Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i alluogi awdurdodau lleol i gyflwyno ardoll ymwelwyr yn eu hardal, ac mae hyn yn ymrwymiad sy’n cael blaenoriaeth yn y Rhaglen Lywodraethu. Bydd yr ardoll yn gyfraniad teg gan ymwelwyr ac yn cael ei chodi ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr. Bydd yn codi arian ychwanegol er mwyn i awdurdodau lleol ail-fuddsoddi yn y gwasanaethau cyhoeddus a’r seilwaith sy’n sicrhau bod twristiaeth yn llwyddiant. Bydd gan bob awdurdod lleol y pŵer i benderfynu cyflwyno ardoll ymwelwyr yn ei ardal, sy’n golygu y bydd hon yn ardoll leol newydd wedi’i dylunio mewn ffordd sy’n gweithio i drigolion, busnesau ac ymwelwyr. Gellir dod o hyd i fanylion am y Bil yma.

O ran ei dyluniad, mae'r ardoll wedi'i chadw'n syml ond yn deg er mwyn helpu i leihau unrhyw effeithiau negyddol posibl; rydym yn rhagweld y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar ardaloedd lleol sy'n dewis defnyddio ardoll drwy gynhyrchu refeniw i gefnogi ardaloedd lleol, a thrwy hynny wella enw da'r gyrchfan a chefnogi'r economi ymwelwyr.

Bydd cofrestr statudol o ddarparwyr llety ymwelwyr, sy’n cynnwys pob llety ymwelwyr diffiniedig yng Nghymru, yn cefnogi cyflwyno ardoll ymwelwyr ac yn galluogi gwell dealltwriaeth o’r sector er mwyn helpu i lywio ymyriadau polisi yn y dyfodol.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion ar gyfer yr ardoll ymwelwyr rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2022, a gellir dod o hyd i’r manylion a’r canlyniadau yma, ochr yn ochr ag ymchwil defnyddwyr i geisio barn trigolion Cymru a defnyddwyr gwyliau domestig yn y DU yma.

Diffiniadau

Geiriau/ymadroddion allweddol

Diffiniad.

ACC

Ystyr ACC yw Awdurdod Cyllid Cymru, adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru sydd ar hyn o bryd yn cyflwyno’r ddwy dreth ddatganoledig yng Nghymru: Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi.

Ad-daliadau

Pan fydd yr ardoll ymwelwyr wedi'i throsglwyddo i ymwelydd a bod y ddeddfwriaeth yn caniatáu iddynt gael ad-daliad.

Ardoll Ymwelwyr

Tâl ychwanegol a godir ar lety ymwelwyr dros nos. Cyfeirir at hyn hefyd mewn gwledydd eraill fel treth dwristiaeth, treth llety, neu dreth gwesty.

Awdurdod Lleol/ Awdurdodau Lleol

Y 22 Prif Gyngor yng Nghymru, y cyfeirir atynt hefyd fel Awdurdodau Unedol.

Cyfraddau Sero

Arhosiad mewn llety ymwelwyr ag ardoll ar gyfradd o £0.

Darparwr Llety Ymwelwyr

Person/ busnes sy’n darparu neu’n cynnig darparu llety i ymwelwyr mewn safleoedd yng Nghymru wrth fasnachu neu gynnal eu busnes.

Esemptiadau

Mathau o lety na fydd yn destun ardoll ymwelwyr.

Llety Ymwelwyr

Llety i ymwelwyr sy'n cael ei ddiffinio yn y Bil sy'n ddarostyngedig i gofrestru fel darparwr llety i ymwelwyr.

Twristiaeth gynaliadwy

Twristiaeth sy’n rhoi ystyriaeth lawn i’w heffeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol nawr ac yn y dyfodol, gan fynd i’r afael ag anghenion ymwelwyr, y diwydiant, yr amgylchedd a’r cymunedau sy’n croesawu ymwelwyr. (Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig).

Ymwelydd

Person sy'n aros mewn llety ymwelwyr.

Llinell amser ddangosol

2024 Cyflwyno

Cyflwyno'r bil llety ymwelwyr i'w graffu gan y Senedd. Cyhoeddi'r Asesiadau Effaith.

2025 Senedd yn pleidleisio

Os yw'r bil yn pasio, cael Cydsyniad Brenhinol.

2025 Disgresiwn lleol

Awdurdod lleol yn gallu dechrau ymgynhori'n lleol ac asesu effaith ardoll ymwelwyr.

2026 Cyfnod rhybudd

Cyfnod rhybudd tebygol o 12 mis os yw awdurdod yn penderfynu cyflwyno ardoll.

2026 Cofrestru

Darparwyr llety'n dechrau cofrestru mewn ardaloedd fydd yn cyflwyno'r ardoll.

2027 Gweithredu

Dyddiad dangosol cyflwyno'r ardoll gan awdurdod lleol.

Nodau polisi ac effeithiau bwriadedig

1. Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth sy’n caniatáu i awdurdodau lleol godi ardoll ymwelwyr.

2. Mae’r economi ymwelwyr yn ffynhonnell bwysig ar gyfer swyddi ac incwm ledled Cymru. Ein huchelgais yw tyfu twristiaeth er budd Cymru drwy gefnogi cymunedau lleol mewn ffordd sy'n gynaliadwy ar gyfer amgylchedd a phobl Cymru.

3. Mewn hinsawdd economaidd arbennig o heriol yn dilyn pandemig ac argyfwng costau byw, mae gwasanaethau lleol yng Nghymru yn parhau i fod dan bwysau. Byddai cyflwyno ardoll ymwelwyr yn golygu y byddai ymwelwyr i Gymru yn gwneud cyfraniad bach i’r awdurdodau lleol wrth aros dros nos. Byddai hyn yn helpu i gynnal gwasanaethau a seilwaith lleol, gan annog tegwch rhwng tigolion ac ymwelwyr o ran sut mae'r rhain yn cael eu hariannu (Croeso i Gymru: blaenoriaethau i'r economi ymwelwyr 2020 i 2025). Byddai’r arian sy’n cael ei godi’n cefnogi twristiaeth gynaliadwy, yn helpu ein cymunedau ac yn diogelu harddwch Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Yn ogystal, byddai ardoll yn helpu i feithrin ymdeimlad o rannu cyfrifoldeb rhwng trigolion ac ymwelwyr, er mwyn diogelu ardaloedd lleol a buddsoddi ynddynt. Pan fydd ardoll yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru, dylai annog dull mwy cynaliadwy o reoli twristiaeth a chyrchfannau.

4. Rydym yn cydnabod y bydd y manteision a'r costau sy'n gysylltiedig â derbyn ymwelwyr yn amrywio ar draws Cymru. Bydd llawer iawn o ymwelwyr yn ymweld â rhai rhannau o Gymru ar adegau prysur (h.y. yn ystod yr haf) sy'n peri straen i wasanaethau a seilwaith lleol. Yr ardaloedd hynny a fyddai’n cael y budd mwyaf o ardoll. Felly, byddai'r ardoll hon yn ddewisol ei natur, gan alluogi’r 22 o brif awdurdodau yng Nghymru (cynghorau sir a bwrdeistref sirol) i arfer eu barn eu hunain ynghylch ei gyflwyno ai peidio. Ein nod yw rhoi'r awdurdod i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau yn unol ag anghenion eu cymunedau. Mae hyn yn cyd-fynd â dull polisi ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer trethi lleol. Mae hyn hefyd yn golygu mai dim ond ar ôl ymgynghori a gwneud penderfyniadau yn lleol y bydd yr ardoll ymwelwyr yn cael ei chyflwyno.

Pa dystiolaeth sydd wedi cael ei hystyried i ddeall sut mae'r cynnig yn cyfrannu at anghydraddoldebau canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol?

5. Er mwyn sicrhau bod dadansoddiad cadarn o’r effaith amcangyfrifedig ar anghenion y bobl sy’n byw, yn gweithio, yn cymdeithasu ac yn gwneud busnes yng Nghymru yn cael ei ddarparu, mae’r asesiad hwn wedi ystyried y gwaith ymchwil canlynol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru:

6. Cynhaliwyd adolygiad o’r deunydd darllen hefyd gan ddefnyddio’r termau chwilio ‘ardoll ymwelwyr’, ‘treth twristiaeth,’ ‘treth llety,’ a ‘treth gwesty’, ochr yn ochr â pharamedr ‘anfantais economaidd-gymdeithasol’. Adolygiad desg yn defnyddio erthyglau mewn cyfnodolion a ffynonellau a nodwyd wrth chwilio’r rhyngrwyd oedd hwn.

Pa wybodaeth a gafwyd drwy ymgysylltu â’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan y cynnig/penderfyniad ac yn benodol y rhai sy’n dioddef anfantais economaidd-gymdeithasol?

7. Mae'r asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb a'r asesiad o'r effaith ar hawliau plant yn manylu ar yr gwaith ymgysylltu a wnaed gan swyddogion yn ystod y broses o ddatblygu polisi ac asesu effaith, yn enwedig y rhai â nodweddion gwarchodedig ond hefyd cymunedau o ddiddordeb a chymunedau lle.

A ystyriwyd nodweddion gwarchodedig?

8. Do, ystyriwyd isod. Mae’n bwysig cydnabod croestoriadedd nodweddion gwarchodedig ac felly mabwysiadwyd dull amlweddog wrth asesu effaith yr ardoll ymwelwyr a cheir hefyd ddadansoddiad manwl pellach yn yr asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb a’r asesiad o’r effaith ar hawliau plant.

A ystyriwyd cymunedau buddiant a chymunedau lle?

(Cyfeiriwch at dudalen 8 yn y canllawiau statudol).

9. Do, cawsant eu hystyried yn yr asesiad effaith hwn a drwy gydol yr asesiad effaith integredig.

Pa wybodaeth sydd wedi cael ei hystyried ynglŷn â thueddiadau'r dyfodol?

10. Mae dadansoddiad o dueddiadau ar gyfer llefydd sydd eisoes yn gweithredu ardollau ymwelwyr a thueddiadau hanesyddol ar gyfer allbynnau awdurdodau lleol hefyd wedi’u hystyried drwyddi draw.

Pa ddata a ystyriwyd (cenedlaethol a lleol)?

11. Defnyddiwyd data demograffig a ddarparwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a datganiadau Llywodraeth Cymru pan oeddent ar gael. Roedd data arolwg defnyddwyr a phreswylwyr a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod proses gynllunio’r ardoll ymwelwyr yn dangos bod agweddau pobl o bob gradd gymdeithasol a segmentau ariannol cymdeithas yn fwy cadarnhaol na negyddol ynglŷn â’r ardoll ymwelwyr, ond ar y cyfan, mae’r agwedd gadarnhaol hon yn llai ymhlith pobl â llai o fodd ariannol (Ymchwil ardoll ymwelwyr: barn defnyddwyr a thrigolion). Fodd bynnag, mae bylchau mawr yn y data angenrheidiol sydd ar gael ar dwristiaeth Cymru i lywio'r asesiad effaith hwn. Nid yw data sy’n ymwneud ag ymwelwyr i Gymru wedi’i ddadansoddi fesul grŵp economaidd-gymdeithasol ac nid yw’n amlinellu gwahanol dueddiadau o ran gwariant grwpiau â nodweddion gwarchodedig (gweler Perfformiad twristiaeth Cymru: 2019, Ystadegau twristiaeth ddomestig Prydain Fawr (tripiau dros nos): 2022 a Ymchwil ardoll ymwelwyr: barn defnyddwyr a thrigolion). Er enghraifft, nid ydym yn gwybod pa fath o lety ymwelwyr y gallai’r bobl hynny ei ddefnyddio, na pha mor hir y byddant yn defnyddio'r llety ymwelwyr na pham y byddant yn defnyddio'r llety ymwelwyr, felly mae dod i gasgliadau ar faint y bydd ardoll ymwelwyr yn effeithio ar benderfyniad unigolyn i dalu ardoll yn anodd.

