Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor os ydych yn llu sy'n byw yng Nghymru ac yn noddi person neu deulu o Wcráin.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r canllawiau hyn i letywyr a noddwyr yng Nghymru. Er bod egwyddorion y cynllun noddi Cartrefi i Wcráin yr un peth ledled y DU, mae gwahaniaethau o ran rhai gwasanaethau cyhoeddus. Am y rheswm hwn, os ydych yn lletya neu’n noddi unigolyn neu deulu o Wcráin, yng Nghymru, dylech gyfeirio at y canllawiau yn y ddogfen hon.

Bydd y canllawiau yn cael eu diweddaru’n rheolaidd ar wefan Llywodraeth Cymru, felly sicrhewch eich bod yn dod yn ôl yma yn rheolaidd am y cyngor a’r gefnogaeth ddiweddaraf.

Gair o ddiolch a diben y canllaw

Cymru yw'r ‘Genedl Noddfa’ gyntaf yn y byd. Wrth i bobl o Wcráin gyrraedd Cymru, rydym am wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cefnogi er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn cael noddfa, a'u bod yn gallu cael hyd i wasanaethau cyhoeddus i'w helpu.

Nid oes llawer o bethau mewn bywyd sy'n fwy anodd na gorfod ffoi o'ch gwlad a dechrau bywyd newydd. Wrth gefnogi rhywun sydd wedi gorfod symud o'i gartref, mae'n debygol iawn y bydd angen i chi, a'r unigolyn neu'r teulu rydych yn eu lletya, ddysgu llawer mewn amser byr. Mae'r canllaw hwn yn cynnwys cyngor ymarferol a dolenni defnyddiol ar y ffordd orau o gefnogi'r unigolyn neu'r teulu rydych yn ei noddi.

Drwy agor eich cartref a chynnig eich amser a'ch haelioni, byddwch yn rhoi’r gwerthoedd sydd mor bwysig inni ar waith, ac yn cymryd eich lle mewn traddodiad hir a helaeth yng Nghymru o estyn trugaredd i'r bobl hynny sydd ei angen fwyaf. Gobeithio y byddwch yn gweld y profiad hwn yn werth chweil.

Cyflwyniad

Mae'r cynllun hwn yn dibynnu ar ewyllys da aruthrol pobl Cymru. Trwy benderfynu bod yn noddwr neu’n lletywr, rydych yn rhan annatod o ymgyrch genedlaethol a ysgogir gan dosturi. Mae Llywodraeth Cymru, elusennau, grwpiau ffydd, busnesau, awdurdodau lleol a chymunedau yn parhau i gydweithio i sicrhau bod y cynllun yn llwyddo, ac i roi cyfle go iawn i bobl sy'n ffoi rhag rhyfel adeiladu bywyd newydd yng Nghymru.

Ers 2022, o dan Cartrefi i Wcráin, gall pobl sy’n byw yng Nghymru noddi Wcreiniaid yn uniongyrchol i ddod i Gymru. Mae noddi yn golygu cefnogi cais am fisa ac ymrwymo i ddarparu llety am o leiaf chwe mis.

Lletya yw’r broses o ddarparu llety i Wcreiniaid (yn eich cartref eich hun fel rheol). Fel arfer bydd noddwyr yn darparu’r llety cychwynnol i Wcreiniaid o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin, ond efallai y byddwch chi wedyn yn lletya’r Wcreiniaid mewn ail lety neu leoliad dilynol.

Er y bydd y llety fel arfer yn cael ei ddarparu am o leiaf 6 mis, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod efallai mai am gyfnod byrrach y bydd rhai yn cynnig eu heiddo. Yn dilyn hynny, rydym wedi sefydlu trefniant "lletya ymateb" tymor byr i wneud y mwyaf o gynigion lletya. Yn unol â dull diwygiedig Llywodraeth Cymru o ddarparu ar gyfer newydd-ddyfodiaid drwy'r llwybr uwch-noddi, mae lletywyr ymateb yn rhoi llety i Wcreiniaid am eu 75 diwrnod cyntaf yng Nghymru. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd yr awdurdod lleol yn gweithio gyda'r gwesteion i'w helpu i ddod o hyd i lety tymor hirach.

Mae gwefan Noddfa Llywodraeth Cymru yn cynnwys gwybodaeth am hawliau pobl sy'n dod o Wcráin. Mae’n bwysig eich bod yn tynnu sylw’r sawl rydych yn eu lletya at y wefan hon i’w helpu i ymgartrefu yng Nghymru. Gallai’r wefan hon fod o ddefnydd i chi hefyd wrth ichi ateb cwestiynau’r unigolion neu’r teulu rydych yn eu lletya am Gymru.

Sut mae'r cynllun noddi'n gweithio?

Creodd Llywodraeth y DU ddau gynllun fisa i bobl o Wcráin: y Cynllun Teuluoedd o Wcráin a'r Cynllun Cartrefi i Wcráin. Mae'r Cynllun Teuluoedd o Wcráin bellach wedi cau. Mae'r canllawiau hyn ar gyfer noddwyr o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin, sef y llwybr a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU i bobl sy'n ffoi o Wcráin nad oes ganddynt unrhyw deulu yn y DU.

Lluniodd Llywodraeth y DU y cynllun er mwyn rhoi cyfle i bobl gynnig llety am o leiaf chwe mis, ac i baru'r cynigion hynny â phobl o Wcráin sydd am ddod i'r DU. Rhaid i'r noddwr a'r unigolyn o Wcráin gysylltu â'i gilydd y tu allan i'r system, a bydd yr ymgeisydd o Wcráin yn enwi ei noddwr yn y DU yn ystod y broses gais.

Os oes gennych ddiddordeb mewn noddi ond na allwch ymrwymo i 6 mis, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu trefniadau lletya ymateb yng Nghymru. Nod y trefniadau lletya ymateb yw dyrannu newydd-ddyfodiaid yn uniongyrchol i letywyr drwy lwybr uwch-noddi Llywodraeth Cymru .  Bydd lletywyr ymateb yn darparu llety am hyd at 75 diwrnod ar ôl i'r unigolyn gyrraedd Cymru . Os ydych am weithredu fel lletywr ymateb, rhaid ichi roi gwybod i'r awdurdod lleol cyn dechrau'r trefniant.  Bydd hyn yn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn gallu cefnogi eich gwestai i symud ymlaen o fewn y 75 diwrnod.

Gall sefydliadau fel RESET, Citizens UK a Refugees at Home helpu i hwyluso cysylltiadau rhwng pobl o’r Wcráin a noddwyr nad oes ganddynt unrhyw gysylltiadau blaenorol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Find a sponsor using recognised providers: Homes for Ukraine.

Rydym yn eich annog i ddefnyddio gwasanaethau paru sefydledig fel RESET yn hytrach na mynd ati’n anffurfiol drwy’r cyfryngau cymdeithasol, a fydd yn sicrhau eich bod yn deall yn llawn eich cyfrifoldebau fel noddwr ac a fydd yn paru pobl mewn ffordd fwy addas.

Nid yw lletya unigolion yn gysyniad newydd yn y DU, ond mae cynllun torfol fel Cartrefi i Wcráin yn ddigynsail. Mae NACCOM (rhwydwaith dim llety) wedi darparu cyngor a chymorth i bobl sy’n lletya ffoaduriaid a cheiswyr lloches ers blynyddoedd lawer. Maent wedi creu pecynnau i helpu noddwyr i ystyried p’un a yw lletya yn addas iddynt. Mae RESET hefyd wedi creu pecyn ar gyfer noddwyr.

Cyn gynted ag y byddwch wedi gwneud cysylltiad ag unigolyn penodol rydych am ei noddi, dylech fod yn barod i gwblhau cais am fisa gyda'r person hwnnw.

Dim ond i letywr nad yw'n aelod agos o deulu'r gwestai y rhoddir taliadau diolch. Mae aelod agos o'r teulu yn cynnwys:

  • priod, neu bartner sifil neu ddibriod
  • rhiant
  • rhiant yng nghyfraith
  • mab neu ferch
  • mab yng nghyfraith neu ferch yng nghyfraith
  • llysfab neu lysferch
  • brawd neu chwaer
  • taid/tad-cu neu nain/mam-gu
  • priod, neu bartner sifil neu ddibriod unrhyw un o'r uchod

Bydd cynghorau yn penderfynu p'un a yw lletywr yn aelod agos o deulu'r gwestai cyn rhoi taliadau diolch.

Mae gan gynghorau ddisgresiwn ynghylch pa wybodaeth y maent yn ei defnyddio i benderfynu ar hyn.

Rhaid i ymgeiswyr fodloni rhai gwiriadau diogelwch sylfaenol cyn ymadael. Byddant yn cael fisa cychwynnol sy'n rhoi caniatâd iddynt fyw a gweithio yn y DU am chwe mis. Efallai y bydd angen iddynt roi manylion biometrig yn un o'r canolfannau fisa yn y DU.

Cynllun Uwch-noddwr

Fel rhan o’r cynllun Cartrefi i Wcráin, mae Cymru wedi dod yn Uwch-noddwr sy’n cynnig llwybr noddfa arall yma yng Nghymru.  Mae'r llety cychwynnol a sefydlwyd yng Nghymru i gefnogi'r niferoedd uchel o bobl a oedd yn cyrraedd wedi cau erbyn hyn.  Mae ein cynllun uwch-noddi nawr yn ceisio gosod Wcreiniaid gyda lletywr pan fyddant yn cyrraedd. Os na ellir gwneud hynny, bydd Llywodraeth Cymru yn trefnu 75 diwrnod o lety hunanarlwyo.

Gallai gwesteion sy'n gadael Llety Croeso neu lety ymateb gael cynnig gan letywr ar sail tymor hirach.  Efallai bod trefniant lletya gwesteion eraill wedi dod i ben a’u bod yn dymuno dod o hyd i letywr arall sy’n gallu cynnig lleoliad iddynt. Gall eich awdurdod lleol eich cefnogi i baru ag unigolyn neu deulu drwy’r llwybr hwn.

Pethau y mae angen ichi eu hystyried cyn lletya

Mae lletya neu noddi pobl o wlad arall yn rhywbeth hynod hael i’w wneud, ond mae’n ymrwymiad enfawr, a dylech ofyn i chi’ch hun a oes gan eich eiddo’r canlynol:

  • digon o le i fyw yn gyfforddus
  • mynediad hawdd at drafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy
  • siopau a bwytai gerllaw
  • cyfleoedd cyflogaeth yn yr ardal
  • ysgolion a chyfleusterau addysg gerllaw
  • cyfleoedd i gymdeithasu yn yr ardal

Gall lletya fod yn brofiad gwerth chweil, ond mae rhai pethau pwysig y dylech feddwl amdanynt cyn cytuno i letya fel:

  • costau cartref ychwanegol gyda mwy o bobl yn byw yn eich cartref
  • cyfathrebu â gwesteion nad ydynt yn siarad eich iaith gyntaf yn rhugl
  • newidiadau yn eich cartref wrth ei rannu â gwesteion a sut y gallai eraill deimlo am hyn
  • gwahaniaethau o ran arferion byw, gan gynnwys tasgau o gwmpas y tŷ a dewisiadau bwyta
  • penderfynu ar ffiniau a sut ydych chi am gyd-fyw

Dylech gwrdd â’r gwestai yn gyntaf, drwy fideoalwad, neu wyneb yn wyneb os ydynt eisoes yn y DU, i ddarganfod mwy amdanynt a’u hanghenion, ac i fod yn glir ynghylch telerau’r trefniant lletya.

Gallwch ofyn i’ch awdurdod lleol eich helpu i drefnu cyfarfod gyda’r gwestai mewn lleoliad niwtral.

Dylai’r penderfyniad i letya unigolyn neu deulu gynnwys pawb yn eich cartref.

Pa wiriadau y mae angen eu gwneud?

I gael eich cadarnhau fel noddwr, rhaid ichi fod dros 18 oed a rhaid ichi fod yn byw yn y DU. Rhaid ichi fod yn ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig neu fod â statws preswylydd sefydlog yn y DU. 

