Neidio i'r prif gynnwy

Yn Bresennol

Yn Bresennol
Arwel Ellis Owen Cadeirydd
Julie Morgan Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Vanessa Webb Prifysgol Abertawe  
Marie Davies Bwrdd Iechyd Addysgu Powys 
Elaine Gilbert Bwrdd Iechyd Addysgu Powys 
Rhian Webber

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Kate Young Fforwm Cymru Gyfan 
Esyllt Crozier Gofal Cymdeithasol Cymru 
Simon Hatch Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru 
Claire Morgan Gofalwyr Cymru 
Valerie Billingham

Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn

Sean O’Neill Plant yng Nghymru 
Dianne Seddon Prifysgol Bangor  
David Hughes Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Kathy Proudfoot Dirprwy Gadeirydd COLIN, Cyngor Casnewydd 
Angela Hughes       Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 
Melanie Laidler       Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan 
Junaid Iqbal Iechyd Cyhoeddus Cymru 

Swyddogion Llywodraeth Cymru

 
Anthony Jordan  Dirprwy Gyfarwyddwr, Cynhwysiant a Busnes Corfforaethol
Shelley Davies 

Pennaeth Partneriaeth ac Integreiddio

Matt Jenkins

Dirprwy Gyfarwyddwr, Dyfodol a Cynhwysiant

Rachel Lewis   Pennaeth Cangen Pobl Hŷn a Gofalwyr
Ceri Griffiths   Uwch Reolwr Polisi Gofalwyr
Ben O’Halloran Cangen Pobl Hŷn a Gofalwyr

Apologies:

Jon Day - Gofal Cymdeithasol Cymru  

Ffion Johnstone - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Jane Tremlett - Cyngor Sir Gaerfyrddin

Elizabeth Flowers - Swyddfa’r Comisiynydd Plant

Bethan Jones Edwards - Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych

Amanda Phillips - Cyngor Bro Morganwg

1. Croeso a chofnodion y cyfarfod diwethaf – Arwel E Owen (cadeirydd)

Croesawodd y Cadeirydd bawb a diolchodd i'r aelodau am ddod i'r cyfarfod hwn. 

Rhoddodd Rachel Lewis ddiweddariad byr ar y gwaith brechu, gan ddweud bod swyddogion wedi bod yn cydweithio â sefydliadau gofalwyr ar y llythyr hunanadnabod sy'n caniatáu i ofalwyr nad ydynt eisoes yn hysbys i'w meddygon teulu gofrestru ar gyfer brechiad. Cynhelir sesiwn holi ac ateb yn y prynhawn i hybu ymwybyddiaeth o'r datblygiad hwn ac ateb unrhyw ymholiadau sydd gan bobl.

Mae'r cynllun cerdyn adnabod gofalwyr ifanc yn mynd rhagddo'n dda, gydag 11 awdurdod lleol yn bwriadu lansio ar 15-16 Mawrth. Bydd y Dirprwy Weinidog yn mynd i lansiadau ar gyfer awdurdod lleol (ALl) Torfaen a lansiad rhanbarthol ALlau Gogledd Cymru a noddir gan Glwb Pêl-droed Wrecsam. Bydd y Dirprwy Weinidog hefyd yn rhyddhau datganiad cyhoeddus i dynnu sylw at y cynnydd a wnaed hyd yn hyn.  

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr y DU wedi trefnu digwyddiad dwyochrog gyda'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Gweinidog dros Iechyd Cyhoeddus a Chwaraeon yr Alban, i gyfarfod â grŵp o ofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy'n ofalwyr i nodi Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc - 16 Mawrth. 

2. Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol 

Diolchodd y Dirprwy Weinidog i holl aelodau'r GCG am eu cyfraniadau a'u cyngor dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn enwedig yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn. Mae goruchwyliaeth strategol y grŵp hwn wedi helpu Llywodraeth Cymru i gefnogi gofalwyr yng Nghymru. Mae'r rôl hanfodol y mae gofalwyr di-dâl yn ei chwarae bellach yn cael sylw. Rhaid manteisio ar yr ymwybyddiaeth gynyddol hon.

