi codi cosbau. Rydym yn cosbi er mwyn sicrhau triniaeth deg i bawb, a bod neb yn cael canlyniadau mwy buddiol neu ffafriol nag eraill. Cyhoeddwyd dros 1,000 o gosbau gennym, â chyfanswm o ychydig o dan £340,000.

Adolygiadau ac apeliadau

Lle nodwyd gwallau gennym, gweithiom yn rhagweithiol ac yn gefnogol gyda’r trethdalwyr a'u cynrychiolwyr er mwyn cywiro pethau. Fodd bynnag, arweiniodd rhai materion at anghydfod ynghylch y dreth gywir. Pan ddigwyddodd hyn, dewisom ddefnyddio’r un dull cadarnhaol a chydweithredol er mwyn datrys yr anghydfod mor effeithiol ac effeithlon â phosibl.

Yn yr achosion hynny, aethom ati i geisio dod i gytundeb ar anghydfodau yn unol â'r ddeddfwriaeth, gan sicrhau bod y dreth gywir yn cael ei thalu. Pan na lwyddwyd datrys anghydfod drwy gytundeb, yn y rhan fwyaf o achosion gallai'r trethdalwr ofyn i ni adolygu'r penderfyniad hwnnw. Gelwir hyn yn adolygiad statudol. 

Yn 2019-20, cyflwynwyd cyfanswm o ychydig yn llai nac 80 o geisiadau newydd am adolygiad i ACC.

Os nad yw trethdalwyr yn derbyn penderfyniad ein tîm gweithredol neu benderfyniad dilynol ein Swyddog Adolygu, yna gall hefyd apelio i'r corff annibynnol, y Tribiwnlys Haen Gyntaf ar gyfer Treth. Yn 2019-20, hysbysodd y tribiwnlys ni o lai na 5 apêl newydd. Oherwydd y nifer fechan o apeliadau, ni allwn roi mwy o fanylion eleni er mwyn diogelu gwybodaeth trethdalwyr.

Fel rhan o'n gwelliant parhaus, rydym yn defnyddio adborth gan y tîm achosion, ein swyddogion adolygu, y tribiwnlys, a'n trethdalwyr er mwyn ceisio deall sut y gallwn leihau'r posibilrwydd o anghydfodau a'u datrys yn fwy effeithiol yn y dyfodol.

Adran 3: bod yn fwy effeithlon

Byddwn yn cyflawni mewn ffordd sy'n gynaliadwy ac yn sicrhau gwerth am arian.

Sut oedd ein perfformiad eleni?

Yn ystod ein 2 flynedd gyntaf rydym wedi canolbwyntio ar adeiladu sefydliad cadarn, digidol-yn-gyntaf, sy'n gwbl seiliedig yn y cwmwl. Rydym wedi cael budd o'n penderfyniadau buddsoddi digidol cychwynnol ar ddiwedd 2019-20 gan ein bod wedi gallu parhau i ddarparu ein gwasanaethau fel arfer er gwaethaf llifogydd yn ein pencadlys ym mis Chwefror, ac yna’r angen am i'n holl staff weithio o bell oherwydd cyfnod clo’r coronafeirws ddiwedd mis Mawrth. Mae'r gwydnwch sefydliadol hwn yn dyst i'r ffordd y cawsom ein sefydlu ac mae'n ein hatgoffa o bwysigrwydd gwneud penderfyniadau buddsoddi sy'n gynaliadwy ac yn meithrin gwydnwch.

Lleihau prosesau â llaw

Er mwyn bod yn effeithlon ac yn effeithiol fel sefydliad, pan fo modd gwneud hynny rydym wedi ceisio cynllunio’n prosesau fel eu bod yn ddigidol o’r dechrau i’r diwedd. Gwnaethom rai gwelliannau pwysig i gynyddu ein defnydd o systemau digidol ymhellach ac i leihau prosesau â llaw.

Ddiwedd mis Tachwedd 2019, cyflwynom system rheoli achosion newydd gan ddefnyddio meddalwedd rheoli cysylltiadau cwsmeriaid (CRM). Wrth wneud y penderfyniad hwn i fuddsoddi, ystyriwyd yr effaith tymor byr, yr effaith tymor canolig, a’r effaith hirdymor ar ein pobl, ein trethdalwyr a'u cynrychiolwyr er mwyn helpu i ddiogelu ein gwasanaethau cymaint ag y gallwn ar gyfer y dyfodol.

Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi dysgu o'n profiadau gweithredol cynnar. Wrth ddechrau rheoli treth yn 2018, nid oeddem yn gweithredu system rheoli achosion lawn, a hynny am nad oeddem yn gwybod beth oedd ei angen yn y cam datblygu cynnar hwnnw. Yn hytrach, dysgom o'r profiad o weithio gyda'n cwsmeriaid, gan ennill dealltwriaeth o natur yr achosion yr oedd angen i ni eu rheoli. Gwnaethom ddefnyddio ein gwybodaeth mewn ymarfer darganfod digidol a nododd gwmpas ein gofynion a'n hopsiynau, er mwyn datblygu datrysiad cadarnach, datrysiad y credwn all ddiwallu ein hanghenion tymor byr a thymor hir.

Drwy fuddsoddi yn ein system CRM, gwnaethom awtomeiddio llawer o brosesau llaw, gan wella ein heffeithlonrwydd cyffredinol.

Trwy weddill 2019-20, buom yn canolbwyntio ar hyfforddi staff a gwella ein dealltwriaeth fewnol o'r system a'r prosesau newydd. Nod hyn oedd gwella'r ffordd rydym yn defnyddio'r system a nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol.

Awtomatiaeth

Yn ein Cynllun Corfforaethol 2019 i 2022, gwnaethom esbonio bod awtomeiddio yn ffordd bwysig i ni barhau i fod yn effeithlon fel sefydliad.

Siart 6: Canran y trafodiadau a broseswyd yn awtomatig hyd at y taliad cychwynnol, heb unrhyw ymyrraeth â llaw, yn ôl mis y’u derbyniwyd
Image
Mae Siart 6 yn defnyddio bariau ar yr echelin chwith i arddangos nifer yr ad-daliadau cyfradd uwch Treth Trafodiadau Tir a llinell ar yr echelin dde i arddangos nifer cyfartalog y dyddiau rhwng cymeradwyo a thalu’r ad-daliadau hynny, gyda phob cyfres yn cael ei dangos yn ôl y mis y cymeradwywyd yr ad-daliad rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2020.


Dim ond y cyflwyniad a’r taliad cychwynnol (os yw'n berthnasol) sydd wedi'u cynnwys yma, yn hytrach nag unrhyw gamau gweithredu y gallai ACC eu cymryd yn y dyfodol er mwyn rheoli risg treth.

Yn 2019-20, gwelwyd twf amlwg yn nifer y trafodiadau awtomataidd o flwyddyn i flwyddyn, sy'n dangos sut yr ydym wedi gwneud cynnydd cadarnhaol tuag at gyflawni ein lefel darged o awtomeiddio. Roedd y cynnydd mewn awtomeiddio yn galluogi ein pobl flaenoriaethu gwaith mwy gwerthfawr na thasgau prosesu â llaw, megis helpu trethdalwyr a'u cynrychiolwyr gyda'u hymholiadau.

Yn ystod mis Mehefin 2019, gwelsom ostyngiad mewn awtomeiddio oherwydd gwelliannau a wnaethom i'n system gyllid, a gynyddodd yr angen am brosesau llaw dros dro yn ystod y mis hwnnw.

Tua diwedd 2019-20, gwnaethom nifer o welliannau i'n system rheoli treth a'n systemau cyllid hefyd. Roedd hyn yn ein galluogi i ddadansoddi ein data'n fwy effeithlon a lleihau rhai o'n prosesau llaw, megis mewnbynnu data, yn enwedig wrth ddelio â diwygiadau gan drethdalwyr.

Amser a gymerwyd i wneud ad-daliadau cyfradd uwch TTT

Gwnaethom bron i 1,500 o ad-daliadau, dros ddwbl cyfanswm y flwyddyn flaenorol (650). Rhagwelwyd y cynnydd hwn mewn prosesu ad-daliadau gan fod gan y trethdalwr gyfnod o 3 blynedd i hawlio ad-daliad. 2018-19 oedd ein blwyddyn gyntaf yn prosesu hawliadau o'r fath.

Siart 7: Nifer a chyfartaledd y diwrnodau a gymerwyd i ad-dalu cyfradd uwch TTT, yn ôl y mis y’u cymeradwywyd
Image
Mae Siart 7 yn defnyddio bariau ar yr echelin chwith i arddangos nifer yr ad-daliadau cyfradd uwch Treth Trafodiadau Tir a llinell ar yr echelin dde i arddangos nifer cyfartalog y dyddiau rhwng cymeradwyo a thalu’r ad-daliadau hynny, gyda phob cyfres yn cael ei dangos yn ôl y mis y cymeradwywyd yr ad-daliad rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2020.


Mae'r siart uchod yn dangos bod nifer cyfartalog y diwrnodau a gymerwyd i wneud ad-daliad wedi cynyddu ychydig ond roedd hyn yn dal ymhell o fewn ein targed o 30 diwrnod. Fodd bynnag, dim ond yr amser a gymerir o'r dyddiad y cymeradwyir yr ad-daliad hyd at ddyddiad gwneud yr ad-daliad a ddangosir yn y siart. Fodd bynnag, rydym yn hyderus y bydd yr amser prosesu yn dal i fod ymhell o fewn ein targed os fyddwn yn ychwanegu’r broses gymeradwyo i’r siart (pan fo'r wybodaeth ad-dalu’n gyflawn).

Yn y dyfodol, dylai ein system CRM ein galluogi i olrhain ac adrodd yn fwy cywir ar yr amser a gymerir i gymeradwyo ad-daliad (yn enwedig mewn achosion pan fo angen dilyn tystiolaeth goll a gwybodaeth ategol, er enghraifft).

Cynyddu taliadau digidol

Roedd prosesu taliadau siec yn orben sylweddol o ran adnoddau. Mae talu’n electronig yn fwy effeithlon a chost-effeithiol yn gyffredinol gan ei fod yn ein galluogi i baru’r taliad yn awtomatig heb fod angen fawr o ymyrraeth â llaw.

Siart 8: Canran y taliadau a dderbyniwyd drwy siec, yn ôl y mis y’u derbyniwyd
Image
Mae Siart 8 yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfres fisol y canran o daliadau Treth Trafodiadau Tir a dderbyniwyd drwy siec ar gyfer 2018-19 a 2019-20, ochr yn ochr â 2 linell wastad sy'n cynrychioli ystod darged o 5 i 10 bwynt canran.


Gwnaethom ganolbwyntio ar leihau nifer y taliadau siec ymhellach. Yn dilyn gwaith ymgysylltu â chynrychiolwyr trethdalwyr ym mis Hydref a mis Tachwedd 2019, gostyngodd ein derbyniadau siec nes ei fod o fewn ein lefel darged (o dan 10%) am weddill y flwyddyn.

Atal dyled

Gwnaethom nifer o welliannau er mwyn parhau i helpu pobl i dalu treth yn brydlon.

Rydym yn dadansoddi ein trafodiadau er mwyn canfod faint sydd wedi talu'n brydlon, a faint sy'n cael eu talu'n hwyr gan arwain at ddyled. Fel arfer, mae'r taliad yn ddyledus o fewn 30 diwrnod i ddyddiad y trafodiad ar gyfer TTT, neu ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu ar gyfer TGT.

At ddibenion y dadansoddiad hwn, nid ydym yn cynnwys unrhyw drafodiadau sydd wedi'u diwygio neu wedi arwain at ad-daliad, gan fod hyn yn effeithio ar ddyddiadau cau'r cyfrifyddu yn ein systemau.

O'r trafodiadau a ddadansoddwyd gennym, sef y rhan fwyaf ohonynt, talwyd dros 95% yn brydlon. Mae hyn yn arwydd da o'n gallu i atal dyled. Mae’r lefel yn debyg i'r flwyddyn flaenorol. Credwn fod hon yn sampl ddibynadwy ar gyfer y trafodiadau eraill sydd wedi'u heithrio o'r dadansoddiad cyffredinol hwn.

O ran y 5% o drafodiadau a dalwyd yn hwyr, gallwn hefyd fesur ein heffaith o ran adennill y ddyled o fewn 30 diwrnod iddynt ddod yn ddyledus (sef 60 diwrnod o ddyddiad y trafodiad).

Amser a gymerwyd i dalu dyledion – sut oedd ein perfformiad?

Siart 9: Canran y dyledion TTT y gellir eu rheoli a gasglwyd o fewn 30 diwrnod, yn ôl y mis y daeth y trafodiad i rym
Image
Mae Siart 9 yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfres fisol y ganran o ddyledion Treth Trafodiadau Tir y gellir eu rheol, a gasglwyd o fewn 30 diwrnod, yn ôl y mis y daeth y trafoiadau i rym, ar gyfer 2018-19 a 2019-20, ochr yn ochr â 2 linell wastad sy'n cynrychioli ystod darged o 90 i 95 pwynt canran.


Mae'r siart uchod yn dangos ein bod naill ai'n cyrraedd ein targed o 90% neu'n agos at y targed ar gyfer casglu dyledion o fewn 30 diwrnod drwy gydol y flwyddyn, tan fis Chwefror 2020.

Mae effaith coronafeirws ar brydlondeb casglu dyledion yn amlwg o edrych ar y trafodiadau a ddigwyddodd ym mis Chwefror a mis Mawrth 2020. Y rheswm pennaf dros hyn oedd bod y cyfnod 60 diwrnod ar gyfer trafodiadau Chwefror Mawrth 2020 wedi ymestyn i'r cyfnod clo, ac effeithiwyd arno gan y ffactorau canlynol:

  • gwelsom gynnydd yn nifer y bobl nad oeddent yn gallu talu'n brydlon am nad oeddent yn gallu mynd i'w swyddfeydd neu am fod staff ar ffyrlo
  • er mwyn cydnabod effaith ddigynsail coronafeirws ar drethdalwyr a'u cynrychiolwyr, ataliwyd y broses casglu dyledion dros dro ddiwedd mis Mawrth

Un newid yr ydym wedi'i wneud i'r ffordd yr ydym yn adrodd ar y mesur hwn yw gwahanu'r trafodiadau hynny yr hysbysir ni ohonynt yn hwyrach na 60 diwrnod ar ôl i'r trafodiad ddigwydd. Wrth ddadansoddi ein data yn ystod y flwyddyn, sylweddolwyd bod cynnwys y trafodiadau hynny o fewn y mesur perfformiad hwn yn effeithio ar ddefnyddioldeb y dangosydd (sy’n fesur o'n gallu i reoli prydlondeb dyledion o fewn 60 diwrnod i ddyddiad y trafodiad) a'n hatal rhag gweld effeithiolrwydd ein prosesau a'n gweithgareddau.

Yn hytrach, rydym yn olrhain ac yn mesur y dyledion a ddaw o drafodiadau a hysbysir i ni yn hwyrach na 60 diwrnod mewn proses ar wahan. Mae'r niferoedd hyn yn gyson isel, llai na 10 trafodiad y mis ar gyfartaledd. Rydym yn ymgymryd â gweithgareddau ar wahân ac mae gennym fesurau eraill ar gyfer hysbysu trafodiadau yn brydlon ac i reoli risgiau sy'n gysylltiedig â phobl sy'n methu â ffeilio ffurflen.

Gweithredu proses rheoli dyledion newydd

Gwnaethom wella ein prosesau er mwyn casglu dyledion yn fwy effeithlon ac effeithiol. Yn ystod Tachwedd a Rhagfyr 2019 cyflwynwyd system a phroses rheoli dyledion newydd gennym, sef ‘dunning’, a ddefnyddir yn helaeth wrth gyfrifyddu.

Mae hon yn broses sy’n anfon llythyrau atgoffa wedi'u targedu a llythyrau casglu dyledion i drethdalwyr yn awtomatig, yn seiliedig ar ba mor hwyr yw’r taliad unigol. Gan ddefnyddio data sy'n seiliedig ar systemau i gynhyrchu'r llythyrau, nid oes angen fawr ddim gwiriadau a chymeradwyaeth gan ein tîm cyllid cyn eu hanfon at y trethdalwr.

Mae hyn wedi cynyddu lefel awtomeiddio yn y system gan greu arbedion effeithlonrwydd yn y broses o gasglu dyledion. Mae hyn wedi galluogi'r tîm cyllid i neilltuo mwy o amser i helpu'r rhai sydd angen cymorth ariannol, yn ogystal â chanolbwyntio ar ddyledion hŷn a chefnogi ein tîm gorfodi dyledion mewn achosion casglu dyledion anoddach.

Amser a gymerwyd i ffeilio – sut oedd ein perfformiad?

Gwelsom welliannau yn yr amser a gymerwyd i ffeilio. Roedd hynny er i ni gychwyn o sefyllfa gadarn ar ddechrau 2019 i 2020, gan ein bod eisoes wedi cyrraedd 98% rhwng 2018 a 2019.

Siart 10: Canran y ffurflenni TTT a dderbyniwyd ar ôl 30 diwrnod, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym
Image
Mae Siart 10 yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfres fisol y ganran o ffurflenni Treth Trafodiadau Tir a dderbyniwyd ar ôl 30 diwrnod ar gyfer 2018-19 a 2019-20, ochr yn ochr â 2 linell wastad sy'n cynrychioli ystod darged o 0 i 2 bwynt canran.


Mae'r siart uchod yn dangos bod mwy na 98% o'r ffurflenni treth wedi’u ffeilio’n brydlon drwy gydol 2019 i 2020, gyda chyfartaledd o 98.6% ar gyfer y flwyddyn.

Credwn fod hyn yn dyst i brydlondeb ein trethdalwyr a'u cynrychiolwyr, ein gwaith ymgysylltu i wella ymwybyddiaeth o rwymedigaethau trethi a ffeilio, a'r cymorth a ddarparwn i bobl wrth ffeilio eu ffurflenni treth.

Adran 4: byddwn yn datblygu ein gallu

Rydym yn awyddus i fod yn sefydliad lle mae ein diwylliant cydweithredol, arloesol a charedig yn tanio lefelau uchel o ymgysylltu, dysgu parhaus, a chynhwysiant. Credwn fod cael pobl alluog yn gwneud swyddi sy’n rhoi gwir foddhad iddynt yn arwain at ragoriaeth yn ein gwasanaethau dydd i ddydd, ac at atebion arloesol a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol. O gydweithio ar draws timau medrus, amlbroffesiwn, gallwn gyflawni mwy, gan wireddu amcanion beiddgar a mentrus er budd ein rhanddeiliaid a’n dysg ein hunain. 

Sut oedd ein perfformiad eleni?

Ymgysylltiad

Mae cael pobl sydd ag ymgysylltiad cryf yn bwysig i ni gan fod hynny’n gwneud ein pobl yn hapusach ac yn cryfhau eu cymhelliant i wneud eu gorau i gyflawni ein hamcanion. Er mwyn i'n pobl ymgysylltu, rydym yn:

  • darparu swyddi diddorol sydd â lefelau uchel o ymreolaeth
  • cynnig cyflogau Cyflog Byw a buddion teg
  • bob amser yn blaenoriaethu a chefnogi llesiant ein pobl

Yn benodol, yn 2019-20 cynhaliwyd y gweithgareddau canlynol i ymgysylltu â'n pobl:

  • annog diwylliant o garedigrwydd, ymddiriedolaeth, a grymuso, a chydnabod ein bod yn dal ar daith tuag at gynnal a gwella’r gwerthoedd hyn
  • cynnig pob rôl fel un sy'n agored i batrymau gweithio hyblyg a phatrymau gwaith amgen fel modelau rôl ar lefel Tîm Arwain
  • cynnig offer i'r holl staff er mwyn eu galluogi i weithio o gartref
  • dod yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig
  • trefnu calendr blynyddol o weithgareddau drwy ein Pwyllgor Llesiant a arweinir gan staff
  • annog iechyd corfforol a meddyliol yn ogystal â chysylltiadau cymunedol cadarnhaol, megis gwirfoddoli – gweler mwy o wybodaeth dan Adran 7: llesiant

Mae rhai dangosyddion o'n cynnydd yn ystod y flwyddyn i’w gweld yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2019 gan gynnwys:

  • dod yn ail o blith 100 a mwy o gyflogwyr y Gwasanaeth Sifil
  • sgorau uchel ym meysydd categori'r arolwg, megis 'fy ngwaith', 'amcanion a phwrpas sefydliadol', 'fy nhîm', 'cynhwysiant a thriniaeth deg', a 'thâl a buddion
  • 82% o'n pobl yn 'cytuno'n gryf' neu'n 'cytuno' â’r datganiad eu bod yn fodlon â’u pecyn buddion yn ei gyfanrwydd (+43 pwynt canran o gymharu â chyfartaledd Gwasanaeth Sifil y DU)
  • 92% yn 'cytuno'n gryf' neu'n 'cytuno' bod eu rheolwr yn ymddiried ynddynt i weithio gartref a 94% yn 'cytuno'n gryf' neu'n 'cytuno' eu bod yn hyderus wrth ddefnyddio technolegau gweithio gartref cydweithredol

Mae dangosyddion eraill yn cynnwys:

  • 100% o'n pobl yn ennill mwy na Chyflog Byw'r Sefydliad Cyflog Byw
  • 95% o'n pobl â chontractau parhaol a neb ar gontract dim oriau
  • 79% o'n pobl yn ennill mwy na chanolrif cyflog y DU
Her Storm Dennis a chyfnod clo’r coronafeirws

Yn ogystal â’r dangosyddion uchod, y gwir brawf ar ein hymgysylltiad a’n diwylliant oedd ein hymateb cyflym a chadarnhaol i'r her ddigynsail o orfod symud y gweithlu cyfan adref i weithio ddwywaith o fewn 2 fis.

Nid oedd yn broses hawdd, ond o ystyried natur ddigynsail y digwyddiadau doedd neb yn disgwyl iddi fod ychwaith. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd 76% o'n pobl naill ai wedi gweld newidiadau i'w rolau neu wedi ymgymryd â rolau newydd, gan fod sawl rôl wedi newid dros nos er mwyn cynllunio a chefnogi ein pobl a'n gwasanaethau trwy’r cyfnod clo.

Rydym wedi gweld llai o oriau gwaith ar gael oherwydd gofynion gofalu, gofal plant, a llesiant, a daeth rhai swyddogaethau – megis prosesu ein post a recriwtio – i ben oherwydd diogelwch ac argaeledd staff.

O ganlyniad i'n newidiadau, dywedodd 100% o staff eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan eu rheolwyr llinell a bod ganddynt hyder yn y ffordd mae’r uwch arweinwyr yn ymdrîn â’r digwyddiadau.

Yn gyffredinol, rydym yn falch o ymateb ein pobl, maent wedi parhau i gyflawni ein gwaith pwysig o gasglu refeniw i Gymru. 

Sgiliau

Er mwyn annog diwylliant o ddysgu, ac i sicrhau ein bod yn meddu ar y sgiliau yr ydym eu hangen fel sefydliad, rydym wedi ceisio cyflogi pobl o amrywiaeth eang o broffesiynau, a chreu cyfleoedd diddorol ar gyfer hyrwyddo, dysgu a datblygu.

Er mai sefydliad bychan ydym ni, rydym wedi darparu benthyciadau i mewn ac allan o'r sefydliad yn ogystal â chyfleoedd i brentisiaid, myfyrwyr a graddedigion.

Mesurwyd hyn gennym drwy edrych ar broffesiynau, sgiliau Cymraeg, a datblygiad ein pobl.

Sgiliau proffesiynol a thechnegol

Mae ein pobl yn dod â phrofiad 16 o broffesiynau gwahanol ynghyd.

Mae cael llawer o broffesiynau o fewn un sefydliad bach yn ein galluogi i ddatrys problemau ac ymateb i heriau'n gyflym ac yn hunangynhaliol. Er enghraifft, pan nodwyd risgiau treth yn ystod 2019-20, daethom â'n sgiliau a'n harbenigedd cyfunol at ei gilydd i gynllunio a darparu'r ateb gorau ar gyfer y risg honno. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adran Dadansoddiad o berfformiad: sicrhau ein bod yn deg.

Gwella ein sgiliau digidol

Fel sefydliad digidol yn gyntaf, mae gallu digidol yn bwysig i ni fel sgil arbenigol ac ar lefel ehangach ar draws y sefydliad.

Rydym wedi parhau i adeiladu a datblygu sgiliau digidol hirdymor y sefydliad mewn sawl ffordd. Er enghraifft, ffurfiwyd partneriaeth â Phrifysgol De Cymru i recriwtio 3 phrentis digidol yn yr hydref (2019). Maent yn rhannu eu hamser rhwng ein cefnogi ni’n fewnol a chwblhau blwyddyn gyntaf cwrs gradd 4 blynedd. Yn ystod eu prentisiaethau, gallant arbenigo mewn gwahanol feysydd a byddant yn caniatáu i ni i wneud mwy o welliannau i'r system yn fewnol.

Rydym hefyd wedi gwella gallu ein pobl i gyd drwy gynnig diweddariadau rheolaidd a chyfleoedd dysgu mewn meysydd fel seiberddiogelwch a rheoli gwybodaeth.

Sgiliau Cymraeg

Ein lefelau presennol o ran y Gymraeg yw bod:

  • 78% o'n pobl yn gallu ychydig o’r Gymraeg
  • 19% yn rhugl neu'n agos at fod yn rhugl
  • gan yr holl feysydd busnes gydweithwyr sy’n siaradwyr Cymraeg, ond nad oes siaradwyr Cymraeg ym mhob tîm unigol o fewn y meysydd hynny

Dechreuom ddatblygu ein strategaeth Gymraeg ein hunain fel un o themâu allweddol ein diwrnod cwrdd i ffwrdd ym mis Ionawr 2020, gan edrych ar y dulliau gwahanol y gallem eu defnyddio i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yn fewnol a gyda’n cwsmeriaid.

Wrth i ni ddatblygu a gweithredu ein strategaeth Gymraeg yn 2020-21, bydd ein gallu i adolygu ei heffaith ar gynyddu lefelau sgiliau yn gwella unwaith y byddwn wedi diffinio ein mesurau.

