Asesu effaith cynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau yn dilyn yr ymateb cychwynnol i bandemig COVID-19
Gwnaethom asesu effaith cynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau yn dilyn mesurau cloi ym mis Mawrth 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?
1. Ymateb cychwynnol addysg
Mae pandemig y Coronafeirws (COVID-19) wedi creu sefyllfa na welwyd ei thebyg o'r blaen lle, er mwyn ymateb i'r argyfwng iechyd y cyhoedd a'i liniaru lle y bo modd, bu'n rhaid gwneud penderfyniadau arwyddocaol, cymhleth ac anodd yn aml, a hynny'n aml mewn amser byr iawn.
Mae'r Asesiad Effaith Integredig hwn yn canolbwyntio ar asesu effeithiau penderfyniadau'n ymwneud â chynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau addysg yng Nghymru, yn dilyn y cyfyngiadau symud a gyflwynwyd ym mis Mawrth. Mae a wnelo â'r Asesiad Effaith Integredig sy'n cwmpasu effaith y penderfyniadau polisi cychwynnol a wnaed mewn perthynas â darparu addysg mewn ymateb i COVID-19 (asesiad o'r ymateb addysg cychwynnol). Mae'r asesiad hwnnw yn cwmpasu'r camau uniongyrchol a gymerwyd yn mis Mawrth yn sgil tystiolaeth gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE), y Gell Cyngor Technegol a chyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Yn bwysig, mae'r gwersi a ddysgwyd yn sgil ein profiad o wneud y penderfyniadau cychwynnol ac effaith y rhain ar grwpiau o ddysgwyr, y proffesiwn addysg a chymunedau lleol wedi helpu i lywio polisïau a ddatblygwyd i gefnogi proses adfer y sector addysg, megis cynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau a gwmpesir yn yr asesiad hwn.
At ddibenion yr asesiad hwn, mae'r term 'ysgolion a lleoliadau' yn cynnwys ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig a gynhelir yng Nghymru, yn ogystal ag Unedau Cyfeirio Disgyblion. Fodd bynnag, dylid nodi bod yr asesiad parhaus o'r effeithiau a gwmpesir yn yr asesiad hwn yn cynnwys ystyriaethau ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc o oedran ysgol, ni waeth sut na ble mae'r unigolyn yn dysgu.
Mae asesiadau effaith ar wahân yn parhau o ran ailddechrau ac adfer y sector gofal plant a chwarae, ac addysg a hyfforddiant ôl-16.
Y cyd-destun datblygol
Fel y nodir yn fanylach yn yr asesiad ar yr ymateb addysg cychwynnol i'r pandemig, ar 18 Mawrth gwnaeth y Gweinidog Addysg ddatganiad yn cyhoeddi y byddai ysgolion a lleoliadau yn cau o ran darparu addysg yn statudol erbyn 20 Mawrth fan bellaf. Gwnaed datganiad arall ar 20 Mawrth yn nodi, o 23 Mawrth, y byddai ysgolion a lleoliadau yn cau i ddysgwyr, ac eithrio darpariaeth ar gyfer y rhai a oedd yn agored i niwed, neu'r rhai yr oedd eu rhieni yn hanfodol i'r ymateb i COVID-19, fel y gallent barhau i weithio lle na ellid gwneud trefniadau gofal plant amgen.
Fel y nodwyd gan Weinidogion dros y misoedd diwethaf, bydd yr amharu ar ar addysg yn sgil pandemig COVID-19 yn debygol o barhau am beth amser i ddod. Fel y cyfryw, mae'r asesiad hwn ar gynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau yn parhau i fynd rhagddo, gyda'r crynodeb hwn yn rhoi 'cipolwg' ar y broses honno. Fodd bynnag, ni ellir darogan yn bendant pa benderfyniadau y bydd angen eu gwneud na phryd, gan fod hynny'n dibynnu'n llwyr ar y sefyllfa o ran COVID-19 yng Nghymru dros y misoedd i ddod, yn ogystal â phrofiad dysgwyr, ysgolion a lleoliadau wrth iddynt gynyddu gweithrediadau i mewn i'r hydref.
Ar hyn o bryd, rydym yn bwriadu adolygu a diweddaru'r asesiad effaith hwn ym mis Awst a mis Hydref.
2. Cynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau
2.1 Cefndir y penderfyniadau
Yn dilyn y penderfyniadau cychwynnol i ddefnyddio ysgolion a lleoliadau mewn ffordd wahanol (ar gyfer plant gweithwyr allweddol a phlant agored i niwed) ac wrth i ddulliau o gadw dysgwyr yn ddiogel ac yn dysgu (fel y nodir yn y datganiad polisi Cadw'n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu) fynd rhagddynt, dechreuwyd cynllunio ar gyfer cynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau fel rhan o ymateb trawslywodraethol. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir na fyddai'r ddarpariaeth yn adlewyrchu'r hyn y byddai ysgolion a lleoliadau yn ei gynnig fel arfer, ac felly mae wedi bod wrthi'n ystyried sut y gellir newid y fframwaith cyfreithiol i adlewyrchu hyn.
Ar 24 Ebrill, cyhoeddodd y Prif Weinidog fframwaith i arwain Cymru allan o bandemig y coronafeirws er mwyn helpu i bennu pryd y gellid dechrau llacio'r cyfyngiadau aros gartref llym, a helpu i ddod o hyd i ffordd i bobl fyw a gweithio ochr yn ochr â'r coronafeirws.
Ar 7 Mai, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y diweddariad modelu gan y Gell Cyngor Technegol. Darparodd wybodaeth fanylach am yr hyn roeddem yn ei ddeall am COVID-19 a'r ffordd roedd yn trosglwyddo ar yr adeg honno. Dangosodd, er bod nifer yr achosion o COVID-19 yng Nghymru yn lleihau, ynghyd â nifer yr achosion o dderbyn cleifion newydd i'r ysbyty, a bod pobl yn gwneud yn dda wrth gadw pellter cymdeithasol, nad oedd yn briodol llacio'r cyfyngiadau o ran ysgolion na lleoliadau; roedd hyn yn arbennig o wir heb fod ymyriadau eraill ar waith eto (megis Profi Olrhain Diogelu – POD).
Ar 13 Mai, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Profi Olrhain Diogelu, sef strategaeth i wella gwyliadwriaeth iechyd. Fe'i rhoddwyd ar waith o 1 Mehefin, gan gyhoeddi diweddariadau wythnosol ar brofion. Mae olrhain cysylltiadau yn cael ei ddefnyddio mewn gwledydd ledled y byd er mwyn cyfyngu ar ledaenu'r feirws mewn cymunedau drwy rwystro'r llwybr trosglwyddo. Mae strategaeth POD yn nodi'r dull o fynd i'r afael â'r coronafeirws ar y cam hwn; profi pobl sydd â symptomau yn y gymuned, olrhain y rheini sydd wedi dod i gysylltiad agos â phobl sydd wedi cael canlyniad prawf positif ar gyfer y coronafeirws, a diogelu teuluoedd, ffrindiau a'n cymuned drwy hunanynysu.
Ar 15 Mai, cyhoeddodd y Prif Weinidog y map ffordd, sef Llacio'r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a'n heconomi; dal i drafod a adeiladodd ar ei chwaer bapur, 'Arwain Cymru allan o'r pandemig coronafeirws: fframwaith ar gyfer adferiad' a gyhoeddwyd ar 24 Ebrill fel y nodir uchod.
Dynododd ddull graddol o gynyddu gweithrediadau mewn ysgolion pan fo'n briodol, ac amlinellodd system goleuadau traffig coch, oren a gwyrdd er mwyn diffinio'r ffordd y gallai'r cyfyngiadau ddechrau cael eu llacio.
2.2 Proses gwneud penderfyniadau
Ar 15 Mai cyhoeddodd y Gweinidog Addysg y fframwaith penderfyniadau ar gyfer y cam nesaf i addysg a gofal plant: ystyriaethau, cynlluniau a heriau. Amlinellodd y ddogfen weithio honno'r dull o newid y ffordd roedd ysgolion a darparwyr eraill yn gweithredu dros amser mewn ymateb i COVID-19.
Cafodd y gwaith o ddatblygu'r fframwaith ei lywio gan drafodaethau â grwpiau rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys penaethiaid, undebau, Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau cymorth addysg eraill. Nododd bum egwyddor allweddol ar gyfer y sector addysg yn y cam nesaf h.y. ailagor ysgolion a chynyddu gweithrediadau ysgolion:
- diogelwch a lles meddyliol, emosiynol a chorfforol dysgwyr a staff
- parhau i gyfrannu at yr ymdrech a’r strategaeth genedlaethol i fynd i’r afael â lledaeniad COVID-19.
- ennyn hyder rhieni a gofalwyr, staff a dysgwyr, ar sail tystiolaeth a gwybodaeth, fel y gallant flaengynllunio
- y gallu i flaenoriaethu dysgwyr ar adegau allweddol, gan gynnwys y rhai o gefndiroedd difreintiedig
- bod yn gyson â fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud penderfyniadau, cael canllawiau ar waith i gefnogi mesurau fel cadw pellter, rheoli presenoldeb a chamau diogelu ehangach
- rhoi canllawiau ar waith i gefnogi mesurau fel rhan o ymateb y Llywodraeth gyfan
Mae'r egwyddorion hyn, ynghyd ag ystyried hawliau plant a dyletswyddau cysylltiedig, yn pwyso a mesur nifer o ffactorau fel rhan o'r broses gwneud penderfyniadau. Yn benodol, dim ond pan fyddai meini prawf gwyddonol neu meddygol penodol yn cael eu bodloni y byddai unrhyw gynnydd mewn gweithrediadau yn cael eu hystyried. Fodd bynnag, ni allai hynny olygu na fyddai unrhyw risg, ond yn hytrach fod Gweinidogion yn fodlon bod pob cam rhesymol wedi'i gymryd i liniaru'r risgiau, gan gynnwys fel rhan o'r cyfyngiadau symud ehangach.
