Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn gweithio ar gynigion a fydd yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol i gyflwyno ardoll ymwelwyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhagymadrodd

Rydym yn gweithio ar gynigion a fydd yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol i gyflwyno ardoll ymwelwyr. Byddai’r arian a godir yn cefnogi twristiaeth gynaliadwy, yn helpu ein cymunedau ac yn diogelu harddwch Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae cyflwyno ardoll ymwelwyr yn ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.

Byddai angen deddfwriaeth newydd er mwyn bwrw ymlaen â’r cynigion. Mae datblygu polisi, deddfu, a gweithredu yn broses sy’n cymryd amser. Mae’n annhebyg y bydd mesurau’n dod i rym am sawl blwyddyn, a hynny os bydd y Senedd yn eu cymeradwyo. Dim ond cyfran fach o holl wariant ymwelydd y byddai'r ardoll yn ei chynrychioli. Yn rhan o'r broses ddeddfwriaethol, bydd yn ofynnol i'r Senedd gymeradwyo penderfyniadau ynghylch cyfradd ardoll ymwelwyr yng Nghymru.

Bydd gan bob awdurdod lleol yng Nghymru bŵer i benderfynu a yw am gyflwyno ardoll ymwelwyr yn ei ardal.

Cefndir

Mae cyflwyno ardoll ymwelwyr yng Nghymru yn fater sydd wedi ei ystyried ers sawl blwyddyn. Cafodd y syniad ei awgrymu gan bobl Cymru fel maes posibl ar gyfer creu refeniw yn dilyn galwad gyhoeddus am syniadau yn 2017.

Yn dilyn dadl yn y Senedd ar 4 Gorffennaf 2017, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid Alwad am Syniadau am drethi newydd drwy hysbysiad i’r wasg gan Lywodraeth Cymru.

Fe gawsom dros 35 o lythyrau a thros 270 o sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd treth twristiaeth yn un o’r trethi a awgrymwyd gan aelodau’r cyhoedd inni ei hystyried.

Dyma linell amser y digwyddiadau:

2014

  • Rhoddodd Deddf Cymru 2014 bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel yr oedd ar y pryd) gyflwyno trethi datganoledig newydd yng Nghymru.

2016

  • Gwnaeth adroddiad Trethi er Lles Sefydliad Bevan a gyhoeddwyd yn 2016 argymhellion ar gyfer wyth treth newydd yng Nghymru, ac un ohonynt oedd yr Ardoll Ymwelwyr.

2017

  • Fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid (Mark Drakeford ar y pryd) arwain dadl yn y Cynulliad i ddechrau trafodaeth am y cyfleoedd y gallai trethi newydd eu darparu i Gymru.
  • Yna, cyhoeddodd alwad gyhoeddus am syniadau am drethi newydd posibl yng Nghymru.
  • Cyflwynwyd dros 300 o ymatebion gan aelodau’r cyhoedd drwy lythyrau ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

2018

Ymgysylltodd Llywodraeth Cymru â rhanddeiliaid drwy Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Drethi a’r Fforwm Trethi ar lefel swyddogol i fesur barn cyrff cynrychiadol ac arbenigwyr cyn llunio rhestr fer o bedair treth newydd bosibl i Gymru. Cyhoeddwyd y rhestr hon yn 2018 ac roedd yn cynnwys:

  • Treth gofal cymdeithasol
  • Treth ar dir gwag
  • Treth plastigau untro
  • Treth twristiaeth

Yn ei Chynllun Gwaith Polisi Trethi, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n ystyried ffyrdd y gellid rhoi pwerau caniataol i awdurdodau lleol ddatblygu a gweithredu treth twristiaeth.

2020 i heddiw

  • Roedd disgwyl i alwad gyhoeddus am dystiolaeth ddilyn yn 2020 ond bu oedi oherwydd y pandemig.
  • Ailgychwynnodd y gwaith ar y cynigion ar gyfer ardoll ymwelwyr yn hydref 2021 fel ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu ac yna fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio.
  • Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2022 a oedd yn cynnwys digwyddiadau wyneb yn wyneb ledled Cymru ac un digwyddiad ar-lein.
  • Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddodd Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ei bwriad i fwrw ati â chynlluniau i ddatblygu deddfwriaeth ardoll ymwelwyr.
  • Bydd deddfwriaeth ddrafft yn cael ei chyflwyno gerbron y Senedd er mwyn craffi arni yn nhymor yr hydref 2024.

