Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Arolwg arlein yw’r Arolwg Masnach Cymru. Mae’n casglu llif gwerthiant a phryniant nwyddau a gwasanaethau gan fusnesau sy’n gweithredu’n uniongyrchol o Gymru.

Mae'r data hyn yn seiliedig ar arolwg enghreifftiol ac felly mae elfen o ansicrwydd. Mae’r datganiad hwn yn cyflwyno amcangyfrifon dros dro 2021. Efallai y caiff rhain eu diwygio yn y dyfodol. Nid ydym wedi cyhoeddi data 2020 o’r Arolwg Masnach Cymru o'r blaen oherwydd anghysondebau a materion ansawdd a achoswyd gan bandemig COVID-19. Er bod data 2020 wedi'u cynnwys yn yr adroddiad hwn gydag esboniad priodol o'r cyfyngiadau, mae cymariaethau 2021 yn aml yn cael eu tynnu yn erbyn data cyn y pandemig 2019.

O ganlyniad i weithredu gwelliannau methodolegol, mae data gwerthiant hanesyddol cyhoeddedig hefyd yn cael eu hadolygu yn y datganiad hwn a'u marcio â (r). Efallai y bydd anghysondebau bach wrth gymharu ag amcangyfrifon pryniannau blaenorol, oherwydd newidiadau methodolegol ehangach.

Prif ganlyniadau

Mae’r datganiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau wedi’u dadansoddi yn ôl lleoliad, maint busnes a sector. Mae’r rhain yn ystadegau arbrofol, sy’n cael eu datblygu. Mae’r cyfyngiadau Data yn cael eu hegluro yn yr adran ystyriaethau data a gwybodaeth ansawdd a methodoleg ar wahan.

Gwerthoedd gwerthiannau 2021

  • Amcangyfrifwyd mai £141.3bn oedd cyfanswm gwerth y gwerthiannau gan fusnesau yng Nghymru.
  • Nwyddau oedd 71% (£100.4bn) o’r gwerthiannau gan fusnesau yng Nghymru, a 29% (£40.9bn) yn wasanaethau.
  • Roedd 47% o’r gwerthiannau wedi mynd i gwsmeriaid yng Nghymru, 23% i rannau eraill o’r DU, 7% i weddill yr UE a 8% i wledydd y tu hwnt i’r UE. Doedd 15% o’r gwerthiannau ddim wedi’u dyrannu yn ôl lleoliad.

Gwerthoedd pryniannau 2021

  • Amcangyfrifwyd mai £105.0bn oedd cyfanswm gwerth y pryniannau gan fusnesau yng Nghymru.
  • Nwyddau oedd 72% (£75.9bn) o’r pryniannau gan fusnesau yng Nghymru, a gwasanaethau yn 28% (£29.1bn).
  • Pryniannau gan gwsmeriaid yng Nghymru oedd 40% ohonynt, 36% o rannau eraill o’r DU, 6% o’r UE a 6% o wledydd nad ydynt yn yr UE. Doedd 12% o’r pryniannau ddim wedi’u dyrannu yn ôl lleoliad.

Ystyriaethau data

Mae canlyniadau'r arolwg yn ‘ystadegau swyddogol sy’n cael eu datblygu’, gan fod y dull a ddefnyddiwyd yn dal i gael ei ddatblygu gyda golwg ar wella eu ansawdd data dros amser drwy adborth gan ddefnyddwyr a rhanddeiliaid. Serch hynny, mae’r data a’r dadansoddiad yn dal yn werthfawr, ar yr amod bod defnyddwyr yn eu hystyried yng nghyd-destun yr wybodaeth a roddir am ansawdd y data. Mae mwy o wybodaeth am ansawdd data ar gael yn y gwybodaeth ansawdd a methodoleg ac mae'r diffiniadau o wahanol dermau a ddefnyddir drwyddi draw i'w gweld yn y geirfa a'r talfyriadau. Dylid ystyried yr ystyriaethau data canlynol wrth adolygu'r canlyniadau:

  • Dylid trin y canlyniadau fel rhai dros dro oherwydd tebygolrwydd diwygiadau yn y dyfodol yn sgil welliannau methodolegol.
  • Mae’r data’n ymwneud â’r cyfnod a chafodd eu heffeithio gan y coronafeirws (COVID-19). O ganlyniad i gyfyngiadau'r pandemig, buodd busnesau wedi cau dros y cyfnod hwn, ac felly fe allai hynny fod wedi effeithio ar yr ymatebion. Effeithiwyd ar fasnach ryngwladol am gyfnod hir oherwydd gwahanol gyfyngiadau’r pandemig parhaus gan lywodraethau mewn gwahanol wledydd.
  • Mae’r data’n ymwneud â’r cyfnod yn union wedi ymadael â’r UE, serch hynny, gallai effaith y cynllun ymadael yr UE wedi effeithio ar ymatebion a chadernid y data a gasglwyd yn ystod y cyfnod hwn.
  • Mae’r data’n seiliedig ar arolwg gwirfoddol ar-lein, ac mae’r sylfaen ymatebwyr ar gyfer rhai ystadegau manwl yn gymharol fach. Cafwyd cyfradd ymateb gyffredinol o 16% ar gyfer Arolwg 2021 (1,264 o ymatebion o sampl o 8,000 o fusnesau).
  • Mae cyflwyno amrywioldeb priodoli ar draws blynyddoedd ar gyfer gwerthiannau wedi golygu bod amrywioldeb yn y sampl a gafwyd yn ystod blynyddoedd o waith maes wedi ei leihau. Fodd bynnag, ni oedd y pryniannau yn destun y newid methodoleg hwn ac felly mae’r gallu i wneud cymariaethau cadarn rhwng y blynyddoedd wedi’i gyfyngu. Felly, dim ond cymariaethau eang iawn ar lefel uchel a wneir yn sylwebaeth yr adroddiad hwn.
  • Dylid nodi hefyd bod gwerth y fasnach heb ei dyrannu yn Arolwg 2021 wedi cynyddu’n sylweddol ers y flwyddyn flaenorol. Mae gwerthoedd heb eu dyrannu yn bodoli pan oedd busnesau’n gwneud gwerthiannau neu bryniannau, ond yn methu eu dyrannu. Mae rhagor o wybodaeth am werthoedd heb eu dyrannu ar gael yn yr adran cymharedd a chydlyniaeth. Darllenwch y gwybodaeth ansawdd a methodoleg i gael rhagor o fanylion am gryfderau a chyfyngiadau’r Arolwg.
  • Yn y tablau data cysylltiedig, mae rhai celloedd data wedi'u hatal lle bu nifer fach o ymatebion i'r arolwg.
  • Mae’r Arolwg ond yn casglu gwerthiannau a phryniannau busnes sy'n golygu na fydd pryniannau uniongyrchol i ddefnyddwyr yn cael eu nodi.
  • Efallai y bydd anghysondebau bach mewn ffigurau sydd ddim yn crynhoi i gyfansymiau oherwydd talgrynnu.
  • Mae maint busnes wedi bod yn seiliedig ar faint pob busnes yn unol â gwerthoedd cyflogaeth y DU a nodwyd o fewn y Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau (IDBR) (SYG).
  • Mae rhai sectorau wedi'u heithrio o'r rhestr enghreifftiol (yn fwyaf arbennig y sector gwasanaethau ariannol) sy'n golygu na wahoddwyd pob busnes ar draws yr economi i gymryd rhan. Mae rhestr fanwl o sectorau diwydiant a grwpiau sector sydd wedi'u cynnwys yn yr arolwg wedi'u hamlinellu yn y gwybodaeth ansawdd a methodoleg.

Gwerthiannau

Gofynnwyd i fusnesau a oedd wedi ymateb i’r ddweud a oeddent wedi gwerthu nwyddau a/neu wasanaethau yn ystod blwyddyn galendr 2021, a darparu cyfanswm gwerth y gwerthiannau hyn. Gofynnwyd wedyn iddynt ddadansoddi'r nwyddau a/neu'r gwasanaethau roeddent wedi’u gwerthu, a hynny yn ôl lleoliad eang:

  • Gwerthiannau yng Nghymru
  • Gwerthiannau i weddill y DU (GDU)
  • Gwerthiannau i’r UE
  • Gwerthiannau i wledydd y tu hwnt i’r UE

Os oedd unrhyw nwyddau neu wasanaethau wedi cael eu gwerthu i weddill y DU, gofynnwyd i'r busnesau ddweud i ba wledydd yn y DU (yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr) roeddent wedi gwerthu, a gwerth y gwerthiannau i bob gwlad.

Gofynnwyd i fusnesau sy’n allforio nwyddau neu wasanaethau y tu hwnt i’r DU enwi’r bum gwlad cyrchfan y maen nhw’n allforio nwyddau neu wasanaethau iddynt fwyaf, cyn rhoi gwerth bras y gwerthiannau i bob un o’r gwledydd hynny.