Mae hyn yn cynnwys rhoi sylw dyledus i hawliau plant a'r risgiau iddynt os na chânt eu cwrdd, er enghraifft, eu hawliau i oroesi a datblygu, y safon uchaf bosibl o iechyd, a'r hawl i addysg. Mae ffactorau eraill hefyd yn cynnwys ystyried unrhyw effeithiau niweidiol ar lesiant neu gyfle ddysgu am na ellir mynd i'r ysgol.
Wrth gyhoeddi'r fframwaith penderfyniadau, ymrwymodd y Gweinidogion i roi amser i ysgolion a lleoliadau baratoi, ac y byddai'r gwaith paratoi ymlaen llaw hwnnw yn cael ei wneud gydag awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod mesurau ymarferol ar waith, megis gweithrediadau glanhau a hylendid.
Mae'r fframwaith penderfyniadau wedi'i gynllunio i helpu Gweinidogion i wneud penderfyniadau parhaus am y lefel gywir o weithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau bob tro y cânt eu hadolygu, gan gynnwys drwy gydol yr haf ac i mewn i dymor yr hydref.
Mae'r cwestiynau yn cynnwys
- A ddylem gynyddu/lleihau gweithrediadau mewn ysgolion a darparwyr eraill? A yw'r cyd- destun iechyd yn caniatáu neu'n gofyn am newid?
- Pa grwpiau o ddysgwyr ddylai fynychu'r ysgol yn y cnawd? Beth yw'r lefel fwyaf priodol a hyfyw o weithredu ar hyn o bryd?
- Sut rydym yn bwriadu newid hyn dros amser? A yw ein cynigion yn gynaliadwy os bydd eu hangen yn y tymor hwy?
- Sut mae sicrhau bod staff a dysgwyr yn cadw'n ddiogel ac yn iach? Pa fesurau lliniaru y dylid eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau y cedwir pellter cymdeithasol ac y cefnogir llesiant meddyliol, emosiynol a chorfforol staff a dysgwyr?
- Sut mae ein cynigion yn cyfrannu at yr ymdrech a'r strategaeth genedlaethol i fynd i'r afael â lledaeniad COVID-19? A ydynt yn bodloni profion ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer llacio'r cyfyngiadau symud?
Fel rhan o'r gwaith o ddadansoddi a chynllunio opsiynau posibl ar gyfer ysgolion a lleoliadau, ymgysylltodd y Gweinidog Addysg â rhanddeiliaid allweddol (gan gynnwys awdurdodau lleol, Estyn, undebau athrawon, grwpiau rhieni, a chanfyddiadau arolygon dysgwyr). Hefyd, ystyriwyd profiadau staff awdurdodau lleol a'r proffesiwn addysg wrth weithio gyda dysgwyr a rhieni er mwyn rheoli trefniadau dysgu o bell, gan ddiwallu anghenion penodol a chefnogi'r ddarpariaeth mewn 'hybiau' ar gyfer plant gweithwyr hanfodol a phlant agored i niwed.
Mae'r dulliau hyn o ymgysylltu yn dal i fynd rhagddynt ac yn hollbwysig er mwyn llywio'r gwaith o ddadansoddi effeithiau a gwneud penderfyniadau dros y misoedd i ddod. Maent hefyd yn hanfodol i gefnogi'r gwaith adolygu ehangach (a chasglu data a thystiolaeth) fel rhan o'r broses.
2.3 Penderfyniadau allweddol
Ers gwneud y penderfyniad i gau ysgolion a lleoliadau ym mis Mawrth, mae ein dealltwriaeth o'r feirws a'i effeithiau tymor hwy wedi parhau i ddatblygu. Gwyddom y byddwn yn byw gydag effeithiau COVID-19 am beth amser ac mai dyma fydd yr her fwyaf a wynebwn yn y dyfodol agos.
Ar 3 Mehefin, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg y byddai ysgolion a lleoliadau yn cynyddu gweithrediadau o 29 Mehefin fel bod pob dysgwr yn cael y cyfle i 'ailgydio, dal i fyny a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi'. Byddai'r flwyddyn ysgol yn dechrau ar neu oddeutu 2 Medi. Roedd y Gweinidog hefyd wedi cynnig y gellid ymestyn tymor yr haf wythnos i 24 Gorffennaf, a phan wneir hynny i wyliau hanner tymor yr hydref gael eu hymestyn wythnos yn fwy, yn amodol ar gytundeb gan yr awdurdod lleol. Byddai hyn yn rhoi mwy o amser i ysgolion a lleoliadau drefnu sesiynau 'ailgydio, dal i fyny, a pharatoi' ar gyfer eu dysgwyr cyn gwyliau'r haf fel bod pawb yn cael gwell cyfleoedd i ddysgu. Byddai hefyd yn rhoi mwy o wyliau i ddysgwyr a staff ganolhydref, ar adeg sy'n debygol o roi'r ddwy garfan dan bwysau parhaus.
Mae papur gan Gell Cyngor Technegol COVID-19, sy'n ymdrin â'r ddealltwriaeth o'r feirws o ran plant ac addysg ar y pryd, ar gael. Mae'r papur yn rhan o gyfres barhaus o ddiweddariadau a gyhoeddir, sy'n amlinellu'r cyd-destun ar gyfer penderfyniadau gwybodus yn seiliedig ar y fframwaith penderfyniadau a nodir yn adran 2.2 uchod. Er enghraifft, noda'r papur bydd llai oeffaith o weld y blynyddoedd cynnar yn dychwelyd na phlant hŷn; gallai gweld grwpiau llai yn dychwelyd yn eu tro neu am yn ail leihau'r trosglwyddiad os nad yw grwpiau yn cymysgu (gan gynnwys staff); a gallai plant iau fod yn llai agored i glefyd clinigol nag oedolion.
Fodd bynnag, mae hefyd yn glir nad yw ein dealltwriaeth o COVID-19, er ei bod yn tyfu, yn gyflawn o bell ffordd, a bod angen mwy o waith ymchwilio parhaus, sydd eisoes yn mynd rhagddo, er mwyn monitro cynnydd ac effaith penderfyniadau. Mae'r papur yn nodi y byddai effeithiau anuniongyrchol ailagor ysgolion (ni waeth pa drywydd a ddilynwyd) yn debygol o gael mwy o effaith ar drosglwyddiad na'r ysgolion eu hunain (er enghraifft, ailagor gweithleoedd, newid ymddygiad).
Mae crynodeb o gyngor Grŵp Gorchwyl a Gorffen Plant SAGE wedi'i gynnwys ym mhapur cyhoeddedig y Gell Cyngor Technegol. Noda SAGE nad dim ond effeithio ar blant a wna ysgolion. Byddai hefyd effaith uniongyrchol ar staff a rhieni; mae'n debygol y bydd agor ysgolion a lleoliadau yn cynyddu trosglwyddiad yn y grwpiau hyn. Felly, byddai angen i unrhyw benderfyniad i ddechrau ailagor ysgolion a lleoliadau hefyd ystyried sut i leihau'r risg o'r posibilrwydd y bydd oedolion yn cymysgu wrth glwydi'r ysgol, yn yr ystafell staff ac ati, a sicrhau bod protocolau ar waith ar gyfer grwpiau agored i niwed.
Felly, mae'r cyngor hwnnw wedi cael ei ddefnyddio'n uniongyrchol i lywio'r canllawiau i ysgolion a lleoliadau a geir yn adran 2.9 isod. Rhoddir rhagor o fanylion am y dystiolaeth ehangach a ddefnyddiwyd i lywio penderfyniadau, a sut y caiff y sefyllfa ei monitro a'i hadolygu, yn yr adrannau perthnasol isod hefyd.
Drwy greu'r cyfle i ddysgwyr 'ailgydio, dal i fyny a pharatoi', rhoddir amser cyswllt hanfodol i'r rhan fwyaf o ddysgwyr cyn gwyliau'r haf. Bydd hyn yn esgor ar fuddiannau pwysig o ran bylchau cyrhaeddiad, dysgu ac agweddau cymdeithasol yn y byrdymor, wrth i rai o effeithiau negyddol y cyfyngiadau symud ar ddysgwyr (a ystyrir yn fanylach yn yr asesiad ar yr ymateb addysg cychwynnol) gael eu lliniaru. Bydd y cyfnod hwn hefyd yn helpu i baratoi dysgwyr ar gyfer amser cyswllt ar ôl gwyliau'r haf, a bydd hefyd yn galluogi ysgolion a lleoliadau i brofi a mireinio gweithrediadau cyn tymor yr hydref.
Wrth ddefnyddio'r fframwaith penderfyniadau, bu angen ystyried pwyntiau cyffredinol yn y lle cyntaf. Er enghraifft, yn dilyn ystyried yr opsiynau sefydlwyd y dull gweithredu o safbwynt hawliau plant y dylai pob dysgwr (sy'n gallu) gael y cyfle i ddychwelyd i'w ysgol neu leoliad cyn yr haf. Yn sgil sefydlu'r dull gweithredu eang hwn yn gyntaf, bu modd ystyried ymhellach sut y gellid ei rhoi ar waith yn ymarferol, gan gynnwys y rhai na allant fynd i'r ysgol.
Nid oedd unrhyw un o'r opsiynau posibl yn targedu grwpiau penodol o ddysgwyr i ddychwelyd gyntaf i weithrediadau mewn ysgolion neu leoliadau (fesul oedran, blwyddyn neu fath o ddysgwr) wedi ymdrin â'r holl anghydraddoldebau o ran darpariaeth a nodwyd yn ystod y cyfyngiadau symud. Byddai pob opsiwn ar gyfer dychwelyd yn gynnar fesul grŵp dysgwyr yn rhoi grwpiau dysgwyr eraill dan fwy o anfantais. Er i dystiolaeth a mewnbwn rhai rhanddeiliaid ffafrio blaenoriaethu grwpiau penodol, nid oedd consensws cyffredinol ynghylch pa grwpiau y dylid eu targedu, na pha grwpiau na ddylid eu targedu. Er mai asesu'r effaith ar blant a phobl ifanc yw'r peth allweddol o hyd, mae yna hefyd bethau logistaidd pwysig y mae angen eu hystyried o hyd.
