Neidio i'r prif gynnwy

Mae Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru heddiw wedi lansio 'Dweud eich Dweud' – arolwg ar-lein i gasglu syniadau ac awgrymiadau ar gyfer mynd i'r afael a thagfeydd ar yr M4 a gwella trafnidiaeth ar draws yr ardal.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd y comisiwn ei sefydlu gan Weinidogion Cymru y llynedd i ystyried ffyrdd o fynd i'r afael â thagfeydd ar yr M4 a'r ffyrdd o'i hamgylch. Gofynnwyd i'r comisiwn edrych ar opsiynau eraill i'r ffordd liniaru. Byddwn yn cynnig pecyn o argymhellion cyffredinol sy'n cynnwys y ffyrdd, bysiau, trenau a theithio llesol.

Dwedodd yr Arglwydd Burns, Cadeirydd Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru:

"Mae'r problemau sy'n effeithio ar drafnidiaeth ar draws De-dwyrain Cymru yn acíwt ac yn gymhleth. Mae angen gwelliannau sylweddol mewn llawer o leoliadau ac ar gyfer llawer o ddulliau teithio. Hoffem sicrhau bod yr argymhellion rydym yn eu gwneud yn adlewyrchu anghenion a barn y bobl sy'n byw, yn gweithio ac yn teithio yn rheolaidd yn yr ardal. Felly, mae'n bwysig sicrhau bod cymaint o bobl ag y bo modd yn cwblhau'r arolwg.

Cwblhewch yr arolwg: Sut fyddech chi'n gwella trafnidiaeth yn ne ddwyrain Cymru?

Bydd yr adborth a'r awgrymiadau a geir o'r arolwg yn cael eu dadansoddi a'u hystyried yn ofalus fel rhan o adroddiad y Comisiwn a fydd yn cael ei gyflwyno i Weinidogion yn y gwanwyn eleni.

Rhagor o wybodaeth am y Comisiwn a'i waith.