Cynhelir yr Arolwg Cenedlaethol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r wybodaeth sy'n cael ei chasglu'n cael ei defnyddio i helpu Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus i ddatblygu polisïau a phenderfynu sut i ddarparu gwasanaethau.

Dewisir ymatebwyr yr Arolwg Cenedlaethol ar hap i gynrychioli pobl eraill yn eu hardaloedd ac ar draws Cymru. Gwirfoddol yw pob cyfraniad i'r Arolwg Cenedlaethol. Gallwch ddewis peidio â chymryd rhan cyn neu yn ystod y cyfweliad, a gallwch ddewis peidio ag ateb cwestiynau penodol os dymunwch. Fodd bynnag, nid oes modd i unrhyw un arall gymryd eich lle.

Bydd unrhyw wybodaeth bersonol sy'n cael ei chasglu fel rhan o'r Arolwg Cenedlaethol yn gyfrinachol. Ni fydd eich atebion i'r arolwg yn cael eu rhyddhau'n gyhoeddus mewn unrhyw ffordd a fedrai olygu bod modd adnabod eich aelwyd. Defnyddir yr wybodaeth at ddibenion ymchwil a dadansoddi ystadegol yn unig. Bydd adroddiadau Llywodraeth Cymru am unrhyw ddadansoddiad ar gael ar wefan yr Arolwg Cenedlaethol.

Caiff eich data personol eu dileu o fewn tair blynedd i gymeradwyo set ddata derfynol pob arolwg blynyddol. Caiff eich atebion i'r arolygon eu cysylltu'n ddienw gyda ffynonellau data eraill at ddibenion ymchwil heb fod yn fasnachol yn unig, oni bai eich bod yn gofyn am beidio â gwneud y cysylltiad hwn. Mae data dienw o'r arolwg hefyd ar gael drwy Wasanaeth Data'r DU ar gyfer prosiectau ymchwil sy'n cael eu cyflawni gan ymchwilwyr achrededig, fel academyddion ac ymchwilwyr y GIG. Caiff data dienw o'r arolwg eu cadw'n ddiogel, a'u defnyddio at ddibenion ymchwil heb fod yn fasnachol yn unig. Nid ydym yn rhannu nac yn defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion masnachol neu farchnata.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm yr Arolwg Cenedlaethol ar:

Tîm yr Arolwg Cenedlaethol
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Rhif ffôn: 0300 025 6685
E-bost: arolygon@llyw.cymru

Gallwch hefyd gysylltu â swyddog diogelu data Llywodraeth Cymru swyddogdiogeludata@llyw.cymru.

O dan ddeddfwriaeth newydd diogelu data, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • gweld eich data personol sydd ym meddiant Llywodraeth Cymru
  • gofyn i Lywodraeth Cymru gywiro gwallau yn y data hynny
  • gwrthod neu gyfyngu ar gamau prosesu'r data (mewn amgylchiadau penodol)
  • gofyn am ddileu eich data (mewn amgylchiadau penodol).

Cysylltwch â thîm yr Arolwg Cenedlaethol yn Llywodraeth Cymru os byddwch am wneud un o'r pethau hyn. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut y cafodd eich data eu trin, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef rheoleiddiwr annibynnol Llywodraeth Cymru ar ddiogelu data.

Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar:

Y Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Beth yw Arolwg Cenedlaethol Cymru?

Mae’r Arolwg Cenedlaethol yn astudiaeth o bobl o bob cwr o Gymru. Prif themâu'r arolwg yw gwasanaethau cyhoeddus, fel addysg a thrafnidiaeth, gweithgareddau hamdden, ac iechyd a llesiant. Yr arolwg yw un o'r prif ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus yn ei defnyddio i glywed barn a sylwadau pobl am eu bywydau yng Nghymru.

Mae'r Arolwg Cenedlaethol yn cynnwys cyfweliadau tua 45 munud o hyd â sampl ar hap o tua 12,000 o bobl o bob cwr o Gymru yn flynyddol. Bob blwyddyn, bydd cyfeiriadau yn cael eu dewis ar hap o restr cyfeiriadau’r Post Brenhinol. Cynhelir y cyfweliadau wyneb yn wyneb, yng nghartrefi'r ymatebwyr, gydag oedolyn dros 16 oed a ddewiswyd ar hap. Cynhelir Arolwg Cenedlaethol Cymru gan y Swyddfa
Ystadegau Gwladol ar ran Llywodraeth Cymru.

Pa fath o wybodaeth sy'n cael ei chasglu drwy'r arolwg?

Mae'r arolwg yn cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau. Ymhlith y rhain mae:

  • y GIG a gofal cymdeithasol
  • plant ac addysg
  • tai
  • democratiaeth a llywodraeth
  • chwaraeon a hamdden
  • llesiant ac arian
  • iechyd poblogaethau
  • diwylliant a'r Gymraeg
  • ardal leol a'r amgylchedd
  • y rhyngrwyd a'r cyfryngau.

Mae'r pynciau sy'n cael eu cynnwys yn yr holiadur yn newid o flwyddyn i flwyddyn, gan helpu i sicrhau bod y canlyniadau'n cael eu defnyddio wrth wneud penderfyniadau.

Beth yw data personol?

Data personol yw unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod person naill ai wrth ei hun neu wrth ei gyfuno â gwybodaeth arall sydd ar gael yn gyffredinol, ee enw, cyfeiriad neu fanylion penodol am y person.

Mae'r Arolwg Cenedlaethol yn casglu rhywfaint o ddata personol am bob un o'r ymatebwyr (ac aelodau'r aelwyd) fel: enw, cyfenw, cyfeiriad, dyddiad geni a rhywedd.

