Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Mae’r cytundeb hwn yn garreg filltir bwysig i Gymru. Gan ddilyn yr argymhellion gan y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk), mae Deddf Cymru 2014 wedi darparu’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer datganoli pwerau trethu a benthyca i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae’r pwerau hyn yn rhoi offer ychwanegol i Lywodraeth Cymru i dyfu economi Cymru ac amrywio lefel trethi a gwariant yng Nghymru, gan ei gwneud yn fwy atebol i bobl Cymru.

Bydd y cytundeb hwn yn rhoi’r gallu i weithredu’r pwerau yn Neddf Cymru 2014 – ac unrhyw bŵer arall a ddatganolir dan Fil cyfredol Cymru. Yn benodol, bydd yn fodd i ddatganoli treth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi, ac i greu cyfraddau treth incwm Cymreig (ar yr amod bod y Bil Cymru sydd gerbron y Senedd ar hyn o bryd yn cael ei wneud yn ddeddf).

Gan ategu’r datganiad ar y cyd am gyllido yn 2012 a’r cyllid gwaelodol a gyflwynwyd yn Natganiad o Wariant 2015, mae’r cytundeb hwn yn rhoi trefniadau teg, cynaliadwy a chydlynol ar waith ar gyfer cyllido holl gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru o ran trethi a gwariant. Mae hefyd yn darparu pwerau benthyca ychwanegol i Lywodraeth Cymru a Chronfa Cymru i’w helpu i reoli ei chyllideb.

Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig a llywodraeth Cymru wedi cydweithio’n agos ac yn adeiladol i ddod i gytundeb sy’n deg â Chymru a gweddill y Deyrnas Unedig.

Byddwn yn parhau i gydweithio i weithredu’r cytundeb hwn a’r pwerau newydd y mae’n eu hategu, a fydd yn dod â manteision i Gymru ac i’r Deyrnas Unedig gyfan.

Mark Drakeford AS
Ysgrifennydd y Cabinet Dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Y Gwir Anrhydeddus David Gauke AS
Prif Ysgrifennydd y Trysorlys

Cyd-destun a chwmpas

  1. Mae’r cytundeb hwn yn nodi trefniadau cyllido Llywodraeth Cymru i gynnal ei chyfrifoldebau presennol, i weithredu Deddf Cymru 2014, ac i arfer unrhyw bwerau ychwanegol a gaiff eu datganoli o dan y Bil Cymru presennol.
  2. Nid yw’r trefniadau cyllido ar gyfer meysydd sydd o fewn cymhwysedd yr UE ar hyn o bryd yn dod o fewn cwmpas y cytundeb hwn.
  3. O dan Ddeddf Cymru 2014, mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â’r pwerau trethu newydd canlynol:
    • Treth dir y dreth stamp o 2018-19
    • Y dreth dirlenwi o 2018-19
    • Cyfraddau treth incwm Cymreig o 2019-20 (ar yr amod y bydd y gofyniad am refferendwm yn cael ei ddileu drwy’r Bil Cymru presennol a Llywodraeth Cymru yn amlinellu ei bwriad i gyflwyno cyfraddau treth incwm Cymreig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru)
  4. Felly mae cyllid grant bloc Llywodraeth Cymru yn cael ei ddiweddaru (yn amodol ar droi Bil cyfredol Cymru yn ddeddf a gweithredu cyfraddau treth incwm Cymreig yn 2019-20) i adlewyrchu’r pwerau newydd hyn ac i roi sylw i’r pryderon sy’n bod ers amser maith yng Nghymru ynghylch cyllido teg.
  5. Ochr yn ochr â’r newidiadau hyn yng nghyllid y grant bloc, mae’r cytundeb hwn yn ymwneud hefyd â benthyca cyfalaf, offer rheoli cyllideb, ymdrin ag effeithiau goferu o benderfyniadau polisi, a threfniadau gweithredu.

Cyllid grant bloc Llywodraeth Cymru

  1. Fel y mae’r crynodeb ym Mlwch 1 yn dangos ac fel yr amlinellir yn fwy manwl isod, mae’r trefniadau newydd ar gyfer cyllido grant bloc Llywodraeth Cymru yn cynnwys dwy elfen: ‘terfyn isaf Holtham’ (Fel y cynigiwyd gan y Comisiwn Annibynnol ar Ariannu a Chyllid i Gymru - y Comisiwn Holtham) seiliedig ar Fformiwla Barnett mewn perthynas â datganoli gwariant ac addasiadau Cymaradwy i’r grant bloc ar gyfer datganoli trethi.

Blwch 1: Crynodeb o’r trefniadau a gytunwyd ar gyfer cyllido’r grant bloc

Y prif elfennau yw:

  • O 2018-19 bydd ffactor newydd seiliedig ar anghenion yn cael ei gynnwys yn Fformiwla Barnett i bennu newidiadau yng nghyllid grant bloc Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datganoli gwariant
  • Bydd y ffactor seiliedig ar anghenion hwn yn cael ei osod ar 115% ar sail yr amrediad a awgrymwyd gan Gomisiwn Holtham a chyllid gwaelodol Adolygiad o Wariant 2015
  • Tra bydd y cyllid y pen cymharol i Lywodraeth Cymru yn parhau’n uwch na 115%, bydd ffactor trosiannol o 105% yn cael ei osod
  • Bydd newidiadau yng nghyllid y grant bloc mewn perthynas â datganoli trethi yn cael eu pennu drwy’r model Cymaradwy (ar ôl gostyngiad cychwynnol yn y llinell sylfaen i adlewyrchu’r dreth y mae llywodraeth y DU yn ei hildio ar bwynt datganoli’r dreth)
  • Bydd y model Cymaradwy yn cael ei gymhwyso i dreth dir y dreth stamp, y dreth dirlenwi ac i bob un o’r bandiau treth incwm
  • Bydd y trefniadau hyn yn creu sefydlogrwydd yng nghyllid Llywodraeth Cymru mewn ffordd sy’n deg â Chymru a gweddill y Deyrnas Unedig