Dylanwadodd amrywiaeth o ffactorau ar y penderfyniad i gynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau'n raddol o 29 Mehefin, gan roi dewis i rieni/gofalwyr. Ystyrir y rhain yn fanylach drwy'r asesiad hwn, gan gynnwys yn yr adrannau isod yn seiliedig ar y pum egwyddor allweddol yn y fframwaith penderfyniadau.
2.4 Llesiant dysgwyr a staff
Mae'r modd y gweithredir ysgol neu leoliad yn cael effaith bwysig ar lesiant corfforol, meddyliol, emosiynol a chymdeithasol dysgwyr. Felly, mae diogelwch a llesiant meddyliol, emosiynol a chorfforol dysgwyr a staff wedi'i nodi yn yr egwyddor allweddol gyntaf ar gyfer penderfyniadau ynghylch cynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau fel rhan o'r ymateb addysg i bandemig COVID-19.
Mae'r Gweinidog Addysg yn gyson wedi dweud mai dim ond pan fo'r cyd-destun iechyd yn caniatáu hynny y gellid cynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau. Ar hyn o bryd, mae'r haint a nifer yr achosion yn lleihau, gan olygu y gellir rheoli'r broses o lacio'r cyfyngiadau symud yn well. Ymddengys fod plant iau (o dan 11 oed) yn llai agored i'r haint nag oedolion yn gyffredinol. Cafodd ein dealltwriaeth ddiweddaraf o COVID-19, o ran plant ac addysg, sy'n llywio'r broses gwneud penderfyniadau ei chyhoeddi ar 3 Mehefin. Ceir adolygiad tair wythnos ffurfiol arall ar 18 Mehefin cyn cynyddu gweithrediadau o 29 Mehefin. Mae Asesiad o Effaith ar Iechyd y 'Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol' yng Nghymru mewn ymateb i bandemig COVID-19 wedi'i gynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rhydd drosolwg o effeithiau posibl y Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol (y cyfeirir ato'n gyffredin fel y cyfyngiadau symud) ar iechyd a llesiant pobl Cymru yn y byrdymor, y tymor canolig a'r hirdymor. Yn ychwanegol, caiff y manylion ynghylch profi gweithwyr allweddol yng Nghymru eu cyhoeddi’n wythnosol, ac yn gyffredinol mae cyfraddau positifedd y profion ar gyfer staff addysg ledled y Deyrnas Unedig ymhlith yr isaf ar gyfer cohort y gweithwyr allweddol.
Mae awdurdodau lleol yn parhau i weithio gydag ysgolion a lleoliadau er mwyn ystyried y ffordd orau o gefnogi anghenion llesiant parhaus dysgwyr a staff ar yr adeg hon. Rydym yn parhau i ddatblygu sylfaen ein tystiolaeth, a bydd honno’n llywio cam nesaf yr ystyriaethau a’r penderfyniadau ynghylch gweithredu ysgolion a lleoliadau drwy’r hydref. Mae’r dystiolaeth honno’n gynnwys canlyniadau fel yr anfanteision cymhleth a hirsefydlog y mae pandemig y coronafeirws yn eu hamlygu; yr effaith anghymesur y mae’r coronafeirws yn ei chael ar gymunedau o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) Cymru.
Mae cymhwyso dull gweithredu ar sail hawliau yn ymwneud â mwy o degwch yn galluogi dysgwyr o bob oed, ac ym mhob cyfnod, ac sydd ag anghenion gwahanol, nad ydynt yn gorfod gwarchod eu hunain, i brofi sesiynau 'ailgydio, dal i fyny a pharatoi' cyn gwyliau'r haf. O ystyried y problemau tebygol o ran capasiti mewn ysgolion a lleoliadau, byddai targedu grwpiau penodol o ddysgwyr i ddychwelyd yn gynnar yn arwain yn uniongyrchol at eraill eraill yn colli allan; gall hefyd arwain at brofi stigma i rai.
Byddai galluogi pob dysgwr i gael amser cyswllt cyn gwyliau'r haf yn cynnig buddiannau pwysig o ran bylchau cyrhaeddiad, dysgu ac agweddau cymdeithasol. Mae adborth gan weithwyr addysg proffesiynol a thystiolaeth yn dangos bod amser cyswllt yn fwy effeithiol i ddysgu, yn ogystal â galluogi dysgwyr i ailafael mewn cydberthnasau a'u datblygu. Mae hefyd yn rhoi gwell mynediad i ysgolion a lleoliadau helpu i nodi anghenion o ran llesiant, materion diogelu, ac unrhyw broblemau o ran mynediad digidol sy'n dal i fodoli cyn cael saib arall dros yr haf.
- Er y bydd ysgolion wedi bod wrthi'n cynllunio ar gyfer y cyfnod pontio a phrofiadau ymhell cyn y cyfyngiadau symud, mae'n rhoi cyfle olaf i ddysgwyr sydd ar fin symud ysgol i ffarwelio â'u hen ddosbarth, athrawon a lleoliad. Nododd dysgwyr blwyddyn 6 fod hyn yn bwysig yn yr arolwg 'Coronafeirws a fi'.
- Byddai'n anodd rheoli'r broses o flaenoriaethu dysgwyr y blynyddoedd cynnar i ddychwelyd yn llawn am gyfnod byr yr haf, ynghyd â staffio hynny'n briodol dros gyfnod hwy o ystyried y capasiti cyfyngedig mewn ysgolion a lleoliadau, a'r angen am grwpiau llai o ddysgwyr. Mae sicrhau llesiant cohortau cyfan o'n dysgwyr ieuengaf yn gofyn am fwy o adnoddau staff, a fyddai'n tynnu amser staff i ffwrdd o gefnogi grwpiau oedran eraill i ddysgu o bell.
- Ni fyddai ehangu'r 'hybiau' yn sicrhau buddiannau addysgol ychwanegol nac yn diwallu anghenion dysgu llesiant parhaus a chynyddol dysgwyr, yn enwedig mewn grwpiau amrywiol. Nid dyma fyddai'r ffordd orau o sicrhau hawl plant a phobl ifanc i addysg.
Roedd caniatáu mwy o amser cyswllt er mwyn i'r rhan fwyaf o ddysgwyr gael y cyfle i 'ailgydio, dal i fyny a pharatoi' cyn yr haf hefyd yn ystyriaeth bwysig; roedd hyn yn gysylltiedig â’r cynnig i awdurdodau lleol ymestyn tymor yr haf am wythnos. Mae'n rhoi mwy o amser i ysgolion a lleoliadau ganolbwyntio ar ddysgwyr yn ystod cyfnod pan fo'r tywydd yn well (ar adeg y gwyddom y gellir rheoli lledaeniad COVID-19 yn well).
Yn amlwg, os bydd dysgwr neu aelod o staff yn byw ar aelwyd lle mae rhywun agored i niwed neu agored iawn i niwed, dim ond lle gellir cadw pellter cymdeithasol y dylai fynychu'r ysgol neu leoliad, a bod y dysgwr yn gallu deall a dilyn y cyfarwyddiadau hynny. Felly, rhoddir canllawiau i ysgolion a lleoliadau ar y rheini sy'n gwarchod a phlant ac oedolion sy'n agored i niwed yn glinigol.
Mae'r canllawiau gweithredol a gyhoeddwyd ar 10 Mehefin (gweler adran 2.9 isod) yn nodi, wrth gynllunio i gynyddu gweithrediadau, y dylai ysgolion a lleoliadau ystyried y ffordd mae hyn yn effeithio ar lesiant. Mae angen iddynt ystyried yr effeithiau posibl ar iechyd a llesiant staff ac arweinwyr, gan gynnwys cydbwysedd bywyd a gwaith.
Mae'r yn dangos yn glir bod angen i ysgolion a lleoliadau roi sylw arbennig i ddiwallu anghenion y rhai na allant gael amser cyswllt. Mae'r angen i ddysgu yn yr awyr agored yn cael ei amlygu ar sawl lefel hefyd. Mae i hyn fuddiannau dysgu a llesiant clir ond mae iddo hefyd fuddiannau pwysig yn ystod argyfwng COVID-19 megis:
- y ffaith tystiolaeth yn awgrymu bod y risg o ddal yr haint yn llai yn yr awyr agored ac nad yw'r feirws yn gallu gwrthsefyll cyfnodau hir o heulwen yn hir gall cadw a chynnal pellter cymdeithasol fod yn haws yn yr awyr agored.
Darperir rhagor o adnoddau, gan gynnwys drwy lwyfan addysg ar-lein Hwb, er mwyn cefnogi dysgwyr ac ymarferwyr i ddysgu o bell neu ddysgu mewn ffordd gyfunol. Mae hyn yn cynnwys pwyslais ar gefnogi iechyd a llesiant meddyliol ac emosiynol dysgwyr, a darparu cymorth o ran llesiant yn yr amgylchedd newydd. Cafodd y cyntaf o'r adnoddau hyn ei lansio ar 1 Mehefin, sef pecyn cymorth ar iechyd meddwl i bobl ifanc, yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau ar-lein a all eu helpu yn ystod y cyfyngiadau symud a thu hwnt. Mae'n cynnwys gwybodaeth am wefannau, apiau, llinellau cymorth a mwy sy'n cefnogi iechyd a llesiant meddyliol.
2.5 Cyfrannu at yr ymdrech genedlaethol
Fel ei hail egwyddor allweddol yn y fframwaith penderfyniadau, nododd y Gweinidog Addysg fod angen parhau i gyfrannu at yr ymdrech a'r strategaeth genedlaethol i fynd i'r afael â lledaeniad COVID-19.
Mae adrannau 1 a 2.1 uchod hefyd yn darparu gwybodaeth am y trefniadau ehangach i'w hadolygu mewn ymateb i COVID-19 yng Nghymru, dolenni i ddogfennau perthnasol, a sut mae cynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau yn cyd-fynd â hyn. Parheir i adolygu'r darpariaethau deddfwriaethol ac mae'r adolygiadau ffurfiol yn dal i gael eu cynnal bob 21 diwrnod, gan fanteisio ar yr amrywiaeth o gyngor ac arweiniad sydd ar gael ar bob cam.
