Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Yn unol â dyletswyddau yn adran 30 o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 a chan ddefnyddio pwerau Gweinidogion Cymru yn adrannau 60 a 62 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu cyhoeddi canllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig i'w helpu i gyflawni ein nod cyffredin o greu Senedd fwy amrywiol.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn rhanddeiliaid allweddol a'r cyhoedd ehangach ar y canllawiau drafft.

Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu hystyried wrth inni fynd ati i gwblhau'r canllawiau cyn eu cyhoeddi'n ffurfiol cyn 1 Mai 2025.

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ganllawiau drafft i bleidiau gwleidyddol cofrestredig yng Nghymru ar gyfer:

  • datblygu, cyhoeddi a gweithredu strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer etholiadau Cymreig a’u hadolygu’n rheolaidd (Rhan 1 o'r canllawiau)
  • casglu, crynhoi a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth yn ymwneud ag ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Senedd ac Aelodau etholedig (Rhan 2 o'r canllawiau)
  • ystyried camau y gallant eu cymryd mewn perthynas â chwotâu gwirfoddol ar gyfer menywod (Rhan 3 o'r canllawiau).

Caiff Rhannau 1 a 2 o'r canllawiau eu dyroddi o dan adran 30 o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024.  Caiff Rhan 3 o'r canllawiau ei dyroddi o dan bwerau Gweinidogion Cymru yn adrannau 60 a 62 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Mae Rhan 1 o'r canllawiau yn ymwneud â phob etholiad Cymreig, gan gynnwys etholiadau ar gyfer Senedd Cymru, etholiadau ar gyfer aelodau o gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned yng Nghymru a meiri etholedig.

Dim ond i etholiadau'r Senedd y mae Rhannau 2 a 3 o'r canllawiau yn berthnasol.

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi'r canllawiau cyn 1 Mai 2025 a pharhau i'w hadolygu.

Mae'r canllawiau yn wirfoddol i bleidiau gwleidyddol cofrestredig.

Y cefndir

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ar draws pob agwedd ar fywyd cyhoeddus ac i hybu hawliau a chanlyniadau pobl sydd â nodweddion penodol a'r rhai sy'n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol.

Yn y cyd-destun ehangach hwn, mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn bwysig bod ein sefydliadau democrataidd yng Nghymru yn adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae'n dymuno adeiladu ar gamau sydd wedi'u cymryd eisoes i annog amrywiaeth mewn democratiaeth ar bob lefel, ac yn arbennig datblygu'r gwaith sylweddol sydd wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan wahanol bwyllgorau arbenigol o ran ystyried pa ddiwygiadau sydd eu hangen i wneud y Senedd yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Pan gynhelir etholiad nesaf y Senedd yn 2026, bydd 16 o etholaethau yn cymryd lle'r 40 etholaeth a'r 5 rhanbarth a ddefnyddiwyd ar gyfer yr etholiadau blaenorol. Bydd pob un yn cael ei chynrychioli gan 6 Aelod o'r Senedd, gan wneud cyfanswm o 96 o Aelodau. Yn ddiweddar, ymgynghorodd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar gynigion cychwynnol ar gyfer y ffiniau etholaethol newydd hyn a bydd yn adrodd ar ei argymhellion terfynol cyn 1 Ebrill 2025.

Yn ogystal, o etholiad 2026 ymlaen, bydd pob Aelod o'r Senedd yn cael ei ethol gan ddefnyddio system rhestr gyfrannol gaeedig. Mae hyn yn golygu y bydd pobl yn gallu pleidleisio dros restr o ymgeiswyr y mae plaid wleidyddol yn ei chyflwyno mewn etholaeth. Os bydd plaid yn llwyddo i ennill un neu ragor o seddi yn yr etholaeth honno, bydd y seddi yn cael eu llenwi gan yr ymgeiswyr ar restr y blaid yn ôl y drefn y maent yn ymddangos arni. Bydd y pleidiau yn dewis ymgeiswyr i sefyll ar eu rhestrau a byddant hefyd yn penderfynu ble y gosodir pob ymgeisydd unigol ar y rhestr, er enghraifft yn y safle cyntaf, yr ail safle neu'r trydydd safle. Caniateir i bob plaid gyflwyno hyd at wyth ymgeisydd ar un rhestr ym mhob etholaeth. Ystyrir bod y system rhestr gaeedig newydd hon yn fwy cymesur ar gyfer etholiadau'r Senedd na'r system bleidleisio bresennol oherwydd bod y system rhestr gyfrannol gaeedig yn fwy tebygol o arwain at bleidiau yn ennill y nifer o seddi sy'n cyd-fynd yn agosach â'r gyfran o bleidleisiau a roddir iddynt.

