Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae ffurflen Cadarnhau Data’r SFS yn defnyddio’r mapiau a’r wybodaeth diweddaraf sydd ar system fapio Taliadau Gwledig Cymru (RPW) i ddangos y tir cynefin a’r canopi coed ar eich fferm.

Amcan Cadarnhau Data yw sicrhau fod system fapio’r RPW mor gywir ag y gall fod, er mwyn gallu cadarnhau pa dir sy’n gynefin ac o dan ganopi coed ar lefel cae ac ar lefel fferm ledled Cymru, hynny cyn i ni ddylunio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) terfynol. Er mwyn gallu gwneud hyn, byddwn yn: 

  • rhoi map digidol i chi o’ch fferm, yn seiliedig ar wybodaeth o’ch datganiadau tir, mapiau cynefin sydd eisoes wedi’u cyhoeddi a lluniau lloeren i adnabod cynefinoedd, coetir gan gynnwys tir newydd ei blannu a choed sydd dros 3 metr o daldra
  • rhoi cyfle i chi edrych ar y mapiau a chadarnhau, newid, dileu neu ychwanegu gwybodaeth fel eu bod yn dangos y tir cynefin a’r gorchudd coed yn gywir ar eich fferm

Pwysig: Nid yw hwn yn ddatganiad tir ar gyfer unrhyw gynllun, nawr nac yn y dyfodol. Er mwyn datgan tir ar gyfer urhyw gynllun yn y dyfodol, byddwn yn anfon ffurflenni cais ar wahân atoch chi. 

Cynllun Cynefin Cymru 2025

Byddwn yn gofyn ichi a ydych am ymgeisio am y Cynllun Cynefin Cymru newydd yn 2025. Er bod rhaid gofyn y cwestiwn hwn, ni fydd eich ateb yn eich ymrwymo, un ffordd na’r llall. 

Byddwn yn cyhoeddi Canllawiau ar gyfer y Cynllun yn ddiweddarach eleni a bydd ffurflen gais ar wahân ar gael yn 2025. 

Dyddiadau cadarnhau data

Bydd y ffurflen cadarnhau data ar gael i chi ei llenwi rhwng 22 Gorffennaf a 6 Rhagfyr 2024. 

Byddwn yn cyhoeddi unrhyw newidiadau ar ein wefan, GWLAD ar-lein ac os bydd angen, byddwn yn cysylltu â chi’n bersonol.

Cyflwyno’r ffurflen cadarnhau data

Byddwch yn gallu cyflwyno ffurflen cadarnhau data os: 

  • ydych wedi’ch cofrestru gyda Llywodraeth Cymru a’ch bod wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN) 
  • ydy’ch tir wedi’i gofrestru ar System Adnabod Parseli Tir (LPIS) Llywodraeth Cymru

Tir yr ydych yn ei gynnwys ar eich ffurflen cadarnhau data

Byddwn wedi llenwi manylion y parseli canlynol ar eich ffurflen cadarnhau data ymlaen llaw os: 

  • cawson nhw eu cofrestru ar LPIS cyn diwedd 2023
  • ydyn nhw o dan eich rheolaeth lwyr chi yn eich LPIS a/neu’ch bod wedi’u datgan ar eich Ffurflen Cais Sengl (SAF) 2024 fel parseli sydd o dan eich rheolaeth lwyr ar ddyddiad dechrau’ch ffurflen cadarnhau data

Mae tir o dan eich rheolaeth lwyr chi:

  • os chi yw’r perchennog feddiannydd
  • os ydych yn denant â ‘meddiannaeth egsgliwsif’ o dan Ddeddf Tenantiaethau 1995 neu denantiaeth lawn o dan y Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986
  • os ydych yn denant â thenantiaeth lafar â’r un lefel o reolaeth â’r uchod
  • tir comin ag ‘un porwr’, wedi’i gofrestru fel parsel cae gyda’r RPW

