Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru): asesiad effaith prawf gwledig
Asesiad effaith prawf gwledig o Fil sy'n rhoi'r dewis i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr yn eu hardal.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i alluogi awdurdodau lleol i gyflwyno ardoll ymwelwyr yn eu hardal, ac mae hyn yn ymrwymiad sy’n cael blaenoriaeth yn y Rhaglen Lywodraethu. Bydd yr ardoll yn gyfraniad teg gan ymwelwyr ac yn cael ei chodi ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr. Bydd yn codi arian ychwanegol er mwyn i awdurdodau lleol ail-fuddsoddi yn y gwasanaethau cyhoeddus a’r seilwaith sy’n sicrhau bod twristiaeth yn llwyddiant. Bydd gan bob awdurdod lleol y pŵer i benderfynu cyflwyno ardoll ymwelwyr yn ei ardal, sy’n golygu y bydd hon yn ardoll leol newydd wedi’i dylunio mewn ffordd sy’n gweithio i drigolion, busnesau ac ymwelwyr. Gellir dod o hyd i fanylion am y Bil Ardoll Ymwelwyr yma.
O ran ei dyluniad, mae'r ardoll wedi'i chadw'n syml ond yn deg er mwyn helpu i leihau unrhyw effeithiau negyddol posibl; rydym yn rhagweld y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar ardaloedd lleol sy'n dewis defnyddio ardoll drwy gynhyrchu refeniw i gefnogi ardaloedd lleol, a thrwy hynny wella enw da'r gyrchfan a chefnogi'r economi ymwelwyr.
Bydd cofrestr statudol o ddarparwyr llety ymwelwyr, sy’n cynnwys pob llety ymwelwyr diffiniedig yng Nghymru, yn cefnogi cyflwyno ardoll ymwelwyr ac yn galluogi gwell dealltwriaeth o’r sector er mwyn helpu i lywio ymyriadau polisi yn y dyfodol.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion ar gyfer yr ardoll ymwelwyr rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2022, a gellir dod o hyd i’r manylion a’r canlyniadau yma, ochr yn ochr ag ymchwil defnyddwyr i geisio barn trigolion Cymru a defnyddwyr gwyliau domestig yn y DU yma.
Mae'r asesiad effaith hwn yn ymwneud â'r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) drafft a dylid ei ystyried ochr yn ochr ag ef.
Diffiniadau
Geiriau/ymadroddion allweddol
Diffiniad.
ACC
Ystyr ACC yw Awdurdod Cyllid Cymru, adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru sydd ar hyn o bryd yn cyflwyno’r ddwy dreth ddatganoledig yng Nghymru: Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi.
Ad-daliadau
Pan fydd yr ardoll ymwelwyr wedi'i throsglwyddo i ymwelydd a bod y ddeddfwriaeth yn caniatáu iddynt gael ad-daliad.
Ardoll Ymwelwyr
Tâl ychwanegol a godir ar lety ymwelwyr dros nos. Cyfeirir at hyn hefyd mewn gwledydd eraill fel treth dwristiaeth, treth llety, neu dreth gwesty.
Awdurdod Lleol/ Awdurdodau Lleol
Y 22 Prif Gyngor yng Nghymru, y cyfeirir atynt hefyd fel Awdurdodau Unedol.
Cyfraddau Sero
Arhosiad mewn llety ymwelwyr ag ardoll ar gyfradd o £0.
Darparwr Llety Ymwelwyr
Person/ busnes sy’n darparu neu’n cynnig darparu llety i ymwelwyr mewn safleoedd yng Nghymru wrth fasnachu neu gynnal eu busnes.
Esemptiadau
Mathau o lety na fydd yn destun ardoll ymwelwyr.
Llety Ymwelwyr
Llety i ymwelwyr sy'n cael ei ddiffinio yn y Bil sy'n ddarostyngedig i gofrestru fel darparwr llety i ymwelwyr.
Twristiaeth gynaliadwy
Twristiaeth sy’n rhoi ystyriaeth lawn i’w heffeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol nawr ac yn y dyfodol, gan fynd i’r afael ag anghenion ymwelwyr, y diwydiant, yr amgylchedd a’r cymunedau sy’n croesawu ymwelwyr. (Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig).
Ymwelydd
Person sy'n aros mewn llety ymwelwyr.
Llinell amser ddangosol
2024 Cyflwyno
Cyflwyno'r bil llety ymwelwyr i'w graffu gan y Senedd. Cyhoeddi'r Asesiadau Effaith.
2025 Senedd yn pleidleisio
Os yw'r bil yn pasio, cael Cydsyniad Brenhinol.
2025 Disgresiwn lleol
Awdurdod lleol yn gallu dechrau ymgynhori'n lleol ac asesu effaith ardoll ymwelwyr.
2026 Cyfnod rhybudd
Cyfnod rhybudd tebygol o 12 mis os yw awdurdod yn penderfynu cyflwyno ardoll.
2026 Cofrestru
Darparwyr llety'n dechrau cofrestru mewn ardaloedd fydd yn cyflwyno'r ardoll.
2027 Gweithredu
Dyddiad dangosol cyflwyno'r ardoll gan awdurdod lleol.
1. Ymwelwyr i Gymru
1.1 Gwnaed mwy na 69 miliwn o ymweliadau â Chymru yn 2023, gan arwain at gyfanswm gwariant o fwy na £4.95 biliwn. Roedd 8.65 miliwn o'r ymweliadau hyn yn cynnwys aros dros nos, gan arwain at wariant o £2.02 biliwn (Ystadegau twristiaeth ddomestig Prydain Fawr (tripiau dros nos): Hydref i Ragfyr 2023).
1.2 Yn 2022, roedd gwasgariad o ran lleoliadau, lle’r oedd 1 o bob 4 taith yng Nghymru i leoliad cefn gwlad neu bentref, a chynnydd yng nghyfran y teithiau i ddinasoedd a threfi mawr yn 2022 (28%) o’i gymharu â 2021 (23%). Roedd cyfran llawer uwch o'r teithiau yng Nghymru yn 2021 a 2022 i'r ardaloedd glan môr ac arfordirol o'i gymharu â Phrydain Fawr yn gyffredinol (20%). Mae hyn yn adlewyrchu'r gyfran uwch o deithiau yng Nghymru (Ystadegau twristiaeth ddomestig Prydain Fawr (tripiau dros nos): 2022).
1.3 Roedd ymwelwyr ar deithiau i Gymru yn 2022 yn fwyaf tebygol o fod yn aros mewn llety â gwasanaeth (38%) ac yna carafán/gwersylla/glampio (21%), 21% yn aros mewn cartrefi preifat, a 12% yn aros mewn llety hunanddarpar a oedd yn cael ei rentu (ibid).
2. Cyd-destun twristiaeth
2.1 Gall twristiaeth ddylanwadu ar gymunedau lleol yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol. Gall effeithiau economaidd cadarnhaol twristiaeth gynnwys creu mwy o swyddi a chyfleoedd cyflogaeth, cynyddu incwm y cartref, a gwella safonau byw. Gall effeithiau economaidd negyddol twristiaeth gynnwys cynnydd mewn costau byw, cynnydd ym mhris eiddo, nwyddau, a chynhyrchion eraill, a chynnydd mewn trethi eiddo.