Y trefniadau presennol a chyllid cymharol

  1. O dan y trefniadau presennol, mae Llywodraeth Cymru yn cael ei chyllido’n bennaf drwy grant bloc oddi wrth lywodraeth y DU (mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cadw refeniw o ardrethi busnes). Mae newidiadau i’r grant bloc yn cael eu pennu gan Fformiwla Barnett. O dan y fformiwla hon, bydd y grant bloc mewn blwyddyn ariannol benodol yn gyfwerth â’r grant bloc yn y flwyddyn flaenorol ynghyd â chyfran seiliedig ar boblogaeth o’r newidiadau yng ngwariant llywodraeth y DU mewn meysydd sydd wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru.
  2. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn bryderus ers cryn amser ynghylch cyfradd y cydgyfeirio yn y cyllid cymharol y pen tuag at y lefel yn Lloegr. Tynnwyd sylw at hyn gan y Comisiwn Annibynnol ar Ariannu a Chyllid i Gymru (Comisiwn Holtham), a oedd wedi cael y dasg gan Lywodraeth Cymru o edrych ar ei threfniadau cyllido ac ystyried mecanweithiau cyllido amgen. Roedd yr adroddiadau. Roedd yr adroddiadau, a gyhoeddwyd yn 2009 a 2010, yn awgrymu bod gan Gymru anghenion cymharol a oedd rhwng 114% a 117% o anghenion Lloegr, a mynegodd bryder y gallai cyllid cymharol yng Nghymru fynd yn is na’r amrediad hwn. Roedd y mater hwn o gydgyfeirio wedi’i gydnabod hefyd mewn datganiad ar y cyd gan y ddwy lywodraeth yn 2012.
  3. Drwy edrych ar y cyllido cymharol y pen i Lywodraeth Cymru er 1999-00, gwelir bod cyfnod hir o gydgyfeirio tan 2009-10 tuag at y lefelau cyllido yn Lloegr. Fodd bynnag, er 2009-10, mae’r cyllido cymharol y pen i Lywodraeth Cymru wedi dargyfeirio o’r lefelau yn Lloegr a rhagwelir y bydd tua 120% yn ystod cyfnod Adolygiad o Wariant 2015. Mae hyn wedi’i ddangos yn y graff isod:
    Image
    Figure 1: Welsh Government relative funding per-head, 1999 to 2020

    Ffigur 1: Cyllido cymharol y pen i Lywodraeth Cymru, 1999 i 2020

    Relative funding (England = 100) Cyllido cymharol (Lloegr = 100)
    Year Blwyddyn
  4. Mae dau brif achos i’r effaith cydgyfeirio/dargyfeirio sydd yn Fformiwla Barnett:
    • Twf mewn gwariant – bydd y cyllido y pen i Lywodraeth Cymru yn cydgyfeirio tuag at y lefelau yn Lloegr pan fydd gwariant llywodraeth y DU yn tyfu (mewn termau arian parod), os yw popeth arall yn gyfartal. Yn groes i hynny, bydd y cyllido y pen i Lywodraeth Cymru yn dargyfeirio pan fydd gwariant yn gostwng (hefyd yn nhermau arian parod), os yw popeth arall yn gyfartal.
    • Twf cymharol mewn poblogaeth – bydd y cyllido y pen i Lywodraeth Cymru yn cydgyfeirio tuag at y lefelau yn Lloegr pan fydd y boblogaeth yn tyfu’n gyflymach yng Nghymru nag yn Lloegr, os yw popeth arall yn gyfartal. Yn groes i hynny, bydd y cyllido y pen i Lywodraeth Cymru yn dargyfeirio pan fydd y boblogaeth yn tyfu’n arafach yng Nghymru, os yw popeth arall yn gyfartal.
  5. Gwelwyd y ddau achos hyn ar waith yn ystod y cyfnodau o gydgyfeirio a dargyfeirio sydd wedi’u dangos yn y graff uchod. Yn ystod degawd cyntaf datganoli, cafwyd cydgyfeirio cyflym o ganlyniad i dwf mewn gwariant cyhoeddus. Ar ôl hynny, er bod gwariant cyhoeddus yn tyfu mewn termau arian parod (a gwariant cyfalaf yn tyfu mewn termau real), mae’r cyllid cymharol i Lywodraeth Cymru wedi dargyfeirio am fod y boblogaeth wedi tyfu’n arafach. Fodd bynnag, pan fydd y twf mewn gwariant cyhoeddus yn dychwelyd i’r duedd hirdymor, y disgwyl yw y bydd cydgyfeirio’n ailddechrau ac y bydd y cyllid cymharol i Lywodraeth Cymru yn disgyn yn is yn y pen draw na’r amrediad a awgrymwyd gan Gomisiwn Holtham.

Effaith datganoli trethi

  1. Sefydlodd llywodraeth y DU y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk) yn 2011 i edrych ar drefniadau ariannol a chyfansoddiadol yng Nghymru, ac argymell ffyrdd o’u gwella. Daeth y Comisiwn i’r casgliad y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael mwy o atebolrwydd ariannol tuag at bobl Cymru, gan gadw’r sicrwydd a sefydlogrwydd o rannu adnoddau fel rhan o’r DU.
  2. Yn benodol, er bod cyfrifoldeb sylweddol eisoes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru dros wariant cyhoeddus yng Nghymru, roedd y Comisiwn yn argymell y dylai gael pwerau trethu newydd. Mae dwy fantais allweddol o ddatganoli trethi mewn perthynas ag atebolrwydd:
    • Mae Llywodraeth Cymru yn dod yn gyfrifol am gyllido mwy o’i gwariant
    • Mae mwy o ddewisiadau gan Lywodraeth Cymru ynghylch lefel trethi a gwariant yng Nghymru
  3. Mae hyn yn golygu bod angen newid yn nhrefniadau cyllido Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â datganoli trethi. Yn benodol, bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn cynnwys dwy ffrwd ariannu ar wahân yn y pen draw:
    • Refeniw o ardrethi busnes, trethi datganoledig (treth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi) a chyfraddau treth incwm Cymreig
    • Cyllid grant bloc wedi’i addasu oddi wrth lywodraeth y DU.
  4. Mae llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried sut y dylai’r cyllid grant bloc i Lywodraeth Cymru gael ei bennu yn y dyfodol i ddelio â datganoli trethi a phryderon tymor hwy ynghylch y tebygolrwydd y bydd cydgyfeirio’n ailddechrau ar sail Fformiwla Barnett.

Egwyddorion cyllido’r grant bloc

  1. Mae llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar set o egwyddorion ar gyfer cyllido’r grant bloc er mwyn datblygu dull cadarn a chynaliadwy o gyllido:
    • Cymharol syml ei weithredu a’i ddeall – dylai’r system gyllido ddefnyddio cyfrifiadau syml a gwrthrychol yn hytrach na dibynnu ar dechnegau neu ragdybiaethau ystadegol cymhleth
    • Ni fydd yn destun negodi parhaus – ar wahân i adolygiadau rheolaidd, dylai’r system gyllido weithredu’n fecanyddol (fel Fformiwla Barnett)
    • Cyllido teg ar gyfer y tymor hir – dylai Llywodraeth Cymru gael lefel deg o gyllid wedi’i seilio ar angen cymharol, gan wynebu risgiau priodol mewn perthynas â datganoli trethi
    • Trin risgiau a chyfleoedd yn gyson – dylai Llywodraeth Cymru ddal risgiau a chyfleoedd cymesur (a fydd felly’n gwrthbwyso ei gilydd) rhwng trethi a gwariant, yn enwedig drwy ddefnyddio’r un rhifau poblogaeth ar gyfer pob elfen yng nghyllid y grant bloc.
  2. Mae’r cytundeb cyllido newydd sydd wedi’i ddangos isod yn gyson â phob un o’r egwyddorion hyn. Yn benodol, mae’n rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru o ddull cyllido teg a chynaliadwy dros y tymor hir sy’n trin risgiau a chyfleoedd mewn ffordd gyson.