12. Er mwyn ategu’r bylchau yn y data, mae’r asesiad effaith hwn yn defnyddio adroddiadau uniongyrchol ansoddol gan y rhai â nodweddion gwarchodedig a gasglwyd gan swyddogion, a data ehangach sydd ar gael ar bobl sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol i ddod i gasgliadau ynglŷn ag effaith bosibl gweithredu ardoll ymwelwyr.

13. At hynny, mae’n bwysig nodi y bydd yr ardoll ymwelwyr yn cael ei gweithredu gan awdurdodau lleol gyda phenderfyniadau’n cael eu gwneud ar lefel leol. Nid yw’n bosibl felly datgan yn hyderus yr effaith y bydd ardoll ymwelwyr yn ei chael ar Gymru gyfan, gan nad oes cadarnhad eto ynglŷn â sawl un o’r awdurdodau lleol sy’n bwriadu gweithredu’r ardoll.

Rhowch ddolenni a chrynodeb o’r dystiolaeth

14. Ceir llyfryddiaeth ar ddiwedd y ddogfen hon.

Sut y gallai'r cynnig waethygu ymhellach yr anghydraddoldeb o ran canlyniad a brofir o ganlyniad i anfantais economaidd-gymdeithasol?

15. Mae anghydraddoldeb o ran canlyniad yn gysylltiedig ag unrhyw wahaniaeth mesuradwy o ran canlyniad rhwng y bobl sydd wedi wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol a gweddill y boblogaeth.

16. Mae swyddogion wedi ystyried yr effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol bosibl y byddai gweithredu’r ardoll ymwelwyr yn ei chael ar bobl a lleoedd sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol yng Nghymru drwy ddefnyddio’r data a’r llenyddiaeth academaidd sydd ar gael a thrwy ymgysylltu’n uniongyrchol â chymunedau. Mae ymgysylltu’n uniongyrchol â chymunedau i ddeall sut y gallai’r ardoll ymwelwyr effeithio ar bobl wedi bod yn hanfodol er mwyn helpu i lunio’r polisi. Darperir tabl yn yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb o’r penderfyniadau a wnaed o ganlyniad i’r ymgysylltu hwn i liniaru’r effeithiau a nodwyd, a darperir manylion am y gwaith ymgysylltu a wnaed gan swyddogion yn yr Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant hefyd.

Diffiniadau

17. At ddibenion yr asesiad effaith hwn, mae ‘effaith uniongyrchol’ yr ardoll ymwelwyr ar gymunedau sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol yn cyfeirio at unrhyw effaith bosibl o orfod talu neu godi’r ardoll.

18. At ddibenion yr asesiad effaith hwn, mae ‘effaith anuniongyrchol’ yn cyfeirio at unrhyw effaith bosibl y gallai bodolaeth yr ardoll ei chael ar gymunedau sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol. Gall y rhain fod yn effeithiau ‘eilaidd’ neu ‘drydyddol’ sy’n digwydd oherwydd bod ardoll ymwelwyr yn cael ei gweithredu ond nad yw’n cael eu hachosi’n uniongyrchol gan yr ardoll ymwelwyr.

Effeithiau uniongyrchol posibl

19. Bydd yr ardoll ymwelwyr yn cael ei thalu ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr. Bydd hyn yn berthnasol i drigolion Cymru ac i ymwelwyr eraill cyn belled â'u bod yn aros mewn llety i ymwelwyr. Mae tystiolaeth i awgrymu bod parodrwydd person i dalu ardoll ymwelwyr mewn gwledydd eraill yn gysylltiedig yn gadarnhaol â'i statws economaidd-gymdeithasol, gan awgrymu bod pobl dan anfantais yn fwy tebygol o gael eu hatal rhag ymweld â Chymru. Mae’n bosibl bod y rhai mewn oed sydd fel arfer yn cael eu cysylltu ag incwm is (er enghraifft, pobl iau), yn llai tebygol o allu fforddio’r gost ychwanegol ar gyfer llety ymwelwyr sy’n gysylltiedig â’r ardoll (Tourists' willingness to pay to improve sustainability and experience at destination).

20. At hynny, mae parodrwydd i dalu yn uniongyrchol gysylltiedig ag incwm a chyllideb ymwelydd, ac yna byddai eu rhywedd yn effeithio ar hyn hefyd. Mae astudiaethau hefyd wedi nodi bod dynion yn fwy parod i dalu ardoll ymwelwyr – gallai hyn fod oherwydd y cydberthynas rhwng rhywedd ac incwm, lle mae gan fenywod, ar gyfartaledd, incwm is na dynion (How much less were women paid in 2019?).

21. Er mwyn lleihau'r risg a nodwyd bod yr ardoll yn rhwystr i bobl dan anfantais economaidd-gymdeithasol rhag mynd ar wyliau yng Nghymru, gall Gweinidogion Cymru adolygu’r polisi a’r cyfraddau i ystyried a yw’n bodloni’r amcanion ac yn parhau i fod yn deg.

22. Cyfradd safonol fesul person fesul noson fydd yr ardoll ac ni fydd yn newid yn ôl cost y llety ymwelwyr. Y cyfiawnhad dros y polisi hwn yw bod yr ymateb i’r ymgynghoriad yn amlwg yn ffafrio cysondeb a symlrwydd er mwyn peidio ag atal ymwelwyr (ibid). Bydd cynllun syml a llai o gyfraddau yn gwneud y cynllun mor gost-effeithiol â phosibl oherwydd bydd llai o gyfleoedd i osgoi talu’r ardoll a chamgymeriadau wrth brisio, gan ei gwneud yn decach i bawb yng Nghymru. Fodd bynnag, mae hyn yn golygu y bydd swm yr ardoll ymwelwyr sy’n cael ei dalu gan bobl sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol yn uwch yn ôl cyfran na'r gwariant cyfartalog ar gyfer pobl â mwy o incwm gwario oherwydd gallai cost gyffredinol eu gwyliau fod yn is.