Mae gwybodaeth am yr ymateb addysg yn seiliedig ar yr ymdrech genedlaethol ledled Cymru ac yn y DU, ac yn ei llywio. Mae swyddogion addysg Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn rhan o ystyriaethau traws lywodraethol mewnol, gan gynnwys drwy: is-grŵp plant ac addysg y Gell Cyngor Technegol; y grŵp adolygu 21 diwrnod; a ffrwd waith diogelu a phlant a phobl ifanc agored i niwed. Rydym hefyd mewn cysylltiad agos â chydweithwyr yn awdurdodaethau addysg eraill y DU, yn ogystal ag adolygu dulliau gweithredu a chanlyniadau awdurdodaethau rhyngwladol eraill yn rheolaidd.
Ymhlith y trafodaethau â rhanddeiliaid, ystyriwyd cynigion i newid dyddiadau tymor yr haf a'r flwyddyn academaidd nesaf. Awgryma tystiolaeth fod COVID-19 yn cael ei drosglwyddo i raddau llai yn yr heulwen, felly gall fod manteision i drefnu gwyliau ysgol fel bod mwy o gyfleoedd i ddysgu yn yr awyr agored. Wrth ymgysylltu â grwpiau rhieni, tynnwyd sylw at egwyddorion y fframwaith penderfyniadau, ac fe'u cefnogwyd yn eang. Yn yr un modd, caiff barn dysgwyr am y ffordd mae COVID-19 yn effeithio arnynt, fel y'i nodwyd drwy arolwg plant a phobl ifanc 'Coronafeirws a fi' ei hystyried.
Byddai'r dull tecach o sicrhau bod y rhan fwyaf o ddysgwyr wedi cael rhywfaint o amser cyswllt â gweithwyr addysg proffesiynol yr ymddiriedir ynddynt cyn yr haf yn hynod bwysig petai angen lleihau'r gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau unwaith eto yn yr hydref mewn ymateb i ail frig pandemig COVID-19. Mae gwyliau'r haf hefyd yn seibiant naturiol ac yn bwynt adolygu o ran presenoldeb dysgwyr er mwyn ystyried unrhyw effeithiau andwyol ar drosglwyddo COVID-19.
Ni chafodd yr opsiwn yn y fframwaith penderfyniadau i flaenoriaethu plant rhieni sydd angen gweithio, er ei fod yn werth ei archwilio o ystyried y buddiannau posibl o ran rhyddhau capasiti a mwy o gydbwysedd bywyd a gwaith gartref, fawr ddim cefnogaeth gan y grwpiau rhanddeiliaid yr ymgysylltwyd â nhw. Roedd y rhain yn cynnwys rhieni, ymarferwyr ac awdurdodau lleol. Hefyd, yn ymarferol, byddai'n anodd iawn diffinio'r grwpiau hyn o rieni y tu hwnt i'r diffiniadau presennol ar gyfer gweithwyr hanfodol, gallai olygu grwpiau mwy o ddysgwyr yn dychwelyd na'r hyn y gellid ymdopi ag ef, a byddai'n dal i olygu nad oedd pawb yn cael eu trin yn gyfartal.
2.6 Hyder y bobl dan sylw
Trydedd egwyddor fframwaith penderfyniadau'r Gweinidog Addysg oedd hyder rhieni/gofalwyr, staff a dysgwyr. Nododd mai sail hyder fyddai tystiolaeth a gwybodaeth, at ddiben blaengynllunio. Felly, byddai'r ffordd y gwnaed penderfyniadau, yn ogystal â'r dystiolaeth i ategu penderfyniadau, yn manteisio ar amrywiaeth o arbenigedd a thystiolaeth.
Yn ogystal â'r ystod eang o dystiolaeth y cyfeirir ati drwy'r asesiad hwn, cynhelir trafodaethau rheolaidd â'r grwpiau canlynol er mwyn cytuno ar ddulliau a llywio cyngor ar benderfyniadau:
- Y Gell Cyngor Technegol: is-grŵp plant ac addysg, mae'n cynnwys amrywiaeth o swyddogion Llywodraeth Cymru a chynghorwyr arbenigol i ddarparu tystiolaeth ar y ffactorau a'r goblygiadau gwyddonol ac iechyd.
- Grŵp rhanddeiliaid penaethiaid ac arweinwyr – grŵp cyfeirio yn cynnwys arweinwyr ysgolion a darparwyr eraill o ofal plant i'r brifysgol.
- Grŵp rhanddeiliaid Partneriaid Cyflawni Addysg Strategol – grŵp cyfeirio yn cynnwys awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol, Estyn, addysg bellach a Cymwysterau Cymru.
- Cyfarwyddwyr Addysg Esgobaethol
- Grŵp Cynghori Rhieni
- Partneriaeth Undebau Llafur.
- Fforwm Penaethiaid Colegau Cymru.
- Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Gofal Plant a Chwarae – yn cynnwys cynrychiolaeth o'r sector gofal plant a chwarae, Arolygiaeth Gofal Cymru, Estyn, awdurdodau lleol, Gofal Cymdeithasol Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, y Comisiynydd Plant a Chomisiynydd y Gymraeg
Nodwyd bod hyder rhieni/gofalwyr a dysgwyr yn ffactor allweddol wrth i ni ei ystyried. Roedd hyn yn cynnwys nodi barn rhieni/gofalwyr am y materion a godwyd yn y fframwaith penderfyniadau. Drwy sefydlu'r Grŵp Cynghori Rhieni, a defnyddio arolygon rhieni (drwy'r grŵp cynghori a ParentKind), parheir i sicrhau ein bod yn casglu barn mewn ffordd systemataidd er mwyn llywio penderfyniadau.
Er mwyn casglu barn plant a phobl ifanc, mae'r Gweinidog Addysg mewn cysylltiad â'r Senedd Ieuenctid, a lansiodd Llywodraeth Cymru yr arolwg ar-lein 'Coronafeirws a fi' mewn partneriaeth â Chomisiynydd Plant Cymru, Plant yng Nghymru a'r Senedd Ieuenctid. Darparodd yr arolwg gipolwg ar gyfnod o bythefnos a chasglwyd barn dros 23,000 o blant a phobl ifanc am amrywiaeth o faterion yn ymwneud â'u hiechyd, addysg, bywyd cymdeithasol a'u teimladau drwy argyfwng COVID-19.
Cafodd sampl yr arolwg ei hunanddethol a’i dosbarthu drwy blatfformau dysgu ysgolion; o ganlyniad ni fydd y canfyddiadau yn rhai cynrychiadol, ac ni fydd y dysgwyr hynny sydd â llai o ddiddordeb neu sydd â mynediad cyfyngedig i’r rhyngrwyd neu i ddyfais i allu mewngofnodi i’r rhyngrwyd, yn cael eu cynrychioli’n dda. Mae'r canlyniadau wedi'u cyhoeddi ar wefan Comisiynydd Plant Cymru, er y dylid nodi bod adborth o'r arolwg wedi llywio'r broses gwneud penderfyniadau yn y fan a'r lle; felly bu modd ystyried barn rhai dysgwyr.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn nodi amrywiaeth o brofiadau gwahanol ers i'r pandemig ddechrau. Mae rhai dysgwyr wedi dioddef profedigaeth, trallod a phryder. Mae llawer wedi gweld eisiau ffrindiau a theulu, ac yn teimlo eu bod yn colli allan ar eu haddysg. Ar yr un pryd, mae llawer o ddysgwyr wedi dweud eu bod wedi gwerthfawrogi cael treulio mwy o amser gyda'u teuluoedd, gan chwarae ac ymlacio mwy, neu ddysgu mewn ffordd wahanol. Rhoddir rhagor o fanylion yn yr Asesiad Effaith ar Hawliau Plant yn Atodiad A.
Hefyd, mae'n bwysig trafod â rhieni / gofalwyr er mwyn deall eu profiadau nhw a phrofiadau dysgwyr yn ystod y cyfnod parhaus hwn lle amherir arnynt. Bydd angen cymorth ychwanegol ar lawer, megis dysgwyr sydd mewn profedigaeth, dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig neu rwystrau eraill i ddysgu, a'r rhai â phroblemau iechyd meddwl eisoes. Efallai y bydd dysgwyr gwydn a oedd yn perfformio'n dda cyn y cyfyngiadau symud yn ei chael hi yr un mor anodd yn ystod y cyfnod hwn a bod angen cymorth ychwanegol arnynt o ran eu llesiant a/neu ddysgu wrth ddychwelyd.
Bydd y dull tecach o sicrhau y gall y rhan fwyaf o ddysgwyr gael sesiynau 'ailgydio, dal i fyny a pharatoi' cyn yr haf yn darparu profiad pontio mwy esmwyth iddynt i gyfnod o ddysgu cyfunol (wyneb yn wyneb ac o bell) a all bara am beth amser. I rieni ac athrawon hefyd, mae'r penderfyniad i ddechrau cynyddu gweithrediadau'n raddol o 29 Mehefin yn gyfle pwysig i brofi'r mesurau diogelwch sydd ar waith a chael hyder ynddynt. Mae'n parhau i fod yn hanfodol bod negeseuon uniongyrchol ac anuniongyrchol am ddisgwyliadau dysgwyr a rhieni yn glir ac yn gyson drwy'r cyfnod parhaus hwn lle amherir ar addysg.
2.7 Y gallu i flaenoriaethu
Y gallu i flaenoriaethu dysgwyr ar adegau allweddol, gan gynnwys y rhai o gefndiroedd difreintiedig, oedd yr egwyddor allweddol arall yn fframwaith penderfyniadau'r Gweinidog Addysg.
Mae tystiolaeth bod gwyliau hir yr haf yn cael effaith andwyol ar y bwlch cyrhaeddiad. Rhagwelir y byddai diffyg cyswllt wyneb yn wyneb am gyfnod yn ymestyn dros bum mis yn cael effaith negyddol sylweddol ar ddysgu llawer o blant a phobl ifanc, yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig. Fodd bynnag, roedd pryderon y byddai blaenoriaethu'r rhai o gefndiroedd difreintiedig i ddychwelyd yn gynnar yn tynnu sylw atynt (am na fyddent yn ffurfio rhan o grwpiau mawr, fel y rhai sydd yn mynychu 'hybiau'), a allai greu stigma. Hefyd, gall fod yn anodd ei ddiffinio o ystyried yr heriau mwy diweddar a wynebwyd yn sgil COVID-19, ac ni fyddai'n debygol o fod yn gyson rhwng cohortau ysgol.
