Neidio i'r prif gynnwy

Darganfyddwch a oes gennych chi hawl i gael prawf golwg am ddim gan y GIG a chymorth tuag at gostau sbectolau neu lensys cyffwrdd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Profion golwg y GIG

Pwy sy’n gymwys

Mae gennych hawl i gael prawf golwg am ddim gan y GIG os:

  • rydych o dan 16 oed
  • rydych o dan 19 oed ac yn derbyn addysg amser llawn cymwys
  • rydych yn 60 oed neu’n hŷn
  • rydych yn gorfod gwisgo teclyn cymhleth (gall eich optegydd eich cynghori ynglŷn â'ch hawl)
  • rydych wedi eich cofrestru ag amhariad ar eich golwg neu amhariad difrifol ar eich golwg mewn cofrestr sy'n cael ei chadw gan awdurdod lleol
  • rydych wedi cael diagnosis o ddiabetes neu glawcoma neu rydych wedi cael gwybod gan offthalmolegydd fod gennych dueddiad tuag at ddatblygu glawcoma
  • rydych yn 40 oed neu’n hŷn ac yn rhiant, brawd, chwaer, neu blentyn i rywun sydd wedi cael diagnosis o glawcoma
  • rydych o dan 18 oed ac o dan ofal awdurdod lleol (y mae awdurdod lleol cyfrifol yn cyfrannu at eich cynhaliaeth)
  • rydych yn garcharor
  • rydych ond yn gallu gweld drwy un llygad
  • mae gennych amhariad ar y clyw
  • rydych wedi cael diagnosis o retinitis pigmentosa
  • rydych wedi cael eich asesu'n glinigol fel rhywun sydd mewn perygl o ddatblygu clefyd y llygaid

Mae gennych hefyd hawl os:

  • rydych chi neu’ch partner (gan gynnwys partner sifil) yn cael budd-daliadau penodol
  • rydych o dan 20 oed ac yn ddibynnydd i rywun sy’n cael budd-daliadau penodol
  • rydych ar incwm isel

Defnyddiwch y gwiriwr ar-lein y GIG i weld pa gymorth y gallech chi ei gael.

Carcharorion

Yn y cyd-destun hwn, ystyr “carcharor” yw unigolyn sy'n cael ei gadw mewn carchar, gan gynnwys sefydliad troseddwyr ifanc, ond sydd, ar yr adeg y mae'n derbyn gwasanaeth offthalmig sylfaenol, ar absenoldeb awdurdodedig o’r carchar hwnnw.

Mae’n bosibl y bydd carcharorion yn cael caniatâd i adael y carchar am gyfnodau byr tua diwedd eu dedfryd, ac mae sicrhau eu bod nhw hefyd yn gymwys i gael y gwasanaeth hwn yn ffordd o ddechrau eu hintegreiddio â gweddill y gymdeithas agored, gan ymestyn a democrateiddio darpariaethau y mae gan y cyhoedd yn ehangach hawl i’w cael.

Noder, er mwyn i’r carcharor (sydd ar absenoldeb awdurdodedig) gael taleb ar gyfer trwsio neu newid teclyn optegol, bydd yn rhaid i’r carcharor fodloni’r meini prawf cymhwysedd a bennir ar gyfer pob unigolyn dros 16 oed. Bydd yn rhaid felly i’r carcharor fodloni’r ddau amod canlynol cyn y rhoddir taleb tuag at y gost o drwsio neu newid teclyn optegol:

  • byddai ganddynt hawl i gael taleb y GIG ar gyfer sbectol neu lensys cyffwrdd
  • cafodd y teclyn optegol ei golli neu ei ddifrodi o ganlyniad i salwch neu anabledd

Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS) (prawf golwg y GIG)

Yn weithredol o 20 Hydref 2023 ar gyfer 2023 i 2024.

£43.

Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru 2: ffi gwasanaeth archwiliad llygaid

Yn weithredol o 20 Hydref 2023 ar gyfer 2023 i 2024.

WGOS 2 (Band 1 Archwiliadau Iechyd Llygaid Cymru (EHEW) yn flaenorol): £70.
WGOS 2 (Band 2 EHEW yn flaenorol): £53.00.
WGOS 2 (Band 3 EHEW yn flaenorol): £26.00.

Ymweliadau cartref y GIG

Yn weithredol ar 20 Hydref 2023 neu ar ôl y dyddiad hwn.

Claf cyntaf ac ail glaf: £38.27.
Trydydd claf: £9.58.

Cymorth gyda chost sbectol neu lensys cyffwrdd

Talebau optegol

Mae diweddariadau wedi'u gwneud i dalebau a thaliadau atodol optegol y GIG fel y maent wedi’u nodi yn Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997, i ddod yn weithredol o 20 Hydref 2023 ymlaen.

Mae gennych hawl i gael taleb optegol y GIG tuag at gost sbectol neu lensys cyffwrdd os:

  • rydych o dan 16 oed
  • rydych o dan 19 oed ac yn derbyn addysg amser llawn cymwys
  • rydych yn gorfod gwisgo teclyn cymhleth (gall eich optegydd eich cynghori ynglŷn â’ch hawl)
  • rydych o dan 18 oed ac o dan ofal awdurdod lleol (y mae awdurdod lleol cyfrifol yn cyfrannu tuag at eich cynhaliaeth)
  • rydych yn garcharor

Mae gennych hefyd hawl os:

  • rydych chi neu’ch partner (gan gynnwys partner sifil) yn cael budd-daliadau penodol
  • rydych o dan 20 oed ac yn ddibynnydd i rywun sy’n cael budd-daliadau penodol
  • rydych ar incwm isel

Defnyddiwch wiriwr ar-lein y GIG i weld pa gymorth y gallech chi ei gael.

Taleb ar gyfer cyflenwi: math o declyn optegol

Yr uchafswm y gallwch chi ei hawlio am bob pâr o sbectol neu am lensys cyffwrdd:

Cod rhif 1: £22

Sbectol sydd â lensys golwg sengl o nerth sfferig o ddim mwy na 6 dioptr a nerth silindrog o ddim mwy na 2 dioptr. 

Pan fydd unigolyn cymwys o dan 19 oed yn derbyn taleb 1 ac mae angen cael lensys nad oes cyflenwad ohonynt yn cael eu cadw wrth gefn er mwyn gwella ymddangosiad y teclyn optegol (y defnyddir y daleb ar ei gyfer), sydd â lensys golwg sengl o nerth sfferig o rhwng 4 a 6 dioptr a nerth silindrog o ddim mwy na 2 dioptr. 

Cod rhif 2: £42

Sbectol sydd â lensys golwg sengl:

(a) o nerth sfferig o fwy na 6 dioptr ond llai na 10 dioptr a nerth silindrog o ddim mwy na 6 dioptr;

(b) o nerth sfferig o lai na 10 dioptr a nerth silindrog o fwy na 2 dioptr ond dim mwy na 6 dioptr.

Cod rhif 3: £155

Sbectol sydd â lensys golwg sengl o nerth sfferig o 10 dioptr neu ragor ond dim mwy nag 14 dioptr a nerth silindrog o ddim mwy na 6 dioptr. 

Cod rhif 4: £276

Sbectol sydd â lensys golwg sengl:

(a) o nerth sfferig o fwy nag 14 dioptr ac unrhyw nerth silindrog; 

(b) o nerth silindrog o fwy na 6 dioptr ac unrhyw nerth sfferig. 

Cod rhif 5: £377

Sbectol sydd â lensys golwg sengl: 

(a) o nerth sfferig o fwy na 20 dioptr ac unrhyw nerth silindrog; 

(b) o nerth silindrog o fwy na 10 dioptr ac unrhyw nerth sfferig. 

Cod rhif 6: £40

Sbectol sydd â lensys amlffocal o nerth sfferig o ddim mwy na 6 dioptr a nerth silindrog o ddim mwy na 2 dioptr.