Am ragor o wybodaeth am amserlen ddangosol y broses ddeddfwriaethol, gweler isod.

Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth i alluogi awdurdodau lleol i osod ardoll ymwelwyr.

Byddai ardoll ymwelwyr yn dilyn egwyddorion treth Llywodraeth Cymru:

  • codi refeniw i gyllido gwasanaethau cyhoeddus mewn ffordd sydd mor deg â phosibl
  • cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru, yn enwedig cefnogi swyddi a thwf
  • bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml
  • cael eu datblygu drwy gydweithredu ac ymwneud
  • cyfrannu’n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o greu Cymru fwy cyfartal

Y cynigion

Rydym yn cynnig y bydd ardoll ymwelwyr yn dâl ychwanegol bach a fydd i’w godi ar ymwelwyr sy’n aros dros nos mewn llety ymwelwyr.

Bydd unrhyw benderfyniadau terfynol ynglŷn â sut bydd yr ardoll yn cael ei rhoi ar waith yn cael eu gwneud wedi proses graffu drylwyr a phleidlais yn y Senedd.

Yn ein barn ni, mae’n deg ac yn rhesymol gofyn i ymwelwyr wneud cyfraniad tuag at gostau ehangach twristiaeth. Ein bwriad gyda'r ardoll yw meithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb ar y cyd rhwng trigolion ac ymwelwyr, a hynny er mwyn gwarchod ein hardaloedd lleol a buddsoddi ynddynt. Dylai unrhyw ddefnydd o ardoll yng Nghymru annog dull mwy cynaliadwy o ran twristiaeth.

Rydym yn gwybod bod twristiaeth yn chwarae rhan hanfodol o ran cefnogi economïau lleol. Ond gall twristiaeth anghytbwys, heb sylfaen gadarn hefyd roi pwysau ar gymunedau lleol a thanseilio profiadau ymwelwyr.

Nid gwneud i bobl ailfeddwl cyn ymweld â Chymru yw bwriad ardoll ymwelwyr. Yn lle hynny, byddai’n gyfraniad bach gan ymwelwyr sy’n aros dros nos, a fydd yn creu refeniw ychwanegol i awdurdodau lleol ei ailfuddsoddi mewn cymunedau lleol. Byddai hyn yn eu galluogi i fynd i’r afael â rhai o’r costau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth ac yn annog dull mwy cynaliadwy o weithredu.

Diben

Diben yr ardoll yw creu refeniw ychwanegol i awdurdodau lleol ei ailfuddsoddi yn y gwasanaethau cyhoeddus a’r seilwaith sy’n sicrhau bod twristiaeth yn llwyddo. Ceir nifer fawr o ymwelwyr tymhorol mewn rhai rhannau o Gymru. Mae ymwelwyr yn defnyddio nwyddau a seilwaith cyhoeddus, fel ffyrdd, yn helaeth. Byddai ardoll ymwelwyr yn helpu i dalu costau lleol sy’n deillio o gynnal ymwelwyr ac yn galluogi mwy o fuddsoddi cyhoeddus yn y seilwaith sy’n gysylltiedig â thwristiaeth.

Mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad economaidd sylweddol i Gymru. Yn 2019, cafwyd mwy na £5 biliwn o wariant sy’n gysylltiedig â thwristiaeth. Rydym am barhau i weld diwydiant twristiaeth ffyniannus yng Nghymru ynghyd ag adferiad cryf yn sgil COVID-19

Mae defnyddio ardoll ymwelwyr yn ategu’r nod o sicrhau ‘twristiaeth gynaliadwy’, fel y’i diffinnir gan Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig (UNWTO):

‘Tourism that takes full account of its current and future economic, social and environmental impacts, addressing the needs of visitors, the industry, the environment and host communities.’

Datblygu cynaliadwy ar UNWTO

Buddsoddi mewn cymunedau lleol cynaliadwy

Bydd ardoll yn annog camau i ddiogelu cymunedau lleol a’u dathlu.

