Asesu effaith y penderfyniadau polisi cychwynnol a wnaed mewn perthynas â darparu addysg mewn ymateb i COVID-19
Aseswyd effaith y penderfyniadau polisi cychwynnol a wnaed mewn ymateb i COVID-19 o ddechrau Mawrth 2020 i ganol Mehefin 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham
1.1 Yr ymateb addysg cychwynnol
Mae pandemig y Coronafeirws (COVID-19) wedi arwain at sefyllfa ddigynsail lle y bu'n rhaid gwneud penderfyniadau sylweddol, cymhleth ac anodd yn aml er mwyn ymateb i'r argyfwng iechyd y cyhoedd a'i liniaru lle y bo'n bosibl, a hynny o fewn terfynau amser cywasgedig iawn yn aml. Yn wahanol i asesiadau effaith integredig arferol, felly, mae’r ddogfen hon yn amlinellu effaith penderfyniadau sydd eisoes wedi’u gwneud, yn hytrach na chynigion polisi arfaethedig, er mwyn darparu cofnod tryloyw o’r camau gweithredu a’r mesurau lliniaru y bu’n rhaid i Lywodraeth Cymru eu cymryd yn ystod yr argyfwng hwn. Yn anarferol, mae’r asesiad effaith integredig hwn hefyd yn darparu cofnod naratif o’r penderfyniadau cychwynnol a gymerwyd a sut y datblygwyd y polisïau hyn wedyn, gan gynnwys gweithredu’r mesurau lliniaru, yn ystod cyfnod cychwynnol yr argyfwng o ddechrau Mawrth tan ganol Mehefin. Ystyrid bod angen gwneud hyn o gofio’r canlynol:
- nid oedd effaith y penderfyniadau hyn yn amlwg o reidrwydd pan gawsant eu gwneud
- mae’r amserlenni heriol wedi golygu cymryd un cam ar y tro wrth ddatblygu’r polisi, gan addasu wrth symud ymlaen, er enghraifft ar ôl canslo’r arholiadau, cyhoeddwyd y trefniadau ar gyfer pennu graddau dysgwyr Blynyddoedd 11 ac 13 cyn mynd ati i gyhoeddi’r trefniadau ar gyfer graddau dysgwyr Blynyddoedd 10 a 12
- nodwyd meysydd angen neu bryder ychwanegol yn sgil ymgysylltu rheolaidd â rhanddeiliaid, materion a godwyd yn uniongyrchol drwy ohebiaeth a’r cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â chyhoeddi gwaith ymchwil
Mae'r asesiad effaith integredig hwn yn cwmpasu'r camau gweithredu uniongyrchol a gymerwyd yn yr Adran Addysg, ar ôl ystyried tystiolaeth Grŵp Cynghori Gwyddonol Llywodraeth y DU ar Argyfyngau (SAGE) a chyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ymysg y penderfyniadau polisi a gwmpesir yn yr asesiad hwn mae:
- symud gwyliau Pasg yr ysgol ymlaen ac addasu ysgolion er mwyn cynnig darpariaeth i blant sy'n agored i niwed, neu y mae eu rhieni yn hanfodol yn yr ymateb i COVID-19
- y trefniadau i roi cymorth i'r rheini sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd
- datblygu rhaglen Parhad Dysgu i helpu ein dysgwyr i barhau i ddysgu ac i gefnogi llesiant ein dysgwyr, a'r gweithlu addysg yn ystod y cyfnod y bydd ysgolion yn cael eu haddasu
- addasu dyletswyddau awdurdodau lleol mewn perthynas ag addysg briodol a datganiadau o anghenion addysgol arbennig (AAA)
- disgwyliad y bydd awdurdodau lleol yn cynnal asesiadau risg AAA at ddibenion adnabod dysgwyr â datganiadau AAA sy’n agored i niwed a nodi pa gymorth y gellid ei osod yn ei le i alluogi dysgwyr â datganiadau AAA i barhau i ddysgu
- canslo cyfres arholiadau'r haf a chyfrifo graddau ar gyfer dysgwyr a oedd ar fin sefyll arholiadau TGAU, Safon UG, Safon Uwch a'r Dystysgrif Her Sgiliau
- oedi’r gwaith ar gynigion ar gyfer canllawiau statudol ar addysg yn y cartref a’r rheoliadau drafft y gronfa ddata addysg ar gyfer awdurdodau lleol
- gwneud toriadau i'r gyllideb yn yr adran addysg er mwyn rhyddau'r cyllid sydd ei angen i ymateb i COVID-19
Mae'r penderfyniadau polisi hyn yn gysylltiedig a thrwy eu cyflwyno gyda'i gilydd mewn un Asesiad Effaith Integredig, gellir ystyried yr effaith gronnol ar grwpiau penodol o ddysgwyr, y gweithlu a chymunedau a chynllunio camau lliniaru mwy effeithiol. Caiff asesiadau effaith integredig tebyg eu cyhoeddi yn fuan mewn perthynas â Gofal Plant, y Blynyddoedd Cynnar a Chwarae a’r sector Ôl- 16, a fydd yn rhoi darlun holistaidd o’r effaith ar blant a phobl ifanc ar draws y sector addysg.
Er ein bod wedi asesu effaith y penderfyniadau hyn mor drylwyr ag y gallwn ar hyn o bryd, daw effaith y penderfyniadau polisi hyn yn gliriach wrth i dystiolaeth newydd gael ei rhannu neu wrth i bolisïau gael eu hadolygu a'u haddasu, a chaiff yr Asesiad Effaith Integredig hwn ei adolygu a'i ddiweddaru'n rheolaidd.
Bydd y diweddariad nesaf yn cynnwys addasu neu ddatgymhwyso rhai gofynion addysgol statudol gan ddefnyddio’r pwerau brys yn Neddf y Coronafeirws 2020 na ellir eu bodloni, neu a fyddai'n achosi baich gweinyddol anghymesur yn ystod y cyfnod cythryblus hwn er enghraifft, y rheini sy'n gysylltiedig ag addysgu'r cwricwlwm sylfaenol. Er bod y bwriad polisi ar gyfer rhai o'r newidiadau hyn wedi cael ei nodi, fel datgymhwyso'r cwricwlwm sylfaenol, neu addasu’r gofynion o ran Anghenion Addysgol Arbennig, mae gwaith yn mynd rhagddo i fynd i'r afael â'r newidiadau deddfwriaethol. Rhagwelir y bydd y diweddariad cyntaf wedi'i gwblhau cyn dechrau'r flwyddyn academaidd nesaf.
Yn bwysig, bydd y gwersi a ddysgir o'n profiad yn gwneud y penderfyniadau cychwynnol hyn a'r effaith a gawsant ar grwpiau o ddysgwyr, y proffesiwn addysg a chymunedau lleol yn helpu i lywio'r polisïau a ddatblygir i gefnogi proses adfer yn y sector addysg, yn benodol cynyddu gweithrediad ysgolion a lleoliadau.
Ar 3 Mehefin, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg y byddai ysgolion yn cynyddu eu gweithgarwch yn ystod y cyfnod rhwng 29 Mehefin a 27 Gorffennaf, fel bod pob dysgwr yn cael cyfle i ailgydio, dal i fyny a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi. Mae’r asesiad effaith integredig am y cynnydd yng ngweithgarwch ysgolion, felly, yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â hwn, er mwyn i effeithiau cronnol y penderfyniadau hyn a sut rydym yn ceisio mynd i’r afael â nhw gael eu hystyried.
Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r pandemig yn parhau i ddatblygu gyda mwy o gamau'n cael eu cymryd i ymateb i'r pandemig sy'n parhau, ond hefyd i gynllunio ar gyfer adfer y sefyllfa yn effeithiol. Pan fo'r penderfyniadau hyn yn rhai sylweddol, cânt eu nodi mewn Asesiadau Effaith Integredig yn y dyfodol
Symud gwyliau'r Pasg ymlaen ac addasu ysgolion
Ar 18 Mawrth, gwnaeth y Gweinidog Addysg ddatganiad yn nodi y byddai gwyliau ysgol y Pasg yn cael eu symud ymlaen ar gyfer ysgolion a lleoliadau yng Nghymru; gan gyhoeddi y byddent yn cau ar gyfer darpariaeth addysg statudol ar 20 Mawrth 2020 ar yr hwyraf. Gwnaed datganiad arall ar 20 Mawrth, yn egluro y byddai ysgolion a lleoliadau yn cau ar gyfer plant a phobl ifanc o 23 Mawrth ac eithrio darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n agored i niwedd, neu'r rhai yr oedd eu rhieni yn hanfodol ar gyfer yr ymateb i COVID-19 fel y gallent barhau i weithio lle na fyddai'n bosibl gwneud trefniadau gofal plant amgen.
Mae rhestr o'r rhai a ddynodwyd yn weithwyr hanfodol, os yw eu gwaith yn hanfodol ar gyfer yr ymateb i COVID-19. Wrth ddatblygu'r rhestr hon o weithwyr hanfodol, buom yn gweithio'n agos â gweinyddiaethau eraill y DU, gan ystyried y pwyslais clir gan Weinidogion Cymru ei bod yn hanfodol sicrhau cysondeb â'r dulliau a oedd yn cael eu rhoi ar waith ledled y DU, er mwyn osgoi unrhyw gymhlethdod i'r cyhoedd.
Yn ystod yr wythnos rhwng yr adeg y gwnaeth Sefydliad Iechyd y Byd y cyhoeddiad am y pandemig byd-eang ar 11 Mawrth, a'r datganiad gan y Gweinidog Addysg ynghylch gwyliau'r Pasg, datblygodd y cyngor gwyddonol ynghylch y Coronafeirws yn gyflym. Bu Gweinidogion Cymru a swyddogion o Lywodraeth Cymru yn rhan o drafodaethau a sesiynau briffio yng Nghymru ac ar lefel y DU, yn cynnwys y rhai gan SAGE a COBR.
Er mai'r cyngor gwyddonol oedd nad yw plant yn wynebu risg sylweddol benodol o COVID-19, ac mai dyna'r cyngor o hyd, roedd yn amlwg nad oedd hyn yn rhoi tawelwch meddwl i rieni.
Dechreuodd ysgolion nodi gostyngiadau sylweddol yn nifer y dysgwyr oedd yn bresennol. Ochr yn ochr â hyn, cafwyd cynnydd yn nifer y gweithlu addysg oedd yn ynysu, naill ai oherwydd pryderon eu bod nhw neu aelod o'u teulu wedi dal COVID-19, neu am eu bod yn pryderu am gyflyrau iechyd sylfaenol. Ar yr adeg hon, roedd Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru ar pryd a sut y dylid hunanynysu.
Roedd awdurdodau lleol ledled Cymru wedi bod yn cysylltu â Llywodraeth Cymru yn ceisio cyngor ar sut i reoli absenoldebau, ac yn codi pryderon na fyddai modd parhau i weithredu rhai ysgolion neu leoliadau. Gwaethygodd y pryderon hyn yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i symud o'r cam 'lliniaru' i'r cam 'gohirio' yn unol â'r camau a nodwyd yng Nghynllun Gweithredu'r Coronafeirws, gan arwain at ragor o ymholiadau gan undebau, ysgolion a rhieni.
