Neidio i'r prif gynnwy

Helpu cyflogwyr i ddeall goblygiadau statws brechu COVID-19 staff a chwsmeriaid.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Bwriedir i'r canllawiau hyn helpu cyflogwyr yng Nghymru i ddelio â goblygiadau brechiadau COVID-19 i'w gweithlu. Nid ydynt yn gyfreithiol gyfrwymol. Dylai cyflogwyr geisio eu cyngor cyfreithiol eu hunain lle y bo angen. 

Trosolwg

Rydym yn awr wedi cynnig brechiad COVID-19 cyntaf i bob oedolyn cymwys yng Nghymru. Mae hyn yn gyflawniad aruthrol. Mae cyflogwyr wedi chwarae rhan bwysig i annog staff i gael eu brechu, gan weithio gydag undebau llafur a chynrychiolwyr y gweithle i wireddu hyn. Mae cyflogwyr wedi helpu drwy hyrwyddo brechiadau a chefnogi staff i gael amser o’r gwaith â thâl i fynd i apwyntiadau brechu.

Er gwaethaf llwyddiant y rhaglen frechu, mae'n dal yn bwysig bod gweithleoedd yn parhau i fod yn ddiogel rhag COVID-19. Mae hyn yn golygu parhau i gydymffurfio â mesurau megis rheolau cadw pellter cymdeithasol, gweithdrefnau glanhau trylwyr a systemau awyru da. Dylai cyflogwyr gymryd camau rhesymol i leihau'r risg o drosglwyddo'r haint a chynnal asesiadau risg yn ôl yr angen. 

Dylai cyflogwyr fod yn ymwybodol nad yw'n orfodol i bobl gael eu brechu. Mae'n bwysig iawn bod y cyhoedd yn ymddiried yn y rhaglen frechu ac mae Llywodraeth Cymru o’r farn na ddylai pobl deimlo eu bod yn cael eu gorfodi i gael eu brechu. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fyddai'n briodol trin staff nad ydynt wedi cael eu brechu yn wahanol i staff sydd wedi cael eu brechu. Bydd angen i gyflogwyr gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth bresennol er mwyn osgoi gwahaniaethu yn erbyn staff nad ydynt wedi cael eu brechu.

Mae hyn yn arbennig o bwysig oherwydd nad yw’n bosibl i bawb gael y brechlyn, neu maent yn dewis peidio â chael eu brechu – er enghraifft, nid yw plant wedi cael eu brechu ar hyn o bryd, nid yw rhai unigolion â chyflyrau meddygol penodol wedi cael eu brechu, gall menywod beichiog ddewis peidio â chael eu brechu a gall grwpiau eraill hefyd fod yn llai tebygol o gael eu brechu.

Mae Llywodraeth Cymru yn anfon datganiadau statws brechu at unigolion sydd wedi cael dau ddos o'r brechlyn ac y mae angen iddynt ddarparu tystiolaeth i ddangos eu bod wedi'u brechu er mwyn gwneud teithiau rhyngwladol hanfodol. Ni fwriedir i'r datganiadau hyn gael eu defnyddio at ddibenion cyflogaeth, mewn perthynas â cheisiadau am swydd neu wrth asesu risg yn y gweithle, er enghraifft. I gael rhagor o wybodaeth gweler - Manteisiwch ar Bàs COVID y GIG i ddangos eich statws brechu er mwyn teithio

Crynodeb o'r pwyntiau allweddol

  • Yng Nghymru, nid yw'n ofynnol i gyflogwyr ofyn i staff, cwsmeriaid na defnyddwyr gwasanaethau gael eu brechu na chadarnhau eu statws brechu cyn gadael iddynt ddod ar y safle neu ddarparu gwasanaeth yn y cartref neu mewn lleoliad arall. [footnote 1] 
  • Mae angen i gyflogwyr barhau i gynnal mesurau iechyd a diogelwch presennol COVID-19 yn y gweithle. 
  • Ni ddylai cyflogwyr bwyso ar staff i gael eu brechu, ond gallant helpu drwy ddarparu gwybodaeth a chynnig amser i ffwrdd o'r gwaith â thâl er mwyn i staff fynd i apwyntiadau brechu ac absenoldebau salwch oherwydd sgil-effeithiau’r brechiad. Mae o fudd i gyflogwyr gefnogi iechyd a llesiant eu gweithlu. 
  • Mae angen i gyflogwyr sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu'n anghyfreithlon yn erbyn staff nad ydynt wedi cael eu brechu – gweler isod.

