Neidio i'r prif gynnwy

1. Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc

Fel yr amlinellwyd yn Adran 1, mae'r Asesiad Effaith Integredig hwn yn canolbwyntio ar asesu'r effeithiau sy'n ymwneud â chynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau yng Nghymru o 29 Mehefin yn dilyn y cyfyngiadau symud ym mis Mawrth. Mae'n dilyn yr Asesiad Effaith Integredig a gyhoeddwyd ar y cyd â'r Asesiad hwn ar 28 Medi 2020 sy'n cwmpasu ymateb cychwynnol y sector addysg i bandemig COVID-19.

Arweiniwyd y penderfyniad i gynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau a chynnig y cyfle i'r rhan fwyaf o ddysgwyr gael darpariaeth wyneb yn wyneb gan ddull seiliedig ar hawliau o sicrhau mynediad cyfartal ac ystyried hawliau dysgwyr. Er bod y dull hwn yn arwain at lefelau is o amser cyswllt gydag athrawon i ddysgwyr yn eu hysgol neu eu lleoliad ar gyfer y grwpiau hynny a allai fod wedi cael eu targedu ar gyfer cymorth o'r fath, mae'n rhoi cyfle mwy teg i'r rhan fwyaf o ddysgwyr gael cymorth wyneb yn wyneb gan weithwyr addysgol proffesiynol yr ymddiriedir ynddynt cyn gwyliau'r haf. Fel y nodir isod yn yr Asesiad hwn o'r Effaith ar Hawliau Plant, mae ffyrdd o ddiwallu anghenion y rhai hynny nad ydynt yn mynychu eu hysgol neu eu lleoliad cyn gwyliau'r haf hefyd wedi cael eu hystyried.

1.1 Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar fywydau plant, yn gadarnhaol ac yn negyddol?

Bydd cynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau o 29 Mehefin yn effeithio ar bob plentyn a pherson ifanc maes o law. Nod y dull yw dechrau cynllun fesul cam o liniaru'r effeithiau negyddol ar ddysgwyr o ganlyniad i'r mesurau brys a oedd yn ofynnol ar gyfer COVID-19 ym mis Mawrth (a archwilir mewn mwy o fanylder yn yr Asesiad Effaith Integredig sy'n cwmpasu ymateb cychwynnol y sector addysg i bandemig COVID-19.

Mae'r fframwaith penderfyniadau ar gyfer y cam nesaf i addysg a gofal plant: ystyriaethau, cynlluniau a heriau y cyfeirir ato yn Adran 1, yn nodi'r dull o newid gweithrediadau ysgolion a lleoliadau. Mae'n glir mai dim ond pan fyddai meini prawf gwyddonol / meddygol penodol yn cael eu bodloni y byddai unrhyw gynnydd mewn gweithrediadau yn cael ei ystyried. Mae ffactorau eraill yn cynnwys unrhyw effeithiau andwyol ar lesiant neu fynediad at ddysgu i blant a phobl ifanc yn deillio o beidio â mynd i'r ysgol, gan roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant (CCUHP).

Fel y cadarnhawyd yn gynharach, arweiniwyd y penderfyniad i gynyddu gweithrediadau mewn ysgolion gan ddull sy'n seiliedig ar fynediad cyfartal, gan fod gan bob dysgwr hawl i addysg a chymorth gyda'i ddysgu. Wrth i fwy o ddysgwyr ddychwelyd i amgylchedd ffisegol yr ysgol, bydd ymarferwyr yn gweithredu mewn cyd-destun gwahanol iawn. Bydd hyn yn parhau hyd y gellir rhagweld; gan ddarparu cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb a dysgu o bell, sef dull dysgu cyfunol. Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd profiadau unigol yn amrywio (o leiaf i ddechrau) wrth i'r trefniadau dychwelyd i weithrediadau ddatblygu. Ni fydd pob dysgwr yn cael y cyfle i ‘ailgydio, dal i fyny a pharatoi’ ar y safle gydag ymarferwyr y tymor hwn ac, o bosibl, ar ddechrau tymor yr hydref. Dyna pam ein bod eisoes yn cyfeirio ein gweithwyr proffesiynol ym maes addysg at roi sylw penodol i ddysgwyr nad ydynt, am ba reswm bynnag, yn gallu mynychu ysgol neu leoliad i gael amser cyswllt ac ystyried sut y gellir eu cefnogi o bell.

Mae'n annhebygol yr ymdrinnir yn llawn ag effeithiau negyddol y cyfyngiadau symud ar blant a phobl ifanc am beth amser ar ôl iddynt ddychwelyd yn llawn i ysgolion a lleoliadau. O ganlyniad, er y gwneir penderfyniadau i gynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau gan feddwl am iechyd a llesiant yr holl ddysgwyr a'u hawliau i addysg fel ystyriaethau allweddol, mae'n debygol y bydd angen rhagor o gamau wrth i'r ymateb i COVID-19 ddatblygu ac wrth i'n dealltwriaeth o oblygiadau'r pandemig ar ddysgwyr gynyddu.

Cydnabuwyd ers tro bod ysgolion a lleoliadau yn gwneud llawer mwy nag addysgu plant yn unig; mae llesiant meddyliol a chorfforol da yn hanfodol i ddysgu'n dda. O ganlyniad i COVID-19 a'r cyfyngiadau symud dilynol, rhagwelwn y bydd effaith negyddol ar iechyd a llesiant plant.

Er y cydnabyddir y bydd y mwyafrif o effeithiau'r ‘cyfyngiadau symud’ ar blant a phobl ifanc yn debygol o fod yn rhai negyddol, mae rhai effeithiau cadarnhaol wedi cael eu nodi mewn adborth gan ddysgwyr yn ystod y cyfnod hefyd. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • treulio mwy o amser gyda'u teulu agos
  • rhyddhad o bwysau cymdeithasol ac iechyd blaenorol, megis gofalu am aelodau o'r teulu ehangach, anawsterau iechyd meddwl a bwlio yn yr ysgol
  • mwy o amser i ganolbwyntio ar ddysgu sgiliau newydd, diddordebau a chwarae
  • lleihad mewn gorbryder am nad oes rhaid sefyll arholiadau pwysig yn yr haf

Fodd bynnag, nodwyd y canlynol gan ddysgwyr hefyd:

  • dim ond cyfran gymharol isel oedd yn teimlo'n hapus bod arholiadau wedi cael eu canslo
  • roeddent yn fwy tebygol o deimlo'n ansicr neu'n bryderus, ac roedd rhai pobl ifanc yn nodi eu bod yn teimlo'n grac ac yn drist
     
  • I rai dysgwyr gall peidio â bod yn amgylchedd eu hysgol neu eu lleoliad fod yn arbennig o niweidiol oherwydd agweddau negyddol yn eu cartrefi. Bydd gan ddysgwyr amgylcheddau gwahanol yn eu cartrefi a byddant wedi cael profiadau gwahanol yn ystod y cyfyngiadau symud, a bydd dechrau'r broses o gynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau yn helpu i ganfod a lliniaru unrhyw effeithiau negyddol.
     
  • Gall peidio â bod yn yr ysgol effeithio ar drefn ddyddiol a rhyngweithio cymdeithasol gan arwain at deimlo'n unig a gall arwain at ddatblygu problemau iechyd meddwl. Cydnabuwyd hyn ym mhenderfyniad Llywodraeth Cymru i glustnodi £1.25 miliwn i ddarparu cymorth iechyd meddwl ychwanegol i blant a all fod yn wynebu mwy o straen neu orbryder o ganlyniad i bandemig rhyngwladol COVID-19.
     
  • Mae llesiant yn bwysig yn ei rinwedd ei hun ond hefyd yn allweddol er mwyn ysgogi dysgu: gall llesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol oll gefnogi dysgu neu weithredu fel rhwystrau i ddysgu.
     
  • Mae cydberthnasau yn arbennig o bwysig mewn cyfnodau anodd a bydd cymryd rhan mewn dysgu ochr yn ochr â chyd-ddisgyblion yn gwneud cyfraniad hollbwysig tuag at iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc. Gofynnwyd i ymarferwyr ganolbwyntio ar gefnogi llesiant fel sylfaen ar gyfer dysgu, a hwn oedd y man cychwyn i ysgolion a lleoliadau ymgysylltu â dysgwyr yn ystod tymor yr haf.

Mae'n debyg y bydd yr effaith negyddol ar lesiant diwylliannol a welwyd yn ystod y cyfyngiadau symud yn lleihau wrth i'r mesurau i ymateb i COVID-19 gael eu llacio ac wrth i sesiynau ‘ailgydio, dal i fyny a pharatoi’ mewn ysgolion a lleoliadau gael eu cyflwyno o 29 Mehefin.