Datblygiad a thwf

Yn ystod 2019-20, ymunodd pobl o amrywiaeth eang o wahanol sefydliadau â ni er mwyn manteisio ar gyfle i dyfu a datblygu. Dyma rai pwyntiau allweddol a ddysgwyd:

  • ymunodd ychydig dros hanner (56%) o'n pobl â ni o sefydliadau eraill y Gwasanaeth Sifil, ac mae ychydig o dan hanner (44%) wedi dod o amrywiaeth o gyflogwyr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat neu wedi dewis ACC fel eu cyflogwr cyntaf erioed
  • o'r rhai sy'n ymuno â ni o'r Gwasanaeth Sifil, daeth ychydig dros draean (35%) drwy ddyrchafiad ac roedd 3 chwarter o’r rhai hynny’n fenywod (75%)
  • o'r rhai a gafodd swydd newydd mewn sefydliadau eraill yn y Gwasanaeth Sifil, gwnaeth y mwyafrif hynny drwy ddyrchafiad. Rydym yn falch o gyfrannu at y gronfa dalent drawslywodraethol hon

Mae ein pobl wedi dangos eu bod yn uchelgeisiol ac yn dalentog. Mae hyn wedi cyd-daro â chyfnod o dwf i'r sefydliad. Mae rhai enghreifftiau o 2019-20 yn cynnwys y ffaith bod 15% o'n pobl yn cael eu dyrchafu’n fewnol neu wedi cael dyrchafiad dros dro yn y cyfnod, ac ychydig dros chwarter (26%) o bobl sy’n eu swyddi wedi cael eu dyrchafu'n fewnol neu eu dyrchafu dros dro ers ymuno â ACC. Rydym wedi recriwtio prentisiaid, wedi cynnig lleoliadau haf i fyfyrwyr prifysgol a lleoliadau i raddedigion, ac mae pob un o’r prentisiaid a enillodd eu cymwysterau wedi derbyn swyddi parhaol yn ein timau Data, Adnoddau Dynol a Gweithrediadau.

Gan ein bod ni’n sefydliad bychan, ni all pob un o’n staff gael dyrchafiad yn fewnol o fewn amserlenni sy'n addas iddynt, ac felly nid hyn yw’r unig fesur o lwyddiant y dylem ei ddefnyddio. Er enghraifft, mae tua thraean (33%) o'n pobl yn 'anghytuno' neu'n 'anghytuno'n gryf' â’r datganiad bod cyfleoedd iddynt ddatblygu eu gyrfaoedd gyda ni. O ystyried ein maint, mae hyn yn debygol o fod yn wir am lawer o rolau.

Fodd bynnag, gallwn wneud rhagor o waith i uwchsgilio rheolwyr llinell a'n pobl, a’u helpu i ddatblygu cynlluniau gyrfa a pharhau er mwyn annog a chefnogi'r rhai hynny sy'n barod i wneud y cam nesaf gyda chyflogwr arall. O edrych ar adborth arolwg y Gwasanaeth Sifil, nid yw’r ffordd y mae ein staff yn amgyffred eu dysgu a'u datblygiad gystal ag yr hoffem iddo fod. Er ei fod yn dal yn gadarnhaol o gymharu â chyfartaledd y Gwasanaeth Sifil, credwn fod hwn yn faes lle gallwn wella.

Yn ystod 2019-20, cymerodd pob un o'n pobl ran mewn gweithgareddau dysgu a datblygu. Yn benodol:

  • buddsoddodd ein pobl 208 diwrnod i ddysgu a datblygu mewn dros 500 o weithgareddau. Ar gyfartaledd, roedd hyn yn 3 diwrnod y pen. Fodd bynnag, credwn fod y niferoedd hunanddatganedig hyn yn isel, a bod y cyfanswm mewn gwirionedd yn llawer uwch
  • rydym wedi buddsoddi £74,000 o'n cyllideb mewn hyfforddiant ffurfiol, gan ganolbwyntio ar sgiliau hyfforddi, sgiliau technegol, a sgiliau proffesiynol. Ochr yn ochr â hyfforddiant allanol, rydym wedi datblygu llawer o ddeunydd hyfforddi pwrpasol yn fewnol hefyd
  • bu 20% o'n pobl yn gweithio gyda hyfforddwyr ffurfiol, ac elwodd eraill o gael mentor, neu o fod yn fentor, gan gynnwys mentora gwrthdro

Bach oedd effaith y cyfnod clo ar hyfforddiant yn y cyfnod hwn, a disgwylir na fydd yn effeithio gormod ar ein pobl y flwyddyn nesaf ychwaith gan fod llawer o ddarparwyr hyfforddiant eisoes yn darparu cynigion ar-lein neu wedi newid yn gyflym i'w darparu’n rhithiol.

Fodd bynnag, mae’n pobl wedi bod â llai o amser yn gyffredinol yn y cyfnod clo, gan gynnwys amser i ddatblygu, oherwydd cyfrifoldebau gofalu a chefnogi blaenoriaethau newydd neu ychwanegol. Mae hyn yn rhywbeth y bydd angen i ni geisio mynd i'r afael ag ef trwy gydol 2020-21 a hyd 2021-22.

Amrywiaeth

Er mwyn i'n pobl deimlo’u bod yn cael eu cynnwys a'u parchu, ein nod yw cynyddu’r cyfleoedd i bawb arloesi, i gydweithio, ac i fod yn rhan o'r penderfyniadau a wneir gennym. Rydym hefyd yn gweithio i greu a chynnal diwylliant cynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu cyflawni eu potensial.

Rydym wedi canolbwyntio ein dull hyd yma ar gynhwysiant a thegwch ac wedi monitro i weld a yw hyn wedi arwain at ganlyniad cyfartal. Wrth i ni aeddfedu fel sefydliad, ein bwriad yw datblygu strategaethau mwy penodol i fynd i'r afael ag unrhyw feysydd a welwn lle nad yw'r dull hwn yn gwbl lwyddiannus.

Mae mesur a chyhoeddi data ar amrywiaeth yn anodd mewn sefydliad o tua 70 o bobl. Nid ydym yn cyhoeddi data a allai ddatgelu hunaniaeth unigolyn neu grŵp bach o unigolion, er mwyn diogelu eu preifatrwydd. Golyga hyn na fyddwn yn cyhoeddi data ar grwpiau o lai na 5 o bobl, felly ni allwn gyhoeddi'r rhan fwyaf o'n data amrywiaeth. Mae ein Hadroddiad Cydraddoldeb yn cynnwys data sy'n ddigon mawr i'w gyhoeddi'n gyhoeddus ac sy'n darparu naratif lle nad yw hynny’n bosibl.

Rydym yn cyhoeddi Amcanion Cydraddoldeb Strategol bob 4 blynedd, ac yn cyhoeddi ein Hadroddiad Cydraddoldeb blynyddol er mwyn rhannu ein cynnydd yn erbyn yr amcanion hyn a hefyd i rannu ein hystadegau amrywiaeth fel cyflogwr.

Mae ein Hadroddiadau a'n Hamcanion blaenorol ar gael ar ein gwefan, a bydd ein Hadroddiad Cydraddoldeb ar gyfer 2019 i 2020 yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2021.

Adran 5: dylunio

Ein hamcan yw defnyddio ein profiad a’n harbenigedd i helpu i ddylunio gwasanaethau refeniw Cymru.

Gan weithio ar wasanaethau refeniw newydd a rhai sy'n bodoli eisoes ar draws Llywodraeth Cymru’n ehangach, gallwn ddefnyddio’r profiad a'r arbenigedd a gawn gan ein timau mewnwelediad, gweithrediadau, data, digidol, a pholisi cwsmeriaid i gefnogi'r gwaith o ddylunio systemau, polisi, a fframweithiau cyfreithiol mewn ffordd integredig sy'n gweithio'n dda i ddefnyddwyr ac sy'n bodloni amcanion Llywodraeth Cymru.

Sut oedd ein perfformiad eleni?

Yn ystod 2019-20, gwnaethom ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yn ehangach er mwyn chwilio am gyfleoedd i ddarparu cymorth â syniadau cynnar ar gyfer dylunio gwasanaethau refeniw newydd posibl. 

Sefydlwyd gweithgor dylunio gennym i ddwyn ynghyd yr ystod o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer dylunio o'r dechrau i'r diwedd, ar draws ACC a Llywodraeth Cymru yn ehangach. O ganlyniad, gwnaethom gefnogi syniadau dylunio cynnar ar amrywiaeth o drethi a gwasanaethau refeniw newydd posibl, megis treth tir gwag ac ardoll gofal cymdeithasol.

Gwnaethom hefyd gefnogi Llywodraeth Cymru yn ehangach gyda syniadau cynnar am ddulliau strategol o weinyddu a gweithredu trethi Cymru.

Astudiaeth achos: fframwaith ar gyfer dylunio gwasanaethau refeniw Cymru

Sefyllfa

Wrth ddechrau gweithio gyda Llywodraeth Cymru yn ehangach ar gamau cynnar dylunio gwasanaethau refeniw newydd posibl, nodwyd y cwestiynau dylunio cyffredin a glywyd yn aml.

Dull

Datblygwyd fframwaith gennym, yn seiliedig ar ein profiad cyfunol, er mwyn helpu i nodi a dadansoddi'r prif flociau adeiladu ar gyfer datblygu a gweithredu gwasanaeth refeniw. Cafodd y meysydd eu categoreiddio fel a ganlyn:

  • sefydlu a chytuno ar atebolrwydd
  • mesur atebolrwydd 
  • talu treth 
  • gorfodi talu a chydymffurfiaeth
  • creu a rheoli cofnod o daliadau a wneir

Treialwyd y fframwaith hwn gennym yng nghyd-destun trethi a gwasanaethau refeniw newydd posibl yng Nghymru.

Canlyniad

Amlygodd yr ymarfer hwn yn gyflym yr effaith y byddai penderfyniadau polisi penodol yn ei chael ar ddarpariaeth weithredol gwahanol feysydd treth neu wasanaeth newydd i Gymru. Er enghraifft:

  • gofynion data
  • datrysiadau digidol

Helpodd hyn i ddangos y fantais sylweddol o ystyried darpariaeth o’r cychwyn cyntaf wrth feddwl am bolisïau, ac i barhau i wneud hynny’n gyson trwy gydol y broses ddylunio.

Bydd mabwysiadu'r dull hwn yn y dyfodol yn helpu i leihau'r risg o ddatblygu polisïau na ellir eu gweithredu fel y bwriadwyd o safbwynt gweithredol.

Anna Adams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Trysorlys Cymru:

Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn parhau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu polisi treth datganoledig yng Nghymru. Mae gweithio gyda thîm ACC wedi bod yn hynod werthfawr i Drysorlys Cymru, yn enwedig gyda'u profiad o weinyddu gwasanaethau refeniw a’u gwybodaeth am ddylunio trethi.

Adran 6: gwneud y gorau o’n data

Rydym am wneud y gorau o’r data sydd gennym, a gweithio gydag eraill sy'n cadw data trethdalwyr Cymru er mwyn gwella'r ffordd y caiff data ei rannu, ei ddefnyddio, a'i ddadansoddi er budd trethdalwyr.

Ein nod yw sicrhau ein bod yn cael y gwerth mwyaf o ddata trethdalwyr Cymru. Gan weithio ar draws y llywodraeth rydym am archwilio ffyrdd effeithiol a diogel o rannu, defnyddio, a datblygu data – gan droi'r data hwnnw'n ased i drethdalwyr Cymru.

I ddechrau, ein nod yw archwilio'r defnydd posibl o'r data sydd gennym a sut i sicrhau ei fod ar gael i bartneriaid perthnasol, gan gofio agweddau cyfreithiol ar rannu data.

Sut oedd ein perfformiad ni eleni?

Yn ystod 2019-20, gwnaethom gynnydd mewn sawl maes. Rydym yn falch o fod wedi cael dechrau da yn y flwyddyn gyntaf hon, gan adeiladu ar y berthynas â Llywodraeth Cymru yn ehangach a chydag awdurdodau lleol Cymru. Rydym wedi nodi meysydd sydd o ddiddordeb cyffredin yn ogystal â'r data a fydd, gobeithio, yn destun ein cynllun peilot rhannu data.

Gwnaethom barhau i ymgysylltu ag awdurdodau lleol ac:

  • gwnaethom adeiladu perthynas â rheolwyr refeniw a budd-daliadau sy'n gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o gasglu ardrethi'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Rydym wedi trafod y cyfleoedd a'r heriau a wynebir wrth weinyddu gwasanaethau refeniw er mwyn rhannu arfer gorau a syniadau. Gwnaethom hefyd nodi meysydd lle gallai data ychwanegol ddarparu datrysiad, yn ogystal â thrafod y data sydd gennym
  • gwnaethom nodi cyfleoedd i rannu data yn y dyfodol drwy gyfres o weithdai. Gwnaethom archwilio'n fanwl y manteision, y risgiau, a'r heriau o ran rhannu data. Roedd y rhai a fynychodd yn cynnwys awdurdodau lleol, Prifysgol Abertawe, ac arbenigwyr ar draws Llywodraeth Cymru’n ehangach

Meddai Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru:

Os ydym am drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau cyhoeddus i ddinasyddion, mae angen i ni sicrhau bod data'n cael ei ddefnyddio'n effeithiol ac yn ddiogel er mwyn cefnogi'r gwasanaethau hynny a sicrhau gwell canlyniadau. Dechreuodd y gweithdai a gynhaliwyd gan Awdurdod Cyllid Cymru eleni sgwrs bwysig am sut y gallwn ddefnyddio pyrth cyfreithiol i gyflawni'r uchelgais hwnnw mewn partneriaeth ar draws gwasanaethau cyhoeddus.

Cyhoeddi data TTT a TGT

Cyhoeddwyd data manwl gennym hefyd ar TTT a TGT yn ôl amserlen ddiffiniedig, yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Buom yn gweithio gyda rhai o brif ddefnyddwyr ein data i sicrhau bod yr hyn a gyhoeddir gennym yn mynd i'r afael â'r cwestiynau sydd ganddynt am y ddwy dreth. Mae rhai enghreifftiau'n cynnwys:

  • ehangu'r data TTT a gyhoeddir gennym i gynnwys gwybodaeth am wahanol ardaloedd trefol yng Nghymru yn ystod y flwyddyn. Adeiladwyd ar hyn gyda chyhoeddiad ein hail ganlyniadau blynyddol (2019-20)
  • datblygu'r ffordd rydym yn cyhoeddi'r data i gynnwys fformatau mwy hygyrch. Byddwn yn parhau i ddatblygu'r gwaith hwn yn 2020-21

Rydym yn parhau i ymhelaethu ar y data yr ydym yn ei gyflwyno a byddwn yn adrodd ar hyn yn ein hadroddiad blynyddol nesaf.

Adran 7: llesiant, elusen, a'r amgylchedd

Llesiant 

Mae ein strategaeth lesiant yn cyd-fynd â ‘5 Ffordd at Les’ y Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan ein bod yn cydnabod bod y gweithle yn lleoliad allweddol ar gyfer hyrwyddo ymddygiadau da.

Fel sefydliad bychan, rydym wedi gallu dod â'n holl bobl at ei gilydd i gyfrannu at y gwaith o ddatblygu mentrau a rhaglenni sy'n cefnogi ein llesiant. Mae digwyddiadau llesiant a chasglu arian yn mynd gyda’i gilydd law yn llaw, a chant eu harwain gan ein Grŵp Llesiant, grŵp o wirfoddolwyr gyda chynrychiolaeth o'n holl dimau. 

Trefnodd y grŵp nifer o ddigwyddiadau yn unol â phob un o themâu ein strategaeth lesiant, er enghraifft: archwiliadau iechyd blynyddol, sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar amser i siarad, a chlwb llyfrau.

Elusen

Y Grŵp Llesiant yw ein canolbwynt cymdeithasol hefyd, ac maent yn trefnu llawer o ddigwyddiadau codi arian ar gyfer ein helusen ddewisol bob blwyddyn. Mae'r rhain yn gyfleoedd i'n pobl gael hwyl gyda'i gilydd yn amgylchedd y swyddfa a thu hwnt wrth godi arian ar gyfer achos haeddiannol. 

Sefydlwyd ein helusen ddewisol am y tro cyntaf ym mis Hydref 2018, ac rydym yn cynnal trafodaethau blynyddol ynglŷn â’r dewis ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Yn ystod 2019-20, ein helusennau dewisol oedd: 

  • Llamau sydd â’r nod o ddileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc a menywod bregus (mis Hydref 2018 hyd at fis Medi 2019)
  • FareShare, sef elusen ailddosbarthu bwyd hynaf y DU (Hydref 2019 i Fedi 2020)

Mae codi arian i'n helusen ddewisol yn ymwneud â gofalu am lesiant eraill. Mae hefyd yn cefnogi llesiant cyffredinol ein pobl ni. 

Yr amgylchedd

Rydym yn frwd dros ddiogelu'r amgylchedd. Rydym yn cydnabod effaith ein gwaith pwysig o gasglu a rheoli TGT ar yr amgylchedd. Rydym yn mynd ar drywydd cyfleoedd i ymestyn ein gwaith er mwyn helpu i leihau gwarediadau gwastraff anawdurdodedig. Gobeithiwn wneud cynnydd pellach o ran hyn yn y dyfodol.

Yn ogystal â chasglu a rheoli TGT, er mwyn helpu i ddiogelu'r amgylchedd rydym wedi:

  • parhau i annog y defnydd o wasanaethau digidol gan ein trethdalwyr a'u cynrychiolwyr, megis ffeilio a thaliadau, er mwyn lleihau'r defnydd o bapur
  • parhau i annog gweithio di-bapur. Rydym yn rhedeg system TGCh sy’n gwbl seiliedig yn y cwmwl. Trwy leihau ein defnydd o bapur a'n dibyniaeth ar bapur dros y flwyddyn rydym wedi gallu symud at weithio o gartref yn eithaf diffwdan yn sgil llifogydd yn ein swyddfeydd ym mis Chwefror ac yn ystod cyfnod clo’r coronafeirws
  • annog a gwneud gwell defnydd o dechnoleg ddigidol ar gyfer cynnal cyfarfodydd a gweithdai o bell, a hynny er mwyn bod ein pobl yn teithio llai, a datblygu gweminarau ar-lein er mwyn galluogi ein defnyddwyr i ymuno â'n diweddariadau treth heb fod angen teithio i ddigwyddiadau


Dyfed Alsop
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
19 Hydref 2020

Adolygiad o’n Siarter

Mae Ein Siarter yn nodi’r gwerthoedd, yr ymddygiadau, a’r safonau a rennir rhyngom sy'n ein galluogi i gydweithio’n well â threthdalwyr, eu cynrychiolwyr, a rhanddeiliaid eraill er mwyn darparu system drethu deg i Gymru.

Mae Ein Siarter, a gyhoeddwyd yn 2018, yn berthnasol i bawb sy’n gweithio gyda ni, gan gynnwys ein partneriaid cyflenwi, er enghraifft Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’n ymgorffori ysbryd ac ymdeimlad 'Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)'.

Deall sut y gallem gyflawni'r gwerthoedd yn Ein Siarter yn effeithiol oedd y sylfaen ar gyfer datblygu 'Ein Dull' sy’n sefydlu ffordd Gymreig o ymwneud â threth.

Gan fyfyrio ar 2019-20, rydym yn falch bod Ein Siarter ac Ein Dull wedi'u hymgorffori yn y ffordd yr ydym yn gweithio, ac rydym yn dechrau gweld tystiolaeth bod hyn yn effeithiol. Fe welwch enghreifftiau o hyn drwy gydol yr Adroddiad Blynyddol. Er mwyn tynnu hyn ynghyd rydym yn crynhoi ein perfformiad yn erbyn pob un o'r gwerthoedd yn ein Siarter yn yr adran hon isod.

Gwerth

Yr hyn yr ydym wedi'i wneud

Diogel: gwarchod yr holl wybodaeth a pharchu cyfrinachedd.

Rydym yn cymryd diogelwch gwybodaeth a'r rheolaeth gywir ohono o ddifrif. Rydym wedi datblygu Polisi Gwybodaeth a Llywodraethiant sy'n egluro ein dull o reoli’r wybodaeth sydd gennym. Mae polisïau, gweithdrefnau, a chanllawiau ategol priodol wedi'u sefydlu ac mae ein holl staff wedi derbyn hyfforddiant rheoli gwybodaeth blynyddol gorfodol.

Mae ein gwefan yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol am sut rydym yn rheoli gwybodaeth, gan gynnwys ein hysbysiadau preifatrwydd a pholisi, sydd wedi'u hadolygu a'u diweddaru.

Rydym yn rhoi blaenoriaeth uchel i seiberddiogelwch. Mae ein Cofrestr Risg Gorfforaethol yn cynnwys 2 risg o ran methiant system TGCh a cholli gwybodaeth sy'n ymwneud â seiberddiogelwch yn benodol.

Ceir rhagor o wybodaeth am reoli gwybodaeth a seiberddiogelwch yn ein Datganiad Llywodraethiant.

Cefnogol: creu canllawiau a darparu cymorth pan fyddwch chi’n gofyn am help. Datblygu a defnyddio gwasanaethau digidol effeithiol.

Rydym wedi gwneud sawl gwelliant i'n gwefan a'n gwasanaethau digidol. Rydym wedi datblygu deunydd addysgol newydd drwy fforymau treth a gweminarau yn ogystal â gwella deunydd sy'n bodoli eisoes, megis ein canllawiau gweithredol a threth, mewn rhai meysydd cyffredin.

Yn adran yr Adroddiad ar Berfformiad ynglŷn â’n hamcan oi gwneud yn haws, rydym yn darparu gwybodaeth am ein gwasanaethau cymorth amrywiol, y gweithgareddau a wnaethom er mwyn helpu pobl i gael pethau'n iawn y tro cyntaf, a gwelliannau i'n gwasanaethau digidol.

Teg: gonestrwydd wrth ddelio â'n gilydd a chreu sefyllfa deg fel bod pob trethdalwr yn cael ei drin yn gyfartal. Mynd i'r afael ag efadu ac osgoi a defnyddio pwerau’n gyson a theg.

Ar ddechrau 2019-20, cyflwynwyd strategaeth newydd gennym, gan gynnwys mesurau newydd, i reoli 'risgiau treth'. Nod y dull hwn yw sicrhau tegwch a chysondeb ar draws y system dreth.

Fel rhan o hyn, datblygwyd ffyrdd o gefnogi pobl i gywiro pethau pan wnaed camgymeriadau. Mewn achosion lle'r oedd pobl yn ceisio naill ai efadu neu osgoi talu'r swm llawn, gwnaethom roi mecanweithiau ar waith i nodi'r achosion hyn a chymryd camau i sicrhau bod y dreth gywir yn cael ei thalu.

Darperir rhagor o wybodaeth yn yr adran o’r Adroddiad ar Berfformiad sy’n trafod ein hamcan o sicrhau ein bod yn deg.

Ymgysylltu: cefnogi'r cyhoedd yng Nghymru i ddeall trethiant datganoledig a chydweithio i'w ddatblygu er budd Cymru.

Eleni, rydym wedi canolbwyntio ein hymgysylltiad ar y bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau ac ar sicrhau eu bod yn hawdd eu defnyddio ac yn bodloni disgwyliadau pobl. Fodd bynnag, rydym hefyd wedi bod yn fwy rhagweithiol wrth ymgymryd ag allgymorth eleni, gan ddatblygu gweithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu er mwyn cynyddu’r ymwybyddiaeth o dreth a gwella’r ddealltwriaeth. Rydym yn egluro mwy am hyn yn ein Hadroddiad ar Berfformiad o dan yr adran ar ei gwneud yn haws.

Ni fyddai’n gwaith gyda threthdalwyr a'u cynrychiolwyr wedi llwyddo oni bai am eu hagwedd gadarnhaol wrth weithio gyda ni, a'r sgyrsiau gonest y gallwn eu cael gyda hwy. Er enghraifft, gwnaed sawl gwelliant i'n canllawiau mewn cydweithrediad â gweithwyr proffesiynol treth a chyfreithiol er mwyn sicrhau bod y canllawiau hyn mor ddefnyddiol â phosibl.

Ymatebol: gwrando ar safbwyntiau ein gilydd a bod yn agored yn ein sgyrsiau, gweithredu ar yr adborth a'r cyngor a roddir. Trin ein gilydd â pharch.

 

Mae gwrando ar adborth gan drethdalwyr a chynrychiolwyr ac ymateb iddo wedi parhau i fod yn flaenoriaeth i ni. Rydym wedi canolbwyntio ar ddatblygu ein mewnwelediad cwsmeriaid drwy gasglu mwy o adborth eleni, a gwrando ar anghenion ein trethdalwyr a'u cynrychiolwyr. Rydym yn egluro mwy am hyn yn ein Hadroddiad ar Berfformiad o dan yr adran ar ei gwneud yn haws.

Rydym wedi buddsoddi yn ein gallu i gefnogi pobl gydag ymholiadau. Rydym wedi gwella ymwybyddiaeth o feysydd treth mwy cymhleth, ac wedi annog pobl i gysylltu â ni’n gynnar yn y broses fel y gallem eu helpu i gael pethau'n iawn y tro cyntaf. Bu’r dull hwn o gymorth wrth ddatblygu cydberthnasau ac ymddiriedolaeth rhyngom ni a'n trethdalwyr a'u cynrychiolwyr.

Buom yn gweithio gyda threthdalwyr a'u cynrychiolwyr drwy gydol y flwyddyn hon i gywiro gwallau a chasglu treth nad oedd wedi’i dalu’n llawn neu ad-dalu treth yn sgil gordalu. Defnyddiwyd ein polisi datrys anghydfod, a ddatblygwyd gennym yn ystod y flwyddyn, i leihau nifer yr anghydfodau tra’n parhau i gasglu'r dreth oedd yn ddyledus. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Hadroddiad ar Berfformiad o dan yr adran ar sicrhau ein bod yn deg.

Dwyieithog: bod â’r hyder i gynnal ein busnes yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Gwnaethom barhau i gynnig gwasanaeth cwbl ddwyieithog a chynnal ein busnes yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Cynigir ein gwasanaethau digidol yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gynnwys nodwedd 'toggle' yn ein system dreth ar-lein – sy'n galluogi defnyddwyr i symud rhwng y Gymraeg a'r Saesneg yn ddi-dor.

Rydym hefyd wedi dechrau datblygu strategaeth Gymraeg ar gyfer ein sefydliad.

