Ni ddylai costau byw byth fod yn rhwystr i astudio yn y brifysgol. Dyna pam mae Cymru'n darparu'r grantiau costau byw mwyaf hael yn y DU.
P'un a ydych chi'n mynd i'r brifysgol am y tro cyntaf, yn dychwelyd am flwyddyn arall, neu'n ystyried ymgeisio, gallech fod â hawl i’r gefnogaeth ganlynol.
Cymorth cynhaliaeth
Os ydych yn fyfyriwr israddedig llawn amser, gallwch wneud cais am grantiau a benthyciadau cynhaliaeth i helpu gyda'ch costau byw wrth astudio. Mae faint o grant a benthyciad y gallech ei dderbyn yn dibynnu ar incwm eich cartref.
Os ydych yn fyfyriwr israddedig rhan-amser, gallwch wneud cais am grantiau a benthyciadau cynhaliaeth tebyg. Mae faint o grant a benthyciad y gallech ei dderbyn yn dibynnu ar incwm eich cartref a dwyster yr astudio.
Os ydych yn fyfyriwr Meistr ôl-raddedig, gallwch wneud cais am grantiau a benthyciadau fel cyfraniad tuag at eich costau astudio. Mae faint y gallech ei dderbyn ar ffurf grant a benthyciad yn dibynnu ar incwm eich cartref.
Os ydych yn fyfyriwr doethurol gallwch wneud cais am fenthyciad doethurol fel cyfraniad at eich costau astudio. Nid yw'r benthyciad yn seiliedig ar incwm eich cartref.
Cymorth i fyfyrwyr sy’n rieni
Os ydych chi'n fyfyriwr israddedig sydd â phlant, gallech dderbyn Grant Gofal Plant. Mae faint y gallech ei dderbyn yn dibynnu ar incwm eich cartref. Mae’r grant hwn ar gael os ydych yn astudio ar ddwyster o 50% neu fwy.
Gallech gael help gyda chostau ychwanegol drwy'r Lwfans Dysgu i Rieni hefyd. Yr uchafswm y gallech ei gael yw £1,862 y flwyddyn, yn dibynnu ar incwm eich cartref a dwyster eich cwrs.
Grant Oedolion Dibynnol
Os ydych yn fyfyriwr israddedig sydd ag oedolyn yn ddibynnol yn ariannol arnoch chi, gallech wneud cais am gymorth gyda chostau ychwanegol. Yr uchafswm y gallech ei gael yw £3,262 y flwyddyn, yn dibynnu ar incwm eich cartref a dwyster eich cwrs.
Grant Myfyrwyr Anabl
Mae Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl ar gael i’ch cynorthwyo i dalu am y costau ychwanegol sy'n gysylltiedig ag astudio y gallech eu hwynebu o ganlyniad uniongyrchol i anabledd, cyflwr iechyd hirdymor, cyflwr iechyd meddwl neu anhawster dysgu penodol. Yr un yw’r grantiau ar gyfer myfyrwyr llawn amser, rhan-amser, israddedig ac ôl-raddedig.
Mae'r swm a gewch yn seiliedig ar eich anghenion unigol, nid ar incwm eich cartref.
Cynllun Dileu Rhannol
Gallai Llywodraeth Cymru ddileu hyd at £1,500 o'ch benthyciad myfyriwr israddedig os cawsoch Fenthyciad Cynhaliaeth llawn amser o flwyddyn academaidd 2010-2011. Bydd y swm yn cael ei ddileu pan fyddwch yn dechrau ad-dalu eich benthyciad.
Mae hyn yn cynnwys ad-daliadau gwirfoddol, felly gallech ad-dalu swm bach yn ystod eich cwrs, a chael dileu rhywfaint o'ch dyled. Darganfod mwy, Cyllid myfyrwyr: y cynllun dileu rhannol.
Grant Teithio
Gallwch wneud cais am Grant Teithio i dalu am y costau teithio ychwanegol a allai fod gennych os ydych yn astudio dramor neu os ydych yn fyfyriwr gofal iechyd ar leoliad yn y DU.
Mae faint a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref a phryd dechreuoch chi eich cwrs israddedig llawn amser.
Bwrsarïau y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) a gofal cymdeithasol
Mae'n bosibl y gallwch gael bwrsari gan y GIG i dalu am gost eich cwrs os yw'n arwain at gymhwyster mewn meddygaeth, deintyddiaeth neu ofal iechyd. Rhagor o wybodaeth, Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr.
Os ydych yn astudio cwrs gradd israddedig neu gwrs gradd Meistr cymeradwy mewn gwaith cymdeithasol, gallech gael bwrsari Gofal Cymdeithasol Cymru.
Bwrsarïau ac ysgoloriaethau
Gall rhai prifysgolion a cholegau gynnig bwrsarïau neu ysgoloriaethau yn ôl disgresiwn. Gallwch gysylltu â'ch Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr i weld a oes unrhyw gymorth ariannol ychwanegol ar gael ichi.
Eithriadau'r Dreth Gyngor i Fyfyrwyr
Os ydych yn fyfyriwr, rydych wedi'ch eithrio rhag talu’r Dreth Gyngor os ydych yn byw:
- mewn fflat, tŷ neu fflat un ystafell ar eich pen eich hun
- mewn fflat, tŷ neu fflat un ystafell gyda myfyrwyr eraill yn unig
- mewn ystafell mewn neuadd breswyl
Os ydych yn byw gyda rhywun nad yw'n fyfyriwr, ni chewch eich cyfrif tuag fil y Dreth Gyngor ar gyfer yr eiddo.
Cysylltwch ag adran Treth Gyngor eich awdurdod lleol er mwyn hawlio.