Cafwyd 91 o ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus ac er na ellir cyrraedd pobl yn uniongyrchol, hoffai'r Dirprwy Weinidog i’r rhai a anfonodd ymateb wybod pa mor bwysig a dadlennol fu rhai o'r ymatebion hyn.

Bu cynnydd da iawn i gefnogi gofalwyr, ac mae’r canllawiau ar frechlynnau wedi'u diweddaru. Gall gofalwyr di-dâl sy'n hysbys i feddygon teulu aros am eu galwad yn cadarnhau eu hapwyntiad brechu. Bydd angen i'r rhai nad ydynt yn hysbys lenwi'r ffurflen hunanatgyfeirio ac aros am eu hapwyntiad. Rhannwyd dolen i'r ffurflen hunanatgyfeirio a'r diweddariad: Eitem newyddion yma: a’r wefan yma

Roedd y Dirprwy Weinidog yn falch o weld y cynnydd mawr sy'n cael ei wneud mewn perthynas â cherdyn adnabod gofalwyr ifanc. Bydd cyllid o 150k ar gyfer 2021/22 ar gael i awdurdodau lleol i ariannu costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â lansio cerdyn newydd, neu drosglwyddo cerdyn sy'n bodoli eisoes i fodel y cerdyn adnabod cenedlaethol. Y nod yw i bob ALl gynnig cerdyn adnabod erbyn 2022. Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi cynhyrchu adnoddau ar gyfer codi ymwybyddiaeth mewn ysgolion, lleoliadau iechyd a fferyllfeydd i gynyddu dealltwriaeth broffesiynol.

Tynnodd Angela Hughes sylw at brosiect 'gofalwyr ifanc yn yr ysgol' yn ardal Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae'r prosiect hwnnw wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth o anghenion gofalwyr ifanc.

Awgrymwyd y gellid gwneud mwy o gysylltiadau rhwng gwahanol bolisïau'r llywodraeth megis y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol. Er enghraifft, drwy nodi gofalwyr brodyr a chwiorydd drwy ddiagnosis cynnar o'u brodyr a chwiorydd ag anghenion ychwanegol. Gellid cael sgyrsiau gyda swyddogion sy'n gweithio ar y cod hwn i ystyried sut y gallai'r ddwy ffrwd waith hyn gyd-fynd â’i gilydd. 

Dywedodd Simon Hatch yn gryno mai un o'r prif faterion i ofalwyr ifanc, wrth i awdurdodau lleol lacio’r cyfyngiadau, yw cael gafael ar gymorth wyneb yn wyneb unwaith eto. Mae pryder na fydd hyn yn flaenoriaeth. Pwysleisiwyd ei bod yn bwysig iawn bod hyn yn rhan allweddol o ganllawiau Llywodraeth Cymru, i lywodraeth leol, wrth symud ymlaen, gan sicrhau eu bod yn ystyried gofalwyr ifanc wrth iddynt ailagor gwasanaethau.  

Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog y gellir cyflwyno'r mater hwn mewn trafodaethau ar leddfu'r cyfyngiadau. Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio blaenoriaethu pobl ifanc yn ei holl drafodaethau a'i phenderfyniadau. 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Dirprwy Weinidog am ei holl waith ynghylch yr agenda hon dros y ddwy flynedd ddiwethaf. 

3. Y Gronfa Gofal Integredig 2021/22 – Shelley Davies 

Mae'r gronfa wedi'i hymestyn am flwyddyn arall – 2021-22. Cafwyd trafodaethau ynghylch neilltuo arian ar gyfer y grwpiau a flaenoriaethwyd ond ni aeth hyn yn ei flaen oherwydd bod y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol am gael hyblygrwydd i nodi blaenoriaethau a phrosiectau. Ers dyfodiad Covid-19, yn ffodus roedd nifer fawr o brosiectau sy’n ymwneud â’r Gronfa Gofal Integredig eisoes yn cefnogi gofalwyr - neu'n gallu addasu, neu wedi’u gwella i gefnogi gofalwyr. Roedd llawer yn helpu gydag anghenion sylfaenol yn ystod y cyfnod clo, e.e. mynediad at fwyd.

