Neidio i'r prif gynnwy

Mae Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru yn gwahodd plant 5-11 oed mewn ysgolion cynradd ledled Cymru i ddylunio ei charden Nadolig swyddogol 2024.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gan mai hon yw blwyddyn ein Prif Weinidog benywaidd cyntaf, y Nadolig hwn, gofynnwn i blant ledled Cymru gael eu hysbrydoli gan hyn a dylunio cerdyn o amgylch 'Menyw adeg y Nadolig'.

Mae thema'r gystadleuaeth eleni yn adlewyrchu neges Heddwch ac Ewyllys Da 2024 yr Urdd a ddathlodd ganmlwyddiant Deiseb Heddwch Merched Cymru 1923-2024.

Roedd y ddeiseb yn weithred o obaith am heddwch byd-eang. 100 mlynedd yn ddiweddarach mae eirioli dros heddwch ac ewyllys da yr un mor bwysig.

Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw dydd Gwener 6 Rhagfyr 2024.