Trosolwg o’r gwerthiannau

Yn 2021, amcangyfrifwyd mai £141.3bn oedd cyfanswm gwerth y gwerthiannau gan fusnesau yng Nghymru. Mae hyn yn gynnydd o £19.3bn (16%) o gymharu â lefelau cyn y pandemig (2019) oedd â chyfanswm gwerthiannau o £122.0 biliwn (r) (gweler yr ystyriaethau data i gymharu’r canlyniadau gyda blynyddoedd blaenorol).

Yn 2021, nwyddau oedd 71% (£100.4bn) o'r gwerthiannau gan fusnesau yng Nghymru, gyda gwasanaethau’n cyfrif am 29% (£40.9bn). Roedd hyn yn debyg i 2019, lle'r oedd y rhaniad yn nwyddau 69% (£83.9bn) (r), a 31% (£38.1bn) (r) gwasanaethau.

Gwerthiannau yn ôl lleoliad

Mae Ffigur 1 yn dangos bod oddeutu 47% (£66.6bn) o’r gwerthiannau yn 2021, i gwsmeriaid yng Nghymru, cynnydd o 13% (£7.9bn) o gymharu â 2019. Aeth 23% (£32.5bn) o werthiannau yn 2021 i weddill y DU, 7% (9.6bn) i’r UE ac 8% (£11.7bn) i wledydd y tu hwnt i’r UE. Yn 2021, roedd gwerthiannau heb eu dyrannu yn cyfrif am 15% (£20.9bn), cynnydd sylweddol o £3.9bn (3%) yn 2019.

Mae gwerthoedd gwerthiannau heb eu dyrannu yn bodoli pan oedd busnesau wedi gwneud gwerthiannau, ond heb allu eu dyrannu i leoliad. Mae rhagor o wybodaeth am werthiannau heb eu dyrannu ar gael yn yr adran cymharedd a chydlyniaeth.

Ffigur 1: Gwerthiannau yn ôl cyrchfan (£bn), 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Map coeden yn dangos mai busnesau yng Nghymru oedd â'r nifer fwyaf o werthiannau i Gymru, ac yna gweddill y DU.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Gwerthiannau yn ôl cyrchfan, yn ôl nwyddau a gwasanaethau

Roedd mwyafrif helaeth (92%) y gwerthiannau gwasanaethau o fewn y DU, gyda 68% (£27.6bn) yng Nghymru a 24% (£9.8bn) i rannau eraill y DU (Ffigur 2). Dangosodd gwerthiant nwyddau fwy o raniad ar draws cyrchfannau, er bod cyfran fwy o werthiannau nwyddau heb eu dyrannu 19% (£19.2bn) na gwerthiant gwasanaethau heb eu dyrannu. Roedd bron i ddwy ran o dair (61%) o werthiannau nwyddau o fewn y DU; gwnaed 39% (£39.0bn) yng Nghymru a 23% (£22.6bn) i weddill y DU. Cafodd un rhan o bump o'r nwyddau eu hallforio; aeth 9% (£8.9bn) i'r UE ac aeth 11% (£10.7bn) i wledydd y tu hwnt i'r UE.

Ffigur 2: Gwerthiannau nwyddau a gwasanaethau yn ôl cyrchfan (£bn), 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart bar clystyrog yn dangos bod gwerthiant nwyddau yn fwy na gwerthiant gwasanaethau i fusnesau yng Nghymru, a bod gwerthiant nwyddau a gwasanaethau yn bennaf i'r DU (gan gynnwys Cymru).

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Gwerthiannau yn ôl cyrchfan, cyfran y busnesau

Roedd y rhan fwyaf o fusnesau yng Nghymru (90%) yn gwerthu yng Nghymru, gyda 43% yn gwerthu i weddill y DU. Roedd cyfran llawer is o fusnesau yn allforio cynnyrch yn rhyngwladol, gyda 8% yn allforio i’r UE a 6% yn allforio i wledydd nad oedd o fewn yr UE (Ffigur 3).

Ffigur 3: Cyfran y busnesau yng Nghymru gyda gwerthiannau yn ôl cyrchfan, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart bar yn dangos bod y rhan fwyaf o fusnesau yng Nghymru wedi gwerthu yng Nghymru (90%), ac yna gweddill y DU (43%), yr UE (8%) ac yna wledydd y tu hwnt i'r UE (6%).

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Gwerthiannau nwyddau a gwasanaethau yn ôl maint y busnes

Busnesau mawr, canolig a bach oedd 59% (£83.6bn), 17% (£24.2bn) a 24% (£33.6bn) o’r holl werthiannau gan fusnesau yng Nghymru, yn y drefn honno (Ffigur 4). Nwyddau oedd y rhan fwyaf o werthiannau gan fusnesau mawr – 77% (£64.5bn) o werth y gwerthiannau. Cyfran gwerthiannau nwyddau busnesau canolig a bach oedd 71% (£17.3bn) a 56% (£18.7bn) yn y drefn honno.

Ffigur 4: Gwerthiannau yn ôl maint y busnes wedi’u rhannu yn ôl nwyddau a gwasanaethau (£bn), 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart bar clystyrog yn dangos bod y rhan fwyaf o'r gwerthiannau gan fusnesau mawr a bod gwerthiant ar gyfer pob maint busnes yn nwyddau yn bennaf.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Gwerthiannau yn ôl maint y busnes a’r cyrchfan

Cafodd tua 70% (£99.1bn) o’r holl gwerthiannau eu gwneud yn y DU (Ffigur 5). Gwnaeth busnesau bach 58% (£19.4bn) o’u gwerthiannau yng Nghymru, 33% (£11.0bn) i weddill y DU a 6% (£2.0bn) yn rhyngwladol. Gwerthiannau rhyngwladol oedd 17% (£14.5bn) ac 20% (£4.8bn) o’r gwerthiannau gan fusnes mawr a chanolig, yn y drefn honno. Busnesau mawr oedd â’r nifer uchaf o werthiannau heb eu dyrannu – 22% (£18.1bn).

Ffigur 5: Gwerthiannau yn ôl maint y busnes a’r cyrchfan (£bn), 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart bar clystyrog sy'n dangos y rhan fwyaf o'r gwerthiant gan fusnesau bach a mawr o fewn y DU, gyda busnesau canolig yn gweld gwerthiant yn bennaf yn i weddill DU.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Gwerthiannau yn ôl sector [troednod 1]

Y sector ‘Masnach, llety a thrafnidiaeth’ oedd â’r gwerth uchaf o gyfanswm y gwerthiannau 39% (£54.9bn) o’r holl werthiannau gan fusnesau yng Nghymru (Ffigur 6). ‘Gweithgynhyrchu’ oedd yr ail uchaf gyda 27% (£38.3bn), wedyn ‘Busnes a gwasanaethau eraill’ gydag 22% (£30.8bn) a’r ‘Sector primaidd a chyfleustodau’ gyda 7% (£7bn) ac ‘Adeiladu’ gyda 5% (7.6bn).

Ffigur 6: Gwerthiannau yn ôl sector (£bn), 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart bar yn dangos bod y gwerth uchaf o'r gwerthiannau gan fusnesau yn y sector 'Masnach, llety a thrafnidiaeth'.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Gwerthu yn ôl sector a chyrchfan

Roedd tua 54% (£29.7bn) o werth gwerthiant o fewn y sector llety masnach yng Nghymru (Tabl 1), 11% (£6.2bn) i weddill y DU a 2% (£1.3bn) yn rhyngwladol ynghyd â chyfran uchel heb ei dyrannu (32%, £17.8bn). Roedd gan y sector gweithgynhyrchu ychydig dros hanner (51%) o'i werthiant i wledydd yng ngweddill y DU gan gynnwys Cymru (£19.6bn) ac ychydig o dan hanner (47%) o'i werthiannau i wledydd rhyngwladol (£17.9bn). Roedd gwerthiant o fewn sectorau eraill yn bennaf o fewn y Deyrnas Unedig. (Tabl 1).

Tabl 1: Gwerthiannau yn ôl sector a chyrchfan (£ Miliynau), 2021 [Nodyn 1]
Y Sector Busnes [Nodyn 2] Cymru Gweddill y DU UE Tu hwnt i’r UE Heb eu dyrannu Cyfanswm
Sector Cynradd a Chyfleustodau 7,247 1,177 [c] [c] 1,124 9,669
Adeiladu 5,941 1,432 [c] [c] 160 7,644
Busnes a Gwasanaethau Eraill 20,072 7,752 694 1,193 1,127 30,838
Gweithgynhyrchu 3,642 15,959 8,367 9,565 726 38,260
Masnach, Llety a Thrafnidiaeth 29,706 6,151 434 851 17,793 54,936
Cyfanswm 66,608 32,471 9,636 11,702 20,929 141,347

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Mae ffigurau wedi'u hatal lle nad yw gwerthoedd yn datgelu dim ac yn cael eu dynodi gan [c].