Os ydych yn datgan tir am y tro cyntaf ar eich SAF 2024 neu’ch bod wedi cyflwyno newidiadau i’ch tir trwy Rheoli fy Nhir yn 2024, efallai na fydd yr wybodaeth honno wedi ymddangos ar eich ffurflen cadarnhau data eto. Mae RPW yn gobeithio rhoi manylion yr holl newidiadau gafodd eu cyflwyno cyn 15 Mai 2024 ar yr LPIS erbyn yr hydref. Byddwch yn clywed trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein pan fydd y newidiadau wedi cael eu cofnodi. Gallwch ddechrau’r ffurflen eto (os nad ydych wedi cyflwyno’r ffurflen) er mwyn nodi’r newidiadau. Rydyn ni’n eich cynghori i ddechrau’r ffurflen eto os oes tipyn o amser wedi mynd heibio ers agor y ffurflen y tro cyntaf a gwneud y newidiadau i’r tir. 

Y dewis arall yw llenwi’r ffurflen a chadarnhau data’r parseli sydd wedi’u llenwi ar eich rhan ac yna eu newid pan fyddwch yn cadarnhau data yn 2025. 

Newidiadau i’r tir

Os oes parseli ar eich ffurflen cadarnhau data lle mae’r newidiadau canlynol wedi’u gwneud, dylech gyflwyno ffurflen Rheoli Fy Nhir i roi gwybod i ni: 

  • rhannu caeau’n barhaol
  • uno caeau’n barhaol
  • caeau sydd â ffiniau newydd
  • caeau sydd â newidiadau i’w nodweddion parhaol

Rhaid ichi roi gwybod hefyd i ni o fewn 30 diwrnod os bydd perchennog neu denant neu gytundeb tenantiaeth y tir yn newid.

Defnyddiwch yr adran ‘Rheoli fy Nhir’ ar eich cyfrif RPW Ar-lein i roi gwybod i ni am y newidiadau hyn o fewn 30 diwrnod ar ôl iddynt ddigwydd.

Cynnwys y ffurflen cadarnhau data

Mae’r ffurflen cadarnhau data yn cofnodi data am gynefinoedd a chanopi coed. 

Cynefinoedd ar y ffurflen cadarnhau data

Byddwn yn cofnodi data am gynefinoedd lled naturiol ar sail arwynebedd, ac ni fyddwn yn cofnodi nodweddion llinellol fel perthi (gwrychoedd). Caiff y cynefin ei ddangos naill ai fel cynefin ‘wedi’i gynnwys’ neu gynefin 'posibl’. 

Cynefin ‘wedi’i gynnwys’

Daw manylion y cynefin ‘wedi’i gynnwys’  o nifer o ffynonellau data gwahanol: 

  • tir cynefin sydd wedi’i nodi ar yr haenau cynefin gwahanol ar fapiau sydd wedi’u cyhoeddi ar ‘FapDataCymru’
  • tir oedd o dan opsiwn cynefin mewn contract Glastir Sylfaenol a/neu Glastir Uwch

Cynefin 'posibl’

Cynefin 'posibl’ yw tir nad yw eto wedi cael ei gadarnhau ei fod yn gynefin ar y setiau data a ddefnyddir i gofnodi ‘cynefinoedd wedi’u cynnwys’ ac a allai fod yn perthyn i un o’r categorïau cynefin bras a ddisgrifir isod. Mae’r cynefin posibl wedi’i fapio gan ddefnyddio lluniau lloeren a gymerwyd o ‘Living Wales' (ar aber.ac.uk). Oherwydd y modd y tynnwyd y llun o’r lloeren, mae golwg onglog ar y cynefin posibl ar y map. Mae’n cynnwys hefyd tir sy’n cael ei reoli fel cynefin ac sydd wedi’i gadarnhau o dan Gynllun Cynefin Cymru 2024. 

Dosbarthiadau o gynefin

Dyma’r ddosbarthiadau cynefin bras:

Glaswelltir Sych Lled-naturiol wedi'i Amgáu (yn cael ei reoli fel porfa neu weirglodd)

Glaswelltir sych wedi'i amgáu, gyda llai na 25% ohono'n rhygwellt a meillion gwyn. Yn cynnwys glaswelltir sur, niwtral, calchaidd, arfordirol a metelaidd.

