Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer y cynllun cymorth tanwydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Os ydych yn derbyn budd-dal oedran gweithio sy’n dibynnu ar brawf modd a'ch bod chi (neu'ch partner) yn gyfrifol am dalu'r biliau ynni ar gyfer eich cartref, yna efallai y bydd gennych hawl i daliad o £200 tuag at eich costau tanwydd y gaeaf hwn.

Os byddwch yn gwneud cais am y taliad hwn, bydd angen i ni brosesu eich data personol i asesu a ydych yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol ac, os felly, i ddarparu taliad i chi. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi pa ddata personol y byddwn yn ei ddefnyddio, sut y byddwn yn ei ddefnyddio a pham.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer y data personol a gesglir ar ein rhan gan eich awdurdod lleol drwy eich cais at ddibenion asesu cymhwystra, gweinyddu a gwneud taliadau o dan y cynllun cymorth tanwydd Cymru.

Bydd eich awdurdod lleol hefyd yn casglu ac yn paru eich gwybodaeth â data arall a gedwir gan gyrff cyhoeddus eraill megis:

  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i gael gwybodaeth am y budd-daliadau rydych yn eu derbyn megis Credyd Cynhwysol, Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cymorth Cyflogaeth).

Eich awdurdod lleol

Mae eich awdurdod lleol wedi’i bennu’n brosesydd data at y dibenion hyn a bydd yn ymdrin â cheisiadau gan y rhai sy'n byw o fewn ei ffiniau. Byddant yn cynnal gwiriadau gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau eich bod yn hawlio budd-dal cymwys ac, os oes angen, yn gofyn am brawf mai chi yw'r person sy'n gyfrifol am dalu'r bil ynni yn eich eiddo.

Fel arall, ni fyddwn yn rhannu eich data â sefydliadau neu unigolion eraill y tu allan i Lywodraeth Cymru at unrhyw ddiben arall nad yw'n gysylltiedig â'r cynllun cymorth tanwydd Cymru.

Gofynnwyd i'ch awdurdod lleol gadw eich holl ddata personol mewn perthynas â'ch cais am daliad cynllun cymorth tanwydd Cymru. Er mai Llywodraeth Cymru yw'r Rheolydd Data yn yr amgylchiadau hyn, ni fyddwn fel arfer yn derbyn unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch, ac eithrio os byddwch yn dymuno gwneud cwyn neu arfer eich hawliau diogelu data o dan y GDPR, neu os bydd awdurdod lleol wedi nodi amheuaeth o dwyll. Yn yr achos hwn, bydd eich awdurdod lleol yn rhoi copi o'ch gwybodaeth i ni i'n galluogi i ymateb. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu i’r data ar gyfer y taliadau cynllun cymorth tanwydd gaeaf a gedwir gan awdurdodau lleol gael ei gynnwys yn ymarfer nesaf y Fenter Twyll Genedlaethol.

Bydd Llywodraeth Cymru’n derbyn data dienw (gyda'r holl ddata adnabod yn cael ei dynnu) gan yr awdurdodau lleol at ddibenion monitro a goruchwylio, ac i gynorthwyo ag ymchwil a llunio polisïau'n well ac i werthuso perfformiad y cynllun cymorth tanwydd gaeaf. 

Byddwn ond yn cadw eich data personol cyhyd ag y bydd ei angen ac at ddibenion archwilio a thalu yn unig. Byddwn yn cadw unrhyw gofnodion sy'n ymwneud â thrafodion ariannol am gyfnod o chwe blynedd. 

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl:

  • i gael gwybod pa ddata personol a gedwir amdanoch gan Lywodraeth Cymru a chael gafael arno
  • i’w gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu i’r data gael ei brosesu neu i gyfyngu ar hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael ei ddileu
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Os ydych yn dymuno arfer eich hawliau o dan y GDPR neu os ydych am wneud cwyn yn ymwneud â phrosesu eich data, dylech gysylltu â ProsperousFutures@llyw.cymru.   

Fel arall, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma’r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Newidiadau i'n polisi

Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd, a byddwn yn sicrhau bod fersiynau newydd ar gael ar ein tudalen hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan.