Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Fe wnaethon ni gyhoeddi strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr, ym mis Gorffennaf 2017. Cyhoeddwyd ail Raglen Waith y strategaeth ym mis Gorffennaf 2021 i fanylu ar ein gwaith o 2021 i 2026. Mae’r Rhaglen Lywodraethu hefyd yn n sail i nifer o’n cynlluniau tan y Senedd nesaf. 

At hynny, mae Adran 78 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu blynyddol yn esbonio sut y byddant yn gweithredu’r cynigion a amlinellir yn eu strategaeth iaith yn ystod pob blwyddyn ariannol. Dyma’r cynllun gweithredu ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Eleni felly, er mwyn symud ymlaen ar ein taith tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r ganran ohonom sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar:

  • y byd addysg drwy gyfrwng Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)
  • cynnal ein cymunedau Cymraeg
  • cynyddu defnydd iaith ym mhob ardal a chyd-destun
  • technoleg iaith

Cefndir

Mae gan strategaeth ‘Cymraeg 2050’ ddau brif darged: 

  • Nifer y siaradwyr Cymraeg i gyrraedd 1 miliwn erbyn 2050.
  • Canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i gynyddu o 10% (yn 2013 i 15) i 20% erbyn 2050.

Mae’r targedau hyn yn darparu naratif glir i ni i gyd yng Nghymru, i’r Llywodraeth, y sector cyhoeddus a holl ddinasyddion ein gwlad: mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, felly hefyd y cyfrifoldeb am ei dyfodol. Yn ogystal, mae popeth a wnawn o dan y Cynllun hwn yn cofleidio gair ac ysbryd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn benodol: “Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu”.

Mae ‘Cymraeg 2050’ yn seiliedig ar dair thema strategol:

  1. Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.
  2. Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.
  3. Creu amodau ffafriol, seilwaith a chyd-destun.

Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar yr egwyddorion hyn wrth i ni weithio ar draws meysydd polisi’r Llywodraeth gan dalu sylw penodol eleni i:

  • Bwysigrwydd cynnal y Gymraeg fel y brif iaith sy’n cael ei siarad mewn cymunedau sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg.
  • Parhau i gynyddu mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg yn unol â’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.
  • Parhau i gefnogi awdurdodau lleol i ehangu eu cynnig trochi hwyr, er mwyn caniatáu i fwy o ddysgwyr ddod yn siaradwyr Cymraeg drwy’r system addysg Gymraeg.
  • Gwella cyrhaeddiad disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg wrth iddynt astudio’r Gymraeg.
  • Cyflwyno Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru).
  • Creu dinasyddion dwyieithog drwy gynnig cyfleoedd i bawb o bob oed ddysgu Cymraeg a’i defnyddio’n rheolaidd.
  • Dadansoddi ystod o ffynonellau data er mwyn ceisio deall yn well beth sydd wrth wraidd y gwahaniaethau o ran y niferoedd sy’n nodi eu bod yn medru’r Gymraeg rhwng gwahanol ffynonellau.
  • Cynorthwyo rhieni, ble bynnag mae’n nhw ar eu siwrne iaith, i ddeall y dechnoleg sydd ar gael i helpu eu plant i ddefnyddio mwy o’u Cymraeg.
  • Parhau i ddatblygu a chefnogi technoleg ar gyfer anghenion penodol, er enghraifft lleisiau synthetig dwyieithog i helpu siaradwyr Cymraeg gyda Chlefyd Motor Niwron i gyfathrebu yn Gymraeg ar ôl iddyn nhw golli eu gallu i siarad.
  • Parhau i roi ffocws ar drosglwyddo’r iaith yn y cartref a sicrhau cynnydd yn y ddarpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg a’r Cynnig Gofal Plant.
  • Datblygu’r gweithlu cyfrwng Cymraeg, yn enwedig yn y byd addysg a’r blynyddoedd cynnar.
  • Parhau gyda rhaglen Safonau’r Gymraeg.
  • Parhau i brif-ffrydio ‘Cymraeg 2050’ ym mhob un o bortffolios y Llywodraeth.
  • Gwerthuso’r ‘Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg’.
  • Ehangu cynllun Perthyn ledled Cymru.
  • Parhau i gefnogi partneriaid sy’n cynnal digwyddiadau ac yn creu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn ddiamod.
  • Ymateb i adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg: Grymuso cymunedau, cryfhau’r Gymraeg a’r bennod ychwanegol ar gynllunio gwlad a thref.
  • Cefnogi’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg gydag ail gam ei waith, sy’n canolbwyntio ar gymunedau sydd â dwysedd canolig neu is o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru a thu hwnt.
  • Parhau i gymryd camau i warchod enwau lleoedd Cymraeg, gan gynnwys gweithredu ar sail yr adroddiad ymchwil a gyhoeddir cyn haf 2025.
  • Parhau i gefnogi Comisiynydd y Gymraeg yn enwedig i warchod hawliau siaradwyr Cymraeg ac i gynyddu’r defnydd o wasanaethau Cymraeg.

Meysydd gwaith

Thema 1: cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg

Mae creu dinasyddion dwyieithog sy’n hyderus eu sgiliau Cymraeg a Saesneg yn greiddiol i ‘Cymraeg 2050’. Rydym am i bobl fod â’r gallu a’r cymhelliant i ddefnyddio eu Cymraeg yn y gymuned, yn y gweithle ac yn eu bywydau bob dydd. Byddwn felly’n parhau i wneud yn siŵr bod darpariaeth addysg amrywiol ar gael ar draws yr holl gyfnodau dysgu, o’r blynyddoedd cynnar, addysg statudol ac addysg ôl orfodol, yn y gweithle ac yn y gymuned. Yn hyn o beth, mae Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) wedi gosod cyfeiriad clir a chadarn mewn perthynas â sut ydym ni’n bwriadu gwella cyrhaeddiad plant a phobl ifanc o ran sgiliau Cymraeg yn y gyfundrefn addysg.

Y blynyddoedd cynnar 

 Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partner allweddol, Mudiad Meithrin er mwyn ehangu darpariaeth meithrin cyfrwng Cymraeg ledled y wlad fel pwynt mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer cynifer o blant ag sy’n bosibl. Mae hyn yn parhau i fod yn un o’n prif flaenoriaethau.

Mae Mudiad Meithrin yn parhau i sefydlu ac ehangu darpariaethau blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg fel rhan o’r rhaglen Sefydlu a Symud (SaS). Mae’r rhaglen yn parhau i weithio tuag at y targed a osodwyd yn ‘Cymraeg 2050’ i gael 150 o ddarpariaethau blynyddoedd cynnar newydd dros gyfnod o 10 mlynedd. Mae SaS eisoes wedi agor neu ehangu 82 o ddarpariaethau gyda 17 o brosiectau eraill ar waith ar hyn o bryd. 

Yn ystod 2023 i 2024, darparodd y cylchoedd meithrin bron i 9,000 o oriau gofal wythnosol, dyma’r ffigur uchaf erioed. Yn ystod y cyfnod hwn, fe wnaeth dros 11,000 o blant elwa ar y gofal hwn, mae hyn yn gynnydd o 352 awr ers y flwyddyn flaenorol. Mae’r gofal hwn yn cynnig cyfleoedd gwych i blant a’u teuluoedd ymgysylltu â'r Gymraeg yn ystod y blynyddoedd cynnar. 