O dan y system bleidleisio newydd ar gyfer etholiadau'r Senedd, bydd gan bleidiau gwleidyddol gyfle i gyflwyno ystod amrywiol o ymgeiswyr ar gyfer etholiadau a bydd hyn, o bosibl, yn cael cryn ddylanwad ar amrywiaeth aelodaeth y Senedd.

Y sefyllfa bresennol

Er bod rhywfaint o wybodaeth ar gael am amrywiaeth ymgeiswyr llywodraeth leol, mae'r cyfraddau ymateb wedi bod yn isel yn hanesyddol.

Nid oes proses safonol ar gyfer casglu gwybodaeth am amrywiaeth ymgeiswyr y Senedd ac Aelodau o'r Senedd. Mae'r wybodaeth brin sydd gennym wedi'i chasglu o wahanol ffynonellau a'i rhoi at ei gilydd mewn ymgais i roi darlun cynhwysfawr.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae sawl adroddiad wedi argymell y dylid cychwyn adran 106 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Byddai adran 106 yn gorfodi pleidiau gwleidyddol i gasglu a chyhoeddi data am amrywiaeth yn ymwneud ag ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Senedd. Mae'r pŵer i gychwyn y ddarpariaeth hon yn bŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol, yn hytrach nag i Weinidogion Cymru.

Tan i ni gysylltu ymhellach gyda Llywodraeth y DU ynghylch adran 106, mae Llywodraeth Cymru yn falch ein bod yn gallu gweithredu ar unwaith i gyhoeddi'r canllawiau hyn o dan ei phwerau presennol. Yn ystod gwaith craffu cynnar ar Fil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol, nododd yr holl brif bleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yn y Senedd eu hymrwymiad i fod yn fwy tryloyw am eu gwaith o ran cynyddu amrywiaeth a chynhwysiant o fewn eu pleidiau. Bydd y canllawiau hyn yn eu helpu i wneud hynny.

Nodweddion ac amgylchiadau penodedig

Ceir ymchwil sy'n dangos bod rhai pobl yn ei chael hi'n anoddach sefyll mewn etholiad a chymryd rhan lawn yn y broses wleidyddol. Weithiau, gall hyn fod yn sgil rhwystrau penodol, gwahaniaethu, cymorth annigonol a thriniaeth annheg. 

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i fynd i’r afael â rhwystrau o’r fath a chynyddu’r cyfleoedd i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol chwarae rhan lawn o ran cynorthwyo a chynrychioli eu cymunedau. Pwrpas y canllawiau yw awgrymu i bleidiau gwleidyddol pa gamau y gallent eu cymryd yn rhan o'u hymrwymiad i gyflawni ein nod cyffredin o greu mwy o amrywiaeth yn ein democratiaeth yma yng Nghymru.

Mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru bennu yn y canllawiau y nodweddion neu'r amgylchiadau y dylai pleidiau gwleidyddol hybu amrywiaeth yn eu cylch wrth ddatblygu eu strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant. Mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru bennu pa wybodaeth y dylai pleidiau gwleidyddol ei chasglu ynghylch ymgeiswyr i'r Senedd, a rhaid i'r wybodaeth honno ymwneud â nodweddion ac amgylchiadau ymgeiswyr. Gallai'r nodweddion a'r amgylchiadau penodedig hyn gynnwys yr holl nodweddion gwarchodedig, neu rai ohonynt, fel y'u diffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, ond nid oes rhaid iddynt fod yn gyfyngedig i'r rhain.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried tystiolaeth ac ymchwil sy'n bodoli eisoes yn ymwneud â rhwystrau sy'n wynebu grwpiau penodol, gan gynnwys tystiolaeth berthnasol a roddwyd i'r Pwyllgor Biliau Diwygio yn ystod ei waith craffu diweddar yng Nghyfnod 1 Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol). Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ystyried y nodweddion a'r amgylchiadau sydd wedi'u cynnwys ar hyn o bryd yn yr arolwg ar gyfer ymgeiswyr llywodraeth leol yng Nghymru, ar y sail y bydd yn bwysig sicrhau bod cymaint o gysondeb a chymharedd â phosibl rhwng y setiau data. Wedi'u llywio gan yr ystyriaethau hyn, mae'r canllawiau yn pennu'r nodweddion a'r amgylchiadau y dylai pleidiau gasglu gwybodaeth am amrywiaeth amdanynt (gan gynnwys eu cyfeirio at dempled arolwg) a'r rhai y dylai eu strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant eu hystyried wrth hybu amrywiaeth. Maent fel a ganlyn:

  • Oedran*
  • Anabledd*
  • Hil*
  • Crefydd neu gred*
  • Rhyw*
  • Cyfeiriadedd rhywiol*
  • Statws neu hanes traws (gan gynnwys ailbennu rhywedd*)
  • Cefndir economaidd-gymdeithasol
  • Cyflyrau iechyd
  • Profiad gwleidyddol blaenorol
  • Cyfrifoldebau gofalu
  • Cyfrifoldeb rhiant
  • Iaith

* Nodweddion gwarchodedig fel y'u diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010

Wrth i'r sylfaen dystiolaeth o ran tangynrychiolaeth a rhwystrau ddatblygu dros amser, bydd y nodweddion a'r amgylchiadau a ragnodir yn y canllawiau yn cael eu hadolygu'n barhaus ac efallai y byddant yn cael eu diwygio yn y dyfodol.

Er bod Llywodraeth Cymru yn argymell y dylai pob plaid wleidyddol sy'n casglu data ac yn datblygu strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant ddefnyddio'r nodweddion a'r amgylchiadau penodedig a amlinellir yn y canllawiau, nid yw pleidiau gwleidyddol wedi'u cyfyngu i'r setiau data hyn a gallant ddewis ystyried nodweddion ac amgylchiadau ychwanegol sy'n berthnasol i'w plaid.

Beth sydd wedi'i gynnwys yn y canllawiau?

Rhan 1

Pwrpas Rhan 1 o'r canllawiau yw helpu pleidiau gwleidyddol i ddatblygu, cyhoeddi a gweithredu strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer etholiadau lleol a chenedlaethol yng Nghymru, a’u hadolygu’n rheolaidd.

Gall strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant adlewyrchu ymrwymiad sefydliad i feithrin amgylchedd mwy amrywiol, teg a chynhwysol. Y gobaith yw y bydd pleidiau gwleidyddol yn datblygu'r strategaethau hyn i ddangos eu hymrwymiad i gynyddu amrywiaeth ymysg ymgeiswyr ac Aelodau etholedig mewn etholiadau lleol ac yn etholiadau'r Senedd, ac i nodi'n glir sut y maent yn bwriadu cyflawni hyn.

Mae'r adran hon yn amlinellu i'r pleidiau gwleidyddol y mathau o faterion y dylent ystyried ymdrin â nhw yn eu strategaethau a'r mathau o gamau y dylent ystyried eu rhoi ar waith, er enghraifft:

  • defnyddio data, ymchwil a thystiolaeth berthnasol i lunio strategaeth sy'n briodol iddynt
  • asesu statws presennol y blaid o ran amrywiaeth a chynhwysiant
  • tangynrychiolaeth o grwpiau penodol o bobl a rhwystrau sy'n wynebu grwpiau penodol ar hyn o bryd
  • ymwneud â rhanddeiliaid (gan gynnwys rhwydweithiau mewnol y pleidiau sy'n cynrychioli grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol)
  • adolygu prosesau asesu a dethol ymgeiswyr er mwyn eu gwneud yn fwy cynhwysol
  • asesu'r diwylliant sefydliadol a'i newid er mwyn ymgorffori amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae'r canllawiau yn nodi y gallai camau o'r fath:

  • adlewyrchu ymrwymiad plaid, ar y lefel uchaf, i hybu amrywiaeth a chynhwysiant a mynd i'r afael â'r rhwystrau i gymryd rhan
  • dangos tryloywder, ymddiriedaeth ac atebolrwydd cyhoeddus
  • grymuso rhwydweithiau mewn pleidiau i gynrychioli gwahanol ddiddordebau a phrofiadau bywyd
  • creu amgylchedd gwaith sy'n barchus ac yn groesawgar, gan ddenu aelodau a staff mwy amrywiol o bosibl
  • sicrhau bod gwell cymorth i ymgeiswyr yn ystod y broses ddethol ac etholiadol
  • cyfleu neges bod y blaid yn gwerthfawrogi cael ymgeiswyr o ystod amrywiol o gefndiroedd a safbwyntiau.