Cod rhif 7: £77

Sbectol sydd â lensys amlffocal:

(a) o nerth sfferig o fwy na 6 dioptr ond llai na 10 dioptr a nerth silindrog o ddim mwy na 6 dioptr; 

(b) o nerth sfferig o lai na 10 dioptr ond nerth silindrog o fwy na 2 dioptr ond dim mwy na 6 dioptr.

Cod rhif 8: £299

Sbectol sydd â lensys amlffocal o nerth sfferig o 10 dioptr neu ragor ond dim mwy nag 14 dioptr a nerth silindrog o ddim mwy na 6 dioptr.

Cod rhif 9: £387

Sbectol sydd â lensys amlffocal a reolir gan brism o unrhyw nerth neu sydd â lensys amlffocal:

(a) o nerth sfferig o fwy nag 14 dioptr ac unrhyw nerth silindrog; 

(b) o nerth silindrog o fwy na 6 dioptr ac unrhyw nerth sfferig.

Cod rhif 10: £530

Sbectol sydd â lensys amlffocal:

(a) o nerth sfferig o fwy na 20 dioptr ac unrhyw nerth silindrog; 

(b) o nerth silindrog o fwy na 10 dioptr ac unrhyw nerth sfferig.

Cod rhif 11: £530

Sbectol nad yw unrhyw un o'r paragraffau o 1 i 10 yn berthnasol iddi y rhoddir presgripsiwn ar ei chyfer o ganlyniad i brawf golwg gan Fwrdd Iechyd Lleol ac eithrio o dan drefniant o dan Ran 6 o Ddeddf 2006. 

Cod rhif 12: £57

Lensys cyswllt y rhoddir presgripsiwn ar eu cyfer o ganlyniad i brawf golwg gan Fwrdd Iechyd Lleol ac eithrio o dan drefniant o dan Ran 6 o Ddeddf 2006. 

Taliadau atodol i’r talebau (pan yn angenrheidiol yn glinigol)

Gwerth o 20 Hydref 2023.

Taleb lensys cymhleth

  • Golwg sengl: £14.60
  • Deuffocal: £37.40

Tâl atodol am arlliw / lensys ffotocromaidd (fesul lens)

  • Golwg sengl: £2
  • Deuffocal: £2.50

Prism (fesul lens)

  • Golwg sengl: £12
  • Deuffocal: £14

Tâl atodol am sbectol fach

  • £64.20

Tâl Atodol i Blant

  • £15

Cymorth gyda chostau trwsio neu amnewid sbectolau neu lensys cyffwrdd

Mae hawl gennych i gael talebau'r GIG ar gyfer trwsio neu newid sbectol a lensys cyffwrdd os:

  • rydych o dan 16 oed
  • rydych o dan 19 oed ac yn derbyn addysg amser llawn cymwys
  • rydych o dan 18 oed ac o dan ofal awdurdod lleol (y mae awdurdod lleol cyfrifol yn cyfrannu tuag at eich cynhaliaeth)

Os nad ydych yn cwrdd â'r categorïau uchod, efallai y bydd gennych hawl i gael taleb tuag at gostau trwsio neu newid os yw eich bwrdd iechyd lleol yn cytuno:

  • bod y golled neu’r difrod wedi digwydd o ganlyniad i salwch
  • na allwch gael cymorth drwy warant, yswiriant, neu wasanaeth ar ôl gwerthu
  • byddai gennych hawl i gael taleb y GIG ar gyfer sbectol neu lensys cyffwrdd

Nid yw hyn yn berthnasol i lensys cyffwrdd untro.

Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â’ch bwrdd iechyd lleol.