Gwlypdir wedi'i Amgáu a Glaswelltir Corsiog

Yn cynnwys cynefinoedd fel corsydd, ffen, gwernydd, gwelyau cyrs, llaciau a phorfeydd rhos. Mae glaswelltir wedi'i amgáu a glaswelltir corsiog yn dir gwlyb neu laith â gorchudd o frwyn, glaswellt y gweunydd, plu'r gweinydd, hesg, cyrs a/neu fwsoglau, â llai na 25% ohono'n rhygwellt a meillion gwyn. Ystyrir tir lle mae llystyfiant fel yr uchod yn tyfu ar fawn dwfn (mwy na 50cm o ddyfnder) yn wlybdir.

Rhos yr Arfordir a Rhos Llawr Gwlad

Mae rhosydd llawr gwlad yn gynefinoedd lle mae rhagor na 25% o'r gorchudd yn gorlwyni, yn enwedig grug, eithin a weithiau llus, mewn clytwaith yn gymysg â phorfa, brwyn, hesg a mwsoglau ar bridd mwynaidd neu fawnogydd bas (llai na 50 cm o fawn).

Morfa Heli

Mae morfeydd heli i'w gweld rhwng llanw isel a llanw uchel lle ceir llystyfiant sy'n gallu gwrthsefyll halen. Mae'r llystyfiant yn cynnwys porfa, brwyn, hesg a phlanhigion arbenigol fel corn-carw'r môr a chordwellt.

Twyni Tywod Arfordirol a Thraethau Graean

Mae twyni tywod yn cynnwys nifer o fathau o lystyfiant arfordirol sy'n tyfu mewn tywod. Maen nhw'n gallu ffurfio systemau deinamig gyda darnau o dywod moel, moresg, glaswellt manach a llysiau a phlanhigion y rhosydd. Mae traethau graean arfordirol yn gynefinoedd lle ceir planhigion arbenigol sy'n tyfu ar ddeunydd brasach fel cerigos neu ro yn gymysg â thywod a gwaddod manach.

Cynefinoedd Agored yr Ucheldir (gan gynnwys clytwaith o rosdir, mawnogydd a glaswelltiroedd eang)

Tir yw ucheldir, sydd uwchlaw terfyn uchaf tir caeedig (tua 300m). Pob cynefin a chlytwaith o gynefinoedd agored yn yr ucheldir, gan gynnwys rhosydd, gwlybdir (cors, ffen, llac a gwern), glaswelltir corsiog a glaswelltir sych. Bydd llai na 25% ohonynt yn rhygwellt a meillion gwyn, ond gellir cynnwys darnau bychain o dir wedi'i wella fel rhan o glytwaith mwy o gynefinoedd.

Perllannau Traddodiadol (cynefin coediog)

Lleiniau o goed afalau, gellyg, ceirios, eirin, eirin bwlas, cnau Ffrengig a chnau cyll, fel arfer ar laswelltir sy'n cael ei reoli trwy ei bori neu ei ladd. Ni ddylid cynnwys perllannau masnachol sy'n cael eu ffermio'n ddwys.

Rhedyn Trwchus

Lleiniau o dir â gorchudd trwchus o redyn ar wely trwchus o redyn marw. Lle bo modd adnabod y cynefin o dan y rhedyn, y cynefin hwnnw ddylai gael ei fapio.

Prysgwydd (cynefin coediog)

Prif lystyfiant prysgwydd yw llwyni. Gall amrywiaeth eang o rywogaethau brodorol ffurfio prysg, gan gynnwys eithin, drain duon, drain gwynion, ysgaw, mieri a helyg. Os ydy'r llwyni'n tyfu ar wasgar a bod modd gweld y cynefin oddi tanynt, y cynefin hwnnw ddylai gael ei fapio.

Coed Pori (cynefin coediog)

Mae coed pori yn dir sy'n cael ei bori, gyda choed brodorol ac weithiau anfrodorol yn tyfu ar wasgar ar laswelltir garw neu ros. Y nodweddion mwyaf amgylcheddol arwyddocaol o bosib yw'r coed hynod niferus. Ni chynhwysir coed pori ar dir âr neu dir wedi'i wella.