Bu cynnydd yn yr arian a fuddsoddir mewn prosiectau y mae eu prif fuddiolwyr yn ofalwyr di-dâl. Roedd hyn yn dilyn cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru ar ôl dadansoddi dyraniadau 2018-19 ar gyfer gofalwyr. Yn 2019-20 roedd hyn wedi cynyddu i 3% o'r gwariant, gan gynyddu i dros £2.4m. Mae'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol wedi gwneud mwy gan nad yw’r ffigur hwnnw'n cynnwys prosiectau eraill sydd o fudd anuniongyrchol i ofalwyr, e.e. y rhai ar gyfer pobl hŷn. Mae ochr buddsoddi cyfalaf y Gronfa Gofal Integredig hefyd wedi cynyddu - i dros £6.6m yn 2019-20, a dangoswyd cynnydd pellach ar gyfer 2020-21.  Rydym hefyd wedi bod yn tynnu sylw at y sector gwerth cymdeithasol. Ar draws pob un o'r 7 Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol dylent fod yn cyrraedd lefelau o 20% o fuddsoddiad yn y sector hwn, a all sicrhau manteision i ofalwyr. Nid yw pob un ohonynt wedi cyrraedd y targed canrannol hwnnw.

Mae adroddiad blynyddol y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer 2019-20 yn cael ei baratoi i'w gyhoeddi. Bydd yn cynnwys astudiaethau achos ac yn dangos cyfeiriad buddsoddiadau’r flwyddyn flaenorol. Mae'r gwerthusiad ffurfiol o'r Gronfa Gofal Integredig wedi'i ddyfarnu i Old Bell 3. Bydd yn cynnal adolygiad o'r dechrau yn 2016-17 hyd at 2020-21.    

Disgwylir adroddiad llawn ym mis Awst 2021 a bydd yn edrych ar tua 400 o brosiectau a gaiff eu grwpio yn ôl pynciau, er enghraifft, gofal seiliedig ar le; gwasanaethau iechyd meddwl; technoleg gynorthwyol.  

Bydd 2021-22 yn flwyddyn bontio wrth aros i raglenni ariannu rhanbarthol newydd ddechrau o fis Ebrill 2022.

Bydd angen i'r Llywodraeth gytuno ar raglenni'r dyfodol ac mae swyddogion am gael arweiniad clir mewn pryd ar gyfer y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol fel y gallant gynllunio.

4. Papur Gwyn – Ailgydbwyso gofal a chymorth – Matt Jenkins

Daw'r ymgynghoriad ar gyfer y papur hwn i ben ar 6 Ebrill. Mae'r gwaith hwn yn cyd-fynd â gwaith y Grŵp Rhyng-Weinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud Datganiad Llafar yn ddiweddarach yn y mis hwn. Mae gwaith yng Nghymru yn debyg i amserlen waith yr Alban. 

Mae'r rhan fwyaf o'r papur yn ddadansoddiad o heriau strwythurol gydag ymrwymiad parhaus i ddeddfwriaeth bresennol y gwasanaethau cymdeithasol e.e. yr amgylchedd; y gweithlu, cyllid, y farchnad ofal a demograffeg. Mae'n ceisio newid y ffocws a rhoi ansawdd a gwerth wrth gomisiynu gwasanaethau gofal. Ar hyn o bryd, pris yw’r prif ffactor wrth bennu llwyddiant yn y farchnad ofal. Bydd adnoddau cyfyngedig yn her allweddol wrth symud ymlaen i bob sector. 

Mae angen inni symud tuag at gynllunio a chomisiynu gwasanaethau ar y cyd er mwyn creu fframwaith cenedlaethol newydd a hyrwyddo prosesau comisiynu safonol.  Fodd bynnag, ni allwn fabwysiadu dull un ateb sy’n addas i bawb.  Bydd cyrff statudol yn parhau i fod yn gyfrifol am swyddogaethau ond byddant wedi'u rhwymo gan y fframwaith cenedlaethol.  Bydd swyddfa genedlaethol newydd hefyd i weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid. Nid yw'n glir sut y bydd hyn yn gweithio, ond gallai chwarae rhan ochr yn ochr â'r arolygiaeth.

