Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd y dadansoddiadau hyn eu dwyn ynghyd i ategu gwaith grŵp llywio a gomisiynir gan y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl i ystyried ac adrodd ar effaith COVID-19 ar bobl anabl yng Nghymru. Mae’r erthygl hon yn crynhoi’r dadansoddiadau sydd ar gael i’r grŵp llywio hyd at 18 Chwefror 2021. Fodd bynnag, mae dadansoddiadau ystadegol newydd yn parhau i gael eu cyhoeddi’n rheolaidd ar amrywiaeth o bynciau perthnasol.

Mae'r dadansoddiad isod yn cyflwyno'r data sydd ar gael ar gyfer Cymru ac yn nodi'r cyd-destun y gellir ystyried tystiolaeth ehangach o Gymru a Lloegr, neu'r Deyrnas Unedig, ynddi. 

Mae Atodiad A yn rhoi manylion rhywfaint o wybodaeth ehangach yn y Deyrnas Unedig am effeithiau COVID-19 ar bobl anabl, gan gynnwys dadansoddiad a wnaed gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Ganolfan Ymchwil ac Archwilio Gofal Dwys.

Yn 2002 mabwysiadodd Llywodraeth Cymru y Model Cymdeithasol o Anabledd. Mae’r model hwn yn nodi ffordd wahanol o ystyried anabledd – yn hytrach na diffinio pobl fel pobl anabl yn ôl eu nam (hynny yw, y model meddygol ar gyfer anabledd), ystyrir bod pobl sydd â namau yn anabl oherwydd rhwystrau corfforol, agweddol a sefydliadol sy’n cael eu creu gan gymdeithas.

Mae’r data a nodir yn yr erthygl hon yn deillio o amrywiaeth o ffynonellau, ac yn cyfeirio at gyfnodau amser gwahanol, gan adlewyrchu o ble a phryd y mae’r data mwyaf dibynadwy a mwyaf diweddar ar gael. Mae’r ffynonellau hyn yn defnyddio diffiniadau gwahanol o anabledd, gyda rhai ohonynt yn seiliedig ar y model meddygol. Adroddir ar y data ar anabledd yn y papur hwn ynghyd â gwybodaeth i egluro’r diffiniad o anabledd a ddefnyddir ar gyfer pob ffynhonnell.

Ceir nodiadau ar y defnydd o erthyglau ystadegol ar ddiwedd y ddogfen hon.

Demograffeg cefndir

Yn ôl Cyfrifiad 2011:

  • roedd bron i 700,000 o unigolion yng Nghymru gyda rhyw fath o salwch neu anabledd hirdymor cyfyngus yng Nghymru, sef 22.7% o’r boblogaeth
  • O’r rhain, dywedodd 10.8% fod eu gweithgareddau o ddydd i ddydd yn eithaf cyfyngedig, a dywedodd yr 11.9% arall eu bod wedi eu cyfyngu'n fawr iawn

Mae amcangyfrifon mwy diweddar o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2020) yn dangos y canlynol:

  • roedd 415,600 o bobl anabl (diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010(a)) rhwng 16 i 64 oed yng Nghymru, sy’n cynrychioli 21.9% o'r boblogaeth 16 i 64 oed
  • o’r 1,392,000 o bobl sy’n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd, mae 14.5% yn anabl (diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010)

(a) Yn Neddf Cydraddoldeb 2010 mae anabledd yn golygu cyflwr corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar eich gallu i wneud gweithgareddau cyffredin o ddydd i ddydd

Cyflogaeth

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2020, roedd y gyfradd cyflogaeth ymysg pobl anabl yng Nghymru rhwng 16 a 64 oed yn 48.5%, gyda’r ffigur cyfatebol ar gyfer y rhai nad oeddent yn anabl yn 80.6%, sy’n cyfateb i fwlch cyflogaeth anabledd o 32.1 pwynt canran.

Roedd y bwlch cyflogaeth anabledd yn is yn achos merched na dynion (28.9 pwynt canran o’i gymharu â 35.4 pwynt canran).

Mae Siart 1 isod yn dangos bod y bwlch cyflogaeth anabledd wedi lleihau dros y blynyddoedd diwethaf.

Image
Mae Siart 1 yn dangos tueddiadau cyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl anabl a phobl sydd heb anabl yng Nghymru, o'r flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2014 i'r flwyddyn a ddaeth i ben ar 30 Medi 2020. Mae'r siart yn dangos bod y bwlch cyflogaeth wedi lleihau o 35.2 pwynt canran i 32.1 pwynt canran.

Mae dadansoddiad pellach yn ôl rhyw yn dangos bod y bwlch cyflogaeth anabledd wedi gostwng mwy ar gyfer merched o’i gymharu â dynion (hynny yw, o 33.6% i 28.9% ar gyfer merched o’i gymharu â 36.4% i 35.4% ar gyfer dynion).

Mae dadansoddiad a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ar 2 Rhagfyr 2019 yn dangos bod y bwlch cyflog i bobl anabl yng Nghymru yn 9.9% yn 2018. Mae hyn yn golygu bod pobl anabl yng Nghymru, ar gyfartaledd, yn ennill 9.9% yn llai yr awr na phobl nad ydynt yn anabl. Roedd y bwlch cyflog yng Nghymru yn llai nag ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan (12.2%), a dyma’r pumed lleiaf o blith y deuddeg gwlad a rhanbarth yn y Deyrnas Unedig. Roedd y bwlch cyflog isaf o ran anabledd yn yr Alban, sef 8.3%, a’r uchaf yn Llundain (15.3%).

Gall patrymau cyflogaeth gael amrywiaeth o effeithiau yn ystod pandemig COVID-19. Gallai pobl sy'n gweithio mewn galwedigaethau penodol, fel gweithwyr allweddol, fod yn wynebu mwy o risg o haint yn sgil eu swyddi.

Mae pobl eraill yn hunangyflogedig neu'n gweithio mewn swyddi anniogel, er enghraifft mewn diwydiannau sydd wedi gorfod cau yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud, ac felly'n wynebu mwy o risg o oblygiadau economaidd COVID-19 o bosibl.

Gweithwyr Hanfodol (Allweddol)

Mae’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth wedi cynhyrchu dadansoddiad o'r garfan gweithwyr hanfodol (allweddol) yng Nghymru (2019) yn ôl statws anabledd (diffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb).