O ystyried y cynnydd yn y galw am arweiniad a chanllawiau, ac ar ôl ystyried canlyniad COBR, gwnaeth y Gweinidog Addysg ei chyhoeddiad ar 18 Mawrth. Roedd y cyhoeddiad hwnnw'n nodi y byddai gwyliau'r Pasg yn cael eu symud ymlaen bythefnos, ac y byddai ysgolion yn cau at ddiben darparu addysg statudol o 20 Mawrth. Roedd y datganiad yn nodi hefyd y byddai rhai lleoliadau yn parhau i fod ar agor i blant gweithwyr hanfodol a phlant bregus. Gwnaed y penderfyniad hwn er mwyn sicrhau bod modd cynnal gwasanaethau hanfodol heb darfu arnynt, ac er mwyn sicrhau darpariaeth i’r plant a oedd yn wynebu’r risg fwyaf neu a oedd angen cymorth ychwanegol. Roedd y diffiniad o blant bregus yn cyfateb, gan mwyaf, i ddiffiniad Lloegr, a hynny er mwyn sicrhau na fyddai plant Cymru o dan anfantais. Roedd y diffiniad yn sicrhau bod modd dilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch cadw pellter cymdeithasol mewn lleoliadau, ond roedd hefyd yn sicrhau mynediad i blant yr oedd ganddynt weithwyr cymdeithasol, yr ystyrid eu bod yn wynebu’r risg uchaf, ac y byddai angen peth amser i ffwrdd o amgylchedd eu cartref arnynt efallai. Roedd plant â datganiadau o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) hefyd wedi’u cynnwys er mwyn sicrhau bod cymorth ychwanegol ar gael yn y lleoliadau i blant a theuluoedd yr oedd ei angen arnynt. Yn dilyn y cyhoeddiad hwnnw, dechreuodd ysgolion ledled Cymru baratoi i ddod â'r tymor i ben yn gynnar.
Ar 1 Ionawr 2020, roedd 1,480 o ysgolion a gynhelir yng Nghymru a 68 o ysgolion annibynnol. Yn dilyn y penderfyniad i addasu ysgolion o 23 Mawrth, rydym wedi casglu data gan awdurdodau lleol ar nifer yr ysgolion sy'n dal i fod ar agor bob dydd. Yn ystod wythnos gyntaf mis Mehefin, roedd tua 450 o ysgolion neu 'hybiau' a gynhelir gan awdurdodau lleol ar agor ledled Cymru, gyda hyd at 6,700 o blant yn eu defnyddio. Mae hyn yn cynrychioli 1.4% o boblogaeth gyffredinol ysgolion a hyd at 5.9% o blant sy'n agored i niwed, fodd bynnag, mae'r niferoedd yn amrywio, gan arwain at gynnydd a gostyngiad weithiau yn nifer yr ysgolion sy'n derbyn plant bob dydd. Amcangyfrifwyd bod 185,600 o blant oedran ysgol (5 i 16 oed) y mae eu rhieni'n weithwyr allweddol yng Nghymru yn 2018. Amcangyfrifwyd bod 24,000 o blant sy'n agored i niwed (sydd â gweithiwr cymdeithasol neu ddatganiad anghenion addysgol arbennig) yng Nghymru. Cyn gwyliau’r Pasg, roedd niferoedd y plant bregus a oedd yn mynychu’r lleoliadau yn isel am nifer o resymau, gan gynnwys: pryder rhieni ynghylch y risgiau i’w plant.
Cyn toriad y Pasg nifer fach o blant agored i niwed oedd yn bresennol yn yr ysgolion a’r lleoliadau hyn am amrywiol resymaugan gynnwys: pryder rhieni am y risg i’w plant; y ffaith bod awdurdodau lleol wedi darganfod ffyrdd eraill o gadw mewn cysylltiad â phlant bregus; a’r ffaith bod y ddarpariaeth yn cymryd amser i ddatblygu. Wrth i’r cyfnod clo barhau, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at Gyfarwyddwyr Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol yn pwysleisio ei phryderon ynghylch y niferoedd isel ac yn annog awdurdodau lleol i gynyddu’r niferoedd a oedd yn mynychu. Yn dilyn gwyliau’r Pasg, cododd y niferoedd yn sylweddol.
Mater i awdurdodau lleol a'u hysgolion yw'r ddarpariaeth weithredol mewn ysgolion sydd wedi'u haddasu ac mae'n dibynnu ar yr amgylchiadau lleol a'r anghenion yn eu hardaloedd. Fodd bynnag, ers 23 Mawrth rydym wedi bod yn gweld bod mwy a mwy o ysgolion yn dechrau gweithredu fel 'hybiau'. Hwyluswyd hyn gan awdurdodau lleol ac i bob diben mae'n golygu bod rhai ysgolion mewn ardal yn derbyn eu dysgwyr eu hunain a dysgwyr o ysgolion eraill, lle maent yn blant i weithwyr hanfodol neu'n blant sy'n agored i niwed. O ystyried y niferoedd bach sy'n defnyddio'r hybiau, mae hyn yn cynnig ffordd fwy effeithiol o weithredu a chyflawni'r rôl hon.
Prydau ysgol am ddim
O ystyried yr angen i gau ysgolion i'r mwyafrif o ddysgwyr a'r adeg y gwnaed y cyhoeddiad hwn, rhoddodd awdurdodau lleol drefniadau brys ar waith i sicrhau bod darpariaeth amgen ar gael i blant a phobl ifanc sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim Roedd pryder sylweddol y gallai plant a phobl ifanc sy'n dibynnu ar ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yn ystod y tymor ddioddef prinder bwyd wrth i ysgolion gael eu cau i'r mwyafrif o ddysgwyr, neu y gallai eu teuluoedd wynebu caledi ariannol sylweddol wrth geisio talu costau bwyd ychwanegol nas rhagwelwyd.
Ar 21 Mawrth, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg y byddai hyd at £7 miliwn o arian ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol i gefnogi teuluoedd dysgwyr sy'n dibynnu ar brydau ysgol am ddim, ond nad oeddent ar gael iddynt am fod yr ysgol wedi cau. Ynghyd â hyn, cyhoeddwyd canllawiau i awdurdodau lleol i'w helpu i roi trefniadau amgen ar waith. O ddydd Llun 23 Mawrth, rhoddodd awdurdodau lleol eu darpariaeth frys ar gyfer teuluoedd ar waith a mabwysiadwyd amrywiaeth o ddulliau gweithredu, yn seiliedig ar anghenion ac amgylchiadau ardaloedd lleol. I ddechrau, roedd y rhain yn cynnwys bagiau 'casglu a mynd', talebau ar gyfer archfarchnadoedd, hybiau cymunedol yn cynnig bwyd, a gwasanaeth dosbarthu i'r cartref mewn nifer bach o achosion.
Er bod y trefniadau brys hyn ar waith, ystyriodd Llywodraeth Cymru roi darpariaeth tymor hwy ar waith, yn cynnwys y posibilrwydd o roi cynllun talebau cenedlaethol ar waith. Daethpwyd i'r casgliad mai'r dull mwyaf priodol fyddai galluogi awdurdodau lleol i benderfynu ar y trefniadadu sy'n gweithio orau i'w cymunedau lleol. Byddai hyn yn helpu awdurdodau lleol i barhau i weithredu mewn modd hyblyg, gan fabwysiadu dulliau sy'n seiliedig ar eu hanghenion a'u hamgylchiadau lleol yn cynnwys gwledigrwydd, nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'r trefniadau presennol o ran arlwyo a chyflenwyr bwyd.
I gefnogi hyn, a rhoi sicrwydd i awdurdodau lleol ac ysgolion i gynllunio eu trefniadau tymor hwy, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg6 £33 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol barhau i ddarparu prydau ysgol am ddim i blant sy'n gymwys nes i'r ysgolion ailagor i'r mwyafrif o ddysgwyr neu hyd at ddiwedd mis Awst os bydd angen.
Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo hyd at £3.90 fesul plentyn bob dydd (neu £19.50 fesul wythnos pum diwrnod). Paratowyd canllawiau diwygiedig, a ddatblygwyd drwy ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol a chan ystyried y gwersi a ddysgwyd yn ystod y pedair wythnos gyntaf o weithredu, gan amlinellu tri phrif opsiwn ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim â'r lefel isaf o ryngweithio cymdeithasol, sef:
- arparu talebau
- dosbarthu eitemau bwyd i deuluoedd dysgwyr sy'n cael prydau ysgol am ddim
- trosglwyddo cyllid i gyfrifon banc teuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (taliadau BACS)
Mewn rhai achosion, mae awdurdodau lleol yn gweithredu nifer o'r mathau hyn o ddarpariaeth ochr yn ochr er mwyn teilwra'r gefnogaeth i ddiwallu anghenion eu cymunedau lleol. Mae hyn yn golygu y gellir ystyried anghenion gwahanol, er enghraifft cadw pellter cymdeithasol, cyngor ar warchod a diogelu.
Ym mis Ionawr 2020, roedd tua 85,000 o blant a phobl ifanc yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yng Nghymru, ond nid yw pob un sy'n gymwys yn manteisio ar y cymorth hwn. Dim ond tua tri chwarter sy'n gwneud hyn. Fodd bynnag, gan fod cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim yn dibynnu ar p'un a yw rhiant neu warcheidwad dysgwr yn cael budd-dal sy'n gysylltiedig ag incwm, er enghraifft Credyd Cynhwysol, mae'n debygol y bydd y niferoedd sy'n gymwys yn cynyddu oherwydd yr amgylchiadau economaidd yn sgil pandemig COVID-19.
Rhaglen parhad dysgu
Ar 20 Ebrill, ar yr hyn a fyddai'n ddechrau tymor yr haf fel arfer, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'Cadw’n Ddiogel. Dal Ati i Ddysgu: Datganiad polisi parhad dysgu' . Cydnabu gweinidogion ein bod yn gofyn i ysgolion a lleoliadau, penaethiaid ac ymarferwyr weithio mewn ffyrdd a oedd yn wahanol iawn i'r arfer, ac ymgysylltu â grwpiau gwahanol o ddysgwyr mewn ffyrdd gwahanol. Roedd Llywodraeth Cymru yn glir na fyddai'r ddarpariaeth hon yn adlewyrchu'r hyn mae ysgolion a lleoliadau yn ei gynnig fel arfer, ac fel y nodwyd yn gynharach, mae wedi bod yn ystyried sut y gall y fframwaith cyfreithiol gael ei newid i adlewyrchu hyn.
Er i ni gynnwys amrywiaeth eang o sefydliadau, a'i bod yn berthnasol i amrywiaeth eang o sefydliadau, mae'r rhanddeiliaid canlynol yn cyfrannu'n uniongyrchol i raglen 'Cadw'n Ddiogel. Dal Ati i Ddysgu':
- Consortia Gwella Ysgolion Rhanbarthol
- Awdurdodau lleol
- Estyn
- Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol
- Cymwysterau Cymru
Drwy'r datganiad polisi, nododd Llywodraeth Cymru flaenoriaethau a rennir ar gyfer ein system addysg yn ystod y cyfnod hwn pan na all y rhan fwyaf o ddysgwyr fynychu ysgolion na lleoliadau yn bersonol. Mae'n amlygu'r ymrwymiad a rennir i gyfuno cydraddoldeb a rhagoriaeth a phwysigrwydd ystyried anghenion pob dysgwr wrth i ni weithio drwy'r cyfnod hynod heriol hwn. Yn ystod y cyfnod hwn, blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, a'n holl bartneriaid ar draws y system addysg, yw cefnogi:
- diogelwch ein holl ddysgwyr a’n gweithlu addysg
- iechyd a lles corfforol a meddyliol ein holl ddysgwyr a’n gweithlu addysg
- gallu ein holl ddysgwyr i ddysgu
- y broses drosglwyddo yn ôl i’r ysgol ac ymlaen i gam nesaf addysg dysgwyr pan ddaw’r amser
Mae rhaglen Cadw'n Ddiogel. Dal Ati i Ddysgu yn dwyn ynghyd sawl cyfraniad o bob rhan o'r byd addysg a thu hwnt i gefnogi, i greu ac i rannu rhaglenni o ansawdd uchel ar gyfer dysgu o bell gydag adnoddau i gefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau. Mae'r rhaglen yn cynnwys gwaith ar egwyddorion sylfaenol, a llifoedd gwaith penodol i ddatblygu amrywiaeth o gymorth; mae'r rhain yn cynnwys gwaith ar:
- gohebiaeth a dealltwriaeth a rennir; yn cynnwys datblygu'r datganiad polisi a chanllawiau anstatudol sy'n rhoi eglurder ar draws y system a ffocws ar ddisgwyliadau
- canllawiau technegol a chymorth gweithredol i ymarferwyr a dysgwyr i'w helpu i ddysgu gan ddefnyddio adnoddau digidol (gan gynnwys i'r dysgwyr a'r teuluoedd hynny nad oes ganddynt fynediad i'r rhyngrwyd na dyfeisiau digidol)
- cyngor ac adnoddau cymorth i ymarferwyr ac arweinwyr ysgolion ar ffocws dysgu o bell, yn cynnwys ffyrdd posibl o reoli a chyflawni hyn
- cyngor i rieni ar yr hyn i'w ddisgwyl gan ysgolion a sut y gallant helpu eu plant i ddysgu gartref
- cyngor i lywodraethwyr ac arweinwyr ysgol ar reoli busnes yn ystod y cyfnod hwn, yn cynnwys mesurau i sicrhau iechyd, diogelwch a llesiant staff a rheoli cyswllt â dysgwyr
- datblygu amrywiaeth ehangach o ddysgu proffesiynol ar-lein ar gyfer staff mewn ysgolion a lleoliadau
- dulliau gwell i ddatblygu, rhannu a darparu adnoddau dysgu o bell; yn cynnwys drwy ddefnydd datblygedig o lwyfan dysgu ar-lein Hwb. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys pwyslais penodol ar adnoddau a chefnogaeth ar gyfer iechyd a llesiant dysgwyr, yn ogystal â chefnogi dysgu o bell lle nad Cymraeg (na Saesneg) yw iaith y cartref
Gan gydnabod y gallai'r gwaith i addasu ysgolion effeithio fwyaf ar rai o'n dysgwyr mwyaf difreintiedig ac agored i niwed, rhoddwyd blaenoriaeth i gynhwysiant fel un o egwyddorion sylfaenol y rhaglen Parhad Dysgu (ynghyd â materion fel gwerthuso, effaith, cydgysylltu ac adrodd).