[Nodyn 2] Busnesau sy'n gwerthu yn 2021 (1,408), Sector cynradd a chyfleustodau (62), Adeiladu (155), Busnes a gwasanaethau eraill (398), Gweithgynhyrchu (265) a Masnach, llety a thrafnidiaeth (528).                                

Gwerthiannau i weddill y DU fesul gwlad

Gwerthiannau i weddill y DU oedd bron i chwarter (23% £32.5bn) yr holl werthiannau gan fusnesau yng Nghymru. O blith y rhain, gwerthiannau i Loegr oedd y rhan fwyaf ohonynt (84%, £27.2bn), wedyn yr Alban gyda 5% (£1.6bn) a Gogledd Iwerddon gyda 3% (£1.1bn). Doedd 8% (£2.6bn) arall o werthiannau heb eu dyrannu. Roedd y dadansoddiad rhanedig ar gyfer gweddill y DU fesul maint busnes ar y cyfan yn dilyn rhaniad y wlad gyfan (Ffigur 7).

Ffigur 7: Gwerthiannau i weddill y DU yn ôl gwlad a maint y busnes (£bn), 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart bar clystyrog yn dangos bod y rhan fwyaf o werthiannau i weddill y DU ar draws pob maint busnes i Loegr.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

O'r £32.5bn o werth gwerthiannau i weddill y DU, y sector gweithgynhyrchu oedd yn gyfrifol am bron i hanner (49%, £16.0bn) o'r gwerth gwerthiant hwn. (Ffigur 8). Dilynwyd hyn gan Fusnes a gwasanaethau eraill gyda 24% (£7.8bn) a'r sector masnach, llety a thrafnidiaeth gyda 24% (£7.8bn) a'r sector masnach, llety a thrafnidiaeth gyda 19% (£6.2bn).

Ffigur 8: Gwerthiannau i weddill y DU yn ôl sector busnes (£bn), 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart bar yn dangos bod y categori mwyaf gyda gwerthiant i weddill y DU oedd y sector gweithgynhyrchu.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Gwerthiannau i Loegr oedd y mwyafrif o’r gwerthiannau i weddill y DU (84%). Y sector gweithgynhyrchu oedd â’r gyfran fwyaf o werthiannau i weddill y DU, gydag 87% (£13.8bn) o’r gwerthiannau yn mynd i Loegr, 5% (£0.8bn) i’r Alban a 4% (£0.7bn) i Ogledd Iwerddon.

Tabl 2: Gwerthiannau yn ôl sector a cyrchfannau yng ngweddill y DU (£ Miliynau), 2021 [Nodyn 1]
Y Sector Busnes [Nodyn 2] Lloegr Yr Alban Gogledd Iwerddon Gweddill y DU heb ei ddyrannu Cyfanswm Gweddill y DU
Sector Cynradd a Chyfleustodau 1,068 [c] [c] [c] 1,177
Adeiladu 1,302 [c] [c] [c] 1,432
Busnes a Gwasanaethau Eraill 6,253 251 301 947 7,752
Gweithgynhyrchu 13,811 765 690 694 15,959
Masnach, Llety a Thrafnidiaeth 4,771 483 91 806 6,151
Cyfanswm 27,204 1,562 1,086 2,619 32,471

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Mae ffigurau wedi'u hatal lle nad yw gwerthoedd yn datgelu dim ac yn cael eu dynodi gan [c].

[Nodyn 2] Busnesau sy'n gwerthu yn 2021 (1,408), sector cynradd a chyfleustodau (62), Adeiladu (155), Busnes a gwasanaethau eraill (398), Gweithgynhyrchu (265) a Masnach, llety a thrafnidiaeth (528).

Cynhyrchion sy'n cael eu gwerthu yn y DU gan fusnesau yng Nghymru

Gofynnwyd i fusnesau yng Nghymru ddewis, o restr, y 5 prif gynnyrch roeddent wedi’u gwerthu yn y DU gyfan (gan gynnwys Cymru) a’u gwerth. [troednod 2] Yn ôl amcangyfrif wedi’i bwysoli a oedd yn seiliedig ar 1,390 o ymatebion, cynnyrch ‘gwasanaethau telegyfathrebu’ oedd 14% (£10.3bn) o werth y gwerthiannau (Ffigur 9).[troednod 3] ‘Adeiladau a Gwaith adeiladu’ oedd nesaf gyda 9% (£6.4bn) o werth y gwerthiannau, ac wedyn cynnyrch gweithgynhyrchu arall gyda 5% (£3.3bn) o werth y gwerthiannau.

Ffigur 9: Y 5 prif gynhyrchion a gafodd eu gwerthu gan fusnesau o Gymru o fewn y DU (£bn), 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart bar yn dangos y nwyddau gorau a werthwyd gan fusnesau yng Nghymru o fewn y DU (gan gynnwys Cymru) oedd 'Gwasanaethau Telegyfathrebu', ac yna 'Adeiladau a gwaith adeiladu'.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Allforion rhyngwladol

Yn 2021, amcangyfrifwyd bod gwerth allforion rhyngwladol o Gymru yn £21.3bn, gostyngiad o £2.8bn (12%) o £24.1bn yn 2019, er cynnydd o £2.5bn (13%) o £18.9bn yn 2020. Mae gwerthoedd gwerthiant heb ei ddyrannu yn sylweddol, gan gyfrif am swm cymharol debyg â chyfanswm gwerth allforion rhyngwladol. Mae hyn wedi cynyddu'n sylweddol (£17.1bn) o amcangyfrifon 2019.

Aeth mwyafrif yr allforion rhyngwladol i wledydd y tu hwnt i’r UE (55%, £11.7bn) gyda 45% (£9.6bn) o allforion rhyngwladol i’r UE (Ffigur 10). Nwyddau oedd 92% (£19.6bn) o’r holl allforion rhyngwladol a ddyrannwyd.

Ffigur 10: Allforion rhyngwladol yn ôl rhanbarth, wedi’u rhannu yn ôl nwyddau a gwasanaethau (£bn), 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart bar clystyrog sy'n dangos bod y rhan fwyaf o allforion mewn nwyddau, ac aeth y rhan fwyaf o'r allforion ar gyfre nwyddau a gwasanaethau i wledydd y tu hwnt i'r UE.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Roedd busnesau mawr yn cyfrif am ychydig dros ddwy ran o dair (68%, £14.5bn) o allforion rhyngwladol (Ffigur 11). Busnesau canolig oedd 23% (4.8bn) a busnesau bach 9% (£2.0bn).

Cafodd y mwyafrif o werthiannau allforio gan fusnesau mawr (62%) eu gwneud i gwsmeriaid y tu hwnt i'r UE (£9.0bn). I'r gwrthwyneb, roedd y mwyafrif o werthiannau allforio o fusnesau canolig a bach i wledydd yr UE; 62% (£3.0bn) a 57% (£1.1bn) yn y drefn honno (Ffigur 11).

Ffigur 11: Allforion rhyngwladol yn ôl maint y busnes a cyrchfan (£bn), 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Siart bar clystyrog yn dangos bod y rhan fwyaf o allforion gan fusnesau mawr.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Dengys Ffigur 12 bod y sector gweithgynhyrchu yn cyfrif am y mwyafrif (84%, £17.9bn) o allforion rhyngwladol, ac yna'r sector busnes a gwasanaethau eraill (£1.9bn, 9%).

Ffigur 12: Allforion rhyngwladol yn ôl sector y busnes (£bn), 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 12: Siart bar yn dangos bod y rhan fwyaf o allforion yn dod o'r sector gweithgynhyrchu.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Yr Unol Daleithiau oedd y wlad allforio uchaf gyda gwerth £4.2bn o allforion, ac yna Ffrainc a'r Almaen yn allforio £2.5bn a £2.3bn yn y drefn honno (Ffigur 13). Gwerth allforion i'r 5 gwlad uchaf oedd tua hanner (51%, £10.9bn) o gyfanswm allforion busnesau yng Nghymru.

Gofynnwyd i fusnesau enwi’r pum gwlad yr oeddent yn allforio fwyaf iddynt, felly ni ddadansoddwyd unrhyw werthiant rhyngwladol a wnaed gan fusnes i wledydd y tu hwnt i'w pum gwlad uchaf. Mae hyn yn golygu nad yw'r ffigurau hyn yn cyfrif am yr holl werthiannau allforio. Yn ogystal, efallai na fydd rhai busnesau wedi gallu dyrannu cyfanswm eu hallforion rhyngwladol i wledydd penodol. Cyfunwyd ffigurau gwerthiant i ranbarthau byd-eang eang, a gyflwynir yn y tablau data. Nid oes dadansoddiad o nwyddau a gwasanaethau ar gyfer gwledydd ar gael.