Sylwch fod y dadansoddiad hwn yn seiliedig ar alwedigaethau y gellir eu cyfateb yn uniongyrchol i'r rhai sydd wedi eu rhestru yng Nghanllawiau Llywodraeth Cymru. Cyfrifoldeb cyflogwyr ar lawr gwlad yw pennu pa weithwyr sy'n weithwyr allweddol.

Yn ogystal â hynny, nid oedd modd cyfateb rhai galwedigaethau i alwedigaeth benodol, er enghraifft glanhawyr neu arlwywyr sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Prif bwyntiau i Gymru

  • Roedd 15.4% o’r amcangyfrif o 491,000 o weithwyr hanfodol yng Nghymru yn anabl. Roedd hyn yn cyfateb yn fras i gyfran y bobl anabl ym mhob cyflogaeth (15.0%).
  • Roedd cyfran y bobl anabl cyflogedig a oedd yn weithwyr hanfodol ychydig yn uwch na’r gyfran gyfatebol o bobl gyflogedig nad ydynt yn anabl (34.7% o’i gymharu â 33.6%).

Cyflogaeth mewn diwydiannau a oedd wedi gorfod cau

Mae dadansoddiad wedi cael ei gynhyrchu i amcangyfrif nifer y bobl yng Nghymru sy'n gweithio mewn diwydiannau a oedd wedi gorfod cau ar 23 Mawrth 2020 (dros y cyfnod yr oedd cyfyngiadau cychwynnol COVID-19 ar waith).

Mae'r dadansoddiad hwn yn defnyddio rhestr wreiddiol Llywodraeth y Deyrnas Unedig o'r mathau o fusnesau a ddylai gau yn ystod yr argyfwng. Mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r un rhestr.

Sylwch fod y dadansoddiad hwn yn defnyddio'r data diweddaraf sydd ar gael ar fusnesau sy'n gweithredu mewn diwydiannau penodol. Nid yw o reidrwydd yn adlewyrchu'r busnesau sydd wedi rhoi'r gorau i weithredu go iawn. Er ei bod hi'n debygol iawn y bydd y rhan fwyaf wedi cau, bydd rhai wedi newid eu modelau busnes er mwyn parhau i weithredu (hynny yw, gwerthu cludfwyd yn lle gweithredu fel bwyty).

Prif bwyntiau i Gymru

  • Roedd tua 230,000 o bobl yn cael eu cyflogi mewn diwydiannau yng Nghymru yn 2019 y dywedwyd wrthynt am gau ar ôl yr achosion cyntaf o COVID-19, sef tua 16% o gyfanswm y gweithlu. Mae gweithwyr yn y diwydiannau hynny yn fwy tebygol o fod yn fenywod, yn ifanc ac o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.
  • 36,400 (15.9%) o’r bobl a gyflogir mewn diwydiannau y dywedwyd wrthynt am gau oherwydd COVID-19 a nodwyd fel pobl anabl (diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010). Mae hyn ychydig yn uwch na'r 15.0% o bawb sy'n gweithio.
  • Mae cyfran uwch o bobl anabl cyflogedig yn gweithio mewn diwydiannau y dywedwyd wrthynt am gau (16.6% o’i gymharu â 14.7% o weithwyr nad ydynt yn anabl).

Hunangyflogaeth

Darparodd Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws Llywodraeth y Deyrnas Unedig incwm i lawer o bobl sy'n gweithio yn y sectorau sydd wedi gorfod cau, a darparodd y Cynllun Cymorth i'r Hunangyflogedig gymorth i'r rhai a oedd yn hunangyflogedig cyn y pandemig. Mae'n bosibl bod yr oedi a fu cyn bod y cyllid hwn ar gael tua diwedd mis Mai 2020 wedi golygu y bu mwy o effaith ar bobl hunangyflogedig, o'u cymharu â phobl sy'n gymwys ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi.

Mae dadansoddiad o hunangyflogaeth yn ôl anabledd a gafwyd o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2019) yn dangos:

  • roedd 15.3% o bobl hunangyflogedig yng Nghymru yn anabl ond nid oedd 77.1% o bobl hunangyflogedig yn anabl (sylwer nad oedd statws anabledd yn cael ei bennu ar gyfer 7.6% o bobl hunangyflogedig)
  • o’r 32,200 o bobl hunangyflogedig anabl yng Nghymru, roedd 64% yn ddynion a 69% yn 45 oed a hŷn
  • roedd y gyfran o bobl anabl mewn gwaith a oedd yn hunangyflogedig yn 14.7%, ychydig yn uwch na’r gyfran o bobl nad oeddent yn anabl mewn gwaith a oedd yn hunangyflogedig (13.5%)

Cyflogaeth mewn galwedigaethau sy'n wynebu risg uwch o COVID-19

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi cyfres o fwletinau sy’n rhoi dadansoddiad o farwolaethau sy’n gysylltiedig â COVID-19 yn ôl galwedigaeth. Roedd y dadansoddiad hwn yn tynnu sylw at rai grwpiau galwedigaethau penodol y gellid ystyried eu bod yn wynebu risg uwch o ran COVID-19 neu'r grwpiau hynny yr oeddent wedi canfod, yn eu dadansoddiad i Gymru a Lloegr, fod ganddynt gyfraddau marwolaethau uwch mewn cysylltiad â COVID-19 o'u cymharu â phobl o'r un oedran yn y boblogaeth gyffredinol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal a chyhoeddi dadansoddiad ychwanegol o bobl sy’n cael eu cyflogi mewn galwedigaethau risg uchel yn ôl nodweddion gwarchodedig.

Mae Tablau 1 a 2 isod yn dangos nifer y bobl a gyflogir yn y categorïau risg uchel ac uchaf wedi eu rhannu yn ôl statws anabledd. Mae manylion y categorïau risg uchel ac uchaf ar gael drwy’r ddolen uchod i’r dadansoddiad.

Tabl 1: Statws anabledd y rhai sy’n cael eu cyflogi mewn galwedigaethau sydd â photensial mawr i ddod i gysylltiad â’r coronafeirws (COVID-19), 2019 (a)
  Galwedigaethau risg uchel  
Statws anabledd (diffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb) Lefel Cyfran o'r holl alwedigaethau Cyfran o'r holl sydd wedi'i gyflogi Pob galwedigaeth: cyfran o'r holl sydd wedi'i gyflogi
Anabl 72,700 33.2% 16.2% 15.0%
Heb Anabl 367,700 30.6% 81.8% 82.1%
Nid yw'n berthnasol / Dim ateb 9,000 20.8% 2.0% 3.0%
Holl sydd wedi'i gyflogi 449,400 30.7% 100.0% 100.0%

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth

(a) Pobl mewn cyflogaeth 16 oed a throsodd.