2.2 Gall twristiaeth wella argaeledd cyfleusterau hamdden mewn cymunedau, gwella dealltwriaeth o hunaniaeth ddiwylliannol ac iaith, a hyrwyddo gwarchod ac adfywio celfyddydau traddodiadol, iaith a diwylliant. Gall effeithiau cymdeithasol negyddol twristiaeth gynnwys gormod o alw am gyfleusterau a gwasanaethau, yn ogystal â thagfeydd traffig ar y ffyrdd, cynnydd mewn troseddau, a mwy o sbwriel.
2.3 O safbwynt amgylcheddol, mae effeithiau negyddol posibl twristiaeth yn cynnwys difrod i'r amgylchedd naturiol, a mwy o lygredd aer, llygredd dŵr, a mathau eraill o lygredd amgylcheddol.
2.4 Efallai y bydd rhai gwahaniaethau rhwng ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol o ran sut mae’r effeithiau hyn yn cael eu hamlygu (Urban vs. rural destinations). Mae gweithredwyr twristiaeth mewn ardaloedd gwledig yn tueddu i fod yn gwmnïau llai o faint, yn fusnesau teuluol, â’u gwreiddiau yn y gymuned leol ac yn aml yn arddangos cynhyrchion amaethyddol lleol a gweithgareddau diwylliannol. Gall twristiaeth wledig ysgogi cynhyrchiant economaidd lleol drwy greu gwasanaethau a chyfleoedd gwaith sy’n darparu budd economaidd i’r ardal. Er enghraifft, mae twristiaeth wledig yn cynnig manteision i gymunedau lleol drwy ddarparu ffynhonnell incwm atodol i’r sector ffermio a’r sector gwasanaeth. Gall hyn gefnogi'r economi leol gyda ffynonellau newydd o incwm a chyflogaeth sy’n cael eu creu trwy dwristiaeth.
2.5 Y gwahaniaeth allweddol rhwng twristiaeth wledig a thwristiaeth drefol yw bod gweithgareddau’n cael eu hintegreiddio â gweithgareddau trefol eraill mewn dinasoedd neu ardaloedd mwy adeiledig. Mae twristiaid yn defnyddio llawer o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau a geir mewn dinasoedd, a rhai ohonynt yn cael eu darparu’n benodol ar gyfer twristiaid. Er mai trigolion yr ardaloedd trefol yw prif fuddiolwyr y rhan fwyaf o gyfleusterau trefol, megis trafnidiaeth gyhoeddus, ffyrdd, seilwaith a gwasanaethau, maent hefyd ar gael i ymwelwyr eu defnyddio. Fodd bynnag, oherwydd bod gan ddinasoedd sylfaen economaidd eang fel arfer, mae llai o wasanaethau uniongyrchol a darpariaeth seilwaith yn benodol ar gyfer ymwelwyr, sydd hefyd o fudd i drigolion, ac mae’r ddibyniaeth economaidd ar dwristiaeth yn is.
2.6 Er enghraifft, roedd diwydiannau twristiaeth i gyfrif am 11.8% o gyflogaeth (159,000) yng Nghymru yn 2022, gostyngiad o 161,000 yn 2019 (12.1% o gyflogaeth yng Nghymru) ac yn ystod y cyfnod hwn, nid oedd lefelau cyflogaeth cyffredinol yng Nghymru wedi newid. Yn rhanbarthol, yng Nghanolbarth Cymru, roedd 13.2% o gyflogaeth yn y diwydiant twristiaeth yn 2020, y gyfran fwyaf o’r pedwar rhanbarth, o’i gymharu â dim ond 10.0% yn Ne-ddwyrain Cymru. Gellir gweld patrwm tebyg dros y blynyddoedd diwethaf, gyda Gogledd a Chanolbarth Cymru â’r gyfran fwyaf o gyflogaeth mewn diwydiannau twristiaeth, a De-ddwyrain Cymru yr isaf. Ceir amrywiaeth sylweddol o fewn rhanbarthau ac ar draws y wlad. Yn Sir Benfro ac Ynys Môn, roedd dros 20% o gyflogaeth mewn diwydiannau twristiaeth, yr uchaf o’r holl awdurdodau lleol, gyda’r lefelau isaf, dim ond 6%, yn Wrecsam (Proffil Economi Ymwelwyr Cymru: 2021).
3. Sut bydd y cynnig yn effeithio ar fywydau pobl yng nghefn gwlad, yn gadarnhaol ac yn negyddol? Er enghraifft, fel defnyddwyr gwasanaeth, gweithwyr a defnyddwyr
I. Effeithiau cadarnhaol posib
3.1 Mae’r economi ymwelwyr yn ffynhonnell bwysig ar gyfer swyddi a thwf economaidd ledled Cymru. Uchelgais Llywodraeth Cymru yw tyfu twristiaeth er budd Cymru drwy gefnogi cymunedau lleol mewn ffordd sy’n gynaliadwy ar gyfer tir ac amgylchedd Cymru, gan ddatblygu fframwaith sydd o fudd i ymwelwyr a dinasyddion fel ei gilydd.
3.2 Mae twristiaeth yn gyfrannwr economaidd mawr (Proffil Economi Ymwelwyr Cymru: 2021) mewn ardaloedd gwledig ac arfordirol, un sy’n darparu cyflogaeth a buddsoddiad ac yn arwain at ddarparu cyfran lawer uwch o'r economi leol. Mae cyfran helaeth o ymwelwyr yn cael eu denu i Gymru ar eu gwyliau gan y golygfeydd a’r harddwch naturiol (Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr: 2019), felly byddai unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol a ddaw yn sgil yr ardoll yn fwy yn y rhannau o Gymru sy’n croesawu mwy o ymwelwyr (sy’n cynnwys ardaloedd gwledig ac arfordirol). Gallai ardoll helpu i ddiogelu’r profiad hwn pe bai refeniw yn cael ei fuddsoddi mewn mentrau i gynnal neu wella mannau gwyrdd, traethau ac adnoddau naturiol neu fynediad i’r mannau hynny.
3.3 Byddai ardoll ymwelwyr yn golygu y byddai ymwelwyr o Gymru a thu hwnt yn gwneud cyfraniad er mwyn helpu i gynnal gwasanaethau a seilwaith lleol, gan annog tegwch rhwng trigolion ac ymwelwyr o ran sut mae’r rhain yn cael eu hariannu. Mae angen cyllid cyhoeddus ar ardaloedd lleol a rhanbarthau i gynnal seilwaith a gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol ac ymwelwyr. Gall y refeniw a gynhyrchir drwy fabwysiadu ardoll ymwelwyr helpu i reoli cyrchfannau mewn ffordd arloesol a chynaliadwy, fel sy’n gyffredin ledled y byd yn y gwledydd hynny sydd ag ardollau ymwelwyr.
