Neidio i'r prif gynnwy

Yr Arddulliadur

Datblygwyd y canllawiau arddull hyn i roi cyngor ac arweiniad i’r rheini sy’n cyfieithu testunau cyffredinol. Gallwch chwilio am eiriau penodol neu gallwch bori fesul adran.

a/neu'r maes
191 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn ôl trefn yr wyddor.

a / ac

Treiglad llaes sydd ei angen ar ôl y cysylltair ‘a’, nid treiglad meddal. Felly, defnyddiwch a chyda, a chan, a thros, nid ‘a gyda’, ‘a gan’, ‘a dros’ etc.

Peidiwch â defnyddio ‘&’ (yr ampersand) yn y Gymraeg.

Yn aml rhoddir ‘and’ ar ddiwedd y pwynt olaf ond un mewn rhestrau Saesneg sydd yn defnyddio’r wyddor. Mae hyn yn gallu achosi problemau yn y Gymraeg – ee yn yr enghraifft isod byddai rhai pobl yn ynganu’r trydydd pwynt c) fel ‘éc’ ac eraill yn dweud ‘cý’, felly byddai anghysondeb yn codi o ran defnyddio ‘a’ neu ‘ac’ o’i flaen.

Bydd angen ystyried:
a) costau’r gwaith addasu;
b) yr amserlen; ac/a
c) materion iechyd a diogelwch.

Mewn gwirionedd, gellir hepgor y cysylltair yn llwyr mewn testunau Cymraeg gan nad yw’n ychwanegu dim at eglurder y testun. Ond, o’i gynnwys, dylid trin y llythyren sy’n dod ar ei ôl fel pe bai’n cael ei hynganu yn y dull traddodiadol (hynny yw, ‘éc’ ac nid ‘cý’).

Mewn ymadroddion yn mynegi meddiant defnyddir ‘a/ac’ (cysylltair) yn hytrach nag ‘â/ag’ (arddodiad):
gŵr a chanddo dri o blant, cynllun ac iddo rinweddau arbennig

Negydd ‘a’ yw ‘na’ (o flaen cytseiniaid):
nid oes ganddi wres na golau yn ei chartref
 
Negydd ‘ac’ yw ‘nac’ (o flaen llafariaid):
nid oedd ganddo ddillad nac arian

â / ag

Yn dilyn rhai berfau: 
cwrdd â, peidio â

I ddynodi meddiant: 
y ferch â’r ffrog werdd

Ar ôl y radd gymharol wrth gymharu ansoddeiriau (y cysylltair as): 
mor goch â thân, cyn gryfed ag arth

I ddynodi offeryn (yr arddodiad with): 
lladdwyd y dyn â chleddyf (nid ‘gyda’)

Negydd ‘â’ yw ‘na’ (o flaen cytseiniaid):
mae’r Wyddfa yn uwch na Chadair Idris
 
Negydd ‘ag’ yw ‘nag’ (o flaen llafariaid):
yn drymach nag ef

a heb

nid 'ac heb'

a hefyd

nid ‘ac hefyd’

ac eithrio

nid 'ag eithrio'

ac iaith

nid 'a iaith'

ac iechyd

nid 'a iechyd'

acenion

Dylech roi acenion ar lythrennau lle bo’u hangen. Mae peidio â’u cynnwys nid yn unig yn golygu eich bod yn camsillafu ond weithiau yn gwneud yr ystyr yn aneglur. Yr acenion a ddefnyddir yn Gymraeg yw’r acen grom (neu’r to bach), ee cytûn; yr acen ddyrchafedig, ee amgáu; yr acen ddisgynedig, ee sgìl; a’r didolnod, ee glanhäwr.

acronymau

Mae acronymau yn digwydd yn gyffredin (ac yn wir yn cael eu gorddefnyddio) mewn testunau Saesneg. Ni ddylid dilyn hynny’n slafaidd a defnyddio acronym yn y testun Cymraeg bob tro y ceir un yn y Saesneg. Ond, ar y llaw arall, nid oes modd eu hosgoi’n llwyr.

Natur y ddogfen fydd yn penderfynu weithiau i ba raddau y dylid defnyddio acronymau. Er enghraifft, mae’n bosibl y byddai cyfieithydd yn dewis ysgrifennu enw rhaglen neu gorff yn llawn pe bai’n ymddangos unwaith neu ddwy mewn datganiad i’r wasg neu lythyr, ond pe bai’r un teitl yn codi ddegau o weithiau mewn dogfen bolisi byddai ei roi’n llawn bob tro yn llafurus i’r darllenydd ac yn ychwanegu at hyd y ddogfen.

Os byddwch yn rhoi’r enw yn llawn yn Gymraeg, ystyriwch a oes angen defnyddio priflythrennau. Er enghraifft, defnyddir yr acronym PL yn Saesneg, ond mae ‘dysgu proffesiynol’ heb briflythrennau yn iawn yn Gymraeg.

Os byddwch yn defnyddio acronym, rhowch yr enw llawn y tro cyntaf, heblaw am ambell un na fyddai ei enw llawn yn gyfarwydd, ee TGAU neu BBC.

Weithiau, ni fydd yr enw llawn wedi’i gynnwys yn y ddogfen Saesneg a bydd angen holi’r sawl a gomisiynodd y gwaith, yn hytrach na dyfalu’r ystyr.

Os na fydd yr acronym yn gyfarwydd, y peth gorau yw cynnig cyfieithiad llawn y tro cyntaf y byddwch yn cyfeirio at y corff yn y testun a rhoi’r acronym ar ôl y teitl mewn cromfachau, ee Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru (ASGC). Gallwch wedyn ddefnyddio’r acronym Cymraeg yng ngweddill y testun neu gyfeirio at y corff fel ‘yr Arolygiaeth’, ‘yr Awdurdod’ neu ‘y Bwrdd’ ac yn y blaen, fel y bo’n briodol.

Yn achos ‘WG’ (Welsh Government’) – yn hytrach na gorddefnyddio ‘LlC’ gellir rhoi ‘Llywodraeth Cymru’ y tro cyntaf ac yna ‘y Llywodraeth’ (mewn achosion lle’r ydych yn gwbl fodlon nad oes modd i hynny roi’r argraff mai Llywodraeth y DU sydd dan sylw).

Peidiwch â chreu acronymau Cymraeg ar gyfer enwau cyrff neu fudiadau os nad ydynt yn eu defnyddio eu hunain. Defnyddiwch yr enw llawn yn Gymraeg (lle bo hynny’n briodol) ond yr acronym Saesneg.

Mae enwau rhai cymwysterau’n cael eu trin yn yr un modd. Er enghraifft, defnyddiwch yr acronymau NVQ a GNVQ, ond lle bo angen cyfeirio at y teitlau yn llawn defnyddiwch Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol a Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol.

O ddefnyddio acronym Saesneg ac enw llawn Cymraeg, ni fydd angen cynnwys y teitl llawn Saesneg hefyd er mwyn esbonio’r acronym.

Wrth ymdrin â’r lluosog, dilynwch yr un egwyddor ar gyfer acronymau Cymraeg a Saesneg. Ceisiwch osgoi creu acronymau lluosog, os oes modd, trwy aralleirio’r frawddeg. Os nad oes modd gwneud hynny, ystyrir yr acronym fel gair ynddo’i hun felly rhowch y terfyniad lluosog ar ddiwedd yr acronym, ee ‘AALlau’ am ‘Awdurdodau Addysg Lleol’, nid ‘AauALl’. Am yr un rheswm, defnyddiwch yr un terfyniadau bob tro ni waeth pa ffurf sydd i’r lluosog: ‘s’ ar gyfer acronym Saesneg ee NVQs ac ‘au’ ar gyfer acronym Cymraeg ee CNLCau (Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru).

Peidiwch â threiglo llythyren gyntaf yr acronym, ee anfon e-bost i CBAC, nid ‘i GBAC’.

Mae Cynllun Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru yn nodi mai’r polisi cyffredinol, yn achos unrhyw fenter bolisi newydd, fydd defnyddio brandiau dwyieithog, gan gynnwys acronymau, sloganau a logos. Mae hynny’n wir hefyd am enwau prif adrannau polisi’r Llywodraeth, ee DfES (Department for Education and Skills) – AdAS (Yr Adran Addysg a Sgiliau). Nid yw’n arfer defnyddio acronymau Cymraeg ar gyfer teitlau’r is-adrannau, fodd bynnag.

addysgiadol

yr hyn a addysgir (educative, instructive)

addysgol

yn ymwneud ag addysg (educational)

adolescents

y glasoed, nid 'pobl ifanc'

adran X o Ddeddf X

nid 'Adran X Deddf X'

adref a gartref

Yn yr iaith ysgrifenedig safonol:

  • ystyr ‘adref’ yw ‘homewards’, hy mae’n cyfleu’r syniad o fynd tua’r cartref
  • ystyr ‘gartref’ yw ‘yn y cartref’

Yn yr iaith lafar gall ‘adref’ a ‘gartref’ gyfleu’r naill ystyr neu’r llall. Ond er cysondeb yng ngwaith y Gwasanaeth Cyfieithu rydym yn defnyddio ‘adref’ ar gyfer ‘tua’r cartref’ yn unig a ‘gartref’ ar gyfer ‘yn y cartref’ yn unig.

Felly:

Teithio adref OND Aros gartref

Dyma felly a ddewiswyd ar gyfer slogan ymgyrch y Llywodraeth ‘Aros Gartref, Diogelu’r GIG, Achub Bywydau’.

amseroedd

10am hyd 4pm, nid ‘10 am hyd 4 pm’ na ‘10yb hyd 4yh’

annex

  • Ar ddiwedd dogfen: atodiad, nid ‘ychwanegiad’.
  • Os bydd annex ac appendix yn ymddangos gyda’i gilydd, un dewis yw defnyddio atodlen. Cofiwch, fodd bynnag, mai atodlen yw’r gair a ddefnyddir ar gyfer ‘schedule’ mewn deddfwriaeth. Felly os oes unrhyw bosibilrwydd o gamddeall, neu os yw’r darn yn cyfeirio at y tri pheth, defnyddiwch anecs ar gyfer annex.

ansoddair yn disgrifio cyfres o enwau

Yn ôl Treigladau a'u Cystrawen, T.J. Morgan, os oes ansoddair yn disgrifio dau neu ragor o enwau unigol, rhai yn wrywaidd a rhai yn fenywaidd, yr un sy’n union o flaen yr ansoddair sy’n penderfynu’r treiglad. Y frawddeg isod sy’n ramadegol gywir felly:

'Byddwn yn cysylltu â phob corff, sefydliad a chymdeithas berthnasol.'

Er hynny, gall y frawddeg fod yn amwys weithiau. A yw’r ‘perthnasol’ yn cyfeirio at ‘cymdeithas’ yn unig, ynteu at y tri enw? Os nad ydych yn sicr ynglŷn â’r ystyr, dewis arall fyddai aildrefnu’r frawddeg i roi enw gwrywaidd yn olaf:

'Byddwn yn cysylltu â phob cymdeithas, corff a sefydliad perthnasol.'

Ar y llaw arall, os ydych eisiau pwysleisio bod yr ansoddair yn cyfeirio at bob un o’r enwau ac osgoi unrhyw amwysedd posibl, gellid hefyd ailadrodd yr ansoddair:

'Byddwn yn cysylltu â phob corff perthnasol, sefydliad perthnasol a chymdeithas berthnasol.'

ansoddeiriau

Ein harfer yw peidio â defnyddio ffurfiau lluosog ansoddeiriau megis ‘ifanc’. Mae hynny’n helpu i sicrhau cysondeb mewn teitlau ac ati, ee Strategaeth Pobl Ifanc. Ond nid ydym yn deddfu ynghylch ffurfiau fel ‘gwyntoedd cryf/cryfion’.

At ei gilydd, y ffurfiau traddodiadol a welir yn ein gwaith ni, ee ‘iau, ieuengaf’ (nid ‘ifancach, ifancaf’), ‘hŷn, hynaf’, ‘hwy, hwyaf’ (er y gallai’r ffurfiau ‘hirach, hiraf’ gael eu defnyddio mewn cyweiriau anffurfiol).

O ran ystyr ansoddeiriau, ceisiwch wahaniaethu rhwng ‘addas’ (suitable) a ‘priodol’ (appropriate); ‘addysgol’ (educational) ac ‘addysgiadol’ (educative); ‘cymharol’ (comparable) a ‘cymaradwy’ (comparative); ‘penodol’ (particular) ac ‘arbennig’ (special).

appendix

Ar ddiwedd dogfen: atodiad

ar gyfer

Mae ‘ar gyfer’ yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn ond peidiwch â meddwl bod eisiau ‘ar gyfer’ bob tro y ceir ‘for’ yn y Saesneg. Yn aml, mae ‘i’ yn ddigon ac weithiau bydd ‘at’ yn fwy addas ac yn fyrrach. Weithiau hefyd mae modd hepgor ‘ar gyfer’ yn gyfan gwbl. Dyma rai enghreifftiau:

 Gwell... na... 
 Cyngor defnyddiol i bobl sy'n ddi-waith Cyngor defnyddiol ar gyfer pobl sy'n ddi-waith 
 Mae cyfnod heintus y math hwn o haint yn amrywio Mae'r cyfnod heintus ar gyfer y math hwn o haint yn amrywio 

arddodiaid

Mae angen bod yn ofalus ag arddodiaid, yn enwedig wrth gyfieithu to, for, on ac ati.

Dyma rai camgymeriadau cyffredin:

Cywir Anghywir 
â/ag  
cydweithio â cydweithio gyda
cysylltu â cysylltu gyda
cytuno â (rhywun/rhywbeth) cytuno gyda
gwrthdaro â gwrthdaro gyda
siarad â siarad gyda
trafod â trafod gyda
perthynas â perthynas gyda
torri papur â siswrn torri papur gyda siswrn
pobl ag anghenion arbennig pobl gydag anghenion arbennig
ar/arno/arnom  
gwahanol agweddau ar y pwnc gwahanol agweddau o'r pwnc
mae'r frech goch arno mae ganddo'r frech goch
roedd yn fodlon ar y penderfyniad roedd yn fodlon â'r penderfyniad
mae arnom angen arian neu mae angen arian arnom rydym angen arian
elwa ar y profiad elwa o'r profiad 
at  
gresynu at y penderfyniad gresynu'r penderfyniad neu gresynu wrtho
anfon e-bost at Mair (at berson) anfon e-bost i Mair
i  
anfon llythyr i'r Cyngor Sir (er cysondeb, arfer y Gwasanaeth Cyfieithu yw ymdrin â sefydliadau ac ati fel lleoliadau, felly dilynir yr un patrwm ag ‘anfon i rywle’) anfon llythyr at y Cyngor Sir 
cytuno i wneud rhywbeth cytuno gwneud rhywbeth
tueddu i effeithio tueddu effeithio
helpu rhywun i wneud rhywbeth helpu rhywun wneud rhywbeth
trefnu i ddod trefnu dod
mae'n bwysig nodi mae'n bwysig i nodi
o  
rwy'n falch o fod yma rwy'n falch i fod yma
dyma'r ffordd orau o wneud hyn dyma'r ffordd orau i wneud hyn
mae'n gyndyn o gymryd y swydd mae'n gyndyn i gymryd y swydd 
wrth
ynghlwm wrth ynghlwm â neu yn glwm â 
glynu wrth glynu at neuglynu i
am  
cyfrifol/cyfrifoldeb am wneud rhywbeth cyfrifol/cyfrifoldeb i wneud rhywbeth

Wrth benderfynu pa arddodiad i'w ddefnyddio i gyfleu lleoliad rhywbeth neu i ba gyfeiriad y mae'n symud, gall fod yn ddefnyddiol ystyried ai pwynt, arwynebedd ynteu gyfaint y cyfeirir ato. Er enghraifft, a fyddai rhywun yn dweud 'ar y maes chwarae' ynteu 'yn y maes chwarae'?

Mae pêl droed ar y maes chwarae - arwynebedd - hy mae'n cyfeirio at fod ar wyneb y tir glaswelltog
Beth am gwrdd yn y maes chwarae? - cyfaint - hy mae'n golygu'r ardal i gyd a phopeth sydd ynddi

Ceir disgrifiad defnyddiol o'r opsiynau yn adran 5.23 o Gramadeg y Gymraeg gan Peter Wynn Thomas.

atalnodi

atalnodi agored

Yn gyffredinol, mae’r Gwasanaeth Cyfieithu yn dilyn arferion atalnodi agored. Prif egwyddorion yr arddull yw defnyddio cyn lleied o atalnodi diangen â phosibl.

Er enghraifft:

  • peidio â defnyddio atalnodau llawn mewn talfyriadau - ‘ee’ a ‘hy’, nid ‘e.e’ a ‘h.y’, gan roi coma o’u blaenau
  • peidio â rhoi hanner colon ar ddiwedd yr eitemau mewn rhestr o bwyntiau bwled byr
  • mewn llythyr, peidio ag atalnodi’r cyfeiriad, y cyfarchiad ‘Annwyl …’ na’r ymadrodd ‘Yn gywir’ ar y diwedd.

Gan fod cryn anghysondeb yn arddull atalnodi dogfennau Saesneg – a hynny weithiau o fewn yr un ddogfen neu gyfres – ceisiwch sicrhau bod yr arddull atalnodi yn gyson yn y cyfieithiadau Cymraeg.

bylchau ar ôl atalnodau

Cyfarwyddyd y rhai sy’n cysodi dogfennau'r Llywodraeth yw mai dim ond un bwlch y dylid ei roi ar ôl pob atalnod – atalnod llawn, coma, colon, hanner colon ac ati. Felly, os bydd dau fwlch ar ôl yr atalnodau llawn mewn dogfen, gallwch roi un bwlch ar eu holau yn y cyfieithiad.

attached

A copy of the letter is attached’
Amgaeir copi o’r llythyr
, nid ‘Atodir copi o’r llythyr’

berfau

amserau’r ferf

Mae angen gofal wrth ddefnyddio gwahanol amserau’r ferf.

The Minister said (gorffennol) Dywedodd y Gweindog
The Minister has said (perffaith) Mae'r Gweinidog wedi dweud
The Minister had said (gorberffaith) Roedd y Gweinidog wedi dweud
The Members hoped (amherffaith) Roedd yr Aelodau'n gobeithio neu Gobeithiai'r Aelodau nid Gobeithiodd yr Aelodau (gorffennol)
The First Minister said (gorffennol) he would (amherffaith) Dywedodd y Prif Weinidog y bydd (dyfodol)

ffurfiau cryno a ffurfiau cwmpasog

Nid oes rhaid defnyddio ffurfiau cryno’r ferf bob tro: hynny yw, nid yw ‘golyga hynny’ yn well Cymraeg na ‘mae hynny’n golygu’. Mae i’r ddau eu lle a dylid dewis a dethol yn ofalus rhwng ffurfiau cryno a chwmpasog yn ôl yr ystyr y mae angen ei gyfleu. Bydd angen ystyried hefyd effaith defnyddio’r ffurf gwmpasog ar hyd y testun cyfan os bydd cyfyngiadau o ran lle.

Mae ffurfiau cryno megis ‘penderfynodd yr aelodau’, a ‘clywodd y bobl’ yn ddigon cyfarwydd, ac felly nid oes rheswm dros eu hosgoi a defnyddio ffurfiau megis ‘fe wnaeth yr aelodau benderfynu’ a ‘fe wnaeth y bobl glywed’.

Mae i’r ffurfiau cwmpasog eu lle fodd bynnag pan fo angen osgoi ffurfiau clogyrnaidd neu orlenyddol. Er enghraifft, gellir dweud ‘fe wnaethant gydnabod’ yn hytrach na ‘cydnabuasant’, a ‘fe wnaethoch wrthod’ yn hytrach na ‘gwrthodasoch’.

Ceisiwch osgoi’r ffurfiau ‘bu inni’, ‘bu iddynt’ etc lle bo modd. Mae ‘fe wnaethon ni fwynhau ein hunain’ yn well na ‘bu inni fwynhau ein hunain’.

Mae i’r geiryn rhagferfol ‘fe’ ei le yn ein gwaith ni hefyd lle bo’n helpu llif y frawddeg neu’n cryfhau ystyr y ferf sy’n dilyn, ee Do, fe ddaeth y llythyr ymhen hir a hwyr. Dylech osgoi ei orddefnyddio serch hynny ac ni ddylid defnyddio ‘mi’, ac eithrio mewn sgriptiau ac ati.

ffurfiau amhersonol

Nid oes rhaid defnyddio ffurfiau amhersonol bob tro. Gallwch eu defnyddio mewn testun ffurfiol ei naws ond os byddwch yn cyfieithu ar gyfer y cyhoedd, dyweder, gallwch hepgor yr amhersonol, ee Os yw eich eiddo ym mand C … yn hytrach na ‘Os gosodwyd eich eiddo ym mand C …’.

berfau cynorthwyol

Mae angen gofal wrth drosi ymadroddion lle defnyddir berfau’n gynorthwyol yn Saesneg.

Saesneg Cymraeg nid...
to make use of defnyddio gwneud defnydd o
to pay a visit ymweld â talu ymweliad â

this represents a step forward

mae hyn yn gam ymlaen mae hyn yn cynrychioli cam ymlaen
this serves as a warning mae hyn yn rhybudd mae hyn yn gwasanaethu fel rhybudd
to give consideration to ystyried rhoi ystyriaeth i
to take account of / to take into consideration ystyried cymryd ystyriaeth o
to make attempts to ceisio gwneud ymgais i
to make efforts to ymdrechu gwneud ymdrech i
to make a decision penderfynu gwneud penderfyniad

 

berfau ymadroddol

Dyma un o nodweddion hynod yr iaith Saesneg, ac mae’n un sy’n gallu peri penbleth i’r cyfieithydd. Mae berf ymadroddol yn cynnwys berf ac arddodiad neu adferfol, ee fly away, carry on, keep up. Mae pob un ohonom ni yn eu cyfieithu’n llythrennol ar lafar – rydym ni i gyd yn ‘cario ymlaen efo’r gwaith’, er enghraifft. Ar y llaw arall, gall hynny fod yn amhriodol mewn dogfennau ffurfiol a byddai’n well ‘dal ati â’r gwaith’. Mae angen ystyried cywair y darn felly, a Chymreigio os oes modd. Ond rhaid hefyd ystyried a yw’r ymadrodd Cymraeg yn cyfleu union ystyr ac ergyd y Saesneg.

Isod, rhoddir y berfau hyn mewn tri chategori, gan gynnig enghreifftiau ynghyd â syniadau ynghylch sut i ymdrin â nhw.

Berfau lle mae ystyr llythrennol i’r ddwy elfen

The boy ran up the hill

Mae’r bachgen yn rhedeg, ac mae ‘i fyny’ yn disgrifio i ba gyfeiriad y mae’n rhedeg. Mae’n gwbl dderbyniol cyfieithu’r rhain yn llythrennol felly. Mae nifer fawr ohonynt yn ymwneud â symud i gyfeiriad penodol:

come in > dod i mewn
go out > mynd allan

Sylwch fod un gair yn cyfateb i nifer o’r rhain. Gellid dweud bod y berfau un gair yn fwy ffurfiol o bosibl, ond nid yw honno’n rheol gaeth. Gallant hefyd fod yn ddefnyddiol er mwyn arbed lle, ee mewn negeseuon trydar:

dod yn ôl > dychwelyd
mynd i ffwrdd > gadael
mynd i fyny > dringo

Berfau lle mae ystyr llythrennol i’r ferf yn unig

Ceir amrywiaeth eang iawn o’r rhain, ac mae’n bosibl mai’r dull mwyaf cyffredin o ymdrin â nhw yw cyfieithu’r ferf yn unig. Ystyriwch a fyddai’r ail elfen yn cyfrannu unrhyw beth at yr ystyr. Os na, mae’n bosibl nad oes ei hangen. Dyma rai enghreifftiau:

count out > cyfrif
tidy up > tacluso
fall down > disgyn/cwympo/syrthio
fill in > llenwi
slow down > arafu

Un dull o bwyso a mesur a oes angen yr ail elfen yw ei chyfnewid am ei gwrthwyneb, ee ‘i fyny’ am ‘i lawr’ neu ‘i mewn’ am ‘allan’. Os yw’n synhwyrol, mae’n debyg bod yr elfen honno yn cyfrannu at yr ystyr a bod ei hangen. Os yw’n nonsens, gellir ei hepgor.

Os nad yw’r ferf ar ei phen ei hun yn cyfleu’r union ystyr, ystyriwch a oes modd aralleirio:

miss out > colli > colli cyfle
write down > ysgrifennu > gwneud nodyn
sit up > eistedd > codi ar ei eistedd

Berfau lle nad oes ystyr llythrennol i’r elfennau unigol

Ystyriwch y frawddeg “My money has run out”. Nid yw’r arian yn rhedeg i unlle, i mewn nac allan. Yn ddelfrydol felly, dylid dod o hyd i ymadrodd idiomatig Cymraeg. Yn yr achos hwn, byddai “Mae fy arian wedi darfod/dod i ben” yn gweithio. Dyma ragor o enghreifftiau, a chyfieithiadau posibl:

own up > cyfaddef
take place > digwydd
work out > cyfrifo
stand out > dal sylw
carry on > dal ati

Byddai’n anodd iawn llunio rhestr gynhwysfawr, gan y bydd y cyfieithiad yn amrywio yn unol â’r cyd-destun. Er enghraifft:

He worked out the bill
Cyfrifodd y bil

He worked out what to do
Penderfynodd beth i’w wneud

He worked out the puzzle
Datrysodd y pos

 

Set out

Dyma enghraifft sy’n codi’n aml wrth gyfieithu dogfennau ffurfiol. Mae fel arfer yn cael ei gyfieithu fel ‘nodi’ mewn deddfwriaeth, gan nad oes unrhyw amwysedd:

These regulations set out the procedure to be followed
Mae’r rheoliadau hyn yn nodi’r weithdrefn sydd i’w dilyn

Mewn testunau cyffredinol, ar y llaw arall, gall ‘set out’ gyfleu rhywbeth mwy disgrifiadol neu amhenodol:

The Minister set out the government’s plans for the next five years

Gallai ‘disgrifio’, ‘egluro’, ‘mynegi’, neu hyd yn oed ‘amlinellu’ weithio, gan ddibynnu pa mor benodol y teimlir y mae’r Gweinidog wedi bod. Bydd rhaid pwyso a mesur yn ôl y cyd-destun.

Gall ‘set out’ fynegi ystyr gwahanol hefyd wrth gwrs:

He did not set out to break the world record
Nid torri record y byd oedd ei fwriad

Draw on

Dyma enghraifft arall lle mae angen pwyso a mesur pa ystyr yn union y mae’r awdur yn ceisio’i gyfleu. Er enghraifft, gallai ‘defnyddio’, ‘manteisio ar’ ac ‘elwa ar’ fod yn bosibl yn y frawddeg isod:

The report draws on published contributions and comments made in focus groups

Os teimlir bod y testun Saesneg yn fwriadol amwys, efallai y dylid ystyried atgynhyrchu hynny yn y cyfieithiad.

berfenwau

Defnyddiwch ferfenw yn lle ansoddair lle bo modd:

  • corff llywodraethu, nid ‘corff llywodraethol’
  • dogfen ymgynghori, nid ‘dogfen ymgynghorol’
  • camau gweithredu, nid ‘camau gweithredol’

Defnyddiwch ferfenw yn lle enw lle bo modd:

  • datblygu economaidd, nid ‘datblygiad economaidd’

blwch / bocs

Defnyddiwch ‘blwch’, nid ‘bocs’, mewn ffurflenni, ee Tick the box/Ticiwch y blwch.

Mewn cyweiriau ysgrifenedig ffurfiol defnyddir ‘blwch’, gan amlaf, i drosi ‘box’. Mae hyn yn cynnwys wrth gyfeirio at sgwariau neu betryalau ar ffurflenni neu feddalwedd, a’r rhan fwyaf o gynwysyddion gan gynnwys rhai at ddibenion arbennig fel ‘blwch pleidleisio’ a ‘blwch postio’. Serch hynny defnyddir ‘bocs’, gan amlaf, i drosi ‘box’ pan gyfeirir at gynwysyddion cardfwrdd a chynwysyddion plastig a metel gweddol fach ee ‘bocs cinio’.

Ar lafar ac mewn cyweiriau llai ffurfiol mae’n bosibl y ceir mwy o ddefnydd i ‘bocs’ mewn cyd-destunau lle mae’n fwy arferol gweld ‘blwch’ mewn cyd-destunau ysgrifenedig ffurfiol, ee ‘bocs pleidleisio’ a ‘bocs postio’.

blynyddoedd

Ysgrifennir rhifau blynyddoedd mewn ffigurau fel arfer.  

Ysgrifennir rhifau blynyddoedd yn llawn, hy ‘yn 2016’ nid ‘yn ’16’.  

Er cysondeb, trinnir yr elfen gyntaf mewn blynyddoedd o 1000 i 1999 fel mai ‘un’ sy’n cael ei ddweud yn hytrach na ‘mil’. Felly:  

  • ‘rhwng 1998 ac 1999’ nid ‘rhwng 1998 a 1999’  
  • ‘yn 1999’ nid ‘ym 1999’.  

Yr unig eithriad i hyn fyddai darn yn y cywair clasurol lle byddai angen ysgrifennu rhif y flwyddyn mewn geiriau yn hytrach na ffigurau, gan ddefnyddio’r system ugeiniol. Bryd hynny, byddai’n rhesymol ysgrifennu ‘ym mil naw cant’ yn hytrach nag ‘yn un naw dim dim’.

Yn yr amgylchiadau prin pan fo angen ysgrifennu rhif y flwyddyn mewn geiriau, ee ar gyfer araith neu ddatganiad llafar, bydd y rhifau’n wrywaidd bob amser (ee ‘dwy fil a dau’ nid ‘dwy fil a dwy’). Mae hyn yn seiliedig ar eu trin fel rhifau (gwrywaidd), ac nid fel nifer o flynyddoedd (benywaidd).  

Bydd y ffordd o ysgrifennu’r rhif yn amrywio ar sail y cywair a’r flwyddyn dan sylw, ac hefyd (mewn araith neu ddatganiad llafar) ar sail yr hyn sy’n gweddu orau i’r siaradwr. Er enghraifft: 

  • Weithiau bydd y system ugeiniol yn fwy addas na’r system ddegol, hyd yn oed yn y cyweiriau anffurfiol neu ffurfiol, ee bydd yn fwy addas ysgrifennu ‘dwy fil ac un ar ddeg’ na ‘dwy fil ac un deg un’ waeth beth yw’r cywair  
  • Weithiau bydd y system ugeiniol yn addas i’r cywair clasurol yn unig, a’r system ddegol yn fwy addas i gyweiriau eraill, ee gallai ‘dwy fil a thri ar hugain’ a ‘mil naw cant a phedwar ugain’ fod yn addas yn y cywair clasurol, a gallai ‘dwy fil a dau ddeg tri’ a ‘mil naw wyth deg’ fod yn fwy addas mewn cyweiriau eraill.  
  • Sylwer y bydd angen defnyddio ‘ym’ os penderfynir defnyddio’r system ugeiniol yn achos blynyddoedd rhwng 1000 a 1999.

Felly dylai’r cyfieithydd arfer ei grebwyll wrth benderfynu beth sy’n addas, a bod yn gyson o fewn yr un darn neu gyfres o ddarnau.

bod / fod

Mae angen treiglo:

  • ar ôl ffurfiau cryno’r ferf: 
    credaf fod
  • ar ôl ‘efallai’ (sef ffurf gryno ar y ferf ‘gallu’ – ‘fe allai’):
    efallai fod angen bwyd arno

Nid oes angen treiglo:

  • ar ôl ffurfiau amhersonol: 
    credir bod
  • ar ôl berfenw:
    mae’n credu bod
  • ar ôl ‘er’ (er bod), ‘rhaid’ (rhaid bod), ‘a’ (a bod), ‘yw’ (yw bod), ‘oherwydd’ (oherwydd bod).
  • ar ôl ffurfiau megis ‘y ffaith’, ‘mae’n amlwg’, ‘mae’n syndod’: 
    y ffaith bod swyddfeydd y Cyngor ar gau sydd wedi cythruddo’r bobl

brawddegau gweithredol / goddefol

Mae defnyddio brawddegau gweithredol neu uniongyrchol yn hytrach na brawddegau goddefol:

  • yn gryfach
  • yn fyrrach
  • yn haws eu darllen
  • yn cyfleu ergyd y neges yn fwy effeithiol.

brawddeg weithredol

Goddrych, neu destun, y frawddeg sy’n gwneud y weithred mewn brawddeg weithredol, ee ‘Crafodd y gath Joni bach’.
Y gath, felly, sy’n gwneud y weithred, sef crafu Joni bach.

brawddeg oddefol

Mewn brawddeg oddefol mae rhywbeth yn digwydd i oddrych y frawddeg, ee ‘Cafodd Joni bach ei grafu gan y gath’.
Joni bach yw goddrych y frawddeg hon ond nid yw ef yn gwneud dim. Mae’r weithred yn cael ei gwneud iddo ef. Joni bach sy’n cael ei grafu.

Dyma enghraifft fwy cymhleth:  
‘Cyflwynwyd canllawiau newydd gan y Bwrdd Rheoli yn y gobaith y byddai hyd dogfennau sy’n cael eu paratoi gan Adrannau yn cael ei gyfyngu i 20 tudalen.’
Dyma hi eto gyda’r ffurfiau goddefol wedi’u dileu a ffurfiau gweithredol yn eu lle: 
‘Cyflwynodd y Bwrdd Rheoli ganllawiau newydd yn y gobaith y byddai Adrannau yn cyfyngu ar hyd dogfennau i 20 tudalen.’

budd-dal

nid 'budd-dâl'

byth

Yn gyffredinol, nid oes angen treiglo ‘byth’: 
nid yw byth yn methu

can

Byddwch yn ofalus wrth gyfieithu ymadroddion sy’n defnyddio’r ferf ‘can’ yn Saesneg. Mae’n aml yn cael ei defnyddio i olygu ‘may’. Ystyriwch yr enghraifft isod:

Can builders work in other people’s homes under the coronavirus restrictions?

Mae’n amlwg y bydden nhw’n gallu gweithio yn nghartrefi pobl eraill (hynny yw, mae ganddynt y sgiliau a’r offer i wneud y gwaith). Y cwestiwn yw, a fydden nhw’n cael gwneud hynny (hynny yw, a oes caniatâd iddynt wneud hynny?).

Gweler hefyd yr eitem ‘may (has discretion to, is permitted to)’.

caniatáu

'caniatáu i rywun wneud rhywbeth' nid ‘caniatáu rhywun i wneud rhywbeth’

canrifoedd

Ysgrifennwch enwau canrifoedd yn llawn:
'yr unfed ganrif ar hugain', nid ‘21ain ganrif’ nac ‘21g’

cenedl enwau

Ein harfer yw dilyn y genedl gyntaf sy’n cael ei nodi yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru os nodir dau ddewis, oni bai bod cytundeb ffurfiol i ddilyn cenedl wahanol er cysondeb. Er enghraifft, defnyddir ‘fersiwn’ yn fenywaidd gan y Gwasanaeth Cyfieithu er mai enw gwrywaidd yn gyntaf ydyw yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru.

Nodwch yn arbennig yr isod - mae’r rhestrau hyn yn cynnwys geiriau rydym yn eu trin yn wahanol i Eiriadur y Brifysgol, a geiriau ble rydym yn dilyn y genedl yn y Geiriadur ond y mae cwestiwn yn codi ynghylch eu cenedl yn aml:

benywaidd

amrywiaeth
anfantais
aradr
carafán
cilfan
economi
effaith
eitem
fersiwn
ffaith
galwad
gwybodaeth
hysbyseb
neges
proses
sesiwn
strategaeth
trosedd
tudalen
tuedd
ymchwil
ymgyrch 
ystyriaeth       

gwrywaidd

busnes
ffactor
ffolder (nid oes cofnod o “ffolder” yn yr ystyr ‘lle i gadw papurau’ yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru)
fformat
fframwaith
man (=lle)
nifer
poen
rhwydwaith
safle
sector
statws
syndrom

Gweler hefyd yr erthygl am 'golwg' sy'n trafod cenedl yr enw hwn mewn gwahanol gyd-destunau.

cenedl geiriau, rhyw a rhywedd

Mae gan bob enw Cymraeg genedl ramadegol – fe’i hystyrir yn ramadegol-fenywaidd neu’n ramadegol-wrywaidd, a chaiff y genedl ei hadlewyrchu yn y treigladau, ac yn ffurf y rhagenwau a’r arddodiaid, a ddefnyddir gyda’r enw. 

Pan fo enwau’n cyfeirio at bobl, ni fydd cenedl ramadegol yr enw bob amser yn cyd-fynd â rhyw neu rywedd yr unigolyn hwnnw. Weithiau ni fydd yn hysbys beth yw rhyw neu rywedd y sawl y mae’r enw’n cyfeirio ato. Nid yw rhywedd pobl anneuaidd yn cyd-fynd â’r categorïau rhywedd deuaidd  Mae diffiniadau o ‘rhyw’, ‘rhywedd’ a thermau eraill yn y maes hwn ar TermCymru.

Yn aml, ni fydd y gwahaniaeth rhwng y genedl ramadegol a rhyw neu rywedd unigolion yn peri unrhyw broblem, ond dro arall rhaid cymryd gofal er mwyn osgoi creu dryswch neu chwithdod, gan gadw’r testun mor glir â phosib. Dylid ystyried y cyd-destun yn ofalus, gan geisio osgoi peri gofid i unigolion na chamgynrychioli eu rhyw neu rywedd. 

O ran rhagenwau, treigladau a ffurfiau rhededig arddodiaid, yn y rhan fwyaf o achosion bydd yn addas defnyddio’r rhai sy’n cyd-fynd â chenedl yr enw. Ond pan fo risg y gall hynny ymddangos yn anaddas neu greu dryswch, gellir ystyried addasu. 

Osgowch ddefnyddio rhagenwau, treigladau ac arddodiaid lluosog i gyfeirio at enwau unigol pan fo modd, gan ddilyn y cynghorion isod. Ond gall fod yn addas defnyddio rhagenwau, treigladau ac arddodiaid lluosog i gyfeirio at enwau unigol mewn rhai amgylchiadau, ee pan fo’r cyd-destun yn golygu bod angen sensitifrwydd o ran rhyw neu rywedd, neu pan fo defnyddio’r lluosog yn ddymuniad unigolyn penodol.

Ystyriwch a ellir osgoi defnyddio rhagenwau, treigladau ac arddodiaid sy’n benodol o ran rhyw neu rywedd. Mae ambell ffordd o wneud hynny, ee: 

  • Peidio â chynnwys rhagenw, ee yn hytrach nag “Os bydd rhiant yn anfon ei blentyn i’r ysgol…” gellir dweud “Os bydd rhiant yn anfon plentyn i’r ysgol…”
  • Defnyddio’r fannod yn hytrach na rhagenw, ee yn hytrach nag “Os bydd rhiant yn anfon ei blentyn i’r ysgol…” gellir dweud “Os bydd rhiant yn anfon y plentyn i’r ysgol…” 
  • Defnyddio berfau cryno yn lle rhai cwmpasog, ee yn hytrach na “Caiff yr ymgeisydd llwyddiannus ei benodi...” gellir dweud “Penodir yr ymgeisydd llwyddiannus...” 
  • Defnyddio ffurf luosog yr enw a rhagenwau, treigladau ac arddodiaid sy’n cyd-fynd â hynny, ee yn hytrach na “Rhaid i bob disgybl barchu ei athrawon” gellir dweud “Rhaid i’r holl ddisgyblion barchu eu hathrawon”. 

Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio rhagenwau, treigladau ac arddodiaid nad ydynt yn cyd-fynd â chenedl yr enw. Gall hynny fod yn addas: 

  • Pan fo enw cyffredin neu deitl yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at unigolyn penodol, hysbys sydd â rhyw neu rywedd gwahanol i genedl yr enw (ee menywod y mae gan eu swyddi deitl gramadegol-wrywaidd). Gellir ystyried enwi’r unigolyn, ee “Dywedodd y Gweinidog, Jane Jones, ei bod…”
  • Wrth gyfeirio at unigolyn amhenodol nad oes unrhyw amheuaeth ynghylch ei ryw neu rywedd. 

Peidiwch byth â rhoi mwy nag un treiglad ar ddechrau’r un gair, ee “Caiff yr enwebai ei g/chyfethol dros dro”. Os nad yw’n bosibl osgoi defnyddio rhagenwau, treigladau neu arddodiaid sy’n benodol o ran rhyw neu rywedd drwy un o’r dulliau uchod, gellir eu rhoi ar wahân, ee “Caiff yr enwebai ei gyfethol neu ei chyfethol dros dro”

Wrth ddelio ag enwau y mae gwahanol ffurfiau, gwrywaidd a benywaidd, arnynt yn Gymraeg: 

  • Defnyddiwch ffurfiau mwy niwtral os yw hynny’n bosib, ee gellir defnyddio “actor” wrth sôn am ddynion neu fenywod sy’n actorion 
  • Yn hytrach na defnyddio ffurfiau gwahanol, ystyriwch ddefnyddio’r ffurf luosog, ee addasu’r frawddeg i gyfeirio at “athrawon” yn hytrach nag “athro/awes” neu “athro neu athrawes”
  • Mae’n briodol defnyddio enwau â’r terfyniad -wr, ee “cyfarwyddwr”, i gyfeirio at ddynion a menywod fel ei gilydd os mai dyna’r ffurf arferol ar yr enw. Nid oes angen defnyddio ffurfiau llai arferol â therfyniad niwtral, ee “cyfarwyddydd”, na ffurfiau â therfyniad sy’n benodol o ran rhyw neu rywedd, ee “cyfarwyddwraig” (ond gall unigolion benderfynu defnyddio ffurfiau o’r fath yn eu teitlau eu hunain).  

chi

nid 'chwi'

circular / newsletter

‘Cylchlythyr’ ar gyfer y ddau. Efallai y byddai cyfiawnhad dros ddefnyddio 'newyddlen' ar gyfer ‘newsletter’ pe bai angen gwahaniaethu rhwng y ddau yn yr un darn o waith.

cod

Er cysondeb: cod nid ‘côd’ lle bo’n cyfeirio at y gair Saesneg ‘code’.

còd

Er cysondeb: còd nid ‘cod’ lle bo’n cyfeirio at y pysgodyn penfras.

contravene

‘Torri’ a ddefnyddir yn aml i gyfleu ‘contravene’ e.e. ‘It is an offence to contravene  Article 14(6) of Regulation 470/2009’, ‘Mae’n drosedd torri Erthygl 14(6) o Reoliad 470/2009’.

Pan fydd mwy o rym ‘gwrthdaro’ i’r defnydd o ‘contravene’  na ‘torri rheol’ gellir defnyddio ‘mynd yn groes’ e.e. ‘to provide information would contravene a right protected under human rights law’, ‘byddai darparu gwybodaeth yn mynd yn groes i hawl sydd wedi ei hamddiffyn o dan gyfraith hawliau dynol’.

contravention

Mae sawl ffordd o gyfieithu ‘contravention’.  Gellir defnyddio berfenw fel ‘torri’  i gyfleu ‘contravention’ fel enw cynnull* e.e. ‘contravention of certain regulations not to be an offence’, ‘torri rheoliadau penodol i beidio â bod yn drosedd’.

Gellir cyfleu’r ymadrodd ‘in contravention of’ drwy ddefnyddio ‘yn groes i’ e.e. ‘in contravention of regulation 5’, ‘yn groes i reoliad 5’.

I gyfleu ‘contravention’ fel enw rhif*, mae nifer o ddewisiadau, fel y rhai a ganlyn:

  • Mae ‘toriad’ yn gweithio os bydd ‘torri’ yn cael ei ddefnyddio yn yr un cyd-destun e.e. ‘the health mark or identification mark that constitutes the alleged contravention’, ‘y marc iechyd neu’r marc adnabod sy’n ffurfio’r toriad honedig’.  O ddefnyddio ‘toriad’, mae angen sicrhau na fydd amwysedd yn codi oherwydd ystyron eraill ‘toriad’.

  • Os yw’n amlwg beth sy’n destun y torri, mae modd defnyddio cyfuniadau yn ‘tor’. Er enghraifft, ‘tor rheoliad’ pan fydd yn amlwg mai torri ‘rheoliad’ sydd o dan sylw e.e. ‘the contravention which is complained of may for all incidental purposes be treated as having been committed in any part of Wales’, ‘caniateir ymdrin â'r tor rheoliad y cwynir amdano at bob diben atodol fel pe bai wedi ei gyflawni mewn unrhyw ran o Gymru’.

  • Mewn cyd-destunau eraill defnyddir ‘tramgwydd’ i gyfleu ‘contravention’ e.e. ‘traffic contraventions’ ‘tramgwyddau traffig’; ‘parking contraventions’, ‘tramgwyddau parcio’; a ‘hazardous substances contravention’, ‘tramgwydd sylweddau peryglus’. 

  • Ac ar adegau gellir defnyddio ‘torri ‘ i gyfleu’r enw Saesneg e.e. ‘guilty of an offence in the case of any contravention of section 2(2) to (4) of the Act, including any such contravention by virtue of a failure to comply with the requirements of article 3.’ , ‘euog o drosedd os torrir adran 2(2) i (4) o’r Ddeddf, gan gynnwys ei thorri yn rhinwedd methu cydymffurfio â gofynion erthygl 3’

* ‘Enw cynnull’ yw enw nad oes modd ei ddefnyddio yn y ffurf luosog ac nad oes modd ei gyfrif e.e. ‘bara’.  ‘Enw rhif’ yw enw y mae modd ei ddefnyddio yn y ffurf luosog ac y mae modd ei gyfrif e.e. ‘torth’.  Weithiau, fel yn achos ‘contravention’ mae enwau yn gallu cael eu defnyddio fel enwau cynnull ac fel enwau rhif, ond i gyfleu ystyron gwahanol.

cwyn (complaint)

cwyn
y gŵyn
a chŵyn

cwynion (complaints)

Mae angen yr acen ar ffurfiau treigledig y gair unigol ‘cwyn’ er mwyn i’r ystyr fod yn eglur – gweler yr erthygl ‘cwyn (complaint)’.

Mae’r cwestiwn yn codi a oes angen acen grom yn y gair treigledig lluosog, ‘gwynion’. Y cyngor yn y gyfrol ‘Orgraff yr Iaith Gymraeg’ (paragraff 72(2)) yw nad oes angen yr acen honno, o ddilyn y rheolau arferol, oherwydd nad sain llafariad hir sydd i’r llythyren ‘w’ yn y ffurf luosog.

Er hynny mae’n nodi y gall fod yn syniad cael rhyw ffordd o nodi’r sain gywir gan fod cynifer o bobl yn ei chamseinio. Mae’n argymell y gellid defnyddio’r to bach – gan nad oes arwydd arall addas yn bodoli yn orgraff y Gymraeg – lle bo angen arweiniad ynghylch ynganiad cywir (neu, felly, i osgoi amwysedd yn yr ystyr).

Ein harfer ni felly, ar gyfer gwaith Llywodraeth Cymru, yw defnyddio “gwynion” ar gyfer ffurf luosog “gŵyn” ac eithrio mewn amgylchiadau penodol, prin lle gallai’r ystyr fod yn amwys, neu lle mae angen arweiniad ar yr ynganiad (ee mewn araith neu sgript). Yn y rhan fwyaf o gyd-destunau, dylai fod yn ddigon eglur ai lluosog yr ansoddair ‘gwyn’ ynteu lluosog yr enw ‘cwyn’, wedi’i dreiglo, a ddynodir gan y gair ‘gwynion’.

cychwyn a dechrau

Mae pobl yn aml yn defnyddio ‘cychwyn’ a ‘dechrau’ i olygu’r un peth, ond mewn gwirionedd mae ychydig o wahaniaeth rhwng y ddau air. Ceir syniad o symud yn y gair ‘cychwyn’, ee

‘Byddaf yn cychwyn i’r gwaith am wyth bob bore.’

Mewn cyd-destunau eraill, ee lleoliad neu amser, dylid defnyddio’r gair ‘dechrau’: 

‘Mae’n dechrau glawio.’
‘Rhestrir y pwyntiau pwysig ar ddechrau’r bennod.’

Yn ogystal â hyn, defnyddir y gair ‘cychwyn’ yn y maes deddfwriaethol yn benodol i gyfleu ‘commencement’, yn yr ystyr bod deddfwriaeth yn dod i rym.

cyfieithu 'Wales' mewn teitlau

Wrth gyfieithu teitlau swyddi, sefydliadau, ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd ac ati, mae’n werth ystyried a oes angen cyfieithu ‘Wales’ bob tro. Wrth gwrs nid penderfyniad y cyfieithydd yw hynny os oes teitl swyddogol eisoes yn bodoli. Ond os bydd gofyn bathu teitl newydd, dyma rai pwyntiau i’w cadw mewn cof.

Mae’n hollbwysig osgoi amwysedd ee os bydd cyfeiriad at Brif Weinidog y DU a Phrif Weinidog Cymru yn yr un darn. Defnyddiwch ‘y Prif Weinidog’ ar gyfer Prif Weinidog Cymru, a rhoi Prif Weinidog y DU yn llawn os yw’r ddau yn codi yn y darn. Gweler hefyd yr eitem ‘Senedd Cymru / Llywodraeth Cymru’.

Gall godi hefyd pan sefydlir cangen Gymreig o ymgyrch neu gorff Prydeinig, ee ‘Children Takeover Wales’, sy’n rhan o ymgyrch ehangach ‘Children Takeover’ ledled y DU. Gellid ystyried bod y lleoliad ymhlyg yn iaith y teitl ac yng nghyd-destun y darn, ac felly nad oes angen cyfieithu’r ‘Wales’.

Ar y llaw arall, efallai bod ymgyrch neu gorff y DU yn gyfarwydd ac wedi’i hen sefydlu, neu efallai bod y darn dan sylw yn cyfeirio at y ddwy ymgyrch neu’r ddau gorff a bod angen gwahaniaethu rhyngddynt yn fwy penodol.

Os felly, gall fod angen ychwanegu enw’r wlad i osgoi amwysedd. Y penderfyniad mwyaf cyffredin fyddai ychwanegu ‘Cymru’ at deitl yr ymgyrch Gymreig. A fyddai modd weithiau gwneud y gwrthwyneb, ac ychwanegu ‘y DU’ at deitl yr ymgyrch ehangach, gan ddibynnu ar y cyd-destun?

Y peth pwysig yw cadw’r amwysedd posibl mewn cof a sicrhau bod yr ystyr yn gwbl eglur i’r darllenydd.

cyfieithu ‘hub’

Mae cryn amrywiaeth o ran sut y cyfieithir “hub”. Mae’r cyfieithiadau mwyaf cyffredin ohono yn cynnwys ‘Hyb’, ‘Hwb’, ‘Canolfan’, ‘Canolbwynt’ a ‘Ffocws’. Yn achos sefydliadau allanol, rhaid cadw at beth bynnag yw’r enw swyddogol sydd wedi’i roi ar gyfer ‘hub’.

Mewn achosion lle mae ‘hub’ yn rhan o deitl, ac nid oes enw swyddogol yn bodoli, ein harfer ni yng ngwaith y Llywodraeth yw defnyddio’r sillafiad ‘hwb’ yn hytrach na ‘hyb’ os nad yw’n addas defnyddio gair arall fel ‘canolfan’.

Lle cyfeirir at ‘hub’ mewn modd disgrifiadol ac nid fel term technegol ee ‘a hub of activity’, mae’n werth ystyried a oes modd aralleirio’r testun Cymraeg i gyfleu’r ystyr yn hytrach na chanolbwyntio’n ormodol ar drosi ‘hub’. Er enghraifft, gallai ‘a hub of activity’ fod yn rhywle sy’n ‘fwrlwm o weithgareddau’.

cymaint / cynifer

Mae angen gwahaniaethu.

Mae ‘cymaint’ yn cyfeirio at ‘faint’:
cymaint o dlodi, cymaint o law

Mae ‘cynifer’ yn cyfeirio at ‘nifer’:
cynifer o weithwyr, cynifer o anifeiliaid

cymerodd

nid 'cymrodd'

Cymraeg Clir

Y prif egwyddorion yw:

  • bod yn fyr ac yn gryno
  • peidio â defnyddio ffurfiau benywaidd a lluosog ansoddeiriau ond lle bo’r ffurf honno yn air cyffredin iawn
  • defnyddio iaith neu gystrawen syml
  • defnyddio brawddegau uniongyrchol a gweithredol yn hytrach na brawddegau goddefol
  • defnyddio llai o ferfau amhersonol
  • rhannu brawddeg amlgymalog yn frawddegau llai
  • defnyddio berfenw yn lle enw ac ansoddair lle bo modd
  • osgoi glynu’n rhy gaeth wrth gystrawen y Saesneg.

Cymru a'r Gymraeg

Wrth gyfeirio at England and Wales defnyddiwch ‘Cymru a Lloegr’.
Wrth gyfeirio at English and Welsh defnyddiwch ‘Cymraeg a Saesneg’.

cymryd

nid 'cymeryd'

cymwyseddau

nid 'cymhwyseddau'

cymwysedig

nid ‘cymwys’ lle bo’n cyfateb i ‘qualified’, ee athrawon cymwysedig

cymwysterau

nid 'cymhwysterau'

cynyrchiadau

nid 'cynhyrchiadau'

cystrawen

Wrth gyfieithu, rhaid osgoi glynu’n rhy gaeth wrth gystrawen y Saesneg.

There will be an increase in the demand for and the provision of modern foreign language courses.
Anghywir: Bydd cynnydd yn y galw am a’r ddarpariaeth o gyrsiau ieithoedd tramor modern.
Cywir: Bydd y galw am gyrsiau ieithoedd tramor modern yn cynyddu a bydd mwy ohonynt yn cael eu darparu.

The scheme was important in creating opportunities.
Anghywir: Roedd y cynllun yn bwysig wrth greu cyfleoedd.
Cywir: Roedd y cynllun yn bwysig o ran creu cyfleoedd.
 