Mae'r papur hefyd yn ystyried integreiddio. Mae ymchwil yn edrych ar effeithiolrwydd y. Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol  oherwydd ein bod am iddynt weithio'n fwy effeithiol a'u cael i wneud mwy, i ganolbwyntio ar eu cenhadaeth graidd – asesiadau o anghenion y boblogaeth, cydweithredu wrth gynllunio a chomisiynu. Mae’r papur hefyd yn ystyried a ddylai’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ddod yn endidau cyfreithiol gyda'u staff a'u hadnoddau eu hunain.  Er nad yw'r papur Gwyn yn cwmpasu holl ehangder gweithgarwch y Bwrdd, mae hwn yn faes gwaith y gellid ymchwilio ymhellach iddo.

Credwn y gall y cynigion wella gofal cymdeithasol a lleihau cymhlethdod, ond sicrhau atebolrwydd lleol. Prawf gwirioneddol fydd gweld gwelliant mewn canlyniadau i bobl ag anghenion gofal a chymorth, gan gynnwys gofalwyr di-dâl.

Codwyd nifer o bwyntiau yn dilyn y cyflwyniad. Roedd Matt J yn cydnabod lefel y pryder ymhlith cynrychiolwyr gofalwyr y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol  ac mae wedi gweld y llythyr gan Claire Morgan a oedd yn mynegi’r pryderon hyn  ac yn gofyn am gyfarfod yn y dyfodol.  Mae angen eu cydnabod fel partneriaid gwerthfawr ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Ceir hefyd y gwaith gan Fforwm Cymru Gyfan, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sydd i fod i gynhyrchu ei adroddiad terfynol yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf a ddylai allu llywio'r sgwrs am gefnogi cynrychiolwyr gofalwyr.

Cefnogodd Vanessa Webb y pwynt am ganolbwyntio ar ganlyniadau ac ansawdd y gwasanaeth yn hytrach na'r gost. Fodd bynnag, gallai'r syniad o symud o gymhlethdod i symlrwydd fod yn beryglus gan y gellid anwybyddu llawer o wahaniaethau a thueddiadau unigol. Mae'r Alban wedi cynhyrchu contract cartrefi gofal cenedlaethol sydd wedi arwain at welliannau ar gyfer cyflogau'r gweithlu. Hefyd, gallai buddsoddi ar y cyd fod o fudd i lefelau cyflog y sector gofal.

Mae'r Papur Gwyn i'w groesawu a bydd y gwaith sy'n deillio ohono yn bwysig iawn i ofalwyr yn ystod y 2-3 blynedd nesaf. Awgrymwyd y gallai'r Siarter Gofalwyr newydd, sy'n deillio o'r Strategaeth newydd ar gyfer Gofalwyr Di-dâl, helpu i arwain yn fwy cadarn ar gyfer gwasanaethau.

Cam gweithredu – yr ysgrifenyddiaeth i drefnu cyfarfod cyn 6 Ebrill, rhwng Matt Jenkins a chynrychiolwyr y trydydd sector i drafod y Papur Gwyn, fel rhan o'r broses ymgynghori.

5. Strategaeth ddrafft ar gyfer gofalwyr di-dâl

Cadarnhaodd y cadeirydd bod rhaid gweithio i amserlen dynn iawn. Mae'r Dirprwy Weinidog am gymeradwyo a lansio'r strategaeth newydd cyn dechrau'r cyfnod cyn yr etholiad - 24 Mawrth.

Unwaith y bydd y strategaeth wedi'i chyhoeddi, bydd aelodau'r Grŵp Cynghori yn ffurfio grwpiau i helpu swyddogion i weithio ar y cynllun gweithredu cysylltiedig. Ei nod fydd cwblhau'r gwaith hwnnw i'w gyhoeddi yn yr hydref, gyda chytundeb gan y Gweinidog newydd. Bydd hyn yn helpu rhanddeiliaid a phartneriaid cyflenwi  i gyflawni amcanion y strategaeth.

Mae'r crynodeb o'r ymgynghoriad yn fanylach na'r cynllun. Defnyddir llawer o'r dystiolaeth a’r safbwyntiau sydd wedi’u cyflwyno i gefnogi ffrydiau gwaith y GCGi i ddatblygu'r cynllun gweithredu/cyflawni strategol newydd.

Cau’r cyfarfod.