Nod rhaglen Parhad Dysgu Cadw'n Ddiogel. Dal Ati i Ddysgu yw bod o fudd i'r garfan ehangaf posibl o ddysgwyr, gan ein bod yn gwybod ei bod yn debygol na fydd y llinellau anfantais a difreinedd mor glir yn ystod y cyfnod arbennig o gythryblus hwn. Fodd bynnag, nod prif egwyddor sylfaenol y rhaglen, sef 'cynhwysiant' yw sicrhau bod ehangder y cymorth a ddarperir (fel yr amlinellwyd uchod) yn canolbwyntio ar sicrhau bod y cymorth i ddysgwyr difreintiedig ac agored i niwed yn gynhwysol ac yn gyfwerth â'r cymorth a gaiff eu cyfoedion yn ystod y cyfnod cythryblus hwn. Fel rhan o hyn, rydym yn canolbwyntio ar bum grŵp penodol o ddysgwyr:
- y rheini ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
- dysgwyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, yn arbennig y rheini y mae Cymraeg neu Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt, a dysgwyr o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr
- dysgwyr sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim
- y rheini sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol
- plant sy'n agored i niwed, yn cynnwys plant sydd mewn perygl, plant sy'n derbyn gofal a gofalwyr ifanc
Drwy wneud hyn, rydym yn ceisio lliniaru effaith y gwaith o addasu ysgolion a lleoliadau ar blant a phobl ifanc, yn arbennig y rheini sy'n wynebu rhwystrau i ddysgu y mae ymchwil yn dangos yr effeithir fwyaf arnynt. Mae rheolwyr y rhaglen yn cynnwys grŵp sy'n cysylltu swyddogion polisi â chynrychiolwyr perthnasol o awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a'r trydydd sector i sicrhau y caiff anghenion dysgwyr o'r fath eu cydnabod. Un enghraifft o'r modd y caiff y pwyslais hwn ei ddatblygu yw'r cyhoeddiad ar 29 Ebrill y byddai £3 miliwn ychwanegol yn cael ei roi i awdurdodau lleol i gefnogi dysgwyr sy'n cael eu heithrio'n ddigidol ledled Cymru er mwyn iddynt allu manteisio ar adnoddau dysgu o bell (mae hyn yn cynnwys darparu caledwedd, addasu dyfeisiau a chysylltiad â'r rhyngrwyd). Er bod sawl ysgol wedi bod yn flaengar a'u bod eisoes yn cymryd camau i fynd i'r afael â sicrhau mynediad i ddysgwyr gan ddosbarthu caledwedd cyn gwyliau'r Pasg, daeth yn amlwg bod angen rhagor o gymorth (a chyllid) er mwyn helpu i ddiwallu anghenion dysgwyr.
Ar 18 Mai, cyhoeddwyd rhagor o ganllawiau i gyrff llywodraethu, penaethiaid ac ymarferwyr ynghylch y ddarpriaeth addysg i blant a phobl ifanc rhwng 3 a 19 oed. Datblygwyd y canllawiau hyn, 'Cadw'n Ddiogel. Dal Ati i Ddysgu: cefnogi'r system addysg' ar y cyd ag awdurdodau lleol, Awdurdodau Esgobaethol, Undebau Llafur, consortia rhanbarthol, Estyn a'r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol.
Diben y canllawiau anstatudol hyn yw rhoi manylion pellach am yr hyn y gofynnir i gyrff llywodraethu, penaethiaid ac ymarferwyr ei wneud er mwyn cefnogi parhad dysgu ar yr adeg hon, a sut y caiff y camau a gymerir mewn ysgolion a lleoliadau eu cefnogi. Gwnaethom gydnabod bod ysgolion a lleoliadau ar gamau gwahanol o ran datblygu eu cymorth ar gyfer dysgu o gartref, ac y byddai'n fuddiol cael canllawiau ategol yn nodi'r disgwyliadau ar draws y system. Fodd bynnag, nid yw'r canllawiau anstatudol yn ceisio disodli arferion effeithiol presennol. Yn hytrach, fe'u cynlluniwyd er mwyn helpu i'w mireinio a'u datblygu ymhellach. Nid glasbrint ydynt ac ni fwriedir iddynt ddatgan yr hyn a wneir ar lefel leol. Ystyrir ei bod yn hanfodol rhoi hyblygrwydd i ysgolion a lleoliadau ymateb i anghenion ac amgylchiadau penodol eu dysgwyr yn ystod y cyfnod hwn. Fodd bynnag, maent yn darparu pwynt cyfeirio cyffredin i bob sefydliad sy'n gweithio gydag ysgolion a lleoliadau ac ynddynt.
Wrth i’r cyfnod clo barhau a’r amharu yn ei sgil ar y broses addysgu a dysgu, mae Llywodraeth Cymru a chonsortia rhanbarthol wedi cytuno ar broses adrodd er mwyn cofnodi data a thystiolaeth ynghylch y dysgu sy’n digwydd ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, yn ogystal ag enghreifftiau o arfer da y gellir eu rhannu ar draws y system. Bydd hyn yn darparu gwybodaeth sy’n ymwneud ag adeg benodol ar y ddarpariaeth a gynigir a’r ymgysylltu sy’n digwydd, ar sail gwybodaeth a roddir gan benaethiaid i Gynghorwyr Herio, gan ddechrau y tymor hwn a chan barhau drwy gydol y cyfnod tra amherir ar addysg lawn-amser. Bydd pob ardal yn defnyddio mecanweithiau lleol a thystiolaeth o waith a wnaed eisoes gan y consortiwm fel rhan o’i rôl greiddiol a’i gyfraniad at strategaeth Parhad Dysgu. Caiff yr adroddiad cyntaf ei roi i Lywodraeth Cymru cyn diwedd Mehefin a bob pythefnos wedi hynny.
Wrth inni ddechrau symud allan o’r cyfnod cychwynnol o ymateb i’r argyfwng iechyd cyhoeddus uniongyrchol a dechrau paratoi i gynyddu’r gweithgarwch mewn ysgolion, byddwn yn ailedrych ar raglen Parhad Dysgu er mwyn ystyried sut y gall gefnogi dull dysgu cyfunol yn yr ysgol ac o bell, gan y bydd gofynion cadw pellter cymdeithasol yn golygu, o leiaf yn y dyfodol agos, y bydd angen i ysgolion weithredu ar sail capasiti is.
Canllawiau asesu risg AAA
Ym mis Ebrill, cyhoeddwyd canllawiau Plant a Phobl Ifanc Agored i Niwed: coronafeirws. Roedd y canllawiau yn nodi’r disgwyliad y dylai awdurdodau lleol gynnal asesiad risg i bennu anghenion yr holl blant a phobl ifanc sydd â datganiad AAA.
Diben cychwynnol cynnal asesiadau oedd pennu a fyddai modd diwallu anghenion plant a phobl ifanc â datganiad AAA yn y cartref gyda’r cymorth yn cael ei ddarparu o bell, neu a fyddai angen lle gofal plant yn un o’r hybiau gan eu bod yn agored i niwed. Mae’r canllawiau yn awgrymu y dylai’r asesiadau gynnwys rhieni a gofalwyr, gweithredu mewn ffordd amlasiantaethol, lle bo’n briodol, ac y dylid eu cynnal gan awdurdodau lleol neu leoliadau addysg, gan ddibynnu pa un sydd yn y lle gorau i gynnal yr asesiad.
Canslo arholiadau'r haf
Ar 20 Mawrth, gwnaeth y Gweinidog Addysg ddatganiad yn egluro o ystyried y cyngor gwyddonol a'r cyngor iechyd a'r penderfyniad dilynol i gau ysgolion, y byddai cyfres arholiadau'r haf yn cael ei chanslo. Er mwyn sicrhau nad amherir ar allu dysgwyr yr oedd y penderfyniad hwn yn effeithio arnynt i symud ymlaen i addysg bellach neu addysg uwch neu i gyflogaeth, byddai graddau'n cael eu cyfrifo ar gyfer TGAU, Safon UG, Safon Uwch a'r Dystysgrif Her Sgiliau.
Ar gyfer dysgwyr a oedd ar fin sefyll arholiadau TGAU a Safon Uwch yr haf hwn, caiff graddau eu dyfarnu gan ddefnyddio graddau a asesir gan ganolfannau a threfniadau rancio, a gaiff eu safoni wedyn gan y bwrdd dyfarnu er mwyn sicrhau bod y system yn deg i bob dysgwr. Mae rhagor o wybodaeth am y broses hon ar gael yma: https://www.qualificationswales.org/cymraeg/cyhoeddiadau/gwybodaeth-i-ganolfannau-ar- gyflwyno-graddau-asesu-canolfannau/
Ar gyfer dysgwyr sydd ym Mlynyddoedd 10 a 12 ar hyn o bryd, sydd â blwyddyn arall o astudio, defnyddir dull gweithredu ychydig yn wahanol.
Bydd dysgwyr ym Mlwyddyn 10 a oedd ar fin sefyll arholiadau a fyddai wedi arwain at gymhwyster TGAU cyflawn yr haf hwn yn cael gradd gan ddilyn yr un broses â dysgwyr ym Mlwyddyn 11. Fodd bynnag, ni fydd dysgwyr ym Mlwyddyn 10 a oedd ar fin sefyll unedau yn unig a fydd yn arwain at ganlyniadau TGAU yr haf nesaf yn cael canlyniadau amcangyfrifedig. Bydd dau opsiwn ar gyfer y dysgwyr hyn. Gallant ddewis sefyll yr unedau y maent yn bwriadu eu cymryd yn ystod haf 2021, gyda'u gradd TGAU cyffredinol yn cael ei chyfrifo ar sail y perfformiad hwnnw'n unig. Neu, gallant ddewis sefyll unedau Blwyddyn 10 yn ystod haf 2021, ynghyd ag arholiadau Blwyddyn 11. Pa bynnag opsiwn y bydd dysgwr yn ei ddewis, bydd yn derbyn y radd orau o'r naill lwybr neu'r llall.