The aim of the scheme is to improve standards in schools.
Anghywir: Amcan y cynllun yw i wella safonau mewn ysgolion.
Cywir: Amcan y cynllun yw gwella safonau mewn ysgolion.

Whilst we acknowledge that we cannot ...
Anghywir: Tra’r ydym yn cydnabod na allwn ...
Cywir: Er ein bod yn cydnabod na allwn …

These are the potential problems.
Anghywir: Y rhain yw’r problemau potensial (hynny yw, defnyddio ‘potensial’ fel ansoddair)
Cywir: Y rhain yw’r problemau posibl.

The number of cases has risen by 20%.
Anghywir: Mae’r nifer o achosion wedi cynyddu/codi o 20%.
Cywir: Mae nifer yr achosion wedi cynyddu/codi 20%. 
neu 
Bu cynnydd o 20% yn nifer yr achosion.

To provide the public with information.
Anghywir: Darparu’r cyhoedd â gwybodaeth.
Cywir: Darparu gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd.

cysylltnod

Yn gyffredinol, mae angen y cysylltnod mewn cyfansoddeiriau lle bo’r ail elfen yn air unsill.

Yn gyffredinol, nid oes angen y cysylltnod mewn cyfansoddeiriau lle bo’r ail elfen yn cynnwys mwy nag un sill.

  • Ar ôl y rhagddodiaid ad-, cyd-, dad-, di-, gor-, gwrth-, rhag-, rhyng-, tra-, traws-

      Enghreifftiau cyffredin:
      di-waith     diweithdra
      gor-ddweud  gorweithio
      cyd-fynd  cydadolygiad 

      Eithriadau cyffredin:
      ad- lle bo’r llythyren ‘t’ yn treiglo’n feddal ar ôl ad- mae angen cysylltnod gyda lluosillafion, ee ad-daliad, ad-drefnu 
      cyd- lle bo cyd- yn golygu ‘fellow’, ‘joint’ mae angen y cysylltnod gyda lluosillafion, ee cyd-weithwyr, cyd-bwyllgor

  • Ar ôl yr ansoddeiriau ail-, arch-, blaen-, cam-, cyn-, lled-, ôl-, pen-, prif-, uwch-, is-

      Enghreifftiau cyffredin:
      ail-greu     ailadrodd
      cam-drin camddefnyddio

      Eithriadau cyffredin:
      prif   Mae ‘prifddinas’ a ‘prifysgol’ yn un gair. Pan fo prif yn cyfateb i chief yn Saesneg, mae’r ddwy elfen yn cael eu hysgrifennu ar wahân, ee ‘Prif Gwnstabl’.
      uwch-, is-  nid oes angen cysylltnod mewn geiriau fel ‘uwchraddol’, ‘isdeitl’ ond mae ei angen lle bo’r ail elfen yn enw ar gorff neu swydd ac ati, ee ‘uwch-reolwr’, ‘is-bwyllgor’, ‘is-lywydd’, ‘is-adran’. Arfer y Gwasanaeth Cyfieithu hefyd yw defnyddio ‘is-ddeddfwriaeth’.

  • cysyllteiriau yn dechrau â ‘hunan’
    ee hunan-barch hunangynhaliol

Rhowch gysylltnod gyda chysyllteiriau sy’n cynnwys y rhagddodiad ‘e-‘ i gyfleu’r cyfrwng electronig, ee e-bost, e-bostio, e-lywodraeth, e-Weinidog, e-Gymru. Mae hyn yn bwysig o ran y pwyslais ac o ran cysondeb.

cyweiriau ac arddulliau

Yr arddulliau cyffredinol a deddfwriaethol 

Mae’r cyngor yn yr Arddulliadur yn berthnasol i’n gwaith cyfieithu ar gyfer testunau cyffredinol. Y Canllawiau Arddull Deddfwriaethol sy’n berthnasol i’n gwaith ar destunau deddfwriaethol (deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, ar ffurf rheoliadau a gorchmynion). 

Weithiau ceir erthyglau ar bynciau yn yr Arddulliadur nad oes erthyglau cyfatebol iddynt yn y Canllawiau, ac i’r gwrthwyneb. Er enghraifft, mae erthygl yn yr Arddulliadur ar dreiglo ‘bod’. Nid oes erthygl gyfatebol yn y Canllawiau, ond mae’r cyngor yn yr Arddulliadur yn berthnasol i gyfieithu deddfwriaethol hefyd. Yn yr un modd, mae erthygl yn y Canllawiau ar dreiglo testun sydd rhwng dyfynodau, ond nid oes erthygl gyfatebol yn yr Arddulliadur.

Mae peth tir cyffredin rhwng y Canllawiau ac Arddulliadur y Gwasanaeth Cyfieithu. Er enghraifft, o ran cenedl enwau, mae’r Canllawiau a’r Arddulliadur ill dau yn cytuno ein bod fel arfer yn dilyn y genedl a nodir yn gyntaf yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru. Ond o ran byrfoddau ac acronymau, er enghraifft, ceir cyngor gwahanol yn yr Arddulliadur i’r hyn a geir yn y Canllawiau.

Os ydych yn cyfieithu deddfwriaeth, a bod yr Arddulliadur yn rhoi cyngor gwahanol, dylech ddilyn y cyngor yn y Canllawiau Arddull Cyfieithu Deddfwriaethol.

Gall fod yn ddefnyddiol cyfeirio at y Canllawiau Arddull Deddfwriaethol wrth gyfieithu testunau lled-ddeddfwriaethol – hy, testunau sy’n gysylltiedig â deddfwriaeth, megis Cynigion a Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a Memoranda Esboniadol, neu rai sydd mewn arddull lai ffurfiol ond sydd â pheth grym cyfreithiol, megis Cyfarwyddydau a Chodau Ymarfer. Wrth gyfieithu testunau lled-ddeddfwriaethol felly, rhaid pwyso a mesur i ba arddull  y mae’r ddogfen yn perthyn ac i ba raddau y mae’n briodol glynu at y ffurfiau a argymhellir yn y Canllawiau Arddull Deddfwriaethol, yn hytrach na’r hyn a argymhellir yn yr Arddulliadur, neu’n ogystal â hynny.

 

Cyweiriau cyffredinol 

Rydym wedi dosbarthu’r cyweiriau a ddefnyddiwn yn ein gwaith cyffredinol yn bedwar prif gategori: y cywair clasurol, y cywair ffurfiol, y cywair anffurfiol a’r cywair llafar/anffurfiol iawn. 

Mae mwyafrif yr egwyddorion a nodir mewn erthyglau eraill yn yr Arddulliadur yn berthnasol i bob cywair, ee defnyddir atalnodi agored (dim collnodau wrth ollwng llythrennau, dim atalnodau ar ôl byrfoddau ee hy ac etc) ac ni ddefnyddir ffurfiau lluosog ansoddeiriau (ee ‘pobl ifainc’) heblaw pan fo hynny’n arferol iawn. 

Pan fo mwy nag un dewis, cofiwch gadw cysondeb ffurfiau o fewn yr un darn neu gyfres o ddarnau. 

1. Y cywair clasurol

Mathau o waith:      

  • deunyddiau seremonïol ee proclamasiynau  
  • deunyddiau ffurfiol iawn ee memoranda cyd-ddealltwriaeth, trwyddedau.

Nodweddion: 

  • ‘Yr wyf’, ‘y mae’, ‘yr oedd’ etc
  • ‘Hwy’ nid ‘nhw’ (ond ‘chi’, nid ‘chwi’). 
  • Fel arfer, defnyddir ffigurau ar gyfer rhifolion a dyddiadau, ond mewn rhai amgylchiadau fe’u hysgrifennir mewn geiriau, gan ddilyn y system ugeiniol. 

Fel arall, mae i’r cywair clasurol yr un nodweddion â’r cywair ffurfiol. 

 

2. Y cywair ffurfiol

Dyma’r cywair a ddefnyddir ar gyfer y rhan fwyaf o ddeunyddiau’r Llywodraeth, ee:

  • papurau pwyllgorau
  • papurau’r Cabinet 
  • deunyddiau recriwtio, gan gynnwys hysbysebion swyddi
  • adroddiadau blynyddol
  • dogfennau polisi
  • rhai holiaduron a ffurflenni
  • llythyrau.

Nodweddion:

  • ‘Rwyf yn’ neu ‘Rwy’n’, nid ‘Rydw i’n’ na ‘Dw i’n’. ‘Rydych’ a ‘Rydym’ nid ‘Rych’ a ‘Rym’. 
  • Defnyddio’r rhagenwau personol annibynnol (‘fi’, ‘hi’, ‘nhw’) ar ôl y ferf a’r arddodiad er mwyn pwysleisio’n unig, ee ‘Yn wahanol i’r llywodraeth flaenorol, rydym ni’n barod i gymryd cyfrifoldeb’, ‘Cyfeiriwyd y mater ato ef [yn unig]’. 
  • Wrth ddefnyddio’r rhagenwau personol annibynnol ar ôl y ferf a’r arddodiad, peidio â chysoni cytsain olaf y terfyniad berfol neu arddodiadol i gyd-fynd â chytsain ddechreuol y rhagenw (‘byddem ni’ nid ‘bydden ni’)
  • Ffurfiau cryno’r ferf fel arfer, ee ‘Deallwn’ nid ‘Rydym yn deall’ 
  • Peidio â rhoi ‘y’ o flaen ‘mae’ / ‘yr’ o flaen ‘oedd’, ac eithrio mewn brawddegau perthynol (‘Ar hyn o bryd, mae’r Llywodraeth yn ymgynghori’ ond ‘Dyma’r mater y mae’r Llywodraeth yn ymgynghori yn ei gylch’)
  • Osgoi defnyddio’r geiryn rhagferfol – ‘Cynhaliwyd cyfarfod’ nid ‘Fe gynhaliwyd cyfarfod’. Os oes rhaid ei gael er mwyn gwneud yr ystyr yn gliriach, ‘fe’ nid ‘mi’ 
  • Osgoi defnyddio ‘yna’ pwysleisiol – ‘Bu ymgynghoriad’ nid ‘Bu yna ymgynghoriad’. Os oes rhaid ei gael er mwyn gwneud yr ystyr yn gliriach, ‘yna’ nid ‘’na’
  • ‘Hwn’ neu ‘hon’, nid ‘yma’ – ‘y ffurflen hon’ nid ‘y ffurflen yma’ 
  • Defnyddio’r geiryn holiadol ‘a’ – ‘A ydych yn’ nid ‘Ydych chi’n’ 
  • Defnyddio’r geiryn ‘y’ ar ôl ‘beth’, ‘sut’, ‘pryd’ etc, ee ‘Dyma pryd y cynhaliwyd y digwyddiad’. 

 

3. Y cywair anffurfiol

Mathau o waith:

  • datganiadau i’r wasg
  • rhai hysbysebion (nid hysbysebion swyddi)
  • llenyddiaeth ymgyrchoedd cyhoeddus, ee ymgyrchoedd gwrth-smygu, diogelwch ar y ffyrdd 
  • deunyddiau ar gyfer disgyblion ysgol
  • rhai taflenni hysbysrwydd 
  • rhai holiaduron a ffurflenni 
  • posteri, sticeri

 

Nodweddion:

  • ‘Rwy’n’, ‘Wy’n’, ‘Rydw i’n’ neu ‘Dw i’n’, nid ‘Rwyf yn’. ‘Rydych chi’n’ neu ‘Rych chi’n’, a ‘Rydyn ni’n’ neu ‘Ryn ni’n’, nid ‘Rydych yn’ a ‘Rydym yn’. ‘Dyw e ddim’ neu ‘Dydi e ddim’, nid ‘Nid yw’
  • Defnyddio’r rhagenwau personol annibynnol (‘fi’, ‘hi’, ‘nhw’) yn fwy aml ar ôl y ferf a’r arddodiad, ee ‘Rydyn ni’n falch o gyhoeddi...’, ‘Dewch aton ni’. 
  • Wrth ddefnyddio’r rhagenwau personol annibynnol ar ôl y ferf a’r arddodiad, cysoni cytsain olaf y terfyniad berfol neu arddodiadol i gyd-fynd â chytsain ddechreuol y rhagenw (‘bydden ni’ nid ‘byddem ni’) 
  • Ffurfiau cwmpasog y ferf fel arfer, ee ‘Rydyn ni’n deall’ nid ‘Deallwn’ 
  • Peidio â rhoi ‘y’ o flaen ‘mae’ / ‘yr’ o flaen ‘oedd’, hyd yn oed mewn brawddegau perthynol (‘Dyna’r broblem fwyaf roedden ni’n ei hwynebu’ nid ‘Dyna’r broblem fwyaf yr oedden ni’n ei hwynebu’)
  • Defnyddio’r geiryn rhagferfol – ‘Fe gynhaliwyd cyfarfod’ nid ‘Cynhaliwyd cyfarfod’. ‘Fe’ nid ‘mi’.
  • Defnyddio ‘yna’ pwysleisiol – ‘Bu ymgynghoriad’ nid ‘Bu yna ymgynghoriad’. ‘Yna’ nid ‘’na’
  • ‘Yma’ nid ‘hwn’ neu ‘hon’ – ‘y ffurflen yma’ nid ‘y ffurflen hon’. ‘Yma’ nid ‘’ma’ 
  • Peidio â defnyddio’r geiryn holiadol ‘A’ – ‘Ydych chi’n’ nid ‘A ydych chi’n’ 
  • Peidio â defnyddio’r geiryn ‘y’ ar ôl ‘beth’, ‘sut’, ‘pryd’ etc, ee ‘Dyma pryd cynhaliwyd y digwyddiad’. 
  • Ar adegau, gellir defnyddio’r cymal negyddol llafar ‘sydd ddim’ yn hytrach nag ‘nad ydyn nhw’ os oes angen llawer o ystwythder, ond nodwedd anffurfiol iawn yw hon fel arfer. 

 

4. Y cywair llafar (neu anffurfiol iawn)

Mathau o waith:

  • sgriptiau ymgyrchoedd teledu
  • isdeitlau ar gyfer ymgyrchoedd teledu
  • rhai posteri/pamffledi
  • gemau/cartwnau 

Ar y cyfan, mae i’r cywair llafar yr un nodweddion â’r cywair anffurfiol, gyda’r gwahaniaethau a ganlyn: 

  • Gellir defnyddio ffurfiau tafodieithol ar y ferf, ee ‘So fe’ yn hytrach na ‘Dyw e ddim’ 
  • Gellir defnyddio rhagenwau tafodieithol, ee ‘Ma fe’ neu ‘Mae o’ 
  • Gellir defnyddio ‘’na’ neu ‘’ma’ yn hytrach nag ‘yna’ neu ‘yma’ 
  • Gellir hepgor llythrennau ar ddechrau a diwedd geiriau, ee ‘Ma fe’, ‘posib’, ‘cyfri’ 
  • Gellir defnyddio ffurfiau cywasgedig, ee ‘pnawn’ yn hytrach na ‘prynhawn’, ‘sgwennu’ yn hytrach na ‘sgrifennu’ neu ‘ysgrifennu’ 
  • Gellir cywasgu geiriau, ee ‘Sdim’ neu ‘Snam’ yn hytrach na ‘Does dim’
  • Yn ogystal â hepgor y geiryn ‘y’ gellir treiglo ar ôl ‘pryd’, ‘sut’ etc, ee ‘Dyma pryd/sut fydd e’n digwydd’ nid ‘Dyma pryd/sut bydd yn digwydd’
  • Gellir defnyddio llafariaid ymwthiol, ee ‘pobol’, ‘cwbwl’, ‘sobor’
  • Gellir defnyddio geirynnau rhagferfol tafodieithol, ee ‘Mi aeth o’ 
  • Gellir defnyddio amrywiadau tafodieithol yn hytrach na’r ffurfiau mwy safonol, ee ‘taw’ yn hytrach na ‘mai’, ‘efo’ yn hytrach na ‘gyda’, ‘mâs’ yn hytrach nag ‘allan’, ‘lan’ yn hytrach nag ‘i fyny’, ‘rŵan’ yn hytrach na ‘nawr’, ‘ffaelu’ yn hytrach na ‘methu’. 
  • Pan geir amrywiadau tafodieithol sydd yr un mor safonol â’i gilydd, ee ‘iau’ ac ‘afu’, gellir dewis y ffurf fwyaf addas i’r siaradwr neu’r gynulleidfa, neu gynnwys y ddwy ffurf yn y testun.

data

Benthyciad o’r Lladin yw ‘data’, sef ffurf luosog y gair ‘datum’. Yn draddodiadol, felly, mae’r enw Cymraeg yn un lluosog hefyd. Yr ystyr yw cyfres o ffeithiau neu ddarnau o wybodaeth, a’r unigol yw ‘datwm’.

Rydym yn cadw at yr arfer hon mewn deunyddiau technegol lle caiff ei ddefnyddio â’r ystyr penodol uchod, er enghraifft dogfennau ym maes ystadegau, mathemateg neu gyllid. Mae’r holl gofnodion yn Term Cymru yn nodi mai enw lluosog yw ‘data’ am y rheswm hwn, a chan mai casgliad o dermau technegol yw Term Cymru.

Mae’n arfer gyffredin erbyn hyn, fodd bynnag, i ddefnyddio ‘data’ fel enw unigol, torfol ag ystyr ehangach a mwy cyffredinol. O’i ddefnyddio fel hyn, mae’r ystyr yn cyfateb i ‘gwybodaeth’. Mae hyn yn dderbyniol mewn testunau cyffredinol, lle nad oes angen term technegol.

Deddfau, Biliau a Mesurau

Mae peth dryswch am y termau hyn. Mae rhai unigolion a sefydliadau yn defnyddio ‘Mesur’ i gyfieithu ‘Bill’ ac nid oedd hynny’n broblem hyd nes i’r Cynulliad Cenedlaethol gael pwerau i wneud yr hyn a elwid yn ‘Mesurau’r Cynulliad’ (Assembly Measures) rhwng 2007 a 2011. ‘Biliau’ (Bills) yw’r enw ar gyfreithiau arfaethedig y Cynulliad (rhwng 2011 a 6 Mai 2020) a'r Senedd (ers iddo newid ei enw ar 6 Mai 2020), a ‘Deddfau’ (Acts) yw’r enw ar gyfreithiau sydd wedi’u pasio gan y corff hwnnw. Er mwyn gwahaniaethu’n glir rhwng ‘Measure’ a ‘Bill’ yn Gymraeg, arfer Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru yw defnyddio ‘Bil’ ar gyfer pob ‘Bill’ – boed yn rhai San Steffan, Holyrood, Stormont neu Fae Caerdydd. Mae’r defnydd o ‘Bil’ yn yr ystyr hwn yn mynd yn ôl at y ddeunawfed ganrif o leiaf.  Defnyddiwn ‘Mesur’ am ‘Measure’. Er nad yw’r Senedd yn pasio Mesurau bellach, mae’r rhai a basiwyd ee Mesur y Gymraeg, yn dal yn rhan fyw o’r corff o ddeddfwriaeth Gymreig. Ac ar ben hynny, mae Eglwys Loegr yn dal i basio ‘Mesurau’ (Measures).

deddfwriaeth

Mae’n arferol rhoi teitl Cymraeg – teitl ‘cwrteisi’ – i ddeddfau ac offerynnau statudol nad ydynt ar gael yn Gymraeg. Dylai llawer o’r teitlau fod yn TermCymru.

Os bydd rhan o destun deddf Senedd y Deyrnas Unedig neu Senedd Ewrop yn cael ei dyfynnu, ni fyddwn yn cyfieithu’r darn i’r Gymraeg gan nad oes statws cyfreithiol i gyfieithiad o ddeddf.

Yn achos deddfwriaeth Gymreig, edrychwch ar y wefan www.legislation.gov.uk i weld a oes fersiwn Gymraeg.

Os nad oes fersiwn Gymraeg ar gael, ni ddylech gyfieithu’r darn.

Rhowch y frawddeg hon, neu addasiad ohoni, uwchben rhannau o ddeddfwriaeth a adewir yn Saesneg (ee mewn atodiad i ddogfen) er mwyn esbonio i’r darllenydd pam nad ydynt yn Gymraeg:

Nid yw'r rhan hon o'r ddogfen ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw.

degawdau

Rhowch rifolion ar gyfer degawdau ond geiriau ar gyfer cyfnodau:

  • y 1960au (dim collnod), nid ‘y 60au’ nac ‘y chwedegau’ am nad yw’r ganrif yn cael ei phennu
  • dyn yn ei bumdegau, yr unfed ganrif ar hugain

deliver

Mae sawl ystyr i’r gair ‘deliver’ yn Saesneg. Mae’n rhaid ystyried beth yn union sydd dan sylw felly cyn cyfieithu. Dyma rai posibiliadau:

danfon

Dyma’r gair a ddefnyddir mewn testunau cyffredinol pan fo ‘deliver’ yn golygu trosglwyddo neu ddosbarthu rhywbeth i rywun ee:

Wherever you live, we can deliver your tobacco to your doorstep.
Lle bynnag yr ydych yn byw, gallwn ddanfon eich tybaco at garreg eich drws.

traddodi

Mae ystyr tebyg dan sylw yma, ond ei fod yn benodol i destunau deddfwriaethol. Y diffiniad yw “rhoi neu drosglwyddo dogfen gyfreithiol yn swyddogol” ee:

‘The documents may be served on a person by delivering them to the person, or by sending them by post’
‘Caniateir cyflwyno'r dogfennau i berson drwy eu traddodi i'r person, neu drwy eu hanfon drwy'r post.’

Mae ‘traddodi’ hefyd yn briodol yn yr ystyr ‘traddodi darlith’.

cyflawni

Mae ‘deliver’ wedi dod yn air cyffredin yn Saesneg i olygu ‘achieve’ neu ‘fulfil’ ee ‘deliver objectives’, ‘deliver on our promises’. Y gair rydym ni’n ei argymell fel arfer yw ‘cyflawni’. Mae’n gyffredin iawn mewn teitlau cynlluniau, sloganau ac ati ee ‘Delivering for Wales’ – ‘Yn Cyflawni dros Gymru’.

darparu

Gall hwn fod yn ddewis priodol hefyd ar adegau. Ystyriwch y Saesneg ‘our expertise allows us to deliver a professional, high quality service.’ Er na fyddech, o bosibl, yn dod o hyd i ‘darparu’ wrth chwilio yn y geiriadur o dan ‘deliver’, yr ymadrodd arferol yn Gymraeg yw ‘darparu gwasanaeth’, ac felly dyna yw’r cyfieithiad mwyaf addas.

cyflenwi

Rhaid bod yn ofalus ar y llaw arall, gan fod awdurdodau lleol yn aml yn trefnu i sefydliadau eraill ddarparu gwasanaethau ar eu rhan. Yn yr achos hwn, mae’n bosibl y byddai’n gamarweiniol defnyddio ‘darparu’. Un opsiwn yw ‘cyflenwi’.

achub

Bydd hwn yn codi’n llai aml yng ngwaith y Llywodraeth, ond mae’n werth ei nodi.

‘Achubwyd y gath o’i thynged erchyll gan y dyn tân’
‘The fireman delivered the cat from her terrible fate.’

Mae’n debyg bod posibiliadau eraill hefyd. Y peth pwysig yw ystyried yr ystyr, a pheidio â defnyddio’r un cyfieithiad bob tro yn ddifeddwl.

diffiniadau

Mewn deddfwriaeth Gymraeg rhoddir y gair Saesneg cyfatebol ar ôl y Gymraeg mewn llythrennau italig a rhwng dyfynodau a chromfachau ac eithrio yn yr ail enghraifft:

  • Ystyr “cath” (“cat”) yw …
  • Mae i “cath” yr un ystyr â “cat” yn … neu  
  • Mae i “cath” yr un ystyr ag a roddir i “cat” yn … neu
  • Mae i “cath” yr ystyr a roddir i “cat” …

Os yw’r croesgyfeiriad at ddiffiniad mewn testun Saesneg, dyfynnwch y term Saesneg: 
     Gweler adran 59(1) o’r Ddeddf am y diffiniad o “prescribed”, nid  ‘… am y diffiniad o “rhagnodedig”’

dros

nid ‘a dros’, ond a thros

drwy / drwyddo

nid ‘a drwy’, ond a thrwy

dyddiadau

Dyma’r drefn y dylid ei defnyddio ar gyfer dyddiadau: 
1 Ionawr 2006, nid ‘1af Ionawr 2006’ na ‘Ionawr 1, 2006’

Fe’i cynhelir ddydd Gwener, 30 Mehefin, nid ‘Fe’i cynhelir Ddydd Gwener, 30 Mehefin’ (hynny yw, nid oes angen priflythyren yn ‘Ddydd’).

Bydd y pwyllgor yn cael adroddiad tua diwedd mis Hydref nesaf, nid  ‘... tua diwedd Hydref nesaf’. 

dyddiau'r wythnos

Mae’n anghywir defnyddio’r arddodiad ‘ar’ wrth gyfeirio at ddiwrnod penodol: 
Cynhelir y cyfarfod ddydd Llun, 15 Hydref 
Byddaf yn mynd i siopa ddydd Gwener nesaf

Ond wrth gyfeirio at ddiwrnod cyffredinol, mae angen ‘ar’:
Byddaf yn mynd i siopa ar ddydd Gwener (hynny yw, bob dydd Gwener neu unrhyw ddydd Gwener).

dyfyniadau

1. Ysgrifenedig

Ni ddylid cyfieithu dyfyniadau o ddeunyddiau cyhoeddedig (dogfennau, deddfwriaeth, erthyglau papur newydd ac ati) os nad oes fersiynau Cymraeg ohonynt ar gael. Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y byddai hi’n briodol cyfieithu’r dyfyniadau ond peidio â defnyddio dyfynodau.

Os byddwch yn dyfynnu o ddogfennau sydd wedi’u cyhoeddi, gofalwch eich bod yn chwilio am y ddogfen berthnasol ar y rhyngrwyd ac yn cadw at yr union eiriad. Os nad oes fersiwn Gymraeg o’r ddogfen ar gael, gadewch y testun rhwng dyfynodau yn Saesneg.

Os bydd rhan o destun deddf Senedd y Deyrnas Unedig neu Senedd Ewrop yn cael ei dyfynnu, nid ydym yn argymell eich bod yn cyfieithu’r darn i’r Gymraeg gan nad oes statws cyfreithiol i gyfieithiad o ddeddf.

Yn achos deddfwriaeth Gymreig, edrychwch ar y wefan www.legislation.gov.uk i weld a oes fersiwn Gymraeg

Rhowch y frawddeg hon uwchben rhannau o ddeddfwriaeth a adewir yn Saesneg (ee mewn atodiad i ddogfen), er mwyn esbonio i’r darllenydd pam nad ydynt yn Gymraeg:

           Nid yw'r rhan hon o'r ddogfen ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw.

Mae cyfieithiad Cymraeg swyddogol o Ddeddf yr Iaith Gymraeg ar gael yng Ngeiriadur Newydd y Gyfraith gan Robyn Léwis.

2. Llafar

Mae’n anoddach penderfynu a ddylid cyfieithu dyfyniad llafar.

Mae’n dderbyniol mewn datganiadau i’r wasg, yn ogystal ag mewn sefyllfaoedd pan nad Saesneg oedd iaith wreiddiol y dyfyniad, ond mae angen bod yn fwy gofalus wrth drafod yr isod.