Cwmpas

Dim ond i gyflogwyr yng Nghymru y mae'r canllawiau hyn yn gymwys. Caiff y cyngor hwn ei adolygu'n rheolaidd wrth i'r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd newid. 
 

Y rhaglen frechu 

Mae'n gwbl hanfodol sicrhau bod niferoedd mawr yn cael eu brechu. Gwyddom fod y prif amrywiolyn COVID-19 sydd bellach yn lledaenu yng Nghymru yn haws i'w drosglwyddo na'r amrywiolyn gwreiddiol. Mae hyn yn golygu bod angen inni sicrhau lefelau eithriadol o uchel o imiwnedd er mwyn parhau i lacio'r cyfyngiadau ar fywydau pobl a cheisio atal neu leihau tonnau eraill o'r haint.

Mae gennym strategaeth brechu teg COVID-19 i Gymru er mwyn gwneud yn siŵr na chaiff neb ei adael ar ôl a sicrhau tegwch i bawb yng Nghymru o ran cael y brechiad. Gwyddom fod angen darparu cymorth ychwanegol er mwyn gwneud yn siŵr y caiff rhai grwpiau gymorth pellach i gael eu brechu. Rydym yn helpu'r GIG yng Nghymru i wneud hyn drwy ddarpariaeth a negeseuon wedi'u teilwra.

Sicrhau bod Gweithleoedd yn Ddiogel rhag COVID-19

Ers dechrau'r pandemig mae cyflogwyr wedi bod yn cymryd camau hollbwysig i sicrhau bod gweithleoedd yn ddiogel rhag COVID-19 i gyflogeion a defnyddwyr gwasanaethau. Nid yw'r rhaglen frechu yn golygu nad oes angen cymryd y camau hyn mwyach. Rydym yn deall y gall rhai busnesau deimlo pwysau gan gwsmeriaid i brofi eu bod yn ddiogel a dylai'r mesurau hyn helpu i ddangos hynny. Ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am hyn - Canllawiau ar Ddiogelu Cymru yn y gwaith.

Deall y gyfraith gyfredol

Mae angen i gyflogwyr ddeall eu dyletswyddau presennol o dan y ddeddfwriaeth gyfredol a sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu'n anghyfreithlion yn erbyn staff na defnyddwyr gwasanaethau. Mae'n bosibl bod llawer o'r bobl nad ydynt wedi cael eu brechu yn perthyn i un o'r categorïau o “nodweddion gwarchodedig” o dan y ddeddfwriaeth cydraddoldeb bresennol.

Ni all rhai pobl gael y brechlyn am resymau meddygol, er enghraifft pobl y gall fod ganddynt alergedd i'r brechlyn. Mae menywod beichiog yn cael cyngor ar y manteision a’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r brechlyn cyn cael eu brechu. Mae rhai pobl yn dewis peidio â chael y brechlyn oherwydd eu credoau personol. 

Deddfwriaeth cydraddoldeb

Yn y DU, mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diogelu pobl sydd â “nodweddion gwarchodedig” rhag gwahaniaethu. Nid yw statws brechu yn nodwedd warchodedig o dan y ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, gallai materion gwahaniaethu godi o hyd os cyflwynir gofyniad i bobl feddu ar dystysgrifau brechu i wneud rhai pethau. 