Cyllid gwaelodol seiliedig ar Fformiwla Barnett

  1. Yn Adolygiad o Wariant 2015 mae llywodraeth y DU wedi cyflwyno cyllid gwaelodol ar gyfer Cymru. Mae hyn yn rhoi gwarant na fydd y cyllid y pen yng ngrant bloc Llywodraeth Cymru yn mynd yn is na 115% o’r cyllid y pen cyfatebol yn Lloegr. Rhoddwyd y warant hon hyd ddiwedd cyfnod y Senedd bresennol, pryd byddai lefel y cyllid gwaelodol yn cael ei hailbennu.
  2. Mae’r ddwy lywodraeth wedi cytuno’n awr i roi mecanwaith cyllid gwaelodol newydd ar waith o 2018-19, a oedd wedi’i argymell yn wreiddiol gan Gomisiwn Holtham. O dan fecanwaith cyllid gwaelodol Holtham, bydd yr holl newidiadau yng ngrant bloc Llywodraeth Cymru a bennir gan Fformiwla Barnett yn cael eu lluosi â ffactor newydd seiliedig ar anghenion. Er bod hyn yn cadw bron pob un o nodweddion Fformiwla Barnett, mae un gwahaniaeth allweddol – os yw popeth arall yn gyfartal, bydd y cyllid cymharol i Lywodraeth Cymru yn cydgyfeirio tuag at y ffactor seiliedig ar anghenion hwn dros amser (yn hytrach na thuag at 100% fel y mae’n gwneud o dan y trefniadau presennol). Felly mae hyn yn darparu cyllid gwaelodol mwy mecanyddol na’r cyllid gwaelodol syml a gyflwynwyd yn Adolygiad o Wariant 2015.
  3. Mae’r diagram isod yn dangos y Fformiwla Barnett bresennol a sut y bydd yn cael ei chymhwyso yng Nghymru o dan y cytundeb hwn.

    Fformiwla Barnett

    Newid yn
    nherfyn gwariant
    adrannol y DU
    x Ffactor
    cymharedd (1)
    x Cyfran
    poblogaeth
    = Newid yng
    ngrant bloc
    Llywodraeth
    Cymru

    Fformiwla Barnett i’w chymhwyso yng Nghymru

    Newid yn
    nherfyn gwariant
    adrannol y DU
    x Ffactor
    cymharedd
    x Cyfran
    poblogaeth
    x Ffactor
    newydd
    seiliedig ar
    anghenion
    = Newid yng ngrant
    bloc Llywodraeth
    Cymru
  4. Mae’r llywodraethau wedi cytuno y bydd y ffactor seiliedig ar anghenion hwn yn cael ei osod ar 115%, ar sail yr amrediad sydd wedi’i argymell gan Gomisiwn Holtham a’r cyllid gwaelodol a gyflwynwyd yn Adolygiad o Wariant 2015. Fodd bynnag, am gyfnod trosiannol, tra bydd y cyllid y pen cymharol yng ngrant bloc Llywodraeth Cymru yn parhau’n uwch na 115% o’r cyllid y pen cymharol yn Lloegr, bydd y ffactor yn cael ei osod ar 105%. O 2018-19 ac am weddill cyfnod yr adolygiad o wariant presennol, bydd pob codiad yn Nherfyn Gwariant Adrannol Llywodraeth Cymru uwchlaw’r lefel yn 2017- 18 yn cael ei luosi â’r ffactor 105%, tra bydd unrhyw ostyngiad o dan lefel 2017-18 yn cael ei bennu heb y ffactor ychwanegol.
  5. Rhagwelir y bydd y cyllid cymharol yng ngrant bloc Llywodraeth Cymru yn cydgyfeirio’n araf o tua 120% tuag at yr amrediad sydd wedi’i argymell fel un teg gan Gomisiwn Holtham (114% i 117%).
  6. Ar y pwynt y bydd y cyllid cymharol yn y grant bloc yn cyrraedd 115%, bydd y cyfnod trosiannol yn dod i ben a bydd yr lluosydd yn cael ei osod ar 115%.
  7. Mae’r ddwy lywodraeth wedi cytuno ar fethodoleg ar gyfer asesu cyllid cymharol ac fe’i defnyddir i bennu pa bryd y bydd angen newid y lluosydd o 105% i 115%. At hynny, mae’r ddwy lywodraeth wedi cytuno y gellir gofyn am fewnbwn a/neu sicrwydd gan gyrff annibynnol. Mae rhagor o fanylion am y broses ar gyfer mabwysiadu’r trefniadau tymor hwy ar ôl y cyfnod trosiannol yn Atodiad A.

Addasiadau cymaradwy yn y grant bloc ar gyfer datganoli trethi

  1. Pan fydd meysydd gwariant ychwanegol yn cael eu datganoli, bydd y newidiadau yng nghyllid bloc grant Llywodraeth Cymru yn cynnwys dwy elfen:
    • Addasiad cychwynnol i’r llinell sylfaen – bydd hyn yn adlewyrchu cynlluniau gwariant llywodraeth y DU ar bwynt y datganoli
    • Newidiadau dilynol yn y grant bloc – bydd y rhain wedi’u seilio ar newidiadau yn y gwariant cyfatebol gan lywodraeth y DU yng ngweddill y DU (drwy Fformiwla Barnett)
  2. Ar gyfer datganoli trethi, mae dwy elfen debyg:
    • Addasiad cychwynnol i’r llinell sylfaen – bydd hyn yn adlewyrchu’r dreth y mae llywodraeth y DU yn ei hildio ar bwynt y datganoli
    • Newidiadau dilynol yn y grant bloc – bydd y rhain wedi’u seilio ar newidiadau yn nhrethi cyfatebol llywodraeth y DU yng ngweddill y DU
  3. Mae’r addasiad cychwynnol i’r llinell sylfaen ar gyfer datganoli trethi yn gymharol syml – mae’r dull a ddefnyddir i amcangyfrif trethi Cymreig ar bwynt y datganoli wedi’i ddangos yn Atodiad B. Fodd bynnag, fel y mae nifer mawr o ymdriniaethau mewn llenyddiaeth academaidd ddiweddar wedi dangos, mae sawl dewis ar gyfer y ffordd o bennu newidiadau dilynol yn y grant bloc.
  4. Ar sail yr egwyddorion a gytunwyd, mae dwy ystyriaeth allweddol:
    • Effaith twf yn y sylfaen drethu – dylai Llywodraeth Cymru gael ei chyllido’n deg gan wynebu risgiau treth “priodol”.
    • Trin newid yn y boblogaeth – dylid defnyddio’r un rhifau poblogaeth i gyfrifo newidiadau yn y grant bloc mewn perthynas â datganoli trethi a datganoli gwariant.
  5. Ochr yn ochr â’r cyllid gwaelodol seiliedig ar Fformiwla Barnett, mae llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cytuno bod yr egwyddorion hyn yn cael eu bodloni drwy gymhwyso’r model Cymaradwy at y ddwy dreth ddatganoledig (treth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi) ac at bob un o’r bandiau treth incwm.
  6. Mae’r diagram isod yn dangos sut mae’r model Cymaradwy yn pennu newidiadau yn y grant bloc (ar ôl yr addasiad cychwynnol i’r llinell sylfaen).