3.4 O lond llaw o astudiaethau achos (Tourism taxes by design), mae'n amlwg y gall refeniw o ardollau ymwelwyr wneud gwahaniaeth cadarnhaol i waith cyrchfannau mewn cadwraeth natur, adfer treftadaeth ddiwylliannol, a helpu i ariannu prosiectau cymdeithasol a chymunedol. Er bod ardollau yn aml yn bwnc trafod llosg a rhanddeiliaid y diwydiant yn eu gwrthwynebu, mae tystiolaeth hefyd bod parodrwydd i dalu (PiD) ymhlith defnyddwyr yn gymharol uwch os yw diben y dreth a sut y defnyddir y refeniw yn dryloyw ac ystyrlon. Hefyd, mae ardollau o'r fath yn aml yn cael eu ffafrio gan drigolion a gallant ddarparu sylfaen ar gyfer cydweithredu cryfach mewn cyrchfannau.
3.5 Comisiynodd Llywodraeth Cymru ymchwil defnyddwyr er mwyn casglu sylwadau gan drigolion Cymru ac ymwelwyr domestig o’r DU ynghylch yr ardoll ymwelwyr a allai gael ei gyflwyno. Roedd y mwyafrif (58%) o'r ymatebwyr yn cytuno y dylai twristiaid gyfrannu tuag at gostau cynnal a buddsoddi yn y cyrchfannau y maen nhw’n aros ynddynt. Roedd y ganran yn codi ymhellach ymhlith pobl sydd â llawer o dwristiaeth yn eu hardal – yng Nghymru (66%) a'r Deyrnas Unedig (72%). Roedd 13% yn anghytuno (Ymchwil ardoll ymwelwyr: barn defnyddwyr a thrigolion).
3.6 Bydd y manteision a'r costau sy'n gysylltiedig â chroesawu ymwelwyr yn amrywio ledled Cymru. Bydd llawer iawn o ymwelwyr yn ymweld â rhai rhannau o Gymru ar adegau prysur (h.y. yn ystod yr haf) sy'n achosi straen i wasanaethau a seilwaith lleol. Yr ardaloedd hynny fyddai’n cael y budd mwyaf o ardoll.
3.7 Bydd yr ardoll yn ddewisol ei natur, gan alluogi’r 22 prif awdurdod yng Nghymru (cynghorau sir a bwrdeistref sirol) i arfer eu barn eu hunain ynghylch ei gyflwyno ai peidio. Ein nod yw rhoi'r awdurdod i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau yn unol ag anghenion eu cymunedau. Mae hyn yn cyd-fynd â dull polisi ehangach Llywodraeth Cymru ar drethi lleol.
II. Effeithiau negyddol posib
3.8 Mae trafodaethau gyda'r sector wedi amlygu effeithiau anghymesur chwyddiant ar gostau busnesau gwledig (The cost-of-living squeeze: Distributional implications of rising inflation). Gall darparwyr llety ymwelwyr mewn ardaloedd gwledig wynebu costau uwch oherwydd eu lleoliad unigryw. Gall y rhain gynnwys costau ynni a thrafnidiaeth uwch. Yn ogystal, efallai y bydd ganddynt heriau pellach yn ymwneud â recriwtio oherwydd bod y farchnad lafur yn llai mewn ardaloedd gwledig.
3.9 Cydnabyddir bod darparwyr llety ymwelwyr yn fwy tebygol o fod yn fusnesau bach, neu’n ficrofusnesau (Arolygon deiliadaeth llety twristiaeth Cymru: Ionawr i Fawrth 2023) ac felly, gall y gwaith gweinyddol sy’n gysylltiedig â’r ardoll fod yn fwy o faich ar y busnesau hyn, yn enwedig y rhai sydd â systemau cyfrifyddu llai soffistigedig. Bydd angen i fusnesau ddiweddaru eu systemau digidol a chynnwys prosesau newydd ar gyfer ffeilio a chyflwyno ffurflenni treth er mwyn gweinyddu ardoll ymwelwyr yn effeithiol. Mae hyn yn faich gweinyddol ychwanegol ar y busnesau hyn; mae'r baich hwn yn cynyddu i'r busnesau hynny sydd â llai o allu digidol. Fodd bynnag, mae’r ardoll yn syml o ran ei dyluniad ac mae’n debygol y bydd y baich yn fach iawn oherwydd gall y rheini sy’n casglu llai na £1000 mewn ardoll ddychwelyd yr ardoll i Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn llai aml (yn flynyddol yn hytrach na bob chwarter). Drwy’r ffordd Gymreig o drethu (Cynllun Corfforaethol Awdurdod Cyllid Cymru 2022 i 2025), bydd ACC yn profi, yn dysgu ac yn mesur effaith hyn drwy eu data ac yn argymell newidiadau os oes angen er mwyn sicrhau nad yw’r baich gweinyddol yn drwm ar fusnesau bach. Mae’n bosibl y bydd angen gwneud rhywfaint o ymdrech ychwanegol i gadarnhau nifer yr ymwelwyr er mwyn codi’r tâl cywir, fodd bynnag mae’r wybodaeth hon eisoes yn cael ei chasglu’n rheolaidd gan y rhan fwyaf o ddarparwyr.
3.10 Er nad dyna nod yr ardoll ymwelwyr, amcangyfrifir y gallai fod ymateb ymddygiadol (rydym wedi cymryd yn ganiataol y byddai busnesau’n trosglwyddo’r costau’n llawn i ymwelwyr yn hytrach na’u hamsugno). Nid yw’n bosibl amgyffred yn iawn beth fydd yr amodau economaidd ehangach pan fydd ardoll yn cael ei chyflwyno, oherwydd bydd yn cymryd amser i awdurdodau lleol benderfynu a ddylid mabwysiadu ardoll ymwelwyr ai peidio mewn ymgynghoriad â’u cymunedau. Pe bai awdurdod lleol yn dewis cyflwyno ardoll ymwelwyr gallai hynny achosi ymateb ymddygiadol andwyol ymysg ymwelwyr gan arwain at ostyngiad yn y galw.
3.11 Mae ein hasesiad o’r effaith economaidd (Effeithiau posibl ardoll ymwelwyr yng Nghymru ar yr economi a nwyon tŷ gwydr) yn amcangyfrif unrhyw newidiadau i gyflogaeth o ganlyniad i’r ardoll ymwelwyr yn seiliedig ar dri senario sy’n amrywio o ymateb ymddygiadol gwan, canolig a chryf i’r ardoll. Mae'r amcangyfrifon yn amrywio o gynnydd net o 100 o swyddi cyfwerth ag amser llawn (CALl) mewn senario wan i golli tua 390 o swyddi cyfwerth ag amser llawn mewn sefyllfa gref. Er enghraifft, gallai gostyngiad yn y galw arwain at gyflogwyr yn lleihau oriau, recriwtio, cynlluniau buddsoddi, cyflogau neu mewn rhai achosion ddileu swyddi. Gall hyn effeithio ar weithwyr yn y pen draw. Mae'n anochel bod y canlyniadau hyn yn ansicr ac maent yn seiliedig ar effaith net gyffredinol gan fod cynnydd mewn swyddi CALl o ganlyniad i wariant refeniw ardoll ymwelwyr sy'n gwrthbwyso’r colledion. Mae tystiolaeth o gyrchfannau eraill yn awgrymu bod hyn yn annhebygol ac os bydd yn digwydd, efallai mai dim ond yn y tymor byr y bydd yn digwydd, gyda’r refeniw a gynhyrchir o ardoll yn y tymor hwy yn gorbwyso unrhyw effeithiau tymor byr.