Tabl 2: Statws Anabledd y rhai sy’n cael eu cyflogi mewn galwedigaethau sydd â’r potensial mwyaf i ddod i gysylltiad â’r coronafeirws (COVID-19), 2019 (a)
  Galwedigaethau risg uchaf  
Statws Anabledd (diffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb) Lefel Cyfran o'r holl alwedigaethau Cyfran o'r holl sydd wedi'i gyflogi Pob galwedigaeth: cyfran o'r holl sydd wedi'i gyflogi
Anabl 9,100 4.2% 16.6% 15.0%
Heb Anabl 44,800 3.7% 81.7% 82.1%
Nid yw'n berthnasol / Dim ateb  (b) 900 (b) 2.1% (b) 1.7% 3.0%
Holl sydd wedi'i gyflogi 54,900 3.8% 100.0% 100.0%

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth

(a) Pobl mewn cyflogaeth 16 oed a throsodd.
(b) Mae'r eitemau yn y data wedi'u seilio ar samplau bach o ran eu maint (10 i 25 ymatebion) ac y dylid eu trin yn ofalus. 

Mae’r dadansoddiad hwn yn dangos:

  • roedd 33.2% o bobl anabl gyflogedig yng Nghymru yn cael eu cyflogi mewn galwedigaethau risg uchel ac roedd 4.2% yn cael eu cyflogi yn y galwedigaethau risg uchaf; mae hyn yn cymharu â 30.7% a 3.7% o bobl gyflogedig nad ydynt yn anabl yn y drefn honno
  • roedd 16.6% o’r bobl a gyflogwyd yn y galwedigaethau risg uchaf yn anabl (o’i gymharu â 15.0% o’r bobl a gyflogir ym mhob galwedigaeth)

Mae dadansoddiad pellach yn ôl rhyw yn dangos:

  • mae menywod yn fwy tebygol o gael eu cyflogi mewn galwedigaethau risg uchel na dynion; roedd 39.7% o ferched cyflogedig yng Nghymru yn cael eu cyflogi mewn galwedigaethau risg uchel ac roedd 5.3% yn cael eu cyflogi yn y galwedigaethau risg uchaf; mae hyn yn cymharu â 30.7% a 3.7% o ddynion cyflogedig yn y drefn honno
  • roedd cyfran y merched a oedd yn gyflogedig mewn galwedigaethau risg uchel ac a oedd yn anabl a’r rhai nad oedd yn anabl yn debyg (41.0% a 39.8% yn y drefn honno) ond yn sylweddol uwch na’r cyfrannau o ddynion anabl a rhai nad oedd yn anabl (23.6% a 22.9% yn y drefn honno)

Tai

Deiliadaeth tai

Mae dadansoddiad ad hoc o ddaliadaeth tai yn ôl nodweddion gwarchodedig (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2019) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos:

  • mae 46% o bobl anabl yn byw mewn eiddo rhent, o’i gymharu â 28% o bobl nad ydynt yn anabl
  • mae pobl anabl sy'n rhentu yn fwy tebygol o fyw mewn eiddo cymdeithasol ar rent nag eiddo rhentu'n breifat (tra mae rhentwyr nad ydynt yn anabl yn fwy tebygol o fyw mewn eiddo rhentu'n breifat)

Ym mis Mawrth 2020, cyhoeddodd Sefydliad Bevan adroddiad ar ba fathau o aelwydydd yng Nghymru fyddai'n meddu ar ddigon o asedau hylifol i gymryd lle incwm rheolaidd o bosibl, pe bai incwm yn cael ei golli am 1, 2 neu 3 mis. Ar sail dadansoddiad o'r Arolwg Cyfoeth ac Asedau, roedd yr adroddiad yn nodi y byddai effaith arbennig o wael ar rentwyr pe bai eu hincwm yn dod i ben yn sydyn – dim ond 44% o rentwyr preifat a 35% o rentwyr cymdeithasol yng Nghymru sydd â digon o gynilion i gymryd lle un mis o'u hincwm rheolaidd. 

Ym mis Ebrill 2020, roedd y Resolution Foundation wedi adrodd bod y rhai sy'n byw mewn tai rhent cymdeithasol neu dai rhent preifat yn fwy tebygol o deimlo'r effaith ar eu gallu i weithio na'r rhai sy'n berchen-feddianwyr (dadansoddiad o'r Arolwg o'r Llafurlu yn y Deyrnas Unedig).

Tai gorlawn

Mae'r sgôr deiliadaeth ystafelloedd gwely o Gyfrifiad 2011 yn ffordd o fesur gorlenwi tai yn ôl statws anabledd.

Gofynnwyd i ymatebwyr a oedd yn nodi anabledd neu broblem iechyd hirdymor cyfyngol (gan gynnwys y rhai a oedd yn ymwneud ag oedran) a oedd yn cyfyngu ar eu gweithgareddau o ddydd i ddydd ac a oedd wedi para, neu y disgwylid iddo bara, o leiaf 12 mis, asesu a oedd eu gweithgareddau dyddiol yn cael eu cyfyngu’n fawr iawn, ychydig neu ddim o gwbl oherwydd problem iechyd o’r fath.

Mae cyfran y rhai sy’n cael eu cyfyngu yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd (p’un ai yn fawr iawn neu ychydig) sy’n byw mewn aelwydydd gorlawn yn is nag ar gyfer y boblogaeth yng Nghymru yn gyffredinol, a’r rhai heb eu cyfyngu.

Fodd bynnag, oherwydd bod proffil oedran y rhai y mae eu gweithgareddau’n gyfyngedig (ychydig neu’n fawr iawn) yn hŷn, ac oherwydd bod pobl hŷn yn llai tebygol o fyw mewn aelwydydd gorlawn, mae’r darlun hwn yn newid os caiff y data ei ystyried ar wahân yn ôl grŵp oedran.