Bydd angen ichi ddarparu un o'r dogfennau canlynol:

  • Pasbort gan y DU neu Iwerddon neu gerdyn pasbort gan Iwerddon
  • Trwydded breswylio fiometrig neu gerdyn preswylio biometrig dilys
  • Dogfen Deithio'r Swyddfa Gartref
  • Côd rhannu a dyddiad geni, at ddiben gwiriad ar-lein o hunaniaeth a statws - Gwirio statws mewnfudo rhywun: defnyddio eu cod rhannu
  • Trwydded yrru â llun a gyhoeddwyd gan y DU, Iwerddon, neu un o'r tiriogaethau sy'n ddibynnol ar y Goron ynghyd â thystysgrif geni neu fabwysiadu a gyhoeddwyd gan y DU, un o'r tiriogaethau sy'n ddibynnol ar y Goron neu Iwerddon, a manylion bywgraffyddol cyfatebol
  • Cadarnhad y gallwch ddarparu llety am gyfnod o 6 mis o leiaf yn y DU
  • Cadarnhad bod pob oedolyn yn yr aelwyd noddi yn bodloni'r gofynion addasrwydd fel y nodir isod

Gofynnir i noddwyr sy'n ddinasyddion Prydeinig neu Wyddelig ddarparu copi o dudalen bioddata eu pasbort. Gall noddwyr ddefnyddio pasbort sydd wedi dod i ben yn ddiweddar os nad ydynt wedi cael un newydd.

Gall dinasyddion Prydeinig neu Wyddelig nad oes ganddynt basbort dilys yn y DU neu Iwerddon ddarparu tystysgrif geni Prydeinig neu Wyddelig (os cawsant eu geni cyn 1 Ionawr 1983), neu dystysgrif cofrestru neu frodori ynghyd â dogfen â llun, ee: 

  • Cerdyn Cynllun Safonau Prawf Oedran
  • Cerdyn Hawlio Cenedlaethol
  • Trwydded yrru Brydeinig neu Wyddelig â llun
  • Cerdyn pasbort Gwyddelig a/neu basbort nad yw gan y DU neu Iwerddon

Os oes gan eich noddwr gyfrif UKVI, gall ddefnyddio'r gwasanaeth Gweld a phrofi ar-lein i ddangos ei hunaniaeth. 

  • Cadarnhad y gallwch ddarparu llety am gyfnod o 6 mis o leiaf yn y DU
  • Cadarnhad bod pob oedolyn yn yr aelwyd noddi yn bodloni'r gofynion addasrwydd fel y nodir isod

Dylai eich llety:

  • gynnwys y nodweddion diogelwch priodol yn ôl oedran ac anghenion penodol unrhyw blant sydd i gael llety 

Llety

Ni chewch godi rhent ar yr unigolyn neu’r teulu rydych yn ei letya o dan y cynllun. Mae pob math o lety’n wahanol, ond mae’n rhaid sicrhau bod eich llety yn rhydd o beryglon difrifol i iechyd a diogelwch ac yn cynnwys dodrefn ac eitemau angenrheidiol sylfaenol megis dillad gwely a thyweli. Rydym wedi nodi rhai canllawiau penodol yn Atodiad A.

Mae agor eich cartref yn rhywbeth hynod hael i’w wneud, ond mae rhannu eich ardal fyw yn gallu dod â’i heriau. Yn aml, mae cael trafodaeth agored am eich disgwyliadau cyn i’ch gwestai gyrraedd, neu’n fuan wedyn, yn gallu osgoi tensiynau posibl. Dyma rai pethau y byddwch am eu hystyried efallai a chytuno arnynt gyda’ch gwestai:

  • os a lle caiff ysmygu neu yfed alcohol
  • amser rhesymol pan ddylai’r tŷ fod yn dawelach
  • sut mae’ch gwestai i drin eich eiddo neu’r rhan o’r eiddo lle mae’n byw
  • ardaloedd cyffredin a rennir
  • pwy fydd yn gyfrifol am dalu’r biliau (gweler Cyfraniadau rhesymol tuag at gostau byw)
  • dod â’r trefniant lletya i ben gan y naill neu’r llall
  • y ffiniau sy’n hanfodol i’r naill a’r llall

Gall eich gweithiwr achos yn yr awdurdod lleol eich cefnogi gyda hyn.

Os yw o gymorth, efallai y byddwch am ddefnyddio cytundeb eithriedig enghreifftiol. Ni fydd y cytundeb enghreifftiol yn gwneud y trefniant hwn yn denantiaeth, ar yr amod nad ydych yn codi rhent.

Mae dau fath o gytundeb enghreifftiol y gellid eu defnyddio; Cytundeb Trwydded Eithriedig neu Gytundeb Tenantiaeth Eithriedig. Nid oes unrhyw ofyniad i ddefnyddio y naill fath o gytundeb na’r llall fel rhan o’r cynllun noddi, ond gallai’r rhain helpu i sicrhau bod pob parti yn deall beth yw telerau eu trefniant. Mae’n bosibl y bydd rhai benthycwyr morgeisi yn gofyn ichi ddefnyddio cytundeb trwydded.

Os yw eich gwesteion yn rhannu llety â chi, er enghraifft yn defnyddio ystafelloedd gwely i westeion ac yn rhannu cegin â chi, y Cytundeb Trwydded Eithriedig sydd fwyaf addas (sydd ar gael yn yr iaith Wcreineg a Rwseg).

Os yw eich gwesteion yn byw mewn llety hunangynhwysol (fel llety gwyliau) yna y Cytundeb Tenantiaeth Eithriedig sydd fwyaf addas (sydd ar gael yn yr iaith Wcreineg a Rwseg).

Bydd rhywun o’r awdurdod lleol yn ymweld â chi o leiaf unwaith, yn fuan ar ôl i unigolyn gyrraedd, er mwyn cadarnhau bod y llety yn addas, bod yr unigolyn yn iach, ac nad oes unrhyw bryderon difrifol o ran diogelwch neu les. Mae’n bosibl y trefnir ymweliadau ychwanegol. Mae rhagor o wybodaeth am rôl awdurdodau lleol i’w gweld yma: Cartrefi i Wcráin: canllawiau i awdurdodau lleol.

Lesddeiliaid

Os ydych yn lesddeiliad, bydd angen ichi edrych ar delerau eich les i weld a oes caniatâd ichi gael lletywyr neu is-denantiaid.

Os nad ydych yn siŵr am y caniatadau y mae’n ofynnol ichi eu cael yn ôl eich les, gallwch gael cyngor am ddim gan y Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau (LEASE). Gallwch hefyd wneud apwyntiad dros y ffôn ag un o gynghorwyr LEASE drwy ffonio 020 7832 2500, neu wneud apwyntiad ar-lein.  

Tenantiaid

Os ydych yn rhentu eich eiddo, gallai eich cytundeb tenantiaeth gynnwys telerau sy’n dweud bod angen caniatâd eich landlord arnoch cyn y gallwch letya gwestai.

Bydd unrhyw delerau yn eich cytundeb tenantiaeth nad ydynt yn caniatáu ichi gael lletywyr neu is-denantiaid hefyd yn berthnasol i’r trefniadau noddi hyn. Os oes angen caniatâd arnoch, mae’n well cael hyn yn ysgrifenedig.

Os nad ydych yn gwybod beth mae eich cytundeb tenantiaeth yn gofyn amdano i letya rhywun o Wcráin, gallwch gael cyngor am ddim gan Cyngor ar Bopeth neu Shelter.

Gallwch gysylltu â Cyngor ar Bopeth drwy’r gwasanaeth ffôn cenedlaethol ar:

Llinell Gyngor (Cymru): 0800 702 2020

Ar gyfer Shelter, edrychwch ar y dudalen ‘find out where to get the right advice’.

Llety hunangynhwysol

Os gallwch gynnig llety hunangynhwysol i’ch gwestai, dylech gytuno â’ch gwestai pwy fydd yn talu’r dreth gyngor.

P'un a yw eich gwestai yn byw gyda chi neu yn eich llety hunangynhwysol, bydd angen ichi gynnal y gwiriadau lletya o hyd er mwyn cael y taliad i’r rhai sy’n lletya.

Lletya rhywun sydd eisoes yn y DU (ailbaru)

Efallai y bydd eich awdurdod lleol yn gofyn ichi letya gwestai neu deulu sydd wedi gadael eu lletywr cyntaf. Gallai hyn fod naill ai oherwydd nad yw eu lletywr blaenorol yn gallu eu cefnogi mwyach, neu oherwydd bod y cyfnod noddi cychwynnol wedi dod i ben, neu oherwydd eu bod wedi cael eu rhoi mewn llety croeso neu lety ymateb, a bod angen iddynt symud i lety tymor hirach. Gallai trefniant lletya eu cefnogi yn eu camau nesaf tuag at fyw'n annibynnol.

Dylech feddwl am yr hyn y mae angen ichi ei wybod cyn ichi letya gwestai.

Fel arfer, mae angen llai o gymorth ar westeion sydd eisoes yn byw yn y DU ac eisiau ‘ailbaru’ na rhywun sydd wedi cyrraedd y wlad yn ddiweddar. Mae llawer o westeion eisoes wedi dod o hyd i waith, wedi datblygu rhwydweithiau ac wedi ymgartrefu yn yr ardal leol; gan eu gwneud yn fwy hunangynhaliol, a nhw sydd fwyaf tebygol o fod angen llai o gymorth gan eu lletywr.

Os gofynnir ichi drwy’r cyfryngau cymdeithasol neu grŵp cymunedol i letya gwestai neu deulu sydd eisoes yn y DU, mae angen ichi gysylltu â’ch awdurdod lleol ar unwaith i wneud yn siŵr y gallant wneud y gwiriadau angenrheidiol. Fel rhan o’r Cynllun Uwch-noddwr, rhaid ichi fod wedi pasio gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a’r gwiriadau llety perthnasol cyn i leoliad gael ei gymeradwyo. Ni fydd gennych hawl i’r taliadau ‘diolch’ oni bai eich bod wedi cwblhau’r gwiriadau hyn.

Os nad ydych yn gwneud hyn, ni fydd yr ailbaru yn cael ei gydnabod fel rhan o’r cynllun Cartrefi i Wcráin, ac ni fyddwch yn gymwys am y taliad ‘diolch’ nes bydd y gwiriadau wedi’u cwblhau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried y risgiau posibl os ydych yn lletya gwestai heb unrhyw wiriadau.

Morgais ac yswiriant cartref

Mewn rhai achosion, bydd angen ichi gysylltu â’ch landlord, eich rhydd-ddeiliad neu’ch darparwr morgais, a’ch cwmni yswiriant, i weld a oes ganddynt unrhyw bolisïau y mae angen ichi eu hystyried.

Mae’n bwysig iawn eich bod yn meddwl drwy unrhyw oblygiadau posibl ar gyfer eich tenantiaeth, eich morgais, eich les a’ch yswiriant cyn i’ch gwestai gyrraedd y DU.

Mae cwmnïau yswiriant wedi cytuno nad oes angen i berchnogion cartrefi sy’n rhoi llety i bobl o Wcráin yn eu cartrefi gysylltu â’u cwmni yswiriant, ar y sail bod yr unigolyn neu’r teulu rydych yn ei letya yn ‘westeion nad ydynt yn talu’.

Gweler datganiad Cymdeithas Yswirwyr Prydain am ragor o fanylion.

Mewn sefyllfaoedd eraill, gan gynnwys pan fydd y noddwr yn landlord neu’n denant, bydd angen ichi gysylltu â'ch cwmni yswiriant.

Mae rhoddwyr benthyciadau wedi ymrwymo i sicrhau bod modd i gymaint o fenthycwyr â phosibl gymryd rhan yn y cynllun. Os oes morgais gennych ar yr eiddo, bydd angen ichi edrych ar wefan y darparwr morgais am ragor o gyfarwyddiadau.

Os ydych yn ystyried gwneud cais i fod yn noddwr, dylech edrych ar wefannau eich darparwr morgais a’ch cwmni yswiriant am ragor o wybodaeth neu gysylltu â nhw’n uniongyrchol.

Taliadau interim eich gwesteion

Pan fydd gwesteion yn cyrraedd Cymru drwy’r cynllun Cartrefi i Wcráin, maent yn gymwys am daliad interim o £200 at gostau byw cyn y byddant yn gallu cael Credyd Cynhwysol neu swydd. Gweinyddir hyn gan gyngor lleol ardal llety’r noddwr. Ni fydd angen ad-dalu’r £200. Arian yr unigolyn o Wcráin yw hwn ac ni ddylai’r noddwr neu’r lletywr ofyn amdano. Bydd disgresiwn gan awdurdodau lleol hefyd i roi cymorth pellach i unigolion sy’n cyrraedd o Wcráin drwy daliadau ychwanegol.