3.12 Yn y pen draw, bydd ffactorau ehangach yn dylanwadu ar ymddygiad ymwelwyr a chyflogwyr, gan gynnwys y cyd-destun macro-economaidd, felly ni fyddai’n ymarferol amlinellu’r union effaith economaidd a ddaw yn sgil ardoll ymwelwyr. Bydd ffactorau fel y tywydd, yr adeg o'r flwyddyn, lefelau incwm gwario, yr hyn y mae cyrchfannau eraill yn ei wneud, cyflwr yr economi a ffactorau eraill i gyd yn effeithio ar ymddygiad ymwelwyr.
3.13 Yn ogystal, pe bai'r refeniw ychwanegol a godir yn ysgogi gwelliannau i'r seilwaith a’r gwasanaethau lleol, gallai hyn arwain at gynnydd yn nifer yr ymwelwyr â'r ardal, gan sbarduno mwy o gyfleoedd cyflogaeth yn y sector twristiaeth.
III. Crynodeb o'r effeithiau posibl
3.14 Fel y trafodwyd yn ein hasesiad o effeithiau posibl ar ardaloedd gwledig a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r ymgynghoriad ar ardoll ymwelwyr (Ardoll ymwelwyr dewisol i awdurdodau lleol) ym mis Medi 2022, gallai cyflwyno’r ardoll gael effeithiau andwyol ar ardaloedd mwy gwledig yng Nghymru. Mae twristiaeth yn sector arallgyfeirio pwysig i’r diwydiant ffermio ac mae’n gwneud cyfraniad sylweddol i economïau ardaloedd gwledig.
3.15 I grynhoi, pe bai llai o ymwelwyr yn dod i Gymru (neu i awdurdod lleol penodol yng Nghymru), oherwydd y costau uwch am aros dros nos, yna gallai hyn leihau cyfraddau defnydd llety, gan effeithio'n negyddol ar hyfywedd y busnesau lleiaf. Fel y nodir uchod, disgwylir effeithiau cadarnhaol hefyd ar draws economi Cymru wrth i’r refeniw treth gael ei ail-wario gan awdurdodau lleol ledled Cymru. Yr awdurdod lleol fydd yn penderfynu sut i ddefnyddio’r refeniw, ac mae’r Bil yn cynnig bod y refeniw yn cael ei wario ar brosiectau sy’n ymwneud â rheoli a gwella cyrchfannau.
3.16 Os oes rhai ardaloedd gwledig yn fwy dibynnol ar incwm sy’n deillio o dwristiaeth, yna gallai’r effeithiau cadarnhaol neu negyddol a ddaw yn sgil ardoll fod yn amlycach yn yr ardaloedd hyn. Gallai’r ardoll gynyddu’r galw am dwristiaeth os yw’r refeniw yn cael ei wario’n strategol neu gallai arwain at ostyngiad os na chaiff y refeniw ei ddefnyddio’n effeithiol. Mater i'r awdurdod lleol perthnasol fyddai penderfynu ynghylch mabwysiadu ardoll a sut i ddefnyddio'r refeniw.
4. A fydd mynediad yn broblem i bobl yng nghefn gwlad? Os felly, beth fydd yn cael ei wneud i oresgyn y rhwystrau hynny?
1. Amherthnasol
5. Sut mae'r cynnig wedi ystyried anghenion pobl yng nghefn gwlad e.e. y boblogaeth hŷn, diffyg tai fforddiadwy, gofynion ieithyddol?
5.1 O ran ymwelwyr, mae teithiau i Gymru wedi’u gwasgaru ar draws gwahanol grwpiau oedran, ond y rhai yn yr ystod oedran 25 i 34 oed a gynhyrchodd y nifer uchaf o deithiau yng Nghymru yn 2022, sef 27% (Ystadegau twristiaeth ddomestig Prydain Fawr, arolwg twristiaeth dros nos Cymru, adroddiad blynyddol: 2022). Roedd ymwelwyr o’r grŵp oedran 55 oed neu hŷn i gyfrif am gyfran uwch o ymwelwyr i Brydain Fawr o’i gymharu â Chymru. Roedd cynnydd yng nghyfran yr ymwelwyr iau (16-34 oed) yn 2022 sef 50% o'r holl deithiau yng Nghymru o'i gymharu â 44% yn 2021. Roedd maint cyfartalog partïon o ymwelwyr oedd yn teithio i Gymru ychydig yn fwy sef 3.0 o ymwelwyr o’i gymharu â 2.7 o ymwelwyr ar gyfer Prydain Fawr, ac roedd 36% o deithiau yng Nghymru yn cynnwys plant o’i gymharu â 32% ym Mhrydain Fawr yn gyffredinol.
5.2 Mae’r cynnig yn darparu mecanwaith i awdurdodau lleol godi ardoll ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr yn eu hardaloedd. Mae anghenion cymunedau lleol yn amrywio ledled Cymru a byddai angen i awdurdodau lleol ymgynghori â thrigolion eu hardal er mwyn llywio eu penderfyniadau wrth ystyried cyflwyno ardoll ymwelwyr.
5.3 Mae cyflwyno ardoll ymwelwyr i Gymru yn rhoi cyfle i awdurdodau lleol Cymru gefnogi a gwella’r cyrchfannau ymwelwyr o safon fyd-eang sydd yng Nghymru drwy gyllid a buddsoddiad ychwanegol. Byddai hyn yn helpu i hyrwyddo cynaliadwyedd parhaus cyrchfannau ymwelwyr ledled Cymru, yn ogystal â’r gwasanaethau y mae trigolion mewn ardaloedd gwledig yn dibynnu arnynt.
5.4 Rydym yn sylweddoli bod rhai teuluoedd ffermio yn cynnal eu busnes a’u bywydau bob dydd drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel rhan o gynllunio a chreu’r gwasanaeth ardoll ymwelwyr, bydd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn rhoi’r Gymraeg wrth wraidd y gwaith o’i ddatblygu. Mae eu gwasanaethau i gyd ar gael yn ddwyieithog ac maent yn cadw at safonau’r Gymraeg. Byddant yn datblygu systemau a chynnwys yn y ddwy iaith ar yr un pryd, wedi'u profi gyda defnyddwyr, i sicrhau bod y gwasanaethau'n addas i'r diben. Mae ACC yn gweithredu ei wasanaethau sy’n ymwneud â chwsmeriaid megis swyddogaethau canolfannau galwadau, gohebiaeth, canllawiau, a digwyddiadau yn ddwyieithog er mwyn caniatáu i bobl ddefnyddio eu gwasanaethau yn eu dewis iaith. Bydd Llywodraeth Cymru ac ACC yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod y gwasanaethau presennol ac ar gyfer y dyfodol yn cael eu hyrwyddo’n ddwyieithog.