Ar gyfer dysgwyr ym Mlwyddyn 12 a oedd ar fin sefyll arholiadau Safon Uwch eleni, byddant yn cael gradd UG wedi'i chyfrifo ac ni gynhelir unrhyw arholiadau UG tan haf 2021. Bydd y radd wedi'i chyfrifo yn dilyn yr un broses a ddefnyddir ar gyfer dyfarnu graddau TGAU a Safon Uwch, ond ni fydd yn cyfrannu at ganlyniadau Safon Uwch yn 2021. Yn haf 2021, bydd gan ddysgwyr UG ddau opsiwn ar gyfer eu dyfarniad Safon Uwch. Gallant naill ai ddewis sefyll yr unedau U2 yn unig, gyda'r radd Safon Uwch yn cael ei dyfarnu yn unol â'u perfformiad yn yr unedau hynny yn unig, neu gallant ddewis sefyll unedau UG ac U2. Os byddant yn dewis sefyll yr unedau UG ochr yn ochr â'r unedau U2, byddant yn derbyn y radd orau o'r naill lwybr neu'r llall – naill ai y radd a ddyfernir o'r perfformiad ar unedau U2 yn unig neu'r radd a ddyfernir drwy gyfuno unedau UG ac U2.
Mae'r ffigurau dros dro yn dangos bod tua 381,465 o gofrestriadau ar gyfer arholiadau unigol (y bydd sawl un fesul myfyriwr) yng Nghymru ar gyfer TGAU, UG neu Safon Uwch yr haf hwn. Bydd mwyafrif helaeth y rheini sy'n sefyll arholiadau TGAU (88.9% o'r cofrestriadau) yn ddisgyblion 16 oed (Blwyddyn 11), ac mae'r rhan fwyaf o'r rheini sy'n sefyll arholiadau UG a Safon Uwch yn 17 a 18 oed yn y drefn honno – ond bydd rhai myfyrwyr yn iau (yn benodol y rheini sy'n sefyll arholiadau TGAU yn gynnar ym Mlwyddyn 10 ac is) neu'n hŷn (yn cynnwys y rheini sy'n ailsefyll). Gall nifer o'r myfyrwyr hyn fod yn astudio ar gyfer cymwysterau eraill hefyd fel BTEC ochr yn ochr â'u cyrsiau TGAU ac UG/Safon Uwch.
Yn ogystal ag ysgolion a cholegau, caiff y cymwysterau hyn eu hastudio mewn amrywiaeth o leoliadau eraill yn cynnwys unedau cyfeirio disgyblion, darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol, yr ystad ddiogel ac ysgolion ysbytai – cyfeirir at y rhain gyda'i gilydd yn ganolfannau arholi. Caiff rhai myfyrwyr eu cofrestru ar gyfer arholiadau fel "ymgeiswyr preifat", sy'n golygu nad ydynt wedi cael unrhyw addysg o'r ganolfan lle byddant yn sefyll yr arholiadau – bydd y rhain yn cynnwys myfyrwyr sy'n cael eu haddysgu gartref a myfyrwyr sydd wedi bod yn astudio'n annibynnol ar gyfer ailsefyll arholiadau. Mae Cymwysterau Cymru yn amcangyfrif bod tua xxx o ymgeiswyr o'r fath.
Dylid nodi bod trefniadau tebyg wedi'u gwneud o ganlyniad ar gyfer y rheini a oedd ar fin sefyll cymwysterau galwedigaethol yr haf hwn, fodd bynnag, ni chaiff hyn ei gwmpasu yn yr Asesiad Effaith Integredig hwn oherwydd ehangder ac amrywiaeth y tirlun cymwysterau galwedigaethol ac amrywiaeth eang oedrannau'r dysgwyr sy'n astudio ar gyfer y cymwysterau hyn.
Canllawiau Statudol ar Addysg yn y Cartref a Rheoliadau y Gronfa Ddata Addysg ar gyfer Awdurdodau Lleol
Penderfynwyd gohirio y diwygiadau hyn yn ffurfiol mewn cyfarfod i drafod rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar 30 Ebrill.
Fel rhan o’r gwaith o flaenoriaethu deddfwriaeth, ystyriwyd yr adnodd oedd ei angen a lefel y cymhlethdod wrth ddatblygu canllawiau statudol a rheoliadau cronfa ddata. Ar ben hynny, mae COVID-19 wedi cael effaith ar y trafodaethau angenrheidiol gydag Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol a rhanddeiliaid eraill, ac mae’r holl adnoddau sydd ar gael ganddynt ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar gynnal gwasanaethau hanfodol. Mae’n debyg mai dyma fydd y sefyllfa am gryn amser i ddod.
Toriadau cyllid
Er mwyn ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i bandemig COVID-19, bu'n rhaid gwario llawer o arian ychwanegol ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru. Er mwyn cefnogi hyn, gofynnwyd i bob adran ailarchwilio ei chynlluniau gwariant ar gyfer y flwyddyn a nodi unrhyw arbedion posibl.
Yn ystod y cyfnod hwn, pan na all y rhan fwyaf o ddysgwyr fynychu lleoliadau ac ysgolion yn bersonol, rydym wedi edrych ar bob rhan o'r system addysg i weld sut y gellir addasu gwasanaethau a chymorth. Rydym wedi edrych ar bob cyllideb addysg i weld lle y gellir gwneud arbedion o weithgarwch y gellir ei atal neu ei ohirio dros dro, neu lle bydd arbedion naturiol yn digwydd o ganlyniad i'r cyfyngiadau ar gynadleddau wyneb yn wyneb, digwyddiadau, dysgu proffesiynol a gweithgarwch arall. Rydym hefyd yn gorfod gwneud newidiadau i'r hyn y gallwn ei ddarparu i ddysgwyr yng Nghymru yn y byrdymor a sut y gallwn wneud hynny, ac o ganlyniad, trosglwyddwyd cyllid o feysydd na fyddant o bosibl yn gallu cynnig darpariaeth lawn yn y flwyddyn ariannol bresennol.
O ganlyniad, mae'r Adran Addysg wedi cyflwyno £47 miliwn o doriadau cyllid er mwyn cefnogi'r ymateb rheng flaen i'r pandemig ac fe'u nodir yn y Gyllideb Atodol a gyhoeddwyd ar 27 Mai.
1.2 Yr hirdymor
Roedd y penderfyniadau polisi a nodir uchod yn angenrheidiol oherwydd yr angen i weithredu ar unwaith i atal neu liniaru argyfwng iechyd cyhoeddus a oedd yn gwaethygu ac i gefnogi'r ymateb brys. Fodd bynnag, rydym yn parhau i ystyried effeithiau cymdeithasol, datblygiadol a llesiant cyfnodau estynedig o darfu, a'r ynysu a'r trawma posibl sy'n gysylltiedig â'r cyfyngiadau symud a chau ysgolion ar y mwyafrif o blant, eu teuluoedd, y gweithlu addysg a'u cymunedau ehangach. Cymerwyd amrywiaeth o gamau gweithredu drwy waith ar egwyddor sylfaenol 'gwerthuso ac effaith' y rhaglen Parhad Dysgu. Ar y cyd â sefydliadau addysg uwch a rhanddeiliaid eraill, y nod yw monitro'r effeithiau hyn ac mae gwaith ymchwil yn cael ei gomisiynu i geisio deall y goblygiadau tymor hwy a'r ffordd y gallwn geisio mynd i'r afael â nhw.
1.3 Atal
Y cyngor gwyddonol a roddwyd ar 18 Mawrth oedd y dylid gofalu am blant gartref lle bo hynny'n bosibl, gyda'r angen i leihau lefelau cyffredinol o ryngweithio cymdeithasol yn sylweddol. Er nad ystyrir bod y Coronafeirws yn peri risg uchel i blant yn gyffredinol, gallant gario a throsglwyddo'r feirws. O'r herwydd, nod y gwaith o addasu ysgolion a lleoliadau oedd atal y pandemig rhag cynyddu er mwyn cyfyngu ar nifer y bobl sy'n cael y feirws, a sicrhau na fydd ysbytai'n cael eu llethu.
1.3 Integreiddio
Wrth gyflwyno'r ymateb addysg cychwynnol i'r pandemig, lle bynnag y bo'n bosibl, rydym wedi ceisio mabwysiadu dull integredig o ddarparu gwasanaethau. Mae hyn yn golygu y gwnaed cyhoeddiadau ar y trefniadau gofal plant sydd ar gael i blant gweithwyr allweddol a phlant sy'n agored i niwed ochr yn ochr â'r rheini ar gyfer plant o oedran ysgol. Mae hyn yn cydnabod y byddai gan weithwyr allweddol blant o oedrannau amrywiol, ac yn aml, darperir gofal plant ar safle ysgolion. Yn yr un modd, er na chaiff hynny ei nodi yn yr Asesiad Effaith Integredig hwn, mae rhaglen waith i gefnogi plant sy'n agored i niwed a sicrhau eu bod yn ddiogel wedi'i sefydlu sy'n dwyn ynghyd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, gofal plant ac addysg.
O ran y ddarpariaeth i blant gweithwyr hanfodol a phlant sy'n agored i niwed, naill ai mewn hybiau neu mewn ysgolion, mae amrywiaeth o ddulliau gwahanol yn cael eu mabwysiadu yn dibynnu ar anghenion ac amgylchiadau lleol, fodd bynnag, mae'r ddarpariaeth hon yn dwyn ynghyd amrywiaeth o staff a gwasanaethau gwahanol yn aml. Er enghraifft, rydym yn ymwybodol bod staff awdurdodau lleol o lyfrgelloedd a chanolfannau hamdden yn cefnogi'r ddarpariaeth hon, mewn rhai ardaloedd, mae ymarferwyr ysgolion uwchradd yn gofalu am blant ysgol gynradd (neu'r gwrthwyneb) ac mae o leiaf un awdurdod lleol yn defnyddio gweithwyr chwarae i gefnogi ei ddarpariaeth.
1.4 Cydweithio
Oherwydd natur frys y penderfyniadau, yn arbennig y gwaith i addasu ysgolion, a'r amserlenni ar gyfer gwneud hyn, cyfyngwyd i ryw raddau ar y gallu i gydweithio. Fodd bynnag, gwnaed y penderfyniad i symud gwyliau'r Pasg ymlaen ac i addasu ysgolion drwy ymgynghori â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), mewn ymateb i awdurdodau lleol ac ysgolion yn codi pryderon ynghylch hyfywedd parhaus gweithrediadau arferol o ystyried y cynnydd mewn absenoldebau staff a dysgwyr.
Ers y cyhoeddiad hwn, mae amrywiaeth o drefniadau cydweithredol wedi'u sefydlu i gynllunio a chyflawni'r penderfyniadau polisi hyn. Ymysg y partneriaid allweddol mae awdurdodau lleol, CLlLC, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, Consortia Rhanbarthol, yr undebau addysg, Estyn a Cymwysterau Cymru. Rydym hefyd wedi ymgysylltu â'r trydydd sector mewn rhai meysydd, er enghraifft egwyddor cynhwysiant sylfaenol Cadw'n Ddiogel. Dal Ati i Ddysgu.
Rydym hefyd yn cydweithio â nifer eang o feysydd polisi ar draws Llywodraeth Cymru yn cynnwys Llywodraeth Leol, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, yn ogystal â gweinyddiaethau eraill y DU.
1.5 Cyfranogiad
Yn sgil natur frys yr ymateb a'r cyflymder y bu'n rhaid gwneud penderfyniadau a'u rhoi ar waith, ni fu'n weithredol ymarferol cynnwys yn uniongyrchol yr amrywiaeth lawn o bartneriaid cyflawni y mae'r penderfyniadau hyn yn effeithio arnynt fel dysgwyr, eu teuluoedd a'r gweithlu yn rhai o'r penderfyniadau a wnaed ar unwaith, fel addasu ysgolion.
O'r herwydd, lle bynnag y bo'n bosibl, rhoddwyd camau ar waith i sicrhau bod gwybodaeth hygyrch yn cael ei darparu. Er enghraifft, diweddariadau rheolaidd i Gwestiynau Cyffredin, datganiadau ysgrifenedig a llafar gan Weinidogion, cyfleusterau Holi ac Ateb ar y cyfryngau cymdeithasol (#HoliKirsty) a phresenoldeb gweinidogion ym Mhwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd a'r Senedd Ieuenctid.