Ym mis Ionawr 2020, roedd tua 85,000 o blant a phobl ifanc yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yng Nghymru, er nad yw pawb sy'n gymwys (tua thri chwarter) wedi dewis eu cael. Fodd bynnag, gan fod cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim yn dibynnu ar riant neu warcheidwad dysgwr yn cael budd-dal sy'n gysylltiedig ag incwm, megis Credyd Cynhwysol, mae'r niferoedd sy'n gymwys yn debygol o fod yn cynyddu oherwydd yr amgylchiadau economaidd presennol sydd wedi cael eu creu gan bandemig COVID-19. O ganlyniad, mae cynyddu'r gweithrediadau ar safleoedd ysgolion a lleoliadau, er bod hyn yn digwydd yn raddol, yn cefnogi trefniadau lleol sy'n sicrhau bod y rhai sy'n gymwys i gael darpariaeth o'r fath yn gallu ei chael.
Mae'r Gweinidog Addysg wedi ymrwymo hyd at £40 miliwn er mwyn galluogi awdurdodau lleol i barhau i ddarparu prydau ysgol am ddim (gan gyrraedd tua 60,000 o blant) nes i ysgolion a lleoliadau ailagor i bob dysgwr neu hyd at ddiwedd mis Awst, os oes angen. Mae'r gwaith dadansoddi parhaus yn dangos, fel roeddem yn ei ddisgwyl, gynnydd yn nifer y plant a phobl ifanc sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim o ganlyniad i bandemig COVID-19. Mae gwaith monitro Data Cymru wedi cadarnhau bod tua 5,000 o ddysgwyr wedi dod yn gymwys ers i'r cyfyngiadau symud ddechrau, a chaiff 37% yn fwy eu cefnogi nawr nag ym mis Ionawr.
Un enghraifft arall o flaenoriaethu darpariaeth yn sgil y pandemig yw'r cymorth ychwanegol i ddysgwyr fel eu bod yn gallu dysgu'n ddigidol. Bydd cynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau yn helpu gweithwyr addysg proffesiynol i adolygu unrhyw broblemau o ran hygyrchedd sy'n dal i wynebu dysgwyr, gan gynnwys mynediad i adnoddau digidol. Darperir cymorth drwy awdurdodau lleol, gan gynnwys cyllid ychwanegol o £3 miliwn gan Lywodraeth Cymru er mwyn mynd i'r afael yn benodol â chael mynediad at galedwedd a/neu gysylltu â'r rhyngrwyd.
Rydym yn ymwybodol o'r gwaith caled a wneir gan awdurdodau lleol ac ysgolion i ddiwallu'r anghenion hyn, ond mae'r gwaith hwn yn parhau i fynd rhagddo. Wrth i ddysgwyr ddychwelyd ar gyfer sesiynau 'ailgydio, dal i fyny a pharatoi' a bod eu hanghenion yn cael eu hasesu'n uniongyrchol, disgwyliwn i unrhyw broblemau sy'n weddill o ran mynediad gael eu datrys yn gyflym, ac i bob dysgwr gael ei gefnogi'n llawn ac yn deg i fynd ati i ddysgu mewn ffordd fwy cyfunol yn yr hydref. (Trafodir hyn yn fanylach hefyd yn yr asesiad ar yr ymateb addysg cychwynnol fel rhan o'r rhaglen Parhad Dysgu).
Cydnabyddir y bydd y profiadau gwahanol y bydd dysgwyr wedi eu cael gartref, a gyda'u teuluoedd, yn chwarae rhan fawr wrth hwyluso'r broses o addasu nôl yn yr ysgol neu'r lleoliad addysgol yn rhannol. Mae'n debygol o deimlo'n wahanol iawn i brofiadau dysgwyr i gyd cyn cyflwyno'r cyfyngiadau symud. O ystyried hyn, mae'n naturiol y gall fod angen i rai gael mwy o gymorth nag eraill wrth gamu'n ôl i amgylchedd dysgu. Mae'r canllawiau a gyhoeddwyd ar gyfer ysgolion a lleoliadau ar 10 Mehefin yn tynnu sylw at y materion hyn, ac yn ceisio cefnogi darpariaeth ar sail anghenion dysgwyr.
Yn achos y dysgwyr hynny â datganiad o anghenion addysgol arbennig (AAA), rydym hefyd wedi bod yn glir yn y canllawiau ar 10 Mehefin ynghylch pwysigrwydd diwallu anghenion unigol a rôl asesiadau risg unigol yn y broses honno. Cyn bo hir, byddwn yn cyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru ar gynnal asesiadau risg ar gyfer dysgwyr, sydd wedi'u cynllunio i helpu awdurdodau lleol i gynnal asesiadau risg er mwyn:
- penderfynu a yw dysgwr â datganiad AAA yn agored i niwed ac a fyddai lleoliad gofal plant yn briodol i ddiwallu ei anghenion
- cefnogi dysgwyr i fynychu eu hysgol neu leoliad, neu barhau i ddysgu gartref, fel y bo'n briodol i'w hanghenion unigol, wrth i leoliadau addysg ailddechrau gweithredu fwyfwy
Wrth wneud hynny, gofynnir i awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau ystyried yr hyn a ddylai fod ar waith er mwyn sicrhau bod ysgolion a lleoliadau yn parhau i fod yn fannau diogel i ddysgwyr a staff, a bod dysgwyr yn gallu cael cludiant addas.
2.8 Bod yn Gyson â fframwaith Llywodraeth Cymru
Wrth benderfynu cynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau o 29 Mehefin, mae'r cyngor wedi tynnu ar fframwaith gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru ac wedi parhau'n gyson ag ef. Er enghraifft, drwy gyhoeddi canllawiau cychwynnol ar 10 Mehefin, rydym wedi sicrhau bod canllawiau ar waith i gefnogi mesurau megis cadw pellter cymdeithasol, rheoli presenoldeb a chamau diogelu ehangach mewn ysgolion a lleoliadau.
Mae'r gefnogaeth a roddir i ysgolion a lleoliadau hefyd yn cynnwys rhannu gwybodaeth am yr hyn y mae grŵp sampl o ysgolion yn ei wneud i baratoi ar gyfer 29 Mehefin, gan gynnwys cyfathrebu â rhieni a dysgwyr. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ehangach a deunyddiau cymorth ar COVID-19 a ddefnyddir fel y bo angen; mae hyn ochr yn ochr â'r wybodaeth wyddonol ac iechyd a ddefnyddir.
Ganol mis Mehefin, roedd tua 480 o 'hybiau' awdurdodau lleol ar agor ledled Cymru, gyda hyd at 7,200 o blant gweithwyr hanfodol neu blant agored i niwed yn eu mynychu. Mae hyn yn cyfateb i 1.5% o'r boblogaeth ysgol gyfan a hyd at 6.4% o blant agored i niwed. Amcangyfrifir bod 24,112 o blant agored i niwed 3+ oed (y rhai â gweithiwr cymdeithasol neu ddatganiad o anghenion addysgol arbennig neu blant agored i niwed eraill sydd ar yr ymylon o ran derbyn gofal a chymorth) yng Nghymru.
Er bod y niferoedd yn amrywio a'u bod wedi cynyddu'n sylweddol, mae'r data yn awgrymu nad yw cyfran sylweddol o ddysgwyr agored i niwed yn defnyddio'r 'hybiau' ac, o ganlyniad, gallai rhai sydd mewn amgylcheddau mwy niweidiol fod yn wynebu mwy o risg y gallai'r hybiau helpu i'w nodi. Mae'r 'hybiau' hefyd yn cynnig cyfle i siarad â phlant eraill ac oedolion mewn amgylchedd diogel os oes angen cymorth ychwanegol arnynt.
Yn gyffredinol, fodd bynnag, ni allant ddarparu'r un lefel o gymorth â'r hyn a gynigir drwy weithwyr addysg proffesiynol yn eu hysgolion arferol, y maent yn fwy tebygol o'u hadnabod ac ymddiried ynddynt. O 29 Mehefin, gyda sesiynau 'ailgydio, dal i fyny a pharatoi' ar waith, rydym yn disgwyl y bydd mwy o ddysgwyr agored i niwed wedi cynyddu'r cyswllt ag hathrawon yn eu hysgolion neu eu lleoliad eu hunain, gan olygu y gall anghenion dysgu, diogelu a llesiant gael eu hasesu'n well a'u diwallu'n well yn yr amgylchedd maent yn fwy cyfarwydd ag ef ac yn fwy cyfforddus ynddo.
Wrth ystyried y trefniadau hyn, edrychwyd hefyd ar y ffordd mae'n galluogi ysgolion a lleoliadau i brofi gweithrediadau cyn tymor yr hydref. Disgwylir i’r cynnig i gael gwyliau hanner tymor hirach yn yr hydref (pan fydd wythnos ychwanegol yn cael ei hychwanegu at dymor yr haf) fod o fudd o ran llesiant staff a dysgwyr, o ystyried ei bod yn debygol y bydd y cyfnod hwnnw’n hir ac yn heriol.
Bydd athrawon a chynorthwywyr addysgu yn grŵp â blaenoriaeth yn y rhaglen profi gwrthgyrff. Wrth inni gadw Cymru'n ddiogel, bydd hyn yn hanfodol. Erbyn 29 Mehefin, bydd un mis llawn o POD wedi bod, yn ogystal ag adolygiad 21 diwrnod ffurfiol arall er mwyn sicrhau bod ystyriaethau iechyd a llesiant ar waith.