23. Cyfartaledd hyd teithiau i Gymru yn 2022 oedd 3 noson, gyda gwariant cyfartalog o £220 fesul daith a gwariant cyfartalog o £74 fesul noson (Ystadegau twristiaeth ddomestig Prydain Fawr (tripiau dros nos): 2022). I deulu o bedwar pe bai’r gyfradd yn £1.25 fesul person fesul noson a bod y gost yn cael ei throsglwyddo i’r ymwelwyr, byddai hyn yn golygu £15.00 ar gyfartaledd mewn taliadau ardoll ymwelwyr ar gyfer taith, neu oddeutu 6.8% o gost gwyliau cyfartalog i Gymru. Byddai gwyliau i bedwar yn gwersylla am 3 diwrnod yn costio £9 gan mai'r gyfradd is o £0.75 fesul person fyddai’n cael ei godi. Ni ellir dadansoddi'r data ymhellach er mwyn adlewyrchu’r anfantais economaidd-gymdeithasol, ond mae'r gyfradd is wedi'i chyflwyno'n benodol i leihau'r effaith ar bobl a theuluoedd ar incwm is. Mae adroddiadau cyfoes yn y cyfryngau’n awgrymu bod pobl sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol yn fwy tebygol o deithio’n o fewn eu gwledydd a gwersylla yn yr awyr agored er mwyn mynd i’r afael â chostau cynyddol llety twristiaeth sydd wedi cynyddu ar gyfradd y tu hwnt i chwyddiant (RPI: Percentage change over 12 months - Fares and other travel costs a Everything is going up, Guardian), sy’n golygu ei bod yn bosibl y byddai’r bobl hynny’n fwy tebygol o dalu cyfradd is yr ardoll ymwelwyr. At hynny, nodwyd ffafriaeth amlwg yn yr ymgynghoriad i sicrhau fod yr ardoll ymwelwyr mor syml â phosibl i'w gweinyddu o safbwynt cydymffurfedd sy’n golygu y bydd yn gost-effeithiol (Crynodeb o'r ymatebion paragraff 1.22).

24. Mae swyddogion wedi ymgysylltu ag elusennau sy'n cynrychioli pobl sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol a phobl â nodweddion gwarchodedig er mwyn deall yn well a fyddai talu'r ardoll ymwelwyr yn rhwystr rhag mynd ar wyliau yng Nghymru. Ceir manylion am y gwaith ymgysylltu i gynrychioli grwpiau â nodweddion gwarchodedig yn yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb a’r Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant. Yn ystod y gwaith ymgysylltu, nodwyd na fyddai tâl bychan ychwanegol yn gymaint o rwystr â chostau cynyddol mynd ar wyliau oherwydd y cynnydd mewn chwyddiant a'r argyfwng costau byw. Mae asesiad o’r newid i’r Mynegai Prisiau Manwerthu ar gyfer tocynnau teithio a chostau teithio eraill yn dangos bod prisiau wedi codi cymaint â 22% yn ystod y 24 mis diwethaf sy’n cynrychioli cynnydd canrannol uwch i gostau teithio na chost yr ardoll ymwelwyr ar gyfer yr arhosiad cyfartalog yng Nghymru (RPI: Percentage change over 12 months - Fares and other travel costs). Mynegwyd bod pobl yn debygol o leihau eu gwariant cysylltiedig er mwyn amsugno cost yr ardoll os mai ardal yng Nghymru sy’n dal i fod fwyaf fforddiadwy. Roedd y gwaith ymgysylltu hefyd yn awgrymu nad oedd gwyliau’n flaenoriaeth yn ystod argyfwng costau byw parhaus, felly ni fyddai’r ardoll ymwelwyr yn cael fawr o effaith ar eu bywydau bob dydd (manylion pellach a ddarperir yn yr asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb a'r asesiad o'r effaith ar hawliau plant).

25. Yn olaf, yn ôl nifer o astudiaethau, gall teithio gynyddu canfyddiad unigolion o ansawdd eu bywydau a gwir ansawdd eu bywydau. Fodd bynnag, mae'r dulliau drutach hyn o deithio ar wyliau yn llai hygyrch i bobl sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae nifer o’r unigolion hyn yn ymweld â ffrindiau a pherthnasau, gan awgrymu y gallai hyn fod yn ffordd hanfodol i bobl sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol deithio at ddibenion pleser a thrwy hynny gynnal neu wella ansawdd eu bywydau (Travel and quality of life: Where do socio-economically disadvantaged individuals fit in?) ac ni fyddai’r ardoll ymwelwyr yn berthnasol iddynt oni bai eu bod talu i aros mewn llety ymwelwyr.

Effeithiau anuniongyrchol posibl

26. Gall pobl mewn ardaloedd trefol ac ardaloedd gwledig wynebu heriau a rennir a heriau unigryw.  Er enghraifft, gwyddom fod anfantais economaidd-gymdeithasol yn bodoli mewn dinasoedd ac amgylcheddau gwledig. Gallai ymwelwyr ddewis ymweld ag ardaloedd awdurdodau lleol gwahanol h.y. y rhai heb yr ardoll, neu wlad arall yn gyfan gwbl, er mwyn osgoi cost ychwanegol yr ardoll. Os yw’r ardoll ymwelwyr yn arwain at ostyngiad yn y galw am dwristiaeth, neu ostyngiad yn y gwariant cyfartalog byddai hyn yn cael effaith negyddol ar yr economi leol, yn enwedig mewn ardaloedd sy’n dibynnu’n drwm ar dwristiaeth. Mae'r adran hon yn asesu’r effaith posibl y gallai colli swyddi a llai o incwm i'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant twristiaeth ei chael ar gymunedau dan anfantais economaidd-gymdeithasol, yn ogystal â'r effaith negyddol ar y gymuned fusnes ehangach o ganlyniad i lefelau is o drosiant pe bai’r ardoll ymwelwyr yn arwain at lai o wariant ategol gan ymwelwyr neu lai o ymwelwyr.