Mae’r taliad wedi’i fwriadu ar gyfer gwesteion yn unig, ac nid i’w ddefnyddio gan y lletywr.

Taliadau diolch

Dim ond i letywr nad yw'n aelod agos o deulu'r gwestai y rhoddir taliadau diolch. Ystyrir gwesteion sydd eisoes yn y DU ac sy'n symud i mewn gydag aelod agos o'r teulu fel rhai sydd wedi gadael y cynllun Cartrefi i Wcráin yn hytrach nag fel rhai sydd wedi'u hailbaru.

Mae aelod agos o'r teulu yn cynnwys:

  • priod, neu bartner sifil neu ddibriod;
  • rhiant;
  • rhiant yng nghyfraith;
  • mab neu ferch;
  • mab yng nghyfraith neu ferch yng nghyfraith;
  • llysfab neu lysferch;
  • brawd neu chwaer;
  • taid/tad-cu neu nain/mam-gu;
  • priod, neu bartner sifil neu ddibriod unrhyw un o'r uchod.

Dylai cynghorau benderfynu p'un a yw noddwr/lletywr yn aelod agos o deulu'r gwestai cyn rhoi taliadau diolch.

Mae gan gynghorau ddisgresiwn ynghylch pa wybodaeth y maent yn ei defnyddio i benderfynu ar hyn.

Bydd angen ichi fod yn siŵr eich bod mewn sefyllfa sy'n ddiogel yn ariannol er mwyn cynnig cartref sefydlog i rywun sydd ei angen. Yn dibynnu ar wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd uchod a chadarnhad gan yr awdurdod lleol fod y llety sy'n cael ei gynnig yn addas, byddwch yn cael taliad. Os nad ydych yn ymgysylltu â gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ni fyddwch yn cael taliad ac mae’n bosibl y bydd yr awdurdod lleol yn atal neu’n terfynu trefniant lletya gyda chi os na fyddwch yn cwblhau’r rhain yn amserol.

Cewch ddewis cael taliad misol, mewn ôl-daliadau, am hyd at 3 blynedd ar ôl i’ch gwestai gyrraedd y DU.  Cewch hefyd ddewis cael taliad diolch misol os yw'ch gwestai yn gwneud cais am estyniad 18 mis o dan Gynllun Estyn Caniatâd Wcráin, sy'n agor ar gyfer ceisiadau ar 4 Chwefror: Gwneud cais am Gynllun Estyn Caniatâd Wcráin.

O 1 Ebrill 2025, bydd lletywyr cymwys yng Nghymru yn cael taliadau diolch o £500 y mis yn ystod y 12 mis cyntaf ar ôl i'w gwesteion gyrraedd y DU. Bydd £350 yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU a bydd £150 yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru. 

Wedi hynny, bydd y taliad lletya hwn yn gostwng i £350 y mis unwaith y bydd y gwesteion wedi bod yn y DU am 12 mis.   

Bydd taliadau ar gyfer dyddiau olaf trefniant lletya ymateb yn cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru os na fydd eich gwestai yn aros gyda chi am o leiaf hanner y mis. Y rheswm am hyn yw mai dim ond os yw'ch gwestai yn byw gyda chi am o leiaf hanner mis y byddwch yn gymwys i gael taliad diolch Llywodraeth y DU.  Byddwch yn hawlio’r taliadau drwy’r awdurdod lleol, a fydd yn cymryd eich manylion banc ac yn egluro’r broses ichi.

Diben y taliad diolch yw eich helpu i dalu’r costau sy’n gysylltiedig â’r cymorth rydych yn ei roi. Taliad i ddweud diolch ydyw. Nid yw’n gyfystyr â rhent nac unrhyw fath o daliad cytundebol arall. Ni chewch godi rhent ar yr unigolion neu'r teuluoedd y byddwch yn eu lletya. Gallai codi rhent droi trefniant lletya yn denantiaeth, gan roi hawliau i’r unigolion neu’r teulu rydych yn eu lletya.

Byddwch yn gymwys i gael y taliad misol cyntaf ar ôl i'r awdurdod lleol gadarnhau bod gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a’r gwiriadau llety yn foddhaol.

Ni waeth faint o bobl rydych yn eu lletya, dim ond un taliad y gall unrhyw gyfeiriad preswyl ei hawlio, ac yng Nghymru, byddwch yn cael y taliad hwn drwy eich awdurdod lleol. Mae’n bosibl y bydd yn cymryd peth amser i brosesu’r taliadau, ond cânt eu hôl-ddyddio. I noddwyr sy'n cael budd-daliadau, mae Llywodraeth y DU yn sicrhau na fydd y taliadau diolch hyn yn effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau, ac ni chodir trethi arnynt. Ni fydd taliadau diolch yn effeithio ar y gostyngiad i'r dreth gyngor i bobl sy'n byw ar eu pen eu hun. Os bydd yr unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya yn symud allan o'ch cartref am unrhyw reswm, mae'n rhaid ichi roi gwybod i'ch awdurdod lleol cyn gynted â phosibl. Bydd angen ichi hefyd roi gwybod iddo nad ydych yn gymwys mwyach am y taliadau misol.

Cyfraniadau rhesymol tuag at gostau byw

Mae’n bwysig bod lletywyr a gwesteion yn cael sgyrsiau agored, rheolaidd ynghylch talu am gostau byw gwahanol, megis bwyd, cludiant a biliau’r cartref. Bydd hyn yn sicrhau bod pawb yn gwybod beth sy’n ddisgwyliedig ganddynt o’r dechrau, a fydd gobeithio yn helpu i osgoi unrhyw anawsterau posibl yn ystod y trefniant.

Nid oes disgwyl i noddwyr dalu costau bwyd eu gwesteion, er y bydd rhai am helpu ar y dechrau efallai, yn enwedig pan fyddant newydd gyrraedd, ee efallai y bydd rhai noddwyr am wneud prydau i’w gwesteion tra byddant yn ymgartrefu yn y dechrau’n deg.

Mae gan bob unigolyn a ddaw i’r DU drwy’r cynllun Cartrefi i Wcráin hawl i weithio a gwneud cais am gredyd cynhwysol/budd-daliadau. Gall noddwyr a lletywyr ofyn i’w gwesteion am gyfraniad rhesymol a chymesur (yn ôl eu defnydd) am ddŵr, nwy neu drydan a ddefnyddiwyd neu a ddarparwyd i’r llety neu i unrhyw gyfleusterau a rennir. Efallai na fydd rhai lletywyr am ofyn am gyfraniad o gwbl, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau ariannol.

Wrth ystyried faint fyddai’n rhesymol ac yn gymesur i westai ei gyfrannu, rydym yn cynghori’n gryf y dylid nid dim ond cytuno â’r gwestai ynghylch y mater, ond y dylid hefyd ystyried ei amgylchiadau unigol. Mae yna senarios gwahanol o bob math a allai effeithio ar eich gwestai, megis oedi yn ei daliadau credyd cynhwysol/budd-daliadau neu ei fod yn cefnogi aelodau o’i deulu sy’n dibynnu arno yn Wcráin. Ni fydd gwesteion a gaiff eu lletya yn gymwys am elfen budd-dal tai Credyd Cynhwysol, ond byddant yn gymwys am y lwfans safonol, y mae disgwyl iddo dalu am fwyd a chostau hanfodol. Os ydych yn lletya teulu mawr, cofiwch y gallai’r Cap ar Fudd-daliadau fod yn berthnasol i’r teulu.

Yn achos gwesteion sy’n cael gwaith, ni ddylid cymryd yn ganiataol eu bod felly yn gallu talu cyfraniadau uwch gan y gallent fod ar yr isafswm cyflog neu ar gontract dim oriau, neu mewn galwedigaeth ansicr. Dyma pam ei bod yn bwysig cael sgyrsiau agored, rheolaidd. Byddant yn sicrhau bod ffactorau o bob math yn cael eu hystyried.

Er y caiff noddwyr neu letywyr ofyn am gyfraniad tuag at filiau’r cartref, nid oes rheidrwydd ar westeion i roi arian o ran amodau eu fisa. Ni ddylid gofyn byth i westeion dalu unrhyw rent. Mae hefyd yn bwysig peidio â gofyn i westeion wneud cyfraniadau ariannol afrealistig.

Ar ôl cyrraedd, darperir taliad interim o £200 i bob gwestai i’w helpu gyda chostau cynhaliaeth y maen nhw’n eu hwynebu ar unwaith. Bwriad y taliad interim yw helpu’r newydd-ddyfodiaid hyd nes i’w cais am Gredyd Cynhwysol gael ei brosesu. Rydym yn cynghori gwesteion i ofyn am Ragdaliadau wrth wneud cais am Gredyd Cynhwysol i sicrhau nad ydynt yn gorfod aros hyd at 5 wythnos am gymorth ychwanegol. Caiff y Taliad Interim ei weinyddu gan yr awdurdod lleol, a gellir ei ddefnyddio ar gyfer eitemau hanfodol y bydd llawer wedi cyrraedd hebddynt.

Ni fydd lletya unigolyn yn golygu unrhyw gostau ychwanegol ichi o ran treth gyngor.

Sut y dylwn i groesawu a chefnogi pobl o Wcráin?

Llety addas

Y peth pwysicaf yw eich bod yn gallu darparu o leiaf 6 mis, neu 75 diwrnod os ydych yn gweithredu fel lletywr ymateb, o lety sefydlog ac addas. Gall hyn fod yn unrhyw beth o ystafell wag i gartref gwag, cyn belled ag y bo'n ddiogel ac yn rhydd o beryglon iechyd. Rydym yn gofyn am noddwyr neu letywyr a all gynnig o leiaf ystafell wag, i sicrhau diogelwch a phreifatrwydd eu gwesteion. Ni fyddai’n briodol cynnig gwely mewn ardal a rennir. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran o'r canllaw sy'n trafod llety ac yn Atodiad A.

Rhoi cymorth

Ar ben cynnig llety, mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud er mwyn helpu'r unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya i ymgartrefu.

Casglu o'r maes awyr/porthladd

Er nad oes rhaid ichi wneud hyn, gallwch drefnu i gasglu'r unigolyn rydych yn ei letya o'r maes awyr neu'r porthladd pan fydd yn cyrraedd y DU. Os nad oes modd ichi wneud hyn, dylech roi gwybod iddo am y ffordd orau o gyrraedd eich cartref o'r pwynt lle mae'n cyrraedd y DU. Mae gan unigolion sy’n cyrraedd o Wcráin hawl i gael un tocyn unffordd am ddim ar y rheilffordd genedlaethol, rheilffordd ysgafn, bws a choets i'w cyrchfan derfynol.

Trafnidiaeth a dod o hyd i’w ffordd o gwmpas

Mae'n annhebygol y bydd yr unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya yn gyfarwydd â’ch ardal leol, nac yn gwybod sut i ddod o hyd i'w ffordd o gwmpas yn hawdd. Byddai'n ddefnyddiol iawn pe byddech yn gallu rhoi cyngor ymarferol ar faterion megis teithio i'ch cartref, ble mae'r siopau lleol, a ble i ddal y bws neu'r trên. Fel noddwr, nid oes disgwyl ichi ddarparu trafnidiaeth i'r bobl rydych yn eu noddi pan fyddant yn aros gyda chi.

Bydd angen i'ch gwestai dalu i deithio ar fws neu drên yng Nghymru.

Efallai y byddant yn gymwys am un o'r cynlluniau teithio am ddim neu am bris rhatach sydd ar gael os ydynt: 

  • yn 60 oed neu’n hŷn
  • yn anabl
  • yn blentyn neu’n berson ifanc 

I gael rhagor o wybodaeth am y rhain a thocynnau teithio rhatach eraill, gweler  neu cysylltwch â'ch gweithredwr bysiau lleol.

Cofrestru gyda meddyg teulu

Hyd yn oed os nad yw’r unigolyn yn sâl, mae cofrestru gyda meddyg teulu lleol cyn gynted â phosibl yn rhan hollbwysig o helpu rhywun i ymgartrefu yn y DU. Rydym yn eich cynghori i helpu’r unigolion neu’r teulu rydych yn eu lletya i wneud hyn.

Gallech helpu’r unigolyn neu’r teulu rydych yn ei letya i gysylltu â phractis o’ch dewis a gofyn am gael eu cynnwys ar eu rhestr gleifion. Fel arall, bydd gan eich bwrdd iechyd lleol restr o’r holl feddygfeydd yn eich ardal: ymddiriedolaethau a byrddau iechyd GIG Cymru.