Byddai ymwelwyr o Gymru a mannau eraill yn gwneud cyfraniad bach tuag at helpu i gynnal gwasanaethau a’u gwella. Mae’r gwasanaethau hyn yn bwysig nid yn unig i’r rhai sy’n ymweld, ond i breswylwyr a busnesau fel ei gilydd. Rydym am i ymwelwyr wybod y bydd eu cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth o ran cefnogi’r cyrchfannau y maent yn eu caru ac yn eu mwynhau, gan ofalu am gymunedau lleol a’u gwarchod fel y gallant barhau i ffynnu.

Dylai’r seilwaith hollbwysig sy’n cynnal twristiaeth gael ei gefnogi gan bawb sy’n dibynnu arno. Mae hyn yn cynnwys cadw traethau a phalmentydd yn lân, yn ogystal â chynnal parciau, toiledau, a llwybrau troed lleol. Mae buddsoddi yn y rhain ac yn y gwaith o’u cynnal yn gwella enw da’r gyrchfan ac yn cefnogi’r economi ymwelwyr.

Annibyniaeth awdurdodau lleol

Hoffem rymuso awdurdodau lleol i wneud eu penderfyniadau eu hunain ar sail anghenion eu cymunedau.

Rydym yn ffodus i fyw mewn gwlad sydd â chynnig mor amrywiol i dwristiaid: o draethau tywodlyd Penrhyn Gŵyr i gopaon urddasol Eryri, i seibiannau bywiog, llawn profiadau yn ein dinasoedd. Rydym yn cydnabod bod maint yr economi ymwelwyr yn amrywio ar draws Cymru. Bydd awdurdodau lleol yn cael dewis codi arian ychwanegol drwy weithredu ardoll. Fodd bynnag, bydd y dull o gymhwyso’r ardoll yn cael ei archwilio yn yr ymgynghoriad.

Bydd pob awdurdod lleol yn gwneud ei benderfyniadau ei hun ar sut caiff y refeniw ei wario er mwyn datblygu twristiaeth gynaliadwy yn eu hardaloedd lleol.

Bydd amcangyfrifon o’r refeniw posibl y byddai ardoll yn ei greu yn cael eu darparu fel rhan o’r broses o asesu effaith yr ardoll.

Polisi sydd wedi’i ddylunio ar y cyd yng Nghymru, ar gyfer pobl Cymru

Mae’n hanfodol ymgysylltu’n helaeth wrth ddatblygu polisi newydd. Rydym wedi ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bartneriaid er mwyn deall gwahanol safbwyntiau a’u hystyried. Bydd yr adborth a gafwyd yn sgil yr ymgynghoriad a’r digwyddiadau ymgysylltu â phartneriaid allweddol yn helpu i lunio cynnig sy’n gweithio’n dda ledled Cymru. Cynhaliwyd trafodaethau ag awdurdodau lleol, busnesau, cynrychiolwyr y trydydd sector, cyrff y diwydiant, parciau cenedlaethol, Awdurdod Cyllid Cymru, llwyfannau archebu ar-lein, a swyddogion mewn gweinyddiaethau tramor sydd ag ardollau ymwelwyr ar waith ers amser bellach.

Rydym yng nghamau cynnar y broses o benderfynu ar ddyluniad ardoll ymwelwyr a’i gwmpas. Byddwn yn parhau i ymgysylltu’n eang er mwyn datblygu cynigion ynghylch sut y dylai ardoll weithredu yng Nghymru dros nifer o flynyddoedd.

Rydym yn cydnabod y pryderon a fynegwyd gan ein partneriaid a chynrychiolwyr y diwydiant am ddatblygu ardoll ymwelwyr. Mae’r rhain yn cynnwys yr effaith y mae’r pandemig a’r argyfwng costau byw yn ei chael ar fusnesau. Rydym ar ddechrau’r broses ar hyn o bryd. Byddwn yn ystyried yr holl safbwyntiau a thystiolaeth wrth i’r cynigion gael eu datblygu, er mwyn helpu i lywio ein penderfyniadau.