  • Dyfyniad gan rywun enwog neu ddyfyniad adnabyddus
    Mater o farn, wrth gwrs, yw pa mor adnabyddus yw dyfyniad. Ond mewn achos o’r fath efallai y gellid ystyried a fyddai yr un mor adnabyddus o’i gyfieithu, ac a ddylid ystyried ei adael yn y Saesneg gwreiddiol pe byddai’n colli ei ergyd o’i gyfieithu.
  • Dyfyniad o gân neu ddarn o farddoniaeth
    Yr ateb delfrydol yw dod o hyd i ddyfyniad o gân neu gerdd Gymraeg sy’n cyfleu’r un peth. Ond efallai na fydd hynny’n ymarferol bob amser.

Dynodi enwau gwladwriaethau, tiriogaethau a chenhedloedd diwladwriaeth

Egwyddorion

Dyma'r egwyddorion a ddilynir wrth bennu ffurfiau Cymraeg ar enwau gwladwriaethau, tiriogaethau a chenhedloedd diwladwriaeth, i'w rhoi yn TermCymru. Dylid nodi mai pennu ffurf benodol at ddibenion Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru a wneir, ac nad yw hynny’n golygu bod ffurfiau eraill yn annilys.

Dyma’r egwyddorion a ddilynir wrth benderfynu ar ffurfiau:

  1. Y nod yw dewis ffurfiau ymarferol sy’n taro cydbwysedd rhwng bod yn ddealladwy i gynulleidfaoedd amrywiol testunau Cymraeg Llywodraeth Cymru, a chydymffurfio â chonfensiynau orgraffyddol y Gymraeg.
  2. Dosberthir yr enwau i dri phrif gategori, yn y drefn hon: (1) ffurf sefydledig yn Gymraeg, (2) Cymreigiad o’r ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig, (3) y ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig. Ceir rhagor o fanylion am y categorïau yn y tabl isod.
  3. Yn gyffredinol o ran categori (2), rhoddir mwy o bwys ar gydnabod y ffurfiau hynny sydd eisoes yn gyfarwydd fel ffurfiau wedi’u Cymreigio mewn cyd-destunau penodol fel y newyddion, y cyfryngau, chwaraeon a diwylliant. Gochelir rhag Cymreigio ffurfiau oni bai bod rheswm da dros wneud hynny yn unol â’r egwyddorion, rhag amlhau ffurfiau a chyflwyno ffurfiau sy’n anghyfarwydd i’r gynulleidfa.
  4. Yn sgil egwyddor 3 ac yn sgil cysylltiadau daearyddol, diwylliannol, masnachol a gwleidyddol â Chymru, rhoddir ystyriaeth i Gymreigio pob un o enwau gwledydd yn Ewrop nad oes ganddynt eisoes ffurf sefydledig yn Gymraeg.
  5. Yn sgil egwyddor 3, sylwer y gallai’r penderfyniad ynghylch y ffurfiau i’w defnyddio yn Gymraeg newid dros amser, wrth i leoedd ddod yn fwy cyfarwydd mewn trafodaethau yn Gymraeg.

Ffurfiau sefydledig Cymraeg a ffurfiau a Gymreigiwyd

  • Yn gyffredinol, ni Chymreigir ffurfiau sydd angen mwy nag un neu ddau addasiad i’r orgraff er mwyn eu Cymreigio.
  • Yn gyffredinol, dylid naill ai Gymreigio’r enw cyfan, neu beidio â’i Gymreigio o gwbl: Kosovo, nid Kosofo.
O ran cytseiniaid
  • Mae’n arferol defnyddio’r llythyren f yn Gymraeg i gyfleu’r sain [v] a ddynodir gan y llythyren v yn Saesneg ar gychwyn ac yng nghanol enwau: Dinas y Fatican, nid Dinas y Vatican, Slofenia, nid Slovenia.
  • Mae’n llai arferol defnyddio’r llythyren c yn Gymraeg i gyfleu’r sain [k] a ddynodir gan y llythyren k yn Saesneg ar gychwyn enwau lleoedd tramor: Gogledd Korea, nid Gogledd Corea. Serch hynny, mae’n fwy arferol ei defnyddio felly yng nghanol enwau: Slofacia, nid Slovakia
  • Mae llai arferol trosi rhai cytseiniaid eraill i’r orgraff gyfatebol yn y Gymraeg, ar gychwyn ac yng nghanol enwau. Er enghraifft mae’n llai arferol Cymreigio enwau sy’n cynnwys llythrennau neu gyfuniadau fel y llythyren g i gyfleu’r sain [dʒ] (Gibraltar, Georgia), y llythyren q i gyfleu’r sain [k] (Martinique), y llythyren z i gyfleu’r sain [ts] (Bosnia a Herzegovina), a’r cyfuniad ti i gyfleu’r sain [ʃ] (Croatia).
  • Nid yw’n arferol defnyddio’r cyfuniad tsi i gyfleu’r sain [tʃ] ar gychwyn nac yng nghanol enwau llai cyfarwydd (Chad, Chile). Serch hynny, mae rhai enwau sydd eisoes yn sefydledig yn y Gymraeg yn defnyddio’r cyfuniad hwn ar gychwyn enwau (Y Weriniaeth Tsiec, Tsieina).
  • Nid yw’n arferol defnyddio’r llythyren s ar gychwyn nac yng nghanol enwau llai cyfarwydd i gyfleu’r seiniau [z] neu [s] (Zambia, Tanzania). Serch hynny, mae rhai enwau sydd eisoes yn sefydledig yn y Gymraeg yn defnyddio’r cyfuniad hwn (Seland Newydd, Brasil).
O ran llafariaid
  • Yn gyffredinol yn achos enwau a Gymreigir, dylid Cymreigio llafariaid er mwyn cyfleu’r ynganiad yn Gymraeg: Bwlgaria, Lithwania, Periw, Ciwba.
O ran marciau diacritig
  • Yn gyffredinol hepgorir marciau diacritig sy’n dangos yr aceniad mewn ffurfiau a Gymreigiwyd, a hynny er mwyn osgoi creu ffurfiau sydd yn fwy anghynefin na’r angen i ddefnyddwyr. Tybir y bydd y gynulleidfa yn gyfarwydd â’r ynganiad ac nad oes angen dangos lle mae’r acen yn syrthio: Fietnam, Irac, Pacistan, Belarws.
O ran y fannod
  • Gall y defnydd o'r fannod amrywio gyda rhai enwau, ac ystyrir y defnydd hwnnw wrth bennu'r ffurf safonol.

Ffurfiau cynhenid a ffurfiau Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig

  • Mae rhai ffurfiau cynhenid a ffurfiau Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig yn cyd-fynd â chonfensiynau orgraff y Gymraeg ac eithrio, efallai, farciau diacritig i ddynodi acen neu hyd llafariad: Estonia, Tonga, Iran, Jamaica. Gellid ystyried rhai o’r ffurfiau hyn yn rhai sefydledig Cymraeg ar sail eu cynefindra: Canada, India, Sweden.
  • Derbynnir bod llawer o enwau lleoedd tramor yn seiliedig ar ieithoedd nad yw eu seiniau, eu hynganiad, eu horgraff na’u morffoleg yn cyd-fynd â nodweddion a chonfensiynau’r Gymraeg. Oherwydd hyn, yn achos ffurfiau sy’n adlewyrchu’r ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig:
  1. Derbynnir y gall yr arwyddion orgraffyddol gyfleu seiniau nad ydynt yn seiniau cynhenid i’r Gymraeg neu gallent gyfleu seiniau nad ydynt fel arfer yn cael eu cyfleu yn Gymraeg gan yr arwyddion hynny: Croatia, Lesotho, Niger.
  2. Derbynnir y gall rhai o’r arwyddion orgraffyddol a chlymau cytseiniol fod yn anghyfarwydd: Kyrgyzstan, Ynysoedd Åland, Djibouti.
  3. Derbynnir y gall yr acen syrthio ar sillafau nad ydynt yn gyfarwydd yn Gymraeg, heb nodau diacritig i ddynodi’r acenion hynny: Tajikistan, Mozambique, Paraguay.

Enwau lle y byddai modd mabwysiadu un o sawl ffurf wahanol

  • Yn achos enwau lle y byddai modd mabwysiadu un o sawl ffurf wahanol, dylid ystyried pa mor ymarferol fyddai creu tarddeiriau Cymraeg fel enwau ieithoedd neu hunaniaethau/pobloedd ar sail y ffurf a ddewisir. Er enghraifft, wrth ystyried Faroe Islands, dylid hefyd ystyried enw’r iaith Faroese neu’r hunaniaeth Faroese. Mae Ynysoedd Ffaro yn rhoi Ffaröeg a Ffaroaidd, ond anodd fyddai creu tarddeiriau Cymraeg dealladwy pe defnyddid Ynysoedd Føroyar neu Ynysoedd Faroe yn enw ar Faroe Islands.
  • Dylid osgoi amlhau ffurfiau. Wrth benderfynu ar ffurfiau lle ceir mwy nag un ffurf bosibl drwy ddilyn yr egwyddorion hyn, rhoddir ystyriaeth i ffurfiau rhestr Bwrdd yr Iaith Gymraeg o enwau lleoedd tramor (2011), ffurfiau yr Atlas Cymraeg Newydd (CBAC, 1999) a ffurfiau sydd eisoes yn TermCymru fel rhan o dermau eraill a safonwyd (ee enwau safonol anifeiliaid a phlanhigion).

Cyfieithu a throsi elfennau i’r Gymraeg

  • Ni waeth ym mha gategori y mae’r enw, cyfieithir yr elfennau canlynol:
    1. elfennau cyffredinol megis Ynysoedd, Gweriniaeth, Tiroedd.
    2. ansoddeiriau: Guinea Gyhydeddol, Seland Newydd.
    3. cysyllteiriau: St Kitts a Nevis.
    4. pwyntiau’r cwmpawd a geiriau lleoliadol: Gogledd Korea, Ynysoedd Sandwich y De, Gweriniaeth Canolbarth Affrica.
    5. elfennau disgrifiadol a meddiannol: Ynys y Nadolig, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, Polynesia Ffrengig.
  • Ni throsir enwau personol i’r Gymraeg: Ynysoedd Marshall. Nac ychwaith enwau seintiau: St Lucia, Sint Maarten.

Materion ymarferol wrth ddefnyddio enwau

  • Rhaid gwerthfawrogi bod enwau gwledydd yn gallu bod yn wleidyddol sensitif. Os oes dwy iaith swyddogol a dwy ffurf bosibl ar enw yn sgil hynny, dylid dilyn y testun gwreiddiol wrth gyfieithu. Er enghraifft, os rhoddir ‘New Zealand (Aotearoa)’ yn y Saesneg, dylid rhoi’r ddwy ffurf ‘Seland Newydd (Aotearoa)’ yn y Gymraeg. Os na roddir ond un ffurf yn y gwreiddiol, dylid ystyried bwriad yr awdur wrth benderfynu ar ba ffurf i’w dewis ar gyfer y testun Cymraeg.
  • Mae enwau a chyd-destunau gwleidyddol enwau yn gallu newid ac yn gallu amrywio: Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo (gynt Zaire), Eswatini (gynt Gwlad Swazi). Oherwydd hyn, sylwer y gallai’r penderfyniad ynghylch y ffurf i’w ddefnyddio yn Gymraeg newid.
  • Gall fod yn anodd penderfynu a ddylid treiglo enwau tramor. Yn gyffredinol, argymhellir treiglo ffurfiau sydd yng nghategorïau (1) a (2). Argymhellir peidio â threiglo’r rhan fwyaf o’r ffurfiau sydd yng nghategori (3) ond dylid arfer crebwyll o ran treiglo enwau o’r fath sy’n cyd-fynd ag orgraff y Gymraeg. Mae’n gyffredin treiglo ambell un sy’n gyfarwydd yn Gymraeg: i Ganada ond nid yw’n gyffredin treiglo eraill: i Trinidad a Tobago, o Malawi, yn Botswana.

Tabl o'r categoriau

Categori Treiglo Acennu Pa fath o leoedd
1

Ffurf sefydledig Gymraeg

Gall hyn gynnwys enwau lle cyfieithwyd pob elfen
Confensiynau arferol y Gymraeg Confensiynau arferol y Gymraeg

Lleoedd sydd ag enwau traddodiadol yn Gymraeg (ond gan osgoi ffurfiau hynafiaethol).

Ffrainc, Gwlad Pwyl, Denmarc, Ariannin, Yr Aifft

Lleoedd sydd ag enwau cwbl ddisgrifiadol yn y ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig.

Ynys y Nadolig, Y Tiriogaethau Deheuol Ffrengig
2 Cymreigiad o ffurf gynhenid neu ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig Confensiynau arferol y Gymraeg Osgoi acennu yn gyffredinol

Lleoedd lle nad yw’r ffurf a Gymreigiwyd yn ffurf sefydledig yn Gymraeg, ond

(i) bod y lle yn Ewrop

Lithwania, Slofenia, Wcráin.

(ii) bod y ffurf a Gymreigiwyd eisoes yn gyfarwydd mewn cyd-destunau penodol fel y newyddion, y cyfryngau, chwaraeon a diwylliant

Affganistan, Ffiji, Ciwba, Mecsico
3

Enwau nad ymdrechwyd eu Cymreigio, lle y cadwyd y ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig

Sylwer bod cyfran o’r ffurfiau hyn yn cyd-fynd â chonfensiynau orgraff y Gymraeg (gyda neu heb farciau diacritig)

Estonia, Tonga, Iran, Jamaica.

Gellir ystyried rhai o’r ffurfiau hyn yn rhai sefydledig Cymraeg ar sail eu cynefindra:

Canada, India, Sweden.

Dim treiglo

Serch hynny, dylid arfer crebwyll yn achos ffurfiau sy’n cyd-fynd â chonfensiynau  orgraff y Gymraeg.

Bydd yn gyffredin treiglo ambell un sy’n sefydledig yn Gymraeg (ee Canada) ond nid y rhelyw (ee Botswana, Trinidad a Tobago, Malawi)
Acennu yn ôl y ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig

Lleoedd nad oes ganddynt enw sefydledig Cymraeg, ac nad yw’n briodol eu Cymreigio o dan yr egwyddorion

Libya, Qatar, Réunion, Chile, Tuvalu, Kenya

Mae’n bosibl y bydd ambell elfen o enw o’r fath wedi ei chyfieithu

De Korea, Ynysoedd Åland, Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo.

 

dynodi rhagenwau mewn llofnod electronig

Pe byddai rhywun yn dymuno nodi mewn llofnod e-bost pa ragenw y mae am i eraill ei ddefnyddio, mae’r ystyriaethau yn wahanol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ceir cyfoeth o wahanol ragenwau yn Gymraeg, yn ogystal â goblygiadau eraill fel treigladau a ffurfiau arddodiaid. Gan nad oes modd cwmpasu’r holl amrywiadau felly, awgrymir y gall fod yn fwy eglur cynnig y rhagenw annibynnol yn unig, sef ‘ef’, ‘hi’ neu ‘nhw’. Gellid cynnig ‘fe’ neu ‘fo’ hefyd os mai’r nod yw taro cywair mwy llafar.

EC

Pan fydd ‘EC’ yn ymddangos yn rhan o deitl deddf Ewropeaidd defnyddiwch ‘EC’: 
Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/69/EC

Pan na fydd ‘EC’ yn rhan o deitl, defnyddiwch ‘CE’: 
Mae angen sicrhau bod y canllawiau yn cydymffurfio â Rheoliadau’r CE

Ei Fawrhydi (EF) / Ei Mawrhydi (EM)

Dylid defnyddio ‘Ei Fawrhydi’, neu’r byrfodd ‘EF’, mewn teitlau sefydliadau etc, yn hytrach nag ‘Ei Mawrhydi’ / ‘EM’. 

Dylid gwneud hyn hyd yn oed wrth gyfeirio’n ôl at gyfnodau pan oedd Brenhines yn hytrach na Brenin, ee:

  • ‘Yn 2007 cyhoeddodd Cyllid a Thollau EF...’ 
  • ‘(Llundain, Llyfrfa Ei Fawrhydi, 2015)’ 
  • ‘Agorwyd CEF Berwyn yn 2017’. 

Eithriadau i hyn yw: 

  • Teitlau sy’n cyfeirio’n benodol at y ddiweddar Frenhines Elizabeth II 
  • Teitlau dogfennau cyhoeddedig neu ddeddfwriaeth sy’n cynnwys ‘Ei Mawrhydi’ / ‘EM’
  • Cyfeiriadau at ‘Ei Mawrhydi’ / ‘EM’ mewn dyfyniadau. 

Mae’r un egwyddor yn berthnasol wrth gyfeirio at Gwnsleriaid y Brenin (‘CB’) – dylid defnyddio ‘CB’ yn hytrach nag ‘CF’ hyd yn oed wrth gyfeirio at y cyfnod cyn marwolaeth y ddiweddar Frenhines yn 2022. 

 

68012 Welsh Act No 4 Legislation 2019.indd – Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

11 Cyfeiriadau at y Sofren 

Mae cyfeiriad at y Sofren mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig i’w ddarllen fel cyfeiriad at y Sofren ar y pryd.

 

ukpga_19780030_en.pdf (legislation.gov.uk) – Interpretation Act 1978

Image removed.

eich xxx eich hun

Mewn brawddegau lle mai’r un yw gwrthrych a goddrych y ferf, defnyddir ‘eich hun’ (neu ‘fy hun’, ‘ei hun’ ac ati) i gyfeirio’n ôl. Mewn cyweiriau ffurfiol, mae’r rhagenw blaen yn cael ei gynnwys hefyd ee

‘Rhaid ichi eich atgoffa eich hun i ddychwelyd y ffurflen gais.’

Mewn cyweiriau anffurfiol, gall fod yn dderbyniol hepgor y rhagenw blaen ee

‘Rhaid ichi atgoffa eich hun i ddychwelyd y ffurflen gais.’

Er hynny rhaid gofalu bod yr ystyr yn eglur bob amser. Mae modd dehongli ‘fy hun’ i olygu ‘by myself’, er enghraifft, a sylwer ar y gwahaniaeth posibl rhwng y ddwy enghraifft isod:

‘Rhaid imi fy ngwarchod fy hun’
I must protect myself

‘Rhaid imi warchod fy hun fory’
I must babysit by myself tomorrow

Dylid ystyried yr ystyr felly, yn ogystal â ffurfioldeb y testun.

eisoes

nid 'eisioes'

electrical / electronic

electrical – trydanol
electronic – electronig

enwau adeiladau

Os oes enwau Cymraeg swyddogol ar adeiladau, dylid defnyddio’r enwau hynny.

Os nad oes enwau Cymraeg swyddogol ar adeiladau yng Nghymru, mae’n dderbyniol eu cyfieithu oni bai bod yr enw Saesneg wedi’i gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau neu bod nod masnach arno ee Celtic Manor Resort. Mewn achos o’r fath gellid defnyddio ffurf fel ‘gwesty’r Celtic Manor Resort’. Dylid arfer gofal wrth drosi enwau i’r Gymraeg rhag camgyfleu’r ystyr. Er enghraifft os nad ydych yn siŵr ai “eglwys” ynteu enw personol sydd o dan sylw yn “Church House”, mae’n well gadael yr enw yn Saesneg.

Mae’n dderbyniol cyfieithu enwau adeiladau y tu allan i Gymru os ydynt yn rhai cyfarwydd iawn, ee Palas Buckingham, Tŷ Clarence, y Tŷ Gwyn.

Os nad oes enwau Cymraeg swyddogol ar adeiladau, dylid eu gadael yn Saesneg pan fyddant i’w gweld mewn cyfeiriad swyddogol ee ar frig llythyr, mewn testun sy’n dweud wrth y cyhoedd ble i fynd i gael gwybodaeth/gwasanaeth neu i anfon dogfennau drwy’r post.

enwau afonydd

Ni roddir y fannod o flaen enwau afonydd yn Gymraeg. Yn hytrach, rhoddir y gair ‘afon’ yn unig. Cofiwch mai ‘a’ fach sydd yn y gair ‘afon’ oni bai bod angen priflythyren oherwydd bod y gair ar ddechrau brawddeg neu os yw’n elfen gyntaf mewn enw anheddiad ee Afon-wen.

The Conwy flows through Llanrwst.
Mae afon Conwy yn llifo trwy Lanrwst.

Yr unig eithriad cyson i’r rheol hon yw ‘y Fenai’, nad yw’n afon mewn gwirionedd, er bod ‘afon Menai’ hefyd yn dderbyniol.

He crossed the Menai Straits in a rowing boat.
Croesodd y Fenai mewn cwch rhwyfo.

Mae’n gyffredin hefyd gweld y fannod gydag enw afon Iorddonen; o bosibl o dan ddylanwad y fannod yn yr enw Hebraeg a’r cyfieithiad Groeg o’r Beibl.

enwau torfol: unigol ynteu lluosog

Trafodir, yn benodol, y geiriau hynny sy’n unigol yn ramadegol ond yn lluosog o ran ystyr ee teulu, tîm, pwyllgor, byddin.

Mae ansoddair sy’n disgrifio’r geiriau hyn yn unigol bob amser, ee ‘y pwyllgor hwn’.

Mewn dogfennau ffurfiol, yr arfer gyffredin yw defnyddio berfau a rhagenwau unigol hefyd wrth gyfeirio’n ôl atynt:

Trafododd y pwyllgor ei raglen waith yn y cyfarfod, ac mae wedi cytuno arni.
Yn dilyn ei fuddugoliaeth, gorymdeithiodd y tîm trwy ganol y ddinas.

Cofiwch nad yw’n anghywir defnyddio berfau a rhagenwau lluosog, fodd bynnag. Yn wir mae’n hen arfer, a gwelir enghreifftiau mor bell yn ôl â Chymraeg Canol.

Ystyriwch felly a allai fod yn fwy priodol defnyddio berfenwau a rhagenwau lluosog mewn rhai achosion, ee mewn cyweiriau mwy anffurfiol, neu i sicrhau bod y testun yn eglur pe bai nifer o ragenwau yn yr un frawddeg yn cyfeirio at wahanol enwau.

Cafodd y tîm orymdaith fawr drwy’r ddinas a buon nhw’n dathlu tan yr oriau mân.
Cynigiodd y Cadeirydd raglen waith ddiwygiedig yn nghyfarfod y pwyllgor ac maent wedi cytuno arni.

Gall newid y pwyslais hefyd. Trwy gyfeirio’n ôl at ‘y pwyllgor’ neu ‘y cyngor’ yn yr unigol, gellir tynnu sylw at y ffaith ei fod yn gweithredu fel un endid. Ond o ddefnyddio’r lluosog, awgrymir mai cyfeirio at yr aelodau fel unigolion y mae’r testun:

Ar ôl i’r pwyllgor gael dadl frwd ynghylch y rhaglen waith, maent wedi methu â chytuno arni.

er gwaethaf

nid ‘ar waethaf’ nac ‘er waethaf’

estimated

Pan fo testunau sy’n ymwneud ag ystadegau’n cyfeirio at ffigwr gan ddweud ei fod yn ‘estimated’, ffigwr a amcangyfrifir yw’r ystyr, ac felly ‘amcangyfrif’ neu ffurf ar hynny yw’r cyfieithiad priodol.

Mae i hyn ystyr benodol – nid yw’n gyfystyr â ‘nodi’ neu ‘ddatgan’ mai dyna’r ffigwr, ac nid yw’n gyfystyr â dweud mai ‘tua’ hynny yw’r ffigwr, neu mai hynny ‘yn fras’ yw’r ffigwr

etc

etc, nid ‘ayb’ nac ‘ayyb’. Nid oes angen atalnod chwaith, oni bai ei fod ar ddiwedd brawddeg wrth gwrs.

ac yn y blaen neu ac ati yn llawn.

feedback

adborth, nid ‘atborth’

fel

fel + berf

fel y, nid ‘fel a’: 
fel y nodir isod, nid ‘fel a nodir isod’

fel a ganlyn

'fel' ynteu 'yn'

Mae pobl yn drysu’n aml rhwng ‘fel’ ac ‘yn’ traethiadol, gan ddefnyddio ‘fel’ yn anghywir i gyfieithu ‘as’. Os nad ydych yn sicr pa un sy’n gywir, cofiwch mai ‘yn debyg i’ yw ystyr ‘fel’

‘She was appointed as Minister for International Relations and the Welsh Language’
‘Cafodd ei phenodi yn Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol’

Mae yn Weinidog, nid ‘yn debyg i Weinidog’. Yn y frawddeg isod, ar y llaw arall, ‘yn debyg i’ yw’r ystyr:

‘Despite being new to the job, she answered the journalists’ questions as someone with years of experience’
‘Er ei bod yn newydd yn y swydd, atebodd gwestiynau’r wasg fel un oedd wedi bod wrthi ers blynyddoedd’

ffigurau

Caiff ffigurau eu trin fel petaent yn ffurfiau clasurol. Felly, wrth gyfieithu ‘and 21’ rhowch ‘ac 21’ fel petai’n darllen ‘ac un ar hugain’ ac nid ‘a 21’ (dau ddeg un).

ffigurau, rhifau a rhifolion

Mae’r arweiniad hwn yn berthnasol yn bennaf i’r cyweiriau clasurol a ffurfiol. Yn y cyweiriau anffurfiol a llafar, gellir addasu yn ôl yr angen, ond dylid bod yn gyson o fewn un darn neu gyfres o ddarnau.  

Ffigurau ynteu geiriau  

Wrth gyfieithu dilynwch yr hyn sydd yn y testun Saesneg o ran defnyddio geiriau ynteu ffigurau, ond dilynwch y cyngor isod wrth ddrafftio testun gwreiddiol yn Gymraeg neu os oes ansicrwydd ynghylch sut i gyfieithu’r Saesneg.  

Yn gyffredinol, rhowch y rhifau ‘un’ i ‘deg’ mewn geiriau a defnyddiwch ffigurau ar gyfer rhifau o 11 ymlaen. Ond mae rhai eithriadau i hyn – defnyddir ffigurau ar gyfer un i ddeg yn y sefyllfaoedd hyn:  

  • amserau, cyfnodau amser, oedrannau, dyddiadau  
  • canrannau, symiau arian, unedau mesur  
  • cyfrifiadau, fformiwlâu, rhifau sy’n cynnwys pwynt degol  
  • rhifau eiddo mewn cyfeiriadau 
  • pan fo rhifau hyd at ddeg ac uwchben deg yn cael eu defnyddio gyda’i gilydd 
  • gyda ‘miliwn’ a ‘biliwn’. Hefyd, peidiwch â threiglo ‘miliwn’ na ‘biliwn’ er mwyn osgoi amwysedd rhyngddynt (hy, peidiwch â dweud ‘2 filiwn’ ar gyfer ‘2 miliwn’ na ‘2 biliwn’).  

Rhoddir ffracsiynau mewn ffigurau mewn cyfrifiadau neu fformiwlâu, ond cânt eu mynegi mewn geiriau mewn testun (‘1/3’ mewn cyfrifiadau etc, ond ‘traean’ neu ‘un ran o dair’ mewn testun). 