Mae nifer o negeseuon fideo gan weinidogion hefyd wedi cael eu creu drwy gydol y cyfnod hwn wedi'u hanelu at grwpiau penodol o ddysgwyr, eu rhieni a'u gofalwyr neu'r gweithlu, er enghraifft fideos am adnoddau a ddarparwyd i ddysgwyr ym Mlwyddyn 13, lansio e-Seren, neu ddathlu ein harwyr yn yr Hybiau. Mae'r Gweinidog hefyd wedi cymryd rhan mewn gweithgarwch sy'n anelu'n uniongyrchol at fynd i'r afael â phryderon rhieni a gofalwyr fel Mumsnet live.
Gwnaed pob ymdrech i rannu'r newidiadau sy'n effeithio ar blant â nhw mewn ffordd y byddant yn ei deall.
Rydym hefyd wedi ceisio sicrhau bod dulliau ar waith i gasglu adborth ar effaith y polisïau hyn, fel adroddiadau gwrando dyddiol ar y cyfryngau cymdeithasol a chrynodebau dyddiol ar faterion allweddol drwy ohebiaeth ac ymholiadau â'n canolfan cyswllt cyntaf. Ar ddechrau'r cyfnod tarfu, lansiwyd arolwg drwy DooPoll gyda'r nod o ddeall anghenion gwybodaeth rhieni a gofalwyr am ddysgu o gartref yn ystod y cyfnod hwn, ac mewn ymateb i'r themâu allweddol a gododd o hyn, cynhyrchwyd podlediad gydag athrawon yn ymateb i'r pryderon hyn a oedd gan rieni.
Rydym hefyd wedi cynnal arolwg ymgynghori ar-lein o blant a phobl ifanc yng Nghymru ar effaith y Coronafeirws gan geisio eu safbwyntiau am y newidiadau dilynol i'w bywydau. Mae'r arolwg wedi cyrraedd tua 23,000 o blant a phobl ifanc rhwng 7 a 18 oed ac mae'n cynnwys cwestiynau am eu trefniadau dysgu o gartref, y graddau y mae COVID-19 wedi effeithio ar eu haddysg a sut yr hoffent i'w hysgolion gadw mewn cysylltiad â nhw. Byddwn yn ystyried canlyniadau'r arolwg hwn fel rhan o'n sail dystiolaeth ehangach.
Casgliadau
1. Sut y mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu?
Fel y nodir yn Adran 1, yn sgil natur frys yr ymateb a'r cyflymder y bu'n rhaid gwneud penderfyniadau a'u rhoi ar waith, ni fu'n weithredol ymarferol cynnwys yn uniongyrchol y partneriaid cyflawni na'r rhai y mae'r penderfyniadau hyn yn effeithio arnynt, fel dysgwyr, eu teuluoedd a'r gweithlu yn rhai o'r penderfyniadau a wnaed ar unwaith, fel addasu ysgolion.
Yng ngoleuni hyn, mae mesurau wedi cael eu rhoi ar waith ble bynnag y bo modd i sicrhau y caiff gwybodaeth hygyrch ei darparu, er enghraifft, diweddariadau rheolaidd i Gwestiynau Cyffredin, datganiadau ysgrifenedig a llafar gan Weinidogion, cyfleusterau Holi ac Ateb ar y cyfryngau cymdeithasol (#HoliKirsty) a phresenoldeb gweinidogion yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Senedd Ieuenctid. Crëwyd sawl neges fideo gan weinidogion drwy gydol y cyfnod hwn. Mae'r Gweinidog hefyd wedi cymryd rhan mewn gweithgarwch sy'n anelu'n uniongyrchol at fynd i'r afael â phryderon rhieni a gofalwyr fel Mumsnet live.
Rydym hefyd wedi ceisio sicrhau bod dulliau ar waith i gasglu adborth ar effaith y polisïau hyn, fel adroddiadau gwrando dyddiol ar y cyfryngau cymdeithasol a chrynodebau dyddiol ar faterion allweddol drwy ohebiaeth ac ymholiadau i'r ganolfan cyswllt cyntaf.
Rydym hefyd wedi cynnal arolwg ymgynghori ar-lein o blant a phobl ifanc yng Nghymru ar effaith y coronafeirws gan geisio eu safbwyntiau am y newidiadau dilynol i'w bywydau. Mae'r arolwg wedi cyrraedd tua 23,000 o blant a phobl ifanc rhwng 7 a 18 oed ac mae'n cynnwys cwestiynau am eu trefniadau dysgu o gartref, y graddau y mae COVID-19 wedi effeithio ar eu haddysg a sut yr hoffent i'w hysgolion gadw mewn cysylltiad â nhw. Cyhoeddwyd y canfyddiadau yn ddiweddar.
Beth yw'r effeithiau mwyaf arwyddocaol, yn rhai cadarnhaol a negyddol?
Mae effaith y pandemig, yn enwedig y cyfyngiadau symud hirfaith, ar ddysgwyr, eu teuluoedd, y gweithlu addysg a'r gymuned ehangach, yn sylweddol.
Gwyddom fod cau ysgolion a lleoliadau ar gyfer y mwyafrif o ddysgwyr yn cael effaith sylweddol ar allu rheini i weithio, gyda llawer ohonynt yn ceisio cyflawni eu hymrwymiadau cyflogaeth ynghyd â'u cyfrifoldebau gofalu, ac mae hyn yn cael effaith ganlyniadol ar economi Cymru, yn ogystal ag iechyd a llesiant y rhieni eu hunain. Fel y nodir yn Atodiad C, ceir effeithiau penodol ar gymunedau gwledig hefyd, fel diffyg cysylltedd digidol a cholli'r canolfannau a'r mannau cwrdd cymunedol y gall ysgolion yn aml eu cynnig mewn cymunedau o'r fath.
Mae'r gwir ddarlun yn parhau i ddatblygu'n ddyddiol yn sgil y newidiadau yn y cyngor gwyddonol a chyngor iechyd y cyhoedd wrth i'n dealltwriaeth o COVID-19 ddatblygu ac wrth i'r broses adfer ddechrau, ac wrth i dystiolaeth ac adroddiadau ymchwil newydd ddod i'r amlwg yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Er inni allu meithrin dealltwriaeth resymol fanwl o effaith fyrdymor y penderfyniadau polisi uniongyrchol a wnaed, mae'n annhebygol y byddwn yn gwybod beth yw graddau'r goblygiadau tymor hwy am beth amser, er enghraifft:
- faint o ddysgu y gallai fod wedi'i golli mewn gwirionedd yn ystod y cyfnod cychwynnol hwn o darfu, gan nad yw'r rhan fwyaf o ddysgwyr wedi bod yn yr ysgol ers 20 Mawrth o leiaf (cyfnod o dri mis) a sut y gallai hyn amrywio o un grŵp o ddysgwyr i'r llall, gan gynnwys y rhai â nodweddion gwarchodedig
- yr effaith ganlyniadol ar ddatblygiad dysgwyr, yn enwedig y rhai sydd yn eu blynyddoedd ffurfiannol, a beth y gallai hyn ei wneud i'r bwlch cyrhaeddiad, nawr ac yn y dyfodol
- tr effeithiau tymor hwy ar iechyd a llesiant dysgwyr yn sgil mwy o arwahanu cymdeithasol, colli trefn feunyddiol bywyd ysgol gan gynnwys gweithgarwch corfforol a phrydau bwyd maethlon, a'r posibilrwydd o brofi amgylchiadau anodd neu beryglus gartref
- effaith cau ysgolion a dysgu o bell ar y proffesiwn addysg yn y tymor hwy
Yr hyn a wyddom o'r Asesiad Effaith Integredig hwn yw bod effaith gronnus y polisïau yn Adran 1, yn enwedig addasu ysgolion at ddibenion gwahanol, yn debygol o fod yn arbennig o ddifrifol i grwpiau penodol o ddysgwyr. Mae'r rhain i'w gweld yn yr Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant yn Atodiad A, ac wedi'u crynhoi isod:
- Dysgwyr agored i niwed a dan anfantais, gan gynnwys y rhai sy'n cael prydau ysgol am ddim, y mae Cymraeg neu Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt a'r rhai o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, sy'n tueddu i gael llai o gyfleoedd addysgol y tu allan i'r ysgol. Mae'n bosibl bod eu rhieni'n llai tebygol o fod yn barod ar gyfer dysgu o bell, yn enwedig os oes ganddynt addysg ac adnoddau cyfyngedig eu hunain. Hefyd, gall fod diffyg gallu i gymryd rhan mewn dysgu o bell oherwydd diffyg mynediad digidol, dim cyfrifiaduron, problemau wrth gysylltu â'r rhyngrwyd neu ddiffyg amgylchedd addas i ddysgu gartref. Gallai hyn waethygu'r bwlch cyrhaeddiad.
- I rai dysgwyr, gall peidio â bod yn amgylchedd yr ysgol fod yn arbennig o niweidiol. Gallai hyn fod oherwydd eu hamgylchedd cartref: problemau alcohol neu gyffuriau; perthnasoedd camdriniol; diffyg goddefgarwch o grefydd, rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol dysgwr, a mwy o risg o gamfanteisio ar-lein. Gall gofalwyr ifanc ei chael hi'n anodd cydbwyso parhau i ddysgu gartref â gofalu am aelodau o'r teulu, heb y seibiant y gall mynd i'r ysgol ei gynnig. I ddysgwyr eraill, efallai na allant gael y cymorth ychwanegol y byddant yn ei gael fel arfer, fel gwasanaeth cwnsela yn yr ysgol, THRIVE neu hyfforddiant emosiynol THRIVE, ac mae llai o gyswllt uniongyrchol ag athrawon hefyd yn debygol o arwain at oedi cyn adnabod plant sy'n wynebu risg a'u hatgyfeirio at asiantaethau eraill.
- Dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol: Gall aros gartref darfu mwy ar fywydau a threfn feunyddiol dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau, yn arbennig o ganlyniad i'w hanghenion addysgol arbenigol. Mae'r effaith hefyd yn debygol o fod yn fwy sylweddol ar eu teuluoedd a'u gofalwyr, am nad yw'r gofal seibiant a'r cyfleusterau y maent yn dibynnu arnynt, neu am fod y ddarpariaeth yn gyfyngedig iawn.
- Gall fod effaith anghymesur ar ddysgwyr o leiafrifoedd ethnig, yn enwedig y rhai y mae Cymraeg neu Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt, yn debyg i'r problemau a nodir ar gyfer disgyblion cyfrwng Cymraeg (isod), drwy gyfuniad o'r ffaith bod llai o adnoddau ar gael i'w helpu i barhau i ddysgu a llai o gymorth gan rieni i ddysgu gartref os nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg yn rhugl.
- Dysgwyr cyfrwng Cymraeg: Gall fod llai o adnoddau ar gael i'w helpu i barhau i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, gan olygu y gall y dysgwyr hyn fod yn fwy cyfyngedig, gyda llai o opsiynau neu amrywiaeth ar gael i ennyn eu diddordeb. Felly, mae risg y gallai fod yn fwy heriol i ysgolion cyfrwng Cymraeg ailennyn diddordeb dysgwyr ar ôl y cyfnod dysgu o bell o gymharu ag ysgolion cyfrwng Saesneg. Efallai fod y cymorth y gall rhieni dysgwyr cyfrwng Cymraeg nad ydynt yn siarad Cymraeg eu hunain ei roi er mwyn helpu'r dysgwyr i barhau i ddysgu gartref yn gyfyngedig hefyd. Gallai hyn waethygu'r effeithiau uchod gan olygu y bydd dysgwyr cyfrwng Cymraeg yn cael mwy o anawsterau na'u cyfoedion cyfrwng Saesneg. Nodir rhagor o oblygiadau mewn perthynas â'r Gymraeg yn Atodiad D.