Os bvdd cymysgedd neu glytwaith o gynefinoedd gwahanol mewn parsel ac y byddai’n anodd mapio’r dosbarthiadau unigol, dylech fapio’r cynefin sy’n dominyddu (h.y. yn gorchuddio’r arwynebedd mwyaf).

Mae rhagor o ganllawiau ar y dosbarthiadau cynefin sy'n cynnwys disgrifiadau manylach a lluniau enghreifftiol ar gael yma.

Haenau cyfeirio

Cynhwysir yr haenau cyfeirio canlynol ar y mapiau Cadarnhau Data er gwybodaeth yn unig: 

Mawnogydd 

Codwyd yr haen Mawnogydd o fap ‘mawndiroedd Cymru’ Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n diweddaru’r map ‘Mawndiroedd Cymru' er mwyn gallu cyfeirio ato yn y dyfodol. 

Safleoedd Dynodedig 

I greu’r haen Safleoedd Dynodedig, defnyddiwyd setiau data Cyfoeth Naturiol Cymru (gyda dolenni i wybodaeth bellach): 

Nodweddion Parhaol

Mae’r haen hon yn dangos y nodweddion parhaol yn y parsel.

Camau ichi eu cymryd

Cynefin ‘wedi’i gynnwys’ 

Gallwch gadarnhau, newid neu ddileu'r cynefin 'wedi'u cynnwys’ er mwyn adlewyrchu'n gywir sefyllfa'r cynefinoedd ar eich fferm.

Dim ond y cynefin 'wedi’u cynnwys’ fydd yn cael eu defnyddio fel man cychwyn mewn unrhyw gynllun cymorth fferm yn y dyfodol. 

Pwysig: Efallai na wnaiff RPW dderbyn eich bod yn dileu cynefin 'wedi’i gynnwys’ mewn cae: 

  • os oedd o dan opsiwn rheoli Glastir yn y gorffennol 
  • os yr oedd angen ei sgrinio ar gyfer Asesiad o’r Effeithiau Amgylcheddol (AEA) gafodd ei wrthod 
  • sydd mewn safle dynodedig; gweler yr adran am Safleoedd Dynodedig isod am ragor o wybodaeth

Bydd cyfle arall i ddileu gwybodaeth neu i roi gwybodaeth ychwanegol am newidiadau i’r caeau hyn yn ystod yr asesiad sylfaenol amgylcheddol o’r fferm, y cyfeirir ato fel Adolygiad Sylfaen Lefel 1 o Gynefinoedd (HBR1). Bydd RPW am dreialu’r Adolygiad ar SAF 2025 cyn cyflwyno’r SFS yn 2026. 

Cynefinoedd 'posibl’ 

Gallwch droi'r cynefin 'posibl' yn gynefin 'wedi'i gynnwys' os ydych yn cytuno ei fod yn bresennol yn y parsel. Unwaith y bydd ‘wedi'i gynnwys’, gallwch ei newid neu ei ddileu fel y gwelwch yn dda.

Opsiynau Rheoli Glastir

Mae’r opsiynau Rheoli Glastir lle na fydd RPW yn fodlon dileu cynefin o barsel ar y pwynt hwn i’w gweld yn Atodiad A. 

Asesiad o’r Effeithiau Amgylcheddol (AEA)

Os oes llai na 25% o’r tir o dan rygwellt neu feillion gwyn neu rywogaeth arall gafodd ei hau at ddiben amaethyddol, rhaid cadw at reoliadau’r AEA. 

O dan y rheoliadau, mae tir sy’n bodloni’r diffiniad hwn yn dir lled-naturiol a rhaid gwneud Cais Sgrinio AEA cyn cychwyn unrhyw waith ar y tir i’w wella. 

Bydd unrhyw newidiadau y byddwch wedi’u gwneud i dir Cynefin yn cael eu gwrthod os cafodd cais sgrinio mewn perthynas â’r parsel hwnnw ei wrthod yn y gorffennol. Hyd yn oed os gwnawn ni dderbyn newid at ddiben Cadarnhau Data, bydd dal angen ichi sgrinio’r tir ar gyfer AEA os yw’r tir hwnnw’n lled-naturiol a’ch bod am ei wella. 