    Y model cymaradwy

    Newid yn nhreth
    gyfatebol
    llywodraeth y DU
    x Ffactor
    cymharedd
    x Cyfran
    poblogaeth
    = Newid yng
    ngrant bloc
    Llywodraeth
    Cymru
  7. Dylid nodi bod:
    • Cynnydd yn nhreth gyfatebol llywodraeth y DU yn cyfateb i ostyngiad yng ngrant bloc Llywodraeth Cymru (ac i’r gwrthwyneb).
    •  Y ffactor cymharedd yn adlewyrchu treth y pen yng Nghymru fel cyfran y pen o dreth gyfatebol llywodraeth y DU ar bwynt y datganoli. Er enghraifft, ar sail amcangyfrifon Cyllid a Thollau EM ar gyfer 2015-16, y ffactor cymharedd yw 25% ar gyfer treth dir y dreth stamp a 87% ar gyfer y dreth dirlenwi.
    • Mae’r model Cymaradwy yn defnyddio’r un gyfran poblogaeth â Fformiwla Barnett.
  8. Mae dau bwynt allweddol ychwanegol:
    • Cymhwyso’r addasiad Cymaradwy at bob band treth incwm – Mae llywodraeth y DU yn aros yn gyfrifol am ddiffinio incwm trethadwy ar draws y DU, sy’n cynnwys cyfrifoldeb am yr holl ostyngiadau mewn treth ac am y lwfans personol. Gan fod gwahaniaeth sylweddol rhwng cyfansoddiad y sylfaen treth incwm yng Nghymru a’r cyfartaledd ar gyfer y DU, mae’r ddwy lywodraeth wedi cytuno y bydd y model Cymaradwy yn cael ei gymhwyso ar wahân at bob un o’r bandiau treth incwm (cyfradd sylfaenol, uwch ac ychwanegol). Mae hyn yn sicrhau y bydd y trefniadau cyllido newydd yn delio ag unrhyw benderfyniadau gan lywodraeth y DU i newid y sylfaen treth incwm ledled y DU (er enghraifft, newidiadau yn y lwfans personol) mewn ffordd gwbl fecanyddol. Bydd yn sicrhau nad yw penderfyniadau polisi gan lywodraeth y DU yn cael nemor ddim effaith ar refeniw trethi Llywodraeth Cymru (mae rhagor o wybodaeth am ffyrdd o drin effeithiau ‘goferu’ eraill o benderfyniadau polisi yn ddiweddarach yn y cytundeb). Er mwyn cysondeb, bydd yr addasiad Cymaradwy yn cael ei gymhwyso at newidiadau cyfanredol yn y ddwy dreth sydd wedi’u datganoli’n llwyr.
    • Trin newid mewn poblogaeth yn gyson – Fel y nodwyd mewn adroddiad diweddar gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru a’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, mae’r dull a gytunwyd ar gyfer trafod cyllid y grant bloc yn sicrhau ffordd gyson o ymdrin â newid mewn poblogaeth - yr un rhifau poblogaeth a ddefnyddir i gyfrifo newidiadau yng nghyllid grant bloc Llywodraeth Cymru mewn perthynas â threthi a gwariant (felly bydd unrhyw effeithiau o ganlyniad i wahaniaethau rhwng cyfraddau twf yn cael eu gwrthbwyso o fewn cyllid Llywodraeth Cymru). Bydd hyn yn digwydd hyd yn oed yn ystod y cyfnod trosiannol.
  9. Mae rhagor o fanylion yn Atodiad B am y rhyngweithio rhwng yr addasiadau hyn a refeniw trethi Llywodraeth Cymru (yn benodol, amseriad rhagolygon a chysoni â chanlyniadau gwirioneddol).

Effeithiau ‘goferu’ o benderfyniadau polisi

  1. Fel y mae’r crynodeb ym Mlwch 2 yn dangos ac fel yr amlinellir yn fwy manwl isod, mae’r adran hon yn trafod y ffyrdd o drin effeithiau goferu.

Blwch 2: Crynodeb o’r ffyrdd o drin effeithiau goferu

Y prif elfennau yw:

  • Effeithiau uniongyrchol – Rhoddir cyfrif am y rhain, un ai’n fecanyddol drwy’r addasiad i’r grant bloc neu ar wahân ar ôl eu canfod.
  • Effeithiau ar ymddygiad – Rhoddir cyfrif am y rhain mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, lle mae’r effeithiau’n sylweddol a phrofadwy, a’r ddwy lywodraeth yn cytuno ei bod yn briodol gwneud hynny.
  • Effeithiau ail gylch – Ni roddir cyfrif am y rhain.
  1. Ceir effeithiau ‘goferu’ o bolisi pan fydd penderfyniad gan un llywodraeth yn effeithio ar dreth neu wariant un arall (Troednodyn 2). Mae tri phrif gategori:
    • Effeithiau uniongyrchol – y rhain yw’r effeithiau ariannol a fydd yn bodoli’n uniongyrchol ac yn fecanyddol o ganlyniad i benderfyniad polisi (cyn unrhyw newid cysylltiedig mewn ymddygiad). Er enghraifft, os bydd llywodraeth y DU yn cynyddu’r lwfans personol, yna bydd Llywodraeth Cymru yn cael llai o refeniw o gyfraddau treth incwm Cymreig.
    • Effeithiau ar ymddygiad – y rhain yw’r effeithiau ariannol o ganlyniad i newid yn ymddygiad pobl yn dilyn penderfyniad polisi. Er enghraifft, os bydd Llywodraeth Cymru yn gosod cyfradd treth incwm ychwanegol wahanol (Troednodyn 3), gallai hynny gymell pobl i symud ar draws y ffin gan greu effaith ar refeniw llywodraeth y DU.
    • Effeithiau ail gylch – y rhain yw’r effeithiau economaidd ehangach a all arwain yn fwy anuniongyrchol o benderfyniadau polisi. Er enghraifft, byddai newid mewn cyfraddau treth incwm yng Nghymru yn gallu effeithio ar weithgarwch economaidd ac felly ar y swm o TAW a godir ar gyfer llywodraeth y DU yng Nghymru.
  2. Gan gymryd y rhain yn eu tro, mae llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cytuno y rhoddir cyfrif am bob effaith uniongyrchol. Fel yr eglurwyd yn yr adran ar gyllido’r grant bloc, y bydd y ffaith bod y model Cymaradwy yn cael ei gymhwyso at bob band treth incwm ar wahân yn sicrhau bod y ffordd o ddelio â phenderfyniadau polisi llywodraeth y DU ar dreth incwm (fel newidiadau yn y lwfans personol) yn gwbl fecanyddol.
  3. Mae llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru hefyd wedi cytuno y gellir rhoi cyfrif am effeithiau ar ymddygiad mewn amgylchiadau eithriadol, lle mae’r effeithiau’n sylweddol a phrofadwy, a’r ddwy lywodraeth yn cytuno ei bod yn briodol gwneud hynny.
  4. Yn olaf, cytunwyd na roddir cyfrif am effeithiau ail gylch oherwydd yr ansicrwydd mawr ynghylch achosiaeth a graddfa unrhyw effaith ariannol.
  5. Ar gyfer yr holl effeithiau goferu, bydd achosiaeth a graddfa’r effeithiau ariannol yn cael eu hasesu ar sail cyd-ddealltwriaeth o’r dystiolaeth. Rhaid i’r ddwy lywodraeth gytuno â’i gilydd ar unrhyw drosglwyddiad sy’n ymwneud ag effaith goferu. Os na cheir cydgytundeb, ni fydd trosglwyddiad yn digwydd. Bydd materion sy’n ymwneud ag effeithiau goferu yn cael eu trafod yn gyntaf gan swyddogion yn y ddwy lywodraeth. Os na fydd swyddogion yn gallu dod i gytundeb, bydd hyn yn cael ei drafod gan Weinidogion a fydd yng Nghyd-bwyllgor y Trysorlysoedd (Cymru). Gellir gofyn am farn cyrff annibynnol ar gyfer y trafodaethau hyn. Lle nad yw’r llywodraethau yn gallu dod i gytundeb ar lefel y swyddogion na’r Gweinidogion, gellir uwchgyfeirio anghydfod drwy’r sianeli arferol (gweler yr adran ddiweddarach ar ddatrys anghydfodau).