Gwaith ymchwil ac asesu’r effaith

Wrth lunio deddfwriaeth, mae angen inni amlinellu’r effaith y mae ardoll yn debygol o’i chael – yr effaith gadarnhaol a’r effaith negyddol fel ei gilydd. Bydd asesiad effaith rheoleiddiol rhannol yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r ddogfen ymgynghori, gan amlinellu’r data sydd ar gael inni ar hyn o bryd.

Ynghyd â’r asesiad effaith rheoleiddiol rhannol, darperir casgliad o ffynonellau data ynghylch nifer yr ymwelwyr a’r sefydliadau llety, a hynny ar gyfer gwahanol fathau o sefydliadau (llety â gwasanaeth, llety hunanddarpar, gwersylla/carafannau, hostelau). Mae’r ffigurau hyn yn rhoi rhywfaint o gyd-destun defnyddiol ar gyfer dechrau amgyffred y refeniw posibl a gaiff ei greu, a chostau gweithredu.

Byddwn yn parhau i asesu’r effeithiau economaidd posibl, yn ogystal â’r effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol ehangach. Byddwn yn llunio Asesiad Effaith Rheoleiddiol a fydd yn amlinellu effeithiau posibl unrhyw ddeddfwriaeth a gynigir. Bydd yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn cyd-fynd â fersiwn ddrafft o’r Bil pan fydd yn cael ei gyflwyno gerbron y Senedd yn nhymor yr hydref 2024.

Rydym yn datblygu cronfa dystiolaeth gadarn i gefnogi’r gwaith o gynllunio’r ardoll a’i weithredu. Ym mis Mai 2022, cymeradwyodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol gyllid ar gyfer tri phrosiect ymchwil i gefnogi datblygiad yr ardoll ymwelwyr. Mae’r manylebau ar gael yma.

1. Dadansoddiad Cymharol o’r Systemau Trethiant sydd yn Effeithio ar yr Economi Ymwelwyr mewn Gwledydd Dethol

Yn ein gwaith o ymgysylltu â’r diwydiant twristiaeth, mae busnesau wedi amlygu pryderon am y baich treth y mae’r diwydiant yn ei wynebu. Mynegwyd pryderon ynghylch TAW yn benodol. Caiff cyfraddau TAW eu pennu gan Lywodraeth y DU. Cafodd y gyfradd TAW ei gosod yn 20% unwaith eto ar gyfer y sector lletygarwch gan Lywodraeth y DU o 1 Ebrill 2022. Mae hyn yn gynnydd o’r gyfradd o 12.5% a oedd yn berthnasol i’r sector ers mis Hydref 2021.

Rydym wedi comisiynu gwaith ymchwil er mwyn deall y gwahanol systemau trethiant a wynebir gan yr economi ymwelwyr yn gyffredinol, a’r sector llety yn arbennig, mewn gwledydd sydd â nodweddion tebyg i Gymru o ran yr economi a thwristiaeth. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall y beichiau treth cymharol a wynebir gan y diwydiant twristiaeth mewn gwledydd eraill, a sut y byddai’r ardoll arfaethedig yn rhyngweithio â’r rhain.

2. Gwaith ymchwil am yr elastigeddau sy’n berthnasol i ardoll ymwelwyr yng Nghymru

Mae’r gwaith ymgysylltu hefyd wedi amlygu pryderon am sut y bydd ardoll yn effeithio ar ymddygiad ymwelwyr a chyflenwyr. Mewn ymateb i hyn, rydym wedi comisiynu adolygiad o’r gwaith ymchwil presennol ar y pwnc hwn. Mae’r gwaith ymchwil yn archwilio’r dystiolaeth ynghylch pa mor ymatebol yw cyflenwyr a’r galw ymysg ymwelwyr i newidiadau ym mhris twristiaeth (‘yr elastigeddau pris’), a newidiadau yn y galw ymysg ymwelwyr yn sgil newidiadau i incwm ymwelwyr (‘elastigedd incwm y galw’).

Bydd y canfyddiadau cychwynnol yn cael eu defnyddio i lywio ein dealltwriaeth o effaith bosibl yr ardoll.

3. Dadansoddiad o ddemograffeg y sector llety yng Nghymru

Rydym hefyd wedi comisiynu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i lunio dadansoddiad o ddemograffeg y sector llety yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r data i lywio’r ddealltwriaeth o effaith bosibl yr ardoll, ac i gefnogi unrhyw weithgaredd gwerthuso sy’n cael ei ddatblygu.

