Cymorth a chyngor ynghylch rheoli eich ymrwymiadau credyd presennol.
Cynnwys
Banciau, cardiau credyd a benthyciadau
Os na allwch gadw i fyny â'ch ymrwymiadau credyd, efallai y bydd eich credydwyr yn cytuno ar wyliau talu tymor byr. Gallwch ofyn am hyn, ond nid oes rhaid i gredydwyr gytuno. Bydd y taliadau a fethwyd fel arfer yn cael eu trin fel ôl-ddyledion ac mae’n bosibl y bydd llog yn parhau i gael ei ychwanegu.
Os ydych chi’n poeni am dalu eich taliadau cerdyn banc neu gerdyn credyd, dylech gysylltu â’ch darparwr gwasanaethau ariannol ar unwaith, i gael gwybod am y cymorth y gallent ei gynnig.
Ym mis Mai 2021, cyflwynodd Llywodraeth y DU Gynllun Seibiant Dyledion, y cyfeirir ato fel arfer fel cynllun ‘Lle i Anadlu’, i roi'r amser sydd ei angen ar bobl sy'n cael trafferth gyda'u dyledion i ddatrys eu problemau ariannol heb i gredydwyr gymryd camau gorfodi neu ychwanegu taliadau sy'n cynyddu eu dyledion. I gael manteisio ar gynllun Lle i Anadlu bydd angen i chi siarad â chynghorydd dyled proffesiynol.
Credyd fforddiadwy
Os ydych yn cael trafferthion ariannol ac yn awyddus i fenthyca arian, dylech bob amser sicrhau ei fod yn dod oddi wrth roddwr benthyciadau cymeradwy.
Bydd undebau credyd yn benthyca'r hyn y gallwch fforddio ei ad-dalu yn unig, gan helpu i osgoi dyledion pellach na ellir eu rheoli.
Maent yn arbennig o dda i'r rheini sy'n ei chael yn anodd benthyca gan fanciau oherwydd bod ganddynt hanes credyd gwael.
Cyngor a chymorth
Mae sefydliadau yn cynnig cymorth a chyngor os ydych chi’n cael trafferthion gyda dyledion a chostau byw.