Neidio i'r prif gynnwy

Data am ddifrifoldeb yr anafiadau a'r math o ddefnyddiwr ffordd ar gyfer 2018.

Mae nifer y damweiniau ffyrdd a achosodd niwed personol a gafodd eu cofnodi gan heddluoedd yng Nghymru wedi gostwng dros y tymor hir.

Prif bwyntiau

  • Yn 2018 cofnododd heddluoedd yng Nghymru 4,222 o ddamweiniau ffyrdd a oedd yn cynnwys niwed personol, 326 yn llai (7.2% yn is) nag yn 2017.
  • Arweiniodd y damweiniau hyn at 5,768 o anafusion, 426 yn llai nag yn 2017
  • Mae nifer y damweiniau ffyrdd a achosodd niwed personol a gafodd eu cofnodi gan heddluoedd yng Nghymru wedi gostwng dros y tymor hir.
  • Yn y blynyddoedd diwethaf mae nifer y damweiniau a arweiniodd at niwed difrifol neu farwolaeth wedi bod yn weddol sefydlog, gyda'r gostyngiad cyffredinol yn nifer y damweiniau'n cael ei briodoli i'r gostyngiad parhaus yn nifer y damweiniau sy'n achosi mân anafiadau.

O fewn y 5,768 anafiadau:

  • Cafodd 108 o bobl eu lladd, 7 yn fwy (6.9% yn uwch) nag yn 2017
  • Cafodd 1,029 o bobl anafiad difrifol, 70 yn fwy (7.3% yn uwch) nag yn 2017. 
  • Cafodd 4,631 o bobl fân anafiadau, 503 yn llai ( 9.6% yn llai) nag yn 2017.

Nodyn adolygu

Cafodd yr ystadegau ar gyfer 2018 eu cyhoeddi i ddechrau ar 27 Mehefin 2019. Cyhoeddwyd yr ystadegau diwygiedig, sy’n dangos nifer uwch o anafusion na’r nifer a gyhoeddwyd yn wreiddiol, ar 25 Medi 2019.

Adroddiadau

Damweiniau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, 2018: diwygiedig , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.