5.5 Mae unrhyw effeithiau dadleoli yn sgil yr ardoll yn cyfeirio at y gostyngiad posibl mewn galw am dwristiaeth. Mae’n debygol na fyddai’n effeithio ar y defnydd o’r Gymraeg, er y gallai fod llai o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg pe byddai gostyngiad yn y galw, gan nodi ei bod yn debygol y bydd cyfran lai o ymwelwyr sy’n siarad Cymraeg o gyfanswm y boblogaeth sy’n ymweld. Nid oes gennym unrhyw dystiolaeth sy’n dangos y byddai pobl yn gadael eu cymunedau oherwydd ardoll ymwelwyr yn benodol – er ein bod yn nodi y gallai fod amrywiaeth o ffactorau sy’n ysgogi ymddygiad o’r fath megis gostyngiad yn y gefnogaeth ariannol gan y llywodraeth, costau cynyddol gwneud busnes (y gallai ardoll fod yn ffactor ohono), diffyg rhagolygon cyflogaeth, ac amodau economaidd gwael.
5.6 Ar lefel fyd-eang, mae ardollau ymwelwyr yn darparu cyllid sy'n cefnogi mannau gwyrdd, strydoedd glân, cyfleusterau ymwelwyr, cymunedau lleol, cadwraeth henebion, a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r rhain yn elfennau hanfodol o brofiad ymwelwyr ac amwynderau’r trigolion.
6. A fydd y cynnig yn arwain at wasanaethau newydd neu at gau gwasanaethau presennol? Sut fyddwch chi'n sicrhau'r effeithiau cadarnhaol mwyaf posibl ac yn lliniaru effeithiau negyddol?
Amherthnasol
7. A yw’r polisi yn gofyn am brynu neu ddefnyddio tir? A ydych wedi ystyried ffactorau gwledig megis gwerth, argaeledd neu ddynodiadau cyfyngol ar dir?
Amherthnasol
8. A fydd y cynnig yn gweithio ar dir anodd e.e. ffyrdd cul a mynyddoedd serth? Os mai na oedd eich ateb, sut fyddwch chi'n goresgyn y rhwystrau?
Amherthnasol
9. A yw’r cynnig yn berthnasol i BBaChau neu ficrofentrau? Os felly, sut ydych chi wedi ystyried eu sefyllfa? A yw’r cynnig yn disgwyl i fusnesau allu cael cymorth? (Gall hyn fod ar ffurf cyngor, hyfforddiant, cyllid ac ati) Os felly, pa rwystrau fydd bus
I. Maint y sector
9.1 Bydd effeithiau’r ardoll ymwelwyr yn amrywio rhwng darparwyr llety ymwelwyr yn seiliedig ar eu maint. Nodweddir yr economi ymwelwyr gan nifer fawr o fusnesau bach a microfusnesau. Mae busnesau llai o faint o'r fath yn gweithredu ar sail maint elw bach ac, yn aml, heb fawr ddim clustog o ran cyfalaf, sy'n golygu y gall newidiadau bach yn y system dreth olygu ei bod yn fwy anodd iddynt ymdopi ag effaith unrhyw newidiadau mewn prisiau a chostau gweinyddol ychwanegol.
9.2 Pe bai llai o ymwelwyr yn dod i Gymru (neu i awdurdod lleol penodol yng Nghymru), oherwydd y costau uwch am aros dros nos, yna gallai hyn leihau cyfraddau defnydd llety, gan effeithio'n negyddol ar hyfywedd y busnesau lleiaf. Er hynny, mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod hyn yn annhebygol o ddigwydd a phe byddai’n digwydd byddai ar lefel ymylol ac yn y tymor by (Adolygiad tystiolaeth o elastigion sy'n berthnasol i ardoll ymwelwyr yng Nghymru).
9.3 I gydnabod bod llawer o ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru yn fusnesau bach a chanolig mewn ardaloedd arfordirol a gwledig, cynhaliodd ACC ymchwil defnyddwyr gydag amrywiaeth o ddarparwyr llety ledled Cymru. Bydd ACC yn parhau i wneud hyn wrth iddynt ddatblygu’r gwasanaeth ardoll ymwelwyr ac ymgysylltu â chyrff proffesiynol yn y cymunedau twristiaeth a ffermio i helpu i ymgysylltu â grwpiau anodd eu cyrraedd a dysgu oddi wrthynt.
II. Hyfforddiant a chanllawiau
9.4 Er mwyn lliniaru’r effaith hon, rydym wedi gweithio gyda rhanddeiliaid, ochr yn ochr ag ACC, er mwyn deall yr effeithiau posibl a byddwn yn datblygu canllawiau a sesiynau hyfforddi er mwyn helpu darparwyr llety ymwelwyr i weinyddu’r ardoll. Bydd canllawiau’n cael eu datblygu gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau er mwyn helpu awdurdodau lleol a’r cyhoedd i ddehongli’r ddeddfwriaeth a’r polisi. Bydd ACC yn darparu canllawiau gweithredol i bersonau sy’n atebol er mwyn eu cefnogi gyda’u rhwymedigaethau sydd ynghlwm â chasglu a thalu’r ardoll.
9.5 Bydd y canllawiau a ddatblygir yn nodi pwysigrwydd ceisio barn rhanddeiliaid yng nghefn gwlad er mwyn deall materion gwledig yn well. Bydd y canllawiau a ddatblygir yn cyd-fynd â’r rhwymedigaethau statudol presennol ar gyfer Awdurdod Lleol i “roi ystyriaeth ddyledus i'w ddyletswyddau statudol i gynnal asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010” a dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yng Nghymru a ddaeth i rym yn 2011. Bydd hyn yn cynnwys ystyried sut mae ei bolisi yn bodloni gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn cyfrannu'n benodol at yr amcanion o greu Cymru lewyrchus; Cymru sy'n fwy cyfartal; a Chymru o gymunedau cydlynus.
III. Dyluniad yr ardoll
9.6 Mae’r ardoll wedi’i dylunio gyda symlrwydd yn sail iddi, er mwyn lleihau unrhyw faich gweinyddol a sicrhau effeithlonrwydd wrth gasglu’r dreth. Mae Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu agwedd ofalus tuag at bennu cyfraddau cychwynnol yr ardoll a monitro ei heffaith dros amser. Mae'r dull hwn yn cynnig cydbwysedd o ran cynhyrchu refeniw digonol heb olygu cynnydd gormodol i gost taith i Gymru. Bydd y dull hwn hefyd yn rhoi cyfle i sefydlu’r polisi ac i ymwelwyr ddod yn gyfarwydd â thalu ardoll yng Nghymru.
9.7 Yn ogystal, mae'r ardoll wedi'i dylunio er mwyn lliniaru’r effaith ar ddarparwyr llai trwy roi gofynion ffeilio llai aml. Er enghraifft, yn seiliedig ar ddata a disgwyliadau rhesymol, os oes disgwyl i ddarparwr llety ymwelwyr gasglu llai na £1000 y flwyddyn mewn taliadau ardoll, gallant ddewis cyflwyno eu ffurflenni’n flynyddol, tra bydd yn ofynnol i’r rhai sy’n casglu mwy na hynny gyflwyno ffurflenni bob chwarter.