Manwl gywir: cydweithio i wneud pethau'n iawn a'u cywiro os oes angen, rhannu data a gwybodaeth gywir, cymryd gofal rhesymol i osgoi camgymeriadau. Cadw cofnodion manwl gywir.

Gwnaethom fuddsoddi yn ein harbenigedd treth drwy gydol y flwyddyn, gan feithrin gallu ein desg gymorth a'n harbenigwyr treth er mwyn sicrhau ein bod yn darparu ymatebion amserol a chywir i ymholiadau.

Buom yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol treth a chyfreithiol er mwyn ddiweddaru ein canllawiau lle nodwyd cyfleoedd i wella.

Buom yn ymgysylltu â threthdalwyr a chynrychiolwyr i gynyddu ein gwybodaeth gyfunol o ymholiadau, digwyddiadau treth, a gweminarau. Defnyddiwyd y wybodaeth gyfunol hon gennym i reoli risgiau treth, i wella ymwybyddiaeth, ac i ddarparu addysg er mwyn helpu pobl i gael pethau'n iawn y tro cyntaf ac atal gwallau.

Mae’r adran sicrhau ein bod yn deg yn yr Adroddiad ar Berfformiad yn egluro mwy am ein gwaith yn rheoli risgiau treth.

Effeithlon: ymateb i'n gilydd yn gyflym, cyflwyno ffurflenni a phrosesu ceisiadau’n brydlon. Canfod ffyrdd y gallwn ni wella'r gwasanaeth.

Mae trethdalwyr a'u cynrychiolwyr wedi canmol prydlondeb ac ansawdd ein hymateb i ymholiadau a cheisiadau’n rheolaidd.

Rydym wedi gwella ein gwasanaethau yn y meysydd lle cafwyd awgrymiadau ar gyfer gwella. Gweler rhagor o wybodaeth yn adran ei gwneud yn haws yr Adroddiad ar Berfformiad.

Rydym wedi gweld cynnydd ym mhrydlondeb ffeilio eleni. A chynnydd o ran awtomeiddio trafodiadau, gyda chyfran uwch o drafodiadau’n cael eu ffeilio a'u talu'n ddigidol yn 2019-20.

Gwnaethom nifer o welliannau hefyd er mwyn creu arbedion effeithlonrwydd o fewn y sefydliad, megis cyflwyno ein system CRM. Ceir rhagor o wybodaeth yn adran bod yn effeithlon yr Adroddiad ar Berfformiad.

Rheolwyr Awdurdod Cyllid Cymru

Bwrdd Rheoli
Enw Swydd Newid
Kathryn Bishop Cadeirydd Anweithredol;
Aelod o’r Pwyllgor Pobl
 
Jocelyn Davies Aelod Anweithredol; 
Cadeirydd y Pwyllgor Sicrwydd a Rheoli Risg (ARAC);
Aelod o’r Pwyllgor Pobl
Penodwyd yn Gadeirydd ARAC Mehefin 2019
Dyfed Edwards Is-gadeirydd Anweithredol; 
Cadeirydd y Pwyllgor Pobl
 
David Jones Aelod Anweithredol;
Aelod o ARAC
 
Lakshmi Narain Aelod Anweithredol;
Aelod o ARAC
 
Martin Warren Aelod Anweithredol Ymddiswyddodd 27 Awst 2019
Dyfed Alsop Prif Weithredwr  
Sean Bradley Prif Swyddog Cyfreithiol a Pholisi Ymddiswyddodd 2 Mai 2020
Rebecca Godfrey Prif Swyddog Strategaeth Absenoldeb mamolaeth Ebrill 2019
Samuel Cairns Prif Swyddog Gweithrediadau Penodwyd dros dro Mai 2019, Penodwyd Mawrth 2020
Lucy Robinson Aelod Staff Etholedig  

Uwch Swyddogion

Tîm Arwain – Pwyllgor Gweithredol

  • Dyfed Alsop - Prif Weithredwr
  • Rebecca Godfrey - Prif Swyddog Strategaeth
  • Jim Scopes - Prif Swyddog Strategaeth Dros Dro (Ymunodd Mai 2019)
  • Jo Ryder - Pennaeth Staff
  • Melissa Quignon-Finch - Prif Swyddog Pobl
  • Sam Cairns - Prif Swyddog Gweithrediadau (Penodwyd Mawrth 2020)
  • Kate Innes - Prif Swyddog Cyllid Dros Dro (Ymunodd Rhagfyr 2019)
  • Sean Bradley - Prif Swyddog Cyfreithiol a Pholisi (Gadawodd Mai 2020)
  • Teressa Platt - Prif Swyddog Cyllid (Gadawodd Hydref 2019)

Adroddiad Ariannol

Cyfrifon Adnoddau

Mae ACC yn derbyn dyraniad cyllid blynyddol gan Lywodraeth Cymru i ariannu ei wariant. Rydym yn gosod cyllideb gwariant bob blwyddyn yn seiliedig ar y gweithgareddau rydym yn bwriadu ymgymryd â nhw er mwyn gweithredu ein Cynllun Corfforaethol, wedi’u rhannu’n swyddogaethol i’r meysydd cyffredinol canlynol:

  • Costau staff gan gynnwys dysgu a datblygu
  • Costau gweithredol casglu’r trethi, camau gorfodi, a chudd-wybodaeth am ddata
  • Costau rhedeg corfforaethol, fel AD, TGCh, cyfleusterau, llywodraethiant, cyngor cyfreithiol ac ati
  • Newid busnes er mwyn sicrhau gwelliant parhaus i systemau digidol a phrosesau gweithredol er mwyn cefnogi prosesau newydd a newidiadau i ddeddfwriaeth trethi

Caiff y cyllid a ddyrennir i ACC ac a dynnwyd i lawr gan Lywodraeth Cymru ei nodi yn y tabl isod. Noder bod y cyfnod cymharu blaenorol yn 18 mis.

Ffrwd Cyllid 2019-20
Dyraniad
2019-20 Cyllid a
dynnwyd
12 mis
2017-19 Dyraniad
18 mis
2017-19
Cyllid/asedau a
drosglwyddwyd
18 mis
  £000 £000 £000 £000
Refeniw 6,616 5,948 7,500 7,050
Cyfalaf 80 79 2,580 2,579
Cyfanswm y
Dyraniad Cyllid
6,696 6,027 10,080 9,629

Ar gyfer 2019-20, rhoddwyd £6,196,000 o gyllid refeniw i ni. Cynyddwyd hyn o £500,000 yn ystod y flwyddyn er mwyn cyflawni gwelliannau digidol oedd wedi’u nodi ar gyfer lleihau’r risg o golli treth, ac ar gyfer datblygu adrannau newydd i’r systemau i gefnogi prosesau newydd. Cafodd rhan o’r cyllid ychwanegol hwn ei drosi’n £80,000 o arian cyfalaf ar gyfer prynu a chyflunio meddalwedd CRM.

Cyllid a dynnwyd yw’r arian parod gwirioneddol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn. Bydd y dyraniad a’r arian parod a dderbynnir yn wahanol gan fod ACC ond yn tynnu cyllid i lawr yn ôl yr angen i dalu costau pan fyddant yn ddyledus, tra bod arian a ddyrennir yn cynnwys croniadau (symiau sy’n ddyledus ond nad ydynt wedi’u talu eto). 

Nodir crynodeb o wariant staff a gwariant gweithredol isod.
  2019-20
12 mis
2017-19
18 mis
£000 £000
Costau Staff 4,576 4,961
Seilwaith TGCh a Chymorth Systemau 721 1,005
Newid Busnes 714 517
Costau Gweithredol 277 365
Costau Canolog 103 105
Costau’r Bwrdd 64 167
Cyfanswm Gwariant Staff a Gwariant Gweithredol 6,455 7,120

Mae gwariant ACC wedi’i reoli’n effeithlon gydol y flwyddyn ac roedd y gwariant terfynol 3% yn is na’r cyllid a ddyranwyd (£6,455,000 a wariwyd o’i gymharu â’r gyllideb o £6,616,000). Mae’r canlyniad hwn yn cynnwys y costau ychwanegol a gafwyd oherwydd y llifogydd yn ein prif swyddfa ym mis Chwefror 2020, a arweiniodd at adleoli staff, ynghyd ag effaith fwy diweddar y coronafeirws.

Nid oeddem yn gallu cwblhau rhai prosiectau arfaethedig ym mis Chwefror a mis Mawrth oherwydd y ddau ddigwyddiad ac rydym wedi gorfod gohirio rhywfaint o’r gwaith hwn i’w gwblhau yn 2020-21. Mae hyn wedi lleihau ein gwariant am y flwyddyn.

Mae’r cyfrifon hyn ar gyfer 2019-20 yn cwmpasu blwyddyn gyntaf Cynllun Corfforaethol 3 blynedd ACC, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2019. Mae ein gwariant yn adlewyrchu amcanion allweddol y Cynllun hwnnw. Rydym wedi buddsoddi mewn staff drwy ddefnyddio prosesau recriwtio gwell, trwy ddysgu ychwanegol, hyfforddi, a chynnig cyfleoedd er mwyn sicrhau bod gan y sefydliad y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol er mwyn cyflawni’r cynllun hwn. Mae nifer y staff wedi cynyddu o 61 i 71 o ganlyniad i lenwi swyddi presennol a chyflwyno meysydd gwaith newydd, fel gorfodi a thribiwnlysoedd, wrth i ACC aeddfedu drwy’r broses o gasglu trethi.

Rhoddwyd hwb i gyllideb y rhaglen newid busnes drwy dderbyn £500,000 ychwanegol yn ail chwarter y flwyddyn. Mae’r cronfeydd hyn wedi’n galluogi i gyflawni ystod o amcanion digidol ar gyfer ACC a’n cwsmeriaid yn unol â’n hamcanion corfforaethol.

Rydym wedi gwneud gwelliannau i’n system rheoli trethi mewn 2 faes risg treth allweddol i’w gwneud yn haws i bobl dalu’r dreth iawn ar yr adeg iawn. Rydym wedi dechrau adeiladu ein gallu digidol tymor hwy yn ogystal â gwella effeithlonrwydd, drwy gynyddu’r awtomeiddio sydd rhwng ein system drethi a’n systemau cyllid er enghraifft.

Yn ôl y disgwyl, mae costau canolog hefyd wedi cynyddu wrth i wasanaethau ACC aeddfedu. Ehangwyd prosesau adrannau’r Gyfraith, Polisi, TGCh, a Chyllid a chwyddodd niferoedd eu timau er mwyn cefnogi’r cynnydd o ran swyddogaeth weithredol ar draws y sefydliad. Mae costau newydd, fel costau gorfodi, yn dod i’r amlwg a byddant yn parhau i dyfu wrth i’r broses o gasglu trethi ddatblygu a defnyddio meysydd deddfwriaethol newydd i gasglu dyledion.

Trethi Datganoledig

Yn ystod y flwyddyn, cododd ACC drethi ar ran Llywodraeth Cymru fel y nodir yn y tabl isod. Dechreuwyd casglu trethi yn 2018. Felly, mae’r cymariaethau â’r flwyddyn flaenorol hefyd ar gyfer cyfnod o 12 mis.

  2019-20 2018-19
£000 £000
Treth Trafodiadau Tir 260,281 227,846
Treth Gwarediadau Tirlenwi 36,926 44,433
Cyfanswm trethi a refeniw 297,207 272,279

Oherwydd effaith coronafeirws ar ein prosesau gweithredol, nid yw’r staff wedi gallu derbyn post ers 22 Mawrth 2020. Nid oes unrhyw ffurflenni papur na sieciau wedi cael eu prosesu ers y dyddiad hwnnw ac felly nid yw’r rhain yn cael eu cydnabod yn y cyfrifon. Oherwydd y gyfran gymharol fach ffurflenni treth a dderbynnir ar ffurf papur (llai na 2%), ni ystyrir y caiff yr hepgoriad hwn effaith arwyddocaol ar y rhifau ar ddiwedd y flwyddyn.

Fe wnaeth ACC brosesu ychydig dros 61,000 o ffurflenni Treth Trafodiadau Tir (TTT), nifer tebyg i’r hyn a broseswyd yn y cyfnod blaenorol. O’r ffurflenni hyn, arweiniodd ychydig dros 50% at rwymedigaeth treth a oedd angen taliad, ffigwr tebyg i’r flwyddyn flaenorol unwaith eto. Cynhyrchodd hyn incwm refeniw net o £260 miliwn ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru.

Gwnaethom hefyd brosesu ad-daliadau TTT cyfradd uwch o £11.25 miliwn (2018-19: £9.22 miliwn) gan ad-dalu’r trethdalwr o fewn 7 diwrnod o dderbyn yr hawliad ar gyfartaledd.

Arweiniodd cosbau yn sgil cyflwyno ffurflenni’n hwyr a/neu dalu treth yn hwyr at £327,000 (2018-19: £157,000) o refeniw ychwanegol a godwyd ynghyd â thaliadau llog hwyr o £45,000 (2018-19: £16,000).

Talodd ACC log o £42,000 i drethdalwyr (2018-19: £13,000) pan dderbyniodd y trethdalwr ad-daliad treth. Digwyddodd hyn naill ai o ganlyniad i ddiwygiad i ffurflen neu pan gymeradwywyd cais am ad-daliad o elfen gyfradd uwch y Dreth Trafodiadau Tir ar ôl gwerthu prif eiddo preswyl blaenorol o fewn cyfnod o 3 blynedd.

Casglodd ACC y symiau arian parod net canlynol yn llwyddiannus:
  2019-20 2018-19
£000 £000
Arian net a gasglwyd 271,377 256,209
Arian parod i Gronfa Gyfunol Cymru 274,000 250,750

Bydd gweddill yr arian parod yn cael ei gadw ar gyfrif a’i anfon yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
3 Gorffennaf 2020

Adroddiad Atebolrwydd

Datganiad o gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu

Fel Swyddog Cyfrifyddu ACC, mae gan y Prif Weithredwr, Dyfed Alsop, gyfrifoldeb personol am:

  • Warchod arian cyhoeddus yn briodol
  • Gweithrediadau a rheolaeth ACC o ddydd i ddydd
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion ‘Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru’

O dan adrannau 29(1)(b) a 30(1) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 
(DCRhT) 2016, mae Gweinidogion Cymru wedi cyfarwyddo ACC i baratoi ein cyfrifon adnoddau a’n datganiad treth ar gyfer pob blwyddyn ariannol ar y ffurf ac ar y sail a nodir yn y Cyfarwyddyd Cyfrifon.

Paratoir y cyfrifon ar sail croniadau ac mae’n rhaid iddynt roi darlun cywir a theg o sefyllfa ACC ac o’i alldro adnoddau net, ei ddefnydd o adnoddau, newidiadau yn ecwiti trethdalwyr a llifau arian parod ar gyfer y flwyddyn ariannol. 

Wrth baratoi’r cyfrifon, mae’n rhaid i’r Swyddog Cyfrifyddu gydymffurfio â gofynion Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth (FReM), a rhaid iddo’n enwedig:

  • Ufuddhau i’r cyfarwyddyd cyfrifon a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru, gan gynnwys y gofynion cyfrifyddu a datgelu perthnasol, a defnyddio polisïau cyfrifyddu addas yn gyson
  • Gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon ar sail resymol
  • Nodi os dilynwyd safonau cyfrifyddu perthnasol fel y’u nodwyd yn FReM neu ddim, gan ddatgelu ac egluro unrhyw wyriadau perthnasol yn y cyfrifon
  • Paratoi’r cyfrifon ar sail busnes gweithredol
  • Cadarnhau bod y Cyfrifon Blynyddol, yn eu cyfanrwydd, yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, a chymryd cyfrifoldeb personol am y Cyfrifon Blynyddol a’r dyfarniadau sy’n ofynnol ar gyfer pennu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy

Yn ogystal, rhaid i’r Swyddog Cyfrifyddu sicrhau bod y datganiad treth yn cael ei baratoi yn unol ag adran 25 o’r DCRhT er mwyn:

  • Dangos y symiau sy’n dderbyniadwy o gasglu trethi, cosbau ac incwm arall, unrhyw ddidyniadau a ganiateir, a’r symiau a dalwyd i Gronfa Gyfunol Cymru
  • Datgelu gwybodaeth am unrhyw wariant neu incwm o bwys na chafodd ei ddefnyddio i’r dibenion y’u bwriadwyd gan Lywodraeth Cymru neu drafodiadau perthnasol nad ydynt wedi cydymffurfio â safonau’r awdurdodau sy’n eu rheoli

Mae dyletswyddau Swyddog Cyfrifyddu yn cynnwys derbyn y cyfrifoldeb am briodoldeb a rheoleidd-dra’r cyllid cyhoeddus y mae’r Swyddog Cyfrifyddu yn atebol amdano, am gadw cofnodion priodol ac am ddiogelu asedau ACC, ac fe’u nodir ym Memorandwm y Swyddog Cyfrifyddu, y Ddogfen Fframwaith a Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.

Fel Swyddog Cyfrifyddu ACC, rwy’n cadarnhau:

  • Fod y Cyfrifon Blynyddol yn eu cyfanrwydd ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020 yn deg, yn gytbwys ac yn rhesymol
  • Fy mod yn cymryd cyfrifoldeb personol am y Cyfrifon Blynyddol a’r a’r dyfarniadau sy’n ofynnol ar gyfer penderfynu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn rhesymol
  • Wrth gynhyrchu’r cyfrifon hyn, rwyf wedi ymgynghori’n eang, gan geisio adborth a sylwadau ac wedi ceisio sicrwydd gan Fwrdd Rheoli ACC, gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC), gan yr archwilwyr mewnol ac aelodau o’r tîm staff ehangach
  • Rwyf wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau fy mod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol a chadarnhau bod ein harchwilwyr yn ymwybodol o’r wybodaeth honno
  • Hyd y gwn i, nad oes unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol nad yw ein harchwilwyr yn ymwybodol ohoni

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
3 Gorffennaf 2020

Datganiad Llywodraethiant

Cyflwyniad a chwmpas cyfrifoldeb

Fel y Swyddog Cyfrifyddu rwy’n gyfrifol yn bersonol am y Datganiad Llywodraethiant sy’n amlinellu’r ffordd rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldeb i reoli adnoddau ACC yn ystod y flwyddyn ariannol.

Mae’r Datganiad yn rhoi cyfrif o strwythur llywodraethu corfforaethol ACC, trosolwg o’r trefniadau rheoli risg, a disgrifiad o’r prif risgiau a wynebir gan y sefydliad.

Mae DCRhT (Cymru) 2016, yn fy nynodi i fel y Swyddog Cyfrifyddu, ac mae manylion fy nghyfrifoldebau fel Swyddog Cyfrifyddu wedi’u hatodi i Ddogfen Fframwaith gyhoeddedig ACC.

Llywodraethiant corfforaethol

Mae'r sefydliad yn gweithio fewn fframwaith llywodraethiant corfforaethol ac yn cael ei gyfarwyddo a’i reoli ganddo. Mae’r fframwaith yn canolbwyntio i’r un graddau ar sut y caiff busnes ei wneud a’r ffordd y gwneir penderfyniadau.

Mae Bwrdd Rheoli ACC (y Bwrdd) yn rhoi arweiniad a chyfeiriad ac â chyfrifoldeb cyfreithiol cyffredinol dros sicrhau bod safon llywodraethu effeithiol a phriodol o fewn y sefydliad. Felly, mae’n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o graffu ar berfformiad y tîm rheoli wrth gyflawni’r amcanion a’r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt.

Fel Prif Weithredwr, rwy’n gyfrifol am sicrhau bod system reolaeth fewnol gadarn yn cael ei chynnal er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflawni polisïau, nodau, ac amcanion ac am adolygu effeithiolrwydd y system yn rheolaidd.

Mae Bwrdd ACC yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac i Weinidogion Cymru. Maent yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn cyflawni’r amcanion a’r blaenoriaethau y cytunodd ACC a Gweinidogion Cymru arnynt, fel y’u nodir yn y Llythyr Cylch Gwaith Blynyddol ac a adlewyrchir yng Nghynllun Corfforaethol ACC a gytunwyd gan y Gweinidog.

Yn ystod y flwyddyn, mynychodd Gadeirydd y Bwrdd gyfarfodydd chwarterol â’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, ynghyd â Phrif Weithredwr ACC a swyddogion o Drysorlys Cymru, i drafod perfformiad gweithredol ACC a datblygu polisïau a strategaethau newydd. Rhoddodd y cyfarfodydd gyfle i’r Cadeirydd roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Gweinidog am berfformiad a chynnydd y Bwrdd. 

Fframwaith llywodraethiant

Mae ein strwythur, ein polisïau, a’n gweithdrefnau cyfundrefnol wedi’u sefydlu yn unol â Llywodraethu Corfforaethol mewn Adrannau Llywodraeth Ganolog y DU (2017). Mae ein strwythur arweinyddiaeth yn gyson â rolau a chyfrifoldebau disgwyliedig ar gyfer uwch reolwyr; mae gweithdrefnau ategol ar waith i sicrhau y gall rolau’r Bwrdd weithredu’n effeithiol. Mae gennym lwybrau adrodd clir i sicrhau bod atebolrwydd a rheolaethau mewnol allweddol ar waith.

Sicrheir annibyniaeth penderfyniadau ynglŷn â chydnabyddiaeth ariannol drwy ddirprwyo pob penderfyniad o’r fath i Bwyllgor Pobl y Bwrdd, dan arweinyddiaeth Aelodau Anweithredol. Rydym yn cynnal perthynas waith adeiladol gyda’n rhanddeiliaid allweddol drwy gyfarfodydd rheolaidd.

Trosolwg

Mae’r Bwrdd, ARAC, a’r Pwyllgor Pobl yn chwarae rôl allweddol o ran y system llywodraethu a sicrwydd, craffu, trafodaethau ar ddatblygu, asesu risgiau cyfredol a monitro perfformiad. Caiff pwyllgorau eu cadeirio gan aelodau Anweithredol ac mae aelodau perthnasol o’r Tîm Arwain yn eu mynychu. Maent oll yn ateb yn uniongyrchol i’r Bwrdd ac mae’r holl gofnodion ar gael i bob aelod o’r Bwrdd. Ceir trosolwg o weithgarwch y Bwrdd a’i Bwyllgorau yn ystod y flwyddyn isod.

Amgylchiadau Eithriadol

Cyflwynodd digwyddiadau digynsail 6 wythnos olaf y flwyddyn heriau real iawn i ACC, gan gynnwys ei lywodraethiant. Cafwyd llifogydd yn ein prif swyddfeydd ganol mis Chwefror yn ystod Storm Dennis ac yn fuan wedyn daeth y pandemig coronafeirws a’r cyfyngiadau clo a osodwyd. Ers ei sefydlu mae gan ACC seilwaith TG yn y cwmwl sydd wedi’i gynllunio er mwyn bod yn gadarn ac er mwyn galluogi gweithio ar wasgar.

Ym mis Chwefror, yn dilyn Storm Dennis gwnaethom weithredu ein Cynllun Parhad Busnes yn llwyddiannus er mwyn i’r sefydliad barhau i ddarparu gwasanaethau. Gwnaethom adolygu ein prosesau e-lywodraethu’n fuan a’u haddasu er mwyn cefnogi’r newid mewn amgylchiadau. Roedd hyn yn cynnwys symud i gyfarfodydd Bwrdd a Phwyllgorau rhithwir (a’u cynnal yn amlach). Gwnaethom hefyd adolygu Cofrestrau Risg ACC, ac ochr yn ochr â materion uniongyrchol, gwnaethom adnabod risgiau newydd a sefydlu rheolaethau priodol, yn bennaf ym maes sicrhau iechyd a llesiant parhaus staff. Yn ogystal, gwnaethom weithredu er mwyn cynnal uniondeb ein seilwaith TG a diogelwch ein data yn ystod cyfnod o fygythiadau cynyddol i’n seiberddiogelwch.

Pan effeithiodd coronafeirws arnom ym mis Mawrth, gwnaethom adolygu ac addasu ein llywodraethiant yn ôl yr angen ar gyfer yr amgylchiadau.

Y Bwrdd

Mae’r Bwrdd yn cynnwys 5 Aelod Anweithredol a benodir gan Weinidogion, y Prif Weithredwr, 2 Aelod Gweithredol a ddynodwyd gan y Prif Weithredwr, ac Aelod Staff Etholedig. Rhestrir aelodaeth gyfredol y Bwrdd a’u presenoldeb mewn cyfarfodydd ymhellach ymlaen.

Cyfarfu’r Bwrdd yn ffurfiol 6 gwaith yn ystod y flwyddyn (Ebrill 2019, Mehefin 2019, Medi 2019, Hydref 2019, Rhagfyr 2019, a Chwefror 2020) ac yn ogystal, cafwyd 2 ddiwrnod datblygu ‘cwrdd i ffwrdd’. Roedd y cyntaf o’r rhain ym mis Gorffennaf 2019 a’i nod oedd ystyried cyfeiriad strategol a blaenoriaethau ACC ar gyfer gweddill y flwyddyn. Roedd yr ail ym mis Ionawr 2020 er mwyn ystyried a thrafod ei adolygiad o effeithiolrwydd ar gyfer y flwyddyn ac unrhyw gamau ar gyfer gwella a ddeuai yn sgil hynny.

Mae’r cofnodion, unwaith y byddant wedi’u cymeradwyo, ar gael ar wefan ACC. Caiff trafodaethau a phenderfyniadau a wneir y tu allan i gyfarfodydd Pwyllgor eu cofnodi ym mhapurau’r Bwrdd a’r cofnodion perthnasol.

Mae’r penderfyniadau allweddol a wnaed gan y Bwrdd yn ystod y cyfnod yn cynnwys cymeradwyo’r canlynol:

  • Cynnig cyllideb 2019-20 a lefelau adnoddau staff
  • Cynllunio busnes
  • Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon
  • Gwariant datblygu TGCh ar gyfer y System Rheoli Treth
  • Polisïau perthnasol, gan gynnwys rhai i atal twyll
  • Adolygiad o ddirprwyaeth Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Egwyddorion a dull cyfathrebu strategol
  • Egwyddorion digidol

Mae’r Bwrdd hefyd wedi derbyn ac ystyried adroddiadau amrywiol eraill yn ystod y flwyddyn gan gynnwys:

  • Diweddariadau gan y Prif Weithredwr a’r Cadeirydd
  • Diweddariadau perfformiad gweithredol ac ariannol
  • Adroddiadau rheoli risg a Chofrestrau Risg
  • Diweddariadau gan Bwyllgorau
  • Diweddariadau gan Drysorlys Cymru ar bolisi treth
  • Canlyniadau’r arolwg staff
  • Cynnydd yn erbyn amcanion a blaenoriaethau cytunedig

Perfformiad ac effeithiolrwydd y Bwrdd

Asesir perfformiad y Cadeirydd yn erbyn amcanion bob 6 mis.

Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru sy’n arwain yr arfarniad ar ran y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd. Mae asesiad diwedd blwyddyn y Cadeirydd yn cynnwys adborth gan:

  • Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
  • Aelodau o Fwrdd ACC (yn cynnwys arfarniadau unigol gan Aelodau Anweithredol, Aelodau Gweithredol ac Aelodau Staff Etholedig)
  • Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru
  • Y Cadeirydd (hunanarfarniad)

Cyfarfu’r Cadeirydd â phob aelod o’r Bwrdd yn unigol o leiaf ddwywaith yn ystod y cyfnod i drafod eu perfformiad. Daeth pob Aelodau Anweithredol a’r Aelod Staff Etholedig i gytundeb â’r Cadeirydd ar set o amcanion personol. Roedd y rhain yn feysydd penodol i ganolbwyntio arnynt ar gyfer eu goruchwyliaeth unigol. Trafodwyd cynnydd ym mhob maes yn eu cyfarfodydd perfformiad gyda’r Cadeirydd bob 6 mis.

Dangoswyd ymrwymiad cryf a gwelwyd tystiolaeth o hynny drwy bresenoldeb aelodau mewn cyfarfodydd Bwrdd, Pwyllgorau, a chyfarfodydd eraill.

Adolygodd y Bwrdd ei berfformiad cyfunol yn ystod y flwyddyn drwy arolwg dienw ar-lein. Roedd data’r arolwg yn cadarnhau barn y Bwrdd bod gwelliant wedi bod yn y meysydd canlynol:

  • Goruchwyliaeth a chyfeiriad
  • Dwyn y weithrediaeth i gyfrif
  • Herio a chefnogi

Ar ddiwrnod ‘cwrdd i ffwrdd’ effeithiolrwydd y Bwrdd ym mis Ionawr, trafododd yr aelodau feysydd i’w gwella a chytunwyd ar gamau gweithredu.

ARAC

Mae’r Pwyllgor yn cefnogi’r Bwrdd a’r Swyddog Cyfrifyddu (y Prif Weithredwr) drwy adolygu pa mor gynhwysfawr a dibynadwy yw sicrwydd o ran llywodraethu, rheoli risg, yr amgylchedd rheoli a’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon.

Mae’r aelodaeth yn cynnwys 3 Aelod Anweithredol. Mae’r Prif Weithredwr, y Prif Swyddog Cyllid a chynrychiolydd y Gwasanaethau Archwilio Mewnol yn mynychu cyfarfodydd. Mae Llywodraeth Cymru ac Archwilio Cymru hefyd yn mynychu’n rheolaidd. Bu Martin Warren yn Gadeirydd y Pwyllgor nes iddo ymddiswyddo fel Aelod Anweithredol ym mis Mai 2019, a phenodwyd Jocelyn Davies yn olynydd iddo gan y Bwrdd.

Yn ystod y flwyddyn, cynhaliwyd 3 chyfarfod ym Mehefin 2019, Tachwedd 2019, a Mawrth 2020. Ni chynhaliwyd cyfarfod ym mis Medi, ond dosbarthwyd papurau i’r aelodau ar gyfer y cyfarfod mis Medi arferol er mwyn iddynt graffu arnynt ac ymateb iddynt.

Rhennir cofnodion cyfarfodydd gyda’r Bwrdd ac mae Cadeirydd ARAC yn rhoi crynodeb o’i waith yng nghyfarfodydd y Bwrdd.

Paratôdd y Pwyllgor adroddiad blynyddol am ei weithgareddau, a chyflwynwyd hwnnw i’r Bwrdd.

Roedd ffocws y Pwyllgor yn ystod 2019-20 fel a ganlyn:

Image
Siart cylch yn dangos canran yr amser a dreuliwyd gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) yn adolygu a chraffu archwilio a sicwydd, rheoli risg, gwytnwch a diogelwch, rheolaethau a phrosesau, adroddiad a chyfrifon blynyddol, llywodraethu a gweinyddu pwyllgorau.

Archwilio a sicrwydd

  • Cynnydd y Gwasanaethau Archwilio Mewnol (IAS) tuag at gyflawni’r Rhaglen Archwilio Mewnol y cytunwyd arni - Cynllun Archwilio Blynyddol*
  • Ystyried cynigion yr IAS ar gyfer y Cynllun Archwilio Mewnol - 2020-21
  • Ystyried Cylch Gorchwyl aseiniadau archwilio mewnol ac adroddiadau terfynol ar ôl cwblhau aseiniadau
  • Cynnydd gan ACC yn erbyn y camau a gytunwyd yn dilyn aseiniadau archwilio IAS a’r adroddiad blynyddol (IAS ac Archwilio Cymru)*
  • Ystyried Adroddiad Sicrwydd Blynyddol IAS*
  • Cynnydd o ran camau gweithredu adroddiad archwiliad mewnol Gwasanaeth Adnoddau Dynol/cyflogres a Rennir Llywodraeth Cymru
  • Archwilio Cymru - Astudiaeth Gwrth-dwyll
  • Archwilio Cymru - Cynllun Archwilio

Rheoli risg

  • Adroddiadau ar reoli risg a’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol ddiweddaraf*
  • Ystyried y cynigion ar gyfer ymgorffori rheoli risg: Rheoli Gwybodaeth

Gwydnwch a diogelwch

  • Adroddiadau ar ddigwyddiadau diogelwch seiber a mynediad anghyfreithlon ar ddata TG*
  • Diweddariad ACC/NCSC (seiberddiogelwch)

Rheolaethau a phrosesau

  • Cofrestr Rhoddion, Gwobrau, a Lletygarwch*
  • Cofrestr Gwrthdrawiadau Buddiannau*
  • Trafodaeth ynghylch gwrth-dwyll: datblygu polisi a fframwaith
  • Adolygiadau Manwl: cytuno ar ddull

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon

  • Craffu ar ddrafft cyntaf Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ACC
  • Adolygiad o’r cynlluniau ar gyfer paratoi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019-20

* Eitemau sefydlog ar yr agenda

Llywodraethu a gweinyddu pwyllgorau

Cynhaliodd y Pwyllgor adolygiad o’i effeithiolrwydd yn ystod 2019-20 gan ddefnyddio rhestr wirio effeithiolrwydd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol i lywio’r gwaith. Trafododd y Pwyllgor ganlyniadau’r adolygiad a chytunodd â chanfyddiadau’r adolygiad fod ARAC, er ym more ei oes, yn gweithredu’n effeithiol.

Cytunwyd ar sawl cam o ganlyniad i’r adolygiad, gan gynnwys ceisio gwella’r modd y cyflwynir ffurflenni monitro ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol; defnyddio proses o adolygiadau manwl i archwilio’r risgiau allweddol; archwilio’r defnydd ehangach ac amlach o gyfarfodydd rhithwir ac ystyried gofynion sgiliau’r Pwyllgor yn y dyfodol.

Pwyllgor Pobl

Mae’r Pwyllgor yn cefnogi’r Bwrdd drwy adolygu, cadarnhau a rhoi sicrwydd bod ACC yn cydymffurfio â’r holl bolisïau a’r gofynion deddfwriaethol perthnasol, yn benodol ar:

  • Gyfanswm cydnabyddiaeth ariannol (gan gynnwys unrhyw elfennau sy’n gysylltiedig â pherfformiad)
  • Darparu buddion eraill (gan gynnwys pensiynau)
  • Lwfansau
  • Taliadau terfynu a diswyddo
  • Cynigion recriwtio ar gyfer swyddi Uwch Weision Sifil
  • Newidiadau i delerau cytundebol staff

Mae’r pwyllgor hefyd yn goruchwylio ac yn rhoi sicrwydd o ran talent, strategaethau perfformiad a recriwtio, a phrosesau cysylltiedig ACC.

Mae’r aelodaeth yn cynnwys 3 Aelod Anweithredol. Yn ogystal, mae’r Prif Swyddog Pobl a’r Prif Weithredwr yn mynychu pob cyfarfod. Cyfarfu’r Pwyllgor ddwywaith yn ystod y flwyddyn, unwaith ym mis Hydref ac ym mis Chwefror, gan rannu ei gofnodion â’r Bwrdd, gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn rhoi crynodeb o’i waith yng nghyfarfodydd y Bwrdd. Hefyd, cynhaliodd y Pwyllgor gynhadledd ffôn ym mis Mai i drafod cynllunio ar gyfer olyniaeth.

Yn ystod y flwyddyn, bu’r Pwyllgor yn ystyried eitemau sefydlog ar gynllunio olyniaeth a monitro niferoedd staff, yn ogystal ag eitemau ar y canlynol:

  • Lleoliad a llety
  • Strategaeth Llesiant
  • Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
  • Ymgysylltu â chyflogeion a’r arolwg staff
  • Y r Uwch Wasanaeth Sifil (SCS) a dyfarniadau tâl dirprwyedig
  • Rheoli perfformiad
  • Cynllunio olyniaeth
  • Recriwtio staff uwch
  • Canlyniadau’r Arolwg Pobl

Presenoldeb aelodau’r Bwrdd a Phwyllgorau

Presenoldeb aelodau yng nghyfarfodydd y Bwrdd a’r Pwyllgorau yn ystod 2019-20:

Aelodau’r Bwrdd/Pwyllgorau Bwrdd ARAC Pwyllgor Pobl
Nifer o gyfarfodydd a gynhaliwyd 6 3 2
Aelodau Anweithredol:
Kathryn Bishop (Cadeirydd - Bwrdd) 6 Amh 2
Jocelyn Davies (Cadeirydd - ARAC) 6 3 2
Dyfed Edwards (Dirprwy-gadeirydd
- Bwrdd, Cadeirydd - Pobl)
6 Amh 2
David Jones 4 3 Amh
Lakshmi Narain 6 3 Amh
Martin Warren (ymddiswyddodd yn ystod y flwyddyn) 1 Amh Amh
Aelodau Gweithredol:
Dyfed Alsop (Prif Weithredwr) 6 3* 2*
Sean Bradley 6 Amh Amh
Rebecca Godfrey (tan Ebrill 2019) 1 Amh Amh
Sam Cairns (o fis Mai 2019) 4 Amh Amh
Aelod Staff Etholedig:
Lucy Robinson 6 Amh Amh

*Mynychu fel cynghorwr

Risg strategol

Fel y Swyddog Cyfrifyddu, mae gennyf gyfrifoldeb penodol dros reoli a chyflwyno adroddiadau risg. Mae gan y Bwrdd gyfrifoldeb i sicrhau bod y systemau rheoli risg yn gadarn ac yn amddiffynadwy, ac mae hefyd yn rhoi arweiniad clir ar yr archwaeth risg a ddymunir y disgwylir rheoli risgiau oddi mewn iddi. Mae’r Bwrdd wedi penderfynu y bydd yn ystyried risgiau yn ffurfiol unwaith y flwyddyn.

Mae ARAC yn cefnogi’r Bwrdd o ran ystyried rheoli risg ac yn darparu cyngor yn ogystal â chynorthwyo a herio’r Tîm Arwain.

Y Tîm Arwain sy’n gyfrifol am gynnal y Gofrestr Risg Gorfforaethol a chefnogi cofrestrau risg tîm/prosiect. Mae Tîm Arwain yn adolygu’r Gofrestr Risg Gorfforaethol yn fisol, gan graffu ar risgiau cyfredol a’u rheolaeth ac adnabod risgiau newydd. Nodir risgiau corfforaethol mewn trafodaethau penodol ar fygythiadau strategol, yn ogystal ag o themâu yn y Cofrestrau Risg adrannol.

Crynodeb o’r prif risgiau strategol a rheolaethau

Crynodeb o’r prif risgiau strategol a rheolaethau

  • Adolygu trefniadaeth a rolau yn barhaus a’u hystwytho’n unol â hynny
  • Y rhan fwyaf o’r gwaith recriwtio wedi’i gwblhau - y gweddill wedi’i gynllunio ar gyfer 2020-21
  • Cynllunio olyniaeth
  • Rheoli gwybodaeth

Rheoli disgwyliadau rhanddeiliaid o ran ansawdd gwasanaethau, gan gynnwys rheoli galw annisgwyl

  • Dull o gyfathrebu - bod yn weladwy ac yn dryloyw
  • Gweithio mewn partneriaeth, ymgysylltu a defnyddio/rhoi adborth
  • Adolygu canllawiau

Diffyg cydymffurfiaeth â dull penodol ACC o gasglu trethi

  • Defnyddio data a chudd-wybodaeth i lywio asesiadau risg
  • Cysoni dull â pholisi treth Llywodraeth Cymru

Methiant systemau

  • Trefn brofi
  • Cynllun Parhad Busnes sy’n cwmpasu TG a gweithrediadau
  • Cynnyrch diogelwch

Bygythiadau i reoli gwybodaeth yn effeithiol a diogelwch

  • Cofrestr Asedau Gwybodaeth wedi’i sefydlu
  • Strwythur, rolau, a chyfrifoldebau llywodraethu eglur
  • Hyfforddiant seiberddiogelwch a phrofi i staff

Holiadur Rheolaeth Fewnol Blynyddol a datganiadau sicrwydd a ddarparwyd i’r Swyddog Cyfrifyddu

Drwy gwblhau Holiadur Rheolaeth Fewnol blynyddol, mae uwch reolwyr yn darparu hunanasesiadau i mi o drefniadau rheolaeth fewnol, llywodraethu, a rheoli risg, a’u barn ar ba mor effeithiol y bu’r rheolaethau yn gweithredu drwy gydol y flwyddyn. Darparodd yr ymarfer diweddaraf sicrwydd cadarnhaol o ran y gweithgareddau a’r swyddogaethau allweddol yr ymgymerwyd â hwy. Nodwyd rhai meysydd i’w datblygu yn y dyfodol a sefydlwyd cynllun gweithredu. Ni chanfuwyd unrhyw wendidau rheoli sylfaenol yn ystod y cyfnod adrodd.

Rwyf hefyd wedi cael sicrwydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru o ran y swyddogaethau dirprwyedig sy’n ymwneud â Threth Gwarediadau Tirlenwi (TGT), ac wedi ceisio sicrwydd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’i darpariaeth o wasanaethau Adnoddau Dynol a rennir.

Archwiliad mewnol

Penododd ACC Wasanaethau Archwilio Mewnol (IAS) Llywodraeth Cymru i gyflawni rhaglen o waith archwilio a darparu sicrwydd i’r Swyddog Cyfrifyddu ac i’r Bwrdd, drwy ARAC, ynghylch y rheolaethau sydd ar waith i reoli risg ac ansawdd a chydymffurfiaeth ACC wrth gyflenwi gwasanaethau.

Mae’r rhaglen archwilio yn seiliedig ar risg a chytunir arni’n flynyddol gydag ARAC a’r Swyddog Cyfrifyddu. Mynychodd IAS gyfarfodydd ARAC i gyflwyno adroddiadau ar y cynnydd a wnaed o ran rhoi’r rhaglen ar waith a chydgysylltu eu gwaith ehangach gyda gwaith Archwilio Cymru.

Yn ei hadroddiad blynyddol, rhoddodd y Pennaeth Archwilio Mewnol gefndir i’r ddarpariaeth IAS, adolygiad o’r gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn yn erbyn gweithgarwch cynlluniedig, a barn ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd cyffredinol amgylchedd rheoli mewnol ACC.

Cadarnhaodd fod y Cynllun Archwilio yn ddigon cynhwysol i roi barn eang ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau ACC ar gyfer rheoli risg, rheoli a llywodraethu. Y farn archwilio, yn seiliedig ar ganlyniadau’r gwaith archwilio yn ystod y flwyddyn, oedd:

Gall y rheolwyr fod â sicrwydd rhesymol bod y trefniadau ar gyfer sicrhau llywodraethiant, rheoli risg, a rheoli’n fewnol, o fewn y meysydd sy’n cael eu hadolygu, wedi eu cynllunio’n briodol a’u cymhwyso’n effeithiol. Mae angen i’r rheolwyr roi sylw i rai materion o ran dylunio rheolaeth neu gydymffurfiaeth, ac mae iddynt risg gymedrol hyd nes y caiff hynny ei ddatrys.

Cynhyrchodd yr holl waith archwilio a wnaed yn ystod y cyfnod ganlyniadau cadarnhaol. Ar y cyfan, roedd y Gwasanaethau Archwilio Mewnol o’r farn bod cynnydd effeithiol wedi’i wneud o ran gweithredu fframwaith rheoli cadarn o fewn ACC. Lle nodwyd gwendidau sylweddol, ni chredwyd eu bod ddigon sylweddol i newid y farn gyffredinol hyd yn oed ar ôl eu cydgrynhoi. Ni chafwyd dosbarthiad 'cyfyngedig' neu 'dim sicrwydd' yn unrhyw un o’r adroddiadau archwilio unigol. Mae rhagor o fanylion am yr adroddiadau archwilio yn dilyn:

Aseiniad Archwilio Barn Sicrwydd Nifer yr Arsylwadau*
  A B
Hysbysiadau am ffeilio hwyr a chosbau am dalu’n hwyr Rhesymol 2 -
Rheoli Risg Rhesymol 2 -
Dull o ymdrin â risg tasgau Rhesymol 1 2
Rheoli Gwybodaeth Rhesymol 3 -
Rheoli Dyledion – amser i dalu Sylweddol 1 -

* Arsylwadau (categori):

  • A = yn teilyngu sylw
  • B = sylweddol

Nid oedd unrhyw arsylwadau sylfaenol.

Archwilio allanol

Caiff ACC ei archwilio gan Archwilio Cymru sydd, ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn gyfrifol am adolygu ac archwilio rheolaethau ariannol a dibynadwyedd y cyfrifon ariannol. Mae Archwilio Cymru yn cyhoeddi adroddiad archwilio ac yn cyflwyno ei ganfyddiadau i ARAC ac i’r Bwrdd. Mae adroddiad Archwilio Cymru am y flwyddyn i’w weld ymhellach ymlaen ar gyfer y Cyfrifon Adnoddau a’r Datganiad Treth.

Rheoli gwybodaeth a llywodraethiant

Mae ACC yn cymryd diogelwch gwybodaeth a’r rheolaeth gywir ohono o ddifrif. Rydym wedi datblygu Strategaeth Rheoli Gwybodaeth sy’n egluro sut rydym yn rheoli’r wybodaeth a gedwir gan ACC. Mae polisïau, gweithdrefnau, a chanllawiau ategol priodol wedi’u sefydlu ac mae’r staff wedi’u hyfforddi.

Mae Swyddog Diogelwch TGCh yn arwain y gwaith o reoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â gweithgarwch gwybodaeth o ddydd i ddydd. Rydym yn rhannu Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth (SIRO) gyda Llywodraeth Cymru gan fod gennym lwyfannau TG cyffredin a’n Prif Swyddog Gweithrediadau yw’r Dirprwy SIRO.

Rydym hefyd yn rhannu Swyddog Diogelu Data gyda Llywodraeth Cymru. Mae’n rhoi cyngor annibynnol ac yn ein cynorthwyo i fonitro cydymffurfiaeth fewnol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol a Deddf Diogelu Data 2018.

Mae’r Swyddog Diogelu Data yn adrodd yn flynyddol ar weithgarwch y mae wedi ymgymryd ag ef sy’n ymwneud ag ACC. Mae ei hadroddiad diweddaraf yn cadarnhau na dderbyniwyd unrhyw ohebiaeth yn uniongyrchol gan unrhyw wrthrych data a oedd yn ymwneud â defnydd ACC o’u data. Nid oedd y Swyddog Diogelu Data wedi derbyn unrhyw ohebiaeth gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data yn ACC ychwaith. 

Bu 6 achos o fynediad anghyfreithlon at ddata a bu ond y dim i ddeg achos arall ddigwydd yn ACC yn ystod 2019-20, pob un ohonynt yn rhai bychain. Ni chyfeiriwyd unrhyw achosion o fynediad anghyfreithlon at ddata i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Rhoddwyd sicrwydd rhesymol gan aseiniad archwilio mewnol a oedd yn ystyried rheoli gwybodaeth a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn.

Seiberddiogelwch

Mae ACC yn rhoi blaenoriaeth uchel i seiberddiogelwch. Mae ein Cofrestr Risg Gorfforaethol yn cynnwys 2 risg o ran methiant system TGCh a cholli gwybodaeth sy’n ymwneud â seiberddiogelwch yn benodol.

Mae’r gymeradwyaeth ddiogelwch ar gyfer ACC wedi cynnwys cyfres o asesiadau risg yn dilyn canllawiau’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) ac egwyddorion ISO27001 ac ISO27002. Caiff y dogfennau diogelwch a’r broses eu cymeradwyo’n derfynol gan SIRO Llywodraeth Cymru.

Er mwyn cefnogi ein seiberddiogelwch*:

  • Caiff seilwaith a meddalwedd digidol ei brofi’n flynyddol gan ddefnyddio trydydd parti annibynnol wedi’i achredu gan NCSC
  • Profir unrhyw newidiadau sylweddol i’r systemau a’r seilwaith digidol
  • Mae hyfforddiant seiberddiogelwch gorfodol i bob aelod o staff ac Aelod Anweithredol
  • Caiff staff eu profi’n rheolaidd drwy wahanol ymarferion efelychu gwe-rwydo a, lle bo angen, rhoddir hyfforddiant ychwanegol
  • Mae cynllun digwyddiad seiberddiogelwch a defnyddir senarios ‘ymarfer mewn blwch’ NCSC i efelychu digwyddiadau seiberddiogelwch; mae’r profion hyn yn profi gwydnwch ein cynllun digwyddiadau ac ymwybyddiaeth staff o ymosodiadau seiber
  • Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid allweddol fel NCSC, Microsoft, CThEM, Llywodraeth Cymru a Chanolfan Seiberddiogelwch Prifysgol De Cymru i adolygu a gwella risgiau seiberddiogelwch
  • Caiff canfyddiadau maleiswedd, negeseuon e-bost ffug, logiau pori, diogelwch rhaglenni cwmwl, cofnod y wal dân, ymosodiadau gwe-rwydo a mwy eu monitro’n rheolaidd gan y Tîm Digidol a Thechnoleg. Mae hyn yn llywio’r Adroddiad Seiberddiogelwch chwarterol a ddarperir i ARAC

*Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysol.

Gwrthdaro buddiannau 

Mae gennym bolisiau a gweithdrefnau clir ar waith ar gyfer rhoddion a lletygarwch a dderbynnir a gwrthdaro buddiannau ar gyfer ein pobl ac aelodau'r bwrdd. Mae ein pobl yn cwblhau datganiadau o wrthdaro buddiannau yn chwemisol a chedwir cofrestr ganolog o’r datganiadau. Craffwyd ar y rhain gan ARAC ynghyd â'r gofrestr rhoddion a lletygarwch. Mae ein Bwrdd yn ystyried cofnod ei aelodau o wrthdaro buddiannau ar ddechrau pob cyfarfod bwrdd a chyfarfod ARAC ac yn ei ddiweddaru i adlewyrchu unrhyw newidiadau.

Deallwn fod rhai o'n pobl, eu teulu; a/neu ffrindiau yn prynu eiddo yn ystod eu cyflogaeth gyda ni, ac mae gennym brosesau ar waith i reoli'r risg hon, o ystyried ein bod yn casglu Treth Trafodiadau Tir.

Mae’n pobl yn llenwi ffurflenni Gwrthdaro Buddiannau gan ddatgan naill ai eu bod wedi prynu eiddo eu hunain, neu fod aelod o'r teulu neu ffrind agos wedi gwneud hynny. Ym mhob achos, caiff y ffurflen dreth neu'r cais am ad-daliad ei brosesu gan aelod arall o staff.

Mae’r systemau rheoli treth a chyllid yn rhoi stamp dyddiad, amser ac enw defnyddiwr ar yr holl newidiadau a brosesir ar y systemau hyn at ddibenion archwilio. Defnyddir y ffurflenni hyn hefyd er mwyn nodi rolau eilaidd a allai hefyd achosi gwrthdaro.

Yn 2019-20, cofnodwyd 18 gwrthdaro. Adolygwyd pob gwrthdaro yn fewnol, a chymerwyd camau priodol i reoli pob gwrthdaro buddiannau.

Twyll 

Gwnaethom ymgymryd â gweithgareddau amrywiol yn ystod y flwyddyn er mwyn rheoli'r risg o dwyll yn ACC a rhoddwyd sicrwydd i ARAC drwy:

  • gyflwyno polisi a fframwaith gwrth-dwyll newydd
  • cymryd rhan yn astudiaeth gwrth-dwyll Archwilio Cymru 
  • integreiddio ein Cofrestr Risg Twyll i'n prif Gofrestr Risg Gorfforaethol gan sicrhau lefel uchel o sylw o fewn y sefydliad ar dwyll
  • adolygu'r posibiliadau o ran gwyngalchu arian drwy ein systemau treth
  • adolygu ein trefniadau seiberddiogelwch yn barhaus a chynnal profion er mwyn sicrhau gwytnwch ein systemau a’n gweithdrefnau
  • cynnal adolygiad o'n trefniadau chwythu'r chwiban er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol ac yn ddigonol
  • recriwtio arbenigwr ym maes gorfodi a thrin gwybodaeth er mwyn cynyddu’n gallu yn y maes hwn

Ym mis Ionawr (2020), gwnaethom hefyd ymuno â’r Fenter Twyll Genedlaethol, rhaglen y llywodraeth ganolog sy'n paru data electronig o fewn a rhwng cyrff y sector cyhoeddus a'r sector preifat ledled y DU er mwyn helpu i atal a chanfod twyll. Mae hyn yn rhoi gwell amddiffyniad i ni er mwyn cryfhau ein prosesau gwrth-lwgrwobrwyo a thwyll.

Gallwn gadarnhau na chafodd unrhyw faterion eu nodi na’u hadrodd naill ai gennym ni nac wrthym ni, mewn perthynas â gwrth-lygredd, gwrth-lwgrwobrwyo a gwrth-dwyll.

Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth

Cawsom 2 gais Rhyddid Gwybodaeth yn ystod y flwyddyn, ymatebwyd i’r ddau ohonynt o fewn y terfynau amser priodol. Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion yn ymwneud â’r ffordd yr ymdriniwyd â cheisiadau am wybodaeth ac ni chafwyd unrhyw ymchwiliadau gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Chwythu’r Chwiban

Mae gennym bolisi a chanllawiau ar chwythu’r chwiban ar waith er mwyn rhoi manylion clir i staff am sut i leisio unrhyw bryderon. Mae’r gwaith wedi dechrau ar adolygu ein polisi a’n proses yn dilyn cyhoeddi canllawiau newydd gan y Gwasanaeth Sifil. Ni wnaed unrhyw ddatgeliadau o dan ein polisi yn ystod y flwyddyn.

Rydym hefyd wedi'n rhestru fel person rhagnodedig yng Ngorchymyn Datgelu Er Lles y Cyhoedd (personau rhagnodedig) 2014 i dderbyn datgeliadau sy'n ymwneud â 'Materion yn ymwneud â threthi datganoledig (o fewn ystyr adran 116A(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006)' o ffynonellau allanol. Ni dderbyniwyd unrhyw ddatgeliadau trethi datganoledig gennym fel person rhagnodedig yn ystod y flwyddyn.

Safonau’r Gymraeg

Nid oes gennym ein safonau ffurfiol ein hunain o ran y Gymraeg. Fodd bynnag, rydym yn cydymffurfio’n wirfoddol â Safonau Llywodraeth Cymru lle mae hynny’n briodol ac yn ddichonadwy. Parhaodd y trafodaethau gyda Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn ystod y flwyddyn i’w hysbysu am y gwaith cadarnhaol sy’n cael ei wneud o fewn y sefydliad i wella ein gwasanaethau Cymraeg mewnol ac allanol. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu Strategaeth Gymraeg gyntaf y sefydliad, a fydd yn canolbwyntio ar ddiwylliant, dysgu a datblygu, a chreu cyfleoedd i’n pobl a’n cwsmeriaid ddefnyddio’r Gymraeg.

Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae ACC yn ymroddedig i sicrhau dyfodol cynaliadwy i bobl Cymru. Er nad ydym yn ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae Ein Dull (sy’n llywio popeth a wnawn) yn ymgorffori ysbryd ac ymdeimlad y Ddeddf a’r gwaith y gofynnwyd i ni ei wneud gan Weinidogion Cymru yn cefnogi nodau’r Ddeddf.

Casgliad

Fel y Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer ACC, cadarnhaf fod y datganiadau a wneir yn yr adroddiad hwn yn gywir ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020. Ni chodwyd unrhyw faterion sylweddol o ran rheolaeth fewnol na llywodraethiant a chadarnhaf fod systemau rheolaeth fewnol cadarn ar waith i gefnogi cyflawniad nodau ac amcanion polisi’r sefydliad.

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
3 Gorffennaf 2020

Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol ac Adroddiad Staff

Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol

Cytundebau gwasanaeth

Mae cyflogeion ACC yn weision sifil. Mae Deddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i benodi aelodau o’r Gwasanaeth Sifil ar sail teilyngdod, mewn cystadleuaeth deg ac agored. Mae’r egwyddorion recriwtio a gyhoeddwyd gan Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil yn nodi o dan ba amgylchiadau y gellir gwneud penodiadau ar seiliau eraill.

Mae’r uwch swyddogion y mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â hwy â phenodiadau sy’n benagored, naill ai gydag ACC yn uniongyrchol, neu â’u hadrannau Gwasanaethau Sifil cartref os ydynt ar fenthyg i ACC. Mewn achos o derfyniad cynnar, gan ACC neu gan unrhyw un o’r adrannau cartref hynny, ac eithrio am gamymddwyn, byddai’r unigolyn yn cael iawndal yn unol â’r hyn a nodir yng Nghynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am waith Comisiwn y Gwasanaeth Sifil ar wefan Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Polisi cydnabyddiaeth ariannol

Nid yw cydnabyddiaeth ariannol aelodau’r SCS wedi’i ddirprwyo, yn wahanol i gydnabyddiaeth ariannol staff sydd islaw’r SCS. Mae hyn yn golygu bod ACC yn gweithredu tâl yr Uwch Wasanaeth Sifil yn unol â’r rheolau a nodir ym Mhennod 7.1, Atodiad A o God Rheoli’r Gwasanaeth Sifil a chanllawiau blynyddol a gynhyrchir gan Swyddfa Cabinet y DU, yn dilyn argymhellion gan y Corff Adolygu Cyflogau Uwch Swyddogion (SSRB). Wrth wneud ei argymhellion, rhaid i’r Corff Adolygu Cyflogau Uwch wyddogion roi sylw i’r ystyriaethau canlynol:

  • Yr angen i recriwtio, cadw a chymell, a, lle bo’n berthnasol, hybu pobl addas, abl, a chymwys i gyflawni eu gwahanol gyfrifoldebau
  • Yr amrywiaethau rhanbarthol/lleol mewn marchnadoedd llafur a’u heffeithiau ar recriwtio a chadw staff
  • Polisïau’r Llywodraeth ar gyfer gwella’r gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys y gofyniad ar adrannau i gyrraedd y targedau allbwn ar gyfer darparu gwasanaethau adrannol
  • Yr arian sydd ar gael i adrannau fel y’i nodir yn nherfynau gwariant adrannol y llywodraeth
  • Targed chwyddiant y llywodraeth
  • Tystiolaeth a dderbynnir am ystyriaethau economaidd ehangach a pha mor fforddiadwy yw ei argymhellion

Gellir cael rhagor o wybodaeth am waith yr SSRB ar GOV.UK

Mae Pwyllgor Pobl ACC, dan gadeiryddiaeth Aelod Anweithredol, yn gyfrifol am argymell penderfyniadau ar gyflogau uwch swyddogion yn flynyddol, neu yn ôl y gofyn. Mae’r Pwyllgor yn gyfrifol am sicrhau bod cydnabyddiaeth ariannol cael ei drin yn deg ac yn unol â chanllawiau Swyddfa’r Cabinet. Mae’r Pwyllgor, yn ystod y cyfnod, wedi dewis alinio ei ddull gydag un Llywodraeth Cymru yn fras, sydd â rhywfaint o hyblygrwydd i weithredu o fewn y canllawiau a bennwyd gan Swyddfa’r Cabinet. Er enghraifft, nid yw’r ACC wedi gwneud unrhyw daliadau bonws yn gysylltiedig â pherfformiad i aelodau’r Uwch Wasanaeth Sifil (SCS) yn ystod 2019-2020 nac 2017-2019.

Mae’r gydnabyddiaeth ariannol i staff ACC sydd islaw’r SCS yn adlewyrchu dull Llywodraeth Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am bolisi cyflogau Llywodraeth Cymru yn LLYW.CYMRU.

Mae Aelodau Anweithredol Bwrdd ACC yn derbyn ffioedd am ddyletswyddau a gyflawnir ar ran ACC, megis mynychu cyfarfodydd y Bwrdd a Phwyllgorau. Telir y ffioedd ar gyfradd ddyddiol fel y nodir yn eu llythyrau penodi, ac maent fel a ganlyn:

Cyfradd Ddyddiol (£)
Cadeirydd Anweithredol 400
Is-gadeirydd Anweithredol 350
Aelod Anweithredol 300

Caiff costau angenrheidiol a ysgwyddir wrth gyflawni’r dyletswyddau hyn eu had-dalu hefyd.

Datgeliad cydnabyddiaeth ariannol

Mae’r adran ganlynol yn rhoi gwybodaeth am gydnabyddiaeth ariannol a buddion pensiwn rheolwyr uchaf ACC, sef aelodau’r Bwrdd. Mae hyn yn cynnwys Aelodau Anweithredol ac uwch swyddogion, ond nid yw’n cynnwys aelod Aelod Staff Etholedig y Bwrdd.

Mae’r cyflog yn cynnwys y symiau pensiynadwy ac amhensiynadwy ac mae’n cwmpasu cyflogau gros, goramser, lwfansau recriwtio a chadw, neu lwfansau neu daliadau eraill i’r graddau eu bod yn ddarostyngedig i drethiant y DU, ac unrhyw daliadau diswyddo neu ex-gratia. Nid yw ad-daliadau am gostau teg a ysgwyddir yn uniongyrchol wrth i unigolyn gyflawni ei ddyletswyddau yn cael eu cynnwys yn eu cyflog. Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar daliadau cronedig a wnaed gan ACC, ac wedi’u cofnodi felly yn y cyfrifon hyn. 

Mae gwerth ariannol buddion mewn nwyddau yn cynnwys unrhyw fuddion a ddarperir gan ACC ac mae Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn eu trin fel enillion trethadwy.

Er mwyn cydbwyso gofynion adrodd yn erbyn preifatrwydd unigol, yn y rhan fwyaf o achosion rydym yn adrodd ffigurau cydnabyddiaeth ariannol mewn bandiau o £5,000 (er enghraifft, £65,000-£70,000).

Cydnabyddiaeth ariannol Anweithredol

Dyma’r ffioedd a dalwyd i Aelodau Anweithredol:

Aelodau Anweithredol Ffioedd
2019-20 2017-19
£000 £000
Kathryn Bishop
Cadeirydd Anweithredol
15-20 35-40
Dyfed Edwards
Dirprwy Gadeirydd Anweithredol (o 20 Gorffennaf 2018)
Aelod Anweithredol (hyd 19 Gorffennaf 2018)
10-15 25-30
Jocelyn Davies
Aelod Anweithredol
5-10 10-15
David Jones
Aelod Anweithredol
5-10 20-25
Lakshmi Narain
Aelod Anweithredol
0-5 15-20
Martin Warren
Aelod Anweithredol (hyd 27 Awst 2019)
0-5 10-15

Mae’r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Yn ogystal â’u ffioedd, pan fo gwaith Aelodau Anweithredol i ACC yn arwain at gostau teithio a threuliau angenrheidiol eraill ar gyfer mynychu cyfarfodydd, mae ganddynt hawl i ad-daliad o dan Bolisi Ffioedd a Threuliau ACC. Mae ACC yn talu’r rhwymedigaeth dreth sy’n deillio o’r ad-daliad.

Nid yw Aelodau Anweithredol yn cael eu cyflogi gan ACC ac nid ydynt yn cael buddion pensiwn gan ACC.

Cydnabyddiaeth ariannol a buddion pensiwn Uwch Swyddogion

Dyma’r ffigurau cydnabyddiaeth ar gyfer uwch swyddogion:

  Cyflog
mewn
bandiau
o £5,000
Buddion
pensiwn
i’r £1,000
agosaf
Cyfanswm
mewn
bandiau
o £5,000
2019-20 2017-19 2019-20 2017-19 2019-20 2017-19
Dyfed Alsop
Prif Weithredwr
95-100 135-140 35,000 71,000 130-135 205-210
Rebecca Godfrey
Prif Swyddog Strategaeth
(hyd 2 Mai 2019)
05-10 100-105 4,000 66,000 10-15 165-170
Sean Bradley
Prif Swyddog Cyfreithiol a Pholisi
(o 4 Rhagfyr 2017))
65-70 90-95 31,000 33,000 100-105 125-130
Sam Cairns
Prif Swyddog Gweithrediadau
(o 1 Mai 2019))
75-80 Ddim
yn y
swydd
33,000 Ddim
yn y
swydd
105-110 Ddim
yn y
swydd

Mae’r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Nodiadau:

  • Aseswyd buddion mewn nwyddau fel sero yn y 2019-20 a 2017-19
  • Ni thalwyd bonysau yn 2019-20 nac 2017-19
  • Cyfrifir gwerth buddion pensiwn a gronnwyd yn ystod y flwyddyn fel y cynnydd gwirioneddol mewn pensiwn wedi’i luosi â 20, gan dynnu’r cyfraniadau a wnaed gan yr unigolyn. Nid yw’r cynnydd gwirioneddol yn cynnwys cynnydd oherwydd chwyddiant neu unrhyw gynnydd neu ostyngiad o ganlyniad i drosglwyddo hawliau pensiwn
  • Cyflog blynyddol Dyfed Alsop yn 2018-19 oedd £95,000-100,000
  • Roedd Rebecca Godfrey ar absenoldeb mamolaeth o 3 Mai 2019 hyd at 2 Mai 2020, ac yn ystod y cyfnod hwnnw parhaodd i fod yn aelod o staff ond nid oedd yn Gyfarwyddwr gweithredol. Byddai ei chyflog blynyddol yn 2019-20 wedi bod yn £75,000-80,000 (2018-19: £70,000-75,000)
  • Bu Sean Bradley, Prif Swyddog Cyfreithiol a Pholisi, yn gweithio ar sail ran-amser ar raddfa 0.86 cyfwerth ag amser llawn (FTE) o 1 Ebrill 2018, cyn hynny bu’n gweithio’n llawn amser. Byddai ei gyflog blynyddol cyfwerth ag amser llawn yn 2019-20 wedi bod yn £80,000-85,000 (2018-19: £75,000-80,000, cyflog gwirioneddol £65,000-70,000)
  • Penodwyd Sam Cairns yn Brif Swyddog Gweithrediadau o 1 Mawrth 2020 mewn cystadleuaeth deg ac agored. Roedd wedi dal y swydd ar sail dyrchafiad dros dro ers 1 Mai 2019. Byddai ei gyflog blynyddol yn 2019-20 wedi bod yn £80,000-85,000

Roedd buddion pensiwn swyddogion uwch yn:

Uwch swyddogion Pensiwn
Cronedig
ar oedran
pensiwn ar
31/03/20 a
chyfandaliad
perthnasol
Cynnydd
gwirioned-dol
mewn pensiwn
pensiwn a
chyfandaliad
cysylltiedigar 
ar oedran
pensiwn
CETV ar
31/03/20
CETV ar
31/03/19

Cynnydd
gwiri-oneddol 
mewn CETV

£000 £000 £000 £000 £000
Dyfed Alsop
Prif Weithredwr
25-30 a
chyfandaliad
o 45-50
0-2.5 a
chyfandaliad
o 0
377 342 14
Rebecca Godfrey
Prif Swyddog
Strategaeth
15-20 0-2.5 198 196 2
Sean Bradley
Prif Swyddog
Cyfreithiol a
Pholisi
25-30 a
chyfandaliad
o 10-15
0-2.5 a
chyfandaliad
o 0-2.5
434 397 15
Sam Cairns
Prif Swyddog
Gweithrediadau
15-20 0-2.5 177 155 11

Mae’r tabl hwn yn amodol ar archwiliad. *CETV = Gwerth Trosglwyddo Cyfwerth ag Arian Parod.

Staff eraill

Pensiynau’r Gwasanaeth Sifil

Darperir buddion pensiwn drwy drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. O 1 Ebrill 2015 cyflwynwyd cynllun pensiwn newydd ar gyfer gweision sifil – Cynllun Pensiwn y Gweision Sifil ac Eraill neu alpha, sy’n darparu buddion ar sail cyfartaledd gyrfa gydag oedran pensiwn arferol sy’n hafal i Oedran Pensiwn y Wladwriaeth yr aelod (neu 65 os yw’n uwch). O’r dyddiad hwnnw, ymunodd pob gwas sifil a benodwyd o’r newydd yn ogystal â’r mwyafrif o’r rhai a oedd eisoes mewn gwasanaeth gydag alpha. Cyn y dyddiad hwnnw, roedd gweision sifil yn rhan o Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS). Mae 4 adran i’r PCSPS: 3 sy’n darparu buddion ar sail cyflog terfynol (clasurol, premiwm neu glasurol plws) gydag oedran pensiwn arferol o 60; ac un sy’n darparu buddion ar sail gyrfa gyfan (nuvos) gydag oedran pensiwn arferol o 65.

Ni chaiff y trefniadau statudol hyn eu hariannu a chaiff costau’r buddion eu talu gan arian a bleidleisir gan y Senedd bob blwyddyn. Cynyddir pensiynau sy’n daladwy o dan clasurol, premiwm, clasurol plws, nuvos ac alpha yn flynyddol yn unol â deddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Arhosodd aelodau presennol y PCSPS a oedd o fewn 10 mlynedd i’w hoed pensiwn arferol ar 1 Ebrill 2012 yn y PCSPS ar ôl 1 Ebrill 2015. Bydd y rhai hynny a oedd rhwng 10 mlynedd a 13 mlynedd a 5 mis o’u hoed pensiwn arferol ar 1 Ebrill 2012 wedi newid i alpha rhywbryd rhwng 1 Mehefin 2015 a 1 Chwefror 2022. Bydd buddion PCSPS pob Aelod sy’n newid i alpha yn cael eu ‘bancio’, a’r rhai sydd â buddion cynharach yn un o adrannau cyflog olaf y PCSPS yn cael y buddion hynny ar sail eu cyflog terfynol pan fyddant yn gadael alpha. (Mae’r ffigurau pensiwn a ddyfynnir ar gyfer swyddogion yn dangos pensiwn a enillwyd yn PCSPS neu alpha – fel sy’n briodol. Pan fo gan y swyddog fuddiannau yn y PCSPS ac alpha, y ffigur a ddyfynnir yw gwerth cyfunol eu buddion yn y 2 gynllun). Gall aelodau a ymunodd o fis Hydref 2002 ddewis naill ai’r trefniant buddion diffiniedig priodol neu bensiwn cyfranddeiliaid ‘prynu arian’ gyda chyfraniad gan y cyflogwr (cyfrif pensiwn partneriaeth).

Mae cyfraniadau cyflogeion yn gysylltiedig â chyflog ac yn amrywio rhwng 4.6% a 8.05% ar gyfer aelodau clasurol, premiwm, clasurol plws, nuvos ac alpha.

Mae buddion clasurol yn cronni ar gyfradd o 1/80th o enillion pensiynadwy terfynol ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth. Yn ogystal, telir cyfandaliad sy’n gyfwerth â 3 blynedd o bensiwn cychwynnol ar adeg ymddeol. Mae buddion premiwm yn cronni ar gyfradd o 1/60th o enillion pensiynadwy terfynol ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth.

Yn wahanol i glasurol, nid oes cyfandaliad awtomatig. Mae clasurol plws yn ei hanfod yn gymysgedd o’r ddau, gyda buddion am wasanaeth cyn 1 Hydref 2002 yn cael eu cyfrifo’n fras fel rhai clasurol, a buddion am wasanaeth ers Hydref 2002 yn cael eu cyfrifo fel rhai premiwm. Gyda nuvos, bydd aelod yn cronni pensiwn ar sail yr enillion pensiynadwy yn ystod y cyfnod y bydd yn aelod o’r cynllun. Ar ddiwedd blwyddyn y cynllun (31 Mawrth), caiff y cyfrif pensiwn y mae’r aelod wedi’i gronni ei gredydu â 2.3% o’i enillion pensiynadwy ym mlwyddyn honno’r cynllun a chaiff y pensiwn cronedig ei uwchraddio yn unol â deddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Mae buddion alpha yn cronni mewn ffordd debyg i nuvos, ond â chyfradd cronni o 2.32%. Ym mhob achos, gall Aelodau ddewis amnewid (cymudo) pensiwn am gyfandaliad hyd at y terfynau a bennir gan Ddeddf Cyllid 2004.

Mae’r cyfrif pensiwn partneriaeth yn drefniant pensiwn cyfranddeiliaid. Gall y cyflogwr ddewis gwneud cyfraniad sylfaenol o rhwng 8% a 14.75% (yn dibynnu ar ei oedran) i gynnyrch pensiwn cyfranddeiliaid a ddewisir gan y cyflogai gan y darparwr penodedig - Legal & General. Nid oes rhaid i’r cyflogai gyfrannu ond, os bydd yn cyfrannu, bydd y cyflogwr yn rhoi cyfraniad cyfatebol hyd at uchafswm o 3% o’r cyflog pensiynadwy (yn ogystal â chyfraniad sylfaenol y cyflogwr). Mae cyflogwyr hefyd yn cyfrannu 0.5% arall o gyflog pensiynadwy i dalu cost yswiriant buddion risg a ddarperir yn ganolog (marwolaeth mewn swydd ac ymddeoliad oherwydd salwch).

Y pensiwn cronedig a ddyfynnir yw’r pensiwn y mae gan yr aelod hawl i’w gael pan fydd yn cyrraedd oedran pensiwn, neu cyn gynted ag y bydd wedi peidio â bod yn aelod gweithredol o’r cynllun os yw eisoes yn yr oedran pensiwn neu’n hyn na hynny. 60 yw’r oedran pensiwn ar gyfer aelodau clasurol, premiwm a clasurol plws, 65 ar gyfer aelodau o nuvos, ac Oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu 65, pa un bynnag yw’r uchaf, ar gyfer aelodau o alpha. (Mae’r ffigurau pensiwn a ddyfynnir ar gyfer swyddogion yn dangos y pensiwn a enillwyd yn PCSPS neu alpha – fel sy’n briodol. Pan fo gan y swyddog fuddion yn y PCSPS a’r alpha y ffigur a ddyfynnir yw gwerth cyfunol eu buddion yn y ddau gynllun ond gall gwahanol elfennau’r pensiwn hwnnw fod yn daladwy o wahanol oedrannau.)

Gellir cael rhagor o wybodaeth am drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar wefan Bensiynau’r Gwasanaeth Sifil.

Gwerth Trosglwyddo Cywerth ag Arian Parod (CETV)

Gwerth Trosglwyddo Cyfwerth ag Arian Parod (CETV) yw gwerth cyfalaf, wedi’i asesu gan actiwari, buddion y cynllun pensiwn a gronnwyd gan aelod ar adeg benodol. Y buddion a gaiff eu prisio yw buddion cronedig yr aelod ac unrhyw bensiwn amodol i briod sy’n daladwy o’r cynllun. Mae CETV yn daliad a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn er mwyn diogelu buddion pensiwn cynllun neu drefniant pensiwn arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn dewis trosglwyddo’r buddion a gronnwyd yn ei hen gynllun. Mae’r ffigurau pensiwn a ddangosir yn ymwneud â’r buddion a gronnwyd gan yr unigolyn o ganlyniad i’w aelodaeth lawn o’r cynllun pensiwn, nid yn unig ei wasanaeth mewn swydd ar lefel uwch sydd â datgeliad yn berthnasol iddo. 

Mae’r ffigurau’n cynnwys gwerth unrhyw fuddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall y mae’r aelod wedi’u trosglwyddo i drefniadau pensiwn 
y Gwasanaeth Sifil. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddion pensiwn ychwanegol a gronnwyd gan yr aelod o ganlyniad i brynu buddion pensiwn ychwanegol ar ei gost ei hun. Cyfrifir CETV yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) (Diwygiad) 2008 ac nid ydynt yn ystyried unrhyw ostyngiad gwirioneddol neu bosibl i fuddion o ganlyniad i dreth lwfans oes, a allai fod yn ddyledus pan gymerir buddion pensiwn.

Gwir gynnydd mewn CETV

Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnydd mewn CETV a gyllidir gan y cyflogwr. Nid yw’n cynnwys y cynnydd yn y pensiwn cronedig o ganlyniad i chwyddiant, na chyfraniadau a dalwyd gan y cyflogai (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddwyd o gynllun neu drefniant pensiwn arall). Mae’n defnyddio ffactorau prisio cyffredin y farchnad ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.

Lluosrifau cyflog

Mae’r adran hon yn amodol ar archwiliad.

Mae’n ofynnol i gyrff adrodd ddatgelu’r berthynas rhwng cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr sy’n ennill y cyflog mwyaf yn eu sefydliad a chydnabyddiaeth ariannol canolrifol gweithlu’r sefydliad.

Band cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr sy’n ennill y cyflog uchaf yn ACC yn y flwyddyn ariannol 2019-20 oedd £95,000-£100,000 (2018-19: £95,000-£100,000). Roedd hyn 2.4 gwaith yn uwch (2018-19: 2.45) na chydnabyddiaeth ariannol canolrifol y gweithlu, sef £40,545 (2018-19: £39,750). Y cyfarwyddwr a oedd yn ennill y cyflog uchaf oedd y Prif Weithredwr, yn 2019-20 ac yn 2017-19.

Yn 2019-20, ni dderbyniodd unrhyw gyflogeion (2017-19, 1 cyflogai) gydnabyddiaeth ariannol a oedd yn uwch na’r cyfarwyddwr a oedd yn ennill y cyflog uchaf. Roedd y gydnabyddiaeth ariannol yn amrywio o £20,000 i £98,360 (2018-19: £19,240 i £96,907).

Mae cyfanswm y gydnabyddiaeth ariannol yn cynnwys cyflog, tâl ar sail perfformiad heb ei gydgrynhoi, a buddion mewn nwyddau. Nid yw’n cynnwys taliadau diswyddo, cyfraniadau pensiwn y cyflogwr a CETV pensiynau.

Mae’r gymhareb tâl canolrifol wedi gostwng ychydig bach oherwydd bod y tâl canolrifol (£40,545) wedi cynyddu ers y flwyddyn flaenorol (£39,750), tra bod y band cyflog ar gyfer y cyfarwyddwr sy’n derbyn y cyflog uchaf wedi aros yr un fath (£95,000-100,000). Mae’r £40,545 a’r £39,750 ill dau yn cynrychioli’r un pwynt yn ein graddfa tâl - sef pwynt lefel 2 o’n gradd Uwch swyddog Gweithredol (SEO) - gan ystyried y cynnydd yn dilyn dyfarniad cyflog 2019, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2019.

Fodd bynnag, er bod y cyflog canolrifol wedi aros bron yr un fath, bu 2 newid arall i’r lefelau tâl o fewn ACC. Yn gyntaf, gan fod ACC bellach wedi cyflogi rhai aelodau staff ers dros 2 flynedd, mae mwy o staff ar y lefelau uchaf o fewn eu graddau cyflog nag o’r blaen (2019-20: 55% o staff ar y 2 bwynt lefel is, 2018-19: 75%). Mae hyn wedi cynyddu cyflog unigolion. Yn ail, mae mwy o staff bellach yn cael eu cyflogi mewn graddau is nag o’r blaen (2019-20: 47% o’r staff yn y 3 gradd isaf, 2018-19: 38%) am fod ACC yn dal i recriwtio ar gyfer rolau am y tro cyntaf yn 2019-20 ac, yn gyffredinol, roedd y rolau uwch yn cael eu llenwi gyntaf. O ganlyniad, mae’r cyflog cyfartalog wedi gostwng.