Ffigur 13: Y pum gwlad yr allforiwyd fwyaf iddynt (£bn), 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 13: Siart bar yn dangos roedd yr Unol Daleithiau oedd yn cyfrif am y gwerth uchaf o allforion, ac yna Ffrainc ac yna'r Almaen.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Cwestiynau eraill

Gofynnodd Arolwg Masnach Cymru ddau gwestiwn i helpu i ddeall i ba raddau y gwnaeth busnesau yng Nghymru werthu: nwyddau neu wasanaethau amgylcheddol (mae hyn yn cynnwys nwyddau neu wasanaethau sydd, er enghraifft, yn helpu i leihau neu drin llygredd, atgyweirio difrod i'r amgylchedd naturiol neu fesur a monitro diogelu'r amgylchedd neu reoli adnoddau [troednod 4]) unrhyw wasanaethau sy'n gysylltiedig â nwyddau (a elwir hefyd yn wasanaethau 'modd 5', sy’n cynnwys, er enghraifft, tanysgrifiadau parhaus ar gyfer cynnal a chadw ac atgyweirio, neu hyfforddiant, neu danysgrifiad meddalwedd cysylltiedig fel storio cwmwl gyda ffôn).

Mae amcangyfrifon 2021 yn dangos:

  • nid oedd y rhan fwyaf o fusnesau yng Nghymru (88%) yn gwerthu nwyddau amgylcheddol, gyda 9% o fusnesau yn gwerthu nwyddau amgylcheddol i'r DU (gan gynnwys Cymru)
  • nid oedd y rhan fwyaf o fusnesau yng Nghymru (92%) yn gwerthu gwasanaethau amgylcheddol, gyda 7% o fusnesau yn gwerthu gwasanaethau amgylcheddol i'r DU (gan gynnwys Cymru)
  • yn y broses o werthu nwyddau, nid oedd 83% o fusnesau Cymru yn cynnwys gwasanaeth a oedd wedi'i ymgorffori yn y cynnyrch cyffredinol na'i gynnig fel rhan o werthu'r da, dim ond 15% a wnaeth

Pryniannau

Mae'n bwysig nodi nad yw pryniannau wedi bod yn destun yr un gwelliannau methodolegol â gwerthiannau ac felly dylid eu trin yn fwy gofalus; gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth yn y gwybodaeth ansawdd a methodoleg. Gofynnwyd i fusnesau a oedd wedi ymateb i Arolwg Masnach Cymru ddweud a oeddent wedi prynu nwyddau a/neu wasanaethau yn ystod blwyddyn galendr 2021, a darparu cyfanswm gwerth y pryniannau hyn.

Gofynnwyd wedyn iddynt ddadansoddi'r nwyddau a/neu'r gwasanaethau roeddent wedi’u prynu, a hynny yn ôl categori eang:

  • Pryniannau yng Nghymru
  • Pryniannau o weddill y DU
  • Pryniannau o’r UE
  • Pryniannau o wledydd y tu hwnt i’r UE

Os oedd unrhyw nwyddau neu wasanaethau wedi cael eu prynu o weddill y DU, gofynnwyd i'r busnesau ddweud gan ba wledydd yn y DU (yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr) roeddent wedi’u prynu, a gwerth y pryniannau o bob gwlad.

Gofynnwyd i fusnesau sy’n mewnforio nwyddau neu wasanaethau o’r tu hwnt i’r DU enwi’r bum gwlad tarddiad y maen nhw’n mewnforio nwyddau neu wasanaethau ganddynt fwyaf.

Trosolwg o’r pryniannau

Yn 2021, amcangyfrifwyd mai cyfanswm gwerth dros dro y pryniannau gan fusnesau yng Nghymru oedd £105.0bn. [troednod 5] O'i gymharu â 2020, gostyngodd cyfanswm gwerth pryniannau £19.7bn (16%) o £124.7bn. O'i gymharu â lefelau cyn y pandemig (2019), cynyddodd cyfanswm gwerth pryniannau £38.2bn (57%) o £66.9bn (gweler ystyriaethau data ar gymharu â'r blynyddoedd cynharach).

Yn 2021, roedd nwyddau yn cyfrif am bron i dri chwarter (72% a £75.9bn) o bryniannau gan fusnesau yng Nghymru ac roedd gwasanaethau yn cyfrif am dros chwarter (28% a £29.1bn).

Pryniannau yn ôl tarddiad

Roedd tua 40% (£42.1bn) o'r pryniannau o fewn Cymru, 36% (£37.4bn) yn bryniannau gan weddill y DU, 6% (£6.6bn) o’r UE a 6% (£6.2bn) o wledydd y tu hwnt i'r UE (Ffigur 14). Roedd pryniannau heb eu neilltuo yn cyfrif am 12% (£12.7bn).

Mae gwerth pryniannau heb eu dyrannu yn bodoli lle oedd busnesau yn prynu ond nad oeddent yn gallu ei ddyrannu o darddiad. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am bryniannau heb eu dyrannu yn yr adran cymhariaeth a chydlyniad.

Ffigur 14: Pryniannau yn ôl tarddiad (£bn), 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 14: Map coeden yn dangos busnesau yng Nghymru oedd â'r nifer fwyaf o bryniannau o Gymru, ac yna gweddill y DU.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Pryniannau nwyddau a gwasanaethau yn ôl tarddiad

Roedd prynu nwyddau a gwasanaethau yn bennaf o fewn y Deyrnas Unedig. Ar gyfer prynu nwyddau, roedd 29% (£21.8bn) yng Nghymru a 41% (£31.0bn) o rannau eraill o'r DU (Ffigur 15). Roedd prynu nwyddau o'r UE a'r tu hwnt i'r UE yn weddol debyg, 8% (£6.2bn) ac 8% (£6.0bn) yn y drefn honno. Ar gyfer prynu gwasanaethau, roedd 70% (£20.3bn) yng Nghymru a 22% (£6.3bn) o rannau eraill o'r DU.

Ffigur 15: Pryniannau yn ôl tarddiad wedi’u rhannu yn ôl nwyddau a gwasanaethau (£bn), 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 15: Siart bar clystyrog yn dangos bod prynu nwyddau yn fwy na phrynu gwasanaethau i fusnesau yng Nghymru, a bod prynu nwyddau a gwasanaethau yn y DU yn bennaf (gan gynnwys Cymru).

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Pryniannau yn ôl tarddiad, cyfran y busnesau

Roedd y rhan fwyaf (85%) o fusnesau yng Nghymru wedi prynu yn y DU (gan gynnwys Cymru) (67%). Roedd cyfran llawer is o fusnesau yn mewnforio cynnyrch, gyda 16% yn mewnforio o’r UE a 9% yn mewnforio o wledydd nad ydynt o fewn yr UE (Ffigur 16).

Ffigur 16: Cyfran y busnesau yng Nghymru gyda phryniannau yn ôl tarddiad 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 16: Siart bar yn dangos bod y rhan fwyaf o fusnesau yng Nghymru wedi prynu yng Nghymru (85%), ac yna gweddill y DU (67%), yr UE (16%) ac yna y tu hwnt i'r UE (9%).

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Pryniannau (nwyddau a gwasanaethau) yn ôl maint y busnes

Busnesau mawr, canolig a bach oedd 68% (£71.6bn), 13% (£13.6bn) a 19% (19.9bn) o’r pryniannau gan fusnesau yng Nghymru, yn y drefn honno. Nwyddau oedd y rhan fwyaf o’r pryniannau gan fusnesau mawr – 71% (£51.1bn) o werth eu pryniannau. Nwyddau oedd 82% (£11.1bn) a 69% (£13.8bn) o bryniannau busnesau canolig a bach, yn y drefn honno.

Ffigur 17: Pryniannau yn ôl maint y busnes wedi’u rhannu yn ôl nwyddau a gwasanaethau (£bn), 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 17: Siart bar clystyrog yn dangos bod y rhan fwyaf o'r pryniannau gan fusnesau mawr a bod pryniannau ar gyfer pob maint busnes yn nwyddau yn bennaf.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Pryniannau yn ôl maint y busnes a tharddiad

Gwnaed tua 76% (£79.5bn) o bryniannau ar draws pob band maint busnes yn y DU. Mae ffigwr 18 yn dangos mai busnesau mawr oedd â'r gyfran uchaf o bryniannau o Gymru, 43% (£30.9bn). Busnesau bach oedd â'r gyfran uchaf o bryniannau gan weddill y DU (42%, £8.3bn)

Roedd pryniannau rhyngwladol yn cyfrif am 12% (£8.6bn), 20% (£2.7bn) ac 8% (£1.6bn) o bryniannau mawr, canolig a bach yn y drefn honno. Busnesau mawr oedd â'r gwerth uchaf o ran pryniannau heb eu dyrannu gan gyfrif am 12% (£8.3bn) o'u gwerth prynu.

