Damweiniau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu: 2019 (diwygiedig)
Data am ddifrifoldeb yr anafiadau a'r math o ddefnyddiwr ffordd ar gyfer 2019.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Prif bwyntiau
Mae datganiad 2019 ar y damweiniau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yn fyrrach er mwyn neilltuo adnoddau i ganolbwyntio ar ddadansoddi pandemig y COVID-19.
Yn 2019 cofnododd heddluoedd Cymru 4,330 o ddamweiniau ffyrdd a oedd yn cynnwys anaf personol, 108 yn fwy (2.6% yn uwch) nag yn 2018. Er bod hyn yn gynnydd bychan eleni, dros y tymor hir, mae nifer y damweiniau wedi gostwng yn sylweddol.
Arweiniodd y damweiniau hyn at 5,808 o anafusion, 40 yn fwy nag yn 2018.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y damweiniau a arweiniodd at anaf difrifol neu farwolaeth wedi bod yn weddol sefydlog.
Cynnydd yn y damweiniau a gofnodwyd
Cofnododd dau heddlu gynnydd mewn damweiniau; De Cymru (5.5%) a Gwent (13.1%)
Gwelwyd gostyngiad sylweddol yn y damweiniau a gofnodwyd gan Heddlu De Cymru yn 2018. Trafodwyd ansicrwydd y gostyngiad hwn yn natganiad 2018. Er y bu cynnydd yn 2019, mae’r duedd ostyngol tymor hir yn ffigurau De Cymru yn parhau.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Heddlu Gwent wedi bod yn adolygu’u proses cofnodi damweiniau. Mae’n debygol bod canlyniadau’r adolygiad hwnnw wedi cyfrannu at y cynnydd yn nifer y damweiniau a gofnodwyd a’r cynnydd a welwyd yn 2019.
Damweiniau ffyrdd a gofnodwyd yn ôl ardal a blwyddyn
O’r 5,808 o anafusion a gofnodwyd ar ffyrdd Cymru yn 2019:
- cafodd 1,193 o bobl eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol
- cafodd 95 o bobl eu lladd, 13 yn llai (12.0 y cant yn is) nag yn 2018
- cafodd 1,098 o bobl anaf difrifol, 69 yn fwy (6.7 y cant yn uwch) nag yn 2018
- cafodd 4,615 o bobl fân anafiadau, 16 yn llai (0.3 y cant yn is) nag yn 2018
2. Targedau damweiniau 2020
Gosododd Llywodraeth Cymru dri tharged i ostwng y nifer sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol (KSI) ar ffyrdd Cymru erbyn 2020 o’u cymharu â chyfartaledd 2004 i 2008.
Dengys y ffigurau diweddaraf (2019) y cynnydd canlynol tuag at dargedau 2020:
- gostyngiad o 15.1% yn y nifer gafodd eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol yn erbyn y targed o 40%
- gostyngiad o 41.4% yn nifer y bobl ifanc gafodd eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol yn erbyn y targed o 40%
- gostyngiad o 2.3% yn nifer y beicwyr modur gafodd eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol yn erbyn y targed o 25%
Gan fod mwy o ddamweiniau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu yn 2019, mae’r cynnydd tuag at y targedau wedi arafu o’i gymharu â 2018.
3. Gwybodaeth ansawdd
Gellir dod o hyd i wybodaeth o ansawdd yn ein hadroddiad 2018.
Mae’r data ar gael ar StatsCymru ac mae ein dangosfwrdd rhyngweithiol wedi’i ddiweddaru.
Statws Ystadegau Gwladol
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r holl ystadegau a gyflwynir yma fel Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 a chan ddynodi ei fod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ein hystadegau yn cyrraedd y safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus, a'n cyfrifoldeb ni yw sicrhau y cydymffurfir â'r safonau hyn.
Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn dechrau pryderu ynghylch p’un a yw’r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw’r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau’n cael eu hadfer.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Dan adran (10) (1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae'n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) chyflwyno copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.
4. Manylion cyswllt
Ystadegydd: Nicole Scully
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 83/2020(R)