Mae gan unrhyw un yng Nghymru yr hawl i gofrestru a chael triniaeth gan feddyg teulu. Nid oes angen cyfeiriad sefydlog na manylion i brofi pwy ydych chi. Os oes angen cyfieithydd, efallai y byddai’n werth esbonio hynny i’r feddygfa ymlaen llaw. Mae gan bawb yr hawl i ofyn am gyfieithydd a chael cyfieithydd am ddim gan ddarparwyr gofal iechyd. Os oes unrhyw broblemau, gallwch ffonio 111 yng Nghymru (yn rhad ac am ddim) neu 0845 46 47.

Yn ogystal, bydd gan y rhai sy’n ceisio noddfa o Wcráin hawl hefyd i gael mynediad at ysbytai a gwasanaethau mamolaeth, yn ogystal â phresgripsiynau, a’r cyfan yn rhad ac am ddim. Os yw’r unigolyn rydych yn ei letya yn feichiog, rhowch help llaw iddynt i roi gwybod i feddygfa a chofrestru yno cyn gynted â phosibl i sicrhau eu bod yn cael cymorth yn ystod eu beichiogrwydd.

Cofrestru gyda deintydd

Yn ogystal â chofrestru gyda meddyg teulu, dylai'r unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya gofrestru gyda deintydd.

Rydym yn cydnabod na fydd gan rai deintyddfeydd gapasiti ar gyfer cleifion o dan y GIG efallai.

Ymhlith yr opsiynau mae:

  • cysylltu â rhai deintyddfeydd lleol sydd o dan y GIG a’u holi
  • cysylltu â'ch bwrdd iechyd lleol drwy eu llinell gymorth (GIG 111 Cymru - Gwasanaethau yn agos atoch chi: Deintydd), gan fod ganddynt restr o ddeintyddfeydd neu
  • os yw’n argyfwng, cysylltu â Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647

Agor cyfrif banc

Mae'n bwysig bod pobl sydd newydd gyrraedd o Wcráin yn agor cyfrif banc cyn gynted â phosibl. Byddai'n ddefnyddiol rhoi gwybod iddynt bod amrywiaeth o fanciau y gellir dewis ohonynt, gan gynnwys rhai sy'n darparu gwasanaethau ar-lein yn unig. Er mwyn agor cyfrif banc, fel rheol bydd angen i unigolyn ddangos dogfen i brofi pwy ydyw megis pasbort neu drwydded yrru neu gerdyn adnabod cydnabyddedig, yn ogystal â phrawf o'i gyfeiriad. Mae rhagor o wybodaeth am sut i agor cyfrif banc ar gael ar wefan Noddfa.

Helpu'r bobl hynny sy'n gymwys i gael cymorth ariannol i gael gafael arno

Os yw'r unigolyn neu aelodau’r teulu rydych yn eu lletya yn ddigon hen i weithio, bydd modd iddynt wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Yn ystod y broses gais, dylid gofyn am ragdaliadau os bydd angen arian arnynt cyn pen 5 wythnos. Bydd llawer o’r unigolion sy’n cyrraedd yn gymwys am hyn, ond bydd yn rhaid gwneud cais penodol am ragdaliadau. Bydd gan bobl o Wcráin sydd o oedran pensiwn yr hawl i gael Credyd Pensiwn y Wladwriaeth a Budd-dal Tai, ar yr amod eu bod yn bodloni'r meini prawf cymhwystra.

Gall Cyngor ar Bopeth Cymru roi cyngor ar fudd-daliadau. I gael rhagor o wybodaeth, neu ffoniwch: 0800 702 2020. Gallwch ffonio rhwng 9am a 5pm ddydd Llun i ddydd Gwener.

Cefnogi o ran mynediad at addysg

Mae gan bob plentyn a pherson ifanc sy'n cyrraedd o dan y cynlluniau i helpu pobl Wcráin yr hawl i gael mynediad at addysg tra byddant yn y DU.

Bydd mynediad at addysg yn allweddol i blant, o ran sicrhau bod y cyfnod o amharu ar eu haddysg mor fyr â phosibl, ond i sicrhau hefyd eu bod yn teimlo bod croeso iddynt ac yn dechrau ymgartrefu yn eu cymunedau newydd. Gallech helpu'r teulu sy’n aros gyda chi, drwy gael gwybodaeth gan eich awdurdod lleol am ysgolion lleol a'r broses dderbyn.

Pan fydd eich gwestai/gwesteion o Wcráin wedi cael cynnig lle mewn ysgol, dylent ymateb i’w hawdurdod lleol a dweud p’un a ydynt am dderbyn y cynnig.

Os bydd eich gwestai/gwesteion wedi penderfynu gwneud eu trefniadau addysgol eu hunain, h.y. darparu addysg yn y cartref, rhaid iddynt roi gwybod i’r awdurdod lleol, er mwyn gallu rhoi cyngor, cefnogaeth a chanllawiau pellach i’r teulu lle bo angen.

‌Gofal plant a chefnogaeth leol i deuluoedd‌

Mae Teulu Cymru yn darparu gwybodaeth am ofal plant neu gymorth ariannol, a gwasanaethau lleol i deuluoedd. Mae hefyd yn cynnwys awgrymiadau a chyngor i rieni, a dolenni i gymorth defnyddiol, fel cael help gyda chostau ysgol.

Sgrinio TB a mynediad at addysg

Haint bacterol yw twbercwlosis (TB) sy'n cael ei ledaenu drwy anadlu i mewn ddefnynnau bach iawn o beswch neu disian rhywun sydd wedi’i heintio.

Mae’n effeithio ar yr ysgyfaint yn bennaf. Fodd bynnag, mae’n gallu effeithio ar unrhyw ran o’r corff, gan gynnwys y bol (abdomen), chwarennau, esgyrn a’r system nerfol.

Mae TB yn gyflwr a allai fod yn ddifrifol, ond gellir ei wella os yw’n cael ei drin gyda’r gwrthfiotigau cywir.

Cynigir cyfle i bob unigolyn 11 oed a throsodd gael eu sgrinio am TB.

Mae profion sgrinio a thriniaeth TB yn rhad ac am ddim.

Gall pob plentyn (hyd at 18 oed) heb unrhyw symptomau amlwg o TB gweithredol fynychu lleoliad addysg ar unwaith, a byddant yn cael cynnig pelydr-x o’r frest cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

Pe bai unigolyn yn arddangos symptomau o TB gweithredol dylent gysylltu â'u meddyg teulu i gael archwiliadau. Ni ddylent fynd i leoliad addysg nes bod yr archwiliadau hynny wedi’u cyflawni, neu eu bod wedi cael triniaeth, ac nad ydynt bellach yn heintus.

Mae symptomau TB gweithredol yn cynnwys:

  • peswch parhaus sy'n para am fwy na thair wythnos ac sydd fel arfer yn creu fflem, a all fod yn waedlyd
  • colli pwysau
  • chwysu yn ystod y nos
  • tymheredd uchel (twymyn)
  • blinder
  • colli archwaeth
  • chwyddo yn y gwddf 

Dod o hyd i swydd

Mae deiliaid fisa Wcráin wedi cael yr hawl i weithio yn y DU.  Rydym am gefnogi newydd-ddyfodiaid i ailadeiladu eu bywydau yng Nghymru. Mae gallu dod o hyd i swydd yn rhan bwysig o'r broses. Mae Cymru'n Gweithio yn cynnig cyngor a chymorth diduedd am ddim, sy'n cynnwys hyfforddiant, uwchsgilio, ysgrifennu CV a thechnegau cyfweld i helpu pobl i gael gwaith neu hyfforddiant.

Ni chewch godi rhent ar Wcreiniaid sy’n cyrraedd o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin. Rydym yn cydnabod bod rhai noddwyr hefyd yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, ond ni chewch ei gwneud yn ofynnol i Wcreiniaid ymgymryd â chyflogaeth na pharhau â’u cyflogaeth er mwyn cael aros yn eu llety. Ni cheir disgwyl llafur am ddim nac am gyflog gostyngol ganddynt, gan gynnwys gwasanaethau domestig a gwaith amaethyddol tymhorol, yn gyfnewid am lety a/neu fwyd.

Cymorth iaith

Yr ieithoedd amlycaf yn Wcráin yw Wcreineg a Rwsieg. Ni ddylech ddisgwyl i'ch gwesteion allu siarad neu ddarllen Saesneg. Gallai gwasanaethau cyfieithu ar-lein am ddim fod yn ddefnyddiol wrth gyfathrebu yn y dyddiau cynnar; fodd bynnag, dylai defnyddwyr nodi nad yw'r rhain bob amser yn gywir.

Os yw'r gwestai'n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, efallai y bydd angen cyfieithwyr. Wrth ddefnyddio gwasanaethau Iechyd, mae dyletswydd ar ddarparwyr y GIG i ddarparu gwasanaeth cyfieithu. Fel rheol, gall yr Adran Gwaith a Phensiynau ddod o hyd i wasanaethau cyfieithu hefyd pan ofynnir amdanynt. Yn anffodus, ni fydd gan bob gwasanaeth ddarpariaeth gyfieithu, ond mae bob amser yn werth gofyn.

Gallwch chi a’ch gwestai gael gwybod am y cyrsiau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) sydd ar gael o dan “Ysgolion a Dysgu” yn adran “Eich Ardal Leol” o wefan Noddfa.

Gall Cymru’n Gweithio hefyd eich helpu i gael mynediad at gyrsiau ESOL. Er bod y rhain am ddim fel arfer, efallai y bydd cymorth ariannol ar gael pan fo diffyg sgiliau Saesneg yn rhwystr i waith.

Gyrru yng Nghymru

Os oes gan eich gwestai drwydded yrru lawn wedi’i dyroddi yn Wcráin, gallant ddefnyddio’r drwydded hon i yrru cerbydau bach (fel beiciau modur, ceir, a cherbydau hyd at 3500kg neu gyda hyd at 8 sedd i deithwyr) am hyd at dair blynedd yn y DU. Rhaid i’r drwydded fod yn berthnasol i’r cerbyd sy’n cael ei yrru a rhaid iddi fod yn ddilys o hyd. Gall y gwestai wedyn newid i drwydded y DU hyd at 5 mlynedd ar ôl dechrau preswylio yma heb orfod pasio prawf gyrru newydd. Gall eich gwestai gael rhagor o wybodaeth am yrru yng Nghymru yma: Sanctuary. Gallwch helpu i gefnogi eich gwestai i ddeall pwysigrwydd sicrhau treth ac yswiriant ar gyfer eu cerbydau, ynghyd ag MOT cyfredol.

Dod i arfer â bywyd yng Nghymru

Gallwch gefnogi'r unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya a'i helpu i ddod i arfer â bywyd yng Nghymru. Y peth cyntaf i'w wneud fydd sicrhau bod pawb yn gysurus yn y llety sydd ganddynt, a bod ganddynt yr eitemau sylfaenol sydd eu hangen. Dylai fod digon o fwyd ac eitemau hanfodol megis pethau ymolchi ganddynt, ac mae'n syniad da sicrhau bod ffôn symudol ganddynt, a ffordd o ddefnyddio'r we er mwyn cadw mewn cysylltiad â'u teulu a'u ffrindiau.

Dylech helpu eich gwestai i ymgyfarwyddo â gwefan Noddfa Llywodraeth Cymru, a all helpu Wcreiniaid gyda chwestiynau o bob math a fydd ganddynt efallai am fywyd yng Nghymru, fel ymholiadau ynghylch trwydded yrru neu wybodaeth am addysg neu gyflogaeth, a llawer mwy o wybodaeth yn seiliedig ar gwestiynau yr ydym wedi gweld eu bod yn bwysig i’n gwesteion o Wcráin.

Gall Gwasanaeth Noddfa Llywodraeth Cymru (a gaiff ei weithredu ar ein rhan gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru) ddarparu cyngor a gwasanaeth eirioli i newydd-ddyfodiaid o Wcráin. Mae hyn yn cynnwys fforwm cymorth rhithiol i’w helpu i gysylltu â’i gilydd a thrafod cyfleoedd a heriau cyffredin yng Nghymru. Mae’r gwasanaeth hefyd yn cynnwys cyngor cyfreithiol ar fewnfudo gan Asylum Justice, lle bo angen.