IV. Prosesau awdurdodau lleol
9.8 Os bydd awdurdod lleol yn penderfynu cyflwyno ardoll yn ei ardal, bydd yn ofynnol yn gyntaf iddo ymgynghori â’i gymunedau. Bydd hyn yn golygu nodi'r dyddiadau gweithredu arfaethedig fel rhan o'r broses ymgynghori. Yn dilyn ymgynghoriad ac asesiad o effaith bosibl yr ardoll yn eu hardal, mae’n rhaid i awdurdodau lleol roi cyfnod hysbysu o 12 mis cyn cyflwyno’r ardoll er mwyn rhoi amser i ddarparwyr llety ymwelwyr ac ymwelwyr ddod i wybod amdano.
V. Defnyddio refeniw
9.9 Oherwydd pwysau ehangach ar gyllidebau awdurdodau lleol, cydnabyddir bod gwariant cyhoeddus ar weithgarwch sy’n ymwneud â thwristiaeth wedi gostwng dros y degawd diwethaf. Mae hynny wedi effeithio ar argaeledd, ansawdd a mynediad i seilwaith cyhoeddus a gwasanaethau fel toiledau cyhoeddus, canolfannau gwybodaeth, llwybrau bysiau. Yn dibynnu ar sut y caiff refeniw ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol, efallai y bydd manteision ehangach yn sgil y gwelliannau i’r cynnig twristiaeth lleol, o ran defnyddio’r refeniw i helpu i gynnal ac adfywio’r ardal leol.
9.10 Er enghraifft, wrth roi’r pŵer i awdurdod lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr, bydd yr ardoll yn rhoi adnodd i awdurdodau lleol y gallant ei ddefnyddio i ddatblygu, cefnogi a chynnal cyfleusterau a gwasanaethau sydd ar gyfer, neu sy’n cael eu defnyddio gan, y rhai sy’n ymweld ag ardal yr awdurdod at ddibenion hamdden yn bennaf. Gall hyn fod yn arbennig o berthnasol yng nghyd-destun y pwysau ar gyfleusterau a gwasanaethau o’r fath a allai godi neu waethygu o ganlyniad i niferoedd uchel o ymwelwyr, oherwydd ar hyn o bryd, yn gyffredinol, nad yw’r ymwelwyr hyn yn cyfrannu’n uniongyrchol at refeniw awdurdodau lleol. Bydd natur ddewisol y pŵer yn rhoi pŵer cyllidol newydd i awdurdodau lleol gasglu refeniw er mwyn cefnogi'r economi ymwelwyr lleol.
9.11 Wrth gwrs, bydd natur a phenodolrwydd y buddion yn dibynnu ar sut y caiff y refeniw ei wario h.y. ar ba brosiectau penodol y caiff y refeniw ei ddefnyddio.
VI. Casglu data a monitro effaith
9.12 Bydd data o’r ardoll ymwelwyr yn nodi nifer yr ymwelwyr sy’n aros dros nos ym mhob ardal awdurdod lleol sydd wedi dewis mabwysiadu’r ardoll. Mae’r data hwn yn arbennig o berthnasol wrth ystyried effeithiau a gwasgariad twristiaeth ledled Cymru a bydd o ddiddordeb i gyrff yn y sector twristiaeth.
9.13 Treth ddewisol yw’r ardoll ymwelwyr, felly mae pennu amserlen ar gyfer adolygiad ôl-weithredu ffurfiol yn anodd oherwydd gall gymryd sawl blwyddyn i awdurdodau lleol gofrestru ar gyfer y cynllun. Felly, bydd gwerthuso effeithiolrwydd y cynllun yn datblygu dros amser.
9.14 Mae’r Bil yn nodi gofyniad ar awdurdodau lleol i baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar swm y refeniw a gynhyrchir o’r ardoll a gwybodaeth am sut y defnyddiwyd yr ardoll at ddibenion rheoli cyrchfannau.
9.15 Bydd swyddogion yn datblygu canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol yn nodi arferion gorau a chyngor ar fonitro a gwerthuso effaith yr ardoll.
9.16 Bydd canlyniad y ddeddfwriaeth yn cael ei fonitro’n barhaus, drwy gyfuniad o ddulliau, gan gynnwys monitro economi Cymru a dangosyddion cyflenwad/galw. Defnyddir data sy’n bodoli eisoes a gasglwyd o arolygon perthnasol Croeso Cymru, Baromedr Twristiaeth a mwy o ymgysylltu gydag awdurdodau lleol a’r sector twristiaeth i ddeall effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth. Mae gan Weinidogion Cymru y gallu i ddiwygio’r cyfraddau pe bai effeithiau andwyol yn dod i’r amlwg.
9.17 Rhagwelir y bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn monitro ac yn adolygu effeithiolrwydd gweinyddu’r ardoll yn barhaus drwy ymgysylltu’n rheolaidd ag awdurdodau lleol a busnesau twristiaeth. Ochr yn ochr â hyn, byddant yn ystyried ar ba ddata dylid adrodd, megis swm y refeniw a gesglir.
10. A yw’r cynnig yn dibynnu ar seilwaith fel cysylltiadau ffordd/rheilffordd da neu fand eang cyflym neu gysylltedd symudol da? Os felly, pa ddarpariaeth a wneir ar gyfer cymunedau/busnesau mewn ardaloedd gwledig mwy anghysbell?
10.1 Nid yw gweithredu ardoll ymwelwyr yn dibynnu ar seilwaith megis cysylltiadau rheilffordd neu gysylltiadau ffyrdd da. Gallai’r ardoll effeithio ar fusnesau mewn perthynas â chysylltedd digidol. Fodd bynnag, bydd ACC yn darparu cymorth o ryw fath i’r rhai sydd â mynediad a sgiliau digidol cyfyngedig. Bydd ACC yn ystyried dewisiadau amgen nad ydynt yn rhai digidol pan fo angen (megis cofrestru â llaw, ffurflenni papur, llythyrau yn hytrach nag e-bost, a chanolfannau galw heibio) os yw’n gymesur gwneud hynny.
11. Sut mae eich cynnig yn helpu i fynd i'r afael â thlodi mewn ardaloedd gwledig?
11.1 Er mai'r un yw achosion sylfaenol tlodi mewn ardaloedd gwledig ag mewn ardaloedd trefol, gall y profiad o amddifadedd fod yn wahanol mewn ardaloedd gwledig. Rhai o’r prif faterion sy’n cyfrannu at dlodi mewn ardaloedd gwledig yw tlodi tanwydd (gan gynnwys tanwydd ar gyfer gwresogi a chludiant), tlodi mewn gwaith, mynediad at wasanaethau ac allgáu digidol.
11.2 Ni fydd yr ardoll ymwelwyr yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â thlodi gwledig mewn ardaloedd gwledig. Fodd bynnag, gellir defnyddio'r refeniw a gynhyrchir gan ardoll ymwelwyr i gefnogi'r economi ymwelwyr lleol. Gall hyn ddarparu cyfleoedd cyflogaeth a mewnfuddsoddiad a allai gynorthwyo ymdrechion i leihau tlodi.