  • Mae'n debyg y bydd llai o gyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol, celfyddydol, chwaraeon a hamdden am beth amser eto. Gellid lliniaru hyn i ryw raddau drwy rôl chwarae a dysgu yn yr awyr agored; y gofynnwyd i ymarferwyr eu hystyried drwy ganllawiau. Mae chwarae a dysgu yn yr awyr agored yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i gefnogi dysgu yn ogystal â gwella cydberthnasau dysgwyr a'u llesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol. Dylent felly fod wrth wraidd unrhyw ddull o ddychwelyd yn raddol.
     
  • Dangoswyd bod dysgu ‘yn’ yr awyr agored yn cefnogi iechyd a llesiant corfforol a meddyliol. Hefyd, mae tystiolaeth yn dangos bod llai o risg o ddal yr haint yn yr awyr agored gan fod y feirws yn dioddef yng ngolau haul.

Mae'n debygol y bydd y pandemig wedi cael effaith negyddol ar lesiant mewn rhyw ffordd, yn enwedig i ddysgwyr a all ei chael hi'n anodd rhoi problemau a phryderon yn eu cyd-destun. Gallai hyn atgyfnerthu anghydraddoldebau rhwng dysgwyr, a gallai treulio misoedd i ffwrdd o'r ysgol a lleoliadau olygu bod problemau dysgu sy'n dod i'r amlwg yn cael eu colli neu fod seicolegwyr addysg yn ymdrin â nhw'n hwyrach.

Mae asesiadau o ddatblygiad dysgwyr a gynhelir o bell yn fwy cyfyngedig. Mae hyn yn golygu y gall cynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau fod yn fesur pwysig i liniaru risgiau yn hyn o beth, a helpu i sicrhau ymyriadau cynharach.

  • Mae heriau wedi effeithio ar grwpiau o ddysgwyr mewn perthynas â chael gafael ar ddyfeisiau electronig a phwysau gartref, gan felly gyfyngu ar fynediad at ddysgu o bell.
  • Hefyd, daeth heriau penodol i'r amlwg i'r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, ac roedd llawer o ddysgwyr yn galw am fwy o gyswllt a chymorth gan eu hysgol neu eu lleoliad, gyda darpariaeth ychwanegol ar-lein.

Wrth ymateb i'r materion a godwyd, gan gynnwys drwy adborth amser real ar yr arolwg dysgwyr, drwy'r broses gwneud penderfyniadau a thrwy ddatblygu'r canllawiau dysgu a'r canllawiau gweithredol, gofynnwyd i ysgolion a lleoliadau ystyried y canlynol ar gyfer tymor yr haf:

  • mwy o ffocws ar lesiant, chwarae a dysgu yn yr awyr agored
  • ffocws ar ddysgwyr yn dod yn ‘barod i ddysgu’: dylai dysgu gael ffocws clir ar baratoi dysgwyr i ddysgu eto, eu cynnydd a'u camau nesaf, yn hytrach na chanolbwyntio ar lefel cyrhaeddiad
  • lle y defnyddir dulliau asesu, dylid gwneud hyn i helpu cynnydd dysgwyr mewn ffordd gefnogol
  • wrth i ddysgu gael ei ailgyflwyno, datblygir profiadau dysgu mewn ymateb i anghenion dysgwyr: bydd gan ddysgwyr amrywiaeth o anghenion, yn cynnwys dysgu corfforol a dysgu o bell, a bydd angen i ymarferwyr gynllunio dysgu sy'n diwallu'r anghenion hyn, yn hytrach na pharhau â ‘busnes fel arfer’

Mae canllawiau i ysgolion a lleoliadau hefyd yn nodi, wrth iddynt ddechrau meddwl am ddysgu ac addysgu ar gyfer y flwyddyn ysgol nesaf, y dylent hefyd ystyried yr egwyddorion canlynol:

  • ffocws ar ddibenion ac egwyddorion y cwricwlwm newydd i gefnogi dysgu: gellir dod o hyd i nifer o'r atebion ar ffocws, hyblygrwydd, ymreolaeth a heriau'r flwyddyn academaidd hon yng nghanllawiau'r Cwricwlwm i Gymru
  • cyfuniad o ddysgu ‘yn yr ysgol’ a'r ‘tu allan i'r ysgol’ a ysgogir gan gwricwlwm unigol: ni ddylai dysgwyr ddisgwyl na phrofi dau gwricwlwm cyfochrog, ond bydd angen i ymarferwyr ystyried sut y mae dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth yn cefnogi amser cyswllt gwerthfawr a chyfyngedig

1.2 Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar grwpiau gwahanol o blant?

Nod y polisïau a nodir yn Adran 1 i gynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau i blant a phobl ifanc, drwy ddull tecach, yw galluogi effaith gadarnhaol ar bob grŵp o ddysgwyr dros amser. Ni fyddai unrhyw un o'r opsiynau posibl yn targedu grwpiau penodol o ddysgwyr i ddychwelyd gyntaf i weithrediadau mewn ysgolion neu leoliadau (fesul oedran, blwyddyn neu fath o ddysgwr) wedi ymdrin â'r amrywiaeth o anghydraddoldebau o ran darpariaeth a nodwyd yn ystod y cyfyngiadau symud.

Mae'n ddigon posibl y gallai blaenoriaethu un grŵp o ddysgwyr dros un arall ar y cam hwn arwain at rai sydd â'r angen mwyaf yn methu cael cyswllt uniongyrchol â'u hathrawon tan fis Medi, sy'n gyfnod sylweddol o amser.

Cydnabyddir nad yw cael dull eang seiliedig ar hawliau o ymdrin â thegwch o reidrwydd yn golygu cyfle cyfartal neu fynediad cyfartal i bob dysgwr. Mae mesurau pellach yn ofynnol mewn sefyllfaoedd penodol er mwyn gallu gwireddu dull o'r fath. Un o egwyddorion allweddol y fframwaith penderfyniadau oedd rhoi hyblygrwydd i ysgolion a lleoliadau flaenoriaethu rhai dysgwyr ar adegau allweddol os oedd angen gwneud hynny. Bydd cyfathrebu'n rheolaidd ac yn briodol â rhieni/gofalwyr hefyd yn bwysig er mwyn sicrhau bod cynifer o ddysgwyr â phosibl yn gallu manteisio ar y ddarpariaeth hon.

Bydd llawer o ddysgwyr yn addasu i achosion o darfu ar eu haddysg ac yn ymdopi'n dda. Fel y nodwyd ym mharagraff 1.1 uchod, bydd cyfleoedd i deuluoedd feithrin cydberthnasau agosach a gwneud amrywiaeth o weithgareddau gyda'i gilydd. Mae'r prosiect Addysg Gyn-Ysgol, Gynradd ac Uwchradd Effeithiol yn dangos pa fath o ryngweithiadau rhwng plant ac oedolion all helpu dysgu ac yn dangos pa mor bwysig yw amgylcheddau dysgu dysgwyr gartref. Mae addysg yn llawer ehangach na'r ystafell ddosbarth a'r cwricwlwm.

Fodd bynnag, bydd rhai o'r effeithiau a brofir yn sgil y cyfyngiadau a roddwyd ar waith o ganlyniad i COVID-19 yn cael effaith anghymesur ar grwpiau penodol o ddysgwyr ar adegau penodol. Yn ogystal, gall y sefyllfa sy'n datblygu arwain at anghenion a phroblemau penodol wrth i'r trefniadau i ddychwelyd i weithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau fynd rhagddynt.

Mae'r ffordd y mae COVID-19 wedi tarfu ar addysg wedi bod yn arbennig o heriol i ddysgwyr ag anghenion addysgol arbennig (AAA) neu anabledd. Mae'n debygol hefyd y bydd wedi effeithio ar eu teuluoedd a'u gofalwyr, oherwydd efallai na fydd y gwasanaethau gofal seibiant a'r cyfleusterau y maent yn dibynnu arnynt fel arfer ar gael o hyd neu efallai y bydd eu darpariaeth yn gyfyngedig. Dylai'r gwasanaethau hyn fod ar gael mewn ffordd briodol ac amserol i'r rhai sydd angen cymorth mwy dwys a/neu arbenigol. Dylai awdurdodau lleol a gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol weithio gydag ysgolion a lleoliadau addysg eraill i nodi anghenion dysgwyr a'u cefnogi.

Bwriad yr hyblygrwydd mewn trefniadau lleol, a'r anogaeth i awdurdodau lleol ystyried darparu sawl math o gymorth ochr yn ochr â chynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau, yw galluogi cymorth i fod yn ymatebol i anghenion unigolion penodol. I'r rhai ag anableddau, mae'n debygol y bydd hyn yn cynnwys ystyriaethau ynghylch hygyrchedd y cymorth a ddarperir ac a oes angen unrhyw gymorth ychwanegol.

