Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Paratowyd y canllawiau anstatudol hyn gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo awdurdodau lleol i weinyddu Cynllun y Bathodyn Glas. Bydd y canllawiau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd.

Cynllun y Bathodyn Glas

Cyflwynwyd Cynllun y Bathodyn Glas (Parcio i Bobl Anabl) ym 1971 o dan adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970.

Mae'r cynllun yn darparu trefniant cenedlaethol ledled y Deyrnas Unedig i sicrhau consesiynau parcio ar y stryd i bobl sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf i'w symudedd wrth geisio cael mynediad at gyfleusterau yn y gymuned. Mae'r cynllun ar agor i bobl gymwys a allai fod yn gyrru cerbyd neu’n cyd-deithio ynddo.

Rôl Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru’n gyfrifol am y fframwaith polisi a deddfwriaethol i’r Cynllun. Mae hyn yn cynnwys:

  • y meini prawf rhagnodedig o bobl y ceir rhoi bathodyn iddynt h.y. y meini prawf cymhwysedd;
  • y ffi y gall awdurdodau lleol ei chodi am roi neu ail-roi bathodyn;
  • cyfnod gweithredol bathodyn;
  • y sail dros wrthod rhoi bathodyn a’r sail dros dynnu bathodyn yn ôl;
  • yr amgylchiadau lle dylid dychwelyd bathodyn i’r awdurdod a’i rhoddodd;
  • penderfyniad Gwasanaeth Digidol y Bathodyn Glas (BBDS) i wrthod rhoi bathodyn neu i dynnu bathodyn yn ôl;
  • y modd y dylid arddangos y bathodyn; a’r
  • consesiynau sydd ar gael yn genedlaethol i ddeiliaid bathodynnau o dan y cynllun.

Ni all Llywodraeth Cymru ymyrryd mewn ceisiadau unigol. Materion i’r awdurdod lleol perthnasol yw’r rhain.

Rôl awdurdodau lleol

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am weinyddu a gorfodi'r cynllun o ddydd i ddydd. Maent yn gyfrifol am weithredu a phenderfynu ynghylch gweithdrefnau gweinyddu, asesu a gorfodi, yn unol â'r ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu'r cynllun.

Ceir rhestr o’r ddeddfwriaeth berthnasol yn atodiad a.

Prif gyfrifoldeb awdurdodau lleol yw sicrhau na chaiff bathodynnau eu rhoi ond i'r ymgeiswyr hynny sy'n bodloni’r meini prawf cymhwysedd llym a nodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol.

Fel rhan o’u rôl, mae’n bwysig bod cyfathrebu effeithiol rhwng y timau sy’n rhoi Bathodynnau Glas a’r rheiny sy’n gwneud gwaith gorfodi parcio ar y stryd.

Argymhellir bod gan awdurdodau lleol gyfarwyddiadau desg clir ar sut i weinyddu’r cynllun, gan gynnwys polisi ar amgylchiadau pan fydd awdurdodau lleol yn codi ffi am Fathodyn Glas yn achos rhoi un newydd yn lle un sydd wedi'i golli, ei ddifrodi neu ei ddwyn, neu yn achos bathodyn i sefydliad, yn ogystal â gweithdrefnau ar gyfer adolygu penderfyniadau.

Waeth beth fo'r amgylchiadau, ni ddylai neb nad yw’n bodloni o leiaf un o'r meini prawf gael bathodyn.

Dylai pob aelod o staff sy'n ymdrin yn rheolaidd ag ymgeiswyr a deiliaid bathodynnau gael eu cynnwys yn rhaglen hyfforddiant yr awdurdod lleol ar ymwybyddiaeth o anabledd a chydraddoldeb, a ddylai gynnwys gwybodaeth am y model cymdeithasol o anabledd. Bydd hyfforddiant o’r fath yn helpu'r staff i ddeall pa mor bwysig yw'r cynllun i'r rheiny a allai fod yn dibynnu arno i gyrchu nwyddau a gwasanaethau.

Darparu gwybodaeth

Mae'n bwysig sicrhau bod pobl yn ardal yr awdurdod lleol a allai fod yn gymwys i gael Bathodyn Glas yn ymwybodol o'r cynllun a sut y gallant wneud cais am fathodyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu’r cyhoeddiadau canlynol ar ei gwefan fel y gellir eu lawrlwytho a’u hargraffu yn lleol:

Hefyd, mae fersiynau print bras, Braille a sain o’r cyhoeddiad ‘Cynllun y Bathodyn Glas: hawliau a chyfrifoldebau yng Nghymru’ ar gael o wneud cais oddi wrth: Gwneud cais neu gais newydd am Fathodyn Glas

Yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, dylai awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth am y cynllun yn ddwyieithog ac mewn fformatau hygyrch ar eu gwefan ac mewn lleoliadau hygyrch.

Rôl Gwasanaeth Digidol y Bathodyn Glas (BBDS)

Mae angen i weithdrefnau awdurdodau lleol ar gyfer gweinyddu Cynllun y Bathodyn Glas ymgorffori Gwasanaeth Digidol y Bathodyn Glas (BBDS). Mae’r gwasanaeth hwn, a ddarperir gan Valtech Ltd, yn cynnwys:

  • dull diogel o argraffu, cyflenwi a dosbarthu Bathodyn Glas
  • storfa gyfun o wybodaeth allweddol am fathodynnau a deiliaid bathodynnau fel bo modd cynnal gwiriadau dilysu yn gyflym ac yn rhwydd, naill ai o gyfrifiadur neu drwy ffonau clyfar neu dechnoleg debyg
  • system gwybodaeth reoli ar y we i awdurdodau lleol
  • ffurflen gais genedlaethol ar-lein sydd ar gael drwy Gov.UK
  • llinell gymorth a gwasanaeth chwythu'r chwiban

Bydd gan awdurdodau lleol fynediad uniongyrchol i fanylion deiliaid Bathodynnau Glas yn unrhyw le ym Mhrydain Fawr, nid eu hardal awdurdod lleol yn unig. Mae bod â system gyffredin ar gyfer prosesu gwybodaeth am Fathodynnau Glas a defnyddio dull diogel o argraffu a dosbarthu bathodynnau yn atal llawer o fathau o dwyll a chamddefnydd.

Y model cymdeithasol o anabledd a Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae'r model cymdeithasol o anabledd yn nodi gwahaniaeth pwysig rhwng 'nam' ac 'anabledd'. Nam yw'r peth am yr unigolyn sy'n wahanol, sy'n effeithio ar ei ymddangosiad neu sut maen nhw'n gweithredu ac o bosibl yn achosi anawsterau fel poen neu flinder.  Anabledd, o gymharu, yw'r anfantais a brofir gan bobl â namau o ganlyniad i'r ffordd y caiff yr amgylchedd ei adeiladu, y ffordd y caiff gwasanaeth ei ddarparu neu agweddau'r rhai sy'n darparu gwasanaethau. Nid yw pobl anabl yn cael eu hanalluogi gan eu namau ond gan rwystrau ac mae angen inni ddileu'r rhwystrau hynny i ddileu anghydraddoldeb. Caiff y model hwn ei gydnabod gan grwpiau anabl ac fe'i mabwysiadwyd yn ffurfiol gan Lywodraeth Cymru yn 2002.

Nod Llywodraeth Cymru yw defnyddio iaith briodol yn unol â'r model cymdeithasol.

Fodd bynnag, mae'r ddeddfwriaeth sy'n cefnogi'r Cynllun yn aml yn cynnwys iaith nad yw'n adlewyrchu'r model cymdeithasol o anabledd ac sy'n tybio bod pobl anabl yn cael eu hanalluogi gan eu namau (neu 'anableddau') a dyna pam rydym wedi defnyddio'r iaith hon.  Cyhoeddir diffiniad Llywodraeth Cymru yn allanol ar Waith ar Anabledd:Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol (mae'r diffiniad yn dechrau ar dudalen 7).

Wrth asesu cymhwysedd i gael Bathodyn Glas, mae'n bwysig bod y broses asesu yn nodi'r bobl gywir sydd angen Bathodyn er mwyn goresgyn y rhwystrau y maent yn eu hwynebu wrth gyrchu gwasanaethau. Cyfyngedig yw nifer y mannau parcio i bobl anabl, ac os caiff Bathodynnau Glas eu rhoi i bobl nad ydynt yn bodloni'r meini prawf, bydd mwy o alw am y ddarpariaeth gyfyngedig honno.

Mae Adran 20 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd ar ddarparwyr gwasanaethau i gymryd camau rhesymol i sicrhau nad yw pobl â nodweddion gwarchodedig yn cael eu rhoi o dan anfantais sylweddol wrth gyrchu gwasanaethau, o gymharu â phobl eraill. Mae goblygiadau sy'n gysylltiedig â'r gofyniad hwn i weithredwyr meysydd parcio. Gallai fod angen iddynt, yn ogystal â marcio mannau parcio i ddeiliaid Bathodynnau Glas, ddangos eu bod wedi cymryd camau rhesymol i sicrhau bod y mannau hynny ar gael ac yn hygyrch i bobl â namau.

Cyflwynodd Adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus – gan gynnwys awdurdodau lleol – roi sylw dyledus i’r angen i:

  • ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi'i wahardd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb;
  • rhoi hwb ymlaen i gyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn ei rhannu;
  • meithrin perthynas dda rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn ei rhannu.

Daeth y Ddyletswydd hon i rym ar 6 Ebrill 2011. Mae nodweddion gwarchodedig yn cynnwys: hil, anabledd, rhywedd, oed, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred, beichiogrwydd a mamolaeth, priodas a phartneriaeth sifil ac ailbennu rhywedd.

Er mwyn cyflawni'r ddyletswydd hon, rhaid i awdurdod cyhoeddus wreiddio ystyriaethau cydraddoldeb ym mhopeth a wnânt, gan gynnwys penderfyniadau sy'n ymwneud â dyluniad a darpariaeth gorfodaeth parcio.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn caniatáu triniaeth well neu fwy ffafriol i bobl â namau yn seiliedig ar dystiolaeth, er mwyn sicrhau cyfle cyfartal.

Pennod 1: Proses ymgeisio am Fathodyn Glas

Ymholiadau cychwynnol / meini prawf didoli cychwynnol

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am weithredu cynllun y Bathodyn Glas ac am ddarparu gwasanaeth a gwybodaeth i bobl sydd eisiau ymgeisio am Fathodyn Glas. Argymhellir i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth am y cynllun i ymgeiswyr neu ofalwyr ar ran yr ymgeisydd, yn enwedig y meini prawf cymhwysedd, y broses ymgeisio ac asesiadau.

Mae'n bwysig darparu gwybodaeth fanwl am y meini prawf cymhwysedd i'r holl ymgeiswyr yn fuan, er mwyn i'w disgwyliadau fod yn realistig, ac er mwyn osgoi sefyllfa lle bydd ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r meini prawf yn gwastraffu amser. Mae'n rhaid sicrhau bod ymgeiswyr yn ymwybodol y bydd angen iddynt ddarparu tystiolaeth i ategu eu cais er mwyn cael bathodyn. Mae’r dystiolaeth ofynnol yn cynnwys prawf preswylio a ffotograff a thystiolaeth broffesiynol gofal iechyd o gyflyrau, symptomau ac anawsterau symud yn y gymuned. Gall rhai sy'n gwneud cais drwy Gov.UK wirio eu cymhwysedd ar lein.

Prosesau ymgeisio am Fathodyn Glas

Yr awdurdod lleol sydd i benderfynu ar eu gweithdrefnau eu hunain a gallai’r rhain gynnwys canolfannau galw heibio a gwasanaethau dros y ffôn, drwy’r post ac ar lein. Bydd angen i awdurdodau lleol gasglu data craidd er mwyn penderfynu ynghylch cymhwysedd ac er mwyn prosesu’r cais drwy’r BBDS i gael y bathodyn.

Ceisiadau drwy’r BBDS

Mae’r BBDS yn darparu dull cenedlaethol ar-lein o wneud cais drwy Gov.UK. Bydd angen o hyd i ymgeiswyr ddarparu ffotograffau priodol, unrhyw ddogfennau ategol y mae eu hangen i ategu (h.y. prawf adnabod, preswylio a chymhwysedd a thystiolaeth broffesiynol gofal iechyd o gyflyrau, symptomau ac anawsterau symud yn y gymuned). Bydd angen i awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn gwirio’r BBDS am unrhyw geisiadau a gafwyd drwy Gov.UK.

Arfer da: dylai awdurdodau lleol brosesu'r holl geisiadau drwy’r BBDS. Mae hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru gynnal dadansoddiad mwy cynhwysfawr o'r ystadegau. Mae hefyd yn lleihau'r potensial o dwyll drwy gyflwyno ceisiadau lluosog.

Am fathodyn i berson unigol y meysydd gorfodol ar gyfer ceisiadau drwy’r BBDS yw:

  • enw llawn
  • cyfenw genedigol
  • rhywedd
  • dyddiad geni
  • tref enedigol
  • gwlad enedigol
  • cyfeiriad llawn, gan gynnwys y cod post, a ffotograff o’r ymgeisydd

Er nad yw’r Rhif Yswiriant Gwladol yn faes gorfodol, mae Llywodraeth Cymru yn argymell y dylai awdurdodau lleol lenwi'r maes hwn os oes modd, gan ei fod o gymorth wrth gadarnhau pwy yw’r ymgeisydd. Gallai hyn gynorthwyo â gwaith gorfodi pe bai angen camau o'r fath.

Am fathodyn sefydliad y meysydd gorfodol ar gyfer ceisiadau drwy’r BBDS yw:

  • enw’r sefydliad (rhaid i’r enw gynnwys llai na 30 nod i ymddangos ar y bathodyn)
  • enw cyntaf a chyfenw’r person cyswllt i’r sefydliad a'r cyfeiriad llawn gan gynnwys y cod post
  • naill ai logo'r sefydliad neu reswm dros beidio â chyflwyno logo
  • nifer y bathodynnau y mae eu hangen
  • cadarnhad bod y sefydliad yn gofalu am bobl gymwys
  • cadarnhad bod y gofal yn cynnwys cludiant.

Bydd angen i swyddogion awdurdodau lleol sefydlu cyfrif er mwyn cael mynediad i'r system. Bydd angen iddynt hefyd ystyried sut y byddant yn integreiddio’r BBDS yn eu gweithdrefnau o ddydd i ddydd.  Mae canllawiau ar wahân ar sut i ddefnyddio’r BBDS ar gael ar: BBDS guidance (confluence).

Gwybodaeth ac ystyriaethau gofynnol eraill

Gall gofalwr wneud cais ar ran unrhyw ymgeisydd, ond rhaid iddo ddarllen a llofnodi'r datganiadau yn y cais, gan ddatgan ei berthynas â'r ymgeisydd.  Efallai yr hoffai Awdurdodau Lleol ystyried mai dim ond i gyfeiriad deiliad y Bathodyn Glas a allai fod yn gartref gofal y gellir anfon y bathodyn, gan mai dyma'r cyfeiriad a ddefnyddir i gynnal gwiriad preswylio. Mewn achosion lle nad yw hyn yn bosibl, gellir dosbarthu bathodynnau i swyddfa'r Awdurdod Lleol i'w casglu.

Achosion arbennig lle mae ymgeiswyr â salwch angheuol

Efallai y bydd awdurdodau lleol yn dymuno ystyried cael proses ymgeisio gyflym i bobl sydd â salwch angheuol sy'n cyfyngu i raddau difrifol ar eu symudedd, er mwyn gwneud wythnosau olaf eu bywyd yn rhwyddach. Er enghraifft clefyd niwronau motor neu rai mathau o ganser.

Ar gyfer achosion fel hyn mae ffurflen gais enghreifftiol fyrrach wedi'i darparu, a gellir hepgor y gofyniad am ffotograff. Fodd bynnag, bydd angen tystiolaeth ategol ar ymgeiswyr gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol, a bydd angen iddynt ddangos eu bod yn cael anhawster sylweddol wrth gerdded. Dylid ymdrin â phob cais mewn modd sensitif a dylid trin ymgeiswyr a’u gofalwyr â pharch a chwrteisi, ond mae hyn yn arbennig o bwysig pan fo ymgeisydd â salwch angheuol.

Gwirio manylion adnabod

Mae gwirio manylion adnabod a phrawf preswylio'r ymgeisydd, ynghyd â gwirio bod yr ymgeisydd yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, yn hanfodol er mwyn diogelu rhag ceisiadau twyllodrus a chamddefnydd o'r cynllun.

Mae’n arfer da a argymhellir i’r manylion adnabod gael eu gwirio drwy un o’r mathau canlynol o dystiolaeth:

  • tystysgrif geni / mabwysiadu
  • tystysgrif priodas / ysgariad
  • tystysgrif partneriaeth sifil / diddymu
  • trwydded yrru ddilys
  • pasbort dilys
  • Cerdyn Teithio Rhatach

Gall awdurdodau lleol hefyd ddefnyddio dull cyfannol o gadarnhau pwy yw’r ymgeisydd, oherwydd cydnabyddir, mewn rhai achosion prin, na fydd gan yr ymgeisydd unrhyw un o'r dogfennau safonol uchod. Fodd bynnag, yn yr achosion hyn, mae disgresiwn gan yr awdurdod lleol i wirio pwy yw’r ymgeisydd drwy adolygu cofnodion a gedwir eisoes. Argymhellir cadw cofnod archwiliadwy o'r dull wrth wirio pwy yw’r ymgeisydd yn y modd hwn.

Yr awdurdod lleol sydd i benderfynu a fydd yn derbyn dogfennau gwreiddiol yn unig neu lungopïau wedi'u hardystio. 

Os cyflwynir dogfennau ar ffurf llungopïau wedi'u hardystio, dylent gynnwys y testun canlynol: "Mae'r copi hwn yn llun cywir o'r gwreiddiol" ochr yn ochr â llofnod; enw printiedig a galwedigaeth y sawl sy'n ei ardystio.

Argymhellir i’r prawf o gyfeiriad fod ar ffurf bil gwreiddiol y dreth gyngor, ac arno enw a chyfeiriad yr ymgeisydd. Nid oes angen hyn os yw’r ymgeisydd yn rhoi caniatâd i'r awdurdod lleol wirio cofnodion y dreth gyngor, y gofrestr etholiadol neu gofnodion ysgol er mwyn cadarnhau'r cyfeiriad. Os nad yw'r dystiolaeth hon ar gael, argymhellir i’r awdurdod lleol dderbyn llythyr dyfarnu budd-dal. Os nad oes unrhyw fath arall o brawf, argymhellir i awdurdodau lleol dderbyn bil cyfleustodau.