27. Yn ôl adolygiad gan Brifysgol Caerdydd o effaith economaidd a nwyon tŷ gwydr posibl ardoll ymwelwyr yng Nghymru, byddai cost yr ardoll ymwelwyr yn cael ei throsglwyddo i ymwelwyr i Gymru. Roedd yr adolygiad yn amcangyfrif a fyddai unrhyw newidiadau i gyflogaeth o ganlyniad i’r ardoll ymwelwyr yn seiliedig ar dri senario yn amrywio o ymateb ymddygiadol gwan, canolig a chryf i’r ardoll. Mae'r amcangyfrifon yn amrywio o gynnydd net o 100 o swyddi cyfwerth ag amser llawn mewn senario wan i golli tua 390 o swyddi cyfwerth ag amser llawn mewn senario gref. Gallai gostyngiad yn y galw, er enghraifft, arwain at gyflogwyr yn lleihau oriau, recriwtio, cynlluniau buddsoddi, cyflogau neu mewn rhai achosion ddileu swyddi. Gall hyn effeithio ar weithwyr yn y pen draw. Mae'n anochel bod y canlyniadau hyn yn ansicr ac yn seiliedig ar effaith net gyffredinol gan fod cynnydd mewn swyddi CALl o ganlyniad i wariant refeniw ardoll ymwelwyr sy'n gwrthbwyso colledion. Mae tystiolaeth o gyrchfannau eraill yn awgrymu bod hyn yn annhebygol ac os bydd yn digwydd, efallai mai dim ond yn y tymor byr y bydd yn digwydd, gyda’r refeniw a gynhyrchir o ardoll yn y tymor hwy yn gorbwyso unrhyw effeithiau tymor byr.

Ffigur 1: Effeithiau ardoll ymwelwyr ar gyflogaeth
Pob Effaith Uniongyrchol + Anuniongyrchol, 2023 (£)OptimistaiddNiwtralPesimistaidd
Allbwn£19m£3.4m-£12.9m
Incwm Gwario£5.2m£1m-£3.3m
Gwarged Gweithredu Gros£2.9m-£0.1m-£3.2m
Treth Incwm a Threth Hunangyflogaeth, Pensiynau£2.9m£1.5m£0.1m
Trethi Llai Cymorthdaliadau Cynhyrchu-£0.2m-£0.5m-£0.9m
Gwerth Ychwanegol Gros£10.8m£1.9m-£7.3m
Canran GYG Economi Cymru (ffigurau bras)0.013%0.002%-0.009%
Cyflogaeth Gyfwerth ag Amser Llawn100-140-390
Canran Gweithlu Cymru (ffigurau bras)0.007%-0.01%-0.028%

Ffynhonnell: Effeithiau posibl ardoll ymwelwyr yng Nghymru ar yr economi a nwyon tŷ gwydr

28. Yn y pen draw, bydd ffactorau ehangach yn dylanwadu ar ymddygiad ymwelwyr a chyflogwyr, gan gynnwys y cyd-destun macro-economaidd, felly ni fyddai’n ymarferol i amlinellu union effaith economaidd a ddaw yn sgil ardoll ymwelwyr. Bydd ffactorau fel y tywydd, yr adeg o'r flwyddyn, lefelau incwm gwario, beth mae cyrchfannau eraill yn ei wneud, cyflwr yr economi a ffactorau eraill i gyd yn effeithio ar ymddygiad ymwelwyr. Yn ogystal, pe bai'r refeniw ychwanegol a godir yn ysgogi gwelliannau i'r seilwaith a’r gwasanaethau lleol, gallai hyn arwain at gynnydd yn nifer yr ymwelwyr â'r ardal, gan sbarduno mwy o gyfleoedd cyflogaeth yn y sector twristiaeth.

Yn unol â chrynodebau cyflogaeth twristiaeth 2016 y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae’r sector twristiaeth yng Nghymru, gan gynnwys effeithiau ar y gadwyn gyflenwi a buddsoddi cyfalaf, yn cyfateb i oddeutu £6.2 biliwn neu 13.3% o gyfanswm yr economi. Yn ôl Ystadegau Busnes a Marchnad Lafur Sector Twristiaeth Cymru 2016-2021, roedd 377,560 o bobl yn cael eu cyflogi mewn diwydiannau sy’n ymwneud â thwristiaeth (Ystadegau twristiaeth ddomestig Prydain Fawr (tripiau dros nos): 2022), sef 26.4% o’r gweithlu. Mae’r diwydiant yn chwarae mwy o rôl yng Nghymru nag yn unrhyw un o wledydd eraill y DU, sy’n golygu, yn ôl cyfran, y byddai effaith colli swyddi yn fwy nag yng ngwledydd eraill y DU.

29. Roedd y cyflog canolrifol fesul awr yn y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ym mis Ebrill 2021 yn £12.82 yng Nghymru, ond o fewn diwydiannau cysylltiedig â thwristiaeth, roedd yn is. Ymysg swyddi gweithwyr mewn Gweithgareddau Llety a Gwasanaethau Bwyd, roedd y cyflog canolrifol fesul awr yn £8.91, ar gyfer swyddi yn y diwydiant Celfyddydau, Adloniant a Hamdden, roedd yn £9.51, ac ar gyfer gweithgareddau asiantaethau teithio a gweithredwyr teithiau, roedd yn £9.65 (Proffil Economi Ymwelwyr Cymru: 2021).

30. Mae dadansoddiad y SYG o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion yn 2023 yn nodi bod cyflogeion sy’n ennill y cyflogau isaf yn tueddu i fod yn iau, rhwng 16 a 21 oed, ac yn gweithio mewn galwedigaethau elfennol neu yn y diwydiant lletygarwch . Yn seiliedig ar y set ddata hon ar gyfer pob rhan o’r DU, mae'r dadansoddiad hefyd yn nodi bod 39.1% o weithwyr yn y diwydiant llety a bwyd ar gyflogau isel (ibid).