Mae datblygu gweithlu’r blynyddoedd yn hanfodol i gefnogi’r maes hwn drwy raglenni tebyg i gynllun Cam wrth Gam Mudiad Meithrin. Cymeradwyodd y cyn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r cyn Ddirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol gyllid o £528,000 yn 2024 i 2025 a £1,108,800 yn 2025 i 2026 er mwyn parhau â’r cynllun i hyfforddi ymarferwyr mewn cymwysterau gofal plant cyfrwng Cymraeg. Mae'r rhaglen wedi derbyn 'Statws Hawlio Uniongyrchol', safon sicrhau ansawdd gan fyrddau arholi City & Guilds a CBAC am ddarparu'r cymwysterau hyn. Rydym yn parhau i weithio gyda swyddogion ar draws y Llywodraeth er mwyn ymchwilio i opsiynau i sicrhau y bydd mwy o ymarferwyr yn cael eu hyfforddi i ymateb i ofynion y sector.

Bydd gwaith i ehangu a chryfhau’r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg drwy raglen Dechrau'n Deg yn parhau yn ystod 2025 i 2026. Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) pob awdurdod lleol yn cydnabod rôl rhaglen Dechrau’n Deg wrth iddynt gynllunio’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, gyda thargedau ynddynt i gynyddu’r ddarpariaeth yn ystod oes y CSCA.

Bydd rhaglen Cymraeg i Blant yn parhau i gefnogi rhieni i ddefnyddio Cymraeg gyda’u plant yn ystod y blynyddoedd cynnar, ac i ddewis gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg. 

Byddwn hefyd yn parhau i weithredu’n Polisi Cenedlaethol ar gyfer Trosglwyddo’r Gymraeg a’i Defnydd mewn Teuluoedd.

Addysg statudol

Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 

Cyflwynwyd Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yn y Senedd ym mis Gorffennaf 2024. Pwrpas y Bil yw hwyluso’r gwaith o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg er mwyn cyrraedd y miliwn erbyn 2050. Bydd y Bil yn cyflwyno’r cysyniad o gontinwwm iaith o ran y Gymraeg a chefnogi pob disgybl i ddod yn siaradwr Cymraeg annibynnol a hyderus erbyn diwedd ei addysg statudol, a hynny erbyn 2050. Mae hynny’n cynnwys gosod seiliau cadarn i gynyddu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â chynllunio am gynnydd parhaus i wella deilliannau ieithyddol disgyblion ym mhob ysgol. 

Bydd y Llywodraeth yn parhau i lywio’r Bil drwy ei thaith seneddol ar ddechrau 2025 i 2026. Yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Senedd a Chydsyniad Brenhinol, byddwn yn bwrw ati i roi’r Ddeddf ar waith yn ystod y flwyddyn, gan gychwyn gydag ymgynghori ar God statudol i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg.

Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg 

Mae’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) yn parhau i fod yn sail ar gyfer cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru. Eu nod yw cynyddu mynediad at ddysgu Cymraeg ar draws pob categori ysgol ym mhob rhan o Gymru, waeth beth fo cyfrwng y dysgu. Maent yn cefnogi ein huchelgais i weld pawb sy’n dysgu mewn ysgol neu leoliad yng Nghymru yn cael eu cefnogi i fwynhau defnyddio’r Gymraeg, i wneud cynnydd parhaus wrth ei dysgu ac i fod â’r hyder a’r sgiliau i allu dewis defnyddio’r iaith y tu hwnt i’r byd addysg.

Mae pob CSCA wedi bod yn weithredol ers mis Medi 2022. Maent yn cynnwys pwyslais clir ar gynyddu nifer y lleoliadau ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru. Ceir ynddynt ymrwymiadau i sefydlu 23 ysgol gynradd Gymraeg newydd ac i ehangu 25 ysgol gynradd Gymraeg dros y degawd nesaf. Mae adroddiadau adolygu blynyddol 2 flynedd gyntaf CSCA yr awdurdodau lleol yn dangos bod cynnydd i'w weld ar draws 7 deilliant y cynllun, gydag arwyddion bod y seiliau cynllunio a gweithredu a osodwyd yn ystod blwyddyn gyntaf y cynlluniau presennol yn dechrau gwreiddio. Ers i'r CSCA newydd ddod yn weithredol yn 2022, mae 16 o ysgolion newydd wedi agor neu wedi’u hail-leoli i gynyddu eu capasiti i dderbyn mwy o ddysgwyr. Mae 31 o brosiectau i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg wedi’u cwblhau hefyd gan gynnwys prosiectau gofal plant, anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a chanolfannau iaith.

Cefnogwyd y datblygiadau hyn drwy’r grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg a thrwy fuddsoddiad ehangach y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Mae nifer o ddatblygiadau cyfalaf eraill wrthi’n cael eu gwireddu gan awdurdodau lleol mewn ymateb i’w hymrwymiadau yn y CSCA. Byddwn yn monitro cynnydd o leiaf 10 o’r datblygiadau hyn yn ystod 2025 i 2026. Bydd ein swyddogion CSCA yn parhau i weithio gyda’r awdurdodau gydol y flwyddyn i gynnig arweiniad a chymorth. 

Yn dilyn cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn 2021, mae nifer o awdurdodau lleol wedi blaenoriaethu symud ysgolion ar hyd gontinwwm ieithyddol drwy newid ei chategori iaith i 2 iaith neu gyfrwng Cymraeg fel eu prif fecanwaith o gyrraedd eu targed CSCA, ceir ymrwymiadau i newid categori 42 o ysgolion ledled Cymru dros oes y CSCA. Ers 2022, mae ymgynghoriadau wedi bod i newid categori 8 o ysgolion ledled Cymru. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol er mwyn cefnogi ysgolion i newid categori iaith yn ystod y flwyddyn nesaf. 

Yn ystod 2024 hefyd, drwy weithio gydag awdurdodau lleol, fe wnaethom lwyddo i bennu categori iaith i bob ysgol berthnasol yng Nghymru sef 1,415 o ysgolion. Bydd hyn yn gosod seilwaith pwysig ar gyfer Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru). 

Bydd arian cyfalaf cyfrwng Cymraeg yn parhau i gefnogi ymdrechion awdurdodau lleol i weithredu eu CSCA. Mae cyllid cyfalaf cyfrwng Cymraeg yn gyson â dyraniadau hanesyddol o £15 miliwn y flwyddyn. Mae £5 miliwn ychwanegol wedi'i gynnwys yng nghyllideb 2025 i 2026 i gefnogi'r cynlluniau presennol hyd at eu cwblhau. Bydd rhestr o brosiectau yn cael eu cyflwyno a'u dyfarnu yn unol â blaenoriaethau’r CSCA a’u cefnogi yn unol â fforddiadwyedd a llif arian dros gyfnod o dair blynedd. Bydd hyn yn caniatáu buddsoddiad parhaus i adeiladu ac adnewyddu ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfradd ymyrraeth o 100%. Caiff prosiectau cyfalaf cyfrwng Cymraeg eu hadolygu fesul achos i sicrhau bod y rhain yn cyd-fynd â blaenoriaethau CSCA gan arwain at fwy o ddysgwyr yn dod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol. 

Mae gallu darparu pwynt mynediad hwyrach na’r cyfnod sylfaen i ddysgwyr sydd am addysg cyfrwng Cymraeg yn rhan hollbwysig o’r darlun hwn. Dyma’r hyn y mae addysg trochi hwyr yn ei chynnig. Mae’r darpariaethau yn cefnogi dysgwyr i ymgymryd â chyfnod dwys o gaffael iaith er mwyn gallu parhau â’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi £3m ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026 i gefnogi darpariaeth trochi hwyr ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Bydd y cyllid yn parhau i gefnogi darpariaethau sydd eisoes wedi'u sefydlu (canolfannau neu unedau) neu’n arwain at sefydlu darpariaethau trochi hwyr newydd. Ers i'r Llywodraeth gyflwyno grant trochi hwyr, mae wedi cefnogi dros 40 o ddarpariaethau trochi hwyr. Mae’r rhain yn cynnwys canolfannau neu unedau sy’n gwasanaethu’r sector addysg cyfrwng Cymraeg cynradd a hefyd yr uwchradd. Mae dros 4,000 o ddysgwyr wedi elwa ar raglenni trochi hwyr ers i'r grant gychwyn yn 2021, y mae bron i hanner ohonynt yn gwbl newydd i'r iaith ac mae'r gweddill wedi derbyn cefnogaeth ddwys ar fethodolegau dysgu trochi i atgyfnerthu eu sgiliau Cymraeg, yn enwedig ar ôl COVID-19. 