Os yw ymgeisydd wedi rhoi cyfeiriad safle carafanau neu safle cartref symudol ar ei gais, bydd angen i awdurdodau lleol wirio’r wybodaeth hon. Mae’r awdurdodau lleol yng Nghymru yn gyfrifol am drwyddedu’r safleoedd hyn; ac am benderfynu, drwy’r amodau maent yn eu gosod, a all tenantiaid ddefnyddio cyfeiriad y safle fel eu prif gyfeiriad. 

Mae'r ffotograff yn un o’r nodweddion allweddol wrth leihau camddefnydd o’r cynllun a galluogi ei orfodi'n effeithiol. Gall awdurdodau lleol wrthod rhoi bathodyn os oes ganddynt reswm i gredu nad yw'r ymgeisydd y sawl y mae’n honni bod.

Gofynnir i bob ymgeisydd am fathodyn unigol ddarparu ffotograff maint pasbort i'w sganio i'r BBDS. Mae gofynion penodol y ffotograff wedi'u darparu yn y canllawiau sy'n cyd-fynd â'r ffurflen gais. Dylai’r ffotograff fod yn ddiweddar a dylai ddangos wyneb yr ymgeisydd yn glir. Dylai ffotograffau fod yn arddull ffotograffau pasbort, ond gan nad yw peiriannau sganio biometreg yn rhan o ddefnyddio Bathodynnau Glas, nid oes angen i’r ffotograffau fodloni’r holl ofynion caeth ar gyfer ffotograffau pasbort (fel ‘dim gwenu’ a ‘dim sbectol’) Argymhellir ysgrifennu enw yr ymgeisydd yn glir ar gefn pob ffotograff a bod yr ymgeisydd, neu'r person sy'n gwneud cais ar ei ran, yn cadarnhau yn adran y datganiad ar y ffurflen gais bod y ffotograff yn dangos tebygrwydd gwirioneddol.

Lle bo’n addas, gall awdurdodau lleol dderbyn ffotograffau electronig mewn arddull debyg i ffotograffau pasbort. Os oes modd, ni ddylai neb arall fod yn weladwy yn y ffotograff.

Mewn rhai amgylchiadau ni fydd modd cadw’n gaeth at fanyleb y ffotograff oherwydd amgylchiadau unigol yr ymgeisydd. Bydd yn rhaid i awdurdodau lleol ymdrin â'r rhain fesul achos unigol.

Nid oes angen darparu ffotograffau ar gyfer bathodynnau sefydliad. Fodd bynnag, argymhellir, lle bo’n bosibl, y dylai sefydliadau ddarparu ffeil electronig o'u logo i awdurdodau lleol. Gellir lanlwytho hwn i system y BBDS a'i gynnwys ar y bathodyn.

Argymhellir, os nad yw awdurdod lleol yn gallu gwahodd ymgeiswyr i gyfweliad a derbyn ceisiadau drwy ddulliau eraill, y dylai ofyn i ymgeiswyr ddarparu ffotograff ardystiedig i fodloni ei wiriadau manylion adnabod.

Yn yr amgylchiadau hynny, argymhellir i’r ffotograff gael ei ardystio gan berson, ar wahân i bartner neu aelod o deulu'r ymgeisydd, sydd wedi'i adnabod am ddwy flynedd o leiaf ac sy'n 18 mlwydd oed neu’n hŷn. Dylid gofyn i ymgeiswyr ddarparu manylion cyswllt y person sy'n ardystio eu cais. Mae’n bosibl y bydd yr awdurdod lleol yn dymuno cysylltu â'r person sy'n ardystio lle bernir bod angen gwneud hynny.

Datganiadau

Argymhellir i awdurdodau lleol gynnwys datganiadau ar ddiwedd y ffurflen gais i'r ymgeisydd eu hadolygu a’u llofnodi. Gall y rhain helpu i frwydro yn erbyn twyll a chaniatáu i'r awdurdod lleol groeswirio gwybodaeth berthnasol gydag adrannau eraill o'r cyngor.

Gellir defnyddio datganiadau i gadarnhau bod yr ymgeisydd:

  • yn deall y broses ymgeisio ac wedi ateb y cwestiynau yn onest
  • yn deall y bydd angen iddo gadw at reolau’r cynllun
  • yn deall sut y bydd y cyngor yn defnyddio’r data a roddir a, lle bo angen, wedi rhoi caniatâd i rannu data yn unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU
  • yn rhoi ei ganiatâd i ryddhau gwybodaeth feddygol a gwybodaeth arall y mae ei hangen i asesu cymhwysedd

Bydd y datganiadau hyn hefyd yn darparu tystiolaeth ar gyfer unrhyw gamau gorfodi a allai gael eu cymryd os rhoddir bathodynnau yn sgil darparu gwybodaeth anghywir ar y ffurflen gais.

Ymgeiswyr trawsrywiol a thrawsryweddol

Mae pobl drawsrywiol a thrawsryweddol yn byw'n barhaol o dan rywedd sy'n wahanol i'r un a bennwyd ar eu genedigaeth. Oherwydd hynny, bydd eu henw a'u manylion personol wedi newid. Mae gwahaniaethu yn erbyn pobl drawsrywiol a thrawsryweddol yn anghyfreithlon, a'r arfer gorau yw ystyried yr unigolyn yn ôl y rhywedd y mae'n uniaethu ag ef.

Efallai y bydd rhai ymgeiswyr yn ei chael yn anodd darparu'r dogfennau priodol, felly argymhellir i awdurdodau lleol fod yn fwy hyblyg wrth asesu prawf adnabod pobl drawsryweddol. Mae parch tuag at yr unigolyn a phreifatrwydd hanes rhywedd yn hollbwysig ac argymhellir peidio â gofyn am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd fel prawf adnabod. Mae'n bwysig bod awdurdodau lleol yn ymdrin â cheisiadau gan bobl drawsrywiol a thrawsryweddol mewn modd sensitif, ac yn rhoi bathodynnau'n unol â'r rhywedd a geisiwyd.

Ffi am y Bathodyn Glas

Ni all awdurdodau lleol yng Nghymru godi tâl ar ddeiliaid unigol am eu Bathodyn Glas. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i awdurdodau lleol i dalu cost y Bathodyn Glas drwy gynllun Grant y Setliad Refeniw.

Caniateir i awdurdodau lleol godi ffi o hyd at £10.00 am fathodyn sefydliad, neu am fathodyn yn lle un sydd wedi’i golli, ei ddifrodi neu ei ddwyn. Yr awdurdod lleol sydd i benderfynu a ddylid codi'r ffi ai peidio. Mae’n bosibl na fydd awdurdodau lleol yn dymuno codi tâl am fathodynnau newydd os oes tystiolaeth bod yr hen fathodyn wedi'i ddwyn, er enghraifft pan fo deiliad y bathodyn wedi hysbysu’r heddlu am y lladrad ac yn rhoi rhif digwyddiad yr heddlu i'r awdurdod. Yr awdurdodau lleol fyddai'n talu'r gost, gan nad yw Llywodraeth Cymru'n darparu cyllid ychwanegol ar gyfer hyn. Nodwch na fydd rhai heddluoedd yn rhoi rhif digwyddiad ond os oes tystiolaeth bod trosedd wedi digwydd.

Argymhellir i awdurdodau lleol fod â pholisi clir ar faint o ffi y byddant yn ei chodi am fathodynnau sefydliadau a bathodynnau newydd yn lle rhai sydd wedi’u colli/dwyn/difrodi, ac o dan ba amgylchiadau.

Prosesau symlach

Lle mae’r awdurdod lleol wedi’i argyhoeddi y bydd ymgeisydd yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd yn barhaol, gall yr awdurdod lleol farcio hynny ar ei gofnodion fel y caiff y broses ‘adnewyddu’ ei chwtogi pan fydd y bathodyn yn dod i ben. Bydd hyn yn wir lle mae’n amlwg bod person yn bodloni’r meini prawf ac na fydd y nam yn gwella, megis rhywun sydd wedi colli dau aelod. Mewn achosion o’r fath, bydd gan yr ymgeisydd broses adnewyddu symlach, ac ni fydd angen iddo ddarparu tystiolaeth ond o bwy ydyw ac o’i breswylfa, a ffotograff. Bydd disgwyl o hyd iddo lofnodi’r ffurflen datganiad.

Where the local authority is satisfied that an applicant will permanently meet the eligibility criteria, the local authority is able to mark their records as such to shorten the ‘renewal’ process when their badge expires. This will be the case where a person clearly meets the criteria and their impairment will not improve, such as a double amputee. In such cases the applicant will have a simplified renewal process, only needing to supply evidence of their identity, residence and a photograph. They will still be expected to sign the declaration form.

Pennod 2: Penderfynu a yw ymgeiswyr yn gymwys

Meini prawf cymhwysedd

Ni ddylid rhoi bathodyn o dan unrhyw amgylchiadau i ymgeisydd nad yw'n bodloni un o'r meini prawf cymhwysedd a osodwyd yn y ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu’r cynllun; ac ni ddylid fyth rhoi bathodynnau i bobl ar sail eu hoedran yn unig.

Bernir a yw unigolyn yn gymwys i gael Bathodyn Glas yn nhermau bod yn gymwys gyda neu heb asesiad pellach. Ar yr amod y gall yr ymgeisydd gyflwyno tystiolaeth ar gyfer un neu fwy o'r meini prawf a restrir ac y gall fodloni gwiriadau adnabod a phreswylio, dylid rhoi bathodyn iddo.

Cymwys heb asesiad pellach (cymhwysedd awtomatig)

Pobl y gellir rhoi bathodyn iddynt heb asesiad pellach yw’r rheiny sy’n hŷn na dwy flwydd oed ac sy’n dod o dan un neu ragor o’r disgrifiadau cymhwysedd awtomatig isod.

Mae’r tabl isod yn nodi’r meini prawf cymhwysedd a’r gofynion o ran tystiolaeth: 

Meini prawf cymhwysedd awtomatig

Tystiolaeth

Mae’r ymgeisydd yn cael Cyfradd Uwch Elfen Symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl

Copi gwreiddiol o lythyr dyfarniad Cyfradd Uwch Elfen Symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl ac arno ddyddiad yn ystod y 12 mis diwethaf

Mae’r ymgeisydd yn cael Atodiad Symudedd Pensiynwyr Rhyfel

Llythyr hawliad gwreiddiol

Mae’r ymgeisydd yn cael Cynllun

Iawndal y Lluoedd Arfog (tariff 1-8)

Copi gwreiddiol o lythyr dyfarniad, sydd hefyd yn ardystio bod gennych anabledd parhaol a sylweddol sy’n achosi anallu i gerdded neu anhawster sylweddol iawn wrth gerdded

Pobl y dyfarnwyd iddynt Dariff 6,

 - Anhwylder Meddyliol Parhaol

o Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog.

Copi gwreiddiol o lythyr dyfarniad sy’n dangos y dyfarnwyd i’r ymgeisydd dariff 6 - Anhwylder Meddyliol Parhaol o dan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog

Mae’r ymgeisydd wedi’i gofrestru fel unigolyn â nam ar y golwg o dan adran 29(4)(g) Deddf Cymorth Gwladol 1948

Adroddiad offthalmolegydd neu ffurflen CV1/BD8 yn cadarnhau bod y person “â nam difrifol ar ei olwg (dall)” neu gofrestriad gydag awdurdod lleol fel unigolyn â nam ar ei olwg

Pobl sy’n cael Taliad Annibyniaeth Personol fel a nodir:

  • Gweithgaredd Symudedd 1, disgrifydd f (12 pwynt);

neu

  • Weithgaredd Symudedd 2, disgrifyddion c, d, e neu f

(8 pwynt neu ragor)

Copi gwreiddiol o lythyr dyfarnu sy’n nodi’n glir y sgôr ar gyfer pob disgrifydd gweithgaredd.

Nodwch: Ar gyfer ymgeiswyr sy’n cael Taliad Annibyniaeth Bersonol, ni ddylai awdurdod lleol seilio penderfyniad i ddyfarnu bathodyn o dan feini prawf y Taliad Annibyniaeth Bersonol ar sgôr gyfun o’r disgrifyddion symudedd h.y. Gweithgaredd Symudedd 1 a Gweithgaredd Symudedd 2. Os nad yw ymgeisydd yn cyrraedd y sgôr ofynnol ar gyfer naill ai Gweithgaredd Symudedd 1 (12 pwynt) neu Weithgaredd 2 (8-12 pwynt), mae’n methu bodloni’r meini prawf awtomatig.

Os yw ymgeisydd yn dymuno herio penderfyniad i beidio â dyfarnu bathodyn, dylech esbonio bod manylion y disgrifyddion a'r sgoriau cymhwyso wedi'u nodi yn y rheoliadau. Os yw’n dymuno apelio yn erbyn y TAB a ddyfarnwyd iddo, dylid ei gyfeirio at yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Cymwys yn amodol ar asesiad pellach (cymhwysedd dewisol)

Mae Awdurdodau Lleol yn gyfrifol am wirio bod ymgeiswyr wedi darparu tystiolaeth berthnasol a digonol i ategu eu cais.

Rhaid i'r Awdurdod Lleol sicrhau y gellir gwneud asesiad cadarn, gan ddefnyddio tystiolaeth broffesiynol gofal iechyd, gan gynnwys adroddiadau, llythyrau (nid llythyrau penodi) crynodebau ac asesiadau gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol perthnasol sy'n ymwneud â gofal ymgeisydd.

Ar adeg y cais, rhaid i bob Awdurdod Lleol ofyn am ragor o dystiolaeth berthnasol, pe bai tystiolaeth a ddarperir gan yr ymgeisydd yn annigonol.

Meini prawf cymhwysedd dewisol

Tystiolaeth

Mae ganddo anabledd parhaol a sylweddol sy'n achosi anallu i gerdded neu anhawster sylweddol iawn wrth gerdded

Mae Llywodraeth Cymru’n argymell defnyddio’r holl dystiolaeth briodol sydd ar gael ac mae’n bosibl y bydd yr awdurdod lleol yn dymuno cymryd y canlynol i ystyriaeth:

  • Asesiadau a gyflawnir gan ddarparwyr gwasanaethau yn yr awdurdod lleol
  • Cymhorthion cerdded a ddefnyddir
  • Poen ormodol wrth gerdded ac ar ôl cerdded,
  • Diffyg anadl,
  • Y pellter y gall gerdded,
  • Defnyddio ocsigen,
  • Rhai mathau o feddyginiaeth.

Mae rhagor o ganllawiau anstatudol ar gael i awdurdodau lleol i’w cynorthwyo wrth benderfynu a yw unigolyn yn bodloni’r meini prawf, drwy ddyfarnu pwysoliad i’r gwahanol fathau o dystiolaeth mae’n eu cyflwyno. Nid yw’r pwysoliad ar gael yn gyhoeddus er mwyn mynd i’r afael â cheisiadau twyllodrus.

Argymhellir i awdurdodau lleol beidio â dibynnu ar lythyrau oddi wrth ymarferwyr cyffredinol. Mae ymarferwyr cyffredinol yn glinigwyr sy’n arbenigo ar ddiagnosis a thriniaeth. Nid yw cymhwysedd i gael Bathodyn Glas yn dibynnu ar ddiagnosis, ond ar faint o nam sydd ar symudedd unigolyn, sydd y tu allan i arbenigedd y rhan fwyaf o ymarferwyr cyffredinol.  

Mae ganddo anabledd sylweddol dros dro sy’n achosi anallu i gerdded neu anhawster sylweddol iawn wrth gerdded. Rhaid i’r anabledd bara o leiaf 12 mis.

Mewn achosion fel hyn mae Llywodraeth Cymru’n argymell i’r cais gael ei asesu gan y Gwasanaeth Asesu Annibynnol, i benderfynu a yw’r ymgeisydd yn bodloni’r meini prawf symudedd ac amser.

Mae’n gyrru cerbyd yn rheolaidd, mae ganddo anabledd yn y ddwy fraich ac nid yw’n gallu gweithredu, neu mae’n cael anhawster sylweddol wrth weithredu, pob math neu rai mathau o offer parcio 

Dylid gosod ar drwydded yrru’r ymgeisydd un neu’r llall o’r codau canlynol:

40 – Llyw wedi’i addasu

79 – Cyfyngedig i gerbydau sy’n cydymffurfio â’r manylebau a nodir mewn cromfachau

Pobl sydd â salwch angheuol (achos arbennig) a nam symud

Copi gwreiddiol o ffurflen SR1 neu, lle bo’n berthnasol, llythyr i ategu’r cais oddi wrth nyrs McMillan neu Tenovus neu feddyg ymgynghorol

Plentyn o dan 3 oed y mae’n rhaid bob amser, oherwydd ei gyflwr, mynd ag offer meddygol swmpus gydag ef na ellir ei gludo o amgylch gyda’r plentyn heb beri anhawster mawr

 

Dylai eu cais ddangos y dylai tystiolaeth gynnwys llythyr gan bediatregydd yn amlinellu cyflwr meddygol y plentyn a gall gynnwys adroddiadau ffisiotherapi, therapi galwedigaethol neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol perthnasol eraill

Mae rhagor o fanylion am y mathau o offer i’w gweld isod

Rhoddir isod ragor o fanylion y mathau o offer

Plentyn o dan 3 oed y mae’n rhaid iddo bob amser, oherwydd ei gyflwr, gael ei gadw’n agos at gerbyd modur er mwyn rhoi triniaeth ar gyfer y cyflwr hwnnw pe bai angen, naill ai yn y cerbyd neu drwy fynd â’r plentyn yn gyflym yn y cerbyd i fan lle gellir rhoi triniaeth o’r fath

 

Gall eu cais gynnwys llythyr gan bediatregydd yn amlinellu cyflwr meddygol y plentyn, nyrs arbenigol, ffisiotherapydd, therapydd galwedigaethol neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol perthnasol eraill  

Rhoddir isod enghreifftiau o fathau o gyflyrau lle byddai angen stopio i roi triniaeth feddygol frys

 

Mae’r ymgeisydd, o ganlyniad i nam gwybyddol, yn methu dilyn llwybr taith gyfarwydd heb gymorth person arall.

 

Tystiolaeth o apwyntiadau gyda chlinig cof y bwrdd iechyd lleol neu gofrestriad ar gofrestr anabledd dysgu’r awdurdod lleol.

Mae angen llythyrau gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n ymwneud â gofal neu driniaeth yr unigolyn, gyda manylion y cyflwr, pam eu bod mewn perygl wrth gerdded a beth sy'n peri iddynt fod angen cymorth person arall arnynt

.