12. Pa gyswllt ydych chi wedi’i gael gyda rhanddeiliaid yng nghefn gwlad? A gododd unrhyw faterion eraill o ganlyniad i’r ymgysylltu â rhanddeiliaid neu unrhyw ymgynghori a wnaed ar y cynnig hwn?
Os felly, beth oedden nhw a sut ydych chi wedi addasu'ch cynnig er mwyn eu hystyried?
12.1 Yn y cyfnod cyn yr ymgynghoriad, mae swyddogion wedi ymgysylltu’n helaeth ag awdurdodau lleol, darparwyr llety a lletygarwch trwy Grŵp Cyfeirio Busnes, grwpiau sy’n cynrychioli’r diwydiant twristiaeth trwy Fforymau Twristiaeth Rhanbarthol a’r Fforwm Economi Ymwelwyr. Mae swyddogion wedi cyfarfod â chynrychiolwyr llwyfannau archebu ar-lein, Plant yng Nghymru, Parciau Cenedlaethol, sefydliadau trydydd sector, a gweinyddiaethau mewn gwledydd eraill sydd wedi sefydlu ardollau ymwelwyr.
12.2 Yn ogystal â chynnal pedwar digwyddiad ymgynghori wyneb yn wyneb ledled Cymru a digwyddiad rhithwir, lansiwyd ymgyrch i godi ymwybyddiaeth gyda'r ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn rhannu gwybodaeth ac annog cyfranogiad. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys rhannu cynnwys ar sianeli cyfryngau cymdeithasol corfforaethol Llywodraeth Cymru, Trysorlys Cymru a Croeso Cymru, Blog LlC a dwy ffilm ddigidol gydag un yn targedu pobl ifanc. Cyhoeddwyd erthyglau yn y cyfryngau lleol, a rhannwyd galwad i weithredu yng nghylchlythyrau Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid er mwyn denu cymaint o ymatebion â phosibl.
12.3 Mae ACC hefyd wedi cynnal ymchwil defnyddwyr ar ran Gweinidogion Cymru er mwyn deall sut mae darparwyr llety yn gweithredu ar hyn o bryd a sut y byddai ardoll ymwelwyr yn gweithio’n ymarferol. Cynhaliwyd gweithdai gyda nifer o ddarparwyr llety ledled Cymru, gan gynnwys y rheini sy’n fusnesau bach a chanolig mewn ardaloedd arfordirol a gwledig. Mae ACC wedi codi ymwybyddiaeth drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol a’u gwefan eu hunain a bydd yn parhau i wneud hynny a thrwy ymgysylltu wyneb yn wyneb wrth iddynt ddatblygu’r gwasanaeth ardoll ymwelwyr ac ymgysylltu â chyrff proffesiynol yn y cymunedau twristiaeth a ffermio er mwyn helpu i ymgysylltu â grwpiau anodd eu cyrraedd a dysgu oddi wrthynt.
12.4 Mae Gweithgor Ardoll Ymwelwyr wedi'i sefydlu i ddeall yr heriau posibl sy'n deillio o weithredu'r ardoll a sut y gellir eu lliniaru. Mae amrywiaeth o randdeiliaid wedi’u gwahodd i’r grŵp hwn gan gynnwys cynrychiolwyr o’r diwydiant twristiaeth, awdurdodau lleol, a sefydliadau eraill. Pwrpas y grŵp hwn oedd ystyried yr effeithiau posibl a’r opsiynau lliniaru lle bo hynny’n bosib ac i graffu a herio wrth ystyried yr effeithiau a’r dystiolaeth yn ymwneud â’r rhain.
12.5 Gwnaethom hefyd ymgynghori ac ymgysylltu’n uniongyrchol â sefydliadau gwledig cynrychioliadol, gan gynnwys y Gymdeithas Tir a Busnes Gwlad (CLA), NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru yn y cyfnod cyn yr ymgynghoriad a chyn cyflwyno’r Bil i’r Senedd.
Ymgysylltu wedi'i dargedu
Y Gymdeithas Tir a Busnes Gwlad (CLA)
12.6 Un o'r prif sylwadau a roddwyd gan y Gymdeithas Tir a Busnes Gwlad (CLA) oedd bod maint yr elw yn fach, ac o ganlyniad byddai amsugno unrhyw gostau ychwanegol yn heriol, yn enwedig i’r busnesau llai o faint mewn ardaloedd mwy gwledig. Nododd y grŵp hefyd fod ffermwyr neu fusnesau gwledig yn cael eu hannog i arallgyfeirio tua 10 mlynedd yn ôl, ac roeddent yn rhannu pryderon y gallai’r ardoll ymwelwyr (ymhlith polisïau eraill yn ymwneud â llety ymwelwyr) wneud cynnal eu heiddo llety ymwelwyr yn fwy cymhleth ac yn ddrutach, fodd bynnag, roedd cefnogaeth i glustnodi’r refeniw o’r ardoll at ddibenion twristiaeth gynaliadwy.
12.7 Yn ogystal, roeddent yn cefnogi cynnwys esemptiadau ar gyfer grwpiau penodol o bobl agored i niwed, gyda hyblygrwydd i ychwanegu neu ddileu esemptiadau pe bai tystiolaeth yn cefnogi hynny. Tynnwyd sylw hefyd at y problemau gyda chysylltedd mewn ardaloedd gwledig a gofynnwyd am wasanaeth sy'n cynnig opsiwn ar gyfer cyflwyno ffurflenni’r ardoll ar bapur. Awgrymwyd y dylid darparu hyfforddiant a chanllawiau drwy amrywiaeth o lwyfannau i roi hyblygrwydd i fusnesau ac y dylid cynnig unrhyw hyfforddiant wyneb yn wyneb mewn lleoliadau ledled Cymru, yn ogystal ag yn rhithiol.
12.8 Roeddent yn cefnogi dull tryloyw a hygyrch o ymgysylltu ag awdurdodau lleol ynglŷn â sut y bydd y refeniw o’r ardoll yn cael ei wario. Roeddent yn awgrymu bod fforymau’n cael eu creu ar gyfer pob ardal awdurdod lleol, a dylai fod gan bob fforwm gynrychiolaeth wledig. O ran lle y gallai’r refeniw gael ei wario, awgrymwyd bod cyfran ar gael fel cynllun grant cyfalaf y gall busnesau wneud cais amdano. Roeddent yn cynnig cyflwyno trothwy de minimis, fel bod y microfusnesau’n cael eu heithrio rhag casglu’r ardoll.