Benthyca cyfalaf

  1. Fel y mae’r crynodeb ym Mlwch 3 yn dangos ac fel yr amlinellir yn fwy manwl isod, mae’r adran hon yn trafod y newidiadau ym mhwerau benthyca cyfalaf Llywodraeth Cymru.

Blwch 3: Crynodeb o’r newidiadau ym mhwerau benthyca cyfalaf Llywodraeth Cymru

Y prif elfennau yw:

  • Bydd y cap cyffredinol ar fenthyca cyfalaf gan Lywodraeth Cymru yn codi i £1 biliwn
  • O Ebrill 2019 bydd terfyn benthyca cyfalaf blynyddol Llywodraeth Cymru yn cynyddu i £150 miliwn (15% o’r cap cyffredinol)
  1. Mae terfynau benthyca cyfalaf presennol Llywodraeth Cymru (sydd wedi’u nodi yn Neddf Cymru 2014) yn cael eu cynyddu.
  2. O dan Ddeddf Cymru 2014, gall Llywodraeth Cymru fenthyca hyd at £125 miliwn y flwyddyn o 2018-19 o fewn cap cyffredinol o £500 miliwn. O fewn y paramedrau hyn, gall Llywodraeth Cymru fenthyca at unrhyw ddiben o fewn ei chyfrifoldebau datganoledig. Yn ogystal â hyn, cytunodd llywodraeth y DU y bydd Llywodraeth Cymru yn cael benthyca symiau cyfyngedig cyn hynny (yn 2016-17 a 2017-18) i fwrw ymlaen â gwelliannau i’r M4. Bydd angen cael cydsyniad gan Drysorlys y DU i’r symiau a fenthycir yn gynnar fel hyn.
  3. Gall Llywodraeth Cymru fenthyca oddi wrth y Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol (drwy Ysgrifennydd Gwladol Cymru) neu drwy fenthyciad masnachol (yn uniongyrchol oddi wrth fanc neu fenthyciwr arall). Yn dilyn gweithredu cyhoeddiad llywodraeth y DU ar Ddydd Gŵyl Dewi, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gallu dyroddi bondiau. Bydd benthyca ar gyfer gwariant cyfalaf mewn punnoedd Sterling.
  4. Mae’r llywodraethau wedi cytuno’n awr y bydd y terfyn statudol ar fenthyca ar gyfer gwariant cyfalaf yn cynyddu i £1 biliwn. Felly bydd llywodraeth y DU yn diwygio Bil Cymru yn unol â hynny. Bydd y terfyn blynyddol ar swm y benthyca ar gyfer gwariant cyfalaf yn cynyddu hefyd. Ochr yn ochr â chyflwyno cyfraddau treth incwm Cymreig, bydd y terfyn blynyddol yn cael ei osod ar 15% o’r cap cyffredinol ar fenthyca, sy’n cyfateb i £150 miliwn y flwyddyn. Nid oes unrhyw gyfyngiadau bellach ar y ffordd y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau benthyca i gyflawni ei chyfrifoldebau datganoledig.
  5. Bydd Llywodraeth Cymru yn hysbysu’r Trysorlys bob mis ynghylch benthyca cyfalaf arfaethedig, dyled sydd heb ei chasglu a’r proffil ad-dalu. Bydd y trefniadau ad-dalu yn parhau’n gyson â Deddf Cymru 2014. O dan y trefniadau hyn, 10 mlynedd fydd cyfnod arferol unrhyw fenthyciad, ond gellir newid hyn i adlewyrchu oes ddisgwyliedig yr asedau a brynir drwy’r benthyciad.

Offer rheoli cyllideb

  1. Fel y mae’r crynodeb ym Mlwch 4 yn dangos ac fel yr amlinellir yn fwy manwl isod, mae’r adran hon yn trafod y newidiadau yn offer rheoli cyllideb Llywodraeth Cymru.