Canllawiau cyffredinol ar benderfynu ynghylch cymhwysedd

Dylid trin pob cais am Fathodyn Glas fesul achos unigol, a'r awdurdod lleol sy'n rhoi'r bathodyn sydd i benderfynu'n derfynol a yw ymgeisydd yn bodloni'r maen prawf. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw rym i ymyrryd mewn penderfyniadau sy’n cael eu gwneud mewn achosion unigol.

Dylid ystyried cymhwysedd yn ofalus er mwyn sicrhau y tegwch a chysondeb mwyaf posibl wrth benderfynu ynghylch cymhwysedd i gael bathodyn cyn ei roi. Dylai awdurdodau lleol hefyd gadw cofnod o'r gweithdrefnau a ddefnyddir a chanlyniad ceisiadau. Bydd hyn yn helpu'r awdurdod i sicrhau mwy o dryloywder i'r ymgeiswyr ac i ddangos bod y gweithdrefnau cywir wedi'u dilyn os ceir cwyn.

Mae Llywodraeth Cymru’n argymell, lle bo modd, y dylid cael tystiolaeth o gyflwr meddygol  unigolyn oddi wrth weithiwr gofal iechyd proffesiynol annibynnol, yn hytrach nag oddi wrth ymarferydd cyffredinol yr ymgeisydd. 

Rhannu gwybodaeth

Drwy groeswirio cofnodion presennol y cyngor mewn modd deallus, gellir canfod gwybodaeth i ategu cais o dan y maen prawf cerdded ‘yn amodol ar asesiad pellach’. Mae’n bosibl y bydd ymgeisydd wedi cael asesiad gweithredol cysylltiedig gydag adran wahanol o’r cyngor neu ddarparwr iechyd a dylid gwirio hyn wrth ei ddatgelu yn ystod asesiad.

Mae darparwyr gofal iechyd yn debygol o fod yn ffynhonnell dda o dystiolaeth er mwyn helpu'r awdurdod lleol i benderfynu ynghylch cymhwysedd i gael Bathodyn Glas. Efallai bod gan awdurdodau lleol drefniadau i gyrchu gwybodaeth gan ddarparwyr iechyd, neu mae’n bosibl bod gan yr ymgeisydd dystiolaeth o wasanaethau symudedd y mae wedi’u defnyddio yn ystod y 12 mis diwethaf oddi wrth:

  • meddygon ymgynghorol neu arbenigwyr mewn ysbyty
  • ffisiotherapyddion
  • therapyddion galwedigaethol
  • nyrs arbenigol
  • clinigau poen
  • nyrs ardal
  • nyrs seiciatrig gymunedol

Dylid hefyd ystyried ffynonellau tystiolaeth eraill i roi trosolwg llawn o'r ymgeisydd a'i anawsterau a'r cyfyngu sydd arno yn y gymuned neu wrth gwblhau gweithgareddau o ddydd i ddydd. Gweithwyr proffesiynol eraill sydd â gwybodaeth a allai ddarparu tystiolaeth yw:

  • therapi lleferydd ac iaith
  • orthoteg
  • Cynllun Datblygu Unigol ysgol neu ddatganiad Darpariaeth Dysgu Ychwanegol, gweithiwr cymdeithasol, arbenigwr chwarae, athro neu gynorthwyydd addysgu
  • osteopath/Ceiropractydd
  • clinig cof/nyrs neu therapydd arbenigol
  • seicolegydd/therapydd ymddygiadol
  • asiantaeth gofal/gweithiwr allweddol/

Mae'n bwysig sicrhau bod y dystiolaeth a gesglir yn caniatáu i’r awdurdod lleol asesu gan ddefnyddio tystiolaeth fesul achos sy'n berthnasol i'r unigolyn hwnnw.

Rhaid ystyried yr holl dystiolaeth berthnasol a gyflwynir fel rhan o gais am Fathodyn Glas yn llawn ac fel rhan o broses asesu'r Bathodyn Glas.

Mae angen cynnwys datganiadau priodol ar ffurflen gais y Bathodyn Glas er mwyn alluogi ymgeiswyr i roi caniatâd i'r awdurdod lleol gyrchu cofnodion sy’n bodoli eisoes.

Os nad yw'r wybodaeth sydd ar gael yn ddigonol i wneud penderfyniad ynghylch y cais, mae’n bosibl y bydd yr awdurdod lleol yn dymuno cynnal cyfweliad pellach â'r unigolyn neu ei atgyfeirio at y Gwasanaeth Asesu Annibynnol. Ym mhob achos, mae'n bwysig i'r ymgeisydd lofnodi datganiad sy'n nodi bod y cais yn adlewyrchiad cywir o'i gyflwr a'i fod yn ymwybodol y gallai ceisiadau twyllodrus arwain at euogfarn droseddol a dirwy o hyd at £1,000.

Sut i gadarnhau prawf cymhwysedd: heb asesiad pellach

Er mwyn symleiddio'r gwaith gweinyddol wrth wirio prawf ymgeisydd o'i hawl i gael bathodyn glas, dylai awdurdodau lleol ystyried defnyddio cofnodion electronig am yr ymgeisydd a gedwir gan adrannau eraill o'r cyngor ac asiantaethau, lle bo'r cofnodion hynny'n hygyrch ac yn gyfredol. Mae'n rhaid i ymgeiswyr gydsynio i rannu unrhyw wybodaeth bersonol at ddiben eilaidd o dan Reoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU. Dylid gofyn am y cydsyniad hwn yn yr adran Datganiad ar y ffurflen gais am Fathodyn Glas.

Cyfradd uwch elfen symudedd y lwfans byw i'r anabl

Bydd gan ymgeisydd sy'n derbyn Elfen Symudedd Cyfradd Uwch y Lwfans Byw i’r Anabl lythyr dyfarnu oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau. Bydd hefyd yn cael llythyr uwchraddio blynyddol, yn nodi'r swm y mae ganddo hawl iddo. Os dyfarnwyd y Gyfradd Uwch o fewn cyfnod o 12 mis cyn dyddiad y cais am Fathodyn Glas, dylai awdurdodau lleol ofyn am gopi o'r llythyr gwreiddiol. Os yw'r llythyr dyfarnu yn fwy na 12 mis oed, dylai awdurdodau lleol ofyn i ymgeiswyr am gopi o'r llythyr uwchraddio blynyddol i brofi eu bod yn cael y Gyfradd Uwch.

Mae dyfarniadau "amhenodol" neu "am oes" yn parhau i gael eu hadolygu, felly mae'n bosibl na fydd llythyrau dyfarnu hŷn yn ffyrdd dibynadwy o ddangos a yw'r Gyfradd Uwch wedi'i dyfarnu i unigolyn ar y pryd. Os yw'r ymgeisydd wedi colli ei lythyr dyfarnu neu uwchraddio ar gyfer y Gyfradd Uwch, gellir ei gynghori i gysylltu â'r Ganolfan Gwasanaethau Anabledd i ofyn am lythyr dyfarnu cyfredol drwy'r dulliau canlynol: Contact the Disability Service Centre

O dan y meini prawf hyn, bydd y llythyr uwchraddio yn nodi am ba hyd y dyfernir y Gyfradd Uwch. Dylid rhoi'r Bathodyn Glas am yr un cyfnod, neu am dair blynedd, pa un bynnag yw'r cyfnod byrraf.

Prawf o fod wedi'i gofrestru'n ddall (nam difrifol ar y golwg)

Yn aml bydd ymgeisydd sydd wedi'i gofrestru'n ddall neu fel rhywun â "nam difrifol ar y golwg" wedi'i gofrestru gydag Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod lleol (neu eu hasiantau). Fodd bynnag, dylai gweinyddwyr awdurdod lleol nodi mai gweithred wirfoddol yw cofrestru. Yr hysbysiad ffurfiol sy’n ofynnol er mwyn cofrestru fel unigolyn â nam “difrifol” ar y golwg yw Tystysgrif Nam ar y Golwg (CVI(W)) wedi'i llofnodi gan Offthalmolegydd Ymgynghorol. Dylai'r unigolyn fod â chopi o'i CVI(W) yn ei feddiant, a dylid ei annog i gofrestru os nad yw wedi gwneud hynny eisoes, oherwydd gallai fod â hawl i wahanol fudd-daliadau eraill hefyd.

Prawf o gael Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel

Bydd gan ymgeisydd sy'n cael yr Atodiad Symudedd lythyr dyfarnu oddi wrth Veterans UK. Gellir cysylltu â’r corff drwy'r rhif ffôn ymholiadau di-dâl: 0808 191 4218.

Prawf o gael iawndal o Gynllun y lluoedd arfog: Lluoedd wrth gefn

Prawf o ddyfarnu cyfandaliad ar dariffau 1-8 o Gynllun (Iawndal) y Lluoedd Arfog; Lluoedd Wrth Gefn a hefyd ardystiad bod gan yr unigolyn anabledd parhaol a sylweddol sy'n achosi anallu i gerdded neu anhawster sylweddol iawn wrth gerdded; neu fod yr unigolyn yn cael iawndal ar dariff 6 o Gynllun y Lluoedd Arfog ar gyfer anhwylder meddyliol parhaol, sy'n achosi cyfyngiad gweithredol difrifol.

Bydd gan ymgeisydd sydd wedi cael y dyfarniad a'r ardystiad uchod lythyr dyfarnu oddi wrth Asiantaeth y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr yn cadarnhau ei fod yn cael y dyfarniad priodol, ac unrhyw feini prawf cymhwyso o ran symudedd.

Gall awdurdodau lleol wirio cymhwysedd ymgeisydd drwy gysylltu â Veterans UK ar 0808 191 4218.

Sut i gadarnhau prawf cymhwysedd: yn amodol ar asesiad pellach

Pobl â namau cerdded

Mae’r meini prawf dewisol sy’n gysylltiedig â namau symudedd a gwybyddol yn rhoi cyfle i ymgeiswyr nad ydynt yn gallu gwneud cais am Lwfans Byw i'r Anabl neu Daliad Annibyniaeth Personol, neu sy’n dewis peidio gwneud hynny, wneud cais am Fathodyn Glas. Mae'n bwysig sicrhau tegwch yn y cynllun fel bod pawb yn cael ei asesu yn erbyn yr un meini prawf a'r un dull o fesur symudedd. Yn yr amgylchiadau hyn, disgwylir i bobl sy'n gwneud cais am fathodyn ddangos tystiolaeth broffesiynol gofal iechyd  i ategu eu cais.

Bydd angen i awdurdodau lleol roi ystyriaeth ofalus i’r dystiolaeth a ddarperir gan yr ymgeiswyr. Heb dystiolaeth ddigonol fod yr ymgeisydd yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, rhaid i’r awdurdod beidio â rhoi Bathodyn Glas.

I fod yn gymwys o dan y meini prawf hyn, rhaid i ymgeisydd fod ag anabledd parhaol a sylweddol (h.y. cyflwr sy'n debygol o bara am weddill ei oes) sy'n golygu na all gerdded, neu ei fod yn cael anhawster sylweddol iawn wrth gerdded. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos bod yr effaith ar eu gallu i gerdded mor fawr nes na fyddent yn gallu cyrchu nwyddau a gwasanaethau oni chaniateir iddynt barcio yn agos at siopau, adeiladau cyhoeddus a chyfleusterau eraill.

Dylai awdurdodau lleol fod yn ymwybodol nad yw'n briodol gwrthod rhoi Bathodyn Glas i ymgeisydd ar y sail y gall ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn annibynnol neu oherwydd bod ganddo gerdyn teithio rhatach eisoes, ac ar y sail honno yn unig.

Ym mhob achos, mae’r hawl i gael bathodyn yn dibynnu ar yr anhawster y mae'r ymgeisydd yn ei gael wrth gerdded. Ni ddylid ystyried agweddau eraill fel anhawster wrth gario parseli neu fagiau, neu broblemau wrth fynd i mewn ac allan o gerbydau.

Dylid atgoffa'r ymgeisydd yn y llythyr penderfyniad a anfonir ato fod dyletswydd arno i ddychwelyd y bathodyn i'r awdurdod lleol os bydd ei symudedd yn gwella ar unrhyw adeg.

Ceir achosion lle bydd yr ymgeisydd wedi cael diagnosis o gyflwr sy’n barhaol ac yn gronig, ond gall y cyflwr amrywio ac y bydd cyfnodau pan fydd yr unigolyn yn gallu symud yn rhwyddach. Gall y cyflyrau hyn, fel sglerosis ymledol, wella dros dro, ond mae'r prognosis ar gyfer y cyflwr yn golygu dirywiad parhaol. Yn yr amgylchiadau hyn, ni fyddai angen bathodyn ar yr unigolyn am gyfnodau, ond bydd yn dod yn fwyfwy hanfodol. Argymhellir dyfarnu’r bathodyn ar ôl i’r cyflwr ddechrau effeithio ar symudedd yr ymgeisydd mewn ffordd sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd.

Nid yw cyflyrau meddygol fel asthma, clefyd Crohn, cyflyrau sy'n achosi anymataliaeth ac Encephalomyelitis Myalgig (M.E) ynddynt eu hunain yn cymhwyso unigolyn i gael  bathodyn. Mae’n bosibl y bydd pobl â’r cyflyrau hyn yn gymwys i gael bathodyn, ond dim ond os ydynt yn cael Cyfran Uwch Elfen Symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl oherwydd eu cyflwr, neu os nad ydynt yn gallu cerdded neu os ydynt yn cael anhawster sylweddol iawn wrth gerdded, yn ychwanegol at eu cyflwr.

Gall fod yn heriol asesu ceisiadau o dan y meini prawf dewisol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau ac wedi ariannu Gwasanaeth Asesu Annibynnol i helpu awdurdodau i gynnal asesiadau. Os yw’r awdurdod lleol yn defnyddio arbenigwr ar symudedd gweithredol, mae angen iddo benderfynu a yw’r cais yn bodloni’r meini prawf a geir yn Atodiad B.

Namau dros dro

Bwriedir i’r meini prawf hyn gynnwys pobl sydd â nam ar eu symudedd y disgwylir iddo bara o leiaf 12 mis. Bydd yn bwysig nodi pobl ar y cyfle cyntaf ac os oes modd tra bônt yn cael triniaethau a therapi cychwynnol i gynorthwyo â’u hadferiad. Gall enghreifftiau gynnwys:

  • person sy’n ymadfer ar ôl toresgyrn cymhleth y goes, a reolir weithiau gyda sefydlogyddion allanol, am gyfnodau o dipyn mwy na blwyddyn;
  • person sy’n ymadfer ar ôl strôc neu anaf i’r pen sydd wedi effeithio ar ei symudedd;
  • person sy’n ymadfer ar ôl trawma i’r asgwrn cefn sy’n effeithio ar ei symudedd;
  • person sydd â salwch difrifol lle gall y driniaeth fod yn wanychol, er enghraifft triniaeth am ganser;
  • person sydd â namau gweithredol difrifol ar y goes sy’n aros am driniaeth i osod cymal newydd (e.e. clun ar un ochr neu’r ddwy ochr, pen-glin, ac ati), neu sydd wedi cael y fath driniaeth.

Dangosol yn unig yw’r rhestr hon ac ni fwriedir iddi fod yn holl gynhwysfawr: bydd angen i bob cais gael ei ystyried ar sail ei rinweddau unigol ei hun. 

Mewn achosion lle mae’n glir y bydd nam yr ymgeisydd yn gwella cyn pen 12 mis dylid gwrthod y cais heb asesiad pellach.  Dylid defnyddio tystiolaeth broffesiynol ym maes gofal iechyd i fod yn sail i'r penderfyniad hwn.

Prawf cymhwysedd

Mae’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer Bathodyn Glas dros dro wedi’u seilio ar anallu’r ymgeisydd i gerdded neu’r ffaith ei fod yn cael anhawster sylweddol wrth gerdded, ac mae’n defnyddio’r un mesuriad symudedd ag a ddefnyddir yn y meini prawf cymhwysedd parhaol. Bydd angen i geisiadau a wneir o dan y meini prawf cymhwysedd dros dro fod yn destun proses asesu drylwyr. Argymhellir i hon gael ei chyflawni gan weithwyr iechyd proffesiynol sy’n arbenigo ar symudedd gweithredol, megis therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion.

Bydd yn ofynnol cael tystiolaeth er mwyn penderfynu a yw’r nam yn debygol o bara am gyfnod o 12 mis. Mae yn debygol y bydd angen cyngor gan ymgynghorwyr, arbenigwyr neu therapyddion a gallai hwn gael ei ddarparu gan:

  • timau a therapyddion ysbytai aciwt
  • gwasanaethau therapi cymunedol
  • nyrsys arbenigol
  • timau ailalluogi mewn ysbyty sy’n ymwneud â gofal cleifion,
  • gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol sy’n cynorthwyo â’r gwaith o adsefydlu cleifion;
  • gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n darparu gwasanaethau arbenigol, a gellir talu am y rhain yn breifat, 
  • y Gwasanaeth Asesu Annibynnol a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Bydd angen i awdurdodau lleol sy’n cael cais o dan y meini prawf dros dro wirio a oes gan yr ymgeisydd dystiolaeth ategol oddi wrth ddarparwyr iechyd neu wasanaethau cymdeithasol. Dylai’r dystiolaeth nodi na all yr ymgeisydd gerdded neu ei fod yn cael anhawster sylweddol wrth gerdded, ac y disgwylir iddo fod â’r anawsterau hyn am 12 mis neu ragor. Lle bynnag y bo’n bosibl mae’r cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i ddarparu tystiolaeth ategol. Os na ddarperir tystiolaeth o’r fath, bydd angen i’r awdurdod lleol benderfynu a fydd yn atgyfeirio’r cais at y Gwasanaeth Asesu Annibynnol.

  • Un dangosydd da yw a yw’r ymgeisydd yn dilyn cwrs o therapi adsefydlu, er enghraifft ffisiotherapi, yna bydd y cais yn haeddu cael ei asesu ymhellach gan y Gwasanaeth Asesu Annibynnol.
  • Yr amser arferol i ymadfer ar ôl toresgyrn syml i’r coesau yw tri i bedwar mis a dylid gwrthod ceisiadau yn yr achosion hyn heb eu hatgyfeirio at y Gwasanaeth Asesu Annibynnol ond defnyddio tystiolaeth broffesiynol gofal iechyd fel prif elfen y broses o wneud penderfyniadau.  
  • Lle mae angen i ymgeisydd gael cymal newydd yn y goes ond nad yw’n addas i’w gael, er enghraifft oherwydd ei oedran neu lefel ffitrwydd, dylid ystyried y cais o dan y meini prawf dewisol am fathodyn parhaol.