Mae grwpiau penodol o bobl na fyddant yn gallu cael y brechlyn neu a fydd yn dewis peidio â'i gael. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'n debygol y bydd gan y grwpiau hyn o bobl y nodweddion gwarchodedig canlynol felly gallai fod cysylltiad posibl rhwng nodweddion gwarchodedig a’r rheswm pam nad yw unigolyn wedi cael ei frechu:

  1. oedran (fel arfer, pobl iau fydd y rhai olaf i gael y brechlyn)
  2. anabledd (cynghorir pobl â chyflyrau meddygol penodol i beidio â gael y brechlyn)
  3. beichiogrwydd/mamolaeth (mae menywod beichiog yn cael eu hysbysu am y manteision a’r risgiau cyn cael eu brechu)
  4. rhyw (yn gysylltiedig â beichiogrwydd uchod)
  5. hil
  6. crefydd/cred

Mathau o ymddygiad gwahaniaethol 

Mae gwahaniaethu uniongyrchol (adran 13 o'r Ddeddf Cydraddoldeb) yn digwydd pan fydd person yn gwahaniaethu yn erbyn person arall os bydd yn trin y person hwnnw yn llai ffafriol nag y byddai'n trin eraill oherwydd nodwedd warchodedig. Er enghraifft, petai cyflogwr yn atal cyflogai rhag gweithio am nad yw wedi cael brechlyn, gallai hyn fod yn gyfystyr â gwahaniaethu uniongyrchol os oes gan y cyflogai nodwedd warchodedig.

Mae gwahaniaethu anuniongyrchol (adran 19 o'r Ddeddf Cydraddoldeb) yn digwydd pan fydd person yn cymhwyso at berson arall 'ddarpariaeth, maen prawf neu arfer' sy'n wahaniaethol mewn perthynas â nodwedd warchodedig berthnasol  [footnote 2] sydd gan y person arall hwnnw. Gallai gofyniad i gael eich brechu er mwyn gweithio wahaniaethu'n anuniongyrchol yn erbyn personau sydd ag un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig uchod oherwydd, er na fwriedir i bolisi o'r fath drin unrhyw un yn llai ffafriol, gallai, yn ymarferol, roi'r unigolion hynny o dan anfantais benodol o gymharu ag eraill nad ydynt yn rhannu'r nodwedd warchodedig honno. Er enghraifft, yng nghyd-destun cyflogaeth, ar hyn o bryd efallai na fydd cyflogai ifanc wedi cael y dos llawn o’r brechlyn ac, felly, bydd gofyniad gan gyflogwr i gyflogai gael ei frechu er mwyn gweithio yn rhoi'r cyflogai hwn o dan anfantais benodol o gymharu â chyflogeion hŷn.  

Fodd bynnag, mae'r gyfraith yn darparu ar gyfer cyfiawnhau darpariaeth, maen prawf neu arfer a allai fod yn wahaniaethol os gall y cyflogwr ddangos ei fod yn ffordd gymesur o gyflawni nod dilys. Yn achos gofyniad i gael eich brechu er mwyn gweithio, gallai cyflogwr ddadlau mai ei nod dilys yw'r awydd i ddiogelu iechyd staff, cwsmeriaid, trydydd partïon ac ati. Wedyn, byddai'n rhaid i'r cyflogwr asesu a yw brechu gorfodol yn ffordd gymesur o gyflawni'r nod hwnnw. Byddai angen i'r asesiad hwnnw ystyried pa fesurau a oedd ar waith ar y pryd (megis addasiadau i arferion gwaith er mwyn diogelu unigolion rhag COVID-19) ac a oedd y mesurau hynny yn ddigonol i gyflawni'r nod dilys hwnnw mewn ffordd lai gwahaniaethol.

Mewn achosion lle mae’n bosibl defnyddio ffyrdd eraill o sicrhau bod unigolion yn cael eu diogelu rhag COVID-19 yn y gweithle, er enghraifft drwy gadw pellter cymdeithasol, glanhau a defnyddio cyfarpar diogelu personol, mae’n llai tebygol o fod yn rhesymol ei gwneud yn orfodol i staff gael eu brechu. Dylai cyflogwyr sy'n ystyried brechu gorfodol geisio cyngor cyfreithiol annibynnol. 

Dylid nodi bod risg hefyd y caiff gweithluoedd dwy haen eu creu rhwng y rhai nad ydynt wedi cael eu brechu a'r rhai sydd wedi cael eu brechu. Mae risg y gallai unigolion sydd wedi cael eu brechu aflonyddu ar unigolion â nodweddion gwarchodedig nad ydynt wedi cael eu brechu, os bydd gwaith yn cael ei rannu'n anghyfartal o ganlyniad i hynny, er enghraifft. 