 

Degol ynteu ugeiniol  

Caiff ffigurau eu trin fel ffurfiau clasurol neu ugeiniol, yn hytrach na ffurfiau degol. Felly wrth gyfieithu ‘and 21’ rhowch ‘ac 21’ fel petai’n darllen ‘ac un ar hugain’ ac nid ‘a 21’ (‘a dau ddeg un’).  

Caiff ffigurau mewn dyddiadau eu trin fel ffurfiau ugeiniol hefyd. Ni chaiff y fannod ei chynnwys yn ysgrifenedig, ond wrth ddefnyddio cysyllteiriau ac arddodiaid o flaen dyddiadau, tybir bod y fannod yn bresennol ar lafar. Hynny yw:  

  • ar gyfer ‘and 20 March’, defnyddir ‘a 20 Mawrth’ (‘a’r ugeinfed o Fawrth’) 
  • ar gyfer ‘from 31 March’, defnyddir ‘o 31 Mawrth’ (‘o’r unfed ar ddeg ar hugain o Fawrth’) 
  • ar gyfer ‘the period beginning with 1 December 2020’ defnyddir ‘y cyfnod sy’n dechrau â 1 Rhagfyr 2020’ (‘y cyfnod sy’n dechrau â’r cyntaf o Ragfyr 2020’). 

Mae rhai eithriadau i’r arfer o drin ffigurau fel ffurfiau ugeiniol. Defnyddir y system ddegol yn y sefyllfaoedd hyn:  

  • rhifau tai – ‘ymweld ag 80 Heol y Frenhines’ (‘ymweld ag wyth deg Heol y Frenhines’) nid ‘ymweld â 80 Heol y Frenhines’ (‘ymweld â phedwar ugain Heol y Frenhines’)  
  • rhifau ffôn  
  • rhifau cyn ac ar ôl pwyntiau degol – ‘a 20.15 y cant’ (‘a dau ddeg pwynt un pump y cant’) nid ‘ac 20.15 y cant’ (‘ac ugain pwynt pymtheg y cant’) 
  • rhifau blynyddoedd – ‘rhwng 1995 ac 1996’ nid ‘rhwng 1995 a 1996’. Mae hyn yn cyd-fynd â’r cyngor yn yr erthygl ar flynyddoedd i drin y rhif cyntaf fel ‘un’ yn hytrach na ‘mil’. 

 

Treiglo ai peidio

Pan fo’r arferion gramadegol o ran treiglo ar ôl rhifau yn ddiamwys ac yn sefydledig, dilynir y rheini. Mae’r cyngor hwn yn ymwneud â sefyllfaoedd pan fo’r arferion yn amrywio neu’n ansicr. 

 

Mae ‘blwydd’ a ‘blynedd’ yn treiglo’n drwynol ar ôl pob rhifolyn ar wahân i 2, 3, 4 a 6, ond nid yw ‘diwrnod’ yn treiglo’n drwynol ar ôl rhifau, ond ceir anghytundeb ymhlith gramadegwyr o ran ‘6 blynedd/mlynedd’, yn enwedig ar lafar.

Ni threiglir enwau heblaw ‘cant’, ‘punt’ a ‘ceiniog’ yn feddal ar ôl ‘saith’ ac ‘wyth’, ee ysgrifennir ‘saith parc’ ac ‘wyth rhanbarth’, nid ‘saith barc’ ac ‘wyth ranbarth’.  

Ni threiglir ‘diwrnod’ yn drwynol ar ôl rhifau, ee ysgrifennir ‘saith diwrnod’ a ‘15 diwrnod’. 

 

Y ffurfiau cyswllt ynteu’r ffurfiau dyfynnol  

Defnyddir y ffurfiau cyswllt ‘pum’ (5), ‘chwe’ (6) a ‘can’ (100) yn gyffredinol ee ‘pum arth’, ‘pum dyn’, ‘chwe adroddiad’, ‘chwe menyw’, ‘can metr’, ‘can merch’. 

Gellir defnyddio’r ffurf gyswllt ‘deng’ o flaen llafariaid e.e. ‘deng awdurdod’ ac ‘m’ e.e. deng mis. Mae hyn yn gyffredin yn y cywair clasurol yn arbennig, ac i raddau yn y cywair ffurfiol hefyd. Mae’n fwy arferol gweld y ffurf ddyfynnol ‘deg’ yn y cyweiriau anffurfiol a llafar.

Ni fydd y ffurfiau cyswllt ‘deuddeng’ (12) a ‘pymtheng’ (15) yn codi yn ein gwaith fel arfer gan y defnyddir ffigurau ar gyfer rhifau o 11 i fyny.  

 

Y lluosog ynteu’r unigol  

Gyda ffigurau a rhifolion hyd at ddeg, defnyddir yr unigol, ee ‘2 filltir’, ‘dau ddyn’.  

Gyda ffigurau a rhifolion o 11 i fyny, defnyddir yr unigol pan fo’r hyn a gyfrifir yn dod ar ôl y rhif ee ‘18 mis’ (‘deunaw mis’) yn hytrach na ‘18 o fisoedd’ (‘deunaw o fisoedd neu ‘un deg wyth o fisoedd’). 

Gyda ffigurau a rhifolion o 11 i fyny, defnyddir y lluosog yn y sefyllfaoedd hyn:  

  • pan ddefnyddir y system ugeiniol a phan fo’n arferol rhoi’r hyn a gyfrifir yn y canol – defnyddir ‘11 o filltiroedd’ (‘un ar ddeg o filltiroedd’) nid ‘11 filltir’ (‘un filltir ar ddeg’)  
  • pan ddefnyddir y system ddegol – defnyddir ‘17.34 o filltiroedd’ (‘un deg saith pwynt tri pedwar o filltiroedd’) nid ‘17.34 filltir’ (‘un deg saith filltir pwynt tri pedwar’) nac ‘17.34 milltir’ (‘un deg saith pwynt tri pedwar milltir’). 

 

Rhifau ar ddechrau brawddegau 

Peidiwch â dechrau brawddegau â ffigurau. Yn lle hynny:  

  • gallwch ddefnyddio’r geiriau yn lle’r ffigurau – ‘Ugain cais yn unig a dderbyniwyd’, yn hytrach nag ‘20 cais yn unig a dderbyniwyd’  
  • gallwch aildrefnu’r frawddeg – ‘Derbyniwyd 20 cais yn unig’ yn hytrach na ‘20 cais yn unig a dderbyniwyd’.   
     

Pwyntiau perthnasol eraill 

Cofiwch wahaniaethu rhwng ‘rhif’ (sy’n benodol ac, yn gyffredinol, yn cyfeirio at rifolion – 1, 2, 3 etc) a ‘nifer’ (sy’n amhenodol, ee ‘mae nifer mawr o gyrsiau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg’).  

Mae cyngor perthnasol arall yn yr erthyglau ynghylch: 

  • dyddiadau  
  • blynyddoedd 
  • canrifoedd 
  • teitlau unedau milwrol – trefnolion a rhifolion.  

 

Gellir defnyddio’r ffurf gyswllt ‘deng’ o flaen llafariaid e.e. ‘deng awdurdod’ ac ‘m’ e.e. deng mis. Mae hyn yn gyffredin yn y cywair clasurol yn arbennig, ac i raddau yn y cywair ffurfiol hefyd. Mae’n fwy arferol gweld y ffurf ddyfynnol ‘deg’ yn y cyweiriau anffurfiol a llafar.

ffontiau

Dylid dilyn fformat y ddogfen wreiddiol o ran y ffont, maint y teip ac ati.

Arial 12 yw ffont ‘swyddogol’ y Llywodraeth ond os bydd ffont neu faint teip gwahanol i hynny mewn dogfen, dilynwch fformat y ddogfen benodol honno. Ond, os bydd y ffont honno’n anaddas ar gyfer rhoi toeau bach ar ‘w’ ac ‘y’, tynnwch sylw’r cwsmer at hynny er mwyn ceisio dylanwadu arno i’w newid.

Arial 16 yw’r maint ffont swyddogol ar gyfer penawdau.

Arian 14 yw’r maint ffont swyddogol ar gyfer isbenawdau.

Ni ddylid defnyddio ffontiau ‘Cymraeg’ megis Heledd neu Afallon yn lle’r ffontiau a ddefnyddiwyd yn y fersiwn Saesneg.

ffracsiynau

Ysgrifennwch ffracsiynau syml yn llawn mewn testunau nad ydynt yn rhai mathemategol ond defnyddiwch rifolion ar gyfer ffracsiynau mwy cymhleth ac ar gyfer cyfuniad o rifau cyfain a ffracsiynau, ee dwy ran o dair, 1½, 7¾.

Frequently Asked Questions (FAQs)

Cwestiynau Cyffredin, nid ‘Cwestiynau a Ofynnir yn Aml’

galluogi

'galluogi rhywun i wneud rhywbeth'
nid ‘galluogi i rywun wneud rhywbeth’

gan mwyaf

nid ‘gan fwyaf’

geiriau ag ‘ys-’ yn sillaf gyntaf iddynt

Mae’n arferol hepgor yr ‘y’ gychwynnol ar lafar mewn geiriau o’r fath. Mae’n gyffredin gwneud hynny yn ysgrifenedig hefyd, gan ddibynnu ar gywair y darn dan sylw ac i ba raddau y mae’r ffurf fyrrach wedi cael ei derbyn fel sillafiad safonol.

Er hynny, dylid bod yn ofalus gan y gall arfer y Gwasanaeth Cyfieithu amrywio. Er mwyn sicrhau cysondeb, dylid darllen unrhyw nodiadau defnydd sy’n cyd-fynd â’r cofnod yn TermCymru. Dyma rai enghreifftiau cyffredin.

Ysmygu

Dyma’r ffurf a ddefnyddir mewn testunau ffurfiol gan gynnwys deddfwriaeth, ond mae ‘smygu’ yn dderbyniol mewn testunau cyffredinol, llai ffurfiol.

Ystad

Yn yr achos hwn, cedwir yr ‘y’ gychwynnol ym mhob achos.

Ysgubo

Defnyddir ‘ysgubo’ mewn testunau ffurfiol gan gynnwys arwyddion ffyrdd, ond ‘sgubo’ mewn deunyddiau anffurfiol.

Sbwriel

Gollyngir yr ‘y’ gychwynnol ym mhob achos, ni waeth beth fo cywair y darn.

geiriau jargonllyd

Mae’n bosibl mai geiriau jargonllyd mewn testunau Saesneg yw un o gas bethau rhai cyfieithwyr. A ddylid defnyddio neu fathu jargon Cymraeg? A fyddai’n well aralleirio neu symleiddio? Y nod yma yw rhoi gair o gyngor ynghylch y pwyntiau i’w hystyried wrth benderfynu, a chynnig rhai enghreifftiau ac awgrymiadau.

Yn ogystal â’r geiriaduron arferol, mae nifer o ffynonellau defnyddiol eraill ar gael sy’n cynnig gwahanol ffyrdd o gyfieithu geiriau ac ymadroddion, ee rhestrau geiriau Berwyn Prys Jones ar wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru: Geiriaduron - Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru a Chorpws Cyfochrog Cofnod y Cynulliad: Corpws Cyfochrog Cofnod y Cynulliad |.

termau yn y lle anghywir

Un diffiniad o ‘jargon’ yw termau sy’n cael eu defnyddio mewn mannau amhriodol. Label ar un cysyniad penodol mewn maes arbenigol yw term, a phan fo’n cael ei ddefnyddio yn y ffordd honno rhaid defnyddio’r term Cymraeg cyfatebol. Ar y llaw arall, os defnyddir y term mewn maes gwahanol neu i gyfleu ystyr mwy cyffredinol, gallai gair neu ymadrodd mwy cyffredin fod yn addas.

Dylai natur y darn a’r gynulleidfa darged helpu’r cyfieithydd i benderfynu ai term ynteu gair neu ymadrodd o’r iaith gyffredinol fyddai’n taro deuddeg. Wrth ddewis gair neu ymadrodd amgen, ystyriwch a yw’n cyfleu’r hyn y mae awdur y darn yn dymuno’i ddweud yn llawn ac yn gywir. Rhoddir rhai enghreifftiau isod, gan bwysleisio mai cynigion yn unig yw’r geiriau neu’r ymadroddion amgen, ac y gallai opsiynau eraill fod yn briodol.

Term Saesneg Term Cymraeg Gair neu ymadrodd

projection

Economeg / Ystadegau: cyfrifiad neu ragolwg
ar sail tueddiadau presennol

amcanestyniad rhagolygon

scoping

Ymchwil academaidd: prosiect sy’n edrych yn
ystemataidd ar y dogfennau mewn maes penodol,
gan nodi’r cysyniadau a damcaniaethau allweddol,
y ffynonellau tystiolaeth a bylchau yn y gwaith ymchwil

Dadansoddi data: adnabod is-set o elfennau o fewn
set ehangach

cwmpasu pennu hyd a lled

align

Technoleg iaith: y broses o drefnu testun yn segmentau
cyfochrog cyfatebol mewn dwy iaith.

alinio

cyd-fynd
cydweddu
gwneud yn gydnaws â

geiriau aneglur neu eang iawn eu hystyr

Ceir math arall o jargon lle mae ystyr y Saesneg yn aneglur, neu lle mae llu o wahanol ystyron ymhlyg yn y gair neu’r ymadrodd. Nid yw’r rhain yn dermau mewn unrhyw faes penodol. Gellid barnu ar adegau mai bod yn ymhonnus y mae’r awdur, a bryd hynny dylid ystyried ai tôn bwriadol sydd wedi’i daro, ynteu a fyddai’n briodol symleiddio wrth gyfieithu. Fodd bynnag, dylai’r cyfieithydd ystyried a yw pob elfen, neu’r elfennau allweddol, yn cael eu cyfleu yn llawn. A yw ‘trafod’, er enghraifft, yn cyfleu pob agwedd ar y gair ‘negotiate’ yn y cyd-destun dan sylw?

Rhaid cadw mewn cof hefyd y gall fod pwrpas bwriadol i’r amwysedd yn Saesneg. Mae’n bosibl y defnyddir ‘minded to’, er enghraifft, er mwyn osgoi cyfleu bwriad pendant neu benderfyniad terfynol. Os felly, rhaid i’r cyfieithydd ystyried a oes angen cyfleu’r un amwysedd.

Mae temtasiwn weithiau i gyfieithu rhai o’r geiriau hyn yn llythrennol. Rhoddir enghreifftiau o’r rhain yn y grŵp cyntaf isod, ynghyd ag awgrymiadau ar gyfer gwahanol ffyrdd o’u cyfieithu.

Mae’r ail grŵp yn ymadroddion sydd, o bosibl, yn fwy trosiadol ac yn defnyddio geiriau cyfarwydd i gyfleu ystyr newydd.

Saesneg Cymraeg llythrennol Cymraeg amgen
overarching trosfwaol

cyffredinol
rhychwantol
sy’n llywodraethu
prif
hollbwysig

[gain / give an] insight

mewnwelediad

dealltwriaeth
[cael / cynnig] darlun eglur
[cael / cynnig] cipolwg ar
taflu goleuni ar

maximise uchafu

manteisio i’r eithaf ar
cynyddu i’r eithaf
sicrhau’r xxx mwyaf

engage(ment) ymgysylltu

ymwneud â
ymgymryd â
ennyn diddordeb
ennyn sylw
trafod

 

Saesneg Cymraeg llythrennol Cymraeg amgen
gain access to cael mynediad at

manteisio ar
cael gafael ar

inform

[ee This will be crucial in informing
policy going forward.]
hysbysu

cyfrannu at
elwa ar
cyfoethogi
defnyddio

look at [doing] edrych ar

ystyried
bwriadu
ceisio

ymadroddion trosiadol

Dyma ymadroddion sydd wedi cael eu gorddefnyddio nes iddynt ddod yn ystrydebol, bron. Maent yn gyffredin ym maes marchnata a busnes, ond i’w gweld mewn meysydd eraill hefyd. Sylwch y gall ystyr rhai o’r ymadroddion hyn fod yn ddifrïol neu’n ffafriol – mae’n dibynnu ar y cyd-destun a thôn y darn.

Saesneg Cymraeg
blue sky thinking

meddwl yn greadigol
cynnig syniadau mewn byd delfrydol
syniadau anymarferol

thinking outside the box

meddwl mewn ffordd arloesol
meddwl yn agored
meddwl yn wahanol i’r arfer

close of play

diwedd y diwrnod gwaith
diwedd y prynhawn

 

golwg

Mae cenedl ‘golwg’ yn amrywio yn ôl yr ystyr.

Mae’n wrywaidd pan fo’n golygu’r gallu i weld a’r y broses o weld (ee ‘golwg gwan’, ‘amhariad ar y golwg’), a chwmpas yr hyn y gall y llygad ei weld (ee ‘yn y golwg’, ‘dod i’r golwg’).

Mae’n wrywaidd pan fo’n golygu golygfa neu bersbectif, yn enwedig mewn cyd-destunau technegol fel dylunio neu feddalwedd (ee ‘golwg deheuol yr adeilad’, ‘golwg dwy dudalen’) ond mae’n bosib y bydd ‘gwedd’ yn air mwy addas na ‘golwg’ mewn cyd-destunau o’r fath.

Mae’n fenywaidd gan amlaf pan fo’n cael ei ddefnyddio’n ffigurol i olygu safbwynt (ee ‘cynigiodd olwg wahanol ar y mater’) ond mae’r genedl yn amrywio mewn ymadroddion cyffredin – dylid bod yn gyson o fewn yr un darn.

Mae’n fenywaidd pan fo’n golygu cipdrem neu ganlyniad y weithred o edrych ar rywbeth (ee ‘golwg fanwl ar y mater’, ‘golwg gyflym ar y papur’) – a gwedd ac edrychiad rhywbeth, sef y ffordd y mae rhywbeth yn ymddangos (ee ‘mae golwg daclus ar y stryd’).

Gweler hefyd yr erthygl am 'cenedl enwau'.

gwefannau

Pan geir dolen sy’n arwain at safle neu ddogfen Saesneg ar y rhyngrwyd, nid digon yw ei chynnwys fel y mae yn y cyfieithiad, gan fod angen rhoi gwybod i’r darllenydd sut mae darganfod y safle neu’r ddogfen Gymraeg gyfatebol.

Gwefan Llywodraeth Cymru:
http://www.llyw.cymru (yr ochr Gymraeg)
http://www.gov.wales (yr ochr Saesneg)

Mae gan rai o’r adrannau gyfeiriadau gwahanol ar gyfer eu safleoedd Cymraeg a Saesneg ar y we. Er enghraifft, yr Adran Amaeth:

http://www.cefngwlad.cymru.gov.uk/ (yr ochr Gymraeg)
http://www.countryside.wales.gov.uk (yr ochr Saesneg)

Ond nid yw hynny’n wir am bob adran ac is-adran ac felly, wrth gyfieithu, bydd angen edrych ar y we bob amser i wneud yn siwr eich bod yn rhoi’r cyfeiriadau cywir.

Mae gan rai cyrff gyfeiriadau gwahanol ar gyfer eu safleoedd Cymraeg a Saesneg ar y we, er enghraifft:

http://www.sirddinbych.gov.uk/ (yr ochr Gymraeg)
http://www.denbighshire.gov.uk/ (yr ochr Saesneg)

http://www.cyfoethnaturiol.cymru (yr ochr Gymraeg)
http://www.naturalresources.wales (yr ochr Saesneg)

Os ceir cyswllt sy’n arwain at ddogfen Saesneg benodol, bydd angen ei newid er mwyn iddi arwain at y ddogfen Gymraeg gyfatebol, ee

www.wales.gov.uk/subieducationtraining/content/learningcountry/foundation-index-e.htm
www.cymru.gov.uk/subieducationtraining/content/learningcountry/foundation-index-w.htm

Mae’r enghraifft hon yn un eithaf syml – newid ‘wales’ i ‘cymru’ ac ‘e’ i ‘w’ – ond mae rhai yn fwy cymhleth na hynny. Bydd angen agor y ddogfen Gymraeg i ddarganfod y cyswllt cywir.

Rydym yn ceisio cael ein cwsmeriaid i ddarparu’r dolenni Cymraeg i ddogfennau, gan nad gwaith cyfieithu yw hwn mewn gwirionedd. Os bydd rhestr helaeth ohonynt ar ddiwedd dogfen, rhowch wybod i’r gweinyddwyr fel y gellir trefnu i’r cwsmer chwilio amdanynt tra byddwch chi’n cyfieithu’r ddogfen. Neu, os byddwch yn gadael dolenni yn Saesneg yma ac acw mewn darn o waith, cofiwch ddweud wrth y cwsmer eich bod wedi gwneud hynny.

gwybodaeth

Enw benywaidd yw ‘gwybodaeth’ felly bydd angen cynnal y treiglad drwy’r frawddeg ar ei hyd.

Defnyddiwch yr wybodaeth, nid ‘y wybodaeth’.

i

i mewn

nid ‘i fewn’

i mi/imi, i ti/iti, ac ati

Mae gwahaniaeth pwyslais rhwng y gwahanol ffurfiau rhediadol ar yr arddodiad i. Os nad oes pwyslais ar yr elfen hon mewn brawddeg, defnyddiwch imi, iti, inni, ichi ac ati. Os oes pwyslais ar yr elfen, defnyddiwch i mi, i ti, i ni, i chi.

Er enghraifft:
Dibwyslais: “Rhowch wybod imi a ydych am ddod i’r cyfarfod.”
Pwyslais: “Peidiwch â rhoi’r ddogfen i mi, anfonwch hi at y Pennaeth.”

Y ffurfiau yn llawn yw:

Ffurf ddibwyslais Ffurf â phwyslais
imi i mi
iti i ti
iddo/iddi iddo ef/iddi hi
inni i ni
ichi i chi
iddynt iddynt hwy

 

in relation to

Ceisiwch osgoi gorddefnyddio ‘mewn perthynas â’ a rhoi yn ei le ymadroddion megis ‘o ran’, ‘ynghylch’ neu ‘ynglŷn â’.

inclusion

cynhwysiant, nid ‘cynhwysedd’ na ‘cynhwysiad’

italeiddio geiriau mewn ieithoedd heblaw’r Gymraeg

Yr arfer gyffredinol yng ngwaith Llywodraeth Cymru yw rhoi geiriau neu ymadroddion mewn unrhyw iaith heblaw’r Gymraeg mewn llythrennau italaidd. Un rheswm dros wneud hyn yw oherwydd nad yw’r orgraff yn dangos i’r darllenydd sut mae ynganu’r gair, ee ensemble.

Nid oes angen italeiddio geiriau â’u tarddiad mewn ieithoedd tramor os ydynt wedi’u cymhathu’n llwyr i’r Gymraeg, ee ‘agenda’. Ar y llaw arall, nid yw bob amser yn amlwg pryd mae hyn wedi digwydd. Gallai rhai ystyried bod ‘pizza’ yn air digon cyffredin i’w adael heb ei italeiddio. Efallai bod fettucine, ar y llaw arall yn llai cyfarwydd. Ar adegau felly bydd rhaid penderfynu yn ôl cyd-destun y darn dan sylw.

Dyma rai pwyntiau i’w cadw mewn cof wrth benderfynu.

  • Nid yw’n arfer italeiddio enwau priod, ee teitlau dogfennau ac ati.
  • Gall diwyg y testun olygu weithiau na fyddai’n briodol italeiddio. Pe bai’r Gymraeg a’r Saesneg ochr yn ochr, ee mewn gwahoddiad, bwydlen ac ati, gallai edrych yn rhyfedd petae’r naill wedi’i italeiddio a’r llall ddim.
  • Nid yw geiriau Ffrangeg na Lladin yn cael eu hitaleiddio mewn deddfwriaeth Gymraeg na Saesneg.
  • Caiff rhai termau eu hitaleiddio bob amser, ee enwau Lladin ar blanhigion ac anifeiliaid.
  • Mae TermCymru yn cynnwys rhai termau y mae angen eu hitaleiddio, ond nid oes modd dangos hynny yn y gronfa am resymau technegol ee status quo. Rhoddir nodyn gyda’r cofnod mewn achosion fel hyn.

lle

Mae angen y geiryn ‘y’ ar ôl ‘lle’ yn y cywair clasurol a’r cywair ffurfiol:  dyma’r safle lle y daeth y swyddogion ynghyd i drafod y cynllun

Os penderfynir hepgor y geiryn ‘y’ mewn cywair anffurfiol ni ddylech dreiglo ar ôl ‘lle’:
dewch i’r ŵyl lle bydd criw o bobl ifanc …, nid ‘... lle fydd criw o bobl ifanc’.

lle / ble

y papurau newydd lle’r hysbysebir y swyddi, nid ‘y papurau newydd ble’r hysbysebir y swyddi’

Defnyddir ‘ble’ (sef ‘pa le’) i ofyn cwestiwn: 
Ble bydd y swyddi’n cael eu hysbysebu?

lluosog

Defnyddiwch y ffurf luosog gyntaf a nodir yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru oni bai bod cytundeb ffurfiol i fabwysiadu lluosog arall er cysondeb o fewn y Gwasanaeth Cyfieithu. Dyma'r geiriau y cytunwyd i fabwysiadu lluosog gwahanol ar eu cyfer:

adfocad, adfocadau

dehongliad, dehongliadau

gorchudd, gorchuddion

gwerth, gwerthoedd

harbwr, harbyrau

label, labeli

lens, lensys

sedd, seddi

sudd, suddoedd

 

Ceisiwch osgoi defnyddio ffurfiau lluosog ar ansoddeiriau ond lle bo’r ffurf yn air cyffredin. 

llwyth / llwythau

tribes

llwyth / llwythi

loads

maen nhw

nid ‘mae’n nhw’ na ‘mae nhw’

magwyd/maged a ganwyd/ganed

Y terfyniad '-wyd' a ddefnyddir gan amlaf ar gyfer berf amhersonol amser gorffennol 'magu' a 'geni'.

Er bod y terfyniad '-ed' yn ddilys yn Gymraeg, 'magwyd' a 'ganwyd' yw’r terfyniad a argymhellir er cysondeb.

may (has discretion to, is permitted to)

'caiff', nid 'gall'

meddai a dywedodd

Mae’r cyngor yn amrywio yn y ffynonellau gramadeg o ran pryd mae’n gywir defnyddio ‘meddai’ a ‘dywedodd’.

Er cysondeb yng ngwaith y Llywodraeth, ein cyngor yw bod modd defnyddio ‘dywedodd’ gyda dyfyniadau uniongyrchol neu anuniongyrchol:

‘Dywedodd y Gweinidog y bydd y cynllun yn cael ei lansio yn y gwanwyn.’
‘“Bydd y cynllun yn cael ei lansio yn y gwanwyn,” dywedodd y Gweinidog.’

Rydym yn argymell cadw ‘meddai’ ar gyfer dyfyniadau uniongyrchol yn unig. Er bod modd ei roi ar y dechrau, ei leoliad arferol erbyn hyn yw yng nghanol y dyfyniad neu ar y diwedd:

‘“Bydd y cynllun yn cael ei lansio yn y gwanwyn,” meddai’r Gweinidog.’