Ffigur 18: Pryniannau yn ôl maint y busnes a’r tarddiad (£bn), 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 18: Siart bar clystyrog yn dangos bod gwerthoedd uchaf pryniannau ar gyfer busnesau mawr o Gymru a bod rhan fwyaf y pryniannau ar gyfer busnesau bach a chanolig yn dod o weddill y DU.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Pryniannau yn ôl sector

Y sector 'Busnes a gwasanaethau eraill' oedd â'r gwerth uchaf o ran pryniannau cyffredinol gan gyfrif am 28% (£29.5bn) o'r holl bryniannau gan fusnesau yng Nghymru. (Ffigur 19). 'Gweithgynhyrchu' oedd yr ail uchaf gyda 27% (£28.7bn), ac yna Masnach, llety a thrafnidiaeth yn agos gyda 27% (£28.6bn). Roedd y 'sector cynradd a chyfleustodau' yn cyfrif am 12% (£12.8bn) ac 'Adeiladu' yn cyfrif am 5% (£5.5bn) o'r holl bryniannau gan fusnesau yng Nghymru.

Ffigur 19: Pryniannau yn ôl sector (£bn), 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 19: Siart bar yn dangos bod y rhan fwyaf o'r pryniannau gan fusnesau yn y sector 'Busnes a gwasanaethau eraill'.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Pryniannau yn ôl sector a tharddiad

Gwnaed dros dri chwarter (78%, £23.0bn) o bryniannau yn y sector 'busnes a gwasanaethau eraill' yng Nghymru, daeth 12% (£3.6bn) o weddill y DU a 4% (£1.1bn) yn rhyngwladol (Tabl 3). Gwnaed bron i hanner (49%, £13.9bn) o'r pryniannau yn y sector 'masnach, llety a thrafnidiaeth' o weddill y DU, ac yna 34% (£9.6bn) yn dod o Gymru. Roedd gan y sector gweithgynhyrchu bron i hanner (43%, £12.4bn) o'i werth prynu o fewn y DU a bron i draean (30%, £8.6bn) o'i werth prynu yn rhyngwladol, gyda 27% (£7.7bn) heb ei ddyrannu. Hwn oedd y gwerth a'r gyfran nas dyrannwyd uchaf ar draws yr holl sectorau. Roedd pryniannau o fewn sectorau eraill yn y Deyrnas Unedig yn bennaf.

Tabl 3: Pryniannau yn ôl sector a tharddiad (£ Miliynau), 2021 [Nodyn 1]
Sector Busnes [Nodyn 2] Cymru Gweddill y DU UE Tu hwnt i’r UE Heb eu dyrannu Cyfanswm
Sector Cynradd a Chyfleustodau 2,699 9,065 [c] [c] 841 12,801
Adeiladu 3,580 1,644 [c] [c] 210 5,459
Busnes a Gwasanaethau Eraill 23,031 3,622 614 445 1,740 29,451
Gweithgynhyrchu 3,213 9,148 4,694 3,939 7,725 28,720
Masnach, Llety a Thrafnidiaeth  9,605 13,889 1,152 1,812 2,139 28,597
Cyfanswm 42,128 37,368 6,628 6,249 12,655 105,028

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Mae ffigurau wedi'u hatal lle nad yw gwerthoedd yn datgaelu dim ac yn cael eu dynodi gan [c].

[Nodyn 2] Busnesau sy'n prynu yn 2021 (1,061), sector cynradd a chyfleustodau (52), Adeiladu (130), Busnes a gwasanaethau eraill (287), Gweithgynhyrchu (185) a Masnach, llety a thrafnidiaeth (407).

Pryniannau o weddill y DU fesul gwlad

Roedd pryniannau o fewn y gweddill y DU yn cyfrif am 36% (£37.4bn) o'r holl bryniannau gan fusnesau yng Nghymru. O'r rhain, roedd y rhan fwyaf o'r pryniannau yn dod o Loegr (85%, £31.9bn), ac yna'r Alban a Gogledd Iwerddon gydag 1% (£0.5bn) a 0.4% (£0.2bn) yn y drefn honno. Nid oedd modd dyrannu 13% (£4.8bn) arall o bryniannau'r DU. Yn gyffredinol, roedd rhaniadau gweddill y DU yn ôl maint busnes yn dilyn y DU gyfan gyda phob maint busnes (bach, canolig a mawr) yn prynu fwyaf o Loegr o fewn gweddill y DU (Ffigur 20).

Ffigur 20: Pryniannau o weddill y DU yn ôl gwlad a maint y busnes (£bn), 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 20: Siart bar clystyrog sy'n dangos pryniannau gweddill y DU ar draws pob maint busnes, y rhan fwyaf o Loegr.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Y sector 'Masnach, llety a thrafnidiaeth' oedd â'r gyfran uchaf o bryniannau o fewn gweddill y DU gyda 37% (£13.9bn) o bryniannau busnes yng Nghymru. Dilynwyd hyn gan bron i chwarter y pryniannau gan y sector 'Gweithgynhyrchu' (24%, £9.1bn), a bron i chwarter y pryniannau gan y sector 'Cynradd, sector a chyfleustodau' (24%, £9.1bn).

Ffigur 21: Pryniannau o weddill y DU yn ôl sector busnes (£bn), 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 21: Siart bar yn dangos bod y rhan fwyaf o'r pryniannau gan weddill y DU gan fusnesau o Gymru yn y sector 'Masnach, llety a thrafnidiaeth'.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Roedd busnesau yng Nghymru yn gwneud pryniannau yn y DU yn bennaf yn Lloegr (85%, £31.9bn) gan gynnwys ar draws pob sector (Tabl 4). Y sector 'Masnach, llety a thrafnidiaeth' oedd â'r gwerth mwyaf o bryniannau gan weddill y DU, gyda Lloegr yn cyfrif am 83% (£11.6bn) o werth prynu yn y sector hwn. Roedd Lloegr hefyd yn cyfrif am dros dri chwarter (79%, £7.2bn) o werthoedd prynu gan y sector 'Gweithgynhyrchu', a'r rhan fwyaf o werthoedd prynu gan y sector 'Sector cynradd a chyfleustodau' (96%, £8.7bn).

Tabl 4: Pryniannau o’r DU yn ôl sector a tharddiad (£ Miliynau), 2021 [Nodyn 1]
Sector Busnes [Nodyn 2] Lloegr Yr Alban Gogledd Iwerddon Gweddill y DU Heb eu dyrannu Cyfanswm Gweddill y DU
Sector Cynradd a Chyfleustodau 8,660 [c] [c] [c] 9,065
Adeiladu 1,135 [c] [c] [c] 1,644
Busnes a Gwasanaethau Eraill 3,291 22 44 265 3,622
Gweithgynhyrchu 7,240 110 116 1,682 9,148
Masnach, Llety a Thrafnidiaeth  11,590 22 3 2,274 13,889
Cyfanswm 31,916 529 166 4,757 37,368

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Mae ffigurau wedi'u hatal lle nad yw gwerthoedd yn datgelu dim ac yn cael eu dynodi gan [c].

[Nodyn 2] Busnesau sy'n prynu yn 2021 (1,061), Sector cynradd a chyfleustodau (52), Adeiladu (130), Busnes a gwasanaethau eraill (287), Gweithgynhyrchu (185) a Masnach, llety a thrafnidiaeth (407).

Mewnforion rhyngwladol

Amcangyfrifwyd mai £12.9bn oedd gwerth y mewnforion rhyngwladol i fusnesau yng Nghymru. Nwyddau oedd 95% (£12.2bn) o holl fewnforion rhyngwladol busnes.

Dylid nodi bod gwerth y pryniannau heb eu dyrannu (£12.7bn) yn sylweddol o’i gymharu â chyfanswm y mewnforion rhyngwladol, ac mae wedi cynyddu ychydig ers amcangyfrifon 2019. Mae hyn yn cael ei drafod ymhellach yn yr adran cymharedd a chydlyniaeth.

Yn fras, rhannwyd mewnforion nwyddau yn gyfartal rhwng yr UE (51%, £6.2bn) a'r tu hwnt i'r UE (49%, £6.0bn). Roedd yr UE yn cyfrif am bron i ddwy ran o dair o fewnforion gwasanaeth (62%, £0.4bn) a thu allan i'r UE am dros draean (38%, £0.2bn) o fewnforion gwasanaethau (Ffigur 22).

Ffigur 22: Mewnforion rhyngwladol yn ôl tarddiad, wedi’u rhannu yn ôl nwyddau a gwasanaethau (£bn), 2021

 

Image

Disgrifiad o Ffigur 22: Siart bar clystyrog sy'n dangos bod y rhan fwyaf o fewnforion mewn nwyddau, a daeth y rhan fwyaf o'r mewnforion ar gyfer nwyddau a gwasanaethau o wledydd yr UE.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Mae ffigur 23 yn dangos bod tua dwy ran o dair o'r mewnforion rhyngwladol wedi dod o'r UE ar gyfer busnesau bach (66%, £1.1bn) a chanolig (63%, £1.7bn), tra bod busnesau mawr yn mewnforio mwy yn ôl gwerth o wledydd y tu hwnt i'r UE (55%, £4.7bn).