Mae diffiniadau’r SYG o gyflogau isel a chyflogau uchel yn seiliedig ar y rhai a ddefnyddir gan Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) lle mae cyflog isel yn cael ei ddiffinio fel cyflog sy’n llai na dwy ran o dair o’r cyflog canolrifol fesul awr a chyflog uchel yn cael ei ddiffinio fel mwy nag 1.5 gwaith y cyflog canolrifol fesul awr. Yn 2023, mae cyflog isel yn cael ei ddiffinio fel y rhai sy'n ennill llai na £10.59 yr awr a chyflog uchel yn cael ei ddiffinio fel y rhai sy'n ennill mwy na £23.82 yr awr.

31. At hynny, mae cyfran sylweddol o'r gweithlu twristiaeth rhanbarthol yn cael ei nodweddu gan gyflogau isel ac amodau gwaith ansicr (No stars: Low pay in the hotel and accommodation sector), yn enwedig os yw gweithwyr twristiaeth yn fenywod neu'n ymfudwyr ac eraill â nodweddion gwarchodedig (troednodyn 1). Mae’n bwysig nodi nad yw ardollau ymwelwyr ar y cyfan yn newid realiti gwaith y sector twristiaeth i bobl ledled Cymru, ond efallai bod mwy o gyflogaeth ansicr yn y diwydiant twristiaeth oherwydd natur dymhorol y gwaith (troednodyn 2).Adroddwyd ar lefel y DU y byddai 39% o weithwyr yn y diwydiant llety a gwasanaethau bwyd yn cael eu categoreiddio fel bod mewn gwaith ansicr. Mae 56% o bobl y DU sy'n profi ansicrwydd gwaith yn ennill llai na’r cyflog byw gwirioneddol sy'n golygu na all dros hanner y rhai sydd mewn gwaith ansicr ddiwallu eu hanghenion sylfaenol trwy weithio (How can we tackle work insecurity in the UK?). Cafodd 11.5% o weithwyr yng Nghymru eu categoreiddio fel rhai sy’n cael eu cyflogi mewn gwaith ansicr yn 2022. Nid yw data penodol i Gymru wedi’i ddadansoddi fesul sector ond byddai’n rhesymol felly tybio bod gweithwyr y gwasanaethau llety a thwristiaeth yn ffurfio cyfran uwch o boblogaeth weithio Cymru sy’n cael eu disgrifio’n ansicr (Insecure work in 2023).

32. Yn ôl canfyddiadau Insecure Work Index 2022 gan y Work Foundation mae gweithwyr anabl yn fwy tebygol o fod mewn gwaith ansicr na phobl nad ydynt yn anabl. Yn ôl y datganiadau ystadegol diweddaraf, gan Lywodraeth Cymru, yn 2021 roedd pobl anabl yn cyfrif am 5.7% o'r gweithlu twristiaeth yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod pobl anabl yn fwy tebygol o fod yn agored i’r posibilrwydd o golli eu gwaith os bydd gostyngiad yn y galw o ganlyniad i'r ardoll ymwelwyr. Fodd bynnag, byddai amcangyfrif Prifysgol Caerdydd o effeithiau gwaethaf bosibl yr ardoll ymwelwyr ar yr economi yng Nghymru yn cyfateb i oddeutu 0.028% o gyfanswm gweithlu rhanbarthol Cymru yn 2019. Felly, er bod pobl anabl yn fwy tebygol yn ystadegol o ddioddef effeithiau colli swyddi posibl, o ystyried y sefyllfa waethaf bosibl, byddai’r colledion swyddi posibl ar gyfer pobl anabl yn y sector twristiaeth yn cyfateb i 0-28 cyfwerth ag amser llawn ledled Cymru pe bai pob awdurdod lleol yn penderfynu defnyddio eu pwerau i weithredu ardoll ymwelwyr.

33. Ar lefel unigol, mae'n amhosibl penderfynu sut y byddai ardoll ymwelwyr yn effeithio ar unigolyn gan fod y modelu economaidd uchod yn dangos y sefyllfa waethaf bosibl pe bai pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru yn mabwysiadu’r ardoll. Ond fel y dangoswyd, gallai’r ardoll gael mwy o effaith ar gymunedau sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol oherwydd natur y gwaith yn y sector sy’n cael ei nodweddu gan gyflog isel ac oriau ansicr. Er mwyn lliniaru’r risg y bydd yr ardoll ymwelwyr yn arwain at golled andwyol o swyddi, yn enwedig i bobl yng Nghymru sydd eisoes dan anfantais economaidd-gymdeithasol fel yr amlinellwyd, mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i adolygu cyfraddau’r ardoll ymwelwyr bob blwyddyn er mwyn sicrhau y gellir ymateb yn gyflym i unrhyw effaith economaidd ar gymunedau lleol.

Sut allai'r penderfyniad wella canlyniadau i'r rhai sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol?

34. Yn yr un modd â chanlyniadau negyddol posibl yr ardoll ymwelwyr, oherwydd ei natur ddewisol, mae'r effeithiau cadarnhaol posibl hefyd yn ddamcaniaethol. Mater i awdurdodau lleol fydd penderfynu sut i ddefnyddio’r arian a godir yn sgil ardoll ymwelwyr, fodd bynnag, mae rhai adolygiadau o effeithiau gweithredu trethi cymharol yn tynnu sylw at themâu cyffredin o ran y manteision i’r cymunedau lleol yn yr ardaloedd hynny y gellid eu hefelychu yng Nghymru.

Effeithiau uniongyrchol posibl

35. Gall gwyliau wella ansawdd bywyd pobl sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol (‘Tourism poverty’ in affluent societies: Voices from inner-city London). Ychydig iawn o ffynonellau sy'n darparu ar gyfer patrymau ymweld cymunedau o ddiddordeb a chymunedau lle yng Nghymru. Awgrymwyd mewn astudiaethau ledled y DU bod pobl sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol yn fwy tebygol o ddewis gwyliau yn y DU yn hytrach na theithio dramor (ibid). Bydd yr arian a godir yn sgil ardoll ymwelwyr yn cael ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol i wella profiad ymwelwyr yng Nghymru, er y bydd sut y caiff yr arian ei wario yn amrywio rhwng yr awdurdodau lleol, a gallai hynny o bosibl wella ansawdd y gwyliau sydd ar gael i’r rhai sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol yng Nghymru.