Blwch 4: Crynodeb o’r newidiadau yn offer rheoli cyllideb Llywodraeth Cymru

Y prif elfennau yw:

  • Mae cronfa arian parod Llywodraeth Cymru a’i gallu i ddefnyddio’r cyfleuster Cyfnewid Cyllidebau yn cael eu cyfuno mewn Cronfa Cymru newydd o Ebrill 2018
  • Ni fydd terfyn blynyddol ar gyfer taliadau i Gronfa Cymru
  • Gall Cronfa Cymru ddal hyd at £350 miliwn yn gyfanredol
  • Bydd terfyn tynnu i lawr blynyddol o £125 miliwn ar gyfer adnoddau a £50 miliwn ar gyfer cyfalaf
  • Bydd pwerau Llywodraeth Cymru ar gyfer benthyca adnoddau yn aros fel y maent yn Neddf Cymru 2014
  1. Mae offer rheoli cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael eu hymestyn a’u rhesymoli. Ar hyn o bryd maent yn cynnwys:
    • Benthyca adnoddau – gall Llywodraeth Cymru fenthyca hyd at £200 miliwn bob blwyddyn (o fewn cap cyffredinol o £500 miliwn) os yw refeniw o drethi’n is na’r rhagolygon. Rhaid ad-dalu o fewn pedair blynedd.
    • Cyfnewid cyllidebau – mae’r cyfleuster hwn yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddwyn ymlaen hyd at 0.6% o’i chyllideb DEL adnoddau a 1.5% o’i chyllideb DEL cyfalaf i’r flwyddyn ariannol nesaf.
    • Cronfa arian parod – gall Llywodraeth Cymru gadw refeniw sydd dros ben mewn cronfa arian parod (ar ôl ad-dalu unrhyw symiau benthyca adnoddau), i’w dynnu i lawr yn ôl yr angen mewn blynyddoedd i ddod. Rhaid dal y gronfa o fewn llywodraeth y DU yn hytrach na chyda banc masnachol.
  2. Mae’r ddwy lywodraeth wedi cytuno y bydd Cronfa Cymru newydd yn cymryd lle’r gronfa arian parod a’r defnydd o’r cyfleuster Cyfnewid Cyllidebau o Ebrill 2018. Drwy ei chyflwyno ar yr adeg hon bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cadw unrhyw danwariant yn 2017-18 yn y Gronfa newydd i’w helpu i gyflwyno datganoli treth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi a chyflwyno’r trethi olynol yng Nghymru - treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi, ill dau, ym mis Ebrill 2018. Bydd y Gronfa hefyd yn cynnwys £98.5 miliwn fel y cytunwyd o dan y trefniadau ar gyfer datganoli ariannol llawn ar gyfer ardrethi annomestig yng Nghymru.
  3. Bydd Cronfa Cymru yn cael ei dal o fewn llywodraeth y DU a bydd symiau adnoddau a chyfalaf yn cael eu cadw ar wahân. Gellir talu cyllid adnoddau (yn cynnwys y grant bloc adnoddau a derbyniadau treth) i’r gronfa adnoddau. Gellir tynnu arian i lawr o’r gronfa adnoddau i ariannu gwariant adnoddau neu gyfalaf. Gellir talu cyllid cyfalaf (yn cynnwys y grant bloc cyfalaf a symiau benthyca cyfalaf) i’r gronfa cyfalaf. Gellir tynnu arian i lawr o’r gronfa cyfalaf i ariannu gwariant cyfalaf yn unig.
  4. Bydd cap cyfanredol o £350 miliwn ar Gronfa Cymru. Nid oes terfynau blynyddol ar daliadau i Gronfa Cymru. Y terfynau blynyddol ar dynnu arian i lawr fydd £125 miliwn ar gyfer adnoddau a £50 miliwn ar gyfer cyfalaf. Cytunir ar y trefniadau gweithredu manwl rhwng y llywodraethau. Yn unol â’r trefniadau presennol, gall Gweinidogion Cymru ofyn am hyblygrwydd ychwanegol gyda chydsyniad Gweinidogion y Trysorlys mewn amgylchiadau eithriadol.
  5. Mae’r llywodraethau wedi cytuno hefyd y bydd y pwerau benthyca adnoddau a nodwyd yn Neddf Cymru 2014 yn aros fel y maent gan eu bod eisoes yn adlewyrchu’r cyfnewidioldeb y disgwylir ei gael o ganlyniad i lawn weithredu pwerau trethu newydd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cyfraddau treth incwm Cymreig.