Mae Tabl 3 isod yn dangos:

  • ym mhob categori oedran, mae’r rhai y mae eu gweithgareddau’n gyfyngedig (ychydig neu’n fawr iawn) yn fwy tebygol o fyw mewn aelwydydd gorlawn na’r rhai nad ydynt yn gyfyngedig a’r boblogaeth yn gyffredinol
  • roedd y gyfran uchaf (11.5%) ar gyfer plant (rhai 15 oed ac iau) y mae eu gweithgareddau’n cael eu cyfyngu'n fawr iawn
Tabl 3: Canran yr aelwydydd sydd â deiliadaeth o -1 neu lai, yn ôl grŵp oedran a statws anabledd, Cyfrifiad 2011, Cymru
  Anabledd Canran
Grŵp Oedran Gweithgareddau
bob dydd wedi’u
cyfyngu llawer
Gweithgareddau
bob dydd wedi’u
cyfyngu ychydig
Gweithgareddau
bob dydd ddim
wedi’u cyfyngu
Cyfanswm
0 i 15 oed 11.5 10.9 9.0 9.1
16 i 49 oed 10.1 9.6 9.3 9.3
50 i 64 oed 4.6 3.5 2.6 3.1
65 oed a hŷn 2.9 2.1 1.6 2.1
Cyfanswm 5.0 4.7 7.3 6.8

Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol

Digartrefedd

Yn ystod 2018-19, derbyniwyd bod cyfanswm o 2,631 o aelwydydd yn gymwys, yn anfwriadol ddigartref ac mewn angen blaenoriaeth, ac roedd dyletswydd i ddarparu llety iddynt (o dan Adran 75 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014). O’r 2,631 o aelwydydd hyn:

  • cafwyd 294 o achosion (11% o’r holl asesiadau Adran 75) lle’r oedd aelod o’r aelwyd yn agored i niwed oherwydd anabledd corfforol; roedd y gyfran yr un fath â’r gyfran a gofnodwyd yn 2017-18 ond ychydig yn uwch na’r 10% a gofnodwyd yn 2016-17
  • roedd 546 o achosion pellach (21% o’r holl asesiadau Adran 75) yn ymwneud ag aelod o’r aelwyd a oedd yn agored i niwed oherwydd salwch meddwl, anabledd dysgu neu anawsterau dysgu, cynnydd ar y 18% a gofnodwyd yn 2017-18 a 2016-17

Tlodi incwm cymharol

Diffinnir bod rhywun yn byw mewn tlodi incwm cymharol os yw'n byw mewn aelwyd lle mae cyfanswm incwm yr aelwyd o bob ffynhonnell yn llai na 60 y cant o incwm cyfartalog aelwydydd yn y Deyrnas Unedig (yn ôl y canolrif).

Mae dadansoddiad o set ddata diweddaraf Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog yn dangos bod byw gydag unigolyn anabl yn gwneud tlodi incwm cymharol yn fwy tebygol i blant a phobl o oedran gweithio. Yn benodol:

  • roedd 37% o’r plant a oedd yn byw ar aelwyd lle’r oedd rhywun ag anabledd yn byw mewn tlodi incwm cymharol o’i gymharu â 24% o’r plant a oedd yn byw ar aelwyd lle nad oedd neb yn anabl
  • yn yr un modd, roedd 31% o oedolion o oedran gweithio a oedd yn byw ar aelwyd lle’r oedd rhywun ag anabledd mewn tlodi incwm cymharol o’i gymharu â 18% o’r rhai a oedd yn byw ar aelwyd lle nad oedd neb yn anabl

Sylwch, yn y set ddata HBAI, fod pobl anabl yn cael eu nodi fel y rhai sy’n rhoi gwybod am unrhyw salwch neu gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol y disgwylir iddo bara 12 mis neu fwy, ac sy’n cyfyngu ychydig neu'n fawr iawn ar eu gweithgareddau o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cyd-fynd â diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010.

Canfu adroddiad diweddar gan Sefydliad Bevan a oedd yn edrych ar brofiadau o dlodi yng Nghymru yng ngaeaf 2020 fod pobl anabl ymysg y grwpiau yr effeithir arnynt yn fwyaf arbennig gan y wasgfa ar safon byw a’r argyfwng dyledion personol sydd ar gynnydd yng Nghymru.

Amddifadedd

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw'r dull swyddogol o fesur amddifadedd mewn ardaloedd bach yng Nghymru.

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dadansoddiad o nodweddion gwarchodedig yn ôl amddifadedd ardal. Mae’r dadansoddiad hwn yn cymharu data a gynhyrchwyd o’r set ddata APS gyfunol ddiweddaraf (2017 i 2019) ochr yn ochr â data MALlC 2019. Roedd y dadansoddiad dilynol yn dangos bod pobl anabl yn fwy tebygol o fod yn byw mewn ardaloedd o amddifadedd, yn benodol:

  • roedd traean (32.3%) o bobl 16 i 64 oed sy'n byw yn y 10% o ardaloedd bach mwyaf difreintiedig yn anabl; roedd 18.2% o bobl 16 i 64 oed sy'n byw yn y 50% o ardaloedd bach lleiaf difreintiedig yn anabl; mae’r ffigurau hyn yn cymharu â 21.8% o bobl anabl yng nghyfanswm y boblogaeth
  • roedd 13.8% o bobl anabl 16 i 64 oed yng Nghymru yn byw yn y 10% o ardaloedd bach mwyaf difreintiedig; mae hyn yn cymharu ag 8.1% o bobl 16 i 64 oed nad ydynt yn anabl yng Nghymru
  • roedd 57.2% o bobl anabl 16-64 oed yn byw yn y 50% o’r ardaloedd bach mwyaf difreintiedig o’i gymharu â 46.3% o bobl nad oeddent yn anabl

Ym mis Awst 2020, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddadansoddiad wedi ei ddiweddaru o farwolaethau’n ymwneud â COVID-19 yn ôl ardal leol ac amddifadedd economaidd-gymdeithasol ar gyfer marwolaethau rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf 2020.

Mae'r dadansoddiad hwn yn dangos mai cyfradd y marwolaethau cysylltiedig â COVID-19 yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru oedd 121.4 marwolaeth fesul 100,000 o'r boblogaeth, sydd bron ddwywaith yn fwy na'r gyfradd marwolaethau yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru (65.5 marwolaeth fesul 100,000 o'r boblogaeth).

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn cyhoeddi data mwy diweddar ar farwolaethau COVID-19 yn ôl ardal leol ac amddifadedd yn ei fwletin Dadansoddiad Marwolaethau Misol. Fodd bynnag, mae’r data hwn yn wahanol gan ei fod yn cyfeirio at farwolaethau oherwydd COVID-19 (achos sylfaenol marwolaeth yn unig) ac mae’n seiliedig ar fis cofrestru’r farwolaeth (yn hytrach na mis y farwolaeth).