O ran tâl canolrifol, roedd y 2 newid hyn yn dileu ei gilydd i bob pwrpas.

Adroddiad Staff

Costau staff

Costau staff oedd:

  Staff a
gyflogir yn barhaol
Staff
contract ac
asiantaeth

Cyfanswm
Cyfanswm wedi’i
ailddatgan
2019-20 2019-20 2019-20 2017-19
£000 £000 £000 £000
Cyflogau 2,783 386 3,169 3,540
Costau nawdd
cymdeithasol
321 9 330 377
Costau pensiwn
eraill
804 14 818 730
Cyfanswm 3,908 409 4,317 4,647

Mae’r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Mae’r staff a gyflogir yn barhaol yn y tabl hwn yn cynnwys staff sydd ar fenthyg i’r ACC gan gyflogwyr eraill y Gwasanaeth Sifil, ond sy’n dal i gael eu cyflogi’n barhaol gan eu cyflogwyr Gwasanaeth Sifil.

Roedd y staff contract ac asiantaeth ar gyfer y cyfnod yn cynnwys nifer fach o staff asiantaeth (3) a chontract cyfnod penodol (3).

Mae’r cyflog yn cynnwys cyflogau gros, goramser, lwfansau recriwtio a chadw, a lwfansau neu daliadau eraill i’r graddau eu bod yn ddarostyngedig i drethiant y DU. Yn ogystal, ar gyfer staff contract ac asiantaeth, gall cyflog hefyd gynnwys ffioedd asiantaeth a TAW ar y gyfradd berthnasol. Mewn rhai achosion, cynhwysir costau nawdd cymdeithasol a chostau pensiwn eraill ar gyfer staff contract ac asiantaeth o dan y ffigurau ar gyfer cyflogau am eu bod yn cael eu hanfonebu ar sail gros.

Roedd costau staff yn ystod y cyfnod ychydig yn is na’r disgwyl, yn bennaf oherwydd nifer fach o achlysuron pan adawodd aelod o staff y sefydliad, ac nid oedd y sawl a oedd yn cymryd eu lle wedi gallu dechrau tan ar ôl iddynt adael, gan greu bwlch byr.

Cynllun pensiwn

Mae’r PCSPS yn gynllun buddion diffiniedig amlgyflogwr nas ariennir na all ACC adnabod ei gyfran o’r asedau a’r rhwymedigaethau sylfaenol a berthyn iddo. Cynhaliwyd prisiad actiwaraidd llawn ar 31 Mawrth 2016.

Ceir manylion yng Nghyfrifon Adnoddau Swyddfa’r Cabinet: Blwydd-daliadau Sifil.

Ar gyfer 2019-20, roedd cyfraniadau cyflogwr o £749,432 yn daladwy i’r PCSPS (2017-19: £724,475) ar un o 4 cyfradd o fewn yr ystod 26.6 - 30.3% (2017-19: 20.0-24.5%) o dâl pensiynadwy, yn seiliedig ar fandiau cyflog. Mae Actiwari’r cynllun yn adolygu cyfraniadau’r cyflogwr bob 4 blynedd yn dilyn prisiad llawn o’r cynllun. Mae’r cyfraddau cyfrannu yn adlewyrchu buddion wrth iddynt gronni, yn hytrach na phan fydd costau’n digwydd mewn gwirionedd, ac maent yn adlewyrchu profiad y cynllun yn y gorffennol. 

Gall cyflogeion ddewis agor cyfrif pensiwn partneriaeth, neu bensiwn cyfranddeiliaid gyda chyfraniad gan y cyflogwr. Talwyd cyfraniadau cyflogwyr o £4,600 (2017-19: £5,726) i un neu fwy o’r panel o 3 darparwr pensiwn cyfranddeiliaid sydd wedi’u penodi. Mae cyfraniadau’r cyflogwr yn gysylltiedig ag oedran ac maent yn amrywio rhwng 8 - 14.75% (yn 2019-20 a 2017-19) o dâl pensiynadwy. Yn ogystal, mae 0.5% o dâl pensiynadwy yn daladwy i’r PCSPS i dalu cost buddion cyfandaliad yn y dyfodol os bydd y cyflogeion hyn yn marw yn y swydd neu’n ymddeol oherwydd salwch. Mae cyflogwyr hefyd yn cyfateb cyfraniadau gan gyflogeion hyd at 3% o dâl pensiynadwy.

Nid oedd unrhyw unigolion (naill ai yn 2019-20 neu yn 2017-19) wedi ymddeol yn gynnar oherwydd salwch; felly roedd cyfanswm y rhwymedigaethau pensiwn cronedig ychwanegol yn ystod y flwyddyn yn ddim.

Cynllun y Gwasanaeth Sifil a chynlluniau iawndal eraill

Telir costau diswyddo a chostau ymadael eraill yn unol â darpariaethau Cynllunawndal y Gwasanaeth Sifil, sef cynllun statudol a grëwyd o dan Ddeddf Blwydd-daliadau 1972. Mae’r rhain yn gostau cyflogwyr sy’n gysylltiedig ag ymadael yn gynnar ac fe’u cyfrifir yn llawn yn y flwyddyn ymadael. Os yw’r ACC wedi cytuno i ymddeoliadau cynnar, telir y costau ychwanegol gan ACC yn hytrach na chynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae costau ymddeol oherwydd afiechyd yn cael eu talu gan y cynllun pensiwn ac nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr isod. Roedd taliadau o’r fath yn ystod y cyfnod yn ddim.

Uwch Wasanaeth Sifil (SCS) yn ôl band cyflog

Niferoedd aelodau’r Uwch Wasanaeth Sifil yn ôl eu band cyflog ar 31 Mawrth 2020 oedd:

Band cyflog 2019-20 2018-19
SCS 2 1 1
SCS 1 3 2

Crëwyd rôl newydd, sef Prif Swyddog Gweithrediadau, ym mis Mai 2019, gan ychwanegu un aelod o staff ar SCS1.

Nid oes gan ACC unrhyw swyddi ym mandiau 3 neu 4 yr Uwch Wasanaeth Sifil (SCS).

Nifer y bobl a gyflogir

Ar gyfartaledd, roedd nifer y bobl cyfwerth ag amser llawn (FTE) a gyflogwyd (gan gynnwys SCS) yn:

  2019-20 2018-19 2017-18
(o 18 Hydref 2017)
Staff parhaol 58 38 6
Staff ar fenthyg 11 23 27
Staff cyfnod penodol 2 0.2 0
Cyfanswm 71 61 33

Mae’r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Roedd staff cyfnod penodol yn cynnwys rolau fel lleoliadau haf i fyfyrwyr prifysgol, a darpariaeth ar gyfer absenoldeb rhiant staff presennol neu gyfnodau eraill o’r gwaith.

Yn ogystal â’r staff cyflogedig fel y nodir uchod, nifer y staff asiantaeth FTE a gyflogwyd ar gyfartaledd oedd:

  2019-20 2018-19 2017-18
Staff asiantaeth 2 1 0.2

Cyfansoddiad y staff

Mae ACC wedi ymrwymo i egwyddorion triniaeth gyfartal ac mae’n cadw ac yn adolygu gwybodaeth am gydraddoldeb ar ei staff. Mae ganddo bolisïau i sicrhau triniaeth gyfartal ac mae’n ystyried yr effeithiau ar grwpiau sydd wedi’u diogelu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (er enghraifft, anabledd, oedran, a rhyw) ar gyfer recriwtio, hyfforddi, datblygu gyrfa, a dyrchafu. Darparwyd trosolwg o gydraddoldeb o fewn ACC gan y Bwrdd, y Pwyllgor Pobl, a’r Tîm Arwain yn ystod cyfnod yr adroddiad, a chymeradwywyd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac Adroddiad Cydraddoldeb gan y Pwyllgor Pobl ym mis Mawrth 2020. Er bod yr wybodaeth cydraddoldeb yma’n cael ei hadolygu’n fewnol, yn y rhan fwyaf o achosion nid yw’r dadansoddiad o staff yn addas i’w gyhoeddi oherwydd, fel cyflogwr bach, byddai’n galluogi i unigolion a/neu grwpiau bach gael eu hadnabod. Eithriad i hyn yw proffil ein staff o ran rhyw, sydd wedi’i gynnwys isod.

Y dadansoddiad o ryw’r personau a gyflogir oedd:

  Ar 31 Mawrth 2020 Ar 31 Mawrth 2019
Benywaidd Gwrywaidd Benywaidd Gwrywaidd
Cyfarwyddwyr 0 3 1 2
SCS 1 0 0 0
Gweithwyr eraill 39 27 34 25

Roedd y prosesau a ddefnyddiwyd a/neu a weithredwyd yn ystod y cyfnod i hyrwyddo triniaeth gyfartal yn cynnwys:

  • Dod yn Gyflogwr Cyflog Byw Achrededig
  • Ychwanegu’r logo ‘Hapus i Siarad am Weithio Hyblyg’ i’n tudalennau recriwtio, a pharhau i hysbysebu pob rôl fel un sydd ar gael yn hyblyg yn ddiofyn
  • Cadw statws cyflogwr Hyderus o ran Anabledd - Ymroddedig, ac arddangos y statws hwn ar ein tudalen we recriwtio
  • Darparu cynllun gwarantu cyfweliad i bob ymgeisydd anabl sy’n bodloni gofynion sylfaenol y rôl
  • Dileu pob cyfeiriad at enw, rhyw, oedran, cyfeiriad ac enwau sefydliadau addysgol o geisiadau am swyddi er mwyn osgoi rhagfarn yn ystod y broses ddethol
  • Gofyn i bob ymgeisydd a oes angen unrhyw addasiadau arnynt neu ddewisiadau amgen i’n prosesau asesu
  • Ei gwneud yn ofynnol i bob panel recriwtio fod yn gymysg o ran rhyw, a bod aelodau o’r Panel wedi cwblhau hyfforddiant rhagfarn anymwybodol
  • Darparu hyfforddiant i staff ar gwblhau Asesiadau Effaith Cydraddoldeb
  • Ystyried pob cais am hyfforddiant, ar gyfer adolygu dulliau rheoli talent, ac ar gyfer hyrwyddo mewnol yn ganolog er mwyn sicrhau cysondeb a lleihau rhagfarn
  • Defnyddio a hyrwyddo gwasanaethau Rhaglen Iechyd Galwedigaethol a Chymorth i Weithwyr er mwyn cynorthwyo staff sy’n mynd yn sâl yn ystod eu cyflogaeth
  • Parhau i fod â Grŵp Llesiant gweithgar ar gyfer staff, bod â Strategaeth Llesiant, a threfnu digwyddiadau gan gynnwys archwiliadau iechyd mewnol a chyfleoedd gwirfoddoli i staff
  • Cynnal asesiadau Offer Sgrin Arddangos (DSE) ar gyfer yr holl staff er mwyn nodi unrhyw addasiadau rhesymol sydd eu hangen wrth ymuno ag ACC ac yn ôl yr angen, yn enwedig gan fod ein staff wedi gorfod gweithio gartref yn dilyn y llifogydd yn ein swyddfeydd yn ystod storm Dennis (ac yn fuan wedi hynny, oherwydd ymbellhau cymdeithasol ar gyfer coronafeirws)
  • Rhoi gliniaduron i’r holl staff, waeth beth fo’u rôl, er mwyn hwyluso gweithio hyblyg

Absenoldeb oherwydd salwch

Caiff ffigurau absenoldeb oherwydd salwch eu mynegi fel arfer fel un o 2 gyfrifiad Dyddiau Gwaith a Gollwyd yn Flynyddol (AWDL).

AWDL fesul blwyddyn staff = cyfanswm nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd yn ystod y flwyddyn / cyfanswm nifer y blynyddoedd staff posibl

Mae hyn yn well cynrychiolaeth o’r diwrnodau a gollir yn wirioneddol am nad yw’n cynnwys penwythnosau a gwyliau cyhoeddus, a gwyliau braint yn ystod y cyfnod salwch. Mae defnyddio cyfanswm o flynyddoedd staff hefyd yn rhoi ystyriaeth gywir i staff rhan-amser, ymgeiswyr newydd, a’r rhai sy’n gadael yn ystod y cyfnod. Er enghraifft, byddai rhywun sy’n gweithio hanner yr oriau llawn amser mewn wythnos yn cael blwyddyn staff o 0.5.

AWDL y pen = cyfanswm y diwrnodau a gollwyd / cyfanswm aelodau staff

Defnyddir y cyfrifiad hwn yn eang ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, ac fe’i cynhwysir yma er mwyn gallu cymharu’n rhwydd â sefydliadau eraill sy’n defnyddio’r cyfrifiad hwn. Fodd bynnag, mae’n fesur llai cywir nac AWDL y flwyddyn staff oherwydd y rhesymau uchod.

Roedd lefel yr absenoldeb oherwydd salwch o fewn ACC yn 6.35 (2018-19: 6.86). Mae hyn yn debyg i ffigyrau AWDL diweddaraf y Gwasanaeth Sifil (2018-19: 6.9). AWDL y pen ar gyfer ACC oedd 8.4 (2018-19: 8.83), sy’n uwch na ffigurau AWDL fesul person diweddaraf y Gwasanaeth Sifil sydd ar gael (2018-19: 5.9).

Mae’r ffigwr ar gyfer absenoldeb oherwydd salwch staff ACC yn cynnwys absenoldeb estynedig 3 aelod o staff yn sgil salwch difrifol, rhywbeth a allai gael effaith sylweddol ar gyfrifiadau AWDL sefydliadau bach fel ACC. O eithrio eu habsenoldebau hwy o’r cyfrifiad, yr AWDL fesul blwyddyn staff oedd 2.8 (2018-19: 2.07).

Costau ymgynghori

Y costau ymgynghori yn ystod y cyfnod oedd:

  2019-20 2017-19
£000 £000
Costau ymgynghori 180 257

Pan fo angen parhaol am unigolion medrus, fel arfer byddwn yn recriwtio gweithiwr neu dîm i ymgymryd â’r gweithgareddau. Fodd bynnag, ar 
gyfer gwaith arbenigol tymor byrrach nid yw hyn yn ymarferol nac yn gost-effeithiol.

Mae’n well i waith o’r fath gael ei gwblhau gan sefydliad ymgynghorol arbenigol yn hytrach nag unigolyn. Mae’r dull hwn yn galluogi’r ACC i brynu’r arbenigedd a’r gwasanaethau sydd eu hangen arno, heb gostau afresymol a heb ymrwymo i gontractau cyfnod penodol. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan mai sefydliad bach a newydd yw ACC. Roedd llawer o’r gwaith gweithredu angenrheidiol yn ystod y 18 mis cyntaf o weithredu yn waith dros dro o ran ei natur, ac nid oes gan ACC y gallu i weithredu’r arbedion maint sydd ar gael i sefydliadau mwy a all gyflawni eu holl waith yn fewnol.

Dyma enghreifftiau o wasanaethau ymgynghori a ddefnyddiwyd yn ystod y cyfnod:

  • Digidol a thechnoleg: dan gontract ar gyfer sgiliau arbenigol a oedd yn ymwneud â seiberddiogelwch, profi system awtomataidd, a chyngor ar y costau a’r dull gweithredu ar gyfer datblygu systemau posibl yn y dyfodol
  • Cyfathrebu: ymgynghoriaeth ar gyfer prosiect hunaniaeth brand, adolygiad o ddiwylliant ac asesiad o effaith ACC ynghyd â datblygiad strategaeth Gymraeg y sefydliad

Datgeliadau oddi ar y gyflogres

Trefniadau oddi ar y gyflogres yw’r rhai lle caiff unigolion, naill ai rhai hunangyflogedig neu rhai sy’n gweithredu drwy gwmni gwasanaeth personol, eu talu’n gros gan y cyflogwr. 

O 6 Ebrill 2017, daeth diwygiadau i ddeddfwriaeth cyfryngwyr (a elwir yn IR35) i rym. Roedd y rhain yn newid y rheolau ar gyfer pobl sydd oddi ar y gyflogres sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus gan symud y rhwymedigaeth i bennu statws treth oddi wrth y contractwr i’r ymgysylltydd. 

Mae’r holl swyddi oddi ar y gyflogres presennol wedi bod yn destun asesiad yn seiliedig ar risg. Gwneir hyn er mwyn penderfynu a oes angen sicrwydd bod yr unigolyn yn talu’r swm cywir o dreth. Gofynnwyd am y sicrwydd hwnnw lle bo angen.

Swyddi oddi ar y gyflogres ar 31 Mawrth 2020, am fwy na £245 y diwrnod ac yn para am fwy na 6 mis:

Nifer o swyddi a oedd yn bodoli eisoes ar 31 Mawrth 2020 10
O’r rhain:
Nifer sydd wedi bodoli ers llai na blwyddyn ar adeg yr adroddiad 8
Nifer sydd wedi bodoli am gyfnod o rhwng 1 a 2 flynedd ar adeg yr adroddiad 2


Yr holl swyddi oddi ar y gyflogres newydd, neu’r rhai a gyrhaeddodd 6 mis o hyd, rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020, am fwy na £245 y dydd ac sy’n para am fwy na 6 mis:

Nifer y swyddi newydd oddi ar y gyflogres, neu’r rhai a oedd yn 6 mis o hyd neu fwy, rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020 7
O’r rhain:
Nifer a aseswyd fel rhai wedi’u dal gan IR35 1
Nifer a aseswyd fel rhai heb eu dal gan IR35 6
Nifer a gysylltwyd â hwy yn uniongyrchol (drwy berson â rheolaeth arwyddocaol (PSC) a gontractiwyd i adran) ac sydd ar gyflogres yr adran 0
Nifer y swyddi a ailaseswyd at ddibenion cysondeb / sicrwydd yn ystod y flwyddyn 6
Nifer y swyddi a welodd newid statws IR35 yn sgil yr adolygiad o gysondeb 0


Unrhyw swyddi oddi ar y gyflogres i aelodau Bwrdd ac/neu uwch swyddogion sydd â chyfrifoldeb ariannol sylweddol rhwng Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020:

Nifer y swyddi oddi ar y gyflogres i aelodau Bwrdd ac/neu uwch swyddogion sydd â chyfrifoldeb ariannol sylweddol yn ystod y flwyddyn ariannol. 0
Nifer yr unigolion ar, ac oddi ar, y gyflogres sydd wedi’u penodi’n aelodau Bwrdd ac/neu uwch swyddogion â chyfrifoldeb ariannol sylweddol yn ystod y flwyddyn ariannol. 13

Materion eraill sy’n ymwneud â chyflogeion

Y 2 fater mwyaf arwyddocaol yn ystod y cyfnod oedd effaith storm Dennis ac ymbellhau cymdeithasol a’r mesurau clo oherwydd coronafeirws.

Yn ystod Storm Dennis (Chwefror 2020), cafodd Prif Swyddfa ACC, QED yn Nhrefforest, ei difrodi’n ddifrifol, gan arwain at yr holl staff yn gweithio o gartref o 17 Chwefror ymlaen. Cafodd y rhan fwyaf o staff, ond nid y cwbl, eu symud dros dro i swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd a Merthyr Tudful nes canfod ateb hirdymor. Fodd bynnag, yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar coronafeirws ar 23 Mawrth, penderfynodd Tîm Arwain y dylai pob aelod o staff weithio o gartref hyd nes y ceir gwybodaeth bellach (24 Mawrth ymlaen) ac mae hyn yn parhau i fod yn wir. 

Rhoddwyd cymorth ychwanegol i gefnogi:

  • Gweithio o gartref hirdymor, megis DSE ac asesiadau risg
  • Archebu cyfarpar TG/gweithio o gartref ychwanegol
  • Addasiadau rhesymol megis lleihau oriau gwaith am resymau iechyd neu er mwyn gofalu am ddibynyddion
  • Mwy o weithgareddau llesiant a galwadau wythnosol i bob aelod o’r staff

Caiff yr effaith ar staff ei drafod yn wythnosol yn Nhîm Arwain ac ym mhob cyfarfod a galwad Bwrdd.

Mae’r ACC yn sicrhau bod ei staff yn cyfrannu mewn sawl ffordd at faterion a phenderfyniadau sy’n ymwneud â hwy. Mae’r rhain yn cynnwys dulliau cyfathrebu digidol fel negeseuon e-bost a defnyddio’r fewnrwyd, galwadau gweithlu bob pythefnos a sesiynau holi ac ateb gyda’r Prif Weithredwr, a diwrnodau ‘cwrdd i ffwrdd’ lle mae’r holl staff yn cymryd rhan ym mhenderfyniadau’r sefydliad. Yn ogystal, cydnabyddir 3 undeb llafur gan ACC i gynrychioli cyflogeion.

Caiff diogelwch staff yn y gweithle ei adolygu a’i gynnal gan sawl proses wahanol. Cynhelir archwiliadau rheolaidd o ddiogelwch corfforol y gweithle a’r cyfarpar a ddefnyddir yn ein swyddfeydd, gyda gwiriadau ychwanegol ar gyfer staff sydd ag anghenion penodol megis staff beichiog neu’r rhai sy’n dioddef o straen neu salwch arall. Wrth ymweld â safleoedd eraill a threthdalwyr, cwblheir asesiadau risg ac mae system gyfeillio ar waith er mwyn sicrhau diogelwch staff. Fel y nodwyd eisoes, mae Grŵp Llesiant gweithgar wedi’i sefydlu, ac mae’r Strategaeth Lesiant yn cael ei harolygu gan y Pwyllgor Pobl. Mae asesiadau risg penodol wedi’u cwblhau ar gyfer staff sy’n gweithio o gartref oherwydd y llifogydd ac yna coronafeirws, ac ar gyfer gweithwyr beichiog.

Cynrychiolir 16 o broffesiynau gwahanol gan ACC, gan gynnwys data, digidol, cyllid, cyfreithiol, adnoddau dynol, ac arbenigwyr treth. Mae hyfforddiant gweithlu cyfan, yn ogystal â hyfforddiant proffesiwn neu hyfforddiant penodol i’r rôl, wedi’u cynnal yn ystod y cyfnod, ac mae nifer o’r rolau wedi’u cynnig ar sail benthyciad – i mewn ac allan o ACC - er mwyn annog rhannu gwybodaeth gyda chyflogwyr eraill y Gwasanaeth Sifil. Mae proses rheoli perfformiad yn seiliedig ar ddatblygiad parhaus a sgyrsiau rheoli llinell o ansawdd uchel ar waith.

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
3 Gorffennaf 2020

Tystysgrif ac adroddiad archwilydd annibynnol Archwilydd Cyffredinol Cymru i’r Senedd (Cyfrif Adnoddau)

Adroddiad ar yr archwiliad o’r datganiadau ariannol

Barn

Tystiaf fy mod wedi archwilio Cyfrif Adnoddau Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020 o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. Mae’r datganiadau ariannol yn cynnwys y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr, y Datganiad o Sefyllfa Ariannol, y Datganiad o Lifau Arian Parod, y Datganiad o Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr a’r nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys crynodeb o bolisïau cyfrifyddu arwyddocaol. Paratowyd y datganiadau ariannol hyn o dan y polisïau cyfrifyddu a nodir ynddynt. Y fframwaith adrodd ariannol a gymhwyswyd wrth eu paratoi yw’r gyfraith berthnasol a Llawlyfr Adroddiadau Ariannol Trysorlys ei Mawrhydi sy’n seiliedig ar y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRSs) fel y’i mabwysiadwyd gan yr Undeb Ewropeaidd.

Yn fy marn i, mae’r datganiadau ariannol: 

  • Yn rhoi darlun cywir a theg o gyflwr cyfrif adnoddau Awdurdod Cyllid Cymru ar 31 Mawrth 2020 ac o’i wariant gweithredu net ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny; ac
  • Wedi’u paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

Sail ar gyfer barn

Cynhaliais fy archwiliad yn unol â’r gyfraith berthnasol a’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y DU (ISAs (UK)). Disgrifir fy nghyfrifoldebau o dan y safonau hynny ymhellach yng nghyfrifoldebau’r archwilydd am archwilio yn adran datganiadau ariannol fy adroddiad. Rwy’n annibynnol o’r corff yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’m harchwiliad o’r datganiadau ariannol yn y DU gan gynnwys Safon Foesegol y Cyngor Adrodd Ariannol, ac rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â’r gofynion hyn. Credaf fod y dystiolaeth archwilio yr wyf wedi’i chael yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail i’m barn.

Casgliadau sy’n ymwneud â busnes gweithredol

Nid oes gennyf unrhyw beth i’w nodi o ran y materion canlynol sy’n ofynnol i mi adrodd arnynt yn ôl yr ISAs (UK) pan:

  • Nid yw’n briodol defnyddio sail busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol; neu
  • Nid yw’r Swyddog Cyfrifyddu wedi datgelu yn y datganiadau ariannol unrhyw ansicrwydd materol a nodwyd a allai daflu amheuaeth sylweddol ynghylch gallu’r corff i barhau i fabwysiadu sail busnes gweithredol o gyfrifyddu am gyfnod o 12 mis o leiaf o’r dyddiad yr awdurdodir y datganiadau ariannol i gael eu cyhoeddi

Gwybodaeth arall

Nid yw’r ddeddfwriaeth a’r cyfarwyddyd a roddwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn nodi cynnwys a ffurf yr wybodaeth arall sydd i’w chyflwyno gyda’r datganiadau ariannol. Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am yr wybodaeth arall yn y cyfrifon blynyddol. Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth a gynhwysir yn y cyfrifon blynyddol ar wahân i’r datganiadau ariannol a’m hadroddiad archwiliwr arno. Nid yw fy marn i ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu’r wybodaeth arall ac, ac eithrio i’r graddau a nodir yn glir yn fy adroddiad fel arall, nid wyf yn mynegi unrhyw gasgliad o sicrwydd ar hynny.

Mewn cysylltiad â’m harchwiliad o’r datganiadau ariannol, fy nghyfrifoldeb i yw darllen yr wybodaeth arall i ganfod anghysonderau o bwys â’r datganiadau ariannol archwiliedig ac i nodi unrhyw wybodaeth sydd, i bob golwg, yn faterol anghywir ar sail yr wybodaeth a gaffaelwyd gennyf wrth gyflawni’r archwiliad, neu’n anghyson iawn â hi. Os dof yn ymwybodol o unrhyw gamddatganiadau neu anghysonderau materol amlwg, ystyriaf y goblygiadau i’m hadroddiad.