Gall gwesteion o Wcráin gael gafael ar y gwasanaeth drwy ffonio 0808 196 7273 neu drwy e-bostio ukraine@services.wrc.wales.

Ymddygiad

Rydych eisoes wedi gwneud rhywbeth gwych drwy benderfynu bod yn noddwr neu’n lletywr. Rydych yn cefnogi unigolyn neu deulu sy'n ffoi rhag rhyfel a allai fod yn profi gofid mawr ac yn agored i niwed. Pan fydd y bobl hyn yn cyrraedd Cymru, gwyddom y byddwch yn estyn croeso cynnes iddynt ynghyd â'ch haelioni, eich dealltwriaeth a'ch cefnogaeth.

Drwy siarad yn agored gyda’ch gwestai am ffiniau a disgwyliadau eich gilydd o’r dechrau’n deg, gallwch gefnogi eich gilydd i wneud y trefniant lletya yn llwyddiant. Bydd cael ambell sgwrs ynghylch y sefyllfa o help i’r naill a’r llall, ac yn rhoi cyfle i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau cyn gynted â phosibl.

Iechyd Meddwl

Bydd gwasanaethau iechyd meddwl prif-ffrwd ar gael i unrhyw un sy'n cyrraedd Cymru o Wcráin. Mae cofrestru gyda meddyg teulu yn hanfodol. Disgwylir i’r broses sgrinio iechyd gychwynnol gan feddygon teulu / practis gofal sylfaenol i'r rhai sy'n cyrraedd o Wcráin gynnwys asesiad ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl. Darperir unrhyw driniaeth angenrheidiol fel ar gyfer unrhyw glaf arall naill ai gan y tîm gofal sylfaenol, neu drwy gyfeirio’r claf at Wasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol, y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol neu Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS).

Gallwch chi neu'r unigolyn rydych yn ei letya gysylltu â llinell gymorth iechyd meddwl CALL ar 0800 132 737 neu drwy anfon neges destun i 81066. Mae’r llinell gymorth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn. Gall roi cymorth a gwybodaeth am iechyd meddwl i bobl yng Nghymru, a gall pobl sy'n ceisio noddfa o Wcráin ofyn am gael siarad â rhywun yn eu hiaith eu hunain. Bydd y llinell gymorth hefyd yn gallu eich cyfeirio chi neu'r unigolyn rydych yn ei noddi at gymorth sydd ar gael yn lleol.

Mae Hyb Cymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod wedi datblygu adnoddau a thaflenni sy'n esbonio effeithiau dod i gysylltiad â digwyddiadau gofidus ac maent wedi'u cyfieithu i lawer o ieithoedd.

Mae’r adnoddau yn cynnwys:

  • Taflen ar Gymorth Iechyd a Lles i Bobl sydd wedi’u Dadleoli
  • Taflen ar Gymorth i Bobl sydd wedi Profi Digwyddiadau Gofidus
  • Animeiddiad Navigating the Storm

Mae Hyb Cymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod hefyd wedi cyhoeddi canllawiau defnyddiol ar gyfer noddwyr a lletywyr – sef Cymorth i Bobl sydd wedi’u Dadleoli yng Nghymru mewn Llety Preifat. Mae’r ddogfen yn cynnwys dolenni defnyddiol at nifer o wahanol adnoddau.

Mae taflen benodol hefyd wedi'i pharatoi gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion ar ymdopi ar ôl digwyddiad trawmatig, sy'n cynnwys gwybodaeth i unrhyw un sydd wedi profi digwyddiad trawmatig, neu sy'n nabod rhywun sydd wedi profi digwyddiad o’r fath: Ymdopi ar ôl digwyddiad trawmatig (rcpsych.ac.uk).

Am ragor o wybodaeth, ewch i:

GIG 111 Cymru

Noddfa | Iechyd a lles

Cyfeirir at y daflen a ddatblygwyd gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion ynUseful Resources for Refugee and Asylum Seekers - All Wales Traumatic Stress Quality Improvement In.

Mae gwefan Noddfa hefyd yn cynnwys gwybodaeth am iechyd a lles i bobl sy’n cyrraedd o Wcráin.

Mae nifer o elusennau lleol a chenedlaethol yn darparu gwasanaethau cymorth rheng flaen i bobl sy'n ceisio noddfa, ac yn aml mae yna gapasiti i ddarparu cymorth mewn sawl iaith. Rhestrir rhai o'r gwasanaethau hyn yn Atodiad C.

Mae gan Galw Iechyd Cymru wasanaeth cyfieithu sy'n helpu pobl nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg i gael cymorth yn eu dewis iaith. Mae rhagor o wybodaeth am yr help y gall Galw Iechyd Cymru ei roi i'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg i'w gweld ar wefan Noddfa Cymru.

Efallai y byddai'n werth sicrhau’r unigolyn neu'r bobl sy'n aros gyda chi na fydd eu hanghenion iechyd yn effeithio ar eu statws mewnfudo nac yn effeithio ar y gwasanaethau iechyd a fydd ar gael iddynt. Mae cyfieithiad ar gael ar wefan Noddfa Cymru i'ch helpu gyda hyn.

Adnodd defnyddiol arall yw Dewis Cymru, sef cronfa ddata ar-lein o wasanaethau iechyd a lles ledled Cymru. Gallwch chwilio'r gronfa ddata hon am sefydliadau cymunedol a all gynnig cymorth i ffoaduriaid.

Cymorth gyda phrofedigaeth

Mae Cruse Bereavement Support wedi cyhoeddi gwybodaeth mewn Wcreineg ynghylch deall a delio â galar. Mae'r erthyglau ar gael ar gyfer eich gwestai a gellir eu lawrlwytho neu eu hargraffu. Mae’r erthyglau yn cynnwys cyfarwyddiadau fesul cam ar sut i ffonio llinell gymorth Cruse a chael help drwy gyfieithydd ar y pryd.

Mae ganddynt hefyd erthygl ar eu gwefan ynghylch colledion trawmatig yn ystod anghydfod a rhyfel. Er nad yw’r erthygl hon wedi’i chyfieithu, gallai wir eich helpu chi fel noddwr neu letywr i ddeall profiadau eich gwestai.

Gwasanaethau mewn argyfwng

Gall hefyd fod yn ddefnyddiol rhoi gwybod i'r unigolyn rydych yn ei letya sut i gael gofal iechyd brys. Rhowch wybod iddynt beth yw diben y gwasanaeth 999 a rôl adrannau achosion brys (Damweiniau ac Achosion Brys) os ydyn nhw neu aelod o'r teulu yn cael damwain neu salwch difrifol sydyn. I gael cyngor meddygol brys neu help mewn sefyllfa nad yw'n peryglu bywyd, ewch i GIG 111 Cymru neu ffoniwch GIG 111.

Diogelu

Mae hyfforddiant ar-lein ar gael sy'n rhad ac am ddim, a gall hwnnw eich helpu i ddeall mwy am ddiogelu. Rydym yn eich annog i dreulio amser yn edrych ar yr hyfforddiant hwn. Ewch i wefan Learning@Wales.

Mae diogelu yn golygu cadw plant ac oedolion yn ddiogel rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol a'r Heddlu sy'n bennaf gyfrifol am ymateb pan fydd unrhyw un yn pryderu eu bod nhw neu rywun arall mewn perygl o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod. Fodd bynnag, mae angen i rywun roi gwybod iddynt am bryder cyn y gallant helpu.

Efallai y byddwch yn gweld neu'n clywed rhywbeth sy'n gwneud ichi boeni bod yr unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya mewn perygl o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod. Mae sawl ffurf i gam-drin – er enghraifft, corfforol, emosiynol, rhywiol ac ariannol. Efallai eich bod yn pryderu am y ffordd y maent yn trin eu plant neu eu perthnasau, neu'r ffordd y mae rhywun arall yn eu trin nhw.

Efallai y byddwch hefyd yn gweld neu'n clywed rhywbeth sy'n gwneud ichi boeni bod eich plant chi, eich perthnasau chi neu rywun arall mewn perygl oherwydd ymddygiad yr unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya. 

Efallai y gwnaiff yr unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya o Wcráin hefyd yn gofyn am eich help i roi gwybod am bryder o’r fath.

Gofyn am help yw'r peth iawn i'w wneud. P'un a ydych yn poeni am blentyn neu oedolyn o Wcráin, neu amdanoch chi eich hun, eich teulu neu rywun yn y gymuned.

Mae'n bwysig rhannu'r pryderon hyn cyn gynted ag y gallwch. Bydd eich awdurdod lleol yn rhoi gwybodaeth ichi am sut i gysylltu â'ch gwasanaethau cymdeithasol lleol os ydych yn poeni y gallai rhywun fod mewn perygl o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth ar wefan eich awdurdod lleol drwy chwilio am enw eich awdurdod lleol ac yna mynd i’r adran iawn ynghylch rhoi gwybod am blentyn mewn perygl neu roi gwybod am oedolyn mewn perygl.

Gallwch hefyd ddysgu mwy am ddiogelu a sut i roi gwybod am bryder drwy wefan Llywodraeth Cymru. Mae'r dolenni'n darparu canllaw cynhwysfawr ynghylch sut mae'r broses o ddiogelu plant ac oedolion yn gweithio yng Nghymru. Mae dolenni i'ch awdurdod lleol hefyd ar gael:

Os ydych yn poeni bod rhywun mewn perygl uniongyrchol o niwed, mae'n bwysig eich bod yn ffonio'r heddlu ar 999.

Os oes gennych bryderon bod plentyn neu oedolyn o Wcráin wedi mynd ar goll, dylech ffonio 101 neu fynd i dudalen we eich Heddlu lle bydd dolen i roi gwybod am unigolyn ar goll. Yna, dylech roi gwybod i'ch awdurdod lleol.

Fodd bynnag, os ydych yn poeni bod rhywun mewn perygl uniongyrchol o niwed, dylech ffonio'r Heddlu ar 999.

Os oes gennych chi, neu unrhyw un rydych chi’n ei adnabod, unrhyw bryderon am achosion posibl o gamddefnyddio’r cynllun, dylech roi gwybod amdanynt ar y cyfle cyntaf i'r awdurdod lleol, neu i'r heddlu os ydych yn pryderu bod trosedd wedi’i chyflawni neu os oes bygythiad y bydd trosedd yn cael ei chyflawni.

Os bydd unrhyw bryderon am les eich gwestai yn ystod eu cyfnod yn y lleoliad lletya, bydd yr awdurdod lleol yn ymateb yn unol â dyletswyddau statudol presennol ac yn penderfynu fesul achos yn dibynnu ar beth yw’r pryder diogelu.

Yn ogystal â diogelu eich gwestai, mae'n bwysig eich bod chi a'ch teulu yn teimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel yn eich cartref. Os oes gennych unrhyw achos pryder neu’n teimlo y gallech fod mewn perygl oherwydd eich gwestai, rhowch wybod ar unwaith fel yr amlinellir uchod drwy eich awdurdod lleol.

Caethwasiaeth fodern a chamfanteisio

Mae caethwasiaeth fodern yn derm ymbarél sy'n cynnwys masnachu pobl, caethwasiaeth a llafur dan orfod. Gall caethwasiaeth fodern effeithio ar bobl o bob oed, rhywedd a hil, ac mae'n cynnwys mathau gwahanol iawn o gamfanteisio.

Mae pedwar prif fath o gaethwasiaeth fodern:

  1. Camfanteisio ar weithwyr
  2. Camfanteisio troseddol
  3. Camfanteisio rhywiol
  4. Caethwasanaeth domestig

Wrth i'ch gwesteion addasu i fywyd yn y DU, mae posibilrwydd y gallai rhywrai gamfanteisio arnynt neu eu bod mewn perygl o gaethwasiaeth fodern gan y rhai sy'n ceisio elwa ar hynny.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am wahanol fathau o gaethwasiaeth fodern.

Mae llawer o wahanol arwyddion o gaethwasiaeth fodern. Os oes gennych bryderon fod yna gamfanteisio ar rywun, neu fod rhywun wedi dioddef yn y gorffennol, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i gael cymorth yma.

Gall caethwasiaeth fodern effeithio ar bobl o bob oed, rhywedd a hil, ac mae’n cynnwys mathau gwahanol iawn o gamfanteisio. Yn 2022 cyfeiriwyd 536 o achosion o gaethwasiaeth fodern.

