Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1. Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Y mater dan sylw a’r camau arfaethedig

Gwnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Ddatganiad Ysgrifenedig ar 17 Mawrth mewn perthynas â darparu taliad bonws i weithwyr y GIG, Darparwyr Gofal Sylfaenol a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.  

Mae'r taliad untro o £735 yn cael ei wneud i gydnabod a gwobrwyo staff y GIG, Darparwyr Gofal Sylfaenol a Gofal Cymdeithasol sydd wedi cefnogi'r system iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod pandemig COVID-19. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad staff ac yn cydnabod effeithiau'r pandemig ar eu llesiant o ran iechyd corfforol a meddyliol yn eu bywydau personol a'u proffesiwn. Amcangyfrifir y bydd y taliad o fudd i bobl yng Nghymru gan gynnwys 103,600 o staff gofal cymdeithasol, 125,000 o staff GIG Cymru, 2,345 o fyfyrwyr a ddefnyddir a 26,000 o staff gofal sylfaenol (gan gynnwys staff fferylliaeth, meddygfeydd teulu, deintyddiaeth ac optometreg). Ni all gweithwyr y GIG, Darparwyr Gofal Sylfaenol a Gofal Cymdeithasol gadw at fesurau cadw pellter cymdeithasol bob amser ac mae mwy o risg iddynt gael eu heintio oherwydd nifer y bobl y maent yn eu cynorthwyo.

Ffyrdd o weithio

Y tymor hir

Taliad untro yn unig yw hwn i gydnabod a gwobrwyo gweithlu’r GIG, Darparwyr Gofal Sylfaenol a Gofal Cymdeithasol. Gall cydnabod y gweithlu hwn gael effaith gadarnhaol ar forâl, yn y tymor byr a'r tymor canolig. Mae hyn yn bwysig yn ystod pwysau parhaus COVID-19. 

Gan mai taliad untro yw hwn, ni ragwelir y bydd hyn yn atal nac yn mynd i'r afael â chyflog isel yn y sector gofal cymdeithasol. Mae mentrau eraill, megis y Fforwm Gofal Cymdeithasol, wedi'u sefydlu i edrych ar yr amcanion tymor hwy hyn.

Ar gyfer staff y GIG yng Nghymru, caiff cyflogau eu hadolygu'n flynyddol yn dilyn canlyniad dau argymhelliad gan gyrff adolygu cyflogau'r GIG, os na chytunir ar gytundebau diwygio contractau aml-flwyddyn mewn partneriaeth â chyflogwyr ac undebau llafur.

Roedd gweithio yn y GIG, i Ddarparwyr Gofal Sylfaenol ac yn y sector Gofal Cymdeithasol yn ystod cyfnod pandemig COVID-19 yn aml yn heriol ac, ar adegau, yn brofiad dirdynnol. Bwriad y taliad, yn rhannol o leiaf, yw lliniaru'r effeithiau hyn drwy ddangos gwerthfawrogiad. Gallai helpu hefyd i gadw staff yn y sector ar hyn o bryd.

Atal

Gan mai'r cynnig yn syml yw dyfarnu taliad o £735 i'r GIG, Darparwyr Gofal Sylfaenol a gweithwyr Gofal Cymdeithasol am eu cyfraniad yn ystod COVID-19, ni fwriedir iddo fod yn ataliol yn y tymor hir.

Integreiddio

Mae'r cynnig hwn yn cysylltu ac yn cyfrannu at y polisi cyhoeddus cyffredinol ac ymateb iechyd y cyhoedd i bandemig Covid-19. Mae hefyd yn cysylltu ag amcanion polisi yn y grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch hyrwyddo iechyd a llesiant pobl sy'n defnyddio gwasanaethau a chymryd y camau sydd fwyaf tebygol o ganiatáu i unigolion gyflawni canlyniadau cadarnhaol – a bydd gwella morâl y gweithlu yn effeithio ar hynny.

Dylai'r cynnig hwn hefyd gysylltu'n benodol â ffrydiau gwaith COVID-19 cyfredol ar gartrefi gofal a gofal cartref, gan y gallai gwella morâl y staff gael effaith gadarnhaol ar ansawdd y gofal a llai o absenoldebau y gellir eu hosgoi.