Mae asesiadau risg yn adnoddau hanfodol, a dylent eisoes fod ar waith ar gyfer dysgwyr ag anghenion mwy cymhleth. Ar ddechrau'r ymateb i COVID-19, gofynnwyd i ysgolion a lleoliadau barhau i ddarparu gofal i nifer cyfyngedig o blant a phobl ifanc agored i niwed, gan gynnwys rhai â datganiad AAA. Er mwyn nodi'r rhai â datganiadau yr oedd angen lleoliad gofal plant arnynt, gofynnwyd i awdurdodau lleol gynnal asesiadau risg ar gyfer AAA. Yn achos ysgolion arbennig, bydd eu gwybodaeth bersonoledig a'u hasesiadau risg presennol yn llywio penderfyniadau o ran a all plentyn fynychu'r lleoliad yn ddiogel a pha drefniadau diogelwch sydd angen eu rhoi ar waith.

Gall aros gartref darfu mwy ar fywydau a threfn feunyddiol y rhai ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau, yn arbennig o ganlyniad i'w hanghenion addysgol arbenigol. Mae'r effaith hefyd yn debygol o fod yn fwy sylweddol ar eu teuluoedd a'u gofalwyr, am nad yw'r gofal seibiant a'r cyfleusterau y maent yn dibynnu arnynt ar gael, neu am fod y ddarpariaeth yn gyfyngedig iawn. Nododd yr arolwg ‘Coronafeirws a fi’ sampl o'r heriau a wynebwyd gan y rhai ag AAA yn ystod y cyfyngiadau symud:

‘Mae'r gwaith ysgol yn anodd gan fy mod i'n ddyslecsig ac mae'r cyfan yn dod mewn testun ysgrifenedig, a dwi'n cael trafferth ei ddarllen’ (Bachgen, 12 oed, Ceredigion)

‘Yn cael anawsterau go iawn gyda gwaith ysgol; nid yw Hwb yn addas i bobl â dyslecsia’ (Merch, 15 oed, Ceredigion)

‘Mae angen nodi'n gliriach pa gymorth ychwanegol sydd ar gael i blant ag anghenion arbennig… gan fy mod i'n mynd i ysgol brif ffrwd, nid oes unrhyw un wedi cynnig lle na chymorth ychwanegol i fi fel disgybl anghenion arbennig, er bod gen i ddatganiad o anghenion addysgol.’ (Bachgen, 10 oed, Rhondda Cynon Taf)

‘Mae gen i anhwylder ar y sbectrwm awtistig felly mae peidio â mynd i'r ysgol a chael trefn ddyddiol newydd yn sydyn wedi bod yn anodd. Rwy'n poeni am fynd yn ôl i'r ysgol. Dwi ddim yn gwybod pryd. Dwi ddim yn gwybod pwy fydd yno.’ (Bachgen, 10 oed, Rhondda Cynon Taf)

‘Dim cymorth ar gyfer fy ngwaith ysgol. Dim cyswllt â ffrindiau yng nghanolfan ASD yr ysgol. Dim cyswllt â chlybiau arbenigol roeddwn yn rhan ohonynt’ (Bachgen, 16, Pen-y-bont ar Ogwr)

Efallai y bydd cynnal y sesiynau ‘ailgydio, dal i fyny a pharatoi’ o 29 Mehefin ar sail rota / rhan-amser yn fwy heriol i'r rhai ag AAA. Er enghraifft, mae mwy o angen trefn ddyddiol / cysondeb ar ddysgwyr ag awtistiaeth, ac nid yw presenoldeb ar sail rota yn darparu hyn. Hefyd, bydd gan y rhai ag anghenion cymhleth gyfarpar o'u hysgol neu eu lleoliad gartref, megis cyfarpar ffisiotherapi / dysgu arbenigol. Mae hyn yn creu heriau ymarferol os bydd angen symud y cyfarpar gofynnol rhwng y cartref a'r ysgol neu'r lleoliad. Mewn rhai achosion, dylid ystyried cynnig darpariaeth amser llawn i ddysgwr ag AAA. Ymdrinnir â'r materion hyn drwy ganllawiau ychwanegol ar asesiadau risg ar gyfer AAA, a gaiff eu cyhoeddi'n fuan.

Rydym yn ymwybodol bod llai o ddysgwyr dan anfantais ac agored i niwed wedi manteisio ar y ddarpariaeth hyb na'r 40% a nodwyd. Dylai dysgwyr sy'n agored i niwed a dan anfantais allu dychwelyd i'w hysgol neu eu lleoliad eu hunain cyn gynted â phosibl. Mae mynediad at athrawon maent yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt, ac sy'n fwy cyfarwydd â'r heriau unigol y gallent fod wedi'u hwynebu yn ystod y cyfyngiadau symud, yn hanfodol er mwyn helpu i nodi anghenion penodol.

Felly, wrth i weithrediadau gynyddu o 29 Mehefin, rydym yn disgwyl y bydd dysgwyr sy'n mynychu darpariaeth mewn ‘hyb’ yn symud i'w hysgol neu eu lleoliad eu hunain. I ddysgwyr sydd wedi defnyddio darpariaeth ‘hyb’, y disgwyliad yw y bydd ysgolion a lleoliadau yn parhau i wneud darpariaeth ychwanegol ar gyfer y dysgwyr hynny, ynghyd â'r cymorth dysgu y mae ganddynt hawl iddo.

I'r rhai sy'n derbyn prydau ysgol am ddim, mae cau ysgolion a lleoliadau wedi golygu eu bod wedi bod gartref yn amlach ac wedi bod yn agored i straen posibl o ganlyniad i'r argyfwng. Mae'n debygol y bydd angen cymryd camau penodol i ddiwallu anghenion unigolion a grwpiau drwy'r ysgol neu'r lleoliad am gyfnod estynedig o amser. Mae'r canllawiau i ysgolion a lleoliadau yn tynnu sylw at y materion hyn er mwyn iddynt eu hystyried. Yn ogystal, er mwyn galluogi awdurdodau lleol i barhau i ddarparu prydau ysgol am ddim nes y bydd ysgolion yn ailagor i'r holl ddysgwyr (neu hyd at ddiwedd mis Awst os bydd angen), mae £40.4 miliwn wedi cael ei neilltuo.

Yn unol â'n disgwyliadau y byddai niferoedd yn cynyddu o ganlyniad i COVID-19, ar 20 Mai, roedd gwaith monitro Data Cymru wedi cadarnhau bod oddeutu 5,000 o ddysgwyr wedi dod yn gymwys ers dechrau'r cyfyngiadau symud, a bod 37% yn fwy yn cael cymorth o gymharu â mis Ionawr. Mae dros 90,000 o ddysgwyr bellach yn cael prydau ysgol am ddim.

Drwy gynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau, cydnabyddir y gall fod rhywfaint o effeithiau gwahaniaethol i rai grwpiau yn seiliedig ar hil. Er enghraifft, mae tystiolaeth gynyddol fod COVID-19 yn cael effaith anghymesur ar bobl o gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME).

Mae'n debygol y bydd achosion economaidd-gymdeithasol sylfaenol canlyniadau iechyd COVID-19 gwaeth mewn grwpiau BAME yn amrywiol ac yn gymhleth. Mae ffactorau yn cynnwys materion tai, aelwydydd lle ceir sawl cenhedlaeth a gorlenwi, mynediad at wasanaethau digidol a gwybodaeth, galwedigaethau sy'n arwain at risg fwy i iechyd, hunangyflogaeth a chontractau dim oriau, diwylliant hirsefydledig o hiliaeth a hyrwyddo diwylliant o gofnodi ethnigrwydd. Mewn llawer o achosion, mae'r materion hyn yn rhai hirsefydledig ac yn parhau i effeithio ar blant a phobl ifanc sy'n byw yn yr aelwydydd hyn. Fodd bynnag, mae'r pandemig a'r cyfyngiadau canlyniadol yn eu dwysáu.

Sefydlodd y Prif Weinidog Grŵp Cynghorol BAME ar COVID-19 i gynghori ar fesurau angenrheidiol i ddiogelu'r cymunedau (BAME) hynny yng Nghymru y mae COVID-19 yn cael effaith anghymesur ar eu hiechyd a hefyd i argymell gwaith tymor y byddai ei angen er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw anghydraddoldebau.

O ganlyniad, gwnaeth yr Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol waith ymchwil a chyhoeddodd adroddiad ar 22 Mehefin. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr angen am ymchwil bellach ac yn gwneud argymhellion ar gyfer mynd i'r afael â phob un o'r ffactorau a nodir sy'n gosod pryderon cydraddoldeb hiliol wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau o fewn y llywodraeth. Daw i'r casgliad bod angen systemau monitro a gwerthuso trawstoriadol er mwyn cyflawni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, ac ymgorffori arferion nad ydynt yn ormesol o fewn pob gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, a phob gwasanaeth arall, yng Nghymru.

Bydd yr adroddiad yn llywio'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol i Gymru a gaiff ei ddatblygu erbyn yr hydref.

Yn ogystal, mae Adnodd Asesu Risg COVID-19 Cymru Gyfan ar gyfer y Gweithlu wedi cael ei gynllunio i'w ddefnyddio ar gyfer yr holl staff iechyd a gofal cymdeithasol yr ystyrir eu bod yn agored i niwed neu'n wynebu risg, ni waeth beth fo'u hethnigrwydd. Mae'r adnodd yn mynd i'r afael â ffactorau risg unigol. Mae gwaith yn mynd rhagddo i addasu'r adnodd hwn i gefnogi'r gweithlu addysg, ond mae ar gael i'w ddefnyddio ar ei ffurf bresennol nawr.

Mae'r pandemig hefyd yn debygol o effeithio ar ddysgwyr o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn arbennig gan y gallant brofi sawl math o anfantais. Mae hyn yn aml yn cynnwys diffyg mynediad i gyfarpar digidol a chysylltedd gartref a rhieni/gofalwyr a all fod yn llai abl i ddarparu cymorth addysgol. Mae angen i ysgolion, lleoliadau ac awdurdodau lleol fod yn ystyriol o'r heriau penodol wrth gyfleu trefniadau i rieni; yn enwedig y rhai sy'n byw ar safleoedd preifat neu mewn gwersylloedd wrth ymyl y ffordd lle gall band eang a data symudol fod yn gyfyngedig neu lle nad ydynt ar gael o gwbl o bosibl. Mae hyd at £3 miliwn yn cael ei darparu i awdurdodau lleol er mwyn cefnogi dysgwyr sydd ‘wedi'u hallgáu'n ddigidol’, gan sicrhau bod cyfarpar ganddynt wrth inni symud ymlaen i'r cam nesaf gyda ffocws ar ddysgu cyfunol.

Mae effeithiau yn ymwneud â'r Gymraeg o ran y rhai sy'n gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth am yr iaith; ond hefyd y rhai y mae angen rhagor o gymorth arnynt gan yr ysgol neu'r lleoliad i gyrchu eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r pandemig wedi dwysáu nifer o'r materion sy'n ymwneud â datblygu'r Gymraeg mewn ysgolion a lleoliadau. Mae risg y gallai ailennyn diddordeb dysgwyr ar ôl y cyfnod hwn fod yn fwy heriol i ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn enwedig gan eu bod wedi colli amser i ddefnyddio dulliau trochi gyda dysgwyr iau. Neu y bydd mwy o ddysgwyr yn cael trafferth manteisio ar ehangder y dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg heb fynediad uniongyrchol at gymorth gan athrawon a chyfoedion. Mae llai o adnoddau ar gael i gefnogi dysgu o bell a dysgu cyfunol drwy gyfrwng y Gymraeg (er enghraifft, mae gwersi ar-lein ar gael yn hawdd yn Saesneg, ond mae llai o wersi ar gael yn Gymraeg a llai o ddewis).

Mae'n debygol y bydd effeithiau yn amrywio gan ddibynnu ar grŵp oedran a pha mor gymhleth yw'r anghenion. Mae'n bosibl y bydd y tarfu ar arferion addysg wedi effeithio mwy ar y rhai mewn cyfnodau pontio neu flynyddoedd arholiad, megis blwyddyn 6 yn symud i'r ysgol a'r rhai yn eu blynyddoedd olaf yn yr ysgol uwchradd. Gallai'r ffaith na chawsant ‘ddiwedd’ ffurfiol i'w gyrfa ysgol – dim arholiadau, dim prom ac ati – arwain at deimlo colled neu ddatgysylltiad. Adroddodd yr arolwg ‘Coronafeirws a fi’ am farn plant blwyddyn 6 o ran yr hyn a fyddai'n eu helpu fwyaf i symud i'r ysgol uwchradd; dewisodd 76% ‘ffarwelio gyda fy ysgol gynradd’, a dewisodd 75% ‘ymweld â fy ysgol uwchradd cyn i'r ysgol ddechrau’.

Gall pellter fod yn rhwystr i rai dysgwyr rhag dychwelyd i'w hysgolion neu eu lleoliadau; yn enwedig os bydd rhai am ddychwelyd ond nad oedd y drafnidiaeth ysgol neu drafnidiaeth gyhoeddus angenrheidiol ar gael. Gallai hyn effeithio mwy ar y rhai sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, ysgolion arbennig, ysgolion ffydd, Unedau Cyfeirio Disgyblion / darpariaeth heblaw yn yr ysgol a'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig. Mae'n debygol hefyd y bydd effeithiau ehangach ar ddysgwyr lle mae lefelau uchel o amddifadedd a thlodi eisoes yn bodoli, gan gynnwys mynediad i wasanaethau.

Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol asesu anghenion teithio dysgwyr sydd dan 19 oed yn eu hardal. Mae hyn yn cynnwys y rhai y mae gofyniad cyfreithiol i awdurdodau lleol ddarparu trafnidiaeth ar eu cyfer a'r rhai yr hoffent ddarparu trafnidiaeth ddewisol ar eu cyfer pan fyddant yn asesu anghenion teithio o bosibl. Mae'n ofynnol i awdurdod ystyried y canlynol hefyd:

  • anghenion dysgwyr anabl a dysgwyr ag anawsterau dysgu
  • unrhyw anghenion penodol sydd gan ddysgwyr sy'n ‘derbyn gofal’ neu a oedd yn derbyn gofal yn flaenorol gan awdurdod lleol
  • oedran dysgwr
  • natur y llwybr y disgwylir i'r dysgwr ei gymryd rhwng ei gartref a'r mannau lle mae'n cael addysg neu hyfforddiant

Wrth asesu anghenion teithio dysgwyr, rhaid i awdurdodau lleol ystyried y ffaith na ddylai trefniadau teithio y maent yn eu gwneud yng ngoleuni asesiad achosi lefelau afresymol o straen, cymryd cyfnod afresymol o amser na bod yn anniogel.

Mae'r canllawiau sy'n cael eu darparu i gefnogi'r gwaith o gynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau yn cydnabod mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i bennu'r ffyrdd mwyaf priodol o weithio er mwyn cefnogi dysgwyr yn ystod y cyfnod pontio. Mae ystyried a sicrhau llesiant pob dysgwr yn rhan hanfodol o'r broses hon, gan gydnabod anghenion unigolion a chefnogi parhad eu dysgu a'u cynnydd.

1.3 Pa dystiolaeth y gwnaethoch ei defnyddio i lywio eich asesiad, gan gynnwys tystiolaeth gan blant neu eu cynrychiolwyr?

Yn unol â'r disgwyliadau a nodir yn fframwaith penderfyniadau'r Gweinidog Addysg, rydym wedi gweithio'n agos gydag amrywiaeth eang o bartneriaid er mwyn helpu i lunio a llywio'r polisïau a'r cynigion a nodir yn Adran 1 o'r Asesiad Effaith Integredig hwn. Mae'r rhain yn cynnwys Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, grŵp yr haen ganol a phenaethiaid, yr undebau llafur, y Prif Gynghorydd Gwyddonol, y Prif Swyddog Meddygol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Gell Cyngor Technegol. Rydym hefyd wedi gweithio gyda rhieni, plant a phobl ifanc. O ganlyniad defnyddiwyd amrywiaeth o wybodaeth i lywio'r asesiad hwn, gan gynnwys:

  • cyngor gwyddonol a chyngor iechyd gan Ystafell Friffio Swyddfa'r Cabinet, y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau, y Gell Cyngor Technegol, yn ogystal â gwybodaeth a chyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • gwybodaeth o'r Asesiad Effaith Integredig, a thystiolaeth gysylltiedig yn ymwneud ag ef, ynghylch ymateb cychwynnol y sector addysg
  • data a gasglwyd ac a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid allweddol
  • ymchwil flaenorol a ddefnyddiwyd i ddod i gasgliadau
  • trafodaethau ag ymarferwyr a chynrychiolwyr eraill, yn darparu adborth o safbwynt gweithwyr proffesiynol a safbwynt plant
  • adborth ar faterion allweddol a godir gyda'r Comisiynydd Plant, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a Chomisiynydd y Gymraeg
  • adroddiadau gwrando cymdeithasol dyddiol mewnol yn Llywodraeth Cymru sydd wedi tynnu sylw at y pynciau allweddol sy'n trendio ar y cyfryngau cymdeithasol a chrynodebau o'r materion allweddol sy'n cael eu codi drwy ohebiaeth, y Ganolfan Pwynt Cyswllt Cyntaf a'r Uned Gwynion
  • olrhain a dadansoddi profiadau a chamau gweithredu awdurdodaethau addysg yn rhyngwladol y mae rhai ohonynt wedi bod ar gam pellach yn yr ymateb i'r pandemig neu wedi gwneud dewisiadau gwahanol o ran polisïau
  • adborth gan randdeiliaid allweddol a chyrff cynrychioliadol
  • amrywiaeth o adroddiadau ymchwil sydd ar gael yn genedlaethol ac yn rhyngwladol a gwybodaeth am effeithiau COVID-19 a chlefydau pandemig tebyg, gan gynnwys drwy Sefydliad Iechyd y Byd ac UNESCO

Er nad yw opsiynau ar gyfer cynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau wedi cael eu profi'n uniongyrchol gyda dysgwyr oherwydd natur a chyflymder y broses gwneud penderfyniadau, mae gwybodaeth wedi cael ei chasglu gan blant a phobl ifanc drwy amrywiaeth o sianeli a, lle y bo'n bosibl, mae hyn wedi bwydo i mewn i waith asesu risg a phrosesau gwneud penderfyniadau. Mae hyn yn cynnwys:

  • adroddiadau gwrando cymdeithasol dyddiol
  • y Gweinidog Addysg yn cynnal sesiynau Holi ac Ateb ar y cyfryngau cymdeithasol gyda phobl ifanc
  • y Gweinidog Addysg yn mynychu'r Senedd Ieuenctid
  • yr ymateb i negeseuon fideo ar gyfer grwpiau penodol o ddysgwyr neu eu rhieni
  • adborth o'r arolwg ‘Coronafeirws a fi’ i blant a phobl ifanc
  • monitro pynciau'n ddyddiol sy'n codi mewn gohebiaeth, ymholiadau i'r ganolfan Pwynt Cyswllt Cyntaf neu'r Uned Gwynion –mae'r rhain hefyd wedi cael eu defnyddio i fireinio a diweddaru'r adran Cwestiynau Cyffredin ar wefan Coronafeirws Llywodraeth Cymru

Yn ogystal â'r uchod, mae'n werth nodi'r canlynol:

  • Ar ddechrau cyfnod y cyfyngiadau symud roedd gostyngiad amlwg yn nifer yr adroddiadau diogelu i'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant. Mae'r rhain yn cynyddu'n raddol i'n lefelau disgwyliedig erbyn hyn, ond nid ydynt wedi adfer yn gyfan gwbl ym mhob awdurdod lleol.
  • Mae ymarferwyr sy'n gweithio ar draws asiantaethau yn y sector statudol a'r trydydd sector wedi gorfod addasu yn gyflym i ffyrdd newydd o weithio, gan barhau i sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael cymorth. I rai mae hyn wedi cynnwys dod o hyd i ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau drwy lwyfannau rhithwir, i rai eraill mae cyswllt wyneb yn wyneb wedi parhau yn unol â chyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gadw pellter cymdeithasol a defnyddio cyfarpar diogelu personol
  • Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol i blant wedi cynnal cyswllt wyneb yn wyneb i blant y nodwyd eu bod yn wynebu risg drwy gydol y pandemig. Fodd bynnag, bydd y mwyafrif o'r plant nad oeddent eisoes wedi'u nodi fel rhai sy'n wynebu risg ond wedi cael cyswllt rhithwir drwy fideo, ffôn neu ar-lein o'u cartrefi gydag aelodau o'u teulu yn bresennol. Mae'n debygol y bydd hyn wedi effeithio ar gyfleoedd i ymarferwyr nodi achosion o gam-drin ac i blant ddatgelu niwed. Mae gwasanaethau wedi gwneud popeth posibl mewn amgylchiadau anodd iawn ond, yn anffodus, gwyddom y bydd rhai plant wedi cael eu niweidio heb yn wybod inni. Wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio, mae'n debygol y bydd cyswllt rhwng plant a gwasanaethau cyffredinol a gwasanaethau ataliol yn nodi angen sydd heb ei ddiwallu.
  • Mae gwaith i liniaru hyn wedi dechrau drwy gefnogi ymarferwyr i nodi achosion o gam-drin, niwed ac esgeulustod a rhoi gwybod amdanynt; annog y cyhoedd i roi gwybod am bryderon a datblygu gwybodaeth i deuluoedd ac i blant a phobl ifanc am geisio cymorth a chefnogaeth. Cefnogir y gwaith hwn gan Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru a'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol, a chaiff ei ddatblygu mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid allanol o bob rhan o'r sector statudol a'r trydydd sector.
  • Mae'r wybodaeth hon yn tynnu sylw at y pryderon gwirioneddol ynghylch peidio â rhoi gwybod am achosion a'r niwed cynyddol a wynebir gan rai a all arwain at gynnydd sylweddol mewn anghenion cymorth yn y dyfodol wrth i blant ddychwelyd i'r ysgol.
  • Mae canlyniadau addysgol yn wynebu risg ddifrifol gydag effaith uniongyrchol ar y bwlch cyrhaeddiad, yn enwedig i ddysgwyr sy'n agored i niwed a dan anfantais. Mae rhai ysgolion a lleoliadau yn cael trafferth addasu eu patrymau addysgu er mwyn ennyn diddordeb dysgwyr wrth ddysgu o bell, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig. Mae athrawon yn nodi eu bod yn disgwyl i'r pandemig gael effaith sylweddol ar astudiaethau dysgwyr, gan awgrymu y dylid tybio na fydd rhai dysgwyr wedi ymgymryd ag unrhyw weithgareddau dysgu yn ystod y cyfnod hwn.
  • Ni wnaeth yr arolwg ‘Coronafeirws a fi’ adlewyrchu darlun cwbl negyddol o'r effaith ar blant a phobl ifanc o ganlyniad i addasu diben ysgolion er mwyn ymateb i COVID-19. Er mai dim ond sampl o'r ymatebion yw hwn, o'r rhai yr ymgysylltwyd â nhw drwy'r arolwg, nododd 51% eu bod yn teimlo'n hyderus neu'n hyderus iawn, roedd diffyg hyder gan 25%, a nododd 10% nad oeddent yn teimlo'n hyderus o gwbl. Dewisodd 24% yr opsiwn niwtral.

1.4 Sut rydych wedi ymgynghori â phlant a phobl ifanc? Os nad ydych wedi gwneud hynny, esboniwch pam.

O ganlyniad i natur ddigynsail yr argyfwng iechyd cyhoeddus a pha mor gyflym y bu'n rhaid gwneud rhai o'r penderfyniadau polisi cychwynnol a'u rhoi ar waith, cydnabuwyd nad oedd yn bosibl ymgynghori â phlant a phobl ifanc cyn i'r penderfyniadau i addasu ysgolion at ddibenion gwahanol gael eu gwneud ym mis Mawrth. Tynnodd hyn sylw at yr angen i sicrhau ein bod yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc mewn rhyw ffordd er mwyn deall sut yr effeithiodd y penderfyniadau hynny arnynt er mwyn inni allu ystyried camau lliniaru pellach.

O ganlyniad, lansiodd Comisiynydd Plant Cymru a Plant yng Nghymru arolwg ar-lein, gyda chymorth y Senedd Ieuenctid a Llywodraeth Cymru. Rhoddodd yr arolwg gyfle i blant a phobl ifanc rannu effaith ymateb cychwynnol y sector addysg i COVID-19 ar eu llesiant a'u dysgu. Cafodd yr arolwg 23,700 o ymatebion gan blant a phobl ifanc. Mae'r wybodaeth hon wedi ein galluogi i glywed eu barn a'u profiadau wrth ystyried pa gamau i'w cymryd nesaf.

Er bod y gwaith o ddatblygu'r fframwaith penderfyniadau ac adolygu dulliau posibl wedi datblygu dros gyfnod o ddeufis, mae natur ymateb i argyfwng iechyd sy'n datblygu yn golygu bod yn rhaid gwneud penderfyniadau mewn amserlenni byr iawn pan fydd y cyngor gwyddonol ac iechyd ar gael. Fodd bynnag, fel y crynhowyd uchod, mae'r Gweinidog Addysg yn ymwneud ag amrywiaeth o weithgareddau sy'n ceisio ystyried safbwyntiau plant a phobl ifanc ac ymateb iddynt, gan gynnwys gwaith ymgysylltu parhaus drwy'r cyfryngau cymdeithasol a'r Senedd Ieuenctid. Mae gwaith ymgysylltu â rhanddeiliad hefyd yn parhau i gynnwys y rheini sy'n gallu cynrychioli barn plant a phobl ifanc, gan gynnwys rhieni, ymarferwyr a Chomisiynydd Plant Cymru.

1.5 Pa dystiolaeth arall fyddai'n llywio'r asesiad?

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn craffu ar ymateb Llywodraeth Cymru ac mae wedi nodi materion sy'n dod i'r amlwg ynghylch yr effaith ar blant sy'n agored i niwed ac effaith anghymesur y cyfyngiadau symud. Mae tystiolaeth o'r canfyddiadau hyn yn helpu i gyfrannu at wybodaeth sy'n cael ei hystyried wrth fwrw ymlaen â chynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau.

Mae'r canllawiau gweithredol a gyhoeddwyd ar 10 Mehefin yn galw ar ysgolion a lleoliadau i gadw cofnod o bresenoldeb a dylai teuluoedd roi gwybod i'w hysgol os na fydd eu plentyn yn gallu ei mynychu, er mwyn helpu awdurdodau lleol i ddeall unrhyw rwystrau a allai atal dysgwyr rhag dychwelyd i'r ysgol, cynllunio ar eu cyfer a nodi unrhyw gymorth pellach sydd ei angen. Rydym yn cytuno ar ofynion casglu data ehangach, gan gymryd gofal i beidio â rhoi gormod o faich ar ysgolion a lleoliadau, ac mae trefniadau adrodd yn cael eu rhoi ar waith gyda chymorth awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cychwyn ac yn defnyddio amrywiaeth gynyddol o ymchwil ac arolygon i fonitro effeithiau ar blant a phobl ifanc a'u teuluoedd. Mae'r rhain yn cynnwys pwyslais penodol ar oblygiadau iechyd a llesiant, yn ogystal â materion ynghylch capasiti ysgolion a lleoliadau.

