Gofal plant wedi'i ariannu ar gyfer plant 2 i 4 oed
Gallech fod yn gymwys i gael gofal plant ac addysg feithrin a ariennir gan y llywodraeth i blant:
- 2 oed gan Dechrau'n Deg, os ydych chi'n byw mewn ardal gymwys
- 3 i 4 oed o dan Gynnig Gofal Plant Cymru
Cymorth gyda chostau gofal plant i blant dan 18 oed
Gallech gael help gyda chost gofal plant i blant:
- 11 oed ac iau (16 os ydyn nhw'n anabl) o ofal plant di-dreth (ar GOV.UK)
- 15 oed ac iau (17 os oes ganddyn nhw Anghenion Dysgu Ychwanegol) os ydych chi'n fyfyriwr (ar cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk)
- 15 oed ac iau (17 os oes ganddyn nhw Anghenion Addysgol Arbennig) os ydych chi'n fyfyriwr meddygol neu ddeintyddol (ar NHS.UK)
- 16 oed ac iau o ofal plant Credyd Cynhwysol (ar GOV.UK)
