Cynllun Grant Addysg Gychwynnol i Athrawon mewn ymateb i COVID-19: cefnogi Profiad Ysgol BA 21/22 er mwyn ennill SAC: canllawiau i fyfyrwyr
Mae’r cynllun ar gael i fyfyrwyr cymwys o dan raglen achrededig addysg gychwynnol i athrawon (AGA) yng Nghymru sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC). Bwriad y cynllun yw cefnogi myfyrwyr cymwys blwyddyn academaidd (BA) 2021/22, sydd, oherwydd cyfyngiadau COVID yng Nghymru, naill ai ar sail genedlaethol, leol neu unigol, wedi methu â chael digon o brofiad yn yr ysgol er mwyn ennill SAC.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae'r cynllun hwn yn cynnwys myfyrwyr sydd i fod i ennill eu SAC ym mlwyddyn academaidd 2021/22 ac mae ar agor rhwng 1 Medi 2022 a 31 Mawrth 2023.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau o dan adrannau 14 i 17 o Ddeddf Addysg 2002 i ddarparu cymorth ariannol sy'n gysylltiedig ag addysg. Mae'r cynllun grant hwn yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag effaith pandemig COVID-19, ac mae ar waith i sicrhau bod athrawon dan hyfforddiant sydd â’r gallu i gyflawni SAC yn cael y cyfle i wneud hynny. Mae'r cynllun hwn yn cefnogi athrawon dan hyfforddiant i fynd yn ôl i ysgolion partner AGA i gwblhau eu hyfforddiant a dod yn rhan o’r proffesiwn addysgu.
Nod y cynllun yw cefnogi athrawon dan hyfforddiant sydd wedi bodloni holl ofynion academaidd eu Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR), ond nad ydynt wedi gallu dangos tystiolaeth lawn o'u cyflawniad ymarferol o SAC oherwydd effaith COVID a diffyg lleoliadau ysgol ar ddiwedd blwyddyn academaidd 2021/22, fel y'i haseswyd gan eu partneriaeth AGA. Mae'r cynllun hwn yn rhoi cymorth ariannol i'r athrawon cymwys hynny dan hyfforddiant sydd angen y cyfle i gasglu tystiolaeth bellach mewn ysgolion partner AGA i fodloni'r holl ofynion ac ennill eu SAC.
Mae cyfeiriadau at raglenni AGA yn cynnwys y canlynol:
- Rhaglenni amser llawn ôl-raddedig
- Rhaglenni amser llawn israddedig
Nid yw myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni/cyrsiau hyfforddi sy'n eu galluogi i addysgu yn y Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (TAR PCET) wedi'u cynnwys o dan y cynllun hwn.
Myfyrwyr sy’n gwneud cais am y grant hwn
Mae Partneriaethau AGA yn gyfrifol am asesu cymhwystra myfyrwyr ynghyd â gweinyddu'r cynllun grant hwn ar ran Gweinidogion Cymru.
Gall myfyrwyr wneud cais o dan gynllun y grant hwn, dim ond os ydynt:
- i fod i gyflawni eu SAC yn 2021/22
- wedi cael cyngor i wneud cais gan eu partneriaethau AGA
- yn bodloni'r meini prawf cymhwystra a’r gofynion o ran gweithgarwch
- wedi cwblhau'r ffurflen ddatgan berthnasol
Os oes gan athrawon dan hyfforddiant unrhyw ymholiadau mewn perthynas â'u cymhwystra, neu os oes ganddynt unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r cynllun grant hwn, dylent gysylltu â'u partneriaeth AGA.
Meini prawf cymhwystra ar gyfer y grant
Rhaid i athrawon dan hyfforddiant fodloni'r meini prawf o ran gweithgarwch a gwariant sy’n cael eu cynnwys o dan y cynllun hwn, a thelerau ac amodau cyffredinol y Cynllun Grant.
Ni all athrawon dan hyfforddiant enwebu eu hunain ar gyfer y cynllun grant hwn yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru. Bydd Partneriaethau AGA yn gwirio, yn asesu ac yn penderfynu a yw athrawon dan hyfforddiant yn gymwys i gael y grant hwn.
Pwy sy'n gymwys i gael y grant?