Ffigur 23: Mewnforion rhyngwladol yn ôl maint y busnes a’r tarddiad (£bn), 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 23: Siart bar clystyrog yn dangos bod rhan fwyaf y mewnforion gan fusnesau mawr.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Cafodd mewnforion rhyngwladol eu gwneud yn bennaf gan y sector 'Gweithgynhyrchu' (67%, £8.6bn). Y sector 'Masnach, llety a thrafnidiaeth' oedd y sector canlynol a oedd yn cyfrif am bron i chwarter (23%, £3.0bn) o fewnforion rhyngwladol (Ffigur 24).

Ffigur 24: Mewnforion rhyngwladol yn ôl sector busnes (£bn), 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 24: Siart bar clystyrog sy'n dangos bod y sector 'gweithgynhyrchu' yn mewnforio fwyaf.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Cyfanswm masnach

Rhoddir amcangyfrifon o gyfanswm y symiau masnach i roi trosolwg o bwysigrwydd cyffredinol cymharol marchnadoedd eang. Mae'r amcangyfrifon sydd wedi’u cyflwyno ar gyfer cyfanswm y symiau masnach wedi cael eu cynhyrchu drwy gyfuno canlyniadau'r adrannau ar wahân ar werthiannau a phryniannau. Dylid nodi bod hyd a lled yr amcangyfrifon yn gyfyngedig, ac y bu methodoleg ychydig yn wahanol wrth gyfrifo’r amcangyfrifon gwerthiant a phryniant fel sy’n cael ei egluro yn yr adroddiad gwybodaeth am fethodoleg ac ansawdd, ac ni ddylid eu defnyddio i gyfrifo balans masnach.

Gwerth cyfanswm y fasnach (gwerthiannau + phryniannau) gan fusnesau yng Nghymru yn 2021 oedd £246.4bn, sy'n uwch na'r amcangyfrif ar gyfer 2019 (£188.9bn) (r). Roedd tua 44% (£108.7bn) o gyfanswm y fasnach o fewn Cymru, roedd 28% (£69.8bn) o fewn gweddill y DU. Roedd gan y marchnadoedd rhyngwladol 14% (£34.2bn) o gyfanswm y fasnach; 7% (£16.3bn) gyda'r UE a 7% (£18.0bn) gyda gwledydd y tu hwnt i'r UE. Roedd 14% sylweddol (£33.6bn) o werth masnach heb ei ddyrannu (Ffigur 25).

Ffigur 25: Cyfanswm y symiau masnach yn ôl marchnad (£bn), 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 25: Map coeden yn dangos mai busnesau yng Nghymru oedd â'r fasnach fwyaf mewnol yng Nghymru, ac yna gweddill y DU.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Cymharu a chydlyniaeth

Cymharu ar draws blynyddoedd

Cymharu’r arolygon ar draws blynyddoedd

Gwneir y rhan fwyaf o gymariaethau rhwng Arolwg 2019 a blynyddoedd blaenorol at ddibenion eglurhaol yn unig oherwydd anwadalrwydd data 2020. Gall amrywioldeb yn y sampl a gyflawnwyd ar draws y ddwy flynedd o waith maes effeithio ar y gallu i wneud cymariaethau prynu cadarn ar draws y blynyddoedd, yn ogystal a ffactorau allanol eraill fel COVID-19. [troednod 6] Gweler yr Adroddiad Ansawdd a Gwybodaeth am Fethodoleg am fwy o fanylion. Mae dadansoddiadau yn ôl cyrchfan, maint busnes a sector wedi dangos mwy o amrywioldeb flwyddyn ar ôl blwyddyn, trafodir cymariaethau penodol isod.

Dylid nodi hefyd bod gwerth masnach heb ei ddyrannu yn Arolwg 2021 wedi cynyddu'n sylweddol o'r blynyddoedd blaenorol. Cynyddodd gwerthiant heb ei ddyrannu o £3.9bn (r) yn 2019 i £20.9bn yn 2021. Mae masnach heb ei ddyrannu yn ganlyniad busnesau sy'n darparu cyfanswm gwerth eu gwerthiant a/neu eu pryniannau ond nad ydynt yn gallu darparu dadansoddiadau daearyddol o'r fasnach hon. Mae'n bwysig ystyried y newidiadau hyn wrth edrych ar ganlyniadau ar draws y blynyddoedd. Mae cyfran o'r newidiadau gwerth a welir ar draws y blynyddoedd yn debygol o fod o ganlyniad i gynnydd mewn gwerth masnach heb ei ddyrannu.

Cymharu gwerthiannau

Gwerthiannau yn ôl cyrchfan, 2018 i 2021

Yn 2021, mae gwerthiant o fusnesau yng Nghymru wedi cynyddu o'i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn cael ei yrru'n bennaf gan gynnydd mewn gwerthiant yng Nghymru a welodd gynnydd o £13.1bn o 2020 a £7.9bn o 2019. Cyfrannodd gwerthiannau heb eu neilltuo hefyd at y cynnydd hwn.

Yn 2021 roedd gwerthiant rhyngwladol gan fusnesau yng Nghymru yn £21.3bn, sy'n dal yn is na'r lefelau cyn y pandemig yn 2019 o £24.1bn (r). Mae'n debyg bod yr anwadalrwydd hwn yn cael ei yrru gan effaith digwyddiadau byd-eang fel COVID-19 a chynnydd mewn gwerthiannau heb eu dyrannu a fyddai wedi ffurfio rhai o'r gwerthiannau rhyngwladol, ac felly nid yw o reidrwydd yn adlewyrchu newidiadau ar lawr gwlad.

Ffigur 26: Gwerthiannau yn ôl cyrchfan (£bn), 2018 - 2021
Image

Disgrifiad o Ffigur 26: Siart bar clystyrog yn dangos gwerthiant o 2018 i 2021 yn cynyddu'n gyson, gyda gwerthiant o Gymru a heb ei ddyrannu yn cyfrannu.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Gwerthiannau yn ôl maint busnes, 2018 i 2021

Roedd gwerthiannau gan fusnesau mawr yn gyson gymesur ag o leiaf 50% o gyfanswm gwerthiannau, gan godi o 50% (£61.3bn) yn 2019 i 59% (£83.6bn) yn 2021. Rhwng 2019 a 2021, cynyddodd gwerthiant busnesau Cymru, er bod gwerthiant busnesau canolig wedi gostwng 29% (£10.1bn). Sbardunwyd y cynnydd hwn gan werth gwerthiannau gan fusnesau mawr gan gynyddu 36% (£22.3bn) a chynyddodd gwerthiannau gan fusnesau bach ychydig dros chwarter (27%, £7.1bn) rhwng y cyfnod hwn. Efallai y bydd amrywiad sampl a/neu broffiliau ymatebol wedi cyfrannu at achos y newidiadau hyn.

Ffigur 27: Gwerthiannau yn ôl maint busnes (£bn), 2018 i 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 27: Siart bar clystyrog yn dangos busnesau mawr yn bennaf sbardunodd y cynnydd mewn gwerthiant rhwng 2018 a 2021.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Gwerthiannau yn ôl sector, 2018 i 2021

Yn dilyn hynny, yn 2020 a 2021, busnesau Cymru yn y sector 'Masnach, Llety a Thrafnidiaeth' oedd â'r nifer fwyaf o werthiannau, gyda £54.9bn yn 2021 a £48.0bn yn 2020. Fodd bynnag, yn 2019 y sector 'Gweithgynhyrchu' oedd â'r nifer fwyaf o werthiannau gyda £42.2bn (r).

Roedd y cynnydd mwyaf rhwng 2019 a 2021 yn y sector 'Masnach, Llety a Thrafnidiaeth' a gynyddodd £17.6bn. Gall y newidiadau hyn fod yn rhannol oherwydd y gwahaniaeth mewn amrywiadau sampl a / neu broffiliau ymatebol.

Ffigur 28: Gwerthiannau yn ôl sector (£bn), 2018 i 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 28: Siart bar clystyrog yn dangos bod busnesau o fewn y sector 'Masnach, llety a thrafnidiaeth' wedi gyrru'r cynnydd mewn gwerthiant rhwng 2018 a 2021 yn bennaf.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Cymharu pryniannau

Pryniannau yn ôl tarddiad, 2018 i 2021

Yn 2021, cynyddodd pryniannau gan fusnesau yng Nghymru i £105.0bn, o'i gymharu â £66.9bn yn 2019 a £124.7bn yn 2020. Cafodd y cynnydd sydyn mewn pryniannau yn 2020 ei ysgogi'n bennaf gan gynnydd mawr mewn pryniannau heb eu dyrannu ac mae'n debygol iddo gael ei effeithio gan ddigwyddiadau byd-eang (COVID-19 a'i ôl-effeithiau). Nid yw pryniannau wedi bod yn destun i'r un fethodoleg gyfrifiannu ar draws blynyddoedd â gwerthiannau, ac felly maent yn parhau i fod yn arbennig o gyfnewidiol oherwydd newidiadau mewn amrywiadau sampl a / neu broffiliau ymatebol ar draws y blynyddoedd.

Ffigur 29: Pryniannau yn ôl tarddiad (£bn), 2018 i 2021
Image

Disgrifiad o Ffigur 29: Mae siart bar clystyrog sy'n dangos pryniannau wedi cynyddu o 2018 hyd at 2021, gydag uchafbwynt sydyn yn 2020.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Pryniannau yn ôl maint busnes, 2018 i 2021

Roedd pryniannau gan fusnesau mawr yn cyfateb yn gyson i o leiaf hannero gyfanswm y pryniannau, gan godi o 50% (£33.4bn) yn 2019 i 68% (£71.6bn) yn 2021. Rhwng 2019 a 2021, mae pryniannau busnesau yng Nghymru wedi cynyddu, er gwaethaf prynu gan fusnesau canolig wedi gostwng o 27% (£5.1bn). Cafodd hyn ei yrru gan bryniannau gan fusnesau mawr yn cynyddu 115% (£38.2bn) a phryniannau gan fusnesau bach yn cynyddu 34% (£5.0bn) rhwng y cyfnod hwn. Efallai y bydd amrywiad sampl a/neu broffiliau ymatebol wedi cyfrannu at achos y newidiadau hyn.

Ffigur 30: Pryniannau yn ôl maint busnes (£bn), 2018 i 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 30: Siart bar clystyrog yn dangos mai busnesau mawr oedd â'r gwerthoedd uchaf o bryniannau bob blwyddyn rhwng 2018 a 2021.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Pryniannau fesul sector, 2018 i 2021

Cynyddodd gwerth pryniannau fwyaf (325%, £22.5bn) yn y sector 'Busnes a Gwasanaethau Eraill’ rhwng 2019 a 2021, i ddod y sector gyda'r gwerth uchaf o brynu yn 2021. Yn ogystal, mae cyfran y cyfanswm pryniannau o'r sector hwn wedi cynyddu fwyaf o'i gymharu â sectorau eraill, o 10% yn 2019 i dros chwarter yn 2021 (28%).

Yn flaenorol, y sectorau 'Masnach, Llety a Thrafnidiaeth' a 'Gweithgynhyrchu' oedd â'r gwerth uchaf o bryniannau yn 2020, 2019 a 2018 ac maent yn sectorau sy'n parhau i wneud cyfran uchel o bryniannau Cymru. Rhwng 2019 a 2021, cynyddodd y sectorau 'Masnach, Llety a Thrafnidiaeth' a 'Gweithgynhyrchu' 23% (£5.4bn) a 29% (£6.4bn) yn y drefn honno. Gall y newidiadau hyn, yn rhannol, fod oherwydd y gwahaniaeth mewn amrywiadau sampl a/neu broffiliau ymatebol.

Ffigur 31: Pryniannau yn ôl sector (£bn), 2018 i 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 31: Roedd siart bar clystyrog yn dangos pryniannau gan fusnesau yn y sectorau 'Masnach, llety a thrafnidiaeth' a 'gweithgynhyrchu' yn gyson yn gyfran uchel o bryniannau rhwng 2018 a 2021. Yn 2021, cynyddodd pryniannau o'r sector 'Busnes a Gwasanaethau Eraill' yn sylweddol hefyd.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Cydlyniaeth â ffynonellau data presennol

Cymharu ag ystadegau masnach ryngwladol presennol

Er gwaethaf y gwahaniaethau mewn methodolegol sy'n golygu nad oes modd cymharu'r ffigurau'n uniongyrchol, cyflwynir canfyddiadau lefel uchel yr Arolwg ochr yn ochr â'r Ystadegau Masnach Rhanbarthol (CthEF) a Masnach ryngwladol yng ngwledydd, rhanbarthau a dinasoedd y DU (SYG) am dryloywder

Dylid trin y cymariaethau canlynol o'r amcangyfrifon yn ofalus ac ystyried y gwahaniaethau mewn methodoleg, yr hyn sy'n cael ei ddal a'r cynnydd mawr mewn masnach heb ei ddyrannu yn amcangyfrifon Arolwg 2021. Gall y rhain effeithio ar werthoedd masnach rhyngwladol a gynhyrchir gan ddefnyddio methodoleg yr Arolwg.

Mae CThEF a'r SYG yn defnyddio set ddata gweinyddol gynhwysfawr ac yna'n dosbarthu gwerthiant i Gymru (dull 'o'r brig i lawr'). Mewn cyferbyniad, set ddata sy'n cael ei gyrru gan arolwg yw Arolwg Marchnad Cymru sy'n ceisio amcangyfrif beth sy'n digwydd ar lawr gwlad (dull 'o'r gwaelod i fyny'). Dylid ystyried y gwahaniaethau hyn wrth wneud cymariaethau.

Amcangyfrifon gwerth allforio rhyngwladol yr Arolwg o'i gymharu â ffynonellau eraill

Roedd amcangyfrifon dros dro yr Arolwg o werthoedd allforio nwyddau rhyngwladol ar gyfer 2021 yn £19.6bn gyda 45% (£8.9bn) yn mynd i'r UE a 55% (£10.7bn) yn mynd i wledydd y tu hwnt i'r UE. O gymharu, amcangyfrifwyd bod allforion nwyddau rhyngwladol Cymru yn £15.2bn a £17.0bn gan CThEF a'r SYG yn y drefn honno. Amcangyfrifodd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi bod 60% (£9.1bn) wedi cael ei allforio i'r UE a 40% (£6.1bn) i wledydd y tu hwnt i'r UE. Yn ogystal, amcangyfrifodd y SYG fod 57% (£9.7bn) wedi cael ei allforio i'r UE a 43% (£7.2bn) i wledydd y tu hwnt i'r UE.

Amcangyfrifwyd bod allforion gwasanaethau rhyngwladol 2021 yn £1.7bn yn yr Arolwg, 41% (£0.7bn) yn mynd i'r UE a 59% (£1.0bn) yn mynd i wledydd y tu hwnt i'r UE. I gymharu, amcangyfrifwyd bod allforion gwasanaethau rhyngwladol yn £6.8bn gan y SYG, gyda 32% (£2.2bn) yn cael ei allforio i'r UE a 68% (£4.6bn) i wledydd y tu hwnt i'r UE. Dim ond amcangyfrifon mae CThEF yn ei gynhyrchu ar gyfer nwyddau.

Ffigur 32: Allforion yr Arolwg wedi'u rhannu gan nwyddau a gwasanaethau ac yn ôl rhanbarth eang o'i gymharu â'r ffynonellau data eraill (£bn), 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 32: Siart bar clystyrog yn dangos ar gyfer 2021, roedd amcangyfrifon allforio nwyddau yr Arolwg yn uwch nag amcangyfrifon CThEF a'r SYG ac roedd amcangyfrifon allforio gwasanaethau yr Arolwg yn is nag amcangyfrifon SYG.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Tabl 5: allforion rhyngwladol yr Arolwg o'i gymharu â ffynonellau eraill (£bn), 2021
  AMC SYG CThEF [Nodyn 1]
Nwyddau UE 8.9 9.1 9.7
Nwyddau tu allan i’r UE  10.7 6.1 7.2
Nwyddau cyfanswm  19.6 15.2 17.0
Gwasanaethau UE 0.7 2.2 [z]
Gwasanaethau tu allan i’r UE 1.0 4.6 [z]
Gwasanaethau cyfanswm 1.7 6.8 [z]

Ffynhonnell: Arolwg masnach Cymru 2021 Llywodraeth Cymru, CThEF, SYG

[Nodyn 1] Defnyddir y symbol [z] i ddynodi pwyntiau data nad ydynt yn berthnasol

Allforion rhyngwladol yr Arolwg yn ôl gwlad bartner o gymharu â ffynonellau eraill

Dylid bod yn ofalus wrth drin yr amcangyfrifon canlynol gan ddefnyddio'r cafeatau a'r cyfyngiadau priodol. Mae CThEF a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dibynnu ar ddata gweinyddol, sy'n seiliedig ar ddatganiadau tollau felly bydd ganddynt ddarpariaeth fwy cyflawn. Gall cynnwys cadwyni cyflenwi'r DU yn yr Arolwg (gan gynnwys trosglwyddiadau rhwng cwmnïau) hefyd achosi gwahaniaeth pellach o’r amcangyfrifon presennol. Bydd trosglwyddiadau rhwng cwmnïau yng Nghymru i ranbarthau eraill y DU yn cael eu dal fel masnach ddomestig yng nghanlyniadau yr Arolwg, waeth bod lleoliad terfynol y cwsmer yn rhyngwladol. Mae hyn yn wahanol i'r amcangyfrifon presennol sy'n defnyddio data a gesglir ar lefel cwmnï y DU, lle bydd gwerthiant i gwsmeriaid rhyngwladol yn cael ei ddal felly a'i ddosrannu'n ôl-weithredol i ranbarthau o'r DU. Yn ogystal, mae’r Arolwg ond yn dal y 5 wlad orau y mae busnesau Cymru yn allforio iddynt yn hytrach na’u rhannu yn ôl y wlad.