Barn ar reoleidd-dra

Yn fy marn i, ymhob ffordd berthnasol, mae’r gwariant a’r incwm yn y datganiadau ariannol wedi’u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae’r trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu rheoli.

Adroddiad ar ofynion eraill

Barn ar faterion eraill

Gan nad yw’r ddeddfwriaeth a’r cyfarwyddiadau a roddwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn nodi cynnwys a ffurf yr wybodaeth arall sydd i’w chyflwyno gyda’r datganiadau ariannol, ni allaf gadarnhau bod yr wybodaeth arall yn y cyfrifon blynyddol (y tu allan i’r datganiadau ariannol) wedi’i pharatoi’n briodol.

Yn fy marn i, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yn ystod fy archwiliad, mae’r wybodaeth a roddir yn y cyfrifon blynyddol yn gyson â’r datganiadau ariannol.

Er nad oes unrhyw ofynion deddfwriaethol am Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol, mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi paratoi adroddiad o’r fath, ac yn fy marn i mae’r rhan y mae’n ofynnol ei harchwilio fel arfer wedi’i pharatoi yn unol â chanllawiau Trysorlys EM.

Materion y byddaf yn adrodd arnynt drwy eithriad

O ystyried yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth o’r corff a’i amgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi nodi unrhyw gamddatganiadau perthnasol yn y Cyfrifon Blynyddol na’r Datganiad Llywodraethiant.

Nid oes gennyf unrhyw beth i’w nodi o ran y materion canlynol yr adroddaf i chi, os, yn fy marn i:

  • Na chadwyd cofnodion cyfrifyddu priodol
  • Nad yw’r datganiadau ariannol a’r rhan o’r Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol sydd i’w harchwilio yn cytuno â’r cofnodion a’r ffurflenni cyfrifyddu
  • Na ddatgelwyd gwybodaeth a ddynodwyd gan Drysorlys EM o ran cydnabyddiaeth ariannol a thrafodiadau eraill; neu
  • Nad wyf wedi derbyn yr holl wybodaeth a’r esboniadau sydd eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad

Adroddiad

Nid oes gennyf unrhyw sylwadau i’w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu am y datganiadau ariannol

Fel yr esbonnir yn llawnach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am baratoi’r datganiadau ariannol yn unol â Deddf Casglu a Rheoli Trethi 2016 a’r cyfarwyddiadau gan Weinidogion Cymru a wneir o dan y Ddeddf honno, am fod yn fodlon eu bod yn rhoi golwg gwir a theg ac am reolaeth fewnol a ddyfarnir yn briodol gan y Swyddog Cyfrifyddu er mwyn galluogi paratoi datganiadau ariannol sy’n rhydd o gamddatganiadau perthnasol, boed hynny trwy dwyll neu wall.

Wrth baratoi’r datganiadau ariannol, mae’r Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol am asesu gallu’r corff i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu, fel y bo’n berthnasol, materion sy’n ymwneud â busnes gweithredol a defnyddio’r sail busnes gweithredol o gyfrifyddu, oni fernir bod hynny’n amhriodol.

Cyfrifoldebau’r Archwilydd ar gyfer archwilio’r datganiadau ariannol

Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o unrhyw gamddatganiadau materol, boed hynny oherwydd twyll neu wall, ac i gyhoeddi adroddiad archwiliwr sy’n cynnwys fy marn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd ond nid yw’n warant y bydd archwiliad a gynhelir yn unol ag ISAs (UK) bob amser yn canfod camddatganiad perthnasol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau fod o ganlyniad i dwyll neu wall, a chânt eu hystyried yn faterol os gellid disgwyl yn rhesymol iddynt, yn unigol neu gyda’i gilydd, ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr ar sail y datganiadau ariannol hyn.

Mae disgrifiad pellach o gyfrifoldebau’r archwilydd ar gyfer archwilio’r datganiadau ariannol i’w gael ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol. Mae’r disgrifiad hwn yn ffurfio rhan o’m hadroddiad archwilydd.

Cyfrifoldebau am reoleidd-dra

Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am sicrhau rheoleidd-dra’r trafodion ariannol.

Mae’n ofynnol i mi gael digon o dystiolaeth i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a’r incwm wedi’u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod y trafodion ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu rheoli.

Adrian Crompton

Archwilydd Cyffredinol Cymru
24 Heol Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

6 Gorffennaf 2020

Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifyddu yw hygrededd gwefan Awdurdod Cyllid Cymru a’r gwaith o gynnal y wefan honno; nid yw’r gwaith a gyflawnir gan archwilwyr yn cynnwys ystyriaeth o’r materion hyn ac, yn unol â hynny, nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldebau am unrhyw newidiadau a allai fod wedi cael eu cyflwyno i’r datganiadau ariannol ers eu cyflwyno’n wreiddiol ar y wefan.

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio ac adrodd ar y cyfrifon hyn yn y ffurf y cawsant eu drafftio’n wreiddiol. Cyfieithiad o’r fersiwn Saesneg gwreiddiol yw’r fersiwn hwn. Awdurdod Cyllid Cymru sydd yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid yr Archwilydd Cyffredinol.

Cyfrifon Adnoddau

Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr
  Nodyn 2019-20 2017-19
Wedi’i
ailddatgan
£000 £000
Costau staff 2 4,317 4,647
Costau eraill sy’n gysylltiedig â staff 2 205 314
Costau gweithredu eraill 2 1,933 2,159
Dibrisiant 3.1 35 35
Amorteiddiad 3.2 870 850
Gwariant gweithredu net   7,360 8,005
Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn   7,360 8,005

 

Datganiad o Sefyllfa Ariannol
  Nodyn 2019-20 2017-19
£000 £000
Asedau anghyfredol
Offer 3.1 34 69
Asedau anniriaethol 3.2 834 1,625
Cyfanswm asedau anghyfredol   868 1,694
Asedau cyfredol
Rhagdaliadau ac incwm cronedig arall 4 140 156
Arian parod a chyfwerth ag arian parod 5 243 477
Cyfanswm asedau cyfredol   383

633

Rhwymedigaethau cyfredol
Symiau masnach a symiau taladwy eraill 6 (960) (703)
Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol   (960) (703)
Cyfanswm yr asedau wedi tynnu’r
rhwymedigaethau cyfredol
  291 1,624
Ecwiti trethdalwyr
Cronfa gyffredinol   291 1,624

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
3 Gorffennaf 2020

 

Datganiad o Lifau Arian Parod
  Nodyn 2019-20 2018-19
£000 £000
Llifau arian parod o weithgareddau gweithredu
Gwariant gweithredu net   (7,360) (8,005)
Addasiadau ar gyfer trafodion nad ydynt
yn rhai arian parod
     
(Cynnydd)/gostyngiad mewn
symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill
  15 (156)
Cynnydd/(gostyngiad) mewn
symiau masnach a symiau taladwy eraill
  258 703
Dibrisiant ac amorteiddiad 3.1 & 3.2 905 885
Mewnlif/(all-lif) arian net o weithgareddau gweithredol   (6,182) (6,573)
Llifau arian parod o weithgareddau buddsoddi
Ychwanegu offer 3.1 0 (104)
Ychwanegu asedau anniriaethol 3.2 (79) (2,475)
Mewnlif/(all-lif) arian net o weithgareddau buddsoddi   (79) (2,579)
Llifau arian parod o weithgareddau cyllido
Cyllid gan Lywodraeth Cymru   6,027 9,629
Cynnydd/(lleihad) net mewn arian parod a
chyfwerth ag arian parod
5 (234) 477
Arian parod a chyfwerth ag arian parod ar
ddechrau’r cyfnod
5 477 0
Arian parod a chyfwerth ag arian parod ar
ddiwedd y cyfnod
5 243 477

 

Datganiad o Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr
  Cronfa Gyffredinol
£000
Balans ar 18 Hydref 2017 0
Newidiadau yn ecwiti trethdalwyr 2017-19
Cyllid gan Lywodraeth Cymru 9,629
Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn (8,005)
Balans ar 31 Mawrth 2019 1,624
Newidiadau yn ecwiti trethdalwyr 2019-20
Cyllid refeniw gan Lywodraeth Cymru 5,948
Cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru 79
Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn (7,360)
Balans ar 31 Mawrth 2020 291

Nodiadau i’r Cyfrifon Adnoddau

1. Datganiad o bolisïau cyfrifyddu

1.1 Sail y cyfrifyddu

Paratoir y cyfrifon hyn yn unol â:

  • Y cyfarwyddyd cyfrifon a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru, yn unol ag Adran 29(1)(b) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016
  • Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth (FreM) 2019-20 a gyhoeddir gan Drysorlys EM
  • Y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) fel y maent wedi’u haddasu neu eu dehongli ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus
  • Y polisïau cyfrifyddu y manylir arnynt yn y nodiadau dilynol

Mae ACC wedi ystyried effaith safonau a dehongliadau sydd wedi’u cyhoeddi ond nad ydynt wedi dod i rym eto. Ni ddisgwylir y bydd y rhain yn cael effaith faterol ar y datganiadau ariannol.

Crëwyd ACC ar 18 Hydref 2017 ac felly mae’r cyfnod 2017-19 yn cynnwys y cyfnod o 18 Hydref 2017 hyd 31 Mawrth 2019.

Mae’r wybodaeth ariannol a gynhwysir yn y datganiadau ac yn y nodiadau wedi’i thalgrynnu i’r £000 agosaf.

1.2 Confensiwn cyfrifyddu

Paratowyd y cyfrifon hyn o dan y confensiwn cost hanesyddol, wedi’u haddasu yn ôl gofynion y safonau cyfrifyddu perthnasol ac yn amodol ar ddehongliadau ac addasiadau safonau’r FReM. Cyfrifwyd am y gwariant ar sail croniadau. Mae cyfrifyddu ar gyfer cyllid wedi’i nodi yn AP1.7.

1.3 Busnes gweithredol

Paratowyd y cyfrifon hyn ar sail ‘busnes gweithredol’ gan fod ACC yn adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru ac yn derbyn ei arian refeniw gan Lywodraeth Cymru i fodloni ei rwymedigaethau. Mae ACC yn disgwyl y bydd yn parhau i fodoli hyd y gellir rhagweld.

1.4 Defnyddio dyfarniadau

Wrth baratoi’r datganiadau ariannol hyn, mae’r rheolwyr wedi gwneud dyfarniadau sy’n effeithio ar gymhwysiad y polisïau cyfrifyddu a’r symiau o asedau, atebolrwydd a threuliau a adroddir arnynt. Gall y canlyniadau gwirioneddol fod yn wahanol i’r amcangyfrifon hyn a chânt eu cydnabod yn y dyfodol.

Mae gwybodaeth am y dyfarniadau a wnaed wrth gymhwyso polisïau cyfrifyddu sy’n cael yr effeithiau mwyaf sylweddol ar y symiau a gydnabyddir yn y datganiadau ariannol wedi’u cynnwys yn y canlynol:

  • Nid oes unrhyw asedau ‘hawl i ddefnyddio’ yn bodoli o fewn ACC. Y Gweinidog yn unig sy’n cyfarwyddo’r gofod swyddfa a ddyrennir i ACC i’w ddefnyddio

1.5 Croniad gwyliau blynyddol

Caiff croniadau gwyliau blynyddol Staff eu cyfrif o fewn costau staff eraill. Mae’r croniad yn gyfrifiad sy’n adlewyrchu’r gwyliau blynyddol sy’n ddyledus neu sy’n ddyledus i staff ar ddiwedd y flwyddyn. Bellach, caiff symudiad yn y flwyddyn ei godi fel croniad o fewn costau eraill sy’n gysylltiedig â staff. Mae’r ffigurau ar gyfer 2017-19 a gynhwyswyd yn y costau staff wedi’u diwygio i adlewyrchu’r newid hwn ac er mwyn ei gwneud yn haws cymharu.

1.6 Treth Ar Werth (TAW)

Mae ACC wedi’i gofrestru ar gyfer TAW ac mae’n adennill rhai elfennau o TAW ar gyfer gwasanaethau busnes a gwasanaethau sy’n cael eu contractio allan. Caiff gwariant nwyddau a gwasanaethau eraill ei gofnodi yn cynnwys TAW yn unol â llawlyfr TAW llywodraeth fewnol CThEM.

1.7 Cyllid

Mae ACC yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru (a elwir yn ddyraniad grant) i ariannu ei wariant refeniw a chyfalaf. Yn unol â’r FReM, cofnodir y symiau hyn fel cyllid yn hytrach nag incwm ac fe’u credydir i’r Gronfa Gyffredinol. Mae’r FReM hefyd yn cadarnhau y dylid cyfrif am y cyllid hwn ar sail arian parod ac rydym wedi cydymffurfio â hyn.

1.8 Arian Parod a chyfwerth ag arian parod

Mae arian parod a chyfwerth ag arian parod yn cynnwys y balansau sydd gan ACC gyda Gwasanaeth Bancio’r Llywodraeth yn unig.

1.9 Adrodd cylchrannol

Mae Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) 8 yn ei gwneud yn ofynnol i endidau ddatgelu gwybodaeth am eu segmentau gweithredu a’u hardaloedd daearyddol. Mae’r ACC yn gweithredu mewn un segment ac yng Nghymru yn unig. Felly, ni ystyrir bod angen unrhyw adroddiadau ychwanegol.

1.10 Lesoedd

Ar gyfer 2019-20, nid yw ACC yn rhan o unrhyw drefniadau les fel prydleswr neu lesddeiliad o dan IAS 17. O dan IFRS 16, bydd ACC yn adolygu ei drefniadau cytundebol ac anghytundebol i sefydlu a oes les yn bodoli fel y’i diffiniwyd. Bydd ACC yn cydnabod yr asedau ‘hawl i ddefnyddio’ a rhwymedigaethau les ar gyfer y lesoedd hyn. Gohiriwyd gweithredu IFRS 16 yn y sector cyhoeddus tan Ebrill 2021 oherwydd coronafeirws.

1.11 Offerynnau Ariannol

Mae offeryn ariannol yn gontract sy’n arwain at greu ased ariannol mewn un endid a rhwymedigaeth ariannol neu offeryn ecwiti mewn endid arall. Mae IFRS 7, yn ei gwneud yn ofynnol i ddatgelu’r rôl y mae offerynnau ariannol wedi’i chwarae yn ystod y cyfnod o ran creu neu newid y risgiau y mae endid yn eu hwynebu wrth ymgymryd â’i weithgareddau. Gan fod ACC yn cael ei ariannu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, yr unig offerynnau ariannol yn y cyfrifon yw asedau ariannol ar ffurf symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill a rhwymedigaethau ariannol ar ffurf symiau masnach a symiau taladwy eraill. Ni ystyrir bod ACC yn agored i unrhyw lefel sylweddol o risg o ran credyd, hylifedd na chyfradd llog.

1.12 Asedau Anghyfredol 

Cyfarpar

Caiff cyfarpar ei gario ar werth teg. Defnyddir cost hanesyddol wedi’i dibrisio fel procsi ar gyfer gwerth teg yr asedau hyn. Yn ystod y cyfnod sefydlu cychwynnol, prynwyd cyfarpar TGCh gan Lywodraeth Cymru ar ran ACC. Ar 1 Ebrill 2018 trosglwyddwyd y cyfarpar i ACC gan Lywodraeth Cymru. Mae’r holl gostau cychwynnol hyn wedi’u cyfalafu.

Mae’r holl gyfarpar oedd yn costio £5,000 neu fwy a brynwyd yn uniongyrchol gan ACC wedi’i gyfalafu.

Darperir ar gyfer dibrisiant yn y mis ar ôl caffael ac fe’i cyfrifir er mwyn dileu’r gwerth ar ôl tynnu’r gwerth gweddilliol amcangyfrifedig, mewn rhannau cyfartal dros ei oes ddefnyddiol ddisgwyliedig fel y dangosir isod.

Categori’r Cyfarpar Oes Ddefnyddiol Amcangyfrifedig
Cyfarpar TGCh 3 blynedd
Cyfarpar Arall 5 blynedd

Asedau Anniriaethol

Gan nad oes marchnad weithredol yn bodoli oherwydd eu natur benodol, caiff asedau anniriaethol eu datgan ar gostau hanesyddol a’u hamorteiddio ar sail llinell syth, dros yr oes ddefnyddiol amcangyfrifedig neu dymor y drwydded. Darperir ar gyfer amorteiddio yn y mis ar ôl i’r ased gael ei gaffael fel y nodir isod.

Categori o Ased Anniriaethol Oes ddefnyddiol amcangyfrifedig
Trwyddedau a meddalwedd 3 blynedd

2. Gwariant

  2019-20 2017-19
Wedi’i
ailddatgan
£000 £000
Staff a chostau cysylltiedig
Cyflogau 2,992 3,388
Costau pensiynau 818 730
Costau nawdd cymdeithasol 330 377
Costau asiantaeth 177 152

 
4,317 4,647
Costau eraill sy’n gysylltiedig â staff
Hyfforddi a datblygu 73 115
Teithio a chynhaliaeth 54 88
Treuliau eraill sy’n gysylltiedig â chyflogeion 78 111

 
205 314
Costau gweithredu eraill
Gweinyddu a chostau swyddfa eraill 91 97
Costau’r Bwrdd a chostau cysylltiedig 64 167
Ffi archwiliad allanol 33 30
Costau sy’n gysylltiedig â TGCh 1,516 1,570
Ffi archwiliad mewnol 11 21
Costau proffesiynol eraill 218 274

 
1,933 2,159
Amorteiddiad a Dibrisiant 905 885
     
Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn 7,360 8,005

Darperir dadansoddiad pellach o staff a chostau cysylltiedig yn yr Adroddiad Staff.

3. Asedau Anghyfredol

3.1 Cyfarpar
  Offer TGCh Offer arall Cyfanswm
£000 £000 £000
Cost neu brisiad
Ar 18 Hydref 2017 0 0 0
Ychwanegiadau 93 11 104
Ar 31 Mawrth 2019 93 11 104
Amorteiddiad
Ar 18 Hydref 2017 0 0 0
Tâl yn ystod y flwyddyn 33 2 35
Ar 31 Mawrth 2019 33 2 35
Swm a gariwyd ar 18 Hydref 2017 0 0 0

Swm a gariwyd ar 31 Mawrth 2019

60 9 69
Cost neu brisiad
Ar 1 Ebrill 2019 93 11 104
Ychwanegiadau 0 0 0
Ar 31 Mawrth 2020 93 11 104
Dibrisiant
Ar 1 Ebrill 2019 33 2 35
Tâl yn ystod y flwyddyn 33 2 35
Ar 31 Mawrth 2020
 
66 4 70
Swm a gariwyd ar 31 Mawrth 2019 60 9 69
Swm a gariwyd ar 31 Mawrth 2020 27 7 34
3.2 Asedau Anniriaethol
  Trwyddedau Meddalwedd Cyfanswm
£000 £000 £000
Cost neu brisiad
Ar 18 Hydref 2017 0 0 0
Ychwanegiadau 66 2,409 2,475
Ar 31 Mawrth 2019 66 2,409 2,475
Dibrisiant
Ar 18 Hydref 2017 0 0 0
Tâl yn ystod y flwyddyn 24 826 850
Ar 31 Mawrth 2019
 
24 826 850
Swm a gariwyd ar 18 Hydref 2017 0 0 0
Swm a gariwyd ar 31 Mawrth 2019
 
42 1,583 1,625
Ar 1 Ebrill 2019 66 2,409 2,475
Ychwanegiadau 0 79 79
Ar 31 Mawrth 2020 66 2,488 2,554
Amorteiddiad
Ar 1 Ebrill 2019 24 826 850
Tâl yn ystod y flwyddyn 35 835 870
Ar 31 Mawrth 2020
 
59 1,661 1,720
Swm a gariwyd ar 31 Mawrth 2019 42 1,583 1,625
Swm a gariwyd ar 31 Mawrth 2020 7 827 834

4. Rhagdaliadau ac Incwm Cronedig Arall

  2019-20 2017-19
£000 £000
Rhagdaliadau ac incwm cronedig arall 140 156
Balans ar 31 Mawrth 140 156

Nid oes unrhyw symiau sy’n ddyledus ar ôl blwyddyn wedi’u cynnwys yn y ffigyrau uchod.
Nid oes angen darpariaeth ar gyfer drwgddyledion a dyledion amheus.

5. Arian Parod a Chyfwerth ag Arian Parod

  2019-20 2017-19
£000 £000
Balans ar ddechrau’r cyfnod 477 0
Newid net mewn balansau arian parod a chyfwerth ag arian parod (234) 477
Balans ar 31 Mawrth 243 477

Mae’r holl falansau’n cael eu cadw gan Wasanaeth Bancio’r Llywodraeth.

6. Symiau Masnach a Symiau Taladwy Eraill

  2019-20 2017-19
£000 £000
Symiau masnach taladwy (819) (599)
Symiau taladwy eraill (141) (104)
Balans ar 31 Mawrth (960) (703)

Mae’r rhan fwyaf o’r symiau o fewn symiau taladwy eraill yn ymwneud â’r croniadau gwyliau blynyddol.

7. Trafodion partïon cysylltiedig

Mae ACC yn adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru. O’r herwydd, mae Llywodraeth Cymru’n cael ei hystyried yn rhiant adran ac felly’n barti cysylltiedig. Mae ACC wedi cael nifer o drafodion materol yn ystod y flwyddyn gyda Llywodraeth Cymru.

Derbyniwyd cyllid refeniw o £5.95 miliwn yn ystod y flwyddyn (2017-19: £9.63 miliwn a chofnodwyd £1.44 miliwn yng nghyfrifon Llywodraeth Cymru yn 2017-18). Y cyllid cyfalaf a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn oedd £79,000 (2017-19: £2.57 miliwn mewn asedau anghyfredol a drosglwyddwyd ar 1 Ebrill 2018).

Gwnaed taliadau o £4.42 miliwn i Lywodraeth Cymru yn ystod 2019-20 yn bennaf mewn perthynas â chostau cyflogres, staff ar secondiad, a chostau cwmwl TGCh (2017-19: £3.89 miliwn).

Yn ystod y flwyddyn, llogodd ACC ystafell gan Newport Live am £439. Roedd Martin Warren, a oedd yn Aelod Anweithredol tan 27 Awst 2019, hefyd yn ymddiriedolwr ac yn gyfarwyddwr Newport Live. Gwnaed y trafodiad ar hyd braich ac mewn cydymffurfiad llawn â pholisïau a gweithdrefnau caffael ACC.

Ni chynhaliodd unrhyw aelodau’r Bwrdd, uwch swyddogion, nac unrhyw bartïon cysylltiedig, unrhyw drafodion materol gydag ACC.

8. Ymrwymiadau cyfalaf

Nid oedd unrhyw ymrwymiadau cyfalaf ar 31 Mawrth 2020.

9. Asedau a rhwymedigaethau digwyddiadol

Nid oedd unrhyw asedau a rhwymedigaethau digwyddiadol ar 31 Mawrth 2020.

10. Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd

Ni chafwyd unrhyw ddigwyddiadau adroddadwy ar ôl y cyfnod adrodd.

Tystysgrif ac adroddiad archwilydd annibynnol Archwilydd Cyffredinol Cymru i’r Senedd (Datganiad Treth)

Adroddiad ar yr archwiliad o’r datganiadau ariannol

Barn

Tystiaf fy mod wedi archwilio datganiad treth Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020 o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. Mae’r datganiadau ariannol yn cynnwys y Datganiad o Refeniw, Incwm a Gwariant Arall, y Datganiad o Sefyllfa Ariannol, y Datganiad o Lifau Arian Parod a’r nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys crynodeb o bolisïau cyfrifyddu. Paratowyd y datganiadau ariannol hyn o dan y polisïau cyfrifyddu a nodir ynddynt. Y fframwaith adrodd ariannol a gymhwyswyd wrth eu paratoi yw’r gyfraith berthnasol a Llawlyfr Adroddiadau Ariannol Trysorlys ei Mawrhydi sy’n seiliedig ar y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRSs) fel y’i mabwysiadwyd gan yr Undeb Ewropeaidd.

Yn fy marn i, mae’r datganiadau ariannol:

  • Yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa datganiad treth Awdurdod Cyllid Cymru ar 31 Mawrth 2020 a’r refeniw net ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny; ac
  • Wedi’u paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

Sail ar gyfer barn

Cynhaliais fy archwiliad yn unol â’r gyfraith berthnasol a’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y DU (ISAs (UK)). Disgrifir fy nghyfrifoldebau o dan y safonau hynny ymhellach yng nghyfrifoldebau’r archwilydd am archwilio yn adran datganiadau ariannol fy adroddiad. Rwy’n annibynnol o Awdurdod Cyllid Cymru yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’m harchwiliad o’r datganiadau ariannol yn y DU gan gynnwys Safon Foesegol y Cyngor Adrodd Ariannol, ac rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â’r gofynion hyn. Credaf fod y dystiolaeth archwilio yr wyf wedi’i chael yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail i’m barn.

Casgliadau sy’n ymwneud â busnes gweithredol

Nid oes gennyf unrhyw beth i’w nodi o ran y materion canlynol sy’n ofynnol i mi adrodd arnynt gan yr ISAs (UK):

  • Nid yw’n briodol defnyddio sail busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol; neu
  • Nid yw’r Swyddog Cyfrifyddu wedi datgelu yn y datganiadau ariannol unrhyw ansicrwydd materol a nodwyd a allai daflu amheuaeth sylweddol ynghylch gallu Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru i barhau i fabwysiadu sail busnes gweithredol o gyfrifyddu am gyfnod o 12 mis o leiaf o’r dyddiad yr awdurdodir y datganiadau ariannol i gael eu cyhoeddi

Gwybodaeth arall

Nid yw’r ddeddfwriaeth a’r cyfarwyddyd a roddwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn nodi cynnwys a ffurf yr wybodaeth arall sydd i’w chyflwyno gyda’r datganiadau ariannol. Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am yr wybodaeth arall yn y cyfrifon blynyddol. Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth a gynhwysir yn y cyfrifon blynyddol ar wahân i’r datganiadau ariannol a’m hadroddiad archwiliwr arno. Nid yw fy marn i ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu’r wybodaeth arall ac, ac eithrio i’r graddau a nodir yn glir yn fy adroddiad fel arall, nid wyf yn mynegi unrhyw gasgliad o sicrwydd ar hynny.