Cyfryngau cymdeithasol: pethau i’w gwneud a phethau i’w hosgoi

Mae pawb yn defnyddio'r rhyngrwyd a'r cyfryngau cymdeithasol i gadw mewn cysylltiad ac yn gwneud mwy fyth o hynny pan fydd teuluoedd yn cael eu gwahanu. Diben y cyngor hwn yw eich helpu chi fel noddwr i ddiogelu preifatrwydd ac urddas y person neu'r bobl o Wcráin yr ydych yn rhoi llety iddynt. Weithiau bydd pobl lai gonest yn cymryd mantais o fwriadau da pobl. Dylech ofyn i chi eich hun a fyddech am i rywun rannu delweddau a gwybodaeth amdanoch chi neu'ch teulu/plant ar rwydwaith cyhoeddus, gyda neu heb ganiatâd. Cofiwch nad yw plant yn gallu rhoi 'caniatâd ar sail gwybodaeth’.

Fel noddwr neu letywr, mae amrywiaeth o bethau syml y gallwch eu gwneud i helpu i ddiogelu preifatrwydd:

Pethau i’w gwneud

  • Gwnewch yn siŵr bod pawb yn eich cartref sy'n defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol yn ymwybodol o'u gosodiadau diogelwch a sut i'w newid.
  • Byddwch yn ymwybodol bod enwau defnyddwyr, lluniau proffil a bywgraffiadau cyfryngau cymdeithasol bob amser yn gyhoeddus, hyd yn oed ar gyfrifon preifat.
  • Byddwch yn ofalus iawn am geisiadau ffrindiau gan bobl nad ydych chi'n eu hadnabod.
    Gwnewch yn siŵr fod y person neu'r bobl yr ydych chi'n rhoi llety iddynt wedi lawrlwytho'r 'botwm panig' ar Facebook.

Pethau i’w hosgoi

  • Cyhoeddi ffotograffau o'r bobl rydych chi'n rhoi llety iddynt ar rwydweithiau cyhoeddus.
  • Cyhoeddi unrhyw wybodaeth ynghylch lle mae'r bobl rydych chi'n rhoi llety iddynt yn byw.
  • Cyhoeddi unrhyw wybodaeth ynghylch lle fydd y bobl rydych chi'n rhoi llety iddynt ar adeg benodol.
  • Tybio bod pobl yn dweud y gwir am bwy ydyn nhw.

Os ydych chi'n noddi pobl o Wcráin, gan gynnwys plentyn neu blant, mae ardal Cadw'n ddiogel ar-lein Hwb yn cynnwys adnoddau defnyddiol i blant a phobl ifanc. Mae cefnogaeth i'w teuluoedd hefyd, gan gynnwys canllawiau ar yr apiau hapchwarae a'r apiau eraill mwyaf poblogaidd ar y cyfryngau cymdeithasol.

Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a cham-drin rhywiol

Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) yn cwmpasu amrywiaeth o weithredoedd camdriniol a thrais sy’n effeithio’n anghymesur ar fenywod, sy'n gallu cynnwys cam-drin domestig (corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol a rheolaeth drwy orfodaeth), trais rhywiol a threisio, cam-drin ar sail anrhydedd gan gynnwys anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas dan orfod a lladd ar sail anrhydedd, yn ogystal ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus.

Er bod y term VAWDASV yn cydnabod bod y mwyafrif llethol o ddioddefwyr yn fenywod, gall cam-drin domestig, trais rhywiol ac aflonyddu gwmpasu pob dioddefwr waeth beth fo'i rywedd.

Yng Nghymru, nod Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yw gwella mesurau atal VAWDASV a gwella mesurau amddiffyn a'r cymorth a roddir i ddioddefwyr a goroeswyr. 

Bydd angen i noddwyr a lletywyr fod yn ymwybodol y gallai pobl o Wcráin sy'n dod i'r DU fod wedi profi VAWDASV yn eu mamwlad, fel rhan o'u taith i'r DU neu ar ôl iddynt gyrraedd y DU.

Gall noddwyr a lletywyr ymgyfarwyddo â gwybodaeth am adnabod VAWDASV a'r gwasanaethau cymorth perthnasol drwy gwblhau modiwl eDdysgu Llywodraeth Cymru. Mae ar gael yn ddwyieithog a dylai gymryd tua 45 munud.

Mae rhagor o wybodaeth am VAWDASV hefyd ar gael yma Llinell gymorth Byw Heb Ofn.

Mae nifer o wasanaethau cymorth ar gael i'r rhai sy'n profi VAWDASV neu i bobl sy'n pryderu am eraill.

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn

Mae ein llinell gymorth Byw Heb Ofn yn wasanaeth 24/7, sydd ar gael am ddim i bawb sydd wedi dioddef a goroesi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r rhai sy'n agos atynt, gan gynnwys teulu, ffrindiau a chydweithwyr. Gellir cysylltu â Byw Heb Ofn drwy'r ffyrdd canlynol;

Ffôn: 0808 80 10 800

Testun: 0786 007 7333

E-bost: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru

Sgwrsio byw.

Mae Cymru Ddiogelach yn sefydliad sy’n cefnogi dynion sy’n ddioddefwyr cam-drin domestig. 0808 801 0321 (Llun i Gwener 9yb i 5yp) neu e-bostiwch dyn@saferwales.com.

Cymorth i Ferched Cymru: sefydliad sy’n cefnogi menywod yr effeithir arnynt gan gam-drin domestig.

BAWSO: sefydliad arbenigol sy'n cefnogi cymunedau ethnig lleiafrifol.

Meic: llinell gymorth ddwyieithog, ddienw a chyfrinachol sydd ar gael am ddim i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru ac sy'n darparu gwybodaeth, cyngor defnyddiol a chymorth. Mae Meic ar agor rhwng 8am a chanol nos, 7 diwrnod yr wythnos, dros y ffôn, drwy negeseuon testun a negeseua gwib.

Ffôn: 0808 80 23456

Testun: 54001

Sgwrsio byw.

Cymorth gan eich awdurdod lleol

Mae eich awdurdod lleol yn gyfrifol am gymorth fel:

  • cofrestru plant gydag ysgolion lleol
  • rhoi cyngor ar wasanaethau cymorth i deuluoedd, megis cymorth gyda chostau gofal plant
  • sicrhau mynediad at ddosbarthiadau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill
  • gweithio gyda byrddau iechyd lleol i’w cyfeirio at lwybrau cyngor ac atgyfeirio at wasanaethau iechyd cyhoeddus arbenigol fel y bo'n briodol, er enghraifft ar gyfer brechiadau neu sgrinio TB. Dylid darparu cyngor ar wasanaethau cymorth pellach megis sefydlogi cychwynnol, cwnsela a chymorth iechyd meddwl, gofal cymdeithasol i oedolion, a gwasanaethau plant yn ôl yr angen
  • cefnogi mynediad at apwyntiadau lleol gyda’r Ganolfan Byd Gwaith ar gyfer asesiadau budd-daliadau, gan gynnwys ar gyfer taliadau brys tra bo unrhyw fudd-daliadau'n cael eu trefnu
  • cymorth cyflogaeth, hyfforddiant a digidol i unrhyw un 16+ oed sydd wrthi'n chwilio am waith
  • gweinyddu £200 o daliadau cymorth dros dro i’r rhai sydd newydd gyrraedd
  • gweinyddu taliadau misol i’r noddwyr
  • helpu i ddod o hyd i opsiynau llety tymor hirach
  • darparu cyngor a chymorth ar faterion diogelwch
  • darparu cyngor gwaith achos yn ôl y gofyn

Dylech hefyd geisio helpu i gyfeirio’r unigolyn neu’r teulu rydych yn ei letya i wasanaethau cyhoeddus fel ysgolion a chanolfannau gwaith. Mae canllawiau ychwanegol ar sut i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus ar gael ar wefan noddfa Llywodraeth Cymru sydd ar gael yn yr iaith Wcreineg ac sy'n darparu gwybodaeth am hawliau, gwasanaethau, addysg a diwylliant yng Nghymru Noddfa | Wcráin.

Cymorth gan y sector gwirfoddol

Mae’n debygol y bydd gan eich awdurdod lleol ei gymorth ei hun i letywyr.

Gall y sector gwirfoddol ddarparu ystod o gymorth ar gyfer yr unigolyn neu’r teulu rydych yn ei letya. Mae infoengine yn gyfeiriadur o wasanaethau’r trydydd sector yng Nghymru a ddarperir gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru (Cynghorau Gwirfoddol Sirol a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru). Mae hwn yn blatfform rhad ac am ddim sy’n cynnig gwybodaeth am amrywiaeth eang o wasanaethau gwirfoddol a chymunedol sy’n gallu rhoi help a chefnogaeth. Darperir rhywfaint o’r gefnogaeth hon mewn partneriaeth â’r awdurdodau lleol, byrddau iechyd a phartneriaid eraill.

Yn ogystal, mae eich Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol yn ffynhonnell wybodaeth a chanllawiau am wasanaethau’r sector gwirfoddol sydd ar gael yn lleol. Efallai y byddwch am rannu’r dolenni hyn gyda’r unigolyn neu’r teulu rydych yn ei letya.

Absenoldeb gwesteion

Trefniadau ar gyfer ymateb pan fydd pryderon y gallai pobl o Wcráin fod ar goll ar ôl iddynt gyrraedd y DU

Bydd achosion pan na fydd pobl o Wcráin yn cyrraedd eu cyrchfan fwriadedig. Mae'r cyngor hwn yn nodi beth i'w wneud o dan yr amgylchiadau hyn. Mae hyn yn cynnwys camau a allai ei gwneud yn ofynnol i chi roi gwybod i’r heddlu bod y person/pobl yn berson/pobl goll. 

Y diffiniad ar gyfer person coll yw:

Ystyrir bod unrhyw un na ellir nodi ei leoliad ar goll, nes ei fod wedi'i leoli, a'i les wedi’i gadarnhau neu fel arall.

Beth i'w wneud os nad yw'r bobl rydych yn eu noddi yn cyrraedd eich cyfeiriad yn ôl y disgwyl

Os bydd y bobl o Wcráin rydych yn eu noddi yn teithio i'ch cyfeiriad hebddoch chi ac nid ydynt yn cyrraedd yn ôl y disgwyl, dylech geisio cysylltu â nhw i gael gwybod a oes esboniad am yr oedi a phryd y gallwch ddisgwyl iddynt gyrraedd.

Dylech roi’r un ymdrech wrth geisio dod o hyd iddynt ag y byddwch yn ei wneud pe byddech yn ceisio dod o hyd i aelod o'ch teulu.

Os na allwch gysylltu â nhw, dylech ffonio'r heddlu ar 101 a rhoi gwybod iddynt eu bod ar goll. Bydd yr heddlu angen rhywfaint o wybodaeth gennych. Bydd angen iddynt wybod lleoliad hysbys diwethaf y bobl rydych yn rhoi gwybod iddynt eu bod ar goll gan gynnwys unrhyw wybodaeth sydd gennych am eu henwau, eu hoedrannau, eu rhyw a sut maen nhw’n edrych. Mae gennych hefyd yr opsiwn i roi gwybod bod yr unigolyn ar goll ar-lein drwy dudalen we eich Heddlu.

Os cewch unrhyw wybodaeth newydd am y bobl o Wcráin neu os ydyn nhw’n cysylltu â chi ac rydych eisoes wedi rhoi gwybod i'r heddlu eu bod ar goll, dylech gysylltu â'r heddlu eto i roi’r wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted â phosibl. 

Os cewch unrhyw wybodaeth sy'n awgrymu bod unrhyw un mewn perygl uniongyrchol o niwed, rhaid i chi ffonio'r heddlu ar 999 ar unwaith.

Dylech hysbysu'ch awdurdod lleol eich bod wedi rhoi gwybod bod rhywun ar goll.

Os bydd eich gwestai yn absennol dros dro

Rydym yn cydnabod y gallai fod angen i westeion fod yn absennol dros dro o lety eu lletywr am wahanol resymau. Cyn ymadawiad eich gwesteion, rydym yn eich annog i drafod trefniadau a hyd yr absenoldeb. Lle bo’n bosibl, dylai gwesteion gadarnhau eu trefniadau ar gyfer eu dyddiad dychwelyd gyda chi cyn iddynt deithio, neu dylent eich diweddaru cyn gynted ag y gallant.