Mae'n bwysig bod y brechlyn yn wirfoddol am fod hyn yn helpu i feithrin hyder y cyhoedd yn y rhaglen frechu. Dylai cyflogwyr wneud pob ymdrech i annog eu staff i gael eu brechu drwy ffyrdd adeiladol. Mae cynnig absenoldebau â thâl ar gyfer mynd i apwyntiadau brechu, yn ogystal ag unrhyw absenoldeb salwch cysylltiedig oherwydd sgil-effeithiau’r brechlyn, yn un ffordd bwysig o helpu. Dylent wrando ar bryderon eu staff a cheisio ymdrin â'r materion hynny. Gallent ddarparu tystiolaeth o ddiogelwch ac effeithiolrwydd y brechiadau. Dylent weithio gydag Undebau Llafur neu gynrychiolwyr gweithleoedd i fynd i'r afael â'r materion hyn.  

Dylai cyflogwyr fod yn asesu'n ofalus a oes unrhyw faterion gwahaniaethu posibl yn gysylltiedig ag unrhyw gamau y maent yn bwriadu eu cymryd mewn perthynas â statws brechu eu gweithlu ac, os bydd angen, dylent geisio cyngor cyfreithiol annibynnol.

Iechyd a diogelwch 

Mae gan bob cyflogwr ddyletswydd i gymryd camau rhesymol i ofalu am iechyd a diogelwch eu gweithlu sy'n ymhlyg yn y contract cyflogaeth. Mae dyletswydd statudol hefyd o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974. Mae'r holl fesurau diogelu rhag COVID-19 y mae cyflogwyr wedi bod yn eu rhoi ar waith ers dechrau'r pandemig wedi helpu i greu gweithle diogel. Ni ddylid diystyru'r mesurau hyn yn awr oherwydd bod y rhaglen frechu bellach yn mynd rhagddi. 

Un o'r ffyrdd y gallai cyflogwyr gydymffurfio ymhellach â'u dyletswydd fyddai hysbysu staff am fanteision y brechlyn a rhoi amser rhesymol i ffwrdd â thâl i staff fynd i apwyntiadau brechu.

Telerau ac amodau cyflogaeth 

Gall fod nifer bach o amgylcheddau gwaith lle mae cyflogwyr yn pryderu, oni fydd pob aelod o staff yn cael ei frechu, ei bod yn bosibl na fyddant yn gallu sicrhau bod cydweithwyr na defnyddwyr gwasanaethau yn ddiogel. Hyd yn oed mewn achosion o'r fath, mae'n well bod cyflogwyr yn ceisio darbwyllo cyflogeion o fanteision cael eu brechu drwy drafodaeth agored a/neu'n rhoi mesurau diogelwch eraill ar waith yn hytrach na gwneud brechu yn orfodol. 

Gallai cyflwyno polisi bod yn rhaid i gyflogeion gael eu brechu olygu gwneud newidiadau i delerau ac amodau cyflogaeth. Er mwyn gwneud newidiadau o'r fath bydd angen ymgynghori ag Undebau Llafur a/neu'r gweithlu er mwyn dod i gytundeb. Wrth ymgynghori, mae materion sy'n ymwneud â'r effaith wahaniaethol bosibl yn debygol o gael eu codi – gweler uchod. 

Mae'n bwysig sicrhau na chaiff staff nad ydynt wedi cael eu brechu eu trin yn llai ffafriol na staff sydd wedi cael eu brechu. Os na fydd rhai aelodau o staff wedi cael eu brechu ac os na fydd yn bosibl rhoi mesurau diogelwch amgen digonol ar waith, dylai cyflogwyr ystyried addasiadau rhesymol ar gyfer yr aelodau hynny o staff. Er enghraifft, gallai hyn olygu cynnig profion rheolaidd i aelodau o staff nad ydynt wedi cael eu brechu neu gynnig rôl amgen ar yr un radd neu lefel lle mae llai o risg o drosglwyddo'r feirws. Dylid adolygu unrhyw fesurau o'r fath yn rheolaidd. Wrth i fwy o'r boblogaeth gael ei brechu, rydym yn gobeithio y bydd cyffredinrwydd y feirws yn lleihau ac, felly, dylai'r risg o drosglwyddo'r feirws hefyd leihau yn yr amgylchedd gwaith. 