‘”Yn y gwanwyn” meddai’r Gweinidog “y bydd y cynllun yn cael ei lansio”’.

meet

‘cwrdd’ â phobl

‘talu’ costau

‘bodloni’ neu ‘ddiwallu’ anghenion, meini prawf, gofynion etc

must

Mae angen gwahaniaethu rhwng 'should' - 'dylai' a 'must' - 'rhaid'

mwy a rhagor

Yn yr iaith ysgrifenedig safonol, defnyddir ‘mwy’ pan fydd elfen o gymharu ee ‘Roedd mwy o hufen nag o fefus yn y bowlen.’

Gall y gymhariaeth fod yn ddealledig ee ‘Mae mwy o fefus yn dy bowlen di (nag yn f’un i).’

Defnyddir ‘rhagor’ pan nad oes cymhariaeth. Yr ystyr yma yw ychwanegu mesur o rywbeth at fesur arall, ee

‘Hoffech chi ragor?’
‘Cysylltwch â Huw Huws i gael rhagor o wybodaeth.’

Mae i ‘ychwaneg’ hefyd yr un ystyr â ‘rhagor’.

Gall fod yn dderbyniol llacio’r rheol hon a defnyddio ‘mwy’ bob tro mewn darnau anffurfiol iawn ee negeseuon Trydar.

mwyafrif / rhan fwyaf

Sylwer bod ystyr y ddau ymadrodd ychydig yn wahanol. Defnyddir ‘mwyafrif’ ar gyfer unrhyw beth y gellir ei gyfrif, fel y mae’r elfen ‘rhif’ yn y gair yn ein hatgoffa.

‘Pleidleisiodd y mwyafrif o’r Aelodau Seneddol o blaid y cynnig.’

Mae’r ymadrodd ‘rhan fwyaf’, ar y llaw arall, yn ymwneud â symiau na ellir eu cyfrif.

‘Defnyddiodd Arwel y rhan fwyaf o’r blawd i wneud bara.’

Gweler hefyd yr erthygl ‘of’ sy’n egluro pryd y mae angen cynnwys y gair ‘o’ yn y Gymraeg.

Mae’r un gwahaniaeth yn union yn bodoli rhwng ‘cynifer’ a ‘cymaint’.

‘Braf oedd gweld cynifer o bobl ifanc yn y gynhadledd.’
‘Braf oedd gweld cymaint o ddŵr yn y gronfa ar ôl y glaw.’

nac ydw

nid 'nag ydw'

nepell

Mae angen defnyddio’r negydd gyda’r ansoddair ‘nepell’:
Yng Nghwmffrwd yr oedd yn byw, nid nepell o Gaerfyrddin. 
Nid yw’r orsaf nepell o ganol y dref.

nifer

Cofiwch wahaniaethu rhwng ‘rhif’ (sy’n benodol ac, yn gyffredinol, yn cyfeirio at rifolion 1, 2, 3 etc) a ‘nifer’ (sy’n amhenodol, ee mae nifer mawr o gyrsiau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg).

Gall ‘nifer’ fod yn fenywaidd ac yn wrywaidd ond er cysondeb o fewn y Gwasanaeth Cyfieithu dylid ei drin fel enw gwrywaidd.

o dan Ddeddf ...

nid 'dan Ddeddf ...'

o fewn

Ceisiwch osgoi gorddefnyddio ‘o fewn’. Yn aml mae ‘yn’ yn ddigon yn lle ‘o fewn’ hyd yn oed lle bo ‘within’ yn Saesneg. Mae ‘yng Nghymru’ yn golygu’r un peth ag ‘o fewn Cymru’ oni bai bod gwir angen y pwyslais.

o ganlyniad i

nid 'fel canlyniad i'

oddi wrth

nid 'oddiwrth'

of

Mae’n demtasiwn osgoi defnyddio’r gair ‘o’ yn Gymraeg er mwyn cyfieithu ‘of’, gan feddwl ei fod yn gyfieithiad slafaidd o’r Saesneg bob tro. Mae’n wir ei fod yn anghywir mewn rhai sefyllfaoedd. Ar y llaw arall mae’n dderbyniol mewn sefyllfaoedd eraill, ac yn wir yn angenrheidiol mewn rhai. Disgrifir tri math o ymadrodd isod, er mwyn ceisio dangos y gwahaniaeth.

Meddiannol

Mae’n debyg bod pawb yn ymwybodol ei bod yn gwbl annerbyniol cynnwys ‘o’ mewn ymadroddion lle mae’r elfen gyntaf yn perthyn neu yn eiddo i’r ail elfen, ee

The University of Wales
Prifysgol Cymru

The species of the Andes
Rhywogaethau’r Andes

Cyfrannol

Ar y llaw arall, rhaid cynnwys yr arddodiad ‘o’ pan fo’r enw cyntaf yn rhan o gyfanrwydd mwy ee ‘rhan o’r darten’, ‘aelod o’r tîm’.

Efallai bod y gair ‘nifer’ yn dangos y gwahaniaeth rhwng y ddwy gystrawen yn fwy eglur:

The number of pupils attending the school decreased.
Gostyngodd nifer y disgyblion a oedd yn mynychu’r ysgol.
(hy cyfanswm disgyblion yr ysgol)

A number of pupils at the school were suspended.
Cafodd nifer o ddisgyblion yr ysgol eu gwahardd.
(hy rhan o gyfanswm disgyblion yr ysgol gyfan)

Enghraifft arall sy’n dangos y gwahaniaeth yn sgil cynnwys yr ‘o’ neu beidio yw ‘mwyafrif’. Gan ddilyn y rheol uchod, mae angen yr ‘o’ wrth gyfeirio at gyfran o rywbeth mwy:

Most of the Conservatives are large.
Mae’r mwyafrif o’r Ceidwadwyr yn fawr.

Wrth hepgor yr ‘o’, mae’r ystyr yn newid:

The Conservatives’ majority is large.
Mae mwyafrif y Ceidwadwyr yn fawr.

Mae’r un peth yn wir am yr ymadrodd ‘y rhan fwyaf’:

The largest section of the wedding cake was chocolate flavoured.
Blas siocled oedd ar ran fwyaf y deisen briodas.

Most of the cake fell on the floor but some was saved
Disgynnodd y rhan fwyaf o’r deisen ar y llawr, ond arbedwyd peth ohoni.

Disgrifiadol

Mae trydydd math o ymadrodd sy’n defnyddio ‘of’ yn Saesneg – rhai fel ‘the provision of support’, ‘the use of plastic’. Yn y rhain, gellid dweud bod yr ail elfen yn disgrifio’r elfen gyntaf. Mae modd aralleirio ar brydiau, gan ddibynnu ar y frawddeg, er enghraifft trwy ddefnyddio berfenw yn lle’r enw haniaethol:

The provision of support is important to ensure the scheme’s success.
Mae’n bwysig darparu cymorth er mwyn sicrhau bod y cynllun yn llwyddo.

The company aspires to reduce its use of plastic.
Mae’r cwmni yn awyddus i ddefnyddio llai o blastig.

Er hynny, mae’n dderbyniol defnyddio’r arddodiad ‘o’ yn y math hwn o gystrawen, a cheir enghreifftiau mor bell yn ôl â’r 14eg ganrif yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru. Yn wir, byddai’n anodd aralleirio mewn rhai cymalau neu frawddegau mwy cymhleth. Sylwer ar yr enghreifftiau isod, lle mae modd hepgor yr ‘o’ yn y frawddeg gyntaf ond lle mae angen ei gynnwys yn yr ail frawddeg gan ei bod ychydig yn fwy cymhleth:

The translation of the Bible was slow work
Gwaith araf oedd cyfieithu’r Beibl

William Morgan’s translation of the Bible was an important step
Roedd cyfieithiad William Morgan o’r Beibl yn gam pwysig

ond

nid yw ... ond ..., nid ‘mae ... ond ...’

Dyma enghreifftiau:

This exemption is applicable only to those who live in Wales.
Slafaidd: Mae’r eithriad hwn yn gymwys yn unig i’r rhai sy’n byw yng Nghymru.
Gwell:  Nid yw’r eithriad hwn yn gymwys ond i’r rhai sy’n byw yng Nghymru.
Y gorau? Dim ond i’r rhai sy’n byw yng Nghymru y mae’r eithriad hwn yn gymwys.

Jac is only 20 years old.
Anghywir: Mae Jac ond yn 20 oed. 
Cywir: Nid yw Jac ond 20 oed/Dim ond 20 oed yw Jac.

He only goes there when he has to.
Anghywir: Mae’n mynd yno ond pan fydd rhaid. 
Cywir: Nid yw’n mynd yno ond pan fydd rhaid.

oni bai

nid 'onibai'

orgraff

Dilynir egwyddorion a sillafiadau Orgraff yr Iaith Gymraeg yn y lle cyntaf a Geiriadur Prifysgol Cymru os nad yw’r gair yn yr Orgraff.

os

Nid oes angen ‘y’ ar ôl ‘os’:
os byddwch yn dod i’r cyfarfod, nid ‘os y byddwch yn dod i’r cyfarfod’

Nid oes angen ‘yn’ ar ôl ‘os’, ond mae angen berf: 
os yw’n barod, nid ‘os yn barod’
 
Nid oes angen ‘mai’ ar ôl ‘os’:
os mynd oedd y penderfyniad …, nid ‘os mai’r penderfyniad oedd mynd …’

'If' yw ystyr 'os', nid 'whether'. Mewn cwestiynau anuniongyrchol felly, yn ogystal â rhai uniongyrchol, defnyddiwch ‘a’ nid ‘os’ o flaen y ferf:  
'gofynnodd y Cadeirydd a oedd pawb yn bresennol', nid ‘gofynnodd y Cadeirydd os oedd pawb yn bresennol’.

p'un

Mae ‘p’un a’ / ‘p’un ai’ yn cael eu gorddefnyddio a’u defnyddio’n amhriodol. 

Gall ‘p’un’ fod yn ddefnyddiol er mwyn pwysleisio bod dewis rhwng mwy nag un peth.

 

Nid oes angen ‘p’un’ os nad oes dewis rhwng mwy nag un peth. Nid oes angen ‘p’un’ yn y brawddegau canlynol: 

 

Rydym yn ystyried a oes angen strategaeth newydd. 

Bydd y panel yn penderfynu a ddylai’r prifathro barhau yn ei swydd. 

Mae’n destun dadl ai rygbi yw prif chwaraeon Cymru. 

 

Gall cynnwys ‘p’un’ fod yn briodol yn y brawddegau canlynol gan fod dewis rhwng mwy nag un peth:

 

Rydym yn ystyried [p’un] a oes angen strategaeth newydd ai peidio.

Bydd y panel yn penderfynu [p’un] a ddylai’r prifathro barhau yn ei swydd ynteu cael ei ddiswyddo. 

Mae’n destun dadl [p’un] ai rygbi ai pêl-droed yw prif chwaraeon Cymru. 

 

Nid yw ‘p’un a/ai’ yn ddigonol ar ei ben ei hun mewn sefyllfaoedd fel yr isod – rhaid cael ymadrodd sy’n cyflwyno’r dewis ac yna, os oes angen a’i fod yn cyd-fynd â’r ymadrodd arall, gellir defnyddio ‘p’un’ i bwysleisio bod dewis: 

 

Rhowch wybod inni – naill ai / boed / dim ots [p’un] ai / ni waeth [p’un] ai drwy ffonio neu e-bostio – a fyddwch yn dod.

nid 

Rhowch wybod inni – p’un ai drwy ffonio neu e-bostio – a fyddwch yn dod. 

 

Dim ots [p’un] / ni waeth [p’un] a fyddwch yn beicio ynteu’n cerdded, bydd croeso ichi 

nid 

P’un a fyddwch yn beicio ynteu’n cerdded, bydd croeso ichi. 

 

Rhaid nodi pob effaith, dim ots [p’un] / ni waeth [p’un] a yw’n bositif ynteu’n andwyol.

nid 

Rhaid nodi pob effaith, p’un a yw’n bositif ynteu’n andwyol

pan

Nid oes angen ‘y’ ar ôl ‘pan’: 
pan fyddwch yn barod, nid ‘pan y byddwch yn barod’

Nid oes angen ‘yn’ ar ôl ‘pan’, ond mae angen berf:
pan fyddwch yn gweithio ar gyfrifiadur, nid ‘pan yn gweithio ar gyfrifiadur’

Yn lle ‘pan yw’ (sy’n ffurfiol iawn) neu ‘pan mae’ (sy’n anghywir) gall ‘pan fo’ fod yn ffurf ddefnyddiol ar adegau.

Defnyddiwch ‘pan fo’ i gyfleu where amgylchiadol hy pan fo'r gair where yn cyfeirio at amgylchiadau yn hytrach na lleoliad:
Where a pupil is suspended, the parent must be informed.
Pan fo disgybl yn cael ei wahardd, rhaid hysbysu'r rhiant.

Defnyddiwch ‘pan fydd’ i gyfleu when

parau o eiriau

Sylwer bod rhai parau o eiriau yn dilyn trefn groes yn y Gymraeg a’r Saesneg. Dyma rai enghreifftiau:

soap and water - dŵr a sebon
pencil and paper - papur a phensel
salt and pepper - pupur a halen
town and country – gwlad a thref
thunder and lightning – mellt a tharanau
needle and thread – edau a nodwydd
England and Wales – Cymru a Lloegr

Y peth pwysig wrth gyfieithu yw ystyried pa drefn sy’n llifo’n naturiol yn Gymraeg.

parhaol

continuous, permanent

parhaus

continual, sustained, persistent

people aged three years or older

Mewn testunau sy’n ymwneud ag ystadegau, ‘pobl dair oed neu hŷn’ yw’r cyfieithiad Cymraeg o ‘people aged three years or older’.  

Mae angen treiglo ‘tair’ gan fod ‘pobl’ yn enw benywaidd unigol (gweler yr erthygl ‘pobl’).  

Nid oes angen ‘yn’ traethiadol gan nad oes berf yn yr ymadrodd. Byddai angen ‘yn’ wrth gyfieithu ‘people who are three years or older’ – ‘pobl sy’n dair oed neu’n hŷn’.  

Mae’r un egwyddor yn wir wrth gyfieithu ‘the population aged three years or older’ – ‘y boblogaeth dair oed neu hŷn’. 

percentage point / per cent

Pan fo’r testun Saesneg yn cyfeirio at gynnydd neu ostyngiad fesul ‘percentage point’, dylid cyfieithu hynny fel ‘pwynt canran’.  

Pan fo’r testun Saesneg yn cyfeirio at gynnydd neu ostyngiad fesul ‘per cent’ (neu %), dylid cyfieithu hynny gan ddweud ‘y cant’ (neu %).  

Nid yw’r ddau beth hyn yn gyfystyr â’i gilydd.  

Defnyddir gwahaniaeth pwynt canran i gyfleu’r gwahaniaeth rhwng dwy ganran. Ee os yw’r nifer wedi gostwng o 1,000 o bob 1,500 i 500 o bob 1,500 mae’r ganran wedi gostwng o 66.66% i 33.33%, ac mae hynny’n ostyngiad o 33.33 pwynt canran.  

Defnyddir gwahaniaeth canrannol i gyfleu’r gwahaniaeth rhwng dau rif. Ee os yw’r nifer wedi gostwng o 1,000 i 500 mae hynny’n ostyngiad o 50 y cant.

person

Mae rhai o’r ffynonellau awdurdodol yn cynghori ysgrifenwyr Cymraeg i beidio â defnyddio ‘person’ heblaw bod angen penodol i wneud hynny, er enghraifft wrth gyfieithu’r gair ‘parson’ neu yn yr ystyr ramadegol (‘y trydydd person unigol’ etc). Yn y ffynonellau hynny, cynghorir ysgrifenwyr i ddefnyddio gair arall fel ‘rhywun’, ‘y sawl’ neu ‘unigolyn’, neu aralleirio er mwyn osgoi defnyddio ‘person’ yn llwyr.

Serch hynny, ym marn y Gwasanaeth Cyfieithu, erbyn hyn mae’n briodol defnyddio ‘person’ yn Gymraeg dan fwy o amgylchiadau nag y mae’r cyngor hwnnw’n ei awgrymu. Bu cynnydd yn y defnydd o ‘person’ mewn termau technegol Cymraeg (gan gynnwys yr ystyr benodol gyfreithiol sydd i'r term hwnnw), a chynnydd hefyd yn y defnydd o ‘person’ mewn iaith ‘bob dydd’ gan siaradwyr y Gymraeg. 

Yn gyfreithiol, mae ystyr ehangach i ‘person’ nag i ‘unigolyn’ – gall ‘person’ fod yn berson naturiol ond gall hefyd fod yn berson corfforaethol. Un o ganlyniadau hynny yw bod cofnodion yn TermCymru ar gyfer termau a theitlau sy’n ymwneud â rolau a swyddi penodol (gan gynnwys rhai a bennir mewn deddfwriaeth) yn defnyddio’r ffurf ‘person’ yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan adlewyrchu’r ystyr gyfreithiol sydd i ‘person’ yn y cyd-destunau hyn. Er enghraifft, ‘person â chyfrifoldeb’ am ‘person in charge’, a ‘rhyddhad gan berson cymwys’ am ‘qualified person release’. Y ffurf luosog safonol ar ‘person’ mewn termau technegol yw ‘personau’, ond mae modd defnyddio ‘pobl’ yn hytrach na ‘personau’ pan fo'n amlwg mai bodau dynol yn unig sydd dan sylw. 

At hyn, defnyddir y gair ‘person’ bellach yn gwbl naturiol gan lawer o siaradwyr Cymraeg mewn cyfuniadau sefydlog fel ‘person ifanc’, ‘person o liw’ ac ati. Mae cofnodion TermCymru yn cynnwys enghreifftiau o gyfuniadau sefydlog fel y ddau uchod. Y ffurf luosog arferol ar ‘person’ mewn iaith ‘bob dydd’ yw ‘pobl’ (sydd, yn ramadegol, yn enw benywaidd unigol wrth gwrs). 

Felly mewn termau technegol, ac wrth gyfeirio at rolau penodol neu gyfuniadau sefydlog, mae’n debygol mai ‘person’ fydd y cyfieithiad gorau. Os yw’n glir bod y gair ‘person’ yn Saesneg yn cyfeirio at fod dynol – hynny yw, person naturiol, heb fod unrhyw ystyr ehangach i’r gair – gall fod yn fwy priodol cyfieithu ‘person’ mewn ffordd arall, gan ddefnyddio gair arall fel ‘rhywun’, ‘y sawl’ neu ‘unigolyn’, neu aralleirio er mwyn osgoi defnyddio ‘person’ yn llwyr, ee:

  • am ‘All persons will be banned from smoking gallwch roi ‘Gwaherddir pawb rhag smygu
  • y sawl a oedd yn annerch y gynulleidfa’ neu ‘yr un a oedd yn annerch y gynulleidfa yn hytrach nag ‘y person a oedd yn annerch y gynulleidfa’.

pobl

  • Y ffurf luosog safonol ar ‘person’ mewn termau technegol yw ‘personau’, ond mae modd defnyddio ‘pobl’ yn hytrach na ‘personau’ pan fo'n amlwg mai bodau dynol yn unig sydd dan sylw. Y ffurf luosog arferol ar ‘person’ mewn iaith ‘bob dydd’ yw ‘pobl’. Gweler y cofnod yn yr Arddulliadur ar gyfer ‘person’.
  • Enw benywaidd unigol yw ‘pobl’ ac felly ‘y bobl dda’ sy’n gywir.

portmanteaux

Gair sy’n asio elfennau o ddau air arall, o ran sain ac ystyr, yw portmanteau. Maen nhw’n gyffredin iawn yn Saesneg, ee brunch o breakfast a lunch, smog o smoke a fog.

Cynigir isod nifer o ddulliau posibl o drosi portmanteaux, ynghyd ag ambell ystyriaeth wrth benderfynu pa un i’w ddefnyddio. Nid ydynt mewn unrhyw drefn arbennig. Bydd y dull a ddewisir yn dibynnu ar yr hyn sy’n gweithio orau ar gyfer y gair dan sylw. Mae’n werth ystyried hefyd a ydy portmanteau newydd yn un o gyfres, ac felly y byddai’n ddymunol dilyn yr un patrwm ar gyfer pob un (gweler ‘vishing’ a ‘smishing’ isod).

  • Cadw’r un gair ag yn y Saesneg

Gallai hyn fod yn briodol os yw’r gair wedi ennill ei blwyf yn gyflym iawn, mewn deunyddiau Cymraeg a Saesneg, ee Brexit.

  • Cymreigio’r sillafiad

Er enghraifft ‘glampio’ am ‘glamping’ a ‘secstio’ am ‘sexting’. Mae’n bosibl bod angen ystyried cywair y darn yma. Er enghraifft, byddai ‘secstio’ yn addas mewn deunyddiau wedi’u targedu at bobl ifanc ond mae’n bosibl y byddai ‘anfon delweddau rhywiol eu natur’ yn fwy priodol mewn deunyddiau mwy ffurfiol.

  • Cyfieithu un neu ragor o’r elfennau, neu aralleirio

Gwelir enghreifftiau lle mae un elfen wedi’i chyfieithu, ee ‘blog fideo’ am ‘vlog’. Mewn enghreifftiau eraill mae’r ddwy elfen yn cael eu cyfieithu, ee ‘llais-rwydo’ am ‘vishing’ (‘voice’ + ‘phishing’) ac ‘SMS-rwydo’ am ‘smishing’ (‘SMS’ + ‘phishing’) – ill dau yn seiliedig ar ‘gwe-rwydo’ am ‘phishing. Gellid hefyd aralleirio’r cysyniad cyfan, ee ‘llysieuwr hyblyg’ am ‘flexitarian’.

Un ystyriaeth yma fyddai hyd y cyfieithiad neu’r aralleiriad. Gallai fynd yn feichus os yw’n codi’n aml mewn darn. Gallai hefyd fod yn amhriodol mewn rhywbeth byr a bachog fel neges drydar.

  • Creu portmanteau Cymraeg

Ateb gwych pan mae modd dod o hyd i un sy’n gweithio, ee ‘sgyrsfot’ am ‘chatbot’, ‘gweddarlledu’ am ‘webcasting’.

Rhaid gofalu ei bod yn amlwg ar unwaith i’r darllenydd pa ddau air sydd wedi cael eu cyfuno i greu’r gair newydd.

posibiliadau

Rhywbeth a all fod neu a all ddigwydd: possibilities.

posibilrwydd

Y cyflwr o fod yn bosibl: possibility.

posibl

Er cysondeb: posibl nid ‘posib’.

proflenni

Gan nad yw’r rhan fwyaf o’r cysodwyr a fydd yn ymgorffori newidiadau mewn proflenni yn medru’r Gymraeg, gofynnwn i unrhyw gyfarwyddiadau y byddwch yn eu hysgrifennu ar broflenni neu mewn pdfs electronig gael eu hysgrifennu yn Saesneg, ee new para.

Mae gofyn bod yn ofalus os byddwch yn nodi cywiriad ar ddechrau dogfen ac yn gofyn i’r cysodydd wneud yr un cywiriad drwy’r ddogfen gyfan. Os oes posibilrwydd y bydd angen amrywio’r cywiriad hwnnw mewn mannau oherwydd rheolau treiglo, ni ellir cymryd yn ganiataol y bydd y cysodydd yn gwybod hynny.

Os oes ychwanegiadau sylweddol i’w gwneud i ddogfen, mae’n well teipio’r testun newydd mewn dogfen ar wahân a’i hatodi i'r e-bost wrth ddychwelyd y broflen pdf. Os oes sawl darn o'r fath gellir teipio’r ychwanegiadau o dan ei gilydd, gan roi rhif i bob un, a rhoi nodiadau yn ychwanegu'r rhifau yn y mannau priodol ar y broflen i ddangos i’r cysodydd ymhle y dylid rhoi’r ychwanegiadau.

prosiect

Er cysondeb: prosiect nid ‘project’.

pwyntiau bwled a rhestrau

Yn gyffredinol, mae’r Gwasanaeth Cyfieithu yn dilyn arferion atalnodi agored. Yn achos rhestrau o bob math, gan gynnwys pwyntiau bwled:

  • ni ddylid rhoi coma, hanner colon na chysyllteiriau (ee ‘a’) ar ddiwedd y pwyntiau
  • dylai colon ragflaenu’r rhestr
  • dylid rhoi atalnod llawn ar ddiwedd y pwynt olaf (yn unig).

Mae hyn yn cyd-fynd â chanllaw arddull gwefan Llywodraeth Cymru (gweler yr eitem ‘Pwyntiau bwled’): https://www.llyw.cymru/canllaw-arddull-llywcymru 

Fodd bynnag, nid yw’r testunau Saesneg a gyflwynir i’w cyfieithu yn cadw’n gyson at y canllaw hwn bob amser. Mewn achosion o’r fath, rhaid ystyried cyd-destun y darn yn ofalus. Mae angen gofalu ein bod yn cadw’r atalnodi yn y Gymraeg yr un fath os oes arwyddocâd arbennig iddo yn y testun Saesneg. Ee mewn testunau lled-ddeddfwriaethol sy’n cael eu gosod yn y Senedd (memoranda esboniadol, LCMs, codau, ac ati) mae’n bwysig bod y testunau Cymraeg a Saesneg yn cyfateb yn glos er mwyn sicrhau cyfwerthedd cyfreithiol.  

 

treiglo mewn rhestrau

Mewn rhestrau sydd ar ffurf pwyntiau bwled, dylid treiglo gair cyntaf yr eitem gyntaf, ond peidio â threiglo’r gweddill. Ond os oes modd llunio’r frawddeg sy’n rhagflaenu’r pwyntiau bwled mewn ffordd sy’n golygu nad oes angen treiglo, gwnewch hynny.