Rydym yn eich atgoffa os ydych yn bwriadu cynnal neu wedi cynnal: 

  1. prosiect ar dir lled-naturiol, or
  2. wneud gwaith ailstrwythuro mawr ar eich daliad

yna bydd angen llenwi Asesiad o'r effeithiau amgylcheddol: cais sgrinio.

Newidiadau i dir cynefin o fewn Safleoedd Dynodedig

Gallai newidiadau i dir Cynefin mewn Safle Dynodedig gael eu gwrthod oherwydd arwyddocâd ecolegol neu werth bioamrywiaethol, diwylliannol a/neu wyddonol y safleOs ydych chi’n credu nad yw rhai o’r tiroedd hyn yn gynefin, cewch gyfle i roi rhagor o wybodaeth a newid y darnau tir hyn yn ystod proses yr HBR1 yn 2025.

Canopi coed yn y ffurflen cadarnhau data

Mae’r canopi coed yn cynnwys coetir, lleiniau sydd newydd eu plannu a choed dros 3 metr o daldra. 

Lle bo coeden ar ffin, caiff y canopi coed a ddangosir ar y ffurflen Cadarnhau Data ei rannu wrth linell ffin y parsel gan ddangos arwynebedd y canopi sydd o fewn y parsel hwnnw. 

Byddwn yn categoreiddio coed yn ‘Grŵpiau’ neu’n ‘Goed Unigol’. 

Daw’r wybodaeth am goetiroedd a’r canopi coed o hen ddatganiadau SAF, y Map Coed Cenedlaethol (ar bluesky.world.com) a setiau data Rhestr y Goedwig Genedlaethol. 

‘Grwpiau’

Mae ‘grwpiau’ o goed yn cynnwys darnau o goetir neu ganopi o goed sy’n 0.01 hectar (100m2) neu fwy o faint. Gallent gynnwys ychydig ddarnau o dir agored o fewn y llain o goed, a byddant yn perthyn i un o’r categorïau isod: 

  • llydanddail (mwy nag 80% o'r tir o dan goed llydanddail)
  • conwydd (mwy nag 80% o'r tir o dan goed conwydd)
  • cymysg, llydanddail yn bennaf (rhwng 50% ac 80% o'r tir o dan goed llydanddail)
  • cymysg, conwydd yn bennaf (rhwng 50% ac 80% o'r tir o dan goed conwydd)
  • anhysbys – mae grŵp o goed anhysbys yn goed nad ydyn nhw wedi’u rhoi mewn categori

‘Coed Unigol’

Darnau o dir dan goed sy'n llai na 0.01 hectar (100m2) o faint yw 'coed unigol'. Mae hynny’n llai na'r arwynebedd y gall ein mapiau ei nodi. Mae RPW felly wedi'u nodi fel nodwedd pwynt ar y map ac wedi categoreiddio'r canopi i osgoi’r angen i fapio ‘coed unigol’ yn fanwl-gywir. Rydyn ni wedi neilltuo arwynebedd i bob categori o goed yn seiliedig ar y canlynol:

  • bach Iawn (llai na 7 m2)
  • Bbch (7 m2 i 19 m2)
  • canolig (19 m2 i 38 m2)
  • mawr (38 m2 i 63 m2)
  • mawr Iawn (63 m2 i 100 m2)

Er bod 'nodweddion pwynt' yn fach, byddwn yn cofnodi cyfanswm arwynebedd y nodweddion hyn ar gyfer pob parsel unigol ac yn eu defnyddio mewn unrhyw gynllun i ffermwyr yn y dyfodol.

Bydd 'coed unigol' yn perthyn i un o'r mathau canlynol:

  • llydanddail (mwy nag 50% o'r tir o dan goed llydanddail)
  • conwydd (mwy nag 50% o'r tir o dan goed conwydd)

Camau ichi eu cymryd

Gallwch gadarnhau, newid neu ddileu ein hasesiad o 'grwp' neu 'goed unigol' ar y ffurflen. 

Gallwch hefyd ychwanegu 'grŵp' neu 'goed unigol' sy'n bresennol er mwyn adlewyrchu'n gywir cyfanswm y canopi coed ar eich fferm.

Coed anhysbys: Bydd angen ichi gadarnhau’r math o goed yn eich parsel.

