Heddiw, dywedodd y Gweinidog y Gogledd, Ken Skates, fod cynlluniau yn barod i'w rhoi ar waith er mwyn gwneud popeth posibl i leihau'r effaith y gallai diffyg cytundeb ei chael ar Gaergybi a'r cyffiniau.
Caergybi yw’r prif borthladd ar gyfer cludo nwyddau i mewn i’r DU o Iwerddon, ac mae ei statws fel y porthladd fferïau prysuraf ond un yn y DU yn golygu bod Caergybi yn ddolen hanfodol yn y gadwyn gyflenwi ar gyfer busnesau ar draws Cymru, y DU ac Iwerddon.
Dim ond os na fydd cytundeb y bydd y cynlluniau hyn yn dod i rym.
Os bydd cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a’r Undeb Ewropeaidd a bod modd ymadael yn drefnus, ni fydd angen y cynlluniau hyn.
Os na fydd cytundeb, bydd nwyddau o'r DU yn cael eu trin fel pe baent yn dod o “drydedd wlad” wrth iddynt fynd i mewn i'r UE, a bydd archwiliadau ychwanegol yn cael eu cynnal arnynt yn Iwerddon. Gallai hynny arwain at oedi cyn i fferïau fedru hwylio ac at sefyllfa lle bydd cerbydau’n cronni yng Nghaergybi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid yn ddiweddar i geisio sicrhau y bydd cyn lleied o broblemau â phosibl yn y porthladd os na bydd cytundeb. Wedi dweud hynny, mae yna risg o hyd y bydd rhai problemau wrth symud nwyddau yn y ffordd arferol.
Bydd y cynlluniau yn gofalu bod lle diogel i gerbydau nwyddau trwm barcio, gan sicrhau ar yr un pryd bod pobl a busnesau lleol yn wynebu cyn lleied o drafferth â phosibl wrth barhau â'u bywydau bob dydd. Byddant yn sicrhau hefyd y bydd gan yrwyr lorïau le diogel a chroesawgar i fynd iddo ac y bydd cyfleusterau ar gael ar eu cyfer.
Yn ôl dadansoddiad yr Adran Drafnidiaeth, awgrymir nad yw’n debygol y bydd llawer o gerbydau nwyddau trwm yn teithio yn yr ardaloedd o gwmpas y porthladd oherwydd capasiti’r cyfleusterau presennol ym Mhorthladd Caergybi. Fodd bynnag, mae cynlluniau wrth gefn wedi’u paratoi rhag ofn y bydd mwy o oedi yn datblygu.
Mae lle eisoes i 660 o gerbydau nwyddau trwm ym Mhorthladd Caergybi a bydd y cynllun yn darparu mwy o le ar eu cyfer os bydd angen.
O dan y cynlluniau a gyhoeddwyd heddiw, ac a gafodd eu cymeradwyo ar y cyd gan bartneriaid ar draws y Gogledd, bydd cerbydau nwyddau trwm yn cael eu cyfeirio i safle gwasanaethau Roadking ym Mharc Cybi, yn agos i fynedfa'r porthladd. Mae lle i 175 o gerbydau nwyddau trwm ar y safle hwn sydd â cyfleusterau lles ar gyfer y gyrwyr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi trefnu parcio di-dâl ar gyfer traffig cludo nwyddau a fydd yn teithio i Ddulyn, a bydd trefniadau rheoli traffig yn eu lle er mwyn cyfeirio'r cerbydau i'r safle heb unrhyw oedi. Bydd swyddogion traffig ychwanegol ar gael unrhyw adeg o’r dydd a’r nos.
Bydd modd hefyd ddefnyddio'r ffyrdd o amgylch Parc Cybi os bydd angen, gyda lle ar gyfer 30 o gerbydau nwyddau trwm eraill. Er nad yw'n debygol y bydd angen yr holl leoedd hyn, datblygwyd mesurau wrth gefn eraill, lle bydd cerbydau nwyddau trwm yn cael defnyddio cerbytffordd tua’r gorllewin yr A55 yng Nghaergybi (Cyffyrdd Dau i Dri). Dyma'r rhan fwyaf tawel o'r A55, a disgwylir mai bach iawn o effaith y bydd yn ei chael ar y cyhoedd wrth iddynt deithio.
O dan amodau ymadael Heb Gytundeb bydd opsiynau Roadking a Pharc Cybi ar gael o 12 Ebrill ymlaen a gall opsiwn yr A55 fod ar gael o 15 Ebrill ymlaen os bydd ei angen.
Dywedodd Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth a’r Gogledd:
Rydyn ni wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i sicrhau na fydd y bygythiad o beidio â chael cytundeb yn cael ei wireddu. Erbyn hyn, dim ond diwrnodau sydd yna cyn inni adael yr UE ac rydym yn parhau i wynebu’r un bygythiad a’r anrhefn a ddaw yn ei sgil.
Er ei bod yn amhosibl lliniaru holl effeithiau niweidiol Brexit heb gytundeb, ein blaenoriaeth ni oedd gweithio gyda’n partneriaid i wneud popeth o fewn ein gallu i leihau'r effaith gymaint â phosibl ar gymunedau a busnesau yng Nghymru.
Un o'r prif ystyriaethau oedd yr angen i sicrhau bod teithio ar y fferi rhwng Caergybi a Dulyn yn dal i fod ar agor a’i fod mor deniadol ag y bo modd i gludwyr nwyddau. Mae'r cynlluniau hyn ar gyfer Caergybi wedi cael eu paratoi dros gyfnod o sawl mis. Rydym wedi gweithio gyda’n partneriaid, gan gynnwys y gwasanaethau brys a'r awdurdodau lleol i lunio’r mesurau wrth gefn hyn.
Un o'r nodau wrth lunio'r cynlluniau oedd sicrhau y bydd cyn lleied o effaith â phosibl ar Gaergybi a'r cyffiniau.
Mae rhagor o wybodaeth am y mesurau wrth gefn i'w gweld yma: Paratoi Cymru Llywodraeth Cymru.