Trefniadau gweithredu

  1. Er y bydd angen i’r ddwy lywodraeth benderfynu ar y trefniadau manwl ar gyfer llywodraethu a gweithredu, maent wedi dod i gytundeb lefel uchel mewn nifer o feysydd allweddol:
    • Llywodraethu – bydd y cyflawni ar y cytundeb hwn yn parhau i gael ei arolygu gan Gyd-bwyllgor y Trysorlysoedd (Cymru), a bydd y rhan fwyaf o’r trefniadau cyllido newydd yn cael eu gweithredu yn ystod 2017 er mwyn dechrau yn 2018-19. Bydd (Swyddogion) Cyd-bwyllgor y Trysorlysoedd (Cymru) yn arolygu’r gwaith ar lefel swyddogol. Cytunir ar Femoranda Cyd-ddealltwriaeth rhwng y cyrff a fydd yn cyflawni’r dyletswyddau sydd wedi’u hamlinellu yn y cytundeb hwn neu sy'n ymwneud â gweithredu’r pwerau treth newydd, ac yna bydd yn cael ei gyhoeddi.
    • Adrodd i Senedd y DU a Chynulliad Cenedlaethol Cymru – mae’r ddwy lywodraeth yn cydnabod bod atebolrwydd i Senedd y DU ac i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn hanfodol, ac yn croesawu craffu manwl ar y cytundeb hwn. Parheir i adrodd ar gynnydd ar gyflawni a gweithredu’r trefniadau cyllido i Senedd y DU ac i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy adroddiadau blynyddol ar weithredu Deddf Cymru 2014.
    • Rhannu data a gwybodaeth – mae’r ddwy lywodraeth wedi cytuno ar amcan a rennir i sicrhau bod yr holl bartïon yn gallu cael y wybodaeth dechnegol, weithredol a pholisi sydd ei hangen (yn cynnwys data) i gyflawni eu dyletswyddau. Bydd y rhannu mor llawn ac agored â phosibl o dan y cyfyngiadau statudol, masnachol a chyfrinachedd. Yn benodol, bydd llywodraeth y DU yn darparu gwybodaeth ar y dechrau ynghylch treth incwm drwy’r Public Use Tape, ond bydd yn cydweithio â Llywodraeth Cymru (fel y mae’n gwneud â Llywodraeth yr Alban) i sicrhau ei bod yn gallu cael data a fydd yn ei helpu i ddatblygu polisi cadarn a llunio rhagolygon o ansawdd tebyg i’r rheini a lunnir gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Rhaid darparu data mewn da bryd ar gyfer llunio rhagolygon cyn cyhoeddi Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Bydd yn ofynnol hefyd i lywodraeth y DU gael gweld gwybodaeth am y trethi sydd wedi’u datganoli’n llwyr er mwyn ymgymryd â gweithgareddau cydymffurfio ehangach.
    • Cyfrifoldebau rhag-weld – bydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn parhau i lunio’r holl ragolygon economaidd a chyllidol ar gyfer y DU gyfan i lywodraeth y DU (sy’n cynnwys refeniw o drethi sydd wedi’u datganoli i Gymru). Bydd Llywodraeth Cymru yn gallu penderfynu a fydd yn defnyddio rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol neu a fydd yn rhoi trefniadau annibynnol eraill ar waith ar gyfer llunio rhagolygon. Am gyfnod byr bydd Llywodraeth Cymru yn gallu llunio ei rhagolygon ei hun, wrth roi trefniadau ar waith ar gyfer llunio rhagolygon annibynnol. Byddai rhagolygon sydd wedi’u llunio gan Lywodraeth Cymru yn agored i graffu annibynnol. Bydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol hefyd yn llunio’r holl ragolygon o drethi perthnasol llywodraeth y DU sydd eu hangen i weithredu’r model Cymaradwy ar gyfer treth dir y dreth stamp, y dreth dirlenwi a phob un o’r bandiau treth incwm.
    • Adroddiadau ariannol – gan adeiladu ar sail y trefniadau presennol ar gyfer adrodd, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu gwybodaeth ariannol yn rheolaidd i lywodraeth y DU, y Swyddfa Ystadegau Gwladol a’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn amlinellu ei chynlluniau ar gyfer trethi, benthyca a gwariant. Bydd hyn yn cynnwys benthyca cyfalaf arfaethedig ar gyfer holl gyfnod yr Adolygiad o Wariant (wedi’i ddiweddaru cyn pob blwyddyn ariannol), yr arian y bwriedir ei dynnu i lawr o Gronfa Cymru cyn pob blwyddyn ariannol, data misol am gyllido/gwariant o fewn y flwyddyn a rhagolygon trethi pum mlynedd.
    • Costau gweithredu a rhedeg – fel y nodwyd yn y Datganiad o Bolisi Cyllido, bydd Llywodraeth Cymru yn cwrdd â’r holl gostau net o ddatganoli gan gynnwys gweithredu a rhedeg cyfraddau treth incwm Cymreig.
    • Adolygu cyfnodol – mae’r ddwy lywodraeth wedi cytuno, er bod disgwyl i’r cytundeb weithredu heb ei ailnegodi’n rheolaidd, y dylai gael ei adolygu’n gyfnodol. Cynhelir yr adolygiad cyntaf cyn diwedd y cyfnod trosiannol ar gyfer cyllido’r grant bloc, a gall gynnwys mewnbwn gan gyrff annibynnol. Gall y naill lywodraeth neu’r llall wneud cais am adolygiad, ond ni fwriedir y bydd y trefniadau hyn yn cael eu hadolygu yn amlach nag unwaith yn ystod tymor Cynulliad neu Seneddol.
    • Datrys anghydfodau – mae’r broses datrys anghydfodau a amlinellir yma yn gymwys i’r holl anghydfodau sy’n ymwneud â chyflawni neu weithredu’r cytundeb hwn. Bydd yr anghydfodau hyn yn cael eu hystyried yn gyntaf gan swyddogion, ar lefel gweithio ar y dechrau ac wedyn gan (Swyddogion) Cyd-bwyllgor y Trysorlysoedd (Cymru). Os na fydd swyddogion yn gallu dod i gytundeb, yna bydd hyn yn cael ei ystyried gan Weinidogion yng Nghyd-bwyllgor y Trysorlysoedd (Cymru). Gellir gofyn am farn cyrff annibynnol ar unrhyw adeg yn ystod trafodaethau. Os bydd Gweinidogion yn methu â dod i gytundeb, bydd yr anghydfod yn pallu – ni fyddai canlyniad penodol i’r anghydfod felly ni fyddai trosglwyddiad cyllidol yn digwydd rhwng y llywodraethau. Os bydd y naill lywodraeth neu’r llall yn dymuno parhau â’r anghydfod, bydd prosesau a ddisgrifiwyd yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn sail ar gyfer hynny.
  2. Cwblheir yr holl drefniadau gweithredu sy’n weddill cyn gweithredu’r cytundeb.

Atodiad A: Methodoleg cyllido cymharol

Mae’r atodiad hwn yn rhoi crynodeb o’r fethodoleg a gytunwyd ar gyfer cyllido cymharol.

Ei phwrpas yw cymharu’r cyllido y pen yng ngrant bloc Llywodraeth Cymru â’r cyllido y pen cyfatebol gan lywodraeth y DU yn Lloegr (cyllido gan lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr mewn meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru).

Defnyddir y fethodoleg hon ym mhob Adolygiad o Wariant i bennu pa bryd y bydd y cyllido y pen cymharol ym mloc grant Llywodraeth Cymru yn cyrraedd 115% o’r cyllido y pen cymaradwy gan lywodraeth y DU yn Lloegr, pan fydd y ffactor seiliedig ar anghenion o 115% yn cymryd lle’r ffactor trosiannol o 105%. Yn benodol, bydd y newid yn digwydd o’r flwyddyn gyntaf lle mae’r amcanestyniad o gyllid cymharol Llywodraeth Cymru yn 115.0% i’r 0.1% agosaf (yn is na 115.05%). Gellir gofyn am fewnbwn gan gyrff annibynnol i ategu’r broses hon.

Mae’r fethodoleg a gytunwyd yn cynnwys pedwar cam:

  1. Mae cyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei seilio ar gyfanswm DEL cyn gwneud unrhyw addasiadau ar gyfer datganoli trethi.
  2. Cyfrifir cyllid cyfatebol llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr drwy luosi cyfanswm DEL pob adran â’r ffactor cymharedd yn Fformiwla Barnett (Troednodyn 4) (lle mae’r ffactor cymharedd yn adlewyrchu’r gyfran o wariant pob adran mewn meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru).
  3. Gwneir addasiad i’r ddau uchod i ddelio â’r ffordd unigryw o drin ardrethi annomestig (sydd wedi’i hegluro isod).
  4. Defnyddir prif amcanestyniadau poblogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol i gyfrifo’r cyllido y pen.

Mae angen gwneud addasiad mewn perthynas ag ardrethi annomestig er mwyn cymharu cyllid cymharol Llywodraeth Cymru â’r amrediad sydd wedi’i argymell gan Gomisiwn Holtham, a oedd wedi ystyried y sefyllfa cyn datganoli trethi. Er ein bod yn gallu defnyddio cyfanswm DEL Llywodraeth Cymru cyn addasiadau i’r grant bloc i ddelio â treth dir y dreth stamp, y dreth dirlenwi a chyfraddau treth incwm Cymreig, mae angen defnyddio dull gwahanol i ddelio â datganoli ardrethi annomestig gan fod hyn yn cael ei drin mewn ffordd unigryw yn y grant bloc seiliedig ar Fformiwla Barnett.

Yr ateb a gytunwyd yw adio ardrethi annomestig at y cyfansymiau cyllid a gyfrifir yng nghamau un a dau uchod. Er mwyn dileu’r effeithiau o wahaniaethau o ran polisi, rhagdybir y bydd y refeniw o Ardrethi Annomestig yng Nghymru wedi tyfu ar yr un gyfradd y pen ag yn Lloegr yn absenoldeb datganoli. H.y. yn ogystal â defnyddio refeniw ardrethi annomestig Lloegr, defnyddir y twf yn y refeniw hwn i gyfrifo’r rhifau priodol ar gyfer ardrethi annomestig Cymru.