NFU Cymru
12.9 Roedd y prif bryderon a godwyd gan NFU Cymru yn ymwneud â’r baich gweinyddol, cost ac amser gweinyddu’r ardoll, y risg o golli ymwelwyr, a’r diffyg cymorth i fusnesau bach. Roedd rhai o’r prif sylwadau ac awgrymiadau yn ymwneud â sicrhau bod yr ardoll yn syml o ran ei chynllun, gan gynnwys alinio taliad yr ardoll â’r flwyddyn dreth, darparu canllawiau a hyfforddiant clir, a chael grŵp rhanddeiliaid i lywio penderfyniadau ar wariant. Mae’n bwysig nad yw statws Cymru yn y diwydiant twristiaeth yn cael ei niweidio drwy gyflwyno ardoll ac y gallai’r refeniw o’r ardoll wrthbwyso unrhyw niwed i enw da drwy ariannu mwy o waith marchnata Cymru fel cyrchfan twristiaeth, a drwy ffyrdd eraill fel mwy o fuddsoddiad mewn gwaith cynnal a chadw ac arwyddion. Roeddent hefyd yn awgrymu y dylid cynnwys hyblygrwydd yn y ddeddfwriaeth i “atal” yr ardoll pe bai unrhyw werthusiad yn penderfynu nad oedd yn cyflawni ei amcanion a’i fod hyd yn oed yn cael effaith andwyol.
Undeb Amaethwyr Cymru
12.10 Mynegodd Undeb Amaethwyr Cymru bryderon am effaith yr ardoll ar fusnesau llai o faint. Codwyd materion hefyd megis effaith gronnol polisïau eraill, y posibilrwydd o golli’r gallu i gystadlu (â gwledydd eraill ac ar draws awdurdodau lleol os nad yw pob un ohonynt yn mabwysiadu ardoll) a'r angen i randdeiliaid gymryd rhan mewn penderfyniadau yn ymwneud â gwariant.
12.11 Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch cysylltedd digidol ar gyfer busnesau llai o faint mewn ardaloedd gwledig, gan nodi mai dim ond ar bapur y mae rhai busnesau’n gweithredu. Gofynnwyd am i’r prosesau a fydd yn cael eu sefydlu ar gyfer busnesau o ran ffeilio a chyflwyno ffurflenni fod yn gymesur h.y., dylai’r amser sy’n cael ei neilltuo ar gyfer gwneud hyn gyd-fynd â maint y busnes. Tynnwyd sylw at yr angen i drafod anghenion blaenoriaethau gwariant awdurdodau lleol, a bod angen grŵp penodol i benderfynu ar anghenion yr ardaloedd cyn i’r refeniw gael ei wario.
12.12 O ran canllawiau, mae Cyswllt Ffermio yn derbyn canllawiau ar ran y gymuned ffermio ac yn eu dosbarthu. Gallai hyn fod yn opsiwn ar gyfer codi ymwybyddiaeth o’r ardoll a’i chanllawiau. O ran data, hoffent i’r data fod ar gael yn rhwydd, yn dryloyw ac yn syml i’w ddadansoddi ar lefel cenedlaethol i lefel awdurdod lleol.
12.13 O ganlyniad i'r cyfarfodydd hyn, bydd y canllawiau a ddatblygir ar gyfer awdurdodau lleol yn nodi pwysigrwydd ceisio mewnbwn rhanddeiliaid gwledig er mwyn deall materion gwledig yn well.
12.14 Mae'r Bil hefyd yn cynnwys darpariaeth i awdurdodau lleol allu "atal" yr ardoll. Yn union fel y mae darpariaeth yn ymwneud ag amserlenni priodol ar gyfer hysbysu poblogaethau lleol am gyflwyno ardoll ymwelwyr h.y. o leiaf 12 mis o rybudd ar gyfer cyflwyno ardoll ymwelwyr.
12.15 Fel y nodwyd yn gynharach, mae'r ardoll wedi'i chynllunio mewn modd sy’n lleihau'r baich gweinyddol a sicrhau effeithlonrwydd wrth gasglu’r dreth. Mae Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu agwedd ofalus tuag at bennu cyfraddau cychwynnol yr ardoll a monitro ei heffaith dros amser. Mae'r dull hwn yn cynnig cydbwysedd o ran cynhyrchu refeniw digonol heb olygu cynnydd gormodol i gost taith i Gymru.
13. Pa dystiolaeth wnaethoch chi ei defnyddio i lywio'ch asesiad, gan gynnwys tystiolaeth gan bobl yng nghefn gwlad neu eu cynrychiolwyr?
13.10 Rhan hanfodol o adeiladu achos cynhwysfawr a chytbwys ar gyfer polisi a deddfwriaeth yw arfarnu’r effaith y mae’n debygol o’i chael – yn gadarnhaol ac yn negyddol. Mae ardaloedd gwledig yn wynebu heriau ac mae llawer o’r heriau hyn megis ynysu daearyddol, poblogaeth sy’n heneiddio ac economi sy’n seiliedig ar ficrofentrau a BBaChau i’w cael ledled Cymru. Mewn ardaloedd gwledig, gall yr heriau hyn fod yn fwy difrifol neu gyfuno i greu set o amgylchiadau a allai rwystro gweithredu polisi a deddfwriaeth yn effeithiol.
13.11 Er mwyn sicrhau y rhoddir dadansoddiad cadarn o’r effaith amcangyfrifedig ar anghenion y bobl sy’n byw, yn gweithio, yn cymdeithasu ac yn gwneud busnes mewn ardaloedd gwledig, mae’r asesiad hwn wedi ystyried yr allbynnau o’r canlynol:
- Ymchwil annibynnol gan Brifysgol Bangor ar effeithiau aneconomaidd posibl ardoll ymwelwyr yng Nghymru
- Ymchwil annibynnol gan Brifysgol Bangor ar Dadansoddiad cymharol o'r systemau trethiant sydd yn effeithio ar yr economi ymwelwyr mewn gwledydd dethol
- Ymchwil annibynnol gan Brifysgol Caerdydd ar effeithiau economaidd posibl ardoll ymwelwyr yng Nghymru
- Ymchwil annibynnol gan Alma Economics ar Adolygiad tystiolaeth o elastigion sy'n berthnasol i ardoll ymwelwyr yng Nghymru
- Adborth a gafwyd fel rhan o’r ymgynghoriad a gynhaliwyd rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2022
- Ymgysylltu wedi’i dargedu â rhanddeiliaid allweddol a grwpiau rhanddeiliaid yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru ac ACC
Pa dystiolaeth arall fyddai'n llywio'r asesu?
13.3 Mae'r compendiwm a gyhoeddir ochr yn ochr â'r asesiad effaith a’r Bil drafft yn rhoi gwybodaeth am niferoedd ymwelwyr, nifer y nosweithiau, gwariant ymwelwyr a ffigurau cyflenwi llety ar gyfer gwahanol fathau o sefydliadau (Llety â Gwasanaeth, Llety Hunanddarpar, Meysydd Gwersylla/Carafanau, Hostelau a Llety Amgen), nifer y sefydliadau a chyfanswm y lleoedd gwely. Er bod ansawdd y data hwn yn cael ei wirio, ni ddylid ei ddefnyddio fel cyfrif swyddogol o eiddo. Mae’n cael ei gynnwys er mwyn tynnu sylw at faint posibl y sector hwn nad yw o bosib yn cael ei gofnodi yn y ffynonellau a ddefnyddir yn y ddogfen ar hyn o bryd.