Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn nodi ymrwymiadau uchelgeisiol i ddatblygu Cynllun Gweithredu HIV i Gymru a mynd i'r afael â'r stigma a brofir gan y rhai sy'n byw gyda HIV. Yr egwyddorion arweiniol sy'n sail i'r Cynllun Gweithredu 3 blynedd drafft hwn ar gyfer 2023-26 yw na ddylid gadael neb ar ôl, y dylid annog a dathlu cynwysoldeb ac amrywiaeth, ac y dylai'r holl gymunedau rydym yn eu gwasanaethu fod yn rhan annatod o'r ddeialog, y drafodaeth a'r penderfyniadau ynghylch HIV.

Datblygu’r Cynllun Gweithredu HIV i Gymru 

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth i gyflawni ein hymrwymiadau. Datblygwyd y Cynllun Gweithredu hwn gan Weithgor Cynllun Gweithredu HIV a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gefnogwyd gan dri grŵp gorchwyl a gorffen a oedd yn canolbwyntio ar: stigma; cymorth gan gymheiriaid a byw'n dda gyda HIV; a PrEP ac atal.

Roedd aelodau’r grwpiau hynny’n dod o ystod eang o sefydliadau, gan gynnwys pobl sy'n byw gyda HIV, ac roedd gan bob un ohonynt arbenigedd sylweddol.

Rydym hefyd wedi gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru, yn enwedig arweinwyr polisi LHDTC+ sy'n datblygu Cynllun Gweithredu ar LHDTC+ i Gymru. Ystyriodd yr aelodau y dystiolaeth gyfredol a’r arferion da presennol a pherthnasedd hynny i Gymru, ac maent wedi cyflwyno 26 o gamau gweithredu i helpu i gyflawni ein hymrwymiad i gael gwared ar HIV erbyn 2030 ac i fynd i'r afael â stigma sydd ynghlwm wrtho.

Yr amserlen ymgynghori

Bydd yr ymgynghoriad yn agored am 12 wythnos. Rydym yn croesawu barn pobl sy'n byw gyda HIV, rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn ehangach a hoffem gael eich sylwadau. Byddwn yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad er mwyn gallu mireinio’r Cynllun, a’r nod yw ei gyhoeddi’n derfynol yn ddiweddarach yn 2022.

Yr hyn yr hoffem ei gael gennych

Mae’r Cynllun Gweithredu HIV i Gymru yn cynnwys blaenoriaethau clir a chamau gweithredu wedi'u targedu sy'n ymwneud â'r blaenoriaethau hyn a bydd yr ymgynghoriad hwn yn ein helpu i gael gwybod ai dyma'r blaenoriaethau a'r camau gweithredu cywir i ganolbwyntio arnynt, er mwyn cyflawni ein nodau.

Rydym wedi cynnwys nifer o gwestiynau i chi eu hystyried, ond rydym hefyd yn croesawu ymatebion mewn fformat sy'n dderbyniol i chi, gan gynnwys clipiau fideo neu syniadau ysgrifenedig yn yr iaith rydych chi'n teimlo'n fwy cyfforddus yn ysgrifennu ynddi.

Atgoffir ymatebwyr bod yr hawl i ryddid mynegiant yn hawl amodol a bod troseddau penodol yn bodoli mewn perthynas â throseddau casineb, wedi’u creu gan Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986 a Deddf Cyfathrebu Maleisus 1988 er enghraifft. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi llunio canllawiau ar faterion yn ymwneud â rhyddid mynegiant a lle y gallai hyn fod wedi’i gyfyngu. Gwnewch yn siŵr bod unrhyw ymateb a rowch i’r ymgynghoriad yn gyfreithlon.

Cwestiynau’r ymgynghoriad:

Defnyddiwch y cwestiynau canlynol yn sail i'ch ymateb. Mae croeso ichi ychwanegu sylwadau neu wybodaeth ychwanegol os dymunwch.

  1. Ydych chi'n cytuno â'r pum cam gweithredu cyffredinol a nodir yn y cynllun hwn? A oes camau cyffredinol eraill y dylid eu cynnwys?
  2. Ydych chi'n cytuno â'r rhestr o gamau gweithredu a gynigir? A oes unrhyw rai y byddech yn eu hychwanegu neu eu tynnu o'r 26 a nodwyd ar hyn o bryd?
  3. Beth yw'r heriau a allai olygu nad fydd yr ymrwymiad i ddileu trosglwyddiad HIV erbyn 2030 yn cael ei wireddu? A oes unrhyw heriau amlwg yn ymwneud ag unrhyw gamau penodol y teimlwch y dylid tynnu sylw atynt?
  4. A oes unrhyw adnoddau (gallai hyn gynnwys cyllid, amser staff, hyfforddiant, mynediad at gymorth neu wasanaethau ymhlith pethau eraill) na chyfeirir atynt yn ein Cynllun, ond a fydd yn angenrheidiol wrth gyflawni'r nodau a'r camau gweithredu a nodir yn y Cynllun hwn?
  5. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi rhoi sylw penodol iddynt, defnyddiwch y lle hwn i sôn amdanynt:

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 14 Medi 2022, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

Llenwi ein ffurflen ar-lein

Lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i hanfon ar e-bost at

Lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i phostio i:

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Craidd Dwyreiniol y Pedwerydd Llawr
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni. 

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y swyddog diogelu data

Y swyddog diogelu data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad cyffredinol y DU ar ddiogelu data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.

Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.