Cydweithredu ac ymwneud

Trwy gydweithio bu modd datblygu’r cynnig yn gyflym, yn enwedig y meini prawf cymhwysedd. 

Ar gyfer y GIG, cynhaliwyd trafodaethau gydag undebau llafur y GIG a chynrychiolwyr cyflogwyr ynglŷn â'r cynigion. Mae undebau llafur a chyflogwyr y GIG wedi cyfrannu at ddatblygu'r meini prawf cymhwysedd a’r ddogfen Cwestiynau Cyffredin. 

Ar gyfer Gofal Sylfaenol, cynhaliwyd trafodaethau gyda phroffesiynau rhanddeiliaid; GPC Cymru, Cymdeithas Ddeintyddol Prydain, Fferylliaeth Gymunedol Cymru ac Optometreg Cymru. Gofynnwyd am sylwadau gan bob grŵp wrth ddatblygu Cylchlythyr Iechyd Cymru, y ddogfen Cwestiynau Cyffredin a chyfarwyddiadau cyfreithiol. Mae Partneriaeth Cydwasanaethau'r GIG wedi gweithio'n agos gyda ni ar ddatblygu'r cynllun hwn gan gynnwys meini prawf cymhwysedd a’r broses ar gyfer gwneud y cais a phrosesu’r taliad. 

Ar gyfer gofal cymdeithasol sefydlwyd gweithgor o randdeiliaid allanol sy'n cynrychioli gweithwyr gofal, darparwyr gofal ac awdurdodau lleol (comisiynwyr), a chyfarfu hwn sawl gwaith wrth i'r cynnig gael ei ddatblygu. Roedd hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o GMB, Unsain, RCN, Fforwm Gofal Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSSC). Mae cynrychiolwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Thrysoryddion Awdurdodau Lleol Cymru hefyd wedi cymryd rhan. Bu'n bosibl drwy'r cyfarfodydd hyn adeiladu ar yr adborth ar y cynllun bonws blaenorol ar gyfer staff gofal cymdeithasol ac asesu'r gwersi a ddysgwyd. Mae hyn hefyd yn berthnasol i ddarparwyr gofal ac awdurdodau lleol a fydd yn gweinyddu'r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru.

Effaith

Effaith gadarnhaol y cynnig yw cydnabod a gwobrwyo gweithwyr y GIG, Darparwyr Gofal Sylfaenol a Gofal Cymdeithasol am eu cyfraniad yn ystod COVID-19 gyda thaliad bonws o £735.

Y brif ddadl yn erbyn y polisi hwn yw'r risg y bydd y cynllun yn arwain at her gan y rhai nad ydynt wedi’u cynnwys yn y taliad ac na fydd gweithwyr allweddol eraill, heblaw’r rhai sy'n gymwys, yn cael y taliad. Mae gweithwyr y GIG, Darparwyr Gofal Sylfaenol a Gofal Cymdeithasol wedi gweithio drwy gydol y pandemig mewn amgylchedd sy'n parhau i achosi llawer o straen a her. I lawer o weithwyr, mae hyn yn golygu bod mwy o risg iddynt gael eu heintio na gweithwyr allweddol eraill gan eu bod, mewn rhai achosion, yn gorfod darparu gofal a thriniaeth i bobl heintus wrth inni ymateb i’r feirws a diogelu Cymru.

Costau

Amcangyfrifir mai cyfanswm cost y cynllun yw tua £232m (£99.3m i ofal cymdeithasol a £133m i’r GIG a gofal sylfaenol). Mae'r gost hon eisoes wedi'i chyfrif o fewn cyllidebau 2020/21.

Mecanwaith

Nid oes angen deddfwriaeth ar gyfer y cynnig hwn ar gyfer staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG a staff gofal cymdeithasol.

Ar gyfer Darparwyr Gofal Sylfaenol, bydd Cyfarwyddiadau Gofal Sylfaenol (Cynllun Taliad Bonws COVID-19 y GIG) 2021 yn golygu bod modd gwneud taliadau i Ddarparwyr Gofal Sylfaenol a'u gweithwyr.