Trafnidiaeth

Fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2016-17, gofynnwyd i bobl anabl am eu defnydd o wahanol fathau o drafnidiaeth gyhoeddus. Cyhoeddwyd y canlyniadau yn y bwletin ystadegol Rhwystrau sy’n Wynebu Pobl Anabl (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2016 i Fawrth 2017.

Prif ganfyddiadau

  • Tacsi oedd y math o drafnidiaeth gyhoeddus oedd fwyaf tebygol o gael ei ddefnyddio. Roedd 44% o bobl anabl wedi defnyddio tacsi yn y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn cymharu â 43% a oedd wedi defnyddio bws lleol a 31% a oedd wedi defnyddio trenau lleol. 
  • Y dulliau trafnidiaeth gyhoeddus a ddefnyddiwyd leiaf oedd bysiau pellter hir a threnau pellter hir neu rhwng dinasoedd, a ddefnyddiwyd gan 16% a 19% o bobl anabl yn y drefn honno.
  • bell ffordd, y rheswm mwyaf cyffredin a roddwyd dros beidio â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oedd ‘ddim angen neu ddim eisiau’. Yr ail reswm mwyaf cyffredin a roddwyd dros beidio â theithio ar fysiau lleol neu ar drenau lleol oedd nad oedd y cludiant ar gael, a’r gost oedd yr ail reswm mwyaf cyffredin dros beidio â theithio mewn tacsi neu ar drên pellter hir.
  • Gofynnwyd i ymatebwyr hefyd a oedd car neu fan ar gael iddynt neu i aelodau eraill o’u haelwyd fel arfer. Roedd gan 79% o’r ymatebwyr ag anabledd gar at eu defnydd, o’i gymharu â 89% o’r bobl heb anabledd.
  • Ac eithrio trenau rhwng dinasoedd, roedd y ffaith bod car ar gael yn golygu bod llai o bobl anabl yn defnyddio dulliau eraill o deithio. Roedd hyn yn arbennig o amlwg ar gyfer bysiau a thacsis lleol. Roedd 66% o bobl anabl heb gar at eu defnydd wedi defnyddio bysiau lleol, ac roedd 59% wedi defnyddio tacsi (o’i gymharu â 37% a 41% yn y drefn honno o’r rhai â char at eu defnydd)
  • Mae’r defnydd o’r holl ddulliau trafnidiaeth hyn yn lleihau’n raddol gydag oedran. Roedd pobl anabl iau yn fwy tebygol na phobl hŷn o fod wedi defnyddio’r holl ddulliau trafnidiaeth yn y 12 mis diwethaf. Er bod pobl 65 oed a hŷn yn fwy tebygol o fod wedi teithio ar fws na phobl 35 i 64 oed.

Cam-drin domestig

Ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddatganiad ystadegol yn rhoi manylion am nodweddion dioddefwyr cam-drin domestig ar sail canfyddiadau Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr a throseddau a gofnodwyd gan yr heddlu.

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020, dangosodd Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr fod oedolion rhwng 16 a 74 oed yng Nghymru a Lloegr ag anabledd (diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010) yn fwy tebygol o fod wedi profi cam-drin domestig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf na’r rhai heb anabledd. Roedd hyn yn wir am ddynion (7.5% o’i gymharu â 3.2%, yn y drefn honno) a menywod (14.7% o’i gymharu â 6.0% yn y drefn honno).

Atodiad A: Data ehangach a gyhoeddwyd yn y Deyrnas Unedig ar Effaith Covid-19 ar bobl anabl

Mae’r Atodiad hwn yn cyflwyno amrywiaeth o ddadansoddiadau a gyhoeddwyd sy’n ymwneud ag effaith COVID-19 ar bobl anabl gan:

Swyddfa Ystadegau Gwladol

Marwolaethau cysylltiedig â'r Coronafeirws (COVID-19) yn ôl statws anabledd, yng Nghymru a Lloegr: 2 Mawrth 2020 i 14 Gorffennaf 2020

Ar 18 Medi 2020, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol erthygl ystadegol yn cyflwyno dadansoddiadau dros dro yn cymharu’r risg o farwolaeth sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19) yn ôl statws anabledd unigolyn fel y’i cofnodwyd yng Nghyfrifiad 2011.

Mae pobl yn cael eu hystyried yn anabl os oeddent yn dweud bod eu gweithgareddau bob dydd wedi eu cyfyngu ychydig neu’n fawr iawn gan broblem iechyd neu anabledd a oedd yn para neu y disgwylid iddo bara am o leiaf 12 mis (yn ôl Cyfrifiad 2011). Mae’r dadansoddiad yn cynnwys marwolaethau a ddigwyddodd rhwng 2 Mawrth a 14 Gorffennaf 2020, a gofrestrwyd erbyn 21 Gorffennaf 2020.

Roedd y dadansoddiad, ar gyfer Cymru a Lloegr, yn dangos bod pobl anabl (fel y’u diffinnir) yn cyfrif am bron i 6 o bob 10 (59%) o’r holl farwolaethau a oedd yn gysylltiedig â COVID-19 yn ystod y cyfnod hwn; roedd pobl anabl yn cyfrif am tua 16% o boblogaeth yr astudiaeth yng Nghymru a Lloegr, yn dilyn Cyfrifiad 2011.

Roedd y ffigur ychydig yn uwch yng Nghymru, lle’r oedd pobl anabl yn cyfrif am bron i 7 o bob 10 (68%) o’r holl farwolaethau cysylltiedig â COVID-19 yn ystod y cyfnod hwn.

Amcangyfrifon wedi eu diweddaru o farwolaethau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19) yn ôl statws anabledd, Lloegr: 20 Ionawr 2020 i 24 Tachwedd 2020

Ar 11 Chwefror 2021, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol amcangyfrifon wedi eu diweddaru o’r gwahaniaethau yn y risg o farwolaeth yn sgil COVID-19 yn ôl statws anabledd hunan-adrodd a statws anabledd dysgu lle gwnaed diagnosis. Roedd y dadansoddiad hwn yn canolbwyntio ar farwolaethau yn Lloegr rhwng 20 Ionawr 2020 a 20 Tachwedd 2020 ac roedd yn defnyddio data cysylltiedig o Gyfrifiad 2011, marwolaethau a gofrestrwyd, a chofnodion gofal sylfaenol ac ysbytai.