2.9 Canllawiau
Cafodd Canllawiau gweithredol i ysgolion a lleoliadau addysg eraill: Diogelu Addysg (COVID-19) eu cyhoeddi ar 10 Mehefin. Mae'r canllawiau yn darparu cymorth ymarferol ar baratoi ar gyfer gweithrediadau a'u cynyddu wrth ddychwelyd yn raddol hyd at ddiwedd tymor yr haf. Mae'n cynnwys gwybodaeth ymarferol am gyfarpar diogelu personol, gwarchod, Profi Olrhain Diogelu (POD), meintiau ystafelloedd dosbarth gan lynu wrth y rheol 2 fetr, glanhau, arlwyo, asesiadau risg, cludiant ac ati. Mae'n cydnabod y bydd y gweithrediadau yn dibynnu ar gyd-destun a chapasiti unigol. Mae'n cwmpasu'r mesurau y gall ysgolion a lleoliadau eu dilyn er mwyn:
- cefnogi iechyd a llesiant staff a dysgwyr, gan helpu i gadw pobl yn ddiogel
- cynllunio a threfnu darpariaeth, gan gynnwys pennu capasiti a rhestrau gwirio ar gyfer cymryd y camau nesaf
- rheoli eu cyfleusterau a threfniadau logistaidd, gan gynnwys adeiladau, adnoddau, glanhau a chludiant
Mae Canllawiau ar ddysgu dros dymor yr haf: Diogelu Addysg (COVID-19) a gyhoeddwyd ar 10 Mehefin yn ystyried yr hyn y gall ymarferwyr ei wneud gyda dysgwyr wrth ailddechrau gweithredu hyd at ddiwedd tymor yr haf. Caiff y canllawiau eu hadolygu ymhellach yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Gan nad oes llawer o amser cyn gwyliau'r haf, nid oes gan ysgolion na lleoliadau fawr ddim amser i ymgysylltu â'u dysgwyr. Felly, rydym yn eu hannog i ddefnyddio'r amser hwn er mwyn:
- cefnogi iechyd a llesiant dysgwyr ̶ dylai llesiant dysgwyr (a staff) gael blaenoriaeth
- 'ailgydio' â dysgwyr a'u helpu i baratoi i ddysgu ac ystyried eu camau nesaf ar gyfer yr haf a mis Medi fel y bo'n briodol
Gyda'i gilydd, mae'r canllawiau gweithredol a'r canllawiau dysgu cychwynnol hyn wedi cael eu datblygu'n agos â grwpiau rhanddeiliaid addysg (yn enwedig awdurdodau lleol ac undebau llafur er mwyn osgoi darparu cyngor sy'n mynd yn groes i gyngor arall), grwpiau cynghorol gwyddonol, cydweithwyr iechyd Llywodraeth Cymru a thimau addysg Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda rhanddeiliaid ehangach ar feysydd allweddol yn y canllawiau. Yn benodol, mae'r canllawiau hefyd wedi cael eu hystyried gan Diogelu Iechyd a'r Gell Cyngor Technegol.
Fel y nodir yn y dogfennau hyn, cânt eu hadolygu'n barhaus (yn yr un modd â'r asesiad hwn) a'u diweddaru fel bod canllawiau parhaus ar gael i weithwyr addysg proffesiynol a rhieni/gofalwyr.
Bydd angen i unrhyw ddiweddariadau ystyried mewnbwn gan grwpiau dysgwyr, rhieni ac ymarferwyr ynghylch eu profiadau o 'ailgydio, dal i fyny a pharatoi' a dysgu cyfunol yn fwy cyffredinol.
Mae'r canllawiau yn disgwyl y caiff pob dysgwr a all wneud hynny gyfle i fynychu ei ysgol neu leoliad i gael amser cyswllt cyn gwyliau'r haf. I rai, efallai mai dim ond ychydig ddiwrnodau fydd hyn cyn dechrau'r gwyliau. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd angen i ysgolion neu leoliadau dderbyn llai o ddysgwyr bob dydd yn unol â'u capasiti, wrth sicrhau y cedwir pellter cymdeithasol priodol. Mae hyn yn debygol o barhau yn y dyfodol agos, gan ddarparu cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb a dysgu o bell, sef dull dysgu cyfunol.
Ni ddylai rhai dysgwyr a staff fynychu'r ysgol neu'r lleoliad addysg. Mae'r canllawiau gweithredol yn gofyn i ysgolion a lleoliadau gadw cofnod presenoldeb a dylai teuluoedd roi gwybod i'r ysgol os na all eu plant fynychu. Bydd hyn yn helpu awdurdodau lleol i gynllunio ar gyfer a deall unrhyw rwystrau sy'n atal dysgwyr rhag dychwelyd i'r ysgol neu'r lleoliad, a nodi unrhyw gymorth pellach sydd ei angen. Cyflwynir trefniadau adrodd ar gyfer ymgysylltu â dysgwyr, gyda chymorth consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol.
Os na fydd dysgwyr yn mynychu, mae'r canllawiau i ysgolion a lleoliadau yn glir y dylid sicrhau y gallant barhau i ddysgu o bell. Cefnogir hyn hefyd drwy Cadw'n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu, sy'n gynllun parhad dysgu, a bydd yn parhau drwy'r cam nesaf.
Wrth i weithrediadau gynyddu, darparwyd canllawiau ar y disgwyliad y bydd y rhai sy'n mynychu'r 'hybiau' ar gyfer plant gweithwyr hanfodol a phlant agored i niwed yn symud i'w hysgolion neu leoliadau eu hunain. Bydd hyn yn golygu y gall gweithwyr addysg proffesiynol sy'n fwy cyfarwydd ag anghenion ac amgylchiadau penodol dysgwyr ymgysylltu â nhw i ddiwallu eu hanghenion.
3. Y cam nesaf
Wrth symud ymlaen â'n hymateb i'r argyfwng iechyd y cyhoedd, rydym yn parhau i gadw mewn cof effeithiau cymdeithasol, datblygiadol a llesiant cyfnodau estynedig lle amherir ar addysg.
Serch hynny, mae'n debygol yr amherir ar addysg mewn ysgolion a lleoliadau am beth amser. Felly, rydym yn symud tuag at gyfnod o ddysgu cyfunol, lle bydd dysgwyr yn profi cymysgedd o ddysgu o bell a sesiynau wyneb yn wyneb yn eu hysgolion a'u lleoliadau. Bydd hyn ochr yn ochr ag adborth, ymchwil ac adolygu parhaus.
Hefyd, mae natur frys yr ymateb, cymhlethdod y materion a'r amserlenni rydym wedi bod yn gweithio ynddynt, wedi golygu nad yw hi bob amser wedi bod yn ymarferol cynnwys pob partner cyflawni yn uniongyrchol, nac yn wir y rhai y mae'r penderfyniadau yn effeithio arnynt, cymaint ag y byddem wedi ei hoffi. Mae hyn yn arbennig o wir am ddysgwyr, rhieni a gofalwyr.
Felly, rhoddwyd amrywiaeth o gamau ar waith er mwyn monitro'r effeithiau sy'n gysylltiedig â'r amharu parhaus ar ddysgu a llywio penderfyniadau wrth symud ymlaen.
Caiff ymchwil ei chomisiynu er mwyn deall y goblygiadau tymor hwy a sut y gallwn fynd i'r afael â nhw, gan ystyried sut y gall dysgwyr gael eu cynnwys yn y broses. Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid megis Estyn, awdurdodau lleol, consortia addysg ac undebau llafur er mwyn deall goblygiadau dulliau dysgu cyfunol. Rydym hefyd yn ystyried profiadau y tu hwnt i Gymru er mwyn llywio'r hyn a wnawn.
Eir ati i rannu gwybodaeth mewn sawl ffordd er mwyn sicrhau, cymaint â phosibl, fod y rhai dan sylw neu y mae cynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau yn effeithio arnynt, yn cael y wybodaeth gywir, a bod y disgwyliadau'n glir.
Mae amrywiaeth o drefniadau ymgysylltu amser real ar waith neu'n cael eu hystyried er mwyn casglu adborth ar effaith y polisïau hyn. Yn eu plith mae adroddiadau gwrando ar y cyfryngau cymdeithasol dyddiol a chrynodebau dyddiol o'r prif faterion a godir drwy ohebiaeth ac ymholiadau i'n canolfan pwynt cyswllt cyntaf. Bydd arolygon rhieni a dysgwyr yn rhan o hyn hefyd.
Mae hefyd yn werth nodi bod Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn craffu ar ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig COVID-19, ac mae wedi cyhoeddi galwad agored am dystiolaeth. Mae cyhoeddiad parhaus y wybodaeth hon hefyd yn darparu mewnbwn defnyddiol i'n helpu i wneud penderfyniadau a chymryd camau wrth symud ymlaen.
Mae'r cymorth yn parhau o dan y rhaglen Cadw'n Ddiogel: Dal ati i Ddysgu, a bydd hynny'n datblygu ochr yn ochr â datblygu canllawiau dysgu sy'n cefnogi ysgolion a lleoliadau i ddiwallu anghenion uniongyrchol eu dysgwyr, a'u dulliau tymor hwy o gynllunio a gweithredu'r cwricwlwm. Ynghyd â chanllawiau, rydym yn ystyried y ffordd orau y gall y system gael ei chefnogi i ddatblygu'r gwaith hwn, gan gynnwys rôl rhanddeiliaid addysg ehangach. Un enghraifft o hyn yw'r cydweithio diweddar â Cyfoeth Naturiol Cymru a gwaith Cyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored i gefnogi ysgolion a lleoliadau i fynd ati i ddysgu yn yr awyr agored a nodir yn y canllawiau ar ddysgu a gyhoeddwyd ar 10 Mehefin.
O ran y newidiadau a wneir i ofynion addysg statudol gan ddefnyddio'r pwerau brys yn Neddf y Coronafeirws 2020, neu ddeddfwriaeth arall, rhoddir y manylion mewn diweddariad i hyn a'r asesiadau effaith integredig ar gyfer yr ymateb cychwynnol. Mae'r rhain yn cynnwys parhau i ddileu neu lacio dyletswyddau na ellir eu cyflawni, neu a fyddai'n gosod baich gweinyddol anghymesur yn ystod y cyfnod hwn o amharu.