Rhan 2

Mae Rhan 2 o'r canllawiau yn rhoi gwybodaeth i bleidiau gwleidyddol ynghylch casglu a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth eu hymgeiswyr yn etholiadau'r Senedd a'u Haelodau etholedig o'r Senedd. 
Mae'r canllawiau yn rhoi cyngor ar sut y gall pleidiau gwleidyddol gasglu, crynhoi a chyhoeddi'r wybodaeth ac, yn bwysig, mae'n darparu templed arolwg sy'n cynnwys cwestiynau a argymhellir am nodweddion ac amgylchiadau eu hymgeiswyr y dylai pleidiau gwleidyddol eu defnyddio i gasglu'r wybodaeth.

Dylai pleidiau ddefnyddio'r cwestiynau hyn i gasglu'r wybodaeth er mwyn sicrhau bod cymaint o gysondeb â phosibl yn yr wybodaeth a gyhoeddir gan wahanol bleidiau. Mae'r canllawiau hefyd yn egluro sut y gall pleidiau gwleidyddol ddefnyddio'r wybodaeth fel sylfaen i lunio eu strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant cychwynnol, ac fel ffon fesur yn y dyfodol i fesur pa mor dda y maent yn cyflawni targedau mesuradwy penodol yn eu strategaethau.

Mae'r adran yn atgoffa pleidiau gwleidyddol am eu rhwymedigaethau mewn perthynas â deddfwriaeth diogelu data.

Rhan 3

Pwrpas Rhan 3 o'r canllawiau yw helpu pleidiau gwleidyddol i nodi camau y gallent eu cymryd i gyflawni'r nod cyffredin o ddychwelyd Senedd sy'n adlewyrchu, yn fras, gyfansoddiad poblogaeth Cymru o ran rhywedd. Mae'r rhan hon yn manteisio ar rywfaint o'r dystiolaeth werthfawr a gasglwyd ac a ystyriwyd yn ystod y broses graffu ar Fil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol). Yn arbennig, mae'r canllawiau yn tynnu sylw at beth o'r dystiolaeth ryngwladol sy'n ymwneud â manteision sicrhau bod lleisiau menywod yn cael eu cynrychioli yn y cyrff sy'n gwneud penderfyniadau allweddol sy'n effeithio ar fywydau pobl yng Nghymru.

Gan ddefnyddio enghreifftiau o arferion da a modelau rhyngwladol sydd wedi bod yn llwyddiannus mewn mannau eraill, mae'r canllawiau yn gwahodd pleidiau gwleidyddol i ystyried a allant osod cwotâu gwirfoddol fel bod cyfran y menywod a gaiff eu hethol yn adlewyrchu, yn fras, gyfran y menywod ym mhoblogaeth Cymru.

Atodiad

Bwriad yr Atodiad a gaiff ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r ddogfen ymgynghori hon a'r canllawiau drafft yw rhoi cyd-destun a chefndir defnyddiol i bleidiau gwleidyddol. Mae'n cynnwys crynodeb byr o rai o'r rhwystrau hysbys sy'n wynebu grwpiau a phobl benodol sy'n rhannu nodweddion neu amgylchiadau penodedig, yn ogystal â rhai o fanteision amrywiaeth a chynhwysiant mewn gwleidyddiaeth. Nid yw hwn yn grynodeb cynhwysfawr o'r holl ymchwil a thystiolaeth sydd ar gael, ac anogir pleidiau gwleidyddol i fanteisio ar dystiolaeth sydd fwyaf perthnasol i'w hamgylchiadau penodol, gan gynnwys tystiolaeth newydd a thystiolaeth sy'n dod i'r amlwg, er mwyn llywio eu strategaethau.