Sylwch fod anabledd dysgu, yn yr erthygl hon, yn seiliedig ar ddiagnosis clinigol gan ymarferydd meddygol, ond bod anabledd yn cael ei ddiffinio ar sail ymatebion i gwestiwn ar Gyfrifiad 2011, a fydd yn amrywio yn ôl dehongliadau a phrofiadau unigolion eu hunain. O ganlyniad, nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol yr amcangyfrifon o farwoldeb COVID-19 ar gyfer pobl ag anabledd dysgu a phobl anabl yn ôl Cyfrifiad 2011.

Yn ogystal, ni ddylid cymharu’r cyfraddau a nodir yn y datganiad hwn â’r rhai a gyhoeddir mewn mannau eraill gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’r dadansoddiad hwn yn seiliedig ar bobl 30 i 100 oed ac nid yw wedi cael ei addasu er mwyn gallu cymharu â chyfraddau marwolaethau blynyddol.

Prif bwyntiau

  • Rhwng 24 Ionawr a 20 Tachwedd 2020 yn Lloegr, roedd y risg o farwolaeth yn cynnwys y coronafeirws (COVID-19) 3.1 gwaith yn fwy i ddynion mwy anabl ac 1.9 gwaith yn fwy i ddynion llai anabl, o’i gymharu â dynion nad ydynt yn anabl; ymysg menywod, roedd y risg o farwolaeth 3.5 gwaith yn fwy i fenywod mwy anabl a 2.0 gwaith yn fwy i fenywod llai anabl, o’i gymharu â menywod nad ydynt yn anabl.
  • Hunan-adroddwyd statws anabledd fel y’i casglwyd yng Nghyfrifiad 2011; cyfeirir at y rhai a ddywedodd yn y Cyfrifiad fod eu gweithgareddau o ddydd i ddydd “yn cael eu cyfyngu ychydig” neu “yn cael eu cyfyngu yn fawr iawn” yma fel “llai anabl” a “mwy anabl” yn y drefn honno, tra cyfeirir at bobl sy’n dweud nad oes unrhyw gyfyngiad ar eu gweithgareddau fel rhai “nad ydynt yn anabl”.
  • Ar ôl defnyddio modelau ystadegol i addasu ar gyfer nodweddion personol ac aelwydydd, gan gynnwys y math o aelwyd, daearyddiaeth, ffactorau demograffig ac economaidd-gymdeithasol, a chyflyrau iechyd a oedd yn bodoli’n barod, roedd y risg o farwolaeth yn llai ond yn sylweddol yn ystadegol yn parhau i fod yn anesboniadwy ar gyfer menywod sy’n fwy anabl ac yn llai anabl (1.4 ac 1.2 gwaith yn y drefn honno) a dynion sy’n fwy anabl (1.1) ond nid ar gyfer dynion sy’n llai anabl.
  • Mae hyn yn golygu nad oes un ffactor yn egluro’r risg sylweddol uwch o farwolaeth sy’n gysylltiedig â COVID-19 ymysg pobl anabl, a bod eu man preswylio, amgylchiadau economaidd-gymdeithasol a daearyddol, a chyflyrau iechyd sy’n bodoli'n barod i gyd yn chwarae rhan; un rhan bwysig o’r risg uwch yw bod pobl anabl yn cael eu hamlygu’n anghymesur i amrywiaeth o amgylchiadau o anfantais yn gyffredinol o gymharu â phobl nad ydynt yn anabl.
  • Wrth edrych ar bobl ag anabledd dysgu â diagnosis meddygol, roedd y risg o farwolaeth yn gysylltiedig â COVID-19 3.7 gwaith yn fwy ar gyfer dynion a menywod o’i gymharu â phobl nad oedd ganddynt anabledd dysgu; ar ôl defnyddio modelau ystadegol i addasu ar gyfer amrywiaeth o ffactorau, roedd y risg uwch o 1.7 gwaith yn dal yn anesboniadwy ar gyfer y ddau ryw.
  • Roedd yr holl amgylchiadau economaidd-gymdeithasol a daearyddol a’r cyflyrau iechyd a ystyriwyd yn barod yn gwneud rhywfaint o wahaniaeth i’r risg i bobl ag anableddau dysgu, ond roedd yr effaith fwyaf yn gysylltiedig â byw mewn cartref gofal neu sefydliad cymunedol arall.
  • Nid oedd y patrymau yn y risg marwolaethau ychwanegol o ganlyniad i COVID-19 a brofir gan bobl anabl wedi newid llawer rhwng ton gyntaf ac ail don y pandemig.

Coronafeirws a'r effeithiau cymdeithasol ar bobl anabl ym Mhrydain: Medi 2020

Ar 11 Tachwedd 2020, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol erthygl yn edrych ar effeithiau cymdeithasol pandemig y coronafeirws ar bobl anabl ym Mhrydain ar sail dangosyddion o’r Arolwg Barn a Ffordd o Fyw.

Dyma’r bedwaredd erthygl yn y gyfres (gan gynnwys data o ddwy don yr arolwg rhwng 24 Medi a 4 Hydref 2020), ac mae’n rhoi diweddariad i’r erthygl flaenorol ym mis Gorffennaf, ac mae’n golygu bod modd ei chymharu ymhellach dros amser.