4. Ymchwil defnyddwyr

Cafodd yr ymchwil ei gynllunio i gasglu sylwadau gan drigolion Cymreig ac ymwelwyr domestig o’r DU ynghylch yr ardoll ymwelwyr disgresiynol a allai gael ei gyflwyno. Mae wedi ystyried sylwadau ynghylch a ddylai ymwelwyr gyfrannu drwy ardoll, a yw ymwelwyr yn barod i dalu ardoll ac a fyddent yn newid eu hymddygiad petai ardoll yn cael ei gyflwyno.

Gwnaeth dros 2,500 o ymatebwyr lenwi’r arolwg ac roedd 1,005 ohonynt yn byw yng Nghymru. Roedd y canlyniadau yn dangos cefnogaeth eang i egwyddor ardoll ymwelwyr. Dangosodd yr ymchwil fod ymatebwyr yr arolwg yn fwy cadarnhaol na negyddol pan rannwyd â nhw y cysyniad o ardoll ymwelwyr mewn man lle y maen nhw’n mynd ar wyliau, neu yn eu hardal nhw. Roedd 45% yn gadarnhaol, a 25% yn negyddol. Gwelwyd canran uwch o agweddau cadarnhaol ymhlith pobl lle y mae llawer o dwristiaeth yn eu hardal.

Ar y cyfan, roedd y rhai hynny a gymerodd ran yn yr arolwg yn cefnogi egwyddor ardoll ymwelwyr. Roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr (58%) yn cytuno y dylai twristiaid gyfrannu tuag at gostau cynnal a buddsoddi yn y cyrchfannau y maen nhw’n aros ynddynt. Roedd y ganran yn codi ymhlith pobl sydd â llawer o dwristiaeth yn eu hardal – yng Nghymru (66%) a'r Deyrnas Unedig (72%), gyda 13% yn anghytuno.

Ymchwil ardoll ymwelwyr: barn defnyddwyr a thrigolion

Ardollau ymwelwyr a gyflwynwyd dramor

Mae ardollau ymwelwyr yn gyffredin ledled y byd, ac mae mwy o gyrchfannau twristiaid yn eu cyflwyno er mwyn helpu i ariannu’r gwasanaethau cyhoeddus a’r seilwaith sy’n rhan annatod o brofiad yr ymwelydd.

Yng Nghymru, rydym yn dylunio ardoll i alluogi awdurdodau lleol i gefnogi twristiaeth gynaliadwy, nid rhwystro ymwelwyr rhag ymweld.

Defnyddir ardollau ymwelwyr yn llwyddiannus ar draws y byd i wella’r cynnig twristiaeth i ymwelwyr, gan gynnwys:

Yn yr enghreifftiau rhyngwladol, mae ardoll yn creu arian sy’n darparu cymorth yng nghyswllt mannau gwyrdd, strydoedd glân, cyfleusterau i ymwelwyr, cymunedau lleol, gwaith diogelu henebion, a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r rhain yn elfennau annatod o brofiad ymwelydd.

Fersiwn o ardoll ymwelwyr a weithredir yn gyffredin yw ardoll ar arosiadau dros nos mewn llety twristiaid. Mae dyluniad ardoll twristiaeth, ei gyfraddau, a’r dull o’i gymhwyso yn amrywio yn rhyngwladol. Mewn modelau rhyngwladol, mae’r ardoll yn amrywio o £0.50 i £5.00 y noson. Yn aml, caiff ei godi fesul person, ac mae’n tueddu i amrywio yn ôl y math o lety neu’r gost.

Prin yw’r dystiolaeth sy’n awgrymu bod ardollau’n cael effaith economaidd negatif, pan fônt yn gymesur. Tystiolaeth gyfyngedig a geir hefyd ynghylch effeithiau dadleoli.

Mae Gwlad Groeg yn gweithredu ardoll ar draws y wlad. Yn yr Eidal, caiff ei gymhwyso ar lefel bwrdeistref dinas/tref. Gweithredir ardoll ar draws Catalonia gyfan.

