Neidio i'r prif gynnwy

Negeseuon ynghylch COVID-19

Cododd y Bwrdd y mater o negeseuon dryslyd ynghylch ymarfer corff yn ystod y cyfnod clo. Cadarnhawyd bod y cyfeiriad at feicio o fewn pellter cerdded o gartref wedi'i dynnu o'r canllawiau.

Tynnwyd sylw hefyd at y ffaith bod angen i negeseuon osgoi canolbwyntio’n ormodol ar oedolion a dylai'r iaith a'r arweiniad adlewyrchu’r ffaith bod plant yn treulio’u hamser yn yr awyr agored mewn ffordd wahanol e.e. yn i chwarae yn hytrach nag ymarfer corff. Dylai'r negeseuon hefyd fod yn gynhwysol, gan adlewyrchu bod rhai pobl yn defnyddio sgwteri trydan a chadeiriau olwyn trydan ar gyfer ymarfer corff.

Cronfa ymateb COVID-19 ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy i awdurdodau lleol

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn yn ystod cyfnod ymgeisio'r gronfa uchod.  Esboniwyd y rhesymau a'r broses ymgeisio wrth y Bwrdd, a oedd yn cefnogi'r drefn a oedd yn cael ei dilyn. 

Derbyniwyd cyfanswm o 209 o ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer mesurau unigol neu bwndeli o fesurau, gwerth cyfanswm o £45,651,459. Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan bob awdurdod lleol.

Pwysig: Yn dilyn y cyfarfod, cyhoeddwyd y cynlluniau llwyddiannus: £15 miliwn ar gyfer teithio di-Covid

Nododd Sustrans y bydd eu rhaglen 'spaces to move', sy'n casglu data ar gyfer pob ymyriad dros dro, yn eu galluogi i fonitro'r effaith.

Cynlluniau E-feiciau

Cafodd y Bwrdd wybod am fwriad Llywodraeth Cymru i ystyried opsiynau ar gyfer cyflwyno cynllun grant ar gyfer e-feiciau.  Rhagwelir y byddai’n cael ei ariannu o'r Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn. Gofynnwyd i'r Bwrdd am eu barn a'u hawgrymiadau ar y ffordd orau o gymell pobl i ddefnyddio beiciau trydan ac yn benodol, sut y gellid targedu aelwydydd incwm isel.

Cafwyd trafodaeth ynghylch uchelgais y cynllun ac a ellid rhoi grantiau i elusennau neu fentrau cymdeithasol.  Nodwyd hefyd y dylai unrhyw gynllun hefyd fod yn agored i bobl hunangyflogedig a phobl ddi-waith.

Tynnwyd sylw at y ffaith bod gweithwyr cyflogwyr sy'n cymryd rhan yn gallu prynu e-feiciau o dan y cynllun ers codi'r cap canolog ar gost prynu o dan y cynllun Beicio 2.  Roedd cytundeb cyffredinol y dylid annog pobl i ddefnyddio’r cynllun.  Byddai hyn hefyd yn lleihau'r pwysau pe bai grant yn cael ei gynnig i aelwydydd preifat.

Dyddiad y cyfarfod arferol nesaf: 24 Medi 2020