Yn 2021, amcangyfrifodd yr Arolwg mai'r Unol Daleithiau yw'r partner allforio gorau gyda gwerth allforio o £4.2bn (nwyddau a gwasanaethau) gan fusnesau yng Nghymru. Ar gyfer yr un wlad, roedd amcangyfrifon SYG yn weddol debyg i’r Arolwg gyda gwerth o £4.4bn. Mae amcangyfrifon CThEF ond yn cynnwys nwyddau ac yn amcangyfrif gwerth allforio nwyddau o £2.2bn i'r Unol Daleithiau. Ar gyfer amcangyfrifon 2021, o'r 10 gwlad orau yr allforiodd busnesau Cymru iddynt, roedd 7 yn y 10 gwlad orau ar gyfer amcangyfrifon nwyddau CThEM a 6 yn y 10 gwlad uchaf ar gyfer amcangyfrifon SYG.

Tabl 6: Cymharu allforion rhyngwladol fesul gwlad (£ miliynau)
AMC gwlad AMC Amcangyfrif CThEF gwlad CThEF amcangyfrif [Nodyn 1] SYG gwlad SYG amcangyfrif [Nodyn 2]
Yr Unol Daleithiau 4,188 Yr Almaen 2,420 Yr Unol Daleithiau gan gynnwys Puerto Rico 4,441
Ffrainc 2,481 Yr Unol Daleithiau  2,192 Yr Almaen 3,105
Yr Almaen 2,257 Iwerddon 1,729 Iwerddon 1,969
Y Swistir 1,028 Ffrainc 1,243 Ffrainc 1,734
Tsieina 988 Gwlad Belg 1,010 Tsieina 1,030
Yr Iseldiroedd 814 Yr Iseldiroedd 874 Sbaen 496
Iwerddon 386 Tsieina 608 Yr Eidal 466
Gwlad Belg 357 Sbaen 393 Y Swistir 368
Yr Eidal 263 Twrci 336 Siapan 359
Siapan 189 Sweden 326 Hong Kong 338

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021 Llywodraeth Cymru, CThEF, SYG

[Nodyn 1] Mae amcangyfrif CThEF yn cynnwys nwyddau yn unig.

[Nodyn 2] Mae amcangyfrifon SYG yn eithrio gwledydd sy'n cael eu hatal.

Amcangyfrifon gwerth mewnforio rhyngwladol yr Arolwg o'i gymharu â ffynonellau eraill

Roedd amcangyfrifon dros dro yr Arolwg o werthoedd mewnforio nwyddau rhyngwladol ar gyfer 2021 yn £12.2bn yn yr Arolwg, 51% (£6.2bn) yn dod o'r UE a 49% (£ 6.0bn) yn dod o wledydd y tu hwnt i'r UE. Amcangyfrifwyd bod mewnforion nwyddau rhyngwladol yn £16.1bn a £15.4bn gan CThEF a'r SYG yn y drefn honno. Amcangyfrifodd CThEF fod 37% (£5.9bn) wedi'i fewnforio o'r UE a 63% (£10.2bn) o wledydd y tu hwnt i'r UE. Yn ogystal, amcangyfrifodd y SYG fod 39% (£6.0bn) wedi'i fewnforio o'r UE a 61% (£9.3bn) o wledydd y tu hwnt i'r UE.

Amcangyfrifwyd bod y gwerthoedd mewnforio gwasanaethau rhyngwladol dros dro ar gyfer 2021 yn £0.7bn yn yr Arolwg, 62% (£0.4bn) yn dod o'r UE a 38% (£0.2bn) yn dod o wledydd y tu hwnt i'r UE. Yn gymharol gyfartal, amcangyfrifwyd bod mewnforion gwasanaethau rhyngwladol yn £3.8bn gan y SYG, gyda 51% (£1.9bn) yn cael ei fewnforio o'r UE a 49% (£1.9bn) i wledydd y tu hwnt i'r UE. Mae CThEF yn cynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer nwyddau yn unig.

Ffigur 33: Mewnforion yr Arolwg wedi'u rhannu gan nwyddau a gwasanaethau ac yn ôl rhanbarth eang o gymharu â'r ffynonellau eraill (£bn), 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 33: Siart bar clystyrog yn dangos ar gyfer 2021, bod amcangyfrifon mewnforio nwyddau yr Arolwg yn is nag amcangyfrifon CThEF a SYG a bod amcangyfrifon mewnforio gwasanaethau yr Arolwg yn is nag amcangyfrifon y SYG.

Ffynhonnell: Arolwg Masnach Cymru 2021, Llywodraeth Cymru

Tabl 7: Cymharu mewnforion rhyngwladol yr Arolwg gyda ffynonellau eraill (£bn), 2021
  AMC SYG CThEF [Nodyn 1]
Nwyddau UE 6.2 6.0 5.9
Nwyddau tu allan i’r UE  6.0 9.3 10.2
Nwyddau cyfanswm  12.2 15.4 16.1
Gwasanaethau UE 0.4 1.9 [z]
Gwasanaethau tu allan i’r UE 0.2 1.9 [z]
Gwasanaethau cyfanswm 0.7 3.8 [z]

Ffynhonell: Arolwg Masnach Cymru 2021 Llywodraeth Cymru, CthEF, SYG

[Nodyn 1] Defnyddir y symbol [z] i ddynodi pwyntiau data nad ydynt yn berthnasol

Gwybodaeth am waith maes

Cynhaliwyd gwaith maes ar gyfer pedwaredd blwyddyn yr arolwg rhwng Hydref 2022 a Ionawr 2023, fel y dangosir yn Nhabl 8.

Tabl 8: Dyddiadau gwaith maes hanesyddol ar gyfer yr arolwg
Blwyddyn yr arolwg Cyfnod y data Cyfnod gwaith maes
Blwyddyn 1 2017-2018 Tachwedd 2019 i Chwefror 2020
Blwyddyn 2 2019 Hydref 2020 i Ionawr 2021
Blwyddyn 3 2020 Hydref 2021 i Ionawr 2022
Blwyddyn 4 2021 Hydref 2022 i Ionawr 2023

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae'r ystadegau hyn yn ‘ystadegau swyddogol sy’n cael eu datblygu’ gan fod y dull a ddefnyddiwyd yn dal i gael ei ddatblygu, ac mae rhai problemau gydag ansawdd y data.

Mae ein hadroddiad ‘gwybodaeth am ansawdd a methodoleg yn rhoi rhagor o fanylion am wybodaeth allweddol am ansawdd a methodoleg.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith ar gyfer Cymru. Dyma’r nodau: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) y Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu gweithredu at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau Llesiant; a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r rhai a osodwyd ar 16 Mawrth 2016 ond nid yw’r datganiad hwn yn cynnwys dangosyddion cendlaethol.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol, a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Troednodiadau

[1] Gweler gwybodaeth am ansawdd a methodoleg am yr hyn sydd wedi’i gynnwys ym mhob sector.

[2] Mae'r gyfran yn seiliedig ar y cyfanswm ar gyfer yr holl gynhyrchion a gofnodir yn y cwestiwn 5 cynnyrch uchaf ac nid cyfanswm gwerth gwerthiant nwyddau a gwasanaethau y DU.

[3] Mae'r 1,390 o ymatebion yn cynnwys ymatebion cyfrifiadurol wedi'u modelu ar draws blynyddoedd, a dyna pam ei fod yn uwch na'r Arolwg Masnach yng Nghymru, cyfradd ymateb 2021.

[4] Gweler diffiniad llawn Eurostat o'r hyn sydd wedi'i gynnwys yn y dosbarthiad nwyddau neu wasanaethau amgylcheddol.

[5] Mae'r holl ffigurau yn rhai dros dro gan y gallant fod yn destun diwygiadau yn y dyfodol.

[6] Mae gwerthiannau wedi bod yn destun priodoldeb ar draws blynyddoedd yn wahanol i bryniannau a fydd yn fwy agored i amrywiadau o flwyddyn i flwyddyn, felly dylid eu trin yn ofalus.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Jonathan Burton
E-bost: ystadegau.masnach@llyw.cymru

Media: 0300 025 8099

SFR 87/2023