Byddwn yn parhau i gynnal ein rhwydwaith i gefnogi addysg drochi cyfrwng Cymraeg er mwyn rhoi cyfle i swyddogion ddod ynghyd ag athrawon trochi i godi ymwybyddiaeth o’r gwahanol ddarpariaethau, y datblygiadau diweddaraf a’r arferion gorau sydd ar waith ledled Cymru a thu hwnt. Yn ystod 2025 i 2026, byddwn yn cydweithio gyda’n harbenigwyr ymchwil trochi i gynnal gweithdai gydag ymarferwyr trochi yng Nghymru a Québec.

Er mwyn galluogi dysgwyr i fanteisio ar gwricwlwm ehangach drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel TGAU a Safon Uwch, byddwn yn parhau i ariannu prosiect e-sgol. Mae e-sgol wedi bod yn ehangu bob blwyddyn ers iddo gael ei lansio yn 2018. Yn ystod 2024 i 2025, mae 80 o gyrsiau (TGAU, UG a Safon Uwch) yn cael eu cynnig ar draws 55 ysgol i 813 o ddisgyblion. Disgwylir y bydd y prosiect yn ehangu ymhellach yn ystod 2025 i 2026.

Ym mis Mawrth 2021, cyflwynwyd 'Cyrsiau Carlam' fel rhan o brosiect e-sgol, sef cyfres o sesiynau rhithwir am ddim, drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg i gefnogi disgyblion ym mlynyddoedd 11, 12 a 13 ledled Cymru. Mae sesiynau adolygu Carlam yn parhau i gael eu cynnig a hyd yma, mae’r cynllun wedi cynhyrchu cyfanswm o 1,096 fideo o'r sesiynau sydd wedi eu gwylio 100,177 o weithiau. Bydd y cyrsiau yn parhau yn ystod 2025 i 2026.

Yn ystod 2023 i 2024, ehangodd e-sgol i'r sector cynradd gyda disgyblion ar draws Cymru yn manteisio ar y ddarpariaeth. Mae amrywiaeth o wahanol brosiectau a darpariaeth wedi datblygu ers hynny gan gynnwys cynnig ieithoedd rhyngwladol a sesiynau ysgrifennu creadigol ar gyfer disgyblion mwy galluog. Bydd y ddarpariaeth gynradd yn parhau i ehangu yn ystod 2025 i 2026.

Dysgu Cymraeg ôl-16 

Mae Gweinidogion Cymru wedi dynodi y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddarparu cyngor i Medr ar ei ddyletswyddau statudol yn ymwneud â’r Gymraeg. Mae gan Medr gyfrifoldebau dros gyllido a rheoleiddio’r sector drydyddol a bydd y Coleg yn cynghori ar yr ystod o gyfrifoldebau. Yn ystod 2025 i 2026, bydd y Coleg yn parhau i gynghori Medr wrth iddo weithredu’i Gynllun Strategol cyntaf.

Bydd y Coleg yn parhau i weithredu ei Gynllun Academaidd Addysg Uwch diweddaraf (2022), ac yn cydweithio â’r darparwyr i sicrhau bod myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer gradd yn cael mynediad at brofiadau dysgu cyfrwng Cymraeg fel rhan o’u cwrs. Bydd y Coleg yn parhau i ddyfarnu grantiau pynciol i gynnal ac ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg uwch, a dyfarnu grantiau sbarduno i gynorthwyo darparwyr i greu darpariaeth cyfrwng Cymraeg newydd. Yn ystod 2025 i 2026, bydd y Coleg yn cefnogi prosiectau peilot sy’n canolbwyntio ar ehangu cynulleidfaoedd addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Mae hyn yn cynnwys cyllido dau brosiect i ariannu swyddi ‘animateurs iaith’, a dau grant prosiect i ariannu swyddi cynllunio darpariaeth sgiliau iaith. Bydd y Coleg hefyd yn parhau i gynnig ysgoloriaethau israddedig i fyfyrwyr sy’n astudio eu cwrs cyfan, neu gyfran o’u cwrs, drwy’r Gymraeg.

Bydd y Coleg yn adeiladu ar y prosiectau strategol a gyflawnwyd eisoes i ddatblygu darpariaeth a chapasiti mewn colegau addysg bellach, er mwyn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog. I gyflawni hyn, bydd y Coleg yn cydweithio â phartneriaid strategol a’r sector ôl-16, gan osod seilwaith cadarn yn ei le. 

 Yn y sector addysg bellach, bydd y Coleg yn parhau i gryfhau a chefnogi’r ddarpariaeth mewn meysydd blaenoriaeth megis Iechyd a Gofal, Gofal Plant, Gwasanaethau Cyhoeddus, Chwaraeon ac Astudiaethau ar Dir. 

Yn y sector prentisiaethau, bydd y Coleg yn parhau i gefnogi prosiectau strategol i ddatblygu capasiti a chynnal y ddarpariaeth ym meysydd iechyd a gofal, gofal plant a gwasanaethau cyhoeddus, ynghyd â datblygu isadeiledd i gefnogi twf y Gymraeg ar draws y rhwydwaith o ddarparwyr. Bwriad datblygu’r strwythur hwn yw galluogi mwy o ddysgwyr i siarad Cymraeg a bod yn siaradwyr dwyieithog hyderus ar gyfer y gweithle.

Bydd y Coleg yn cefnogi gweithgareddau hybu a hyrwyddo yn y sector addysg bellach a phrentisiaethau, gan recriwtio llysgenhadon ar draws colegau a darparwyr prentisiaeth, a gweithredu cynlluniau hyfforddiant a mentora staff. Maes blaenoriaeth arall ar gyfer 2025 i 2026 yw’r maes digidol lle bydd y Coleg yn cynnal sesiynau hyfforddi i staff ar ddefnyddio rhaglenni deallusrwydd artiffisial i hwyluso dysgu dwyieithog.

Bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (y Ganolfan) yn parhau i adeiladu ar y diddordeb cynyddol sy’n bodoli i ddysgu Cymraeg, gan ddarparu ystod eang o gyrsiau i amrywiol gynulleidfaoedd mewn gwersi wyneb yn wyneb ac ar-lein. Bydd arlwy'r Ganolfan hefyd yn cynnwys cyrsiau penodol i godi hyder siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith, a rhaglen o weithgareddau cefnogi dysgwyr i annog defnydd o’r Gymraeg gan gynnwys cynllun Siarad, sy’n cymhathu siaradwyr a dysgwyr. 

Yn ystod 2025 i 2026, bydd y Ganolfan yn parhau i gynyddu’r gefnogaeth ar gyfer gweithlu’r sector addysg statudol, gan sicrhau bod gweithwyr yn y sector yn cael mynediad at raglen Dysgu Cymraeg sy’n cynnig amrywiol gyrsiau ar bob lefel yn rhad ac am ddim. Bydd cyrsiau yn cael eu datblygu i ddiwallu anghenion ysgolion a chlystyrau penodol, a hefyd gyrsiau penodol ar gyfer Penaethiaid ac Uwch Arweinwyr ysgolion. Yn ystod 2025 i 202026, bydd Cynllun Sabothol Llywodraeth Cymru yn cael ei drosglwyddo i fod yn rhan o raglen y Ganolfan ar gyfer y Gweithlu Addysg.