Rydym wedi sefydlu adnodd i ddod â gwaith ‘cydraddoldebau ac asesu ansawdd’ ynghyd fel sylfaen dystiolaeth barhaus, yn ogystal â phrosesau rheolaidd i ddadansoddi dulliau rhyngwladol, a ffynonellau gwybodaeth y mae awdurdodaethau addysg eraill yn eu defnyddio'n rhyngwadol. Mae ffynonellau'r adolygiadau hyn yn cynnwys ‘diptels’ y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad, rhwydwaith tramor Llywodraeth Cymru, crynodebau rhyngwladol Adran Addysg Llywodraeth y DU, a'n hadolygiad desg ein hunain.

Rydym yn parhau i weithio gyda chydweithwyr yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Data Cymru i fonitro nifer y plant sy'n manteisio ar brydau ysgol am ddim. Yn ogystal, rydym wedi lansio ymgyrch ar y cyd yn y cyfryngau gyda CLlLC er mwyn codi ymwybyddiaeth o ddarpariaeth prydau ysgol am ddim sydd ar gael. Yn benodol, mae'r ymgyrch yn annog rhieni i gysylltu â'u hawdurdod lleol er mwyn canfod a ydynt yn gymwys i gael darpariaeth prydau ysgol am ddim.

2. Eglurwch sut mae'r cynnig yn debygol o effeithio ar hawliau plant.

Isod ceir tabl o erthyglau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant (CCUHP) yr ystyrir eu bod fwyaf perthnasol i'r polisïau a nodir uchod, ac yn Adran 1 yr Asesiad Effaith Integredig hwn.

UNCRC articles relevant to policies set out above
Article numberDescriptionLinks to decisions
2Mae'r Confensiwn yn gymwys i bob plentyn heb wahaniaethu, ni waeth beth fo'i ethnigrwydd, rhyw, crefydd, iaith, galluoedd neu unrhyw statws arall, ni waeth beth mae'n ei feddwl neu'n ei ddweud, ni waeth beth fo'i gefndir teuluol.

Mae cynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau o 29 Mehefin yn dilyn dull sy'n seiliedig ar degwch drwy roi'r cyfle i'r rhan fwyaf o ddysgwyr (ni waeth beth fo'u hoedran na'u cefndir) gael amser cyswllt â gweithwyr addysgol proffesiynol yr ymddiriedir ynddynt cyn gwyliau'r haf. Yn unol â hyn, cydnabyddir na fydd rhai dysgwyr yn gallu mynychu'r sesiynau hyn, ac mae canllawiau'n cael eu darparu i ysgolion a lleoliadau sy'n pwysleisio y dylid rhoi ystyriaeth arbennig i ddiwallu eu hanghenion o bell.

I rai dysgwyr, bydd angen ystyried ffactorau ychwanegol er mwyn iddynt gael budd o'r ddarpariaeth. Nid yw dull sy'n seiliedig ar degwch ynddo'i hun yn gwarantu cyfle neu ddarpariaeth gyfartal i bob dysgwr, yn enwedig dysgwyr ag anghenion penodol. I'r dysgwyr hynny sydd ag AAA, sy'n agored i niwed, dan anfantais, neu y mae angen cymorth arbenigol arnynt, mae'n debygol y bydd angen trefniadau ychwanegol a/neu amgen.

Gwyddom y bydd y ddarpariaeth yn edrych yn wahanol iawn i rai dysgwyr, er mwyn sicrhau y caiff eu hanghenion penodol eu diwallu.

3Rhaid i les pennaf y plentyn fod yn brif flaenoriaeth ym mhob penderfyniad a cham gweithredu sy'n effeithio ar blant

Gellir gweld yr erthygl hon yn yr egwyddorion a nodir yn y fframwaith penderfyniadau ar gyfer y sector addysg, sef:

Diogelwch a lles meddyliol, emosiynol a chorfforol dysgwyr a staff.

  • Parhau i gyfrannu at yr ymdrech a’r strategaeth genedlaethol i fynd i’r afael â lledaeniad COVID- 19.
  • Ennyn hyder rhieni a gofalwyr, staff a dysgwyr, ar sail tystiolaeth a gwybodaeth, fel y gallant flaengynllunio.
  • Y gallu i flaenoriaethu dysgwyr ar adegau allweddol, gan gynnwys y rhai o gefndiroedd difreintiedig.
  • Cysondeb â fframwaith penderfynu Llywodraeth Cymru, sicrhau bod canllawiau ar waith i gefnogi mesurau megis cadw pellter, rheoli presenoldeb a chamau ataliol ehangach.

Er nad oes cyfeiriad penodol at CCUHP yn nogfen gyhoeddedig y fframwaith penderfyniadau, mae dylanwad hawliau plant yn ymhlyg yn y dull a ddefnyddir. Mae rhoi llesiant y dysgwr wrth wraidd pob penderfyniad a wneir ynghylch ymateb y sector addysg i COVID-19 yn rhan ganolog o hynny. Ynghyd â datblygu trefniadau sy'n ceisio dechrau proses o liniaru effeithiau negyddol y ‘cyfyngiadau symud’ ar blant a phobl ifanc, gan gydnabod anghenion penodol grwpiau penodol o ddysgwyr.

4

(rhoi'r Confensiwn ar waith)

Rhaid i lywodraethau wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau y gall pob plentyn fwynhau ei hawliau drwy greu systemau a phasio deddfau sy'n hyrwyddo ac yn diogelu hawliau plant.

Mae'r Gweinidog Addysg wedi dweud yn gyson mai dim ond pan fo'r cyd-destun iechyd yn caniatáu hynny y gellid cynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau.

Bydd rhoi'r cyfle i'r rhan fwyaf o ddysgwyr gael amser cyswllt gyda'u hathrawon cyn gwyliau'r haf yn lliniaru rhywfaint o effeithiau andwyol y cyfyngiadau symud drwy gynnig manteision cymdeithasol a manteision o ran dysgu a'r bwlch cyrhaeddiad. Mae'n cefnogi ymarferwyr i ddeall anghenion dysgu unigolion yn well ac felly'n eu helpu i dargedu darpariaeth ddysgu yn well o fis Medi.

Mae defnyddio dull tecach drwy alluogi mwy o ddysgwyr o bob oedran a chyfnod ac sydd ag anghenion amrywiol (nad oes angen iddynt warchod eu hunain) i fanteisio ar sesiynau ‘ailgydio, dal i fyny a pharatoi’ cyn gwyliau'r haf yn hwyluso'r gallu i ddiogelu eu hawl i addysg yn well. O ystyried problemau gyda chapasiti mewn ysgolion a lleoliadau yn ystod cyfnod o ofynion cadw pellter cymdeithasol, byddai targedu grwpiau penodol o ddysgwyr i ddychwelyd yn gynnar yn golygu y byddai rhai eraill yn colli'r cyfle. Drwy geisio diwallu anghenion un grŵp, byddai heriau wrth ddiwallu anghenion a bodloni hawliau plant eraill yn gwaethygu.

Er gwaethaf y dull tecach a fabwysiadwyd, fel y nodwyd yn gynharach, mae mesurau penodol yn angenrheidiol er mwyn diwallu anghenion rhai dysgwyr nad ydynt yn gallu manteisio ar y ddarpariaeth. Darparwyd canllawiau i ysgolion a lleoliadau yn hyn o beth, ac mae canllawiau mwy penodol wrthi'n cael eu paratoi (mewn perthynas ag asesiadau risg ar gyfer AAA, er enghraifft). Mae adnoddau ychwanegol hefyd yn cael eu darparu er mwyn mynd i'r afael â'r problemau a wynebir gan ddysgwyr o ran hygyrchedd digidol. Mae £3 miliwn o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn mynd i'r afael yn benodol â'r broblem gyda mynediad at galedwedd a/neu'r rhyngrwyd. Rydym yn ymwybodol bod awdurdodau lleol ac ysgolion yn gwneud ymdrech sylweddol i ddiwallu'r anghenion hyn ond mae'r gwaith yn parhau wrth i'r sesiynau ‘ailgydio, dal i fyny a pharatoi’ fynd rhagddynt.

6Mae gan bob plentyn yr hawl i fywyd. Rhaid i lywodraethau wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod plant yn goroesi ac yn datblygu i'w llawn botensial.

