Mae’r ystadegau hyn yn dangos gallu disgyblion mewn gwyddoniaeth, mathemateg a darllen ar gyfer 2015.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cyflawniad disgyblion 15 mlwydd oed (Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr) PISA adroddiad cenedlaethol
Yn 2015, cafwyd canlyniadau gan 140 ysgol ar gyfer 3,451 o ddisgyblion yng Nghymru. Cymerodd dros 70 o wledydd ran yn yr astudiaeth, gan gynnwys pob aelod o’r OECD a phob un o’r pedair gwlad yn y DU.
Mathemateg
- 478 oedd y sgôr cyfartalog yng Nghymru mewn mathemateg ar gyfer PISA yn 2015. Mae’r sgôr cyfartalog wedi amrywio dros y degawd diwethaf, ond roedd y lefel yn 2015 yn debyg i’r lefel yn 2006 (484).
- Mae sgôr cymedrig 33 gwlad ar gyfer mathemateg o leiaf 10 pwynt prawf o flaen Cymru, ac mae sgôr cymedrig 28 gwlad ar gyfer mathemateg o leiaf 10 pwynt prawf yn is.
Darllen
- 477 oedd y sgôr cyfartalog yng Nghymru o ran darllen ar gyfer PISA yn 2015. Mae’r sgôr hwn wedi aros yn sefydlog ers 2006 (481).
- Mae sgôr cymedrig 31 gwlad ar gyfer darllen o leiaf 10 pwynt prawf o flaen Cymru, ac mae sgôr cymedrig 29 gwlad ar gyfer darllen o leiaf 10 pwynt prawf yn is.
Gwyddoniaeth
- 485 oedd sgôr cyfartalog yng Nghymru mewn gwyddoniaeth ar gyfer PISA yn 2015. Mae hynny’n 20 pwynt yn is na’r sgôr cyfartalog yn 2006 (505).
- Mae sgôr cymedrig 29 gwlad o leiaf 10 pwynt o flaen Cymru ar gyfer gwyddoniaeth, ac mae sgôr cymedrig 31 gwlad ar gyfer gwyddoniaeth o leiaf 10 pwynt yn is.
Nodyn
Mae'r ffigurau uchod yn seiliedig ar gymharu Cymru â gwledydd eraill sy'n cymryd rhan, ac eithrio'r rhannau cydrannol o'r DU. Mae hyn yn gyson â'r adroddiad cenedlaethol a gynhyrchwyd gan y Sefydliad Addysg, isod. Mae'n golygu bod y ffigurau a ddarparwyd ar y wefan hon ar gyfer data 2012 yn seiliedig ar ystod wahanol o wledydd.
Adroddiadau

Cyflawniad pobl ifanc 15 oed yng Nghymru: Adroddiad cenedlaethol PISA 2015 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.