Bydd y Ganolfan yn parhau i flaenoriaethu dysgu Cymraeg i bobl ifanc 16 i 25 mlwydd oed sy’n cael ei ariannu drwy’r grant Ymlaen gyda’r Dysgu. Yn ystod 2025 i 2026, bydd y Ganolfan yn cynnig gwersi Cymraeg ar gyfer meysydd galwedigaethol mewn colegau Addysg Bellach, yn cynnig cwrs preswyl, ac yn darparu gwersi dysgu Cymraeg i israddedigion yng nghyd-destun eu gradd. 

Bydd y Ganolfan yn parhau i weithredu’r cynllun Cymraeg Gwaith, gan ddarparu cyrsiau sy’n amrywio o gyrsiau blasu hunan-astudio ar-lein i gyrsiau preswyl dwys. Bydd yn parhau i weithredu cynlluniau sectorol penodol gan gynnwys cynllun cenedlaethol iechyd a gofal. Yn ystod 2025 i 2026, bydd y Ganolfan yn lleoli tiwtoriaid Dysgu Cymraeg mewn awdurdodau iechyd er mwyn cynnal cynlluniau hyfforddi, mentora ac ôl-ofal, ac yn parhau i ehangu’r cynllun i gydweithio â meysydd arbenigol o fewn y sector. 

Yn ystod 2025 i 2026, bydd y Ganolfan hefyd yn blaenoriaethu gweithio mewn partneriaeth â’r heddluoedd a chyrff o’r sector chwaraeon. Bydd cynllun yn cael ei ddatblygu i leoli tiwtor Dysgu Cymraeg o fewn Lluoedd Heddlu Gogledd Cymru, De Cymru a Gwent, er mwyn sicrhau cynlluniau hyfforddi, mentora ac ôl-ofal. Yn y maes chwaraeon, bydd y Ganolfan yn parhau i weithredu cynlluniau ar y cyd ag Undeb Rygbi Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chlwb Pêl-droed Wrecsam, a fydd yn darparu cyrsiau ac adnoddau wedi’u teilwra ar gyfer y sector. Y bwriad yw targedu staff canolog yn ogystal â staff llawr gwlad a chefnogwyr.

Yn ogystal â chynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a'r defnydd ohoni, mae Cymraeg Gwaith hefyd yn caniatáu i gyrff ddarparu gwell gwasanaethau Cymraeg i'w defnyddwyr. Bydd y cynllun hefyd yn cyfrannu at ein nod i gynyddu cyfleoedd i bobl allu defnyddio’r Gymraeg mewn gweithleoedd.

Adnoddau addysgol 

Yn 2023, fe wnaethom sefydlu Adnodd, sef cwmni cyfyngedig drwy warant i oruchwylio a chydlynu darpariaeth adnoddau addysgol yn Gymraeg a Saesneg i gefnogi addysgu a dysgu'r Cwricwlwm i Gymru. Ein nod, drwy waith Adnodd, yw cefnogi ymarferwyr, dysgwyr a'u teuluoedd drwy gydol eu profiad addysgol a gwneud hynny drwy gomisiynu adnoddau dwyieithog o ansawdd uchel sy'n cefnogi ac yn ysbrydoli eu dysgu. 

Er mwyn sicrhau dull mwy strategol o gomisiynu adnoddau addysgol, bydd Adnodd yn gweithio gydag unigolion sy’n creu cynnwys, ymarferwyr addysgol, dysgwyr a'u teuluoedd i gomisiynu a chyd-greu adnoddau dwyieithog o ansawdd uchel sy'n cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru. Drwy weithio ar y cyd ac yn strategol ar draws y sector addysgol a thu hwnt, drwy Adnodd ein nod yw sicrhau bod gan bob dysgwr ac addysgwyr fynediad hawdd at ddeunyddiau perthnasol, dwyieithog a chynhwysol.

Lansiodd Adnodd raglen gomisiynu gychwynnol yn ystod 2024 i 2025 gan wobrwyo nifer fach o gontractau sy’n rhoi sylw i feysydd blaenoriaeth fel llythrennedd a rhifedd. Rydym hefyd wedi ariannu Adnodd i gydweithio â CBAC i greu adnoddau dysgu ac addysgu ychwanegol yn barod at gyflwyno’r cymwysterau TGAU newydd. Mae gwaith ar yr adnoddau newydd hyn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.

Byddwn yn parhau i gefnogi Adnodd yn ystod 2025 i 2026.

Y gweithlu addysg 

Byddwn yn parhau i weithredu Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg a gyhoeddwyd ym mis Mai 2022 i gyd-fynd â chyfnod 10 mlynedd y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Mae'r cynllun yn cynnwys nifer o gamau gweithredu sy’n gofyn am gydweithio rhwng nifer o randdeiliaid allweddol er mwyn gwireddu pedwar nod:

  • Cynyddu nifer yr athrawon sy’n gallu addysgu’r Gymraeg fel pwnc ac addysgu pynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Cynyddu nifer yr ymarferwyr sy’n gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg sy’n cefnogi dysgwyr.
  • Datblygu sgiliau Cymraeg pob ymarferydd a’i arbenigedd i addysgu’r Gymraeg ac i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Meithrin gallu arweinwyr ysgolion cyfrwng Cymraeg a sicrhau bod gan bob arweinydd y sgiliau sydd eu hangen i gynllunio datblygiad y Gymraeg yn strategol o fewn diwylliant o ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu.

Fel rhan o ddatblygiad y Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg, byddwn yn ystyried pa gamau pellach y gellid eu cymryd i gefnogi’r gweithlu addysg Gymraeg fel rhan o gynllun cyfannol ar gyfer y gweithlu addysg ysgolion. 

Thema 2: cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg

Mae ail brif nod ‘Cymraeg 2050’, sef dyblu’r ganran ohonom sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd, wedi hen fagu ei blwyf erbyn hyn. Rydym wedi datgan yn glir y bydd cynyddu defnydd iaith wrth galon popeth a wnawn yng nghyd-destun ‘Cymraeg 2050’. Yn ystod 2025 i 2026, byddwn yn parhau i weithio ar draws y Llywodraeth a chydag amrywiol bartneriaid ledled Cymru i gynyddu’r defnydd o’n hiaith yn y cartref, ar lefel gymunedol a chymdeithasol, ar iard yr ysgol, mewn gweithleoedd, mewn busnesau ac yn ddigidol. 

Cynllun Grant i hybu a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg 

Mae cyfraniad ein partneriaid grant i’n gwaith i gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn gwbl allweddol wrth i ni weithredu ‘Cymraeg 2050’. Mae’r rhwydwaith o fentrau iaith yn gweithio fel cynllunwyr ieithyddol cymunedol drwy fynd ati i ymateb i sefyllfa ac anghenion ieithyddol eu hardaloedd. Yn 2025 i 2026, bydd pob menter iaith yn derbyn isafswm o £100,000 o gyllid craidd. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn sicrhau bod gan bob menter iaith yr adnoddau angenrheidiol i weithredu ystod eang o gynlluniau i gefnogi’r Gymraeg yn gymunedol.

Mae cynllunio Eisteddfod yn brosiect cymunedol sy’n parhau am gyfnod o dair blynedd gan ddod â budd economaidd gwerthfawr i ardal. Mae’n codi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg ac yn cynyddu cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith am rai blynyddoedd cyn i’r ŵyl ymddangos a chan gynnig gwaddol gwerthfawr wedi hynny. Byddwn yn parhau i gydweithio â’r Eisteddfod Genedlaethol eleni wrth iddynt baratoi i gynnal yr ŵyl yn sir Wrecsam. Mae’r brwdfrydedd yn y sir yn amlwg ac edrychwn ymlaen at y croeso arbennig a’r arlwy eang o weithgareddau a fydd yn ein disgwyl yn y gogledd-ddwyrain. Eleni eto, byddwn yn cefnogi’r Eisteddfod i gynnig mynediad am ddim i deuluoedd incwm is er mwyn cynnig cyfle i bobl leol gael mynychu’r ŵyl, nifer ohonynt am y tro cyntaf, i gael blas ar ein hiaith a’n diwylliant ar garreg eu drws. 

Trosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd mewn teuluoedd

Mae’n Polisi Cenedlaethol ar Drosglwyddo’r Gymraeg a’i Defnydd mewn Teuluoedd yn canolbwyntio ar: 

  • ysbrydoli plant a phobl ifanc i siarad Cymraeg gyda’u plant nhw yn y dyfodol
  • ailgynnau sgiliau Cymraeg pobl a allai fod heb ddefnyddio’r Gymraeg ers gadael yr ysgol, neu sy’n ddihyder eu sgiliau iaith, i siarad Cymraeg gyda’u plant eu hunain
  • cefnogi ac annog defnydd o’r Gymraeg mewn teuluoedd lle nad yw pawb yn siarad Cymraeg
  • cefnogi teuluoedd Cymraeg eu hiaith i siarad Cymraeg gyda’u plant

Yn 2024 i 2025, fe wnaethom gyhoeddi dadansoddiad ystadegol o Gyfraddau trosglwyddo'r Gymraeg yn ôl awdurdod lleol: Cyfrifiad 2001, 2011, 2021. Mae’r data hwn yn hysbysu’n ymyraethau i gynyddu trosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd mewn teuluoedd. 2025 i 2026 fydd blwyddyn olaf ein hymchwil yn y maes sy’n defnyddio gwyddor ymddygiadol i edrych ar drosglwyddo’r Gymraeg rhwng rhieni a’u plant. Mae’r ymchwil hon yn dilyn tair ffrwd gwaith (i) cerddoriaeth, a sut mae modd ei defnyddio i sbarduno defnydd iaith rhwng rhieni a’u plant (ii) teganau a’u cyfraniad posibl i ymddygiadau trosglwyddo a (iii) gwybodaeth a anfonir at rieni am ddefnydd o’r Gymraeg. Mae ystadegau’n dangos yn glir bod defnyddio’r Gymraeg yn y cartref yn blentyn yn dylanwadu’n gryf ar amlder defnydd o’r Gymraeg pan yn hŷn.

Maes ieuenctid 

Byddwn yn parhau â’r gwaith i ddatblygu polisi newydd i gefnogi defnydd plant a phobl ifanc o’r Gymraeg gyda’r bwriad o’i gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn. Bydd ein ffocws ar bontio rhwng y byd addysg, y gymuned a’r teulu. Byddwn yn cydweithio’n helaeth ar draws y Llywodraeth a chyda rhanddeiliaid allanol gan gynnwys pobl ifanc i siapio’r gwaith hwn. 

Mae’r Siarter Iaith yn parhau i fod yn ymyrraeth allweddol o ran cynyddu defnydd plant a phobl ifanc o’r Gymraeg. Ers ehangu’r Siarter i fod yn rhaglen genedlaethol, mae’r byd o’n cwmpas wedi newid. Mae twf technoleg a’r maes digidol yn parhau i effeithio ar arferion ieithyddol ein plant a’n pobl ifanc a sut maent yn cymdeithasu. Yn dilyn cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, datblygwyd y Siarter ymhellach drwy gyflwyno fframwaith genedlaethol newydd ar ei chyfer. I gyd-fynd â’r fframwaith, cyhoeddwyd canllawiau newydd ar gyfer pedair rhaglen y Siarter ynghyd ag adnoddau newydd er mwyn cynyddu defnydd iaith anffurfiol a chymdeithasol plant a phobl ifanc Cymru a hynny mewn ysgolion cynradd ac uwchradd o bob cyfrwng iaith. Byddwn yn lansio adnodd digidol newydd pellach yn ystod Eisteddfod yr Urdd, Bro Dur a Môr ym Margam ym mis Mai 2025. Bydd y stribed comig ar gael ar blatfform Hwb i athrawon a dysgwyr ei ddefnyddio yn rhad ac am ddim i gynyddu defnydd iaith ochr yn ochr â hybu llythrennedd y dysgwyr.

Fel un o’n partneriaid, byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r Urdd dros y flwyddyn i ddod er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn parhau i dderbyn cyfleoedd amhrisiadwy i fwynhau a defnyddio’u Cymraeg. Rydym yn falch eto eleni o ariannu pecyn i roi cyfle i deuluoedd lleol incwm is fwynhau mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd ym Margam ym mis Mai. 

Byddwn hefyd yn parhau i ariannu Clybiau’r Ffermwyr Ifanc, ymysg partneriaid eraill, er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio’u Cymraeg mewn bob math o gyd-destunau ym mhob cwr o’r wlad. Byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â’r partneriaid hyn ac eraill yn y sector ieuenctid wrth ddatblygu’n polisi newydd i gefnogi defnydd plant a phobl ifanc o’r Gymraeg yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog 

Mae hon yn rhaglen ar y cyd rhwng Is-adran Cymraeg 2050 ac Academi Wales. Mae’n rhoi cyfle i arweinwyr sefydliadau drafod sut mae ymgorffori ysbryd ‘Cymraeg 2050’ yn eu sefydliadau. Yn ystod 2024 i 2025, fe wnaethom gynnal sawl gweithdy Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog, gan gynnwys yn Ysgol Haf Academi Wales. Fe wnaethom hefyd greu cyfres o astudiaethau achos o’r rheiny sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen a’r effaith a gafodd arnynt yn bersonol, ac ar y Gymraeg yn eu sefydliadau. Byddwn yn gwahodd carfanau newydd i gymryd rhan yn y rhaglen yn ystod y flwyddyn i ddod ac yn defnyddio’r astudiaethau achos hyn i sicrhau bod mwy o arweinwyr y sector cyhoeddus a gwirfoddol yn gallu elwa ar fynychu Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog.

Defnydd mewnol o’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru 

Yn ystod 2025 i 2026, byddwn yn cyhoeddi ail gam ein strategaeth defnydd mewnol, ‘Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd’, er mwyn hwyluso rhagor o ddefnydd o’r Gymraeg yn ein gweithle. Ein nod yw cefnogi’r sefydliad i weithredu fwyfwy drwy gyfrwng y Gymraeg a chynnig cyfleoedd i’n gweithlu ddysgu’r iaith, i ddatblygu eu sgiliau ac i ddefnyddio’r Gymraeg wrth eu gwaith.

Wrth i ni ddod i ddiwedd cam cyntaf y strategaeth defnydd mewnol, byddwn yn cyhoeddi amcanion newydd ar gyfer y cyfnod 2025 i 2030 yn ystod y flwyddyn nesaf. Wrth wneud hynny, rydym wedi datblygu gwell dealltwriaeth o’r cyd-destun a’r newid ystadegol sydd ei angen. Mae hyn yn caniatáu i ni ddeall yn well y penderfyniadau y bydd angen eu cymryd yn ystod y blynyddoedd nesaf er mwyn cyflawni’r nod. Ein camau nesaf felly fydd:

  • mapio’r taflwybr gweithlu angenrheidiol hyd at 2050
  • newid y ffordd yr ydym yn disgrifio ac yn cofnodi gallu'r gweithlu yn y Gymraeg, drwy fabwysiadu’r Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd (CEFR)
  • drafftio argymhellion cychwynnol ar gyfer ail gam y strategaeth defnydd mewnol, 2025 i 2030 

Safonau’r Gymraeg

Byddwn yn parhau â’r gwaith i baratoi safonau i ddod â chyrff a sectorau newydd o dan drefn y safonau yn ystod 2025 i 2026, a hynny yn unol â’r blaenoriaethau sydd wedi’u nodi yn y Rhaglen Llywodraethu. Byddwn yn ymgynghori ar safonau drafft ar gyfer Cymdeithasau Tai, cyn bwrw ymlaen i osod rheoliadau gerbron Senedd Cymru yn hwyrach yn ystod 2025 i 2026. Byddwn hefyd yn parhau gyda'r gwaith o ddatblygu safonau i ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus. 