Os yw’r ymgeisydd yn gwneud cais am fathodyn arall ar ôl i’w fathodyn dros dro ddod i ben dylai’r awdurdodau lleol asesu ei symudedd yn y ffordd arferol, gan gynnwys, os oes angen, ei atgyfeirio at y Gwasanaeth Asesu Annibynnol.

Disgwylir y bydd pob ymgeisydd sy’n gwneud cais arall am Fathodyn Glas o dan y meini prawf dros dro, wedi cael bathodyn o dan yr un meini prawf o’r blaen, yn cael ei atgyfeirio at y Gwasanaeth Asesu Annibynnol i gael asesiad oni fydd digon o dystiolaeth ar gael i’r awdurdod i ganiatáu iddo wneud penderfyniad.

Wrth ymdrin ag ail geisiadau o’r fath, caiff awdurdodau lleol eu hatgoffa hefyd bod y meini prawf hyn yn ceisio cynnwys unigolion sydd â chyflwr y disgwylir iddo bara 12 mis. Er bod yr asesiad gwreiddiol wedi penderfynu, o bosibl, eu bod yn bodloni’r meini prawf am gyfnod o fwy na 12 mis, bydd angen ystyried adferiad neu gynnydd yr ymgeisydd yn ogystal ag unrhyw beth arall a allai effeithio ar y prognosis gwreiddiol neu ei newid. 

Os yw’r person yn adennill symudedd neu os yw ei symudedd yn gwella’n sylweddol yn ystod cyfnod gweithredol y bathodyn, dylai ildio’r bathodyn fel y nodir yn y Llyfryn hawliau a chyfrifoldebau mae’n ei gael pan roddir ei fathodyn iddo.

Asesu pobl â namau ar y ddwy fraich

Bwriedir i’r meini prawf hyn gynnwys gyrwyr anabl nad ydynt yn gallu defnyddio offer parcio, oherwydd namau i’w dwy fraich, neu sy’n ei chael yn anodd iawn eu defnyddio.

Wrth wneud asesiad o dan y maen prawf hwn, bydd angen i awdurdodau lleol ystyried a yw’r ymgeisydd yn bodloni’r holl amodau canlynol:

  • yn gyrru cerbyd wedi'i addasu neu heb ei addasu yn rheolaidd;
  • â namau ar y ddwy fraich; ac
  • yn methu gweithredu, neu'n ei chael hi'n anodd iawn gweithredu, rhai mathau neu bob math o feter parcio.

At y diben hwn, mae 'meter parcio' yn cynnwys peiriant sy'n rhoi tocynnau talu ac arddangos sy'n dangos bod ffi wedi'i thalu ac y talwyd am y cyfnod parcio, yn ogystal â meter parcio sydd ynddo'i hun yn dangos bod ffi wedi’i thalu ac a yw'r cyfnod y talwyd amdano wedi dod i ben ai peidio.

Mae’r rhan fwyaf o yrwyr â namau ar y ddwy fraich yn gyrru cerbyd wedi'i addasu, a dylent allu darparu dogfennau yswiriant sy'n cynnwys datganiadau i’r perwyl hwn. Hefyd, bydd ymgeiswyr sydd wedi cofrestru eu cerbyd addasedig gyda'r DVLA yn gallu cyflwyno eu trwydded yrru a fydd yn cynnwys codau sy'n cyfeirio at yr addasiadau sydd wedi’u gwneud i'r cerbyd. Ceir hyd i'r rhain ar gefn y drwydded yrru cerdyn-llun (o dan gategori 12, codau gwybodaeth) ac yn yr adran 'codau' ar flaen yr wrthddalen bapur. Mae'r codau trwydded yrru canlynol yn berthnasol i'r maen prawf hwn:

  • 40: Llyw wedi’i addasu; a
  • 79: Cyfyngedig i gerbydau sy'n cydymffurfio â'r manylebau a nodir mewn cromfachau.

Dim ond gyrwyr â namau ar y ddwy fraich na allant weithredu meter parcio y dylid eu hystyried yn gymwys. Gall hyn gynnwys pobl sydd â’r canlynol, er enghraifft: diffyg ar y ddwy fraich sy'n lleihau eu hyd; y ddwy fraich wedi'u torri i ffwrdd; dystroffi cyhyrol; anaf i linyn asgwrn y cefn; clefyd niwronau motor; neu gyflwr o natur ddifrifol debyg.

Achosion arbennig: salwch angheuol

Mae'n bosibl na fydd unigolyn sy'n gwneud cais am Fathodyn Glas yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd cyffredinol, ond ei fod wedi cael diagnosis o gyflwr terfynol a bod ganddo namau symudedd. Er enghraifft, oherwydd natur y cyflwr, dim ond am gyfnod byr iawn y mae wedi bod â namau symudedd. Er mwyn gwneud wythnosau olaf ei fywyd yn rhwyddach, gallai awdurdodau lleol ystyried rhoi Bathodyn Glas.

Yn yr amgylchiadau hyn, ni fydd angen i'r ymgeisydd ddarparu prawf bod ei nam wedi bodoli ers chwe mis, ac y bydd yn parhau i fodoli. Mae arfer da wedi cael ei sefydlu, lle rhoddir bathodyn os cefnogir ei gais gan nyrs MacMillan neu Tenovus neu arbenigwr iechyd perthnasol (fel gweithiwr hosbis, therapydd galwedigaethol neu gynghorydd budd-dal lles), sy'n cynorthwyo pobl yn yr amgylchiadau hyn. Yn yr achosion hyn, defnyddir y ffurflen SR1 i ategu'r cais. Yn aml nyrs MacMillan neu arbenigwr iechyd perthnasol fydd yn gwneud cais ar ran yr unigolyn. Yn yr achosion hyn, mae’n bosibl na roddwyd gwybod i’r ymgeisydd fod ganddo salwch angheuol.

Asesu plant o dan dair oed

Mae plant o dan dair oed yn gymwys i gael bathodyn os ydynt yn dod o dan y naill neu’r llall o’r meini prawf canlynol, neu'r ddau:

  • plentyn y mae'n rhaid bob amser, oherwydd ei gyflwr, mynd ag offer meddygol swmpus gydag ef na ellir ei gludo o amgylch gyda'r plentyn heb beri anhawster mawr
  • phlentyn y mae'n rhaid iddo bob amser, oherwydd ei gyflwr, gael ei gadw'n agos at gerbyd modur er mwyn rhoi  triniaeth ar gyfer y cyflwr hwnnw pe bai angen, naill ai yn y cerbyd neu drwy fynd â’r plentyn yn gyflym yn y cerbyd i fan lle gellir rhoi triniaeth o'r fath.  

Enghreifftiau o blant o dan dair oed sy’n debygol o fodloni’r meini prawf a grybwyllir yn y pwynt bwled cyntaf yw’r rheiny y mae angen bob amser mynd ag offer o unrhyw un o’r mathau canlynol gyda hwy:

  • peiriannau anadlu – yn gyrru aer drwy bibell wedi'i gosod yn y bibell wynt. Maent yn chwythu aer wedi'i gyfoethogi ag ocsigen yn ysgafn i mewn i'r ysgyfaint drwy bibell a osodir drwy'r geg neu'r trwyn, neu drwy draceostomi.
  • peiriannau sugno - cyfarpar sugno cludadwy a ddefnyddir i sugno hylifau a chyfog o'r geg a'r llwybr anadlu. Gwneir hyn drwy sugno'r deunydd drwy gathetr i botel gan ddefnyddio pwmp gwactod (piston, diaffram neu lafnau sy'n troi), hidlydd bacteriol, medrydd gwactod, daliwr lleithder (neu unrhyw falurion a gaiff eu tynnu ar ddamwain i'r peirianwaith), cynhwysydd ar gyfer y deunydd a sugnwyd, a chathetr neu ffroenell sugno.
  • pympiau bwydo - sy'n trosglwyddo bwyd hylif drwy diwb trwyn i stumog y plentyn.
  • offer parenterol - yn gwasanaethu llinellau mewnwythiennol sy'n darparu maeth os na all plentyn gymryd bwyd na hylif drwy ei geg. Gellir defnyddio'r llinell hefyd i chwistrellu meddyginiaeth.
  • gyrwyr chwistrell - fe'u defnyddir i roi meddyginiaeth drwy chwistrelliad mewnwythiennol (e.e. gwrthfiotigau), neu drwy chwistrelliad isgroenol (e.e. inswlin i reoli diabetes). Gellir rhoi'r meddyginiaethau hyn drwy ddefnyddio pwmp bychan a elwir yn yrrwr chwistrell. Bydd chwistrell yn cael ei osod yn sownd wrth y gyrrwr chwistrell a'r cyffur yn cael ei ryddhau drwy nodwydd fechan.
  • offer gweini ocsigen - yn cynnwys tanc a rheolydd gydag offer cyflenwi ocsigen; masg neu ganiwla trwynol a thiwbiau.
  • offer ar gyfer monitro dirlawnder ocsigen parhaus - yn cynnwys dyfais sydd fel arfer wedi'i rwymo am droed neu law'r plentyn. Mae'r rhwymyn yn taflu golau drwy'r croen ac yn monitro faint o ocsigen sydd yn y gwaed. Fe'i defnyddir i fonitro pryd y gellid bod angen rhoi ocsigen i blentyn.
  • castiau ac offer meddygol cysylltiedig ar gyfer cywiro dysplasia'r glun. Rhwng genedigaeth plentyn a phan fydd yn chwe mis oed, gellir defnyddio brês o'r enw Harnais Pavlik i gadw cluniau'r baban yn y lle cywir. Mae harnais Pavlik wedi'i wneud o gynfas, gyda strapiau, felcro a byclau. O'r adeg pan fydd plentyn yn chwe mis oed, gellir rhoi’r plentyn mewn cast Spica ar ôl llawdriniaeth. Gall cast Spica  fod wedi'i wneud o blastr neu o wydr ffibr a bydd yn amgáu'r plentyn o'r frest at i lawr, gan orchuddio un goes neu'r ddwy. Yn y ddau achos, mae'n debygol y bydd y cyfarpar yn cael ei ddefnyddio am gyfnod o hyd at dri mis fesul clun.

Nodir isod enghreifftiau o blant â chyflyrau meddygol hynod ansefydlog ac arnynt angen mynediad cyflym at drafnidiaeth er mwyn mynd i’r ysbyty neu adref. Mae’r rhain yn debygol o fod yn gymwys o dan y maen prawf. Efallai y bydd angen i'r grŵp hwn hefyd aros i gyflawni triniaeth feddygol frys, e.e. defnyddio peiriant sugno i glirio tiwb traceostomi:

  • plant â thraceostomi
  • ag epilepsi/sy'n cael ffitiau difrifol
  • plant â diabetes ansefydlog iawn
  • achosion arbennig lle ceir plant â salwch angheuol nad ydynt ond yn gallu mwynhau bywyd y tu allan am gyfnodau byr iawn, ac maen arnynt angen llwybr cyflym adref.

Argymhellir y dylai awdurdodau lleol drin pob cais ar gyfer plentyn o dan dair oed fel achos arbennig. Gall hyn olygu gwneud trefniadau i weld y plentyn, er na ddylid bod angen gwneud hyn os oes modd i bediatregydd y plentyn ysgrifennu llythyr yn disgrifio cyflwr meddygol y plentyn ac unrhyw offer arbennig y mae angen iddo eu defnyddio.

Ni ddylid bod angen gwneud asesiad meddygol.

Wrth roi’r bathodyn, dylai awdurdodau lleol gyfleu'n glir y dylid dychwelyd y bathodyn hwnnw iddo ar ôl iddo ddod i ben, neu os nad oes ei angen ar y derbynnydd mwyach, gan nad yw’r cyflwr y rhoddwyd y bathodyn o’i herwydd yn berthnasol mwyach. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yn achos plant â dysplasia'r glun gan fod yr ôl-driniaeth fel arfer wedi'i chyfyngu i gyfnod rhwng tri a chwe mis.

Dylai awdurdodau lleol nodi mai rhestrau dangosol yn unig yw'r uchod, ac ni fwriedir iddynt fod yn holl gynhwysol. Mae hyn er mwyn caniatáu ar gyfer datblygiadau newydd ym maes technoleg ac offer triniaethau.

Pobl sy’n methu cynllunio neu ddilyn taith

Mae’r maen prawf cymhwysedd hwn i bobl nad ydynt yn gallu gwneud cais am Daliad Annibyniaeth Bersonol gan nad ydynt o oedran gweithio, neu sy'n dewis peidio â gwneud cais amdano. Pe baent yn gwneud cais am Daliad Annibyniaeth Bersonol, byddent yn cael eu hasesu fel ymgeiswyr sy'n bodloni Gweithgaredd Symudedd 1, disgrifydd f (12 pwynt) gan nad ydynt yn gallu dilyn llwybr unrhyw daith heb gymorth gan rywun arall. Mae'r meini prawf dewisol hyn felly'n sicrhau mynediad teg at gynllun y Bathodyn Glas i blant rhwng 3 ac 16 oed, a phobl dros 65 oed.

Rhaid i ymgeiswyr yn yr achosion hyn allu cadarnhau eu bod wedi cael diagnosis o nam gwybyddol. Rhoddir enghreifftiau isod o namau gwybyddol:

  • Clefyd Alzheimer
  • Dementia
  • Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig
  • Anabledd dysgu
  • Nam iechyd meddwl

Bydd angen i’r cais ddarparu tystiolaeth na all y person gynllunio a dilyn unrhyw daith oherwydd ei nam gwybyddol, ar ffurf y canlynol:

  • Mae'r ymgeisydd wedi'i gofrestru gyda'r awdurdod lleol fel unigolyn ag anabledd dysgu (efallai caiff hyn ei ddisgrifio fel anhawster dysgu), neu 
  • Mae’r ymgeisydd wedi mynd i glinig cof, neu
  • Gall yr ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ar ffurf llythyrau, adroddiadau neu asesiadau swyddogaethol gan weithiwr iechyd proffesiynol perthnasol (seiciatrydd, seicolegydd, therapydd galwedigaethol, gweithiwr cymdeithasol, asiantaeth gofal) sy'n cadarnhau bod arno angen goruchwyliaeth ar bob taith, yn ychwanegol at yr hyn a ddisgwylid fel arfer ar gyfer unigolyn o'r un oedran.

Yn yr achosion hynny lle na all ymgeisydd ddarparu'r dystiolaeth hon, ond y gall ddarparu tystiolaeth o ddyfarnu Cyfradd Uwch Elfen Gofal y Lwfans Byw i'r Anabl, dylid anfon yr achos i sylw'r Gwasanaeth Cynghori Annibynnol, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i gael cyngor ar gymhwysedd.

Meini prawf cymhwysedd ar gyfer sefydliadau

Gellir rhoi bathodyn sefydliad i sefydliad ei ddefnyddio mewn cerbyd neu gerbydau modur pan fydd bwriad i ddefnyddio'r cerbyd neu'r cerbydau i gludo pobl a fyddai'n gymwys i gael bathodyn eu hunain, pe baent yn gwneud cais unigol (Troednodyn 1).

Diffinnir sefydliad fel sefydliad sy’n ymwneud â gofalu am bersonau anabl y gellir rhoi Bathodyn Glas iddo yn unol ag adran 21(4) o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 (Troednodyn 2).

Bydd angen i awdurdodau lleol wirio’r canlynol yn achos y sefydliad dan sylw:

  • ei fod yn cludo ac yn gofalu am bobl a fyddai eu hunain yn bodloni un neu fwy o'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer Bathodyn Glas unigol; 
  • bod ganddo angen clir am fathodyn sefydliad, yn hytrach na defnyddio Bathodynnau Glas unigol y bobl y mae'n eu cludo.

Asesu ceisiadau am fathodyn sefydliad

Dylid archwilio ceisiadau am fathodynnau gan sefydliadau sy'n gofalu am bobl er mwyn sicrhau bod y ceisiadau hynny'n ddilys ac yn angenrheidiol. Awdurdodau lleol sydd i farnu ynghylch hyn, yn seiliedig ar eu gwybodaeth leol am y sefydliad dan sylw. Mae'r enghreifftiau cyffredin o sefydliadau a allai fod yn gymwys yn cynnwys cartrefi gofal preswyl, hosbisau neu adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol sy'n cludo grwpiau o bobl a fyddai'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer Bathodyn Glas unigol.

Wrth wneud cais, gellid gofyn i sefydliadau ddarparu'r un math o wybodaeth ag sy'n ofynnol gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) i drwyddedu cerbyd o dan ddosbarth trethu Cerbyd Teithiwr Anabl (DPV) er mwyn eithrio rhag gorfod talu treth car. Er mwyn trwyddedu cerbyd yn nosbarth trethu'r DPV, mae angen i sefydliad gyflwyno datganiad wedi'i lofnodi ar bapur pennawd y sefydliad. Mae angen i'r datganiad nodi bod y sefydliad yn ymwneud â gofalu am bobl gymwys ac y bydd yn defnyddio'r cerbyd i gludo'r bobl hynny yn unig.

Dylai’r datganiad gael ei lofnodi gan Aelod o Fwrdd neu un o Ymddiriedolwyr y sefydliad.

Er mwyn helpu i benderfynu ynghylch cymhwysedd ceisiadau, gallai awdurdodau lleol ofyn y cwestiynau canlynol i'r sefydliadau sy'n gwneud cais:

  • faint o bobl gymwys sy’n derbyn gofal
  • pa fath o gerbyd(au) a ddefnyddir i'w cludo; a yw wedi'i addasu, ac os felly beth yw natur yr addasiad
  • pam mae’r sefydliad yn teimlo bod angen bathodyn sefydliad arno yn hytrach na defnyddio Bathodynnau Glas unigol y bobl y mae'n gofalu amdanynt
  • pha mor aml y mae’r bathodyn yn debygol o gael ei ddefnyddio ac at ba ddiben.

Nid yw'r Rheoliadau sy'n rheoli'r cynllun yn cyfeirio'n benodol at y niferoedd gwirioneddol sydd i ‘dderbyn gofal' er mwyn bod yn gymwys i gael bathodyn.  Gall sefydliadau cymwys wneud cais am fathodyn sefydliadol ar gyfer eu hunain, fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn argymell, lle nad oes llawer o bobl yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer bathodyn y dylai'r bobl gymwys eu hunain neu eu gofalwr/perthynas wneud cais am y bathodyn.  Mae hyn wedyn yn caniatáu i'r person cymwys ddefnyddio'r bathodyn yn annibynnol ar y sefydliad mewn unrhyw gerbyd y mae'n teithio ynddo fel gyrrwr neu deithiwr i ymweld â theulu/ffrindiau neu apwyntiadau meddygol ac ati.  