Am ba hyd fydd Llywodraeth Cymru yn cadw data personol?

Bydd enwau, dyddiadau geni a chyfeiriadau e-bost yn cael eu gwaredu o fewn blwyddyn i gymeradwyo'r set ddata, oni bai eich bod wedi cytuno i ni ail-gysylltu â chi. Bydd gwybodaeth ail-gysylltu yn cael ei waredu o fewn dwy flynedd i gymeradwyo'r set ddata. Bydd cyfeiriadau yn cael eu gwaredu o fewn tair blynedd i gymeradwyo'r set ddata. Ar ddiwedd blwyddyn pob arolwg bydd contractwr yr arolwg yn darparu set ddata derfynol i Lywodraeth Cymru ei chymeradwyo. Mae hyn yn digwydd fel rheol y mis Mai canlynol. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod unrhyw atebion eraill i'r arolwg ond yn cael eu cadw mewn ffordd nad oes modd eich adnabod ohonynt (er enghraifft drwy gyfuno gwerthoedd anarferol i gategori unigol), ac nid ydynt felly yn ddata personol. Gan nad oes modd cysylltu data nad yw'n bersonol gyda chi, mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw am gyfnod amhenodol. Gwneir hyn er mwyn caniatáu dadansoddi parhaus a deall tueddiadau dros gyfnod o amser.

Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu data a gesglir drwy'r arolwg?

Yr Arolwg Cenedlaethol yw un o'r prif ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus yn ei defnyddio i glywed barn a sylwadau pobl am eu bywydau yng Nghymru. Dyma'r brif ffynhonnell o wybodaeth am y pynciau dan sylw (a ddisgrifir yn adran 2 uchod), ac mae felly'n cael ei ddefnyddio i gefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau o fewn gorchwyl cyhoeddus Llywodraeth Cymru. Hynny yw, rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, defnyddir yr wybodaeth sy'n cael ei chasglu:

  • i helpu Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus i ddeall mwy am fywydau pob dydd a barn pobl Cymru
  • i helpu i wneud penderfyniadau pwysig am wasanaethau lleol a blaenoriaethau'r llywodraeth
  • at ddibenion ystadegol a chynhyrchu ystadegau swyddogol
  • at ddibenion ymchwil ac i ddeall tueddiadau dros gyfnod o amser. Mae hynny'n cynnwys cynhyrchu bwletinau ystadegol ac adroddiadau ymchwil a dadansoddiadau parhaus eraill.

Cynhelir yr arolwg gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ran Llywodraeth Cymru. Gwirfoddol yw pob cyfraniad i’r ymchwil.

Beth yw diben prosesu eich atebion i'r arolwg?

Defnyddir y data at ddibenion ymchwil ac ystadegau yn unig. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu bwletinau ystadegol ac adroddiadau ymchwil. Cyhoeddir allbynnau Llywodraeth Cymru ar wefan yr Arolwg Cenedlaethol.

Drwy gymryd rhan, byddwch yn helpu Llywodraeth Cymru i ddeall mwy am anghenion pobl Cymru, ac i wneud yn siŵr bod arian yn cael ei wario yn y mannau cywir ac yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y data'n cael eu cadw'n ddiogel a'u defnyddio at ddibenion ymchwil heb fod yn fasnachol yn unig.

Pwy sy'n cael gweld y data personol sy'n cael ei chasglu drwy'r arolwg?

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw unrhyw ddata personol am hyd at dair blynedd ar ôl i'r set ddata derfynol gael ei chymeradwyo, ac yna'n eu dileu. Mae gan gontractwr yr arolwg, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, gopi o'r data personol er mwyn caniatáu iddo gynnal yr arolwg a pharatoi'r set ddata derfynol. Mae'n dileu data personol o fewn 1.5 mlynedd i ddarparu'r data terfynol i Lywodraeth Cymru. 

Mae gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ym Mhrifysgol Abertawe hefyd fynediad at ran o'r data personol am gyfnod o dri mis, nes i'r gwaith o gysylltu data gyda SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw) gael ei gwblhau.

Bydd data dienw o'r arolwg ar gael drwy Wasanaeth Data'r DU. Gall ymchwilwyr achrededig, fel academyddion ac ymchwilwyr y GIG a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ofyn am gael gweld data nad ydynt ar gael drwy Wasanaeth Data'r DU. Bydd Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru yn craffu ar y ceisiadau hyn ac, os byddant yn cael eu cymeradwyo, byddant yn dod o dan Gytundebau Gweld Data a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r trefniadau ffurfiol hyn yn gosod gofynion caeth ar gyfer prosesu a diogelu data personol.

Pan fo Llywodraeth Cymru yn dadansoddi ymhellach neu'n cynnal ymchwil dilynol i gefnogi'r dibenion a amlinellir yna adran 5, gall y gwaith gael ei gomisiynu i'w gyflawni gan drydydd parti achrededig (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Bydd unrhyw waith o'r fath ond yn cael ei gyflawni dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn gosod gofynion caeth ar gyfer prosesu a diogelu data personol.

Nodyn Esboniadol

Mae Cronfa Ddata SAIL yn cynnwys data dienw am boblogaeth Cymru, ac yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol am storio a defnyddio data dienw am bobl yn ddiogel i'w defnyddio i wella iechyd, llesiant a gwasanaethau. Gall ymatebwyr ddewis peidio â chysylltu eu hatebion. I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud hynny, neu ar gysylltu data, ewch i Arolwg Cenedlaethol Cymru: cysylltu data.