Os yw’r grŵp o goed neu’r coed ‘unigol’ wedi’u plannu yn y 3 blynedd diwethaf, gallwch ddangos eu bod yn waith plannu newydd trwy dicio’r blwch ‘plannu newydd’ ar y ffurflen. 

Effaith ar gynlluniau eraill

Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS)

Nid yw’r rheolau ynghylch pwy sy’n gymwys am BPS o ran coetir a choed yn newid. 

Nid yw coetir neu ganopi o goed gyda grwpiau o 3 o goed neu fwy sydd dros 0.01ha yn gymwys am daliadau BPS. 

Nid fydd canopi grŵp bychan o goed, llinellau o goed neu goed unigol yn cael ei dynnu o arwynebedd y BPS er bod dal angen cynnal asesiad o foncyffion a bonion coed. 

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth fapio ddiweddaraf i ddiweddaru’n LPIS yn unol â’r rheolau ynghylch pwy sy’n gymwys am y BPS, hynny fel paratoad ar gyfer blwyddyn gynllun 2025. 

Gwybodaeth Ychwanegol yn y ffurflen cadarnhau data

Rydyn ni'n casglu gwybodaeth am y cyfrifianellau carbon y mae'r diwydiant yn eu defnyddio, i weld faint o ffermwyr sy'n cynnal asesiad carbon a pha gyfrifianellau carbon y maen nhw'n ei ddefnyddio. 

Does dim rhaid ateb y cwestiynau hyn ac nid yw eu hateb yn awgrymu'ch bod yn ymrwymo i wneud cais am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).

Llenwi’r ffurflen cadarnhau data ar RPW Ar-lein

Rhaid llenwi’r ffurflen Cadarnhau Data ar Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein. I gael y ffurflen cadarnhau data, ewch i’r adran ‘Ffurflenni’ ar eich cyfrif.

Bydd angen i asiantwyr sy’n gweithredu ar ran cleient gofrestru fel asiant ar Taliadau Gwledig Cymru. Os nad ydych wedi gwneud hyn eto, rydyn ni’n eich cynghori i lenwi ffurflen ar-lein. Pan fydd y ffurflen yn ein cyrraedd ni, byddwn yn anfon Cyfeirnod Cwsmer yr Asiant (CRN yr Asiant) a Chod Defnyddio RPW Ar-lein atoch. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru gydag RPW Ar-lein neu am gwblhau eich ffurflen Cadarnhau Data, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Byddant yn gallu eich cynghori a rhoi gwybod ichi ble gallwch fynd i gael cymorth digidol.

Mae rhagor o wybodaeth am RPW Ar-lein ar gael ar ein wefan.

Cyflwyno ffurflen cadarnhau data

Mae canllawiau ar sut i gyflwyno'ch ffurflen drwy RPW Ar-lein ar gael ar Cynllun Ffermio Cynaliadwy: sut i lenwi eich ffurflen cadarnhau data.  

Bydd RPW yn anfon hyd at 2 nodyn i’ch atgoffa i anfon ffurflenni trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar 6 Rhagfyr.

Hysbysiad preifatrwydd

Sut y byddwn ni'n delio â'r data personol y byddwch yn eu rhoi i ni ar gyfer Cadarnhau Data SFS.

Byddwn rheolydd y data personol y byddwch yn eu rhoi i ni ar gyfer Cadarnhau Data SFS. Caiff yr wybodaeth ei phrosesu fel rhan o'n tasg gyhoeddus (h.y. wrth arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaeth graidd Llywodraeth Cymru).

Efallai y bydd angen rhannu'ch gwybodaeth bersonol ar gyfer Cadarnhau Data SFS ag awdurdodau rheoleiddio, fel Cyfoeth Naturiol Cymru, Awdurdodau Lleol, Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, yr Heddlu a Cymru Fyw i'n helpu i ddilysu gwybodaeth am gynefinoedd neu lle bo hynny'n ofynnol o dan y gyfraith.