Er mai effeithiau negyddol yw'r rhain i gyd, gwyddom hefyd bod peidio â bod yn yr ysgol neu mewn lleoliad addysgol arall wedi bod yn brofiad cadarnhaol i rai dysgwyr a'u teuluoedd, er enghraifft:
- diddordeb dysgwyr yn yr hyn y maent yn ei ddysgu yn cael ei ailennyn drwy'r ffordd newydd hon o weithio:
- mwy o amser i'w dreulio â'u teulu agos, gan gynnwys teuluoedd yn agosáu at ei gilydd ar ôl treulio mwy o amser gyda'i gilydd
- mwy o amser i ganolbwyntio ar hobïau, diddordebau, cyfleoedd i chwarae a gwirfoddoli
- teimlo'n fwy diogel yn eu lleoliadau maethu
- llai o bryder os oeddent yn cael eu bwlio yn yr ysgol
- gwell iechyd meddwl drwy gael cyfnod i ymlacio i ffwrdd oddi wrth bethau sy'n achosi straen (bwlio, anawsterau wrth ddysgu, pryder ynglŷn â disgwyliadau dysgu neu arholiadau, pwysau cymdeithasol)
Yng ngoleuni'r effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:
yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl tuag at gyflawni ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant
yn osgoi, yn lleihau neu'n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Prif nod yr holl benderfyniadau polisi a nodir yn Adran 1 oedd cefnogi dysgwyr, eu teuluoedd a'r gweithle addysg, yn ystod pandemig COVID-19, hybu eu diogelwch a'u llesiant yn unol â chyngor iechyd a chyngor gwyddonol y Llywodraeth, a hwyluso'r ymateb brys i'r pandemig.
Er y bu effeithiau anochel ac anorfod yn sgil ymateb i'r argyfwng hwn o fewn amserlenni heriol, yn enwedig cau ysgolion i'r mwyafrif o ddysgwyr, rydym wedi ceisio rhoi mesurau ar waith i liniaru'r rhain, gan gynnwys:
- Addasu ysgolion at ddibenion gwahanol er mwyn darparu ar gyfer plant gweithwyr hanfodol a phlant agored i niwed, er mwyn cefnogi rhieni y mae eu gwaith yn hanfodol i'r ymateb i COVID-19 lle nad oes gofal plant arall ar gael.
- Darparu gwerth £40 miliwn o gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn iddynt sefydlu dulliau lleol o gefnogi teuluoedd plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim na allant gael y cymorth hwn tra bo'r ysgolion ar gau, er mwyn sicrhau na fydd y teuluoedd hyn yn mynd heb fwyd nac yn wynebu caledi ariannol ychwanegol.
- Datblygu rhaglen Parhad Dysgu i gefnogi dysgu o bell yn ystod y cyfnod pan fo'r ysgolion ar gau. Mae hyn yn dwyn cyfraniadau o bob rhan o'r byd addysg a thu hwnt ynghyd i gefnogi, creu rhannu rhaglenni o ansawdd da ar gyfer dysgu o bell gydag adnoddau i gefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau, gan gynnwys darparu dyfeisiau digidol a chefnogi cysylltedd.
- Gwneud trefniadau i gyfrifo graddau dysgwyr a fyddai wedi sefyll arholiadau yr haf hwn, er mwyn eu galluogi i symud ymlaen i addysg bellach neu fyd gwaith ar ôl i gyfres arholiadau'r haf gael ei chanslo.
Wrth i gyfnod y cyfyngiadau symud fynd yn ei flaen ac wrth inni feithrin dealltwriaeth o'r goblygiadau tebygol, cymerwyd camau pellach i wneud y canlynol:
- Naill ai datblygu mesurau roedd disgwyl iddynt fod yn rhai byrdymor, er enghraifft:
- newidiadau i'r trefniadau ar gyfer cefnogi teuluoedd â phlant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, gyda'r rhan fwyaf o awdurdodau bellach yn cynnig talebau bwyd neu drosglwyddiadau BACS
- datblygu rhaglen Parhad Dysgu ymhellach drwy lunio canllawiau sy'n pennu disgwyliadau cyffredin i ysgolion a lleoliadau wrth ddatblygu eu cymorth ar gyfer dysgu gartref a sefydlu prosesau monitro ac adrodd drwy'r Consortia Rhanbarthol er mwyn deall y lefelau o ymgysylltu â dysgwyr a nodi a rhannu arferion da.
- Neu geisio lliniaru'r effeithiau negyddol a oedd yn dod i'r amlwg, er enghraifft:
- Y buddsoddiad ychwanegol mewn iechyd meddwl a gwasanaethau cwnsela a datblygu pecyn cymorth iechyd meddwl
- Sicrhau bod mwy o blant agored i niwed yn manteisio ar yr hybiau
Er nad yw'r sylfaen dystiolaeth bresennol yn gyflawn o bell ffordd, byddwn yn ceisio defnyddio'r hyn rydym wedi'i ddysgu o'r cyfnod hwn a'r gweithgareddau gwerthuso ac ymchwil ychwanegol rydym yn eu rhoi ar waith, fel yr amlinellir yn yr adran nesaf, i lywio a datblygu penderfyniadau polisi yn y dyfodol mewn perthynas â'r pandemig, fel gweithrediadau ychwanegol ysgolion neu'r trefniadau a wneir ar gyfer dysgwyr y disgwylir iddynt sefyll arholiadau yn haf 2021.
Er bod y cyfnod hwn wedi bod yn heriol tu hwnt i bawb yn y sector addysg, mae addasu ac ymateb i'r argyfwng hefyd wedi cynnig cyfleoedd rydym yn awyddus i'w cadw wrth i'r cyfnod adfer ddechrau. Ymhlith y rhain mae:
- Y ffordd gydweithredol ac adeiladol y mae pobl ym mhob rhan o'r sector a thu hwnt wedi mynd ati i ddatblygu adnoddau ar gyfer rhaglen Parhad Dysgu, i sicrhau darpariaeth ar gyfer plant gweithwyr hanfodol a phlant agored i niwed, ac er mwyn helpu i lywio ystyriaethau ynglŷn â gweithrediadau ychwanegol ysgolion;
- Yr arloesi mewn dysgu ac addysgu er mwyn cynnig cyfleoedd i ddysgu o bell, gan gynnwys cynnydd mewn hyfedredd digidol;
- Mwy o ffocws ar iechyd a llesiant, a dealltwriaeth well ohonynt, a fydd yn hwyluso'r broses o newid i drefniadau'r cwricwlwm newydd.
Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth i'r cynnig fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?
Ochr yn ochr â'n sefydliad partner, rydym wedi dechrau gwneud gwaith dadansoddi er mwyn monitro a gwerthuso effaith argyfwng COVID-19. Wrth i'r cynlluniau monitro a gwerthuso hyn barhau i gael eu datblygu wrth i ofynion tystiolaeth newydd gael eu nodi, caiff ymatebion polisi eu diweddaru a chamau lliniaru ychwanegol eu cymryd, ac mae'r gweithgarwch sydd eisoes yn mynd rhagddo a'r gweithgarwch arfaethedig wedi'u hamlinellu isod.
Mae Llywodraeth Cymru yn:
- cynnal nifer o adolygiadau tystiolaeth cyflym o waith ymchwil yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae'r cyntaf o'r rhain yn canolbwyntio ar effeithiau argyfyngau ar iechyd meddwl a llesiant dysgwyr, a dulliau o gefnogi'r broses adfer. Rydym yn bwriadu cyhoeddi'r adolygiad hwn yn yr haf. Bwriedir cynnal rhagor o adolygiadau, a fydd yn helpu i ddatblygu'r cynllun Parhau Dysgu
- dadansoddiad ymchwiliol o gyfranogiad mewn dysgu o bell, drwy ddadansoddi data ar weithgarwch mewngofnodi
- cymorth cynllunio ar gyfer cyfres o weithgareddau ymchwil i'w cynnal gan sefydliadau addysg uwch ac ymarferwyr ysgol ar effaith y pandemig. Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar addysg gychwynnol i athrawon yn y dyfodol ac ar ddarpariaeth mewn grwpiau o ysgolion
- ystyried opsiynau ar gyfer comisiynu arolwg o ymarferwyr ysgol er mwyn ein galluogi i feithrin dealltwriaeth fanylach o'u profiadau o ddarparu addysg, drwy ddulliau gwahanol, i ddisgyblion, er mwyn deall beth oedd yn fwy neu’n llai effeithiol a pham, yn ogystal â'r effeithiau ar lwyth gwaith a llesiant staff;
- cynnal storfa o waith ymchwil arolygon a thystiolaeth arall o Gymru, y DU a thu hwnt;
- cynnwys cwestiynau a gaiff eu hadolygu bob mis yn Arolwg Cenedlaethol Cymru am brofiadau teuluoedd o ddarparu addysg
- cynnwys cwestiynau yn ein sampl gyfnerthedig ar gyfer Cymru o arolwg rhyngwladol Ipsos- MORI sy'n olrhain barn y cyhoedd yn ystod yr argyfwng;
- cymeradwyo ceisiadau ar gyfer cynlluniau a ariennir gan UKRI os byddant yn helpu i ddiwallu ein hanghenion tystiolaeth; Ad-drefnu'r gweithgarwch a oedd eisoes yn mynd rhagddo cyn yr argyfwng, er mwyn casglu gwybodaeth am ei effeithiau, gan gynnwys:
- gwerthuso rhaglen beilot mewngymorth Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) (disgwylir cyhoeddiad interim yr haf hwn1)
- adolygu gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion ac yn y gymuned a threialu gwasanaethau i ddisgyblion iau
- ymchwil i gefnogi'r gwaith o ddatblygu cynlluniau gweithredu ar gyfer y Strategaeth Gwaith Ieuenctid
Mae Cymwysterau Cymru yn:
- cyhoeddi adroddiad ar yr ymatebion i'w ymgynghoriad ar y trefniadau ar gyfer dyfarnu graddau am arholiadau a ganslwyd, gan gynnwys egwyddorion ar gyfer y model safoni a'r broses apelio
- ymchwilio i fodelau safoni graddau, a bydd yn cyhoeddi nifer o allbynnau pellach yn canolbwyntio ar ddyfarnu cymwysterau, gan gynnwys manylion am y dull terfynol o gynhyrchu graddau ac, yn nes ymlaen yn y flwyddyn, dadansoddiad o raddau asesu canolfannau'r haf hwn, yn ogystal â dadansoddiad hanesyddol o raddau mewn perthynas â nodweddion cydraddoldeb
- cyfrannu at ddadansoddiad parhaus o opsiynau mewn perthynas â chymwysterau ac arholiadau yn ystod blwyddyn ysgol 2020 i 2021
- ystyried nifer o weithgareddau pellach i ddeall effaith y trefniadau a roddwyd ar waith eleni, gan gynnwys mwy o waith i ddadansoddi canlyniadau canolfannau, a datblygiadau i'w arolwg blynyddol o hyder y cyhoedd
Mae Estyn yn:
- cynnal arolwg o awdurdodau lleol ar yr un sy'n gweithio'n dda a'r rhwystrau a'r heriau sy'n wynebu ysgolion ac awdurdodau lleol wrth roi rhaglen Parhad Dysgu ar waith
- ymgysylltu ag ysgolion, dros y ffôn i ddechrau ac wedyn drwy gynnal ymweliadau yn ystod 2020-21, ym mhob sector ysgolion, awdurdod lleol, consortiwm rhanbarthol, darparwr addysg gychwynnol i athrawon a darparwr addysg ôl-16.Bydd y gwaith ymgysylltu ag ysgolion yn canolbwyntio ar ymgysylltu â disgyblion a'u cefnogi, ac ar lesiant staff, disgyblion a chymuned ysgo
- cynnwys adran thematig yn Adroddiad Blynyddol eleni a fydd yn canolbwyntio ar addysg a COVID-19. Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2020
Mae'r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol yn:
- Cynnal arolwg o arweinwyr ysgolion er mwyn deall eu llesiant proffesiynol
Bydd canlyniadau'r gweithgareddau hyn yn ein helpu i feithrin dealltwriaeth well o effaith COVID-19, a'r camau cychwynnol a gymerwyd ym mhob rhan o'r sector addysg i ymateb i'r argyfwng iechyd y cyhoedd hwn, ar ddysgwyr, eu teuluoedd, y proffesiwn addysg a chymunedau lleol. Bydd y sylfaen dystiolaeth yn ein galluogi i adolygu a diwygio polisïau, canfod bylchau pellach yn y dystiolaeth ac ystyried camau lliniaru pellach sy'n angenrheidiol ar gyfer y rhai y mae hyn wedi cael yr effaith fwyaf niweidiol arnynt. Bydd y ddealltwriaeth hon hefyd yn ein helpu i ystyried polisïau yn y dyfodol, yn enwedig mewn perthynas â gweithrediadau ychwanegol ysgolion – er bod y penderfyniadau hyn eisoes wedi cael eu gwneud ar gyfer tymor yr haf, bydd penderfyniadau yn y dyfodol yn canolbwyntio ar drefniadau ar gyfer tymor yr hydref a thu hwnt gan fod cyngor iechyd y cyhoedd yn awgrymu ei bod yn debygol y bydd y tarfu'n parhau hyd y gellir rhagweld.
2. Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?
Mae effaith y pandemig, yn enwedig y cyfyngiadau symud hirfaith, ar ddysgwyr, eu teuluoedd, y gweithlu addysg a'r gymuned ehangach, yn sylweddol.
Gwyddom fod cau ysgolion a lleoliadau ar gyfer y mwyafrif o ddysgwyr yn cael effaith sylweddol ar allu rheini i weithio, gyda llawer ohonynt yn ceisio cyflawni eu hymrwymiadau cyflogaeth ynghyd â'u cyfrifoldebau gofalu, ac mae hyn yn cael effaith ganlyniadol ar economi Cymru, yn ogystal ag iechyd a llesiant y rhieni eu hunain. Ceir effeithiau penodol ar gymunedau gwledig hefyd, fel diffyg cysylltedd digidol a cholli'r canolfannau a'r mannau cwrdd cymunedol y gall ysgolion yn aml eu cynnig mewn cymunedau o'r fath.
Mae'r gwir ddarlun yn parhau i ddatblygu'n ddyddiol yn sgil y newidiadau yn y cyngor gwyddonol a chyngor iechyd y cyhoedd wrth i'n dealltwriaeth o COVID-19 ddatblygu ac wrth i'r broses adfer ddechrau. Yr hyn a wyddom o'r Asesiad Effaith Integredig hwn yw bod effaith gronnus y polisïau, yn enwedig addasu ysgolion at ddibenion gwahanol, yn debygol o fod yn arbennig o ddifrifol i grwpiau penodol o ddysgwyr, fel y gwelir isod:
- Dysgwyr agored i niwed a dan anfantais, gan gynnwys y rhai sy'n cael prydau ysgol am ddim, y mae Cymraeg neu Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt a'r rhai o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, sy'n tueddu i gael llai o gyfleoedd addysgol y tu allan i'r ysgol. Gallai hyn waethygu'r bwlch cyrhaeddiad.
- I rai dysgwyr, gall peidio â bod yn amgylchedd yr ysgol fod yn arbennig o niweidiol yn sgil eu hamgylchedd cartref: problemau alcohol neu gyffuriau; perthnasoedd camdriniol; diffyg goddefgarwch o grefydd, rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol dysgwr, a mwy o risg o gamfanteisio ar- lein. Gall gofalwyr ifanc ei chael hi'n anodd cydbwyso parhau i ddysgu gartref â gofalu am aelodau o'r teulu. I ddysgwyr eraill, efallai na allant gael y cymorth ychwanegol y byddant yn ei gael fel arfer, fel gwasanaeth cwnsela yn yr ysgol.
- Dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol – Gall aros gartref darfu mwy ar fywydau a threfn feunyddiol dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau, yn arbennig o ganlyniad i'w hanghenion addysgol arbenigol. Mae'r effaith hefyd yn debygol o fod yn fwy sylweddol ar eu teuluoedd a'u gofalwyr, am nad yw'r gofal seibiant a'r cyfleusterau y maent yn dibynnu arnynt, neu am fod y ddarpariaeth yn gyfyngedig iawn.
- Gall fod effaith anghymesur ar ddysgwyr o leiafrifoedd ethnig, yn enwedig y rhai y mae Cymraeg neu Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt, yn debyg i'r problemau a nodir ar gyfer disgyblion cyfrwng Cymraeg (isod), drwy gyfuniad o'r ffaith bod llai o adnoddau ar gael i'w helpu i barhau i ddysgu a llai o gymorth gan rieni i ddysgu gartref os nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg yn rhugl.
- Dysgwyr cyfrwng Cymraeg – Gall fod llai o adnoddau ar gael i'w helpu i barhau i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, gan olygu y gall y dysgwyr hyn fod yn fwy cyfyngedig, gyda llai o opsiynau neu amrywiaeth ar gael i ennyn eu diddordeb. Felly, mae risg y gallai fod yn fwy heriol i ysgolion cyfrwng Cymraeg ailennyn diddordeb dysgwyr ar ôl y cyfnod dysgu o bell o gymharu ag ysgolion cyfrwng Saesneg. Efallai fod y cymorth y gall rhieni dysgwyr cyfrwng Cymraeg nad ydynt yn siarad Cymraeg eu hunain ei roi er mwyn helpu'r dysgwyr i barhau i ddysgu gartref yn gyfyngedig hefyd. Gallai hyn waethygu'r effeithiau uchod gan olygu y bydd dysgwyr cyfrwng Cymraeg yn cael mwy o anawsterau na'u cyfoedion cyfrwng Saesneg.
Er mai effeithiau negyddol yw'r rhain i gyd, gwyddom hefyd bod peidio â bod yn yr ysgol neu mewn lleoliad addysgol arall wedi bod yn brofiad cadarnhaol i rai dysgwyr a'u teuluoedd, er enghraifft:
- diddordeb dysgwyr yn yr hyn y maent yn ei ddysgu yn cael ei ailennyn drwy'r ffordd newydd hon o weithio
- mwy o amser i'w dreulio â'u teulu agos, gan gynnwys teuluoedd yn agosáu at ei gilydd ar ôl treulio mwy o amser gyda'i gilydd
- mwy o amser i ganolbwyntio ar hobïau, diddordebau, cyfleoedd i chwarae a gwirfoddoli;
- teimlo'n fwy diogel yn eu lleoliadau maethu
- llai o bryder os oeddent yn cael eu bwlio yn yr ysgol
- gwell iechyd meddwl drwy gael cyfnod i ymlacio i ffwrdd oddi wrth bethau sy'n achosi straen (bwlio, anawsterau wrth ddysgu, pryder ynglŷn â disgwyliadau dysgu neu arholiadau, pwysau cymdeithasol)
3. Yn dilyn yr effeithiau a nodwyd, sut fydd y cynnig yn:
sicrhau’r cyfraniad mwyaf i’n hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu
yn osgoi, yn lleihau neu’n lleddfu unrhyw effeithiau negyddol?
Yr hirdymor
Roedd y penderfyniadau polisi a nodir yn angenrheidiol oherwydd yr angen i weithredu ar unwaith i atal neu liniaru argyfwng iechyd cyhoeddus a oedd yn gwaethygu ac i gefnogi'r ymateb brys. Fodd bynnag, rydym yn parhau i ystyried effeithiau cymdeithasol, datblygiadol a llesiant cyfnodau estynedig o darfu, a'r ynysu a'r trawma posibl sy'n gysylltiedig â'r cyfyngiadau symud a chau ysgolion ar y mwyafrif o blant, eu teuluoedd, y gweithlu addysg a'u cymunedau ehangach. Cymerwyd amrywiaeth o gamau gweithredu drwy waith ar egwyddor sylfaenol 'gwerthuso ac effaith' y rhaglen Parhad Dysgu. Ar y cyd â sefydliadau addysg uwch a rhanddeiliaid eraill, y nod yw monitro'r effeithiau hyn ac mae gwaith ymchwil yn cael ei gomisiynu i geisio deall y goblygiadau tymor hwy a'r ffordd y gallwn geisio mynd i'r afael â nhw.
Atal
Y cyngor gwyddonol a roddwyd ar 18 Mawrth oedd y dylid gofalu am blant gartref lle bo hynny'n bosibl, gyda'r angen i leihau lefelau cyffredinol o ryngweithio cymdeithasol yn sylweddol. Er nad ystyrir bod y Coronafeirws yn peri risg uchel i blant yn gyffredinol, gallant gario a throsglwyddo'r feirws. O'r herwydd, nod y gwaith o addasu ysgolion a lleoliadau oedd atal y pandemig rhag cynyddu er mwyn cyfyngu ar nifer y bobl sy'n cael y feirws, a sicrhau na fydd ysbytai'n cael eu llethu.
Integreiddio
Wrth gyflwyno'r ymateb addysg cychwynnol i'r pandemig, lle bynnag y bo'n bosibl, rydym wedi ceisio mabwysiadu dull integredig o ddarparu gwasanaethau. Mae hyn yn golygu y gwnaed cyhoeddiadau ar y trefniadau gofal plant sydd ar gael i blant gweithwyr allweddol a phlant sy'n agored i niwed ochr yn ochr â'r rheini ar gyfer plant o oedran ysgol. Mae hyn yn cydnabod y byddai gan weithwyr allweddol blant o oedrannau amrywiol, ac yn aml, darperir gofal plant ar safle ysgolion. Yn yr un modd, er na chaiff hynny ei nodi yn yr Asesiad Effaith Integredig hwn, mae rhaglen waith i gefnogi plant sy'n agored i niwed a sicrhau eu bod yn ddiogel wedi'i sefydlu sy'n dwyn ynghyd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, gofal plant ac addysg.
O ran y ddarpariaeth i blant gweithwyr hanfodol a phlant sy'n agored i niwed, naill ai mewn hybiau neu mewn ysgolion, mae amrywiaeth o ddulliau gwahanol yn cael eu mabwysiadu yn dibynnu ar anghenion ac amgylchiadau lleol, fodd bynnag, mae'r ddarpariaeth hon yn dwyn ynghyd amrywiaeth o staff a gwasanaethau gwahanol yn aml. Er enghraifft, rydym yn ymwybodol bod staff awdurdodau lleol o lyfrgelloedd a chanolfannau hamdden yn cefnogi'r ddarpariaeth hon, mewn rhai ardaloedd, mae ymarferwyr ysgolion uwchradd yn gofalu am blant ysgol gynradd (neu'r gwrthwyneb) ac mae o leiaf un awdurdod lleol yn defnyddio gweithwyr chwarae i gefnogi ei ddarpariaeth.
Cydweithio
Oherwydd natur frys y penderfyniadau, yn arbennig y gwaith i addasu ysgolion, a'r amserlenni ar gyfer gwneud hyn, cyfyngwyd i ryw raddau ar y gallu i gydweithio. Fodd bynnag, gwnaed y penderfyniad i symud gwyliau'r Pasg ymlaen ac i addasu ysgolion drwy ymgynghori â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), mewn ymateb i awdurdodau lleol ac ysgolion yn codi pryderon ynghylch hyfywedd parhaus gweithrediadau arferol o ystyried y cynnydd mewn absenoldebau staff a dysgwyr.
Ers y cyhoeddiad hwn, mae amrywiaeth o drefniadau cydweithredol wedi'u sefydlu i gynllunio a chyflawni'r penderfyniadau polisi hyn. Ymysg y partneriaid allweddol mae awdurdodau lleol, CLlLC, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, Consortia Rhanbarthol, yr undebau addysg, Estyn a Cymwysterau Cymru. Rydym hefyd wedi ymgysylltu â'r trydydd sector mewn rhai meysydd, er enghraifft egwyddor cynhwysiant sylfaenol Cadw'n Ddiogel. Dal Ati i Ddysgu.
Rydym hefyd yn cydweithio â nifer eang o feysydd polisi ar draws Llywodraeth Cymru yn cynnwys Llywodraeth Leol, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, yn ogystal â gweinyddiaethau eraill y DU.
Cyfranogiad
Yn sgil natur frys yr ymateb a'r cyflymder y bu'n rhaid gwneud penderfyniadau a'u rhoi ar waith, ni fu'n weithredol ymarferol cynnwys yn uniongyrchol yr amrywiaeth lawn o bartneriaid cyflawni y mae'r penderfyniadau hyn yn effeithio arnynt fel dysgwyr, eu teuluoedd a'r gweithlu yn rhai o'r penderfyniadau a wnaed ar unwaith, fel addasu ysgolion.