Ar 14 Ebrill, lansiodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar ddiwygio'r rheoliadau yn Lloegr er mwyn gwneud brechu rhag COVID-19 yn orfodol i staff gofal cymdeithasol sy'n gweithio mewn cartrefi gofal i'r henoed yn Lloegr.

Ar 16 Mehefin, cadarnhaodd Llywodraeth y DU y bydd yn orfodol i staff cartrefi gofal yn Lloegr gael eu brechu. Nid yw Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar hyn mewn perthynas â Chymru. Mae'r Grŵp Gwaith Gofal Cymdeithasol o fewn SAGE wedi nodi y byddai angen cyfradd frechu o 80% ymhlith staff a 90% ymhlith preswylwyr ym mhob cartref gofal unigol er mwyn rhoi lefel ofynnol o ddiogelwch rhag achosion o COVID-19.Mae cyfraddau brechu mewn cartrefi gofal yn uwch na’r lefelau hynny yng Nghymru ar hyn o bryd. Rydym yn parhau i annog gweithwyr mewn cartrefi gofal i gael eu brechu a byddwn yn adolygu'r sefyllfa hon yn rheolaidd.

A allaf holi fy staff neu ymgeiswyr am swyddi am eu statws brechu?

O dan adran 60 o'r Ddeddf Cydraddoldeb, y sefyllfa gyffredinol yw ei bod yn anghyfreithlon i gyflogwr ofyn cwestiynau am iechyd ymgeisydd yn ystod proses ymgeisio am swydd. Felly, gallai gofyn am dystiolaeth bod unigolion wedi cael eu brechu fod yn anghyfreithlon ar hyn o bryd. Mae nifer bach o eithriadau, er enghraifft os bydd cwestiwn o'r fath yn ymwneud â gallu ymgeisydd i gyflawni swyddogaeth sy'n hanfodol i'r swydd, ond dylai cyflogwyr geisio cyngor cyfreithiol annibynnol ar eu hamgylchiadau penodol er mwyn osgoi'r risg o her gyfreithiol. 

Yn achos cyflogeion presennol, os bydd cyflogwr yn holi cyflogai am ei statws brechu, byddai'r wybodaeth hon yn cael ei hystyried yn ddata categori arbennig o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, sy'n gymwys i brosesu data personol domestig, a Deddf Diogelu Data 2018. Mae hyn yn golygu mai dim ond ar ôl i asesiad o'r effaith ar ddiogelu data gael ei gynnal y byddai'r wybodaeth yn cael ei phrosesu gan y cyflogwr. Byddai angen i asesiad o'r fath ystyried pam mae angen yr wybodaeth am statws brechu cyflogai. Mae cynnal asesiad risg sy'n rhoi mesurau ar waith er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch y gweithle ac er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel rhag COVID-19 yn golygu ei bod yn debygol y byddai gan y rhan fwyaf o gyflogwyr siŵr o fod reswm dilys dros gasglu data o'r fath yn y tymor byr. Fodd bynnag, dylid cyfyngu ar yr wybodaeth a gesglir ac ni ddylid ei chadw am fwy o amser nag sydd raid. Dylid hefyd roi gwybod i'r cyflogai pam mae'r cyflogwr yn holi am ei statws brechu, sut y bydd yn storio'r wybodaeth honno ac am ba hyd. Dylid adolygu'r sefyllfa yn rheolaidd hefyd.

Troednodiadau

1. Nid yw rheolau ar gyfer teithiau rhyngwladol wedi cael eu cynnwys yn y canllawiau hyn. Dylai unigolion ddarllen cyngor y Swyddfa Dramor a Chymanwlad cyn teithio. 

2. Nid yw beichiogrwydd na mamolaeth yn nodwedd warchodedig berthnasol at ddibenion adran 19 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.