Yn ddiweddar, mae rhagor o gyrchfannau yn bwrw ati i gyflwyno ardoll ymwelwyr. Ym mis Mai 2023, cyflwynwyd Bil Ardoll Ymwelwyr (Yr Alban) gerbron Senedd yr Alban. Os caiff ei basio, bydd y ddeddfwriaeth yn rhoi’r gallu i gynghorau lleol ychwanegu treth at lety ymwelwyr dros nos os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Ar 1 Ebrill eleni, cyflwynodd Manceinion Dâl Ymweld â’r Ddinas ar gyfer ymwelwyr sy’n aros dros nos mewn llety penodol.

Y camau nesaf

Mae manylion canlyniad yr ymgynghoriad a ddaeth i ben ar 13 Rhagfyr 2022 i’w gweld yma.

Yn rhan o’r ymgynghoriad, rhoddwyd sylw i ddyluniad arfaethedig yr ardoll ymwelwyr. Ym mis Rhagfyr 2022, gwnaethom gomisiynu dadansoddiad annibynnol o’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Cynhaliwyd y gwaith hwn gan Alma Economics.

Gwnaethom hefyd gyhoeddi canlyniadau’r ymchwil defnyddwyr annibynnol a gynhaliwyd gan BVA-Bdrc a archwiliodd farn y cyhoedd am ardoll ymwelwyr.

Ar ran Gweinidogion Cymru, cynhaliodd Awdurdod Cyllid Cymru ymchwil defnyddwyr i ddeall sut mae darparwyr llety yn gweithredu ar hyn o bryd yn ogystal â rhannu gwybodaeth ynglŷn â sut byddai ardoll ymwelwyr yn cael ei rhoi ar waith. Cynhaliwyd gweithdai gyda nifer o ddarparwyr llety ledled Cymru.

Byddwn yn parhau i ymwneud â’n partneriaid allweddol i ddeall safbwyntiau gwahanol ac i lywio’r gwaith o ddylunio’r ardoll a fydd yn gweithio i bawb yng Nghymru.

Wrth inni ddatblygu cynigion deddfwriaethol, byddwn yn asesu’r effeithiau economaidd posibl, yn ogystal â’r effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol ehangach o ran rhoi ardoll ymwelwyr ar waith yng Nghymru.

Ein nod yw cadw dyluniad yr ardoll, a’r modd y caiff ei rhoi ar waith, yn syml ac yn glir, er mwyn ceisio rhoi cyn lleied o faich gweinyddol â phosibl ar ddarparwyr llety ac awdurdodau lleol.

Y broses ddeddfwriaethol

Bydd fersiwn ddrafft o Fil yn cael ei gyflwyno gerbron y Senedd erbyn diwedd 2024. Bydd y Senedd yn craffu ar y fersiwn ddrafft o’r Bil, ac efallai y bydd yn cynnig ei ddiwygio yn rhan o’i hadolygiad, cyn penderfynu drwy bleidlais a ddylid ei gymeradwyo ai peidio. Bydd hyn yn cymryd amser. Rydym yn tybio y bydd y penderfyniad hwn yn cael ei wneud yn 2025.

Os bydd y Senedd yn cymeradwyo'r ddeddfwriaeth, bydd rhaid i bob awdurdod lleol benderfynu a yw'n dymuno dechrau'r broses i gyflwyno ardoll yn eu hardaloedd.
Byddai angen i awdurdod lleol ymgynghori â'i gymunedau, a chwblhau ei asesiadau effaith ei hun, i lywio ei benderfyniad ynghylch rhoi ardoll ar waith.

Unwaith y bydd awdurdod lleol yn penderfynu cyflwyno ardoll, bydd cyfnod rhybudd er mwyn sicrhau bod busnesau ac ymwelwyr yn cael amser i baratoi.

Drwy'r broses uchod, rydym yn amcangyfrif mai'r cynharaf y bydd ardoll ymwelwyr ar waith mewn unrhyw ran o Gymru yw 2027.

Byddai'r ardoll ymwelwyr yn rhoi pŵer yn nwylo cymunedau lleol ac yn rhoi adnodd iddynt i hybu twristiaeth gynaliadwy ac adfywiol.