Effaith

Yn ystod y broses graffu ar Fil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) a Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) ar y pryd, cynhaliwyd asesiadau effaith integredig llawn. Ymhlith pethau eraill, ystyriodd yr asesiadau effaith integredig ar gyfer Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) effeithiau posibl y gallai'r canllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol eu cael ar grwpiau penodol o bobl. Mae'r asesiad hwn yn berthnasol i Rannau 1 a 2 o'r canllawiau drafft sydd bellach yn cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghori arnynt. Ystyriodd yr asesiad effaith integredig ar gyfer Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) effaith gosod rheolau yn ymwneud â gosodiad a chyfran menywod ar restrau ymgeiswyr plaid, sy'n berthnasol i Ran 3 o'r canllawiau.

Bydd yr asesiadau hyn yn sail i Asesiad Effaith Integredig y bydd Llywodraeth Cymru yn ei lunio a'i adolygu drwy gydol y cyfnod ymgynghori. Bydd casgliadau'r asesiad yn cael eu cyhoeddi ar ôl yr ymarfer ymgynghori pan fydd wedi bod yn bosibl ystyried y safbwyntiau a rannwyd yn ystod yr ymgynghoriad.

Pam ymgynghori a beth yw'r amserlen?

Pwrpas yr ymgynghoriad yw casglu barn ar ganllawiau drafft cyn eu cyhoeddi yn derfynol. Mae Gweinidogion Cymru yn awyddus i gael barn pleidiau gwleidyddol sy'n ymladd etholiadau Cymreig perthnasol, rhai mawr a rhai bach, yn ogystal â barn sefydliadau sy'n cynrychioli grwpiau a chymunedau a allai gael eu tangynrychioli yn y cyrff etholedig neu sy'n wynebu rhwystrau penodol, a barn aelodau o'r cyhoedd.

Caiff yr ymgynghoriad hwn ei gynnal dros gyfnod ychydig yn fyrrach na'r cyfnod arferol o 12 wythnos. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith y cafwyd cyfle eisoes i ymgysylltu â nifer o randdeiliaid allweddol (gan gynnwys pleidiau gwleidyddol cofrestredig a gynrychiolir yn y Senedd ar hyn o bryd), yn ogystal â chyrff sy'n cynrychioli grwpiau perthnasol, i drafod yr uchelgais gyffredin o greu sefydliadau democrataidd mwy amrywiol yng Nghymru. Wrth lansio'r ymgynghoriad, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi camau ar waith i sicrhau bod cymaint â phosibl o'r bobl a'r sefydliadau sydd wedi mynegi diddordeb mewn cymryd rhan yn cael gwybod am yr ymarfer ymgynghori ac yn cael cyfle i roi eu barn.

Bydd cyfnod ymgynghori ychydig yn fyrrach hefyd yn helpu i sicrhau bod y canllawiau gwirfoddol hyn ar gael i bleidiau gwleidyddol cyn gynted â phosibl, er mwyn sicrhau'r cyfle gorau posibl i roi camau ar waith cyn etholiad y Senedd yn 2026.

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 7 Ionawr 2025.

Cwestiynau'r ymgynghoriad

Rhan 1: Canllawiau i bleidiau gwleidyddol ar ddatblygu, cyhoeddi a gweithredu strategaethau ar gyfer etholiadau Cymreig lleol a chenedlaethol, a’u hadolygu’n rheolaidd

Cwestiwn 1: Rhaid i Lywodraeth Cymru bennu'r nodweddion a'r amgylchiadau at ddibenion Rhannau 1 a 2 o'r canllawiau. Beth yw eich barn am y nodweddion a'r amgylchiadau penodedig? Dyma nhw, er hwylustod:

  • Oedran*
  • Anabledd*
  • Hil*
  • Crefydd neu gred*
  • Rhyw*
  • Cyfeiriadedd rhywiol*
  • Statws neu hanes traws (gan gynnwys ailbennu rhywedd*)
  • Cefndir economaidd-gymdeithasol
  • Cyflyrau iechyd
  • Profiad gwleidyddol blaenorol
  • Cyfrifoldebau gofalu
  • Cyfrifoldeb rhiant
  • Iaith

* Nodweddion gwarchodedig fel y'u diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010

Cwestiwn 2: Nodwch i ba raddau rydych yn cytuno â’r camau gweithredu a awgrymir ar gyfer pleidiau gwleidyddol er mwyn cynyddu amrywiaeth a chynhwysiant mewn etholiadau Cymreig?