Gall aelod arall o'r cyhoedd ofyn am gael gweld eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol. Wrth ymateb i geisiadau o'r fath, mae'n bosib y bydd gofyn i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, er mwyn bodloni ei hymrwymiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, Deddf Diogelu Data 2018 neu Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â'n polisi cadw. O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i weld y data personol y mae Llywodraeth Cymru'n eu cadw amdanoch
  • i fynnu'n bod yn cywiro gwybodaeth anghywir
  • i wrthwynebu prosesu'r data, neu gyfyngu ar y data a brosesir (o dan rai amgylchiadau)
  • i ofyn am gael 'dileu' y data (o dan rai amgylchiadau)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddydd annibynnol ar gyfer diogelu data

Am ragor o fanylion am yr wybodaeth a ddelir gan Lywodraeth Cymru a sut y bydd yn ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y GDPR, cysylltwch â'r isod:

Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: dataprotectionofficer@gov.wales

Dyma fanylion cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

2il Lawr, Churchill House
Churchill Way
Caerdydd
CF10 2HH

Ffôn: 0330 414 6421
Gwefan: https://cy.ico.org.uk

Os oes gennych gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru.

Cysylltu

Ymholiadau – y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid 

Gallwch ffonio Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW ar 0300 062 5004.

Dyma oriau agor y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid:

Llun – Gwener: 09:00 to 16:00.

Gallwch ofyn cwestiynau unrhyw bryd hefyd ar eich cyfrif RPW Ar-lein. 

Cymorth Digidol 

Rhaid cael apwyntiad i ymweld â’n Swyddfeydd Rhanbarthol. 

Gall y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid drefnu apwyntiad ‘Cymorth Digidol’ i chi er mwyn ichi ymweld â Swyddfa Ranbarthol a chael help gan aelod o’r staff i lenwi’r ffurflen Cadarnhau Data. Bydd y gwasanaeth ar gael o fis Medi ymlaen. 

Bydd staff RPW yn gallu’ch helpu a’ch cefnogi, ond fyddan nhw ddim yn gyfrifol am yr wybodaeth ar y ffurflen Cadarnhau Data - eich cyfrifoldeb chi yw’r wybodaeth honno. 

Gwefan Llywodraeth Cymru

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i'n wefan. Drwy fynd i'r wefan bydd cyfle ichi gofrestru i e-newyddlen yr Adran Materion Gwledig gael ei hanfon atoch drwy e-bost.

Gwlad

E-newyddlen Gwlad yw ein e-newyddlen ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru. Mae’n cynnwys newyddion, canllawiau a gwybodaeth mewn fformat hygyrch, hawdd ei ddarllen. I sicrhau eich bod yn parhau i glywed am y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf gallwch gofrestru i dderbyn e-newyddlen Gwlad drwy fynd i naill ai Hysbysiadau neu Cofrestrwch ar gyfer newyddion amaethyddiaeth a choedwigaeth (Gwlad).

Atodiad A: Opsiynau Rheoli Glastir lle na fydd RPW yn caniatáu i chi ddileu cynefin

Rhif Opsiwn Rheoli Glastir: Disgrifiad o Opsiwn Rheoli Glastir 

3: Creu coridor bywyd gwyllt drwy sefydlu rhimyn o goed ar dir wedi’i wella

7A: Creu coridor newydd ar un lan nant ar dir wedi’i wella

7B: Creu coridor newydd ar ddwy lan nant ar dir wedi’i wella

8: Parhau i reoli coridor ar lan nant

9A: Creu coridor newydd ar un lan nant ar dir wedi’i wella, a phlannu coed

9B: Creu coridor glan nant newydd ar dir wedi’i wella bob ochr i gwrs dŵr, a phlannu coed

10: Troi tir âr sydd â safleoedd archeolegol yn borfa barhaol

11: Adfer perllan draddodiadol

12: Creu perllan newydd ar dir wedi’i wella

15: Tir pori parhaol heb fewnbynnau 

15C: Tir pori parhaol heb unrhyw fewnbynnau a phori cymysg

19: Rheoli glaswelltir gwlyb ar dir isel

19B: Rheoli glaswelltir gwlyb ar dir isel â phori cymysg

20: Rheoli rhosdir arfordirol a rhosdir llawr gwlad

20B: Rheoli rhosdir arfordirol a rhosdir llawr gwlad â phori cymysg

21: Rheoli rhosydd heli sy'n cael eu pori

21B: Rheoli morfeydd heli sy’n cael eu pori â phori cymysg 

22: Cynnal gweirgloddiau

25: Rheoli twyni tywod

25B: Rheoli twyni tywod â phori cymysg

26: Creu ymyl sefydlog o borfa arw ar dir âr

35B: Creu pwll dŵr natur ar dir wedi’i wella a’i amgáu – maint amrywiol

36: Creu llain glustogi o gwmpas pyllau dŵr heb eu ffensio sy’n bod eisoes mewn caeau

