Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae’r canllawiau drafft ar Reoli Gwersylloedd Diawdurdod yn amlinellu canllawiau i awdurdodau lleol a thirfeddianwyr i reoli gwersylloedd diawdurdod Sipsiwn a Theithwyr, ond mae’n arbennig o bwysig i awdurdodau lleol yng Nghymru, sydd â nifer o ddyletswyddau statudol i sicrhau llesiant y cymunedau hyn.

Mae pwrpas gwersylloedd diawdurdod yn amrywio a gallant ddigwydd am nifer o resymau. Y prif reswm dros wersylloedd diawdurdod yw diffyg safleoedd awdurdodau lleol a mannau aros wedi’u negodi a safleoedd tramwy, a chau llawer o fannau aros traddodiadol.

Yng Nghymru, mae gwersylloedd diawdurdod yn tueddu i ddigwydd ar hyd y prif lwybrau trafnidiaeth a oedd yn draddodiadol yn darparu cyfleoedd ar gyfer gwaith yn ogystal â mynediad i’r prif borthladdoedd ar gyfer Iwerddon. Mae’r prif lwybrau ar hyd coridor yr M4 fel y prif lwybr o’r dwyrain i’r gorllewin yn ne Cymru, yr A470 fel y prif lwybr o’r gogledd i’r de ac ar hyd yr A55 fel y cyswllt o’r dwyrain i’r gorllewin yng ngogledd Cymru. Fodd bynnag, ceir gwersylloedd ledled Cymru, yn aml nid ydynt yn agos at y llwybrau prysur hyn.

Mae’r canllawiau’n cefnogi’r gwaith o reoli gwersylloedd diawdurdod yn effeithiol mewn ffordd sy’n seiliedig ar hawliau dynol ac sy’n cydbwyso hawliau Sipsiwn a Theithwyr a hawliau trigolion lleol. Mae’r canllawiau’n nodi’r arferion gorau ar gyfer rheoli gwersylloedd diawdurdod yn briodol.

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr a’i gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo. Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddiwallu’r anghenion a nodir yn eu Hasesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (GTAA) cymeradwy, a gall anghenion llety gynnwys mannau aros wedi’u negodi neu safleoedd tramwy fel dewis amgen i’r angen i ddefnyddio gwersylloedd diawdurdod.

Diweddarwyd y Canllawiau ar Reoli Gwersylloedd Heb Awdurdod ddiwethaf yn 2013.

Newidiadau i’r canllawiau

Dyma’r prif newidiadau y bwrir ymlaen â nhw yn y canllawiau drafft:

  • diweddaru i gyfeirio at Ddeddf Tai (Cymru) 2015
  • diweddaru cyfeiriadau at Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022
  • diweddaru i gyfeirio at y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
  • egluro’r disgrifiadau o wahanol safleoedd Sipsiwn a Theithwyr
  • mwy o ffocws ar ddull cymesur a rhesymol o ymdrin â gwersylloedd diawdurdod
  • mwy o ffocws ar ddewisiadau amgen i wersylloedd diawdurdod
  • mwy o bwyslais ar ymgynghori â phreswylwyr sy’n Sipsiwn a Theithwyr

Bydd asesiad effaith llawn yn cael ei gyhoeddi gyda’r canllawiau terfynol.

Gweithgareddau ymgysylltu

Bydd gweithgareddau ymgysylltu penodol gyda’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cael eu cynnal fel rhan o’r ymgynghoriad hwn sy’n cael ei hwyluso gan sefydliad Sipsiwn, Roma a Theithwyr. 

Os ydych chi’n aelod o’r gymuned sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn digwyddiad ymgysylltu, anfonwch e-bost YrIsadranCydraddoldebAHawliauDynol@llyw.cymru.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

A oes unrhyw beth ar goll yn y canllawiau hyn i awdurdodau lleol reoli gwersylloedd diawdurdod yn effeithiol tra’n cydbwyso hawliau cymunedau Sipsiwn a Theithwyr ag anghenion cymunedau lleol?

Cwestiwn 2

A yw’r canllawiau’n caniatáu ar gyfer perthynas waith effeithiol a chynhyrchiol rhwng awdurdodau lleol, cymunedau lleol a chymunedau Sipsiwn a Theithwyr?

Cwestiwn 3

A oes unrhyw newidiadau technegol y gallwch eu hargymell a fyddai’n gwneud y canllawiau’n fwy effeithiol i awdurdodau lleol ac aelodau o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr?

Cwestiwn 4

Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y canllawiau ar yr iaith Gymraeg?

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

  • Ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
  • Ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau niweidiol?

Cwestiwn 5

Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y canllawiau er mwyn gwneud y canlynol:

  • cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol o ran defnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; neu
  • lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?

Cwestiwn 6

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i'r afael â nhw’n benodol, defnyddiwch y gofod hwn i'w nodi.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 3 Mehefin 2025, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

Yr Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru a thros unrhyw ddata personol rydych yn eu darparu fel rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn, ac a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynglŷn â sut y byddant yn arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)) 

Bydd unrhyw ymateb y byddwch yn ei anfon atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n delio â’r materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â nhw neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau pellach. Mewn ymgynghoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghorol). Dim ond o dan gontract y gwneir unrhyw waith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn pennu gofynion llym ar gyfer prosesu data personol a’i gadw’n ddiogel.

I ddangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw neu’ch cyfeiriad gael ei gyhoeddi, rhowch wybod i ni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn eu golygu cyn eu cyhoeddi.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gallai Llywodraeth Cymru fod o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu rhywfaint o wybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau cyhoeddedig hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Bydd unrhyw ddata sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch fel arall yn cael eu cadw am dair blynedd fan bellaf.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG51195

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.