Mae'r egwyddor allweddol o roi diogelwch a llesiant meddyliol, emosiynol a chorfforol dysgwyr a staff wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau yn ymdrin â'r hawliau hyn yn uniongyrchol. Mae'n golygu mwy nag aros yn ddiogel ac yn iach; mae'n golygu defnyddio dull ystyriol a chyson wrth ddechrau ymdrin â'r effeithiau negyddol a brofwyd ar ddysgu a datblygu yn ystod y ‘cyfyngiadau symud’.

Mae'r canllawiau gweithredol a'r canllawiau dysgu sy'n cefnogi'r syniad o gynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau addysg eraill yn cwmpasu dull cynhwysfawr a diogel er mwyn sicrhau iechyd a llesiant dysgwyr ac ymarferwyr pan fyddant yn dychwelyd i'r ysgol. Mae hyn yn cynnwys cyngor penodol ar gapasiti diogel, cadw pellter cymdeithasol a mesurau hylendid, a chyfran y dysgwyr sy'n mynychu'r ysgol bob dydd.

Wrth i fwy o ddysgwyr ddychwelyd i amgylchedd ffisegol yr ysgol, bydd ymarferwyr yn darparu cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb a dysgu o bell – dull cyfunol. Wrth ddatblygu hyn, bydd ymarferwyr yn ystyried anghenion eu holl ddysgwyr a'r ffordd orau o ymdrin â nhw, a byddant yn ystyried dibenion dysgu ac yn pwyso a mesur eu blaenoriaethau; gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ganllawiau cwricwlwm mewn modd hyblyg i'w cefnogi yn y gwaith hwn.

12Mae gan bob plentyn yr hawl i fynegi ei farn, ei deimladau a'i ddymuniadau mewn perthynas â phob mater sy'n effeithio arno, ac i bobl ystyried eu safbwyntiau o ddifrif

Mae'r arolwg ‘Coronafeirws a fi’, ynghyd â gwaith ymgysylltu â'r Senedd Ieuenctid, gwaith i ystyried gohebiaeth/cwestiynau gan ddysgwyr, a chyfraniadau gan y rheini sy'n gallu cynrychioli barn dysgwyr (e.e. rhieni, ymarferwyr a'r Comisiynydd Plant) wedi helpu i sicrhau bod safbwyntiau plant wedi cael eu hystyried yn y broses o gynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau hyd yn hyn.

Mae'r canllawiau dysgu ar gyfer ysgolion a lleoliadau yn nodi'n glir y dylai llesiant fod wrth wraidd gwaith i ailennyn diddordeb dysgwyr. Fel rhan o hyn mae'n pwysleisio pwysigrwydd rhoi amser i ddysgwyr drafod a mynegi eu profiadau, a sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod pobl yn gwrando arnynt.

14

(rhyddid meddwl, cred a chrefydd)

Mae gan bob plentyn yr hawl i feddwl a chredu beth bynnag mae'n ei ddymuno a hefyd yr hawl i arfer ei grefydd, ar yr amod nad yw'n atal pobl eraill rhag mwynhau eu hawliau.

Rhaid i lywodraethau barchu hawliau a chyfrifoldebau rhieni i arwain eu plentyn wrth iddo dyfu i fyny.

Ni fydd gan unrhyw rai o'r penderfyniadau polisi a nodir uchod ac yn Adran 1 effaith benodol mewn perthynas â rhyddid meddwl, cred a chrefydd.

Mae'r canllawiau dysgu yn amlinellu bod angen i ymarferwyr ystyried sut i gefnogi pob dysgwr. Mae hyn yn cynnwys dysgwyr a all fod yn bryderus am ddychwelyd, y rhai a all fod wedi treulio cyfnod estynedig mewn cartref nad yw'n cefnogi eu credoau, neu'r rhai sy'n teimlo bod y syniad o ddychwelyd yn fygythiol; a'u cefnogi gyda'r broses o'u hintegreiddio mewn lleoliad addysg ffisegol. Mae sgyrsiau am sut mae dysgwyr yn teimlo yn hollbwysig drwy gydol y cyfnod hwn ac mae staff mewn ysgolion a lleoliadau yn cael eu harwain i annog dysgwyr i drafod eu cwestiynau a'u pryderon.

Er bod rhieni/gofalwyr yn cael eu cynghori'n gryf (lle y bo'n bosibl) i gefnogi eu plant i ddychwelyd i'w hysgol neu eu lleoliad, am y cyfnod cychwynnol hwn o leiaf gyda'r sesiynau ‘ailgydio, dal i fyny, paratoi’, bydd dewis ganddynt.

17Mae gan bob plentyn yr hawl i gael gwybodaeth ddibynadwy o amrywiaeth o ffynonellau, a dylai llywodraethau annog y cyfryngau i gyflwyno gwybodaeth y gall plant ei deall.

Gofynnodd yr arolwg ‘Coronafeirws a fi’ sut roedd plant a phobl ifanc yn dewis cael gafael ar ffynonellau gwybodaeth, a chafwyd y canlyniadau canlynol: drwy aelodau o'r teulu (76%), ar y teledu (65%) a drwy'r ysgol (20%). Nododd 3% o'r ymatebwyr nad oeddent yn cael unrhyw wybodaeth. Roedd gan y bobl ifanc a lenwodd yr holiadur 12-18 oed ffynonellau gwybodaeth tebyg, ond roeddent yn fwy tebygol o gael gwybodaeth ar-lein oddi ar wefannau ac o gyfrifon newyddion.

Mae'r dull o gynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau yn un proffil uchel ac mae'n cael ei drafod yn helaeth gan amrywiaeth o gwmnïau'r cyfryngau.

Mae camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau mynediad parhaus at wybodaeth ddibynadwy a hygyrch yn cynnwys cyfranogiad y Gweinidog Addysg mewn sesiynau Holi ac Ateb gyda phlant a phobl ifanc.

Rydym hefyd yn cyhoeddi datganiadau rheolaidd i'r wasg, negeseuon ysgrifenedig a negeseuon fideo ar gyfer grwpiau penodol o ddysgwyr neu eu rhieni / gofalwyr, ac adroddiadau sy'n ymwneud â phenderfyniadau a gwybodaeth ffeithiol am ein hymateb i bandemig COVID-19. Rydym yn parhau i gyhoeddi Cwestiynau Cyffredin am yr ymateb i bandemig COVID-19 a'r camau a gymerwyd yn y sector addysg. Caiff hyn ei lywio gan ohebiaeth ac ymholiadau drwy'r ganolfan Pwynt Cyswllt Cyntaf, y daw rhai ohonynt gan blant.

Mae canllawiau i ysgolion a lleoliadau ynghylch y sesiynau ‘ailgydio, dal i fyny a pharatoi’ yn cynnwys cyfathrebu â dysgwyr, rhieni a gofalwyr.

18Dylai’r ddau riant rannu cyfrifoldeb dros fagu eu plentyn, a dylent ystyried yr hyn sydd orau i'r plentyn bob amser. Rhaid i lywodraethau gefnogi rhieni drwy greu gwasanaethau cymorth ar gyfer plant a rhoi'r help sydd ei angen ar rieni i fagu eu plant.

Rydym yn cydnabod bod dulliau cyfathrebu rhwng y Llywodraeth, ysgolion a lleoliadau, a rhieni / gofalwyr a'u plant wedi bod yn hollbwysig drwy gydol y broses wrth lywio'r dull o gynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau.

Er mwyn llywio syniadau, sefydlwyd Panel Cynghori i Rieni a Gofalwyr i roi adborth ar deimladau ynghylch yr egwyddorion arweiniol sy'n sail i'r fframwaith penderfyniadau a rhannu barn ar amrywiaeth o faterion cysylltiedig. Mae'r dull hwn hefyd yn helpu i lywio canllawiau i ysgolion a lleoliadau ynghylch y ffordd maent yn cyfathrebu â rhieni / gofalwyr ac ati.

Mae dulliau cyfathrebu wedi'u targedu at rieni / gofalwyr yn parhau, gan gynnwys drwy'r cyfryngau cymdeithasol a thudalennau gwe penodol.

19

(diogelu rhag trais, camdriniaeth ac esgeulustod)

Rhaid i lywodraethau wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod plant yn cael eu diogelu rhag pob math o drais, esgeulustod a thriniaeth wael gan eu rhieni neu unrhyw un arall sy'n gofalu amdanynt.

I rai plant, gall peidio â bod yn eu hysgol neu eu lleoliad fod yn arbennig o niweidiol oherwydd natur eu hamgylchedd cartref. Bydd gan blant amgylcheddau gwahanol yn eu cartrefi a byddant wedi cael profiadau gwahanol yn ystod y cyfyngiadau symud, a bydd dechrau'r broses o gynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau yn helpu i ganfod a dechrau lliniaru effeithiau negyddol. Felly disgwylir i'r polisïau a nodir uchod ac yn Adran 1 yr Asesiad Effaith Integredig hwn ymdrin â'r erthygl hon yn benodol.