I fod yn gymwys ar gyfer Cynllun Grant Addysg Gychwynnol i Athrawon mewn ymateb i COVID 19: cefnogi Profiad Ysgol BA 21/22 er mwyn ennill SAC, rhaid i athrawon dan hyfforddiant fodloni’r gofynion canlynol:
- bod yn astudio rhaglen achrededig amser llawn Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) sy’n arwain at SAC, yng Nghymru
- disgwyl gorffen eu rhaglen astudio ym mlwyddyn academaidd 2021/22 ac ennill SAC yn haf 2022
- bod wedi cwblhau a chyflawni gofynion academaidd eu Rhaglen AGA, yn unol â barn broffesiynol eu Partneriaeth AGA
- yn meddu ar y gallu i ennill SAC os cânt amser ychwanegol (o leiaf 2 wythnos ac 8 wythnos ar y mwyaf) mewn ysgol bartner AGA, yn ôl barn eu Partneriaeth AGA
- heb fod wedi cyflawni SAC
- heb fod wedi cael yr amser y gellid bod wedi’i dreulio mewn ysgol bartner AGA i ddangos prawf eu bod wedi llwyddo i fodloni safonau SAC, o ganlyniad i amgylchiadau personol (gan gynnwys cyflyrau meddygol sy'n eu gwneud yn agored i COVID neu ddal COVID) neu o ganlyniad i gau ysgolion (Cenedlaethol/Lleol/Penodol)
- parhau i fodloni'r gofynion diogelu a mynediad sy'n ofynnol ar gyfer ymuno ag unrhyw Raglen Achrededig Addysg Gychwynnol i Athrawon (gyda SAC) yng Nghymru
- bwriadu ymuno â'r proffesiwn addysgu fel athrawon ysgol cymwysedig
Pa weithgarwch sy'n gymwys?
Mae'r grant hwn ar gael i athrawon cymwys dan hyfforddiant i gefnogi eu costau byw (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i lety, teithio a chynhaliaeth) yn ystod lleoliad ychwanegol athrawon dan hyfforddiant mewn ysgolion partner AGA, er mwyn iddynt gael y profiad atodol sydd ei angen i gyflawni SAC.
Rhaid i athrawon dan hyfforddiant fynd ar leoliadau mewn ysgolion partner AGA yng Nghymru rhwng 1 Medi 2022 a 31 Mawrth 2023. Rhaid iddynt fod ar leoliad yn ystod y tymor yn un o’r ysgolion partner AGA yng Nghymru; mae gwyliau hanner tymor yn cael eu cynnwys.
Nid yw gweithgarwch o dan y grant hwn yn gwarantu bod athrawon dan hyfforddiant yn ennill SAC.
Talu'r grant
Pa grant sydd ar gael?
O dan y grant hwn mae gan bob athro cymwys dan hyfforddiant yr hawl i gael £300 yr wythnos am gyfnod o 8 wythnos ar y mwyaf i gefnogi costau byw.
Mae isafswm o £600 ac uchafswm o £2,400 ar gael i bob athro cymwys dan hyfforddiant yn ôl amodau’r cynllun hwn. Bydd cyfanswm y grant i bob athro cymwys dan hyfforddiant yn cael ei addasu i ddiwallu anghenion lleoliad yr athrawon dan hyfforddiant unigol. Felly ni fydd angen i bob athro cymwys dan hyfforddiant gael yr 8 wythnos lawn o gymorth ac uchafswm y grant.
Pryd y dylid gwneud taliadau i fyfyrwyr
Bydd partneriaethau AGA yn gweinyddu'r grant hwn yn wythnosol i athrawon cymwys dan hyfforddiant. Bydd y darparwyr AGA yn penderfynu ar yr union ddyddiadau y gwneir y taliadau.
Dim ond i'r athrawon hynny dan hyfforddiant sy'n bodloni'r holl feini prawf o ran cymhwystra a gweithgarwch, ac sydd wedi trefnu lleoliad mewn ysgolion partner AGA rhwng 1 Medi 2022 a 31 Mawrth 2023 y dylid gwneud taliadau.
Pryd y dylai’r taliadau ddod i ben
Cyn gynted ag y bydd digon o dystiolaeth ar gael i ddyfarnu SAC, o hynny ymlaen ni fydd athro/athrawes dan hyfforddiant yn parhau i fod yn gymwys i gael y grant hwn mwyach. Os yw hynny’n digwydd cyn cwblhau’r cyfnod llawn o 8 wythnos, ni fydd unrhyw arian ychwanegol yn cael ei dalu.
Cyn gynted ag y bydd athro/athrawes dan hyfforddiant wedi derbyn uchafswm y cyllid dros gyfnod o 8 wythnos, ni fydd yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer y grant hwn mwyach.
Os nad oes digon o gynnydd yn cael ei wneud gan athro/athrawes dan hyfforddiant (yn unol â barn broffesiynol y Bartneriaeth AGA berthnasol) ni fydd yn gymwys i gael y grant hwn mwyach.
Os bydd unrhyw athro/athrawes dan hyfforddiant yn methu â chwblhau cyfnod y lleoliad rhwng 1 Medi 2022 a 31 Mawrth 2023, neu os yw wedi tynnu yn ôl o raglen neu wedi gohirio rhaglen, ni ddylid gwneud taliad.
Cyfrifoldebau athrawon cymwys dan hyfforddiant AGA
Dylai athrawon cymwys dan hyfforddiant:
- ddarllen yr wybodaeth sy'n gysylltiedig â Chynllun Grant Addysg Gychwynnol i Athrawon mewn ymateb i COVID 19: cefnogi Profiad Ysgol BA 21/22 er mwyn ennill SAC, ynghyd â'r hysbysiad preifatrwydd (PN00000594)
- llenwi a dychwelyd y ffurflen ddatgan ar gyfer myfyrwyr, mewn modd diogel, i'ch partneriaeth AGA, yn unol â chyfarwyddyd ganddynt.