40: Cynnal y ffens bresennol o amgylch coetir di-stoc

41A: Rheoli pori ar dir agored

41B: Rheoli pori ar dir agored â phori cymysg

100: Coetir – di-stoc

420: Coed a Phrysgwydd: Eu sefydlu trwy eu plannu (llai na 0.25ha)

421: Coed a Phrysgwydd: Eu sefydlu trwy aildyfiant naturiol (llai na 0.25ha) 

103: Prysgwydd : di-stoc

104: Coetir pori

106: Parciau a gerddi hanesyddol

109: Glaswelltir metelaidd

115: Rhosdir sych llawr gwlad - llai na 50% yn eithin 

116: Rhosdir sych llawr gwlad - mwy na 50% yn eithin

117: Rhosdir gwlyb llawr gwlad - llai na 60% yn laswellt y gweunydd

118: Rhosdir gwlyb llawr gwlad - mwy na 60% yn laswellt y gweunydd

119: Ehangu Cynefin rhosdir llawr gwlad : ei sefydlu ar laswelltir

120: Glaswelltir asidig heb ei wella

121: Glaswelltir asidig heb ei wella (tir pori)

122: Glaswelltir asidig heb ei wella (caeau gwair)

123: Glaswelltir niwtral heb ei wella (tir pori)

124: Glaswelltir niwtral heb ei wella (gweirglodd)

125: Glaswelltir niwtral heb ei wella: Adfer (tir pori)

126: Glaswelltir niwtral heb ei wella: Adfer (gweirglodd) 

128: Glaswelltir calchaidd heb ei wella

129: Glaswelltir calchaidd heb ei wella: Adfer (tir pori)

130: Glaswelltir calchaidd heb ei wella: Adfer (lladd gwair)

131: Troi tir âr yn dir pori (heb ei wrteithio)

132: Troi glaswelltir wedi’i wella yn laswelltir wedi’i led-wella (caeau gwair)

133: Glaswelltir gwlyb llawr gwlad 

134: Glaswelltir gwlyb llawr gwlad: Adfer (tir pori)

139: Cors llawr gwlad - llai na 50% yn laswellt y gweunydd 

140: Cors llawr gwlad - mwy na 50% yn laswellt y gweunydd

141: Adfer cors llawr gwlad (dim pori)

142: Adfer cors llawr gwlad (tir pori)

143: Ffen llawr gwlad  

144: Adfer ffen (dim pori) 

145: Adfer ffen (tir pori)

146: Gwelyau cyrs; di-stoc

147: Creu gwelyau cyrs 

148: Glaswelltir yr arfordir (Clogwyn a Llethr Morol)

149: Adfer morfa heli (dim pori)

150: Creu morfa heli

151: Creu graean a thwyni arfordirol

160: Dim calch ar dir wedi’i wella neu ei led-wella dros bridd mawn

161: Rheoli glaswelltir - brân goesgoch (bwydo) 

164: Rheoli glaswelltir er lles y gylfinir (nythu a bwydo cywion)

165: Rheoli glaswelltir er lles y gylfinir (bwydo oedolion)

166: Rheoli gweirgloddiau er lles y gylfinir (nythu)

167: Rheoli glaswelltir er lles y cwtiad aur (bwydo)

168: Rheoli tir er lles y gornchwiglen (bwydo a nythu)

171: Rheoli tir er lles mwyalchen y mynydd (bwydo)

172: Rheoli Perllan

173: Rheoli coridor nant

175: Rheoli porfa arw wedi'i hamgáu

176: Coetir – Pori ysgafn