Taleb ar gyfer Costau Trwsio neu Newid o 20 Hydref 2023

Taleb rhif 1  
  • 1 lens: £6    
  • 2 lens: £12    
  • Blaen y ffrâm: £8.50  
  • Ochr y ffrâm: £5    
  • Y ffrâm gyfan: £10
Taleb rhif 2    
  • 1 lens: £16    
  • 2 lens: £32   
  • Blaen y ffrâm: £8.50  
  • Ochr y ffrâm: £5    
  • Y ffrâm gyfan: £10
Taleb rhif 3    
  • 1 lens: £72.50    
  • 2 lens: £145    
  • Blaen y ffrâm: £8.50  
  • Ochr y ffrâm: £5    
  • Y ffrâm gyfan: £10
Taleb rhif 4    
  • 1 lens: £133
  • 2 lens: £266  
  • Blaen y ffrâm: £8.50  
  • Ochr y ffrâm: £5    
  • Y ffrâm gyfan: £10
Taleb rhif 5    
  • 1 lens: £183.50
  • 2 lens: £266    
  • Blaen y ffrâm: £8.50  
  • Ochr y ffrâm: £5    
  • Y ffrâm gyfan: £10
Taleb rhif 6    
  • 1 lens: £15   
  • 2 lens: £30  
  • Blaen y ffrâm: £8.50  
  • Ochr y ffrâm: £5    
  • Y ffrâm gyfan: £10
Taleb rhif 7    
  • 1 lens: £33.50 
  • 2 lens: £67
  • Blaen y ffrâm: £8.50  
  • Ochr y ffrâm: £5    
  • Y ffrâm gyfan: £10
Taleb rhif 8    
  • 1 lens: £144.50  
  • 2 lens: £289   
  • Blaen y ffrâm: £8.50  
  • Ochr y ffrâm: £5    
  • Y ffrâm gyfan: £10
Taleb rhif 9    
  • 1 lens: £188.50  
  • 2 lens: £377    
  • Blaen y ffrâm: £8.50  
  • Ochr y ffrâm: £5    
  • Y ffrâm gyfan: £10
Taleb rhif 10    
  • 1 lens: £260    
  • 2 lens: £520    
  • Blaen y ffrâm: £8.50  
  • Ochr y ffrâm: £5    
  • Y ffrâm gyfan: £10
Taleb rhif 11    
  • 1 lens: £260    
  • 2 lens: £520
  • Blaen y ffrâm: £8.50  
  • Ochr y ffrâm £5    
  • Y ffrâm gyfan: £10

Sut i brofi eich bod yn gymwys i gael cymorth gyda chostau gwasanaeth optegol y GIG

Dan 16 oed

Rydych yn gymwys i gael prawf golwg GIG a thaleb optegol am ddim.

I brofi bod gennych hawl i gael cymorth, mae angen unrhyw ddogfen swyddogol arnoch sy'n dangos eich enw a'ch dyddiad geni, sy'n dangos eich bod o dan 16 oed, fel: 

  • llyfr archeb budd-dal plant
  • cerdyn meddygol y GIG
  • pasbort
  • tystysgrif geni
  • cerdyn consesiynau teithio

Cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol i gael cerdyn meddygol newydd y GIG.

Dan 19 oed ac yn derbyn addysg amser llawn cymwys

Rydych yn gymwys i gael prawf golwg GIG a thaleb optegol am ddim.

I brofi bod gennych hawl i gael help mae angen unrhyw ddogfen swyddogol arnoch sy'n dangos eich enw a'ch dyddiad geni, sy'n dangos eich bod o dan 19 oed, fel: 

  • llyfr archeb budd-dal plant
  • cerdyn meddygol y GIG
  • pasbort
  • tystysgrif geni
  • cerdyn consesiynau teithio

Cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol i gael cerdyn meddygol newydd y GIG.

Byddwch hefyd angen llythyr neu ddogfen arall gan eich ysgol, coleg neu brifysgol yn nodi eich bod yn fyfyriwr amser llawn.

60 oed neu’n hŷn

Rydych yn gymwys i gael prawf golwg GIG am ddim.

I brofi bod gennych hawl i gael help mae angen unrhyw ddogfen swyddogol arnoch sy'n dangos eich bod yn 60 oed neu'n hŷn, fel:

  • llyfr archeb budd-dal plant
  • cerdyn meddygol y GIG
  • pasbort
  • tystysgrif geni
  • cerdyn consesiynau teithio

Cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol i gael cerdyn meddygol newydd y GIG.

Rydych wedi’ch cofrestru’n ddall neu’n rhannol ddall

Rydych yn gymwys i gael prawf golwg GIG am ddim.

