Neidio i'r prif gynnwy

Cylchlythyr rheoliadau adeiladu

Rhif y cylchlythyr:    WGC 009/2024

Dyddiad cyhoeddi:   02/08/2024

Statws:    Er gwybodaeth

Titl:   Cyhoeddwyd fersiynau diwygiedig o'r safonau, y rheolau a'r codau ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu

Cyhoeddwyd gan:    Simon Jones, Rheolwr Cymhwysedd a Safonau Rheoli Adeiladu

Cyfeirir at:    

Prif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol 
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 
Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol  
Cymdeithas Cymeradwywyr Rheolaeth Adeiladu

I'w anfon at:

Swyddogion Rheoli Adeiladu yr Awdurdodau Lleol
Aelodau o’r Senedd 

Crynodeb:

Mae fersiynau wedi'u diweddaru o'r codau, y safonau a'r rheolau ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu wedi'u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae'r Cylchlythyr hwn yn manylu ar y newidiadau sylweddol a wnaed.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Y Tîm Rheoliadau Adeiladu 
2il Llawr
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
Caerdydd
CF10 3NQ

Llinell uniongyrchol:   0300 060 4400
E-bost:    enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan:   adeiladu a chynllunio

Cylchlythyr

Hysbysiad Cymeradwyo: codau, safonau a rheolau diwygiedig ar gyfer y professiwn rheolaeth adeiladu

  1. Fe'm cyfarwyddir gan Weinidogion Cymru i'ch hysbysu o gyhoeddi fersiynau diwygiedig o'r safonau, y codau a'r rheolau ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu, sef:
  • Fframwaith Cymhwysedd Arolygwyr Adeiladu (Cymru) 2024 fersiwn 2
  • Cod Ymddygiad ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu (Cymru) 2024 fersiwn 2
  • Rheolau Ymddygiad Proffesiynol ar gyfer Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu (Cymru) 2024 fersiwn 2
  • Rheolau Safonau Gweithredol (Cymru) 2024
  • Rheolau Safonau Gweithredol: Trefniadau Monitro (Cymru)

Cwmpas y cylchlythyr hwn

  1. Mae'r cylchlythyr hwn yn berthnasol i'r proffesiwn rheolaeth adeiladu yng Nghymru. 

Hysbysiad am safonau, codau a rheolau diwygiedig ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu

  1. Gellir gweld fersiynau diwygiedig o'r dogfennau safonau, codau a rheolau ar gyfer Cymru yn adran Adeiladu a chynllunio gwefan Llywodraeth Cymru yma: www.llyw.cymru/safonau-codau-rheolau-ar-gyfer-y-proffesiwn-rheoli-adeiladu
  2. Bydd unrhyw ddiwygiadau yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi ar yr un wefan a chyhoeddir hysbysiad.
  3. Mae mwyafrif y diweddariadau a wneir i'r fersiynau drafft yn fân newidiadau i eiriad er mwyn eglurder a chysondeb. Ceir manylion am newidiadau sylweddol isod ac mae dogfennau gyda'r holl newidiadau wedi'u tracio yn Gymraeg a Saesneg ar gael ar gais.
  4. Ar gyfer Fframwaith Cymhwysedd Arolygwyr Adeiladu (Cymru) 2024 fersiwn 2, dyma'r newidiadau sylweddol:
  • diwygiadau i'r disgwyliadau ar gyfer hyfforddi a goruchwylio Dosbarth 1: Arolygwyr Adeiladu o dan Hyfforddiant. Mae bellach yn gliriach bod yn rhaid goruchwylio unigolion o dan hyfforddiant dros gyfnod eu hyfforddiant
  • mae rhestrau o sgiliau ar gyfer arolygwyr Dosbarth 1 a Dosbarth 2 bellach yn gynhwysfawr. Noder, bod y rhestrau cyfatebol ar gyfer arolygwyr Dosbarth 3 a Dosbarth 4 yn parhau i fod yn ddangosol oherwydd cwmpas ehangach y rolau hynny
  1. Ar gyfer Rheolau Ymddygiad Proffesiynol ar gyfer Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu (Cymru) 2024 fersiwn 2, dyma'r newidiadau sylweddol:
  • eglurhad ar sut y dylid ymdrin â gwrthdaro buddiannau
  • gofyniad i bersonau sy'n ymgymryd â gwaith ar ran Cymeradwywr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu hysbysu'r Cymeradwywr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu am newidiadau i gyfyngiadau ac amodau a allai fod yn berthnasol iddynt
  • mae'r rheolau cofrestru wedi'u cyfuno yn Atodiad 1 o Atodiad 3
  • adolygwyd nifer o'r amserlenni ar gyfer hysbysu'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu, megis hysbysiad o dorri'r gwahanol safonau, codau a rheolau
  1. Ar gyfer y Cod Ymddygiad ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu (Cymru) 2024 fersiwn 2, dyma'r newidiadau sylweddol:
  • eglurhad ar sut y dylid ymdrin â gwrthdaro buddiannau
  • newid i'r gofyniad am weithdrefnau cwynion ar gyfer arolygwyr adeiladu sy'n hunangyflogedig
  • eglurhad ar gyfer monitro cymhwysedd y rhai y maent yn eu rheoli a/neu'n eu goruchwylio ar gyfer Dosbarth 4: Arolygwyr Adeiladu - Rheolwyr Technegol
  • mae'r rheolau cofrestru wedi'u cyfuno yn Atodiad 1 o Atodiad 3
  • adolygwyd nifer o'r amserlenni ar gyfer hysbysu'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu, megis hysbysiad o dorri'r gwahanol safonau, codau a rheolau
  1. Ar gyfer Rheolau Safonau Gweithredol: Trefniadau Monitro (Cymru) dyma'r newidiadau sylweddol:
  • diweddariad ar sut y bydd Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu yn cyflwyno eu data perfformiad i'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu
  1. Noder bod y Rheolau Safonau Gweithredol: Trefniadau Monitro (Cymru) yn parhau i fod yn berthnasol i Gymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu yn unig ac nid awdurdodau lleol yng Nghymru.
  2. Nid oes unrhyw newidiadau sylweddol o ran Rheolau Safonau Gweithredol (Cymru) 2024 o'r fersiwn a gyhoeddwyd yn flaenorol. Mae'r diwygiadau a wnaed yn bennaf er mwyn sicrhau cysondeb o ran cyfeiriadau at y safonau, y codau a'r rheolau eraill.

Ymholiadau

Dylid anfon unrhyw ymholiadau mewn perthynas â'r Cylchlythyr hwn i'r cyfeiriad canlynol:

Rheoliadau Adeiladu, 2il lawr, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ

E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru

Yn gywir

Mark Tambini

Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu