Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i'r isafswm cyflog amaethyddol o 1 Ebrill 2025

Mae hawl gan bob cyflogai yn y sectorau amaeth, garddwriaeth a choedwigaeth yng Nghymru, gan gynnwys gweithwyr a gyflogir gan griw feistri ac asiantaethau cyflogaeth, i gael yr Isafswm Cyflog Amaethyddol o leiaf.

Mae'n drosedd peidio â thalu o leiaf yr Isafswm Cyflog Amaethyddol i weithwyr amaethyddol.

Daw Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2025 i rym ar 1 Ebrill 2025. Mae'n disodli Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2024 ac yn cynyddu'r cyfraddau isafswm cyflog a'r lwfansau.

Cyfraddau isafswm cyflog 2025 i 2026

Mae’r cyfraddau tâl isaf ar gyfer y pum gradd o Weithiwr Amaethyddol o 1 Ebrill 2025 fel a ganlyn:

Cyfraddau tâl isafswm yr awr

GraddCyfradd tâl isaf yr awr
A1 – Gweithiwr Datblygu Amaethyddol (16-17 oed)£7.55
A2 – Gweithiwr Datblygu Amaethyddol (18-20 oed)£10.00
A3 – Gweithiwr Datblygu Amaethyddol (21+ oed)£12.21
B1 – Gweithiwr Amaethyddol (16-17 oed)£7.55
B2 – Gweithiwr Amaethyddol (18-20 oed)£10.00
B3 – Gweithiwr Amaethyddol (21+ oed)£12.59
C – Gweithiwr Amaethyddol Uwch£13.48
D – Uwch-weithiwr Amaethyddol£14.79
E – Rheolwr Amaethyddol£16.23
 
Prentis Blwyddyn 1£7.55
Prentis Blwyddyn 2 (16 - 17 oed)£7.55
Prentis Blwyddyn 2 (18 – 20 oed)£10.00
Prentis Blwyddyn 2 (21+ oed)£12.21

Y newidiadau eraill i gyfraddau lwfansau yw:

LwfansCyfradd
Lwfans ci – fesul ci yr wythnos£11.18 
Lwfans gwaith nos – fesul awr gwaith nos£2.12 
Lwfans geni / mabwysiadu – fesul plentyn£87.85 
   
Gwrthbwyso llety (tŷ)£1.97 yr wythnos 
Gwrthbwyso llety (llety arall)£6.31 y dydd 

Newidiadau eraill

Symleiddio rheolau goramser 

  • oriau sylfaenol: hyd at 39 awr yr wythnos neu fel y cytunwyd yn y contract
  • goramser: unrhyw oriau a weithiwyd y tu hwnt i'r oriau sylfaenol. Mae hyn yn ei gwneud hi'n glir pryd mae tâl goramser yn ddyledus ac yn caniatáu diwrnodau gwaith hyblyg
  • goramser gwarantedig: goramser y mae'n rhaid ei weithio fel rhan o'r contract ac sy'n cael ei dalu hyd yn oed os nad oes gwaith i'w wneud

Diogelu tâl

  • bellach, nid oes angen y ddarpariaeth amddiffyn tâl o 2022 a oedd yn atal toriadau cyflog pan newidiodd y system raddio, oherwydd bod isafswm cyfraddau 2025 yn uwch. Felly, mae wedi cael ei ddileu

Costau hyfforddi

  • gall cyflogwyr hawlio costau hyfforddi yn ôl os yw gweithiwr yn gadael yn ystod neu o fewn 12 mis o gwblhau'r hyfforddiant. Dim ond i gostau a delir gan y cyflogwr y mae hyn yn gymwys, ac nid cyllid trydydd parti. Nid yw'n gymwys os yw'r cyflogwr yn terfynu'r gyflogaeth, oni bai bod hynny'n digwydd am gamymddwyn difrifol

Hawl a thâl gwyliau

  • mae cyfrifo tâl gwyliau bellach yn symlach ar gyfer gweithwyr rhan o'r flwyddyn neu weithiwr oriau afreolaidd, gan ddefnyddio canran yn seiliedig ar hawl gwyliau wythnosol

Absenoldeb di-dâl

  • mae'r ddarpariaeth yn cael ei diweddaru i adlewyrchu'r ffaith y gall gweithwyr amaethyddol gymryd absenoldeb di-dâl am resymau statudol fel absenoldeb gofalwr neu absenoldeb rhiant. Ni all cyflogwyr wrthod y ceisiadau hyn, ond gallant ohirio'r absenoldeb am hyd at fis

Mae gwybodaeth a chanllawiau manylach ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ar Y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru.