Y ddeddfwriaeth a'r canllawiau
Mae'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau sy'n ymwneud â’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru ("y panel") wedi'i restru yma.
Cynnwys
Canllawiau ar Gyflogau Amaethyddol
Darllenwch y ddeddfwriaeth hon ochr yn ochr â’r canllawiau ar Gyflogau Amaethyddol.
Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2024
Mae Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2024 yn diffinio telerau ac amodau cyflogaeth ar gyfer gweithwyr amaethyddol.
Mae’r Gorchymyn yn gwneud y newidiadau canlynol i fframwaith yr Isafswm Cyflog Amaethyddol gan gynnwys:
- cynyddu'r cyfraddau tâl isaf fesul awr ar gyfer pob gradd a chategori o weithiwr amaethyddol
- cynyddu'r holl lwfansau;
- newid y gyfradd oramser a delir i weithwyr amaethyddol ar sail wir gyfradd cyflog fesul awr y gweithiwr amaethyddol, yn hytrach na'r gyfradd tâl isaf fesul awr a nodir yn y Gorchymyn; a
- nifer o newidiadau i symleiddio'r Gorchymyn drwy gael gwared ar ddarpariaethau sy'n ailadrodd darnau o ddeddfwriaeth arall.
Mae hefyd yn parhau i ddiogelu cyflog gweithwyr amaethyddol a fyddai fel arall yn wynebu gostyngiad mewn cyflog o ganlyniad i newidiadau blaenorol i’r strwythur graddio.
Daeth i rym ar 1 Ebrill 2024.
Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023 (dirymwyd)
Mae Gorchymyn Cyflogau Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 wedi ei ddisodli a'i ddirymu gan Orchymyn Cyflog Amaethyddiaeth (Cymru) 2024.
Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Rhif 2) (Cymru) 2022 (dirymwyd)
Caiff Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Rhif 2) (Cymru) 2022 ei ddisodli a’i ddirymu gan Orchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023.
Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022 (dirymwyd)
Caiff Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022 ei ddisodli a’i ddirymu gan Orchymyn Cyflogau Amaethyddol (Rhif 2) (Cymru) 2022.
Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020 (dirymwyd)
Mae Gorchymyn Cyflogau Amaethyddiaeth (Cymru) 2020 wedi ei ddisodli a'i ddirymu gan Orchymyn Cyflog Amaethyddiaeth (Cymru) 2022.
Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2019 (dirymwyd)
Mae Gorchymyn Cyflogau Amaethyddiaeth (Cymru) 2019 wedi ei ddisodli a'i ddirymu gan Orchymyn Cyflog Amaethyddiaeth (Cymru) 2020.
Gorchymyn Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (Sefydlu) 2016
Mae Gorchymyn Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (Sefydlu) 2016 yn sefydlu'r panel fel corff cynghori annibynnol i Weinidogion Cymru. Swyddogaethau'r panel yw hyrwyddo gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth, paratoi gorchmynion cyflogau amaethyddol drafft, ymgynghori ar orchmynion o'r fath er mwyn eu cyflwyno i Weinidogion Cymru a chynghori Gweinidogion Cymru ar faterion sy'n ymwneud â'r sector amaethyddol yng Nghymru.
Deddf y Sector Amaethyddiaeth (Cymru) 2014
Mae Deddf y Sector Amaethyddiaeth (Cymru) 2014 yn cynnwys darpariaethau ar gyfer:
- sefydlu’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru
- gorchmynion i osod telerau ac amodau ar gyfer pobl sydd wedi'u cyflogi yn y sector amaethyddol yng Nghymru (gweithwyr amaethyddol)
- gorfodi’r telerau a’r amodau hynny