Bwriedir i'r canllawiau dysgu a gweithredol cychwynnol a gyhoeddwyd ar 10 Mehefin helpu i leihau'r risg o drosglwyddo, cefnogi mwy o gysondeb a sicrhau y cedwir pellter cymdeithasol, a chanllawiau hylendid ar ddiogelwch dysgwyr a staff. Cânt eu hadolygu'n barhaus, gyda'r bwriad o ddatblygu'r canllawiau dros dymor yr haf ac wrth i'r cyngor meddygol/gwyddonol ddatblygu.
I'r gwrthwyneb, parheir i adolygu'r asesiad hwn a chaiff ei ddiweddaru'n rheolaidd, yn enwedig wrth i effaith penderfyniadau polisi ddod yn gliriach, wrth i dystiolaeth newydd fod ar gael, neu wrth i bolisïau gael eu hadolygu a'u haddasu. Er i effaith penderfyniadau gael ei hasesu cymaint â phosibl, mae'r sefyllfa a'r penderfyniadau cysylltiedig yn dal i fod yn rhai nas gwelwyd o'r blaen. Gall fod canlyniadau anfwriadol a nodir yn nes ymlaen.ented.
Casgliad
Sut mae pobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu?
Mae diogelwch a llesiant meddyliol, emosiynol a chorfforol dysgwyr a staff wedi cael ei nodi fel egwyddor allweddol gyntaf penderfyniadau ynghylch y cam nesaf hwn o'r ymateb addysg i bandemig COVID-19. Felly, mae cynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau yn cynnwys proses barhaus o ymgysylltu ag ymarferwyr a dysgwyr, yn ogystal ag ystod eang o bartïon â diddordeb. Mae ysgolion a lleoliadau, yn ôl eu natur, yn cael effaith eang ar gymdeithas. Mae'r broses hon yn cynnwys ymgysylltu â'r canlynol:
- plant a phobl ifanc – yn uniongyrchol drwy'r arolwg, 'Coronafeirws a fi' ond hefyd yn anuniongyrchol drwy ymgysylltu â grwpiau rhieni/gofalwyr ac ymarferwyr a all rannu profiadau dysgwyr
- ymarferwyr addysg – yn uniongyrchol drwy grwpiau cynghori cyfeirio rhanddeiliaid a rhwydweithiau anffurfiol a ddatblygwyd drwy'r broses o ddiwygio addysg dros y blynyddoedd diwethaf, ond hefyd yn anuniongyrchol drwy ymgysylltu ag awdurdodau lleol, Estyn, Consortia Rhanbarthol ac undebau llafur a all rannu profiadau ymarferwyr
- rhieni/gofalwyr – yn uniongyrchol drwy sefydlu a defnyddio Grŵp Cynghorol y Rhieni (gan gynnwys dadansoddi canfyddiadau arolwg y grŵp ynghylch y fframwaith penderfyniadau), yn ogystal â gwaith dadansoddi mwy anuniongyrchol arolygon ehangach o rieni (megis arolwg ParentKind) a gohebiaeth/ymholiadau a gyflwynir i'r ganolfan pwynt cyswllt cyntaf.
- rhanddeiliaid addysg, megis awdurdodau lleol, Estyn, consortia rhanbarthol, undebau llafur ac eraill.
Mae'n bwysig adeiladu ar y gwaith ymgysylltu uniongyrchol hwn, yn enwedig gyda dysgwyr a rhieni/gofalwyr, a sicrhau ei fod yn parhau dros y misoedd nesaf, gyda dulliau yn cael eu rhoi ar waith i brofi syniadau a nodi eu profiadau o'r sesiynau 'ailgydio, dal i fyny a pharatoi' wrth i ni symud i mewn i'r hydref.
2. Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?
Trafodir yr asesiad o effeithiau'r ymateb addysg cychwynnol i bandemig COVID-19 yn fanwl yn yr asesiad cysylltiedig. Rhydd gyd-destun gwneud penderfyniadau i gynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau.
O ran sicrhau tegwch i bawb yn seiliedig ar hawliau drwy sicrhau bod cyfle ar gael i bob dysgwr 'ailgydio, dal i fyny a pharatoi' (lle gall wneud hynny) , nid yw'r effeithiau uniongyrchol yn hysbys eto gan nad yw darpariaeth o'r fath yn dechrau tan 29 Mehefin. Fodd bynnag, gwnaed rhai dyfarniadau, wedi'u llywio gan dystiolaeth o amrywiaeth o ffynonellau:
- Mae rhai dysgwyr wedi rhannu profiadau cadarnhaol yn sgil y cyfyngiadau parhaus ar addysg (megis treulio mwy o amser gyda'u teulu, treulio amser yn yr awyr agored a dysgu sgiliau newydd) a fydd yn parhau'n rhannol drwy gyfnod o ddysgu cyfunol. Fodd bynnag, yn gyffredinol, disgwyliwn na fydd profiadau dysgwyr a staff yn wych o gymharu â'r
- sefyllfa arferol yn yr ysgol cyn y pandemig. Bydd cyfnod parhaus lle ceir llai o gymorth wyneb yn wyneb, cyswllt cyfyngedig rhwng myfyrwyr, problemau mynediad i rai ag anghenion penodol neu sy'n gwarchod eu hunain, ac amrywiaeth fwy cyfyngedig (er y bydd yn cynyddu'n wythnosol) o adnoddau dysgu. Bydd hyn ynddo'i hun yn debygol o beri heriau i mewn i dymor yr hydref, yn enwedig wrth i gymhelliant dysgwyr amrywio. Cydnabyddir y bydd y profiadau gwahanol y bydd dysgwyr wedi eu cael gartref, a gyda'u teuluoedd, yn chwarae rhan fawr wrth hwyluso'r broses o fynychu'r ysgol neu eu lleoliad yn rhannol.
- Mae'r dull o sicrhau tegwch i bawb yn seiliedig ar hawliau yn bwysig oherwydd bydd angen cefnogaeth uniongyrchol barhaus ar bob dysgwr gan ysgolion a lleoliadau. Gallai peidio â chael hynny olygu na fydd rhai yn dysgu, a hynny'n sylweddol. Fodd bynnag, oherwydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol, mae'r gallu i gefnogi'r rhai sydd ei angen fwyaf yn uniongyrchol yn gyfyngedig. Ar y dechrau, o leiaf, ni fydd pob dysgwr o reidrwydd yn cael yr hyn sydd ei angen arno yn yr amser cyswllt sydd ar gael – gall gymryd amser i ymdrin â hyn mewn amgylchiadau penodol. Fodd bynnag, mae'r hyn a wneir yn gam i'r cyfeiriad cywir, ac o fudd wrth barhau i sicrhau hawliau plant. Fodd bynnag, rhaid cydnabod na fydd y profiad dysgu mor gadarnhaol â'r hyn oedd ar gael cyn COVID-19, a hynny am beth amser. Hefyd, cydnabyddir nad yw'r egwyddor o ran tegwch yn gyfystyr â chyfle cyfartal na darpariaeth gyfartal, heb roi mesurau ychwanegol ar waith ac ystyried anghenion a dysgwyr penodol.
- Mae'r pwyslais a roddir ar iechyd a llesiant dysgwyr a staff yn hanfodol wrth sicrhau hawliau plant. Bydd sesiynau 'ailgydio, dal i fyny a pharatoi' yn hwyluso gwell dadansoddiad o'r anghenion, gan esgor, er enghraifft, ar fuddiannau i'r rhai ag AAA, neu sy'n wynebu materion diogelu, neu sydd â phroblemau mynediad digidol parhaus. Disgwylir rhai gwelliannau o ran cymhelliant dysgwyr i ddysgu wrth iddynt weld staff yr ysgol wyneb yn wyneb eto, er y bydd yn her cynnal hyn drwy'r hydref. Mae'r dull polisi hefyd yn ymateb i'r dyhead i ymgysylltu â staff a chyd-fyfyrwyr eto, sydd wedi'i fynegi gan blant a phobl ifanc drwy arolygon. Mae pethau penodol i'w hystyried wrth sicrhau mynediad i'r rhai ag AAA, ac er ei bod yn fwy heriol mynd i'r afael â hyn pan fo cyfyngiadau parhaus, rhaid nodi anghenion unigol a mynd i'r afael â nhw.
- Bydd y dulliau o ddysgu a'r graddau y mae myfyrwyr wedi mynd ati i ddysgu wedi amrywio'n sylweddol yng Nghymru dros y misoedd diwethaf. Drwy gynnwys mwy o amser cyswllt cyn gwyliau’r haf, gellir rhoi mwy o gyfle i weithwyr addysg proffesiynol asesu anghenion a dechrau eu diwallu drwy waith paratoi a gwaith cartref ar gyfer mis Medi. Awgryma tystiolaeth, o dan rai amodau, y gall dysgu cyfunol fod yr un mor effeithiol â bod yn yr ystafell ddosbarth yn llawn amser, ond bydd yn cymryd amser i ddatblygu dulliau dysgu cyfunol i'r lefel honno. Rhaid cydnabod na fydd hyn byth yn effeithiol i rai dysgwyr. Bydd yn hanfodol cynnal momentwm, cynnig cymorth eang, a pharhau i ddadansoddi cynnydd.
- Disgwyliwn weld mwy o effeithiau ar ddysgwyr dan anfantais yn sgil y cyfyngiadau symud, gan gynnwys colli dysgu. Bydd hyn yn debygol o barhau drwy gyfnod o ddysgu cyfunol. Mae hyn yn arbennig o wir o ystyried y cynnydd nodedig mewn disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim dros y misoedd diwethaf (37% yn fwy na mis Ionawr). Mae cynnig cyfle cyfartal i bawb ar sail hawliau er mwyn cael amser cyswllt yn hanfodol i asesu anghenion dysgu a chymorth. Ond wrth edrych ar yr hydref dylid ystyried rhoi mwy o bwyslais ar yr hyblygrwydd sydd ar gael i ysgolion a lleoliadau yn y canllawiau, fel y gallant gysoni darpariaeth benodol yn well er mwyn diwallu anghenion eu dysgwyr. Dylid cydnabod y gall fod angen mwy o amser cyswllt ar rai nag eraill hyd at yr hydref.