Prif bwyntiau

  • Dywedodd dros 8 o bob 10 (83%) o bobl anabl o’i gymharu ag oddeutu 7 o bob 10 (71%) o bobl nad ydynt yn anabl ym mis Medi 2020 eu bod yn “bryderus iawn” neu “rywfaint yn bryderus” am effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar eu bywyd; i bobl anabl, ond nid i bobl nad ydynt yn anabl, mae’r lefel hon yn debyg i’r lefel yr adroddwyd arni’n gynharach yn y pandemig (86% ac 84% yn y drefn honno ym mis Ebrill 2020).
  • Mae’n ymddangos nad oedd bod mewn ardal sydd â chyfyngiadau symud lleol wedi effeithio ar lefel y pryder (“pryderus iawn” neu “rywfaint yn bryderus”) a adroddwyd gan bobl anabl ym mis Medi 2020, gyda lefelau tebyg yn cael eu hadrodd gan bobl anabl mewn ardal sydd â chyfyngiadau symud lleol (81%) o’i gymharu â’r rhai nad ydynt yn anabl (84%).
  • Dywedodd tua 5 o bob 10 (50%) o bobl anabl a oedd yn cael gofal meddygol cyn i bandemig y coronafeirws ddechrau eu bod naill ai’n cael triniaeth ar hyn o bryd ar gyfer dim ond rhai o’u cyflyrau (29%), neu fod eu triniaeth wedi cael ei chanslo neu heb ddechrau (22%), wrth gymharu â llai na 3 o bob 10 (27%) o bobl nad ydynt yn anabl oedd â salwch neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol ac a oedd yn derbyn gofal cyn y pandemig.
  • Dywedodd dros 4 o bob 10 (45%) o’r bobl anabl a oedd wedi dweud eu bod wedi cael llai o driniaeth neu fod eu triniaeth wedi cael ei chanslo ym mis Medi 2020 eu bod nhw’n teimlo bod eu hiechyd wedi gwaethygu yn ystod y cyfnod hwn; roedd y gyfran hon yn chwarter (25%) ym mis Gorffennaf 2020.
  • Roedd holl sgoriau llesiant pobl anabl yn dal yn waeth ym mis Medi 2020 o’u cymharu â chyfnod tebyg cyn pandemig y coronafeirws; dywedodd bron i hanner (47%) y bobl anabl eu bod nhw’n teimlo’n bryderus iawn (sgôr o 6 allan o 10 neu uwch) ym mis Medi 2020 o’i gymharu â llai na thraean (29%) o bobl nad oeddent yn anabl.
  • Dywedodd pobl anabl yn amlach na phobl nad ydynt yn anabl ym mis Medi 2020 fod pandemig y coronafeirws yn effeithio ar eu llesiant oherwydd ei fod yn gwaethygu eu hiechyd meddwl (41% yn achos pobl anabl ac 20% yn achos pobl nad ydynt yn anabl), eu bod yn teimlo’n unig (45% a 32%), eu bod yn treulio gormod o amser ar eu pen eu hunain (40% a 29%), eu bod yn teimlo fel baich ar bobl eraill (24% ac 8%), neu nad oes ganddynt neb i siarad â nhw am eu pryderon (24% a 12%).
  • Roedd pryder ynghylch y dyfodol ymysg y pethau mwyaf cyffredin a nodwyd ynghylch y modd mae’r pandemig wedi effeithio ar bobl anabl (68%) a phobl nad ydynt yn anabl (64%) ym mis Medi 2020; fodd bynnag, roedd pobl anabl yn llai gobeithiol am y dyfodol na phobl nad ydynt yn anabl, gydag 1 o bob 10 (11%) o bobl anabl yn meddwl na fyddant byth yn dychwelyd i drefn normal o’i gymharu â dim ond 1 o bob 20 (5%) o bobl nad ydynt yn anabl.
  • Roedd cyfran fwy o bobl anabl (83%) na phobl nad ydynt yn anabl (77%) yn cefnogi gorfodi “llym” neu “lym iawn” gan yr heddlu ar reolau’r llywodraeth sydd wedi eu hanelu at fynd i’r afael â’r coronafeirws, fel cadw pellter cymdeithasol; roedd pobl anabl yn llai tebygol o gymdeithasu mewn grwpiau mawr na phobl nad ydynt yn anabl; dim ond 5% o bobl anabl oedd yn cymysgu â grwpiau dros bump (o’r tu allan i’w haelwyd), o’i gymharu â 9% o bobl nad ydynt yn anabl.

Canlyniadau ar gyfer pobl anabl yn y Deyrnas Unedig, 2020

Ar 18 Chwefror 2020, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddatganiad yn edrych ar y gwahaniaethau a wynebir gan bobl anabl ar draws gwahanol agweddau ar fywyd: addysg, cyflogaeth, cyfranogiad cymdeithasol, tai, llesiant, unigrwydd a throseddu.

Prif bwyntiau

  • Roedd gan 23.0% o bobl anabl rhwng 21 a 64 oed yn y Deyrnas Unedig radd fel eu cymhwyster uchaf o’i gymharu â 39.7% o bobl nad ydynt yn anabl; nid oedd gan 15.1% o bobl anabl unrhyw gymhwyster o’i gymharu â 5.4% o bobl heb anabledd (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2020).
  • Roedd tua hanner y bobl anabl 16 i 64 oed (52.1%) yn y Deyrnas Unedig mewn gwaith o’i gymharu ag oddeutu 8 o bob 10 (81.3%) ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl (Gorffennaf - Medi 2020); roedd pobl anabl ag awtistiaeth ymysg y bobl anabl hynny â’r gyfradd gyflogaeth isaf.
  • Roedd pobl anabl rhwng 16 a 64 oed yn y Deyrnas Unedig yn llai tebygol o fod yn berchen ar eu cartref eu hunain (40.9%) na phobl nad ydynt yn anabl (53.4%), ac yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tai cymdeithasol ar rent (24.9% o’i gymharu â 7.8%) (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2020).
  • Roedd sgoriau llesiant cyfartalog pobl anabl (16 i 64 oed) yn y Deyrnas Unedig yn waeth na’r rhai ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl o ran mesurau hapusrwydd, teimlo’n werthfawr a bodlonrwydd bywyd; roedd lefelau gorbryder cyfartalog yn uwch yn achos pobl anabl ar 4.47 allan o 10, o’i gymharu â 2.91 allan o 10 yn achos pobl nad ydynt yn anabl (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2020).
  • Roedd tua 1 o bob 7 (14.3%) o bobl anabl rhwng 16 a 59 oed yng Nghymru a Lloegr wedi profi camdriniaeth ddomestig yn ystod y 12 mis diwethaf, o’i gymharu ag oddeutu 1 o bob 20 (5.1%) o bobl nad ydynt yn anabl; roedd menywod anabl (17.5%) dros ddwywaith yn fwy tebygol o brofi camdriniaeth ddomestig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf na menywod nad ydynt yn anabl (6.7%) (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020).

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Marwolaethau sy’n gysylltiedig â COVID-19 yng Nghymru ymysg pobl ag anableddau dysgu

Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bapur ym mis Medi 2020 a oedd yn edrych ar farwolaethau cysylltiedig â COVID-19 yng Nghymru ymysg is-set o bobl ag anableddau dysgu ac a oedd yn ystyried a oes tystiolaeth o nifer anghymesur o uchel o farwolaethau yn y grŵp hwn.

Gan ddefnyddio gwybodaeth sy’n cael ei chasglu’n rheolaidd gan GIG Cymru am y diagnosis mae pobl yn ei gael fel cleifion mewnol, nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod tua 15,000 o bobl ag anabledd dysgu naill ai’n byw yng Nghymru neu wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru ar 29 Chwefror 2020. Roedd y rhai a nodwyd yn debygol o fod yn unigolion ag anableddau dysgu cymharol ddifrifol a’r rhai â statws iechyd corfforol cymharol wael.