Cyn ymadawiad eich gwesteion, efallai y byddwch hefyd am drafod sut maent yn gadael eu hystafell neu lety, er enghraifft, efallai y byddwch yn dymuno gofyn iddynt adael eu heiddo’n daclus ac mewn ffordd sy'n caniatáu ichi ddal i ddefnyddio'r ystafell os oes angen. Efallai y byddwch hefyd am gael manylion cyswllt eich gilydd fel y gallant gyfathrebu â chi a rhoi gwybod ichi pa pryd y maent yn bwriadu dychwelyd.

Os yw eich gwesteion i ffwrdd am fwy na phedair wythnos yn olynol mewn un cyfnod, neu os oes pedair wythnos yn olynol wedi mynd heibio ac nid ydynt wedi dychwelyd, bydd angen ichi hysbysu eich awdurdod lleol a dilyn y canllawiau yn yr adran isod.

Os yw eich gwestai i ffwrdd am lai na phedair wythnos, nid oes angen ichi hysbysu eich awdurdod lleol. Fodd bynnag, os yw eich gwestai yn absennol ar sawl achlysur am lai na phedair wythnos, dylech drafod y rhesymau dros hyn gyda’ch gwestai ac ymgysylltu â’ch awdurdod lleol os oes gennych unrhyw bryderon.

Os yw eich gwestai yn gadael yn barhaol, rhaid ichi hysbysu eich awdurdod lleol bod y trefniant lletya wedi dod i ben. Ni ddylech aros tan fod pedair wythnos o absenoldeb wedi mynd heibio cyn rhoi gwybod i’r awdurdod lleol.

Gallai methu â hysbysu’r awdurdod lleol pan fo gwestai wedi bod i ffwrdd am fwy na phedair wythnos yn olynol neu eu bod wedi gadael yn barhaol arwain at sefyllfa lle bydd yr awdurdod lleol perthnasol yn gwneud ymchwiliadau pellach i  achos posibl o dwyll, ac efallai y bydd rhaid ichi dalu arian yn ôl pe penderfynir bod twyll wedi digwydd.

Gwesteion yn absennol o lety’r noddwr am gyfnod parhaus o fwy na phedair wythnos

Os ydych yn noddi nifer o westeion, rhaid ichi ond hysbysu eich awdurdod lleol am eu habsenoldeb os yw pob gwestai yn absennol am fwy na phedair wythnos yn olynol, neu os oes pedair wythnos yn olynol wedi mynd heibio ac nid ydynt wedi dychwelyd.

Ar ôl ichi hysbysu’r awdurdod lleol am absenoldeb gwestai bydd eich taliadau diolch yn cael eu hatal dros dro. Dylech roi gwybod i’r awdurdod lleol pan fydd eich gwesteion yn dychwelyd a bydd eich taliadau diolch yn cael eu hailgyflwyno. Pan fydd eich taliadau diolch yn ailddechrau, byddant yn cael eu talu’n fisol yn ôl y drefn arferol, mewn ôl-daliadau.

Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i'ch awdurdod lleol pan fo gwestai/gwesteion yn absennol am fwy na phedair wythnos.

Os yw eich gwestai yn cael budd-daliadau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, dylai eich gwestai roi gwybod iddynt am unrhyw absenoldebau o’r DU.

Lleoliadau lletya ymateb 

Argymhellir mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylai eich gwestai fod yn absennol yn ystod y lleoliad 75 diwrnod gyda chi. Dylid cyfyngu unrhyw absenoldeb hanfodol i 2 wythnos os yw'n bosibl. Y rheswm am hyn yw y dylid sicrhau cymaint o amser â phosibl iddynt weithio gyda'u gweithiwr achos yn yr awdurdod lleol i ddod o hyd i lety tymor hirach. Os yw eich gwestai yn absennol yn ystod y cyfnod hwn, byddai'n ddefnyddiol rhoi gwybod i'ch awdurdod lleol.

Paratoi ar gyfer absenoldebau gwestai o fwy na phedair wythnos

Dylech chi a’ch gwesteion drafod trefniadau cyn iddynt adael. Gallai sgyrsiau ymdrin â’r canlynol:

  • a fyddai’r berthynas noddi yn parhau ai peidio pe bai’r gwesteion yn dymuno dychwelyd ar ôl absenoldeb o bedair wythnos
  • a oes gan y gwestai hyblygrwydd i newid eu dyddiadau teithio
  • lle i storio eiddo’r gwesteion, a sut i ddychwelyd yr eiddo os na fydd y gwestai/gwesteion yn dychwelyd i fyw yno

Os byddwch yn penderfynu nad ydych am barhau i gynnig llety i’ch gwestai, dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol cyn gynted â phosibl. Bydd yr awdurdod lleol yn dod â thaliadau ‘diolch’ i ben ac yn cysylltu â chi i ddarganfod a fyddai gennych ddiddordeb mewn ailbaru a lletya gwestai newydd.

Efallai y byddwch hefyd eisiau atgoffa eich gwestai y gallai absenoldeb o fwy na phedair wythnos yn olynol effeithio ar eu hawl i unrhyw wasanaethau neu fudd-daliadau y maent yn eu derbyn ar hyn o bryd. Mae’n syniad da felly i’ch gwestai gysylltu ag adrannau eraill y llywodraeth sy’n darparu’r gwasanaethau hyn cyn gadael am gyfnod estynedig. Os ydych chi'n darparu llety ymateb, efallai y byddwch am atgoffa'ch gwesteion mai cyfnod cyfyngedig iawn sydd gan yr awdurdod lleol ddod o hyd i lety tymor hirach iddynt. Yn enwedig gan fod y galw am dai mor fawr.  Efallai y bydd eich gwestai yn dymuno ailystyried mynd i ffwrdd yn ystod eu harhosiad 75 diwrnod gyda chi. 

Os na fydd eich gwestai/gwesteion yn dychwelyd pan fyddwch yn eu disgwyl ac na allwch gysylltu â nhw ar ôl ceisio gwneud hynny sawl gwaith, dylech ffonio’r heddlu ar 101 i ddweud eu bod ar goll. Mewn ymateb i’ch galwad, bydd yr heddlu yn penderfynu beth i’w wneud fesul achos.

Beth os bydd y trefniant noddi yn chwalu?

Mae noddwyr a lletywyr wedi ymrwymo i letya pobl o Wcráin am o leiaf 6 mis, neu 75 diwrnod yn achos llety ymateb. Fodd bynnag, gallwch ddewis parhau â'r trefniant y tu hwnt i'r 75 diwrnod neu'r 6 mis cychwynnol os ydych chi a'ch gwestai/gwesteion yn dymuno gwneud hynny. Rydym yn annog lletywyr a gwesteion i gael sgyrsiau agored ynghylch ymestyn lleoliadau. 

Yn achos lletywyr ymateb, dylech annog eich gwesteion i weithio gyda'r awdurdod lleol i ddod o hyd i lety tymor hirach ar ddiwedd y 75 diwrnod, oni bai bod ganddynt eu cynlluniau pendant eu hunain. Y naill ffordd neu'r llall, dylent gyfathrebu â gweithiwr achos eu hawdurdod lleol.  Bydd gwesteion yn ymwybodol o delerau'r trefniant lletya. Os ydych wedi cytuno i letya am o leiaf 6 mis, ac nad ydych yn dymuno (neu'n gallu) parhau â'r trefniant y tu hwnt i chwe mis, dylech roi gwybod i'r unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya mewn digon o amser fel y gallant wneud trefniadau eraill. Dylai lletywyr wneud hyn o leiaf ddeufis cyn diwedd y chwe mis.

Dylech gael sgwrs gyda'ch gwestai/gwesteion am eu camau nesaf a gweithio gyda nhw i ddatblygu cynllun y gall eich awdurdod lleol helpu ag ef. Gallai hyn gynnwys:

  • parhau i noddi
  • dod o hyd i letywr newydd i’ch gwestai (ailbaru)
  • parhau â'r trefniant lletya (efallai yr hoffech ofyn i'ch gwestai am gyfraniad at filiau'r cartref)
  • dechrau ar drefniant rhentu
  • rhentu llety preifat
  • cysylltu â’ch awdurdod lleol ynghylch cael llety arall

Beth bynnag rydych chi’n penderfynu eich bod am ei wneud ar y pwynt chwe mis, dywedwch wrth eich awdurdod lleol ddeufis cyn hynny. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws iddynt gynnig cymorth os yw eich gwestai’n symud ymlaen neu iddynt ddal ati i wneud y taliadau diolch os byddwch yn parhau i letya. Dylech barhau i roi gwybodaeth i’r awdurdod lleol, yn enwedig os bydd unrhyw beth yn newid ar ôl y pwynt hwn. Gallwch chwilio am eich awdurdod lleol.

Beth sy'n digwydd ar ddiwedd y cyfnod noddi?

Mae noddwyr a lletywyr yn ymrwymo i letya pobl o Wcráin am o leiaf chwe mis, ond gallwch ddewis parhau y tu hwnt i'r chwe mis cychwynnol os ydych chi a'r unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya yn dymuno parhau â’r trefniant. Rydym yn annog lletywyr a gwesteion i gael sgyrsiau agored ynghylch ymestyn y trefniant y tu hwnt i chwe mis. Lle bo modd, rydym am gefnogi lleoliadau hirach, yn enwedig lle mae gwesteion wedi ymgartrefu mewn ardal, gan fod pwysau mawr ar y system dai ar hyn o bryd.

Os nad ydych am barhau (neu’n methu parhau) â'r trefniant y tu hwnt i chwe mis, dylech roi gwybod i'r unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya mewn da bryd fel y gallant wneud trefniadau eraill. Dylai lletywyr wneud hyn o leiaf ddeufis cyn diwedd y chwe mis.

Rydym yn eich annog i siarad â’ch gwestai am yr opsiynau ar gyfer eu camau nesaf, gan gynnwys:

  • parhau i noddi
  • dod o hyd i letywr newydd i’ch gwestai (ailbaru)
  • rhentu llety preifat
  • cysylltu â’ch awdurdod lleol ar gyfer llety arall

Beth bynnag rydych chi’n penderfynu ei wneud ar y pwynt chwe mis, dywedwch wrth eich awdurdod lleol ddeufis cyn hynny. Bydd yn ei gwneud hi’n haws iddynt gynnig cymorth os yw eich gwestai’n symud ymlaen neu iddynt ddal ati i wneud y taliadau diolch os byddwch yn parhau i letya. Dylech barhau i roi gwybod i’r awdurdod lleol, yn enwedig os bydd unrhyw beth yn newid ar ôl y pwynt hwn. Gallwch chwilio am eich awdurdod lleol.

Parhau i noddi

Os byddwch yn parhau i letya, byddwch yn gymwys i dderbyn taliadau diolch drwy gydol cyfnod caniatâd fisa gwestai o dan gynllun Cartrefi i Wcráin. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i dderbyn taliad diolch os yw'ch gwestai yn gwneud cais am estyniad 18 mis o dan Gynllun Estyn Caniatâd Wcráin, sy'n agor ar gyfer ceisiadau ar 4 Chwefror: Gwneud cais am Gynllun Estyn Caniatâd Wcráin

Bydd angen ichi ailymgeisio am y taliad diolch os yw'ch gwestai yn gwneud cais am Gynllun Estyn Caniatâd Wcráin. Mae canllawiau pellach ar wneud cais am daliadau diolch ar gyfer gwesteion Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin ar gael ar wefan Llywodraeth y DU: Gwneud cais am Gynllun Estyn Caniatâd Wcráin

Er na allwch godi rhent gan eich gwestai pan fyddwch yn derbyn taliadau diolch, efallai yr hoffech ofyn iddynt wneud cyfraniad rhesymol at gostau'r cartref. Mae'n bwysig bod unrhyw gyfraniad rydych yn gofyn amdano yn realistig ac yn fforddiadwy iddyn nhw.  Bydd eich awdurdod lleol yn gofyn ichi a ydych yn fodlon lletya gwestai arall/gwesteion eraill, naill ai nawr neu yn y dyfodol. Nid oes pwysau i gytuno i letya eto - mae eich cyfraniad eisoes wedi cael ei werthfawrogi’n fawr, ond os ydych chi’n credu y gallech chi helpu gwestai arall/gwesteion eraill, efallai ar ôl ichi gael seibiant byr, rhowch wybod i’ch awdurdod lleol.