Ym mhob sefyllfa, rhaid rhoi bathodynnau i'r sefydliad yn hytrach na chyflogeion unigol. Fodd bynnag, yn yr un modd ag a wneir gydag ymgeiswyr eraill llwyddiannus, argymhellir y dylid anfon copi o'r daflen ‘Cynllun y Bathodyn Glas: hawliau a chyfrifoldebau ar gyfer sefydliadau’ i sefydliadau y rhoddir Bathodyn Glas iddynt.

Argymhellir hefyd fod holl gyflogeion y sefydliad a fydd yn defnyddio'r bathodyn yn cael eu hatgoffa bod yn rhaid iddynt beidio â defnyddio'r bathodyn ond at ddibenion cludo pobl gymwys sy'n bodloni un neu ragor o'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer bathodyn. Dylid atgoffa'r cyflogeion hyn y gallent wynebu dirwy o hyd at £1,000, os ydynt yn defnyddio'r bathodyn i fanteisio ar y consesiynau pan nad oes unrhyw deithwyr yn y cerbyd sydd yn gymwys i gael bathodyn eu hunain.

Pennod 3: Gweinyddu’r cynllun ar ôl yr asesiad

Ceisiadau sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd

Pan fydd yr awdurdod lleol wedi penderfynu bod cais yn bodloni'r meini prawf bydd angen iddo brosesu manylion y cais drwy ap gwe BBDS Rheoli Bathodynnau Glas (neu drwy eu System Rheoli Achosion eu hunain). Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar: BBDS guidance (confluence)

Mae gan y BBDS amryw o drefniadau ar gyfer danfon bathodynnau, gan gynnwys danfoniadau cyflym ar gyfer ceisiadau mewn achosion arbennig oddi wrth bobl a chanddynt salwch angheuol (am gost ychwanegol). Bydd y BBDS yn anfon y bathodyn i gyfeiriad a nodir gan yr awdurdod lleol. Awdurdodau lleol fydd yn penderfynu pa system ddanfon i'w defnyddio, ac a ddylid danfon y bathodyn i gyfeiriad cartref yr ymgeisydd neu i swyddfa awdurdod lleol lle gellir ei gasglu.

Mewn achosion lle mae'r awdurdod lleol wedi derbyn a phrosesu cais dros y ffôn, drwy'r post neu'n electronig, ac nad yw wedi gweld yr ymgeisydd, efallai y bydd yn well ganddo drefnu bod yr ymgeisydd yn dod i gasglu'r bathodyn. Bryd hynny, gall yr awdurdod lleol wirio bod y ffotograff yn cyd-fynd â'r sawl sydd wedi'i enwi ar y bathodyn. Bydd casglu'r bathodyn oddi wrth swyddog awdurdod lleol hefyd yn galluogi'r awdurdod lleol i gasglu hen fathodynnau sydd wedi dod i ben. Mae cael gwared â bathodynnau sydd wedi dod i ben yn lleihau twyll.

Yng Nghymru, rhoddir bathodyn dwyieithog ynghyd â chloc. Hefyd rhoddir i ddeiliad y bathodyn y llyfryn "Cynllun y Bathodyn Glas: hawliau a chyfrifoldebau" er mwyn iddo wybod sut i ddefnyddio'r bathodyn ac osgoi ei gamddefnyddio'n anfwriadol. Tynnir llun o bob bathodyn a llyfryn a anfonir gan y BBDS fel tystiolaeth eu bod wedi'u hanfon at y sawl a wnaeth gais am fathodyn.

Pan anfonir bathodyn drwy'r post, caiff llythyr esboniadol ei gynnwys sy'n cyfeirio at reolau a chyfrifoldebau deiliad y bathodyn.

Cyfnod gweithredol

Bydd mwyafrif y Bathodynnau Glas a roddir yn weithredol am gyfnod o dair blynedd (Troednodyn 3). Fodd bynnag, mae rhai eithriadau fel yr esbonnir isod:

  • yn achos plant o dan dair oed, dylid rhoi bathodyn am gyfnod uchafswm fydd yn dod i ben ar y diwrnod yn syth ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed (Troednodyn 4).
  • lle mae’r hawl i gael Bathodyn Glas yn gysylltiedig â chael Taliad Annibyniaeth Bersonol, Cyfradd Uwch Elfen Symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl neu'r Atodiad Symudedd Pensiynwyr Rhyfel, dylai'r cyfnod gweithredol fod yn gysylltiedig â'r cyfnod y ceir y lwfans hwnnw, lle mae'r cyfnod dan sylw yn fyrrach na 3 blynedd (Troednodyn 5).
  • caiff bathodynnau a roddir o dan feini prawf nam dros dro ar symudedd eu rhoi am 12 mis.

Lle dyfarnwyd y Gyfradd Uwch, y Taliad Annibyniaeth Bersonol neu'r Atodiad Symudedd Pensiynwyr Rhyfel am gyfnod hwy na thair blynedd, ni ellir ond rhoi'r bathodyn am y cyfnod safonol o dair blynedd er hynny. Mae'n rhaid i ddeiliad y bathodyn wneud cais arall bob tro y bydd ei fathodyn yn dod i ben.

Sail dros wrthod rhoi Bathodyn Glas

Caiff awdurdod lleol wrthod rhoi Bathodyn Glas (Troednodyn 6) o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • os oes/oedd gan yr ymgeisydd fathodyn a bod camddefnydd ohono wedi arwain at "euogfarn berthnasol” am drosedd (Troednodyn 7).
  • os yw'r ymgeisydd yn methu darparu tystiolaeth ddigonol o'i gymhwysedd i'r awdurdod lleol, naill ai fel unigolyn neu fel sefydliad cymwys;
  • os yw'r ymgeisydd yn methu darparu tystiolaeth preswylio ddigonol;
  • oes gan yr ymgeisydd fathodyn dilys eisoes a roddwyd gan awdurdod lleol arall; neu
  • os oes gan yr awdurdod lleol - sail resymol dros gredu nad yr ymgeisydd yw’r sawl y mae’n honni bod; neu y byddai'n caniatáu i rywun arall na roddwyd y bathodyn iddo ddefnyddio'r bathodyn;
  • os nad yw'r ffi ofynnol wedi'i thalu mewn perthynas â bathodyn sefydliad neu fathodyn newydd yn lle un wedi'i golli/ddwyn/ddifrodi.

Yn yr achosion hyn rhaid i’r llythyr gwrthod nodi’n glir y rhesymau pam mae’r cais wedi cael ei wrthod.

Nid oes unrhyw derfyn amser wedi'i nodi yn y ddeddfwriaeth ar gyfer y cyfnod lle gall awdurdod lleol wrthod rhoi Bathodyn Glas i ymgeisydd. Mae angen i awdurdodau lleol ddatblygu eu gweithdrefnau eu hunain, gan nodi ym mha amgylchiadau y gall ymgeiswyr wneud ail gais, a chynnwys y cyngor hwn yn eu llythyrau.

Ceisiadau nad ydynt yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd

Pan na fydd cais yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, a'r cais hwnnw'n cael ei wrthod, dylai awdurdodau lleol esbonio'r rhesymau wrth wraidd y penderfyniad i beidio â rhoi Bathodyn Glas (Troednodyn 8). Argymhellir y dylai llythyrau gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • bod y cais wedi'i wrthod gan nad yw'r ymgeisydd yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd a nodir yn y ddeddfwriaeth, yn ôl yr wybodaeth a ddarparwyd;
  • y rheswm penodol dros wrthod y cais, gan gynnwys cymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl;
  • os yw'r ymgeisydd yn canfod bod ei gyflwr yn dirywio'n gyflym a bod ei allu i gerdded yn gwaethygu, neu os bydd anabledd newydd yn digwydd sy'n golygu nad yw'n gallu cerdded, neu ei fod yn cael anhawster sylweddol i gerdded, y dylid cysylltu â'r awdurdod lleol; ac
  • y gweithdrefnau adolygu mewnol sydd ar gael

Bydd rhoi esboniad llawn o nodau'r cynllun a'r rheswm pam y mae cais wedi'i wrthod yn galluogi'r ymgeisydd i ddeall pam nad yw ei gyflwr yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd.

Herio penderfyniad yr awdurdod lleol

Yn y mwyafrif o achosion nid oes unrhyw broses apelio statudol wedi i’r awdurdod lleol benderfynu gwrthod cais (Troednodyn 9).  Mae Llywodraeth Cymru yn argymell y dylai'r awdurdod fod â pholisi clir ynghylch sut y bydd yn adolygu penderfyniadau am Fathodynnau Glas, pe bai ymgeisydd yn herio penderfyniad. Bydd angen i awdurdod lleol ofyn i’r ymgeisydd ddarparu rhagor o dystiolaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn deall y gallai rhai awdurdodau lleol gynnig asesiad pellach i'r ymgeisydd gan therapydd galwedigaethol neu weithwyr iechyd proffesiynol eraill. Wedyn dylai'r Tîm Bathodynnau Glas neu swyddog achos ystyried y dystiolaeth newydd hon, ac os caiff y cais ei wrthod unwaith eto, dylid rhoi esboniad pellach o'r penderfyniad hwnnw. Os caiff y penderfyniad ei herio eto, dylai unigolyn annibynnol yn yr awdurdod lleol, fel y Swyddog Monitro, roi ystyriaeth i hyn.

Dylai awdurdodau lleol nodi nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bŵer i ymyrryd mewn ceisiadau aflwyddiannus unigol, ac na ddylent gynghori ymgeiswyr i apelio i Lywodraeth Cymru, ac eithrio yn yr amgylchiadau penodol iawn a nodir yn Rheoliad 10 o Reoliadau 2000

Efallai y bydd rhai ymgeiswyr am Fathodynnau Glas yn anfodlon ynghylch y ffordd mae’r broses wedi’i chynnal. Mewn amgylchiadau o'r fath, dylid hysbysu'r ymgeiswyr hyn am weithdrefn gwyno safonol yr awdurdod lleol, yn yr un modd ag y byddai unrhyw un arall sy'n defnyddio gwasanaethau'r awdurdod lleol yn cael gwybod am eu hawl i wneud cwyn.

Dylid hefyd atgoffa ymgeiswyr y gallant ddwyn eu hachos i sylw Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, os ydynt yn credu y cafwyd afreolaidd-dra gweithdrefnol wrth ymdrin â'u ceisiadau.

Apêl i Weinidogion Cymru

Caiff awdurdodau lleol wrthod rhoi bathodyn os oes/oedd gan yr ymgeisydd fathodyn, a'i fod wedi'i gamddefnyddio a chael “euogfarn berthnasol” (Troednodyn 10). Yn yr amgylchiadau hyn, lle mae cais yn dod i law awdurdod lleol ac mae’r awdurdod yn gwrthod rhoi bathodyn, mae'n ofynnol iddo gyhoeddi hysbysiad yn nodi'r rhesymau dros wrthod y cais i’r ymgeisydd (Troednodyn 11). Yr awdurdod lleol sydd i benderfynu pa mor hir y bydd yn tynnu bathodyn yn ôl neu’n gwrthod rhoi bathodyn i ymgeisydd mewn achosion o’r fath.

Caiff awdurdod lleol ofyn am gael dychwelyd bathodyn oherwydd camddefnydd ohono yn arwain at euogfarn berthnasol, neu lle mae’r awdurdod wedi’i fodloni bod y bathodyn wedi ei gael drwy anwiredd (Troednodyn 12).

Ni all ymgeisydd apelio i Weinidogion Cymru ond yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol i beidio â rhoi Bathodyn Glas, neu i ofyn am gael dychwelyd bathodyn, lle mai’r sail dros ei wrthod/dychwelyd yw:

  • bod gan yr ymgeisydd euogfarn berthnasol
  • mewn achosion lle gofynnwyd am gael dychwelyd y bathodyn, lle roedd y bathodyn   wedi ei gael drwy anwiredd.

Mae'n rhaid cyflwyno'r apêl cyn pen 28 diwrnod gan ddechrau ar ddyddiad penderfyniad yr awdurdod lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn argymell, lle mae cais am fathodyn wedi'i wrthod, neu mae bathodyn wedi'i dynnu'n ôl yn yr amgylchiadau hyn, y dylai'r awdurdod lleol hysbysu'r ymgeisydd ynghylch ei hawl i apelio a'r terfyn amser ar gyfer hynny.

Bathodynnau sy’n dod i ben a dychwelyd bathodynnau

Mae gan y BBDS system lle anfonir llythyrau atgoffa at ddeiliaid bathodynnau pan fydd Bathodyn Glas ar fin dod i ben. Gall awdurdodau lleol gofrestru i gael y gwasanaeth hwn heb unrhyw gost iddynt hwythau.

Mae’r rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol dychwelyd bathodynnau sydd wedi dod i ben ar unwaith. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn bwysig sefydlu gweithdrefnau ar gyfer dychwelyd bathodynnau sydd wedi dod i ben; gall hyn olygu, yn syml, cyfnewid bathodyn sydd wedi dod i ben am fathodyn newydd. Mae’n bosibl y bydd awdurdodau lleol hefyd yn dymuno ystyried pennu cyfnod penodedig i ddychwelyd y bathodyn, gan rybuddio deiliad y bathodyn y gellid cymryd camau gweithredu os na chaiff yr hen fathodyn ei ddychwelyd, er enghraifft, y caiff gwybodaeth am y bathodyn sydd wedi dod i ben ei throsglwyddo i swyddogion gorfodi.

Wrth roi bathodyn, dylai awdurdodau lleol gyfleu'n glir y dylid ei ddychwelyd i'r awdurdod rhoi os nad oes ei angen ar y sawl a’i cafodd mwyach (Troednodyn 13). Dylid hysbysu deiliaid bathodynnau y byddant yn cyflawni trosedd wrth barhau i ddefnyddio'r bathodyn yn yr amgylchiadau hyn, ac y gallent wynebu dirwy o hyd at £1,000.

Marwolaeth deiliad bathodyn

Pan fydd deiliad bathodyn yn marw, dylid dychwelyd ei fathodyn i'r awdurdod lleol (Troednodyn 14). Mae Llywodraeth Cymru yn argymell y dylai awdurdodau lleol gynnwys manylion ynghylch sut i ddychwelyd Bathodynnau Glas yn eu pecynnau cofrestru marwolaeth, a chroesgyfeirio marwolaethau a gofrestrir yn eu hardal â’u cofnodion deiliaid Bathodynnau Glas, fel y gellir canslo'r bathodynnau hyn ar y BBDS ac anfon nodyn atgoffa at y teulu os oes angen. Dylai unrhyw nodiadau atgoffa o’r fath gael eu trin mewn modd sensitif iawn o gofio’r amgylchiadau y bydd y teulu neu ofalwyr yn eu hwynebu ar ôl eu profedigaeth.  Ceir enghraifft o lythyr anfon bathodyn yn ôl yn yr amgylchiadau hyn yn Atodiad E.

Dylid defnyddio'r system 'Dywedwch Wrthym Unwaith' i sicrhau bod Bathodynnau Glas yn cael eu canslo cyn gynted ag sy'n bosibl ar ôl marwolaeth deiliad y bathodyn. Mae rhai awdurdodau lleol yn cynnal gwiriad rheolaidd yn erbyn cofnodion marwolaeth misol a ddarperir gan y Cofrestrwyr. Ar wefan Gov.UK, mae'r Bathodyn Glas wedi'i gynnwys ar restr o eitemau y gallai fod angen i deulu'r ymadawedig gysylltu â'r awdurdod lleol yn eu cylch, yn rhan o'r broses o gofrestru'r farwolaeth.

Rhoi bathodynnau newydd yn lle rhai sydd wedi’u difrodi, eu colli neu eu dwyn

Pan fo bathodyn wedi’i golli, ei ddwyn neu ei ddinistrio, neu wedi'i ddifrodi neu wedi colli ei liw i'r fath raddau nes nad oes modd ei ddarllen, gall yr awdurdod lleol roi bathodyn arall yn ei le (Troednodyn 15).

Yn achos bathodynnau wedi'u dwyn, argymhellir y dylai'r awdurdod ofyn i ddeiliaid bathodynnau ddarparu cyfeirnod trosedd yr heddlu i'w gynnwys gan awdurdodau lleol yn eu cofnodion. Nodwch na fydd rhai heddluoedd yn rhoi rhif digwyddiad ond os oes tystiolaeth bod trosedd wedi digwydd.

Os ceir hyd i'r bathodyn neu os ceir y bathodyn yn ôl yn ddiweddarach, dylid dychwelyd y bathodyn gwreiddiol i'r awdurdod lleol fel y gellir ei ddinistrio (Troednodyn 16). Mae gan y BBDS gyfleuster ar-lein sy'n galluogi deiliad bathodyn i hysbysu ei awdurdod lleol am fathodyn sydd wedi’i golli neu ei ddwyn.

Argymhellir y dylai ceisiadau am fathodyn newydd yn lle un sydd wedi’i golli, ei ddifrodi neu ei ddwyn gynnwys datganiad wedi'i lofnodi gan yr ymgeisydd, neu ei ofalwr neu warcheidwad lle bo'n berthnasol, yn cadarnhau bod y bathodyn wedi’i golli ac yn cydnabod y byddai unrhyw ddefnydd diweddarach o'r hen fathodyn, pe bai'n dod i'r amlwg, yn drosedd a allai olygu wynebu dirwy o hyd at £1,000.

Dylai bathodynnau sydd wedi'u difrodi hefyd gael eu dychwelyd i'r awdurdod lleol i gael eu dinistrio yn swyddogol (Troednodyn 17). Mae hyn yn sicrhau bod swyddogion gorfodi sifil a'r heddlu sy'n gwirio dilysrwydd bathodynnau a arddangosir mewn cerbydau yn gallu gwirio manylion y bathodyn. Byddai hyn yn cynnwys, er enghraifft, achosion lle achoswyd difrod damweiniol i'r bathodyn, neu lle gallai rhywun fod wedi ymyrryd â'r bathodyn mewn rhyw ffordd. Lle bynnag y bo modd, argymhellwn fod y broses hon yn golygu bod deiliad y bathodyn yn casglu ei fathodyn newydd o swyddfeydd ei awdurdod lleol neu o ganolfan gyswllt gyfagos, fel y gellir ei gyfnewid am y bathodyn sydd wedi’i ddifrodi.

Mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn i godi ffi o hyd at £10 am fathodyn sefydliad neu fathodyn newydd yn lle un sydd wedi’i golli, ei ddifrodi neu ei ddwyn. Mae’n bosibl na fydd awdurdodau lleol yn dymuno codi ffi am fathodyn newydd os oes tystiolaeth bod y bathodyn wedi cael ei ddwyn, er enghraifft lle mae deiliad y bathodyn wedi hysbysu’r heddlu am y lladrad ac yn darparu rhif digwyddiad yr heddlu i’r awdurdod.