I brofi bod gennych hawl i gael help mae angen tystysgrif gofrestru arnoch i ddangos eich bod yn ddall neu’n rhannol ddall.

Gallwch gael tystysgrif drwy gysylltu â'ch awdurdod lleol.

Dioddef o ddiabetes

Rydych yn gymwys i gael prawf golwg GIG am ddim.

I brofi bod gennych hawl i gael help mae angen i chi brofi eich bod yn dioddef o ddiabetes gyda:

  • cerdyn presgripsiynau rheolaidd
  • cerdyn apwyntiad claf allanol
  • cofnod o ddarlleniadau o lefelau siwgr yn y gwaed

gan eich meddyg teulu, clinig diabetig ysbyty neu glinig llygaid.

Dylai eich cerdyn presgripsiynau rheolaidd neu eich cerdyn claf allanol ddangos eich bod yn mynd i glinig diabetes yn rheolaidd.

Dioddef o glawcoma

Rydych yn gymwys i gael prawf golwg GIG am ddim.

I brofi bod gennych hawl i gael help sydd ei angen arnoch Datganiad eich bod yn dioddef o glawcoma gan eich meddyg teulu neu glinig llygaid yn yr ysbyty.

Ystyriwyd ei fod mewn perygl o glawcoma

Rydych yn gymwys i gael prawf golwg GIG am ddim.

I brofi bod gennych hawl i gael help sydd ei angen arnoch datganiad eich bod mewn perygl o ddatblygu glawcoma gan eich meddyg teulu neu glinig llygaid yn yr ysbyty.

40 oed neu’n hŷn ac yn rhiant, brawd, chwaer, neu blentyn i rywun â glawcoma

Rydych yn gymwys i gael prawf golwg GIG am ddim.

I brofi bod gennych hawl i gael cymorth, mae angen unrhyw ddogfen swyddogol arnoch sy'n dangos eich bod yn 40 oed neu'n hŷn, fel:

  • llyfr archeb budd-dal plant
  • cerdyn meddygol y GIG
  • pasbort
  • tystysgrif geni
  • cerdyn consesiynau teithio

Cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol i gael cerdyn meddygol newydd y GIG.

Carcharor

Rydych yn gymwys i gael prawf golwg GIG a thaleb optegol am ddim.

I brofi bod gennych hawl i gael help sydd ei angen arnoch datganiad gan y Gwasanaeth Carchardai (TRWYDDED)

Rydych ond yn gallu gweld drwy un llygad

Rydych yn gymwys i gael prawf golwg GIG a thaleb optegol am ddim.

I brofi bod gennych hawl i gael help sydd ei angen arnoch datganiad gan eich bod ond yn gallu gweld drwy un llygad gan eich meddyg teulu neu glinig llygaid yn yr ysbyty.

Mae gennych amhariad ar y clyw

Rydych yn gymwys i gael prawf golwg GIG a thaleb optegol am ddim.

I brofi bod gennych hawl i gael help sydd ei angen arnoch datganiad bod gennych amhariad ar y clyw gan eich meddyg teulu neu glinig yn yr ysbyty.

Rydych wedi cael diagnosis o retinitis pigmentosa

Rydych yn gymwys i gael prawf golwg GIG a thaleb optegol am ddim.

I brofi bod gennych hawl i gael help sydd ei angen arnoch datganiad eich bod yn dioddef o retinitis pigmentosa gan eich meddyg teulu neu glinig llygaid yn yr ysbyty.

Rydych wedi cael eich asesu'n glinigol fel rhywun sydd mewn perygl o ddatblygu clefyd y llygaid

Rydych yn gymwys i gael prawf golwg GIG a thaleb optegol am ddim.

I brofi bod gennych hawl i gael help sydd ei angen arnoch datganiad eich bod mewn perygl o ddatblygu clefyd y llygaid gan eich meddyg teulu neu glinig llygaid yn yr ysbyty.

Rydych chi neu’ch partner yn cael cymhorthdal incwm

Rydych yn gymwys i gael prawf golwg GIG a thaleb optegol am ddim.

