Canllawiau diwygiedig ar gyfer dylunio safleoedd Sipsiwn a Theithwyr
Hoffem gael eich barn ar ein canllawiau diwygiedig ar gyfer dylunio safleoedd Sipsiwn a Theithwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Mae’r canllawiau drafft Dylunio Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru yn amlinellu canllawiau i awdurdodau lleol ar gyfer dylunio safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru. Mae’r canllawiau wedi’u hanelu at safleoedd Sipsiwn a Theithwyr sy’n eiddo i awdurdodau lleol neu ar brydles, yn rhai parhaol a rhai tramwy.
Mae’r canllawiau’n anstatudol ond fe’u hargymhellir i awdurdodau lleol i gefnogi rhannu arferion da a dulliau cyson o ddatblygu llety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr. Gall hyn fod ar ffurf lleiniau neu safleoedd. Nod y canllawiau hyn yw darparu adnodd defnyddiol i helpu i gyflawni hyn ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr awdurdodau lleol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Bwriedir i’r canllawiau fod yn arweiniad i awdurdodau lleol ddylunio a darparu safleoedd priodol ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru. Mae’n cynnwys canllawiau ymarferol i helpu awdurdodau lleol i sicrhau bod eu safleoedd preswyl, safleoedd mannau aros a safleoedd tramwy yn addas i’r diben ac yn bodloni safonau dylunio, cyfleusterau a diogelwch.
Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr a’i gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo. Dyma eu Hasesiad o Lety Sipsiwn-Teithwyr (GTAA). Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddiwallu’r anghenion a nodir yn eu GTAA cymeradwy, a gall anghenion llety gynnwys lleiniau ar safleoedd awdurdodau lleol.
Cafodd y canllawiau Dylunio Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru eu diweddaru ddiwethaf yn 2015.
Newidiadau i’r canllawiau
Dyma’r prif newidiadau y bwrir ymlaen â hwy yn y canllawiau drafft:
- diweddaru cyfeiriadau at Ddeddf Tai (Cymru) 2015
- diweddaru cyfeiriadau at y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
- egluro’r disgrifiadau o wahanol safleoedd Sipsiwn a Theithwyr
- mwy o bwyslais ar ymgynghori â thrigolion Sipsiwn a Theithwyr
- Dileu unrhyw ofyniad sylfaenol o ran lleiniau.
Bydd asesiad effaith llawn yn cael ei gyhoeddi gyda’r canllawiau terfynol.
Gweithgareddau ymgysylltu
Bydd gweithgareddau ymgysylltu penodol gyda’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cael eu cynnal fel rhan o’r ymgynghoriad hwn sy’n cael ei hwyluso gan sefydliad Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Os ydych chi’n aelod o’r gymuned sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn digwyddiad ymgysylltu, anfonwch e-bost YrIsadranCydraddoldebAHawliauDynol@llyw.cymru.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Cwestiwn 1
A oes unrhyw beth ar goll yn y canllawiau hyn i awdurdodau lleol allu dylunio a datblygu safleoedd neu leiniau Sipsiwn a Theithwyr newydd sy’n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol, yn effeithiol?
Cwestiwn 2
A yw’r canllawiau’n caniatáu perthynas waith effeithiol a chynhyrchiol rhwng awdurdodau lleol a phreswylwyr?
Cwestiwn 3
A oes unrhyw newidiadau technegol y gallwch eu hargymell a fyddai’n gwneud y canllawiau’n fwy effeithiol i awdurdodau lleol a phreswylwyr?
Cwestiwn 4
Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y canllawiau ar yr iaith Gymraeg?
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- Ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
- Ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau niweidiol?
Cwestiwn 5
Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y canllawiau er mwyn gwneud y canlynol:
- cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol o ran defnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; neu
- lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?
Cwestiwn 6
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i'r afael â nhw’n benodol, defnyddiwch y gofod hwn i'w nodi.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 19 Mai 2025, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:
- llenwi ein ffurflen ar-lein
- lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i hanfon ar e-bost at YrIsadranCydraddoldebAHawliauDynol@llyw.cymru
- lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i phostio i:
Yr Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
- (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: ico.org.uk
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru a thros unrhyw ddata personol rydych yn eu darparu fel rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn, ac a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynglŷn â sut y byddant yn arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e))
Bydd unrhyw ymateb y byddwch yn ei anfon atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n delio â’r materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â nhw neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau pellach. Mewn ymgynghoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghorol). Dim ond o dan gontract y gwneir unrhyw waith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn pennu gofynion llym ar gyfer prosesu data personol a’i gadw’n ddiogel.
I ddangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw neu’ch cyfeiriad gael ei gyhoeddi, rhowch wybod i ni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn eu golygu cyn eu cyhoeddi.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gallai Llywodraeth Cymru fod o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu rhywfaint o wybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau cyhoeddedig hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Bydd unrhyw ddata sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch fel arall yn cael eu cadw am dair blynedd fan bellaf.
Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig
Rhif: WG51193
Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.