Deiliad bathodyn sydd eisoes wedi cael bathodyn

Caiff awdurdodau lleol fynnu bod preswylydd yn dychwelyd bathodyn os yw awdurdod lleol arall yn rhoi bathodyn i'r un person a bod y ddau fathodyn yn ddilys ar yr un pryd (Troednodyn 18). Ni ddylai deiliaid bathodyn unigol feddu ar fwy nag un bathodyn, gan y byddai hyn yn tanseilio'r cynllun ac yn cynyddu'r cyfleoedd i'w gamddefnyddio.

Fodd bynnag, caiff sefydliad unigol ddal mwy nag un bathodyn, gan ddibynnu ar nifer y cerbydau y mae’n eu defnyddio, a nifer y bobl y mae’n gofalu amdanynt sy'n gymwys i gael bathodyn.

Pan fo cyfeiriad deiliad bathodyn yn newid

Os yw deiliad bathodyn yn symud i ardal awdurdod lleol newydd cyfrifoldeb deiliad y bathodyn yw hysbysu'r awdurdod rhoi ei fod wedi newid cyfeiriad. Gall yr awdurdod lleol a roddodd y bathodyn newid manylion y cyfeiriad a hysbysu'r awdurdod lleol newydd am hyn drwy system y BBDS. Nid oes angen rhoi bathodyn newydd, ac arno enw'r awdurdod lleol newydd, i ddeiliad y bathodyn.

Cadw cofnodion

Mae rhwymedigaeth statudol ar awdurdodau lleol, o dan adran 21(5) o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970, i gadw cofrestr sy’n dangos:

  • deiliaid bathodynnau sydd wedi’u rhoi gan yr awdurdod
  • y cerbyd neu'r cerbydau y delir pob bathodyn ar ei gyfer/eu cyfer.

Mae system gadarn a all adnabod deiliaid bathodynnau o fewn ardal awdurdod lleol yn amhrisiadwy, nid yn unig i awdurdodau rhoi, ond hefyd i'r heddlu ac awdurdodau gorfodi wrth ymdrin ag achosion o gamddefnyddio, dwyn neu ddefnyddio bathodynnau mewn modd twyllodrus. Mae Gwasanaeth Digidol y Bathodyn Glas yn ei gwneud yn bosibl rhannu data a chynnal gwiriadau gorfodi yn gyflym ac yn rhwydd.

Pennod 4: Gorfodi

Mae’r adran hon yn nodi rhai o’r ffyrdd mwyaf cyffredin o gamddefnyddio’r Cynllun yn ogystal â rhai o'r camau y gall awdurdodau lleol eu cymryd i frwydro yn erbyn hyn. Mae hefyd yn esbonio’r pwerau sydd ar gael i awdurdodau lleol eisoes.

Dylai awdurdodau lleol ystyried datblygu ystod o offer a thechnegau i ymdrin â gwahanol fathau o droseddwyr a gwahanol fathau o droseddau. Mae adroddiadau oddi wrth rai awdurdodau lleol yn Lloegr yn nodi mai dulliau gorfodi confensiynol, wedi'u hategu gan fesurau ataliol ychwanegol sy’n debyg o fod yn fwyaf llwyddiannus ac effeithiol yn y tymor hir.

Mathau o gamddefnydd

Gellir camddefnyddio bathodynnau mewn nifer o ffyrdd gwahanol ac mae'n bwysig i awdurdodau lleol fod yn wyliadwrus. Nid yw'r rhestr ganlynol yn holl gynhwysfawr, ond mae'n dangos y ffyrdd mwyaf cyffredin y gellir camddefnyddio bathodynnau, o fân dramgwyddau hyd at dramgwyddau mwy difrifol:

Gan ddeiliad y bathodyn:

  • parcio yn y lle anghywir neu ar yr amser anghywir
  • anghofio arddangos y bathodyn/cloc
  • arddangos y bathodyn yn y dull anghywir
  • defnyddio bathodyn nad yw'n ddilys bellach (h.y. gan fod y dyddiad terfyn wedi pasio, neu nad yw deiliad y bathodyn yn gymwys mwyach)
  • defnyddio bathodyn yr hysbyswyd ei fod "wedi’i golli" neu "wedi'i ddwyn"
  • gadael i ffrind neu berthynas ddefnyddio'r bathodyn
  • defnyddio copi o fathodyn
  • newid y manylion ar y bathodyn - y dyddiad terfyn, er enghraifft
  • gwneud cais twyllodrus (e.e. darparu gwybodaeth anwir ar y ffurflen gais neu gyflwyno nifer o geisiadau) neu ddefnyddio bathodyn a gafwyd drwy dwyll.

Gan drydydd parti:

  • defnyddio bathodyn rhywun arall (boed yn wybyddus i ddeiliad y bathodyn neu beidio) heb i ddeiliad y bathodyn fod yn bresennol yn y cerbyd
  • defnyddio bathodyn sy'n eiddo i rywun sydd wedi marw
  • copïo, addasu neu greu bathodynnau
  • defnyddio bathodyn sydd wedi'i golli neu ei ddwyn
  • defnyddio bathodyn ffug

Beth all awdurdod lleol ei wneud?

Dylai awdurdodau lleol ystyried ffyrdd o atal camddefnyddio'r cynllun o'r dechrau un. Y cam cyntaf yw sicrhau mai ond i bobl gymwys y rhoddir bathodynnau. At hynny bydd angen i awdurdodau lleol ystyried sut i gasglu bathodynnau sydd wedi dod i ben. Bydd cael gwared â bathodynnau sydd wedi dod i ben yn lleihau twyll.

Mae sicrhau bod yr holl ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod - ac yn deall - yr hyn y gallant a'r hyn na allant ei wneud gyda bathodyn (a phryd / sut y dylid ei ddychwelyd i'r awdurdod rhoi) yn debygol o leihau'r tebygolrwydd y bydd bathodyn yn cael ei gamddefnyddio’n ddamweiniol, ac o osgoi anghydfod. Darperir y bathodyn gyda chopi o'r daflen ganllaw 'Cynllun y Bathodyn Glas: hawliau a chyfrifoldebau'. Mae'r daflen yn esbonio’n glir eu hawliau a'u cyfrifoldebau fel deiliad bathodyn, ynghyd â gwybodaeth ddefnyddiol arall ynghylch y mannau lle caiff deiliaid bathodynnau barcio. Os bydd unigolyn yn casglu bathodyn wyneb yn wyneb o'r awdurdod lleol, gall hyn gynnig cyfle i dynnu sylw deiliad y bathodyn at ffeithiau allweddol sy'n berthnasol i’r defnydd ohono.

Efallai y bydd y rheiny sy'n camddefnyddio cynllun y Bathodyn Glas yn ei chael hi'n hawdd eu hargyhoeddi eu hunain nad oes neb yn dioddef mewn gwirionedd o ganlyniad i’r camddefnydd, neu ei fod yn dderbyniol oherwydd bod 'pawb yn ei wneud'. Gallai rhoi cyhoeddusrwydd i’r canlyniadau i bobl â namau sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd ond na allant barcio yn agos at y fan lle mae arnynt angen mynd, ac i'r canlyniadau posibl i droseddwyr yn sgil camddefnyddio bathodynnau, leihau nifer y troseddau.

Pan fo deiliad y bathodyn wedyn yn hysbysu bod ei fathodyn wedi'i ddwyn, bydd rhai awdurdodau yn gofyn i’r deiliad hwnnw ddarparu rhif ymchwiliad troseddol (a ddarperir gan yr heddlu), cyn rhoi bathodyn newydd yn ei le. Bernir bod hyn yn arfer da gan fod deiliad bathodyn yn llai tebygol o honni yn anwir bod bathodyn wedi'i ddwyn os yw’n ofynnol iddo hysbysu’r heddlu yn ffurfiol am hyn. Mae'n anos gwirio bathodynnau sydd wedi’u colli, gan mai ychydig iawn o awdurdodau heddlu fydd yn darparu rhif digwyddiad ar gyfer eitemau coll.

Mae'r problemau yr hysbysir amdanynt amlaf yn tueddu i ymwneud â chamddefnydd o'r Bathodyn Glas gan ffrindiau a pherthnasau deiliad y bathodyn. Lle mae hyn yn broblem, ac mae’r awdurdodau lleol yn dymuno gweithredu, mae'n bwysig i’r awdurdodau fod yn siŵr bod camddefnydd yn digwydd, a'u bod wedi casglu tystiolaeth ddigonol, yn enwedig os ydynt yn bwriadu erlyn. Yr awdurdodau lleol sydd i benderfynu sut i wneud hyn.

Mae rhai awdurdodau lleol yn galluogi'r cyhoedd i hysbysu am gamddefnydd. Pan fo trydydd parti yn hysbysu am gamddefnydd, rydym yn annog awdurdodau lleol i fynd ar drywydd y mater a chymryd camau fel sy’n briodol er mwyn osgoi neu atal aildroseddu ac annog y cyhoedd i gymryd mwy o ran. Rydym hefyd yn annog awdurdodau rhoi i gydweithio'n agos â'u hawdurdodau gorfodi a gweithredu ar sail gwybodaeth a ddarperir gan swyddogion gorfodi. Gellir erlyn troseddwyr, a byddant yn wynebu dirwy o hyd at £1,000 o'u cael yn euog. Gellir hefyd tynnu bathodynnau yn ôl ar ôl un euogfarn berthnasol.

Awdurdodau gorfodi

Mewn ardaloedd lle ceir gorfodi sifil, swyddogion gorfodi sifil wedi'u cyflogi gan awdurdodau lleol sy’n gorfodi'r gyfraith o ran tramgwyddau parcio (e.e. parcio yn y lle anghywir, peidio ag arddangos y bathodyn neu'r cloc yn y modd cywir) ac yn dyroddi Hysbysiadau Tâl Cosb. Mewn ardaloedd lle nad yw parcio wedi'i ddad-droseddoli, yr heddlu a swyddogion gorfodi sifil sy’n gorfodi'r gyfraith o ran troseddau ac yn dyroddi Hysbysiadau Cosb Benodedig ar y stryd, a swyddogion gorfodi awdurdodau lleol sy’n dyroddi Tocynnau Tâl Ychwanegol mewn meysydd parcio a weithredir gan y Cyngor.

Mae ystod eang o ddeddfwriaeth ar gael i awdurdodau gorfodi orfodi cynllun y Bathodyn Glas. Gall awdurdodau lleol fod yn hyblyg yn y ffordd y maent yn defnyddio'r pwerau hyn, er mwyn mynd i’r afael â’u hamgylchiadau lleol eu hunain a hefyd manylion penodol pob achos. Isod, ceir crynodeb o'r pwerau y caiff awdurdodau lleol eu defnyddio:

Deddf Twyll 2006: adran 2

Mewn achosion lle mae ymgeisydd yn cyflwyno cais twyllodrus (h.y. yn darparu gwybodaeth anwir), efallai y bydd modd erlyn yr unigolyn o dan adran 2 o Ddeddf Twyll 2006. Y gosb am hyn yw dirwy o hyd at £5,000 a/neu hyd at 12 mis o garchar yn dilyn euogfarn ddiannod. Os oes bathodyn wedi'i roi, gall yr awdurdod lleol fynnu iddo gael ei ddychwelyd o dan Reoliad 9(2)(b) o Reoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000.

Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970: adran 21

Gall unigolyn gael ei erlyn o dan yr adran hon ac wynebu dirwy o hyd at £1,000 os:

  • yw'n defnyddio bathodyn ffug
  • nad yw'n cyflwyno'r bathodyn i'w archwilio gan swyddog gorfodi sifil neu swyddog yr heddlu
  • yw'n defnyddio bathodyn wedi'i ganslo neu wedi'i ddwyn
  • yw'n defnyddio bathodyn lle nad oes ganddo hawl iddo (mwyach)
  • yw'n defnyddio bathodyn sy'n eiddo i rywun arall, gyda chaniatâd neu heb ganiatâd
  • yw'n defnyddio bathodyn sydd wedi dod i ben
  • yw'n defnyddio bathodyn y mae awdurdod lleol wedi gofyn am iddo gael ei ddychwelyd;
  • nad yw'r bathodyn wedi'i arddangos yn y modd cywir.

Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984: adrannau 115 a 117

Adran 115

Gall unigolyn gael ei erlyn o dan yr adran hon ac wynebu dirwy o hyd at £5,000 a hyd at ddwy flynedd yn y carchar os:

  • yw'n caniatáu i’w fathodyn gael ei ddefnyddio gan rywun nad oes ganddo hawl iddo
  • yw'n defnyddio bathodyn y bwriadwyd iddo gael ei ddefnyddio gan rywun arall
  • yw'n ffugio bathodyn
  • yw'n defnyddio bathodyn ffug, neu os oes ganddo fathodyn ffug yn ei feddiant
  • yw’n cyflwyno gwybodaeth anwir er mwyn cael bathodyn iddo ef ei hun neu i unrhyw un arall.

Adran 117

Gall deiliad Bathodyn Glas gael ei erlyn o dan yr adran hon ac wynebu dirwy o hyd at £1,000 os yw'n tramgwyddo unrhyw un o ddarpariaethau parcio gorchymyn traffig ffyrdd, a hefyd os:

  • yw’n defnyddio bathodyn ffug
  • yw’n defnyddio bathodyn wedi'i ddwyn
  • yw’n defnyddio bathodyn nad oes ganddo hawl iddo (mwyach)
  • yw’n defnyddio bathodyn sy'n eiddo i rywun arall, gyda chaniatâd neu heb ganiatâd
  • yw’n defnyddio bathodyn sydd wedi dod i ben neu wedi'i ganslo
  • yw’n defnyddio bathodyn y mae'r awdurdod lleol wedi gofyn am iddo gael ei ddychwelyd
  • nad yw'r bathodyn wedi'i arddangos yn y modd cywir.

Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984: adran 19

Gall yr Heddlu gipio bathodyn o dan adran 19 os yw'r swyddog o'r farn y’i cafwyd o ganlyniad i gyflawni trosedd (e.e. ei fod wedi'i ddwyn neu ei ffugio neu'n cael ei ddefnyddio gan unrhyw un ar wahân i'r deiliad dilys).

Deddf Ffugio a Drwgfathu 1981: adrannau 1 i 4

Gellir cael rhywun yn euog o ffugio neu gopïo bathodyn glas a/neu o ddefnyddio'r bathodyn ffug / copi hwnnw o dan y Ddeddf hon. Ar ôl cael euogfarn ddiannod gall rhywun wynebu dirwy o hyd at £5,000, dedfryd o hyd at 6 mis o garchar, neu'r ddau.

Defnydd o’r bathodyn gan drydydd parti

Mewn achosion lle mae deiliad y bathodyn yn gadael i drydydd parti ddefnyddio ei fathodyn, gall yr awdurdod lleol geisio tynnu'r bathodyn yn ôl, ond dim ond ar ôl euogfarn berthnasol. Ar gyfer euogfarn berthnasol, mae'n ofynnol bod y sawl nad yw’n ddeiliad y bathodyn yn ei ddefnyddio gyda chaniatâd y deiliad. Yn aml mae’n anodd iawn i awdurdodau lleol brofi hyn, hyd yn oed os ydynt yn gwybod ei fod yn digwydd. Dylid cofio, fodd bynnag, er y gall hyn ei gwneud yn anodd tynnu bathodyn sy'n cael ei gamddefnyddio yn systematig gan ffrind neu berthynas yn ôl, y caiff awdurdod lleol wrthod ail-roi bathodyn os oes ganddo sail resymol dros gredu y byddai'r ymgeisydd yn caniatáu i rywun arall ei ddefnyddio (Rheoliad 8(2)(d)(ii) o Reoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000).

Argymhellir yn gryf y dylai awdurdodau lleol roi hysbysiad rhybuddio i ddeiliad bathodyn sy'n camddefnyddio bathodyn, neu sy'n caniatáu i rywun arall gamddefnyddio ei fathodyn, cyn ystyried tynnu'r bathodyn yn ôl.

Dychwelyd Bathodyn Glas

Mae angen i awdurdodau lleol gyfleu'n glir i ymgeiswyr a deiliaid bathodynnau y dylid dychwelyd bathodyn ar unwaith i'r awdurdod lleol os:

  • yw'r bathodyn wedi dod i ben
  • yw'r deiliad wedi marw
  • nad yw'r sefydliad sy'n defnyddio'r bathodyn yn bodoli mwyach
  • nad yw'r deiliad yn gymwys i fod â bathodyn mwyach
  • y rhoddwyd bathodyn newydd yn lle un sydd wedi’i golli/ddwyn, ac y ceir y bathodyn gwreiddiol yn ôl yn ddiweddarach
  • nad yw'r bathodyn yn ddarllenadwy mwyach
  • nad oes angen y bathodyn ar y deiliad mwyach
  • oes euogfarn berthnasol yn bodoli mewn perthynas â chamddefnyddio'r bathodyn
  • yw’r bathodyn wedi’i gael drwy anwiredd.

Gorfodi mewn mannau parcio dynodedig

Bydd Hysbysiad Cosb Benodedig / Hysbysiad Tâl Cosb / Tocyn Tâl Ychwanegol, gan ddibynnu ar y trefniadau ar gyfer gorfodaeth parcio yn y Sir honno, yn cael ei ddyroddi i unrhyw un sy'n parcio mewn man parcio wedi'i ddynodi i bobl anabl heb arddangos Bathodyn Glas dilys a/neu gloc os yw'n briodol.

Troseddau eraill

Yn achos troseddau eraill:

  • gellir defnyddio Deddf Dwyn 1968 (yn enwedig adrannau 1 a 22) i erlyn unrhyw un a geir yn euog o ddwyn bathodynnau neu o drafod bathodynnau wedi'u dwyn
  • mae'n bosibl y bydd Adran 329(1)(c) o Ddeddf Enillion Troseddau 2002 yn cynnig dull arall o sicrhau euogfarn lle mae gan rywun Fathodyn Glas wedi'i ddwyn yn ei feddiant, neu pan fo rhywun yn defnyddio Bathodyn Glas wedi'i ddwyn gan wybod ei fod wedi'i ddwyn
  • mewn rhai amgylchiadau, mae'n bosibl i'r Llysoedd wahardd troseddwyr cyson rhag gyrru am gyfnod o dan adran 146 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000
  • fe gafwyd achosion lle mae pobl wedi ceisio gwerthu bathodynnau drwy wefannau a phlatfformau y cyfryngau cymdeithasol. Mae'r bathodyn yn parhau i fod yn eiddo cyfreithiol i'r awdurdod lleol a'i rhoddodd, felly mae'n anghyfreithlon i unrhyw un arall werthu bathodyn. Gall y gwir berchennog gymryd camau i adennill y nwyddau drwy'r llysoedd sifil. Gallai hefyd fod yn bosibl erlyn y sawl sy'n cynnig y bathodyn ar werth o dan adran 7 o Ddeddf Twyll 2006.