  • Cytuno'n llwyr
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno
  • Anghytuno’n llwyr

2a: Eglurwch y rhesymau dros eich ateb ynglŷn ag i ba raddau rydych yn cytuno â’r camau gweithredu a awgrymir ar gyfer pleidiau gwleidyddol er mwyn cynyddu amrywiaeth a chynhwysiant mewn etholiadau Cymreig.

Cwestiwn 3: Yn eich barn chi, a oes pethau eraill y mae angen i bleidiau gwleidyddol eu hystyried o ran datblygu, cyhoeddi, gweithredu ac adolygu strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer etholiadau Cymreig? Os oes, beth ydyn nhw?

Rhan 2: Canllawiau i bleidiau gwleidyddol sy’n cyflwyno ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd ynghylch casglu, crynhoi a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth sy’n ymwneud ag ymgeiswyr ac Aelodau etholedig

Cwestiwn 4: Beth yw eich barn am y cwestiynau yn yr arolwg ymgeiswyr yn Rhan 2?

Cwestiwn 5: Yn eich barn chi, a fydd y canllawiau yn helpu pleidiau gwleidyddol i gasglu, crynhoi a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth yn ymwneud ag ymgeiswyr y Senedd?

5a: Eglurwch pam rydych chi'n credu y bydd, neu na fydd, y canllawiau hyn yn helpu pleidiau gwleidyddol i gasglu, crynhoi a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth yn ymwneud ag ymgeiswyr y Senedd.

Rhan 3: Canllawiau i bleidiau gwleidyddol sy’n cyflwyno ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd ar gwotâu gwirfoddol ar gyfer menywod

Cwestiwn 6: Yn eich barn chi, a fydd y canllawiau yn helpu pleidiau gwleidyddol i gymryd camau priodol i sicrhau gwell cynrychiolaeth o ran rhywedd yn y Senedd?

6a: Eglurwch pam rydych chi'n credu y bydd, neu na fydd, y canllawiau hyn yn helpu pleidiau gwleidyddol i gymryd camau priodol i sicrhau gwell cynrychiolaeth o ran rhywedd yn y Senedd.

Cwestiwn 7: Yn eich barn chi, a oes mesurau eraill y gallai pleidiau gwleidyddol eu cymryd i sicrhau Senedd sy'n gytbwys o ran rhywedd? Os oes, beth ydyn nhw?

Y Gymraeg

Cwestiwn 8: Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y canllawiau ar y Gymraeg? Yn arbennig, mae gennym ddiddordeb mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

  • Yn eich barn chi, a oes cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
  • Yn eich barn chi, a oes cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Cwestiwn 9: Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y canllawiau er mwyn gwneud y canlynol:

  • sicrhau effeithiau cadarnhaol neu ragor o effeithiau cadarnhaol o ran defnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, neu
  • liniaru unrhyw effeithiau negyddol o ran defnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?

Sylwadau terfynol

Cwestiwn 10: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau yn ymwneud â gwahanol rannau'r canllawiau. A oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am y canllawiau yr hoffech eu rhannu â ni?

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 7 Ionawr 2025, gan ddefnyddio unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

Ymgynghoriad ar ganllawiau amrywiaeth

Is-adran Diwygio'r Senedd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Os hoffech gofrestru eich diddordeb mewn mynychu digwyddiad ymgynghori rhithiwr ynghylch y canllawiau drafft, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i DiwygiorSenedd@llyw.cymru erbyn 20 Tachwedd 2024. Cofiwch roi 'ymgynghoriad ar ganllawiau amrywiaeth' yn llinell bwnc eich e-bost.

Eich hawliau

Yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch, ac i’w gweld
  • i'w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (mewn amgylchiadau penodol)
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn amgylchiadau penodol)
  • i gludadwyedd data (mewn amgylchiadau penodol)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Rhif ffôn: 0303 123 1113

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru a thros unrhyw ddata personol rydych yn eu darparu yn rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch sut y byddant yn arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e))

Bydd unrhyw ymateb y byddwch yn ei anfon atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau pellach. Mewn ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o ymatebion i ymgyngoriadau, efallai y bydd trydydd parti achrededig (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer y contractau hyn yn amlinellu gofynion llym ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw neu’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gallai Llywodraeth Cymru fod o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu rhywfaint o wybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi yn rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau cyhoeddedig hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch fel arall yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Rhif WG ar gyfer ymgynghori: WG50172

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd eraill. Os oes angen y ddogfen arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.