Atodiad B: Manylion ychwanegol am weithredu’r addasiadau i’r grant bloc ar gyfer trethi

Mae’r atodiad hwn yn egluro ar gyfer pob treth:

  • Sut y bydd yr addasiadau cychwynnol i linell sylfaen y grant bloc yn cael eu cyfrifo
  • Pa bryd y bydd rhagolygon o drethi cyfatebol llywodraeth y DU yn cael eu gwneud cyn dechrau pob blwyddyn ariannol ac a fyddant yn cael eu diweddaru o fewn y flwyddyn
  • Pa bryd y bydd y rhagolygon hyn yn cael eu cysoni â’r alldro

Treth dir y dreth stamp

  • Addasu’r llinell sylfaen – Defnyddir rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn hydref 2017 o dderbyniadau yng Nghymru yn 2017-18 i gyfrifo llinell sylfaen dros dro ar gyfer yr addasiad. Bydd hon yn cael ei diweddaru gan ddefnyddio derbyniadau gwirioneddol yng Nghymru yn 2017-18 yng nghyhoeddiad swyddogol Cyllid a Thollau EM ar ystadegau trethi stamp. Defnyddir y model Cymaradwy i bennu didyniadau ar gyfer 2018-19 ac wedyn.
  • Rhagolygon – Bydd y model Cymaradwy yn defnyddio rhagolygon o dreth dir treth stamp llywodraeth y DU hyd at yr hydref cyn dechrau pob blwyddyn ariannol benodol. Bydd diweddariad pellach o fewn y flwyddyn sy’n defnyddio rhagolygon yr hydref er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael ei chysgodi rhag effeithiau economaidd ledled y DU (os ceir newidiadau ym mholisi treth llywodraeth y DU o fewn y flwyddyn, bydd Llywodraeth Cymru yn cael dewis gohirio effaith yr addasiad i’r grant bloc tan y cysoni terfynol pan fydd y data alldro ar gael).
  • Cysoni – Bydd y rhagolygon yn cael eu cysoni â’r alldro pan fydd y data hyn ar gael tua chwe mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol. Bydd y canlyniad o’r cysoni hwn yn cael ei gymhwyso at gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol.

Y dreth dirlenwi

  • Addasu’r llinell sylfaen – Defnyddir rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn hydref 2017 o dderbyniadau yng Nghymru yn 2017-18 i gyfrifo llinell sylfaen dros dro ar gyfer yr addasiad. Bydd hon yn cael ei diweddaru gan ddefnyddio amcangyfrif o’r derbyniadau alldro yng Nghymru ar sail ystadegau swyddogol. Defnyddir y model Cymaradwy i bennu didyniadau ar gyfer 2018-19 ac wedyn.
  • Rhagolygon – Bydd y model Cymaradwy yn defnyddio rhagolygon o dreth dirlenwi llywodraeth y DU hyd at yr hydref cyn dechrau pob blwyddyn ariannol benodol. Bydd diweddariad pellach o fewn y flwyddyn sy’n defnyddio rhagolygon yr hydref er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael ei chysgodi rhag effeithiau economaidd ledled y DU.
  • Cysoni – Bydd y rhagolygon yn cael eu cysoni â’r alldro pan fydd y data hyn ar gael tua 6 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol. Bydd y canlyniad o’r cysoni hwn yn cael ei gymhwyso at gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol.

Cyfraddau treth incwm Cymreig

  • Addasu’r llinell sylfaen – Os bydd Llywodraeth Cymru yn gosod pob un o’r cyfraddau Cymreig ar 10% yn 2019-20 (y dyddiad cyflwyno cynharaf posibl, yn amodol ar y droi Bil Cymru’n ddeddf a Llywodraeth Cymru yn amlinellu ei bwriad i gyflwyno cyfraddau treth incwm Cymreig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru) yna bydd yr addasiad i’r llinell sylfaen yn cyfateb i’r derbyniadau a gaiff eu casglu yn y flwyddyn honno. Os bydd Llywodraeth Cymru yn gosod cyfraddau gwahanol, yna bydd yr addasiad i’r llinell sylfaen yn cyfateb i amcangyfrif o’r hyn a fyddai wedi cael ei godi ar 10%. Yn y naill senario neu’r llall, defnyddir rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol dros dro a bydd yn cael ei diweddaru pan fydd data am y derbyniadau gwirioneddol ar gael yn haf 2021. Defnyddir o model Cymaradwy wedyn i bennu didyniadau pellach ar gyfer 2020-21 ac wedyn.
  • Rhagolygon – Bydd y model Cymaradwy yn defnyddio rhagolygon o dreth incwm llywodraeth y DU hyd at yr hydref cyn dechrau pob blwyddyn ariannol benodol. Bydd llywodraeth y DU hefyd yn trosglwyddo refeniw treth incwm Llywodraeth Cymru ar sail rhagolygon annibynnol Cymreig, neu ar sail rhagolygon yr hydref y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol nes bydd trefniadau ar waith ar gyfer llunio rhagolygon annibynnol Cymreig. Gan na fydd Llywodraeth Cymru felly yn dal unrhyw risg o fewn y flwyddyn, ni fydd diweddariad o fewn y flwyddyn.
  • Cysoni – Bydd y rhagolygon yn cael eu cysoni â’r alldro pan fydd y data hyn ar gael tua 15 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol. Bydd y canlyniad o’r cysoni hwn yn cael ei gymhwyso at gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol.

Troednodiadau

[1] Mae’r ffactor cymharedd yn adlewyrchu cyfran y gwariant gan adran berthnasol y DU mewn meysydd sydd wedi’u datganoli.

[2] Sylwer nad yw hyn yn cynnwys penderfyniadau gan lywodraeth y DU sy’n effeithio ar gyllido’r grant bloc, gan mai hyn yw’r sail i Fformiwla Barnett (a threfniadau cysylltiedig ar gyfer datganoli trethi).

[3] Mae cyfraddau treth incwm Cymreig wedi’u cynllunio fel mai Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu a fydd cyfraddau treth incwm yng Nghymru yn wahanol i’r rhai yn Lloegr (gan mai cyfraddau’r DU sy’n cael eu talu gan drethdalwyr Seisnig a ‘chyfraddau’r DU llai 10c’ sy’n cael eu talu gan drethdalwyr.

[4] Y ffactorau cymharedd a ddefnyddir yw’r rheini yn y Datganiad o Bolisi Cyllido diweddaraf oni bai fod newidiadau o ran peirianwaith llywodraeth neu newidiadau eraill sydd heb eu cynnwys yn y ffactorau hynny. Bydd angen cael cytundeb gan y ddwy lywodraeth i ddiwygiadau i ffactorau cymharedd ar gyfer mesur cyllido cymharol.