Dod o hyd i letywr newydd (ailbaru)

Os nad yw eich gwesteion yn barod i adael trefniant lletya a symud i’w llety amgen eu hunain, ond ni allwch chi eu lletya mwyach, efallai y byddant am ddod o hyd i letywr newydd.

Gallech helpu eich gwesteion i ddod o hyd i letywr newydd, er enghraifft drwy:

  • rywun rydych chi’n ei adnabod eisoes
  • darparwr cydnabyddedig
  • grwpiau ffydd lleol
  • grwpiau cymunedol
  • elusennau
  • sefydliadau eraill

Mae’n bosibl y bydd eich awdurdod lleol hefyd yn gallu eu helpu i ddod o hyd i letywr newydd.

Unwaith y bydd eich gwesteion wedi dod o hyd i letywr newydd, mae’n bwysig iawn eu bod yn cysylltu â’r awdurdod lleol er mwyn iddynt wneud y gwiriadau angenrheidiol, ac i gymeradwyo’r trefniant. Gallwch chwilio am yr awdurdod lleol. Dylai hyn ddigwydd cyn iddynt symud i mewn gyda lletywr newydd.

Yna bydd y gwesteiwr newydd yn gymwys am y taliad diolch. Bydd y taliadau ar gael hyd nes y bydd y gwestai wedi bod yn y wlad am ddwy flynedd, i helpu i gefnogi ailbaru. Dim ond un taliad i bob cyfeiriad preswyl a ganiateir a bydd yn cael ei weinyddu drwy eich awdurdod lleol.

Os yw eich gwestai am symud i ardal arall yn y DU, rhaid iddynt ddweud wrth eu hawdurdod lleol cyn symud. Yna bydd eu hawdurdod lleol presennol yn cysylltu â’r awdurdod lleol yn yr ardal newydd y maent am symud iddi, fel y gallant wneud unrhyw archwiliadau angenrheidiol a gallant gadarnhau bod y trefniadau byw newydd yn addas. Os na fyddant yn gwneud hyn, gallai’r gwestai fod mewn perygl ac ni fydd gan y lletywr newydd hawl i’r taliad ‘diolch’.

Os bydd eich gwesteion presennol yn symud allan, gallwch letya gwestai arall a chael y taliad ‘diolch’ misol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael os ydych yn noddi plentyn sy’n byw yn y DU heb riant neu warcheidwad cyfreithiol, gan fod proses wahanol ar gyfer ailbaru plant.

Trefniadau rhentu

Os nad yw'ch gwestai yn barod i symud i'w llety eu hunain, a'ch bod chithau am barhau i'w lletya, efallai y byddwch am ystyried trefniant rhentu. O dan y trefniadau lletya cyfredol, caiff lletywr daliad diolch bob mis i'w helpu i dalu costau sy'n gysylltiedig â'r lletya. Wrth newid y trefniant i drefniant rhentu, byddai'r gwestai yn talu rhent ffurfiol. Gall trefniant rhentu helpu eich gwestai i gymryd y cam tuag at fyw'n fwy annibynnol.

Os ydych yn credu y gallai trefniant rhentu fod yn opsiwn addas i chi a'ch gwesteion, dylech ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol. 

Rhentu llety preifat

Mae arian cyhoeddus ar gael i bobl o Wcráin a byddant yn gallu rhentu eiddo fel unrhyw un arall. Os bydd angen, gallant hawlio elfen dai y credyd cynhwysol neu fudd-dal tai os ydynt dros oedran pensiwn y wladwriaeth.

Cafodd Rhentu Doeth Cymru ei sefydlu i sicrhau bod landlordiaid yn bobl addas a phriodol ac i helpu i ddiogelu hawliau tenantiaid. Cyn rhentu eiddo preifat, dylech sicrhau bod landlordiaid wedi’u cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru. Gellir gwneud hyn drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio ar eu gwefan. Mae gan Rhentu Doeth Cymru hefyd wybodaeth ddefnyddiol a chanllawiau ar rentu eiddo sydd ar gael ar eu gwefan.

Os ydych yn lletya rhywun mewn ail gartref ar hyn o bryd, efallai y byddwch am ffurfioli'r trefniant sy'n caniatáu i'ch gwestai fyw yn yr eiddo hwnnw. Byddai hyn yn golygu eich bod yn landlord, a fyddai'n gofyn ichi ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau. Os byddwch yn codi rhent, ni fydd gennych hawl i'r taliad diolch yn ychwanegol at y taliad rhent hwnnw. Gallai eich hawliau a'ch cyfrifoldebau fod yn wahanol, yn dibynnu ar yr hyn a benderfynir o dan yr amgylchiadau, a byddem yn awgrymu eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol ynghylch eich opsiynau. Mae gwybodaeth am rentu eich cartref yng Nghymru ar gael ar wefan Rhentu Doeth Cymru a gwefan Llywodraeth Cymru.

Faint o rent gall eich gwestai fforddio ei dalu?

Gall y rhan fwyaf o bobl fforddio gwario tua thraean o’u harian misol ar rent. Ond mae hyn yn dibynnu ar ba bethau eraill y mae’n rhaid ichi dalu amdanynt.

Mae galw mawr am lety rhent preifat. Os yw eich gwestai yn barod i rentu ond yn wynebu heriau, dylech gysylltu â’r awdurdod lleol i ddeall pa opsiynau all fod ar gael. Efallai y bydd angen ichi gefnogi eich gwestai i ystyried byw mewn ardaloedd eraill o Gymru, er enghraifft lle gallant fyw mewn un ardal a theithio i'r gwaith mewn ardal arall yn hawdd.

Rhagor o gymorth

  • Mae gwefan Cartrefi i Wcráin yn cynnig gwybodaeth am y cynllun.
  • Mae gwefan Noddfa | Wcráin yn cynnig gwybodaeth ategol ac mae ar gael yn yr iaith Wcreineg.
  • Bydd eich awdurdod lleol yn darparu gwybodaeth am y cymorth y maent yn ei ddarparu yn eich ardal. Mae canllawiau ar sut i gefnogi'r unigolyn neu'r teulu rydych yn ei letya hefyd wedi'u rhoi i'ch awdurdod lleol. Gweler: Cartrefi i Wcráin: canllawiau i awdurdodau lleol.
  • Mae llinell gymorth wedi ei lansio i roi cyngor a chanllawiau i bobl sy'n dod i Gymru o Wcráin ac i bobl sy'n gweithredu fel noddwyr. I bobl yn y DU, y rhif yw: Rhadffôn 0808 175 1508, i bobl y tu allan i'r DU, y rhif yw: +44 (0)20 4542 5671. Mae'r llinell gymorth ar gael rhwng 09:00 a 17:00 o’r gloch, o ddydd Llun i ddydd Gwener. I gysylltu drwy e-bost: cymorth@noddfa.llyw.cymru.

Atodiad A: canllawiau ynghylch eich llety

Mae pob math o lety’n wahanol, ac er nad oes disgwyliadau penodol, mae’n rhaid sicrhau bod eich llety yn rhydd o beryglon difrifol i iechyd a diogelwch. Dylech ofalu bod eich cartref yn ddiogel i’r unigolyn neu’r teulu o Wcráin ac mewn cyflwr addas. Dylech ystyried hefyd sawl unigolyn y gallwch ei dderbyn, gan sicrhau bod digon o le i bawb.

Rydym hefyd yn gofyn ichi sicrhau:

  • bod y llety yn cael ei gadw’n lân ac mewn cyflwr rhesymol
  • bod lle digonol mewn cegin ac ystafell ymolchi
  • bod dŵr yfed ar gael
  • bod synhwyrydd mwg sy’n gweithio ar bob un o loriau’r eiddo, a mesurau diogelwch tân eraill addas, er enghraifft, drysau tân neu lwybrau dianc fel y bo’n briodol – mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: making your home safe from fire
  • bod synhwyrydd carbon monocsid sy’n gweithio mewn unrhyw ystafell sy’n cynnwys dyfais llosgi tanwydd solet (er enghraifft, tân glo, stof llosgi coed)
  • bod digon o wres i gadw’r eiddo ar dymheredd cyfforddus
  • bod y dyfeisiau nwy, y ffitiadau a’r ffliwiau yn ddiogel a bod gwiriad diogelwch nwy wedi ei wneud o fewn y flwyddyn ddiwethaf (rhagor o wybodaeth)
  • bod y trydan yn gweithio ac yn ddiogel – gall trydanwr cymwys helpu os ydych yn ansicr
  • nad oes lleithder na llwydni yn y llety o gwbl, fwy neu lai
  • bod y drysau a’r ffenestri ar y llawr mynediad yn cloi’n iawn
  • ei bod yn hawdd ac yn ddiogel symud o gwmpas yn y llety, heb risiau rhy serth a allai achosi niwed

Atodiad B: cymorth Iechyd meddwl

Bwrdd IechydDolenni i’w Gwefannau
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi CadwaladrHyb Iechyd Meddwl: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin BevanRwy'n dioddef gyda fy iechyd meddwl, neu rwy'n unig, neu rwyf eisiau gwella fy lles
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel DdaIAWN: Gwybodaeth, ymwybyddiaeth a llesiant nawr
Bwrdd Iechyd Addysgu PowysGwasanaethau Iechyd Meddwl: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r FroIechyd Meddwl: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae AbertaweGwasanaethau Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf MorgannwgGwasanaethau Iechyd Lleol y GIG

Atodiad C: gwasanaethau cymorth i bobl sy'n ceisio noddfa

GwasanaethGwefan/Manylion Cyswllt
Llinell Gyngor Iechyd Meddwl CALLLlinell Gymorth Iechyd Meddwl CALL i Gymru: Gwasanaeth Gwrando a Chymorth Cyfrinachol
Cyngor Ffoaduriaid CymruGwasanaeth Noddfa Cymru
Oasis (Caerdydd)Oasis Caerdydd
Diverse CymruHafan Diverse Cymru
Y Sanctuary (Casnewydd)The Sanctuary: The Gap
Alltudion ar Waith (Cymru)Alltudion ar Waith - Cefnogi Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches yng Nghymru ers 2001
Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (Cymru)Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru: Cefnogi pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig sy'n byw yng Nghymru
Y Groes Goch Brydeinig (Cymru)Cael help fel ffoadur neu geisiwr lloches
Canolfan y Drindod (Caerdydd)Croeso i Ganolfan y Drindod Caerdydd
Gwasanaethau Gofal Cymunedol a Lles (Caerdydd)CCAWS

Llinell Gymorth y DU ar gyfer Cymru Cenedl Noddfa

 

 

Mae llinell gymorth wedi ei lansio i roi cyngor a chanllawiau i bobl sy'n dod i Gymru o Wcráin ac i bobl sy'n gweithredu fel noddwyr. I bobl yn y DU, y rhif yw: Rhadffôn 0808 175 1508, i bobl y tu allan i'r DU, y rhif yw: +44 (0)20 4542 5671.

Mae'r llinell gymorth ar gael rhwng 9:00 a 17:00 o'r gloch, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Dylid cysylltu â Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) pe byddai gwestai yn marw. Dylid hefyd gysylltu ag UKVI pan fo babi yn cael ei eni o dan y cynllun estyn fisa. Y manylion cyswllt yw: Daniel Lill, UKVI.

Dylid hefyd gysylltu â Swyddfa Is-gennad Wcráin yn achos genedigaethau, priodasau a marwolaethau. Mae manylion cyswllt isod, neu efallai y bydd y gwestai am fynd yn syth i’r wefan sydd hefyd yn rhestru tariffau a gwasanaethau consylaidd: Головна | Посольство України у Сполученому Королівстві Великої Британії та Північної Ірландії (mfa.gov.ua) Mae ar gael mewn Wcreineg ac yn Saesneg.

Llysgenhadaeth Wcráin yn Llundain, y Deyrnas Unedig

Cyfeiriad:

60 Holland Park
London W11 3SJY
Deyrnas Unedig

Rhif ffôn: (+44) 20 7727 6312

Ffacs: (+44) 20 7792 1708

Ebost:

ukrembassyuk@gmail.com
emb_gb@mfa.gov.ua
media.ukrembassyuk@gmail.com

Gwasanaethau consylaidd: consul_gb@mfa.gov.ua

Gwefan

Cyfryngau cymdeithasol:

Facebook

X (Twitter gynt)

LinkedIn

Oriau agor y swyddfa

Llun-Gwener: 9am i 6pm

Pennaeth y genhadaeth: Mr Vadym Prystaiko, Llysgennad