Yn ystod 2025 i 2026, byddwn yn gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i ystyried pa gyrff a sectorau sydd o fewn cwmpas Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 y dylid eu blaenoriaethu i baratoi safonau ar eu cyfer ar ôl cwblhau’r rhaglen waith bresennol.

Dydd Miwsig Cymru

Byddwn yn parhau i adeiladu ar ymgyrch flynyddol Dydd Miwsig Cymru yn ystod y flwyddyn sydd i ddod gan fanteisio ar lwyddiant gweithgareddau dathlu’r degawd 2025 i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a thrwy weithio â phartneriaid newydd. 

 Byddwn yn defnyddio’r ymgyrch i geisio annog unigolion a sefydliadau i drefnu mwy o ddigwyddiadau cerddorol ledled Cymru drwy gydol y flwyddyn drwy weithio gyda’r sector i gynllunio’r ymgyrch. Y nod fel bob amser fydd denu cynulleidfaoedd newydd, sydd ar wahanol gamau o’u taith gyda’r Gymraeg, at ein hiaith. Byddwn yn gwneud hyn drwy ddathlu holl amrywiaeth ein sîn gerddorol fywiog ar draws ein cymunedau ledled Cymru benbaladr a thu hwnt.

Thema 3: creu amodau ffafriol – seilwaith a chyd-destun

Byddwn yn parhau i weithio mewn amrywiol feysydd er mwyn adeiladu seilwaith cadarn a fydd yn creu amodau ffafriol i’r Gymraeg ffynnu er mwyn i bawb gael cyfle i ddysgu’n hiaith ac i’w defnyddio.

Tai, iaith a gwaith

Gall nifer o wahanol elfennau effeithio ar ffyniant ein cymunedau Cymraeg. Rydym yn ymwybodol y gall niferoedd uchel o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr mewn cymunedau, yn arbennig rhai arfordirol, fod yn niweidiol ac effeithio ar argaeledd tai fforddiadwy, yr economi leol, gwasanaethau a’r Gymraeg fel iaith gymunedol. 

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi cynaladwyedd Cymunedau Cymraeg drwy dynnu ynghyd bolisïau tai, cynllunio ieithyddol, yr economi a datblygu economaidd i gynnig amrywiaeth o ymyraethau i’w gweithredu yn ystod 2025 i 2026. Mae’r ymyraethau hyn yn rhan annatod o’r ‘Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg’.

O dan ambarél y ‘Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg’, byddwn yn parhau i gydweithio â phartneriaid allweddol a’r cynllun Peilot Fforddiadwyedd ac Ail Gartrefi yn ardal Dwyfor, sy’n gadarnle'r Gymraeg ac yn ardal sy’n dioddef o effeithiau nifer uchel o ail gartrefi.

Mae’r Pecyn Cyfle Teg yn darparu gwybodaeth am sut gall perchnogion tai gynnig cyfleoedd i bobl leol fyw yn lleol drwy gymryd camau ymarferol wrth iddynt fynd ati i werthu eu tai. Bydd y pecyn yn cael ei dreialu yn ardal Dwyfor yn ystod 2025 i 2026. 

Bydd prosiect Perthyn yn parhau yn ystod 2025 i 2026 gyda’r brif nod o gynnig cefnogaeth arbenigol i grwpiau cymunedol ddatblygu syniadau i fod yn fentrau cymdeithasol neu’n gynlluniau tai wedi’u harwain gan y gymuned. Bydd cronfa grant ar gael i gefnogi grwpiau cymunedol i sefydlu fel mentrau cymdeithasol, gyda ffyniant y Gymraeg yn rhan ganolog o’u gweledigaeth. Mae’r cynllun eisoes wedi cefnogi nifer o gymunedau drwy ddiwallu anghenion tai, economi a chymdeithasol. Byddwn yn parhau i gydweithio gyda Cwmpas i adeiladu capasiti a grymuso cymunedau. Byddwn yn ei ymestyn yn gynllun cenedlaethol am y tro cyntaf yn ystod 2025 i 2026.

Ers 1 Mawrth 2024, mae’r rhwydwaith o Lysgenhadon Diwylliannol wedi tyfu. Nod y rhwydwaith yw grymuso unigolion i rannu gwybodaeth am: ein hanes; ein diwylliant a’n treftadaeth; hanes y Gymraeg; manteision ei dysgu a’i defnyddio ymhob agwedd o fywyd; a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg ymysg ymwelwyr a newydd ddyfodiaid. Mae’r cwrs yn rhan o blatfform Llysgenhadon Cymru, a byddwn yn parhau i gydweithio â phartneriaid allweddol a rhaglenni ehangach Llysgenhadon Cymru er mwyn creu cyfleoedd i ddatblygu a chefnogi’r rhwydwaith. Yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, byddwn yn edrych ar ddatblygu cwrs Llysgenhadon Diwylliannol Ieuenctid i rymuso a chefnogi pobl ifanc i hyrwyddo’r Gymraeg ymysg eu rhwydweithiau cymdeithasol.

Ym mis Hydref 2022, fe wnaeth Gweinidog yr Economi gyhoeddi cyllideb o £11m ar gyfer ail wedd Rhaglen ARFOR, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru. Bydd cyfnod ariannu Rhaglen ARFOR 2 yn dod i ben ym mis Mawrth 2025. Mae trafodaethau gyda rhanddeiliaid allweddol ar waith i ystyried y ffordd ymlaen ar gyfer y dyfodol. Disgwylir gwerthusiad annibynnol o’r Rhaglen yn gynnar yn ystod y flwyddyn ariannol newydd. Bydd yr adroddiad hwn yn allweddol wrth i ni ystyried cyfeiriad a strwythurau'r dyfodol.

Mae gwaith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg wedi’i rannu yn ddau gam. Roedd Cam 1 yn edrych ar gymunedau sydd â dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg. Yn ystod 2025 i 2026, byddwn yn mynd ati i ymateb i ganfyddiadau ac argymhellion adroddiad cyntaf y Comisiwn, ‘Grymuso cymunedau, cryfhau’r Gymraeg’ a'r adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi ar gynllunio gwlad a thref. Sefydlwyd Cam 2 y Comisiwn ym mis Awst 2024 i edrych ar sefyllfa’r Gymraeg mewn cymunedau sydd â dwysedd canolig neu is o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru a thu hwnt. Bwriad y Comisiwn yw cyhoeddi ei adroddiad terfynol yn gynnar yn 2026.

Technoleg a'r Gymraeg 

Ar sail yr alwad am wybodaeth ar dechnoleg Gymraeg yn 2024, fe gyhoeddom dair blaenoriaeth newydd ym mis Ionawr 2025: 

  • Technoleg fel ffordd o gynyddu defnydd dyddiol o’r Gymraeg.
  • Sicrhau bod pawb yn gallu cael at dechnoleg Gymraeg.
  • Gwella deallusrwydd artiffisial (AI) Cymraeg a thechnolegau lleferydd (drwy rannu data a ffyrdd eraill).

Eleni, byddwn yn gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg er enghraifft i wneud y logo Iaith Gwaith hyd oed yn fwy amlwg yn y byd digidol, fel bod pobl yn teimlo’n fwy hyderus i ddechrau mwy o sgyrsiau a defnyddio mwy o wasanaethau yn Gymraeg. Bydd hyn yn rhan o’n gwaith ehangach gyda’r Comisiynydd ar ddatblygu’r defnydd o dechnoleg a gwasanaethau digidol Cymraeg mewn gweithleoedd a thu hwnt.

Byddwn hefyd yn gweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddatblygu’r dechnoleg sydd y tu ôl i'w hadnoddau, i'w gwneud yn haws fyth i bobl ddefnyddio’u Cymraeg bob dydd.