Mewn rhestrau sy’n dynodi’r pwyntiau â llythrennau neu rifau, dylid ystyried bod y llythrennau neu’r rhifau’n rhan o’r testun, ac felly nid oes angen treiglo’r eitem gyntaf.

pwyntiau'r cwmpawd

Ni ddylid defnyddio priflythyren ar gyfer pwyntiau’r cwmpawd fel rheol, oni bai ei fod yn rhan o enw gwlad, rhanbarth neu ardal benodol:

gogledd Cymru
i’r de o Aberystwyth
Gogledd Iwerddon
De America

Rhanbarthau Cymru
Os ydy’r Saesneg yn nodi “North Wales”, “Mid Wales”, “South East Wales” ac ati, yn amlach na pheidio mae’n fwy naturiol hepgor “Cymru” o’r cyfieithiad. Os ydy’r testun yn cyfeirio at y rhain fel rhanbarthau penodol, yn hytrach na chyfeiriad daearyddol, defnyddiwch y pwynt cwmpawd (neu “Canolbarth”) gyda’r fannod yn unig, a phriflythyren:

North Wales – y Gogledd
Mid Wales – y Canolbarth

Is-bwyntiau’r cwmpawd
Mae angen cysylltnod yn is-bwyntiau’r cwmpawd. Fel uchod, nid oes angen priflythyren ar gyfer cyfeiriad daearyddol. Os ydych yn cyfeirio at ardal neu ranbarth penodol, mae angen priflythyren gychwynnol ond nid oes angen ail briflythyren ar ôl y cysylltnod:

i’r de-ddwyrain o Mumbai
De-ddwyrain Asia
Mae’r Fflint yn y Gogledd-ddwyrain

Byrfoddau
Dyma’r byrfoddau a ddefnyddir ar arwyddion ffyrdd y Llywodraeth:

G – gogledd; D – de; Dn – dwyrain; Gn – gorllewin
GOn – gogledd-orllewin; GDdn – gogledd-ddwyrain; DOn – de-orllewin; DDdn – de-ddwyrain

receive

Mae angen gofal wrth gyfieithu ‘receive’ i’r Gymraeg. Wrth gyfieithu ‘received a proposal’ peidiwch â defnyddio ‘derbyn cynnig’ oherwydd efallai i’r cynnig a ddaeth i law gael ei wrthod, hynny yw ‘been received and rejected’. Gwell defnyddio ‘cael’, ee ‘I have received your letter – rwyf wedi cael eich llythyr’, ‘you will receive notification –  byddwch yn cael eich hysbysu’ (nid ‘byddwch yn derbyn hysbysiad’).
Dewis arall yw 'dod i law': 'Daeth y ddeiseb i law a bydd yn cael ei thrafod yfory.'

regulatory reform

Ystyr 'regulatory reform' yw diwygio'r drefn reoleiddio. Mae'r Llywodraeth yn awyddus i ysgafnhau'r baich rheoleiddio ar wahanol agweddau ar ein bywydau, ee rheoleiddio'r diwydiant adeiladu. Mae'r ddeddfwriaeth sylfaenol a'r is-ddeddfwriaeth sy'n gorfodi'r trefnau rheoleiddio gwahanol yn gallu bod yn gymhleth, gyda dros gant o ddeddfau i bob sector ac, yn ôl y Llywodraeth, mae'n gostus iawn i fusnesau i'w gweithredu. Mae Deddf Diwygio Rheoleiddio 2001 yn galluogi Gweinidogion Llundain a'r Senedd i wneud gorchmynion i symleiddio'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â threfnau rheoleiddio gwahanol. Felly 'diwygio rheoleiddio' sy'n briodol fan hyn (byddai 'rheoleiddiol' yn bosibl hefyd) – nid ‘rheoliadol'.

Mae 'rheoliadol' yn ansoddair o 'rheoliad'; hynny yw, 'yn perthyn i reoliad(au)', ee ‘regulatory appraisal’ – 'arfarniad rheoliadol'.

reported / stated

Pan fo testunau sy’n ymwneud ag ystadegau’n cyfeirio at ffigwr fel un sy’n ‘reported’ neu’n ‘stated’ etc, mae’n bwysig cadw’r elfen honno yn y testun Cymraeg. Nid yw’r hyn a adroddwyd, o angenrheidrwydd, yn adlewyrchiad cywir o’r sefyllfa gyflawn go iawn. 

required

yn ofynnol

rhagenwau

Anghywir: pethau yr ydym wedi gweld 
Cywir: pethau yr ydym wedi’u gweld

Anghywir: Roeddwn wedi’m syfrdanu
Cywir: Roeddwn wedi fy syfrdanu

Anghywir: Fel a nodwyd yn y llythyr
Cywir: Fel y nodwyd yn y llythyr

Anghywir: Canllawiau a gytunir yn y cyfarfod
Cywir: Canllawiau y cytunir arnynt yn y cyfarfod

Anghywir: Pwyntiau a gyfeirir atynt wrth drafod
Cywir: Pwyntiau y cyfeirir atynt wrth drafod

Anghywir: Ni wyddom beth yn fwy a ellir ei wneud
Cywir: Ni wyddom beth yn fwy y gellir ei wneud

Anghywir: Unrhyw bwyntiau y bydd gennych
Cywir: Unrhyw bwyntiau a fydd gennych

Anghywir: Yr effaith y bydd hyn yn ei gael 
Cywir: Yr effaith y bydd hyn yn ei chael
(am fod ‘effaith’ yn fenywaidd)

rhain / rheini

Cywasgiad o 'rhai hyn' yw 'rhain', nid ansoddair, felly ni ddylid defnyddio ymadroddion fel ‘y dyddiau rhain’ (‘y dyddiau rhai hyn’) a ‘y bobl rheini’ (‘y bobl rhai hynny’). 
‘Y dyddiau hyn’ a ‘y bobl hynny’ sy’n gywir.

Wrth gyfieithu ‘these/those’ mae angen rhoi ‘y’ o flaen ‘rhai’, ‘rhain’ a ‘rheini’.

Er cysondeb, defnyddiwch ‘y rheini’, nid ‘y rheiny’.

Wrth gyfeirio at ‘those’ gall fod yn well defnyddio ‘y rhai’:
er mwyn arbed amser y rhai sy’n gorfod mynd i’r cyfarfod, nid ‘er mwyn arbed amser y rheini sy’n gorfod mynd i’r cyfarfod’

rheoliadau Ewrop

Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, nid ‘Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop ac o’r Cyngor’

rhifau

Dilynwch y drefn yn y Saesneg o ran geiriau neu ffigurau.

Rhowch y rhifau ‘un’ i ‘deg’ mewn geiriau a defnyddiwch rifolion ar gyfer y rhifau o 11 ymlaen.

Peidiwch â dechrau brawddeg â rhifolyn: 

  • gallwch ei ysgrifennu’n rhan o’r frawddeg
    Ugain o geisiadau a dderbyniwyd, nid ‘20 o geisiadau a dderbyniwyd’ 
  • gallwch ail-lunio’r frawddeg
    Bydd y Gemau Olympaidd yn dod i Lundain yn y flwyddyn 2012, nid ‘2012 yw’r flwyddyn y bydd y Gemau Olympaidd yn dod i Lundain’

Cofiwch wahaniaethu rhwng ‘rhif’ (sy’n benodol ac, yn gyffredinol, yn cyfeirio at rifolion 1, 2, 3 etc) a ‘nifer’ (sy’n amhenodol, ee mae nifer mawr o gyrsiau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg).

Defnyddiwch rifolion gyda miliwn a biliwn, ee 5 miliwn, £1 biliwn. Mae angen gofal wrth drafod miliynau a biliynau er mwyn osgoi amwysedd wrth dreiglo’n feddal. Peidiwch felly â threiglo ‘biliwn’.

rhoi / rhoddi

Mae’n gyffredin ac yn gywir defnyddio ffurfiau rhediadol “rhoddi” a “rhoi” ill dau yn y gorffennol a’r presennol, ee “rhoesoch”/“rhoddoch”, “rhoddir”/“rhoir” neu “rhoddwn”/“rhown”. Dylid anelu at gysondeb o fewn yr un darn, ond gellir defnyddio ffurfiau rhediadol naill ai “rhoddi” neu “rhoi” yn unol â chywair a gofynion y testun.

Fodd bynnag defnyddir y berfenw “rhoi” yn hytrach na “rhoddi” fel arfer. Ffurf gywasgedig ar “rhoddi” yw “rhoi”. Defnyddir “rhoddi” mewn cyd-destunau tra ffurfiol yn unig.

Yng nghronfa dermau TermCymru, defnyddir y berfenw “rhoi” (ee “rhoi’r gorau i smygu”) ond y ffurfiau rhediadol ar “rhoddi” (ee “etholiad y rhoddwyd y gorau iddo”). Gellir addasu’r ffurfiau ar y ferf yn y termau hyn yn unol â chywair a gofynion y testun.

rhwng ... a ...

Defnyddiwch rhwng… a … nid ‘o ... i . . .’ wrth gyfieithu ‘from ... to …’ ee:

'rhwng 5 a 7 niwrnod' am ‘from 5 to 7 days’.

risg rhywbeth / risg o rywbeth

Pa gystrawen sy’n gywir? A ydym ni’n gyndyn o ddefnyddio’r ail i gyfieithu ‘the risk of’ gan ofni gorddefnyddio ‘o’ (gweler hefyd yr eitem ‘of’)? Os yw’r ddwy gystrawen yn gywir, a ydym ni’n newid yr ystyr wrth ychwanegu’r ‘o’?

Ceir dau ddehongliad posibl:

  • y risg sy’n perthyn i rywbeth neu sy’n tarddu o rywbeth
  • y risg y bydd rhywbeth yn digwydd

Er mwyn sicrhau cysondeb ac osgoi amwysedd yng ngwaith y Llywodraeth, penderfynwyd y gellid ystyried ‘risg rhywbeth’ yn ymadrodd genidol (ar yr un patrwm â ‘cwch pysgotwr’ neu ‘het mam’). Mae’n cyfateb felly i’r ystyr cyntaf, ‘y risg sy’n perthyn i rywbeth’. Er enghraifft:

‘Risg newid yn yr hinsawdd yw y bydd ardaloedd isel yn cael eu boddi wrth i lefelau dŵr godi.’

Ni welwyd dim tystiolaeth yn y llyfrau gramadeg ei bod yn anghywir defnyddio ‘o’ mewn cystrawen o’r fath, ac felly defnyddier honno ar gyfer ‘y risg y bydd rhywbeth yn digwydd’.

‘Bydd y risg o newid yn yr hinsawdd yn cynyddu os na fyddwn yn lleihau allyriadau.’

Mae’r gystrawen hon hefyd yn gweithio’n well os oes ansoddair yn disgrifio’r ‘risg’ ee

‘Bydd risg uchel o newid yn yr hinsawdd os na fyddwn yn lleihau allyriadau.’

Sylwer hefyd ar ‘risg from climate change’. Dylid osgoi defnyddio ‘o’ i gyfieithu’r ‘from’ yma gan y gallai hynny greu amwysedd rhwng ‘risk of’ a ‘risk from’. Byddai ‘y risg sy’n deillio o’ neu gyfieithiad tebyg yn addas.

Enghraifft yw ‘risg’ yma wrth gwrs, a gallai’r uchod hefyd fod yn berthnasol i ‘perygl rhywbeth’, ‘posibilrwydd rhywbeth’ ac ati.

sangiad

Elfen sy’n torri ar draws rhediad naturiol brawddeg yw sangiad, a rhaid i’r gair sy’n dilyn y sangiad gael ei dreiglo’n feddal. Un elfen sy’n gallu creu sangiad yw adferf. Y drefn arferol gydag adferfau yw eu rhoi ar ddiwedd y cymal:

'Cynhaliwyd raffl, a threfnwyd gweithgareddau o bob math hefyd.'

Ond os bydd yr adferf yn cael ei symud rhwng y ferf a’r gwrthrych, mae’n sangiad ac felly’n achosi treiglad:

'Cynhaliwyd raffl, a threfnwyd hefyd weithgareddau o bob math.'

Nid ydym yn deddfu bod yr enghraifft isod yn sangiad gan fod anghytundeb yn y llyfrau gramadeg a yw ‘o leiaf’ yn fath o adferf. O ganlyniad, mae’n dderbyniol treiglo neu beidio â threiglo yn yr achos hwn:

'Rhaid aros o leiaf ddau fis cyn gwneud cais' neu
'Rhaid aros o leiaf dau fis cyn gwneud cais'

Serch hynny, mae’n bwysig sicrhau cysondeb oddi mewn i ddogfen neu ar draws cyfres o ddogfennau.

Scottish Executive

Gweithrediaeth yr Alban

Secretary of State for Wales

Ysgrifennydd Gwladol Cymru nid ‘Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru’

Senedd Cymru / Llywodraeth Cymru

Senedd Cymru – Welsh Parliament

Ar 6 Mai 2020 newidiodd enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae gan y sefydliad ddau enw swyddogol, ‘Senedd Cymru’ a ‘Welsh Parliament’. Dyma’r termau cyfreithiol am y corff corfforaethol sy’n cynnwys y 60 Aelod etholedig. Mae teitlau’r Aelodau wedi newid i Aelod o’r Senedd (AS) ac Aelodau o’r Senedd (ASau).

Llywodraeth Cymru – Welsh Government

Prif Weinidog Cymru a Gweinidogion y Cynulliad, ynghyd â’r gweision sifil sy’n gweithio i’r is-adrannau polisi. Mae’n bwysig iawn peidio â chymysgu rhwng y rhain. Ni ddylid cyfieithu ‘Welsh Government’ fel ‘Senedd Cymru', er enghraifft. 'Llywodraeth Cynulliad Cymru' oedd yr enw blaenorol ar Lywodraeth Cymru.

Wrth gyfeirio’n ôl at ‘y llywodraeth’ mewn brawddeg, cofiwch mai enw benywaidd ydyw, ee Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfle cyfartal yn ei pholisïau.

Cynnwys ‘Cymru’ yn y teitl

Polisi Llywodraeth Cymru yw cyfeirio at Senedd Cymru yn gyffredinol fel 'Senedd' yn Gymraeg a Saesneg.

Defnyddir ‘Senedd Cymru’ y tro cyntaf i’r teitl godi mewn dogfennau ffurfiol megis Memoranda Esboniadol, ac ‘y Senedd’ wedi hynny. Dim ond ‘Senedd’ a ddefnyddir mewn dogfennau llai ffurfiol megis llythyrau, areithiau a datganiadau i’r wasg.

Wrth gwrs, gall testun fod yn cyfeirio at Senedd Cymru a/neu at Senedd San Steffan. Os oes modd gwneud hynny heb greu amwysedd, defnyddiwch ‘y Senedd’ ar gyfer y ddeddfwrfa ddatganoledig a ‘Senedd y DU’ neu ‘Senedd San Steffan’ yn llawn. Os nad yw’n hollol amlwg o’r cyd-destun pa ddeddfwrfa sydd o dan sylw, neu os oes nifer fawr o gyfeiriadau at y ddau sefydliad yn yr un ddogfen, gellid ystyried ychwanegu gair neu ddau o esboniad y tro cyntaf i’r teitlau godi, er enghraifft:

The COVID-19 pandemic continues to have an impact on Bill progression through UK Parliament and Senedd Cymru (the Senedd).

Mae pandemig COVID-19 yn parhau i gael effaith ar hynt y Bil trwy’r Senedd a Senedd y DU (cyfeiriad at Senedd Cymru yw pob cyfeiriad at ‘Senedd’ o hyn ymlaen).

Rhaid bod yn effro i hyn wrth gyfeirio at yr Aelodau hefyd, gan mai ASau yw’r acronym a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer Aelodau Seneddol (yn Senedd y DU) yn ogystal â’r acronym swyddogol ar gyfer Aelodau o’r Senedd. Os bydd angen gwahaniaethu, neu os bydd unrhyw bosibilrwydd o gamddeall dylid rhoi’r teitl yn llawn.

Gweler hefyd yr eitem ‘cyfieithu ‘Wales’ mewn teitlau’.

Y peth pwysig yw cadw’r amwysedd posibl mewn cof a sicrhau bod yr ystyr yn gwbl eglur i’r darllenydd.

sgil

Er cysondeb: ‘yn sgil’ nid ‘yn sgîl’.

sgìl

Pan mai 'skill' yw'r ystyr.

Er cysondeb: ‘sgìl’ nid ‘sgil’.

shall (has a duty to)

Pan mai 'has a duty to' yw'r ystyr, dylid ei gyfeithu fel 'rhaid', nid ‘bydd’. .
The Chair shall appoint a deputy
Rhaid i’r Cadeirydd benodi dirprwy, 
nid ‘Bydd y Cadeirydd yn penodi dirprwy’

shall (is, will)

Pan mai 'is'/'will' yw'r ystyr, dylid ei gyfieithu fel 'bydd'.
There shall be a meeting on Wednesday
Bydd cyfarfod ddydd Mercher

should

Mae angen gwahaniaethu rhwng 'should' - 'dylai' a 'must' - 'rhaid'

sign a letter / document

llofnodi, nid ‘arwyddo’

sign up to

All parties have signed up to this policy
cytuno,
 nid ‘llofnodi’

significant

Pan fo testunau sy’n ymwneud ag ystadegau’n nodi bod rhywbeth yn ‘significant’ neu’n ‘statistically significant’, mae i hynny ystyr dechnegol benodol. Felly dylid defnyddio’r term technegol cyfatebol yn Gymraeg, sef ‘arwyddocaol’ neu ‘arwyddocaol yn ystadegol’.

sloganau, strapleins ac ati - canllawiau ynghylch defnyddio’r ail berson

Your Vote, Your Future!

Beth ddywedech chi am hwn – ‘Eich Pleidlais Chi’ ynte ‘Dy Bleidlais Di’? Efallai y bydd y cyntaf yn rhy ffurfiol a swyddogol gan rai, a’r ail yn rhy agos atoch gan eraill.

Mae’n anodd penderfynu sut i gyfarch y gynulleidfa wrth lunio sloganau, strapleins ac ati. Yn anffodus, mae hefyd yn amhosibl rhoi rheol bendant gan fod cymaint yn dibynnu ar y cyd-destun, y gynulleidfa darged a natur y neges. Dyma rai pwyntiau i’w hystyried wrth benderfynu.

Cofiwch ei bod yn hollbwysig sicrhau cysondeb o fewn yr un ymgyrch, neu o bosibl ar draws ymgyrchoedd o fewn yr un ‘teulu’. Felly chwiliwch, neu holwch, yn gyntaf i weld beth sydd wedi cael ei ddefnyddio’n barod.

Unigol neu luosog

  • A yw’r slogan yn cyfarch y gynulleidfa gyfan ar y cyd ynte a yw’n siarad â phob aelod o’r cyhoedd fesul un?

Y gynulleidfa darged

  • Pwy sy’n cael ei annerch?

Mae ambell sefyllfa’n ddigon eglur ee defnyddir ‘ti’ pan fo’r neges yn cael ei thargedu at blant neu bobl ifanc, a ‘chi’ pan fo’n annerch pobl hŷn.

Y pwnc dan sylw

  • A yw’n bwnc amhersonol, swyddogol neu weinyddol ei natur?
  • A yw’n ymdrin â phwnc o natur bersonol, ee iechyd a lles?
  • A yw’n gofyn i ni, fel unigolion, wneud penderfyniad o natur bersonol?

Mae’n debygol mai ‘chi’ fyddai’n fwy priodol yn yr achos cyntaf, ac mae’n debygol mai i’r categori hwn y byddai’r rhan fwyaf o waith y Llywodraeth yn perthyn. Efallai y gellid ystyried ‘ti’ yn yr ail a’r trydydd achos.

Natur y neges

  • Pwy sy’n ein hannerch?
  • Ai rhoi gorchymyn mae’r slogan?
  • A yw’n ein gwahodd neu geisio ein darbwyllo i wneud rhywbeth, neu’n rhoi cyngor?

Mae’n bosibl y byddai’n codi gwrychyn i gael rhywun mewn awdurdod yn ein galw’n ‘ti’, yn enwedig os yw’n rhoi gorchymyn. Ar y llaw arall, gallai’r ‘llais’ sy’n annerch fod yn ceisio siarad â ni ar yr un lefel wrth estyn gwahoddiad neu geisio darbwyllo.

Beth os oes gwrthdaro?

Gall sawl un o’r ystyriaethau hyn fod yn berthnasol ar adegau. Er enghraifft, gall y pwnc fod yn swyddogol, ond natur y neges yn anffurfiol neu’n ddoniol. Dyna pryd mae’n anodd penderfynu wrth gwrs, ac efallai mai dyna pryd y byddai’n briodol holi’r cwsmer pa nodyn y mae’n dymuno’i daro.

Ffurfiau eraill posibl

  • A oes modd osgoi’r broblem, ee trwy ddefnyddio berfenw?
  • Neu beth am ddefnyddio’r person cyntaf lluosog, os mai’r nod yw annog pawb i wneud rhywbeth, ee Achubwn y Morfil?

space, place, point, area

Nid yw bob amser yn hawdd dewis y cyfieithiad mwyaf priodol ar gyfer y grŵp hwn o eiriau. Mae fframwaith y cysyniadau a’r ystyron yn wahanol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Y peth pwysig yw peidio â chymryd bod un gair Cymraeg yn cyfateb i’r un gair Saesneg bob tro. Nid ‘gofod’ yw pob ‘space’. Nid ‘ardal’ yw pob ‘area’.

Rhoddwyd cynnig ar fapio’r gwahanol ystyron yn y tabl isod. Mae opsiynau eraill yn bosibl, wrth gwrs. Er enghraifft, gellid defnyddio ‘ennyd’ neu ‘eiliad’ yn lle ‘adeg’. Y diben yw tynnu sylw at y gwahanol gysyniadau dan sylw, yn hytrach na phennu yn union pa air y dylid ei ddefnyddio ym mhob cyd-destun.

Cymraeg Diffiniad Enghraifft Saesneg cyfatebol
Adeg Ennyd benodol neu dyngedfennol mewn amser

Dyna’r adeg y disgynnodd yr afal ar ei ben

point
Ardal Rhan o dref, o wlad neu o’r byd

Mae cefn gwlad Sir Fynwy yn ardal hardd

area
Arwynebedd Graddfa neu fesuriad arwyneb neu ddarn o dir

Dyma’r fformiwla ar gyfer mesur arwynebedd triongl

area
Cyfnod Ysbaid o amser – yn aml wrth bwysleisio pa mor fyr yw’r ysbaid o gofio’r hyn sydd wedi digwydd Collodd ei ffôn ddwywaith mewn cyfnod o wythnos space
Gofod

Tri dimensiwn uchder, dyfnder a lled y mae popeth yn symud ac yn bodoli oddi mewn iddo

Mae’r gwaith yn cyfleu ymdeimlad o daith trwy ofod ac amser space
Y bydysawd ffisegol y tu hwnt i atmosffer y ddaear Ni all gwyddonwyr gytuno lle mae atmosffer y ddaear yn gorffen a’r gofod yn dechrau space
Yr ardal o amgylch rhywun neu rywbeth Mae'r meddyg sy'n cynnal y prawf yn gwthio nodwydd rhwng dau o'r fertebrâu ac i mewn i'r gofod o amgylch llinyn yr asgwrn cefn space
Lle man penodol, lleoliad daearyddol Mae Aberystwyth yn lle braf place
lle gwag digonol i gynnwys rhywun neu rywbeth Does dim digon o le ar y bws i chi space
(room)

Math o fan â rhyw nodwedd benodol iddo, neu a ddefnyddir i bwrpas penodol

(Gweler hefyd o dan ‘man’)

Mae’r unedau diwydiannol ar gael i’w rhentu â lle swyddfa ynghlwm space
Man naturiol neu briodol i rywbeth fod, man yr arferir cadw rhywbeth Lle i bopeth a phopeth yn ei le place
Maes Pwnc astudiaeth neu ddiddordeb Y gwyddorau yw’r maes y mae’n ymddiddori ynddo yn bennaf area
Man Darn o dir nad oes adeiladau arno Roedd hi’n hoff iawn o fannau agored space

Math o le â rhyw nodwedd benodol iddo, neu a ddefnyddir i bwrpas penodol

(Gweler hefyd o dan ‘lle’)

Man cyfarfod
Man cychwyn

place
Llecyn neu safle penodol mewn ardal, neu ar fap neu arwyneb Dim mynediad heibio i’r man hwn point
Pwynt Dot neu farc bychan Wrth gysylltu’r pwyntiau ar y graff, gwelwn eu bod yn creu llinell syth point
Rhan Darn o rywbeth cyfan, rhaniad, elfen Ym mha ran o’r corff y mae’r boen? area

 

strwythur adrannau Llywodraeth Cymru

  • Adran (Department) neu Gyfarwyddiaeth (Directorate)
    ee Yr Adran Gwybodaeth a Systemau Corfforaethol
  • Is-adran (Division)
    ee Yr Is-adran Rheoli Hysbysrwydd a Gwybodaeth
  • Cangen (Branch) / Uned (Unit) / Gwasanaeth (Service)
    ee Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru

teitlau

cyhoeddiadau Llywodraeth Cymru

Mae modd  dod o hyd i deitlau llawer o gyhoeddiadau Llywodraeth Cymru yn TermCymru neu ar ochr Gymraeg safle’r Llywodraeth ar y wefan www.llyw.cymru.

Ni ddylid cyfieithu teitl os nad yw’r ddogfen ei hun wedi’i chyfieithu i’r Gymraeg.

cyhoeddiadau cyffredinol

Gellir dod o hyd i’r rhain weithiau drwy ddefnyddio peiriannau chwilio megis Yahoo a Google. Gallwch hefyd chwilio gwefan y corff a gyhoeddodd y ddogfen sydd dan sylw – y Cyd-bwyllgor Addysg, Cyfoeth Naturiol Cymru ac ati.

Mae’r wefan www.gov.uk yn ddefnyddiol ar gyfer cyhoeddiadau llywodraethol cyffredinol.

deddfwriaeth Gymreig

Os nad yw teitl darn o ddeddfwriaeth Gymreig yn TermCymru, edrychwch ar y wefan www.legislation.gov.uk i weld a oes fersiwn Gymraeg.

Deddfau Senedd y DU

Er ei bod yn arferol defnyddio teitlau Cymraeg ar gyfer deddfau seneddol, nid yw’n arferol cyfieithu dyfyniadau o ddeddfau i’r Gymraeg gan nad oes statws cyfreithiol i gyfieithiadau o’r fath.

Weithiau, yn achos dyfyniadau byr o ddau neu dri gair, gellir aralleirio’r testun ond peidio â defnyddio dyfynodau.

Mae cyfieithiad Cymraeg swyddogol o Ddeddf yr Iaith Gymraeg ar gael yng Ngeiriadur Newydd y Gyfraith gan Robyn Léwis.

deddfwriaeth

Mae’n hen arfer defnyddio teitlau Cymraeg  ar gyfer deddfau Senedd y DU, er nad yw’r deddfau eu hunain ar gael yn Gymraeg.

Wrth gwrs, os yw’r offeryn statudol ar gael yn Gymraeg, mae’n bwysig iawn defnyddio’r teitl Cymraeg swyddogol. Mae llawer o’r teitlau wedi’u cynnwys yn TermCymru.

Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion

Mae’r teitlau llawn i gyd yn TermCymru. Pan geir rhagair gan un o’r Gweinidogion mewn dogfen, dylid rhoi’r fannod ar ddechrau’r teitl hyd yn oed os nad yw yno yn y Saesneg:

Dafydd Elis-Thomas
Minister for Culture, Tourism and Sport

Dafydd Elis-Thomas
Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon

Nodwch mai’r patrwm y Gweinidog Diwylliant etc a ddefnyddir ar gyfer teitlau Gweinidogion Cymru, nid 'y Gweinidog dros Ddiwylliant etc'.

Os defnyddir ffurf fer ar deitl Gweinidog mewn testun, ee ‘Culture Minister’, gellir gwneud hynny yn y Gymraeg hefyd, ee y Gweinidog Diwylliant.

teitlau swyddi eraill

Cofiwch nad oes angen cyfieithu’r gair ‘to’ mewn teitlau swyddi yn Saesneg ee:

Clerk to the Board of Trustees – Clerc Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Mae atalnod i’w weld yn aml ar ôl teitlau swyddi mewn cofnodion, yn y rhestr o’r bobl a oedd yn bresennol ee:
 
Chief Executive, Arts Council of Wales

Nid oes angen yr atalnod yn y Gymraeg gan fod enw’r sefydliad yn dilyn teitl y swydd yn naturiol:

Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru

Wedi dweud hynny, gall fod angen ei gynnwys o bryd i’w gilydd ee pe bai mwy nag un swydd yn dwyn yr un teitl yn y sefydliad:

Ymddiriedolwr, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Yn yr achos hwn, mae gan yr Ardd Fotaneg nifer o Ymddiriedolwyr felly rhaid cynnwys yr atalnod i ddangos hynny.

teitlau arddangosfeydd, cynadleddau, cyrsiau, perfformiadau ac ati

Mae’n anodd gwybod ar adegau a yw’n briodol cyfieithu teitlau o’r fath. Mae bron yn amhosibl pennu rheol bendant a fyddai’n gweddu i bob achos, felly dyma rai materion i’w hystyried wrth benderfynu a ddylid cyfieithu ai peidio.