- Daw'r effeithiau ar ddatblygu'r Gymraeg yn gliriach wrth i ysgolion a lleoliadau allu asesu cynnydd dysgwyr yn well. Tynnir sylw at effeithiau posibl ar ddarpariaeth trochi Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar, yn ogystal â mynediad i ddysgu ehangach drwy gyfrwng y Gymraeg. Un maes y bydd angen ei ystyried fel rhan o hyn yw cynyddu’r cymorth sydd ar gael i rieni, gan gynnwys y rheini nad ydynt yn siarad Cymraeg. Hefyd, gall fod materion penodol yn codi o ran cael cludiant i'r rhai sy'n mynychu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, gan effeithio ar eu gallu i fynychu eu hysgol cyn yr haf. Mae angen canllawiau pellach ar ysgolion a lleoliadau ynghylch dysgu'r Gymraeg, a chanllawiau ar wahân ar ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i ysgolion a lleoliadau, ar gyfer yr hydref.
- Bydd yr amharu parhaus ar ysgolion a lleoliadau yn parhau i gael effaith gymedrol i sylweddol ar allu rhieni i weithio a/neu gyfrannu at eu cymunedau. Bydd hyn yn dibynnu ar amgylchiadau unigol, gan fod llawer yn ceisio cydbwyso gwaith a chyfrifoldebau gofalu, a bydd cyflogwyr yn disgwyl pethau gwahanol ganddynt. Mae hyn yn arbennig o wir lle mae mesurau cadw pellter cymdeithasol wedi cyfyngu ar fynediad i rwydweithiau gofal anffurfiol. Mae'n debygol o fod yn anodd i rai teuluoedd ymdopi â dysgu cyfunol, lle treulir amser yn yr ysgol neu mewn lleoliadau a gartref.
- Mae angen parhau i gyfathrebu â dysgwyr, yn ogystal â rhieni/gofalwyr, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol (drwy ysgolion, lleoliadau a rhanddeiliaid addysg eraill), ac mae angen i hynny fod yn broses ddwyffordd. Mae llawer o ddysgwyr yn ddigon abl i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dysgu a/neu ddylanwadu ar benderfyniadau rhieni. Dylent gael y cyfle i lywio'r hyn sy'n digwydd nesaf yn uniongyrchol, nid dim ond ymateb i benderfyniadau. Mae angen i bob un ohonynt gael gwybod am bwysigrwydd cadw'n ddiogel a mynd ati i ddysgu. Hefyd, mae angen meithrin gwell dealltwriaeth o ddisgwyliadau, ac na fydd addysg yn dychwelyd i normal am beth amser.
3. Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:
yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant
yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol
Mae'r dull o gynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau o 29 Mehefin yn gam tuag at fynd i'r afael ag effeithiau'r amharu ar addysg yn sgil pandemig COVID-19. Fodd bynnag, bydd mwy o amharu yn anochel wrth inni barhau i fyw gyda'r feirws. Mae'r fframwaith penderfyniadau a nodwyd yn gynharach yn tynnu sylw at y pwyslais ar roddir ar y pum egwyddor allweddol ar gyfer y cam nesaf hwn ar weithrediadau, gyda phob un ohonynt yn ymwneud â'r nodau llesiant.
- Mae diogelwch a llesiant meddyliol, emosiynol a chorfforol dysgwyr a staff mewn ysgolion a lleoliadau wedi cael ei nodi fel un o'r prif egwyddorion sy'n sail i unrhyw benderfyniadau am gynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau. Rhoddwyd
- canllawiau manwl i ysgolion a lleoliadau ar y ffordd y gellir mynd ati i sicrhau bod addysg yn ddiogel i bawb. Mae'r canllawiau hefyd wedi pwysleisio'r angen i flaenoriaethu llesiant dysgwyr fel un o ofynion rhagorfodol dysgu. Parheir i adolygu'r canllawiau hyn a byddant yn cael eu diweddaru.
- Nod gweithredu ar sail hawliau er mwyn sicrhau tegwch i bawb wrth gynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau i bob dysgwr (a all fynychu) yw lliniaru rhai o effeithiau negyddol y cyfyngiadau symud. Dylai wella'r cymorth sydd ar gael i ddysgwyr o bob oed o ran eu llesiant a'u hanghenion dysgu. Bydd hyn yn digwydd drwy'r sesiynau 'ailgydio, dal i fyny a pharatoi' o 29 Mehefin, ynghyd â dysgu o bell. Yn y canllawiau a roddwyd i ysgolion a lleoliadau ar 10 Mehefin, nodir y dylid rhoi sylw penodol i ddiwallu anghenion y rhai na allant fynychu am ba reswm bynnag.
- Gall ysgolion a lleoliadau fod yn ganolbwynt mewn cymunedau. Wrth i'r cyfyngiadau symud barhau, gan effeithio ar amseru sesiynau cyswllt, gellir cyfyngu ar hyn. Fodd bynnag, disgwylir i'r broses o gynyddu gweithrediadau o 29 Mehefin gefnogi cydlyniant cymunedol fwyfwy wrth i fwy o bobl allu cyfarfod o amgylch yr ysgol neu'r lleoliad (gan gadw pellter cymdeithasol ar yr un pryd) a dal i fyny, a chynnig cyngor a chymorth.
- Disgwylir dechrau lliniaru effeithiau'r cyfyngiadau symud ar bobl, busnesau a chymunedau (a wnaeth olygu nad oedd modd cymryd rhan mewn rhai gweithgareddau diwylliannol a chelfyddydol, chwaraeon na hamdden) ar lesiant diwylliannol fwyfwy wrth i ddysgwyr dreulio mwy o amser mewn ysgolion a lleoliadau yn dysgu ac yn cael cymorth
- o 29 Mehefin. Fodd bynnag, fel y nodwyd uchod, gall fod effaith sylweddol ar y Gymraeg o hyd o ganlyniad i amharu parhaus ar addysg. Noda'r canllawiau cychwynnol ar ddysgu a gyhoeddwyd ar 10 Mehefin fod canllawiau pellach yn cael eu datblygu er mwyn helpu i gefnogi dysgu o fis Medi. Bydd angen iddynt roi sylw penodol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r Gymraeg a darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
- Mae'r cydberthnasau gwaith agos â rhanddeiliaid addysg Cymru a rhyngddynt, sydd wedi datblygu ymhellach drwy waith ar ddiwygiadau addysg Cenhadaeth ein Cenedl, wedi darparu sail gadarn i weithredu ar garlam a fu'n angenrheidiol dros y misoedd diwethaf. Byddant yn parhau'n hanfodol wrth inni symud i mewn i'r cam nesaf hwn ar gynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau.
- Mae'r ymateb cadarnhaol a gafwyd gan ymarferwyr ledled Cymru wrth gefnogi anghenion ein plant a'n pobl ifanc wedi ei gydnabod yn llawn; mae hyn hefyd yn wir am gynnal trefniadau cydweithio ar garlam ag asiantaethau a grwpiau â diddordeb allweddol. Wrth symud ymlaen, bydd angen inni barhau i ystyried sut y gallwn gefnogi capasiti'r sector addysg i ymateb i'r gofynion parhaus sy'n deillio o'r argyfwng iechyd hwn.
4. Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?
Mae'r asesiad sy'n cwmpasu'r ymateb addysg cychwynnol i COVID-19, a gyhoeddwyd ar 28 Medi, yn cynnwys gwybodaeth fanwl am y trefniadau sydd ar waith i fonitro a gwerthuso'r ymateb addysg i'r pandemig. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau i gasglu, dadansoddi a darparu gwybodaeth am yr effeithiau iechyd a'r effeithiau ehangach sy'n deillio o bandemig COVID-19.
Yn ogystal â'r dulliau eang hynny, bydd angen gwybodaeth benodol, adborth a phroses adolygu barhaus o ran:
- profiadau dysgwyr o 'ailgydio, dal i fyny a pharatoi' a'u barn am ddatblygu dulliau dysgu cyfunol yn yr hydref
- barn rhieni/gofalwyr am y trefniadau ar gyfer cynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau (gan gynnwys llesiant, dysgu a materion logistaidd/cludiant)
- tystiolaeth o effeithiau COVID-19 ar bobl BAME, a sut y dylai'r canllawiau i ysgolion a lleoliadau gael eu diwygio'n briodol
- y gwersi a ddysgwyd yn sgil dysgu o bell dros y misoedd diwethaf, a sut y gellir adeiladu ar hynny drwy ddull dysgu cyfunol i mewn i'r hydref
- yr ymgysylltu a'r heriau wrth ddatblygu'r broses o ddysgu'r Gymraeg, a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
- cymryd rhan mewn sesiynau 'ailgydio, dal i fyny a pharatoi', gan ystyried yn benodol ddiwallu anghenion dysgwyr dan anfantais, a'r rhai sy'n wynebu mwy o risg o ganlyniad i COVID-19 na allant fynychu sesiynau cyswllt
- sut mae anghenion penodol y rhai ag AAA yn cael eu nodi a'u diwallu pan fo amharu parhaus ar addysg
Ar y cyd â'r hyn a nodir yn yr asesiad ar yr ymateb addysg cychwynnol, ategir y sail dystiolaeth gan wybodaeth a ddaw o gyswllt rheolaidd ag adrannau addysg eraill y DU, yn ogystal â gwybodaeth a dadansoddiadau rheolaidd am ddulliau sy’n cael eu defnyddio mewn ymateb i COVID-19 mewn awdurdodaethau addysg eraill yn rhyngwladol. Gyda’i gilydd, bydd y sail dystiolaeth honyn ein galluogi i adolygu a diwygio polisïau, er mwyn nodi bylchau pellach mewn tystiolaeth ac ystyried camau lliniaru pellach sydd eu hangen ar gyfer y rhai sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf. Felly, bydd yr asesiad hwn yn parhau i fod yn ddogfen 'fyw' ac fe'i hadolygir yn barhaus ac fe'i diweddarir yn rheolaidd wrth i effaith syniadau a phenderfyniadau ynghylch cynyddu gweithrediadau mewn ysgolion a lleoliadau gael ei hasesu i mewn i'r hydref. Rydym yn bwriadu cael mwy o bwyntiau adolygu asesiad effaith ym mis Awst a mis Hydref.