Rhan bwysig o’n camau nesaf fydd technoleg i helpu pobl sydd ag anghenion penodol. Gallai hyn gynnwys:

  • pobl anabl
  • pobl sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
  • pobl sydd ag anghenion yn sgil triniaeth feddygol
  • pobl sydd ag amhariad gwybyddol neu gorfforol

Byddwn yn nodi bylchau ac yn cynnig data ac adnoddau i ddarbwyllo cwmnïau i gefnogi’r Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys darllenwyr sgrin a ‘pen-readers’ ar gyfer asesiadau ysgol, ac ymgorffori lleisiau synthetig dwyieithog yn well ar gyfer pobl sydd ag amhariad ar y golwg.

Ym mis Medi 2024, cyhoeddodd Microsoft eu bod bellach yn cefnogi’r Gymraeg a’r Gatalaneg yn Copilot. Mae hyn yn golygu y gallwch ddefnyddio promptiau a chwestiynau Cymraeg a bod Copilot yn dysgu sut i ymateb yn Gymraeg. Fel rhan o’n partneriaeth gyda Microsoft, rydym eisoes wedi cydweithio i greu cyfleuster cyfieithu ar y pryd yn Teams, er enghraifft. Mae’r gwaith gyda Microsoft yn parhau i ddatblygu hyn ymhellach, a byddwn yn cydweithio â nhw yn ystod y flwyddyn sydd i ddod i wella sut mae Copilot yn prosesu’r Gymraeg.

Hefyd ym mis Medi 2024, fel rhan o’n partneriaeth gydag OpenAI i wella sut mae ChatGPT yn prosesu’r Gymraeg, cynhaliom brosiect ar y cyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru lle defnyddiodd OpenAI dechnolegau AI i drawsgrifio llawysgrifen Cymraeg. Mae trafodaethau yn parhau gydag OpenAI am y prosiectau nesaf er enghraifft gweithio gyda Geiriadur Prifysgol Cymru i ddefnyddio’u deunyddiau nhw i wella sut mae AI yn prosesu’r Gymraeg.

Ein prif neges yw y byddwn yn gwneud popeth y gallwn i’w gwneud hi’n haws i ddefnyddio’r Gymraeg mewn technoleg, a byddwn yn defnyddio popeth y mae technoleg yn ei gynnig i’n helpu ni i ddefnyddio’r Gymraeg. 

Seilwaith ieithyddol 

Byddwn yn dal ati i weithredu ein ‘Polisi seilwaith ieithyddol y Gymraeg’, a gyhoeddwyd yn 2023. Mae hynny’n golygu parhau i ddatblygu strwythur mwy cyd-gysylltiedig i gynnal a datblygu seilwaith ieithyddol y Gymraeg. Y nod yw helpu pobl i wybod ble i droi wrth chwilio am gefnogaeth wrth ddefnyddio’r Gymraeg er mwyn rhoi hyder iddynt ddefnyddio’r iaith yn ddirwystr.

Ar ôl lansio tudalennau newydd i helpu gwahanol ddefnyddwyr ganfod yr adnoddau sydd orau iddyn nhw, byddwn yn parhau â’r gwaith o hyrwyddo a marchnata’r adnoddau hynny. Byddwn yn parhau i gynnal cyfarfodydd o Banel Safoni’r Gymraeg, gyda’r nod o gyhoeddi penderfyniadau’r Panel mewn perthynas â materion orgraffyddol.

Enwau lleoedd Cymraeg 

Byddwn yn parhau i gydweithio’n eang i roi camau ar waith i warchod enwau lleoedd Cymraeg, yn unol â’n hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu. Byddwn yn parhau i weithredu’r camau a nodwyd yn y ‘Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg’ ac a ategwyd gan ein ‘Polisi seilwaith ieithyddol y Gymraeg’. Ar sail y data a’r canfyddiadau a gynhwysir yn yr adroddiad ymchwil a gomisiynwyd i ddysgu mwy am sut, ble a pham mae enwau lleoedd yn newid, byddwn yn datblygu ymyraethau polisi wedi'u targedu.

Byddwn yn parhau i feithrin y cysylltiadau a sefydlwyd drwy’r Fforwm Sirol Enwau Lleoedd, a fynychir gan swyddogion o awdurdodau lleol Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr, yn ogystal â chynrychiolydd o Barc Cenedlaethol Eryri, gyda’r nod o rannu gwybodaeth, arferion da, cefnogi’n gilydd a chanfod bylchau yn y ffordd o ymdrin ag enwau lleoedd.

Byddwn yn parhau â’r gwaith o ledaenu a chodi ymwybyddiaeth o’r canllawiau a ddatblygwyd gennym er mwyn rhoi arweiniad i sefydliadau ar sut i ymdrin ag enwau lleoedd Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn cyhoeddiadau ar y we. Y bwriad yw annog sefydliadau a chyrff o bob math i ddefnyddio rhagor ar ein henwau Cymraeg ni, yn arbennig mewn deunyddiau Saesneg.

Byddwn hefyd yn lansio teclyn newydd i ganiatáu i unrhyw un gofnodi enw Cymraeg neu hanesyddol nad yw eisoes yn ymddangos ar fap. Bydd hyn yn sicrhau nad yw’r enw’n cael ei golli, a’i fod yn cael ei gynnwys ar fapiau a deunyddiau daearyddol eraill. Bydd y teclyn hwn yn cyd-fynd hefyd â modiwl Llysgenhadon Diwylliannol ar enwau lleoedd. 

Cymru a’r byd ehangach 

Byddwn yn parhau i hyrwyddo’r Gymraeg ar y llwyfan rhyngwladol. Bydd hyn yn cynnwys chwarae rôl arweiniol mewn rhwydweithiau rhyngwladol ar gynllunio ieithyddol megis y Rhwydwaith i Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol (NPLD), y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a Degawd Ieithoedd Brodorol 2022 i 2032 UNESCO. Bydd gwaith y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn canolbwyntio ar gynyddu defnydd iaith (yn y cartref yn ystod y blynyddoedd cynnar, ymysg pobl ifanc ac mewn gweithleoedd), seilwaith ieithyddol a diwylliant. Rydym hefyd yn aelod o grŵp ad hoc UNESCO sy’n canolbwyntio ar gydraddoldeb a materion digidol a byddwn yn canolbwyntio ar sicrhau bod gwahanol gymunedau amlieithog y byd yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn dod ynghyd i’w gwneud hi’n haws creu cynnwys mewn mwy o ieithoedd drwy dechnoleg.

Byddwn hefyd yn parhau i weithredu amrywiol raglenni gwaith a Chytundebau Cyd-ddealltwriaeth gyda rhanbarthau a gwledydd ledled y byd er enghraifft Cernyw, Llydaw ac Iwerddon.

Byddwn yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd y Gymraeg a’n dwyieithrwydd wrth i ni hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol fel rhan o’n ‘Strategaeth ryngwladol i Gymru’. Byddwn yn rhan o’r gwaith o drefnu blwyddyn Cymru yn Japan Llywodraeth Cymru yn ystod 2025 er mwyn gwneud yn siŵr bod y Gymraeg wedi’i gwreiddio ar draws yr ymgyrch ac i feithrin cysylltiadau ag ieithoedd lleiafrifol y wlad. 

Byddwn hefyd yn parhau i gydweithio â’r Urdd ar Neges Heddwch ac Ewyllys Da Cymru 2025, thema eleni fydd tlodi plant.

Y Gymraeg a chydraddoldeb

Byddwn yn parhau i weithio ar draws y Llywodraeth, a thu hwnt, i roi ein hamrywiol gynlluniau gweithredu ar waith ym maes cyfiawnder cymdeithasol. 