Gallai hefyd fod yn bosibl defnyddio Adran 11 o Ddeddf Twyll 2006 (sy'n ymwneud â chaffael gwasanaethau yn anonest) i gymryd camau gorfodi pan fo Bathodynnau Glas yn cael eu defnyddio'n dwyllodrus mewn cerbydau er mwyn manteisio ar gonsesiynau parcio mewn mannau parcio oddi ar y ffordd.

Archwilio bathodynnau

O dan adran 21(4BA) o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 ("Deddf 1970") gall swyddog heddlu, gweithiwr maes parcio neu swyddog gorfodi sifil fynd at rywun mewn cerbyd sy'n arddangos Bathodyn Glas (neu rywun y mae’n ymddangos y bu yn y cerbyd, neu ei fod ar fin mynd i mewn iddo) a mynnu ei fod yn cyflwyno'r bathodyn i'w archwilio. Fel arfer, byddai hyn yn cael ei wneud er mwyn gwirio'r wybodaeth fanwl a'r ffotograff o ddeiliad y bathodyn ar gefn y bathodyn, er mwyn gwirio a yw’r bathodyn yn cael ei ddefnyddio gan y person cywir. Os na fydd unigolyn yn cyflwyno bathodyn pan fynnir ei fod yn gwneud, a hynny heb esgus rhesymol, bydd yn euog o drosedd o dan adran 21 (4BD) o'r Ddeddf ac yn agored i ddirwy o hyd at £1,000.

Pryd bynnag mae amheuaeth bod bathodyn yn cael ei gamddefnyddio, dylai'r swyddog gorfodi ymdrin â deiliad y bathodyn mewn modd sensitif. Ni ddylid gwneud unrhyw ragdybiaethau na chodi unrhyw gwestiynau ynghylch pam y rhoddwyd bathodyn i’r unigolyn, gan nad dyna rôl y swyddog gorfodi. Hefyd, mae'n bosibl na fydd modd gweld rhai anableddau ar yr olwg gyntaf. Wrth orfodi cynllun y Bathodyn Glas, rydym yn argymell y dylai swyddogion gorfodi gael hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd fel y gallant gyflawni eu dyletswyddau mewn modd priodol. Dylai hyn fod yn rhan o becyn hyfforddiant sy'n cynnwys materion cydraddoldeb ehangach.

I  gynorthwyo gyda'r broses archwilio, mae marc rhywedd wedi cael ei ychwanegu at rif cyfresol y bathodyn. Ychwanegwyd y marc at y bathodyn er mwyn helpu swyddogion gorfodi sifil, wardeiniaid traffig a swyddogion heddlu i ganfod achosion amlwg o gamddefnyddio bathodynnau. Wrth ddefnyddio'r marc hwn i wirio ai deiliad cywir y bathodyn sy'n ei ddefnyddio, dylai swyddogion fod yn ymwybodol o unigolion a allai fod wedi cael triniaeth ailbennu rhywedd, neu sydd yn cael triniaeth o'r fath, a'u trin mewn modd sensitif. Bydd yr unigolion hyn wedi cael bathodyn gwryw neu fenyw yn unol â'r rhywedd y maent yn byw o dano.

Bydd y BBDS yn galluogi swyddogion gorfodi sifil i gynnal gwiriadau dilysu rhwyddach a chyflymach. Mae Llywodraeth Cymru yn argymell y dylai awdurdodau lleol fanteisio i'r eithaf ar y BBDS er mwyn chwilio ar y gronfa ddata genedlaethol am wybodaeth allweddol ynghylch statws bathodynnau unigol.

Dylai gweithwyr awdurdod lleol hefyd fod yn ymwybodol o'r cyfleusterau mynediad o bell a gynigir gan y BBDS sy'n caniatáu i Swyddogion Gorfodi Sifil ac unigolion sydd wedi’u grymuso gan awdurdod lleol gyrchu rhan gyfyngedig o gronfa ddata’r BBDS o ddyfais 3G. Gwybodaeth arbennig o ddefnyddiol a geir fel rhan o'r gwasanaeth di-dâl hwn yw rhif ffôn cartref deiliad y bathodyn (lle darparwyd hwnnw) a chopi o'r ffotograff a ddefnyddiwyd ar y bathodyn.

Ceir sgript i swyddogion gorfodi sifil wrth ymdrin ag achosion lle amheuir camddefnydd yn Atodiad I.

Cydweithio’n rhanbarthol ac â’r heddlu

Yn aml, gweithrediadau wedi'u targedu yw'r dulliau mwyaf effeithiol o fynd i'r afael â chamddefnydd. Fodd bynnag, mae gan bob swyddog gorfodi ran yn y gwaith o ganfod bathodynnau sydd wedi'u colli neu eu dwyn a bathodynnau sy’n cael eu defnyddio mewn modd twyllodrus, yn rhan o'u gweithgareddau o ddydd i ddydd. Dylai swyddogion gorfodi allu canfod bathodynnau sydd wedi'u colli neu wedi'u dwyn neu fathodynnau sy’n cael eu defnyddio mewn modd twyllodrus, wrth wirio ffenestri blaen ceir o ddydd i ddydd.

Hoffai Llywodraeth Cymru weld awdurdodau lleol yn cydweithio’n rhanbarthol i leihau'r achosion o gamddefnyddio Bathodynnau Glas.

Lle bo awdurdodau lleol yn tybio bod y camddefnydd o'r Bathodyn Glas ymhlith ffrindiau a pherthnasau deiliad y bathodyn yn broblem sylweddol, gallant gael caniatâd i guddwylio o dan Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (Troednodyn 19).  Gall cuddwylio ganfod achosion o gamddefnydd systematig a amheuir a chasglu tystiolaeth y gellir ei defnyddio'n ddiweddarach i erlyn rhywun.

Mae Deddf Bathodynnau Parcio Pobl Anabl 2013 yn caniatáu i swyddogion gorfodi sifil gadw bathodyn yr amheuir ei fod yn cael ei gamddefnyddio.

Arfer da: Lle bo modd, argymhellir bod swyddogion gorfodi sifil yn mynd ar gwrs hyfforddi Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol yn rhan o'u rôl. Mae'r hyfforddiant hwn yn trafod y pynciau canlynol:

  • beth yw cyfweliad
  • sut a phryd i roi rhybuddiad
  • pobl sy'n agored i niwed
  • sylwadau a wneir y tu allan i'r cyfweliad
  • cofnodi cyfweliadau, boed hynny'n ysgrifenedig neu drwy recordio ar dâp sain
  • rôl cyfreithiwr
  • sut i ymdrin ag unrhyw drydydd parti yn ystod y broses gyfweld
  • datgelu tystiolaeth cyn cyfweliad

Deddf Bathodynnau Parcio Pobl Anabl 2013

Mae Deddf Bathodynnau Pobl Anabl 2013 (Deddf 2013), wedi'i chefnogi gan Reoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2014 yn rhoi rhagor o bwerau i awdurdodau lleol gymryd camau gorfodi yn erbyn achosion o gamddefnyddio'r cynllun. I grynhoi, mae Deddf 2013:

  • yn rhoi pŵer i awdurdodau lleol ganslo bathodynnau nad ydynt mwyach ym meddiant y sawl y’u rhoddwyd iddo (e.e. ar ôl i'r bathodyn gael ei golli neu ei ddwyn)
  • yn diwygio'r pŵer archwilio presennol fel y caiff swyddogion gorfodi awdurdodedig yn eu dillad eu hunain archwilio bathodynnau (ar hyn o bryd mae hyn wedi'i gyfyngu i gwnstabliaid a swyddogion gorfodi penodedig y mae'n rhaid iddynt, o ganlyniad i ddeddfwriaeth arall, fod mewn lifrai fel arfer)
  • yn rhoi pŵer i gwnstabliaid a swyddogion gorfodi gadw bathodyn sydd wedi’i gyflwyno iddynt ac sydd wedi'i ganslo, yn cael ei gamddefnyddio neu'n ffug, neu os yw'n bryd iddo gael ei ddychwelyd
  • egluro'r troseddau presennol sy'n ymwneud â chamddefnyddio Bathodynnau Glas er mwyn cadarnhau y tu hwnt i bob amheuaeth ei bod yn drosedd defnyddio bathodyn y dylid bod wedi'i ddychwelyd, a chymhwyso'r un troseddau i fathodyn sydd wedi'i ganslo.

Archwilio a chadw bathodynnau

Mae Deddf 2013 yn galluogi swyddogion gorfodi i archwilio a chadw bathodyn heb i'r heddlu fod yn bresennol os oes ganddynt sail resymol dros gredu bod y bathodyn:

  1. yn ffug;
  2. eisoes wedi'i ganslo, e.e. oherwydd yr hysbyswyd ei fod wedi’i golli neu ei ddwyn;
  3. yn fathodyn y dylid bod wedi ei ddychwelyd i'r awdurdod a'i rhoddodd (e.e. oherwydd ei fod wedi dod i ben, bod y deiliad wedi marw, nad yw'r deiliad yn anabl mwyach, bod bathodyn newydd wedi'i roi yn lle hen un, bod y bathodyn wedi'i ddifrodi/wedi colli ei liw, bod yr awdurdod wedi ysgrifennu at y deiliad yn gofyn am i’r bathodyn gael ei ddychwelyd naill ai ar ôl euogfarn berthnasol am gamddefnydd neu oherwydd ei gael drwy anwiredd; neu
  4. yn cael ei gamddefnyddio (gan gynnwys camddefnydd gan rywun ar wahân i'r deiliad pan nad yw’r deiliad dilys wedi'i gynnwys yn rhan o'r daith).

Wrth ddefnyddio'r pwerau hyn, disgwylir i swyddogion gorfodi gymryd camau priodol i ganfod "sail resymol" dros gadw'r bathodyn. Mae’n bosibl y bydd awdurdodau lleol yn dymuno sefydlu gweithdrefnau addas i'w swyddogion gorfodi eu dilyn, ond gallent gynnwys gwirio cronfa ddata’r BBDS; ffonio eu hawdurdod lleol er mwyn canfod rhagor o fanylion am y bathodyn / deiliad y bathodyn; neu gyfweld â’r unigolyn sy'n defnyddio'r bathodyn ar ochr y ffordd.

Wrth ddefnyddio'r pŵer i gadw bathodyn sy'n cael ei gamddefnyddio gan rywun ar wahân i ddeiliad dilys y bathodyn ((d), fel uchod), dylai swyddogion gorfodi gadarnhau nad yw deiliad y bathodyn anabledd wedi'i gynnwys yn rhan o'r daith. Hyd yn oed os nad yw’n bresennol, mae’n bosibl bod deiliad y bathodyn wedi cael ei ollwng yn y fan honno neu y bydd yn cael ei godi o'r fan honno. Yn aml iawn, wrth ei gwestiynu bydd y sawl sy'n defnyddio'r bathodyn yn cyfaddef nad yw'r deiliad wedi'i gynnwys yn rhan o'r daith; mae rhai awdurdodau lleol yn ffonio'r deiliad er mwyn canfod lle mae.

Pan gaiff bathodyn ei gadw yn senarios (a)-(c) uchod, byddem yn disgwyl i'r awdurdod lleol ddinistrio'r bathodyn maes o law, gan nad fyddai’n ddilys mwyach (os nad yr awdurdod sy'n cadw'r bathodyn yw'r awdurdod a'i rhoddodd, awgrymwn y dylai gysylltu â'r awdurdod rhoi ynghylch hyn).

Fodd bynnag, pan fo bathodyn dilys yn cael ei gadw o dan (d) uchod, dylid ei ddychwelyd i'r deiliad fel arfer. Mae hyn oherwydd nad yw'r pŵer i gadw bathodyn yr un peth â'r pŵer i dynnu bathodyn yn ôl/cymryd bathodyn ymaith yn barhaol. Yn wir, efallai nad yw deiliad y bathodyn yn gwybod bod y trydydd parti yn defnyddio'r bathodyn. Ni ellir tynnu bathodyn yn ôl yn barhaol o gael ei ddefnyddio ond os cafwyd euogfarn berthnasol am gamddefnydd o dan reoliad 9(2) o Reoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000 neu os cafwyd y bathodyn drwy anwiredd.

Bellach, mae rheoliadau 2000 yn cyfleu'n glir fod yn rhaid i fathodyn dilys a gadwyd oherwydd camddefnydd gael ei ddychwelyd i’r deiliad, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol (ar yr amod nad oes gan yr awdurdod resymau blaenorol, o dan y rheoliadau, dros dynnu'r bathodyn yn ôl). Yn gyntaf rhaid i’r awdurdod gorfodi ddychwelyd y bathodyn i'r awdurdod a'i rhoddodd a bydd hwnnw wedyn yn ei ddychwelyd i'r deiliad. Mae’n bosibl y bydd yr awdurdod a'i rhoddodd yn dymuno rhybuddio'r deiliad ynghylch pa mor ddifrifol yw'r camddefnydd ohono, wrth ddychwelyd y bathodyn. Nid yw'r weithred o ddychwelyd y bathodyn yn atal yr awdurdod perthnasol rhag erlyn am unrhyw drosedd a gyflawnwyd, os yw’n dymuno gwneud hynny.

Nid yw Deddf Bathodynnau Parcio Pobl Anabl 2013 yn galluogi'r awdurdod lleol i ddefnyddio grym wrth geisio cadw bathodyn. Os bydd swyddog gorfodi yn dod ar draws unrhyw fath o wrthwynebiad, rydym yn cynghori na ddylai gymryd unrhyw gamau pellach heb gymorth yr heddlu.

Bydd pob awdurdod lleol yn dymuno ystyried ei hyfforddiant a'i weithdrefnau ei hun ar gyfer swyddogion gorfodi sy'n arfer y pwerau newydd.

Diffiniad o swyddog gorfodi

Lle mae bathodyn yn cael ei arddangos ar gerbyd modur, mae adran 21 o Ddeddf 1970 yn rhoi pŵer i gwnstabliaid neu swyddogion gorfodi fynnu i unrhyw berson sydd yn y cerbyd, neu y mae’n ymddangos y bu yn y cerbyd, neu ei fod ar fin mynd i mewn iddo, gyflwyno'r bathodyn i'w archwilio.

Diffiniad swyddog gorfodi yw person a gyflogir gan awdurdod lleol, neu y mae'r awdurdod wedi gwneud trefniadau gydag ef at ddibenion archwilio a chadw bathodynnau. Gallai hyn gynnwys rhywun a gyflogir yn uniongyrchol gan yr awdurdod lleol neu gontractwr. At hynny, nid oes angen i’r "swyddog gorfodi" fod mewn lifrai, ond mae angen iddo gael ei awdurdodi mewn ysgrifen gan yr awdurdod i archwilio a chadw bathodynnau. Dylai gyflwyno tystiolaeth briodol o'r awdurdod wrth arfer ei bwerau; fel arall, nid oes rhwymedigaeth ar unigolyn i roi ei fathodyn i'r swyddog gorfodi. Yn ymarferol, dylai'r awdurdod lleol gadw tystiolaeth ddogfennol ysgrifenedig o swyddogion awdurdodedig, a dylai sicrhau bod pob swyddog yn cario rhyw ddull adnabod sy'n ei awdurdodi i archwilio/cadw bathodynnau.

Casglu Tystiolaeth

Mae’n bwysig casglu tystiolaeth gref yn erbyn twyllwyr posibl. Mae hyn yn cynnwys nodiadau llawn mewn llyfr poced (neu ddyfais electronig gyfatebol), fel disgrifiadau o unrhyw unigolion a welwyd, pwy sy’n parcio'r cerbyd, pwy sy’n dod allan o'r cerbyd, ac i le maent yn mynd ar ôl ei adael. Mae hefyd yn bwysig casglu tystiolaeth ffotograffig, gan gynnwys pobl yn y cerbyd neu'n dod allan ohono.

Mae rhai awdurdodau lleol yn rhedeg llinell ffôn a / neu gyfeiriad e-bost arbennig er mwyn i bobl hysbysu am gamddefnydd. Er mwyn i hyn fod yn llwyddiannus, mae'n rhaid i'r awdurdodau ddangos y gellir gweithredu ar yr wybodaeth a roddir ac ymateb iddi. Mae rhoi cyhoeddusrwydd i linell gymorth (os oes digon o adnoddau i'r llinell honno fod yn ddefnyddiol) hefyd yn ffordd o atal pobl a allai wneud defnydd twyllodrus o Fathodynnau Glas, ac mae'n ennyn hyder ymhlith pobl â namau bod y cyngor yn ymateb i'r broblem ddifrifol hon.

Yn dilyn unrhyw hysbysiad am gamddefnydd, mae Llywodraeth Cymru’n awgrymu y dylid anfon llythyr at ddeiliad y bathodyn yn rhoi gwybod iddo yr hysbyswyd am amheuon o gamddefnydd, gan ail-bwysleisio ei hawliau a'i gyfrifoldebau a chanlyniadau camddefnyddio'r bathodyn. Ceir enghraifft o lythyr o’r fath yn Atodiad C. Mae Llywodraeth Cymru yn argymell y dylai awdurdodau lleol ymgynghori â’u timau cyfreithiol eu hunain cyn cymryd unrhyw gamau gweithredu.

Ymagwedd amlasiantaethol

Gall mynd i’r afael â thwyll sy’n ymwneud â Bathodynnau Glas fod yn gymhleth a gall fod yn drwm ar adnoddau. Un thema gyffredin ymhlith rhai awdurdodau sydd wedi llwyddo yn hyn o beth yw cynnwys adrannau ac asiantaethau eraill. Dangosir rhai o’r partneriaid cyflenwi mwyaf cyffredin isod:

Swyddogion Gorfodi Sifil / contractwr gorfodi

Er mwyn casglu tystiolaeth ac ymateb yn gyflym i achosion o dwyll, mae angen i'r tîm gorfodi (neu'r contractwr, os ceir y gwasanaeth o ffynhonnell allanol) gymryd rhan o'r cychwyn cyntaf er mwyn sicrhau bod eu systemau'n gallu ymdopi â'r gwaith o gasglu mwy o dystiolaeth. Dylid hefyd eu cynnwys mewn unrhyw weithgarwch gorfodi sydd wedi'i dargedu: cyn gynted ag y caiff Bathodyn Glas ei gipio, gellir dyroddi Hysbysiad Tâl Cosb gan fod y cerbyd wedi'i barcio'n anghyfreithlon. Bydd hyn yn gwneud rhywfaint i adennill costau’r gwaith gorfodi, a hefyd yn golygu bod y modurwr yn gweld canlyniad ar unwaith. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau ac ar bolisïau lleol, gellir hefyd symud y cerbyd i bownd. Bydd cael y tîm (neu'r contractwr) symud cerbydau yn barod yn golygu y gall ymateb yn gyflym.

Tîm twyll mewnol

Mae gan y rhan fwyaf o gynghorau dîm mewnol i ymchwilio i dwyll er mwyn ystyried achosion o dwyll yn ymwneud â'r dreth gyngor / budd-daliadau ac ati. Drwy ddefnyddio eu sgiliau a'u hadnoddau arbenigol, gellir galluogi’r gwaith gorfodi i dargedu eu sylw yn well, gan wella'r cyfraddau llwyddo.

Timau cyfathrebu

Mae’n bwysig hyrwyddo'r gwaith hwn, a dylid cynnwys cydweithwyr o'r adran Gyfathrebu ar y cyfle cyntaf er mwyn sicrhau bod y cyngor yn elwa ar y gwaith hwn.

Gweithgarwch gorfodi wedi’i dargedu

Mae gwaith gorfodi effeithiol yn drwm ar adnoddau ac mae’n bosibl y bydd awdurdodau yn gweld ei bod yn gwneud synnwyr iddynt ganolbwyntio ar yr mannau hynny lle'r ymddengys y mae’r twyll mwyaf. Mae hyn yn rhannol er mwyn gwella'r cyfraddau gorfodi a dangos mwy o enillion ar y costau y mae'n rhaid eu talu ymlaen llaw am y gwaith, ond hefyd er mwyn canolbwyntio ar y mannau hynny lle achosir y mwyaf o anfantais i bobl â namau oherwydd bod lleoedd parcio ffafriol yn llawn. Mae lleoliadau o'r fath yn cynnwys canolfannau cymudo, colegau, gorsafoedd, canolfannau siopa, caeau chwaraeon a lleoliadau adloniant, neu unrhyw fan lle mae galw mawr am leoedd parcio. Mae’n bosibl y bydd ymagwedd o’r fath yn galw am weithio cydgysylltiedig gyda thirfeddianwyr preifat neu ddatblygwyr oherwydd, heb hynny, nid yw awdurdodau lleol â’r pŵer i orfodi'r cynllun oddi ar y stryd.

Rhannu gwybodaeth

Mae’n bwysig bod yna gyfathrebu effeithiol rhwng adrannau sy'n rhoi bathodynnau a thimau gorfodi parcio neu asiantaethau gorfodi eraill. Mae angen iddynt allu rhannu'r wybodaeth sydd ganddynt am ddeiliad bathodynnau.

Fodd bynnag, atgoffir awdurdodau lleol bod yn rhaid i ddeiliaid bathodynnau fod wedi rhoi eu caniatâd i rannu eu gwybodaeth bersonol o dan Reoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU.

Mae’n debyg y byddant wedi gwneud hyn ar y cam ymgeisio cychwynnol yn adran "Datganiad" y ffurflen gais am Fathodyn Glas.

Lle bo modd, dylai awdurdodau lleol ddarparu data am ddeiliaid bathodynnau lleol i dimau gorfodi, yn enwedig mewn perthynas â bathodynnau yr hysbyswyd eu bod wedi'u colli neu eu dwyn, fel y gellir adnabod y bathodynnau hyn os cânt eu defnyddio ar y stryd. Gellir defnyddio technoleg i wneud y broses hon yn rhwyddach.

Er enghraifft, gall swyddogion gorfodi sifil ddefnyddio dyfeisiau tebyg i Gynorthwywyr Digidol Personol a ddelir yn y llaw, neu ddefnyddio rhwydwaith y System Fyd-eang Cyfathrebu Symudol i chwilio ar y gronfa ddata genedlaethol am wybodaeth allweddol am statws bathodynnau unigol.

Lle mae bathodyn wedi’i roi gan awdurdod gwahanol, gall timau gorfodi ofyn i'w hawdurdod lleol wirio statws y bathodyn hwnnw gyda'r awdurdod perthnasol. Gallai'r broses hon fod yn haws os yw awdurdodau lleol yn cydweithio i rannu gwybodaeth am fathodynnau sydd wedi’u colli neu eu dwyn yn eu hardal. Bydd system y BBDS yn hwyluso hyn.

Pennod 5: Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Y Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth

Mae'r Gweithle Slack wedi'i neilltuo ar gyfer Gwasanaeth Digidol y Bathodyn Glas a’r Cynllun Bathodyn Glas ehangach. Mae'n caniatáu i weithwyr y sector cyhoeddus rannu arferion da, syniadau ac awgrymiadau ymarferol: Sign in to Blue Badge Digital Service 

Ymwelwyr o wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd

Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drefniadau dwyochrog anffurfiol gyda nifer o Lywodraethau yr Undeb Ewropeaidd i dderbyn Bathodynnau Glas o'r gwledydd hynny. Nodir y manylion yn "Parking Card for People with Disabilities in the European Union". Ar hyn o bryd nid oes unrhyw drefniadau dwyochrog ffurfiol ar gyfer bathodynnau parcio i bobl anabl a roddir y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Rydym yn ymwybodol o rai achosion lle mae awdurdodau lleol yn credu bod pobl o bosibl yn ceisio defnyddio bathodynnau ffug, gan honni eu bod wedi’u rhoi gan wlad arall, ac mae swyddogion gorfodi wedi parhau i fod yn amheus ynghylch eu dilysrwydd.

Gwirfoddol yn hytrach na gorfodol yw cydnabod y bathodynnau hyn, felly gall swyddogion gorfodi awdurdodau lleol wrthod cydnabod bathodyn o wlad dramor os oes ganddynt sail resymol dros gredu ei fod yn ffug.

Mae dyluniad bathodynnau parcio i bobl â namau o wledydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn amrywio, a byddai'n anodd i swyddogion gorfodi lleol wirio a ydynt yn ddilys. Byddai’n ddoeth archwilio bathodyn os oes amheuaeth. Mae Llywodraeth Cymru’n cynghori pobl o wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd sy'n ymweld â'r Deyrnas Unedig y dylent ddod â'u bathodynnau parcio gyda hwy a hysbysu’r awdurdod lleol yn yr ardaloedd y bwriadant ymweld â hwy i weld a fyddai eu bathodyn yn cael ei gydnabod, ond yn pwysleisio bod hyn ar ddisgresiwn llwyr yr awdurdod lleol.

Efallai y byddai’n ddoeth, lle mae ymwelwyr o wlad arall wedi cysylltu â'r awdurdod lleol ynghylch defnyddio eu Bathodyn yn yr ardal leol, i’r manylion ac o bosibl llun o'r bathodyn hwnnw gael eu rhannu gyda swyddogion gorfodi er mwyn sicrhau nad yw’r cyngor yn gwrthdaro â’r gwaith o ddyroddi tocynnau parcio.

Casglu data

Gofynnwyd i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth i Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar eu hadroddiad rheoli safonol i’r BBDS. Mae’n bosibl y bydd angen rhagor o wybodaeth o bryd i'w gilydd. Gall awdurdodau lleol drefnu i rannu’r wybodaeth a gedwir gan y BBDS, a bydd hyn yn lleihau nifer y ceisiadau am wybodaeth ad hoc.

Atodiad A: Deddfwriaeth Berthnasol

Daeth cynllun y Bathodyn Glas i rym ar 1 Rhagfyr 1971 drwy Reoliadau a wnaed o dan adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 (Bathodynnau i'w harddangos ar gerbydau modur a ddefnyddir gan bersonau anabl).

Llywodraethir y cynllun fel y mae ar hyn o bryd gan y Rheoliadau canlynol:

  • Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000 (fel y'u diwygiwyd)
  • Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Esemptiadau ar gyfer Personau Anabl) (Cymru) 2000.

Deddfwriaeth berthnasol arall:

  • Adran 21A (Cydnabod bathodynnau a roddir y tu allan i Brydain Fawr) o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970
  • Adran 117 (Camddefnyddio bathodyn person anabl) ac 142(1) (Dehongli’n gyffredinol y Ddeddf) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (yn darparu pwerau i fynd i’r afael â chamddefnydd o'r cynllun yn gysylltiedig â pharcio)
  • Deddf Twyll 2006
  • Adran 19 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984
  • Deddf Ffugio 1981
  • Deddf Dwyn 1968
  • Deddf Enillion Troseddau 2002
  • Deddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000
  • Deddf Bathodynnau Parcio Pobl Anabl 2013.

Gellir gweld yr holl Offerynnau Statudol uchod (a'r Deddfau) hefyd ar wefan deddfwriaeth.gov.uk

Atodiad B

Mae’r ymgeisydd yn cael anhawster sylweddol iawn wrth gerdded

Bydd angen i’r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol nad yw, o ganlyniad i’w anabledd parhaol a sylweddol, yn gallu cerdded yn bell iawn heb gael anhawster difrifol. Gall nifer o ffactorau fod yn berthnasol a diffinnir cael anhawster sylweddol wrth gerdded fel un neu ragor o’r canlynol:

Dywed yr ymgeisydd ei fod yn cael poen ormodol wrth gerdded, neu o ganlyniad i ymdrech cerdded.

Mae poen yn oddrychol, ac mae gan rai pobl drothwyon poen uwch nag eraill. Mae’n bosibl y bydd angen ystyried croesgyfeirio’r profiad o boen y dywed ymgeisydd ei fod wedi’i gael â’r dystiolaeth gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol a’r wybodaeth mae’n eu darparu am ei anabledd parhaol a sylweddol, manylion y feddyginiaeth mae’n ei chymryd, strategaethau ymdopi mae wedi’u mabwysiadu ac unrhyw gyrsiau o driniaeth a fwriedir i’w helpu i reoli ei boen.

Unrhyw ddiffyg anadl y dywed yr ymgeisydd ei fod yn ei gael wrth gerdded, neu o ganlyniad i ymdrech cerdded.

Bydd angen croesgyfeirio’r diffyg anadl y dywed yr ymgeisydd ei fod wedi’i gael â manylion cyflyrau meddygol y cafwyd diagnosis ohonynt ac y gwyddys eu bod yn achosi diffyg anadl (e.e. emffysema, cyflyrau ar y galon, ac ati) a’r dystiolaeth a ddarperir gan yr ymgeisydd.

Mae’n bosibl y bydd yr ymgeisydd yn darparu tystiolaeth gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol fod y boen ormodol neu’r diffyg anadl yn digwydd ar adeg cerdded, neu’n ddiweddarach o ganlyniad uniongyrchol i’w ymgais i gerdded.

Y pellter y gall ymgeisydd gerdded heb boen ormodol neu ddiffyg anadl; gan roi ystyriaeth briodol i’r amgylchedd lle mae’r unigolyn yn cerdded fel arfer.

Os na all ymgeisydd gerdded 50 metr (55 llathen) i gyd, yna nid yw ei allu i gerdded yn  sylweddol a gellir barnu bod ganddo anhawster sylweddol iawn wrth gerdded.

Gellir barnu bod yr ymgeisydd yn gymwys os gall gerdded 50-80 metr (tua 55 i 87.5 llathen) heb boen neu ddiffyg anadl, ond ei fod yn dangos anhawster sylweddol iawn wrth gerdded oherwydd cyfuniad o ffactorau eraill (e.e. mynd yn araf iawn a / neu'r ffordd mae’n cerdded).

Y cyflymder y gall gerdded.

Fel canllaw gall person cyffredin gerdded mewn munud:

  • Yn gyflym - >90 metr
  • Ar gyflymdra normal - 61-90 metr
  • Yn araf - 40-60 metr
  • Yn araf iawn - <40 metr

Os na all ymgeisydd gerdded 40 metr (44 llathen) mewn munud (cyflymdra o lai na 0.67 metr/eiliad), gan gynnwys unrhyw seibiau i orffwys, yna mae hyn yn araf iawn ac yn debygol o wneud cerdded yn anodd iawn o’i ystyried ar ei ben ei hun.

Os gall ymgeisydd gerdded 40 metr (44 llathen) mewn llai na munud (cyflymdra o 0.67 metr/eiliad neu fwy), gan gynnwys unrhyw seibiau i orffwys, yna nid yw’r cyflymder mae’n cerdded yn debygol o wneud cerdded yn anodd iawn o’i ystyried ar ei ben ei hun. Mae’n bosibl y caiff yr ymgeisydd ei ystyried yn gymwys o hyd os yw’n dangos anhawster sylweddol iawn wrth gerdded oherwydd unrhyw ffactorau eraill.

Am ba mor hir mae ymgeisydd yn gallu cerdded.

Er enghraifft, os na all ymgeisydd gerdded ond am lai na munud i gyd yna mae cerdded yn debygol o fod yn anodd iawn iddo.

Y ffordd mae’r ymgeisydd yn cerdded.

Dylid ystyried ystum corff, rhythm, cydsymud, cydbwysedd a hyd camau yr ymgeisydd yn nhermau faint o effaith maent yn ei chael ar ei allu i gerdded.

Defnydd ymgeisydd o gymhorthion cerdded.

Gall y ffaith y defnyddir neu na ddefnyddir cymorth cerdded fod yn berthnasol i’r penderfyniad a wneir yn y pen draw, ond ni ddylai hyn ar ei ben ei hun bennu a roddir Bathodyn Glas ai peidio.

Er enghraifft, os gall unigolyn gerdded yn gymharol normal gan ddefnyddio ffon gerdded, yna ni ddylid barnu ei fod yn bodloni’r meini prawf i fod yn gymwys i gael Bathodyn Glas.

Gall hefyd fod yn berthnasol ystyried a fyddai ymgeisydd nad yw’n defnyddio cymorth cerdded o unrhyw fath ar adeg ei gais yn gallu gwella ei allu i gerdded, i’r graddau na fyddai mwyach yn dangos anhawster sylweddol iawn wrth gerdded, drwy ddefnyddio cymorth o’r fath yn gywir.

Gallu’r ymgeisydd i gerdded yn yr awyr agored.

Mae’n bwysig ystyried gallu’r unigolyn i groesi’r mathau o balmant neu ffordd y byddai rhywun yn disgwyl dod ar eu traws fel arfer wrth gerdded yn yr awyr agored.  Nid yw unrhyw balmant neu ffordd yn hollol wastad felly dylid ystyried rhywfaint o “oledd i lawr” a “goledd i fyny” wrth wneud asesiad symudedd.

A yw ymdrech cerdded yn creu perygl i fywyd yr ymgeisydd, neu a fyddai’n debygol o arwain at ddirywiad difrifol yn ei iechyd.

Mae angen i’r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth na ddylai gerdded yn bell iawn oherwydd y perygl i’w iechyd.

Bwriedir i’r rhan hon o’r meini prawf adnabod pobl â chyflyrau difrifol ar y frest, yr ysgyfaint neu’r galon sydd o bosibl â gallu corfforol i gerdded yn normal.

Nid oes angen i’r dirywiad difrifol sy’n digwydd fod yn barhaol ond dylai fod angen ymyriad meddygol iddynt ymadfer.

Bydd angen iddynt roi tystiolaeth (tystiolaeth broffesiynol gofal iechyd ysgrifenedig neu yn ystod asesiad symudedd) fod unrhyw berygl i’w hiechyd yn ganlyniad uniongyrchol i’r ymdrech mae ei angen i gerdded. Cadwch mewn cof fod gweithwyr gofal  iechyd proffesiynol yn annog pobl i wneud ymarfer corff ysgafn i wella rhai cyflyrau felly bydd angen edrych ar yr achosion hyn a’u hystyried fesul un.

Bydd angen i bobl ag epilepsi ddangos (trwy ddarparu tystiolaeth gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol) bod unrhyw ffitiau wedi eu hachosi gan yr ymdrech mae ei angen i gerdded.

Ni fyddai ymgeiswyr sy’n gallu cerdded mwy na 80 metr (87.5 llathen) ac nad ydynt yn dangos anhawster sylweddol iawn wrth gerdded oherwydd unrhyw ffactorau eraill yn cael eu barnu’n gymwys.

1. Gweler rheoliad 4(2) o Reoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1786) (“rheoliadau 2000”).

2. Gweler rheoliad 2(1) o Reoliadau 2000.

3. Gweler rheoliad 6(4)9(c) o reoliadau 2000.

4. Gweler rheoliad 6(4)9(a) o reoliadau 2000.

5. Gweler rheoliad 6(4)(b) o reoliadau 2000.

6. Gweler rheoliad 8 o reoliadau 2000. 

7. Euogfarn berthnasol yw euogfarn lle cafwyd erlyniad llwyddiannus yn erbyn deiliad bathodyn neu drydydd parti am 1) trosedd o dan adran 21 (4B) o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 (mae hyn yn cynnwys camddefnyddio bathodyn go iawn, neu ddefnyddio bathodyn ffug / wedi'i addasu pan fo’r cerbyd yn cael ei yrru); neu 2) trosedd o dan adrannau 115 neu 117 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (mae hyn yn cynnwys camddefnyddio bathodyn go iawn, neu ddefnyddio bathodyn ffug/wedi'i addasu pan fo'r cerbyd wedi'i barcio); neu 3) anonestrwydd neu dwyll a gyflawnwyd o dan unrhyw un arall o ddarpariaethau Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970, Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 neu unrhyw ddeddfwriaeth arall yn y DU mewn perthynas â'r bathodyn (sy'n ystyried troseddau o dan, er enghraifft, Deddf Twyll 2006, Deddf Dwyn 1968, Deddf Ffugio a Drwgfathu 1981, ac ati).

8. Gweler rheoliad 8(3) o reoliadau 2000.

9. Gweler rheoliad 10 o reoliadau 2000 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2012/309 (W. 50)) i weld amgylchiadau lle bydd apêl at weinidogion Cymru’n cael ei hystyried. (Yn gryno, os yw bathodyn wedi cael ei wrthod yn dilyn euogfarn.)

10. Gweler rheoliad 8(2) o reoliadau 2000.

11. Gweler rheoliad 8(3) o reoliadau 2000.

12. Gweler rheoliad 9(2) o reoliadau 2000.

13. Gweler rheoliad 9(1)(c) o reoliadau 2000.

14. Gweler rheoliad 9(1)(b) o reoliadau 2000.

15. Gweler rheoliad 7(1) o reoliadau 2000.

16. Gweler rheoliad 9(1)(d) o reoliadau 2000.

17. Gweler rheoliad 9(1)(e) o reoliadau 2000.

18. Gweler rheoliad 9(1)(f) o reoliadau 2000.

19. Gweler adrannau 27 a 28 o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000.