A oes teitl Cymraeg swyddogol?

• Os yw’n ddigwyddiad yng Nghymru, dylid dechrau drwy chwilio a oes teitl Cymraeg swyddogol ar gael a defnyddio hwnnw
• Mae’n annhebygol y bydd teitl Cymraeg swyddogol ar ddigwyddiad mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig nac ar ddigwyddiad rhyngwladol, ond gellid chwilio rhag ofn

A yw’r teitl Saesneg yn un swyddogol?

• Os yw’n ddigwyddiad rhyngwladol, gallai’r teitl fod wedi’i gyfieithu i’r Saesneg o ryw iaith arall neu fod ar gael mewn sawl iaith heblaw’r Saesneg. Os felly, mae’n bosibl y byddai’n rhesymegol ei gyfieithu i’r Gymraeg hefyd fel rhyw fath o ‘deitl cwrteisi’

A yw’r teitl eisoes wedi’i gyfieithu?

• Gellid cael gwahanol gyfieithiadau o’r teitl, hyd yn oed os yw’n un gweddol syml, gan ddrysu’r darllenydd ee gellid cyfieithu ‘Translation, Technology and Innovation’ fel ‘Cyfieithu, Technoleg ac Arloesi’ neu ‘Cyfieithu, Technoleg ac Arloesedd’
• Dechreuwch drwy chwilio a oes cyfieithiad Cymraeg o’r teitl wedi cael ei fathu eisoes
• Os oes, ystyriwch a fyddai’n well defnyddio hwnnw – oni bai ei fod yn wallus – er mwyn i’r darllenydd allu dod o hyd yn rhwydd i unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ar gael 
• Os nad oes, ystyriwch a fyddai’n camarwain y darllenydd i feddwl bod y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Gymraeg pe baech yn rhoi’r cyfieithiad yn unig – fe all hyn fod yn arbennig o wir yn achos cyrsiau, sydd fel arfer yn cael eu rhoi mewn un iaith yn unig.
• Gall fod yn syniad da cadw'r teitl yn Saesneg mewn achos o’r fath, ond cyfeirio'n ôl ato wedi hynny gan ddefnyddio teitl Cymraeg â llythrennau bach, ee defnyddio’r teitl ‘Translation, Technology and Innovation’ ond cyfeirio wedyn at 'yr arddangosfa cyfieithu a thechnoleg'

Beth yw natur y ddogfen?

• Gall fod yn briodol cadw’r teitl Saesneg yn unig os yw’n ddogfen academaidd neu os yw'r teitl yn dod mewn rhestr lle nad oes cyd-destun i roi rhagor o wybodaeth i’r darllenydd

Cofiwch mai’r peth pwysicaf yw sicrhau bod modd i’r darllenydd gael yr holl wybodaeth berthnasol ynglŷn â’r digwyddiad, a gallu chwilio am ragor o fanylion, heb orfod troi at y ddogfen Saesneg.

teitlau cwrteisi ar sefydliadau, cwmnïau ac elusennau

Mae’n anodd gwybod ar adegau a yw’n briodol cyfieithu enwau sefydliadau sydd heb deitl Cymraeg swyddogol, gan gynnwys sefydliadau cyhoeddus (yn enwedig rhai y tu allan i Gymru), a chwmnïau preifat ac elusennau.

 

Ar gyfer sefydliadau cyhoeddus sydd heb deitl Cymraeg swyddogol, gan gynnwys rhai nad ydynt yn ymwneud â Chymru, dylid rhoi teitlau cwrteisi Cymraeg fel arfer. Ond mae’n bosibl y bydd yn fwy addas defnyddio’r teitl Saesneg os yw un neu ragor o’r amgylchiadau isod yn berthnasol: 

  • Nid yw’r teitl Saesneg yn diffinio’r sefydliad mewn ffordd ramadegol-gonfensiynol, sy’n rhwydd ei chyfieithu’n ystyrlon
  • Mae’r darn dan sylw’n cynnwys nifer o deitlau eraill nad oes modd rhoi teitl cwrteisi arnynt
  • Mae’r teitl mewn iaith heblaw Saesneg. (Os yw’r teitl yn gyfuniad o elfennau Saesneg ac iaith arall, ystyriwch drosi’r elfennau Saesneg yn unig.)

 

Ar gyfer cwmnïau preifat ac elusennau, ni ddylid rhoi teitlau cwrteisi fel arfer. Ond mae’n bosibl y bydd yn addas rhoi teitl cwrteisi Cymraeg, yn enwedig mewn dogfennau cyffredinol nad oes iddynt rym cyfreithiol, os yw un neu ragor o’r amgylchiadau isod yn berthnasol:

  • Mae’r cwmni neu’r elusen yn cyflawni gweithgareddau o natur gyhoeddus
  • Mae teitl cwrteisi wedi ei fathu’n barod, ac ar TermCymru
  • Mae teitl Cymraeg yn cael ei ddefnyddio gan y sefydliad ei hun (ee ar ei wefan neu ei gyfryngau cymdeithasol)
  • Mae teitl Cymraeg yn cael ei ddefnyddio’n gyffredin gan bobl ar lawr gwlad neu yn y cyfryngau
  • Mae’r teitl Saesneg yn diffinio’r sefydliad mewn ffordd ramadegol-gonfensiynol, sy’n rhwydd ei chyfieithu’n ystyrlon
  • Mae’r teitl Saesneg yn dilyn patrwm tebyg i deitlau y mae’n arferol eu gweld yn Gymraeg
  • Mae gan y sefydliad deitlau mewn nifer o wahanol ieithoedd (gallwch wirio hyn ar IATE, cronfa dermau’r Undeb Ewropeaidd). 

 

Wrth bennu teitlau cwrteisi ar gyfer sefydliadau, cwmnïau ac elusennau:

  • Ymchwiliwch i weld a oes teitl cwrteisi sefydledig yn cael ei ddefnyddio’n barod
  • Os nad yw’r teitl yn ei gwneud yn glir nad yw sefydliad yn ymwneud â Chymru, ystyriwch ychwanegu elfen (ee ‘y DU’, ‘Lloegr’) i wneud hynny’n glir. 

teitlau unedau milwrol - trefnolion a rhifolion

Y drefn arferol wrth enwi unedau milwrol yn Saesneg yw defnyddio trefnolion ee 160th Infantry Brigade, 3rd Battalion The Royal Welsh. Er hynny, fe’u gwelir yn aml wedi’u hysgrifennu fel rhifolion ee 104 Regiment Royal Artillery. Arfer y Gwasanaeth Cyfieithu yn Gymraeg yw defnyddio trefnolion ar gyfer rhifau rhwng un a deg, a rhifolion ar gyfer 11 ac uwch, waeth beth fo arddull y Saesneg. Byddai’r enghreifftiau uchod felly yn cael eu cyfieithu fel a ganlyn:

• Brigâd 160 y Milwyr Traed
• 3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol
• Catrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol

Sylwer bod rhaid newid trefn y geiriau wrth newid o ddefnyddio trefnolion i rifolion.

these

‘hyn’ yn y cywair clasurol a’r cywair ffurfiol, ee y rheoliadau hyn. Mae ‘yma’ yn perthyn i gywair mwy anffurfiol.

this

‘hwn’, ‘hon’ yn y cywair clasurol a’r cywair ffurfiol, ee y papur hwn, yr agenda hon. Mae ‘yma’ yn perthyn i gywair mwy anffurfiol.

those

Wrth sôn am bobl ddienw, gallwch ddefnyddio ‘y rhai’ yn hytrach nag ‘y rheini’ os bydd hynny’n briodol, ee er mwyn diogelu’r rhai a allai golli eu heiddo, nid ‘er mwyn diogelu’r rheini a allai golli eu heiddo’.

tra

Nid oes angen ‘yn’ ar ôl ‘tra’ ond mae angen berf:
tra oeddwn yn teithio dramor, nid ‘tra’n teithio dramor’

tra oedd, nid ‘tra roedd’

transport

transport – trafnidiaeth, nid ‘cludiant’ ac eithrio yng nghyswllt ysgolion, ee cludiant am ddim i'r ysgol / free school transport

traffic – traffig

treiglo

adferf amser

yr amser a dreulir bob wythnos, nid ‘yr amser a dreulir pob wythnos’

biliwn / miliwn

Mae angen gofal wrth drafod biliynau a miliynau er mwyn osgoi amwysedd wrth dreiglo’n feddal. Peidiwch felly â threiglo ‘biliwn’, ee £1 fililwn, £1 biliwn.

‘bod’ neu ‘fod’

Nid oes angen treiglo:
ar ôl y ffurfiau cryno amhersonol:
  credir bod, dywedwyd bod
ar ôl berfenw:

  credu bod, dweud bod
ar ôl ‘er’ (er bod), ‘rhaid’ (rhaid bod), ‘a’ (a bod), ‘yw’ (yw bod), ‘oherwydd’ (oherwydd bod).

Mae angen treiglo:
ar ôl ffurfiau cryno’r ferf: 
   credaf fod, dywedodd fod
ar ôl ‘efallai’, sef ffurf gryno ar y ferf ‘gallu’ – ‘ef allai’.

byth

Yn gyffredinol, nid oes angen treiglo ‘byth’:
Nid yw byth yn methu

cyfres o enwau

Uned Bolisi, ond Uned Polisi Cymdeithasol, hynny yw, ar ôl enw benywaidd, mae angen treiglo’r gair sy'n dilyn, ond os oes dau neu ragor o eiriau'n dilyn, a'r cysylltiad rhwng y geiriau hynny a'i gilydd yn gryfach na'r cysylltiad â'r enw benywaidd, does dim treiglad. 
Felly, yr Adran Ddiwydiant ond yr Adran Diwydiant a Masnach.
Yr Uned Bolisi, ond yr Uned Polisi Cydraddoldeb.

Mae ambell enghraifft, serch hynny, lle mae'r ddau air sy'n dilyn enw benywaidd gymaint ynghlwm wrth ei gilydd nes bod treiglad yn digwydd. Enghraifft o hynny yw 'yr Ŵyl Gerdd Dant' lle caiff 'cerdd dant' ei drin i bob pwrpas fel un gair neu uned.

Sylwer hefyd: ardal lai ffafriolffordd fwy prysur.

enwau sefydliadau a brandiau 

Ni fyddem yn rhoi rheol gadarn, ond er cysondeb yng ngwaith Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru, dyma drefn gyffredinol y byddem yn ei hargymell:

  • Osgoi’r broblem os oes modd, er enghraifft trwy aildrefnu’r frawddeg neu trwy roi enw cyffredin o flaen yr enw priod

Cafodd ei gyflogi gan elusen Tŷ Hafan

  • Treiglo enwau sy’n dechrau â disgrifiad, er enghraifft cyngor, cymdeithas ac ati, hyd yn oed os yw’r gair disgrifiadol hwnnw’n rhan o’r teitl

Anfonodd gais cynllunio i Gyngor Sir Gâr

  • Peidio â threiglo enwau nad ydynt yn dechrau â gair disgrifiadol o’r fath

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ganolfannau ymwelwyr ym mhob cwr o Gymru

  • Byddem yn argymell peidio â threiglo enwau masnachol a brandiau mewn gwaith ysgrifenedig, er ein bod yn tueddu i wneud hynny ar lafar:

Agorodd y Gweinidog gangen newydd o Tesco ar y stryd fawr

fe’i

Nid oes angen treiglo ar ôl ‘fe’i’:
fe’i gwelwyd ef, fe’i torrwyd hi nid ‘fe’i welwyd ef’, ‘fe’i thorrwyd hi’
Ond mae angen ychwanegu ‘h’ o flaen llafariaid:
fe’i hanafwyd ef, fe’i hanafwyd hi nid ‘fe’i anafwyd ef’, ‘fe’i anafwyd hi’

hefyd

a threfnu hefyd weithgareddau o bob math, nid ‘a threfnu hefyd gweithgareddau o bob math’

‘ll’ a ‘rh’

nid oes angen treiglo ‘ll’ a ‘rh’
ar ôl ‘y’: y llewes, y rhodfa
ar ôl ‘un’: un llaw, un rhaw
ar ôl ‘yn’: yn llwyddiannus, yn rhagrithiol
ar ôl ‘pur’: pur llewyrchus, pur rhydlyd

mae angen treiglo ‘ll’ a ‘rh’ 
ar ôl ‘rhy’: rhy laes, rhy rwydd
fel gwrthrych berf gryno: clywais rai yn dweud, gwelais ragor o gathod

neu

Treiglad meddal mewn enwau, berfenwau ac ansoddeiriau:
dyn neu fenyw, rhedeg neu gerdded, gwyn neu ddu
Nid yw ffurfiau cryno berfau’n treiglo ar ôl ‘neu’: 
Galwch heibio neu trefnwch gyfarfod nid ‘... neu drefnwch gyfarfod’

rhaid

Mae modd treiglo neu beidio â threiglo 'rhaid' ar ôl 'oes':
A oes rhaid talu am docyn? neu A oes raid talu am docyn?
Nid oes rhaid codi'n fore
 neu Nid oes raid codi'n fore

Er cysondeb, arfer y Gwasanaeth Cyfieithu yw peidio â threiglo.

y cysylltair ‘a’ (and)

a than, a thros, a thrwy, a chan, a chyda (treiglad llaes), nid ‘a dan, a dros, a drwy, a gan, a gyda’

‘y tair’, ‘y pedair’

Sy’n gywir – does dim treiglad

yn + ansoddair o flaen berfenw

Pan roddir ansoddair o flaen berfenw bydd y berfenw yn treiglo ond ni fydd yr ‘yn’ yn treiglo’r ansoddair:
mae’r pentref yn cyflym ddirywio, nid ‘mae’r pentref yn gyflym ddirywio’
yn gwirioneddol gredu, nid ‘yn wirioneddol gredu’

yn enwedig

Nid oes angen treiglo ar ôl ‘yn enwedig’:
yn enwedig pobl sy’n gweithio mewn swyddfeydd, nid ‘yn enwedig bobl sy’n gweithio mewn swyddfeydd’

unigol a lluosog

Mae’r Gymraeg yn aml yn defnyddio ffurfiau unigol lle mae’r Saesneg yn defnyddio’r lluosog, ac i’r gwrthwyneb. Nid oes angen glynu at y ffurf gyfatebol o anghenraid os yw ffurf wahanol yn fwy naturiol yn y Gymraeg.

Un enghraifft o hyn yw ‘best practice’. Gan amlaf, bydd Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru yn cyfieithu’r ymadrodd hwn fel ‘arferion gorau’, er mai’r unigol a ddefnyddir yn Saesneg. Yn aml, defnyddir yr enw Saesneg unigol ‘practice’ mewn ystyr torfol ond teimlir nad yw’r enw Cymraeg unigol ‘arfer’ yn cyfleu hynny’n llawn.  Yn achos ‘best practice’, os oes gwir angen ffurf unigol am ryw reswm, defnyddier ‘arfer orau’ yn unol â’r drefn o ddefnyddio’r genedl a restrir gyntaf yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru.

United Kingdom (UK)

y Deyrnas Unedig (y DU), nid ‘y Deyrnas Gyfunol’ na ‘Prydain’ nac ‘Ynysoedd Prydain’

Mae’r Deyrnas Unedig yn cynnwys Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae Prydain yn cynnwys Cymru, Lloegr a’r Alban.

unrhyw beth / unrhyw un

unrhyw beth, unrhyw un, nid ‘unrhywbeth’, ‘unrhywun’

Ceisiwch beidio â gorddefnyddio’r ffurfiau uchod wrth gyfieithu any/anyone. Er enghraifft:

defnyddiwch: nid ydym wedi gallu gwneud dim eto
yn hytrach na: 'nid ydym wedi gallu gwneud unrhyw beth eto'

defnyddiwch: nid oes gan yr un siaradwr
yn hytrach na: 'nid oes gan unrhyw siaradwr'

defnyddiwch: bydd gan y sawl a fydd yn cyflwyno adroddiad
yn hytrach na: 'bydd gan unrhyw un a fydd yn cyflwyno adroddiad'

defnyddiwch: nid oedd neb wedi gwneud cwyn
yn hytrach na: 'nid oedd unrhyw un wedi gwneud cwyn'

when

pan fydd, nid 'pan bydd'

where

'pan' neu 'os’ pan fo’n ‘amgylchiadol’ (circumstantial) ei ystyr:
‘Where a pupil is suspended, the parent must be informed’
'Pan fo disgybl yn cael ei wahardd, rhaid hysbysu'r rhiant'

‘lle’ pan fo’r testun yn cyfeirio at leoliad penodol (locational):
‘Premises where education is provided’
'Mangre lle y darperir addysg'

whether

‘a’, nid ‘os’ na ‘p’un:
'gofynnodd iddo a oedd am fynd i’r cyfarfod', nid ‘gofynnodd iddo os oedd am fynd i’r cyfarfod’ na ‘gofynnodd iddo p’un ai a oedd am fynd i’r cyfarfod’.

Rhaid bod yn ofalus gan y defnyddir 'if' yn aml yn Saesneg er mai 'whether' yw'r ystyr ee 'she asked if he wanted to attend the meeting' yn hytrach na 'she asked whether he wanted to attend the meeting'.

whether ... or not

a ... ai peidio, nid ‘os ... neu beidio’ na ‘p’un a/ai ... neu beidio’

y / yr / 'r

Mae angen rhoi ‘y/yr’ o flaen teitl neu swydd: 
yr Athro Dafydd Dafis
Jane Davidson, y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
yr Arglwydd Hutton
 (ond ddim o flaen ‘Arglwydd + enw lle’, ee 'Arglwydd 
     Tonypandy')

Mae angen rhoi’r fannod o flaen enwau ieithoedd: 
y Gymraeg, y Saesneg, yr Eidaleg

Gyda llythyren fach yr ysgrifennir y fannod mewn teitlau neu enwau lleoedd yng nghanol brawddeg:
Gwelais ef yn y Bala, nid ‘Gwelais ef yn Y Bala’, 
Anfonwch ef at y Llywydd, nid ‘Anfonwch ef at Y Llywydd’

Mae angen priflythyren mewn cyfeiriad: 
25 Stryd y Bont, Y Barri

Geiriau â'r ddeusain 'wy':
Er cysondeb, arfer y Gwasanaeth Cyfieithu yw glynu at ddefnyddio 'yr' o flaen geiriau sy'n cychwyn â'r ddeusain 'wy', fel 'yr wybodaeth, 'yr Wyddeleg' ac 'yr wynebau'. Am ragor o wybodaeth, gweler Orgraff yr Iaith Gymraeg (tt. 45-7) a Gramadeg y Gymraeg Peter Wynn Thomas, tt. 787-8.

Cwestiynau adferfol: ‘sut’, ‘pryd’, beth’ etc (gweler hefyd yr erthygl 'cyweiriau')

  • Mae angen cynnwys y geiryn ‘y’ (y rhagenw perthynol traws) yn y cywair ffurfiol: 
     Pryd y bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad? nid ‘pryd bydd/pryd fydd’
    Mewn cyweiriau eraill (heblaw’r cywair llafar), os penderfynir ei hepgor, rhaid cynnal y ffurf gysefin: 
     Sut cafodd y cynllun hwn ei gymeradwyo? nid ‘sut gafodd’
  • Mewn brawddegau perthynol mae angen cynnwys ‘y/yr’ o flaen ‘mae’: 
     y siop y mae’r pentrefwyr wedi ei hagor

Nid oes angen ‘y/yr’ (y geiryn rhagferfol) o flaen ‘mae’ na ‘maent’ ond lle bo angen defnyddio’r cywair clasurol.

Y fannod ar ôl geiriau sy’n gorffen mewn llafariaid

Y ffurf ar y fannod a ddefnyddir ar ôl gair sy’n gorffen mewn llafariad yw ‘-‘r’. Nid rhywbeth sy’n gyfyngedig i’r cywair anffurfiol neu lafar mo hyn, dyma’r drefn arferol. Mae’r rheol hon yr un mor berthnasol i’r fannod mewn enwau lleoedd ag i bob bannod arall.

Mae modd defnyddio ‘y’ neu ‘yr’ pan fo pwyslais, ystyr neu rythm y frawddeg yn golygu bod hynny’n llifo’n rhwyddach, ond eithriad yw hynny, ee

Dewch yma, y twyllwyr.

y Model Cymdeithasol o Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru’n arddel y Model Cymdeithasol o Anabledd. Mae’r ddealltwriaeth hon o anabledd yn golygu gwahaniaethu rhwng amhariadau ac anabledd.

  • Mae amhariadau yn nodweddion ar bobl, a all effeithio ar eu hymddangosiad neu ar sut y mae eu corff neu eu meddwl yn gweithio, neu sut y maent yn cyfathrebu. Gallant achosi amrywiaeth o anawsterau gan gynnwys poen a blinder. Gallant fod yn amhariadau gydol oes neu gallant ddeillio o salwch neu anaf
  • Mae anabledd yn cyfeirio at anfanteision y mae pobl ag amhariadau yn eu profi yn sgil ffactorau fel yr amgylchedd, polisi neu arferion, neu yn sgil methiant i ddarparu addasiadau. Er enghraifft, os oes gan rywun amhariad ar ei glyw, efallai y caiff ei anablu os na ddarperir system lŵp.

O dan y Model Cymdeithasol o Anabledd, ein dealltwriaeth yw mai cymdeithas, yr amgylchedd, polisi, arferion, neu fethiant i ddarparu addasiadau, sy’n anablu pobl anabl.

Mae hyn yn wahanol i’r Model Meddygol o Anabledd, sy’n deall mai’r amhariad ei hun sy’n anablu’r person anabl.

Rydym wedi addasu rhai o’r geiriau a’r termau a ddefnyddiwn er mwyn cyd-fynd â’r Model Cymdeithasol o Anabledd, ee:

  • Rydym yn diffinio’r gair ‘anabl’, mewn termau fel ‘pobl anabl’, i olygu ‘anabledig’ neu ‘sy’n cael eu hanablu’ – hynny yw, ein diffiniad a’n dealltwriaeth yw bod person anabl yn cael ei anablu gan gymdeithas, yr amgylchedd, polisi neu arferion, neu yn sgil methiant i ddarparu addasiadau
  • Rydym yn defnyddio ‘anablu’ (sy’n cyfateb i ‘to disable’ yn Saesneg) i olygu peri bod person yn anabl
  • Rydym yn nodi y gellir defnyddio termau ac ymadroddion eraill am ‘bobl anabl’ er mwyn ei gwneud yn glir fod pobl yn cael eu hanablu gan gymdeithas, yr amgylchedd, polisi neu arferion. Enghreifftiau o’r termau a’r ymadroddion hyn yw ‘pobl anabledig’ neu ‘pobl sy’n cael eu hanablu’
  • Defnyddiwn ‘anabledd’ wrth gyfeirio at brofiadau pobl anabl neu at y prosesau sy’n eu hanablu, ond nid yw ‘anabledd’ yn rhywbeth y mae pobl yn meddu arno
  • Nid ydym yn defnyddio’r gair ‘nam’ i gyfieithu ‘impairment’ bellach – defnyddiwn ‘amhariad’ oherwydd bod cynodiadau mwy negyddol i ‘nam’. Mae ‘amhariad’ yn cyfateb i ‘impairment’ fel y diffinnir ‘impairment’ o dan y Model Cymdeithasol o Anabledd.

Mae’r Model Cymdeithasol hefyd yn golygu bod angen ailystyried rhai ymadroddion a arferai fod yn gyffredin. Mae crynodeb o rai o’r rhain isod:

I’w defnyddio

Ddim i’w defnyddio

pobl anabl (disabled people)

staff anabl (disabled staff)

cydweithwyr anabl (disabled colleagues)

plant anabl (disabled children)

Neu, os oes angen yn y cyd-destun, ‘pobl anabledig’, ‘pobl sy’n cael eu hanablu’ etc

yr anabl (the disabled)

anabliaid

pobl ag anableddau (people with disabilities)

cyfleusterau hygyrch (accessible facilities)

toiledau hygyrch (accessible toilets)

cyfleusterau anabl (disabled facilities)

toiledau anabl (disabled toilets)

ananabl (non-disabled)

heb amhariad (does not have an impairment)

nad yw’n anabl (non-disabled)

heb ei anablu (non-disabled)

Neu, os oes angen yn y cyd-destun, ‘ananabledig’, ‘nad yw’n cael ei anablu’ etc

heb nam

abl (able)

abl o gorff (able-bodied)

ag amhariad (has an impairment)

yn meddu ar amhariad (has an impairment)

ag amhariad arno (has an impairment)

dioddef o amhariad (suffers from an impairment)

dioddef o anabledd (suffers from a disability)

â nam

meddu ar nam

a chanddo nam

amhariad golwg (sight impairment)

amhariad symudedd (mobility impairment)

anabledd golwg (sight disability)

anabledd symudedd (mobility disability)

nam golwg

nam symudedd

amhariad anweledig (invisible impairment)

anabledd cudd (hidden disability)

anghenion dysgu ychwanegol (additional learning needs)

gofynion hygyrchedd (accessibility requirements)

anghenion arbennig (special needs)

 

bregus (vulnerable)

 

Anabledd dysgu

Nid yw’r defnydd o “anabledd” yn y term cyffredin “anabledd dysgu” yn gyson â’r Model Cymdeithasol, gan ei fod yn cyfeirio at amhariad yn hytrach nag at rwystrau sy’n anablu pobl. Fodd bynnag mae Llywodraeth Cymru’n derbyn mai dyma’r eirfa sy’n arferol ym maes anabledd dysgu, ac a ffefrir gan sefydliadau cynrychioladol yn y maes ar hyn o bryd, felly fe’i defnyddir gan Lywodraeth Cymru. Adolygir hyn yn gyson.

yr wyddor

At ei gilydd, er mwyn osgoi dryswch, gwell osgoi defnyddio’r wyddor mewn rhestrau lle bo modd. Defnyddiwch yn hytrach bwyntiau bwled neu gyfrwng gweledol arall, rhifau neu rifau Rhufeinig.
 
Wrth gyfieithu rhestrau sy’n defnyddio llythrennau’r wyddor, defnyddier yr un llythrennau yn y cyfieithiad. Felly: 
a, b, c, d, e mewn dogfen Saesneg = a, b, c, d, e yn y cyfieithiad.
a, b, c, ch, d  mewn dogfen Gymraeg = a, b, c, ch, d yn y cyfieithiad.

Gall fod cyfiawnhad dros beidio â dilyn y rheol hon mewn ambell achos, ee defnyddiwyd yr wyddor Gymraeg wrth gyfieithu pecyn addysg ar gyfer plant ysgolion cynradd.

Wrth ddrafftio dogfen yn Gymraeg, defnyddiwch yr wyddor Gymraeg.