Neidio i'r prif gynnwy

Rydym am glywed eich barn ar y canllawiau i gefnogi ysgolion i gynllunio profiadau sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd a gwaith (CWRE) yn eu cwricwlwm ar gyfer pob dysgwr 3 i 16 oed.

Sut i ymateb

Ymgynghoriad yn cau:
16 Gorffennaf 2021
Lansiwyd yr ymgynghoriad ar:

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydym yn ymgynghori ar ganllawiau Cwricwlwm i Gymru ynghylch profiadau sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd a gwaith (CWRE), sy’n cwmpasu:

  • rhoi cyd-destun i CWRE o fewn y cwricwlwm
  • amlinellu’r ystod o gyfranwyr a all gefnogi CWRE
  • cyfeirio at feysydd cymorth a chyngor ar gyfer sefydlu darpariaeth effeithiol o ran CWRE
  • cefnogi dysgwyr i symud tuag at addysg bellach, hyfforddiant neu fyd gwaith

Cynhelir cyfres o weithdai ymgynghori ar-lein ar ganllawiau Profiadau sy’n Gysylltiedig â Gyrfaoedd a Gwaith yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf 2021. Mae angen eich barn arnom i lunio'r canllawiau i gefnogi ysgolion a lleoliadau ar gyfer y cwricwlwm newydd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu'r gweithdai, cysylltwch â Nick Morgan ar: nick.morgan@miller-research.co.uk

Dogfennau ymghynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digital@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 16 Gorffennaf 2021, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:

Ffurflen ar-lein

Post

Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.

Cwblhewch a dychwelyd i:

Uned Gwireddu'r Cwricwlwm
Yr Is-adran Cwricwlwm ac Asesu
Y Gyfarwyddiaeth Addysg
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