Wrth ddatblygu hyn, mae canllawiau yn atgoffa staff mewn ysgolion a lleoliadau o'u dyletswyddau diogelu Cadw dysgwyr yn ddiogel a Gweithdrefnau Diogelu Cymru . Mae rôl yr unigolyn diogelu dynodedig yn hollbwysig a dylai'r holl staff a dysgwyr wybod pwy yw'r unigolyn hwn a sut i gysylltu ag ef. Gall fod yn anos cael gafael ar oedolyn yr ymddiriedir ynddo, neu'r unigolyn diogelu dynodedig, o ystyried y rheolau cadw pellter cymdeithasol, felly gofynnwyd i ysgolion a lleoliadau ystyried sut y gall dysgwyr siarad yn breifat.

Yn ystod y camau cynnar, dylai ysgolion, lleoliadau a gwasanaethau plant barhau i gydweithio’n agos i sicrhau bod pob plentyn a theulu yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen. Bydd gan awdurdodau lleol amrywiaeth o arferion gwaith i sicrhau bod partneriaid diogelu yn gallu cydweithio i gadw plant yn ddiogel.

Mae cyfle nawr i gyfnerthu’r arferion gwaith hyn ymhellach.

23Mae gan blant anabl hawl i fyw bywyd llawn a gweddus gydag urddas ac annibyniaeth, i'r graddau mwyaf posibl, yn ogystal â chwarae rhan weithredol yn y gymuned. Rhaid i lywodraethau wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi plant anabl a’u teuluoedd.

Rydym wedi sicrhau bod ysgolion yn aros ar agor i blant sy'n agored i niwed ac mae hyn yn cynnwys y rheini sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig. Mae awdurdodau lleol yn parhau i flaenoriaethu'r rhai sydd â'r angen mwyaf mewn perthynas â'r ddarpariaeth hon.

Rydym wedi ystyried anghenion plant ag anabledd o ran mynediad cyfartal wrth gynllunio'r dull ‘ailgydio, dal i fyny a pharatoi’ ar sail rota/rhan-amser i'w roi ar waith mewn ysgolion a lleoliadau. Rydym wedi rhagweld y gall hyn beri her i'r unigolion hynny ac rydym wedi llunio canllawiau er mwyn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu. Bydd canllawiau pellach sydd ar y gweill yn cynnig cymorth ar gyfer cynnal asesiadau risg ar gyfer AAA yn ystod y cyfnod hwn.

24Mae gan bob plentyn yr hawl i'r iechyd gorau posibl. Rhaid i lywodraethau ddarparu gofal iechyd o ansawdd da, dŵr glân, bwyd maethlon, amgylchedd glân ac addysg ar iechyd a llesiant fel y gall plant aros yn iach.Mae'r erthygl hon wedi cael ei chydnabod a'i hamlygu drwy'r pwyslais a roddir ar iechyd a llesiant yn y sesiynau ‘ailgydio, dal i fyny a pharatoi’. Mae canllawiau i ysgolion a lleoliadau yn cydnabod nad ydym yn sôn am risgiau corfforol dal haint COVID-19 yn unig pan fyddwn yn cyfeirio at iechyd a llesiant. I ddysgwyr, bydd goblygiadau corfforol, meddyliol ac emosiynol ehangach a goblygiadau o ran cydberthnasau yn sgil cadw pellter cymdeithasol, cyfyngiadau symud a phrofedigaeth o bosibl, yn llawer mwy perthnasol.
28Mae gan bob plentyn yr hawl i gael addysg.

Mae'r hawl hon wedi bod yn un o'r ysgogwyr sylfaenol y tu ôl i'r penderfyniad i gynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau.

Mae'r canllawiau dysgu yn egluro'r hyn a ddisgwylir gan ymarferwyr ar gyfer tymor yr haf. Yn ogystal â'r pwyslais ar lesiant, dylai ysgolion a lleoliadau ddechrau ehangu dysgu ac addysgu, fel y bo'n briodol. Dylai hyn gynnwys cefnogi trefniadau pontio fel bod dysgwyr (cyn belled ag y bo modd) yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf ac yn barod i ymgysylltu â dull dysgu cyfunol. Disgwylir i ysgolion a lleoliadau ddatblygu gweithgareddau dysgu a dulliau newydd i ddiwallu anghenion eu holl ddysgwyr mewn ymateb i'r pandemig, gan roi ystyriaeth arbennig i'r rheini nad ydynt yn gallu mynychu sesiynau ‘ailgydio, dal i fyny a pharatoi’ y tymor hwn am ba reswm bynnag. Mae'r canllawiau yn glir bod gan bob dysgwr hawl i gael cymorth gyda'i ddysgu gan weithwyr proffesiynol yr ymddiriedir ynddynt yn ystod y cyfnod hwn.

Fel y nodwyd uchod, mae adnoddau'n cael eu darparu i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â chael mynediad at ddysgu o bell. Gan symud ymlaen i'r hydref, mae ystyriaethau pellach ar waith mewn perthynas â'r ffordd rydym yn cefnogi grwpiau penodol o ddysgwyr ac yn diwallu eu hanghenion er mwyn sicrhau y gallant wneud cynnydd yn eu dysgu. Mae'r ystyriaethau hyn (a gaiff eu cwmpasu mewn diweddariad i'r Asesiad Effaith Integredig) yn cynnwys clustnodi cyllid ychwanegol wedi'i dargedu.

29

(nodau addysg)

Rhaid i addysg ddatblygu personoliaeth, doniau a galluoedd pob plentyn yn llawn. Rhaid iddi annog parch y plentyn tuag at hawliau dynol, ynghyd â pharch tuag at ei rieni, ei ddiwylliant ei hun a diwylliannau eraill, a'r amgylchedd.t.

Mae'r erthygl hon wrth wraidd addysg yng Nghymru, a phedwar diben y cwricwlwm sy'n sail i'n rhaglen diwygio addysg. Wrth i fwy o ddysgwyr ddychwelyd i amgylchedd ffisegol yr ysgol, bydd ymarferwyr yn darparu cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb a dysgu o bell – dull dysgu cyfunol. Bydd yn rhaid i ysgolion a lleoliadau ddatblygu gweithgareddau dysgu a dulliau newydd i ddiwallu anghenion eu dysgwyr mewn ymateb i'r pandemig. Wrth wneud hynny, cyfeirir ymarferwyr at yr ystod lawn o ganllawiau cwricwlwm sydd bellach ar gael iddynt, gan gynnwys y ffordd y gall y Cwricwlwm i Gymru gefnogi dysgwyr yn ystod y cyfnod hwn.
30

(plant o grwpiau lleiafrifol neu gynhenid)

Mae gan bob plentyn yr hawl i ddysgu a defnyddio iaith, arferion a chrefydd ei deulu, p'un a yw'r rhain yn cael eu rhannu gan y mwyafrif o'r bobl yn y wlad ble maent yn byw neu beidio..

Ni fwriedir i'r penderfyniadau polisi a nodir yn yr Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant uchod ac yn Adran 1 o'r Asesiad Effaith Integredig hwn gael effaith gadarnhaol na negyddol mewn perthynas â'r erthygl hon. Fodd bynnag, cydnabyddir y gall fod rhai effeithiau gwahaniaethol i rai grwpiau penodol o bobl yn sgil y cyfyngiadau symud a fydd yn gofyn am fesurau penodol wrth i'r gwaith o gynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau fynd rhagddo.

Mae'r canllawiau dysgu yn amlinellu y bydd angen i ymarferwyr ystyried sut i gefnogi pob dysgwr; a'u cefnogi gyda'r broses o'u hintegreiddio mewn lleoliad addysg ffisegol. Bydd sgyrsiau â dysgwyr am sut maent yn teimlo yn hollbwysig drwy gydol y cyfnod hwn a dylai staff annog dysgwyr i drafod eu cwestiynau a'u pryderon. Byddwn yn monitro'r sefyllfa ynghylch dysgu Cymraeg a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn agos.

31

(chwarae, hamdden a diwylliant)

Mae gan bob plentyn yr hawl i ymlacio, chwarae a chymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau diwylliannol a chelfyddydol.

Dylai'r effaith negyddol ar lesiant diwylliannol a welwyd yn ystod y cyfyngiadau symud leihau wrth i'r mesurau i ymateb i COVID-19 gael eu llacio ac wrth i sesiynau ‘ailgydio, dal i fyny a pharatoi’ mewn ysgolion a lleoliadau gael eu cyflwyno o 29 Mehefin

Fodd bynnag, mae'n debyg y bydd llai o gyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol, celfyddydol, chwaraeon a hamdden am beth amser eto. Gellid lliniaru hyn i ryw raddau drwy rôl chwarae a dysgu yn yr awyr agored; y gofynnwyd i ymarferwyr eu hystyried drwy ganllawiau. Mae chwarae a dysgu yn yr awyr agored yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i gefnogi dysgu yn ogystal â gwella cydberthnasau dysgwyr a'u llesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol. Dylid felly ystyried eu bod wrth wraidd unrhyw ddull o ddychwelyd yn raddol.