Mewn cysylltiad â’m harchwiliad o’r datganiadau ariannol, fy nghyfrifoldeb i yw darllen yr wybodaeth arall i ganfod anghysonderau o bwys â’r datganiadau ariannol archwiliedig ac i nodi unrhyw wybodaeth sydd, i bob golwg, yn faterol anghywir ar sail ar yr wybodaeth a gaffaelwyd gennyf wrth gyflawni’r archwiliad, neu’n anghyson iawn â hi. Os dof yn ymwybodol o unrhyw gamddatganiadau neu anghysonderau materol amlwg, ystyriaf y goblygiadau i’m hadroddiad.

Barn ar reoleidd-dra

Yn fy marn i, ymhob ffordd berthnasol, mae’r gwariant a’r incwm yn y datganiadau ariannol wedi’u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae’r trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu rheoli.

Adroddiad ar ofynion eraill

Barn ar faterion eraill

Gan nad yw’r ddeddfwriaeth a’r cyfarwyddiadau a roddwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn nodi cynnwys a ffurf yr wybodaeth arall sydd i’w chyflwyno gyda’r datganiadau ariannol, ni allaf gadarnhau bod yr wybodaeth arall yn y cyfrifon blynyddol (y tu allan i’r datganiadau ariannol) wedi’i pharatoi’n briodol.

Yn fy marn i, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yn ystod fy archwiliad, mae’r wybodaeth a roddir yn y cyfrifon blynyddol yn gyson â’r datganiadau ariannol.

Materion y byddaf yn adrodd arnynt drwy eithriad

O ystyried yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth o Ddatganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru a’i amgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi nodi unrhyw gamddatganiadau perthnasol yn y Cyfrifon Blynyddol na’r Datganiad Llywodraethiant.

Nid oes gennyf unrhyw beth i’w nodi o ran y materion canlynol yr adroddaf i chi, os, yn fy marn i:

  • Na chadwyd cofnodion cyfrifyddu priodol;
  • Nad yw’r datganiadau ariannol yn cytuno â’r cofnodion a’r ffurflenni cyfrifyddu; neu
  • Nad wyf wedi derbyn yr holl wybodaeth a’r esboniadau sydd eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad

Adroddiad

Nid oes gennyf unrhyw sylwadau i’w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu am y datganiadau ariannol

Fel yr esbonnir yn llawnach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am baratoi’r datganiadau ariannol yn unol â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, a’r cyfarwyddiadau gan Weinidogion Cymru a wneir yno, am fod yn fodlon eu bod yn rhoi golwg gwir a theg ac am reolaeth fewnol a ddyfarnir yn briodol gan y Swyddog Cyfrifyddu er mwyn galluogi paratoi datganiadau ariannol sy’n rhydd o gamddatganiadau perthnasol, boed hynny trwy dwyll neu wall.

Wrth baratoi’r datganiadau ariannol, mae’r Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol am asesu gallu Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu fel y bo’n berthnasol, materion sy’n ymwneud â busnes gweithredol a defnyddio’r sail busnes gweithredol o gyfrifyddu oni fernir bod hynny’n amhriodol.

Cyfrifoldebau’r Archwilydd ar gyfer archwilio’r datganiadau ariannol

Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o unrhyw gamddatganiadau materol, boed hynny oherwydd twyll neu wall, ac i gyhoeddi adroddiad archwiliwr sy’n cynnwys fy marn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd ond nid yw’n warant y bydd archwiliad a gynhelir yn unol ag ISAs (UK) bob amser yn canfod camddatganiad perthnasol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau fod o ganlyniad i dwyll neu wall, a chânt eu hystyried yn faterol os gellid disgwyl yn rhesymol iddynt, yn unigol neu gyda’i gilydd, ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr ar sail y datganiadau ariannol hyn.

Mae disgrifiad pellach o gyfrifoldebau’r archwilydd ar gyfer archwilio’r datganiadau ariannol i’w gael ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol. Mae’r disgrifiad hwn yn ffurfio rhan o’m hadroddiad archwilydd.

Cyfrifoldebau am reoleidd-dra

Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am sicrhau rheoleidd-dra’r trafodion ariannol.

Mae’n ofynnol i mi gael digon o dystiolaeth i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a’r incwm wedi’u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod y trafodion ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu rheoli.

Adrian Crompton

Archwilydd Cyffredinol Cymru
24 Heol Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

6 Gorffennaf 2020

Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifyddu yw hygrededd gwefan Awdurdod Cyllid Cymru a’r gwaith o gynnal y wefan honno; nid yw’r gwaith a gyflawnir gan archwilwyr yn cynnwys ystyriaeth o’r materion hyn ac, yn unol â hynny, nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldebau am unrhyw newidiadau a allai fod wedi cael eu cyflwyno i’r datganiadau ariannol ers eu cyflwyno’n wreiddiol ar y wefan.

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio ac adrodd ar y cyfrifon hyn yn y ffurf y cawsant eu drafftio’n wreiddiol. Cyfieithiad o’r fersiwn Saesneg gwreiddiol yw’r fersiwn hwn. Awdurdod Cyllid Cymru sydd yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid yr Archwilydd Cyffredinol.

Datganiad Treth

Datganiad o Refeniw, Incwm a Gwariant Arall
  Nodyn 2019-20 2018-19
£000 £000
Refeniw
Trethi a thollau
Treth Trafodiadau Tir 2.1 260,281 227,846
Treth Gwarediadau Tirlenwi 2.2 36,926 44,433
Cyfanswm trethi a thollau   297,207 272,279
Cosbau a llog
Cosbau 2.3 327 157
Llog 2.3 45 16
Cyfanswm cosbau a llog   372 173
Cyfanswm y refeniw
 
  297,579 272,452
Gwariant
Llog a dalwyd 3.1 (42) (13)
Colledion refeniw 3.2 (1) (2)
Cyfanswm y gwariant   (43) (15)
Refeniw net ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru   297,536 272,437

Ni chafwyd unrhyw enillion na cholledion cydnabyddedig a gyfrifwyd amdanynt mewn man heblaw am y Datganiad Refeniw, Incwm a Gwariant Arall uchod.

Mae'r nodiadau sy'n dilyn y Datganiad o Lifau Arian Parod yn rhan o'r datganiad hwn.

Datganiad o Sefyllfa Ariannol
  Nodyn 2019-20 2018-19
£000 £000
Asedau cyfredol
Symiau Derbyniadwy 4.1 2,822 1,892
Trethi cronedig derbyniadwy 4.1 40,435 14,479
Arian parod 5 2,836 5,459
Cyfanswm asedau cyfredol
 
  46,093 21,830
Rhwymedigaethau cyfredol
Symiau taladwy a balansau ar gyfrif 6 870 143
Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol
 
  870 143
Cyfanswm yr asedau net   45,223 21,687
Cynrychiolir gan
Balans sy’n ddyledus i Gronfa Gyfunol Cymru 8 45,223 21,687

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
3 Gorffennaf 2020

 

Datganiad Llifau Arian
  Nodyn 2019-20 2018-19
£000 £000
Llif arian net o weithgareddau gweithredol A 271,377 256,209
Arian parod a dalwyd i’r Gronfa Gyfunol   (274,000) (250,750)
Cynnydd/(gostyngiad) mewn arian parod yn
y cyfnod hwn
B (2,623) 5,459

Nodiadau ar y Datganiad Llifau Arian

  2019-20 2018-19
£000 £000
A: Cysoni llif arian net â symudiad mewn cronfeydd net
Refeniw net ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru 297,536 272,437
(Cynnydd)/gostyngiad mewn asedau nad ydynt yn arian parod (26,886) (16,371)
Cynnydd/(gostyngiad) mewn rhwymedigaethau 727 143
Cynnydd/(gostyngiad) mewn darpariaethau ar gyfer
rhwymedigaethau
0 0
Llif arian net o weithgareddau gweithredol 271,377 256,209
  2019-20 2018-19
  £000 £000
B: Dadansoddiad o’r newidiadau yn y gronfa arian net
Cynnydd/(gostyngiad) mewn arian parod yn y cyfnod hwn (2,623) 5,459
Arian net ar 1 Ebrill (balans agoriadol y banc) 5,459 0
Y gronfa arian net ar 31 Mawrth (balans banc terfynol) 2,836 5,459

Nodiadau i’r datganiad Treth

1. Datganiad o bolisïau cyfrifyddu

1.1 Sail y cyfrifyddu

Paratoir y cyfrifon hyn yn unol â:

  • Y cyfarwyddyd cyfrifon a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru, yn unol ag adran 30(1) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016
  • Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth (FreM) 2019-20 a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM
  • Y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) fel y maent wedi’u haddasu neu eu dehongli ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus
  • Y polisïau cyfrifyddu y manylir arnynt yn y nodiadau dilynol

Mae ACC wedi ystyried effaith safonau a dehongliadau sydd wedi’u cyhoeddi ond nad ydynt yn effeithiol eto. Ni ddisgwylir y bydd y rhain yn cael effaith faterol ar y datganiadau ariannol.

Yr incwm ac unrhyw wariant cysylltiedig a gynhwysir yn y datganiadau hyn yw’r llif arian hwnnw y mae ACC yn ei drin ar ran Cronfa Gyfunol Cymru, a phan fo’n gweithredu fel asiant yn hytrach nag fel pennaeth.

Mae’r wybodaeth ariannol a gynhwysir yn y datganiadau ac yn y nodiadau wedi’i thalgrynnu i’r £000 agosaf.

1.2 Confensiwn cyfrifyddu

Paratowyd y Datganiad Treth yn unol â’r confensiwn cost hanesyddol. Cyfrifir am drethi, gan gynnwys ad-daliadau, ar sail croniadau.

1.3 Cydnabod refeniw 

Trethiant

Caiff trethi eu mesur yn unol ag IAS18. Cânt eu mesur ar werth teg y symiau a dderbynnir neu sy’n dderbyniadwy, net o ad-daliadau. Cydnabyddir refeniw pan:

  • Mae digwyddiad trethadwy wedi digwydd, y gellir mesur y refeniw yn ddibynadwy, a’i bod yn debygol y bydd y buddion economaidd o’r digwyddiad trethadwy yn llifo i Gronfa Gyfunol Cymru
  • Mae digwyddiad trethadwy yn digwydd pan fydd atebolrwydd i dalu treth

Caiff unrhyw ddiwygiadau, gan gynnwys ad-daliadau cyfraddau uwch, eu cydnabod hyd at 30 Ebrill yn y flwyddyn ariannol ddilynol os ydynt yn berthnasol i flwyddyn ariannol flaenorol.

Cosbau a llog

Caiff cosbau a llog eu mesur yn unol â IAS18. Cânt eu mesur ar werth teg symiau a dderbynnir neu sy’n dderbyniadwy.

Cydnabyddir refeniw pan:

  • Gaiff y gosb neu daliad llog ei osod yn ddilys a daw’n dderbyniadwy gan ACC

Mae refeniw cosb cydnabyddedig yn cael ei wrthdroi yn y cyfrifon pan fo:

  • Cosb yn cael ei chanslo yn sgil cywiro mân wall gan y trethdalwr neu’r asiant ar y ffurflen dreth
  • Cosb yn cael ei chanslo yn dilyn adolygiad gan ACC
  • Apêl, neu resymau cyfreithiol eraill, yn diddymu’r gosb

Lle bernir yn ddiweddarach bod refeniw cosb neu log a gydnabyddir mewn blwyddyn ariannol flaenorol yn anghasgladwy am resymau heblaw’r hyn a ddangosir uchod, cofnodir hyn fel traul ar y dyddiad y tybir ei fod yn anghasgladwy.

Nid yw ACC yn cydnabod y bwlch treth yn y Datganiad Treth. Dyma’r gwahaniaeth rhwng swm y dreth a ddylai, mewn theori, gael ei chasglu gan ACC (yr atebolrwydd damcaniaethol), a’r hyn a gesglir mewn gwirionedd. Mae’r rhwymedigaeth dreth ddamcaniaethol hon yn cynrychioli’r dreth a fyddai’n cael ei thalu pe byddai pob trethdalwr yn cydymffurfio â llythyren y ddeddf a dehongliad ACC o fwriad y Senedd wrth ddeddfu (y cyfeirir ati fel ysbryd y gyfraith).

Gohiriadau

Mae gohiriad yn digwydd pan fo sawl cam gosod pris prynu yn digwydd mewn trafodiad tir ac mae un neu fwy o’r camau hyn yn ddyledus yn y dyfodol ac yn amodol ar ddigwyddiad. Nid yw ACC yn cydnabod y refeniw treth ar y taliadau hyn yn y dyfodol hyd nes bod y digwyddiad hwnnw’n digwydd a bod y pris prynu ychwanegol yn daladwy. Enghraifft o ohirio yw pan fo tir yn cael ei brynu a bod swm ychwanegol yn daladwy ar ôl cael caniatâd cynllunio; cydnabyddir refeniw treth ar y taliad ychwanegol ar yr adeg pan ganiateir y caniatâd cynllunio.

Ymholiadau a thribiwnlysoedd

Yn unol â’r FReM, nid yw refeniw treth ac ad-daliadau treth neu gosb sy’n deillio o achosion ymholiad neu dribiwnlys yn cael eu cydnabod yn y cyfrifon hyd nes bydd y penderfyniad neu’r dyfarniad yn cael ei gyhoeddi. Dim ond os ydynt yn arwain at effaith ariannol faterol y gwneir datgeliadau yn y cyfrifon sy’n ymwneud ag ymholiadau neu achosion tribiwnlys.

1.4 Defnyddio dyfarniadau

Wrth baratoi’r datganiadau ariannol hyn, mae’r rheolwyr wedi gwneud dyfarniadau sy’n effeithio ar gymhwysiad y polisïau cyfrifyddu a’r symiau o refeniw, asedau, atebolrwydd, a threuliau a adroddir arnynt. Gall y canlyniadau gwirioneddol fod yn wahanol i’r amcangyfrifon hyn a chânt eu cydnabod yn y dyfodol.

Mae gwybodaeth am y dyfarniadau a wnaed wrth gymhwyso polisïau cyfrifyddu sy’n cael yr effeithiau mwyaf sylweddol ar y symiau a gydnabyddir yn y datganiadau ariannol wedi’u cynnwys fel a ganlyn:

  • Mae datgelu rhwymedigaeth digwyddiadol ar gyfer ad-dalu cyfraddau uwch y Dreth Trafodiadau Tir yn y cyfrifon yn seiliedig ar fodelu’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a’i dyfarniadau. Barn y Rheolwyr yw nad oes data digonol ar gael gan ACC eto er mwyn iddo fodelu prisiad cywir o rwymedigaeth ad-daliad yn y dyfodol
     
  • Oherwydd effaith mesurau clo’r coronafeirws, nid yw ffurflenni papur a derbynebau siec drwy’r post wedi cael eu prosesu ers 22 Mawrth 2020. Dyfarniad y Rheolwyr yw nad oes camddatganiad materol o’r cyfrifon o ganlyniad i beidio â chynnwys amcangyfrifon o’r ffurflenni treth a’r sieciau hyn

1.5 Offerynnau Ariannol

Mae offeryn ariannol yn gontract sy’n arwain at greu ased ariannol mewn un endid a rhwymedigaeth ariannol neu offeryn ecwiti mewn endid arall.

Mae IFRS 7, Offerynnau Ariannol, yn ei gwneud yn ofynnol i ddatgelu’r rôl y mae offerynnau ariannol wedi’i chwarae yn ystod y cyfnod o ran creu neu newid y risgiau y mae endid yn eu hwynebu wrth ymgymryd â’i weithgareddau. Oherwydd natur gweithgareddau ACC yr unig offerynnau ariannol yn y cyfrifon yw asedau ariannol ar ffurf symiau derbyniadwy a rhwymedigaethau ariannol ar ffurf symiau taladwy. O ganlyniad, nid yw’n agored i hylifedd sylweddol, risg cyfradd llog, nac ychwaith risg arian cyfred tramor.

1.6 Cyfrinachedd trethdalwyr

Mae ACC yn cymryd cyfrinachedd trethdalwyr o ddifrif ac ni fydd yn datgelu manylion cyfrinachol trethdalwyr a waherddir o dan adran 17 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi 2016 o fewn y Datganiadau Ariannol oni bai bod gofyniad cyfreithiol sy’n ei gwneud yn hanfodol i wneud hynny.

Caiff polisïau cyfrifyddu pellach eu hegluro yn y nodiadau perthnasol.

2. Refeniw ac Incwm Arall

2.1 Treth Trafodiadau Tir
  2019-20 2018-19
£000 £000
Preswyl 163,403 155,428
Amhreswyl 96,878 72,418
Cyfanswm Treth Trafodiadau Tir 260,281 227,846

Y digwyddiad trethadwy ar gyfer TTT yw prynu tir neu eiddo. Mae’r tabl canlynol yn nodi dyraniad y dreth breswyl a godir rhwng blynyddoedd treth yn seiliedig ar y dyddiad y caiff eiddo ei werthu.

2.1a Treth Breswyl
  2019-20 2018-19
2019-20 2018-19 Cyfanswm Cyfanswm
£000 £000 £000 £000
Prif gyfraddau 72,303 (5,994) 66,309 77,736
Cyfraddau uwch 96,626 468 97,094 77,692
Cyfanswm preswyl 168,929 (5,526) 163,403 155,428

Mae cyfraddau preswyl uwch yn daladwy ar brynu eiddo ychwanegol yng Nghymru. Mae’n bosibl y bydd yn ad-daladwy pan fo prif breswylfa flaenorol y trethdalwr yn cael ei gwerthu o fewn 3 blynedd i brynu’r eiddo newydd ychwanegol a phan fo’r eiddo newydd hwnnw’n dod yn brif breswylfa iddynt.

2.1b Ad-daliadau cyfraddau uwch
  2019-20 2018-19
2019-20 2018-19 Cyfanswm Cyfanswm
£000 £000 £000 £000
Ad-daliadau cyfradd uwch 5,829 5,425 11,254 5,828

Mae’r tabl uchod yn nodi’r ad-daliadau cyfraddau uwch a dalwyd i’r trethdalwr sy’n lleihau’r dreth breswyl uwch a ddatganwyd yn y flwyddyn gyfredol.

2.1c Cyfraddau preswyl wedi’u hailddosbarthu
  2019-20 2018-19
2019-20 2018-19 Total Total
£000 £000 £000 £000
Prif gyfraddau preswyl a
gofnodwyd yn flaenorol fel
cyfraddau uwch
3,923 2,925 6,848 3,386

Mae’r pryniannau eiddo cychwynnol bellach yn cael eu hailddosbarthu fel prif gyfraddau preswyl oherwydd i’r trethdalwyr hawlio ad-daliad yn llwyddiannus.

2.2 Treth Gwarediadau Tirlenwi
  2019-20 2018-19
£000 £000
Treth Gwarediadau Tirlenwi 36,926 44,433
Cyfanswm Treth Gwarediadau Tirlenwi 36,926 44,433

Telir TGT pan waredir gwastraff i safleoedd tirlenwi; caiff ei gyfrifo yn ôl pwysau a math o wastraff.

2.3 Cosbau a llog
  2019-20 2018-19
Cosb Llog Cosb Llog
£000 £000 £000 £000
Treth Trafodiadau Tir 327 45 156 16
Treth Gwarediadau Tirlenwi 0 0 1 0
Cyfanswm cosbau a llog 327 45 157 16

Codir cosbau pan fydd ffurflenni treth yn cael eu derbyn yn hwyr, os bydd taliadau’n hwyr, neu am resymau eraill a ganiateir o dan DCRhT (Cymru) 2016.

Codir llog ar daliadau treth neu gosbau hwyr.

3. Gwariant

3.1 Llog a dalwyd
  2019-20 2018-19
£000 £000
Treth Trafodiadau Tir (42) (13)
Treth Gwarediadau Tirlenwi 0 0
Cyfanswm y llog a dalwyd (42) (13)

Mae llog yn daladwy gan ACC ar ad-daliad unrhyw rwymedigaethau treth neu gosbau.

3.2 Colledion refeniw
  2019-20
Dyledion wedi’u
dileu
2018-19
Dyledion wedi’u
dileu
£000 £000
Treth Trafodiadau Tir (1) (2)
Treth Gwarediadau Tirlenwi 0 0
Cyfanswm (1) (2)

Achosion o ddileu dyledion yw colledion refeniw, pan fydd pob cam rhesymol wedi’i gymryd ac ar ôl ystyriaeth ofalus, ystyrir na ellir adennill y symiau hyn.

4. Symiau derbyniadwy a refeniw cronedig derbyniadwy

4.1 Symiau derbyniadwy sy’n ddyledus:
  2019-20 2018-19
Symiau
Derbyniadwy
Refeniw
Cronedig
Derbyniadwy
Symiau
Derbyniadwy
Refeniw
Cronedig
Derbyniadwy
£000 £000 £000 £000
Treth Trafodiadau Tir 2,822 32,246 1,892 5,883
Treth Gwarediadau Tirlenwi 0 8,189 0 8,596
Cyfanswm 2,822 40,435 1,892 14,479

Mae symiau derbyniadwy yn cynrychioli rhwymedigaethau trethdalwyr lle mae symiau sy’n ddyledus gan y trethdalwr, gan gynnwys cosbau ariannol a llog wedi digwydd yn ystod y cyfnod adrodd, ond ni dderbyniwyd y symiau erbyn dyddiad y fantolen.

Mae’r refeniw cronedig derbyniadwy yn cynrychioli symiau sy’n ddyledus mewn perthynas â ffurflenni treth lle mae’r rhwymedigaeth dreth wedi’i sefydlu ar ddyddiad y fantolen ond heb ei dychwelyd ar ddyddiad y fantolen. Felly gwneir croniad â llaw.

5. Arian parod

  2019-20 2018-19
£000 £000
Gwasanaeth Bancio’r Llywodraeth 2,836 5,459
Balans ar 31 Mawrth 2,836 5,459

Mae ACC yn talu arian i Gronfa Gyfunol Cymru yn ôl cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Mae’r balans uchod yn cynrychioli cyllid a gafwyd o drethi na ofynnwyd amdanynt cyn 31 Mawrth 2020.

6. Symiau taladwy a Balansau ar gyfrif

  2019-20 2018-19
£000 £000
Treth Trafodiadau Tir 2,836 5,459
Treth Gwarediadau Tirlenwi 0 0
Cyfanswm 870 143

Mae symiau taladwy a balansau ar gyfrif yn symiau sydd angen eu talu gan ACC a lle nad yw’r taliad wedi’i wneud hyd yn hyn. Gellir diwygio ffurflenni treth hyd at 12 mis ar ôl y dyddiad ffeilio. Mewn rhai amgylchiadau bydd hyn yn arwain at ad-daliad. Mae’r balansau hyn yn ymwneud ag ad-daliadau treth, cosbau, neu log sy’n ddyledus, gan gynnwys hawliadau ad-daliad cyfradd uwch, lle mae’r symiau wedi’u pennu ar ddyddiad y fantolen fel rhai sy’n ddyledus.

7. Darpariaethau ar gyfer rhwymedigaethau a rhwymedigaethau digwyddiadol

Mae gan drethdalwyr sydd wedi talu cyfraddau uwch ar eu trafodiadau preswyl yr hawl i hawlio prif gyfraddau preswyl ar eu prif breswylfa newydd, os byddant wedi gwaredu eu prif breswylfa flaenorol o fewn 3 blynedd i ddyddiad prynu’r eiddo newydd. Mae angen i’r trethdalwr gyflwyno hawliad er mwyn derbyn yr ad-daliad.

Datgelir yr ad-daliad posibl hwn o dreth cyfraddau uwch fel rhwymedigaeth ddigwyddiadol ar gyfer y Datganiad Treth oherwydd ansicrwydd yr ailhawliadau a’u hamseriadau. Ar gyfer 2019-20, amcangyfrifir y bydd y swm yn £14.4 miliwn yn ôl y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (£9.9 miliwn yn 2018-19).

8. Balans sy’n ddyledus i gyfrif Cronfa Gyfunol Cymru

  2019-20 2018-19
£000 £000
Balans ar Gronfa Gyfunol Cymru ar 1 Ebrill 2019 21,687 0
Refeniw net ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru  297,536 272,437
Wedi tynnu’r swm a dalwyd i Gronfa Gyfunol Cymru (274,000) (250,750)
Balans sy’n ddyledus i Gronfa Gyfunol Cymru 31 Mawrth 2020  45,223 21,687

9. Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd

Nid oes unrhyw ddigwyddiadau adroddadwy ar ôl y cyfnod adrodd.

Geirfa

Amorteiddiad

Dosraniad cost ased anniriaethol dros ei oes ddefnyddiol.

Asedau anghyfredol (a elwir yn asedau sefydlog hefyd)

Ased sydd ym meddiant y sefydliad. Gall y rhain fod yn asedau diriaethol ag iddynt sylwedd ffisegol neu’n asedau annirweddol – ased adnabyddadwy nad yw’n ariannol ac sydd heb sylwedd ffisegol iddo, er enghraifft trwyddedau a meddalwedd.

Cronfa Gyfunol Cymru

Y gronfa a ddefnyddir gan y Senedd i ddal symiau y pleidleisiwyd arnynt gan y Senedd ac a ddyrennir wedyn drwy Gynnig Cyllidebol er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Dibrisiant

Dosraniad cost ased anghyfredol diriaethol.

Ecwiti trethdalwyr

Asedion net y sefydliad.

Llawlyfr Adroddiadau Ariannol (FReM)

Canllawiau cyfrifyddu technegol Trysorlys EM ar baratoi’r datganiadau ariannol.

Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS)

Cyhoeddir y rhain gan y Bwrdd Safonau Cyfrifo Rhyngwladol ac mae datganiadau ariannol y Llywodraeth yn defnyddio’r rhain fel sail ar gyfer paratoi eu cyfrifon.

Symiau derbyniadwy

Symiau sy’n ddyledus i ACC ar ddiwedd y cyfnod adrodd.

Symiau taladwy

Symiau sy’n daladwy i gyflenwyr nwyddau a gwasanaethau ar ddiwedd y cyfnod adrodd.