Effeithiau anuniongyrchol posibl

36. Un o brif nodau’r ardoll yw darparu cyllid ychwanegol i’r ardaloedd sy’n ddibynnol iawn ar dwristiaeth a rhannu’r baich o dalu am y gwasanaethau a’r cyfleusterau hyn yn fwy cyfartal rhwng trigolion ac ymwelwyr. Mae adolygiad o Drethi Twristiaeth gan Gymdeithas Twristiaeth Ewrop yn awgrymu, er mwyn i drethi twristiaeth fod yn llwyddiannus, fod angen dwyochredd a buddion diriaethol i gymunedau lleol.

37. Bydd awdurdodau lleol yn gwario arian yr ardoll ymwelwyr ar reoli cyrchfannau a chyfleusterau a rennir rhwng trigolion ac ymwelwyr. Felly, i’r rhai sy’n byw yng Nghymru, yn enwedig mewn mannau sy’n boblogaidd gyda thwristiaid, gallai cyflwyno’r ardoll gael effaith gadarnhaol. Y rheswm am hyn yw y gallai’r awdurdodau lleol sy’n codi refeniw ychwanegol wario’r cyllid ychwanegol ar wella eu hardal leol a/neu eu gwasanaethau cyhoeddus.

38. Crynhodd Simpson amrywiaeth o effeithiau cadarnhaol cyffredin twristiaeth ar les cymdeithasol y gymuned leol, megis gwella seilwaith (ffyrdd, cyfathrebu, gofal iechyd, addysg, trafnidiaeth gyhoeddus, mynediad i ddŵr yfed), gwella diogelwch lleol neu ranbarthol, hybu datblygu’r gweithlu (e.e. hawliau ac amodau) a hyrwyddo balchder bro (yn y gymuned, diwylliant, treftadaeth, adnoddau naturiol a seilwaith - An Integrated Approach to Assess the Impacts of Tourism). Mae tystiolaeth hefyd bod parodrwydd i dalu ymhlith defnyddwyr yn gymharol uwch os yw diben trethiant a’r defnydd o refeniw yn dryloyw ac ystyrlon; yn hynny o beth, mae ardollau yn aml yn cael eu ffafrio gan drigolion a gallant ddarparu platfform ar gyfer cydweithredu cryfach mewn cyrchfannau (Socio-economic Impacts of Tourism Development).

39. Comisiynodd Llywodraeth Cymru Brifysgol Bangor hefyd i adolygu’r dystiolaeth ryngwladol ar effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol ardollau ymwelwyr a nodi goblygiadau’r dystiolaeth hon ar gyfer monitro a gwerthuso yn y dyfodol.

40. Yn Ynysoedd Baleares, Sbaen, mae’r boblogaeth leol wedi elwa o incwm Treth Twristiaeth Gynaliadwy.  Fe'i defnyddiwyd i roi cymhorthdal i brosiectau gyda'r nod o ddatblygu a diogelu'r amgylchedd, adfer treftadaeth hanesyddol, ymchwil wyddonol, hyrwyddo hyfforddiant a chyflogaeth, a chaffael ac adfer tai i’w rhentu’n rhad i drigolion (Why The Balearic Islands Are At The Forefront Of Sustainable Tourism).

Sut fyddwch chi'n monitro effaith y penderfyniad hwn?

41. Y bwriad yw y bydd ardoll ymwelwyr sy’n cael ei weithredu’n llwyddiannus yn bodloni’r amcanion canlynol, sy’n darparu’r sylfaen ar gyfer mesur effaith yr ardoll:

  • Sicrhau bod costau ariannu gwasanaethau a seilwaith lleol yn cael eu rhannu’n fwy cyfartal rhwng trigolion lleol ac ymwelwyr
  • Rhoi’r gallu i awdurdodau lleol gynhyrchu refeniw ychwanegol y gellir ei fuddsoddi’n ôl mewn gwasanaethau a seilwaith lleol a allai gefnogi twristiaeth
  • Cefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer twristiaeth gynaliadwy

42. Gan mai treth leol ddewisol fydd yr ardoll ymwelwyr, bydd pennu amserlen ar gyfer adolygiad ôl-weithredu ffurfiol yn anodd oherwydd gall gymryd sawl blwyddyn i awdurdodau lleol gofrestru ar gyfer y cynllun, felly bydd monitro effeithiolrwydd y cynllun yn datblygu dros amser.

43. Bydd ein cyfathrebiadau a’n canllawiau yn cael eu datblygu ar gyfer Awdurdod Cyllid Cymru ac awdurdodau lleol ac mewn cydweithrediad â hwy, i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â chyflwyno’r ardoll ymwelwyr mewn ardaloedd awdurdodau lleol. Bydd canllawiau hefyd yn cael eu llunio i ddarparu’r safonau disgwyliedig o ran ymgynghoriadau lleol ac asesiadau effaith, a gwerthuso'r ardoll.

Troednodiadau

1. gweler Baum, T., Solnet, D., Robinson, R., & Mooney, S. K. (2020). Tourism employment paradoxes, 1946-2095: A perspective article. Tourism Review Mooney, and S., Ryan, I., & Harris, C. (2017). The intersections of gender with age and ethnicity in hotel careers: Still the same old privileges? Gender, Work & Organization, 24 (4), 360–375. Kronenberg, K., & Fuchs, M. (2021b). The socio-economic impact of regional tourism: an occupation-based modelling perspective from Sweden. Journal of Sustainable Tourism, 1–21. Ioannides, D., & Zampoukos, K. (2018). Tourism's labour geographies: Bringing tourism into work and work into tourism. Tourism Geographies, 20 (1), 1–10.