Cafodd ein ‘Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol’ ei ddiweddaru yn 2024 ac mae bellach yn cynnwys gweithredoedd newydd ac ychwanegol ar gyfer y Gymraeg. Yn ystod 2025 i 2026, bydd ffocws cryfach ar addysg cyfrwng Cymraeg a gweithredu newidiadau i'r ffordd y caiff y Gymraeg ei haddysgu ym mhob ysgol. 

Bydd bwrw ymlaen gyda Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yn golygu y bydd mwy o ddisgyblion erbyn 2050 yn dod yn ddefnyddwyr Cymraeg annibynnol a hyderus erbyn iddynt gyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol. Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar ddisgyblion du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a’u mynediad at y Gymraeg.

Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i hyrwyddo mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg a sicrhau bod ein gweithgarwch marchnata a chyfathrebu yn adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethwn a bod y derminoleg Gymraeg a ddefnyddiwn yn briodol ac yn ddiwylliannol sensitif. Byddwn hefyd yn ariannu ymchwil i gofnodi profiadau mudwyr o ran cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg, a fydd yn cyfrannu at gynllun Cenedl Noddfa. Hefyd, rydym yn anelu at: sicrhau bod y gweithlu addysgu yn amrywiol; gwella addysg y blynyddoedd cynnar; a chefnogi dysgu ôl-16 drwy raglenni wedi’u teilwra, er mwyn addysgu’r Gymraeg mewn ffordd gynhwysfawr a chynaliadwy.

Byddwn yn parhau i gydweithio â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i roi cyfleoedd i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ddysgu Cymraeg ar gyrsiau drwy eu cynllun Croeso i Bawb. Bydd hyn yn cynnwys cyfleoedd i ddysgu Cymraeg y tu hwnt i’r Saesneg, drwy ieithoedd megis Cantoneg, Arabeg Syria, Farsi, Pashto ac Wcreineg.

Cyhoeddwyd ‘Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru’ ddechrau mis Chwefror 2023. Mae’r Cynllun yn cynnwys sawl cam gweithredu sy’n ymwneud â’r Gymraeg ac rydym wedi ymrwymo i wreiddio ethos y Cynllun drwy’n holl waith. Yn yr un modd, byddwn yn barod i ymateb i ddatblygiadau eraill yn y maes polisi cyfiawnder cymdeithasol drwy gydol y flwyddyn.

Darlledu 

Yn ystod 2025 i 2026, byddwn yn parhau i gefnogi cynyrchiadau a deunydd Cymraeg drwy gyllid cynhyrchu Cymru Greadigol, gan weithio gydag S4C drwy ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Bydd hyn yn adeiladu ar lwyddiannau diweddar megis Pren ar y Bryn, Y Golau a Hafiach. Byddwn hefyd yn parhau i ganolbwyntio ar gefnogi ffilmiau hir Cymraeg, wrth i'r ail gylch o gyllid datblygu gael ei lansio, a hwyluso'r ffordd i o leiaf un o'r pedwar prosiect cychwynnol a gefnogwyd drwy gynllun Sinema Cymru gael ei gynhyrchu mewn partneriaeth ag S4C. Bydd y ffilm Gymraeg Effie hefyd yn cael ei chyflwyno yn 2025, gyda'r bwriad o'i dangos mewn gwyliau ddiwedd 2025 i 2026, ac o bosibl ryddhau fersiwn theatr yn 2026.

Yn ogystal, wrth i'r newid yn y dirwedd ddarlledu barhau, o'r traddodiadol i fwy o ddeunydd ar-lein, byddwn yn gweithio i sicrhau bod hawliau siaradwyr Cymraeg yn cael eu hyrwyddo a'u gwarchod ar sianeli digidol ac ar-lein, wrth i'r fframwaith rheoleiddiol esblygu drwy weithredu Deddf y Cyfryngau ac adolygiad Ofcom o Gyfryngau'r Gwasanaethau Cyhoeddus.

Diwylliant

Yn ystod 2024, cyhoeddwyd blaenoriaethau drafft ar gyfer maes diwylliant a chynhaliwyd proses ymgynghori arnynt. Mae’r blaenoriaethau drafft yn cynnwys uchelgais glir ynghylch cefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y sector. Y bwriad yw cyhoeddi’r blaenoriaethau terfynol yn ystod gwanwyn 2025, a byddwn yn cydweithio â holl randdeiliaid y sector diwylliant i’w rhoi ar waith.

Bydd cyrff hyd braich diwylliannol, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn parhau i wneud cyfraniad pwysig i weithredu ‘Cymraeg 2050’ yn ystod 2025 i 2026.

Bydd y Gymraeg yn parhau i elwa o’n cefnogaeth ariannol i’r sector llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau yng Nghymru. Yn yr un modd, y cyllid cyfalaf sylweddol sy’n cael ei glustnodi i weithredu ymrwymiadau proffil uchel y Rhaglen Lywodraethu gan gynnwys Theatr Clwyd ac Amgueddfa Bêl-droed Cymru. 

Ymchwil ac ystadegau 

Byddwn yn parhau i ehangu ar ein sail dystiolaeth fel sylfaen i weithredu ‘Cymraeg 2050’ yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Byddwn yn cyhoeddi dogfen Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil a fydd yn cyfathrebu i'r gymuned ymchwil y tu allan i Lywodraeth Cymru y mathau o dystiolaeth a fydd fwyaf defnyddiol i lywio ein penderfyniadau. Byddwn yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau i ymgysylltu â chyrff a sefydliadau eraill sy’n cynnal neu’n cyllido ymchwil. 

Byddwn yn parhau i weithio gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Coleg Crist Prifysgol Rhydychen a Phrifysgol yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd i gyflawni Prosiect Bro, sef astudiaeth sosio-ieithyddol cynhwysfawr o’r Gymraeg yn ei chadarnleoedd. Cyhoeddwyd allbwn cyntaf y prosiect, sef compendiwm yn dadansoddi ystadegau’r Cyfrifiad ar lefel awdurdod lleol ac LSOA, fel rhan o adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ym mis Awst 2024. Bwriad Prosiect Bro yw ategu ein dealltwriaeth o’r ymyraethau polisi sydd eu hangen er mwyn diogelu’r cymunedau hynny drwy gynnig dadansoddiad manwl o'r defnydd o'r Gymraeg yn ei chadarnleoedd, rhywbeth nad yw ffigurau’r cyfrifiad yn gallu ei wneud. Bydd y prosiect hefyd yn datblygu argymhellion ar gyfer gwella presenoldeb cymdeithasol y Gymraeg yn ein cymunedau Cymraeg dwysedd uwch. 

Byddwn yn comisiynu gwerthusiad o’r ‘Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg’ er mwyn ceisio canfod sut mae’r Cynllun wedi grymuso cymunedau i greu a datblygu cynlluniau i fynd i’r afael â'r heriau sy'n wynebu cymunedau Cymraeg sydd â lefelau uchel o ail gartrefi. 

Yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Senedd a Chydsyniad Brenhinol o Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), byddwn yn paratoi i gynnal gwerthusiad o’r Ddeddf.

Yn ystod 2025 i 2026, byddwn yn bwrw ymlaen â’r Cynllun gwaith ar y cyd â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol er mwyn gwella’n dealltwriaeth o’r arolygon a’r prif ffynonellau data gweinyddol am y Gymraeg. Fel rhan o’r gwaith hwn, byddwn yn ymgynghori â defnyddwyr data am yr achos dros gasglu data am siaradwyr Cymraeg sy’n byw y tu allan i Gymru. Byddwn hefyd yn mynd ati i ddiweddaru’r llwybr ystadegol i’r miliwn gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2021 a'r data diweddaraf am boblogaeth Cymru.

Byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wrth iddynt drawsnewid ystadegau am y boblogaeth er mwyn sicrhau dyfodol cadarn i ystadegau am y Gymraeg.