Yn ôl data cofrestru marwolaethau, roedd o leiaf 31 o’r bobl hyn wedi marw o COVID-19 rhwng 1 Mawrth a 26 Mai 2020.

Mae cymharu’r niferoedd â marwolaethau ymysg holl drigolion Cymru yn awgrymu bod cyfradd safonedig yn ôl oedran y marwolaethau sy’n gysylltiedig â COVID-19 tua 3 gwaith i 8 gwaith yn uwch yn y garfan hon na’r boblogaeth drwyddi draw.

Er gwaethaf hyn, mae cyfran y marwolaethau yn y garfan hon sy’n gysylltiedig â COVID-19 yn dal yn debyg i’r gyfran yn y boblogaeth drwyddi draw. Mae hyn oherwydd bod gan y garfan hon gyfradd marwolaethau sy’n gyson uwch oherwydd achosion ar wahân i COVID-19.

Y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil ac Archwilio Gofal Dwys (ICNARC)

Adroddiadau'r Ganolfan Genedlaethol Ymchwil ac Archwilio Gofal Dwys ar COVID-19 mewn Gofal Critigol (12 Chwefror 2021)

Mae'r Ganolfan Genedlaethol Ymchwil ac Archwilio Gofal Dwys wedi bod yn cyhoeddi adroddiadau wythnosol ar yr achosion mewn unedau gofal critigol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’r adroddiad diweddaraf yn cynnwys data a adroddwyd hyd at 11 Chwefror 2021.

Mae’r adroddiadau wythnosol yn cynnwys data ar “ddibyniaeth cleifion cyn eu derbyn i ysbyty acíwt” sy’n cael ei asesu fel y disgrifiad gorau ar gyfer dibyniaeth y claf yn y pythefnos cyn ei dderbyn i ysbyty acíwt a chyn i’r salwch acíwt ddechrau, hynny yw, dibyniaeth “arferol”. Mae’n cael ei asesu yn ôl faint o gymorth personol maen nhw’n ei gael gyda gweithgareddau bob dydd (ymolchi, gwisgo, mynd i’r toiled, symud i mewn/allan o’r gwely/cadair, ymataliaeth a bwyta).

Mae’r adroddiad diweddaraf ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn dangos bod angen rhywfaint o gymorth ar 11.1% o gleifion a gafodd eu derbyn ers 1 Medi 2020 gyda gweithgareddau dyddiol cyn cael eu derbyn, ac roedd angen cymorth llawn ar 0.3% o gleifion gyda gweithgareddau dyddiol. Roedd hyn yn eithaf tebyg i’r cyfrannau cyfatebol o gleifion a dderbyniwyd hyd at 31 Awst 2020 (10.3% a 0.4% yn y drefn honno).

Fodd bynnag, mae’r adroddiad diweddaraf sy’n rhoi manylion data ar gyfer Cymru yn unig yn dangos bod angen rhywfaint o gymorth ar gyfran uwch o gleifion a gafodd eu derbyn ers 1 Medi 2020 gyda gweithgareddau dyddiol cyn cael eu derbyn (14.6%). Roedd hyn yn uwch na’r gyfran gyfatebol o gleifion yng Nghymru a dderbyniwyd hyd at 31 Awst 2020 yng Nghymru (10.9%).

Nodiadau ar y defnydd o erthyglau ystadegol

Yn gyffredinol, mae a wnelo erthyglau ystadegol â dadansoddiadau untro lle na fwriedir eu diweddaru, yn y byrdymor o leiaf, a'u diben yw sicrhau bod y fath ddadansoddiadau ar gael i gynulleidfa ehangach nag a fyddai'n wir fel arall. Fe'u defnyddir yn bennaf i gyhoeddi dadansoddiadau archwiliadol mewn rhyw ffordd, er enghraifft:

  • cyflwyno cyfres newydd o ddata arbrofol
  • dadansoddiad rhannol o fater sy'n darparu man cychwyn defnyddiol i gyflawni rhagor o ymchwil ond sydd, serch hynny, yn ddadansoddiad defnyddiol yn ei rinwedd ei hun
  • tynnu sylw at ymchwil sydd wedi'i chynnal gan sefydliadau eraill, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru neu fel arall, lle mae'n ddefnyddiol tanlinellu'r casgliadau, neu adeiladu ar yr ymchwil ymhellach
  • dadansoddiad lle nad yw'r canlyniadau o ansawdd mor uchel â'r rhai yn ein datganiadau ystadegol a'n bwletinau arferol efallai, ond lle gellir dod i gasgliadau ystyrlon o hyd gan ddefnyddio'r canlyniadau.

Pan fo ansawdd yn broblem, gall hyn godi mewn un neu fwy o'r ffyrdd canlynol:

  • ni ellir nodi'r cyfnod o amser a ddefnyddir yn gywir (a all ddigwydd pan ddefnyddir ffynhonnell weinyddol)
  • ansawdd y ffynhonnell ddata neu'r data a ddefnyddir
  • resymau eraill a nodir.

Fodd bynnag, bydd lefel yr ansawdd yn golygu nad yw'n cael effaith sylweddol ar y casgliadau. Er enghraifft, efallai na fydd yr union gyfnod o amser yn ganolog i'r casgliadau y gellir eu llunio, neu drefn maint y canlyniadau, yn hytrach na'r union ganlyniadau, sydd o ddiddordeb i'r gynulleidfa. Nid yw'r dadansoddiad a gyflwynir yn gyfystyr ag Ystadegyn Gwladol, ond gellir ei ddefnyddio gydag allbynnau Ystadegau Gwladol a bydd, serch hynny, wedi cael ei ystyried yn ofalus a'i archwilio'n fanwl cyn ei gyhoeddi. Bydd asesiad o gryfderau a gwendidau'r dadansoddiad wedi'i gynnwys yn yr erthygl, er enghraifft cymhariaeth â ffynonellau eraill, ynghyd â chanllawiau ar sut y gellir defnyddio'r dadansoddiad, a disgrifiad o'r fethodoleg sydd ar waith.

Mae erthyglau yn dilyn yr arferion rhyddhau a ddiffinnir yn y protocol arferion rhyddhau ac, felly, er enghraifft, fe'u cyhoeddir ar ddyddiad a bennir ymlaen llaw yn yr un ffordd ag allbynnau ystadegol eraill.

Manylion cyswllt

Scott Clifford
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099