- dychwelyd i leoliad yr ysgol bartner AGA a bennwyd i chi, yn unol â chyfarwyddyd eich partneriaeth AGA.
- cwblhau’r cyfnod gofynnol yn y lleoliad, am gyfnod o 8 wythnos ar y mwyaf, rhwng 1 Medi 2022 a 31 Mawrth 2023.
- rhoi gwybod i'ch partneriaeth AGA cyn gynted â phosibl os bydd eich amgylchiadau'n newid. Er enghraifft, ysgol yn cau, salwch, profedigaeth, ataliad dros dro, neu dynnu'n ôl; a deall y gallai hynny effeithio ar swm eich taliad grant.
- defnyddio'r grant at y diben a fwriadwyd yn unig.
- bwriadu ymuno â'r proffesiwn addysgu unwaith y bydd SAC wedi'i gyflawni
Os oes gan athrawon cymwys dan hyfforddiant unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â'r cynllun grant hwn, dylent gysylltu â'u partneriaeth AGA.
Gohirio (atal dros dro), tynnu'n ôl ac ailddechrau
Os bydd athrawon dan hyfforddiant yn gohirio (atal dros dro) eu lleoliad, ni fyddant yn gymwys i dderbyn taliadau wythnosol pellach. Fodd bynnag, os bydd athrawon dan hyfforddiant yn ailddechrau eu lleoliad dim mwy na phythefnos yn ddiweddarach, dylid cael caniatâd Llywodraeth Cymru i ailddechrau talu’r grant; hyd at y cyfnod llawn o 8 wythnos ar y mwyaf. Dim ond amgylchiadau lliniarol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) salwch, profedigaeth neu gau ysgol, fydd yn cael eu hystyried yn rheswm addas dros gael toriad yn y gweithgarwch cymwys.
Os bydd athrawon dan hyfforddiant yn ailddechrau eu lleoliadau AGA ar ôl 1 Ebrill 2023, ni fyddant yn gymwys i dderbyn taliadau o dan y cynllun hwn.
Bydd gan unigolion sy'n tynnu'n ôl o'u lleoliadau AGA neu o’u rhaglen AGA cyn 31 Mawrth 2023 yr hawl i daliadau a dderbyniwyd eisoes yn unig, hyd at yr wythnos lawn olaf yr oeddent yn bresennol mewn ysgol bartner AGA.
Os nad oes digon o gynnydd yn cael ei wneud gan athrawon dan hyfforddiant (yn unol â barn broffesiynol ei Bartneriaeth AGA), ni fyddant yn gymwys i gael y grant hwn o hynny ymlaen.
Adennill grantiau cymhelliant a dalwyd
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i adennill grantiau a dalwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Mae ganddynt y disgresiwn i arfer neu beidio ag arfer y pwerau hynny, a byddant yn ystyried pob achos unigol ar sail teilyngdod.
Caniateir i'r pwerau hyn gael eu harfer gan Weinidogion Cymru:
- os bydd y derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad o grant, yn methu â bodloni unrhyw feini prawf cymhwystra a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru ac a nodir yn y canllaw gwybodaeth mewn perthynas â rhandaliad dilynol
- os bydd y derbynnydd wedi darparu yn ei gais am grant, neu mewn cysylltiad ag ef, wybodaeth sy'n anwir neu'n sylweddol gamarweiniol; neu mae tystiolaeth gadarn nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau'r rhaglen AGA nac, ar ôl ei chwblhau, ddechrau addysgu
Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth
Mae gwybodaeth y mae athrawon dan hyfforddiant yn ei chyflwyno fel rhan o'u datganiad o dan Gynllun Grant Addysg Gychwynnol i Athrawon mewn ymateb i COVID 19: cefnogi Profiad Ysgol BA 21/22 er mwyn ennill SAC yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (EIR) y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA).
Mae athrawon dan hyfforddiant hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr ynghylch:
- datgelu unrhyw wybodaeth yr ydym wedi'i chael o dan neu mewn cysylltiad â'r Cyllid i'r graddau y mae'n ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth o'r fath i berson sy'n gwneud cais datgelu o dan yr FOIA neu'r EIR a/neu
- esemptio unrhyw wybodaeth o’r gofynion datgelu o dan yr FOIA neu’r EIR
- cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i ddilysu hunaniaeth. Gall Llywodraeth Cymru rannu eich gwybodaeth bersonol ag asiantaethau atal twyll
- rhannu a chysylltu gwybodaeth amdanoch â setiau data eraill os yw’r gyfraith yn caniatáu neu â Chyngor y Gweithlu Addysg neu Drydydd Parti sydd wedi'i gontractio i wneud gwaith ymchwil cymeradwy ar ran Llywodraeth Cymru
- rheoli data: Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y mae'n ei chael. Bydd unrhyw ddata personol a gasglwn yn cael ei reoli yn unol â'n hysbysiad preifatrwydd (PN00000594) a 'Hysbysiad preifatrwydd: Grantiau Llywodraeth Cymru'