O'r herwydd, lle bynnag y bo'n bosibl, rhoddwyd camau ar waith i sicrhau bod gwybodaeth hygyrch yn cael ei darparu. Er enghraifft, diweddariadau rheolaidd i Gwestiynau Cyffredin, datganiadau ysgrifenedig a llafar gan Weinidogion, cyfleusterau Holi ac Ateb ar y cyfryngau cymdeithasol (#HoliKirsty) a phresenoldeb gweinidogion ym Mhwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd a'r Senedd Ieuenctid.
Mae nifer o negeseuon fideo gan weinidogion hefyd wedi cael eu creu drwy gydol y cyfnod hwn wedi'u hanelu at grwpiau penodol o ddysgwyr, eu rhieni a'u gofalwyr neu'r gweithlu, er enghraifft fideos am adnoddau a ddarparwyd i ddysgwyr ym Mlwyddyn 13, lansio e-Seren, neu ddathlu ein harwyr yn yr Hybiau. Mae'r Gweinidog hefyd wedi cymryd rhan mewn gweithgarwch sy'n anelu'n uniongyrchol at fynd i'r afael â phryderon rhieni a gofalwyr fel Mumsnet live. Gwnaed pob ymdrech i rannu'r newidiadau sy'n effeithio ar blant â nhw mewn ffordd y byddant yn ei deall.
Rydym hefyd wedi ceisio sicrhau bod dulliau ar waith i gasglu adborth ar effaith y polisïau hyn, fel adroddiadau gwrando dyddiol ar y cyfryngau cymdeithasol a chrynodebau dyddiol ar faterion allweddol drwy ohebiaeth ac ymholiadau â'n canolfan cyswllt cyntaf. Ar ddechrau'r cyfnod tarfu, lansiwyd arolwg drwy DooPoll gyda'r nod o ddeall anghenion gwybodaeth rhieni a gofalwyr am ddysgu o gartref yn ystod y cyfnod hwn, ac mewn ymateb i'r themâu allweddol a gododd o hyn, cynhyrchwyd podlediad gydag athrawon yn ymateb i'r pryderon hyn a oedd gan rieni.
Rydym hefyd wedi cynnal arolwg ymgynghori ar-lein o blant a phobl ifanc yng Nghymru ar effaith y Coronafeirws gan geisio eu safbwyntiau am y newidiadau dilynol i'w bywydau. Mae'r arolwg wedi cyrraedd tua 23,000 o blant a phobl ifanc rhwng 7 a 18 oed ac mae'n cynnwys cwestiynau am eu trefniadau dysgu o gartref, y graddau y mae COVID-19 wedi effeithio ar eu haddysg a sut yr hoffent i'w hysgolion gadw mewn cysylltiad â nhw. Byddwn yn ystyried canlyniadau'r arolwg hwn fel rhan o'n sail dystiolaeth ehangach.
Er y bu effeithiau anochel ac anorfod yn sgil ymateb i'r argyfwng hwn o fewn amserlenni heriol, yn enwedig cau ysgolion i'r mwyafrif o ddysgwyr, rydym wedi ceisio rhoi mesurau ar waith i liniaru'r rhain, gan gynnwys:
- addasu ysgolion at ddibenion gwahanol er mwyn darparu ar gyfer plant gweithwyr hanfodol a phlant agored i niwed, er mwyn cefnogi rhieni y mae eu gwaith yn hanfodol i'r ymateb i COVID-19 lle nad oes gofal plant arall ar gael
- darparu gwerth £40 miliwn o gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn iddynt sefydlu dulliau lleol o gefnogi teuluoedd plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim na allant gael y cymorth hwn tra bo'r ysgolion ar gau, er mwyn sicrhau na fydd y teuluoedd hyn yn mynd heb fwyd nac yn wynebu caledi ariannol ychwanegol
- datblygu rhaglen Parhad Dysgu i gefnogi dysgu o bell yn ystod y cyfnod pan fo'r ysgolion ar gau. Mae hyn yn dwyn cyfraniadau o bob rhan o'r byd addysg a thu hwnt ynghyd i gefnogi, creu a rhannu rhaglenni o ansawdd da ar gyfer dysgu o bell gydag adnoddau i gefno
- gwneud trefniadau i gyfrifo graddau dysgwyr a fyddai wedi sefyll arholiadau yr haf hwn, er mwyn eu galluogi i symud ymlaen i addysg bellach neu fyd gwaith ar ôl i gyfres arholiadau'r haf gael ei chanslo
Wrth i gyfnod y cyfyngiadau symud fynd yn ei flaen, cymerwyd camau pellach:
- newidiadau i'r trefniadau ar gyfer cefnogi teuluoedd â phlant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, gyda'r rhan fwyaf o awdurdodau bellach yn cynnig talebau bwyd neu drosglwyddiadau BACS
- datblygu rhaglen Parhad Dysgu ymhellach drwy lunio canllawiau sy'n pennu disgwyliadau cyffredin i ysgolion a lleoliadau wrth ddatblygu eu cymorth ar gyfer dysgu gartref
- buddsoddiad ychwanegol mewn iechyd meddwl a gwasanaethau cwnsela a datblygu pecyn cymorth iechyd meddwl
4. Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei fonitro a’i werthuso wrth iddo fynd rhagddo a phan gaiff ei gwblhau?
Ochr yn ochr â'n sefydliad partner, Cymwysterau Cymru, rydym wedi dechrau gwneud gwaith dadansoddi er mwyn monitro a gwerthuso effaith argyfwng COVID-19. Wrth i'r cynlluniau monitro a gwerthuso hyn barhau i gael eu datblygu wrth i ofynion tystiolaeth newydd gael eu nodi, caiff ymatebion polisi eu diweddaru a chamau lliniaru ychwanegol eu cymryd, ac mae'r gweithgarwch sydd eisoes yn mynd rhagddo a'r gweithgarwch arfaethedig wedi'u hamlinellu isod.
Mae Llywodraeth Cymru yn:
Cynnal nifer o adolygiadau tystiolaeth cyflym o waith ymchwil yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae'r cyntaf o'r rhain yn canolbwyntio ar effeithiau argyfyngau ar iechyd meddwl a llesiant dysgwyr, a dulliau o gefnogi'r broses adfer. Rydym:
- yn bwriadu cyhoeddi'r adolygiad hwn yn yr haf. Bwriedir cynnal rhagor o adolygiadau, a fydd yn helpu i ddatblygu'r cynllun Parhau Dysgu
- dadansoddiad ymchwiliol o gyfranogiad mewn dysgu o bell, drwy ddadansoddi data ar weithgarwch mewngofnodi
- cymorth cynllunio ar gyfer cyfres o weithgareddau ymchwil i'w cynnal gan sefydliadau addysg uwch ac ymarferwyr ysgol ar effaith y pandemig. Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar addysg gychwynnol i athrawon yn y dyfodol ac ar ddarpariaeth mewn grwpiau o ysgolion
- ystyried opsiynau ar gyfer comisiynu arolwg o ymarferwyr ysgol er mwyn ein galluogi i feithrin dealltwriaeth fanylach o'u profiadau o ddarparu addysg, drwy ddulliau gwahanol, i ddisgyblion, er mwyn deall beth oedd yn fwy neu’n llai effeithiol a pham, yn ogystal â'r effeithiau ar lwyth gwaith a llesiant staff
- cynnal storfa o waith ymchwil arolygon a thystiolaeth arall o Gymru, y DU a thu hwnt
- cynnwys cwestiynau a gaiff eu hadolygu bob mis yn Arolwg Cenedlaethol Cymru am brofiadau teuluoedd o ddarparu addysg
- cynnwys cwestiynau yn ein sampl gyfnerthedig ar gyfer Cymru o arolwg rhyngwladol Ipsos- MORI sy'n olrhain barn y cyhoedd yn ystod yr argyfwng
- cymeradwyo ceisiadau ar gyfer cynlluniau a ariennir gan UKRI os byddant yn helpu i ddiwallu ein hanghenion tystiolaeth
Ad-drefnu'r gweithgarwch a oedd eisoes yn mynd rhagddo cyn yr argyfwng, er mwyn casglu gwybodaeth am ei effeithiau, gan gynnwys:
- gwerthuso rhaglen beilot mewngymorth Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) (disgwylir cyhoeddiad interim yr haf hwn1)
- adolygu gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion ac yn y gymuned a threialu gwasanaethau i ddisgyblion iau
- ymchwil i gefnogi'r gwaith o ddatblygu cynlluniau gweithredu ar gyfer y Strategaeth Gwaith Ieuenctid.
Mae Cymwysterau Cymru yn:
- cyhoeddi adroddiad ar yr ymatebion i'w ymgynghoriad ar y trefniadau ar gyfer dyfarnu graddau am arholiadau a ganslwyd, gan gynnwys egwyddorion ar gyfer y model safoni a'r broses apelio
- ymchwilio i fodelau safoni graddau, a bydd yn cyhoeddi nifer o allbynnau pellach yn canolbwyntio ar ddyfarnu cymwysterau, gan gynnwys manylion am y dull terfynol o gynhyrchu graddau ac, yn nes ymlaen yn y flwyddyn, dadansoddiad o raddau asesu canolfannau'r haf hwn, yn ogystal â dadansoddiad hanesyddol o raddau mewn perthynas â nodweddion cydraddoldeb
- cyfrannu at ddadansoddiad parhaus o opsiynau mewn perthynas â chymwysterau ac arholiadau yn ystod blwyddyn ysgol 2020 i 2021
- ystyried nifer o weithgareddau pellach i ddeall effaith y trefniadau a roddwyd ar waith eleni, gan gynnwys mwy o waith i ddadansoddi canlyniadau canolfannau, a datblygiadau i'w arolwg blynyddol o hyder y cyhoedd
Mae Estyn yn:
- cynnal arolwg o awdurdodau lleol ar yr un sy'n gweithio'n dda a'r rhwystrau a'r heriau sy'n wynebu ysgolion ac awdurdodau lleol wrth roi rhaglen Parhad Dysgu ar waith.
- ymgysylltu ag ysgolion, dros y ffôn i ddechrau ac wedyn drwy gynnal ymweliadau yn ystod 2020 i 2021, ym mhob sector ysgolion, awdurdod lleol, consortiwm rhanbarthol, darparwr addysg gychwynnol i athrawon a darparwr addysg ôl-16. Bydd y gwaith ymgysylltu ag ysgolion yn canolbwyntio ar ymgysylltu â disgyblion a'u cefnogi, ac ar lesiant staff, disgyblion a chymuned ysgol
- cynnwys adran thematig yn Adroddiad Blynyddol eleni a fydd yn canolbwyntio ar addysg a COVID-19. Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2020
Mae'r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol yn:
- Cynnal arolwg o arweinwyr ysgolion er mwyn deall eu llesiant proffesiynol
Bydd canlyniadau'r gweithgareddau hyn yn ein helpu i feithrin dealltwriaeth well o effaith COVID-19, a'r camau cychwynnol a gymerwyd ym mhob rhan o'r sector addysg i ymateb i'r argyfwng iechyd y cyhoedd hwn, ar ddysgwyr, eu teuluoedd, y proffesiwn addysg a chymunedau lleol. Bydd y sylfaen dystiolaeth yn ein galluogi i adolygu a diwygio polisïau, canfod bylchau pellach yn y dystiolaeth ac ystyried camau lliniaru pellach sy'n angenrheidiol ar gyfer y rhai y mae hyn wedi cael yr effaith fwyaf niweidiol arnynt. Bydd y ddealltwriaeth hon hefyd yn ein helpu i ystyried polisïau yn y dyfodol, yn enwedig mewn perthynas â gweithrediadau ychwanegol ysgolion – er bod y penderfyniadau hyn eisoes wedi cael eu gwneud ar gyfer tymor yr haf, bydd penderfyniadau yn y dyfodol yn canolbwyntio ar drefniadau ar gyfer tymor yr hydref a thu hwnt gan fod cyngor iechyd y cyhoedd yn awgrymu ei bod yn debygol y bydd y tarfu'n parhau hyd y gellir rhagweld.