Neidio i'r prif gynnwy

TermCymru

Termau newydd

Ychwanegwyd neu ddiwygiwyd 259 o dermau ar 25 Hydref 2024.

Cofau cyfieithu 

Rydym wedi ailddechrau cyhoeddi ffeiliau cof cyfieithu TMX y gellir eu lawrlwytho a’u hychwanegu i’ch systemau cof cyfieithu. Mae’r cofau newydd ar dudalennau gwahanol i’r rhai a gyhoeddwyd hyd at 2021, ac mae’r cofau deddfwriaethol ar wahân i’r rhai cyffredinol. Yn ogystal â’r ffeiliau unigol, rydym bellach yn cynnig ffeiliau cyfun sy’n cynnwys yr holl gofau. Mae 57 o ffeiliau unigol newydd wedi eu cyhoeddi ar 14 Hydref. Rydym yn bwriadu ychwanegu cofau newydd yn fisol. 

Enwau henebion Cadw

Rydym wedi cyhoeddi rhestr o enwau dwyieithog safonol henebion Cadw. Dyma’r enwau swyddogol a arddelir bellach, yn dilyn gwaith safoni gan Banel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg mewn ymgynghoriad â Cadw.