2. Yn ôl Richardson, J. (2021) The Living Wage Foundation. ‘The Insecurity Complex: Low Paid Workers and the Rise of Insecure Work’. Mae gwaith ansicr yn cael ei ddiffinio fel:

  1. pobl mewn gwaith nad yw'n barhaol (swyddi achlysurol, tymhorol, tymor penodol ac asiantaeth), ac eithrio unrhyw un a ddywedodd nad oeddent eisiau swydd barhaol
  2. pobl sy'n hunanadrodd cyflog ac oriau cyfnewidiol gan gynnwys y rhai ar gontractau dim oriau
  3. pobl sy'n hunanadrodd cyflog cyson ond oriau cyfnewidiol
  4. pobl hunangyflogedig ar gyflog isel

Adnoddau

Tudalennau gwe

  1. Prifysgol Bangor, Dadansoddiad cymharol o'r systemau trethiant sydd yn effeithio ar yr economi ymwelwyr mewn gwledydd dethol
  2. Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Is Wales fairer? The State of Equality and Human Rights in 2018
  3. European Tourism Association, ETOA’s 2019 review of European tourism taxes calls for destinations to recognise the value of the visitor economy and risk to competitiveness
  4. Global Help Swap, Why The Balearic Islands Are At The Forefront Of Sustainable Tourism
  5. Lancaster University, The UK Insecure Work Index: two decades of insecurity
  6. Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, Tackling undeclared work in the tourism sector
  7. SYG, Tourism employment summaries - Office for National Statistics
  8. SYG, Characteristics of tourism industries, 2014 Tourism employment summaries - Office for National Statistics
  9. SYG, Low and high pay in the UK - Office for National Statistics
  10. SYG, RPI: Percentage change over 12 months - Fares and other travel costs - Office for National Statistics
  11. Cyhoeddiadau'r Senedd, BAB Memo
  12. Y Sefydliad Cyflog Byw. ‘The Insecurity Complex: Low Paid Workers and the Rise of Insecure Work’
  13. TUC, No stars: Low pay in the hotel and accommodation sector
  14. TUC, Insecure work in 2023
  15. UK Data Service, How can we tackle work insecurity in the UK? — UK Data Service
  16. Llywodraeth y DU, Tourism and the Poor: Analysing and Interpreting Tourism Statistics from a Poverty Perspective
  17. Llywodraeth y DU, Sub-national estimates of properties not connected to the gas network - GOV.UK (www.gov.uk)
  18. Senedd y DU, How much less were women paid in 2019?
  19. Adroddiad Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig, Pro-poor tourism: harnessing the world's largest industry for the world's poor
  20. UN Tourism Sustainable Development principles, Sustainable development | UN Tourism to.org)
  21. Wales Centre for Public Policy, What Works in Tackling Rural Poverty
  22. Llywodraeth Cymru, Ystadegau twristiaeth ddomestig Prydain Fawr (tripiau dros nos): 2022
  23. Llywodraeth Cymru, Ymgynghoriad - crynodeb o'r ymatebion, Cynigion ar gyfer ardoll ymwelwyr dewisol i awdurdodau lleol
  24. Llywodraeth Cymru, Tlodi incwm cymharol: Ebrill 2021 i Fawrth 2022
  25. Llywodraeth Cymru, Ymchwil ardoll ymwelwyr: barn defnyddwyr a thrigolion
  26. Llywodraeth Cymru, Perfformiad twristiaeth Cymru: 2019
  27. Llywodraeth Cymru, Proffil Economi Ymwelwyr Cymru: 2021
  28. Llywodraeth Cymru, Croeso i Gymru: blaenoriaethau i'r economi ymwelwyr 2020 i 2025

Cyfnodolion

  1. Backer, E., & Weiler, B. (2018). Travel and quality of life: Where do socio-economically disadvantaged individuals fit in? Journal of Vacation Marketing, 24(2), 159-171. Travel and quality of life: Where do socio-economically disadvantaged individuals fit in?
  2. Baum, T., Solnet, D., Robinson, R., & Mooney, S. K. (2020). Tourism employment paradoxes, 1946-2095: A perspective article. Tourism Review
  3. Durán-Román, J. L., Cárdenas-García, P. J., & Pulido-Fernández, J. I. (2021). Tourists' willingness to pay to improve sustainability and experience at destination. Journal of Destination Marketing & Management, 19, 100540, Tourists' willingness to pay to improve sustainability and experience at destination - ScienceDirect
  4. Gnanapala. A, Rudmi Chehanika Sandaruwani J.A (2016) Socio-economic Impacts of Tourism Development and Their Implications on Local Communities International Journal of Economics and Business Administration 2:59-67
  5. Ioannides, D., & Zampoukos, K. (2018). Tourism's labour geographies: Bringing tourism into work and work into tourism. Tourism Geographies, 20(1), 1–10
  6. Knežević Cvelbar L, Ogorevc M (2020), Saving the tourism industry with staycation vouchers Emerald Open Research 2020 2:65
  7. Kronenberg, K., & Fuchs, M. (2021b). The socio-economic impact of regional tourism: an occupation-based modelling perspective from Sweden. Journal of Sustainable Tourism, 1–21.
  8. Mooney, and S., Ryan, I., & Harris, C. (2017). The intersections of gender with age and ethnicity in hotel careers: Still the same old privileges? Gender, Work & Organization, 24(4), 360–375.
  9. Sedgley. D, Pritchard, A, Morgan. N (2012), Tourism Management, Volume 33, Issue 4, ‘Tourism poverty’ in affluent societies: Voices from inner-city London
  10. Simpson. M.C (2009) An Integrated Approach to Assess the Impacts of Tourism on Community Development and Sustainable Livelihoods Community Development Journal, Vol. 44, Issue 2, pp. 186-208, 2009

Llyfrau

Myburgh, E., & Saayman, M. (2002). Ecotourism in action: guidelines and principals. 2nd ed. Institute for Tourism and Leisure Studies, Studies and Leis

Ffynonellau newyddion

The Guardian, ‘Everything is going up’: UK hospitality sector struggles as inflation soars