I brofi bod gennych hawl i gael help sydd ei angen arnoch eich llyfr archeb cymhorthdal incwm neu lythyr o’ch hawliau gan eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith.

Rydych yn cael Credyd Cynhwysol

Rydych yn gymwys i gael prawf golwg GIG a thaleb optegol am ddim.

I brofi bod gennych hawl i gael help sydd ei angen arnoch llythyr o’ch hawliau gan eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith.

Mae eich partner yn cael Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm

Rydych yn gymwys i gael prawf golwg GIG a thaleb optegol am ddim.

Os bydd taliadau yn cael eu gwneud i’ch banc neu gymdeithas adeiladu, gallwch gael tystiolaeth ar ffurf llythyr o’ch hawliau gan eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith.

Mae eich partner yn cael Gwarant Isafswm Incwm, credydau pensiwn neu gredyd gwarant

Rydych yn gymwys i gael prawf golwg GIG a thaleb optegol am ddim.

I brofi bod gennych hawl i gael help sydd ei angen arnoch eich llyfr archeb, llythyr o’ch hawliau gan eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith.

Mae eich partner yn cael credydau treth ac yn bodloni’r amodau i fod yn gymwys

Rydych yn gymwys i gael prawf golwg GIG a thaleb optegol am ddim.

Mae gennych hawl i gael tystysgrif eithrio credyd treth y GIG neu rydych wedi’ch enwi ar dystysgrif ddilys.

Os ydych yn gymwys i gael triniaeth am ddim, byddwch yn derbyn tystysgrif.

Rydych wedi’ch enwi ar dystysgrif ddilys y GIG i gael cymorth llawn gyda chostau iechyd (Tystysgrif HC2W)

Rydych yn gymwys i gael prawf golwg GIG a thaleb optegol am ddim.

I brofi bod gennych hawl i gael help sydd ei angen arnoch tystysgrif HC2W. 

Hawliwch gan ddefnyddio ffurflen HC1W gan eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu drwy ffonio 0345 603 1108.

Rydych wedi’ch enwi ar dystysgrif ddilys y GIG i gael cymorth rhannol gyda chostau iechyd (tystysgrif HC3W)

Rydych yn gymwys i gael prawf golwg GIG a thaleb optegol am ddim.

I brofi bod gennych hawl i gael help sydd ei angen arnoch tystysgrif HC3W. 

Hawliwch gan ddefnyddio ffurflen HC1W gan eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu drwy ffonio 0345 603 1108.

Hawlio ad-daliad am brawf golwg

Gofynnwch i’r person sy’n profi eich llygaid am dderbynneb sy’n dangos eich bod wedi talu am y prawf a dyddiad y taliad.  

Llenwch ffurflen ad-daliad HC5W(O). Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi dyddiad eich prawf golwg arno. Mae HC5W(O) yn dweud wrthych beth i’w wneud nesaf.

Gallwch wneud cais am gopi papur o’r ffurflen hon dros e-bost neu drwy ffonio’r llinell archebu cyhoeddiadau ar 0345 603 1108. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Hawlio ad-daliad am sbectol a lensys cyffwrdd

I hawlio ad-daliad, gofynnwch am dderbynneb sy’n dangos faint yr ydych chi wedi’i dalu, a’r dyddiad.

Llenwch ffurflen ad-daliad HC5W(O). Gwnewch yn siŵr eich bod yn amgáu eich presgripsiwn optegol a’ch derbynneb pan fyddwch yn anfon y ffurflen. Mae’r ffurflen yn nodi beth i’w wneud. 

Yr uchafswm ad-daliad y cewch chi fydd gwerth y daleb sy’n cyd-fynd â’ch presgripsiwn.

Os ydych chi eisoes wedi defnyddio taleb tuag at gost eich sbectol neu lensys, ni allwch chi gael ad-daliad (oni bai mai taleb ar gyfer lensys cymhleth yn unig oedd honno). Ni allwch hawlio ad-daliad am y gwahaniaeth rhwng gwerth y daleb a gwir gost eich sbectol neu lensys.