Meini prawf cymhwysedd ar gyfer staff y GIG 

Meini prawf cymhwysedd ar gyfer staff gofal cymdeithasol 

Ar gyfer staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG, gweinyddir y taliad drwy gyflogres y GIG. Ar gyfer Darparwyr Gofal Sylfaenol, bydd y taliad yn cael ei weinyddu gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Ar gyfer gofal cymdeithasol, bydd awdurdodau lleol yn gweinyddu’r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru. Telir staff cymwys Cafcass drwy gyflogres Llywodraeth Cymru.

Adran 8. Casgliad

Sut y mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys  yn y gwaith o'i ddatblygu?

Ar gyfer staff y GIG, rydym wedi bod mewn cysylltiad ag undebau llafur y GIG a chyflogwyr GIG Cymru wrth ddatblygu'r meini prawf cymhwysedd a dogfen Cwestiynau Cyffredin atodol. Ar gyfer Darparwyr Gofal Sylfaenol, rydym wedi bod mewn cysylltiad ag undebau llafur ar gyfer pob un o ardaloedd y pedwar contractwr; Deintyddiaeth, Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, Optometreg a Fferylliaeth ar ddatblygu ffurflenni cais, Cylchlythyr Iechyd Cymru a dogfen Cwestiynau Cyffredin. Ar gyfer gofal cymdeithasol sefydlwyd gweithgor o randdeiliaid allanol sy'n cynrychioli gweithwyr gofal, darparwyr gofal ac awdurdodau lleol (comisiynwyr). Mae hyn wedi cynnwys cynrychiolwyr o GMB, Unsain, RCN, Fforwm Gofal Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSSC). Mae'r grŵp wedi cyfarfod i drafod a datblygu manylion y cynnig, gan ganolbwyntio'n benodol ar y meini prawf cymhwysedd.

Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Bwriad y cynllun yw gwobrwyo gweithwyr y GIG, Darparwyr Gofal Sylfaenol a Gofal Cymdeithasol a gyflogwyd yn ystod cyfnod y pandemig trwy roi taliad bonws iddynt i gydnabod eu gwaith. Gan mai dyma unig ddiben y polisi ni ragwelir y bydd unrhyw effeithiau negyddol sylweddol. Gall rhywfaint o negyddiaeth godi o'r cynnig ar y sail nad yw wedi'i ymestyn i weithwyr allweddol eraill. Fodd bynnag, mae gweithwyr y GIG, Darparwyr Gofal Sylfaenol a Gofal Cymdeithasol wedi gweithio drwy gydol y pandemig mewn amgylchedd sy'n parhau i greu cryn straen a her. I lawer o weithwyr, mae hyn yn golygu bod mwy o risg iddynt gael eu hentio na gweithwyr allweddol eraill gan eu bod, mewn rhai achosion, yn gorfod darparu gofal a thriniaeth i bobl heintus wrth inni ymateb i’r pandemig a diogelu Cymru.

Yng ngoleuni'r effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig: 

  • yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant; a/neu 
  • yn osgoi, yn lleihau neu'n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Prif ddiben y cynnig yw rhoi gwobr ariannol i weithwyr cymwys sy’n gweithio i’r GIG, Darparwyr Gofal Sylfaenol a Gofal Cymdeithasol. Rhagwelir y bydd hyn yn cael ei dderbyn yn gadarnhaol ac y bydd yn anuniongyrchol yn hyrwyddo nodau llesiant y rhai sy'n derbyn cymorth iechyd a gofal drwy gynyddu morâl staff drwy ddangos eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan Lywodraeth Cymru. 

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?

Caiff y cynllun ei fonitro o ran y nifer sy'n manteisio ar y taliad o blith y nifer a ragwelir o staff cymwys. Mae gan y cynllun broses apelio glir ar gyfer staff gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol, sy'n sicrhau bod pobl yn gallu cael proses i adolygu eu cymhwysedd i gael taliad. Mae gan Banel Apeliadau Llywodraeth Cymru bwerau gwneud penderfyniadau a ddirprwyir gan Weinidogion Cymru.